addysg rhyw a pherthnasoedd mewn...

42
Addysg rhyw a pherthnasoedd mewn ysgolion Canllawiau Cylchlythyr Llywodraeth Cynulliad Cymru Rhif: 019/2010 Dyddiad cyhoeddi: Medi 2010 Yn disodli Cylchlythyr Rhif: 11/2002

Upload: others

Post on 21-Oct-2020

0 views

Category:

Documents


0 download

TRANSCRIPT

  • Addysg rhyw a pherthnasoedd mewn ysgolion

    CanllawiauCylchlythyr Llywodraeth Cynulliad Cymru Rhif: 019/2010 Dyddiad cyhoeddi: Medi 2010 Yn disodli Cylchlythyr Rhif: 11/2002

  • Cynulleidfa Penaethiaid, cyrff llywodraethu, cydlynwyr addysg bersonol a chymdeithasol ac athrawon addysg rhyw a pherthnasoedd ym mhob ysgol a gynhelir. Byrddau iechyd, nyrsys ysgol, nyrsys plant sy’n derbyn gofal (PDG), nyrsys iechyd rhywiol a gweithwyr iechyd proffesiynol eraill mewn ysgolion. Cydlynwyr addysg PDG sy’n gyfrifol am iechyd ac addysg y plant hynny. Cydlynwyr Cynllun Ysgolion Iach – Rhwydwaith Cymru, Partneriaethau Plant a Phobl Ifanc, awdurdodau lleol a chydlynwyr/darparwyr rhaglenni hyfforddi addysg rhyw a pherthnasoedd.

    Trosolwg Canllawiau ynghylch sut dylai ysgolion ddatblygu eu polisi addysg rhyw, cynllunio a chyflwyno eu darpariaeth addysg rhyw a pherthnasoedd a gweithio mewn partneriaeth ag eraill.

    Camau Mae rhaid i ysgolion ystyried y canllawiau hyn wrth weithredu eu i’w cymryd polisi addysg rhyw a’u darpariaeth addysg rhyw a pherthnasoedd.

    Rhagor o Dylid cyfeirio ymholiadau am y ddogfen hon at:wybodaeth Yr Is-adran Cwricwlwm Yr Adran Plant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau Llywodraeth Cynulliad Cymru Parc Cathays Caerdydd CF10 3NQ

    e-bost: [email protected]

    Copïau Ar gael drwy ymweld â gwefan Llywodraeth Cynulliad Cymruychwanegol www.cymru.gov.uk/addysgasgiliau

    Dogfennau Fframwaith addysg bersonol a chymdeithasol ar gyfer dysgwyr cysylltiedig 7 i 19 oed yng Nghymru; Y Cyfnod Sylfaen – Fframwaith ar gyfer Dysgu Plant 3 i 7 oed yng Nghymru; Cylchlythyr Llywodraeth Cynulliad Cymru 005/2008: Diogelu Plant mewn Addysg: Rôl awdurdodau lleol a chyrff llywodraethu o dan Ddeddf Addysg 2002; Diogelu Plant: Gweithio gyda’n Gilydd o dan Ddeddf Plant 2004 (2007); Gwasanaethau Cwnsela mewn Ysgolion yng Nghymru – Strategaeth Genedlaethol (Llywodraeth Cynulliad Cymru, 2008)

    Addysg rhyw a pherthnasoedd mewn ysgolion

    Cyf: CAD/GM/0144ISBN: 978 0 7504 5712 5© Hawlfraint y Goron Medi 2010

  • 1

    Addysg rhyw a pherthnasoedd mewn ysgolion

    Dyddiad cyhoeddi: Medi 2010

    Cynnwys

    Cyflwyniad 2 Y cyd-destun ar gyfer addysg rhyw a pherthnasoedd 3 Beth yw’r gofynion cyfreithiol ar gyfer ysgolion a gynhelir? 4 Pam addysgu addysg rhyw a pherthnasoedd? 5

    Cynllunio’n strategol ar gyfer addysg rhyw a pherthnasoedd 7 Datblygu polisi’r ysgol 7 Sicrhau cynhwysiant 9 Cyfrinachedd 11 Diogelu ac amddiffyn plant 13

    Datblygu addysg rhyw a pherthnasoedd effeithiol 15 ARhPh mewn ysgolion cynradd 15 ARhPh mewn ysgolion uwchradd (a lleoliadau addysgol eraill sy’n derbyn dysgwyr oedran ysgol uwchradd, e.e. Unedau Cyfeirio Disgyblion) 16 ARhPh mewn ysgolion arbennig 17 Strategaethau dysgu ac addysgu ARhPh 19 Addysgu am faterion iechyd a lles rhywiol penodol 21

    Gweithio mewn partneriaeth 27 Cydweithio â rhieni/gofalwyr 27 Cydweithio â’r gymuned ehangach 28

    Atodiad A: Y fframwaith cyfreithiol 31

    Atodiad B: Addysg rhyw a pherthnasoedd o fewn y 35 cwricwlwm ysgol

  • 2

    Addysg rhyw a pherthnasoedd mewn ysgolion

    Dyddiad cyhoeddi: Medi 2010

    1.1 Mae gan ysgolion ran bwysig wrth effeithio’n gadarnhaol a pharhaol ar iechyd a lles rhywiol plant a phobl ifanc. Dylai pob dysgwr yng Nghymru dderbyn addysg rhyw a pherthnasoedd (ARhPh) o ansawdd uchel yn rhan o’u datblygiad personol a chymdeithasol.

    1.2 Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi ymrwymo’n llawn i Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP). Mae Gweithredu’r Hawliau (2004) yn pennu saith nod craidd1 Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer plant a phobl ifanc. Mae’r nodau craidd yn disgrifio hawl plant a phobl ifanc i gael mynediad at wasanaethau addysg ac iechyd ac yn mynd i’r afael â’u hawl i gael eu clywed ac i gyfranogi yn y penderfyniadau sy’n effeithio arnyn nhw; mae hyn yn cynnwys cael y wybodaeth angenrheidiol i wneud dewisiadau. Lluniwyd y canllaw hwn er mwyn cynorthwyo ysgolion i gyflawni’r nodau craidd hynny.

    1.3 Ceir enghreifftiau rhagorol lle cyflwynir rhaglenni ARhPh effeithiol mewn ysgolion yng Nghymru. Mae’r ysgolion hyn wedi sefydlu polisïau clir ar gyfer addysg rhyw mewn ymgynghoriad â dysgwyr, rhieni/gofalwyr, cyrff llywodraethu a’r gymuned ehangach. Serch hynny, yn adroddiad Estyn yn 2007 Arweiniad rhyw a pherthynas nodwyd bod amrywiaeth eang yn ansawdd ac effaith addysgu ARhPh ledled Cymru.

    1.4 Mae’r canllaw hwn yn manteisio ar arfer gorau mewn ARhPh. Dylai pob ysgol yng Nghymru:

    • greu diwylliant sy’n cefnogi trafodaeth agored a chyfrifol am berthnasoedd ac iechyd a lles rhywiol • cyflwyno’n hyderus raglenni ARhPh cadarnhaol a chyfannol sy’n diwallu anghenion pob dysgwr.

    1.5 Nod y canllaw hwn yw:

    • esbonio cyd-destun ARhPh yng Nghymru• egluro’r gofynion cyfreithiol i ysgolion• nodi’r deilliannau a ddisgwylir gan ddysgwyr• cynorthwyo i ddatblygu polisi addysg rhyw• hyrwyddo cyfranogiad y dysgwr wrth ddatblygu ac adolygu polisi addysg rhyw a’r ddarpariaeth ARhPh • sicrhau cynhwysiant pob dysgwr• egluro’r rolau a’r cyfrifoldebau sy’n gysylltiedig â chyfrinachedd• ymdrin â materion sy’n ymwneud â diogelu ac amddiffyn plant

    Cyflwyniad

    1 Ceir gwybodaeth ar y saith nod craidd yn yr adran Plant a phobl ifanc ar wefan Llywodraeth Cynulliad Cymru www.cymru.gov.uk

  • 3

    Addysg rhyw a pherthnasoedd mewn ysgolion

    Dyddiad cyhoeddi: Medi 2010

    • rhoi cyfarwyddyd penodol ar gyfer ysgolion cynradd, uwchradd ac arbennig • amlinellu strategaethau ar gyfer dysgu ac addysgu ARhPh• rhoi cyngor am faterion sensitif a allai godi wrth addysgu ARhPh• pwysleisio pwysigrwydd gweithio mewn partneriaeth â rhieni/gofalwyr, rhieni maeth a rhieni corfforaethol, pan fydd plentyn yn derbyn gofal gan ei awdurdod lleol • nodi cyfleoedd i weithio mewn partneriaeth â’r gymuned ehangach • nodi cyfleoedd i drafod ARhPh o fewn y cwricwlwm ysgol ar gyfer Cymru.

    1.6 Yn y canllaw hwn, wrth ddefnyddio’r term ’rhaid’ cyfeirir at ofyniad statudol mewn deddfwriaeth. Wrth ddefnyddio’r termau ’dylai/dylid/dylen nhw’ ac ati, cynghorir ysgolion yn gryf i fabwysiadu’r ymagwedd a awgrymir.

    1.7 Defnyddir y termau addysg rhyw ac addysg rhyw a pherthnasoedd yn y canllaw hwn. Mewn deddfwriaeth, cyfeirir at gynhwysiant addysg rhyw yn y cwricwlwm ysgol. Yn ymarferol, mae’r term addysg rhyw a pherthnasoedd yn cael eu defnyddio’n gyffredinol i adlewyrchu’r ystod o ddysgu a chefnogaeth a ddarperir gan ysgolion ynghylch agweddau emosiynol, corfforol a chymdeithasol o berthnasoedd, iechyd rhywiol a lles.

    Y cyd-destun ar gyfer addysg rhyw a pherthnasoedd

    1.8 Mae saith nod craidd Llywodraeth Cynulliad Cymru’n disgrifio hawl plant a phobl ifanc i gael mynediad at wasanaethau addysg ac iechyd. Mae rhaglenni ARhPh effeithiol mewn ysgolion yn cynorthwyo dysgwyr i feithrin y sgiliau a’r wybodaeth sy’n briodol i’w hoedran, dealltwriaeth a datblygiad. Galluogir dysgwyr i wneud penderfyniadau cyfrifol ynglŷn â’u perthnasoedd, iechyd a lles rhywiol.

    1.9 Gall dylanwadau cymdeithasol a diwylliannol – rhieni, teulu, ffrindiau, pwysau gan gyfoedion, y cyfryngau a’r defnydd o alcohol a chyffuriau – oll ddylanwadu ar ymddygiad rhywiol. Er bod y ffigurau diweddaraf yn nodi bod cyfraddau beichiogi yn yr arddegau’n is nag yn 1999, mae’r cyfraddau beichiogi yn yr arddegau’n parhau i fod yn uchel yng Nghymru ac mae’r ffigurau’n dal i amrywio o ranbarth i ranbarth. Mae pobl ifanc hefyd yn ysgwyddo’r baich mwyaf o ran heintiau a drosglwyddir yn rhywiol. Yn yr astudiaeth ddiweddaraf o

  • 4

    Addysg rhyw a pherthnasoedd mewn ysgolion

    Dyddiad cyhoeddi: Medi 2010

    Ymddygiad Iechyd mewn Plant Oedran Ysgol, dangoswyd bod yng Nghymru’r gyfran uchaf o bobl ifanc 15 oed (o blith y 34 o wledydd yn Ewrop ac yng Ngogledd America a oedd yn cymryd rhan, ac a wnaeth adrodd ar hyn) sydd wedi cael cyfathrach rywiol, 41 y cant o’r merched a 30 y cant o’r bechgyn. Mae tystiolaeth hefyd yn awgrymu bod pobl ifanc sydd o dan anfantais o safbwynt economaidd-gymdeithasol yn fwy tebygol o fod yn cael rhyw, o ddioddef salwch sy’n gysylltiedig â rhyw neu o feichiogi’n anfwriadol na’r rhai hynny a chanddyn nhw fwy o fanteision, gan gynnwys rhagolygon addysg a chyflogaeth dda.

    1.10 Mae Cynllun Gweithredu Iechyd a Lles Rhywiol 2010–2015 yn adnewyddu ymrwymiad Llywodraeth Cynulliad Cymru i:

    • wella iechyd a lles rhywiol y boblogaeth yng Nghymru• cau’r bwlch anghydraddoldeb iechyd rhywiol• datblygu cymdeithas sy’n cefnogi trafodaeth agored am berthnasoedd, rhyw a rhywioldeb.

    1.11 Cydnabyddir bod ysgolion yn chwarae rhan bwysig wrth effeithio’n gadarnhaol a pharhaol ar iechyd a lles rhywiol plant a phobl ifanc. Mae angen cymorth ar bob dysgwr i feithrin hyder, ymwybyddiaeth a hunan-barch a bydd hynny yn ei dro yn ei helpu i reoli ac i drafod ei berthnasoedd personol.

    1.12 Dylai ysgolion sicrhau bod yr holl athrawon yn gwerthfawrogi’n llwyr y modd gall ARhPh effeithiol gyfrannu tuag at wella iechyd a lles rhywiol a lleihau nifer yr achosion o feichiogi yn yr arddegau a chyfradd heintiau a drosglwyddir yn rhywiol a HIV.

    Beth yw’r gofynion cyfreithiol ar gyfer ysgolion a gynhelir?

    1.13 Rhaid i gyrff llywodraethu pob ysgol wneud, a diweddaru’n rheolaidd, ddatganiad ysgrifenedig o’u polisi’n ymwneud â darparu addysg rhyw. Mae’n rhaid i’r polisi gynnwys datganiad ynghylch hawl rhieni i esgusodi’u plant o gael addysg rhyw.

