cliczine #5 (cymraeg)

10
YN Y GYRFOL HON PRESWYL HYFFORDDIANT CLIC FACEBOOK - FFRIND NEU CELYN? ‘MERTHYR ROCK’ DIGARTREFEDD IFANC TRETH BAG 5C CYMRU CLICzine #5 HYDREF 2011 CLICZINE AELODAU O’R GYDWEITHFA CLIC: NEWYDDION / GWYBODAETH / DIGWYDDIADAU / CYNGOR / HELP / FFORDD O FYW / DWEUD DY DDWEUD WWW.CLICARLEIN.CO.UK // CLIC, Y SIANEL AM WYBODAETH, NEWYDDION A CHYNGOR AM DDIM - CYMERA GOPI! CADWA MEWN CYSYLLTIAD

Upload: promo-cymru

Post on 25-Jul-2016

239 views

Category:

Documents


2 download

DESCRIPTION

 

TRANSCRIPT

YN YGYRFOL HON

PRESWYL

HYFFORDDIANT CLIC

FACEBOOK - FFRIND

NEU CELYN?

‘MERTHYR ROCK’

DIGARTREFEDD

IFANC

TRETH BAG 5CCYMRU

CLICzine #5HYDREF 2011

CLICZINE

AELODAU O’R GYDWEITHFA CLIC:

NEWYDDION / GWYBODAETH / DIGWYDDIADAU / CYNGOR / HELP / FFORDD O FYW / DWEUD DY DDWEUDWWW.CLICARLEIN.CO.UK // CLIC, Y SIANEL AM WYBODAETH, NEWYDDION A CHYNGOR

AM DDIM - CYMERA GOPI!

CADWA MEWN

CYSYLLTIAD

Nod y Prosiect Ymgysylltu yw helpu miloedd o bobl ifanc ar draws De-orllewin Cymru i gyflawni’u potensial llawn a’u paratoi ar gyfer llwyddiant yn y dyfodol.

Mae’r fenter ranbarthol, a ariennir gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru, yn targedu pobl ifanc rhwng 14 a 19 oed i godi dyheadau, gwella cyfraddau cyfranogiad mewn addysg, hyfforddiant a chyflogaeth yn ogystal â mynd i’r afael ag eithrio cymdeithasol ac addysgol. Ei nod hefyd yw gwella ac ehangu darpariaeth ar draws De-orllewin Cymru gan helpu i ddatblygu gweithlu o’r radd flaenaf ar gyfer y dyfodol.

Mae’r Prosiect Ymgysylltu’n darparu cefnogaeth ychwanegol, unigol a dwys i’r rhai mewn perygl, ac felly’n sicrhau bod cyfranogwyr yn ennill y sgiliau a’r hyder i lwyddo mewn dysgu a chyflogaeth wrth leihau nifer y bobl NEET sy’n methu â chyflawni’u potensial.

Darperir y prosiect hwn gan y 5 sir a’r 5 Coleg AB ym Mhartneriaeth Dysgu Rhanbarthol De-orllewin Cymru. Mae pob un o’r partneriaid yn ymwneud â’r gwaith, ynghyd ag amrywiaeth o sefydliadau aml-asiantaeth yn eu hardaloedd lleol, i fwyafu effaith y cynllun a chreu dyfodol mwy cadarnhaol ar gyfer hyd at 13,000 o bobl ifanc dros gyfnod y prosiect.

Am fwy o wybodaeth am y prosiect YMGYSYLLTU, ewch i:http://bit.ly/prosiectymgysylltu

Neu cysylltwch â’r:Tîm Arwain YmgysylltuCBS Castell-nedd Port TalbotLlyfrgell Llansawel, Heol Castell-nedd, Llansawel SA11 2AQRhif Ffôn: 01639 765109 Ffôn symudol: 07969 850282

“It’s never too late to become the person you might have been” - George Eliot

PROSIECT ‘YMGYSYLLTU’

Partners involved in this regional project are: Neath, Port Talbot County Borough Council (Lead/Opertaional), Neath Port Talbot College, Gower College Swansea, City & County of Swansea, Coleg Sir Gâr, Carmarthenshire County Council, Pembrokeshire College, Pembrokeshire County Council, Cerefigion County Council, Coleg Ceredigion.

Y partneriaid sy’n rhan o’r prosiect rhanbarthol hwn yw: Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot (Arweiniol/Gweithrediadol), Coleg Castrell-nedd Port Talbot, Coleg Gwŷr Abertawe, Dinas a Sir Abertawe, Coleg Sir Gâr, Cyngor Sir Gâr, Coleg Sir Benfro, Cyngor Sir Penfro, Cyngor Sir Ceredigion, Coleg Ceredigion.

Part funded by the European Social Fund through the Welsh Government.Ariennir yn rhannol gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop drwy Llywodraeth Cymru.

