priodi - canllaw ar gyfer cyplau o'r un rhyw

12
Canllaw ar g yfer cyplau o’r un rhyw Priodi

Upload: stonewall-cymru

Post on 01-Apr-2016

233 views

Category:

Documents


3 download

DESCRIPTION

 

TRANSCRIPT

Page 1: Priodi - Canllaw ar gyfer cyplau o'r un rhyw

Canllaw ar gyfer

cyplau o’r un rhywPriodi

Page 2: Priodi - Canllaw ar gyfer cyplau o'r un rhyw
Page 3: Priodi - Canllaw ar gyfer cyplau o'r un rhyw

Ydych chi’n siarad â fi?Efallai ein bod ni. Os ydych chi’n sengl ac yn bwriadu priodi, ydyn. Os ydych chi mewn partneriaeth sifil ac yn dymuno ei throi yn briodas, bydd rhaid i chi aros ychydig tra bod y llywodraeth yn rhoi eu hunain mewn trefn (byddan nhw’n barod erbyn diwedd 2014). Ond rydyn ni’n addo: unwaith y cewch chi briodi, byddwn ni yma i’ch arwain chi drwy’r broses.

Priodas go iawn yw hyn y tro yma?Ie, yn sicr. Fydd neb yn gallu dweud nad ydych chi’n briod ‘go iawn’, achos fe fyddwch chi! Mae’r ddeddf newydd yn golygu bod priodas ar gyfer pawb. Mae’n gyfle i wneud ymrwymiad i’r un rydych chi’n ei garu, a sicrhau bod pawb o’ch cwmpas yn cydnabod hynny fel priodas. Mae mor syml â hynny.

Felly mae hyn yn beth difrifol?Mae’n beth difrifol iawn, ac yn eich rhwymo mewn cyfraith, felly fe ddylech chi ystyried y canlyniadau. Os bydd pethau’n mynd o chwith, bydd rhaid i chi fynd drwy ysgariad, ac efallai y bydd rhaid i chi dalu i gynnal eich gŵr neu’ch gwraig ac unrhyw blant. Nid rhywbeth i’w wneud ar chwarae bach!

‘Mae’r ddeddf newydd yn golygu bod priodas ar gyfer pawb, beth bynnag yw eich cyfeiriadedd rhywiol ’

Page 4: Priodi - Canllaw ar gyfer cyplau o'r un rhyw
Page 5: Priodi - Canllaw ar gyfer cyplau o'r un rhyw

Pa hawliau fydd gyda ni pan fyddwn ni wedi priodi?Yr un hawliau â phob cwpl priod arall yng Nghymru a Lloegr, o ran pethau fel hawliau etifeddu a hawliau’n ymwneud â phlant eich partner. Os bydd eich partner yn marw bydd gennych hawl i fudd-daliadau profedigaeth, hawliau iawndal mewn achos o ddamwain farwol, a hawl i ddal i fyw mewn tŷ roeddech yn ei rannu.

Iawn, rydyn ni eisiau gwneud hyn...Yn gyntaf, bydd rhaid i chi benderfynu ar leoliad a dyddiad, a chysylltu â’r gwasanaeth cofrestru i wneud yn siŵr bod cofrestrydd ar gael. Unwaith y byddwch chi wedi cytuno ar hyn, bydd angen i chi drefnu apwyntiad gyda’ch swyddfa gofrestru leol gan y bydd rhaid i chi’ch dau roi datganiad ffurfiol i’r cofrestrydd o’r enw “rhybudd priodas”. Bydd angen i chi fynd â phrawf adnabod – pasbort, trwydded yrru, neu rywbeth felly – a thystiolaeth o’ch cyfeiriad, fel bil nwy. Does dim angen poeni am y cyfarfod – yn y bôn, cyfle yw hwn i siarad gyda’r cofrestrydd am y math o seremoni rydych chi’n dymuno’i gael – ond byddwch yn barod hefyd i ateb ambell gwestiwn amdanoch chi a’ch partner. Unwaith y byddwch chi wedi rhoi’r rhybudd yma, byddwch chi’n gallu priodi ar ôl isafswm o 16 diwrnod! Gallwch chi wneud hyn hyd at flwyddyn cyn y dyddiad rydych chi’n dymuno priodi.

