canllaw goroesi gwastraff

5
YDYCH CHI AT EICH CANOL YN LLANAST Y GELYN? WEDI’CH CORNELU GAN HEN BAPURAU? AR GOLL MEWN ANIALWCH O HEN DUNIAU? YR HYN RYDYCH EI ANGEN YW’R… Enillydd Gwobr Her Cyfathrebu The Ecologist CANLLAW GOROESI GWASTRAFF

Upload: bangor-students-union

Post on 07-Mar-2016

223 views

Category:

Documents


8 download

DESCRIPTION

CANLLAW GOROESI YDYCH CHI AT EICH CANOL YN LLANAST Y GELYN? WEDI’CH CORNELU GAN HEN BAPURAU? AR GOLL MEWN ANIALWCH O HEN DUNIAU? YR HYN RYDYCH EI ANGEN YW’R… Enillydd Gwobr Her Cyfathrebu The Ecologist

TRANSCRIPT

Page 1: Canllaw Goroesi Gwastraff

YDYCH CHI AT EICH CANOL YN LLANAST Y GELYN?

WEDI’CH CORNELU GAN HEN BAPURAU?

AR GOLL MEWN ANIALWCH O HEN DUNIAU?

YR HYN RYDYCH EI ANGEN YW’R…

Enillydd Gwobr Her Cyfathrebu The Ecologist

C A N L L A W G O R O E S I

GWASTRAFF

Page 2: Canllaw Goroesi Gwastraff

Eich gwaith chi yw ymosod ar y bygythiad mwyaf sy’n wynebu’r genedl hon. Drwy ymuno yn y frwydr yn erbyn gwastraff a sbwriel fe allwch helpu i amddiffyn ac achub y byd.

G W R A N D E W C H Y C N A F O N !

Pan fyddwch yn taflu eich can gwag o gwrw i’r bocs glas, byddwch yn arbed llwyth o egni rhag cael ei wastraffu’n cloddio ac yn prosesu bocsit yn alwminiwm newydd – sy’n eithaf da o ystyried mai’r cyfan ydych chi’n gorfod ei wneud yw ei daflu lled yr ystafell i flwch ailgylchu.Hefyd, mae ailgylchu eich stwff yn

gywir yn cadw’ch cartref yn daclus – wnewch chi ddim gwneud argraff ar bartneriaid posib os ydy’ch ystafell yn faes y gad o duniau a thyfiant llwydni!

Ond sut mae bwrw iddi? Pa dactegau fydd yn eich galluogi i ddal lluoedd sbwriel yn ôl a chithau’n fyfyriwr. Drwy lwc mae gennych gopi o’r Canllaw Goroesi Gwastraff yn eich llaw a gall y llyfryn bach hwn eich hyfforddi yng nghrefft y rhyfelwr-eco arwrol.

BRIFF

TACTEGAU

GWASTRAFFWCHLAI

AILGYLCHWCH

Page 3: Canllaw Goroesi Gwastraff

Unwaith eto os oes rhywun wedi dwyn eich un chi, rhowch alwad i’r bobl yng Nghyngor Gwynedd er mwyn iddyn nhw eich ailgyflenwi. Mae yna wahanol fathau o’r un yma yn dibynnu ar sut dy ydych chi’n byw ynddo fo – rhai mawr ar olwynion, neu rai bach i’w gosod yn y gegin!

Dyma’r un i roi eich bwyd sy’n llwydo ynddo - ie’r newyddion ysgytwol yw nad y rhewgell yw’r lle i hwnnw (oni bai mai caws sydd dan sylw - rhyfedd o fyd!), a bagiau te, croen banana ac yn y blaen.

Os ydych wedi colli’ch un chi, neu eich bod yn ymladd yn erbyn lluoedd niferus ac angen mwy o gefnogaeth – bydd rhaid i chi siarad â Chyngor Gwynedd.

E I C HA R F A U

Y BIN BROWN

Y BOCS GLAS safonol

Mae’n rhaid i bopeth sy’n mynd i’r bocs glas fod yn lan ac yn daclus, yn ddelfrydol dyle bod gennych focs unigol ar gyfer papur a cardbord / poteli plastig / gwydr / caniau, aerosolau a ffoil.

Papur - taflwch eich holl ddrafftiau cyntaf o waith iddo yn hytrach nag i’r bin!

Caniau - caniau gwag o ffa, cawl – ac wrth gwrs caniau seidr!

Gwydr - poteli cwrw gwag – wnewch chi ddim taflu rhai llawn, na wnewch!

Ffoil Glân - pan fyddwch wedi gorffen gyda’ch gwisg ffansi robot, ailgylchwch y ffoil ar gyfer ail fywyd!