AM CLICzine

CLICzine ydy chwaer fach argraffedig CLIC, y cylchgrawn ar-lein i bobl ifanc yng Nghymru. Dyma’r lle i ddarganfod a rhannu newyddion, gwybodaeth a chyngor a chael dweud dy ddweud. Cymera ran ar CLICarlein.co.uk

NODYN GOLYGYDD

Sut haf wyt ti wedi’i gael? Roedd un CLIC yn un eithaf anhygoel i ddweud

y gwir - cawsom fwynhau’r awyr agored yn Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam ac yng ngŵyl Merthyr Rock ym Merthyr Tydfil. Cawsom amser gwych hefyd yn y Preswyl Hyfforddiant CLIC yn Y Trallwng, ble derbyniodd 30 o’n CLICwyr achrediadau mewn ysgrifennu creadigol, ffotograffiaeth a chreu fideos. Cawsom hefyd gyfle i geisio darganfod ein ffordd trwy ogofeydd ffug oedd

yn ddu fel y fagddu, bwydo selsig i gi enfawr, a

chymryd rhan yn y drydedd gystadleuaeth

Mae Gan CLIC Dalent. Yna cawsom Frwydr

Y Bandiau CLIC/Merthyr

Rock lle’r oedd Eric Unseen

yn fuddugol ac yn ennill pecyn

gwobrau enfawr a llwyfan yng ngŵyl Merthyr Rock. Mae’r zine hwn yn rhoi blas bychan i ti o beth sydd ar gael ar CLICarlein a gobeithio annog ti i gymryd rhan ym mhopeth uchod, felly ymwela â www.CLICarlein.co.uk, cofrestra a dod yn CLICiwr! Ryan Heeger, National Editor

SUT I FOD YN RHAN O CLIC

Mae CLIC yn le i ti fynegi dy hun yn greadigol, rhyngweithio gydag eraill, a chael gwybodaeth a chyngor ar bron i bopeth sydd yn effeithio pobl ifanc yng Nghymru. Gall lwytho erthyglau, gadael

sylwadau ar ysgrifennu eraill, gyrru fideos, ffotograffiaeth neu waith celf, a hyd yn oed addasu cefndir y gwefannau. Mae ymuno gyda dy grŵp golygyddol lleol yn gyfle hefyd i gyfarfod gyda phobl ifanc eraill a chael pethau am ddim fel tocynnau gigs a CDs. Eisiau dod yn rhan o bethau? Galwa 029 2046 2222 neu e-bostia’r golygydd cenedlaethol: [email protected].

GWEFANNAU BYW CLIC

Ynys Môn defaid.com • Pen-y-bont ar Ogwr bwsted.com • Caerdydd thesprout.co.uk • Sir Gaerfyrddin ieuenctidsirgar.co.uk • Sir y Fflint fflintyrifanc.co.uk • Casnewydd youngnewport.co.uk • Rhondda Cynon Taff wicid.tv • Abertawe shouttawe.co.uk • Bro Morgannwg swoosh.me.uk YN FYW CYN HIR!

Blaenau Gwent • Merthyr Tudful • Sir Fynwy • Castell-Nedd Port Talbot • Torfaen • Wrecsam

Mae CLIC yn datblygu sianel ar-lein newydd i arddangos fideos

wedi’i greu gan bobl ifanc yng Nghymru. Bydd CLICwylio yn gwbl ryngweithiol, sydd yn golygu gall gyflwyno ffilmiau, gadael sylwadau , graddio pob fideo a rhannu nhw ar wefannau rhwydweithio cymdeithasol fel Facebook a Twitter. Bydd CLICwylio yn cynnig chwaraewr teledu ar orchymyn yn ogystal â dewis dyddiol

o raglenni, newyddion a nodweddion i gadw ti mewn cysylltiad â beth sydd yn digwydd. Cadwa olwg ar CLICarlein.co.uk am lansiad CLICwylio.

Wedi’i ddosbarthu yn ystod Wythnos Gwaith Ieuenctid 2011 – edrycha ar thankssam.org.uk

TIWNIA I MEWN

Nod y Prosiect Ymgysylltu yw helpu miloedd o bobl ifanc ar draws De-orllewin Cymru i gyflawni’u potensial llawn a’u paratoi ar gyfer llwyddiant yn y dyfodol.

Mae’r fenter ranbarthol, a ariennir gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru, yn targedu pobl ifanc rhwng 14 a 19 oed i godi dyheadau, gwella cyfraddau cyfranogiad mewn addysg, hyfforddiant a chyflogaeth yn ogystal â mynd i’r afael ag eithrio cymdeithasol ac addysgol. Ei nod hefyd yw gwella ac ehangu darpariaeth ar draws De-orllewin Cymru gan helpu i ddatblygu gweithlu o’r radd flaenaf ar gyfer y dyfodol.

Mae’r Prosiect Ymgysylltu’n darparu cefnogaeth ychwanegol, unigol a dwys i’r rhai mewn perygl, ac felly’n sicrhau bod cyfranogwyr yn ennill y sgiliau a’r hyder i lwyddo mewn dysgu a chyflogaeth wrth leihau nifer y bobl NEET sy’n methu â chyflawni’u potensial.

