cynnwys - ysgol y castell · web viewysgol gynradd gymraeg y castell adroddiad blynyddol y...

32
1 Ysgol Gynradd Gymraeg Adroddiad Blynyddol Y Llywodraethwyr I Cerddwn ymlaen â ffydd yn ein cân. 2013-2014

Upload: others

Post on 16-Sep-2020

2 views

Category:

Documents


0 download

TRANSCRIPT

Page 1: Cynnwys - Ysgol y Castell · Web viewYsgol Gynradd Gymraeg Y Castell Adroddiad Blynyddol Y Llywodraethwyr i’r Rhieni 2013-2014 I’w gyflwyno ar wefan yr ysgol 21ain o Dachwedd

1

Ysgol Gynradd Gymraeg Y Castell

Adroddiad Blynyddol Y Llywodraethwyr i’r Rhieni

2013-2014

I’w gyflwyno ar wefan yr ysgol

Copi papur ar gael ar gais trwy swyddfa’r ysgol.

Cerddwn ymlaen â ffydd yn ein cân.

Page 2: Cynnwys - Ysgol y Castell · Web viewYsgol Gynradd Gymraeg Y Castell Adroddiad Blynyddol Y Llywodraethwyr i’r Rhieni 2013-2014 I’w gyflwyno ar wefan yr ysgol 21ain o Dachwedd

Cynnwys

Tudalen

2. Cynnwys

3. Cyflwyniad gan Gadeirydd Y Llywodraethwyr

4. Gweithgareddau’r Disgyblion

13. Gwaith y Llywodraethwyr

14. Data Perfformiad Ysgol 2014

16. Cynlluniau Datblygu Ysgol

19. Datganiad Cyllidol

20. Tymhorau Ysgol a Gwyliau 2014/2015

21. Anghenion Dysgu Ychwanegol

22. Y Corff Llywodraethol

23. Manylion Cysylltu

2

Page 3: Cynnwys - Ysgol y Castell · Web viewYsgol Gynradd Gymraeg Y Castell Adroddiad Blynyddol Y Llywodraethwyr i’r Rhieni 2013-2014 I’w gyflwyno ar wefan yr ysgol 21ain o Dachwedd

Cyflwyniad gan Gadeirydd Y Llywodraethwyr

Annwyl Rieni a Gwarchodwyr,

Mae’n bleser gennyf i gyflwyno Adroddiad Blynyddol y Llywodraethwyr i Rieni ar gyfer y flwyddyn academaidd 2013-2014. Fe welwch yn yr adroddiad taw blwyddyn brysur arall oedd eleni yn yr ysgol. Tyfwn o hyd, mewn niferoedd a statws.

Cafwyd llwyddiannau diri ym mhob blwyddyn ysgol yn academaidd ac yn allgyrsiol. Mae unrhyw ymwelydd i’r ysgol yn sôn am awyrglych da yn yr ysgol a’r hapusrwydd a gofal a roddir i’r disgyblion. Fel Llywodraethwyr, yr ydym yn aml yn ymweld â dosbarthiadau i arsylwi ar wersi. Mae’n brofiad heb ei ail i weld sut mae’r disgyblion yn dysgu a sut maent yn rhyngweithio gyda’r athrawon ac eraill.

Yn ystod y flwyddyn academaidd hon, datblygwyd nifer o fentrau â’r nod o godi safonau. Gwaith caled y staff, y dysgwyr a’r uwch dîm rheoli sy’n gyfrifol am hyn. Hoffem ddiolch iddynt a chi fel rhieni am wneud y flwyddyn ddiwethaf yn un lwyddianus iawn.

Gyda pheth tristwch penderfynodd Mrs Lynda Paddock, un o gyn Gadeiryddion y Llywodraethwyr a Llywodraethwraig Cymunedol hirsefydlog, ymddeol o’i rôl. Ar ran yr holl Lywodraethwyr hoffwn ddiolch i Lynda am bopeth a wnaeth dros yr ysgol a’i gwaith yn hyrwyddo ei gwerthoedd. Dymunwn ymddeoliad hir a hapus iddi.

Gobeithiaf y byddwch yn mwynhau darllen yr adroddiad ac yn dathlu llwyddianau’r ysgol gyda ni.

Colin Elsbury

(Cadeirydd)

Ar gais y rhieni, trefnwyd cyfarfod ym Mis Hydref 2013 i drafod Polisi Oedrannau Cymysg. Ar ôl ystyriaeth ddwys i sylwadau a cheisiadau gan y rhieni, penderfynwyd i beidio â newid y polisi am ddwy flynedd arall. Bydd y polisi yma yn cael ei adolygu yn unol â chylch adolygu polisiau’r ysgol yn 2015.

Derbyniwyd dwy gŵyn swyddogol yn ystod y flwyddyn academaidd hon. Deiliwyd â hwy a’u datryswyd ar gam 1 o Weithdrefnau Cwynion.

3

Page 4: Cynnwys - Ysgol y Castell · Web viewYsgol Gynradd Gymraeg Y Castell Adroddiad Blynyddol Y Llywodraethwyr i’r Rhieni 2013-2014 I’w gyflwyno ar wefan yr ysgol 21ain o Dachwedd

Gweithgareddau’r Disgyblion

Yn Ysgol Y Castell, yr ydym yn falch iawn o’n darpariaeth gwricwlaidd, profiadau dysgu a chyfoethogrwydd y gweithgareddau allgyrsiol a gynigir. Mae’r holl brofiadau isod yn sicrhau darpariaeth eang a chytbwys ar gyfer ein plant. Mae’r profiadau oll yn cyfoethogi eu dysgu ac yn eu hysgogi i weithio hyd uchaf eu gallu; gyda mwynhad, dyfalbarhad ac at bwrpas.

Tymor yr Hydref

Parhaoodd ein cynllun pontio rhwng ysgolion cynradd y clwstwr ag Ysgol Gyfun Cwm Rhymni. Daeth athrawes uwchradd i’r ysgol bob bore Dydd Mercher i addysgu Blwyddyn 6. Yr oeddent yn dechrau ar eu taith ddysgu Bagloriaeth Gymreig, a fydd yn parhau ar hyd eu gyrfa uwchradd.

Etholwyd ein Cyngor Ysgol newydd ar ddechrau’r tymor. Trafodwyd a gosodwyd eu targedau ar gyfer eleni sef:

gwella buarth yr ysgol (Y Cyfnod Sylfaen) – llwyfan, cadair stori, meinciau, gemau, ail-beintio’r buarth

codi arian dros elusenau - Arch Noa, Blychau Cariad ac Eisteddfod Caerffili 2015

Cynhaliwyd cyfarfod i rieni Blwyddyn 3 a 4 am gyflwyno Saesneg gan dîm o athrawon. Cafodd y rhieni hwyl yn ymuno mewn gweithgareddau Read, Write, Inc cyn mynd adref â chopi o synau Saesneg a sut i’w ynganu gan ddefnyddio rhigymau RWI.

Cyflwynodd Mrs Rees ein cynllun darllen ysgol / cartref i rieni’r plant Derbyn. Cafodd y rhieni gyfle i ddeall strategaethau dysgu darllen cynnar a disgwyliadau’r ysgol am ddarllen wythnosol.

Cystadlodd criw bach o’n disgyblion yn Eisteddfod Y Cymoedd yng nghystadlaethau llefaru, canu, piano a chôr. Uchafbwynt y noson oedd Seremoni Cadeirio’r Llenor buddugol. Roedd yn bleser i wylio cyflwyniad y

gadair eleni i ferch hynod o dalentog a oedd yn gyn-ddisgybl Ysgol Y Castell, Miss Heledd Gwynant. Hefyd, dathlwyd doniau tri bardd ifanc o’r ysgol, Beca Evans-Lugg, Elen James a Eleanor Leneord-Jones, wrth iddynt gipio holl wobrau ysgolion cynradd am eu barddoniaeth coffa i Senghennydd.

Cynhaliwyd ein Gwasanaethau Cynhaeaf yn yr ysgol. Eleni casglwyd tuniau bwyd ar gyfer apêl “Bridging the Gap” a drefnir gan eglwys leol.

