cliczine #3 (cymraeg)

4
NEWYDDION/ GWYBODAETH/ DIGWYDDIADAU/ CYNGOR/ HELP/ FFORDD O FYW/ DWEUD EICH DWEUD WWW.CLICONLINE.CO.UK /WWW.CLICARLEIN.CO.UK CLIC ZINE # 3 AUTUMN/HYDREF 2010

Upload: promo-cymru

Post on 25-Jul-2016

249 views

Category:

Documents


4 download

DESCRIPTION

 

TRANSCRIPT

Page 1: CLICzine #3 (Cymraeg)

NEWYDDION/ GWYBODAETH/ DIGWYDDIADAU/ CYNGOR/ HELP/ FFORDD O FYW/ DWEUD EICH DWEUD

WWW.CLICONLINE.CO.UK / WWW.CLICARLEIN.CO.UK

CLICZINE # 3 AUTUMN/HYDREF 2010

Page 2: CLICzine #3 (Cymraeg)

Croeso i CLICzine 3, y cyhoeddiad i bawb 11 i 25 oed yng Nghymru. Mae’r gyfrol hon yn un arbennig ar Sgiliau Cymru / Brwydr y Bandiau, y ddau yn digwydd yn Stadiwm y Mileniwm yng nghanol mis Medi. Os wyt ti’n darllen hwn cyn hynny, gobeithio dy weld yno. Os wyt ti wedi ei fethu, paid poeni, mae digon o wybodaeth a linciau am y ddau ddigwyddiad yn y tudalennau canol. Os hoffet ysgrifennu i CLIC, ymwela â www.clicarlein.co.uk neu e-bostia’r golygydd cenedlaethol: [email protected]. Gall hefyd alw ar 029 2046 2222.

CLIC YN DY ARDAL DICLIC ydy’r Gwasanaeth Gwybodaeth a Chyngor Cenedlaethol i Bobl Ifanc yng Nghymru. Mae’r 22 sir yng Nghymru yn cael eu hymgynghori ar ddatblygu gwefan lleol eu hunain, neu ddiweddaru

eu gwefannau presennol gan ddefnyddio’r fformat CLIC. Bydd y gwefannau yma i gyd yn gysylltiedig, yn gadael i chi, pobl ifanc Cymru, allu tiwnio i mewn i ddiweddariadau eich gilydd. Cafodd enw’r wefan newydd i bobl ifanc ar Ynys Môn, sef Defaid, ei gyhoeddi yng Ngwyl Plant a Phobl Ifanc Môn yn fis Gorffennaf, Rydym yn edrych ymlaen i weld www.defaid.com yn mynd yn fyw. Am ddiweddariadau siroedd llawn, ymwela â http://www.clicarlein.co.uk/cym/am/clic-yn-dy-ardal-di/.

FFLINTYR IFANC YN MYND YN FYW

Mynychodd CLIC ail lansiad gwefan Sir y Fflint ym Mharc Wepre yng Nghei Conna ddydd Sul 20 Mehefin. Daeth cannoedd o bobl draw i’r digwyddiad gan fwynhau ffair, bandiau a sioe cwn.

Roedd yno hefyd bentref ieuenctid yn cynnwys asiantaethau o wasanaethau cefnogol ieuenctid gyda’u harddangosfeydd. Roedd gan CLIC stondin a chynhaliodd weithdai kendo trwy gydol y dydd.

Sir y Fflint yw’r safle lleol diweddaraf i ymuno’r rhwydwaith CLIC. Bu Geoff Moore, Swyddog Partneriaeth Sirol CLIC, yn cynnal y gweithdai ac meddai: “Roedd y digwyddiad yn llwyddiant mawr. Trefnodd y bobl ifanc a’r Bartneriaeth Plant a Phobl Ifanc, ynghyd â’r Tîm Gwybodaeth Ieuenctid, ddigwyddiad gwych.

“Mae’r bartneriaeth hon yn llwyddo!”Edrycha ar www.fflintyrifanc.co.uk

DIGWYDDIADAU

YN CHWILIO AM NEWYDDIADURWYR IFANC

Eisiau ennill iPad? Neu Gamera Fideo Fflip? Neu lawer mwy? Mae cystadleuaeth o’r enw Geir-IAU yn annog ti i godi beiro, nodlyfr, peiriant cofnodi clywedol neu gamera fideo ac adrodd ar bethau positif.

Mae’r ymarferiad wedi’i gynllunio i amlygu’r Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP), a’r amcan ydy i daclo’r delweddau cyfryngol negyddol o blant a phobl ifanc wrth hyrwyddo’r newyddion positif sydd weithiau yn cael ei anghofio.