Darperir y prosiect hwn gan y 5 sir a’r 5 Coleg AB ym Mhartneriaeth Dysgu Rhanbarthol De-orllewin Cymru. Mae pob un o’r partneriaid yn ymwneud â’r gwaith, ynghyd ag amrywiaeth o sefydliadau aml-asiantaeth yn eu hardaloedd lleol, i fwyafu effaith y cynllun a chreu dyfodol mwy cadarnhaol ar gyfer hyd at 13,000 o bobl ifanc dros gyfnod y prosiect.

Am fwy o wybodaeth am y prosiect YMGYSYLLTU, ewch i:http://bit.ly/prosiectymgysylltu

Neu cysylltwch â’r:Tîm Arwain YmgysylltuCBS Castell-nedd Port TalbotLlyfrgell Llansawel, Heol Castell-nedd, Llansawel SA11 2AQRhif Ffôn: 01639 765109 Ffôn symudol: 07969 850282

“It’s never too late to become the person you might have been” - George Eliot

PROSIECT ‘YMGYSYLLTU’

Partners involved in this regional project are: Neath, Port Talbot County Borough Council (Lead/Opertaional), Neath Port Talbot College, Gower College Swansea, City & County of Swansea, Coleg Sir Gâr, Carmarthenshire County Council, Pembrokeshire College, Pembrokeshire County Council, Cerefigion County Council, Coleg Ceredigion.

Y partneriaid sy’n rhan o’r prosiect rhanbarthol hwn yw: Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot (Arweiniol/Gweithrediadol), Coleg Castrell-nedd Port Talbot, Coleg Gwŷr Abertawe, Dinas a Sir Abertawe, Coleg Sir Gâr, Cyngor Sir Gâr, Coleg Sir Benfro, Cyngor Sir Penfro, Cyngor Sir Ceredigion, Coleg Ceredigion.

Part funded by the European Social Fund through the Welsh Government.Ariennir yn rhannol gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop drwy Llywodraeth Cymru.

CYFEIRIADProMo-Cymru Unedau 10Gweithdai Royal StuartAdelaide Place Bae CaerdyddCF10 5BR

CYSWLLTFfôn: 029 2046 2222Ffacs: 029 2048 [email protected]

GOLYGYDDOLGolygydd: Ryan HeegerIs-Golygydd: Daniel GrosvenorDyluniad: Burning RedCyfieithu: Tania Russell-OwenCat Southall

AMDANON NIMae’r CLICZINE yn gyhoeddiad chwarterol yn anelu at rai 11 i 25 yng Nghymru. Mae’r erthyglau i gyd yn friff, gyda’r fersiwn llawn ar gael ar clicarlein.co.uk. CLIC ydy’r Gwasanaeth

Gwybodaeth a Chyngor Cenedlaethol i bobl ifanc yng Nghymru, yn cael ei ariannu gan Llywodraeth Cymru ProMo-Cymru sydd yn datblygu’r prosiect yn y cyfnod pedair blynedd nesaf.

wylio

OEDDET TI’N GWYBOD..?

83%Bydd 83% o bobl ifanc Cymru gyda mynediad

i wefan lleol CLIC cyn hir.100%Mae 100% o bobl ifanc

Cymru gyda mynediad i’r wefan genedlaethol CLIC.

CERDDORIAETH DULL O FYW

AR BETH MAECLICWYR YN GWRANDO?ARTIST: Fleetwood Mac • TRAC: Never Going Back Again • DEWISWYD GAN: BethanTheBarmy, RCT (wicid.tv)

ARTIST: The Subways • ALBWM: Money & Celebrity DEWISWYD GAN: cprp27, Blaenau Gwent (Safle CLIC i ddod yn fuan!)

ARTIST: The Golden Age TRAC: The Asteroid Galaxy Tour • CEWISWYD GAN: Stormer007, Caerdydd (thesprout.co.uk)

ARTIST: Scroobius Pip • TRAC: Distraction Pieces DEWISWYD GAN: 769, Sir y Fflint (fflintyrifanc.co.uk )

ARTIST: Mastadon • ALBWM: The Hunter DEWISWYD GAN: chaostheory, Ynys Môn (defaid.com)

ARTIST: Arctic Monkeys • ALBWM: Suck It And See DEWISWYD GAN: neilramsden, Caerdydd (thesprout.co.uk)

ARTIST: Hinder • TRAC: All American Nightmare DEWISWYD GAN: Deliah, RCT (wicid.tv)

ARTIST: Cinnamon • TRAC: Cakes & Pies DEWISWYD GAN: miss_ninjastar, Torfaen (Safle CLIC i ddod yn fuan!)