Tanchwa Senghennydd oedd thema CA2 am yr hanner tymor cyntaf. Dysgodd y plant am hanes yr ardal leol trwy nifer fawr o weithgareddau, ymweliadau (Pwll Mawr) a phrofiadau uniongyrchol. Uchafbwynt bythgofiadwy ac emosiynol y thema i

4

Page 5: Cynnwys - Ysgol y Castell · Web viewYsgol Gynradd Gymraeg Y Castell Adroddiad Blynyddol Y Llywodraethwyr i’r Rhieni 2013-2014 I’w gyflwyno ar wefan yr ysgol 21ain o Dachwedd

holl gymuned yr ysgol oedd Gwasanaeth Coffa Senghennydd ac arddangosfa o waith celf mewn Oriel Gelf “Cofio Senghennydd”. Daeth criw teledu “Ffeil” i ffilmio’r plant yn perfformio ac ymddangoswyd y darn fel rhan o ddathliadau coffa cenedlaethol ar S4C.

Fe aeth dysgwyr Blwyddyn 1 a 2 i Sain Ffagan i ddysgu am gyfnodau hanesyddol a’r ffordd o fyw yn y gorffennol.

Cafodd Blwyddyn 3 a 4 gyflwyniad i gerddoriaeth a dawnsfeydd Canol Oesoedd gan Mr Huw Williams fel man cychwyn i’w thêma Oes y Tywysogion. Hefyd aethent i ymweld â’r castell.

Fel cyflwyniad i’r themau “Troi a Llifo”, aeth Blwyddyn 5 a 6 i Ganolfan Addysg Dŵr Cymru yng Nghilfynydd. Cawsant gyfleoedd ymarferol i ddysgu am yr afon a’r gylchred ddŵr.

Aeth Blwyddyn 1 a 2 i Theatr Gartholwg i wylio perfformiad o “Corina Pavlova”.

Enwebwyd dau o’n dysgwyr dawnus ym myd chwaraeon i fod yn Llysgenhadon Efydd yr ysgol (Owen Thomas ac Alice Corden). Sefydlon Gyngor Chwaraeon yn yr ysgol.

Cystadlodd ein tîm nofio’n frwd yng ngala nofio’r Urdd a bu chwech o’n gymnastwyr talentog yn cystadlu gyda’r Urdd.

Bu timoedd yr ysgol yn cystadlu’n ffrwd dan arweiniad Mr Egal a Miss Gatt mewn cystadlaethau pêl-rwyd, pêl-droed a rygbi’r Urdd.

Aeth disgyblion Blwyddyn 6 i Wersyll Llangrannog am benwythnos o weithgareddau anturiaethau awyr agored gan ymgolli’n llwyr yn awyrgylch Gymreig y gwersyll. Diolch i’r staff am roi o’u hamser personol unwaith eto er lles y plant.

Fe aeth Mr Iwan Lloyd a Miss Sarah Griffiths ar ymweliad ag ysgolion yn Rhufain er mwyn cynllunio’r rhaglen

Comeniws am y ddwy flynedd nesaf. Prif ffocws y rhaglen bydd dulliau addysgu rhifedd yn ogystal â’r agwedd dinasyddiaeth fyd eang.

Derbyniwyd gwahoddiad i Agored Swyddogol safle’r Gwyndy (Ysgol Gyfun Cwm Rhymni). Braf oedd gweld ein

plant y llynedd wedi setlo’n wych ac yn gwneud y gorau o’r profiadau sydd ar gael iddynt yn yr adeilad newydd. Roedd yn fraint i fod yn rhan o’r seremoni gan ddathlu llwyddiant addysg Gymraeg yr ardal gyda’r Cyfarwyddwr Addysgu, Cynghorwyr lleol, cyn-benaethiaid a ffrindiau niferus.

5

Page 6: Cynnwys - Ysgol y Castell · Web viewYsgol Gynradd Gymraeg Y Castell Adroddiad Blynyddol Y Llywodraethwyr i’r Rhieni 2013-2014 I’w gyflwyno ar wefan yr ysgol 21ain o Dachwedd

Paratowyd a pherfformiwyd gwasanaethau dosbarth gan bob disgybl. Gwahoddwyd eu teuluoedd i mewn i’r ysgol i ddathlu gyda hwy. Cynhaliwyd cyngherddau Nadolig llwyddiannus a derbyniwyd clod mawr gan ein rhieni.

Cynhaliwyd “Gwersi Cymraeg i Oedolion” yn wythnosol yn yr ysgol lle mae ein teuluoedd a ffrindiau yn dysgu Cymraeg. Llogwyd Neuadd Glyndŵr yn wythnosol gan gwmni dawns leol TNT a Chôr Merched Caerffili.

Cynigwyd hyfforddiant wythnosol i ddisgyblion ar y delyn, ffidil ac offerynnau chwythbren. Aeth criw ohonynt i Ddiwrnod Chwil-Chwarae yn Ysgol Cwm Rhymni a drefnir yn flynyddol gan yr Athrawon Teithiol Cerddoriaeth.

Cynhaliwyd nifer o weithgareddau allgyrsiol gan gynnwys Clwb yr Urdd, chwaraeon, côr, dawnsio disgo, athletau / chwaraeon, Ffrangeg, clwb darllen, clwb lego a gemau bwrdd a gwnϊo. Fe aeth plant Clwb yr Urdd i stiwdio S4C i fod yn gynulleidfa ar y rhaglen Stwnsh Sadwrn. Parheuodd cwmni Dream Team i ddarparu gweithgareddau pêl-droed wythnosol.

Cyfarfu Cyfeillion yr Ysgol yn rheolaidd er mwyn cefnogi’r ysgol yn ei gweithgarwch a chodi arian ychwanegol i gyfoethogi profiadau’r dysgwyr. Yn dilyn eu Cyfarfod Blynyddol, trefnwyd llu o weithgareddau llwyddiannus ganddynt - disgo Calan Gaeaf, dwy noson Cyri a Chwis, Ffair Nadolig, Disgo Dwynwen, Hwyl Y Pasg, Tê’r Prynhawn, Ffair Haf a gêm o griced. Prynwyd system sain newydd i Neuadd Glyndŵr, podiau beiciau, llyfrau darllen i blant CA2 yn ogystal â mwy o lyfrau i gynllun darllen i’r Cyfnod Sylfaen, tocynnau theatr i GA2 chyfraniad tuag at weithdai actio i’r disgyblion lleiaf. Hoffem estyn ein diolchiadau pennaf i’r grŵp bychan o rieni a ffrindiau sy’n gweithio mor ddiwyd dros yr ysgol.

Tymor y Gwanwyn

Aeth ein dysgwyr Meithrin a Derbyn i’r Amgueddfa Genedlaethol fel sbardun i’w thema am ddeinosoriaid. Cawsant fodd i fyw yn chwilio am olion traed o amgylch yr ysgol a chawsant gyfleoedd diri i ddatblygu eu sgiliau llythrennedd a rhifedd sylfaenol trwy eu gweithgareddau ymarferol.

Datblygwyd Sgwadiau Sgwennu yn yr ysgol i herio ac ymestyn doniau ysgrifennu eu dysgwyr MAT. Gweithiodd Mrs Lowri Griffiths yn wythnosol â grwpiau o’n plant yn ysgrifennu storiau creadigol, llyfrau cyfair a nifer o ffurfiau eraill i ymestyn y plant. Ariannir y prosiect hwn trwy grant SEG. Hefyd daeth Miss Nia McCarthy (Athrawes Ymgynghorol Llythrennedd y GCA) i gydweithio â’n plant MAT Blwyddyn 1. Trefnwyd sesiynau ysgrifennu creadigol i flwyddyn 5 a 6 gyda’r awdures Gwennan Davies trwy brosiect Dylanwad i ddathlu canmlwyddiant Dylan Thomas.

