welsh rambler 64 - cymraeg

8
M ae’n harforlin hardd yn un o’n hasedau naturiol gorau. Mae pobl o bob galwedigaeth yn teimlo eu bod yn cael eu tynnu at yr arfordir ac i lawer does dim byd y maent yn ei fwynhau yn fwy na cherdded ar ben y clogwyni yn edrych dros olygfeydd eang o’r môr a’r awyr. Ond yn ymarferol, mae hyn yn aml yn amhosib. Heb unrhyw hawl mynediad cyhoeddus i draethau a rhwydwaith o hawliau tramwy sy’n llawn o fylchau a rhwystrau, gall cerdded yr arfordir yn aml fod yn brofiad rhwystredig. Mae cerddwyr wrth eu bodd gyda llwybrau arfordirol ond gallant fod yn gul ac yn gyfyngol, gan ein cau i mewn gyda ymyl y clogwyn ar un ochr a ffens gyda weiren bigog arni neu wrych llawn mieri ar y llall. Mae hyn yn tynnu oddi ar yr agoredrwydd a’r synnwyr o ryddid y mae cymaint ohonom yn ei werthfawrogi ac felly yn cwtogi ar ansawdd y profiad o gerdded yr arfordir. Yn hytrach na cherdded ar hyd llwybr cul mewn un rhes rydym am gael ystod eang o dir wedi ei neilltuo ar gyfer mynediad arfordirol sy’n gadael i bobl fwynhau eu hamgylchion heb ofni ymyl y clogwyn. Llain o dir sy’n gadael i bobl edrych tuag at y gorwel ac ymlacio gyda’u ffrindiau a’u teulu yn ddiogel. Ni fu cerdded yr arfordir erioed mor boblogaidd. Aeth bron i 4 miliwn o bobl i gerdded ar arfordir Cymru yn 2003, gan wario ychydig llai na £650 miliwn (Bwrdd Croeso Cymru 2003). Byddai hawl mynediad arfordirol newydd yn agor hyd yn oed mwy o’n harforlin hardd ac yn creu adnodd gydag apêl gwirioneddol a phoblogaidd. Rydym yn ceisio sicrhau cyfle i gael llwybr parhaus o amgylch arfordir Cymru ac i’r mynediad fod yn sicr, yn glir ac yn ddiogel. Dynodi llain eang o dir mynediad wedi ei fapio yw’r ffordd orau o wneud hyn. Byddai band o’r fath ar gael ar hyd arfordir Cymru, gan gulhau a lledu yn unol ag amodau lleol, ond gyda lleiafrif tywysedig o 20m. Byddai hyn yn sicrhau profiad cerdded o ansawdd, yn cadw erydiad i isafswm ac yn ffocws i arian amaeth- amgylchedd i ganiatáu ar gyfer datblygu cynefinoedd arfordirol. Gan ddefnyddio’r Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy – y ddeddf a ddaeth â’r ‘hawl i grwydro’ ein mynyddoedd a’n gweundiroedd y llynedd, gallem fapio hawl mynediad diogel a darparu ar gyfer cyfyngiadau yn unol â diddordebau yn ymwneud â rheoli tir. I wneud hyn mae arnom angen cefnogaeth oddi wrth Lywodraeth Cynulliad Cymru. Maent eisoes wedi gwneud ymrwymiad i ymestyn mynediad cyhoeddus i’r arfordir erbyn 2008/09 ac mae angen i ni wneud yn siwr ein bod yn cael y fargen orau i gerddwyr. Helpwch ni ac ymunwch â’n hymgyrch i gael hawl mynediad arfordirol i Gymru drwy ysgrifennu at eich Aelod Cynulliad lleol heddiw. Edrychwch ar ein gwefan am fwy o fanylion a’n datganiad swyddogol ynglˆ yn â’r ymgyrch. Y môr sy’n denu fy enaid i fynd, i grwydro godreon y bae; Gwyllt leisiau y llanw sy’n galw yn glir, ac iddynt rhaid ufuddhau. Eurwyn Pierce Cerdded ar Hyd Arfordir Cymru TUDALEN 1 Bae Whitesands, Sir Benfro © Llywodraeth Cynulliad Cymru YR ELUSEN SY’N GWEITHIO AR RAN CERDDWYR RHIFYN 64 Y

Upload: terry-evans

Post on 07-Mar-2016

230 views

Category:

Documents


4 download

DESCRIPTION

The Newsletter of the Ramblers Society in Wales. Printed "work and turn" English and Welsh

TRANSCRIPT

Page 1: Welsh Rambler 64 - Cymraeg

Mae’n harforlin hardd yn un o’nhasedau naturiol gorau. Mae pobl o

bob galwedigaeth yn teimlo eu bod yn cael eutynnu at yr arfordir ac i lawer does dim byd ymaent yn ei fwynhau yn fwy na cherdded arben y clogwyni yn edrych dros olygfeydd eango’r môr a’r awyr. Ond yn ymarferol, mae hynyn aml yn amhosib. Heb unrhyw hawlmynediad cyhoeddus i draethau a rhwydwaitho hawliau tramwy sy’n llawn o fylchau arhwystrau, gall cerdded yr arfordir yn aml fodyn brofiad rhwystredig.

Mae cerddwyr wrth eu bodd gyda llwybrauarfordirol ond gallant fod yn gul ac yngyfyngol, gan ein cau i mewn gyda ymyl yclogwyn ar un ochr a ffens gyda weiren bigogarni neu wrych llawn mieri ar y llall. Mae hynyn tynnu oddi ar yr agoredrwydd a’r synnwyro ryddid y mae cymaint ohonom yn eiwerthfawrogi ac felly yn cwtogi ar ansawdd yprofiad o gerdded yr arfordir. Yn hytrach nacherdded ar hyd llwybr cul mewn un rhesrydym am gael ystod eang o dir wedi eineilltuo ar gyfer mynediad arfordirol sy’ngadael i bobl fwynhau eu hamgylchion hebofni ymyl y clogwyn. Llain o dir sy’n gadael ibobl edrych tuag at y gorwel ac ymlaciogyda’u ffrindiau a’u teulu yn ddiogel.

Ni fu cerdded yr arfordir erioed morboblogaidd. Aeth bron i 4 miliwn o bobl igerdded ar arfordir Cymru yn 2003, gan warioychydig llai na £650 miliwn (Bwrdd CroesoCymru 2003). Byddai hawl mynediadarfordirol newydd yn agor hyd yn oed mwyo’n harforlin hardd ac yn creu adnodd gydagapêl gwirioneddol a phoblogaidd.

Rydym yn ceisio sicrhau cyfle i gael llwybrparhaus o amgylch arfordir Cymru ac i’rmynediad fod yn sicr, yn glir ac yn ddiogel.Dynodi llain eang o dir mynediad wedi ei fapioyw’r ffordd orau o wneud hyn. Byddai bando’r fath ar gael ar hyd arfordir Cymru, gangulhau a lledu yn unol ag amodau lleol, ondgyda lleiafrif tywysedig o 20m. Byddai hyn ynsicrhau profiad cerdded o ansawdd, yn cadwerydiad i isafswm ac yn ffocws i arian amaeth-amgylchedd i ganiatáu ar gyfer datblygucynefinoedd arfordirol.

Gan ddefnyddio’r Ddeddf Cefn Gwlad aHawliau Tramwy – y ddeddf a ddaeth â’r ‘hawli grwydro’ ein mynyddoedd a’n gweundiroedd

y llynedd, gallem fapio hawl mynediad diogela darparu ar gyfer cyfyngiadau yn unol âdiddordebau yn ymwneud â rheoli tir. I wneudhyn mae arnom angen cefnogaeth oddi wrthLywodraeth Cynulliad Cymru. Maent eisoeswedi gwneud ymrwymiad i ymestynmynediad cyhoeddus i’r arfordir erbyn2008/09 ac mae angen i ni wneud yn siwr einbod yn cael y fargen orau i gerddwyr.

Helpwch ni ac ymunwch â’nhymgyrch i gael hawl mynediadarfordirol i Gymru drwy ysgrifennu at

eich Aelod Cynulliad lleol heddiw. Edrychwchar ein gwefan am fwy o fanylion a’n datganiadswyddogol ynglyn â’r ymgyrch.

