together - copi cymraeg

8
G all tân ddechrau’n hawdd iawn yn y cartref a gall lledu’n frawychus o gyflym. Bob blwyddyn, mae dros 68,000 o danau yng nghartrefi pobl, gan arwain at 400 o farwolaethau a 14,000 o anafiadau. Mae’r ystadegau’n dangos eich bod chi chwe gwaith yn fwy tebygol o farw o dân yn y cartref os nad oes gennych larwm mwg. Mae 10 awgrym da wedi’u rhestru isod i ddiogelu’ch cartref. 1. Mae Cartrefi Conwy’n gyfrifol am sicrhau bod larwm mwg gwifren galed yn cael ei osod ym mhob eiddo. Os oes gennych ymholiadau neu bryderon, ffoniwch ein tîm atgyweiriadau ar 0800 0121431 / 01492 805580. 2. Gwnewch gynllun gweithredu mewn tân er mwyn i bawb yn y cartref wybod sut i ddianc os oes tân. 3. Cadwch allanfeydd eich cartref yn glir er mwyn i bobl allu dianc os oes tân. Gwnewch yn si ŵr y gall pawb yn eich cartref ddod o hyd i’r agoriadau’n hawdd ar gyfer drysau a ffenestri. 4. Cymerwch ofal ychwanegol yn y gegin, yn enwedig wrth ddefnyddio olew poeth. Mae damweiniau wrth goginio’n gyfrifol am dros hanner y tanau mewn cartrefi. Peidiwch byth â gadael plant ar ben eu hunain yn y gegin. 5. Peidiwch byth â gadael canhwyllau â thân arnynt mewn ystafelloedd lle nad oes neb nac mewn ystafelloedd lle mae plant ar ben eu hunain. 6. Gwnewch yn si ŵr fod sigaréts yn cael eu diffodd yn gywir ac yn cael eu gwaredu’n ofalus a pheidiwch byth ag ysmygu yn y gwely. 7. Ewch i’r arfer o gau’r drysau yn y nos. Os hoffech gadw drws ystafell wely plentyn yn agored, caewch y drysau i’r lolfa a’r gegin – efallai y bydd hyn yn helpu achub bywyd os oes tân. 8. Peidiwch â gorlwytho socedi trydan. Cofiwch mai un plwg sydd i bob soced. Peidiwch â gadael y teledu na dyfeisiau trydanol eraill ar y modd segur. 9. Cadwch fatsis a thanwyr sigaréts lle na all plant eu gweld na’u cyrraedd. 10. Byddwch yn arbennig o ofalus pan fyddwch chi wedi blino neu wedi bod yn yfed. Os oes gennych ymholiadau neu ofidiau, ffoniwch ein tîm atgyweiriadau ar 0800 0121431 / 01492 805580. Megis rhai o’r pethau y gallwch chi eu gwneud i atal tân yn eich cartref yw’r cynghorion a restrir uchod. Os hoffech gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â’ch Gwasanaeth Tân ac Achub lleol neu ewch i http://www.nwales-fireservice.org.uk/Home a chofiwch fynd allan ac aros allan. creu cymunedau i fod yn falch ohonynt RHAGFYR 2012 Deg awgrym gorau i atal tân Diolch yn fawr iawn i bawb a gymerodd ran yn Niwrnod Amgylcheddol Pendalar. Diolch yn arbennig i’r plant oedd wrth eu boddau’n cymryd rhan ac sydd eisoes yn gofyn pryd y gallant ei wneud eto. Ar ôl gwaith caled pawb, roedd y lle’n edrych yn wych a dangosodd y gwelliannau y gall diwrnod gweithredu amgylcheddol eu gwneud i ardal. Llongyfarchiadau i ddau o’n cydweithwyr ar eu Gwobrau Gwasanaeth Hir am wasanaeth parhaus gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy ac yn dilyn hynny gyda Chartrefi Conwy yn dilyn y trosglwyddo. GWOBRAU GWASANAETH HIR Cysylltiadau Derbynfa Bryn Eirias 01492 805500 [email protected] Rhadffon Trwsio 0800 012 1431 neu 01492 805580 Derbynfa Bae Colwyn 01492 805600 Derbynfa Llandudno 01492 805632 Mae copÏau sain o’r cylchlythyr hwn ar gael Galwch ein Derbynfa ar 01492 805500 am gopi CYMERWCH OLWG Y TU MEWN Gwneud i’ch arian fynd ymhellach tudalen 3 Parti Calan Gaeaf tudalen 6+7 App ffôn symudol tudalen 4 Rysáit teisen Nadolig tudalen 4 Christine Collis 40 mlynedd o wasanaeth David Wilkinson 25 mlynedd o wasanaeth

Upload: cartrefi-conwy

Post on 09-Mar-2016

250 views

Category:

Documents


3 download

DESCRIPTION

Rhifyn y Gaeaf o'r cylchlythyr tenantiaid Cartrefi Conwy. Copi Cymraeg

TRANSCRIPT

Page 1: Together - Copi Cymraeg

Gall tân ddechrau’n hawdd iawn yn y cartref a galllledu’n frawychus o gyflym. Bob blwyddyn, mae dros68,000 o danau yng nghartrefi pobl, gan arwain at 400

o farwolaethau a 14,000 o anafiadau.

Mae’r ystadegau’n dangos eich bod chi chwe gwaith yn fwytebygol o farw o dân yn y cartref os nad oes gennych larwmmwg.

Mae 10 awgrym da wedi’u rhestru isod i ddiogelu’ch cartref.

1. Mae Cartrefi Conwy’n gyfrifol am sicrhau bod larwm mwggwifren galed yn cael ei osod ym mhob eiddo. Os oesgennych ymholiadau neu bryderon, ffoniwch ein tîmatgyweiriadau ar 0800 0121431 / 01492 805580.

2. Gwnewch gynllun gweithredu mewn tân er mwyn i bawbyn y cartref wybod sut i ddianc os oes tân.

3. Cadwch allanfeydd eich cartref yn glir er mwyn i bobl alludianc os oes tân. Gwnewch ynsiŵr y gall pawb yn eichcartref ddod o hyd i’ragoriadau’n hawdd ar gyferdrysau a ffenestri.

4. Cymerwch ofal ychwanegol yny gegin, yn enwedig wrthddefnyddio olew poeth. Maedamweiniau wrth goginio’ngyfrifol am dros hanner ytanau mewn cartrefi. Peidiwchbyth â gadael plant ar ben euhunain yn y gegin.

5. Peidiwch byth â gadael canhwyllau â thân arnynt mewnystafelloedd lle nad oes neb nac mewn ystafelloedd llemae plant ar ben eu hunain.

6. Gwnewch yn siŵr fod sigaréts yn cael eu diffodd yn gywirac yn cael eu gwaredu’n ofalus a pheidiwch byth agysmygu yn y gwely.

7. Ewch i’r arfer o gau’r drysau yn y nos. Os hoffech gadwdrws ystafell wely plentyn yn agored, caewch y drysau i’rlolfa a’r gegin – efallai y bydd hyn yn helpu achub bywyd osoes tân.

8. Peidiwch â gorlwytho socedi trydan. Cofiwch mai un plwgsydd i bob soced. Peidiwch â gadael y teledu na dyfeisiautrydanol eraill ar y modd segur.

9. Cadwch fatsis a thanwyr sigaréts lle na all plant eu gweldna’u cyrraedd.

10. Byddwch yn arbennig o ofalus pan fyddwch chi wedi blino neu wedi bod ynyfed.

Os oes gennych ymholiadau neuofidiau, ffoniwch ein tîmatgyweiriadau ar 0800 0121431 /01492 805580.

