dogfen ymgynghori ysgolion yr 21ain ganrif 2013 · 2014. 5. 28. · ym mis ionawr 2013, roedd 1398...

16
Dogfen Ymgynghori Ysgolion yr 21ain Ganrif 2013 Creu Ysgol Gynradd Cyfrwng Saesneg Newydd â 2 Ddosbarth Mynediad ym Mhontprennau gyda meithrinfa â 48 o leoedd cyfwerth ag amser llawn

Upload: others

Post on 02-Feb-2021

1 views

Category:

Documents


0 download

TRANSCRIPT

  • Dogfen Ymgynghori Ysgolion yr 21ain Ganrif 2013Creu Ysgol Gynradd Cyfrwng Saesneg Newydd â 2 Ddosbarth Mynediad ym Mhontprennau gyda meithrinfa â 48 o leoedd cyfwerth ag amser llawn

  • 2

    Dog

    fen

    Ymgy

    ngho

    ri 2

    013

    Ys

    golio

    n yr

    21a

    in G

    anri

    f

    Trefnwyd cyfarfodydd a sesiynau galw heibio lle caiff y cynnig ei egluro. Mae’r rhain yn gyfle i chi ofyn cwestiynau a gwneud sylwadau a gaiff eu cofnodi. Gallwch hefyd gyflwyno eich barn ar bapur. Caiff gwybodaeth am y cynnig hwn ei harddangos yng Nghanolfan Gymunedol Pontprennau, Canolfan Dysgu yn y Gymdogaeth Pentwyn ac ysgolion cynradd lleol.

    Yn ogystal, caiff gweithdai eu trefnu gyda phlant lleol o oedran ysgol gynradd i roi cyfle iddynt ofyn cwestiynau, dysgu mwy am y cynnig a mynegi barn.

    Nodir manylion dyddiadau’r cyfarfodydd ymgynghori isod:

    Cyflwyniad

    Sut y gallwch chi gael rhagor o wybodaeth a mynegi eich barn?

    Math o Ymgynghoriad Cyfarfod Cyhoeddus

    Cyfarfod Cyhoeddus

    Sesiwn galw heibio

    Sesiwn galw heibio

    Sesiwn galw heibio

    Dyddiad/Amser 13/11/20136:30pm

    18/11/20136:30pm

    06/11/1310:00 – 12:00

    26/11/201311am – 1pm

    27/11/20131:00 – 3:00pm

    Lleoliad

    Canolfan Dysgu yn y Gymdogaeth Pentwyn

    Canolfan Gymunedol Pontprennau

    Canolfan Gymunedol Pontprennau

    Canolfan Hamdden Pentwyn

    Canolfan Gymunedol Pontprennau

    Mae’r ymgynghoriad hwn yn gyfle i bobl ddysgu am y cynnig o ran trefniadaeth ysgolion sydd wedi’i gyflwyno yn eich ardal. Dyma’ch cyfle i ofyn cwestiynau a gwneud sylwadau a gaiff eu hystyried pan fydd y Cyngor yn penderfynu ar y ffordd ymlaen.

    Gofynnir am farn amrywiaeth o unigolion a grwpiau ar y cynnig. Mae’r canlynol ymysg y sawl rydym yn bwriadu ymgynghori â hwy fel rhan o’r broses hon:

    • Plant a phobl ifanc• Rhieni/gofalwyr • Staff ysgolion • Cyrff Llywodraethu Ysgolion• Trigolion lleol • Aelodau Etholedig (Cynghorwyr, ACau ac ASau lleol)• Cyfarwyddwyr yr Eglwys yng Nghymru a’r Awdurdod Esgobaethol Catholig• Awdurdodau lleol cyfagos• Ysgolion o fewn radiws o ddwy filltir o safle arfaethedig ysgol Pontprennau• Estyn• Gweinidogion Cymru • Comisiynydd Heddlu a Throseddu• Y Consortiwm Addysg Rhanbarthol• Y Consortiwm Trafnidiaeth Rhanbarthol• Undebau Llafur• Darparwyr gofal plant• Pawb a ymatebodd i’r ymgynghoriad blaenorol

  • Mae ardal Pontprennau wedi ehangu’n sylweddol ers dechrau’r 1990au. Er y neilltuwyd safle ar gyfer ysgol yn flaenorol, nid oes ysgol gynradd yn ardal Pontprennau ar hyn o bryd.

    Cynhaliodd Cyngor Caerdydd ymgynghoriad cyhoeddus yn y Gwanwyn 2013 ar gynnig i sefydlu ysgol gynradd cyfrwng Saesneg newydd â 1.5 dosbarth mynediad gyda meithrinfa â 32 o leoedd cyfwerth ag amser llawn ym Mhontprennau ar y safle gyferbyn â’r ganolfan gymunedol bresennol.

    Er y codwyd pryderon ynghylch yr effaith bosibl ar Ysgol Gynradd Glyncoed a phroblemau o ran traffig, roedd y mwyafrif a fynegodd eu barn yn ystod yr ymgynghoriad o blaid y cynnig, ond gydag awydd i weld ysgol mwy o faint fyddai’n gallu ateb y galw yn yr ardal leol.

    Gan ystyried y pwyntiau a godwyd yn ystod yr ymgynghoriad a’r posibilrwydd o ddatblygiad tai pellach, mae’r Cyngor o’r farn y byddai manteision sylweddol o ran gwella addysg a chyfleusterau cymunedol ac arbed costau drwy ystyried safle’r ysgol ynghyd â safle Canolfan Gymunedol Pontprennau. Byddai hynny’n galluogi datblygu ysgol gynradd gymunedol cyfrwng Saesneg â dau ddosbarth mynediad.

    Gan hynny mae’r Cyngor wrthi’n ymgynghori â’r gymuned ar y cynnig canlynol: • Sefydlu ysgol gynradd gymunedol cyfrwng Saesneg â 2 ddosbarth mynediad (er mwyn gallu derbyn hyd at 60 o

    ddisgyblion fesul grŵp blwyddyn) gyda meithrinfa â 48 o leoedd cyfwerth ag amser llawn, fel cyfleuster newydd wedi’i gyfuno â’r ganolfan gymunedol bresennol ym Mhontprennau, o fis Medi 2015.

    • Byddai’r ysgol arfaethedig yn gwasanaethu plant 3-11 oed.

    Ar hyn o bryd mae Pontprennau yn nalgylch Ysgol Gynradd Bryn Celyn ac Ysgol Gymraeg Pen y Groes, ac mae’r ddwy wedi’u lleoli ym Mryn Celyn, Pentwyn, Caerdydd, CF23 7EH.

    Mae Ysgol Gynradd Gatholig Santes Bernadette ac Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Dewi Sant hefyd yn gwasanaethu’r ardal.

    Ar hyn o bryd mae plant ym Mhontprennau yn mynychu nifer o ysgolion gan gynnwys Ysgol Gynradd Glyncoed. Mae dalgylch yr ysgol honno’n gyfagos â dalgylch Bryn Celyn.

    Gallwch weld lleoliad Ysgol Gynradd Bryn Celyn, Ysgol Gynradd Gatholig Sant Bernadette, Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Dewi Sant, Ysgol Gymraeg Pen y Groes ac Ysgol Gynradd Glyncoed ar y map ar dudalen 9.