Y môr sy’n denu fy enaid i fynd,

i grwydro godreon y bae;

Gwyllt leisiau y llanw sy’n galw

yn glir, ac iddynt rhaid

ufuddhau.Eurwyn Pierce

Cerdded ar HydArfordir Cymru

TUDALEN 1

Bae Whitesands, Sir Benfro© Llywodraeth Cynulliad Cymru

YR ELUSEN SY’N GWEITHIO AR RAN CERDDWYR

RHIFYN 64

Y

rambler_64_CYM_g 4/5/06 10:23 PM Page 1

Page 2: Welsh Rambler 64 - Cymraeg

Helo hefyd oddi wrth…Yn y llun isod gwelir aelodau o Bwyllgor Gweithredol Cyngor Cymru a gymerwyd wrthlansio’r swyddfa y llynedd:Rhes ôl: Ron Williams (Cadeirydd), Terry Squires (Is-Gadeirydd Bwrdd Ymddiriedolwyr CC). Rhes Ganol: ColinYarwood (Trysorydd), Richard Lloyd Jones (Llywydd), Andrew Richards. Rhes Flaen: Beverley Penney (CyfarwyddyddCymru), Barbara Palmer (wedi ymddeol), Vernon Davies, Alex Marshall (Is-Gadeirydd). Heb fod yn y llun: JaneDavidson AC, Malcolm Wilkinson, Helen Lloyd Jones, Val Walker Jones, Gerald Moss.

2006MAI1af – Lansio

YmgyrchDefnyddiwch Eich Llwybrau

27ain – Dathlu Pen-blwydd 1af TirMynediad

MEHEFIN24ain – Wythnos Defnyddiwch Eich

LlwybrauGORFFENAF24ain-27ain – Sioe Frenhinol Cymru(rydym wedi archebu safle - maeangen gwirfoddolwyr)AWST5ed-12ed – Eisteddfod Genedlaethol,Abertawe (bydd angen gwirfoddolwyr)MEDI16eg-24ain – Wythnos Croeso I GerddedRHAGFYR / IONAWR26ain Rhag - 1af Ion – Gwyl Cerddedy Gaeaf

Helo oddi wrth Dîm Cymru…Mae gormod o amser wedi mynd heibio ers i ni fod mewn cysylltiad. Rydym wrthein bodd yn gysylltu â chi i ddweud bod gennym dîm newydd o staff yn ein swyddfanewydd yng Nghaerdydd. Pe baech yn clicio ar ein gwefan* gallwch ein gweld i gydyn gwenu’n ôl yn braf arnoch chi.

Fy nghydweithwyr newydd yw Anwen Hughes sy’n rhedeg y Prosiect HyrwyddoCerdded a’n Rheolydd Swyddfa, Richard Granville, Cydlynydd Mynediad, MartinDowson, Swyddog Gwarchod Cefn Gwlad a Mike Mills, Swyddog Hawliau Tramwy.Felly mae aelod staff yn arwain ynghylch pob un o amcanion elusennol Y Cerddwyr.Mae gan bob un ohonom set o brosiectau a gweithgareddau wedi eu cytuno gydaPhwyllgor Gweithredol Cymru a thrwy’r rhain gobeithiwn ddatblygu effaith adylanwad Cymdeithas y Cerddwyr yng Nghymru gyda gwirfoddolwyr.

P’run ai a fyddwch chi yn ein ffonio ni neu y byddwn ni yn cysylltu â chigobeithio fod y llun yn eich helpu chi i roi wynebau i’r enwau a’r lleisiau.

Gyda llaw, diolch yn fawr iawn i’r rhai hynny ohonoch a lenwodd arolwg SwyddfaArchwilio Cymru, cafwyd ymateb gwych.

Gobeithiaf glywed oddi wrthych am y cylchlythyr hwn neu unrhyw mater arall.Mwynhewch eich cerdded!

Beverley Cyfarwyddydd Cymru* http://www.ramblers.org.uk/wales/Staff.html

TUDALEN 2

Beverley Penney Richard Granville Martin Dowson Mike Mills Anwen Hughes

GWANWYN 2006

Yn dilyn Cyngor Cymru 2006 rydym yn falcho gyhoeddi Pwyllgor Gweithredol CyngorCymru newydd.Swyddogion:Llywydd – Richard Lloyd JonesIs-Lywydd – Jane DavidsonCadeirydd – Ron WilliamsIs-Gadeirydd – Alex MarshallIs-Gadeirydd – Malcolm WilkinsonTrysorydd – Colin Yarwood

Aelodau’r Pwyllgor:Vernon Davies Helen Lloyd Jones Val Walker Jones Laurence MainGerald Moss Andrew Richards

>> NEWYDDION HWYR>>

Y

DiolchYnFawr IawnDiolch yn fawr i’n haelodau o’r Pwyllgorsy’n ymddeol, Barbara Palmer a MaryRobinson, sydd rhyngddynt wedigwasanaethu ar Gyngor GweithredolCyngor Cymru am 19 mlynedd.

Cymdeithas y Cerddwyr,3 Iard y Cowper, Ffordd Curran,

CAERDYDD. CF10 5NB

Ffon: 029 2064 4308Ffacs: 029 2064 5187

Ar y we: ramblers.org.uke bost: [email protected]

rambler_64_CYM_g 4/5/06 10:23 PM Page 2

Page 3: Welsh Rambler 64 - Cymraeg

Mae Cerrig Camu yn olynydd i’n prosiect llwyddiannus Lonc a Chlonc. Mae’n cynnig troeono hyd cymedrol (3-5 milltir) i bawb, a chyfle gwych i fynd ati i gerdded. Mae Cerrig Camuyn gyfle gwirioneddol i’r rhai hynny sy’n awyddus i ddechrau, ail-ddechrau neu barhau i

gerdded. Mae’n bwysig, oherwydd mae’n llenwi’r bwlch rhwng y tro byr awr a mwy o hyd ynnhroeon Cerdded Llwybr Iechyd a theithiau hanner diwrnod i ddiwrnod o hyd yn y prif lif a gynigirgan lawer o grwpiau’r Cerddwyr.

Felly crëwyd cyfleoedd ar gyfer teithiau tywys ynghyd ag eraill o unrhyw hyd. Mae’r troeon hynyn weithgaredd ychwanegol drwy gydol y flwyddyn ar gyfer grwpiau’r Cerddwyr a thrwy hynny’ncreu cyfleoedd ychwanegol i aelodau presennol. Gofynnir i gyfranogwyr fonitro yr hyn maent ynei ennill o ran eu hiechyd eu hunain ar holiadur. Mae angen hynoherwydd bydd angen i fudd cerdded (er ei fod yn cael ei gydnabod yneang) gael ei ystyried o fewn pob prosiect.

Lansiwyd y prosiect gan ein Is-Lywydd Jane Davidson AC aChadeirydd Cymdeithas y Cerddwyr Cymru, Alex Marshall. Cafodd sylw

gwych yn y wasg yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn yFelinheli, ac ar ôl y lansiad, wrth gwrs roedd tro

nodweddiadol Cerrig Camu i ddilyn.

Ar hyn o bryd mae 185 o bobl wedi dilyn yrhyfforddiant ar gyfer bod yn arweinwyr y troeon (mae

mwy ar gael) ac mae 21 o grwpiau wedi trefnu troeon ofewn 17 o awdurdodau lleol (ein targed yw rhaglen ymmhob un).

Cwestiynau Cyffredin– Cerrig Camu /Stepping StonesC: Pa mor hir yw tro Cerrig Camu?A: Tua 3 i 5 milltir o hyd fel arfer. Byddai’n

para tua tair awr yn dibynnu ar unrhywseibiannau ac unrhyw amser a arhosir iweld mannau o ddiddordeb.

C: Beth mae troeon ‘rheolaidd’ yn eiolygu i Cerrig Camu?

A: Drwy’r flwyddyn ac isafswm o un y mis.

C: Pa radd a roddir i droeon CerrigCamu?

A: Dylai troeon Cerrig Camu fod yn hawdd, ynaddas i bobl heb esgidiau cerdded na dilladarbennig. Dim graddiannau serth a dimrhwystrau sylweddol.

C: Fedra’ i arwain tro Cerrig Camu?A: Rhaid i arweinwyr troeon i gyd gymryd

rhan mewn hyfforddiant Cerrig Camu cynarwain tro.