    1.14 Pan ddarperir addysg rhyw, mae’n rhaid i benaethiaid a chyrff llywodraethu gyfeirio at ganllawiau Llywodraeth Cynulliad Cymru.

    1.15 Rhaid i ysgolion cynradd gyflwyno addysg rhyw fel mae wedi’i nodi yn y cwricwlwm cenedlaethol yng Nghymru, er enghraifft yn y gorchymyn pwnc gwyddoniaeth. Fodd bynnag, nid oes yn rhaid i ysgolion cynradd ddarparu addysg rhyw fel rhan o’r cwricwlwm

  • 5

    Addysg rhyw a pherthnasoedd mewn ysgolion

    Dyddiad cyhoeddi: Medi 2010

    sylfaenol. Cyrff llywodraethu ysgolion unigol, mewn ymgynghoriad â rhieni/gofalwyr, sydd i benderfynu ar yr ymagwedd orau tuag at addysg rhyw, yn unol ag anghenion y dysgwyr a chymeriad ac ethos yr ysgol.

    1.16 Mewn ysgolion uwchradd, a lleoliadau addysg eraill sy’n derbyn dysgwyr oedran ysgol uwchradd, e.e. Unedau Cyfeirio Disgyblion, rhaid i’r cwricwlwm sylfaenol gynnwys darpariaeth addysg rhyw ar gyfer pob disgybl sydd ar gofrestr yr ysgol.

    1.17 Rhaid i ysgolion arbennig hefyd gynnwys darpariaeth addysg rhyw ar gyfer pob disgybl sydd ar gofrestr yr ysgol sy’n derbyn addysg uwchradd yn yr ysgol.

    Ceir cyfarwyddyd pellach ynglŷn â’r gofynion cyfreithiol yn Atodiad A (gweler tudalen 31).

    Pam addysgu addysg rhyw a pherthnasoedd?

    1.18 Mae ARhPh yn cynorthwyo dysgwyr i symud yn hyderus o blentyndod, drwy lasoed, i fod yn oedolion.

    1.19 Ceir cyfleoedd amlwg i addysgu ARhPh o fewn y cwricwlwm. Fe’i cyflwynir yn bennaf drwy’r Fframwaith addysg bersonol a chymdeithasol ar gyfer dysgwyr 7 i 19 oed yng Nghymru. Yn benodol, deilliannau ARhPh effeithiol yw cynorthwyo dysgwyr i:

    • feithrin agweddau a gwerthoedd cadarnhaol sy’n dylanwadu ar eu hymddygiad • meithrin y sgiliau sydd eu hangen i wneud penderfyniadau cyfrifol a deallus ynghylch iechyd a lles rhywiol • ennyn hunan-barch a pharch tuag at eraill• gwerthfawrogi amrywiaeth mewn cyfeiriadedd rhywiol a dathlu gwahaniaeth • meithrin perthnasoedd llwyddiannus• gwerthfawrogi pwysigrwydd perthnasoedd personol sefydlog a chariadus • deall agweddau corfforol ac emosiynol rhyw, rhywioldeb ac iechyd a lles rhywiol • deall y canlyniadau a’r risgiau sy’n gysylltiedig â gweithgarwch rhywiol • cydnabod manteision gohirio gweithgarwch rhywiol• deall cyfreithiau’n ymwneud ag ymddygiad rhywiol• gwybod sut i gael cyngor priodol am iechyd a lles rhywiol.

  • 6

    Addysg rhyw a pherthnasoedd mewn ysgolion

    Dyddiad cyhoeddi: Medi 2010

    1.20 Dylai rhaglenni ARhPh alluogi dysgwyr i ddeall pwysigrwydd amgylchedd sefydlog, diogel a chariadus ar gyfer bywyd teuluol. Pan ddarperir ARhPh, dylai ysgolion addysgu am natur priodas a phwysigrwydd hynny ar gyfer bywyd teuluol ac wrth fagu plant. Mewn cymdeithas amrywiol, daw dysgwyr o amrywiaeth o gefndiroedd ac mae Llywodraeth Cynulliad Cymru’n cydnabod bod perthnasoedd ymrwymedig, sefydlog a chyd-gefnogol i’w cael tu allan i briodas. Dylai athrawon fod yn sensitif a pharchu gwahaniaethau, gan sicrhau na chaiff plant a phobl ifanc eu gwarthnodi oherwydd amgylchiadau eu cartref.

  • 7

    Addysg rhyw a pherthnasoedd mewn ysgolion

    Dyddiad cyhoeddi: Medi 2010

    Cynllunio’n strategol ar gyfer addysg rhyw a pherthnasoedd

    Mae’r adran hon yn cynnig cyfarwyddyd i gyrff llywodraethu, arweinwyr ysgolion a phartneriaid eraill ar:

    • y gofyniad i bob ysgol gael polisi addysg rhyw a’r materion penodol dylid eu trafod mewn polisi • sicrhau cynhwysiant• datblygu protocolau cyfrinachedd sy’n ymwneud ag ARhPh• sefydlu gweithdrefnau diogelu ac amddiffyn plant mewn perthynas ag ARhPh.

    Datblygu polisi’r ysgol

    2.1 Mae’n rhaid i bob ysgol a gynhelir fod â pholisi addysg rhyw ysgrifenedig cyfredol sydd ar gael i’w archwilio, yn enwedig gan rieni/gofalwyr.

    2.2 Mae’n rhaid i’r polisi gynnwys datganiad ynghylch hawl rhieni/gofalwyr i esgusodi’u plentyn o gael addysg rhyw.

    2.3 Dylai’r polisi:

    • amlinellu gweledigaeth yr ysgol ar gyfer ARhPh o fewn fframwaith gwerthoedd clir • rhoi datganiad clir o nodau a deilliannau disgwyliedig rhaglen ARhPh yr ysgol • disgrifio sut caiff y rhaglen ei rheoli a’i threfnu, a’r modd caiff ei chynnwys yn rhan o ddarpariaeth addysg bersonol a chymdeithasol (ABCh) yr ysgol • amlinellu sut cyflwynir y rhaglen, yr ymagweddau addysgu a’r adnoddau a ddefnyddir a phwy sy’n gyfrifol am ei chyflwyno • pennu cynnwys y rhaglen ARhPh ar gyfer pob grŵp blwyddyn, gan roi crynodeb o’r modd yr ymdrinnir â materion a allai fod yn sensitif a phryd dylid cyflwyno themâu allweddol • disgrifio sut mae’r rhaglen ARhPh yn diwallu anghenion yr holl ddysgwyr • disgrifio sut mae polisïau’r ysgol ar gyfrinachedd, diogelu ac amddiffyn plant yn berthnasol i ARhPh • egluro sut bydd dysgwyr yn cael cyngor ynghylch lle gallan nhw dderbyn cyngor a chwnsela cyfrinachol ac, os oes angen, triniaeth • egluro sut y byddwch yn casglu barn dysgwyr• disgrifio sut bydd yr ysgol yn cydweithio â rhieni/gofalwyr a chynnwys datganiad ynghylch hawliau rhieni i esgusodi’u plentyn o gael addysg rhyw

  • 8

    Addysg rhyw a pherthnasoedd mewn ysgolion

    Dyddiad cyhoeddi: Medi 2010

    • crynhoi’r modd caiff gweithwyr proffesiynol iechyd ac asiantaethau allanol eu cynnwys yn y rhaglen ARhPh • dweud sut caiff ARhPh ei monitro a’i gwerthuso, gan nodi’r dull a’r amserlen er mwyn adolygu’n rheolaidd.

    2.4 Mae gan ddysgwyr hawl, fel y nodwyd yn Erthygl 12 CCUHP, i gyfrannu mewn modd ystyrlon tuag at ddatblygu ac adolygu’r polisi addysg rhyw a’r rhaglen ARhPh. Mae cyfranogiad disgyblion, er enghraifft drwy’r cyngor ysgol, yn galluogi dysgwyr i fynegi’u safbwyntiau ynglŷn â’u hanghenion mewn cyfnodau allweddol gwahanol. Mae gan ddisgybl-lywodraethwyr cyswllt ran bwysig yn y gwaith o gynrychioli safbwyntiau dysgwyr yn nhrafodaethau cyrff llywodraethu am ARhPh.

    2.5 Mae i gyrff llywodraethu, ynghyd â phenaethiaid a staff perthnasol, ran allweddol yn y gwaith o benderfynu ar y polisi addysg rhyw ac o fonitro effeithiolrwydd y rhaglen ARhPh. Mae rhaid i gyrff llywodraethu sicrhau bod gan yr ysgol bolisi addysg rhyw ysgrifenedig cyfredol sy’n cael ei adolygu’n rheolaidd.

    2.6 Dylai cyrff llywodraethu ymgynghori â rhieni/gofalwyr a’r gymuned ehangach i sicrhau bod y polisi’n ystyried dymuniadau rhieni/gofalwyr ac yn diwallu anghenion y gymuned a wasanaethir gan yr ysgol.

    2.7 Fel sy’n briodol, dirprwyir cyflwyno’r cwricwlwm i ysgolion. Bydd ysgolion yn parhau i benderfynu ar yr amser a neilltuir a’r strategaethau dysgu a fabwysiedir. Serch hynny, ni ddylid cyflwyno ARhPh mewn ffordd ynysig. Dylai fod yn elfen gynlluniedig ac integredig o’r cwricwlwm, gyda chydlynu effeithiol i sicrhau parhad a dilyniant yn yr hyn a ddysgir ar draws y cyfnodau allweddol.

    2.8 Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru’n argymell defnyddio’r fframwaith ABCh fel sail i gynllunio’r ddarpariaeth ARhPh. Mae i’r fframwaith ABCh bum thema ac fe gyflwynir deilliannau dysgu’r cyfnodau allweddol ar gyfer pob thema o dan y pennawd ’Ystod’. Yn yr adran ’Ystod’, ceir manylion yr agweddau a gwerthoedd, a’r wybodaeth a dealltwriaeth y dylid eu defnyddio fel cyd-destunau dysgu i feithrin sgiliau sy’n gysylltiedig ag ABCh. Y thema sy’n arbennig o berthnasol i ARhPh yw ’Iechyd a lles emosiynol’. Ceir manylion pellach am ARhPh o fewn y cwricwlwm ysgol yng Nghymru yn Atodiad B (gweler tudalen 35).

    2.9 Mae ARhPh o ansawdd uchel, a ddarperir yn rhan integredig o raglen ABCh ysgol gyfan sydd wedi’i chynllunio’n dda, yn cyfrannu’n gadarnhaol tuag at les dysgwyr. Dylai roi’r sgiliau a’r wybodaeth

  • 9

    Addysg rhyw a pherthnasoedd mewn ysgolion

    Dyddiad cyhoeddi: Medi 2010

    iddyn nhw allu gwneud penderfyniadau diogel a chyfrifol ynglŷn â’u hymddygiad rhywiol. Mae ymagwedd integredig hefyd yn galluogi dysgwyr i gydnabod a deall y cysylltiadau rhwng gweithgarwch rhywiol a mathau eraill o ymddygiad ag elfen o risg fel camddefnyddio alcohol a sylweddau eraill anghyfreithlon.

    2.10 Gan hynny, dylid croesgyfeirio polisi’r ysgol ar ABCh i’r polisi addysg rhyw.

    2.11 Dylai polisi’r ysgol ar addysg rhyw ddisgrifio sut mae’r adnoddau a ddefnyddir yn y rhaglen ARhPh yn annog amrywiaeth o ddulliau dysgu ac yn:

    • gyson â fframwaith gwerthoedd cytunedig yr ysgol ar gyfer ARhPh • priodol ar gyfer anghenion dysgwyr ym mhob cyfnod allweddol o ran iaith, delweddau, a’r aeddfedrwydd a’r ddealltwriaeth angenrheidiol • cael eu darparu i rieni/gofalwyr.

    2.12 Dylai polisi’r ysgol ddisgrifio:

    • sut caiff safonau dysgu ac addysgu ARhPh eu monitro• pwy fydd yn gyfrifol am arwain y gwaith o fonitro a gwerthuso’r ddarpariaeth ARhPh • sut bydd safbwyntiau’r dysgwyr yn cael eu hystyried• rôl y corff llywodraethu.

    2.13 Mae’n statudol ofynnol i Estyn adrodd ynghylch datblygiad ysbrydol, moesegol, cymdeithasol a diwylliannol dysgwyr mewn unrhyw ysgol a arolygir ganddo, ac i adrodd ynglŷn â’r modd mae’r ysgol yn cyfrannu tuag at eu lles. Gall adroddiadau o’r fath roi tystiolaeth ddefnyddiol wrth werthuso darpariaeth ARhPh ysgol.

    Sicrhau cynhwysiant

    Mae Cynllun Gweithredu Iechyd a Lles Rhywiol 2010–2015 yn atgyfnerthu ymrwymiad Llywodraeth Cynulliad Cymru bod pawb yn haeddu gallu cael gafael cyfartal ar wybodaeth am iechyd rhywiol waeth beth fo'u hoedran, hil, anabledd, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol neu grefydd.

    2.14 Dylai ysgolion sicrhau bod rhaglenni ARhPh yn diwallu anghenion yr holl ddysgwyr. Dylai’r addysgu fod yn gynhwysol, gan gynorthwyo’r holl ddysgwyr i ddeall eu datblygiad corfforol ac emosiynol, a’u galluogi i wneud penderfyniadau cadarnhaol ynglŷn â’u perthnasoedd personol a’u hiechyd a lles rhywiol.