Megis rhai o’r pethau y gallwch chi eugwneud i atal tân yn eich cartref yw’rcynghorion a restrir uchod. Os hoffech gaelrhagor o wybodaeth, cysylltwch â’chGwasanaeth Tân ac Achub lleol neu ewch ihttp://www.nwales-fireservice.org.uk/Home achofiwch fynd allan ac aros allan.

c r e u c y m u n e d a u i f o d y n f a l c h o h o n y n t

RHAGFYR 2012

Deg awgrym gorau i atal tân

Diolch yn fawr iawn ibawb a gymerodd ran yn NiwrnodAmgylcheddol Pendalar. Diolch yn

arbennig i’r plant oedd wrth eu boddau’ncymryd rhan ac sydd eisoes yn gofyn pryd y gallantei wneud eto. Ar ôl gwaith caled pawb, roedd y lle’nedrych yn wych a dangosodd y gwelliannau y gall

diwrnod gweithredu amgylcheddol eu gwneud i ardal.

Llongyfarchiadau i ddau o’n cydweithwyr ar eu GwobrauGwasanaeth Hir am wasanaeth parhaus gyda ChyngorBwrdeistref Sirol Conwy ac yn dilyn hynny gyda ChartrefiConwy yn dilyn y trosglwyddo.

GWOBRAU GWASANAETH HIR

Cysylltiadau Derbynfa Bryn Eirias 01492 805500 [email protected] Trwsio 0800 012 1431 neu 01492 805580Derbynfa Bae Colwyn 01492 805600Derbynfa Llandudno 01492 805632

Mae copÏau sain o’rcylchlythyr hwn

ar gael

Galwch ein Derbynfa ar

01492 805500 am gopi

CYMERWCH OLWGY TU MEWN

Gwneudi’ch arianfyndymhellach

tudalen 3

Parti Calan Gaeaftudalen 6+7

App ffôn symudoltudalen 4

Rysáit teisen Nadoligtudalen 4

Christine Collis 40 mlynedd owasanaeth

David Wilkinson 25 mlynedd owasanaeth

Page 2: Together - Copi Cymraeg

Cefnogwyd cyfanswm o 20 o brosiectau trwy gyllidEnviro SOS. Mae Canolfan Gymunedol Tan Lan ynun o’r prosiectau llwyddiannus.

Agorodd Canolfan Gymunedol Tan Lan ei drysauam y tro cyntaf yn y 1950au a thros y blynyddoedd,mae wedi datblygu’n gyfleuster sydd wrth wraidd ygymuned. Yn 2010, ymgeisiodd CymdeithasTenantiaid a Thrigolion Tan Lan am gyllid y GistGymunedol trwy Gartrefi Conwy, i drosglwyddo’rtir gwastraff wrth gefn y ganolfan yn arddgymunedol. Trawsnewidiwyd darn o dir a arferai fodyn wyllt ac wedi gordyfu’n ardal i blant, rhieni acaelodau oedrannus y gymuned ei defnyddio a’imwynhau.

Gyda’r defnydd cynyddol o’r ganolfan ar gyfergweithgareddau i blant fel Dechrau’n Deg agweithgareddau i oedolion, er enghraifft, cynhelirbingo bob wythnos, mae angen gwneud gwaithpellach ar ardd y ganolfan gymunedol i esblygu’nrhan annatod o’r ganolfan.

Oherwydd y cyllid a gafwyd yn 2010, ymgeisioddcymdeithas Tenantiaid a Thrigolion Tan Lan am gyllidychwanegol yn gynharach eleni trwy gynllun EnviroSOS Cartrefi Conwy, y maen nhw hefyd wedi bodyn llwyddiannus yn ei gael. Bydd yr arian hwn ynmynd tuag at brynu meinciau picnic newydd, socediallanol ac offer ar gyfer yr ardd. Dywedodd SylviaLavender, Cadeirydd Cymdeithas Tenantiaid aThrigolion Tan Lan “rydym yn hapus iawn gyda’rgefnogaeth a’r cyllid gan Cartrefi Conwy, rhoddoddyr hyder inni barhau i roi’n cynlluniau ar waith.Mae’r ganolfan yn rhoi i denantiaid a thrigolion lleolrywle i ymweld ag ef ac i gymryd rhan yn y

gweithgareddau.” Dymuna Sylvia hefyd annog pobl iwneud cais am gyllid os oes ganddynt brosiect neusyniad penodol ar gyfer eu cymuned gan ddatgan“os na fyddwch yn gofyn, ni fyddwch yn cael”.

Mae’n adeg gyffrous i’r Ganolfan Gymunedol hefyd,gan fod cynlluniau i’r dyfodol i ddatblygu tirgwastraff nesaf at y ganolfan yn faes chwaraeantur/ardal jyngl wedi’u derbyn. Ond gobeithio nafydd unrhyw dreialon bwyta bwyd y gwylltir!

I gael rhagor o wybodaeth am Enviro SOS,cysylltwch ag Owen Veldhuizen, yr Uwch SwyddogYmgysylltu â Thenantiaid ar 01492 805530.

Dyma’r prosiectau eraill a fu’n llwyddiannus hefydwrth gael cyllid trwy Enviro SOS:

1) £900 ar gyfer mainc yn Rhos Park, Llandrillo-yn-rhos.

2) £3,360 i wastatáu a thacluso ardal ar lethr achreu gardd synhwyraidd ym Mryn Difyr,Penmaenmawr.

3) £4,000 i greu gardd gymunedol a man cyfarfodmewn iard segur ym Maes y Felin,Llanfairfechan.

4) £2,200 i sefydlu gardd gymunedol yn yrEsplanade, Penmaenmawr.

5) £1,542 ar gyfer goleuadau awyr agored, gwellarwyddion a meinciau a phlanwyr yngNghanolfan Chwarae a Dysgu Deganwy.

6) £1,700 am finiau sbwriel a baw cŵn ac arwydd“Croeso i’r Fron” yn Ystâd y Fron, Bae Colwyn.

7) £600 ar gyfer planwyr yn Ffordd Pandy, arYstâd y Fron.

8) £4,000 i drawsnewid ardal wedi’i hesgeuluso ynLlwyn Ysgaw, Llanfairfechan, yn ardd gymunedolddiogel i blant chwarae arni.

9) £556 i ddarparu celfi gardd a gwelyau blodauuwch ym Mryn Castell, Llanfairfechan.

10) £650 ar gyfer blwch/sedd storio, offer llaw ablychau planhigion yn Llys Eryl, Llandudno.

11) £4,000 i greu lle dysgu awyr agored ym Metws-y-Coed.

12) £2648 i’r Clwb Bysedd Gwyrdd yn RhodfaCaer, Bae Cinmel i adfer 9 plannwr.

13) £4,000 i wella gardd bywyd gwyllt gydallwybrau, gwelyau uwch a dosbarth awyragored yn Ysgol Morfa Rhianedd yn Llandudno.

14) Creu ardal gymunedol gyda gwelyau uwch ameinciau gerllaw Bro Gethin ym Metws-y-Coed.

15) Darparu cyfarpar i greu gardd synhwyraidd alle dysgu awyr agored yn Nolwyddelan.

16) Datblygu iard sefydlu yn ardal ddymunolddiogel i denantiaid oedrannus ym MarlCrescent, Cyffordd Llandudno.

17) Darparu gwaith adferol i gynorthwyo wrthddraenio cae pêl-droed poblogaidd yn Llanrwst.

18) Creu llwybr coetir i blant o Ysgol Maes Owenym Mae Cinmel.

19) £2,000 i greu maes chwarae antur lefel iselmewn ysgol yn Llandudno.

2

Rhoddwyd £51,240 i gefnogi prosiectau Enviro SOS.

Gwnewchdaliadau’n gall

Gallwch bellach wneudtaliadau rhent a ffioedd

gwasanaeth ganddefnyddio’r AllpayApp newydd ymae modd ei

lawrlwytho o’r AppleApp Store neu’r Android

Market trwy’ch ffôn clyfar.Gwnewch yn si ^wr fod

gennych gerdyn debyd neu gredydllithro Allpay pan fyddwch yn defnyddio’r ap hwn am y tro cyntaf. Os oesarnoch angen mwy o wybodaeth am yr ap Allpay newydd hwn, gallwchdroi at www.allpay.net/the_allpay_app neu anfon e-bost [email protected] neu ffonio 0844 557 8313.