Bydd storiâu newyddion, adolygiadau, lluniau a chyfraniadau golygyddol eraill yn cael eu hystyried am gyhoeddiad yn y Geir-IAU/CLICzine, papur newydd dathliad arbennig fydd yn cael ei gyhoeddi hwyrach ymlaen yn y flwyddyn i nodi pen-blwydd 21ain y CCUHP.

Cystadla ar www.clicarlein.co.uk a chwilio am ‘newyddiadurwyr ifanc’.

SUL 26 MEDIMARATHON MÔNWWW.ANGLESEYMARATHON.COM

GWEN 1 – SUL 3 HYD CWPAN RYDER, CASNEWYDDWWW.RYDERCUP.COM

LLUN 18 HYDCYNHADLEDD CLIC, CAERDYDDWWW.CLICARLEIN.CO.UK

SAD 13 TACHGWYL CERDD DANT, BANGORWWW.CERDD-DANT.ORG

GWEN 19 TACHPEN-BLWYDD 21AIN Y CCUHP, CAERDYDDUNCRCLETSGETITRIGHT.CO.UK

GWEN 3 – SUL 5 RHAGPENWYTHNOS GAEAF GWYL HAYWWW.HAYFESTIVAL.COM

CYFEIRIADProMo-Cymru, Unedau 12+13Gweithdai Royal StuartAdelaide Place, Bae CaerdyddCF10 5BR

CYSWLLTFfôn: 029 2046 2222Ffacs: 029 2048 [email protected]

GOLYGYDDOLGolygydd: Ryan Heeger Dyluniad: Burning RedCyfieithu: Tania Russell-OwenDarlun clawr Bianca Samuel

CYFRANWYRShaun Birch, Hannah Griffiths, Dominique LeSauteur, Geoff Moore

AMDANON NIMae’r CLICZINE yn gyhoeddiad chwarterol yn anelu at rai 11 i 25 yng Nghymru. Mae’r erthyglau i gyd yn friff, gyda’r fersiwn llawn ar gael ar www.clicarlein.co.uk. CLIC ydy’r

Gwasanaeth Gwybodaeth a Chyngor Cenedlaethol i bobl ifanc yng Nghymru, yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cynulliad Cymru. ProMo-Cymru sydd yn datblygu’r prosiect yn y cyfnod pedair blynedd nesaf.

WWW.CLICONLINE.CO.UK/WWW.CLICARLEIN.CO.UK

CROESO

o.uk/cym/am/

Page 3: CLICzine #3 (Cymraeg)

WWW.CLICONLINE.CO.UK/WWW.CLICARLEIN.CO.UK

CLICon the web// ar y we

BYDDA’N RHANCYFLWYNA DY NEWYDDION, DIGWYDDIADAU, STORÏAU

www.clicarlein.co.uk

SGILIAU CYMRU YN Y STADIWM

Mae Sgiliau Cymru yn ddigwyddiad tri diwrnod o ddydd Iau 16 i ddydd Sadwrn 18 Medi yn Stadiwm Mileniwm Caerdydd. Bydd dros 100 o arddangoswyr dros chwe pharth gwahanol.

Yn arddangos nifer o barthau a sgiliau gyrfa, bydd pobl ifanc ac oedolion yn ennill profiad o yrfaoedd penodol drwy gyfarfod gyda’r cyflogwyr yn uniongyrchol.

Bydd y digwyddiad yn un ymarferol iawn gyda llawer i’w wneud. P’run ai fyddi di’n cael colur wrth ymchwilio i yrfa mewn therapi harddwch, neu yn helpu i drwsio car wrth ddysgu am fecaneg moduron, bydd yna rywbeth i bawb.

I ddarllen mwy: ymwela â www.clicarlein.co.uk a chwilia am ‘Sgiliau Cymru’

SECTORAU SGILIAUYn darllen hwn wedi Sgiliau Cymru? Paid poeni, mae digonedd o gef-nogaeth gyfredol. Beth bynnag yr wyt yn feddwl ei wneud, gall geisio llefydd fel Gyrfa Cymru (www.gyrfacymru.com / 0800 100 900) a Go Wales (www.gowales.co.uk / 0845 225 6050). Am syniadau mwy penodol, ceisia rhai o’r sefydliadau yn y meysydd yma:

» Amgylchedd AdeiladuConstruction Skills Wales (www.bconstructive.co.uk / 01656 655226): Hyfforddiant a gweithdai