6

Page 7: Cynnwys - Ysgol y Castell · Web viewYsgol Gynradd Gymraeg Y Castell Adroddiad Blynyddol Y Llywodraethwyr i’r Rhieni 2013-2014 I’w gyflwyno ar wefan yr ysgol 21ain o Dachwedd

Cafodd ein dysgwyr gyfle i fod yn rhan o agoriad swyddogol llyfrgell newydd tref Caerffili. Cymerodd Blwyddyn 4 ran mewn gweithdy darllen gydag awdur fel rhan o’r dathliadau. Enillodd Megan Morris (Blwyddyn 3) gystadleuaeth i gynllunio papur wal ar y thema Y Jwngl a gellir gweld llun o’i theigr ar wal y llyfrgell yn adran y plant a chlustog o’i chynllun ar y soffas cyfforddus. Ers yr agoriad, bu’r mwyafrif o’n plant ar ymweliad â’r llyfrgell gyda staff yr ysgol gan gofrestru’r rhai nad oedd yn aelodau. Anogwyd holl rieni’r ysgol i fynd â’u plant i’r llyfrgell yn gyson.

Trefnwyd gweithdai gwyddonol i flwyddyn 5 a 6 gan Dr Mark; cyflwynydd gwyddonol proffesiynol sy’n teithio’r wlad yn dod ag agweddau anoddaf y cwricwlwm yn fyw. Dysgodd y plant lawer o sgiliau gwyddonol a ffeithiau newydd am rymoedd wrth gynnal nifer o arbrofion trwy’r dydd. Aeth Blwyddyn 3, 4 a 6 i Techniquest i ddatblygu eu sgiliau gwyddonol hwythau hefyd.

Talodd holl ddysgwyr Blwyddyn 2 ymweliad â maes awyrennau Caerdydd a siop deithio Morgans (Caerffili) fel rhan o’u prosiect Asiantaethau Teithio. Dysgant y pwysigrwydd o sgiliau rhifedd wrth drefnu gwyliau tramor, cyfrifo arian tramor, pwyso a mesur bagiau ac amseru pob hediad yn gywir wrth ddilyn amserlen.

Daeth y Gwasanaeth Tân i siarad â Blwyddyn 5 am beryglon cynnau tanau yn rhan o’u rhaglen addysg flynyddol. Aeth Blwyddyn 1 i Orsaf Dân Caerffili i ddysgu am waith y dynion tân.

Aeth disgyblion Blwyddyn 5 a 6 ar wibdaith i Rodney Parade a Stadiwm Y Mileniwm i sbarduno eu gwaith thema am

Bencampwyr. Cawsant ddiwrnod o hyfforddiant gyda’r Dreigiau ac yna aethant i wylio gêm Y Dreigiau yn erbyn Caeredin.

Aeth Blwyddyn 6 i weithdai diogelwch “Crucial Crew” - hyfforddiant i bobl ifanc yn eu harddegau am beryglon a sut i gadw’n ddiogel wrth ddechrau camau i mewn i’r byd mawr. Hefyd, derbyniwyd hyfforddiant am beryglon ysmygu gan Adran Feddygol Brifysgol Caerdydd.

Aeth disgyblion Blwyddyn 5 i Wersyll Llangrannog am wythnos o weithgareddau anturiaethau awyr agored gan ymgolli’n llwyr yn awyrgylch Gymreig y gwersyll. Diolch i’r staff am roi o’u hamser personol unwaith eto er lles y plant.

Daeth 10 o athrawon o wledydd tramor at yr ysgol am dridiau yn rhan o brosiect Comeniws. Treulion nhw amser yn yr ysgol yn edrych ar strategaethau dysgu rhifedd (gyda ffocws benodol ar siâp 2D a 3D) gan gymharu addysg y pedair gwlad. Trefnwyd cyflwyniadau gan y pedair gwlad a thrafodwyd arferion da i’w

7

Page 8: Cynnwys - Ysgol y Castell · Web viewYsgol Gynradd Gymraeg Y Castell Adroddiad Blynyddol Y Llywodraethwyr i’r Rhieni 2013-2014 I’w gyflwyno ar wefan yr ysgol 21ain o Dachwedd

datblygu yn yr ysgolion unigol. Cawsant brofiad o holl waith yr ysgol wrth deithio’r dosbarthiadau, gwasanaeth croeso arbennig gan Nant Cwm Parc a gweithdai rhifedd o dan ofal Mr Lloyd. Hefyd cawsant flas ar hanes a diwylliant unigryw Cymru wrth ymweld â lleoliadau niferus megis Sain Ffagan, cestyll cyfagos, Stadiwm Y Mileniwm, Bae Caerdydd a’r Amgueddfa Genedlaethol. Uchafbwynt yr wythnos oedd noson o adloniant Cymreig yng Nghastell Caerffili mewn cydweithrediad a Chyfeillion yr Ysgol, Côr yr Ysgol a Dawnswyr Nantgarw.

Ar ddiwedd y tymor, aeth tri athro (Mr Lloyd, Mr Griffiths a Mrs Evans) allan i Bordeaux i ymweld ag ysgol cyfnod sylfaen sy’n arwain y sector yn Ffrainc trwy brosiect Comeniws.

Aeth y tîm nofio i Gystadleuaeth Gala Nofio Genedlaethol yr Urdd. Cafwyd cryn dipyn o fwynhad gyda’r dysgwyr oll yn curo eu hamserau gorau personol.

Cystadlodd y plant yn frwd mewn cystadlaethau pêl-rwyd, pêl-droed a rygbi’r Urdd. Enillodd y tîm pêl-rwyd drwyddo i rownd sirol cystadleuaeth Chwaraeon y Ddraig.

Cafodd plant Blwyddyn 6 wythnos o hyfforddiant beicio o dan ofal Sustrans ac Adran Diogelwch y Ffordd.

Derbyniodd Côr yr Ysgol wahoddiad i berfformio yng Ngala Dewi Sant gyda’r Corws a Cherddorfa Genedlaethol. Daeth cantorion proffesiynol i glwb côr yr ysgol am bum wythnos i hyfforddi ein plant a dysgu’r caneuon dan sylw. Ar Fawrth 1af, canodd y plant ar lwyfan Neuadd Dewi Sant, profiad bythgofiadwy iddynt. Diolch i’r holl staff a gymerodd dro wrth baratoi a gofalu am y plant yn ystod yr wythnosau o ymarferion a diwrnod

hir y gala ei hun. Yn dilyn y gwahoddiad a’r profiad rhagorol hwn, penderfynwyd nid oedd yn bosibl i’r côr gystadlu yn Eisteddfod yr Urdd eleni.

Dathlwyd Dydd Gŵyl Dewi trwy gynnal Eisteddfodau. Cawsom wledd wrth ddathlu amryw o ddoniau’r dysgwyr. Eleni, cafodd Hana Taylor (Blwyddyn 6) ei chadeirio yn brif lenor yn ystod seremoni arbennig o dan arweiniad Gorsedd Blwyddyn 5. Diolch yn fawr i Mrs A. Hill am feirniadu’r holl gystadlaethau llenyddol, llefaru a chanu. Cofiwch i edrych ar y ffotograffau ar wefan yr ysgol.

Cystadlodd ein plant yn frwd yn yr Eisteddfod Gylch a Rhanbarth ar ddechrau Mis Mawrth. Unwaith eto, enillon y cwpan am yr ysgol gyda’r nifer uchaf o farciau yn yr Eisteddfod Gylch. Enillodd Harriet Wright-Nicholas dlws am yr eitem llefaru a roddodd y mwyaf o bleser i'r beirniaid. Roedd y plant canlynol wedi cystadlu yn Yr Eisteddfod Genedlaethol ym Mala ym Mis Mai:

o Hana Taylor a Delun Thomas (deuawd)8

Page 9: Cynnwys - Ysgol y Castell · Web viewYsgol Gynradd Gymraeg Y Castell Adroddiad Blynyddol Y Llywodraethwyr i’r Rhieni 2013-2014 I’w gyflwyno ar wefan yr ysgol 21ain o Dachwedd

o Harriet Wright-Nicholas (llefaru dan 10)

o Yr Ymgom (Wiliam Lewis, Beca Evans-Lugg, Holly Pipe, Hannah Nicholls)

Llongyfarchiadau pennaf iddynt. Yn ystod yr wythnos, roedd perfformiadau’r plant yn wefreiddiol, er i ni gael cam unwaith eto! Braf oedd dathlu eu llwyddiannau fel cymuned yr ysgol - athrawon, plant a’n teuluoedd balch. Diolch i’r holl staff am eu horiau o waith diflino wrth baratoi’r plant ar gyfer yr achlysur. Y pleser mwyaf oedd gweld ein Cymry ifanc yn crwydro’r maes gan ddefnyddio eu hiaith yn naturiol.