Pwysig! Cau’r swyddfeydddros gyfnod y NadoligBydd swyddfeydd Cartrefi Conwy’n cau am 5pm ar ddydd Gwener 21 Rhagfyr2012 ac yn ailagor am 8:45am ar ddydd Mercher 2 Ionawr 2013.

Bydd trefniadau llanw brys y tu allan i oriau swyddfa arferol yn berthnasol. Os oesangen ichi ofyn am atgyweiriad brys dros gyfnod y Nadolig, cysylltwch â 08000121431.

Cofiwch er y bydd ein swyddfeydd ar gau; sicrhewch eich bod chi’n gwneudtrefniadau ymlaen llaw i sicrhau bod eich rhent yn cael ei dalu ar amser.

Gwasanaeth Warden yn ystod cyfnod y NadoligBydd Gwasanaeth Warden Wrth Gefn yn cael ei ddarparu yn ystod yr amserhwn ar ddydd Llun 24, dydd Iau 27 a dydd Llun 31 Rhagfyr. Cynigir y gwasanaethhwn yn llym ar sail angen unigol. Bydd eich Warden yn trafod hyn gyda chi yn yrwythnosau nesaf i gytuno pa gyswllt y mae arnoch ei angen (os o gwbl).

Bydd y Gwasanaeth Wrth Gefn yn cael ei ddarparu gan gronfa gyfyngedig oWardeniaid Cartrefi a fydd yn cynorthwyo’r tenantiaid â’r angen mwyaf. Felly, nifyddwch o reidrwydd yn cael y gwasanaeth gan eich Warden arferol. Byddwn ynsicrhau, fodd bynnag, y byddwn yn rhoi gwybod ichi ymlaen llaw pwy fydd yWardeniaid Wrth Gefn.

Os bydd angen ichi gysylltu dros gyfnod y Nadolig, byddwch yn cael manylion yWardeniaid Wrth Gefn sy’n gweithio dros gyfnod y gwyliau ac os oes gennychunrhyw bryderon, gallwch gysylltu â nhw’n uniongyrchol neu drwy Careconnecti’ch cynorthwyo.

Apple App StoreDownload for iOS

Google PlayDownload for Android

Page 3: Together - Copi Cymraeg

Helpu gwneud i’ch arianfynd ymhellach

Fy enw i yw Lisa Jones a fi yw’r ymgynghorydd cynhwysiantariannol i Gartrefi Conwy. Gwasanaeth am ddim ywCynhwysiant Ariannol sydd ar gael i denantiaid CartrefiConwy er mwyn eich helpu chi i wella’ch ffordd o reoli’charian, mwyhau’ch incwm o’r budd-daliadau sydd ar gael adatblygu arferion cynilo a gwario da. Fy nod yw darparu’rwybodaeth a’r gefnogaeth y mae ar denantiaid eu hangen

i’w helpu rhag poeni am faterion ariannol neu fynd i drafferthion ariannol.Gallwch gysylltu â mi dros y ffôn i drafod eich amgylchiadau personol neui wneud apwyntiad i gyfarfod mewn person. Gellir cynnal cyfarfodydd ynein swyddfeydd yn Llandudno, Bae Colwyn neu Fryn Eirias neu yn eichcartref eich hun.

A ninnau ar drothwy’r Nadolig, mae hon yn adeg bwysig o’r flwyddyn igael ein blaenoriaethau’n iawn. Hyd yn oed os byddwch yn canolbwyntioar gael ymweliad wrth Siôn Corn, a pha anrhegion bydd yn dod gydag efi’ch teulu, mae dal angen talu’ch rhent, y dreth gyngor a’ch dyledion. Dymarai awgrymiadau a allai’ch help chi dros y tymor Nadoligaidd.• Cynlluniwch yn gynnar am y Nadolig. Byddwch yn realistig a gosodwchgyllideb. Cyfrifwch faint gallwch fforddio’i wario ar bob un a chadwch ato.

• Peidiwch ag anghofio’ch biliau pob dydd. Bydd dal angen talu’r rhent, ydreth gyngor, biliau gwasanaethau a biliau bwyd. Gall canlyniadau peidioâ thalu’ch rhent a’r dreth gyngor fod yn ddifrifol. Er mai Nadolig yw hi,dylai’r biliau hyn fod yn flaenoriaeth i chi.

• Darllenwch y print mân bob tro. Os byddwch chi’n prynu eitem fwy argredyd, sicrhewch y gallwch fforddio cadw i fyny â’r taliadau. Os gallwchbrynu gydag arian parod, dyma’r dewis gorau fel rheol. Bydd colli taliadar eich cytundeb credyd yn ddrud yn y tymor hir. Ni fydd cardiau’rsiopau’n cynnig dewis rhatach hyd yn oed os byddant yn cynniggostyngiad o 10% y tro cyntaf byddwch yn prynu gydag ef.

• Prynwch wrth adwerthwyr dibynadwy bob tro, peidiwch â chael eichtemtio i brynu nwyddau rhatach oddi wrth fasnachwyr didrwydded ary stryd.

• Chwiliwch am fargenion rhatach. Os oes cynnig dau am bris un, oesangen yr un peth ar eich ffrindiau a theulu? Bydd defnyddio’r bargenionhyn yn rhatach yn y pen draw.

• Os ydych chi’n bwriadu defnyddio gorddrafft i ariannu’r Nadolig,gwnewch yn si ^wr fod eich banc yn ymwybodol. Bydd gorddrafftheb ei drefnu’n costio’n ddrud.

• Mae trefn yn allweddol, weithiau mae o gymorth gwneudrhestr. Os byddwch yn benthyg arian, peidiwch ag anghofio nafydd llawer o amser cyn eich taliad cyntaf. Gwnewch yn si ^wreich bod yn talu ar amser.

• Pan fydd y Nadolig drosodd, mae’n werth edrych ar bethhelpodd chi i ymdopi’r Nadolig hwn, pa broblemau gawsoch asut gallwch gynllunio ar gyfer y flwyddyn nesaf. Mae clwbcynilo’n ddewis da bob amser, gall prynu stampiau bwyd yn yrarchfarchnad bob tro y byddwch chi’n mynd yno a’u cynilo argyfer eich siopa Nadolig helpu gyda’r bil bwyd y flwyddyn nesaf.

Cofiwch, os bydd angen ichi fenthyg arian, sicrhewch eichbod yn mynd i weld benthyciwr trwyddedig. Gwnewch ynsiŵr y byddwch yn gallu fforddio’r ad-daliadau. Chwiliwch ogwmpas am y fargen orau bob amser.

Gobeithio y cewch chi Nadolig Llawen iawn a Blwyddyn Newydd Dda.

Ymddygiad GwrthgymdeithasolMae Grŵp Bysedd Gwyrdd Bae Cinmel yn apelio i denantiaid gadw llygadbarcud ar y planwyr ar yr ystâd. Yn anffodus, yn ystod penwythnos ym misHydref, cafodd un o’r planwyr tair haen ei fwrw drosodd gan ddinistrio’rholl blanhigion.

Dywedodd Alf Roberts, tenant a chadeirydd y grŵp “Cafodd y GrŵpBysedd Gwyrdd ei siomi o weld bod y plannwr triphlyg ar ochr MaesGwyn yr ystâd wedi’i fwrw drosodd a’r planhigion wedi’u gwagio a’udinistrio yn ystod y penwythnos yn dechrau ar 5 Hydref 2012. CafoddBysedd Gwyrdd arian grant trwy Gronfa Cist Gymunedol Cartrefi Conwyi’r planwyr yn gynharach eleni ac rydym wedi bod yn eu cynnal a’u cadw’nrheolaidd.

Ni thorrwyd y plannwr ond dinistriwyd y planhigion yn ystod ydigwyddiad. A allai’r tenantiaid gadw llygad am ymddygiadgwrthgymdeithasol o gwmpas yr ystâd a rhoi gwybod am unrhywddigwyddiadau’n syth i’r heddlu ac i’r Grŵp Bysedd Gwyrdd yn y TŷCymunedol.