» Celf ddiwylliannol a chreadigolMedia Wales (www.walesonline.co.uk / 029 2022 3333): Cyfryngau masnachol

» PeiriannegCyngor Sgiliau Sector Cogent (www.cogent-careers.com): Cyngor ar sgiliau a chymwysterau

» Gweinyddiaeth TG a busnesPitman Training Wales (www.pitman-training.com / 01792 655 310): Helpu pobl i ddysgu sgiliau newydd

» Gwasanaethau proffesiynol a lletygarwchCareers At Sea (www.careersatsea.org.uk): Graddau diddyled gyda nawdd llawn

MAE’R GYNHADLEDD CLIC A’R SIOE DAITH YN DOD!Yr Hydref hwn gweler cynhadledd a sioe daith yn cael eu harwain a’u trefnu gan bobl ifanc yn digwydd mewn gwahanol rannau o Gymru. Bydd y gynhadledd CLIC yn digwydd ar ddydd Llun, 18 Hydref yng Nghaerdydd, a bydd yn:

• Cynnwys y Gwobrau CLIC am erthyglau sydd wedi’u llwytho i CLIC • Edrych ar anghenion achrediad a hyfforddiant• Annog defnydd y platfform CLIC i bobl ifanc• Cynyddu’r ddealltwriaeth am anghenion ardaloedd lleol• Arddangos technoleg ryngweithiol CLIC• Sicrhau lledaeniad ehangach o ymrwymiad dros Gymru• Rhoi cyfle i grwpiau golygyddol gyfarfod

Yn cael ei gynnal gan bobl ifanc, bydd y diwrnod yn gymysgedd o hwyl a rhyngweithiol o weithdai, rhwydweithio, pethau am ddim, gwobrau ac araith swyddogol neu ddau! Yna, yng Ngogledd Cymru, bydd Y Sioe Daith CLIC yn edrych ar yr un anghenion a gweithdai, ond mewn darnau llai.

Os hoffet fynychu y Cynhadledd CLIC neu’r Sioe Daith, cysyllta â Swyddog Gwybodaeth a Safonau CLIC, Claire Gardner, ar [email protected] neu ar 01495 708028.

PWY?

Yn fis Mehefin, cafodd tîm golygyddol Wicid.tv gyfle i gyfarfod gyda Chomisiynydd Plant Cymru.

Ei enw ydy Keith Towler ac mae’n berson pwysig i ni wybod amdano.

Cyfarfum yn Llyfrgell Pontypridd a thrafod nifer o faterion o ddiddordeb, a sut y gallwn weithio gyda’n gilydd i wneud yn sicr ein bod yn gwybod am ein hawliau a beth y gallem wneud i wneud gwahaniaeth,

O’r cyfarfod roedd yn glir ein bod yn cytuno ar nifer o faterion, a bod llawer o gyfleoedd i bobl ifanc allan yno, ond fod yr hysbysebu ddim yn dda iawn.

Cychwynnom drwy ofyn i Mr Towler am ein gwefan ac yn gywilyddus nid oedd wedi ymweld ag ef. Ond mae’n ddyn prysur iawn felly roedd hyn yn ddealladwy. Ond nid oedd hynny’n rheswm i ni beidio gofyn mwy o gwestiynau.

Darllena’r erthygl lawn: ymwela â’r tudalennau newyddion ar www.clicarlein.co.uk

Page 4: CLICzine #3 (Cymraeg)

Mae Brwydr y Bandiau CLIC 2010 wedi bod yn enfawr, gyda phobl yn cofrestru bob dydd a rhestr o wobrau i’r enillwyr gan gynnwys wythnos o amser stiwdio gyda chynhyrchydd sefydledig, recordio demo ar ffurf CD a MP3, gwneud fideo cerddoriaeth, sesiwn tynnu lluniau proffesiynol ac atgyweiriad MySpace, bagiau nwyddau Blue Banana a dosbarthiad digidol o draciau yn fyd eang (gan gynnwys iTunes).

Bu pleidleisio yn digwydd ar-lein trwy fis Awst. Dewiswyd pum band gan y cyhoedd i chwarae yn y rownd derfynol yn Stadiwm y Mileniwm fel rhan o Sgiliau Cymru, gyda’r enillydd (wedi’i ddewis gan banel o feirniaid o’r diwydiant) yn chwarae set ar y brif lwyfan ar ddiwedd y dydd.