    Mae eich barn yn bwysig. Rydym am wybod eich barn ar y cynnig. Gallwch wneud hyn drwy fynd i un o’r cyfarfodydd uchod, a/neu drwy gwblhau Ffurflen Ymateb yr Ymgynghoriad sydd ar gael ar dudalen 15 o’r ddogfen hon.

    3

    Dog

    fen

    Ymgy

    ngho

    ri 2

    013

    Ys

    golio

    n yr

    21a

    in G

    anri

    f

    Cefndir y cynnig

    Y cynnig newydd

    Ysgolion sy’n gwasanaethu’r ardal ar hyn o bryd

    Mae Eich Barn yn Bwysig

  • 4

    Mae Tabl 1 isod yn rhoi manylion am faint ysgolion a gwybodaeth am gyflwr ac addasrwydd adeiladau’r ysgolion.

    Pam ydym yn cynnig y newid?

    Dog

    fen

    Ymgy

    ngho

    ri 2

    013

    Ys

    golio

    n yr

    21a

    in G

    anri

    f

    Enw’r ysgol

    Ysgol Gynradd Bryn Celyn Ysgol Gynradd Glyncoed

    Ysgol Pen y Groes

    Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Dewi Sant

    Ysgol Gynradd Gatholig Santes Bernadette

    Math o Ysgol

    Cyfrwng Saesneg Cymunedol Cyfrwng Saesneg Cymunedol Cyfrwng Cymraeg Cymunedol Cyfrwng Saesneg (gwirfoddol a gynorthwyir)

    Cyfrwng Saesneg (gwirfoddol a gynorthwyir)

    Cyflwr/Addasrwydd Adeiladau’r Ysgol

    Dd/B - Adeilad newydd a safle wedi’i adnewyddu

    Boddhaol

    Dd/B - Adeilad newydd a safle wedi’i adnewyddu

    Boddhaol

    Boddhaol

    Capasiti

    210

    420

    210

    210

    210

    Y galw presennol am leoedd a’r ysgolion a fynychwydMae disgyblion sy’n byw yn ardal Pontprennau yn mynychu nifer o ysgolion ar hyn o bryd ac mae llawer o blant yn teithio y tu hwnt i’r ardal leol er mwyn cael addysg.

    Ym mis Ionawr 2013, roedd 1398 o ddisgyblion ysgol gynradd a oedd yn byw yn nalgylchoedd Ysgolion Cynradd Bryn Celyn a Glyncoed yn mynd i 41 o ysgolion gwahanol yng Nghaerdydd. O’r disgyblion hynny, roedd 173 ohonynt yn mynd i ysgolion cynradd cymunedol cyfrwng Saesneg yn ardaloedd Llanisien, Llys-faen a Thornhill. Mae’r gorlif hwn i ysgolion yn Llanisien, Llys-faen a Thornhil wedi golygu bod rhai disgyblion o’r ardaloedd hynny wedi methu â chael lle yn eu hysgolion lleol.

    Dalgylch

    Bryn CelynGlyncoed

    Ardal gyfunol

    Bryn Celyn

    1146

    436

    Glyncoed

    174142

    Ffydd

    45292

    544

    CyfrwngCymraeg

    9312

    105

    Ysgolion Cynradd Cymunedol

    Saesneg Eraill

    26548

    313

    Cyfanswm sy’n byw yn y dalgylch

    1098300

    1398

    Tabl 2: Ysgolion cynradd a fynychwyd gan ddisgyblion oedran cynradd sy’n byw yn nalgylchoedd presennol Ysgolion Cynradd Bryn Celyn a Glyncoed, Ionawr 2013

    Ysgol Gynradd a fynychwyd

    YsgolYsgol Gynradd Bryn Celyn *Ysgol Gynradd Glyncoed Ysgol Gymraeg Pen Y Groes

    Niferoedd diweddar ac a ragwelir ar gofrestrau’r ysgolion cynradd cymunedol lleol oni weithredir y cynnig

    Mae Tabl 3 isod yn dangos nifer y disgyblion ar gofrestrau Bryn Celyn, Glyncoed a Phen-y-Groes dros y blynyddoedd diwethaf, a nifer y disgyblion ar y gofrestr a ragwelir pe bai’r trefniadau presennol yn parhau, heb weithredu’r cynnig.

    156

    0

    0

    Iona

    wr 2

    009

    149

    0

    13

    Iona

    wr 2

    010

    137

    0

    17

    Iona

    wr 2

    011

    141

    362

    25

    Iona

    wr 2

    012

    132

    363

    39

    Iona

    wr 2

    013

    131

    378

    50

    Rhag

    fyne

    giad

    201

    3/20

    14

    130

    388

    61

    Rhag

    fyne

    giad

    201

    3/20

    15

    136

    397

    72

    Rhag

    fyne

    giad

    201

    3/20

    16

    137

    395

    74

    Rhag

    fyne

    giad

    201

    3/20

    17

    137

    392

    82

    Rhag

    fyne

    giad

    201

    3/20

    18

    137

    392

    82

    Rhag

    fyne

    giad

    201

    3/20

    19

    137

    392

    82

    Rhag

    fyne

    giad

    201

    3/20

    20

    *Cyn Medi 2011, trefnwyd Glyncoed fel ysgolion babanod ac iau ar wahân.

  • 5

    Y galw am leoedd yn y dyfodol

    Sut yr effeithir ar ysgolion eraill?D

    ogfe

    n Ym

    gyng

    hori

    20

    13

    Ysgo

    lion

    yr 2

    1ain

    Gan

    rif

    Fel y dengys y tabl uchod, amcangyfrifir diffyg o tua 41 o leoedd yn ysgolion cymunedol cyfrwng Saesneg yr ardal ym mis Medi 2016, yn seiliedig ar nifer y tai sy’n bodoli eisoes.

    At hynny, mae safle arfaethedig yr ysgol yn agos at y safleoedd maes glas strategol a gynigiwyd gan y Cyngor i’w hystyried fel rhan o’i Gynllun Datblygu Lleol.

    Er y bydd disgwyl cynnwys darpariaeth addysg ar gyfer yr holl dai ychwanegol a ddatblygir, byddai unrhyw dai newydd yn yr ardal yn gwaethygu’r diffyg o ran lleoedd mewn ysgolion cynradd cymunedol cyfrwng Saesneg, yn y byrdymor o leiaf, ac felly byddai’n ddoeth ystyried sefydlu ysgol â dau ddosbarth derbyn.

    Byddai creu ysgol gynradd newydd â dau ddosbarth mynediad ym Mhontprennau ynghyd â newid y dalgylchoedd yn sicrhau bod digon o leoedd cymunedol cyfrwng Saesneg ar gael i ateb y galw yn lleol.

    Pe bai’r cynnig yn cael ei weithredu o fis Medi 2015 byddai nifer y lleoedd mewn ysgolion cymunedol Saesneg a fyddai ar gael yn y dosbarth mynediad (Dosbarth Derbyn) yn cynyddu tua 60 o leoedd (2 ddosbarth mynediad).

    Byddai cyfanswm y lleoedd ym Mryn Celyn, Glyncoed a’r ysgol newydd arfaethedig yn galluogi derbyn hyd at 150 o ddisgyblion y flwyddyn.

    Byddai ysgol â dau ddosbarth derbyn hefyd yn cadw rhai lleoedd gwag sydd eu hangen i alluogi ysgolion i ymdopi ag amrywiadau o ran niferoedd disgyblion a bydd hefyd yn helpu’r Cyngor i reoli’r twf o ran nifer y disgyblion yn yr ardal leol pe bai’r datblygiadau tai yn mynd rhagddynt.