C: Sut y gallaf ddod i wybod amhyfforddiant Cerrig Camu?

A: Gofynnwch i gydlynydd eich grwp CerrigCamu lleol, neu Anwen yn SwyddfaCymdeithas y Cerddwyr Cymru.

C: A yw Cerrig Camu yn rhan o raglentroeon fy ngrwp lleol?

A: Mae Cerrig Camu yn ceisio denu pobl atgerdded nad ydynt yn gwneud hynny’nrheolaidd. Mae llawer o droeon CerrigCamu Stones yn cyd-fynd yn dda ârhaglenni grwpiau – ond dylid rhoicyhoeddusrwydd hefyd i Cerrig Camu y tuallan i’r grwp.

C: Sut y dylwn i roi cyhoeddusrwydd idroeon Cerrig Camu?

A: Mae posteri arbennig ar gael o swyddfaCymdeithas y Cerddwyr Cymru i’wharddangos mewn llyfrgelloedd, ffenestrisiopau, meddygfeydd ac ati. Cofiwch eugwneud yn rhai dwyieithog!

C: Pwy ddylwn i ddweud wrthyn nhwam droeon Cerrig Camu?

A: Hysbyswch eich cydlynydd Cerdded LlwybrIechyd lleol bob amser am eich troeon a’rrhaglen, a chysylltiadau eraill e.e.meddygfeyddMeddygon Teulu, tîmHybu Iechyd y BwrddIechyd Lleol achofiwch amSwyddfa’r Cerddwyr!

C: A yw fy ngrwpyn elwa o Cerrig Camu?

A: Ydy! Mae grwpiau sy’n cymryd rhan yndarganfod bod llawer o bobl yn cael eudenu at y math hwn o dro – cerddwyrnewydd a phobl sy’n teimlo fod troeon hwybellach yn ormod iddyn nhw, ond syddeisiau parhau i gymryd rhan mewn troeon igrwpiau.

C: A oes raid i bobl fod yn aelod oGymdeithas y Cerddwyr i fynd ardroeon Cerrig Camu?

A: Nac oes. Gall unrhyw un gymryd rhanmewn troeon Cerrig Camu heb orfodymuno â’r Gymdeithas. Ond os symudantymlaen i gymryd rhan yn rhaglen y prifdroeon, yna mae’r amodau arferol ynberthnasol a dylent ymaelodi.

C: Faint o waith papur sy’n rhaid eiwneud?

A: Mae’n rhaid i chi gadw cofnod o

• nifer y cerddwyr newydd

• cyfanswm nifer y bobl sy’n cymryd rhanyn y tro

• dylid rhoi holiadur i gerddwyr newydd eilenwi.

C: Beth y dylwn ei wneud gyda’rholiadur?

A: Mae cyfeiriad post rhad ar y ffurflen –anogwch y cerddwr i lenwi’r ffurflen a’idychwelyd i’r swyddfa. Os gall y cerddwrnewydd ei llenwi ar unwaith, gallwchdrosglwyddo’r ffurflen i gydlynydd y grwp.

C: Beth yw’r warchodaeth yswiriant argyfer Cerrig Camu?

A: Mae arweinwyr troen a chyfranogwyr yncael yr un lefel o warchodaeth a unrhywweithgaredd arall y Cerddwyr.

Camu ymlaen...GWEITHIO AR RHAN CERDDWYR

TUDALEN 3

CEFNOGI CERDDED >>>

Y

Lansio Cerrig Camu gan Is-gadeirydd Cymdeithas y Cerddwyr JaneDavidson AC gydag Alex Marshall, Cadeirydd Cymdeithas y

Cerddwyr Cymru (canol), Bob Lowe and Sue Walton o GyngorCefn Gwlad Cymru ynghyd ag aelodau’r Cerddwyr.

rambler_64_CYM_g 4/5/06 10:23 PM Page 3

Page 4: Welsh Rambler 64 - Cymraeg

Mae gwaith ymgyrchu yn flaenoriaethuchel yng nghynllun gwaith MikeMills, ein Swyddog Hawliau Tramwy

newydd ar gyfer Cymru. Mae’r gwaith hwneisoes wedi dechrau gydag ymgyrchddechreuol wedi ei thargedu at Gyngor SirConwy bellach ar y gweill. Amcan yr ymgyrchyw sicrhau cynnydd yng nghyllideb yrhawliau tramwy yng Nghonwy. Gobeithiwnhefyd greu enghraifft a fydd yn tynnu sylw aty modd y gallai ymgyrchoedd llwyddiannusgael eu cynnal yng Nghymru yn y dyfodol.

Dewisiwyd Cyngor Sir Conwy ar ôlymgynghori helaeth gyda gwirfoddolwyr acmae’n ardal lle credwn fod gennym ycymysgedd cywir o gefnogaeth ganwirfoddolwyr a photensial ar gyfer budd i’r

cyhoedd. Cam cyntaf y broses hon fydd ffurfiogweithgor ymgyrchu yng Nghonwy o dan ofaly Swyddog Llwybrau Lleol, Ann Penketh, MaxGrant a David Tindall a chyda cefnogaethMike Mills yn Swyddfa Cymru, Cymdeithas yCerddwyr, bydd y grwp hwn yn canolbwyntioar fynd â’r ymgyrch hon ymlaen dros yrychydig fisoedd nesaf.

Mae’n rhaid i ymgyrchoeddllwyddiannus gael cefnogaeth, felly oshoffech fwy o wybodaeth am sut y

gallwch gymryd rhan, cysylltwch ag AnnePenketh ar 01492 622887.

Mae Chris Taylor, Swyddog Llwybrau,Cymdeithas y Cerddwyr ar gyfer SirBenfro yn sôn yma am lwyddiant

aruthrol: Mae’r Arolygiaeth Cynllunio wedididdymu penderfyniad yn cau llwybrpoblogaidd yn Sir Benfro, Llawhaden 20/15.Mae’n rhedeg heibio Dwyrain Cleddau o BontCanaston i’r gogledd i St Kennox ac yn y pendraw i Lawhawden gan ffurfio rhan o Lwybr yLandsker.

Cafodd y llwybr hwn, ynghyd â dau arall aoedd yn ymuno ag ef yn y pen gogleddol euhail-ddynodi fel llwybrau march gan GyngorSir Penfro ym 1991. Gwrthwynebwyd yr ail-ddynodi hwn gan dirfeddiannwr, Mrs Smith, affermwr lleol ac arweiniodd at YmchwiliadCyhoeddus ym Mawrth 2004. Yn yrymchwiliad hwn heriodd Mrs Smith

bresenoldeb hawliau cyhoeddus ar ei hadranhi o’r llwybr a dywedodd fod proses y mapiodiffiniol yn yr 1950au yn ddiffygiol. Canfu yrArolygydd o’i phlaid, cyhoeddodd orchymyncau, a gorchmynnwyd Cyngor Sir Penfro gany Cynulliad Cenedlaethol i gyhoeddi’rhysbysiad.

Apeliodd Cyngor Sir Penfro yn erbyn yddau benderfyniad, a galwyd YmchwiliadCyhoeddus arall yn niwedd Tachwedd 2005,lle cafwyd 40 o wrthwynebiadau i ddileu’rllwybr 20/15 o’r map, ac i golli statws llwybrmarch ar y ddau lwybr arall, gyda Mrs Smithyn chwarae rhan bwysig, a’r ffermwyr yngwerthwynebu dynodi’r llwybr march. Roeddgwrthwynebwyr i’r cau yn cynnwys CyngorSir Penfro, Cymdeithas y Cerddwyr, y BHS,grwpiau cerddwyr a llawer o drigolion lleol.Parodd yr ymchwiliad am chwe diwrnod, acfe’i dilynwyd gan ymweliad â’r safle ar y 7feddiwrnod mewn tywydd difrifol. Cynhyrchwydtystiolaeth hynod o fanwl i ddangos bod yllwybr wedi bodoli ac wedi ei ddefnyddio amlawer o flynyddoedd, a bod y gweithdrefnaucywir wedi eu dilyn pan gynhyrchwyd y MapDiffiniol. O ganlyniad ni chadarnhawyd ydiddymiad gan yr Arolygydd sy’n golygu bod ytri llwybr wedi eu diogelu fel llwybrau march.Meddai Chris “Canlyniad i’w groesawu iGymdeithas y Cerddwyr, trigolion Sir Benfroac ymwelwyr i’r ardal boblogaidd hon.”

