sticky intimacy: cymraeg

24
STICKY INTIMACY Katie Cuddon, Emma Hart & Nicholas Pope

Upload: chapter

Post on 05-Aug-2016

255 views

Category:

Documents


7 download

DESCRIPTION

 

TRANSCRIPT

Page 1: Sticky Intimacy: Cymraeg

STICKY INTIMACYKatie Cuddon, Emma Hart & Nicholas Pope

Page 2: Sticky Intimacy: Cymraeg
Page 3: Sticky Intimacy: Cymraeg
Page 4: Sticky Intimacy: Cymraeg
Page 5: Sticky Intimacy: Cymraeg

PETHAU SY’N EDRYCH FEL PE BAENT AM GWYMPO OND SYDD YN AROS AR EU TRAED...

‘Sticky Intimacy’ yw ail rhan deuawd o arddangosfeydd a gynhelir rhwng Oriel Gyfoes y Gogledd (NGCA) yn Sunderland a Chanolfan Gelfyddydau Chapter, Caerdydd. Elfen ganolog o ddwy fersiwn yr arddangosfa, a’r unig waith a gaiff ei arddangos yn y ddau leoliad, yw gwaith comisiwn newydd gan Nicholas Pope, a gwblhawyd gyda James Maskrey yn y Ganolfan Wydr Cenedlaethol. Caiff The Conundrum of the Chalices of the Seven Deadly Sins and Virtues, 2016, ei arddangos ochr yn ochr â lluniau gwreiddiol Pope. Hwn yw’r tro cyntaf i’r artist weithio â gwydr yn ystod gyrfa o ddeugain mlynedd. Cychwynnwyd y comisiwn hwnnw ychydig dros ddwy flynedd yn ôl pan ddangosodd Pope gerflun jeli i mi yn ei stiwdio. Gwaith oedd hwnnw a gynhyrchwyd ganddo rai blynyddoedd ynghynt. Wrth i’r darn siglo a simsanu, soniodd â brwdfrydedd am y posibilrwydd o ail-greu’r darn mewn gwydr.

Deuthum ar draws gwaith Pope am y tro cyntaf ryw flwyddyn cyn hynny pan welais un o’i ddarnau porslen, Tongues of Fire from Heaven to Earth, 1992. Roedd y cerflun bychan â’i arwyneb powdrog gwyn a’i antenau pinc tenau yn edrych fel aliwn neu ffetws. Doeddwn i erioed wedi gweld cerflunwaith tebyg. Roedd y porslen yn debyg i gwm cnoi neu does chwarae, yn ddyrchafedig ac yn ddaearol ar yr un pryd. Er bod y gwaith yn unigryw, ac yn gwrthsefyll fy ymdrechion i’w osod mewn cyd-destun, gellid o bosib fod wedi dweud ei fod yn rhan o linach artistiaid fel Barry Flanagan, Eva Hesse a Ken Price. Mae’r ffurfioldeb hynod, neu, a defnyddio term Lucy Lippard, yr ‘haniaethiad ecsentrig’, yn synhwyrus ac organig ac yn gwneud defnydd o ddeunyddiau mwy meddal fel cwyr, seramig, tecstilau a gwydr, yn wahanol i ddiwydiannaeth onglog Minimaliaeth. Wrth ddatblygu comisiwn Pope, daeth yn amlwg hefyd y dylem geisio cynnwys artistiaid eraill yn y sgwrs. Mae Emma Hart a Katie Cuddon (y mae eu gwaith i’w gweld yn Chapter) ynghyd â Jonathan Baldock a Maria Zahle (yn yr NGCA) bob un, ac mewn gwahanol ffyrdd, yn harneisio llinellau topograffig cromliniol y corff dynol. Mae yna gysylltiad â synwyrusrwydd Ôl-finimalaidd ac ymwneud bwriadol â phethau cosmetig a chorfforol. Os yw cerflunwaith yn fater o wneud i bethau ‘sefyll ar eu traed’, fel petai, yna mae’r artistiaid hyn yn harneisio’r ansefydlogrwydd a’r ansadrwydd sy’n tanseilio unrhyw deimlad o aruthredd.