    Rhagwelir mai prin fyddai effaith sefydlu ysgol gynradd ym Mhontprennau ar nifer y disgyblion ar gofrestrau mewn ysgolion yn yr ardal leol, os bydd effaith o gwbl.

    Mae nifer fach o ddisgyblion o Bontprennau yn mynychu Ysgol Gynradd Bryn Celyn ac felly disgwylir mai prin fydd effaith yr ysgol newydd arfaethedig ar ysgol Bryn Celyn.

    Ym mis Ionawr 2013, roedd 174 o ddisgyblion o ddalgylch presennol Bryn Celyn, sy’n cynnwys Pontprennau, yn mynychu Ysgol Gynradd Glyncoed. Byddai’r gwaith arfaethedig o sefydlu ysgol gynradd ym Mhontprennau yn ei gwneud yn ofynnol i newid dalgylchoedd Glyncoed a Bryn Celyn, a byddai’r newidiadau hyn yn ceisio sicrhau gwell cyfatebiaeth rhwng y lleoedd a ddarperir a’r galw am leoedd.

    Pe bai’r Cyngor yn penderfynu cynnal ymgynghoriad yn ddiweddarach ar y dalgylchoedd fel y nodwyd ar dudalen x y ddogfen hon, dengys y rhagfynegion na fyddai nifer y disgyblion ar gofrestrau Ysgol Gynradd Glyncoed neu Ysgol Gynradd Bryn Celyn yn lleihau o gymharu â’r data diweddaraf a ddilyswyd ym mis Ionawr 2013.

    Mae’r galw am leoedd Cymraeg yn Ysgol Gymraeg Pen-y-Groes, sydd hefyd yn gwasanaethu Pontprennau, wedi tyfu ers 2011 ac mae’r ysgol wedi cael buddsoddiad. Rhagwelir y bydd y galw am leoedd yn dal i gynyddu os gweithredir y cynnig hwn.

    Dengys y galw a ragwelir sy’n seiliedig ar ddata’r GIG a gafwyd yn 2013 y bydd nifer y disgyblion sy’n dechrau yn y dosbarth Derbyn mewn ysgolion cymunedol Saesneg yn parhau ar lefelau uchel yn nalgylch Ysgol Gynradd Bryn Celyn yn y dyfodol, hyd at o leiaf fis Ionawr 2016, sef y dyddiad diweddaraf y mae data ar gael ar ei gyfer.

    Mae Tabl 3 isod yn dangos nifer y disgyblion dosbarth Derbyn a ragwelir mewn ysgolion cynradd cyfrwng Saesneg yn nalgylchoedd presennol Ysgolion Cynradd Bryn Celyn a Glyncoed.

    Ysgol

    Ysgol Gynradd Bryn Celyn Ysgol Gynradd Glyncoed Cyfanswm

    Dosbarthiadau mynediad

    Nifer i’w Derbyn

    306090

    3

    Nifer ar y gofrestr Ion 2013

    285381

    2.7

    Medi 2014

    9243

    135

    4.5

    Medi 2015

    8938

    127

    4.2

    Medi 2016

    9239

    131

    4.4

    Tabl 4: Nifer disgyblion ysgolion cymunedol cyfrwng Saesneg yn y flwyddyn Derbyn yn nalgylchoedd presennol Ysgolion Cynradd Bryn Celyn a Glyncoed

    Rhagolwg o nifer y disgyblion mewn dalgylch

  • 6

    Dog

    fen

    Ymgy

    ngho

    ri 2

    013

    Ys

    golio

    n yr

    21a

    in G

    anri

    fMae Tabl 5 isod yn dangos nifer y disgyblion ar gofrestrau Bryn Celyn, Glyncoed a Phen-y-Groes dros y blynyddoedd diwethaf, a nifer y disgyblion a ragwelir ar y gofrestr pe bai’r cynnig a ddisgrifiwyd yn mynd rhagddo.

    YsgolYsgol Gynradd PontprennauYsgol Gynradd Bryn Celyn Ysgol Gynradd Glyncoed Ysgol Gymraeg Pen Y Groes

    Niferoedd diweddar ac a ragwelir ar gofrestrau’r ysgolion cymunedol lleol oni weithredir y cynnig

    0

    156

    0

    0

    Iona

    wr 2

    009

    0

    149

    0

    13

    Iona

    wr 2

    010

    0

    137

    0

    17

    Iona

    wr 2

    011

    0

    141

    362

    25

    Iona

    wr 2

    012

    0

    132

    363

    39

    Iona

    wr 2

    013

    0

    131

    378

    50

    Rhag

    fyne

    giad

    201

    3/20

    14

    0

    130

    388

    61

    Rhag

    fyne

    giad

    201

    3/20

    15

    45

    135

    392

    72

    Rhag

    fyne

    giad

    201

    3/20

    16

    95

    135

    385

    74

    Rhag

    fyne

    giad

    201

    3/20

    17

    149

    134

    377

    82

    Rhag

    fyne

    giad

    201

    3/20

    18

    203

    133

    372

    82

    Rhag

    fyne

    giad

    201

    3/20

    19

    257

    132

    367

    82

    Rhag

    fyne

    giad

    201

    3/20

    20

    Gwasanaethir dalgylchoedd presennol Bryn Celyn a Glyncoed hefyd gan Ysgol Gynradd Gatholig St Bernadette ac Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Dewi Sant. Mae nifer fawr o ddisgyblion hefyd yn mynychu Ysgol Gynradd Gatholig St Phillip Evans, Llanedern. Corff Llywodraethu’r ysgol unigol fydd yn penderfynu ar drefniadau derbyn yr ysgolion hyn. Bu pob un o’r ysgolion hyn yn llawn ers nifer o flynyddoedd, a rhagwelir y bydd y sefyllfa hon yn parhau yn y dyfodol.

    Disgwylir i’r gorlif o ddisgyblion i ysgolion cynradd cyfrwng Saesneg yn ardaloedd eraill Caerdydd, sef 313 o ddisgyblion yn mynychu 41 o ysgolion gwahanol ym mis Ionawr 2013, yn lleihau’n sylweddol. O’r 313 o ddisgyblion hyn, roedd 173 ohonynt yn mynd i ysgolion cynradd cymunedol cyfrwng Saesneg yn ardaloedd Llanisien, Llys-faen a Thornhill. Byddai lleihau’r gorlif o Bontprennau i ysgolion yn yr ardaloedd hyn yn lleihau’r diffyg lleoedd, ac yn galluogi mwy o ddisgyblion yn yr ardaloedd hynny i gael lleoedd mewn ysgolion cynradd lleol, na fyddent wedi gallu cael lleoedd fel arall. Mae niferoedd y disgyblion sy’n mynychu ysgolion eraill y tu hwnt i’r ardaloedd hyn yn fach ac yn wasgaredig, ac felly disgwylir mai prin fyddai’r effaith ar bob un o’r ysgolion hynny, a chaiff yr effeithiau hynny eu lliniaru gan y cynnydd a ragwelir ym mhoblogaeth yr ardaloedd hynny.