Mae Mike Mills, Swyddog Hawliau Tramwy ynSwyddfa Cymru yn datblygu hyfforddiant ar

gyfer llwybrau i fodloni anghenion gwirfoddolwyr.Mae Mike yn dweud fod siarad â grwpiau acardaloedd yn dangos fod awydd gwirioneddol amhyfforddiant yn ymwneud â llwybrau.

Gall Swyddfa Cymru, Cymdeithas y Cerddwyrbellach gynnig nifer o sesiynau hyfforddiantgwahanol ar gais Ardaloedd a Grwpiau yngNghymru. Gan ganolbwyntio ar waith sy’nymwneud â’r llwybrau a chyfraith sylfaenol ynymwneud â llwybrau troed, datblygwyd sesiynaumewn modd sy’n sicrhau eu bod yn addas ar gyfergwirfoddolwyr sydd wedi eu recriwtio ynddiweddar yn ogystal â’r gwirfoddolwyr mwyprofiadol hynny sy’n ymwneud â llwybrau ac ahoffai wella eu gwybodaeth. Cynhelir chwech ogyrsiau undydd llawn yn ystod y flwyddyn i ddodyng Ngogledd Cymru, Canolbarth Cymru, DeCymru a Gorllewin Cymru a gobeithir drwysicrhau fod yr hyfforddiant ar gael ar lefel mor lleoly bydd hyn yn golygu y bydd hyd yn oed mwy owirfoddolwyr ac aelodau yn manteisio ar ysesiynau.

Dyluniwyd y deunydd ar gyfer y sesiynau hyn oamgylch anghenion y gwirfoddolwyr a byddant yncynnwys:

Rhagarweiniad i waith yn ymwneud â llwybrau;Y gyfraith sylfaenol ynghylch llwybrau troed;Newidiadau i’r rhwydwaith;Gorchmynion y Ddeddf Priffyrdd;Hawliau tramwy, datblygiad a’r cyhoedd;Ymchwiliadau; ac unrhyw bynciau eraill ygofynnir amdanynt.

Yn olaf, rydym yn ymwybodol iawn o’r angenam hyfforddiant ychwanegol mewn materion sy’ngysylltiedig â hawlio llwybrau hanesyddol i’whychwanegu at y map diffiniol yng ngoleuni’rdyddiad terfyn o 25 mlynedd. Bu i osod ‘LlwybrauColl’ fel blaenoriaeth isel ar Gynllun Gwaith yrHawliau Tramwy arwain at ymateb enfawr oddiwrth y rhai hynny sy’n gweld y mater hwn fel rhanbwysig o waith Cymdeithas y Cerddwyr yngNghymru, ond cyn i ni symud ymlaen yn rhy bellgyda datblygu ein hyfforddiant ein hunainynghylch y materion hyn rydym ar hyn o bryd yngwerthuso’r dewisiadau hyfforddiant oddi wrthddarparwr hyfforddiant allanol a fydd yn gallu dodâ llawer o brofiad perthnasol i’r maes gwaith hwn.Er hynny, hoffem glywed oddi wrth weithwyr sy’nymwneud â’r llwybrau am eu hanghenionhyfforddi yng nghyd-destun gwaith map diffiniol.

Mae Mike Mills yn awyddus i glywed oddiwrth Ardaloedd sy’n dymuno cynnalhyfforddiant ac oddi wrth unrhyw un gyda

syniadau arbennig am hyfforddiant. Galwch ef ynSwyddfa Cymdeithas y Cerddwyr Cymru neuebostiwch: [email protected]

LLWYBRAU >>>

Cerddwyr yn defnyddio Llawhaden 20/15

Llwyddiant Sir Benfro yn yFrwydr i Gau Llwybr

HyfforddiantYnghylch

Llwybrau i Gymru

YmgyrchuDros Newidyng Nghonwy

TUDALEN 4

GWANWYN 2006Y

rambler_64_CYM_g 4/5/06 10:23 PM Page 4

Page 5: Welsh Rambler 64 - Cymraeg

MYNEDIAD >>>

TUDALEN 5

Ar 28 Mai, 2006 mae’r Hawl i Grwydro yn dathluei ben-blwydd cyntaf! Ers ei lansio gan y

Weinidog dros yr Amgylchedd, Cynllunio a ChefnGwlad, Carwyn Jones flwyddyn yn ôl, mae miloedd ogerddwyr wedi bod yn gwneud y gorau o’u hawliaumynediad newydd ac yn mwynhau rhyddid nasgwelwyd ei fath o’r blaen i rai o’n tirluniau mwyaf hardd ac ysbrydoledig. Maecynlluniau i nodi’r diwrnod mawr ar y gweill, gyda chyfres o deithiau i grwpiaulleol wedi eu cynllunio i arddangos tir mynediad lleol i gyd-fynd â dathliadaua drefnir gan y Cynulliad a Chyngor Cefn Gwlad Cymru (CCGC).

Os dymunech ein helpu i ddathlu, beth am drefnu tro ar dir mynediad yneich ardal? Mae hwn yn gyfle gwych i gyflwyno digwyddiad a fydd yn denu sylwar gyfer Cymdeithas y Cerddwyr a’r ddeddfwriaeth newydd, a dyma’r un fforddorau o wneud pobl yn ymwybodol o beth y mae’r hawl i grwydro ar dir mynediadyn ei olygu iddynt yn eu hardal. Cofiwch hysbysebu’r tro yn lleol a’i ychwaneguat y cyfleuster i ganfod troeon i grwpiau ar wefan Cymdeithas y Cerddwyr,gan gynnwys cod Gwyl ALWW i’w nodi fel tro dros dir mynediad.

Mae mynediad agored i gefn gwlad i ffwrdd oddi wrthrwydwaith yr hawliau tramwy yn gysyniad cwbl newydd i’r rhanfwyaf o gerddwyr ac yn naturiol bydd yn cymryd peth amser iaddasu iddo. Gall grwp eich Cerddwyr lleol arwain o ran dysgucerddwyr eraill trwy ddefnyddio tir mynediad, ac annog eraill iymuno â chi drwy ei gynnwys o fewn eich rhaglen o deithiaucerdded. Mae gwneud pobl yn ymwybodol o fynediad agored, o’rhyn y mae’r hawl newydd yn ei olygu yn ymarferol a’r cyfleoeddnewydd gwych y mae’n eu cynnig iddynt fwynhau ein cefn gwlad, ynhynod o bwysig ac yn rhywbeth y gall pob cerddwr helpu gydag ef.Chwaraewch eich rhan a dangoswch eich cefnogaeth i fynediad agored drwygefnogi Y Cerddwyr yn ystod y penwythnos hwn o wyl Banc y Gwanwyn.

I gael mwy o wybodaeth am ein dathliadau pen-blwydd neu i gael cyngoram unrhyw agwedd ynglyn â’r hawl mynediad newydd cysylltwch â RichardGranville, ein Cydlynydd Mynediad, yn Swyddfa Cymdeithas y CerddwyrCymru neu ebostiwch [email protected]

Dyfodol MynediadRoedd 2005 yn flwyddyn wych i gerddwyr. Ym Mai, gyda lansiad swyddogol yDdeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy, cawsom yr hawl cyfreithiol i gerddedar dros 350,000 hectar o fynydd-dir, gweundir, rhostir, downdir a thir comin ardraws y wlad. Hwn oedd y symudiad mwyaf ynghylch mynediad cyhoeddus igefn gwlad ers creu’r Parciau Cenedlaethol ym 1949 ac roedd yn fuddugoliaethfawr i ymgyrch Cymdeithas y Cerddwyr ar ôl bron i 70 mlynedd o ymdrechbarhaus. Er mor wych yw’r hawl newydd i grwydro y mae’n ein gadael gydarhywfaint o ddilema. Yn awr fod gennym fynediad agored, ble rydym yn myndnesaf? Beth ydych chi yn ei wneud pan ydych chi wedi cyflawni eich uchelgaistymor hir fwyaf?