  • 10

    Addysg rhyw a pherthnasoedd mewn ysgolion

    Dyddiad cyhoeddi: Medi 2010

    2.15 Gall rhai plant a phobl ifanc ei chael yn anodd siarad â’u rhieni/gofalwyr ac efallai eu bod yn dibynnu ar yr ysgol am y rhan fwyaf, os nad y cyfan, o’u ARhPh. Mae angen i bolisïau addysg rhyw fod yn briodol o safbwynt diwylliannol a chrefyddol, gynnwys pob dysgwyr a bod yn sensitif i anghenion y gymuned leol. Bydd trafodaethau â dysgwyr, eu teuluoedd a chynrychiolwyr o grwpiau ffydd yn helpu i sefydlu ac ail-gadarnhau yr hyn sy’n briodol ac yn dderbyniol. Er enghraifft, gellid bod angen ystyried addysgu bechgyn a merched mewn grwpiau ar wahân os ydyn nhw’n dod o ddiwylliannau lle nad yw’n dderbyniol i drafod y corff mewn grwpiau cymysg.

    2.16 Mae’n ddyletswydd ar ysgolion prif ffrwd, ysgolion arbennig ac Unedau Cyfeirio Disgyblion i sicrhau bod dysgwyr ag anghenion ychwanegol yn cael eu cynnwys mewn modd priodol. Ni ddylai dysgwyr gael eu tynnu o gael ARhPh er mwyn treulio mwy o amser ar agweddau eraill o’r cwricwlwm.

    2.17 Bydd plant sy’n derbyn gofal yn aml yn colli cyfleoedd i ddysgu yn yr ysgol oherwydd cyfnodau o absenoldeb, bod amgylchiadau’n tarfu ar drefn eu bywyd, neu eu bod yn symud yn fynych o’r naill ysgol i’r llall. Mae’n bosibl hefyd nad yw eu rhieni/gofalwyr yn rhoi arweiniad digonol iddyn nhw. Gall gofalwyr ifanc hefyd golli cyfleoedd i ddysgu yn yr ysgol. Dylai ysgolion wneud ymdrech arbennig i sicrhau bod pob dysgwr ag anghenion o’r fath yn derbyn ARhPh a bod athrawon yn ymwybodol o, ac yn sensitif i, amgylchiadau personol y dysgwyr unigol, ar bob achlysur posib.

    2.18 Dylai rhaglenni ARhPh fod yn berthnasol i ddysgwyr ac yn sensitif i’w hanghenion. Mae hi yr un mor bwysig bod pobl ifanc yn cydnabod amrywiaeth ac yn parchu pobl eraill, beth bynnag fo’u cyfeiriadedd rhywiol. Gan hyn, dylai athrawon:

    • ymdrin â materion sy’n ymwneud â hunaniaeth rywiol neu gyfeiriadedd rhywiol mewn modd gonest, sensitif ac anwahaniaethol • ateb cwestiynau priodol a darparu gwybodaeth ffeithiol.

    2.19 Gallai rhai rhieni/gofalwyr fod yn bryderus ynghylch cynnwys hunaniaeth rywiol a chyfeiriadedd rhywiol oddi mewn i raglen ARhPh a’r modd yr addysgir hyn mewn ysgolion. Gallai rhai rhieni/gofalwyr hefyd ei chael hi’n anodd derbyn bod plentyn yn dechrau datblygu’n rhywiol. Dylai ysgolion gadw cyswllt agos â rhieni/gofalwyr wrth lunio’u polisi addysg rhyw er mwyn tawelu eu meddyliau ynghylch cynnwys y rhaglen ARhPh a’r cyd-destun ar gyfer ei chyflwyno.

  • 11

    Addysg rhyw a pherthnasoedd mewn ysgolion

    Dyddiad cyhoeddi: Medi 2010

    2.20 Dylai ysgolion fynd i’r afael â phob math o fwlio ac aflonyddu, gan gynnwys unrhyw fwlio sy’n gysylltiedig â chyfeiriadedd rhywiol. Mae cyfarwyddyd yng Nghylchlythyr Cynulliad Cenedlaethol Cymru 47/2006, Cynnwys a Chynorthwyo Disgyblion yn ymdrin â’r niwed a’r gofid emosiynol a achosir gan fwlio, a’r ffaith bod hynny’n annerbyniol. Os ceir unrhyw amheuaeth o fwlio, dylai ysgolion fynd i’r afael â hynny’n unol â pholisi gwrth-fwlio’r ysgol. Mae Cylchlythyr Cynulliad Cenedlaethol Cymru 23/2003 Parchu Eraill: Canllawiau Gwrth-fwlio yn cynnig datrysiadau ymarferol i atal ac ymdrin ag achosion o fwlio mewn ysgolion.

    Cyfrinachedd

    2.21 Mae’n rhaid i ysgolion ddeall yn iawn beth yw terfynau eu swyddogaethau a’u cyfrifoldebau cyfreithiol a phroffesiynol. Mae’n ddyletswydd ar bob aelod o staff i amddiffyn dysgwyr. Os bydd athro/athrawes, gweithiwr iechyd proffesiynol neu unrhyw ymarferydd arall yn yr ystafell ddosbarth yn clywed neu’n gweld rhywbeth yn ystod gwersi ARhPh sy’n awgrymu bod dysgwr mewn perygl o gael ei niweidio’n ddifrifol neu o beri niwed difrifol i eraill, rhaid iddyn nhw rannu’r wybodaeth honno â’r aelod staff dynodedig sy’n gyfrifol am ddiogelu ac amddiffyn plant. Cynghorir pob ysgol i lunio polisi cyfrinachedd clir sy’n sicrhau arfer cyson drwy’r holl ysgol. Dylid hysbysu dysgwyr, athrawon a rhieni/gofalwyr ynghylch polisi cyfrinachedd yr ysgol a deall sut mae’n gweithio’n ymarferol i ddiogelu dysgwyr a staff. Dylai polisi:

    • sicrhau bod dysgwyr yn gwybod na all athrawon a gweithwyr proffesiynol eraill gynnig nac addo cyfrinachedd diamod, yn enwedig mewn perthynas â datgeliadau personol • sicrhau dysgwyr y gwarchodir eu buddiannau pennaf• annog dysgwyr i siarad â’u rhieni/gofalwyr, os oes modd, a’u cefnogi i wneud hynny • sicrhau yr hysbysir dysgwyr am ffynonellau cymorth cyfrinachol, er enghraifft, y nyrs ysgol, cwnselydd yr ysgol, meddyg teulu neu wasanaeth iechyd rhywiol ar gyfer pobl ifanc • hybu’r defnydd o reolau sylfaenol mewn gwersi er mwyn gosod terfynau • cychwyn gweithdrefnau’r ysgol ar gyfer diogelu ac amddiffyn plant os oes unrhyw bosibilrwydd o gamdriniaeth.

  • 12

    Addysg rhyw a pherthnasoedd mewn ysgolion

    Dyddiad cyhoeddi: Medi 2010

    Datgelu materion personol

    2.22 Mae’n bosibl bydd dysgwyr am drafod materion iechyd rhywiol sy’n deillio o ddysgu am bynciau ARhPh gydag aelod o staff maen nhw’n ymddiried ynddo. Dylai ysgolion egluro wrth ddysgwyr yr hyn fydd yn digwydd i unrhyw wybodaeth bersonol a ddatgelir ganddyn nhw.

    2.23 Gall dysgwyr ddatgelu materion personol mewn lle neu ar amser lle mae’n anodd i’r athro/athrawes drafod y mater mewn modd priodol gyda’r dysgwr. Os bydd hyn yn digwydd, dylai’r athro/athrawes:

    • ddilyn polisi cyfrinachedd ac, os oes angen, trefniadau amddiffyn plant, yr ysgol yn eu trafodaethau gyda’r dysgwr • mynegi’n glir wrth y dysgwyr na all addo cyfrinachedd diamod• sicrhau bod y dysgwyr yn deall y dywedir wrthyn nhw’n gyntaf os bydd yn rhaid torri cyfrinachedd.

    Ysgolion cynradd

    2.24 Ar adegau prin, gall plentyn oedran cynradd ddweud wrth athro/athrawes ei fod yn cael rhyw neu’n ystyried gwneud hynny. Mae hyn yn fater amddiffyn plant. Mewn achosion o’r fath, dylai’r athro/athrawes bob amser gysylltu â’r aelod staff dynodedig sy’n gyfrifol am ddiogelu ac amddiffyn plant. Dylai’r aelod staff dynodedig wneud trefniadau sensitif i fynd i’r afael â’r materion amddiffyn plant, yn unol â pholisïau diogelu ac amddiffyn plant y cytunwyd arnyn nhw’n lleol, a sicrhau y darperir cymorth i’r plentyn a’i deulu.

    Ysgolion uwchradd

    2.25 Os yw’r ARhPh yn effeithiol, dylai alluogi ac annog dysgwyr i siarad ag oedolion maen nhw’n ymddiried ynddyn nhw os ydyn nhw’n cael rhyw neu’n ystyried gwneud hynny. Mae’n ddymunol mai rhiant/gofalwr yr unigolyn ifanc yw’r oedolyn hwnnw, er nad yw hyn bob amser yn bosibl. Gall gweithwyr iechyd proffesiynol weld, ac mewn rhai amgylchiadau roi triniaeth, i bobl ifanc yn gyfrinachol. Yn rhan o’r broses hon dylid cwnsela’r unigolyn ynghylch sut i siarad â rhieni/gofalwyr.

    2.26 Os yw dysgwr yn dweud wrth athro/athrawes ysgol uwchradd ei fod yn cael rhyw, neu’n ystyried gwneud hynny, dylai’r athro/athrawes:

    • os oes modd, annog y dysgwr i siarad â rhiant/gofalwr• cymryd camau i sicrhau bod y dysgwr wedi derbyn digon o gyngor a gwybodaeth am atal cenhedlu, gan gynnwys gwybodaeth fanwl ynglŷn ag ymhle mae gwasanaethau iechyd rhywiol ar gael i bobl ifanc

  • 13

    Addysg rhyw a pherthnasoedd mewn ysgolion

    Dyddiad cyhoeddi: Medi 2010

    • trafod unrhyw faterion sy’n ymwneud ag amddiffyn plant gyda’r aelod staff dynodedig sy’n gyfrifol am amddiffyn plant.

    2.27 Dim ond yn achlysurol dylai ysgolion orfod trin gwybodaeth o’r fath yn ddiarwybod i rieni. Os bydd hyn yn gysylltiedig â dysgwyr iau, bydd hynny’n sail dros bryderu’n ddifrifol. Dylai penaethiaid a chyrff llywodraethu fonitro pa mor aml mae’r achosion hyn yn codi.

    2.28 Os cyfyd achosion o’r fath yn aml, mae’n bosibl bod hyn yn dangos nad yw dysgwyr yn gwybod ble i gael cyngor meddygol cyfrinachol neu nad oes ganddyn nhw hyder ynddo. Dylid mynd i’r afael â hyn yn rhaglen ARhPh yr ysgol a dylid cyfeirio unrhyw batrymau sy’n ymddangos at y rhai sy’n gyfrifol am gynllunio gwasanaethau iechyd rhywiol i bobl ifanc yn lleol fel y Bartneriaeth Plant a Phobl Ifanc.

    Gweithwyr iechyd proffesiynol

    2.29 Mae gweithwyr iechyd proffesiynol yn ymrwymedig i’w codau ymddygiad proffesiynol. Er hynny, dylai gweithwyr iechyd proffesiynol sy’n gweithio mewn ysgolion fod yn gyfarwydd â pholisïau cyfrinachedd ac addysg rhyw yr ysgol a chadw mewn cof pa mor bwysig yw cydymffurfio â nhw. Hefyd, dylai gweithwyr iechyd proffesiynol geisio gwarchod preifatrwydd ac atal dysgwyr rhag datgelu gwybodaeth bersonol amhriodol yn yr ystafell ddosbarth.

    2.30 Y tu allan i’r sefyllfa addysgu, gall gweithwyr iechyd proffesiynol:

    • roi cyngor neu wybodaeth un wrth un i ddysgwr ar faterion sy’n ymwneud ag iechyd, gan gynnwys atal cenhedlu • arfer eu barn broffesiynol eu hunain ynghylch a yw unigolyn ifanc yn ddigon aeddfed i gydsynio i driniaeth feddygol gan gynnwys triniaeth atal cenhedlu. Seilir y meini prawf ar gyfer gwneud penderfyniad o’r fath ar ’Ganllawiau Fraser’2 a ‘Chanllawiau Axon’.

    Diogelu ac amddiffyn plant

    2.31 Dylai ysgolion sicrhau eu bod yn gyfarwydd â’r gweithdrefnau a nodir yng Nghylchlythyr Llywodraeth Cynulliad Cymru Rhif: 005/2008, Diogelu Plant mewn Addysg – Rôl awdurdodau lleol a chyrff llywodraethu o dan Ddeddf Addysg 2002. Mae’r canllaw hwn yn rhan o fframwaith ehangach Llywodraeth Cynulliad Cymru er

    2 ‘Canllawiau Fraser’ i feddygon ar roi cyngor neu driniaeth atal cenhedlu i bobl ifanc o dan 16 oed – gweler Atodiad A (tudalen 33)

  • 14

    Addysg rhyw a pherthnasoedd mewn ysgolion

    Dyddiad cyhoeddi: Medi 2010

    mwyn diogelu a hyrwyddo lles plant. Mae Diogelu Plant: Gweithio gyda’n Gilydd o dan Ddeddf Plant 2004 (Mawrth 2007) yn sefydlu’r gyfundrefn gyffredinol ar gyfer diogelu plant a swyddogaethau asiantaethau amrywiol. Dylid darllen y dogfennau canllaw hyn hefyd ar y cyd â Gweithdrefnau Amddiffyn Plant Cymru Gyfan (Ebrill 2008).

    2.32 Ni all dysgwyr ddysgu’n effeithiol os ydyn nhw’n dioddef, neu mewn perygl o ddioddef, camdriniaeth rhywiol yn y cartref neu yn rhywle arall. Mae ganddyn nhw hawl i ddisgwyl i’r ysgol fod yn amgylchedd diogel. Dylai’r staff sylwi os ydyn nhw’n bryderus neu’n ofnus.