I ddarganfod pwy fu’n rocio, pwy enillodd a pwy sy’n gwybod beth gan gynnwys lluniau ac adroddiad llawn o’r dydd, ymwela â www.clicarlein.co.uk/byb

HANESION O’R PENWYTHNOS PRESWYL

Cynhaliodd CLIC benwythnos preswyl cynllunio yn Yr Urdd, Bae Caerdydd yn Mai, lle daeth pobl ifanc o dros Gymru gyda’i gilydd i rannu syniadau am beth y dylai fynd ymlaen mewn digwyddiadau preswyl y dyfodol.

Cynlluniwyd agenda a gweithdai ar gyfer y Cynhadledd a Sioe Daith CLIC yn fis Hydref. Ond nid gwaith oedd y penwythnos cyfan. Dyma beth oedd gan rai o’r bobl ifanc i ddweud:

Cawsom fynd ar daith cwch gwib hir – aethom allan i’r môr tuag atBari a chael yn wlyb socian gan fod y tonnau yn uchel! Aethom ifowlio ac yna bwyta pitsa. – Ant, Sir y Fflint.

Fe wnes i gyfarwyddo ffilm gyda zombies yn cael eu saethu ganparty poppers. – Emily, Bro Morgannwg

Penwythnos gwych yn dysgu am CLIC. Roedd cyfarfod lot o boblnewydd yn brofiad arall i mi. Cefais amser gwych. – Amy, Wrecsam

Wrth i ni fynd am y loc, dechreuodd fwrw glaw yn drwm, ond fe wn aeth hyn y profiad yn hyd yn oed mwy pleserus a gwyllt! - Beth, Ynys Môn –

Am benwythnos grêt. Byddwn wrth fy modd yn ei wneud eto yn yrhaf! – Sam, Caerdydd

Eisiau ymuno gyda ni ar yr un nesaf? E-bostia Kath ar [email protected] neu galwa 029 2046 2222.

RAP CYFRANOGI CRIW’R FRO

Cafodd Swoosh, gwefan CLIC Bro Morgannwg, y pleser o gwmni pobl ifanc talentog mewn lansiad bach o’r fideo rap Cyfranogi CCUHP. Cafodd y criw lwcus yma eu ffilmio am ddau ddiwrnod ar leoliad yn defnyddio V-Pod newydd sbon Bro Morgannwg, bws dec sengl sydd wedi’i drawsffurfio yn anhygoel ac yn llawn o’r amlgyfryngau

fwyaf diweddar gan gynnwys deciau DJ, cyfrifiaduron Apple a Playstations.

Yn dilyn gwaith caled, hwyl a chwerthin, cwblhawyd y rap a’i alw’n Choices/Dewisiadau ac mae’n dod gyda neges sydd yn amlygu hawliau pobl ifanc yng Nghymru.

“Roeddwn i wrth fy modd efo’r holl beth,” meddai un o’r rapwyr, Bethan. “Y recordio, bod ar leoliad, teimlo’n enwog. Y profiad i gyd. Fe fwynheais greu ac ysgrifennu’r geiriau i’r fideo hefyd.

Gwylia’r fideo rap a darllena am y V-Pod drwy ymweld â www.clicarlein.co.uk a chwilio am ‘rap cyfranogi’ a ‘v-pod’.

WWW.CLICONLINE.CO.UK/WWW.CLICARLEIN.CO.UK

Y 5 YMARFEROL

Ymhob rhifyn byddwn yn cynnig cyngor ymarferol ar y sgiliau

sylfaenol o gwmpas cael swydd neu leoliad gwaith. Mae’r Pump

Ymarferol yn edrych ar rai opsiynau da ynghlwm â hyn. Yn y

rhifyn hwn: creu CV. Rhifyn nesaf: tipiau a thechnegau cyfweliad.

1.Dylai cynnwys CV gynnwys dy enw a manylion

cyswllt, hanes addysg a gwaith (y diweddaraf gyntaf),

dau ganolwr, a dy ddiddordebau a/neu hobïau

2.Cadwa’n fyr ac i’r pwynt. Ni ddylai CV fod mwy nagdau dudalen a chael bwlch llinell glir rhwng bob adran

3.Teilwra at y rhai ti’n anelu. Os ydy’r swydd yn gofyn am

sgiliau sydd gen ti yn is ar y dudalen, yna symuda fo i fyny

4. Paid â dweud celwydd! Paid byth â gwneudcymhwyster neu brofiad i fyny. Hyd yn oed os wyt ti yncael y swydd ar ôl blagio’r cyfweliad, os ydynt yn darganfodgallet gael dy ddiswyddo

5.Mae Gyrfa Cymru gyda Dewin CV sydd yn gallu helpu ti.Ymwela â www.gyrfacymru.com