Cawsom arddangosfa benigamp o waith celf a chrefft y plant. Dewiswyd enillwyr o bob blwyddyn i fynd ymlaen at yr Eisteddfod Gelf yng Nghoed Duon lle derbyniwyd sawl gwobr gyntaf, ail a thrydydd.

Trefnwyd Diwrnod “Sanau Lliwgar” gan Gyngor yr Ysgol i godi arian dros yr elusen Downs Syndrome, er cof am Darcy, merch fach Miss Nash. Codwyd yn agos at £500. Da iawn chi blant!

Tymor yr Haf

Aeth ein timoedd darllen Blwyddyn 3/4 a Blwyddyn 5/6 i gynrychioli Sir Gwent yng Nghwis Llyfrau Cenedlaethol blynyddol yn Aberystwyth. Cawsom adborth ffafriol iawn gan y beirniaid am safon iaith lafar ein disgyblion a’u gallu i drin a thrafod nofelau a pherfformio drama fer am un o’r nofelau ac astudiwyd. Llongyfarchiadau mawr iddynt ac estynwn ein diolchiadau gwresog at Mrs Jaci Evans, Mrs Lowri John a Mrs Catrin Rees am eu hyfforddi.

Diolch i bob teulu a ddaeth i Wasanaeth Blynyddol Sul o Fawl yng Nghapel Tonyfelin. Roedd yn wasanaeth hyfryd a braf oedd cael y cyfle i ymuno â’n ffrindiau o ysgolion Cymraeg eraill y cwm gan ledaenu Neges Heddwch ac Ewyllys Da ar ddiwedd Wythnos Cymorth Cristnogol.

Aeth pob dosbarth ar wibdaith fel rhan o’u themâu trawsgwricwlaidd:

Meithrin - Parc Y Fan; Sain Ffagan

Derbyn – Techniquest; Coedwig Cwmcarn

Blwyddyn 1 – Acwariwm yn Weston-Super-Mare;

Blwyddyn 2 – Parc y Rhath

Blwyddyn 3 a 4 – Gwylltiroedd Casnewydd

Blwyddyn 5 – Parc Morgan Jones

Blwyddyn 6 – Longleat

9

Page 10: Cynnwys - Ysgol y Castell · Web viewYsgol Gynradd Gymraeg Y Castell Adroddiad Blynyddol Y Llywodraethwyr i’r Rhieni 2013-2014 I’w gyflwyno ar wefan yr ysgol 21ain o Dachwedd

Bu Tîm Criced Blwyddyn 4 yn cystadlu’n frwd o dan ofal Mr A. Hill yng nghystadleuaeth flynyddol yr Urdd.

Dysgodd ein plant lleiaf am drychfilod bach a mawr trwy ymweliad “Chris, Nearly Wild Show”. Cawsant gyfle i ddal trychfilod, nadroedd, pryfaid cop, llygod mawr a madfall a dysgu am eu pwysigrwydd yn ein byd.

Daeth Nyrs yr Ysgol at blant Cywion y Castell i sôn am ei gwaith a sut mae cadw’n iach.

Gwahoddwyd yr ysgol i fod yn rhan o brosiect cyffrous “Llythrennedd Corfforol” Prifysgol Metropolian Caerdydd – un o ddwy ysgol yn Ne Cymru. Bydd Miss Lowri Morgan (myfyrwraig PhD) yn cynnal ei hymchwiliad personol yn yr ysgol dros y flwyddyn nesaf gan astudio datblygiad sgiliau corfforol Blwyddyn 5 a’u hagwedd tuag at addysg gorfforol. Bydd hi yn yr ysgol am ddeuddydd yr wythnos i addysgu gwersi addysg gorfforol, cynorthwyo â phrosiectau ysgol iach a chynnal clybiau allgyrsiol.

Mynychodd holl blant Blwyddyn 3 a 4 wersi nofio dyddiol am dair wythnos. Gwelwyd cynnydd arthurol yn sgiliau nofio’r plant gyda phob plentyn yn cyrraedd nod y llywodraeth o allu nofio 25m.

Daeth PC Thomas i’r ysgol i weithio gyda phob dosbarth yng Nghyfnod Allweddol 2. Trafodwyd nifer o faterion am ddiogelwch personol gyda’r plant.

Talodd Tommo, cyflwynydd Radio Cymru, ymweliad â’r ysgol i gyfweld â chriw o blant hynaf yr ysgol. Cawsant lawer o hwyl yn rhannu jocs, straeon digri a chaneuon hwyliog.

Aeth holl ddysgwyr Cyfnod Allweddol 2 i Sefydliad Y Glowyr i wylio drama fer “Penblwydd Poenus Pete”. Ar yr un diwrnod, daeth Lili Lolipop i ddiddanu ein plant lleiaf trwy gymysgfa o ganeuon, gemau a gweithgareddau llawn hwyl. Diolch i Gyfeillion yr Ysgol am dalu am y profiadau yma.

Wrth i ni i gyd ddilyn datblygiadau Cwpan Y Byd, daeth aelodau o Gapel Elim atom i gynnal diwrnod o weithgareddau adeiladu tîm. Rhannwyd neges Gristnogol o gydweithio a pharchu ein cyd-ddyn trwy gydol y dydd.

Ar ddiwedd y tymor, daeth Theatr Na’Nog atom i gyflwyno prosiect teuluol wedi ei anelu at genhedlaeth teidiau, neiniau a phlant Blwyddyn 6. Prif neges y ddrama oedd y pwysigrwydd o ddefnyddio peiriant adnabod carbon monocsid.

Mae nifer o staff, Llywodraethwyr a rhieni’r ysgol yn gweithio’n ddiwyd ar bwyllgorau Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd Caerffili 2015. Trefnwyd diwrnod “Blwyddyn i Fynd” gan Gyngor Yr Ysgol o dan arweiniad Mrs Bethan Rossiter gan werthu nwyddau swyddogol yr Eisteddfod a gwisgo lliwiau gwyrdd, coch a gwyn. Codwyd £1,200 tuag at ein targed o £2,000.

10

Page 11: Cynnwys - Ysgol y Castell · Web viewYsgol Gynradd Gymraeg Y Castell Adroddiad Blynyddol Y Llywodraethwyr i’r Rhieni 2013-2014 I’w gyflwyno ar wefan yr ysgol 21ain o Dachwedd

Cafodd Blwyddyn 6 hyfforddiant beicio’n ddiogel. Treulion nhw wythnos gyfan yn dysgu sgiliau beicio newydd a diogelwch y ffordd cyn sefyll prawf “Cycling Proficency”.

Derbyniodd dysgwyr Blwyddyn 6 wersi “Tyfu i Fyny” gan nyrs yr ysgol a oedd yn eu dysgu am newidiadau corfforol ac emosiynol wrth

iddynt gyrraedd y glasoed.

Cafodd ein tîm athletau gyfleoedd diri i gystadlu yn nifer fawr o gystadlaethau dros yr wythnosau diwethaf o dan arweiniad Mr T. Griffiths, Miss M. Reynolds, Mr A. Hill a Mr L. Egal.

Cynhaliwyd Mabolgampau Ysgol ar 30.06.14 – cyfle i bob disgybl

arddangos eu doniau a mwynhau cadw’n heini.

Aeth dysgwyr Blwyddyn 3 i weithgareddau Hwyl yr Urdd yn Nhrecelyn gyda phlant eraill y clwstwr. Cyfle iddynt gymdeithasu a mwynhau gweithgareddau chwaraeon a chanu o dan ofal Swyddogion yr Urdd.

