elias y proffwyd dylunio: gary craig addasiad cymraeg: nigel davies
TRANSCRIPT
Elias Y Proffwyd
Dylunio: Gary Craig
Addasiad Cymraeg: Nigel Davies
Cynnwys
Dewiswch adnod i’w dysgu
Cwis
Dewiswch stori
Cliciwch ar fotwm chwith y llygoden i wneud eich dewis.
Gwybodaeth ddefnyddiol
2. Darpariaeth Duw ar gyfer ei bobl3. Llaw Duw yn gofalu4. Plentyn yn cael ei godi o farw’n fyw5. Obadeia yn cyfarfod ag Elias6. Y gwir Dduw yn anfon tân ar yr allor
DEWISWCH STORI
1. Rhybudd Duw yn erbyn addoli eilunod
Gwnaeth Ahab, brenin Israel, fwy o ddrwg yng ngolwg yr
Arglwydd na’r holl frenhinoedd eraill a fu o’i flaen.
Dyma Ahab, brenin Israel.
Roedd yn briod â Jesebel. Roedd hi’n addoli y gau dduw Baal.
Adeiladodd Jesebel allor i Baal.
Elias: proffwyd yr
Arglwydd
Fydd yna ddim gwlith na glaw
achos dy bechod di…
Aeth Elias at Ahab y brenin.
“Dos i guddio wrth ymyl nant
Cerith.”
Bydd cigfrain yn
dod â bwyd i ti bob bore
a nos.
Daeth cigfrain â bara a chig iddo bob dydd ac fe yfodd ddŵr
o’r nant.
Ar ôl peth amser fe sychodd y nant… a bu’n rhaid i Elias ffoi i le arall.
Wrth iddo gyrraedd
tref Sareffath gwelodd wraig yn
casglu coed tân...
Mae eisiau bwyd arna i. Ga’ i ddarn o
fara plîs? Does gen i ddim bwyd, dim ond
llond dwrn o flawd, ac ychydig o olew
mewn stên.
Rydw i am i ti wneud
teisen fach i mi allan o’r
olew a’r blawd.
Fe wnaeth y wraig yn union fel y gofynnodd Elias iddi…
Dywedodd Elias y byddai Duw’n gofalu na fyddai’r blawd na’r olew yn dod i ben hyd nes y
byddai’r glaw yn syrthio eto ar y tir.
Ar ôl hyn, aeth mab y wraig yn sâl a bu farw.
Pam mae hyn wedi
digwydd? A yw dy Dduw
yn fy nghosbi am ryw bechod?
O Arglwydd, fy Nuw, caniatâ i’r
bachgen hwn gael dod nôl yn
fyw eto.
Gwrandawodd yr Arglwydd ar weddi Elias…
Mae dy fab yn fyw!
Rwy’n sicr yn awr mai dyn Duw wyt ti.
Dos i ddangos dy hun i Ahab er mwyn i mi anfon glaw ar y
tir.
Yn y cyfamser, roedd Ahab a’i was Obadeia yn chwilio’r wlad am borfa i fwydo anifeiliaid y brenin.
Ai ti yn wir yw Elias?
Ar ei daith ar hyd y wlad daeth Obadeia wyneb yn
wyneb ag Elias.
Heb yn wybod i Ahab a Jesebel roedd Obadeia yn addoli’r Arglwydd Dduw a bu yn ffyddlon iddo.
Cuddiais gant o broffwydi’r
Arglwydd pan oedd Jesebel am
eu lladd.
Rydw i ar fy ffordd i weld
Ahab.
Ti sydd ar fai am ein trafferthio
n i gyd!
Nid fi, ond ti sy’n gyfrifol am ddod â thrafferth i
Israel.
Rhaid i chi ddewis naill ai
Baal neu’r Arglwydd.
O Baal, clyw ni.
O Baal, gwrando arnom.
Ond ni ddaeth ateb er iddyn nhw weiddi’n uchel.
Gweiddwch yn uwch! Efallai fod Baal wedi mynd i
gysgu neu ar daith.
Llanwch bedair casgen â dŵr a’u harllwys ar yr
aberth.
Ateb fi o Arglwydd er mwyn i’r bobl hyn wybod mai ti
yw’r unig wir Dduw.