ARTIST: Lady GaGa vs Judas Priest • TRAC: Lady Judas DEWISWYD GAN: CrazyDistortion, RCT (wicid.tv)

ARTIST: And So I Watch You From Afar • ALBWM: Gangs CHOSEN BY: (Not Responding), Casnewydd (youngnewport.co.uk)

ARTIST: Alice Cooper • ALBWM: Welcome 2 My Nightmare • CHOSEN BY: DeadAngelLover22, Caerdydd (thesprout.co.uk)

GWRANDO!

gan Steven MJ o Abertawe (shouttawe.co.uk)

Mae Prif Weithredwr Facebook, Mark Zuckerberg wedi amlygu model gwasanaeth hollol newydd a phartneriaethau newydd yn y gynhadledd

datblygwyr Facebook diweddar yn San Francisco. Bydd tirlun y wefan yn newid yn llym gyda fersiwn newydd o Facebook, sydd yn cael ei alw’n Timeline.

Pwrpas y gwasanaeth fydd i gynrychioli llinell amser dy fywyd, o dy gamau cyntaf i i’r rhai diwethaf. Mae Zuckerberg yn datgan bydd hyn yn dweud, “Hnaes dy fywyd”.

Ynghyd â hyn datgelodd Zuckerberg bydd Facebook yn darparu gwasanaeth newydd i ddefnyddwyr i rannu pethau

maent wedi’i ddarllen, wylio neu glywed yn awtomatig. Bydd hyn yn cael ei gyflawni trwy nifer o bartneriaethau newydd gydag amryw sefydliad, yn benodol Netflix, Spotify a’r Guardian.

Bydd y newid yma yn cynrychioli trosglwyddiad Facebook i mewn i ganolbwynt adloniant, a nod Zuckerberg ydy i gyflwyno gwasanaeth fydd yn ymddwyn fel y lle cyntaf i ddefnyddwyr fynd iddo ar gyfer adloniant a gwybodaeth, gan ddweud bydd y gwasanaeth yn cynnig, “Eich hanesion i gyd, eich apps i gyd, i fynegi pwy ydych chi”.

Darllena mwy http://bit.ly/hyb-facebook

Bydd tirlun y wefan

yn newid yn llym

EISTEDDFOD GENEDLAETHOL 2011

LDydd Sadwrn diwethaf bues i yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Wrecsam a chefais i ddiwrnod grêt er gwaethaf y problemau trên.

Roedd yn ddifyr ymweld â’r stondinau i gyd a gweld ffrind oedd yn gweithio ar y stondin RSPB. Ar un stondin adeiladais i gyflenwydd bwyd i adar sydd nawr yn llawn hadau adre. Bues i yn stondin Opera Cenedlaethol Cymru a gweld gwisg roedd Bryn Terfel wedi gwisgo. Dywedant wrthyf am i mi godi’r hem - felly wnes i ac roeddwn i wedi synnu pa mor drwm oedd e! Mae’n rhaid bod Bryn yn gryf i wisgo rhywbeth mor drwm.

Clywais i gorau hyfryd yn y pafiliwn a gweld band pres ardderchog yn chwarae tu allan. Roedd yn ddiwrnod blinedig ond roeddwn i wedi mwynhau a methu aros am Eisteddfod blwyddyn nesaf ym Mro Morgannwg! Rwy’n gobeithio helpu allan ar stondin RSPB.

Darllenwch mwy http://bit.ly/eisteddfod-genedlaethol-2011

gan RED KITE o Bro Morgannwg (swoosh.me.uk)

CANOLBWYNT ADLONIANT FACEBOOK

CERDDORIAETH DULL O FYW

Pan gyrhaeddom ni roedd ‘My Passion’ yn chwarae. Roedd gan bob band 40 munud ac wedi gorffen roedd ganddyn nhw slot amser

arwyddo i ni’r ffans. Yr ail fand i ddod i’r llwyfan oedd Attack! Attack! Y bandiau Cymraeg eraill yn chwarae yn y gŵyl roc hwn oedd Skindred, Funeral For A Friend, Young Guns a mwy. Roedd y bandiau hyn i gyd ar y prif lwyfan.

Pan gyrhaeddodd y prynhawn dechreuodd yr awyr mynd ychydig yn ddiflas ac ym mhen hir a hwyr

dechreuodd hi lawio, sut bynnag ni wnaeth hyn lleithio’r ysbryd oherwydd roedd awyrgylch yr ŵyl yn arbennig. Nid Gŵyl fydd hi heb tywalltiad o law traddodiadol!

I bob duw roc mas yna, os nad ydych wedi bod i ŵyl roc o’r blaen, buaswn i’n argymell i chi fynd i ‘Merthyr Rock’ blwyddyn nesaf.

Darllena mwy http://bit.ly/adolygiad-merthyr-rock

gan therockmeister o Ben-y-bont ar Ogwr (bwsted.com)

ADOLYGIAD ‘MERTHYR ROCK’

Gan

@lo

laC

LIC

DWEUDDDWEUD

Heddiw bues i am bryd o fwyd gyda fy rhieni. Wrth eistedd tu allan i’r bwyty, roedd grŵp

o bobl ifanc yn eu harddegau (dim yn hŷn na 11/12 blwydd oed heb oedolion yn bresennol) hefyd tu allan.