    Sut yr effeithir ar y ddarpariaeth feithrin?Mae gan blant yng Nghaerdydd hawl i gael lle rhan amser mewn addysg feithrin ar ddechrau’r tymor sy’n dilyn pen-blwydd plant yn dair oed, a rhaid iddynt fynychu am bum hanner diwrnod o leiaf. Mae pob un o’r ysgolion cynradd uchod yn yr ardal leol yn cynnig lleoedd meithrin. Ni chaiff y rhain eu dyrannu ar sail dalgylch. Lle bynnag y bo’n bosibl, cynigir llefydd mewn ysgol feithrin gymunedol leol neu ddosbarth meithrin o fewn dwy filltir i breswylfa plentyn. Os nad oes lleoedd ar gael mewn ysgolion meithrin neu ddosbarthiadau meithrin cymunedol lleol gall rhieni wneud cais am gyllid lleoedd addysg feithrin gyda darparwr cydnabyddedig a ddynodwyd gan Grŵp Llywio Plentyndod Cynnar Caerdydd.

    Mae nifer y lleoedd meithrin a gynigir yn yr ysgol newydd yn gymesur â maint yr ysgol newydd, gan alluogi’r ysgol i ddarparu ar gyfer plant 3-4 oed yn yr ardal leol a allai fod am fanteisio ar le. Bydd sefydlu meithrinfa yn yr ysgol newydd yn gyfle i gynnig addysg 3-11 oed yn unol â Fframwaith Ysgolion yr 21ain Ganrif y Cyngor a byddai’n sicrhau y gall gynnig yr un ddarpariaeth ag ysgolion eraill yn yr ardal. Gan fod y Cyngor yn ariannu lleoedd meithrin ym mhob ysgol gynradd yn seiliedig ar nifer y lleoedd sydd ar gael yn hytrach na nifer y plant sy’n mynychu, ni fyddai’r cynnig hwn yn effeithio ar gyllideb unrhyw ysgol. Nid oes cynlluniau i leihau nifer y lleoedd meithrin sydd ar gael yn unrhyw un o’r ysgolion hyn yn yr ardal leol.

    Er y disgwylir y byddai llai o ddisgyblion yn mynd i ddosbarthiadau meithrin Saesneg mewn ardaloedd eraill yng Nghaerdydd, mae nifer y disgyblion sy’n mynychu ysgolion eraill y tu hwnt i’r ardaloedd hyn yn fach ac yn wasgaredig, ac felly disgwylir mai prin fyddai’r effaith ar bob un o’r ysgolion hynny, a chaiff yr effeithiau hynny eu lliniaru gan y cynnydd a ragwelir ym mhoblogaeth yr ardaloedd hynny.

    Ysgol Gynradd Bryn Celyn Ysgol Gynradd Glyncoed Ysgol Gymraeg Pen y Groes

    Lleoedd meithrin sydd ar gael

    4864

    48 (o Medi 2013)

    Ion 20093148

    Dd/b

    Ion 20102752

    Dd/b

    Ion 201130

    57ISDd/b

    Ion 20123959

    Dd/b

    Mae Tabl 6 isod yn dangos nifer y lleoedd sydd ar gael a nifer y plant sy’n mynychu’r ysgolion hyn dros y blynyddoedd diwethaf.

    Ion 20131658

    Dd/b

  • Lleoliad Safle / Cynllun dangosol

    7

    Mae’r safle arfaethedig yn cynnwys Canolfan Gymunedol bresennol Pontprennau a’r tir gyferbyn iddi (gweler isod).

    Dog

    fen

    Ymgy

    ngho

    ri 2

    013

    Ys

    golio

    n yr

    21a

    in G

    anri

    f

    Pam cyfuno’r ysgol newydd â Chanolfan Gymunedol Pontprennau sy’n bodoli eisoes?Gall y safle a nodwyd yn yr ymgynghoriad blaenorol ar gyfer yr ysgol newydd arfaethedig ddarparu lle ar gyfer hyd at 1.5 dosbarth derbyn, a datblygwyd y cynnig gwreiddiol ar y sail honno. Mae’r Cyngor wedi ystyried y defnydd a wneir o Ganolfan Gymunedol Pontprennau ar hyn o bryd ac mae’r Cyngor o’r farn y daw manteision sylweddol o ran cyfleusterau gwell ac arbed costau o ystyried safle’r ysgol ynghyd â safle Canolfan Gymunedol Pontprennau. Cadarnhawyd bod cwmpas i ddatblygu cyfleuster ar y cyd a fyddai’n gallu bodloni’r gofynion o ran addysg statudol ynghyd â pharhau i gynnig cyfleuster canolfan cymunedol hygyrch sy’n gallu ymateb i anghenion y gymuned.

    Byddai gweithredu’r ddau safle fel un ysgol â chyfleusterau cymunedol yn galluogi’r ysgol a’r gymuned i rannu’r adeilad gan felly fanteisio i’r eithaf ar ei defnydd a’i meddiannaeth. Byddai hynny’n golygu y byddai llai o angen i adeiladu dau gyfleuster o’r un fath, megis neuadd, gan alluogi mwy o gyfleoedd i ddatblygu mwy o ystafelloedd dosbarth i gynnig lle ar gyfer hyd at ddau ddosbarth derbyn. Byddai hefyd yn creu’r potensial i gynnig ystod ehangach o gyfleusterau i’r gymuned y tu allan i oriau ysgol ac yn ystod gwyliau ysgol. Maint y safle gwreiddiol a oedd ar gael i godi ysgol gynradd a meithrinfa oedd 6000m2. Roedd hyn yn cyfyngu maint yr ysgol i 1.5 dosbarth derbyn ac yn cymryd yn ganiataol y caiff y meysydd chwarae cyfagos eu defnyddio ar gyfer gweithgareddau chwaraeon awyr agored. Ynghyd â’r ganolfan gymunedol, maint y safle cyfan yw 9500m2, y mae 750m2 o’r safle hwnnw eisoes wedi’i feddiannu gan gyfleusterau’r ganolfan gymunedol. Cynigir y dylid addasu a chadw’r safleoedd hyn.

    Byddai defnyddio cyfleusterau presennol y ganolfan gymunedol ynghyd â chodi adeilad newydd ar y tir sydd ar gael ar draws y ddau safle yn creu cyfle i sicrhau’r adeiladau sydd eu hangen ar gyfer ysgol â dau ddosbarth derbyn a fyddai’n bodloni’r safonau a argymhellir yn ‘Building Bulletin 99’ (www.education.gov.uk). Byddai’r holl ardaloedd awyr agored sydd eu hangen ar gyfer addysgu a dysgu yn yr awyr agored ac amseroedd chwarae’r ysgol ar brif safle’r ysgol. Fodd bynnag, yn unol â’r cynnig gwreiddiol byddai gan yr ysgol feysydd chwarae oddi ar y safle gan ddefnyddio’r maes chwarae gyferbyn ar gyfer gweithgareddau chwarae. Byddai ystafelloedd newid addas yn galluogi parhau i ddefnyddio’r meysydd chwarae ar y penwythnos.

  • 8

    Rhestr o gyfleusterau arfaethedig yr ysgol newyddNodir rhestr o gyfleusterau arfaethedig yr ysgol a’r cyfleuster cymunedol newydd isod.