Page 6: Sticky Intimacy: Cymraeg

Y mae angen tynnu sylw hefyd at y pwynt bychan ond pwysig bod ‘Sticky Intimacy’ a ‘Baldock Pope Zahle’ yn yr NGCA fel ei gilydd yn arddangosfeydd tri-pherson wedi’u curadu gan Hannah Firth a mi yn hytrach nag arddangosfeydd grŵp thematig fel y cyfryw. Tyfodd y prosiect o ganlyniad i sgyrsiau a chysylltiadau a arweiniodd at gyfres o ganlyniadau annisgwyl ac roedd hi fel petai’n bwysig, o ganlyniad, i ni wahodd artistiaid i greu ac i ddangos y gwaith yr oeddent yn awyddus i’w gyflwyno. Digwyddodd un o’r eiliadau hyn o serendipedd pan anfonodd yr artist o Glasgow, Nick Evans, e-bost at Nicholas Pope yn sôn am ddylanwad gwaith Pope ar ei waith ei hun. Ar ôl cyfarfod ag Evans, awgrymais ein bod yn gweithio ar arddangosfa yn yr NGCA, ar y cyd â gwaith comisiwn Pope, mewn modd a fyddai’n llwyddo i awgrymu’r dylanwad hwnnw mewn rhyw fodd - drwy rhyw fath o gydweithio, o bosib. Wedi hynny, gwahoddodd Evans yr artist Lorna Macintyre i ymweld â stiwdio a chartref Pope yn Swydd Henffordd i gymryd cyfres o luniau (a gyflwynir yn y Caffi Bar yn Chapter). Mae gwrych sy’n dwyn i gof ffurfiau cerfluniol Brancussi, offer bragu sy’n dwyn i gof ffurfiau cwpanau cymun gwydr, a lluniau du a gwyn Macintyre — wedi’u staenio â’r perai y mae Pope yn ei fragu yn ei gartref — yn adlewyrchu geirfa gerfluniol yr artist hŵn, ac yn creu portread anunion ohono.

Mae un ddelwedd yn arbennig yn dod i’r amlwg. Tynnodd Macintyre lun o blanhigyn caswla, wedi’i dyfu â gwreiddyn a gymerwyd gan Pope o stiwdio Barbara Hepworth yn St Ives. Soniodd Macintyre hefyd am gomisiwn yr ymgymerodd ag ef yn Kettle’s Yard yn 2014 — ac fe gyfeiriodd hi hefyd at rôl ganolog cerflun gan Brancussi fel math o ‘fotwm bol’ yng nghasgliad Jim Ede. Mae llun yr artist o blanhigyn Pope, yr un modd, yn echel ganolog, neu’n fotwm bol, i’r prosiect hwn. Mae delwedd y planhigyn yn amlygu sgwrs rhwng tair cenhedlaeth o artistiaid. Mae ar y planhigyn, wrth gwrs — yn union fel y mae ar ddylanwad — angen dŵr a maeth ac mae llun Macintyre yn mynegi peth o’r achau cyffredin sydd yn plethu drwy’r ddwy arddangosfa. Yn yr ysbryd hwn, ac wedi f’ysbrydoli gan y canlyniadau serendipaidd uchod, es ati i ysgrifennu cyfres o feicro-draethodau sy’n archwilio rhai o’r sgyrsiau a gefais gydag artistiaid yn ystod y prosiect hwn.

Page 7: Sticky Intimacy: Cymraeg
Page 8: Sticky Intimacy: Cymraeg
Page 9: Sticky Intimacy: Cymraeg
Page 10: Sticky Intimacy: Cymraeg

‘S is for Stickiness’

Yn Saesneg, mae sefyllfa ‘sticky’ a sylwedd gludiog yn golygu dau beth hollol wahanol. Fel deunydd ac fel trosiad, mae’r hyn sydd yn ludiog yn destun pryder ac yn anhysbys ac, fel llysnafedd, mae’n awgrymu gormodiaith. Nid yw nac ar y tu mewn na’r tu allan, ni ellir ei gwmpasu ac y mae’n gwbl ddi-ffurf. Y mae gludiogrwydd, felly, yn bodoli mewn purdan materol a semantig. Gellir dadlau bod celfyddyd dda yn rhoi ar waith math o ludiogrwydd damcaniaethol a ffurfiol, yn gwrthsefyll atebion hawdd i gwestiynau cymhleth, a’i fod yn chwalu perthnasau deuaidd.