Nawr rwy’n gwybod fod rhaid i bobl ifanc teimlo ymddiriedolaeth er mewn iddynt allu datblygu, ond roedd beth a ddilynodd wedi fy nigalonni i fawr. Troais i o gwmpas i weld un o’r bechgyn yn ysmygu ynghyd ac un o’r merched, gyda beth oedd yn edrych fel eithaf tipyn o arbenigedd am rywun mor

ifanc. Roedd yr ysmygwyr wedyn yn chwistrellu persawr yn syth i wynebau ei gilydd, mae’n debyg i gael gwared â’r arogl.

Roedd y grŵp o bobl ifanc yn eu harddegau hefyd wedi gwisgo llawer yn hŷn, a oedd wedi gwneud i mi feddwl tybed beth sydd ‘di newid cymaint yn y deng mlynedd diwethaf? Mae plant eisiau bod cymaint yn hynach nag ydyn nhw yn hytrach na chael agwedd diofal yn debyg i beth oedd gen i’r oedran hynny.

Cleifion canser. Pobl ddiabetig. Pobl gyda’r asthma ofnadwy hynny. Maen nhw’n gwneud i mi deimlo’n sâl. Dylai bob un ohonynt gael ei gloi i fyny i ffwrdd o’r gweddill ohonom ni, aelodau normal cymdeithas.

Pe bawn i’n parhau’r darn yma yn yr un modd, byddwn i’n boddi o dan bentwr o ymosodiadau - sut allaf fi fod mor annheg a llym ynglŷn â’r bobl hynny sydd wedi bod mor anlwcus i fod yn sâl? Byddaf yn cael fy nghosbi a fy ngorfodi i ymddiheuro, sy’n ddigon teg.

Felly pam ydy hi’n iawn i bobl cael y cred hwn ynglŷn ag afiechyd meddwl? Y disgrifiad arferol ar gyfer rhywun wedi grwpio o dan y Ddeddf Afiechyd Meddwl yw bod y person yn dreisgar, yn

beryglus ac yn dueddol o fod yn greulon.

Fel pob stereoteip arall, mae hyn yn niweidiol i’r person a’r bobl o’u hamgylch, yn yr achos yma, gallai testun y stereoteip fod yn anfodlon i ofyn am gymorth oddi wrth eu ffrindiau, teuluoedd a hyd yn oed gan feddyg y teulu gan ei bod yn ofni cael eu cyhuddo neu eu gwawdio.

Darllena mwy http://bit.ly/gwallgof-i-weithio-yma

gan miss_ninjastar o Dorfaen (Safle CLIC i ddod yn fuan!)

Cysylltiadau Hanfodol Tai CLIC

Shelter Cymru Llinell gymorth 24 awr, cyngor tai, gwasanaethau cymdeithasol a gwaith eiriolaeth ar ran pobl ddigartref. Yn cynnwys cysylltiadau, trafodaeth, gwybodaeth a chyngor. sheltercymru.org.uk • 0845 075 5005

Llinell Gymorth Dyledion Tai Cymru Yn cynnig cefnogaeth i unigolion a theuluoedd sy’n ei chael yn anodd cwrdd â’u taliadau morgais neu rent. housing-debt-helpline-wales.org • 0800 107 1340

Llamau Mae Llamau yn elusen ddigartref, yn trosglwyddo gwasanaethau i bobl ddigartref sydd yn cael eu heithrio’n gymdeithasol a phobl ifanc sydd mewn perygl o ddod yn ddigartref a merched bregus yn De Cymru. llamau.org.uk • 029 2023 9585

Meic Y llinell gwybodaeth, cyngor a chefnogaeth i blant a phobl ifanc yng Nghymru. meiccymru.org • 080880 23456 Digartref Ynys Môn Cefnogi pobl i fyw yn annibynol. Llinell gymorth 24 awr. digartrefynysmon.co.uk • 01407 765557

www.promo-cymru.orgFalch o gynhyrchu'r CLICzine

Ofn cael dy stigmateiddio?

gan hair_chops o Caerdydd (thesprout.co.uk)

NID OES RHAID BOD YN WALLGOFI WEITHIO YMA…

Darllena mwy http://bit.ly/syndrom-gwrth-peter-pan

SYNDROM GWRTH PETER PAN

Wedi cyrraedd ein lleoliad, cawsom ein cyfarch gan

dîm De Cymru arall, roeddem wedi cwrdd â rhai ohonyn nhw ar benwythnos preswyl o’r blaen. Aethom ni mewn i’r adeilad gyda’n bagiau / siwtcesys ac aros i dîm Gogledd Cymru gyrraedd.

Wedi iddyn nhw gyrraedd yr adeilad aethon ni gyd i gyfarfod yn y bwyty i fynd drwy’r rheolau. Ar ôl y rheolau oedd amser bwyd ac roedd pawb wedi ymgynnull yn y lolfa i ddewis pa gwrs hyfforddi RhCA i wneud, roedd yna ffotograffiaeth, fideo ac ysgrifennu creadigol.