Wel, y cam cyntaf yw mynd allan a gwneud y gorau o’r hyn sydd gennym.Gyda dros 21% o Gymru wedi ei dynodi o’r newydd, fyddwch chi’n sicr fyth ynrhy bell i ffwrdd oddi wrth ddarn o dir mynediad, ble bynnag yr ydych yn byw.Cofiwch, pan ydych ar dir mynediad nid oes raid i chi gadw at y llwybrau, fellygallwch grwydro rhai o’r tirluniau harddaf yn y wlad gyda gwir ryddid. Gwelery Blwch Gwybodaeth am fwy o fanylion.

Ond nid dyna’r cyfan! Mae llwyddiant un ymgyrch yn gwneud i chi awchuam fwy! Mae’r ymgyrch fawr nesaf, sydd wedi ei hanelu at wella mynediadarfordirol, yn defnyddio’r un ddeddfwriaeth ag a ddaeth â’r hawl i grwydro i’n

mynyddoedd a’n gweundiroedd ac mae ar y gweill yn barod. Gydagymrwymiad gan Lywodraeth Cynulliad Cymru i fynediad arfordirol a fydd yncael ei gyflwyno erbyn 2008/09 a chefnogaeth gref ar lawr gwlad, mae dyfodolyr ymgyrch ar hyn o bryd yn edrych yn obeithiol.

Ond beth am y tymor hir? Pa weledigaeth sydd gennym fel corff ar gyfer ymathau o fynediad i gefn gwlad yr ydym am ei weld yn cael ei gyflawni ymhendeng neu ugain mlynedd a pha strategaethau neu ymgyrchoedd y mae arnomeu hangen i’w cyflawni? Cynhaliwyd cynhadledd ym mis Ionawr eleni wedi eihanelu at ymdrin â rhai o’r cwestiynau hyn a mynd â’n hymgyrch mynediad

yn ei blaen. Cynhyrchodd rai canlyniadau diddorol.

Ar frig y rhestr o ddymuniadau a ymddangosodd oedd awydd iweithio gyda grwpiau eraill, defnyddwyr a rheolwyr tir, i greucroeso gwirioneddol yng nghefn gwlad i gerddwyr adloniadol.Roedd pobl yn dymuno gweld cefn gwlad lle roedd cerddwyr ynamlwg yn ymwybodol o beth oedd eu hawliau ac yn gallu eudefnyddio yn hyderus heb ofni cael eu beirniadu. Mae hyn yn

rhannol yn gofyn am newid agwedd, cydnabyddiaeth sy’ncynyddu’n raddol am hawliau cerddwyr i gael mynediad i dir a’r

effaith gadarnhaol y mae hyn yn ei gael ar gefn gwlad. Mae angenhefyd i gefn gwlad fod yn agored i gerddwyr, gyda rhwydwaith o hawliau

tramwy a chefn gwlad agored sy’n derbyn cyhoeddusrwydd ac sy’n cael eigynnal yn dda ac y bydd pobl yn dymuno ei ddefnyddio.

Daeth ymgyrchu dros ‘hawl i grwydro’ ehangach yn ail. Byddai hyn yngweld Cymru a Lloegr yn gwthio am system debyg i’r hyn sy’n gweithredu arhyn o bryd yn yr Alban, lle mae pobl yn mwynhau hawl mynediad cyffredinoldros y rhan fwyaf o dir a dwr mewndirol, sy’n cael ei lywio gan god ysgrifenedigyn argymell defnydd cyfrifol.

Mae’n bosib fod yr ymgyrch mynediad wedi cael un llwyddiant arbennig ynbarod, ond nid yw drosodd eto. Roedd sicrhau hawl mynediad cyfreithiol i dros1 rhan o 5 o dir Cymru o dan y Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy ynddechrau gwych ond mae mwy i ddod! Gyda’ch cymorth chi gallwn barhau iwella amodau i gerddwyr, gan chwalu mwy o rwystrau ac agor hyd yn oedmwy o’n cefn gwlad hardd. Mae mynediad agored yma i aros!

MWY O WYBODAETHGellir cael gwybodaeth am ble y gallwch gerdded a beth y gallwch eiwneud ar dir mynediad yng Nghymru ar www.ramblers.org.uk/freedom

Tynnir sylw at dir mynediad hefyd ar y gyfres newydd o fapiauExplorer (1:25000) oddi wrth Arolwg Ordnans. Mae gan wefan Cyngor CefnGwlad Cymru fap rhyngweithiol o’r holl dir mynediad yng Nghymru a manylionam unrhyw gyfyngiadau neu waharddiadau a all fodoli yn www.ccw.gov.uk neugallwch alw eu llinell ymholiadau ar 0845 130 6229.

Mae llawer o grwpiau lleol Cymdeithas y Cerddwyr yn trefnutroeon sy’n croesi tir mynediad. Mae Adran DarganfodTeithiau Grwp ein gwefan ynwww.ramblers.org.uk/walksfinder yn lle gwych i gychwyn,gyda gwybodaeth am filoedd o droeon a manylion cyswlltar gyfer yr holl arweinwyr.

Mae Cymdeithas y Cerddwyr yn cefnogi’r Cod CefnGwlad yn llawn.

Lansio Mynediad A Dathlu’rPen-Blwydd Cyntaf

Rhinogydd© Llywodraeth Cynulliad Cymru

GWEITHIO AR RHAN CERDDWYR Y

rambler_64_CYM_g 4/5/06 10:23 PM Page 5

Page 6: Welsh Rambler 64 - Cymraeg

TUDALEN 6

Cyhoeddwyd TAN8, y Nodyn Cyngor Technegol i roi cyfeiriad igynllunio ar gyfer egni adnewyddol yng Ngorffennaf 2005. Ergwaethaf gwrthwynebiad oddi wrth Cymdeithas y Cerddwyr Cymru,

mae’r TAN yn dynodi saith o ardaloedd chwilio ‘strategol’ (SSAs) yngNghymru lle canolbwyntir tyrbinau gwynt ar y tir i gefnogi targedau igwtogi ar CO2.

Er bod Cymdeithas y Cerddwyr yn cefnogi’n llawn yr angen am egniadnewyddol i ymladd yn erbyn newid yn yr hinsawdd, ni allwn dderbyn hynmewn lleoliadau amhriodol lle mae’n difrodi’r amgylchedd mewn ffyrdderaill – yn weledol ac o ran mwynderau adloniadol. Mae’r ffaith y rhoddirblaenoriaeth i dyrbinau ar y tir yn hytrach na rhai yn y môr yn bryder iGymdeithas y Cerddwyr a llawer o grwpiau eraill. Mae effaith datblygiadauar raddfa mor ddiwydiannol ar y tirlun yn enfawr. Mae gan y fferm wyntenwog yng Nghefn Croes, ger Aberystwyth 39 o dyrbinau hyd at 100m ouchder (sydd mor dal â Big Ben). Disgwylir i gannoedd o dyrbinau newydd,er enghraifft yng Nghylchfa Fferm Wynt arfaethedig Clocaenog TAN8 yngNgogledd Cymru, fod yn 130m o uchder (dros 400 troedfedd) – sy’n uwchnag Eglwys Gadeiriol St Paul. Byddai adeiladau mor uchel â hyn yn caeltrafferth mawr i gael caniatâd cynllunio mewn tref heb sôn am ymmherfeddion cefn gwlad! Mae’n anodd deall sut y gall y rhain fyth gael eugweld fel rhan o’r tirlun. Yn wir, noda LlCC (Llywodraeth Cynulliad Cymru)yn TAN8 mai’r ‘amcan a awgrymir yw derbyn ... newid sylweddol yngnghymeriad y tirlun o ganlyniad i ddatblygutyrbinau gwynt’. Dydy sensitifrwyddamgylcheddol yn cyfrif dim felly!