Cynhaliwyd Noson Wobrwyo i ddysgwyr Blwyddyn 6 yn Neuadd Glyndŵr ar 14.07.14. Cyfle i ni ddangos ein diolchiadau i’r plant a’u teuluoedd am eu holl waith caled a’u hymroddiad a dathlu eu doniau a’u cyfraniadau i’r ysgol.

Gwybodaeth Presenoldeb 2013/201411

Page 12: Cynnwys - Ysgol y Castell · Web viewYsgol Gynradd Gymraeg Y Castell Adroddiad Blynyddol Y Llywodraethwyr i’r Rhieni 2013-2014 I’w gyflwyno ar wefan yr ysgol 21ain o Dachwedd

Presenoldeb Absenoldeb gyda chaniatad

Absenoldeb heb ganiatad

Targed ysgol 2013-2014 94.5% 5.1% 0.4%

Tymor yr Hydref 2013 95.5% 4.3% 0.2%

Tymor y Gwanwyn 2014 95.6% 4.0% 0.4%

Tymor yr Haf 2014 93.18% 5.75% 1.07%

Blwyddyn Academaidd 2013-2014

94.76% 4.7% 0.5%

Yr ydym yn cyfathrebu’n rheolaidd â rhieni / gwarchodwyr i leihau’r nifer o absenoldeb heb ganiatad trwy negeseuon testun.

Mae mwyafrif o rieni a dysgwyr yn meddwl bod presenoldeb o 90% yn dda. Ydyn nhw’n gywir?

90% presenoldeb = ½ diwrnod ar goll yn wythnosol!

90% presenoldeb dros bum mlynedd yn yr ysgol = ½ blwyddyn ysgol ar goll!

Rydym yn ymbil ar rieni i beidio â chymryd y plant allan o’r ysgol.

Mae pob gwers yn cyfrif!ADOLYGIAD GWAITH LLYWODRAETHWYR Y FLWYDDYN 2013/14

12

Presenoldeb ar ddiwedd y flwyddyn

Diwrnodau a gollwyd o’r ysgol

100% 0

99.5% 1

97.4% 5

95% 10

90% 19

87% 24

85% 28

80% 38

75% 47

Page 13: Cynnwys - Ysgol y Castell · Web viewYsgol Gynradd Gymraeg Y Castell Adroddiad Blynyddol Y Llywodraethwyr i’r Rhieni 2013-2014 I’w gyflwyno ar wefan yr ysgol 21ain o Dachwedd

Fel y disgwylir, nid oedd y flwyddyn academaidd ddiwethaf yn wahanol i’r rhai a fu, gyda’r Llywodraethwyr yn cymryd rôl flaengar yn rheolaeth yr ysgol. Bum yn ffodus i ail-ethol Cyng. C Elsbury fel Cadeirydd am flwyddyn arall gan elwa o’i brofiad a’i wybodaeth helaeth am yr ysgol. Fe gollom ambell Lywodraethwr ond fe penodwyd rhai newydd. Fel canlyniad i hyn, newidwyd cyfrifoldebau rhai aelodau.

Gorffenodd sawl prosiect adeiladu dros y flwyddyn i waredu ar y tamprwydd yn yr ystafell athrawon, ystafell gyfrifiaduron a’r swyddfeydd. Hefyd, cyflawnwyd prosiectau llai, er enghraifft drws ffrynt newydd, yn ystod y flwyddyn. Paratowyd sawl ystafell dosbarth newydd i ymdopi gyda’r nifer gynyddol o ddisgyblion yn yr ysgol. Mae gwaith cyson wrth gynnal a chadw’r adeilad e.e. ail-beintio’r hen neuadd. yn allweddol i les y plant a’r staff ac felly bydd yn parhau dros y blynyddoedd nesaf.

Yn dilyn newidiadau blynyddol yn niferoedd yn yr ysgol, roedd rhaid trefnu’r dysgwyr i mewn i ddosbarthiadau oedran cymysg yn unol â pholisi’r ysgol. Nid oedd y penderfyniad hwn at ddant pawb a derbyniodd Y Llywodraethwyr ddeiseb gan grŵp o rieni gyda chais i ddatrys y broblem mewn modd mor deg ag sy’n bosibl. Trefnwyd cyfarfod rhwng y llywodraethwyr a’r rhieni a derbyniwyd rhestr o opsiynau teg a oedd yn nodi sut y gallai’r ysgol drefnu ei dosbarthiadau. Ar ôl ystyriaeth deg a thrafodaeth bellach, penderfynodd y Llywodraethwyr i gadw at y polisi cyfredol heb unrhyw newidiadau. Hysbyswyd y rhieni o’r penderfyniad yn gynnar yn 2014.

Cynhaliwyd adolygiad llawn o strwythur staffio’r ysgol ym Medi 2014 oherwydd tyfiant yn niferoedd o ddysgwyr. O ganlyniad, penodwyd ambell athro, aelod cynorthwyol newydd ac Is-Arweinwyr Adrannol yn Y Cyfnod Sylfaen a CA 2. Yn nhermau cyllid, cyd weithiodd y pwyllgor a’r pennaeth yn ddi-flino gan reoli lefelau staffio a gwaith cynnal a chadw i sicrhau gwerth am ein harian.

Yn ystod cyfarfodydd tymhorol, derbyniwyd adroddiad llawn ar ddatblygiad yr ysgol tuag at dargedau ei chynllun datblygu ysgol gan Mrs Nuttall. Fe wnaeth y staff gydnabod anghenion dysgwyr MAT yn ogystal â rhai sy’n angen ymyrraeth ychwanegol a darparwyd cyfleoedd iddynt gyflawni eu potensial. Derbyniodd y llywodraethwyr berfformiad cyffredinol yr ysgol. Fodd bynnag, mae angen codi safonau Mathemateg ymhellach, felly bydd hwn yn prif darged yng Nghynllun Datblygu’r Ysgol am y flwyddyn academaidd nesaf.

Mynychodd nifer o lywodraethwyr hyfforddiant a oedd yn eu galluogi i wireddu eu dyletswyddau’n fwy effeithiol. Ymwelodd y Llywodraethwyr â’r ysgol sawl gwaith gan arsylwi ar ei gwaith beunyddiol. Gwelwyd bod yr ymwelidau yn llawn gwybodaeth a mwynhad ac roedd y Llywodraethwyr yn hynod o hapus gyda’r hyn a brofwyd.

Yn olaf, hoffem ddweud llongyfarchiadau i Mrs Nuttall a’i staff ymroddgar am eu holl waith di-flino ag arweinodd at flwyddyn arall hynod o lwyddianus. Edrychwn ymlaen at helpu’r staff i ddatblygu’r ysgol ymhellach a chodi safonau hyd yn oed yn uwch.

Data Perfformiad Ysgol 201413

Page 14: Cynnwys - Ysgol y Castell · Web viewYsgol Gynradd Gymraeg Y Castell Adroddiad Blynyddol Y Llywodraethwyr i’r Rhieni 2013-2014 I’w gyflwyno ar wefan yr ysgol 21ain o Dachwedd

Y Cyfnod Sylfaen:

Disgwylir i blant ar ddiwedd YCS (7 oed) gyrraedd Deilliant 5. Mae ambell ddisgybl yn rhagori gan gyrraedd Deilliant 6 gydag eraill yn llwyddo i gyrraedd Deilliant 4.

Canran o ddisgyblion a gyflawnodd Deilliant 5 ac uwch ar ddiwedd Y Cyfnod Sylfaen 2014

Pwnc Targed ysgol

Ysgol Y Castell Teulu o ysgolion

AALl Cymru

Cymraeg 91% 91.8% 87.7% 92.3% 89.8%

Mathemateg 95% 85.2% 90.3% 91.1% 88.7%

Lles 95% 96.7% 96% 95.4% 94.2%

Dangosydd Pwnc Craidd (llwyddo yn y 3 phwnc craidd)

89% 83.6% 85.9% 88.5% 85.2%

Canran o ddisgyblion a gyflawnodd Deilliant 6 ar ddiwedd Y Cyfnod Sylfaen 2014

Pwnc Targed ysgol

Ysgol Y Castell Teulu o ysgolion

AALl Cymru

Cymraeg 23% 32.8% 27.8% 33.5% 32.5%

Mathemateg 23% 29.5% 28% 32.5% 30.3%

Lles 23% 41% 45.1% 53.3% 55.1%

Cyfnod Allweddol 2:

14

Page 15: Cynnwys - Ysgol y Castell · Web viewYsgol Gynradd Gymraeg Y Castell Adroddiad Blynyddol Y Llywodraethwyr i’r Rhieni 2013-2014 I’w gyflwyno ar wefan yr ysgol 21ain o Dachwedd

Disgwylir i blant ar ddiwedd CA2 (11 oed) gyrraedd lefel 4. Mae ambell ddisgybl yn rhagori gan gyrraedd lefel 5 gydag eraill yn llwyddo i gyrraedd lefel 3.