Gan fy mod i ond wedi darllen un llyfr yn y flwyddyn ddiwethaf ac wedi rhoi’r gorau iddi ar ôl y paragraff cyntaf, penderfynais buasai’n syniad da i mi gymryd cwrs ysgrifennu creadigol. Wedi i bawb penderfynu, roedd gennym ni amser rhydd i fynd i chwilio am ein stafelloedd gwely, roeddwn i’n rhannu gyda thri pherson arall, diolch byth doedd dim un ohonyn nhw’n chwyrnu.

Lleolwyd yr adeilad yng nghanol llawer o gaeau gyda defaid, ac roedd yna ystafell gemau (tri bwrdd tennis a Connect 4 mawr), ardal lolfa (gyda theledu – rhywbeth nad oeddwn i’n disgwyl gan ein bod yng nghanol unman) a sawl ystafell wely (y merched lan llofft a’r bechgyn lawr llawr)

Wedi dod o hyd i’n hystafelloedd ac yna dadbacio aethom ni allan am ychydig o amser rhydd. Dewisais i fynd i’r ystafell gemau ble roedd sawl person arall ac eistedd ar un o’r cadeiriau. Ar ôl cyfnod o amser gadawodd pawb ac roeddwn i ar fy mhen fy hun, ond dim yn hir ar ôl hynny daeth un o olygyddion The Sprout a gofyn a oeddwn i eisiau chwarae gem, dywedais i “ie” a dechreuom ni chwarae, a chyn hir ffeindiais i fy hunan yn mwynhau’r profiad, yn troi’n gystadleuol iawn a wir eisiau meiddi’r person arall.

Gyda’r nos roedd y rhan fwyaf o bobl yn y stafell gemau yn mwynhau eu hunain. Ges i fy ngofyn unwaith eto i chwarae gem o tennis bwrdd, y tro hyn roedd pedwar person ac hefyd chwaraeais

i Connect 4 yn erbyn y tîm arall ( rhywbeth roedden nhw’n dda iawn yn chwarae)

Wrth i’r noson dod i ben penderfynodd rhai ohonom fynd i’r gwely, a fi’n un ohonyn nhw. Roedd hyn yn gyfle i bawb ddod i nabod eu cyfeillion ‘stafell.

Darllena mwy http://bit.ly/clic-yn-y-trallwng

TWEETS / SYLWADAU / ADBORTH DEFNYDDWYR

Erthygl ffab…. Er rydw i’n genfigennus oherwydd mae’n swnio fel penwythnos ffab! Mae’n siŵr buaswn i ddim hyd yn oed wedi cyrraedd hanner ffordd ar y wal dringo felly da iawn am hynny hefyd! :D - MISS_NINjASTAR

Roedd yn bleser llwyr i gyfarfod ti ac i dreulio’r penwythnos yn dy gwmni. Dwi’n falch iawn dy fod wedi mwynhau’r profiad :) - GEOFFCLIC

PRESWYL HYFFORDDIANT CLIC: LLEOLIAD - Y TRALLWNG

GAN AEVANS001 O ABERTAWE

(SHOUTTAWE.CO.UK)

DWEUDDDWEUD

DWEUDDDWEUD

Sam fan hyn, cyd-drefnydd Gwobrau anhygoel CLIC 2011. Wyt ti’n darllen hwn

ar ôl y 19eg o Dachwedd? Wyt? Yna darllena’r italig. Nag wyt? Darllena popeth arall.

Cynhelir Gwobrau CLIC 2011 ar y 19eg o Dachwedd yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd (*ciw “wwww”*)

Bu Gwobrau CLIC 2011 ar Ddydd Sadwrn 19 o Dachwedd yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd (*roedd yna lawer o “wwwwio”*)

Mi fydd yn noson ffantastig yn llawn gwobrau godidog a stwff.

Roedd yn noson ffantastig llawn gwobrau godidog a stwff.

Eisiau mwy o wybodaeth ar yr enillwyr, symudwyr a siglwyr? Cer i cliconline.co.uk (mae’r darn yma ar gyfer pawb, duh).

TRAED

Traed. Maen nhw’n sownd ar waelod eich coesau ac yn helpu chi i sefyll.

Hebddyn nhw byddwn ni siŵr o fod yn edrych fel ceffylau gyda charnau neu’n symud o amgylch y lle ar ein bolâu fel rhyw fath o falwoden groesryw.

Ond mi fuasai hwnna’n hunllef gastropod. Felly os ydy traed mor ddychrynllyd, pam mae cymaint o ferched yn fy nghenhedlaeth i wedi brawychu cymaint? Dydyn nhw ddim yn brathuy (wel maen nhw’n cicio).

Rwy’n chwilfrydig iawn ynglŷn â hyn. Pam? Wel, oherwydd am y pedwar mlynedd ddiwethaf mae cynnydd mawr wedi bod yn y nifer o fy nghyfoedion sy’n ferched yn sgrechian wrth olwg fy nhraed. Mae’n wirion i ddweud y gwir. Mae hyd yn oed ‘sanau yn eu brawychu. Falle. Ond mae’r nifer o bobl sy’n gwisgo ‘sanau yn lleihau yn sbectrwm ‘cŵl’ cymdeithas nawr ta beth.