Mae ein gobeithion am osgoi hyn yn seiliedigar newid yn yr ysgogiadau ariannol y mae’rLlywodraeth yn eu cynnig i gwmnïau egniadnewyddol – y rhwymedigaeth ynghylch egniadnewyddol. Mae hwn mewn gwirionedd ynhyrwyddo egni gwynt ar y tir fel ateb tymor byr.Dim ond os bydd hyn yn cael ei newid y bydddigon o arian yn cael ei wario ar ymchwil iddatblygu ffynonellau adnewyddol amgen felegni’r llanw ac egni’r tonnau. Ond mae newid i’rrhwymedigaeth ynglyn ag egni adnewyddol ynateb tymor hir. Mae ein gobaith ar hyn o bryd yndibynnu ar gryfder moesol awdurdodau lleol.Gofynnwyd i gynghorau yr effeithiwyd arnynt ganSSAs gan LlCC i benderfynu sut yn union i leolityrbinau gwynt o fewn yr SSAs. Mae’n bwysig eubod yn sylweddoli pwysau’r cyfrifoldeb syddarnynt. Dim ond blwyddyn ar ôl i Ddeddf CefnGwlad a Hawliau Tramwy sefydlu hawl mynediadi lawer rhan o Gymru, mae cynlluniau ar gyfer

datblygiadau tyrbinau gwynt ar yr union yr un ardaloedd o ucheldir ar fincymryd ymaith ein rheswm dros ymweld â nhw. Credwn fod polisicynllunio TAN8 yn gwrthdaro’n uniongyrchol ag amcanion deddfwriaethy Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy a ddynododd hawliau mynediadcyhoeddus statudol ar gyfer hamdden awyr agored – y ‘rhyddid’ i grwydro.

Rhaid i gynllunwyr awdurdodau lleol sylweddoli hefyd bod yn rhaid ieffaith tyrbinau gwynt ar y tirlun ac ar hamdden gael ei ystyried yn llawnac yn wrthrychol wrth asesu eu hardaloedd dynodedig. Yna byddant yndarganfod fod yr SSA gwreiddiol wedi eu mapio gan LlCC ar wybodaeth ameini prawf anghyflawn. Pan gymerir yr holl ffactorau i ystyriaeth, mae’namlwg nad yw’r tirluniau hyn yn addas ar gyfer datblygiadau ar raddfaddiwydiannol – a fyddai’n effeithio ar filoedd o bobl, boed y rhain yn

gymunedau lleol neu yn ymwelwyr sy’n caelmanteision enfawr o gerdded a mwynhau tirlunucheldir Cymru.

Ydyn ni mewn gwirionedd am weld cannoedd(ie cannoedd) o dyrbinau wedi eu crynhoi yn yrardaloedd hyn? Mae Cymdeithas y CerddwyrCymru yn credu nad ydym. Gall cynlluniaucymunedol lleol ar raddfa fechan gael eucymhathu’n llawer gwell i’r tirlun, gan ddod âbudd uniongyrchol yn y lle y mae’r egni yn cael eiddefnyddio. I’r bobl hynny sy’n dweud eu bod ynhoffi tyrbinau gwynt, mae’n rhaid i ni ofyn, aydynt hefyd yn hoffi tirluniau ucheldir Cymru? Ayw’n werth aberthu un am y llall, pan fo ffyrdderaill o gwtogi ar ein heffaith ar newid yn yrhinsawdd ar gael?

Os teimlwch y gallwch helpu einamcanion i warchod cefn gwlad ac ynarbennig sicrhau fod awdurdodau lleol yn

rhoi ystyriaeth lawn i’w cyfrifoldebau i warchod yramgylchedd rhag datblygiad amhriodol, cysylltwchâ Martin Dowson, Ymgyrchydd Cefn Gwlad.

Mynediad I Gefn Gwlad – … Arolwg Newydd

Mae Swyddfa Archwilio Cymru newydd gwblhau ei harolwg ofynediad i gefn gwlad ar gyfer Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Yn ogystal â sampl o aelodau Cymdeithas y Cerddwyr yng Nghymru,bu iddynt arolygu cyrff fel tirfeddianwyr, awdurdodau rheoli ynghyd âgrwpiau defnyddwyr eraill.

Mae casgliad rhagarweiniol yr astudiaeth i’w gyflwyno’n swyddogolyng Ngwanwyn 2006 ac mae’n debygol o roi gwybodaeth i’r CyngorCefn Gwlad wrth osod blaenoriaethau ar gyfer y dyfodol i ddatblygurheoli mynediad yng Nghymru. Yn gyffredinol mae’r adroddiad yn

debygol o ddod i’r casgliad fod mynediad agored a weithredwyd drwy’rDdeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy wedi gweithio’n dda, gydallawer o arfer da yn cael ei ddangos. Ond cydnabyddir bod cyflwr yrhawliau tramwy cyhoeddus yn dal yn wael.

Cymerodd Cymdeithas y Cerddwyr Cymru y cyfle hefyd i gasglubarn ei haelodau ynglyn ag ystod o bynciau – o osod blaenoriaethau argyfer y dyfodol hyd at ffocws gwaith gwarchod cefn gwlad yngNghymru. Diolch i bawb a gymerodd ran. Roedd yn galonogol iawnhefyd derbyn cymaint o gynigion o gefnogaeth bellach oddi wrthwirfoddolwyr hen a newydd. Byddwn yn cysylltu â chi yn fuan.

CEFN GWLAD >>>

Y Cerddwyr ac Egni Adnewyddol

GWANWYN 2006Y

rambler_64_CYM_g 4/5/06 10:23 PM Page 6

Page 7: Welsh Rambler 64 - Cymraeg

TUDALEN 7

Mae aelodau yn hanfodol i Gymdeithas yCerddwyr; maent yn ffynhonnell gwirfoddolwyr,dylanwad gwleidyddol ac incwm.

I Gymdeithas y Cerddwyr yn gyffredinol mae’rdarlun o ran recriwtio aelodau wedi bod yngalonogol ers llawer o flynyddoedd ond rydymbellach yn gweld gostyngiad bychan yn nifer yraelodau newydd sy’n ymuno â ni ac aelodau ynailymuno. Rydym yn pryderu am hyn ac ynymchwilio iddo. Nid yw’r rhesymau yn eglur ondrydym yn gwybod fod llawer o gyrff yn gweldpatrwm tebyg.

Y rhesymau fe ymddengys yw cyfuniad o‘flinder ynglyn a rhoi/elusennau’ a’r ffaith foddulliau traddodiadol o recriwtio yn mynd yn llaieffeithiol (nid yw hysbysebion yn dod â chymaint oaelodau newydd ag yr arferent).

Roeddem yn gwybod ein bod yn colli’r nifermwyaf o aelodau yn y flwyddyn gyntaf e.e. ygyfradd adnewyddu i’r rhai hynny a ymunodd yn2004 oedd 54% (sy’n golygu fod 46% o bobl wedigadael Cymdeithas y Cerddwyr ar ôl blwyddyn oaelodaeth). Wrth i ni ddal ein gafael ar yr aelodaumae’r ffigurau yn gwella, mae 82% o bobl ynadnewyddu ar ôl eu hail flwyddyn a 92% ynadnewyddu ar ôl eu trydedd flwyddyn. Felly osgallwn ddal ein gafael ar bobl am ddwy neu dairblynedd maent fel arfer yn aros gyda ni fel aelodauymrwymedig.

Felly gallwch weld pa mor bwysig yw edrych arôl aelodau yn eu blwyddyn gyntaf o aelodaeth agwneud cymaint ag y gallwn i’w cadw.

Beth y gall Grwpiau ac Ardaloedd eiwneud i gadw eu haelodau:* cynnig amrywiaeth o droeon i bob oed/gallu

(bydd hyn yn rhywbeth i’w groesawu gan y rhaihynny sy’n newydd i gerdded neu ddim morbrofiadol)

* cael arweinwyr y troeon i siarad am y gwaithgwerthfawr ynglyn â llwybrau a’r ymgyrchu ymae Cymdeithas y Cerddwyr yn ei wneud (felbod yr aelodau yn dod yn ymwybodol, ar eintroeon, ei fod yn llawer mwy na chlwb cerdded)

* gofalu fod yr holl aelodau newydd yn teimlo fodcroeso iddynt ar y troeon ac mewncyfarfodydd/digwyddiadau cymdeithasol(rydym yn gorff cynhwysol – nid dim ond clwb

i bobl ddetholedig)* bod ag enw cyswllt o bob Grwp yn ffonio

unrhyw aelodau sy’n gwangalonni ac yn gofyniddynt pam a’u hannog i ailymuno (gallai hynhelpu mewn cydweithrediad â’n llythyrau –gallai aelodau sydd wedi peidio ag adnewydduaelodaeth fod yn fwy tebygol o ddod yn ôl atompe baent yn cael galwad bersonol oddi wrthrywun yn eu hardal leol.