Canran o ddisgyblion a gyflawnodd lefel 4 ac uwch ar ddiwedd Cyfnod Allweddol 2 2014

Pwnc Targedau ysgol

Ysgol Y Castell

Teulu o ysgolion

AALl Cymru

Cymraeg 96% 93.1% 91% 89.9% 88.1%

Saesneg 89% 93.1% 93% 88% 88.4%

Mathemateg 96% 100% 93.2% 89% 88.9%

Gwyddoniaeth 96% 100% 93.9% 90.4% 90.3%

Dangosydd Pwnc Craidd

89% 93.1% 90.8% 85.8% 86.1%

Canran o ddisgyblion a gyflawnodd lefel 5 ar ddiwedd Cyfnod Allweddol 2 2014

Pwnc Targedau ysgol

Ysgol Y Castell

Teulu o ysgolion

AALl Cymru

Cymraeg 32% 41.4% 30.5% 32.8% 33.9%

Saesneg 29% 51.7% 37% 36.5% 38%

Mathemateg 39% 55.2% 32.2% 36.8% 38%

Gwyddoniaeth 39% 48.3% 31.2% 38.5% 38.4%

Adolygiad o Gynllun Datblygu Ysgol (2013-2014)

15

Page 16: Cynnwys - Ysgol y Castell · Web viewYsgol Gynradd Gymraeg Y Castell Adroddiad Blynyddol Y Llywodraethwyr i’r Rhieni 2013-2014 I’w gyflwyno ar wefan yr ysgol 21ain o Dachwedd

Targed 1 - Codi safonau ysgrifennu gan dargedau dysgwyr sydd â’r gallu i gyrraedd Deilliant 6 ar ddiwedd Y Cyfnod Sylfaen a lefel 5 erbyn diwedd CA2. Anelwn at sicrhau fod 25% o’r dysgwyr ym mhob blwyddyn yn cyflawni un deilliant / lefel yn uwch na’r lefel disgwyliedig.

Defnyddiodd yr ysgol ganran o’i chyllid GEY a GAD i ddarparu cyfleoedd ychwanegol i’n dysgwyr abl a thalentog i ymchwilio a datblygu sgiliau ysgrifenedig estynedig ar draws y cwricwlwm. Sefydlwyd “Sgwadiau ‘Sgwennu” a gweithiodd y plant gydag awduron, beirdd, staff o Gwm Rhymni ac athrawon arbenigol i gynhyrchu amrywiaeth o genres. Cyhoeddwyd eu gwaith mewn papurau bro lleol, trwy gystadleuaethau llenyddol ac ystod prosiect Dylanwad a oedd yn dathlu canmlwyddiant Dylan Thomas. Mae llyfr o waith y plant ar gael yn yr ysgol. Ar ddiwedd y flwyddyn academaidd, cyrhaeddodd 32% o ddysgwyr Y Cyfnod Sylfaen ddeilliant 6 a 21% wrth ysgrifennu (yn Y Gymraeg a Saesneg) yng Nghyfnod Allweddol 2.

Targed 2 - Codi safonau rhifedd ar draws yr holl ysgol. Sicrhau bod 90-92% o’r dysgwyr ym mhob blwyddyn yn cyrraedd y deilliant / lefel disgwyliedig am eu hoedran.

Derbyniodd yr holl staff hyfforddiant briodol a chynhaliaeth i weithredu fframwaith TAPAS a hyrwyddir gan GCA fel esiampl o arfer da.

Penodwyd Mr H Menear i godi safonau rhifedd grŵp o ddysgwyr penodol yn CA2. Yn dilyn ymyrraeth wythnosol, gwelwyd gwelliant yn sgoriau safonol y mwyafrif o ddysgwyr o 15 pwynt ar gyfartaledd.

Gweithredodd yr holl staff gynhaliaeth gwahaniaethol ar gyfer yr holl haenau o ddysgwyr er mwyn codi safonau. Anelwyd at sicrhau bod 90-92% o’r dysgwyr yn cwrdd (o leiaf) â’r deilliannau / lefelau disgwyliedig ar gyfer eu hoedran.

Bu’r Uwch Dîm Rheoli, o dan arweiniad Mr Davies, yn monitro gwersi, craffu ar lyfrau a gosod heriau cyson i’r holl blant.

Ar ddiwedd y flwyddyn, casglwyd a dadansoddwyd data asesiadau athrawon a gwelwyd bod gwelliannau (Blwyddyn 1 = 94% ; Blwyddyn 2 = 85%; Blwyddyn 3 = 89%; Blwyddyn 4 = 84%; Blwyddyn 5 = 86%; Year 6 = 100%).

Targed 3 - Gweithredu’r Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd, gan sicrhau safonau uchel o lythrennedd a rhifedd ar draws y cwricwlwm.

Derbynodd yr holl staff hyfforddiant briodol a chynhaliaeth i weithredu’r Fframweithiau Llythrennedd a Rhifedd.

Cynlluniodd y staff eu themâu tymhorol a gweithgareddau gyda sylw briodol at oedran a’r gallu dysgwyr yn eu

16

Page 17: Cynnwys - Ysgol y Castell · Web viewYsgol Gynradd Gymraeg Y Castell Adroddiad Blynyddol Y Llywodraethwyr i’r Rhieni 2013-2014 I’w gyflwyno ar wefan yr ysgol 21ain o Dachwedd

dosbarthiadau yn unol â’r ddwy fframwaith. Mae’r gweithgareddau hyn yn herio ac ymestyn sgiliau llythrennedd a rhifedd yr holl ddysgwyr gan sicrhau safonau uchel o gyflawniad ar draws y cwricwlwm.

Rhannwyd y fframweithiau gyda’r rhieni fel eu bod yn medru gweld a deall pa lefel o sgil sy’n ddisgwyliedig ym mhob blwyddyn.

Addaswyd adroddiadau blynyddol y dysgwyr at eu rhieni i gynnwys naratif am gaffael o sgiliau llythrennedd a rhifedd ar draws y cwricwlwm.

Targed 4 - Datblygu cysylltiadau gydag ysgolion trwy Ewrop. Disgyblion yn magu dealltwriaeth well o wledydd Ewropaidd a’u diwylliannau. Athrawon yn arsylwi a gweithredu arferion gorau a welir i godi safonau rhifedd ar draws y cwricwlwm.

Crëwyd cysylltiadau â phedair ysgol Ewropaidd gyda ffocws ar sut mae dysgu sgiliau rhifedd yn effeithiol. Aeth ein staff ag ymweliadau ag ysgolion yn Rhufain a Bordeaux gan ennill mewnweliad da i mewn i amrywiaeth o ddulliau dysgu. Rheadrwyd y strategaethau llwyddiannus yn ôl i’n staff ni a gweithredwyd arnynt.

Gwnaeth y dysgwyr gysylltiadau gyda’r ysgolion ac enillont brofiadau byth-gofiadwy wrth groesawu’r ymwelwyr i Gymru am dair wythnos. Cyfrifoldeb y dysgwyr (o dan arweiniad Mr Lloyd) oedd hyrwyddo diwylliant a threftadaeth Cymru trwy amrywiaeth o weithgareddau.