Darllena mwy http://bit.ly/ovf6Sd

gan BRIMBLESTHOUGHTS SIR FYNWY (Gwefan CLIC i ddod yn fuan)

Oeddet ti’n gwybod fod bron i chwarter

o denantiaid 19 i 25 oed mewn perygl o golli eu cartref? Oeddet ti hefyd yn gwybod fod cynyddiad o 43% yn y nifer o bobl ifanc 16 i 17 oed sydd yn cael cymorth gan yr Awdurdod Tai Lleol llynedd oherwydd eu bod yn cael eu derbyn fel bod yn ddigartref?

Wrth i’r nosweithiau ddod yn dywyllach, mae’n braf gwybod dy fod di’n glud ac yn gynnes yn dy gartref wrth i’r misoedd oer gychwyn. Yn anffodus, nid dyma’r achos i bob person ifanc yn Sir Gaerfyrddin ac

mae’r bygythiad o golli’r to uwchben eu pennau yn bryder mawr i rai unigolion.

Mae Ieuenctid Sir Gâr yn gweithio gyda Thîm Tai’r Cyngor i godi ymwybyddiaeth am ddigartrefedd ifanc. Siaradom gydag aelodau o’r tîm a dwy ferch ifanc sydd wedi’u heffeithio yn uniongyrchol gan ddigartrefedd.

DIGARTREFEDD IFANCgan Naleem o Sir Gaerfyrddin (ieuenctidsirgar.co.uk)

Darllenwch mwy (ieuenctidsirgar.co.uk)

GWOBRAU CLIC 2011 - CYN / WEDYN

O ddydd Sadwrn y 1af o Hydref, bydd siopwyr yng Nghymru yn talu lleiafswm o 5c i bob bag maent yn defnyddio.

Fel ymgais gan Lywodraeth Cymru i dorri lawr yn ddramatig ar y nifer eithafol o fagiau a ddefnyddir yng Nghymru bobl blwyddyn.

Mae’r ddeddfwriaeth yn gorfodi adwerthwyr yng Nghymru i gadw cofnod ar y nifer o fagiau a chyfrifo ble y defnyddir enillion o ffi’r bagiau. Mae yna gymysgedd o gefnogaeth ar hyn o bryd ar gyfer cyflwyniad y ffi ac mae’n anodd rhagweld sut bydd y cyhoedd yng Nghymru yn ymateb iddo.

Mae’r mathau o fagiau sy’n cael eu cynnwys o fewn y ddeddfwriaeth fel y ganlyn:

• Plastig• Papur (bagiau papur bwytai bwyd

cyflym)• Rhan blastig• Wedi’i hailgylchu• Plastig Diraddiadwy (oherwydd y

dryswch dros ba leoliadau sydd yn gwneud diraddadwy a’r rhai sydd ddim, byddant nhw hefyd yn destun i’r ffi).

Darllenwch mwy http://bit.ly/treth-bagiau-5c-cymru

gan G1nge20 o Gasnewydd (youngnewport.co.uk)

Pam defnyddio Facebook pan allet dalu am lifft at dy deulu neu ffrindiau?

Os ydynt yn byw yn Iwerddon pam na alli di gael llong yno neu os ydynt yn byw dramor cael awyren yno?

Hyd yn oed os ydynt yn byw yn yr un dref, pam na alli di gael tacsi neu gerdded yno?

Y dyddiau hyn mae pobl mor DDIOG, yn eistedd i lawr yn chwarae neu’n siarad ar Facebook gan fod dim gwell i wneud. Mae llawer iawn o bethau eraill gallet wneud. Pysgota, golff, pêl droed, yn gweld dy ffrindiau wyneb i wyneb.

Llongyfarchiadau mawr i Nicole Miles sydd wedi ennill ein cystadleuaeth Dylunio Clawr Y CLICzine. Gall weld dyluniad llwyddiannus Nicole, gelwir yn ‘gwaith… gall yrru ti’n wallgof

(dyna pryd mae’r hwyl yn cychwyn)’ ar flaen y zine ti’n ei ddal.

“Dwi’n 22 ac o’r Bahamas,” meddai Nicole, “ond es i brifysgol yng Nghaerdydd (yn gwneud darlunio yn Ysgol Celf a Dylunio Caerdydd) a dyma sut glywais am y gystadleuaeth dylunio clawr i’r CLICzine yn y lle cyntaf. A sut ydw i’n teimlo am ennill? Dwi wrth fy modd fod dyluniad fi yn clicio gyda CLIC gan y

byddwn wrth fy modd yn cael i mewn i ddylunio golygyddol ac mae hyn yn gychwyn gwych. Diolch!”

Dyma rhai o’r dyluniadau oedd yn agos iawn. Diolch yn fawr iawn i bawb am gystadlu. Gall weld mwy o waith celf Nicole ar pyropanda.carbonmade.com.