Dyma rai rhesymau pam fod aelodau yn gadael:* roedd eu grwp yn rhy oeraidd ac anghyfeillgar (gormod o gliciau)* doedd eu grwp ddim yn caniatáu iddynt fynd â chi ar un o’r troeon* maent yn teimlo eu bod yn rhy hen/rhy sâl i gerdded bellach* doedd ganddyn nhw ddim car a doedden nhw ddim yn gallu mynd at ddechrau’r troeon ar gludiant cyhoeddus* maent wedi cwtogi ar eu gwariant ar elusennau (oherwydd newid yn eu hamgylchiadau ariannol)* doedd eu grwp ddim yn cynnig troeon byrrach/arafach (roedd yn rhy anodd dal i fyny)* roedd eu grwp yn cynnig troeon ar ddydd Sul yn unig (roeddent am gael rhai troeon yng nghanol yr wythnos)* doedd eu grwp ddim yn cynnig unrhyw droeon i deuluoedd (roeddent am fynd â’u plant)* nid oeddent bellach yn cytuno â’n nodau elusennol.

AWGRYM: Hyrwyddwch Cymdeithas y Cerddwyr drwy gael eich logo ar ddeunyddcyhoeddusrwydd ein Gwyl Gerdded yr ydych yn cyfrannu ati (ac unrhyw lenyddiaeth arallyn ymwneud â cherdded!)

Mwy o Aelodau

Datblygiadau Polisi –Ymatebion Cymdeithas Y Cerddwyr I Ymgynghoriadau Sy’n Effeithio Ar Gefn Gwlad

GWEITHIO AR RHAN CERDDWYR Y

Gyda newid yn yr hinsawdd yn cael cymaint o sylw, maearwyddocâd y polisi egni wedi symud i fyny’r agenda. Mae ganGymdeithas y Cerddwyr Cymru ddiddordeb nid yn unig mewn

datblygiadau polisi sy’n ymwneud â thyrbinau gwynt, ond mewnffynonellau adnewyddol eraill fel cnydau biomas (e.e. prysgoediocoedlannau) a all fod yn duedd newydd mewn amaethyddiaeth a’ieffaith ar y tirlun. Mae egni niwclear gyda’i oblygiadau nid yn unig argyfer datblygiad adeiledig, ond hefyd o ran storio gwastraff niwclearhefyd yn bwnc allweddol. Oherwydd hyn rydym wedi bod yn adolygunifer o bapurau ymgynghori, yn seiliedig ar bolisi presennolCymdeithas y Cerddwyr (gweler yr erthygl ar wahân).

• Mae’r Pwyllgor Materion Cymreig (o 11 AS) yn cynnal astudiaethchwe mis ynghylch ‘Egni yng Nghymru’. Mae hwn yn archwiliosbectrwm y dewisiadau ar gyfer cynhyrchu egni i Gymru. Rydym wedimynychu sesiwn dystiolaeth yn Llundain (gyda YDCW) ym misMawrth. Mae arolwg tebyg ar draws y DG gan y DTI – ‘Ein her o ranegni’ yn cael ei adolygu ar y cyd gyda Chymdeithas y Cerddwyr yr Albanfel rhan o ymateb ar draws Cymdeithas y Cerddwyr.

• Mae Cynllun Datblygiad Gwledig Cymru a’r ymarferiadrhychwantu cysylltiedig ynghylch yr Asesiad Amgylcheddol Strategolyn cael eu hadolygu ynghyd â goblygiadau ar gyfer y cynlluniauamaeth-amgylchedd a diwygio’r PAC (CAP).

• Mae Cymdeithas y Cerddwyr Cymru hefyd wedi cefnogi ArdalGogledd Cymru i ymateb i ymgynghoriad ynghylch y CanllawiauCynllunio Atodol ar gyfer datblygiadau tyrbinau gwynt yn Sir Ddinbycha Chonwy.

• Byddwn hefyd yn astudio’n fanwl ymgynghoriad o reolaethtymor hir gwastraff ymbelydrol lefel isel solid yn y DG agyhoeddwyd gan DEFRA.

Ar nodyn mwy ymarferol, rydym wedi bod yn ymwneud â datblygu‘Strategaeth Cerdded a Seiclo Cymru’ LlCC. Gweithiwyd ar hyn ganfforwm o bartïon sydd â diddordeb fel Sustrans, Living Streets, CCGC,awdurdodau lleol ac ati ac fe’i hyrwyddir gan y Dirprwy Weinidog drosDdatblygiad Economaidd a Chludiant Tamsin Dunwoody, AC. Ceisia’rstrategaeth roi mwy o flaenoriaeth i hybu cerdded a seiclo a datblygullwybrau, llwybrau seiclo a chyfleusterau fel rhan o’r tirlun trefol agwledig. Cyhoeddir y Strategaeth y gwanwyn hwn ac fe’i defnyddir iddylanwadu ar bolisïau cynllunio awdurdodau lleol.

Mae arwyddocâd y tirlun yn bwysig ar hyn o bryd hefyd oherwydd yffaith fod y Confensiwn Tirlun Ewropeaidd yn ddiweddar wedi cael eiarwyddo gan y DG. Mae hwn yn cydnabod pwysigrwydd tirlun ac yn eigwneud yn ofynnol iddo gael ei reoli, ei gynllunio a’i warchod mewnpolisïau cydnabyddedig. Mewn maes cysylltiedig, mae’r Cyngor CefnGwlad wedi bod yn ymgynghori ynglyn ag ystyr ‘Harddwch Naturiol’.Yn y gorffennol cafodd ystyr yr ymadrodd hwn ei ddehongli mewnffyrdd gwahanol (yn ddiweddar, roedd yr hyn a elwir yn ddyfarniadMeyrick ynglyn â Parc Cenedlaethol y New Forest yn amau’r dehongliadhanesyddol a diwylliannol o harddwch naturiol). Mae Cymdeithas yCerddwyr Cymru wedi cyflwyno ei ymateb. Gobeithia’r Cyngor CefnGwlad roi datganiad cliriach i LlCC ynghylch harddwch naturiol i lywiopolisïau yng Nghymru yn y dyfodol.

Ymgynghoriadau eraill sy’n ymddangos yn fuan…

• TAN5 – Cadwraeth, Natur a Chynllunio (LlCC)• TAN Mwynau Glo (Drafft) LlCC• Argymhelion i weithredu rheoliadau ar ffliw adar (LlCC)

I gael mwy o wybodaeth cysylltwch â Martin Dowson, YmgyrchyddCefn Gwlad.

Llwybr Arfordir Sir Benfro© Llywodraeth Cynulliad Cymru

rambler_64_CYM_g 4/5/06 10:23 PM Page 7

Page 8: Welsh Rambler 64 - Cymraeg

Private Views ofSnowdonia Ffotograffau gan Steve Lewis– adolygiad gan Martin Dowson

Efallai y byddai golygfeydd personol o Eryriwedi bod yn deitl gwell. Cyhoeddwyd y llyfrhwn mewn cydweithrediad â ChymdeithasEryri, a dechreuodd fel prosiect ffotograffig.Mae’r canlyniad serch hynny fe gredaf yncael ei gyfleu yn llawer mwy pwerus drwygyfraniadau’r unigolion hynny yr oedd eurhyddiaith yn ysbrydoliaeth i’r ffotograffauyn y lle cyntaf. Gofynnwyd i bobl leol,enwogion a rhai heb fod mor enwog iysgrifennu am eu hoff le. Yna aeth SteveLewis ati i ddarlunio’r lleoedd hynny ar ffilm.Ond er bod ansawdd y ffotograffau yn ucheliawn, roeddwn yn aml yn darganfod nadoedd y ddelwedd yr oedd wedi ei dal yncyfleu’r llun yr oeddwn wedi ei gynhyrchuyn fy meddwl wrth ddarllen y testun. Nidyw’r hyn a ysgrifennwyd a’r atgofionynddynt eu hunain o anghenraid yngampweithiau llenyddol ond y maent yn caeleu cyfleu fel teimladau dyfnion am synnwyro le i’w hawduron. Dyma werthgwirioneddol y llyfr hwn – mae’n eichgwahodd i ymweld efallai â rhai mannaucyfarwydd, ond drwy lygaid pobl sy’n ei weldam fwy na’i nodweddion golygfaol.(Cyhoeddwyd gan Wasg Gomer 2005).