    2.33 Dylai’r holl aelodau o staff sy’n sylwi ar neu’n pryderu am les neu ddiogelwch dysgwr, neu ddysgwyr, wybod:

    • pryd a sut i gyfeirio’r mater i wasanaethau cymdeithasol plant yr awdurdod lleol • pa wasanaethau sydd ar gael yn lleol a sut i gael mynediad atyn nhw • pa ffynonellau sydd ar gael am gyngor pellach ac arbenigedd• pwy i gysylltu â nhw ym mha amgylchiadau, a sut i ddilyn gweithdrefnau.

    2.34 Pwrpas Cylchlythyr 005/2008 yw cynorthwyo ysgolion i sefydlu trefniadau effeithiol i ddiogelu a hyrwyddo lles eu dysgwyr, gan sicrhau bod:

    • polisi a gweithdrefnau amddiffyn plant wedi’u sefydlu’n unol â chyfarwyddyd yr awdurdod lleol a gweithdrefnau y cytunwyd arnyn nhw’n lleol rhwng asiantaethau• aelod uwch o staff yn cymryd cyfrifoldeb arweiniol am ymdrin â materion amddiffyn plant, gan roi cyngor a chefnogaeth i aelodau eraill o staff, cysylltu â’r awdurdod lleol a chydweithio ag asiantaethau eraill • yr holl staff, p’un a ydyn nhw’n addysgu ai peidio, yn derbyn hyfforddiant priodol i’w galluogi i gyflawni’u cyfrifoldebau diogelu yn effeithiol.

    2.35 Dylai staff mewn ysgolion gael cyfle bob amser i drafod pryderon ynghylch lles plentyn gyda chydweithwyr, rheolwyr, gweithiwr proffesiynol dynodedig neu benodol, neu asiantaethau arall, ac i gael cyngor ganddyn nhw. Byddai hyn yn cynnwys pryd a sut dylid cysylltu ag adran gwasanaethau cymdeithasol yr awdurdod lleol.

  • 15

    Addysg rhyw a pherthnasoedd mewn ysgolion

    Dyddiad cyhoeddi: Medi 2010

    Datblygu addysg rhyw a pherthnasoedd effeithiol

    Mae’r adran hon yn bennaf ar gyfer ymarferwyr sy’n gyfrifol am gydlynu a darparu ARhPh. Mae’n cynnig:

    • cyfarwyddyd penodol ar gyfer ysgolion cynradd, uwchradd ac arbennig • strategaethau dysgu ac addysgu effeithiol• cyngor am faterion a allai fod yn sensitif y gallai athrawon fod yn ymdrin â nhw wrth gyflwyno ARhPh.

    ARhPh mewn ysgolion cynradd

    3.1 Rhaid i ysgolion cynradd yng Nghymru fod â pholisi addysg rhyw cyfredol. Y corff llywodraethu, mewn ymgynghoriad â’r pennaeth, sydd i sicrhau bod y polisi’n ystyried holl anghenion y dysgwyr.

    3.2 Rhaid i ysgolion cynradd gyflwyno addysg rhyw fel mae wedi’i chynnwys yng nghwricwlwm cenedlaethol Cymru, er enghraifft yn y gorchymyn pwnc gwyddoniaeth. Caiff ysgolion cynradd gyflwyno rhaglen ARhPh ehangach, ond mater i gorff llywodraethu’r ysgol yw penderfynu a yw’n dymuno gwneud hynny.

    3.3 Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru’n argymell bod gan bob ysgol gynradd raglen ARhPh raddedig sy’n briodol o ran oedran, ac sy’n pwysleisio’r agweddau cymdeithasol ac emosiynol mewn perthnasoedd. Bydd hyn yn cynorthwyo ysgolion i gefnogi datblygiad emosiynol a chorfforol parhaus y dysgwyr yn effeithiol.

    3.4 Dylai addysg am berthnasoedd i ddysgwyr 3 i 7 oed ganolbwyntio ar feithrin hunan-barch drwy annog dysgwyr:

    • i’w gwerthfawrogi eu hunain• i gydnabod a mynegi’u teimladau• i wneud ffrindiau a meithrin perthnasoedd.

    3.5 Dylai ARhPh gynorthwyo dysgwyr 7 i 11 oed i ddeall:

    • y rhesymau dros y newidiadau corfforol ac emosiynol sy’n digwydd yn ystod y glasoed gan gynnwys cenhedliad, beichiogrwydd a genedigaeth • ystod eu teimladau a’u hemosiynau eu hunain a theimladau ac emosiynau pobl eraill • pwysigrwydd diogelwch personol a beth dylid ei wneud neu at bwy dylid mynd pan na fyddan nhw’n teimlo’n ddiogel.

  • 16

    Addysg rhyw a pherthnasoedd mewn ysgolion

    Dyddiad cyhoeddi: Medi 2010

    3.6 Dylai ysgolion cynradd:

    • ystyried sut i gynnwys dysgwyr wrth ddatblygu ac adolygu’r polisi addysg rhyw ac wrth fonitro effeithlonrwydd y rhaglen ARhPh • trafod cynnwys ARhPh gyda rhieni/gofalwyr• cynnig cefnogaeth i rieni/gofalwyr siarad â’u plant am ryw a pherthnasoedd a sut i gysylltu hynny â’r hyn a addysgir yn yr ysgol • sefydlu terfynau clir ynglŷn â’r hyn dylid ei addysgu cyn i ddysgwyr symud i’r ysgol uwchradd • cyfathrebu ag ysgolion uwchradd cysylltiedig er mwyn sicrhau cysondeb o ran ymagwedd a dilyniant priodol mewn ARhPh rhwng ysgolion.

    ARhPh mewn ysgolion uwchradd (a lleoliadau addysg eraill sy’n derbyn dysgwyr oedran ysgol uwchradd, e.e. Unedau Cyfeirio Disgyblion)

    3.7 Rhaid i ysgolion uwchradd yng Nghymru:

    • fod â pholisi addysg rhyw cyfredol• cynnwys, fel rhan o’r cwricwlwm sylfaenol, addysg rhyw ar gyfer pob disgybl sydd ar gofrestr yr ysgol.

    3.8 Dylai ysgolion uwchradd:

    • ddarparu rhaglen ARhPh fel rhan o’u darpariaeth ABCh• sicrhau yr ystyrir anghenion yr holl ddysgwyr• mynd i’r afael ag agweddau emosiynol, corfforol a chymdeithasol ARhPh i’r un graddau • cydnabod y newidiadau a’r ansicrwydd y mae pobl ifanc yn eu profi yn eu glasoed wrth i’w hunaniaeth rywiol ddatblygu, ac ymateb i hynny • rhoi cyfleoedd ystyrlon i drafod teimladau, perthnasoedd a gwerthoedd • gosod ARhPh o fewn cyd-destun ehangach datblygu hunan-barch a chyfrifoldeb am ganlyniadau eich gweithredoedd.

    3.9 Dylid cynorthwyo dysgwyr i:

    • ddeall pwysigrwydd perthnasoedd sefydlog, diogel a chariadus • meithrin agwedd gyfrifol tuag at berthnasoedd rhywiol• deall cyfreithiau’n ymwneud ag ymddygiad rhywiol• cydnabod canlyniadau a risgiau gweithgarwch rhywiol, gan gynnwys beichiogrwydd anfwriadol a heintiau a drosglwyddir yn rhywiol (STIs)

  • 17

    Addysg rhyw a pherthnasoedd mewn ysgolion

    Dyddiad cyhoeddi: Medi 2010

    • deall y cysylltiadau â mathau eraill o ymddygiad ag elfen o risg, gan gynnwys risgiau posibl cymdeithasu ar-lein • cydnabod dylanwadau diwylliannol a chymdeithasol ac ymwrthod â phwysau diangen • dod i delerau’n hyderus â datblygiad eu hunaniaeth rhywiol • gwybod am ddulliau atal cenhedlu ac atal heintiau a drosglwyddir yn rhywiol, a ble i’w cael • deall cyfrifoldebau rhieni• gwybod sut i gael gwybodaeth gyson a phriodol am iechyd a lles rhywiol o amrywiaeth o asiantaethau.

    3.10 Mae addysgu o ansawdd uchel yn ffactor pwysig wrth sicrhau bod rhaglenni ARhPh yn diwallu anghenion y dysgwyr. Ymysg yr arferion mwyaf effeithiol, mae gan ysgolion uwchradd amser penodol ABCh o fewn y cwricwlwm, lle cyflwynir ARhPh drwy ymagwedd fodiwlaidd gan dimau arbenigol o athrawon hyfforddedig a hyderus, ac ychwanegir at hyn drwy gynnwys gweithwyr iechyd proffesiynol o’r gymuned.

    3.11 Dylai ysgolion uwchradd:

    • gyfathrebu ag ysgolion cynradd cysylltiedig i sicrhau cyfnewid gwybodaeth, cysondeb o ran ymagwedd a dilyniant priodol mewn ARhPh rhwng ysgolion • ymgynghori â dysgwyr ynglŷn â holl agweddau’r rhaglen ARhPh ac wrth ddatblygu ac adolygu’r polisi addysg rhyw • trafod cynnwys ARhPh a’r adnoddau a ddefnyddir i ddarparu’r rhaglen â rhieni/gofalwyr • cynnig cefnogaeth i rieni/gofalwyr siarad â’u plant am ryw a pherthnasoedd a sut i gysylltu hynny â’r hyn a addysgir yn yr ysgol.

    ARhPh mewn ysgolion arbennig

    3.12 Dylai ysgolion sy’n addysgu dysgwyr ag anghenion dysgu cymedrol, difrifol, dwys a lluosog ystyried sut orau i ddiwallu anghenion yr holl ddysgwyr na fydd eu dealltwriaeth o faterion iechyd a lles rhywiol o bosib yn cyfateb â’u datblygiad corfforol.

    3.13 Rhaid i ysgolion arbennig yng Nghymru:

    • fod â pholisi addysg rhyw cyfredol• cynnwys, fel rhan o’r cwricwlwm sylfaenol, addysg rhyw ar gyfer pob disgybl oedran uwchradd sydd ar gofrestr yr ysgol.

  • 18

    Addysg rhyw a pherthnasoedd mewn ysgolion

    Dyddiad cyhoeddi: Medi 2010

    3.14 Dylai’r holl staff, gan gynnwys staff ategol, ffisiotherapyddion, nyrsys a gofalwyr fod yn ymwybodol o bolisi’r ysgol ar addysg rhyw wrth weithio gyda dysgwyr sydd ag anghenion dysgu ychwanegol.

    3.15 Dylai ysgolion arbennig:

    • ddarparu rhaglen ARhPh fel rhan o’u darpariaeth ABCh• sicrhau yr ystyrir anghenion yr holl ddysgwyr• ystyried beth yw’r ffordd orau o gynnwys dysgwyr mewn trafodaethau ystyrlon am y rhaglen ARhPh • mynd i’r afael ag agweddau emosiynol, corfforol a chymdeithasol ARhPh i’r un graddau • cydnabod y newidiadau a’r ansicrwydd mae pobl ifanc yn eu profi yn eu glasoed wrth i’w hunaniaeth rywiol ddatblygu, ac ymateb i hynny • rhoi cyfleoedd ystyrlon i drafod teimladau, perthnasoedd a gwerthoedd • gosod ARhPh o fewn cyd-destun ehangach datblygu hunan-barch a chyfrifoldeb am ganlyniadau eich gweithredoedd • disgrifio sut byddan nhw’n cynnwys ac yn cydweithio’n agos â rhieni/gofalwyr.

    3.16 Dylai’r ddarpariaeth ARhPh fod yn elfen gynlluniedig ac integredig o’r cwricwlwm, gyda chydlynu effeithiol i sicrhau parhad a dilyniant yn yr hyn a ddysgir ar draws y cyfnodau allweddol. Dylai ysgolion arbennig benderfynu ar union gynnwys y rhaglen ARhPh a strategaethau dysgu a fabwysiedir er mwyn diwallu anghenion amrywiol y dysgwyr. Er enghraifft, ar gyfer dysgwyr sy’n defnyddio dulliau eraill o gyfathrebu, fel arwyddo, symbolau ac/neu switsys a chymhorthion cyfathrebu, bydd angen i ysgolion sicrhau bod yr holl staff yn gyfarwydd â thermau ARhPh mewn Makaton, Braille ac Iaith Arwyddo Prydain neu ba bynnag ddulliau eraill o gyfathrebu a ddefnyddir.

    3.17 Mae addysgu o ansawdd uchel yn ffactor pwysig wrth sicrhau bod rhaglenni ARhPh yn diwallu anghenion yr holl ddysgwyr. Ymysg yr arferion mwyaf effeithiol mewn ysgolion arbennig, cyflwynir ARhPh gan athrawon hyfforddedig a hyderus, ac ychwanegir at hyn drwy gynnwys gweithwyr iechyd proffesiynol o’r gymuned.

    3.18 Dylai athrawon gynllunio ymagweddau ARhPh priodol er mwyn diwallu anghenion dysgwyr sydd ag anghenion dysgu dwys a lluosog. Mae’n bosibl hefyd bydd ar ddysgwyr angen cefnogaeth ychwanegol mewn grwpiau bychain a sesiynau un wrth un er mwyn atgyfnerthu’r hyn a ddysgwyd am ARhPh.