‘Bellach mae’r un hawliau gyda chi â sydd gan bob cwpl priod arall!’

Page 6: Priodi - Canllaw ar gyfer cyplau o'r un rhyw
Page 7: Priodi - Canllaw ar gyfer cyplau o'r un rhyw

Alla i briodi mewn capel neu eglwys?Ddim o reidrwydd. Mae’n dibynnu ar eich capel neu’ch eglwys. Bydd unrhyw adeilad crefyddol heblaw adeiladau’r Eglwys yng Nghymru neu Eglwys Loegr yn gallu optio i mewn i ddathlu priodas rhwng cyplau o’r un rhyw. Mae hyn yn golygu y gallech chi briodi yn Nhŷ Cwrdd y Crynwyr neu mewn Synagog Ddiwygiedig os byddan nhw’n gwneud cais am ganiatâd. Ond mae llawer o leoedd eraill yng Nghymru a Lloegr sydd wedi eu cymeradwyo ar gyfer priodas sifil. Gallwch chi briodi mewn gwesty moethus, mewn hen blasty neu hyd yn oed mewn ambell adeilad adnabyddus!

Beth sy’n gorfod digwydd yn ystod y seremoni?Yn gyfreithiol, yr unig beth y mae’n rhaid i chi ei wneud yw gwneud dau ddatganiad o flaen y cofrestrydd a dau dyst. Yna, byddwch chi’n llofnodi’r gofrestr priodas. A’r gweddill? Eich dewis chi yw hynny. Does dim rhaid i chi gael modrwyau, siwtiau, ffrogiau gwynion ac ati, ond os ydych chi’n hoffi gwneud sioe o bethau, ewch amdani!

Eich diwrnod mawr chi yw hwn: gwneud y gorau ohono!

Beth os nad yw cwmni eisiau darparu gwasanaeth i’r briodas?Does dim dewis! Ganddyn nhw, hynny yw. Mae grwpiau crefyddol yn gallu dewis peidio cynnal priodasau rhwng cyplau o’r un rhyw, ond mae hawl gennych i wasanaeth o’r un safon ag unrhyw un arall pan ddaw’n fater o ffotograffwyr, bandiau, arlwyo...

‘Gallwch chi briodi mewn gwesty moethus, mewn hen blasty neu mewn ambell adeilad adnabyddus!’

Page 8: Priodi - Canllaw ar gyfer cyplau o'r un rhyw
Page 9: Priodi - Canllaw ar gyfer cyplau o'r un rhyw

Ond beth os nad ydyn nhw eisiau?Wedyn byddan nhw’n torri’r gyfraith. Mor syml â hynny. Ewch â’r mater at benaethiaid y cwmni neu ewch ag achos i’r llys sirol. Mae’r gyfraith yn eich diogelu chi rhag gwahaniaethu, felly peidiwch â gadael i neb ddweud wrthoch chi bod rhywbeth yn amhosibl yn eich priodas. Cysylltwch â Gwasanaeth Gwybodaeth Stonewall Cymru drwy ffonio 08000 50 20 20 neu e-bostio [email protected] i gael cyngor neu gymorth os oes angen.

Fydd swyddogion mewnfudo yn cydnabod y briodas?Bydd y Swyddfa Gartref yn cydnabod y briodas yn yr un ffordd ag y bydden nhw’n cydnabod priodas unrhyw un arall. Dydy hynny yn golygu bob amser y bydd eich gŵr neu’ch gwraig yn cael byw yn y Deyrnas Unedig – mae rhai achosion lle nad yw hynny’n bosibl, ond mae’r cyfyngiadau hynny’n berthnasol i bob cwpl.