Walking inPembrokeshiregan Dennis a Jan Kelsall– adolygiad gan Peter Harwood

Mae llyfrau am deithiau cerdded yn anochelyn gyfaddawd rhwng bod yn fasnachol,hwylustod a chynnwys. Nid yw ‘Walking inPembrokshire’ yn eithriad er ei fod yn well narhai yn ei ymdrech i ddenu mwyafrif ycerddwyr sy’n dymuno cael troeon byr iganolig eu hyd. Mae’r prif broblemau yn codioherwydd nifer y troeon a gynhwysir, sy’ngolygu nad yw maint y print, maint y mapiauna’r manylion yn ddigon darllenadwy neu’nddigon hawdd i bobl eu deall.

Er hynny, mae gan y llyfr ragarweiniadardderchog sy’n cynnwys llawer owybodaeth ddefnyddiol gyda lluniau oansawdd da a lluniau perthnasol; mae o faintperffaith i’w daro yn eich poced ac mae’rclawr yn un gloyw i gynorthwyo i gadw’rglaw allan.(Cyhoeddwyd gan Wasg Cicerone 2005).

Wild about the Wildgan Iolo Williams Adolygiad gan Richard Garman

Ychydig o Gymry a fyddai’n amau fod IoloWilliams yn wyllt am y gwyllt, ond fydd eilyfr yn cael yr effaith hwnnw ar y cerddwrcyffredin?

Fe’i hysgrifennwyd fel dyddiadur dyn o gefngwlad, yn rhychwantu blwyddyn yn ei oes oFedi 2004. Ynddo mae’n cofnodi ei feddyliaua’i sylwadau am fywyd gwyllt a’r cefn gwlada wêl, ei ymateb i’r modd y mae dyn achymdeithas yn gweithio, ei gyfarfodyddgyda ffrindiau a chyd-naturiaethwyr ac ynfwy na dim ei olwg hynod o optimistaidd ary byd. Gallwch ei ddarllen fel naratif am yflwyddyn neu droi ato i ddarganfod beth sy’ndigwydd ar adegau penodol o’r flwyddyn.Fe’n cyflwynir i rai geiriau newydd fel‘sbrotian’ sy’n golygu chwilio yma ac acwam unrhyw beth a phopeth – gair newydd imi. Y thema drwy’r cyfan yw’r modd ydatblygodd ei ryfeddod ei hun at natur felplentyn ac mae’n parhau i ffynnu wedi iddodyfu’n oedolyn. Mae’n mynd ati i ddeffro’rteimlad hwnnw yn ei ddarllenwyr, ac iarddangos ei ymrwymiad drwy ysbrydoli eiblant, a naturiaethwyr ifanc ledled Cymru, ibrofi a mwynhau’r byd y tu hwnt i’rplaystation.

Ond beth fydd hyn yn ei wneud i’charchwaeth am y gwyllt? Os ydych yn chwilioam waith darllen solid yna efallai mai nidhwn yw’r llyfr i chi. Os ydych yn chwilio amrywbeth i godi blas yna mae’n hors d’oeuvredigon da. Mae’n fwy o fag o ‘pick & mix’ nago bryd swmpus, ond beth sydd o’i le efohynny?(Cyhoeddwyd gan Wasg Gomer 2005).

Views, Vistas & Reverie A photographic survey of theintrusion of telecommunicationsinfrastructure in the landscape of theForest of Dean– Adolygiad gan Martin Dowson

Ydych chi’n cael eich blino fwyfwy gan ymastiau ac isadeiledd y ffonau symudolniferus a welir yn y tirlun? Ydych chi’n caeleich blino gan y tyrau telecyfathrebu a welirar y gorwel? Yna efallai y bydd yr adroddiadyma o gysur i chi. Mae’n rhoi arolwg llawn

gwybodaeth ynglyn â’reffeithiau cynyddol ar eingolygfeydd pell ac ar ffyrddymarferol ond dychmyguso gwtogi ar yr effeithiauhynny.

Mae ffotograffau sy’n dangoscoed byw yn cael eu defnyddiofel gorsafoedd ffonau symudolgan ddefnyddio polion pren ynhytrach na mastiau latis yndangos fod atebion eraill ynbosibl. Gallai astudiaethau achoso’r fath gael eu defnyddio iberswadio awdurdodau lleol iddatblygu eu canllawiau euhunain ac wrth wneud hynny,cadw effaith yr agweddau hanfodolond ymwthiol hyn o fywyd modernyn aml i isafswm.

(Cyhoeddir gan Place 2005). Gallwch weld yr adolygiadllawn hefyd yn www.viewsvistasandreverie.org neu i brynucopi galwch Andrew Darke ar 01594 562646)

The Archaeology of theWelsh UplandsGolygwyd gan David Browne aStephen Hughes– adolygiad gan Martin Dowson

Mae hwn yn dechnegol yn adolygiad oddeg mlynedd o Gynllunyr Ucheldir – arolwg acasesiad o archaeolegucheldir Cymru agomisiynwyd gan Cadw.Ond nid llyfr ar gyfer yrarbenigwr yn unig yw hwn.Mae’n llawn darluniau affotograffau, gyda llawer oolygfeydd o’r awyr, sy’n rhoipersbectif newydd ar y tirluniauyr ydym mor hoff ohonynt.

Gyda phenodau wedi euhysgrifennu gan amrywiaeth ogyfranogwyr, fe’n cymerir o’r cyfnodRhufeinig, drwy’r cyfnod canol oesol i’rcyfnod o ymelwa’n ddiwydiannol ar ytirlun. Mae cipolwg ar batrymau trin ytir ac amgau’r tir ar Epynt; ycarneddau o Oes yr Efydd ymmynyddoedd y Berwyn; acechdynnu mwynau yn gynnar yny bedwaredd ganrif ar bymthegym Mlaenafon, yn rhoi golwg ar ytirluniau y cerddwn drostynt.

Efallai fod y llyfr hwn yn tynnusylw yn fwyaf eglur at y modd ymae’r tirlun bob amser yn newid oganlyniad i ddylanwad dyn ac ynein helpu i’w ddehongli mewnmodd sy’n ychwanegu at ei werth,yn hytrach na thynnu oddi wrtho.Mae hefyd yn ystyried y pwysau aryr ucheldiroedd, gan adlewyrchullawer o’r problemau syddgennym ni fel cerddwyr o rangwarchod cefn gwlad.

Mae hwn yn llyfr a fydd yn rhoigolwg newydd i chi ar y mynydd odan eich traed.

(Cyhoeddwyd gan y Comisiwn Brenhinol ynghylchHenebion Hynafol a Hanesyddol Cymru 2003).

TUDALEN 8

LLYFRAU >>>

Cerdded Ar Y WeLansiwyd gwefan newydd gan y Weinyddiaeth Amddiffyn i ddod â’iholl gyfleoedd ar gyfer mynediad at ei gilydd ar un safle.

Edrychwch ar: www.access.mod.uk

Nid yw holl dir y Weinyddiaeth Amddiffyn yn feysydd tanio ac ynfeysydd ar gyfer brwydro gyda thanciau. Iawn, mae llawer ohono felly, ondmae ganddynt hefyd lwybrau troed a llwybrau cerdded a all gynnig rhywbeth gwahanol iymweld ag ef. Mae’r llwybrau cerdded yng Nghastell Martin a Phont Senni er enghraifftyn cael eu cynnwys fel taflenni y gellir eu llwytho i lawr. Dim byd newydd o ranmynediad ar lawr gwlad efallai – ac mae ffordd bell i fynd o hyd i agor potensial rhai o’rardaloedd gorau ar gyfer cerdded – ond gall fod yn gam i’r cyfeiriad iawn. Mae ymawybodaeth ddefnyddiol hefyd am adolygiadau sydd ar fin ymddangos ynglyn ag is-ddeddfau’r Weinyddiaeth Amddiffyn.

Cofiwch roi gwybod i ni am unrhyw wefannau a allai fod o ddiddordeb i’w cynnwys ynrhifyn nesaf Cerddwr Cymru ar ein gwefan.

GWANWYN 2006Y

rambler_64_CYM_g 4/5/06 10:23 PM Page 8