Mae arwyneb gwydrog gwaith seramig Emma Hart yn efelychu chwys neu boer, fel pe bai’r cerfluniau’n amlygu math o nerfusrwydd. Mae tafodau heb gegau yn nodwedd a welir yn gyson yng ngwaith yr artist. Mae’r tafod, y cyhyr, yn cuddio - ac yn gweithredu - fel petai wrth y fynedfa i’r corff. Y tafod sy’n gyrru iaith a chusanu; y mae’n rhywiol, yn somatig a semantig. Dywedodd Tristan Tzara unwaith taw yn y geg y caiff meddyliau eu cynhyrchu, fel pe bai meistrolaeth o iaith yn diffinio ein perthynas â’r byd. Mae sticio eich tafod allan yn ffordd gyflym o dramgwyddo, yn fodd o wyrdroi trefn naturiol pethau. Gall tafod huawdl eich rhyddhau o sefyllfa anodd; a gall tafod lac eich taflu ar eich pen i sefyllfa o’r fath.

Beth sy’n digwydd pan fydd ein tafodau yn methu? Mae colli rheolaeth yn achosi math o drawma; mae nerfusrwydd yn ailgyfeirio hylif y corff a phan fyddwn yn chwysu’n ormodol, mae ein cegau’n mynd yn sych. Mae arwynebau gwaith Katie Cuddon, yn wahanol i waith Hart, yn aml yn cael eu gorffen â phaent mat. Mae’r sychder hwn yn teimlo’n fwy petrus. Enw un o weithiau Cuddon yw Cool Speech. Â bloc o bren wedi’i osod rhwng pen ac ysgwyddau anarferol o fawr y ffigwr, mae i’r cerflun deimlad rhyfedd o benodol ac eto mae’n annelwig ac mae haenen denau o glai yn bodoli fel rhyw fath o gynhwysydd - croen heb unrhyw beth y tu fewn iddo. Mae Cuddon yn chwyddo’r meicro-ystumiau hyn ac yn tynnu sylw penodol at iaith bob dydd y corff. Mae’r cerflun fel petai yn troi ei gefn arnom, bron yn llythrennol, gan wrthod ymwneud â ni ...

Page 11: Sticky Intimacy: Cymraeg
Page 12: Sticky Intimacy: Cymraeg
Page 13: Sticky Intimacy: Cymraeg
Page 14: Sticky Intimacy: Cymraeg
Page 15: Sticky Intimacy: Cymraeg

‘T is for Too much’

Sut ydyn ni’n ymateb i gael ein hanwybyddu? Ydyn ni’n gwneud fel pe na bai dim wedi digwydd? Boed hynny’n sgwrsio nerfus cyfarfod cariadus cyntaf neu drafod gorawyddus siaradwr cyhoeddus, sut beth yw rhoi gormod yn rhy fuan? Gall ysgrifennu am gelfyddyd deimlo’n aml fel bod yn bartner gorfrwdfrydig mewn perthynas — monolog yn chwilio am ddeialog. Er y gall bod yn awdur deimlo hefyd fel bod yn siaradwr yn aml, mae bod yn guradur yn gofyn am fwy o wrando — clywed anghenion yr artist a’i waith a gweithio yn unol â hynny.

‘I is for (Inter)generational (inter)macies’

“Nid yw peth yn beth; y mae’n gasgliad o gysylltiadau” Paul Chan

Mae’r rhagddodiad ‘rhyng’ yn fwy cynhyrchiol na ‘cyn’ ac ‘ôl’. Os yw’r olaf o’r rhain yn awgrymu datblygiad amseryddol taclus, yna mae’r cyntaf yn cynnig model mwy cymhleth o amser. Mae hanes, wrth gwrs, yn symudiad di-dor rhwng y gorffennol a’r presennol yn natblygiad dyfodol(au) posib. Mae dylanwad yn gweithio’r ddwy ffordd, a hanes yn cael ei ail-greu’n barhaol drwy’r presennol. Mae gweithio rhwng y cenedlaethau yn fodd o gysylltu syniadau ar draws amser — ac mae’r cywasgiad hwn yn hollbwysig wrth geisio mynd ati i sefydlu naratifau diddorol. Yn ddiweddar, gwahoddais grŵp o artistiaid i siarad am un darn o’u gwaith a oedd yn arwyddocaol iddynt mewn rhyw ffordd, a byddwn yn ailadrodd y broses hon yn Chapter. Siaradodd pob artist am y berthynas (neu dermau tebyg fel cydosodiad, cynulliad neu matrics) rhwng gwrthrychau neu weithiau celf a phynciau. Mewn geiriau eraill, yn y bylchau y crëir ystyr, gan y rhythm yn gymaint â’r alaw ei hun.