Mae gennym ein Huned Ymddygiad Gwrthgymdeithasol ein hunain hefydyng Nghartrefi Conwy. Gall hon gynorthwyo tenantiaid ac ystadau i fyndi’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol. Dywed Jan Jones, yr Uwch

Swyddog Ymddygiad Gwrthgymdeithasol“Mae problemau gyda chymdogion yn

dechrau fel mân anghytundebauond gall arwain at anghydfodllwyr os nad eir i’r afael â’rrhain yn gynnar. Fe’chcynghorwn i fynd ateich cymydog yn y llecyntaf, efallai nadyw’ch cymydog ynsylweddoli ei fod ynachosi problemauichi. Os na fyddpethau’n gwella,dylech fynd at eichcydlynydd cymdogaetha fydd yn cysylltu â’r

uned i gynorthwyo osbydd angen.”

3

Ar eich beic…Gydaphrosiect seiclo i iechyd!Mae Cartrefi Conwy’n falch o allu noddi prosiectbyw yn iach newydd yn Llandudno, gydaChymunedau yn Gyntaf....•Ymuno â reidiau gr ^wp – gwneud ffrindiau newydd, gweld lleoedd newydd a chadw’n heini.•Dysgu sgiliau newydd, gwella gallu i reidio a magu hyder.•Cael awgrymiadau a chyngor ar sut i ofalu am eich beic a delio ag atgyweiriadau bach.

P’un a ydych yn feiciwr profiadol neu’n feiciwramhrofiadol sydd am wella’ch gallu, mae’n agored ibawb. Gyda reidiau bach o amgylch ardalLlandudno’n defnyddio llwybr seiclo Arfordir

Gogledd Cymru, i feicio mynydd oddi ar y ffordd i’rbeicwyr mwy anturus, mae ganddynt reidiau atddant pawb. Os nad ydych chi’n berchen ar eichoffer seiclo eich hun, gallwch fenthyg rhai, maeganddynt bopeth y mae arnoch eu hangen i’ch caelchi ar ben ffordd!

Oes gennych ddiddordeb mewn cymryd mwy oran? Maennhw’n chwilioamwirfoddolwyr ihelpu arwainreidiau achynorthwyomewngweithgareddau.

Bydd hyfforddiant llawn yn cael ei roi, y cyfan maennhw’n ei ofyn yw i chi allu rhoi cwpl o oriau’rwythnos a’ch bod yn frwd ynghylch beiciau.

Ymunwch â nhw nawr trwy gysylltu â Gemmayng Nghymunedau yn Gyntaf ar 01492 338914neu 07826876887, neu anfonwch e-bost [email protected]

Ynddiweddar, daeth

tenantiaid a thrigolion Bae Cinmel atei gilydd yn Nh ^y Cymunedol Rhodfa Caer igymryd rhan ym More Coffi Mwya’r Byd er

cymorth Gofal Canser Macmillan ar ddydd Gwener28 Medi. Codwyd £121.72 ganddynt trwy weini

cacennau cartref a choffi.

Page 4: Together - Copi Cymraeg

Mae 16 gair i’w canfod yn y grid uchod. Allwch chi ddod o hyd i bob unohonynt? Os gallwch, marciwch nhw’n glir a dychwelwch nhw gyda’r slip isod iCartrefi Conwy, Bryn Eirias, Heritage Gate, Ffordd Abergele, BaeColwyn, LL29 8BY cyn 20 Ionawr 2013. Efallai mai chi fydd enillydd lwcusy talebau. Yr enillydd fydd y cynnig cywir cyntaf o’r het.

Enw: .....................................................................................................................................

Rhif ffôn: .............................................................................................................................

Cyfeiriad: ............................................................................................................................

...............................................................................................................................................

...............................................................................................................................................

Cod post: ..........................................................................................................................

Hoffwn gael rhagor o wybodaeth am y cynllunyswiriant cynnwys cartref arbennig HOFFWN/NAHOFFWN

Mae Cynllun Yswiriant Cynnwys My Home y FfederasiwnTai Cenedlaethol yn enw cynnyrch a drefnir ac a weinyddirar ran y Ffederasiwn Tai Cenedlaethol gan Jardine LloydThompson Tenant Risks. Mae’n adain o Thistle InsuranceServices Limited. Lloyd’s Broker.

Awdurdodir a Rheoleiddir gan yr Awdurdod GwasanaethauAriannol. Cwmni Grŵp JLT.

Swyddfa Gofrestredig: 6 Crutched Friars, Llundain EC3N 2PH.Cofrestrwyd yn Lloegr Rhif 00338645. Rhif TAW 244 2321 96.

Mae’r Ffederasiwn Tai Cenedlaethol yn Gynrychiolydd Penodedig o’r Thistle Insurance Services Limited.

Rysáit teisen NadoligMae’r deisen hon ar gyfer 12 i 15 o bobl Cynhwysion:1 Potel o Frandi350 g ceirios glacé350 g syltanas250g siwgr brown (meddal)250g blawd plaen 250g menyn5 wy mawr

Dull:

Rhowch y ffrwythau i gyd mewn powlen fawr.

Tywalltwch ½ potel o frandi i mewn a’i adael gyda gorchudd arno amddeuddydd, wedyn tywalltwch ¼ potel o frandi a’i adael gyda gorchuddarno am 24 i 36 awr arall.

Leiniwch dun teisen 7” gyda phapur gwrthsaim.

Cynheswch y popty i 160 gradd neu farc nwy 3.

Hufennwch y menyn a’r siwgr gyda’i gilydd wedyn ychwanegwch yr wyau2 ar y tro a’u curo i mewn i’r cymysgedd.

Rhidyllwch y blawd a’i amgáu i mewn i’r cymysgedd, wedyn ychwanegwchy ffrwythau.

Nawr, gallwch drosglwyddo’r cymysgedd i’r tun teisen wedi’i baratoi a’i roiyng nghanol y popty am hyd at 3 awr.

Dechreuwch brofi’r deisen ar ôl 2 awr gyda chyllell, pan fydd y gyllell ynlân o’i thynnu hi allan o’r deisen, mae’n barod (sylwch nad oes angencymaint o amser pobi mewn poptai ffan, felly cadwch eich llygad ar ydeisen ar ôl 2 awr).

Gadewch y deisen i oeri yn y tun, pan fydd hi’n oer, trowch hi allan a’ilapio mewn papur gwrthsaim a ffoil. Ychwanegwch farsipán ac eisin raidiwrnodau cyn ei defnyddio.Darparwyd y rysáit gan Brenda Robinson a Brian Williamson

Beth fyddech chi’n ei wneud pe byddech yncyrraedd adref ar ôl bod allan am y nosonneu am drip i ffwrdd i weld bod rhywun weditorri i mewn i’ch cartref neu fod piben wedichwythu ac wedi creu llifogydd yn eichcartref?

NID yw’ch eiddo wedi’u hyswirio’nawtomatig gan Gartrefi Conwy ynerbyn tân, lladrad, difrod d ^wr a risgiau erailli’r cartref. Felly, os nad ydych chi wedimeddwl yn iawn am yswiriant, gallech gael

sioc. Fodd bynnag, gall Cartrefi Conwybellach drefnu am yswiriant ar gyfer cynnwys

eich cartref am gyfradd fforddiadwy arbennig trwyMy Home Insurance.

Dyluniwyd y sicrwydd yswiriant i’ch helpu chi i yswirio’r rhan fwyaf o’ch eiddo cynhawsed â phosibl. Y gwerth isaf y gallwch yswirio amdano yw dim ond £9,000(£6,000 os ydych chi dros 60 oed) ac mae’r premiymau’n dechrau o gyn lleied â£1.53 y pythefnos (o dan 60 oed) a £1.16 y pythefnos (dros 60 oed) amsicrwydd safonol. Mae difrod damweiniol estynedig ac estyniadau dewisol feleiddo personol (sicrwydd i ffwrdd o’r cartref), cadeiriau olwyn/sgwteri symudedd,cymhorthion clyw a sicrwydd adeiladau ar gyfer siediau, modurdai a thai gwydr argael am bremiwm ychwanegol.