Batris - mae gan bawb o leiaf cwpl o fatris marw yn rholio o gwmpas mewn drôr, taflwch nhw i’r ailgylchu!

Chwistrelli Aerosol - gobeithio eich bod yn defnyddio diaroglydd, felly pan fyddwch wedi’i orffen, ailgylchwch o!

Poteli plastig - mae’n anhygoel gymaint o ddeunyddiau pacio gwahanol sy’n cael eu defnyddio ar gyfer seidr yntydi? Ac mae posib ailgylchu pob un ohonynt!

Cardbord - Y stwff tenau - mae fwy neu lai popeth y gallwch ei brynu yn dod wedi’i becynnu mewn siaced fach ffansi o gardbord y dyddiad yma; os yw’n gardbord crych yna rhwygwch ef cyn ei roi yn y blwch!

Os na allwch ddod o hyd i’r bocs glas un wythnos gallwch ddefnyddio unrhyw flwch pwrpasol arall sydd gennych yn ei le ac fe gaiff ei gasglu’r un fath!

FELLY BETH SY’N MYND IDDO?

Hefyd os ydych chi’n digwydd bod yn arddwr brwd, gallwch daflu eich holl wastraff gardd iddo hefyd!

Rhowch alwad iddyn nhw ar 01766 771000 ac fe wnawn nhw ddarparu cyflenwadau at y frwydr.

^

Dyma’ch cyrchfan olaf, os nad oes yna ddihangfa arall. Os nad oes yna ffordd arall bosib o’i ailgylchu, yna ewch am y bag du. Os ydych yn ddigon ffodus i fod yn byw mewn ty gyda bin gwyrdd ar olwynion, gallwch ei daflu i hwnnw. Rhowch eich bagiau du neu eich bin gwyrdd ar y palment y noson cyn eich diwrnod casglu.

BAGIAU BIN DU

AMSERU EICH YMOSODIAD

Os nad yw eich landlord wedi trafferthu rhoi gwybod i chi pryd y dylech chi roi eich biniau allan i Gyngor Gwynedd (01766 771000) ac fe fyddan nhw’n gadael i chi wybod!

Gallwch roi eich ailgylchu (BOCS GLAS) allan BOB wythnos a’ch Bin Brown a’ch Bagiau Bin Du am yn ail wythnos.

Os nad ydych chi’n siwr ynghylch pa wythnos i wneud hynny, gallwch sganio’r cod bar gyda QR eich ffôn smart neu gymryd golwg ar:www.gwynedd.gov.uk/recycling

Os oes digwydd bod tanc wrth law (neu ryw fath arall o gludiant modur) neu’ch bod yn teimlo fel cynnal gorymdaith, gallwch anelu at y Ganolfan Ailgylchu sydd ar gyrion Bangor ar Stad Ddiwydiannol Llandygai (gwelwch ein map hwylus!) ble y gallwch ailgylchu mwy o bethau nag y gallech chi freuddwydio.

HYSBYSIAD AR GYFER ADRANNAU ARFOG

(POBL Â CHEIR)

^

^

Mae’n werddon ailgylchu ar gyfer unrhyw ryfelwr-eco ble gallwch chi ailgylchu’r canlynol: metel, coed a phren, gwastraff o’r ardd, rwbel, cardbord, papur, poteli a chynhwysyddion plastig, caniau bwyd a diod, gwydr, tecstilau, paent, olew llysieuol, olew injan wedi’i ddefnyddio, teiars, batris, tiwbiau fflworolau, setiau teledu, teclynnau trydanol mawr, rhewgelloedd a rhewgistiau, tetra paks a gwastraff cartref cyffredinol.

BETH YW’R RISGIAU?

Os wnewch chi fethu yn eich ymgyrch i gael gwared ar eich gwastraff a’ch ailgylchu’n iawn, yna bydd eich holl fyd yn disgyn i gynddaredd ysglyfaethwyr adarol (gwylanod) a chudd ryfelwyr bacterol (llygod ffyrnig, chwilod duon,

morgrug a chynron)! Gallech hefyd ddioddef cwrt-marsial gan Wardeiniaid Gorfodi’r Stryd gyda dirwyon triphlyg o £75 yn y fan a’r lle. Byddwch yn gall ryfelwyr gwastraff - mae’r byd yn eich dwylo chi!

Gallwch gael sachau hesian os nad oes gennych le i storio bin olwynion – rhowch alwad i Gyngor Gwynedd.

*GAIR I GALL*Gall rhoi eich bag du mewn ail fag du olygu ei fod yn llai tebygol o rwygo ar agor a gollwng ei gynnwys dros y stryd!