Mae’r gair ‘(Inter)macies’, yn golygu yn llythrennol math o gyflwr rhwng dau gyflwr arall, rhyw fath o gydraddoldeb, o symud yn ôl ac ymlaen rhwng partneriaid. Nid yw agosatrwydd yn bosib yn nhermau cydraddoldeb. O weld pethau fel hyn, mae gludiogrwydd ac agosatrwydd yn awgrymu’r un peth — rhyw ddod ynghyd, a chwalu’r pellter rhwng pethau a phobl.

Page 16: Sticky Intimacy: Cymraeg

‘C is for Contrapposto’

Un o’r datblygiadau cerfluniol mwyaf arwyddocaol oedd y defnydd o ‘contrapposto’. Mae’r gair Eidaleg am ‘wrrthbwyso’ yn arwyddo newid o ffigurau cymesur i ffigurau anghymesur, mwy realistig a naturiol. Mae’r ffigwr yn tueddu i sefyll ar un goes, fel bod pwysau’r corff yn cwympo i un ochr. Yr enghraifft gynharaf o gerflun o’r fath yw Bachgen Kritios (480 CC) sy’n portreadu ffigwr gwrywaidd ag un goes o flaen y llall. Roedd y datblygiad arddulliol hwn yn arwyddocaol am fod syniad mwy naturiol o ddisgyrchiant a chydbwysedd yn rhoi i’r ffigwr oddrychedd mwy sylweddol. Mae anghymesuredd yn arwyddo perthynas ymgorfforedig ac unigol â’r byd. Mae pob artist sy’n cyfrannu at y prosiect hwn yn rhoi sylw penodol i bethau ar sgiw, er mwyn cyfleu bywyd emosiynol mewnol.

‘K is for Knotty thinking…’

Sut ydyn ni’n dysgu mewn byd wedi’i lywodraethu gan ormod o wybodaeth? Sut allwn ni feddwl drwy ein bysedd? Sut allwn ni (ddad-)ddysgu trwy gyfrwng proses o wneud? Mewn byd wedi’i ddominyddu gan gylchrediad delweddau, a ddylem ni osod math o semaffor yn lle lleferydd? Sut allwn ni hyrwyddo meddyliau a theimladau dyrys mewn byd y byddai’n well ganddo anghofio amdanyn nhw?

‘Y is for saying Yes’

Yn y coleg celf, fe’m dysgwyd taw rôl y curadur oedd bod yn ‘ddadfytholegydd arbenigol’. Mae’r ffocws hwn ar feirniadaeth, yn hytrach na chreadigrwydd, yn fodel pedagogaidd â’i wreiddiau yn syniadaeth gwrth-ddiwylliant y chwedegau. Roedd beirniadaeth, ar y cyd â thrylwyredd deallusol Celfyddyd Gysyniadol, yn fodd o fawrygu syniadau yn hytrach na gwneud, ac yn fodd i fynegi ‘malaise’ ehangach parthed yr artist unigol ‘athrylithgar’. Ond y mae cynhyrchu, wrth gwrs, fel y mae canfyddiad, yn cynnwys prosesau cadarnhaol a negyddol fel ei gilydd, gan fod dweud ‘ie’ yn cynnwys hefyd elfen o ddweud ‘na’. I Vilém Flusser, roedd y ‘weithred o wneud’ yn ei hanfod yn broses dreisgar a gweithgar sy’n rhannu’r byd rhwng yr hyn y ‘gweithredir arno’ a’r ‘byd sydd

Page 17: Sticky Intimacy: Cymraeg

y tu allan i’r weithred o wneud’. I Flusser, mae ‘gweithredu ar wrthrychau a deunyddiau’ yn ffordd o ddylanwadu ar y dyfodol, a beth allai fod yn fwy beirniadol a phwysig na hynny?

‘I is for Intimacy’

Sut ydyn ni’n diffinio agosatrwydd yn y cyd-destun hwn? All rhywun gael perthynas agos â deunydd? I’r artist Robert Morris, roedd agosatrwydd yn perthyn yn uniongyrchol i faint a graddfa’r cerflun. Roedd creu rhywbeth mawr yn gyfystyr â gwneud rhywbeth cyhoeddus, a chreu ar raddfa fechan yn gyfystyr ag agosatrwydd. Roedd y newid hwn o’r anferthol i’r addurnol cywasgedig yn fodd o wneud y gwrthrych yn fwy ecsgliwsif. Gallwn weld hyn yng nghwpanau cymun Pope sy’n lleihau maint y darluniau, ac yn dadlau yn erbyn y modd arferol o gyfieithu gwaith o gyflwr drafft i gyflwr gorffenedig.