  • 19

    Addysg rhyw a pherthnasoedd mewn ysgolion

    Dyddiad cyhoeddi: Medi 2010

    Strategaethau dysgu ac addysgu ARhPh

    3.19 Dylai ysgolion ddarparu amgylcheddau dysgu cefnogol, lle gellir cynnal trafodaethau agored ac anfeirniadol am berthnasoedd, rhyw, iechyd a lles rhywiol a rhywioldeb. Dyma rai o’r nodweddion a geir mewn rhaglenni ARhPh effeithiol:

    • darparu o fewn fframwaith gwerthoedd eglur a phenodol sy’n cynnwys parch y naill at y llall, hawliau, cyfrifoldebau, cydraddoldeb rhywiol a derbyn amrywiaeth • pwyslais ar feithrin sgiliau gyda dulliau addysgu cyfranogol sy’n hyrwyddo sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol • gweithgareddau sy’n addas ar gyfer yr oedran dan sylw, sy’n cynnwys bechgyn a merched, sy’n adeiladu ar yr hyn a ddysgwyd neu a brofwyd yn flaenorol, ac sy’n mynd i’r afael â dylanwadau o du cymdeithas, cyfoedion a’r cyfryngau • partneriaeth rhwng dysgwyr, yr ysgol a rhieni/gofalwyr.

    Mae ar athrawon angen hyfforddiant a chefnogaeth i gyflwyno ARhPh yn hyderus ac mewn modd sensitif. Dylai ysgolion ystyried sut fydd anghenion datblygiad proffesiynol ARhPh yn cael eu diwallu.

    Dylai dysgu ac addysgu’n effeithiol am ARhPh gynnwys y strategaethau canlynol.

    Rheolau sylfaenol

    3.20 Mae llunio rheolau sylfaenol yn rhan o bolisi’r ysgol ar addysg rhyw, neu’n unigol gyda phob dosbarth neu grŵp blwyddyn, yn sefydlu terfynau clir ynglŷn â’r hyn sy’n briodol neu’n amhriodol yn yr ystafell ddosbarth. Yn ei dro, mae hyn yn helpu i greu cydbwysedd rhwng sicrhau bod dysgwyr yn teimlo’n ddiogel ac fel pe baen nhw’n cael eu parchu, a gwarchod preifatrwydd yr unigolyn. Dyma rai enghreifftiau:

    • bydd pawb yn cael eu trin â pharch• rhaid i unrhyw gwestiynau fod yn addas ar gyfer yr amgylchedd dysgu • byddwn (yr athro/athrawes neu’r dysgwr) yn osgoi rhannu gwybodaeth bersonol • byddwn oll yn herio rhagfarn yn gyson a byddwn oll yn parchu amrywiaeth • byddwn yn defnyddio’r geiriau cywir ar gyfer rhannau o’r corff a gweithgarwch rhywiol.

  • 20

    Addysg rhyw a pherthnasoedd mewn ysgolion

    Dyddiad cyhoeddi: Medi 2010

    3.21 Mae cael cyfres o reolau sylfaenol cytunedig yn gosod terfynau clir. Dylai leihau’r tebygolrwydd bydd gwybodaeth yn cael ei datgelu’n annisgwyl neu y ceir sylwadau amhriodol yn yr ystafell ddosbarth. Er hynny, mae angen hyfforddiant a chefnogaeth ar athrawon i’w paratoi ar gyfer yr annisgwyl. Er enghraifft:

    • os bydd cwestiwn yn rhy bersonol neu gras, dylai’r athro/athrawes atgoffa’r dysgwr o’r rheolau sylfaenol. Os bydd angen cefnogaeth bellach ar y dysgwr, gall yr athro/athrawes ei gyfeirio at unigolyn addas, fel eu rhiant/gofalwr, cwnselydd ysgol, nyrs ysgol neu asiantaeth neu wasanaeth allanol • os nad yw athro/athrawes yn gwybod yr ateb i gwestiwn, mae’n bwysig cydnabod hynny a dylen nhw ymchwilio i’r mater yn nes ymlaen • os bydd cwestiwn yn teimlo’n ’rhy hen’ ar gyfer y dysgwr, yn anaddas ar gyfer y dosbarth cyfan, neu os yw’n codi pryderon am gam-drin rhywiol, dylai’r athro/athrawes ei gydnabod ac addo ei drafod gyda’r dysgwr yn unigol yn nes ymlaen. Drwy wneud hyn, bydd y dysgwr yn teimlo fel pe bai wedi cael ei drin â pharch ond ni fydd gwybodaeth bersonol amhriodol wedi cael ei rhannu â gweddill y dosbarth • gall blwch cwestiynau dienw helpu dysgwyr i ofyn cwestiynau bydden nhw’n teimlo’n anghyffyrddus yn eu trafod fel arall.

    Gweler 2.21–2.35 i gael gwybodaeth bellach ar weithdrefnau cyfrinachedd, datgelu materion personol, diogelu ac amddiffyn plant.

    Technegau ymbellhau

    3.22 Dylai athrawon warchod preifatrwydd dysgwyr drwy ddadbersonoleiddio trafodaethau bob amser. Nid yw’n arfer da i athrawon egluro gweithgareddau dysgu drwy ddefnyddio profiadau personol. Bydd technegau ymbellhau’n helpu dysgwyr i drafod materion sensitif ac i feithrin sgiliau i wneud penderfyniadau mewn amgylchedd ’diogel’ – er enghraifft:

    • chwarae rôl, a all helpu dysgwyr ymarfer sgiliau ac ymddygiad • defnyddio deunyddiau sbardunol fel ffotograffau, hysbysebion, erthyglau papur newydd • astudiaethau achos sy’n cynnwys cymeriadau ffug gall dysgwyr berthnasu â nhw • deunyddiau DVD priodol• ymweliadau gan grwpiau theatr addysg.

  • 21

    Addysg rhyw a pherthnasoedd mewn ysgolion

    Dyddiad cyhoeddi: Medi 2010

    Trafodaeth

    3.23 Bydd trafodaethau sydd wedi’u cynllunio’n dda mewn grwpiau bychain/mawr neu’n cynnwys y dosbarth cyfan yn galluogi’r holl ddysgwyr i archwilio barn bersonol, egluro gwerthoedd a mynegi teimladau. Mae gweithgareddau fel amser cylch, continwwm gwerthoedd, adrodd yn ôl a dadleuon strwythuredig yn galluogi dysgwyr i fynegi a rhannu eu safbwyntiau ag eraill.

    Addysg cyfoedion

    3.24 Cydnabyddir bod addysg cyfoedion yn cael effaith gadarnhaol ar agweddau ac ymddygiad dysgwyr. Dylai ysgolion uwchradd ystyried hyfforddi a defnyddio dysgwyr fel addysgwyr cyfoed er mwyn darparu’r rhaglen ARhPh. Ategu rôl athrawon hyfforddedig ddylai addysgwyr cyfoed ei wneud yn hytrach na’u disodli nhw.

    Myfyrio

    3.25 Mae cwestiynau penagored a thechnegau asesu ar gyfer dysgu’n annog dysgwyr i fyfyrio, a’u cynorthwyo i feddwl am yr hyn maen nhw wedi’i ddysgu a’r sgiliau maen nhw wedi’u meithrin.

    Cyfeirio

    3.26 Dylai rhaglenni ARhPh ddarparu gwybodaeth i ddysgwyr sy’n briodol i’w hoedran ynglŷn â’r gwasanaethau gallan nhw eu defnyddio, gan gynnwys llinellau cymorth, gwefannau a chyngor a gwasanaethau iechyd rhywiol lleol.

    Addysgu am faterion iechyd a lles rhywiol penodol

    3.27 Efallai bydd angen sicrhau dysgwyr a rhieni/gofalwyr na fydd cred nac agweddau personol yr athrawon yn dylanwadu ar y ffordd caiff ARhPh ei chyflwyno. Disgwylir i’r athrawon a phawb arall sy’n cyfrannu at ARhPh weithio o fewn y fframwaith gwerthoedd cytunedig a ddisgrifir ym mholisi’r ysgol ar addysg rhyw.

    3.28 Os bydd mater yn codi a ystyrir yn fater sensitif gan gymdeithas, dylai athrawon drafod y rhesymau am hyn. Drwy archwilio safbwyntiau amrywiol, o fewn y terfynau a bennwyd ym mholisi’r ysgol ar addysg rhyw, galluogir dysgwyr i benderfynu ar eu safbwyntiau eu hunain.

    Dyma rai materion penodol gellid eu trafod mewn ARhPh.

  • 22

    Addysg rhyw a pherthnasoedd mewn ysgolion

    Dyddiad cyhoeddi: Medi 2010

    Enwau ar rannau o’r corff

    3.29 Gan fod disgwyl i ddysgwyr oedran cynradd ddysgu enwau a swyddogaethau prif rannau’r corff dynol, mae’n ddefnyddiol cadarnhau’r iaith briodol a ddefnyddir wrth gyflwyno’r rhaglen ARhPh. Mae angen sicrhau bod y termau allweddol a ddefnyddir gyda dysgwyr yn gyson ymysg yr holl staff. Bydd cynnwys rhieni/gofalwyr yn sicrhau cysondeb gartref.

    Cyffwrdd priodol/amhriodol

    3.30 Agwedd bwysig o ARhPh yw dysgu am yr ymddygiad sy’n dderbyniol mewn sefyllfaoedd amrywiol. Mae’r fframwaith ABCh yn awgrymu dylid rhoi cyfleoedd, yn ystod Cyfnod Allweddol 2, i ddysgwyr ddeall sut i wahaniaethu rhwng cyffwrdd priodol ac amhriodol. Gwneir hyn er mwyn gwneud plant yn llai agored i gael eu cam-drin, ac i sicrhau nad ydyn nhw eu hunain yn cam-drin eraill.

    3.31 Dylid sicrhau bod dysgwyr yn ymwybodol o sefyllfaoedd lle nad oes rhaid iddyn nhw guddio’u teimladau. Er enghraifft pan fydd angen iddyn nhw eu hamddiffyn eu hunain rhag niwed, neu pan fydd rhywun arall yn eu cyffwrdd mewn ffordd sy’n gwneud iddyn nhw deimlo’n anghyfforddus. Dylai ysgolion sicrhau bod dysgwyr yn:

    • gwybod dylen nhw siarad ag oedolyn maen nhw’n ymddiried ynddo ynglŷn ag unrhyw beth sy’n eu poeni• cael gwybodaeth am amrywiaeth o rifau ffôn llinellau cymorth, gwefannau a sefydliadau perthnasol.

    Diogelwch ar-lein

    3.32 Mae’r fframwaith ABCh yn pwysleisio pa mor bwysig yw hi i ddysgwyr ddeall pob agwedd ar ddiogelwch personol. Mae’r rhyngrwyd yn rhan annatod o fywyd nifer o ddysgwyr. Wrth i’r cyfleoedd i gymdeithasu ar-lein gynyddu, mae angen i blant a phobl ifanc wybod sut i ddefnyddio’r rhyngrwyd a thechnoleg ffonau symudol yn ddiogel a chyfrifol. Yn benodol, mae angen i ddysgwyr fod yn ymwybodol o’r canlynol:

    • y risgiau posibl sy’n gysylltiedig â’r amgylchedd ar-lein• beth i’w wneud a phwy i gysylltu â nhw os ydyn nhw’n teimlo’u bod mewn perygl.

    Dylai ysgolion sicrhau bod gan ddysgwyr fynediad at amrywiaeth o rifau ffôn llinellau cymorth, gwefannau a sefydliadau perthnasol.

  • 23

    Addysg rhyw a pherthnasoedd mewn ysgolion

    Dyddiad cyhoeddi: Medi 2010

    Glasoed

    3.33 Mae’n bwysig bod pob dysgwr yn gwybod beth sy’n digwydd yn ystod eu glasoed cyn iddyn nhw ddechrau profi newidiadau corfforol. Bydd angen i ysgolion benderfynu beth yw’r oedran priodol i wneud hynny, mewn ymgynghoriad â rhieni/gofalwyr.

    3.34 Mae’r fframwaith ABCh yn awgrymu y dylid rhoi cyfleoedd, yn ystod Cyfnod Allweddol 2, i ddysgwyr ddeall y rhesymau dros y newidiadau corfforol ac emosiynol sy’n digwydd yn ystod glasoed, gan gynnwys cenhedliad, beichiogrwydd a genedigaeth.

    Y mislif

    3.35 Dylid paratoi merched ar gyfer y mislif, a dylid cynnwys hyn mewn rhaglenni ARhPh ysgolion cynradd. Dylai bechgyn ddysgu am y mislif hefyd.

    3.36 Dylai ysgolion cynradd bennu terfynau clir ar gyfer yr hyn a addysgir yn yr ystafell ddosbarth a’r hyn a drafodir yn unigol.

    3.37 Dylai ysgolion wneud trefniadau digonol a sensitif i helpu merched i ymdopi â’r mislif ac â cheisiadau am damponau neu dyweli fislif. Dylai cyfleusterau gwaredu addas fod ar gael yn rhwydd mewn man priodol.

    Dylanwadau cymdeithasol

    3.38 Mae plant a phobl ifanc yn profi llawer o bwysau amrywiol a rhai sy’n gwrthdaro â’i gilydd. Mae ARhPh o ansawdd yn helpu dysgwyr i:

    • wneud synnwyr o’r negeseuon a’r delweddau rhywiol maen nhw’n ei brofi yn eu bywyd dyddiol • canfod y gwahaniaeth rhwng ffuglen a gwybodaeth ffeithiol gywir • datblygu’r sgiliau a’r dealltwriaeth i herio negeseuon negatif neu wyrgam yn y cyfryngau ynglŷn â pherthnasoedd, rolau’r rhywiau, delwedd gorfforol ac arbrofi rhywiol • defnyddio’r cyfryngau fel offeryn i gefnogi eu dysgu.

  • 24

    Addysg rhyw a pherthnasoedd mewn ysgolion

    Dyddiad cyhoeddi: Medi 2010

    Atal cenhedlu

    3.39 Mae gwybodaeth am y gwahanol ddulliau atal cenhedlu, sut i gael gafael arnyn nhw a’r cyfle i’w cael yn rhan bwysig o strategaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru i ostwng cyfraddau beichiogrwydd anfwriadol yn yr arddegau. Mae’r fframwaith ABCh yn awgrymu y dylid rhoi cyfleoedd, yn ystod Cyfnod Allweddol 3, i ddysgwyr ddeall am ddulliau atal cenhedlu o fewn cyd-destun perthnasoedd. Dylid canolbwyntio ar fanteision gohirio gweithgarwch rhywiol.