Darllena mwy http://bit.ly/ffrind-neu-gelyn

gan jord o Sir y Fflint (fflintyrifanc.co.uk)

TWEETS / SYLWADAU / ADBORTH DEFNYDDWYRMae’n rhaid rhoi diwedd ar ein dibyniaeth ar bopeth plastig os ydym am symud ymlaen fel cymdeithas glan, effeithlon a chynaliadwy. - TOMMY B

CYSTADLEUAETH DYLUNIO CLAWR

YR ENILLYDD!

Byddwn wrth fy modd yn cael i mewn i ddylunio golygyddol

DWEUDDDWEUDTRETH BAG 5C CYMRU

FACEBOOK - FFRIND NEU GELYN?

Dwi wedi cwblhau cwrs BSc (Anrhydedd) Datblygu Gemau Cyfrifiadur ym Mhrifysgol Morgannwg. Nid yw’r cwrs yma yn beth fydda’r mwyafrif ohonoch

yn ei ddisgwyl. Nid yw’n hwyl a gemau, ni fyddi di’n chwarae gemau ac yn bendant nid yw’n Java.

Yn ddelfrydol, os oes gen ti feddwl dadansoddol, yn hoffi deallusrwydd artiffisial, geometreg, datrys problemau neu raglennu, yna bydd Datblygu Gemau Cyfrifiadur yn berffaith i ti.

Ond pa waith sydd ar gael ar ôl graddio?

• Datblygwr Gemau• Swyddog Deallusrwydd yr

Awyrlu Brenhinol• Cudd-wybodaeth MI5/6/SIS

neu Beiriannydd Meddalwedd• Roboteg• Deallusrwydd Artiffisial• Peiriannydd Sustem

Gweithredu

Beth bynnag wyt ti eisiau gwneud ar ôl yr ysgol neu goleg, yna chwilia o gwmpas. Mae digon o opsiynau yn agored i ti , ta waeth ble wyt ti eisiau mynd, bydd yna wastad ddigon o gyfleoedd yn agored i ti.

Darllenwch fwy http://bit.ly/gemau-cyfrifiadur

gan Naleen o Rhonda Cynon Taf (wicid.tv)

gan jeopreddy o Gastell-nedd Port Talbot (safle CLIC i ddod yn fuan!)

Mae diddordeb wedi bod gen i mewn

Dinasyddiaeth Weithgar ers 2006.

Y peth oedd wedi annog i mi wirfoddoli a helpu pobl ifanc lleisio eu materion oedd Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP)

Yn fy nghlwb ieuenctid lleol i mae yna ychydig o fyrddau hysbysu gyda phosteri, taflenni a.y.b. yn gysylltiedig â phobl ifanc. Yn ystod y clwb ieuenctid buaswn i’n darllen CCUHP a mynd o gwmpas y clwb yn bloeddio fy hawliau. Gofynnodd un

gweithiwr ieuenctid, Jan, os hoffwn i ymuno a fy nghyngor lleol. Dyna pan ddechreuodd y cyfan!

Mi ddes i’n aelod o Gyngor Castell-nedd Port Talbot mis Mawrth diwethaf. Yn ystod y cyfarfodydd rydym yn trafod materion sy’n effeithio pobl ifanc yn ein hardal ni, ac yna’n dewis tri neu bedwar pwnc i gynnig i aelodau’r cabinet.

Darllenwch mwy http://bit.ly/gwirfoddola

Dweud wrth dy athrawon a gweithwyr ieuenctid fod CLIC wedi datblygu hyfforddiant ar gyfer pobl ifanc gyda Choleg Cymunedol YMCA. Mae

pedwar cwrs ar gael: Cyflwyniad i Ysgrifennu Creadigol, Ysgrifennu Creadigol a Barddoniaeth, Straeon Fideo a Dyddiadur Lluniau.

Gall weld yr hyfforddiant hwn ar promo-cymru.org/resources-2. Am wybodaeth bellach, cysyllta â Rachel Burton ar [email protected] neu ar 029 2046 2222.

Mae CLIC wedi lansio gwersi ABCh i bob ysgol uwchradd yng Nghymru.

Mae deg o wersi, pump i Gyfnod Allweddol 3 a phump i Gyfnod Allweddol 4. Maent yn defnyddio CLIC fel teclyn archwilio’r penawdau ABCh Dinasyddiaeth Weithredol, Datblygiad Moesol ac Ysbrydol, Datblygiad Cynaliadwy a Dinasyddiaeth Fyd-eang, Iechyd ac

lles Emosiynol, a Pharatoi ar Gyfer Dysgu Gydol Oes.

Am wybodaeth bellach, cysyllta â’n Swyddog Hyfforddiant ac Achrediad, Rachel Burton ar [email protected] neu ar 029 2046 2222.

Annog i mi wirfoddoli a helpu pobl

CYMHWYSTER CLIC!

ABCh I DY YSGOL

ADDYSG HYFFORDDIANT ASTUDIO DATBLYGIAD GEMAU CYFRIFIADUR

GWIRFODDOLA NAWR