    Ystafelloedd Dosbarth Ystafell GrŵpToiledauAAA/CPA Ystafell Gotiau

    Ansawdd a Safonau

    Swyddfa’r PennaethYstafell Gyfarfod Derbynfa/GweinydduYstafell Aros YmwelwyrYstafell Feithrin

    Byddai disgyblion yn cael eu haddysgu mewn adeiladau modern o ansawdd a fydd yn gallu cefnogi’r gwaith o ddarparu cwricwlwm eang a chytbwys a gofynion y Cwricwlwm Cenedlaethol a’r Cyfnod Sylfaen llawn. Byddai’r cynnig i sefydlu’r ysgol mewn adeilad newydd sy’n addas i’r 21ain Ganrif yn cynnig gyrfa gyffrous a deniadol i weithwyr, ac felly disgwylir i’r ysgol newydd ddenu arweinwyr, rheolwyr ac athrawon o’r radd flaenaf. Ni ragwelir effaith ar ansawdd a safonau addysg, na’r gwaith o gyflwyno’r Cyfnod Sylfaen mewn ysgolion cynradd cymunedol eraill yn yr ardal. Gweler isod ddyfyniadau o arolygon diweddaraf Estyn ar Ysgol Gynradd Bryn Celyn, Ysgol Gynradd Glyncoed ac Ysgol Gymraeg Pen y Groes. Mae’r rhannau o’r crynodeb ac adroddiadau i’w gweld ar wefan Estyn yn www.estyn.gov.uk

    Bryn Celyn Ym mis Ionawr 2013 roedd Ysgol Gynradd Bryn Celyn yn destun ymweliad monitro gan Estyn yn dilyn arolygiad digonol yn 2011. Canfu’r ymweliad monitro nad oedd yr ysgol wedi gwneud cynnydd digonol, a dechreuodd Estyn fonitro’r ysgol yn fwy rheolaidd. Canfu Estyn fod angen rhoi mesurau arbennig ar waith yn yr ysgol. Yn Haf 2013 cafwyd gwelliant sylweddol ar y blynyddoedd blaenorol a bydd staff o Gonsortiwm Canol De Cymru yn dal i roi cymorth dan gyfarwyddyd uwch arweinydd system yr awdurdod.

    Ysgol Gynradd Glyncoed Arolygwyd Ysgol Gynradd Glyncoed ddiwethaf gan Estyn ym mis Mai 2013. Ar yr adeg hon ystyriwyd perfformiad a rhagolygon yr ysgol i wella yn “Dda”. Noda’r adroddiad fod y rhan fwyaf o ddisgyblion yn gwneud cynnydd da yn ystod eu hamser yn yr ysgol.

    Ysgol Gymraeg Pen y Groes

    Arolygwyd Ysgol Gymraeg Pen-y-Groes ddiwethaf gan Estyn ym mis Tachwedd 2012. Ar yr adeg hon ystyriwyd rhagolygon yr ysgol o ran perfformiad a gwella yn “ddigonol”.

    Trefniadau Dalgylch

    Mae safle arfaethedig yr ysgol newydd yn nalgylch Ysgol Gynradd Bryn Celyn. Dan y trefniadau presennol, mae dalgylch Ysgol Gynradd Bryn Celyn yn gwasanaethu ardal orllewinol ward Pontprennau a Phentref Llaneirwg ac ardal ogleddol ward Pentwyn.

    Mae map y dalgylch presennol ar y dudalen nesaf yn dangos dalgylchoedd presennol Ysgolion Cynradd Bryn Celyn a Glyn Coed. Os caiff y cynnig ei weithredu, bydd angen cynnal ymgynghoriad maes o law ar ddiwygio trefniadau’r dalgylchoedd er mwyn sicrhau bod poblogaethau’r dalgylchoedd yn cyfateb yn well â chapasiti’r ysgolion lleol.

    Disgwylir cynnal ymgynghoriad o’r fath ar ddechrau 2014, a chaiff y trefniadau eu gweithredu ym mis Medi 2015 yn unol â gofynion Cod Derbyn i Ysgolion Llywodraeth Cymru.

    Bwriedir i’r ysgol newydd wasanaethu rhan o ward Pontprennau a Phentref Llaneirwg, ac i’r dalgylchoedd presennol yn ward Pontprennau a Phentref Llaneirwg a ward Pentwyn gael eu diwygio’n briodol. Yn ogystal ag Ysgol Gynradd Bryn Celyn, yr ysgolion cynradd cymunedol cyfrwng Saesneg eraill sy’n gwasanaethu’r ardaloedd hyn yw Ysgolion Cynradd Glyncoed, Llanedern a Springwood.

    Prif NeuaddCegin/storfa/swyddfaYstafell NewidCawodydd Childcare facilities

    StiwdioStorfa Ystafell AAA/Grŵp Ystafell Fwyd/DTYstafell Staff

    Dog

    fen

    Ymgy

    ngho

    ri 2

    013

    Ys

    golio

    n yr

    21a

    in G

    anri

    f

  • Trefniadau Dalgylch

    9

    Dog

    fen

    Ymgy

    ngho

    ri 2

    013

    Ys

    golio

    n yr

    21a

    in G

    anri

    f

    Atgynhyrchwyd o fap yr arolwg ordnansgyda chaniatâd Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi.Hawlfraint y Goron.Mae atgynhyrchu heb ganiatâd yn torri hawlfraint y Goron a gall arwainat erlyniad neu gamau sifil.

    CYNGOR SIR CAERDYDDRhif Trwydded LA09005L.

    Cynhyrchwyd y copi hwn yn benodoli gyflenwi gwybodaeth y Cyngor.Ni chaniateir cynhyrchu rhagor o gopïau.

    Dalgylchoedd Presennol Ysgolion Cynradd

    Dalgylch Ysgol Gynradd Bryn Celyn

    Dalgylch Ysgol Gynradd Glyncoed

    Ysgol Gynradd Glyncoed Ysgol Gynradd Bryn Celyn

    Ysgol Gynradd Gatholig St Bernadette

    Ysgol Gymraeg Pen Y Groes

    Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Dewi Sant

  • 10

    Dog

    fen

    Ymgy

    ngho

    ri 2

    013

    Ys

    golio

    n yr

    21a

    in G

    anri

    fBydd angen i’r dalgylchoedd fod o faint ac mewn ardaloedd daearyddol sy’n gallu cynnal ysgolion â’r nifer o ddisgyblion a gynigir, a rhaid iddynt fod yn ddigon cyfleus i’r rhan fwyaf o ddisgyblion a rhieni yn yr ardal.

    Trefniadau’r Dalgylch Dangosol o fis Medi 2015.

    Atgynhyrchwyd o fap yr arolwg ordnans gydachaniatâd Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi.

    Hawlfraint y Goron.

    Mae atgynhyrchu heb ganiatâd yn torrihawlfraint y Goron a gall arwain at erlyniadneu gamau sifil.

    CYNGOR SIR CAERDYDD Rhif Trwydded LA09005L.

    Cynhyrchwyd y copi hwn yn benodoli gyflenwi gwybodaeth y Cyngor. Ni chaniateir cynhyrchu rhagor o gopïau.

    Trefniadauʼr dalgylch diwygiedig o fis Medi 2015Safle / dalgylch newydd Ysgol Gynradd Pontprennau

    Dalgylch diwygiedig Ysgol Gynradd Bryn Celyn diwygiedig

    Dalgylch diwygiedig Ysgol Gynradd Glyncoed diwygiedig 2.

    1.

    1.

    2.3.

    3.