I gael rhagor o wybodaeth, ffoniwch My Home Insurance ar 0845 337 2463neu gofynnwch Cartrefi Conwy am becyn gwybodaeth am ddim trwy ddewis‘Hoffwn’ isod.

Ap ffôn symudol‘Byw ynAnnibynnol’ AMDDIM ar gaelnawrMae Cartrefi Conwy’n falch olansio’r Ap ffôn symudol Byw ynAnnibynnol newydd. Mae gan yrAp yr holl wybodaeth achysylltiadau y bydd arnoch euhangen i fynd at faterion tai neuar gyfer materion cysylltiedig â

thai yn sir Conwy gan amrywio o bwy i ofyn am gael t^y, i ddarganfod pwyall eich helpu chi gyda’ch budd-dal tai a’ch hawliau fel tenant yn ogystal âchwis hwyl a ffeithiau chwalumythau!! Lawrlwythwch yr Ap nawryn RHAD AC AM DDIM o unrhywun o’r siopau ap ar-lein. Mae’naddas i’w defnyddio ar yr Iphone,Android a’r Blackberry, chwiliwcham ‘Byw yn Annibynnol’

4

ENILLWCH

gwerth

£25o daleb

au

ADDURNOCARTREFDIFROD LLIFOGYDDPIBELL WEDI BYRSTIOLLADRADTÂNATEBOLRWYDDCYNNWYS RHEWGELLSTORMWEDI EU DWYNCARPEDIDAMWEINIOLGWARANTTELEDUYSWIRIANTGORIADAU

�� � � � � � � � � � � � � � �� � � � � � � � � � � � � � �� � � � � � � � � � � � � � �� � � � � � � � � � � � � � �� � � � � � � � � � � � � � �� � � � � � � � � � � � � � �� � � � � � � � � � � � � � �� � � � � � � � � � � � � � �� � � � � � � � � � � � � � �� � � � � � � � � � � � � � �� � � � � � � � � � � � � � �� � � � � � � � � � � � � � �� � � � � � � � � � � � � � �� � � � � � � � � � � � � � �� � � � � � � � � � � � � � �

HOME CONTENTS INSURANCEWordsearch

!

Sylwchnad oes angen

ichi brynu yswiriantunigol ar gyfer eichboeler, gosodion neuffitiadau yn eich

eiddo.

Holl ffrwythau wedi’u sychu 125g pîn-afal125g tafelli mango125g bricyll 125g papaia100g pil candi wedi torri

torri ar hyd y llinell doredig

T N A I R I W S Y R H B L E N H

E LL A RH C DD CH T P D B P G W DD E

O I T S R Y B I D E W LL E B I P

R D E O G G D E A S M LL CH T U W

LL E B L R O E A C DD A P N RH E T

L P O U N F U O M D U A S D DD E

G R L DD TH I U A R W R R I B FF L

Y A R F B LL N A D A E E N C I E

CH C W H U D D Â W A U I RH O D D

NG TH Y G C O U G T D I P N TH H U

H F DD L LL R F S W DD Y R B I C FF

M R O T S F F Y P O RH D O NG O I

TH S LL O CH I N D S L CH T U G U L

RH LL R T A D C A R T R E F S L P

C Y N N W Y S RH E W G E LL H LL B

Page 5: Together - Copi Cymraeg

Beth yw Ffioedd Gwasanaeth?Ffioedd gwasanaeth yw’r costau o ddarparu gwasanaethau i floc, cynllunneu ystâd lle rydych chi’n byw.Gall Tenantiaid a Lesddeiliaid orfod talu ffioedd gwasanaeth. Mae CartrefiConwy’n darparu nifer o wasanaethau i ardaloedd cymunedol, sydd drosac uwchlaw’r hyn a gynhwysir yn eich rhent. Os ydy’ch eiddo’n elwa arwasanaeth, bydd cost am y gwasanaeth hwnnw.

Gallai enghreifftiau gynnwys:•Gwasanaethau gofalwr i ardaloedd cymunedol.• Glanhau ardaloedd ar y cyd, gan gynnwys glanhau ffenestri a symud sbwriel wedi’i adael.• Torri glaswellt cymunedol a gofalu am ardaloedd wedi’u plannu.• Atgyweiriadau i gyfleusterau ar y cyd fel systemau mynediad drws, erialau teledu a goleuo.•Darparu ac atgyweirio lifftiau, gan gynnwys cost contractau ac yswiriant lifftiau.•Darparu cyfarpar ymladd tân, gan gynnwys atgyweirio a phrofi goleuadaubrys a larymau mwg.

•Darparu cyflenwadau dŵr, trydan a nwy i ardaloedd ar y cyd.• Yswiriant i flociau o fflatiau (Lesddeiliaid yn unig).

Pam mae angen trin ffioedd gwasanaeth arwahân i rent?Rhent yw’r swm o arian y mae’n rhaid ichi ei dalu i fyw yn eich cartref.Mae’r rhent a godir yn ein galluogi ni i:

•Wneud atgyweiriadau i’ch cartref a’ch ystâd.

•Gwneud gwaith a gwelliannau mawrion i’ch cartref ac ystâd.

•Darparu gwasanaeth rheoli tai i’n tenantiaid.

Ffioedd gwasanaeth yw cost y gwasanaethau eraill a ddarparwn i’chcartref ac ystâd, a allai gynnwys rhai neu bob un o’r uchod. Nid yw pobtenant yn cael gwasanaethau dros ac uwchlaw’r rhent oherwydd gallai’reiddo fod yn d ^y heb unrhyw ardaloedd cymunedol.

Dros y blynyddoedd diwethaf, nid yw Cartrefi Conwy wedi adfer yr hollgostau y mae wedi’u talu wrth ddarparu gwasanaethau. Mae hyn wediarwain at ddefnyddio incwm rhent i dalu gwariant y ffi gwasanaeth.

5

Pam nad ydw i’n talu ffi gwasanaeth ar hyn obryd ond yn cael rhai gwasanaethau?Hyd at drosglwyddo, bodlonwyd y costau hyn trwy’r incwm rhent ac nidoedd y tenantiaid yn talu ffi gwasanaeth ar wahân am unrhyw wasanaeth adderbyniwyd. I’r tenantiaid presennol, sicrhaodd y Ddogfen Gynnig nafyddai’r tenantiaid yn destun ffioedd gwasanaeth adeg trosglwyddo wrth i’rdenantiaeth bresennol fodoli.

Beth yw cost y ffioedd gwasanaeth?Bydd cost y ffioedd gwasanaeth yn amrywio rhwng tenantiaethau oherwyddgwneir y cyfrifiad ar gost benodol y gwasanaethau a ddarperir i’r eiddo. Bydd ytenantiaid newydd yn cael gwybod am fanylion y ffioedd gwasanaeth a gântar eu cytundeb tenantiaeth a bydd y lesddeiliaid yn cael cyfriflen flynyddol.

Beth os bydd y bobl yn fy mloc eisiaugwasanaeth newydd?Os bydd y mwyafrif yn gofyn am wasanaeth newydd, bydd y gwasanaethnewydd yn cael ei ddarparu. Codir ffi ar unrhyw wasanaeth newydd gannad oedd yn bodoli adeg y trosglwyddo. Yn yr un modd, os cytunir i newidmath presennol o wasanaeth ar gais y trigolion, bydd newid yn ffi’r gwasanaeth.

Pryd bydd y ffioedd gwasanaeth yn ‘mynd yn fyw’?•Bydd ffioedd yn cael eu codi ar denantiaid newydd ar ôl 1 Ebrill 2013 am unrhyw wasanaethau a ddarperir.•Ni fydd ffioedd yn cael eu codi ar denantiaid adeg trosglwyddo ar 29 Medi 2008 tra byddant ar eu tenantiaeth bresennol.•Bydd ffioedd yn parhau i gael eu codi ar lesddeiliaid am wasanaethau o dan y gyfundrefn bresennol.