‘N is for Naming Things’

Sut mai cyfleu gwerth peidio â gwybod? Sut allwn ni, ag aralleirio Anthony Huberman, wrthsefyll gormes gwybodaeth? Yn 1976, siaradodd William Turnbull o blaid ffurf gerfluniol a fyddai’n symud y tu hwnt i adnabyddiaeth, o blaid gosod pethau ‘anhysbys’ mewn byd lle mae ‘gormod o bethau yn cael eu henwi’. Os oes yna gysylltiadau rhwng yr artistiaid yn y prosiect hwn, ymddengys eu bod yn rhannu awydd bob un i roi ffurf i nodweddion anhysbys, i gyfieithu profiad annelwig i ffurf statig.

Soniodd yr artist Luke McCreadie wrthyf unwaith am fynd â cyfres o doriadau pren i’r sgip. Gofynnodd gweinyddwr y safle i’r artist a oedd y llythyrau yn sillafu gair o unrhyw fath, oherwydd os oedden nhw, byddai’n rhaid ystyried y deunydd nid yn sbwriel domestig ond yn wastraff busnes — ac y byddai tariff gwahanol yn berthnasol. Mae’r hanesyn yn adrodd cyfrolau am yr awydd dynol i enwi a dosbarthu, i fesur ac i ddiffinio’r byd. Swyddogaeth celfyddyd, meddai McCreadie, yw gwrthsefyll math o greu sydd yn crisialu ac yn pennu. Mae artistiaid yn creu eu rhesymeg eu hunain, yn gwneud defnydd o fath ar amhendantrwydd sy’n adlewyrchu honiad Turnbull y dylai celfyddyd ein gosod mewn man anhysbys.

Page 18: Sticky Intimacy: Cymraeg
Page 19: Sticky Intimacy: Cymraeg
Page 20: Sticky Intimacy: Cymraeg

‘T is for Tactility’

Arwynebau mat cerfluniau Cuddon, y globau poer-aidd gwydrog ar waith Hart, y ffurfiau disglair cromliniol ar gwpanau cymun Pope. Mae pob dim yn ‘Sticky Intimacy’ fel petai’n awyddus i’n hudo ni. Os yw pob gwaith yn ein hannog i gyffwrdd ag ef, yna rhaid gwrthod y demtasiwn honno. Mae’r egni erotig hwn yn gwthio ein llygaid reit at arwyneb y gwaith ac mae’r hydeimledd yn creu dimensiwn seicig sydd yn somatig yn gymaint ag y mae’n semantig. Os yw gwaith Cuddon a Hart yn cyfeirio at y corff drwy gyfrwng eiconograffi uniongyrchol, mae gwaith Pope yn fwy amwys.

‘I is for Impure’

Teitl un o’ arddangosfeydd blaenorol Emma Hart yw ‘Dirty Looks’. Mae bryntni’n awgrymu rhywbeth sâl ac amherffaith. Ac mae Hart yn sôn yn aml am greu ymateb angerddol a chorfforol yn y gwyliwr, a gwrthsefyll goddefedd o blaid rhywbeth mwy ymdrwythol. Darluniau aml-liwiog Pope a’i gwpanau cymun, cydlifiad Jonathan Baldock o grefftau, llên gwerin a motiffau Modernaidd, cyrff ansicr Cuddon. Mae pob artist yn llygru ei waith, gan hybu syniad mwy powld, yn ffurfiol ac yn gysyniadol.

‘M is for Exhibition Making’

Dylai curadu hyrwyddo math o bolyffoni, wedi’i rwymo gan felodi (neu synwyrusrwydd). Mae’n ymwneud â dod o hyd i fan lle y gall gwahanol leisiau gyd-fodoli a diffinio eu consyrns gofodol eu hunain ochr yn ochr ag eraill. Mae llawer iawn o’r grefft o greu arddangosfa yn aros o’r golwg. Mae pob un o’r sgyrsiau rhwng artist a churadur, gwneuthurwr a chyllidwr yn rhannol guddiedig neu’n cael ei olygu cyn dod i olwg y cyhoedd. Mae etifeddiaeth unrhyw sioe i’w theimlo nid yn unig yn y gwaith comisiwn newydd neu mewn adolygiadau, ond yn y dylanwadau parhaol a deimlir gan y cyfranwyr; nid mater o ddod â gweithiau yn unig at ei gilydd yw curadu ond mater o ddod ag artistiaid at ei gilydd hefyd.