Page 4: Canllaw Goroesi Gwastraff

HEN FFÔN SYMUDOL Os nad oeddech yn gwybod hynny, mae’n amlwg eich bod yn ddigon ffodus i osgoi hysbysebion teledu’n ddiweddar!

CETRIS GWAG EICH PRINTWYRAchos os fyddech chi’n gwneud eich traethodau fe fyddech chi’n mynd trwy’r rhain yn reit handi!

ARLLIWIWR GWALLTOs oes gennych gopa walltog...

STAMPIAUY tro nesaf daw unrhyw beth drwy’r drws gyda stamp arno, cadwch o.

Fel y gwelwch, mae yna lawer mwy y gallwch chi ei ailgylchu na’ch caniau cwrw gwag.

DILLADDillad fyddwch chi byth yn eu gwisgo. Peidiwch â’u gadael nhw yn bentwr anni-ben ar lawr neu’n gwastraffu lle yn eich wardrob, ewch â nhw i un o’r amryw siopau elusen yma ym Mangor; falle wnewch chi ffeindio bargen yno’r un pryd!

SIOPAU ELUSENBydd siopau elusen hefyd yn cymryd yr holl lyfrau hynny wnaethoch chi erioed eu darllen a DVDs nad ydych chi’n eu gwylio erbyn hyn, yn ogystal ag unrhyw gerddoriaeth yr ydych chi am gael ei wared!

SBECTOLOs ydych chi wedi niweidio eich sbectol yn gwneud rhywbeth gwirion ar ôl diod neu ddau, does dim pwynt eu cadw; pam na ewch chi â nhw i un o’r siopau optegydd ym Mangor a gofyn iddyn nhw eu cyfrannu i Gymorth Golwg Tramor i rywun mewn angen gael eu defnyddio.

RHADGYLCHUGallwch hefyd ddefnyddio Rhadgylchu, sydd weithiau’n cael ei alw’n Freegle. Mae’n gyfle i gael gwared ar stwff diangen a’i basio ymlaen i rywun arall NEU fe allwch fod yn arwr eco drwy gymryd rhywbeth sydd ei angen arnoch a chadw pethau defnyddiol rhag mynd i’r safle tirlenwi – ddim yn ddrwg am gael rhywbeth am ddim! Os ydy hynny o ddiddordeb cymerwch olwg ar:

Ac mae yna fwy! Mae yna ymgyrchoedd ailgylchu arbennig, sy’n gymwys i’r milwyr eco dewraf. Oeddech chi’n gwybod eich bod yn gallu ailgylchu eich:

Y M GY R C H O E D DR H Y F E L W Y R

E C O E L I T

Freegle Bangor http://groups.yahoo.com/group/BangorFreegle/

Rhadgylchu Bangor http://groups.freecycle.org/BangorFreecycle/

Fre

eg

le

Rh

ad

gyl

chu

Gallwch gael gwared â’r rhain i gyd yn eich Undeb Myfyrwyr cyfeillgar.

Freegle Bangor http://groups.yahoo.com/group/BangorFreegle/

Rhadgylchu Bangor http://groups.freecycle.org/BangorFreecycle/

B E T H A M Y B R I F YS G O L ?

Mae’r Brifysgol yn cynhyrchu oddeutu 1000 o dunelli o sbwriel bob blwyddyn ac ar hyn o bryd yn ailgylchu tua 30% ohono - a gyda sgiliau pwrpasol, y sgiliau rydych chi wedi’u meithrin dros

yr amser maith mae wedi’i gymryd i chi ddarllen y llyfryn hwn, a sgiliau sy’n eich gwneud chi’n arwr gwrth-wastraff, fe allwch CHI helpu i wella ar hyn.

O gwmpas y Brifysgol mae yna drefn ailgylchu yn ôl codau lliw. Ceisiwch eu cofio – wnaiff hynny ddim achub eich bywyd ond fe wnaiff hi’n llawer haws i chi ailgylchu’r botel wag honno.

Glas – Papur Coch – Gwydr Lliw Gwin – Caniau

Llwyd – Plastig Brown – Gwastraff Bwyd

Pinc – Batris

Gwyrdd / Du – Tirlenwi / Gwastraff Cyffredinol

A gyda’r wybodaeth yma gyfeillion, rydych wedi’ch hyfforddi i fynd i’r afael â sbwriel, eich disgyblu i ddinistrio gweddillion a’ch cyfarwyddo yn y grefft o ryfela gwastraff.

I ’ R G A D !

TREFNRHYFELAGWASTRAFFY BRIFYSGOL

Page 5: Canllaw Goroesi Gwastraff

G W R T H R Y F E LGWASTRAFF

Y

R E B E L L I O NRUBBISH

T H E