Dysgodd pob disgybl CA2 sut i wneud pryd o fwyd Eidaleg gan yr athrawon ar daith; ; tasg a wnaeth arddangos pwysigrwydd o ddefnyddio sgiliau rhifedd a mesur yn gywir mewn bywyd bob dydd. Dysgodd disgyblion Y Cyfnod Sylfaen sut i gyfrif i gant a chanu rhigymau rhif mewn Eidaleg a Ffrangeg.

Targed 5 - Rhannu arferion da a rhagorol o fewn yr ysgol ac ar draws y consortiwm. Dewiswyd yr ysgol i arwain prosiect ar draws y sir gyda ffocws ar sicrhau ymarferion da gan anelu at ragoriaeth. Bydd athrawon o ysgolion y sir yn arsylwwi ar arferion dysgu ac addysgu yn Ysgol Y Castell. Darperir datblygiad proffesiynol i’n staff wrth iddynt arwain cydweithwyr ar daith ddysgu, gan ffocysu ar safonau addysgu a dysgu rhagorol.

Am resymau tu hwnt i’n gallu, ni ddechreuodd y prosiect yma tan Fedi 2014. Mae Mr Daniel Davies yn arwain y prosiect dysgu proffesiynol, ar ôl creu ac addasu’r prosiect i anghenion ysgolion cyfrwng Cymraeg yn ne-ddwyrain Cymru. Cynigodd y prosiect ddatblygiad proffesiynol rhagorol i Mr Davies a staff eraill yr ysgol wrth i ni ddilyn canllawiau’r prosiect tra’n gwerthuso ein ymarferion proffesiynol yn fewnol. Bydd y prosiect yn parhau dros y flwyddyn academaidd nesaf.

17

Page 18: Cynnwys - Ysgol y Castell · Web viewYsgol Gynradd Gymraeg Y Castell Adroddiad Blynyddol Y Llywodraethwyr i’r Rhieni 2013-2014 I’w gyflwyno ar wefan yr ysgol 21ain o Dachwedd

Camau Gweithredu Cynllun Datblygu Ysgol (2014-2015)

Targed 1: Codi safonau Mathemateg

Y Cyfnod Sylfaen - Er i’r ysgol gynyddu y nifer o blant a gafodd deilliant 6+ i 29% roedd y canran a gafodd deilliant 5+ wedi gostwng i 85%, roedd hwn o dan gyfartaledd y teulu, yr awdurdod lleol a Chymru. Mae’r data yma yn cyd fynd â chanlyniadau y profion cenedlaethol lle cafodd 82% sgor safonol yn fwy na 85.

Targed - i godi safonau mathemateg deilliant 5 (targed D5+ = 92%+ a D6+ = 31%)

CA2 – Gwelwyd gwelliant mawr yn safonau mathemateg (codiad o 19% lefel 4+ ar dddiwedd y CA). Er hyn, rydym yn ymwybodol iawn o anghenion y dysgwyr dros y ddwy flynedd nesaf ac mae angen sicrhau ymyrraeth briodol ac effeithiol iddynt hwy er mwyn cynnal y safonau yma.

Targed - i godi canran y dysgwyr sy’n llwyddo i dderbyn sgor dros 85 yn y profion gweithdrefnol ym mlwyddyn 5 a 6 - Bl 5 = 90% / Bl 6 = 92%

Targed 2: Gwella’r amgylchedd dysgu ffisegol trwy fuddsoddi yng nghysgodion pwrpasol i ddatblygu dysgu yn yr awyr agored yn Y Cyfnod Sylfaen. Darparu hyfforddiant priodol i’r staff ar agweddau addysgu a dysgu effeithiol yn yr awyr agored – 100% o sesiynau rhifedd yn yr awyr agored a fonitrwyd yn dda neu’n well.

Targed 3: Ymysgylltu’r rhieni yn addysg eu plant (yn enwedig dysgwyr PDG) trwy gryfhau cysylltiadau rhwng yr ysgol a’r rhieni er mwyn codi dyheadau am ddyfodol disglair i’r plant. Gwella darpariaeth gwaith cartref (yn enwedig mathemateg) fel bod y rhieni yn medru cymryd rhan weithredol yn addysg eu plant

Targed 4: Codi safonau rhifedd a llythrennedd ar draws y cwricwlwm trwy ddefnydd effeithiol o dechnoleg gwybodaeth diwetharaf: I-Pads. Buddosoddi mewn 40 I-Pad newydd (grant PDG) i hyfforddi Arweinwyr Digidol ymysg y dysgwyr a fydd yn arwain dysgu holl randdeiliaid yr ysgol.

Glendid tai bach yr ysgol.

Cyflogir glanheuwyr trwy gytundeb gyda’r AL. Glanheuir y tai bach ddwywaith y dydd gan sicrhau cyflenwad digonol o bapur tŷ bach, sebon a dŵr poeth. Profir tymheredd y dŵr yn wythnosol gan y gofalwr. Cynhaliwyd arolygon glendid ar hap a datganwyd bod safonau glendid yn foddhaol.

18

Page 19: Cynnwys - Ysgol y Castell · Web viewYsgol Gynradd Gymraeg Y Castell Adroddiad Blynyddol Y Llywodraethwyr i’r Rhieni 2013-2014 I’w gyflwyno ar wefan yr ysgol 21ain o Dachwedd

Datganiad Cyllidol

Cyllid Ysgol – Gwariant ac Incwm (Ebrill 2013 – Mawrth 2014)

Ardal o Wariant Cyfanswm Balans Cyffredinol

Costau Staffio £1,238,125

Costau Adeilad £128,529

Cyflenwadau a Gwasanaethau £93,110

Cynllun Datblygu Ysgol £2,085

Cytundeau Lefel Gwasanaeth AALl

£15,043

Cyfanswm o Wariant £1,476,892

Incwm £364,010

Gwariant Net £1,112,882

Cyfanswm Ariannu Ysgol (Ebrill 2013 – Mawrth 2014)

Cyfanswm Balans Cyffredinol

Dyraniad Fformiwla Cyfanswm

£1,104,651.86

Balans a gariwyd drosodd o’r flwyddyn flaenorol

£15,314.46

Cyfanswn y Gyllideb £1,119,966.32

19

Page 20: Cynnwys - Ysgol y Castell · Web viewYsgol Gynradd Gymraeg Y Castell Adroddiad Blynyddol Y Llywodraethwyr i’r Rhieni 2013-2014 I’w gyflwyno ar wefan yr ysgol 21ain o Dachwedd

Tymhorau Ysgol a Gwyliau 2014/2015

O I Hanner Tymor

Tymor yr Hydref 2014 01.09.14 19.12.14 27.10.14 - 31.10.14

Tymor y Gwanwyn 2015 05.01.15 27.03.15 16.02.15 – 20.02.15

Tymor yr Haf 2015 13.04.15 20.07.15 25.05.15 – 29.05.15

Yn ogystal â hyn, bydd yr ysgol yn cau am bum niwrnod arall ar gyfer hyfforddiant mewn swydd i’r staff. Cewch wybod am y rhain cyn gynted â phosib trwy neges tects ac ar wefan yr ysgol. Mae’r calendr hwn yn cwrdd â’r gofynion statudol o 195 o ddiwrnodau, gan gynnwys 190 gyda’r disgyblion yn bresennol a phum niwrnod ar gyfer hyfforddiant mewn swydd.

Amseroedd Ysgol

Yn unol â gofynion y Cwricwlwm Cenedlaethol, mae’n ofynnol i blant Y Cyfnod Sylfaen weithio am o leiaf 21.5 awr yr wythnos (ac eithrio amseroedd chwarae, gwasanaethau a chofrestri). Dylai disgyblion Cyfnod Allweddol 2 weithio am o leiaf 23.5 awr yr wythnos.

Y Cyfnod Sylfaen Cyfnod Allweddol 2

Dechrau ysgol 9.00 – 10.30 y.b. 9.00 – 10.45 y.b.

Toriad boreol 10.30 – 10.45 y.b. 10.50 – 11.05 y.b.

Cinio 12.00 – 1.15 y.p. 12.15 – 1.15 y.p.

Toriad prynhawn 2.35 – 2.45 y.p. 2.20 – 2.30 y.p.

Diwedd y dydd 3.30 y.p. 3.30 y.p.