  • 11

    Beth yw manteision addysgol y cynnig hwn?Disgwylir y manteision canlynol yn sgil y cynnig hwn:

    Byddai gweithredu’r ddau safle fel un ysgol â chyfleusterau cymunedol yn galluogi’r ysgol a’r gymuned i rannu’r adeilad gan felly fanteisio i’r eithaf ar ei ddefnydd a’i feddiannaeth a sicrhau’r gwerth gorau am arian.

    Byddai adeiladu ysgol newydd yn sicrhau lleoedd ysgol ychwanegol o ansawdd i wasanaethu’r ardal leol, a byddai hefyd yn ei gwneud yn haws i ardaloedd eraill, gan gynnwys Llanisien, Llysfaen a Thornhill, ateb y galw lleol.

    Anfanteision posibl y cynnig hwnO ganlyniad i’r cynnig hwn, gallai nifer y disgyblion ar y gofrestr yn Ysgol Gynradd Glyncoed dyfu’n llai cyflym nag y byddai wedi fel arall. Fodd bynnag byddai’r Cyngor am gydbwyso nifer y lleoedd y gall yr ysgol ei chynnig a’r galw amdanynt drwy ymgynghori ar newidiadau i ddalgylchoedd ysgolion.

    Tagfeydd traffig posibl o amgylch safle’r ysgol ar adegau mynd â phlant i’r ysgol a’u nôl o’r ysgol. Fodd bynnag byddai’r Cyngor yn gweithio gyda Chorff Llywodraethu Dros Dro yr ysgol newydd arfaethedig i ddatblygu Cynllun Teithio i leihau ar unrhyw darfu posibl.

    Risgiau sy’n gysylltiedig â’r cynnig hwnYn ôl pob tebyg bydd llai o wasanaethau ar gael yng Nghanolfan Gymunedol Pontprennau. Fodd bynnag, mae’r Cyngor o’r farn y gallai’r rhan fwyaf o’r gwasanaethau presennol a gynigir yng Nghanolfan Gymunedol Pontprennau barhau yn ogystal â chynnig y potensial i ehangu’r ddarpariaeth ar ôl oriau ysgol ac ar benwythnosau oherwydd mynediad i fwy o ystafelloedd/cyfleusterau yn yr ysgol arfaethedig.

    Mae’r cynnig yn galluogi cadw’r ddarpariaeth gofal plant sy’n gweithredu yng Nghanolfan Gymunedol Pontprennau, h.y. Supertots. Ceir posibilrwydd o amharu ar y gwasanaethau yn ystod y gwaith adeiladu, ond byddai’r Cyngor/y contractwyr adeiladau yn gweithio gyda Supertots i leihau hyn.

    Y dewisiadau amgen a ystyriwydNeilltuwyd safle ar gyfer ysgol newydd a chafwyd awydd ers amser hir i sefydlu ysgol gynradd ym Mhontprennau.Cynhaliodd Cyngor Caerdydd ymgynghoriad cyhoeddus yn y gwanwyn 2013 ar gynnig i sefydlu ysgol gynradd cyfrwng Saesneg â 1.5 dosbarth derbyn ym Mhontprennau.

    Er y codwyd pryderon ynghylch yr effaith bosibl ar Ysgol Gynradd Glyncoed a phroblemau o ran traffig, roedd y mwyafrif a fynegodd eu barn yn ystod yr ymgynghoriad o blaid y cynnig, ond gydag awydd i weld ysgol mwy o faint fyddai’n gallu diwallu galw’r ardal leol. Y dewis amgen i godi ysgol ym Mhontprennau fyddai ceisio cynyddu nifer y lleoedd ysgol sydd ar gael mewn ysgolion cyfagos a newid dalgylchoedd. Ni ddewiswyd hyn am nifer o resymau gan gynnwys cyfyngiadau o ran y safle a/neu bellteroedd teithio hir i rai ysgolion.

    Materion AriannolMae ysgol newydd ym Mhontprennau wedi’i chynnwys o fewn cais ariannu Band A Ysgolion yr 21ain Ganrif, y bydd y Cyngor a Llywodraeth Cymru ill dau yn cyfrannu 50% o’r costau cyfalaf ato.

    Roedd cais Band A Ysgolion yr 21ain Ganrif a gymeradwywyd mewn egwyddor gan Lywodraeth Cymru (yn amodol ar Achos Busnes llwyddiannus) yn cynnwys darpariaeth ar gyfer ysgol gynradd newydd â 1.5 dosbarth derbyn. Gallai’r defnydd o’r cyfleusterau sy’n bodoli eisoes yn y Ganolfan Gymunedol leihau’r gofynion o ran buddsoddi cyfalaf, gan liniaru elfen o’r gwariant ychwanegol y byddai ei angen i godi ysgol â dau ddosbarth derbyn o gymharu â 1.5 dosbarth derbyn. Mae costau amcangyfrifedig ysgol newydd â dau ddosbarth derbyn yn amodol ar ganlyniadau’r ymgynghoriad, dyluniad manwl ac ymarfer tendro. Fodd bynnag mae adroddiad dichonolrwydd cychwynnol (sy’n caniatáu ar gyfer y posibilrwydd o ddefnyddio cyfleusterau’r Ganolfan Gymunedol sy’n bodoli eisoes) wedi arwain at amcanbrisiau o tua £8 miliwn gan gynnwys cynlluniau wrth gefn a chaniatáu ar gyfer chwyddiant costau yn ystod y cyfnod adeiladu. Mae hyn yn fwy na’r gyllideb a ddyrannwyd o fewn model ariannol cyfunol Ysgolion yr 21ain Ganrif a Chynllunio Trefniadaeth Ysgolion, er y dylai’r ymgynghoriad pellach hwn sicrhau ffordd ymlaen gliriach, ynghyd ag amcangyfrifon cadarnach o ran costau. Dylai’r ffordd ymlaen a ffefrir chwilio am ateb y gellir ei gyflawni gan ddefnyddio darpariaethau’r Model Ariannol sy’n bodoli eisoes.

    Dog

    fen

    Ymgy

    ngho

    ri 2

    013

    Ys

    golio

    n yr

    21a

    in G

    anri

    f

  • 12

    Dog

    fen

    Ymgy

    ngho

    ri 2

    013

    Ys

    golio

    n yr

    21a

    in G

    anri

    fMaterion Trafnidiaeth

    Caiff y goblygiadau o ran traffig a thrafnidiaeth eu hystyried fel rhan o’r Asesiad Trafnidiaeth y byddai angen ei gynnal i gael caniatâd cynllunio ar gyfer gwaith adeiladu pe bai’r cynnig hwn yn cael ei weithredu.

    Dan y cynnig hwn, nid oes cynlluniau i newid polisi’r Cyngor o ran trafnidiaeth i ddisgyblion yn ôl ac ymlaen o’r ysgol. Bydd unrhyw ddisgyblion yr effeithir arnynt gan y cynigion hyn o ganlyniad i newid dalgylchoedd yn cael yr un cymorth trafnidiaeth ag a ddarperir ym mhob rhan o Gaerdydd, ac yn unol â’r un meini prawf sy’n berthnasol drwy’r ddinas. Gellir darllen polisi trafnidiaeth i blant ysgol y Cyngor ar wefan y Cyngor (www.caerdydd.gov.uk).