Ble gallaf gael gwybod mwy?Yn ystod mis Ionawr a Chwefror 2013, byddwn yn cynnal cyfres ogyfarfodydd ymgynghori gyda thenantiaid a lesddeiliaid (byddwn yn cynnalcyfarfodydd ar wahân i lesddeiliaid gan fod pwyntiau ychwanegol i’wtrafod). Mae’r cyfarfodydd sydd eisoes wedi’u cadarnhau wedi’u rhestruisod. Byddwn yn ychwanegu at y rhaglengyfarfodydd a gellir dod o hyd i grynodebdiweddar ar ein gwefan ynwww.cartreficonwy.org.

............. FFIOEDD GWASANAETH ............

Dyddiad AmserTre Creuddyn, Siop Cymunedau yn Gyntaf ar yr ystâd. 08/01/13 10am - canol dydd

Kings Road, Ystafell Gymunedol Llys Seiriol. 08/01/13 1pm - 2.30pm

Bae Cinmel, Ty� Cymunedol Rhodfa Caer. 15/01/13 10am - canol dydd

Ty� Cymunedol Peulwys. 16/01/13 11am - canol dydd

Llanrwst, Golygfa Gwydyr. 22/01/13 10am - canol dydd

Kennedy Court, Canolfan Gymunedol 28/01/13 10am - canol dydd

Llys Seiriol, Y Lolfa Gymunedol. 29/01/13 10am - canol dydd

Canolfan Gymunedol Parkway. 30/01/13 10am - canol dydd

Hendy Tal Y Bont, parciodd CATRIN ar waelod yr ystâd wrth y fynedfa i’r modurdai 31/01/13 10am - canol dydd

Canolfan Gymunedol y Fron 31/01/13 2pm - 4pm

Bryn Castell, Canolfan Gymunedol. 01/02/13 10am - canol dydd

Maes Cwestennin, Lolfa Gymunedol 01/02/13 2pm - 4pm

Tan Lan, Canolfan Gymunedol. 05/02/13 11am - canol dydd

Cliciwch ar y rhan ar denantiaid lle bydd ffioedd gwasanaeth yn ymddangos yn y rhestr i ochr chwith y dudalen, neu sganiwch y cod.

Page 6: Together - Copi Cymraeg

Adborth y Fforwm TenantiaidEISIAU GWIRFODDOLWYR:CYFLEOEDD I DENANTIAIDOs;

• Oes gennych ddiddordeb mewn gwneud yn si ^wr fod safbwyntiau tenantiaid Cartrefi Conwy’n cael eu clywed ac yn cael eu cynrychioli’n deg.

• Oes gennych angerdd i weld tenantiaid Cartrefi Conwy’n cymryd rôl arweiniolwrth wneud penderfyniadau a datblygu gwasanaethau.

• Teimlwch fod gennych y brwdfrydedd, y sgiliau trefnu a phobl i helpu gwneud ibethau ddigwydd.

Hoffwn pe byddech yn ystyried rhoi’ch hun gerbron am y swyddi gwag canlynol:

Gall cymryd rhan fel hyn eich helpu chi i wneud y canlynol:

• Ennill sgiliau a phrofiad gwerthfawr.

• Darganfod rhagor am y ffordd y rheolir Cartrefi Conwy.

• Dod i adnabod y tenantiaid eraill.

YSGRIFENNYDD I’R FFORWM TENANTIAIDPenodiad allweddol i Bwyllgor Rheoli’r Fforwm Tenantiaid yw hwn i gefnogi’rgwaith o gydlynu digwyddiadau’r Fforwm Tenantiaid a’r weinyddiaeth gysylltiedig.Mae’n ofynnol i Ysgrifennydd y Fforwm weithio’n agos gyda Chadeirydd Fforwmy Tenantiaid ac aelodau Pwyllgor Rheoli’r Fforwm Tenantiaid er mwyn:

• Cytuno’r agenda ar gyfer pob cyfarfod.

• Cymryd cofnodion pob cyfarfod.

• Goruchwylio’r gwaith o gyhoeddi hysbysiadau o gyfarfodydd, agenda a phapurau cysylltiedig i’r sawl a chanddynt yr hawl i fynychu.

Bydd angen i’r Ysgrifennydd hefyd feithrin perthynas effeithiol gyda staff CartrefiConwy i gefnogi gwaith hyrwyddo priodol a chefnogaeth i weithgareddau’r Fforwm.

AELOD O BANEL Y GIST GYMUNEDOLFel aelod tenant o Banel y Gist Gymunedol, byddech yn cymryd rhan wrthystyried ceisiadau am gyllid grant i gefnogi prosiectau bach, lleol dan arweiniad ygymuned, fel:

• Gweithgareddau sy’n helpu dod â chymuned at ei gilydd (gan gynnwys gweithgareddau chwaraeon, grwpiau ieuenctid, digwyddiadau cymdeithasol).

• Prosiectau garddio sy’n helpu gwella ardal.

• Prosiectau adnewyddu’r cyfleuster cymunedol.

Byddech yn cymryd rhan hefyd wrth ymweld â phrosiectau acadolygu effaith y prosiect.

AELOD O’R BWRDD TENANTIAIDMae tenantiaid a benodir i Fwrdd Rheoli Cartrefi Conwy’ncael cyfle i fod yn rhan ar y lefel uchaf o wneudpenderfyniadau.

Mae hyfforddiant ar gael i denantiaid sy’n dymuno gwirfoddoliar gyfer y rolau penodol hyn. Byddwn yn talu hefyd am gostauteithio a gofal rhesymol sy’n gysylltiedig â mynd i gyfarfodydd ac iddigwyddiadau perthnasol eraill.Os oes gennych ddiddordeb, cysylltwch â Sarah Jones arFfôn: 01492 805564 neu e-bost: [email protected]

Gall unrhyw un o denantiaid Cartrefi Conwy fynychu cyfarfodydd yFforwm Tenantiaid. Prif ddiben y Fforwm yw hyrwyddobuddiannau’r tenantiaid a defnyddwyr gwasanaeth eraill CartrefiConwy gyda’r bwriad o wella cyflwr tai, ansawdd y gwasanaeth acansawdd bywyd er lles tenantiaid y presennol a’r dyfodol,defnyddwyr gwasanaeth a thrigolion ar hyd sir Conwy.

Cynhelir pedwar cyfarfod Fforwm Tenantiaid y flwyddyn.Cynhaliwyd Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol y Fforwm Tenantiaid yny Gyfnewidfa ym Mae Colwyn ar 28 Awst 2012 a mynychodd 38tenant. Cynllunnir y gwaith o drefnu a hyrwyddo digwyddiadau’rFforwm Tenantiaid gan Bwyllgor Rheoli’r Fforwm Tenantiaid ar ycyd â chydweithwyr yng Nghartrefi Conwy.

Penodwyd y tenantiaid canlynol i Bwyllgor Rheoli’r FforwmTenantiaid, a byddant yn gwasanaethu tan y Cyfarfod CyffredinolBlynyddol nesaf ymhen 12 mis:

John Roberts (Cadeirydd)

Margaret Rawlinson (Is-gadeirydd)

Eddie Barker (Trysorydd)

Ruth Cockerill

David Lloyd Williams

Renee Williams

Yvonne Hicks

Phil BattyHoffwn glywed gan unrhyw denant sydd â diddordeb mewn cymrydrhan yn gyffredinol gyda’r Fforwm Tenantiaid ac yn fwy penodol, osoes ganddynt ddiddordeb mewn cymryd rôl Ysgrifennydd y FforwmTenantiaid.

Os hoffech wybod mwy am waith Pwyllgor Rheoli’r FforwmTenantiaid, gallwch ofyn i’ch grŵp cymunedol lleol i wahodd y

Cadeirydd draw i un o’u digwyddiadau.

Mae cyfarfodydd y Fforwm Tenantiaid ar gyfer2013 wrthi’n cael eu trefnu a bydd yr uncyntaf yn cael ei gynnal ar ddydd Mercher20 Chwefror 2013. Rhowch y dyddiadhwn yn eich dyddiadur nawr a chadwchlygad am ragor o wybodaeth am le acamser.