‘A is for Artists’

Hebddyn nhw ble fyddem ni?

Page 21: Sticky Intimacy: Cymraeg

‘C is for what Marc Camille Chaimowicz was saying…’

Mewn sgwrs diweddar rhwng Chaimowicz ac Eva Fabbris yng nghylchgrawn Mousse, aeth yr artist ati i ddiffinio agosatrwydd nid fel thema ond fel cyflwr meddyliol sy’n nodweddu proses. Yn yr un cyfweliad, mae’r artist yn cofio honiad Sabrina Tarasoff bod gwneud yn gyfystyr â ‘rhyw lun ar breifatrwydd o olwg cyfalaf.’ Gwelwn yn glir bod yr awydd i drin deunyddiau ac i reoli’r byd o’n cwmpas yn cymryd arno ddimensiwn gwleidyddol, dan amodau cyfoes llafur, cytundebu allanol a rhwydweithiau amherthnasol. Mae’r ‘rhyw lun ar breifatrwydd’ hwnnw (yr addurnol, cartrefol, lleol a chyffyrddol) yn fodd o ymgysylltu’n uniongyrchol ddigyfryngiad gyda’r byd. I Flusser, mae’r ‘weithred o wneud’ yn ymwneud â dwy law ‘yn dod at ei gilydd ac yn creu argraff ar y byd, gan newid ei ffurf... a goresgyn y cyflwr dynol.’ Felly, sut mae cymhlethu’r byd drwy weithredu arno? Pam ydyn ni’n gosod semaffor (ystumiau) yn lle lleferydd? Sut allwn ni wneud y byd o wrthrychau a deunyddiau yn fwy gludiog ac yn fwy agos-atoch?

‘Y is for Why?’

Pam ydw i’n ysgrifennu? Pam ydych chi’n darllen y darn hwn? Pam fod artistiaid yn teimlo gorfodaeth i greu a pham ydyn ni’n edrych ar eu gwaith? Dywedodd yr artist Beatriz Olabarrieta unwaith ei bod am i’w chelfyddyd greu teimladau corfforol yn ei chynulleidfaoedd. Mae’r wireb gyfoethog honno yn cynnig ateb syml i gyfres o gwestiynau cymhleth. Yn union yr hyn y dywedais na ddylai artistiaid ei wneud...

Mae George Vasey yn guradur yn Oriel Celfyddyd Gyfoes y Gogledd ac yn awdur ar ei liwt ei hun.

 

Page 22: Sticky Intimacy: Cymraeg
Page 23: Sticky Intimacy: Cymraeg

TEITLAU’R DELWEDDAU

Clawr blaen a chlawr cefn Emma Hart, All Over The Place, 2015Seramig a ffabrig

Tudalennau 1 a 2Nicholas Pope, Tongues of Fire from Heaven to Earth, 1992porslen

Tudalen 3Katie Cuddon, Leg Plough, 2008Gwaith seramig wedi’i beintio, tywod, pren

Tudalen 6Nicholas Pope, Mr and Mrs Pope Spiked and Holed, 1987Gwaith pren wedi’i beintio

Tudalennau 7 a 8Nicholas Pope gyda James Maskrey, The Conundrum of the Chalices of the Seven Deadly Sins and Seven Virtues, 2015Llun: David Williams

Tudalen 10Katie Cuddon, A Problem of Departure, 2013Gwaith seramig wedi’i beintio, gobennydd

Tudalennau 11 a 12Emma Hart, Dirty Looks (manylyn), 2013Gwaith seramig a MDF

Tudalen 13Katie Cuddon, Penumbra, 2014Gwaith seramig wedi’i beintio (Peintiad mur a gwaith sidan wedi’i argraffu gan Celia Hempton)

Tudalennau 17 a 18Katie Cuddon, Untitled, 2016Collage cyfryngau cymysg ar bapur

Tudalen 21Emma Hart, A Kennington Lane in my Newington Butts, 2015Seramig

Page 24: Sticky Intimacy: Cymraeg

ChapterMarket Road, Cardiff CF5 1QE, UK Heol y Farchnad, Caerdydd CF5 1QE, UK +44 (0)29 2031 [email protected] /chaptergallery