    Trefniadau DerbynNi fwriedir newid polisi’r Cyngor o ran derbyn plant i ysgolion o ganlyniad i’r cynnig hwn. Ceir gwybodaeth fanwl am drefniadau derbyn yn llyfryn Derbyn i Ysgolion y Cyngor. Gellir gweld y wybodaeth hon hefyd ar wefan y Cyngor (www.caerdydd.gov.uk).

    Fodd bynnag, os câi’r cynnig ei roi ar waith byddai angen ymgynghori ar ddyddiad hwyrach ar ddiwygio’r trefniadau dalgylchoedd er mwyn cyflawni cyfatebiaeth well o ran poblogaethau dalgylchoedd yn y dyfodol â chapasiti ysgolion lleol. Disgwylir i ymgynghoriad o’r fath gael ei gynnal ar ddechrau 2014, a châi’r trefniadau eu gweithredu ym mis Medi 2015 yn unol â gofynion Cod Derbyn i Ysgolion Llywodraeth Cymru.

    Materion CydraddoldebCynhaliwyd Asesiad Cychwynnol o’r Effaith ar Gydraddoldeb ar y cynnig hwn a ddaeth i’r casgliad na fyddai’r cynnig hwn yn effeithio’n andwyol ar unrhyw grŵp penodol yn y gymdeithas. Caiff yr asesiad hwn ei adolygu ar ôl cynnal ymgynghoriad. Pe bai’r cynnig yn mynd rhagddo, byddai asesiadau pellach o’r effaith ar gydraddoldeb yn cael eu cynnal, gan gynnwys asesiad o effaith dyluniad adeilad yr ysgol gynradd newydd.

    Materion Cynaliadwyedd

    Mae Asesiad Amgylcheddol Strategol o’r cynnig wedi’i gynnal yn unol â Deddfwriaeth Ewropeaidd. Mae’r asesiad yn cadarnhau bod y cynnig yn cydymffurfio â’r amcanion amgylcheddol a nodwyd yn yr Asesiad Amgylcheddol Strategol o Ysgolion yr 21ain Ganrif: Fframwaith Strategol ar gyfer Rhaglen Gwella Adeiladau Ysgol Caerdydd. Pe bai’r cynigion yn mynd rhagddynt, byddai asesiad amgylcheddol yn cael ei gynnal fel rhan o’r broses gynllunio.

    Ystyried yr Effaith ar y Gymuned

    Mae angen cynyddu nifer y lleoedd sydd ar gael mewn ysgolion cymunedol cyfrwng Saesneg heb effeithio’n andwyol ar y gymuned. Caiff y canlynol eu hystyried wrth ystyried y cynnig: Mannau Agored Cyhoeddus, parcdir, sŵn a thagfeydd traffig. Bydd Swyddogion yn gweithio gydag ysgolion ac unrhyw grwpiau cymunedol i sicrhau bod y cynnig yn osgoi effeithiau andwyol lle bynnag y bo’n bosibl.

    Bydd cyfuno’r ysgol newydd â Chanolfan Gymunedol bresennol Pontprennau yn golygu na chaiff gweithgareddau eu cynnal yn y ganolfan gymunedol o 8am i 4pm mwyach. Fodd bynnag, gall y cyhoedd ddefnyddio’r ganolfan gymunedol unwaith i’r diwrnod ysgol ddod i ben, ar benwythnosau ac yn ystod gwyliau’r ysgol.

    Gellir cynnal gweithgareddau a gynigir ar hyn o bryd yng Nghanolfan Cymunedol Pontprennau yn ystod y dydd mewn mannau eraill yn y gymuned leol.

    Mae Cyngor Caerdydd yn gefnogol o ddarparwyr Gofal Plant Blynyddoedd Cynnar, ac felly er y bydd llai o wasanaethau cymunedol ar gael yn ystod y diwrnod ysgol, y nod yw cynnig lle ar y safle i Supertots (sef y darparwr sy’n gweithredu o’r ganolfan gymunedol ar hyn o bryd) er mwyn cadw’r cyfleusterau i ddarparu crèche/grŵp chwarae.

    Mae swyddogion yn ymwybodol y caiff y maes parcio yng Nghanolfan Gymunedol Pontprennau ei ddefnyddio ar hyn o bryd gan aelodau’r gymuned estynedig er mwyn defnyddio gwasanaethau eraill yn yr ardal. Dan y cynnig hwn ni chaiff y cyhoedd barcio ar y safle yn ystod y diwrnod ysgol. Gallant barcio ar y safle arfaethedig ar ôl diwedd y diwrnod ysgol, ar benwythnosau ac yn ystod gwyliau ysgol.

  • 13

    Cwestiynau CyffredinOs bydd yr ysgol newydd arfaethedig yn agor, a fydd darpariaeth feithrin ar gael?

    Cynigir y bydd 48 o leoedd meithrin CALl ar gael pan gaiff yr ysgol newydd ei hagor ym mis Medi 2015.

    Os bydd yr ysgol newydd yn agor, a fydd yn derbyn plant i grwpiau blwyddyn hŷn?

    Cynigir y caiff plant eu derbyn i’r grwpiau oedran Meithrin a Derbyn o fis Medi 2015 gyda’r ysgol yn datblygu i gapasiti llawn wrth i’r plant symud drwy’r grwpiau oedran.

    Nid argymhellir derbyn disgyblion hŷn i’r ysgol newydd gan y byddai hynny’n cael effaith ar sefydlogrwydd ysgolion cyfagos a gallai fod yn anodd i reoli’r sefyllfa yn yr ysgol newydd arfaethedig hefyd.

    Beth fydd yn digwydd i frodyr a chwiorydd hŷn sydd eisoes mewn ysgolion cynradd eraill?

    Byddai brodyr a chwiorydd hŷn sydd eisoes mewn ysgolion eraill yn aros yn yr ysgolion hynny.

    Beth fydd y dalgylchoedd lleol pe bai’r cynnig hwn yn cael ei weithredu?

    Mae angen i ddalgylchoedd fod o faint ac ardal ddaearyddol sy’n gallu cynnal ysgolion yn agos i’w capasiti llawn o ran nifer y disgyblion, a phe bai’r cynnig i sefydlu ysgol newydd ym Mhontprennau yn cael ei weithredu, byddai angen cynnal ymgynghoriad yn ddiweddarach ar ddiwygio trefniadau’r dalgylch.

    A gaiff y cynnig effaith ar draffig yn yr ardal leol?

    Byddai’r cynnig yn golygu mwy o draffig ar hyd Heol Pontprennau ac felly byddai asesiad llawn o draffig a thrafnidiaeth yn cael ei gynnal er mwyn ystyried y ffordd orau o reoli hyn. Fodd bynnag, byddai lleoli’r ysgol yn ganolog i’r ardal yn lleihau nifer y disgyblion sy’n teithio i ardaloedd eraill yng Nghaerdydd, gan leihau’r defnydd o drafnidiaeth sy’n achosi llygredd fel ceir a bysus, ac annog cerdded a beicio yn ôl ac ymlaen o’r ysgol.

    Caiff y goblygiadau o ran traffig a thrafnidiaeth eu hystyried fel rhan o’r Asesiad Trafnidiaeth y byddai angen ei gynnal i gael caniatâd cynllunio ar gyfer gwaith adeiladu pe bai’r cynnig hwn yn cael ei weithredu.

    Beth am ddarparwyr gofal plant lleol yn yr ardal?