D.S. Mae disgyblion oed meithrin anstatudol yn mynychu’r ysgol rhan amser:

Bore : 9:00 – 11:45

Prynhawn : 12:45 – 3:30

Mynediad i Ddisgyblion Anabledd20

Page 21: Cynnwys - Ysgol y Castell · Web viewYsgol Gynradd Gymraeg Y Castell Adroddiad Blynyddol Y Llywodraethwyr i’r Rhieni 2013-2014 I’w gyflwyno ar wefan yr ysgol 21ain o Dachwedd

Mae croeso cynnes yn Ysgol y Castell i ddisgyblion gydag anghenion a galluoedd arbennig. Er mwyn sicrhau bod pob dysgwr yn cael mynediad cyfartal i’r cwricwlwm, bydd y CLAAA, athrawon dosbarth, Pennaeth ac asiantaethau allanol yn cydweithio i ddarparu anghenion unigol y dysgwyr. Mae Polisïau Cyfle Cyfartal ac Anghenion Addysgol Ychwanegol yn esbonio hyn yn fanwl.

Mae gan yr adeilad ei hun gyfyngiadau wrth ystyried mynediad i’r anabl. Mae ramp i’r brif adeilad, neuadd a dosbarthiadau allanol. Er bod gan yr ysgol ddau dŷ bach sy’n addas i’r anabl, mae mynediad i ambell ardal fewnol yn anodd tu hwnt.

Lle bo’n bosibl, gwneir trefniadau i gwrdd ag anghenion disgyblion ac ymwelwyr anabl.

Anghenion Addysgol Ychwanegol

Tra ein bod yn annog yr holl ddysgwyr yn Ysgol Y Castell i weithio tuag at eu llawn botensial, rydym yn cydnabod y bydd angen cymorth ychwanegol ar rai disgyblion ar adegau yn ystod eu gyrfaoedd ysgol.

Rydym yn cynnwys y disgyblion yma ar gofrestr Anghenion Addysgol Arbennig (AAA). Yna, mae ein Cydlynydd Anghenion Arbennig (CLAAA) yn cynorthwyo’r athrawon dosbarth, y rhieni a’r dysgwyr i ysgrifennu Cynllun Addysgol Unigol (CAU), Cynllun Ymddygiad Unigol (CYU) neu Gynllun Chwarae ar gyfer y pant ieuengaf, sy’n gosod rhaglen waith unigol i’r disgyblion hyn.

Hefyd, mae’r CLAAA (Mrs S. Curran) yn cysylltu â rhieni, staff eraill, nyrs yr ysgol, therapydd Iaith a Llefaredd a’r Gwasanaeth Seicolegol. Derbynnir cyngor a chynhaliaeth gan yr ALl trwy Wasanaethau

Cynhwysiad, megis therapydd galwedigaethol, cynhaliaeth ymddygiad a gwasanaeth clyw a golwg.

Mae angen cynhaliaeth ddwys 1:1 ar ambell ddisgybl; derbynia rhai ychydig o oriau o gefnogaeth, cefnogir eraill mewn gweithgareddau grŵp bach. Derbynia’r mwyafrif o ddisgyblion gymorth yn y dosbarthiadau, trwy weithgareddau gwahaniaethol a chymorth gan yr athrawon. Ysgol gynhwysol yw ein hysgol ni, ac rydym yn croesawu dysgwyr gydag amrywiaeth eang o anghenion i mewn i’n

dosbarthiadau. Mae pob disgybl yn cael ei gynnwys mewn gweithgareddau dyddiol yn yr ysgol a’r gymuned ehangach.

Cynhwysa’r term Anghenion Arbennig ddisgyblion sydd â doniau arbennig; boed yn academaidd, yn gerddorol neu’n chwaraeon. Felly, rydym yn cydnabod ac yn herio disgyblion Abl a Thalentog i gyrraedd eu llawn botensial.

Anelwn at sicrhau bod gan bob disgybl fynediad i’r cwricwlwm, beth bynnag yw ei anghenion a’i allu a byddwn yn parhau i ddefnyddio ystod o fecanwaith cynhaliol er mwyn cyrraedd ein nod.

Adnewyddir prosbectws yr ysgol yn flynyddol a’i osod ar wefan yr ysgol.

Y Corff Llywodraethol

Mae’r Corff Llywodraethol yn gyfrifol am reolaeth effeithiol yr ysgol. Mae gennym ddau ar bymtheg o Lywodraethwyr (gan gynnwys y Pennaeth yn rhinwedd ei swydd).

21

Page 22: Cynnwys - Ysgol y Castell · Web viewYsgol Gynradd Gymraeg Y Castell Adroddiad Blynyddol Y Llywodraethwyr i’r Rhieni 2013-2014 I’w gyflwyno ar wefan yr ysgol 21ain o Dachwedd

Fel arfer, gwasanaethant am bedair blynedd. Nodwyd cyfansoddiad presennol y Corff Llywodraethol isod.

Irene Jones yw Clerc i’r Llywodraethwyr; gellir cysylltu â hi trwy Education Achievement Service, Tŷ Tredomen, Tredomen, Caerffili.

Enw Math o Lywodraethwr Cyfnod o Wasanaeth

Cynghorydd Colin Elsbury (Cadeirydd)

Cynrychiolydd AALl 29.09.11 – 28.09.15

Cyng. Dr. Kim Choo Yin (Is-gadeirydd)

Cynrychiolydd Awdurdod Llai 05.05.13 – 06.05.17

Mrs Anwen Hill Cynrychiolydd Cymunedol 23.01.12 – 22.01.16

Mrs Eleri Betts Cynrychiolydd Cymunedol 10.06.13 – 11.06.17

Mrs Lynda Paddock Cynrychiolydd Cymunedol 23.01.12 – 10.06.13

Mr. Gareth Williams Cynrychiolydd AALl 01.02.12 – 31.01.16

Mr. Emyr Jones Cynrychiolydd Cymunedol 29.09.11 – 28.09.15

Dr. Iwan Morris Cynrychiolydd AALl 01.09.12 – 31.08.16

Mrs Sian Baker Cynrychiolydd Rhieni 25.10.10 – 24.10.14

Mr Lyndon Fairburn Cynrychiolydd Rhieni 01.02.12 – 31.01.16

Mrs Lisa Missen Cynrychiolydd Rhieni 13.03.12 – 12.03.16

Mrs Vicky Coxon Cynrychiolydd Rhieni 24.10.14 – 23.10.18

Ms Sharon Iles Cynrychiolydd Rhieni 01.02.12 – 31.01.16

Mrs Helen Nuttall Pennaeth 01.09.09

Mr Iwan Lloyd Cynrychiolydd Athrawon 01.03.13 – 28.02.17

Mr Daniel Davies Cynrychiolydd Athrawon 24.01.12 – 23.01.16

Mrs Mairwen Dainton Cynrychiolydd Staff Atodol 01.09.14 – 31.03.18

Cynhelir etholiadau nesaf ar gyfer Rhiant-Lywodraethwr ym Mis Hydref 2014.

Manylion Cysylltu

Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili – Awdurdod Addysg Lleol

22

Page 23: Cynnwys - Ysgol y Castell · Web viewYsgol Gynradd Gymraeg Y Castell Adroddiad Blynyddol Y Llywodraethwyr i’r Rhieni 2013-2014 I’w gyflwyno ar wefan yr ysgol 21ain o Dachwedd

Cyfarwyddwr Addysg a Hamdden

Mrs. S Aspinall

Tŷ Penalltau,

Tredomen.

Ffon (01443 815588)

www.caerphilly.gov.uk

Manylion Ysgol

Cadeirydd y Llywodraethwyr: Cyng. Colin Elsbury (trwy Ysgol Y Castell)

Pennaeth: Mrs H. Nuttall

Clerc i’r Llywodraethwyr: Mrs Irene Jones

(Cysylltwch â Mrs Jones trwy swyddfeydd EAS, Tredomen)

Ysgol Gynradd Gymraeg Y Castell

Heol Cilgant

Caerffili

CF83 1WH

Ffon (029 20864790)

Facs (029 20867220)

E-Bost: [email protected]

23