Beth os byddwn ni’n mynd dramor?Mae nifer y gwledydd sy’n cydnabod priodasau rhwng cyplau o’r un rhyw yn tyfu o hyd! Bydd rhai o’r gwledydd na fyddant yn cydnabod eich priodas yn dal i gydnabod eich uniad, ond fel partneriaeth sifil. Mae ystyr hynny yn dibynnu ble byddwch chi’n mynd, ond fel arfer byddwch chi’n cael rhai o’r hawliau y mae cyplau priod yn eu cael, os nad yr holl hawliau.

‘Mae nifer y gwledydd sy’n cydnabod priodasau rhwng cyplau o’r un rhyw yn tyfu o hyd!’

Page 10: Priodi - Canllaw ar gyfer cyplau o'r un rhyw

‘Mae priodi yn amser allweddol i ystyried pethau fel gwneud ewyllys’

Fydd angen i fi ddiweddaru fy ewyllys?Fe ddylen ni i gyd gynllunio ar gyfer y dyfodol, er mwyn sicrhau gofal am ein teuluoedd, ein partneriaid a’n ffrindiau pan fyddwn ni wedi mynd. Mae priodi yn amser allweddol i ystyried hyn o ddifrif ac i wneud yn siŵr bod eich ewyllys yn adlewyrchu eich dymuniadau yn llawn. Oeddech chi’n gwybod y gallwch chi hefyd roi rhodd i Stonewall Cymru yn eich ewyllys, a helpu cenedlaethau’r dyfodol o bobl lesbiaidd, hoyw a deurywiol o gwmpas y byd? Mae’n haws nag y byddech chi’n ei feddwl – ewch i www.stonewallcymru.org.uk/cyfrannu i gael rhagor o wybodaeth.

Ond mae gen i ragor o gwestiynau!Rydyn ni’n gwybod bod priodi yn gallu codi pob math o gwestiynau am bensiynau, etifeddu a phethau felly. Felly os hoffech chi wybod rhagor, darllenwch ein gwybodaeth ddefnyddiol yn www.stonewallcymru.org.uk/priodasau. Tra byddwch chi yno gallwch chi fwrw golwg ar ein nwyddau priodas er mwyn eich helpu chi i ddathlu eich diwrnod arbennig (a chefnogi Stonewall Cymru ar yr un pryd!) A chofiwch y gallwch chi roi caniad i ni unrhyw bryd drwy ffonio 08000 50 20 20 neu drwy e-bostio [email protected]

Page 11: Priodi - Canllaw ar gyfer cyplau o'r un rhyw

Roedd pasio priodas gyfartal yn gam anferth ymlaen i bobl lesbiaidd, hoyw a deurywiol. Ond dydy gwaith Stonewall Cymru ddim drosodd o bell ffordd.

Mae llawer i’w wneud o hyd, yn brwydro yn erbyn bwlio homoffobaidd yn ein hysgolion, yn taclo troseddau casineb homoffobaidd ar ein strydoedd, neu’n

cefnogi ymgyrchwyr ledled y byd yn eu brwydr am gydraddoldeb.

Gallwch chi ddod yn Gyfaill i Stonewall Cymru am ddim ond £5 y mis er mwyn ein helpu ni i frwydro yn erbyn homoffobia drwy’r flwyddyn. Gallwch

weld sut yn www.stonewallcymru.org.uk/cyfeillion

Neu beth am ymuno â’n tîm gwirfoddoli a dod yn rhan allweddol o’n gwaith? Gallwch ddysgu rhagor yn www.stonewallcymru.org.uk/gwirfoddoli

Page 12: Priodi - Canllaw ar gyfer cyplau o'r un rhyw

Rhif elusen 1101255

Cynhyrchwyd ar gyfer Stonewall gan Simon Gage. Dyluniwyd gan Roelof Bakker.

Priodi