    3.40 Dylai staff addysgu ysgol uwchradd sy’n cymryd rhan yn narpariaeth y rhaglen ARhPh gael mynediad at hyfforddiant ac adnoddau cyfredol er mwyn rhoi gwybodaeth briodol i’r dysgwyr am y dulliau atal cenhedlu amrywiol, gan gynnwys dulliau atal cenhedlu brys, a pha mor effeithiol ydyn nhw.

    3.41 Mae gan bobl farn gref a chredoau cryf am atal cenhedlu ac mae’n bosibl bydd rhai ysgolion yn mabwysiadu agwedd grefyddol neilltuol at y mater drwy eu polisi addysg rhyw. Dylid parchu argyhoeddiadau crefyddol dysgwyr a’u rhieni/gofalwyr.

    Atal heintiau a drosglwyddir yn rhywiol (STIs)

    3.42 Mae STIs yn achosi llawer o afiechyd a gallan nhw effeithio ar iechyd corfforol a seicolegol yn y tymor hir. Mae dysgu am ryw mwy diogel yn un o strategaethau allweddol Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer sicrhau bod llai o bobl yn dal STIs gan gynnwys HIV/AIDS.

    3.43 Dylai addysgu am STIs, gan gynnwys HIV/AIDS, gynorthwyo dysgwyr i:

    • feithrin sgiliau pendantrwydd i’w galluogi i osgoi cael rhyw yn erbyn eu hewyllys, neu ryw heb ddiogelwch oherwydd pwysau gan eraill • cadarnhau eu gwybodaeth am STIs gan gynnwys HIV/AIDS, defnyddio condom, rhyw mwy diogel ac atal heintiau • deall y cysylltiadau â mathau eraill o ymddygiad ag elfen o risg, fel alcohol a chamddefnyddio sylweddau • cael mynediad i wasanaethau iechyd rhywiol lleol sy’n helpu i atal/trin STIs a HIV/AIDS.

  • 25

    Addysg rhyw a pherthnasoedd mewn ysgolion

    Dyddiad cyhoeddi: Medi 2010

    Erthylu

    3.44 Yr her i athrawon yw cynnal dadl yn y dosbarth sy’n sensitif i brofiadau personol y dysgwyr ac sy’n helpu’r holl ddysgwyr i:

    • ddeall beth yw erthylu• cael y sgiliau i wneud penderfyniadau gwybodus am feichiogi anfwriadol • meithrin eu sgiliau cyfathrebu a’u hyder i drafod erthylu gyda chyfoedion, rhieni/gofalwyr a gweithwyr iechyd proffesiynol • archwilio’r ystyriaethau moesegol a gwerthfawrogi dilysrwydd safbwyntiau’r naill ochr a’r llall mewn modd sy’n sicrhau nad yw barn y dysgwyr yn cael ei pholareiddio.

    Dylai ysgolion hefyd sicrhau bod ganddyn nhw drefniadau i roi cyngor wedi sesiwn a chefnogaeth bersonol i ddysgwyr unigol yn ôl y galw.

    3.45 Mae gan bobl farn gref a chredoau cryf am erthylu ac mae’n bosibl bydd rhai ysgolion yn mabwysiadu agwedd grefyddol neilltuol at y mater drwy eu polisi addysg rhyw. Dylid parchu argyhoeddiadau crefyddol dysgwyr a’u rhieni/gofalwyr.

    Camfanteisio’n rhywiol

    3.46 Mae Erthygl 34 CCUHP yn diogelu hawliau plant a phobl ifanc i gael eu hamddiffyn rhag cam-fanteisio rhywiol. Gall pob plentyn ac unigolyn ifanc fod mewn perygl o gam-fanteisio rhywiol. Mae i ysgolion ran ganolog i’w chwarae yn y gwaith o leihau’r perygl hwn. Drwy archwilio nodweddion perthnasoedd diogel ac iachus, gall ysgolion helpu dysgwyr i feithrin sgiliau i adnabod risgiau posibl, i gadw’n ddiogel ac i ofyn am gymorth os oes angen.

    3.47 Mae’r fframwaith ABCh yn darparu cyd-destunau clir i ysgolion addysgu am bob agwedd ar berthynas. Yn benodol, dylid rhoi cyfleoedd i ddysgwyr ddeall nodweddion perthnasoedd diogel a’r rhai a all arwain at gamdriniaeth, a meithrin eu sgiliau rhyngbersonol gan gynnwys trafod ymddygiad mewn perthnasoedd personol.

    3.48 Mewn ysgolion uwchradd, mae trafod pynciau, fel cam-drin domestig, priodas dan orfod, pwysau o du’r cyfryngau a’r ffordd y caiff rhywioldeb, grym ac ystrydebau rhyw eu cynrychioli, yn cynyddu gallu pobl ifanc i wneud penderfyniadau deallus. Dylid cynorthwyo dysgwyr hefyd i feithrin agwedd ac ymddygiad cadarnhaol, gan gynnwys strategaethau i reoli dicter, rhwystredigaeth a theimladau ymosodol yn effeithiol, ac i ddatrys gwrthdaro.

  • 26

    Addysg rhyw a pherthnasoedd mewn ysgolion

    Dyddiad cyhoeddi: Medi 2010

    3.49 Mae rhai dysgwyr yn fwy agored i gael eu cam-drin ac i gam-fanteisio na’u cyfoedion. Gallai eraill fod yn ansicr ynglŷn â’r hyn sy’n ymddygiad cyhoeddus derbyniol. Mae angen i bob dysgwr:

    • feithrin sgiliau i leihau’r risg o gael eu cam-drin neu o gam-fanteisio • dysgu pa fathau o ymddygiad sy’n briodol, ac sy’n amhriodol, mewn sefyllfa gyhoeddus a sefyllfa breifat.

    Cyfeiriadedd rhywiol

    3.50 Wrth annog trafodaeth agored, sy’n hyrwyddo cynhwysiant ac yn herio anghydraddoldeb, bydd ysgolion yn sicrhau caiff anghenion pob dysgwr eu diwallu. Dylai athrawon:

    • ddelio â chyfeiriadedd rhywiol mewn ffordd onest, sensitif a heb farnu • ateb cwestiynau priodol.

    Dylai ysgolion gynnig cefnogaeth ac arweiniad i bob dysgwr, ac yn arbennig i fyfyrwyr lesbiaid, hoyw a thrawsrywiol sy’n teimlo’n ansicr ynglŷn â mynegi eu rhywioldeb.

    Ceir gwybodaeth bellach ar y wefan Canllawiau ABCh (yn www.cymru.gov.uk/addysgbersonolachymdeithasol) ynglŷn â:

    • methodolegau dysgu gweithredol cydweithredol• addysgu am faterion sensitif.

  • 27

    Addysg rhyw a pherthnasoedd mewn ysgolion

    Dyddiad cyhoeddi: Medi 2010

    Mae’r adran hon yn rhoi cyfarwyddyd i ymarferwyr sy’n gyfrifol am gydlynu ARhPh ynglŷn â:

    • chydweithio â rhieni a gofalwyr• gweithio mewn partneriaeth â’r gymuned ehangach

    wrth gynllunio a chyflwyno ARhPh.

    Cydweithio â rhieni/gofalwyr

    4.1 Mae gan rieni/gofalwyr ran bwysig i’w chwarae drwy gyfleu negeseuon cadarnhaol i’w plant ynghylch rhyw a pherthnasoedd. Er enghraifft, drwy ateb cwestiynau a rhoi cyfle am drafodaeth, gall rhieni/gofalwyr bwysleisio’r neges y dylid trin a thrafod materion iechyd rhywiol mewn modd agored.

    4.2 Mae angen hysbysu rhieni/gofalwyr gallan nhw gymryd rhan weithredol yn y broses o benderfynu ar bolisi addysg rhyw yr ysgol ac mai cyflenwi a chefnogi’u rôl nhw bydd rhaglen ARhPh yr ysgol.

    4.3 Gallai’r modd yr addysgir rhai agweddau ar ARhPh achosi pryder i rai rhieni/gofalwyr. Dylai ysgolion gydweithio â rhieni/gofalwyr bob amser, gan eu hysbysu ynglŷn â chynnwys y rhaglenni ARhPh.

    4.4 Mae gan rieni/gofalwyr hawl i esgusodi’u plant o’r cyfan, neu o rannau, o’r rhaglen ARhPh a ddarperir yn yr ysgol, ac eithrio’r addysg rhyw sy’n rhan o’r cwricwlwm cenedlaethol. Trafodaeth reolaidd a phartneriaethau da â rhieni/gofalwyr yw’r trefniadau gorau ar gyfer rhai sy’n bryderus ac sy’n ystyried esgusodi’u plant o gael addysg rhyw.

    4.5 Dylai rhieni sydd am eithrio eu plant o’r cyfan neu ran o’r addysg rhyw a ddarperir mewn ysgol a gynhelir, wneud hynny yn ysgrifenedig. Dylai athrawon gadw cofnod o’r cais. Bydd yr hawl hynny mewn lle nes bydd y dysgwr yn 19 oed.

    4.6 Dylai ysgolion wneud trefniadau eraill ar gyfer dysgwyr mae eu rhieni/gofalwyr wedi penderfynu eu hesgusodi o ARhPh.

    4.7 Dylai ysgolion a rhieni/gofalwyr hefyd ddatrys sut bydd dysgwyr yn gallu dysgu gwers a gollwyd rywbryd eto, os ydyn nhw wedi colli gwersi ARhPh am unrhyw reswm ac eithrio bod eu rhieni/gofalwyr wedi’u hesgusodi.

    4.8 Dylid hefyd hysbysu rhieni/gofalwyr os bydd y gymuned ehangach yn cymryd rhan mewn unrhyw ffordd yn narpariaeth y rhaglen ARhPh.

    Gweithio mewn partneriaeth

  • 28

    Addysg rhyw a pherthnasoedd mewn ysgolion

    Dyddiad cyhoeddi: Medi 2010

    Cydweithio â’r gymuned ehangach

    4.9 Mae’r rhaglenni ARhPh mwyaf effeithiol i’w cael mewn ysgolion sy’n cydweithredu ag asiantaethau allanol. Er hynny, cyfrifoldeb yr ysgol yw rheoli’r rhaglen ARhPh ac i gynllunio’n ofalus y rhan mae partneriaid o’r gymuned yn chwarae wrth gyflwyno gwersi.

    4.10 Ni ddylid ond gwahodd pobl i’r ysgol i gynorthwyo i gyflwyno ARhPh yn rhan o raglen gynlluniedig. Dylid eu hysbysu ynghylch polisi addysg rhyw yr ysgol a dylen nhw gadw at y polisi hwnnw.

    4.11 Gall elfennau o ARhPh hefyd gael eu cyflwyno gan amrywiaeth eang o bobl, gan gynnwys gweithwyr iechyd proffesiynol, gweithwyr cymdeithasol, gweithwyr ieuenctid, addysgwyr cyfoed, cwnselwyr mewn ysgolion ac ymwelwyr. Mae partneriaid o’r gymuned yn dod â safbwynt newydd ac yn cynnig gwybodaeth, profiad ac adnoddau arbenigol. Er enghraifft, gall nyrsys ysgol roi cyngor a chymorth proffesiynol gwerthfawr i ddysgwyr a gallan nhw drefnu iddyn nhw fanteisio ar wasanaethau iechyd rhywiol.

    Gweithwyr iechyd proffesiynol

    4.12 Mae nifer o ysgolion yn cydweithio’n agos â gweithwyr iechyd proffesiynol er mwyn datblygu a gweithredu eu rhaglenni ARhPh oherwydd gallan nhw:

    • gyflenwi rôl yr athro/athrawes wrth gyflwyno ARhPh• darparu gwybodaeth benodol a chyfredol am iechyd a lles rhywiol• cynorthwyo ysgolion i weithio mewn partneriaeth â rhieni/gofalwyr • creu cysylltiadau rhwng yr ysgol a gweithwyr proffesiynol eraill perthnasol, fel meddygon teulu a gwasanaethau iechyd rhywiol lleol • hysbysu’r dysgwyr ynghylch gwasanaethau iechyd rhywiol lleol a’u cynorthwyo i feithrin sgiliau a hyder i fanteisio arnyn nhw • cynnig cymorth a chyngor unigol i’r dysgwyr.

    4.13 Dylai unrhyw gyfraniad gan weithiwr iechyd proffesiynol fod yn gydnaws â pholisi cytunedig yr ysgol ar addysg rhyw. Serch hynny, pan fyddan nhw’n cyflawni eu swyddogaeth broffesiynol, megis nyrs ysgol yn ymwneud â dysgwr unigol, rhaid iddyn nhw ddilyn eu codau ymddygiad proffesiynol nhw eu hunain, waeth pwy sydd yn eu talu. Dylai polisi addysg rhyw yr ysgol roi eglurhad clir ynglŷn â hyn i rieni/gofalwyr.

  • 29

    Addysg rhyw a pherthnasoedd mewn ysgolion

    Dyddiad cyhoeddi: Medi 2010

    Gweithwyr cymdeithasol

    4.14 Mae i weithwyr cymdeithasol a gweithwyr cymdeithasol preswyl ran bwysig yn y gwaith o wella canlyniadau i blant sy’n derbyn gofal (PDG). Mae’n hanfodol iddyn nhw weithio mewn partneriaeth â gofalwyr maeth, nyrsys PDG, cydlynwyr addysg PDG a rhieni/gofalwyr yn ogystal ag athrawon a gweithwyr iechyd proffesiynol, i wella iechyd plant a phobl ifanc sy’n derbyn gofal a’r addysg rhyw a pherthnasoedd a gyflwynir iddyn nhw.