Os hoffech wybod rhagor neufynd i ddigwyddiad FforwmTenantiaid, cysylltwch â SarahJones ar

Ffôn: 01492 805564 neu e-bost:[email protected]

Parti CalanGaeaf GlanrafonGan Sheila Jones

Daeth ein heddwas lleol, Kate Pithel, atom iddweud bod ganddi gyllid am barti Calan Gaeaf.Roedd pob un ohonom o’r farn fod hwn ynsyniad da. Daeth yr arian wrth Dîm Lleihau TanauGogledd Cymru, Tân ac Achub Gogledd Cymru,Heddlu Gogledd Cymru a’r YmddiriedolaethGymunedol.

Cawsom £200 a dechreuwyd ar y cynllunio gydaKate. Er bod £200 yn swnio’n dipyn, gwyddemfod rhaid inni ei wneud yn gyffrous i’r plant,gydag oddeutu 65 o blant dim ond ar yr ystâd.

Trwy lwc, roedd gan y pwyllgor trigolion gasebodwbl a chawsom fenthyg un arall, am rodd fach.

Gwnaed rhestr o gemau a bwyd. Penderfynwydcael cŵn poeth, creision, bisgedi, losin a diodydd.Dechreuwyd y rhestr o’r gemau gyda dowcio amafalau a stori cymryd rhan gan ddefnyddio jeli,pistol dŵr, ffaglau a chwibanau.Roedd y gefnogaeth gan Kate a SwyddogCymorth Cymunedol yr Heddlu, Delia Bellis, ynwych.

Cynhaliwyd y parti ar brynhawn Sadwrn 27Hydref a dechreuodd am 4pm. Rhoddwyd ygasebos a’r addurniadau i fyny am 2pm.

Roedd y plant yn gyffrous iawn.Dechreuodd Delia a Kate yparti trwy roi sgwrs i’r plant arberygl pobl ddieithr.

Gwisgodd Delia fel gwrach ondroedd Kate mewn lifrai am eibod hi ar ddyletswydd a

byddai’n amhroffesiynol iawn iddi fynd i alwadmewn gwisg gwrach!

Aeth y parti yn ei flaen trwy gael llygaid aphryfed cop allan o jeli a dilynwyd hynny’n gyflymtrwy gael dannedd allan o flawd.

Daeth y parti i ben gydag arddangosfa tân gwylltda a roddwyd gan wahanol drigolion. Er ei bodhi’n oer iawn, cafodd pawb fwynhad.

Diolch i bawb a helpodd.

DigwyddiadPobl Hŷn

Yn dilyn adborth o’r DiwrnodTeuluol ddwy flynedd yn olynol, mae’n

bleser gennym allu cadarnhau y byddwn yncynnal y digwyddiad cyntaf yn 2013 yn

benodol i’n tenantiaid hŷn. Bydd pobl yn caelmynd i’r digwyddiad trwy wahoddiad ynunig a rhaid ichi gofrestru’ch lle – maenifer y lleoedd yn gyfyngedig fellycadwch lygad am eich gwahoddiad

yn y post yn y FlwyddynNewydd!

6

Page 7: Together - Copi Cymraeg

Ers yr adnewyddu yn Ffordd Pandy, cafwyd gwelliant nodedig mewnagwedd gadarnhaol ymhlith y tenantiaid. Symudodd Mr Howie Owen imewn i’r fflatiau ac roedd y rhan fwyaf o’r rhain yn fflatiau un ystafell yn2010, ar adeg pan nad oedd rhyw lawer o ysbryd cymunedol. Roedd yrystafell gymunedol yn wag a heb unrhyw gymeriad tan nawr.

Esbonia Mr Owen “Daeth y Warden a Michelle o’r Tîm Cynnwys yGymuned at ei gilydd gyda grŵp o denantiaid a chawsant arian iaddurno’r ystafelloedd.

Rhoddodd G Purchase gegin, lloriau a gwaith coed newydd mewn unystafell a chynigiasant eu gweithlu i beintio’r ddwy ystafell.

Prynwyd teledu a dodrefn gyda’r cyllid a gafwyd gan Cartrefi Conwy, maehyn wedi gwneud gwahaniaeth enfawr a cheir ysbryd cymunedol da iawnerbyn hyn.

Mae gennym amryw ddigwyddiadau ar hyd yr wythnos y mae’r tenantiaido’r gymdogaeth yn eu mynychu; felly nid yw’r adnewyddiad hwn ar gyfertenantiaid y fflatiau’n unig, mae wedi rhoi rhagor o ddigwyddiadau i’rgymdogaeth ymuno â nhw.”

I gael rhagor o wybodaeth am sut gall y Tîm Cynnwys yGymuned eich helpu, cysylltwch â Vicky Kelly ar 01492 805531neu Sarah Breeze-Roberts ar 01492 805572.

Llongyfarchiadau i ArwynRoberts o Fetws-y-Coed. Rhoddwyd pob arolwg bodlonrwydd tenantiaid a lenwyd gyda manylioncyswllt mewn raffl am wobr ac Arwyn oedd enillydd lwcus gwerth £50 odalebau’r stryd fawr.

Ysbryd Cymunedol yn Ffordd Pandy

7

Parti Calan GaeafTy� CymunedolRhodfa CaerTrwy gyllid PACT gan dîm plismona’rgymdogaeth leol, cafodd Rhodfa Caer£200 tuag at barti Calan Gaeaf adrefnwyd gan Vicky Welsman, yRheolwr Datblygu T ^y� Cymunedol aGwirfoddolwyr y T ^y Cymunedol. Mynychoddcyfanswm o 53 o blant y digwyddiad, achynorthwyodd Ken Stone, Maer Bae Cinmelymddiriedolwyr y T ^y Cymunedol i feirniadu’rgystadleuaeth gwisg ffansi. Digwyddiad llawnbwganod a gafodd ei fwynhau gan bawb. Mae

T^y Cymunedol RhodfaCaer ym Mae Cinmel wrthi’n

chwilio am denantiaid a thrigolionYstâd Rhodfa Caer i gymryd rhan mewnsefydlu grwp i rieni ifanc ac/neu gylch ti a fi

yng nghyfleuster y Feithrinfa yn Nh^yCymunedol Bae Cinmel.

Mae’n gyfleuster gwych i rieni ar yr ystâd eiddefnyddio’n rhad ac am ddim. Bydd

cefnogaeth yn cael ei rhoi gan Dîm Cynnwysy Cymuned os oes angen.

Cysylltwch â Vicky Welsman yn yT^y Cymunedol ar 01745

331825.

“It was the best of times;it was the worst of times…”gan Ryan Davidson, Gweinyddwr Rheoli Asedau

Iawn, cyn belled â’r pennawd, mae’r uchod wedi’i lên-ladrata fwyna Wicepedia, fodd bynnag, dyma sy’n disgrifio’r her o feicio oGaerdydd i Fae Colwyn, y gwnes i a fy ngwraig i godi arian iGymdeithas Achub Mynydd Gogledd Cymru.

Diwrnod 1 a 2Am ddiwrnod i gael glaw trwm. Yn wlyb domen o’r cychwyncyntaf, a’m gwraig yn cael trafferth gydag anaf pen-glin, roedd yddau ddiwrnod cyntaf yn SIALENS, ond cawsom ein hachubrhag trychineb gan y Bannau Brycheiniog bendigedig!

Diwrnod 3Gan adael fy ngwraig 120 milltir o gartref, es yn fy mlaen trwyganolbarth Cymru. Er bod yr elltydd i fyny’n lladdfa, roedd yrelltydd i lawr yn gampus a’r golygfeydd yn odidog. Roedd ydaith yn rhyfeddol o’i dechrau i’w diwedd, gydag ambell ifoment go frawychus.