Ac ar hynny disgynnodd tân yr Arglwydd.
Daliwyd proffwydi Baal a’u lladd wrth ymyl afon Cison.
DEWISWCH ADNOD
Mae pawb wedi pechu. Does neb
wedi gallu cyrraedd safon
perffaith Duw. Rhufeiniaid pennod 3 adnod
23
Dewiswch ichwi’n awr pwy a
wasanaethwch. Ond byddaf fi a’m teulu yn
gwasanaethu’r Arglwydd.
Josua 24:11 (B.C.N.)
Cliciwch ar fotwm chwith y llygoden i wneud eich dewis
Trystiwch yr Arglwydd bob
amser, achos wir, mae’r Arglwydd yn
graig am byth.
Eseia pennod 26 adnod 4
Mae pawb wedi pechu. Does neb wedi gallu cyrraedd
safon perffaith Duw.
Rhufeiniaid pennod 3 adnod 23
Mae pawb wedi pechu. Does neb wedi gallu cyrraedd
safon perffaith Duw.
Rhufeiniaid pennod 3 adnod 23
Mae pawb wedi pechu. Does neb wedi gallu cyrraedd
safon perffaith Duw.
Rhufeiniaid pennod 3 adnod 23.
Trsystiwch yr Arglwydd bob amser, achos wir, mae’r
Arglwydd yn graig am byth.
Eseia pennod 26 adnod 4
Trsystiwch yr Arglwydd bob amser, achos wir, mae’r
Arglwydd yn graig am byth.
Eseia pennod 26 adnod 4
Dewiswch ichwi`n awr pwy a wasanaethwch …ond byddaf fi a`m teulu
yn gwasanaethu`r Arglwydd.
Josua 24:11 (B.C.N.)
Dewiswch ichwi’n awr pwy a wasanaethwch.
Ond byddaf fi a’m teulu yn gwasanaethu’r
Arglwydd.
Josua 24:15 (B.C.N.)
Pwyswch ‘Esc’ i orffen neu ‘E’ i chwarae eto…
Pwyswch ‘Ctrl+P’ ac yna “Return” i
gychwyn…
Gwybodaeth DdefnyddiolCyflwyno Stori
Mae stori Elias wedi ei chynllunio i’w chyflwyno mewn 6 rhan. Wrth glicio ar “Dewiswch Stori” bydd bwydlen gyda theitl y chwe stori yn ymddangos.
Mae gan nifer o`r sleidiau ychydig o animeiddiad. Bydd y sleidiau sydd ag animeiddiad yn dangos yn y gornel.
Dysgu Adnod
Mae tri dewis ar gyfer dysgu adnod.
Mae’r animeiddiad yn wahanol ym mhob adnod. Drwy glicio eich ffordd drwy’r cyflwyniad bydd geiriau a llinellau yn diflannu neu newid. Mae’r cyflwyniad yn gorffen gyda’r adnod lawn bob tro
Cwis O ac X
• Yn y cwis hwn, mae angen i chi ddefnyddio’r llygoden i ysgrifennu yn y blychau priodol. Gellir gwneud hyn trwy wasgu ar “Ctrl” + “P” ac yna “Return” ar y bysellbad (“keyboard). Ewch â’r llygoden i’r fan a fynnwch ar y sgwâr a gallwch ysgrifennu O neu X trwy bwyso botwm chwith y llygoden.
• Rhannwch y grŵp yn ddau a gofynnwch 9 cwestiwn ar yr hanes.
• Pan fydd plentyn yn rhoi ateb cywir, gadewch iddo ddewis sgwâr ar ran y tîm. Bydd rhaid i’r sawl sy’n gofalu am y cyfrifiadur ysgrifennu ‘O’ neu ‘X’ gan ddefnyddio’r llygoden. (Awgrymir mai oedolyn, nid plentyn ddylai wneud hyn). Y tîm cyntaf i gael llinell syth i fyny, i lawr, ar draws neu yn groesgornel sy’n ennill. Gallwch chwarae mwy nag un gêm trwy wasgu’r botwm ‘E’ i glirio’r sgrin a dechrau eto.
Bydd y botwm gyda llun tŷ bob amser yn mynd â chi nôl i dudalen y Cynnwys (sleid 2).