    Mae Cyngor Caerdydd yn gefnogol o ddarparwyr Gofal Plant Blynyddoedd Cynnar, ac fel y cyfryw y nod fyddai gweithio gyda darparwyr gofal plant lleol (megis Grŵp Chwarae Supertots sydd wedi’i lleoli yng Nghanolfan Gymunedol Pontprennau ar hyn o bryd) er mwyn ei alluogi i barhau i ddarparu gwasanaeth. Caiff cyfleusterau i alluogi’r ddarpariaeth sy’n bodoli eisoes i barhau eu cynnwys yn y cynnig.

    Pryd y caiff Corff Llywodraethu ei ffurfio?

    Os caiff y cynnig ei gymeradwyo, caiff corff llywodraethu dros dro ei sefydlu ar gyfer yr ysgol newydd ar ôl cyhoeddi hysbysiad statudol. Byddai ystod o randdeiliaid yn cael eu cynrychioli ar y corff llywodraethu dros dro, gan gynnwys rhieni, athrawon (o ysgolion lleol), staff nad ydynt yn addysgu (o ysgolion lleol), cynrychiolwyr yr Awdurdod Lleol a phartneriaid cymunedol. Y Cyngor fyddai’n penodi llywodraethwyr yr Awdurdod Lleol, rhai o blith staff nad ydynt yn addysgu a rhiant-lywodraethwyr. Y corff llywodraethu dros dro fyddai’n penodi athro-lywodraethwyr a llywodraethwyr cymunedol.

    Beth fydd y wisg ysgol?

    Y Corff Llywodraethu dros dro a fyddai’n penderfynu ar wisg yr ysgol.

    A fyddai modd ehangu’r safle yn y dyfodol?

    Dim ond lle i ddatblygu ysgol gynradd â 2 ddosbarth mynediad sydd ar y safle.

    Dog

    fen

    Ymgy

    ngho

    ri 2

    013

    Ys

    golio

    n yr

    21a

    in G

    anri

    f

  • 14

    Dog

    fen

    Ymgy

    ngho

    ri 2

    013

    Ys

    golio

    n yr

    21a

    in G

    anri

    fDyddiadau allweddol

    Beth yw’r dyddiadau allweddol a gynigir ar gyfer yr ymgynghoriad hwn a’r broses gyffredinol?

    • Cyfnod ymgynghori 22 Hydref - 3 Rhagfyr 2013

    • Swyddogion yn cyflwyno adroddiad i Gabinet y Cyngor ar ganlyniadau’r ymgynghoriad

    • Cabinet y Cyngor yn ystyried yr ymatebion i’r ymgynghoriad ac yn penderfynu p’un ai i gyhoeddi Hysbysiad Statudol.

    • Os bydd Cyngor Caerdydd yn penderfynu gweithredu’r cynnig, caiff Hysbysiad Statudol ei gyhoeddi yn rhoi mis i gyflwyno unrhyw wrthwynebiadau.

    • Os ceir unrhyw wrthwynebiadau bydd Cabinet y Cyngor yn penderfynu p’un ai i gymeradwyo’r cynnig neu beidio.

    Medi 2015Os bydd y cynnig yn mynd rhagddo, disgwylir i’r gwaith o adeiladu’r ysgol newydd gael ei gwblhau erbyn mis Medi 2015.

    Newid i’r ffordd o benderfynu ar Gynigion Trefniadaeth Ysgolion

    Ar 1 Hydref 2013 cyhoeddodd Gweinidogion Cymru God Trefniadaeth Ysgolion diwygiedig sy’n gymwys i bob cynnig o ran trefniadaeth ysgolion a gyhoeddir ar ôl y dyddiad hwnnw. Mae’r cod newydd wedi cyflwyno nifer o newidiadau i’r ffordd y penderfynir ar gynigion o ran trefniadaeth ysgolion.

    Dan y cod statudol blaenorol, Gweinidogion Cymru fyddai’n penderfynu ar achosion y cafwyd gwrthwynebiadau iddynt. Dan y Cod Trefniadaeth Ysgolion Newydd, Awdurdodau Lleol sy’n gyfrifol am benderfynu ar eu cynigion eu hunain, yn cynnwys cynigion y cafwyd gwrthwynebiadau iddynt.

    Ceir rhai eithriadau i’r canllawiau newydd hyn, ac am ragor o wybodaeth gallwch ddarllen copi o’r Cod Trefniadaeth Ysgolion Diwygiedig (dyddiad cyhoeddi Gorffennaf 2013) Cod Statudol - rhif y ddogfen: 006/2013 drwy fynd i wefan Llywodraeth Cymru yn www.cymru.gov.uk

  • Dog

    fen

    Ymgy

    ngho

    ri 2

    013

    Ys

    golio

    n yr

    21a

    in G

    anri

    f

    FFuRFLEN YMATEB I’R YMGYNGHORIAD (PONTPRENNAu)Mae eich barn yn bwysig. Rhowch wybod i ni beth rydych yn ei feddwl am y cynnig drwy:

    Gwblhau a dychwelyd yr holiadur amgaeëdig i’r cyfeiriad a nodir ar waelod y ffurflen.

    Neu, os byddai’n well gennych, gallwch e-bostio eich sylwadau i [email protected]

    Rhaid i unrhyw sylwadau a anfonir yn ysgrifenedig neu drwy e-bost gynnwys enw llawn a chyfeiriad post llawn yr unigolyn sy’n cyflwyno’r sylwadau.

    Ni chaiff ymatebion a wnaed i’r ymgynghoriad eu cyfrif fel gwrthwynebiadau i’r cynigion. Dim ond ar ôl cyhoeddi hysbysiad statudol y gellir cofrestru gwrthwynebiadau.

    Gellir gwneud cais i weld unrhyw ymatebion sy’n dod i law dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth ac efallai y bydd yn rhaid eu rhannu’n gyhoeddus. Fodd bynnag, caiff unrhyw wybodaeth bersonol, fel enw a chyfeiriad unigolion, ei dileu, fel y bo’n briodol. Gwneir eithriadau o ran y sawl sy’n gwneud sylwadau yn rhinwedd eu swydd megis Cynghorwyr, Penaethiaid, ac ati.

    Ydw Nac ydw

    Os nad ydych o blaid y cynnig, nodwch eich rhesymau ynghyd ag unrhyw newidiadau neu ddewisiadau eraill yr hoffech eu hawgrymu

    A ydych o’r farn ei bod yn briodol sefydlu ysgol â dau ddosbarth mynediad?

    A ydych o blaid y cynnig?

    15

  • Eich enw: Dyddiad:Cyfeiriad:Cod Post:Eich statws :

    Diolch am eich sylwadauDychwelwch y ffurflen hon at y Tîm Ad-drefnu Ysgolion, Ystafell 213, Neuadd y Sir, Caerdydd CF10 4uW erbyn dydd Mawrth 3 Rhagfyr 2013

    Rhiant Disgybl

    LlywodraethwrAelod o staff

    Arall (ticiwch)

    Dog

    fen

    Ymgy

    ngho

    ri 2

    013

    Ys

    golio

    n yr

    21a

    in G

    anri

    fA ydych yn defnyddio’r Ganolfan Gymunedol o 8am i 4pm? Os felly, pa wasanaethau ydych chi’n eu defnyddio?

    Beth yw eich barn o ran creu cyfleuster ar y cyd h.y. ysgol a chanolfan gymunedol?

    Oes gennych chi unrhyw sylwadau eraill?

    16