Diwrnod 4Daeth fy mrawd i fy nghyfarfod am y rhan olaf o’r her acroeddwn yn falch o’r cwmni. Brwydrom 50 milltir trwygoedwigoedd a dros fynyddoedd nes y cyrhaeddom, o’rdiwedd, gartref ym Mae Colwyn, o flaen tanllwyth o dân.

Hyd yma rydym wedi llwyddo i hel £532 ar gyferCymdeithas Achub Mynydd Gogledd Cymru.

Page 8: Together - Copi Cymraeg

Fforwm PrydleswyrHoffai Cartrefi Conwy hwyluso Fforwm Prydleswyr. Mae’r

fforwm hwn ar gyfer ein prydleswyr a brynodd eu cartrefi

trwy’r cynllun Hawl i Brynu neu a oedd yn gyn-denantiaid

neu wedi prynu ar y farchnad agored.

Y pwrpas fyddai galluogi’r 160 o brydleswyr i roi sylwadau ar,

cyfrannu at a datblygu polisïau a gweithdrefnau presennol a sut

caiff gwasanaethau eu darparu.

Disgwylir byddai Fforwm Prydleswyr yn cyfarfod dwywaith y

flwyddyn mewn lleoliad ac ar amser a fyddai’n gyfleus i’r

mwyafrif. Gan gadw hyn mewn cof, cysylltwch â Julie

Brotherton ar 01492 805524 neu trwy e-bost

[email protected] yn

nodi pryd fyddai’n well gennych gyfarfod, yn

y bore, prynhawn neu gyda’r nos. Rhowch

Fforwm Prydleswyr yn y maes testun eich

e-bost a rhowch eich manylion cyswllt yng

nghorff yr e-bost.

Y gobaith yw trefnu’r cyfarfod cyntaf ar gyfer

mis Ebrill 2013.

Byddai hwn yn amgylchedd delfrydol i gyflwyno testunau fel

codi am wasanaethau, is-osod, dulliau talu, proses adran 20,

arolygon ystâd, gwaith trwsio, diogelwch nwy, yswiriant adeiladau

ac unrhyw destunau eraill sy’n effeithio arnoch chi yn

uniongyrchol neu’n anuniongyrchol.

Dylech ystyried cymryd rhan yn y Fforwm Prydleswyr

bwriedig er eich lles chi a phrydleswyr eraill.

Gan Caroline Naughton, Rheolwr Cyfathrebu

Cyfarfûm ag Elaine Fox sy’n byw ar ystâd Rhodfa Caer ym MaeCinmel yn ddiweddar i weld sut beth yw byw ar yr ystâd a pharan sydd ganddi gyda’i chymuned. Dyma beth ddywedodd.

“Rwy’n dwli byw ar yr ystâd, mae pobl yn gofyn sut ydych chi asut mae’r teulu drwy’r amser. Symudais yma am y tro cyntaf rhyw14.5 mlynedd yn ôl o Fanceinion ac ni fyddwn yn ei newid amddim byd.

Dechreuais gymryd rhan gyda Thŷ Cymunedol Rhodfa Caer rhyw4/5 mlynedd yn ôl ac rwy’n un o sylfaenwyr grŵp iechyd sy’nparhau i fodoli heddiw. Mae’n bwysig ceisio dod â’r gymuned at eigilydd fel un gan fod llawer iawn o ysbryd cymunedol ar yr ystâd,felly dim ond ychydig o gyfeiriad y mae arni ei angen.

Mae fy nheulu wrth eu boddau’n byw yn yr ardal ac mae’n fyd tragwahanol i Fanceinion. Bu gennyf gysylltiad â Gogledd Cymruerioed oherwydd byddem yn mynd ar ein gwyliau teuluol iDalacre. Yn ogystal, deuthum i wybod yn ddiweddar fod fynheulu’n tarddu o’r Bala.

Bydd unrhyw un sy’n ymuno â’r ystâd yn cael croeso cynnes agobeithiwn wrth inni symud ymlaen i’r dyfodol y bydd yr ysbrydcymunedol yn parhau i dyfu”.

I gael rhagor o wybodaeth am ddigwyddiadau agweithgareddau ar yr ystâd, galwch i mewn iweld Vicky Welsman yn Nhŷ CymunedolRhodfa Caer neu ffoniwch hi ar 01745331825.

8

......... Ar eich ystâd gydag Elaine Fox ..........

Mae Llywodraeth y DUyn gwneud newidiadaumawr i fudd-daliadau aallai effeithio arnoch chi!O fis Ebrill 2013 ymlaen, bydd yLlywodraeth yn cyflwyno didyniadauystafelloedd gwely gwag. Bydd rhaid ihawlwyr oed gweithio a chanddyntystafelloedd gwely dros ben dalu ffi am bobystafell dros ben. Ymddengys yn debygol ybydd y Budd-dal Tai’n cael ei ostwng ganoddeutu £11.00 yr wythnos am bob ystafelldros ben. Bydd didyniadau heb fod ynddibynnol yn cynyddu eto.

Hefyd ym mis Ebrill 2013;

Bydd Lwfans Byw i’r Anabl yn cael eiddisodli gan Daliadau AnnibyniaethBersonol. Bydd yr hawl i’r taliadau hyn yncael ei benderfynu gan broses asesunewydd sydd heb ei benderfynu eto ondmae’r Llywodraeth yn disgwyl gostyngiad o20% mewn gwariant.

Dros y ddwy flynedd nesaf, bydd pobhawlydd sy’n cael Budd-dalAnalluogrwydd yn cael ei ailasesu i weldydyn nhw’n gymwys i weithio. Disgwylir ybydd oddeutu 1 o bob 3 unigolyn yn caeleu symud i Lwfans Ceiswyr Gwaith, gan gollirhyw draean o’u hincwm.

O fis Hydref 2013 ymlaen, bydd y rhanfwyaf o’r budd-daliadau ar gyfer hawlwyr

oedgweithio,gangynnwys yBudd-dal Tai, yn caeleu disodli gan Gredyd Cynhwysol. Byddhwn yn cael ei redeg gan yr Adran Gwaith aPhensiynau ac yn cael ei dalu i’r hawlyddbob pedair wythnos. Bydd disgwyl i’rhawlwyr dalu eu rhent eu hunain o’uCredyd Cynhwysol. Gwneir hyn yn hawddtrwy Ddebyd Uniongyrchol o gyfrif banc aryr un diwrnod y telir y Credyd Cynhwysolhwnnw i’r cyfrif. Bydd hawlwyr heb gyfrifbanc yn ei chael hi’n anodd talu eu rhent agallent fynd yn ddyledus..

Mae Cartrefi Conwy wedi datblygu TîmProsiect Diwygio Lles, sydd wrthi’nymweld â holl Denantiaid Cartrefi Conwylle bydd eu taliadau budd-dal tai’n cael euheffeithio gan fater diffyg defnydd o leoeddystafell wely. Os ydych chi’n cael budd-daltai a bod gennych ystafelloedd gwely yn eichcartref nad ydynt yn cael eu defnyddio arhyn o bryd, bydd tîm y prosiect yn ymweldâ chi yn y dyfodol agos i gynnig cyngor achymorth i chi. Os dymunwch gysylltu â’rTîm Prosiect Diwygio Lles, ffoniwchTracey Yorke ar 01492 805621

Os hoffech gael help neu gyngor mewnperthynas â goblygiadau Diwygio Lles asut gallai’r ddeddfwriaeth effeithioarnoch chi, cysylltwch â Lisa Jones,Ymgynghorydd Ariannol, CartrefiConwy ar 01492 805625.

Gwybodaethbwysig

Cofiwch, os oes disgwyl i gydweithiwrCartrefi Conwy ymweld â’ch cartref, boedyn Cynnal a Chadw Adeiladau, Cydlynydd yGymdogaeth neu’n Warden, a fyddechcystal ag aros hyd nes bod yr apwyntiaddrosodd cyn ysmygu yn eich eiddo.Mae hyn er mwyn diogelu iechyda lles ein holl gydweithwyr.

Newidiadau mawr i FUDD-DALIADAU LLES

Peidiwch aganghofio gennym

dudalen Cartrefi Conwyar Facebook hefyd!