    Gweithwyr ieuenctid

    4.15 Dylai gweithwyr ieuenctid sy’n gweithio mewn ysgolion ystyried y canllaw hwn wrth weithio gyda phobl ifanc oedran ysgol gorfodol. Dylai cyfraniad gan weithwyr ieuenctid i’r rhaglen ARhPh fod yn gydnaws â pholisi addysg rhyw yr ysgol.

    Addysgwyr cyfoed

    4.16 Addysg cyfoedion yw pobl ifanc sydd wedi’u hyfforddi i gefnogi a chyflwyno ARhPh. Mae’r ymagwedd hon ar ei mwyaf effeithiol o’i defnyddio mewn ysgolion uwchradd i gyflenwi rhaglenni a gyflwynir gan athrawon.

    4.17 Gall pobl ifanc a chanddyn nhw brofiad arbennig o fywyd ychwanegu safbwynt newydd i raglenni ARhPh. Gallai’r rhain gynnwys pobl ifanc:

    • o gefndiroedd diwylliannol gwahanol yn sôn am eu profiad o ddysgu am ryw a pherthnasoedd yn y cartref a chan y gymuned ehangach, gan gynnwys yr ysgol • yn sôn am eu profiad o fyw gydag HIV• sydd ag anableddau corfforol yn siarad â phobl ifanc eraill sydd ag anabledd.

    Yn yr un modd, gall pobl ifanc o’r fath fod yn arbennig o agored i niwed. Wrth ofyn iddyn nhw fod yn addysgwyr cyfoed dylech sicrhau nad oes perygl i hynny arwain at ddatgelu amhriodol o wybodaeth gyfrinachol, fel statws HIV person ifanc, neu iddyn nhw gael eu gwarthnodi gan eu cyfoedion.

  • 30

    Addysg rhyw a pherthnasoedd mewn ysgolion

    Dyddiad cyhoeddi: Medi 2010

    Cwnselwyr mewn ysgolion

    4.18 Er mwyn cefnogi anghenion iechyd, emosiynol a chymdeithasol dysgwyr gan arwain at ddiwylliant ysgol iach, mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi datblygu gwasanaeth cwnsela mewn ysgolion sy’n gynhwysfawr ac o safon uchel. Mae’r gwasanaeth yn annibynnol, yn ddiogel, ac yn hygyrch i holl blant a phobl ifanc yng Nghymru. Rôl y cwnselwyr mewn ysgolion yw darparu amser, cyfrinachedd a man diogel, a fydd yn annog a helpu pobl ifanc i siarad am faterion sy’n effeithio arnyn nhw ac i bennu strategaethau fydd yn eu helpu nhw i ymdopi’n fwy effeithiol. Mae’r cymorth hefyd yn cynnwys darparu gwybodaeth i ddysgwyr sy’n briodol i’w hoedran ynglŷn â’r gwasanaethau gallan nhw eu defnyddio, gan gynnwys llinellau cymorth, gwefannau a chyngor a gwasanaethau iechyd rhywiol lleol.

    Ymwelwyr eraill

    4.19 Dylai ymwelwyr ychwanegu at ddarpariaeth ARhPh cynlluniedig yr ysgol, nid cymryd ei lle. Dylai ymwelwyr sy’n cynrychioli asiantaethau allanol sy’n gweithio mewn ysgolion ystyried y cyfarwyddyd hwn wrth weithio gyda dysgwyr oedran ysgol gorfodol. Dylen nhw hefyd fod yn gyfarwydd â pholisïau addysg rhyw a chyfrinachedd yr ysgol ac yn ymwybodol o gadw atyn nhw.

    4.20 Mae angen i ddysgwyr werthfawrogi’r cyfrifoldebau a’r gofynion a ddaw o fod yn rhieni. Bydd rhai ysgolion yn defnyddio rhieni mewn modd effeithiol er mwyn rhoi argraff realistig o’u bywyd. Gallai hyn gynnwys rhieni yn eu harddegau yn sôn am eu profiad o gael plentyn ac yn cynnig cyngor a chefnogaeth i’w cyfoedion.

    Ceir cyfarwyddyd pellach ynglŷn â chydweithio â’r gymuned ehangach yn www.cymru.gov.uk/addysgbersonolachymdeithasol

  • 31

    Addysg rhyw a pherthnasoedd mewn ysgolion

    Dyddiad cyhoeddi: Medi 2010

    Atodiad A: Y fframwaith cyfreithiol

    Y diffiniad o addysg rhyw

    A.1 Yn ôl adran 579 (1) o Ddeddf Addysg 1996, mae’r diffiniad o ’addysg rhyw’ yn cynnwys addysg am:

    (a) Syndrom Diffyg Imiwnedd Caffaeledig a Feirws Imiwnoddiffygiant Dynol,

    a

    (b) unrhyw haint arall a drosglwyddir yn rhywiol.

    Polisi addysg rhyw

    A.2 O dan adran 404 o Ddeddf Addysg 1996, mae’n ofynnol i gyrff llywodraethu pob ysgol a gynhelir:

    (a) wneud, a diweddaru’n rheolaidd, ddatganiad ysgrifenedig ar wahân o’u polisi’n ymwneud â darparu addysg rhyw, a

    (b) gwneud copïau o’r datganiad a fydd ar gael i’w harchwilio (ar unrhyw adeg resymol) gan rieni plant cofrestredig yn yr ysgol a darparu copi o’r datganiad am ddim i unrhyw riant sy’n gofyn am un.

    A.3 Rhaid i’r datganiad polisi hefyd gynnwys datganiad ynghylch hawl rhieni o dan adran 405 o Ddeddf Addysg 1996 i esgusodi eu plant o gael addysg rhyw.

    Ysgolion uwchradd

    A.4 O dan adran 101(1)(c) o Ddeddf Addysg 2002, mae’n ofynnol i bob ysgol uwchradd a gynhelir cynnwys addysg rhyw ar gyfer pob disgybl sydd ar gofrestr yr ysgol fel rhan o ’gwricwlwm sylfaenol’ yr ysgol.

    Ysgolion cynradd

    A.5 Nid yw adran 101(1)(c) o Ddeddf Addysg 2002 yn ei gwneud yn ofynnol i ysgolion cynradd ddarparu addysg rhyw fel rhan o’r ’cwricwlwm sylfaenol’. Caiff ysgolion cynradd gynnig addysg rhyw ond mater i’r ysgol ei hun yw penderfynu a yw’n dymuno gwneud hynny.

  • 32

    Addysg rhyw a pherthnasoedd mewn ysgolion

    Dyddiad cyhoeddi: Medi 2010

    Ysgolion arbennig ac Unedau Cyfeirio Disgyblion

    A.6 O dan adran 101 o Ddeddf Addysg 2002, caiff ysgolion arbennig ac Unedau Cyfeirio Disgyblion a gynhelir darparu addysg rhyw ar gyfer disgyblion oedran cynradd ac mae’n rhaid iddyn nhw ei darparu ar gyfer disgyblion oedran uwchradd. Nid oes yn rhaid i ysgolion arbennig mewn ysbytai ddarparu addysg rhyw, ond os ydyn nhw’n darparu addysg uwchradd rhaid iddyn nhw gael polisi ar addysg rhyw, ac os ydyn nhw’n darparu addysg rhyw rhaid iddyn nhw ystyried y cyfarwyddyd hwn.

    Canllawiau

    A.7 Pan ddarperir addysg rhyw, mae adran 403 (1B) o Ddeddf Addysg 1996 (fel y’i diwygiwyd) yn ei gwneud yn ofynnol i brifathrawon a chyrff llywodraethu ystyried canllawiau’r Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

    A.8 Mae adran 403 (1C) yn ei gwneud yn ofynnol i ganllawiau’r Cynulliad ’gynnwys canllawiau ynghylch unrhyw ddeunyddiau y gallai un o gyrff y GIG eu cynhyrchu ar gyfer eu defnyddio mewn addysg rhyw mewn ysgolion.’

    Priodas, bywyd teuluol a deunyddiau anaddas

    A.9 Mae adran 403 o Ddeddf Addysg 1996 yn ei gwneud yn ofynnol i’r corff llywodraethu a’r pennaeth:

    gymryd pa gamau bynnag sy’n rhesymol ymarferol i sicrhau, lle bo addysg rhyw’n cael ei rhoi i unrhyw ddisgyblion cofrestredig mewn ysgol a gynhelir, ei bod yn cael ei rhoi mewn ffordd sy’n annog y disgyblion hynny i dalu’r sylw dyledus i ystyriaethau moesol a gwerth bywyd teuluol.

    A.10 Hefyd, mae adran (1A) o Adran 403 o Ddeddf Addysg 1996 yn gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru gyhoeddi canllawiau gyda’r bwriad o sicrhau, pan roddir addysg rhyw i ddisgyblion cofrestredig mewn ysgolion a gynhelir:

    (a) eu bod yn dysgu am natur priodas a’i bwysigrwydd i fywyd teuluol a magu plant, ac

    (b) eu bod yn cael eu hamddiffyn rhag dulliau dysgu a deunyddiau sy’n anaddas o ystyried oed a chefndir crefyddol neu ddiwylliannol y disgyblion dan sylw.

  • 33

    Addysg rhyw a pherthnasoedd mewn ysgolion

    Dyddiad cyhoeddi: Medi 2010

    Cyfrifoldeb rhiant/rhieni

    A.11 Mae adran 576 Deddf Addysg 1996 yn diffinio ’rhiant’ fel a ganlyn:

    (1) Yn y Ddeddf hon, onid yw’r cyd-destun yn mynnu fel arall, mae ’rhiant’, mewn perthynas â phlentyn neu unigolyn ifanc, yn cynnwys unrhyw unigolyn –

    (a) nad yw’n rhiant i’r plentyn ond sydd â chyfrifoldeb rhieni dros blentyn, neu

    (b) sy’n gofalu am y plentyn.

    Mae adran 3 (1) o Ddeddf Plant 1989 yn diffinio ’cyfrifoldeb rhieni’ fel a ganlyn:

    (1) Yn y Ddeddf hon diffinnir ’cyfrifoldeb rhieni’ fel yr holl hawliau, dyletswyddau, pwerau, cyfrifoldeb ac awdurdod sydd gan riant plentyn mewn perthynas â’r plentyn a’i eiddo yn ôl y gyfraith.

    Yn y canllawiau hyn, dylid ystyried felly bod unrhyw gyfeiriad at rieni/gofalwyr yn cynnwys pawb sydd â chyfrifoldeb fel rhiant dros blentyn, neu sy’n gofalu am blentyn.

    Eithrio disgyblion o addysg rhyw

    A.12 Mae adran 405 Deddf Addysg 1996 yn rhoi’r hawl i rieni eithrio eu plant rhag derbyn addysg rhyw yn yr ysgol, yn rhannol neu yn llwyr. Yr unig eithriad i hyn yw’r addysg rhyw sy’n rhan o’r cwricwlwm cenedlaethol.

    Os bydd rhiant unrhyw ddisgybl sy’n mynychu ysgol a gynhelir yn gofyn iddo gael ei esgusodi’n llwyr neu’n rhannol o gael addysg rhyw yn yr ysgol, esgusodir y disgybl hyd nes i’r cais gael ei dynnu’n ôl ac eithrio lle bo’r addysg yn rhan o’r Cwricwlwm Cenedlaethol.

    ‘Canllawiau Fraser’

    A.13 Ym 1985, lluniodd yr Arglwydd Fraser y canllawiau canlynol ar gyfer meddygon sy’n rhoi cyngor ar atal cenhedlu i bobl ifanc o dan 16 oed. Gwnaed hyn mewn ymateb i ddyfarniad Tŷ’r Arglwyddi yn achos Victoria Gillick v. West Norfolk and Wisbech Health Authority. Fe’u hadnabyddir fel Canllawiau Fraser ac maen nhw’n berthnasol i feddygon yng Nghymru a Lloegr.

  • 34

    Addysg rhyw a pherthnasoedd mewn ysgolion

    Dyddiad cyhoeddi: Medi 2010

    Rhaid i’r meddyg fod yn hapus bod yr holl feini prawf canlynol yn cael eu bodloni.

    • Mae’r unigolyn ifanc yn deall cyngor y meddyg.• Ni all y doctor ddwyn perswâd ar yr unigolyn ifanc i hysbysu ei rieni/rhieni, neu ganiatáu i’r meddyg hysbysu’r rhieni ei fod/bod yn gofyn am gyngor ynghylch atal cenhedlu. • Mae’n debygol iawn y bydd yr unigolyn ifanc yn dechrau neu’n parhau i gael cyfathrach rywiol p’un a yw’n derbyn triniaeth atal cenhedlu ai peidio. • Os na fydd yr unigolyn ifanc yn derbyn triniaeth atal cenhedlu, mae’n debygol bydd iechyd corfforol ac/neu feddyliol yr unigolyn ifanc hwnnw yn dioddef. • Y peth gorau i’r unigolyn ifanc fyddai rhoi cyngor ac/neu driniaeth atal cenhedlu iddo/iddi heb gydsyniad y rhieni.

    ‘Canllawiau Axon’

    A.14 Yn Axon, R (on the application of) v. Secretary of State for Health [2006] ystyriwyd Canllawiau Fraser a’u haddasu ar gyfer sefyllfaoedd lle byddai unigolion dan 16 oed yn gofyn am gyngor a thriniaeth ar faterion rhywiol, heb ganiatâd ac yn ddiarwybod i’r rhieni. Mae’r cyfeiriad at faterion rhywiol yn ehangach na dulliau atal cenhedlu, a byddai’n cynnwys cyngor a thriniaeth ar gyfer erthylu er enghraifft. Roedd gan weithiwr iechyd proffesiynol hawl i ddarparu hynny’n amodol ar fodloni’r gofynion canlynol.

    • Mae’r unigolyn ifanc wedi deall pob agwedd ar y cyngor.• Ni all y gweithiwr meddygol proffesiynol ddwyn perswâd ar yr unigolyn ifanc i hysbysu ei rieni/rhieni na chaniatáu i’r gweithiwr meddygol proffesiynol hysbysu’r rhieni ei fod/bod yn gofyn am gyngor ac/neu driniaeth sy’n gysylltiedig â materion rhywiol. • Mae’n debygol iawn bydd yr unigolyn ifanc yn dechrau neu’n parhau i gael cyfathrach rywiol p’un a yw’n derbyn triniaeth atal cenhedlu neu driniaeth am salwch a drosglwyddir yn rhywiol ai peidio. • Os na fydd yr unigolyn ifanc yn derbyn cyngor a thriniaeth ar gyfer y materion rhywiol dan sylw, mae’n debygol y bydd ei (h) iechyd corfforol ac/neu feddyliol yn dioddef. • Ei bod yn ofynnol i’r unigolyn ifanc, er ei fudd pennaf ei hun, dderbyn cyngor a thriniaeth ar gyfer materion rhywiol heb hysbysu na chael cydsyniad y rhieni.

    Am fanylion pellach ynglŷn â’r ’Fraser Guidelines’ a’r ’Axon Guidelines’, gweler y canllawiau arfer gorau ar ddarpariaeth cyngor a thriniaeth i bobl ifanc dan 16 oed sydd ar wefan yr Adran Iechyd yn www.dh.gov.uk

  • 35

    Addysg rhyw a pherthnasoedd mewn ysgolion

    Dyddiad cyhoeddi: Medi 2010

    Atodiad B: Addysg rhyw a pherthnasoedd o fewn y cwricwlwm ysgol

    Y Cyfnod Sylfaen Fframwaith ar gyfer Dysgu Plant 3 i 7 oed yng Nghymru

    Dylai addysg am berthnasoedd i ddysgwyr 3 i 7 oed ganolbwyntio ar feithrin hunan-barch drwy annog dysgwyr:

    • i’w gwerthfawrogi eu hunain• i gydnabod a mynegi’u teimladau• gwneud ffrindiau a meithrin perthnasoedd.

    Mae cwricwlwm y Cyfnod Sylfaen:

    • yn rhoi lle canolog i ddatblygiad cyfannol y plentyn a’i sgiliau• yn meithrin partneriaethau cadarnhaol â’r cartref• yn cydnabod rhan y rhiant/gofalwr fel addysgwr cyntaf y plentyn• wedi’i gynllunio fel fframwaith cynyddol plant 3 i 7 oed• yn cynnwys saith Maes Dysgu sy’n cyd-fynd â’i gilydd.

    Maes Dysgu: Datblygiad Personol a Chymdeithasol, Lles ac Amrywiaeth Ddiwylliannol

    Mae Datblygiad Personol a Chymdeithasol, Lles ac Amrywiaeth Ddiwylliannol wrth wraidd y Cyfnod Sylfaen. Mae’r Maes Dysgu hwn yn galluogi plant i ddysgu amdanyn nhw eu hunain a’u perthynas â phlant eraill ac oedolion o fewn eu teulu a’r tu allan iddo. Caiff plant eu hannog i ddatblygu eu hunan-barch, eu credoau personol a’u gwerthoedd moesol. Maen nhw’n datblygu dealltwriaeth o’r ffaith bod gan bobl eraill anghenion, galluoedd, credoau a safbwyntiau gwahanol. Wrth i’w hunaniaeth ddatblygu, mae plant yn dechrau mynegi eu teimladau a dangos empathi ag eraill. Mae plant yn dechrau deall eu potensial a’u galluoedd eu hunain. Caiff plant eu cynorthwyo i dyfu’n feddylwyr ac yn ddysgwyr hyderus, cymwys ac annibynnol.

    Datblygiad personol

    Dylid rhoi cyfleoedd i blant:

    • dyfu’n annibynnol o safbwynt diwallu eu hanghenion o ran hylendid personol, a bod yn fwy ymwybodol o ddiogelwch personol • mynegi a chyfleu gwahanol deimladau ac emosiynau – rhai eu hunain yn ogystal â rhai pobl eraill.

  • 36

    Addysg rhyw a pherthnasoedd mewn ysgolion

    Dyddiad cyhoeddi: Medi 2010

    Datblygiad cymdeithasol

    Dylid rhoi cyfleoedd i blant:

    • fod yn ymwybodol o anghenion pobl eraill a’u parchu• cymryd cyfrifoldeb am eu gweithredoedd eu hunain• ystyried goblygiadau geiriau a gweithredoedd iddyn nhw eu hunain ac eraill • datblygu dealltwriaeth o’r hyn sy’n deg ac yn annheg, a bod yn barod i gyfaddawdu • ffurfio perthnasoedd a theimlo’n ddigon hyderus i gyd-chwarae a chydweithio ag eraill • gwerthfawrogi ffrindiau a theuluoedd, a dangos gofal a bod yn ystyriol • deall yr hyn sy’n gwneud ffrind da.

    Lles

    Dylid rhoi cyfleoedd i blant:

    • werthfawrogi eu lles eu hunain a lles pobl eraill, a chyfrannu ato• bod yn ymwybodol o’u teimladau eu hunain a datblygu’r gallu i’w mynegi mewn ffordd briodol • deall y berthynas rhwng teimladau a gweithredoedd, a deall bod gan bobl eraill deimladau • dangos gofal, parch a hoffter at blant eraill, oedolion a’u hamgylchedd • gofyn am gymorth pan fo’i angen• datblygu dealltwriaeth o’r peryglon a geir yn y cartref a’r amgylchedd sydd y tu allan iddo.

    Maes Dysgu: Gwybodaeth a Dealltwriaeth o’r Byd

    Fi fy hun a phethau byw eraill

    Dylid rhoi cyfleoedd i blant:

    • ddysgu enwau prif rannau allanol y corff dynol a phlanhigion, a dysgu am y modd y cânt eu defnyddio • adnabod y tebygrwydd a’r gwahaniaethau rhyngddynt hwy eu hunain a phlant eraill.

    Maes Dysgu: Datblygiad Corfforol

    Dylai’r broses o ddatblygu ymdeimlad o hunaniaeth fod wedi’i chysylltu’n agos â hunanddelwedd, hunan-barch a hyder plant. Dylid cyflwyno plant i’r cysyniadau sy’n ymwneud ag iechyd, hylendid a diogelwch, a’u cyflwyno i bwysigrwydd diet, gorffwys, cysgu ac ymarfer corff.

  • 37

    Addysg rhyw a pherthnasoedd mewn ysgolion

    Dyddiad cyhoeddi: Medi 2010

    Iechyd, ffitrwydd a diogelwch

    Dylid rhoi cyfleoedd i blant:

    • ddod yn ymwybodol o beryglon a materion yn ymwneud â diogelwch yn eu hamgylchedd.

    Maes Dysgu: Datblygiad creadigol

    Symud creadigol

    Dylai gweithgareddau symud creadigol alluogi plant i wneud cynnydd o safbwynt eu gallu i:

    • archwilio a mynegi ystod o hwyliau a theimladau trwy gyfrwng amrywiaeth o symudiadau.

    Gwyddoniaeth yng nghwricwlwm cenedlaethol Cymru

    Cyfnod Allweddol 2

    Cyd-ddibyniaeth organebau

    Dylid rhoi cyfleoedd i’r dysgwyr astudio:

    1. enwau, safleoedd, swyddogaethau a meintiau cymharol prif organau bodau dynol.

    Cyfnod Allweddol 3

    Cyd-ddibyniaeth organebau

    Dylid rhoi cyfleoedd i’r dysgwyr astudio:

    1. adeiledd a gweithredu sylfaenol rhai celloedd, meinweoedd, organau a systemau organau a sut y maent yn cynnal prosesau bywyd hanfodol.

    Fframwaith addysg bersonol a chymdeithasol ar gyfer dysgwyr 7 i 19 oed yng Nghymru

    Iechyd a lles emosiynol

    Wrth i blant a phobl ifanc ddatblygu’n rhywiol, mae angen iddyn nhw ddeall newidiadau corfforol, rheoli teimladau rhywiol a mwynhau cydberthnasau diogel, cyfrifol a hapus. Gellir galluogi’r dysgwyr hefyd i archwilio’u teimladau, datblygu hunanymwybyddiaeth a hunan-barch, a datblygu eu hunan-dyb.

  • 38

    Addysg rhyw a pherthnasoedd mewn ysgolion

    Dyddiad cyhoeddi: Medi 2010

    Dylid addysg rhyw a pherthnasoedd cael ei osod mewn fframwaith clir o werthoedd ac ymwybyddiaeth o’r gyfraith ar ymddygiad rhywiol. Mae’n ofynnol cyflwyno agweddau megis bywyd teuluol yn ei holl ffurfiau amrywiol, gan gynnwys priodas, ymddygiadau rhywiol, ystyriaethau sy’n ymwneud â bod yn rhieni, a materion sensitif megis erthyliad mewn modd cytbwys, ac mae’n ofynnol trafod materion moesegol mewn modd gwrthrychol. Er hynny, mae paratoi’r dysgwyr i gymryd cyfrifoldeb am eu hymddygiad yn eu cydberthnasau personol a sicrhau eu bod yn dysgu sut i adnabod ymddygiad amhriodol llawn mor bwysig hefyd. Dylai’r dysgwyr wybod ble a sut mae cael gafael ar gymorth a gwybodaeth bersonol.

    Cyfnod Allweddol 2

    Dylid rhoi cyfleoedd i’r dysgwyr:

    • gymryd cyfrifoldeb cynyddol dros gadw’r meddwl a’r corff yn ddiogel ac yn iach • teimlo’n bositif amdanyn nhw eu hunain a bod yn sensitif i deimladau pobl eraill

    a deall:

    • y rhesymau dros y newidiadau corfforol ac emosiynol sy’n digwydd yn ystod glasoed gan gynnwys cenhedliad, beichiogrwydd a genedigaeth • ystod eu teimladau a’u hemosiynau eu hunain a theimladau ac emosiynau pobl eraill • pwysigrwydd diogelwch personol• sut i wahaniaethu rhwng cyffyrddiadau priodol a chyffyrddiadau amhriodol • beth y dylid ei wneud neu at bwy y dylid mynd pan na fyddant yn teimlo’n ddiogel.

    Cyfnod Allweddol 3

    Dylid rhoi cyfleoedd i’r dysgwyr:

    • ddangos agwedd gyfrifol at gadw’r meddwl a’r corff yn ddiogel ac yn iach • datblygu agweddau cadarnhaol atynt hwy eu hunain ac at bobl eraill

    a deall:

    • y gyfraith sy’n ymwneud ag agweddau ar ymddygiad rhywiol • am atal cenhedlu, heintiau a drosglwyddir yn rhywiol a HIV o fewn cyd-destun perthnasoedd • nodweddion perthnasoedd diogel a’r rhai a all arwain at gamdriniaeth

  • 39

    Addysg rhyw a pherthnasoedd mewn ysgolion

    Dyddiad cyhoeddi: Medi 2010

    • rôl priodas, pwysigrwydd perthnasoedd teulu sefydlog a chyfrifoldebau rhieni • yr ystod o emosiynau y maent yn eu profi a sut i ddatblygu strategaethau ar gyfer ymdopi â theimladau negyddol • y manteision o gael mynediad i wahanol ffynonellau o wybodaeth, cymorth a chyngor.

    Cyfnod Allweddol 4

    Dylid rhoi cyfleoedd i’r dysgwyr:

    • dderbyn cyfrifoldeb personol am gadw’r meddwl a’r corff yn ddiogel ac yn iach • datblygu agwedd gyfrifol at gydberthnasau personol

    a deall:

    • yr ystod o agweddau, cydberthnasau ac ymddygiadau rhywiol a geir mewn cymdeithas • pwysigrwydd iechyd rhywiol a’r risgiau sy’n gysylltiedig â gweithgarwch rhywiol, gan gynnwys achosion posibl o ecsbloetio rhywiol • y nodweddion sy’n perthyn i fod yn rhiant effeithiol, ac effaith colled a newid ar gydberthnasau • y ffactorau sy’n effeithio ar iechyd meddwl a’r ffyrdd y gellir meithrin lles emosiynol • y mudiadau statudol a gwirfoddol sy’n hybu iechyd a lles emosiynol • sut i gael mynediad i gymorth personol a chyngor proffesiynol ynghylch iechyd yn hyderus.

    Ôl-16

    Dylid rhoi cyfleoedd i’r dysgwyr:

    • dderbyn cyfrifoldeb am bob agwedd ar ddatblygiad personol a chymdeithasol a lles • gweithredu fel modelau rôl cadarnhaol ar gyfer myfyrwyr iau

    a deall:

    • sut i werthuso dewisiadau personol ynghylch ffordd o fyw yng nghyd-destun iechyd corfforol a lles emosiynol, a hynny mewn modd beirniadol, gan ystyried canlyniadau byrdymor a hirdymor penderfyniadau o’r fath • yr angen i gymryd cyfrifoldeb am ddiogelwch personol a diogelwch grŵp mewn lleoliadau cymdeithasol

  • 40

    Addysg rhyw a pherthnasoedd mewn ysgolion

    Dyddiad cyhoeddi: Medi 2010

    • canlyniadau posibl gweithgarwch rhywiol iddynt hwy eu hunain a’u cydberthnasau personol • y profiadau bywyd sy’n gwella neu’n niweidio hunan-dyb, ac archwilio’r ffyrdd gorau o ymdopi â gofynion sefyllfaoedd o’r fath • rôl y wladwriaeth o safbwynt hybu iechyd a lles emosiynol y cyhoedd.