headteacher feedback analysis · web viewmae coridor yr m4 yn golygu bod yna lif yn bodoli nad...

45
Tudalen 1 | 45 Gwerthusiadau Penaethiaid Dadansoddiad o Adborth Penaethiaid Ôl- ymweliad Craidd 1 a Chyfweliadau Robin Hughes Mehefin 2017

Upload: vuthien

Post on 18-Feb-2019

213 views

Category:

Documents


0 download

TRANSCRIPT

Page 1: Headteacher Feedback analysis · Web viewMae coridor yr M4 yn golygu bod yna lif yn bodoli nad yw'n cyd-fynd â ffiniau'r consortia." – Pennaeth Ysgol Uwchradd, Castell-nedd Port

Tudalen 1 | 36

Gwerthusiadau PenaethiaidDadansoddiad o Adborth Penaethiaid Ôl-ymweliad Craidd 1

a Chyfweliadau Robin Hughes

Mehefin 2017

Page 2: Headteacher Feedback analysis · Web viewMae coridor yr M4 yn golygu bod yna lif yn bodoli nad yw'n cyd-fynd â ffiniau'r consortia." – Pennaeth Ysgol Uwchradd, Castell-nedd Port

Crynodeb

Er mwyn i ERW barhau i lwyddo i ddatblygu'r gwasanaethau gwella ysgolion gorau ar gyfer y rhanbarth, mae'n rhaid iddo ddal ati i ymdrechu i'w wella ei hun. Un ffordd o gasglu gwybodaeth i wella gwasanaethau yw gofyn i'r Penaethiaid am eu hadborth llawn a gonest. Y ffordd orau o sicrhau gwybodaeth ddiduedd a diogwydd oedd darparu cyfle, yn y lle cyntaf, i Benaethiaid lenwi Holiadur SurveyMonkey. Roedd hwn wedi'i gynllunio'n benodol i ddadansoddi Ymweliad Craidd 1, gan olygu y byddai eu hymatebion yn gwbl ddienw ond hefyd yn berthnasol. Yn ail, aeth ERW ati i gomisiynu Robin Hughes i gynnal cyfweliadau â Phenaethiaid gwahanol ledled ERW, gan ofyn am eu barn ddiduedd.

Mewn cyfnod byr o amser, roedd Holiadur SurveyMonkey wedi ennyn dros 200 o ymatebion, gan olygu y byddai maint y sampl yn ddigon mawr i sicrhau bod y canlyniadau'n sylweddol. Roedd Robin Hughes wedi llwyddo i gynnal 20 o gyfweliadau, gyda rhai ohonynt yn gyfarfodydd Penaethiaid grŵp clwstwr.

Cafwyd canfyddiadau diddorol iawn yn y dadansoddiad o Adborth y Penaethiaid, gydag Awdurdodau Lleol yn ateb mewn modd gwahanol i'w gilydd. Roedd yna arwydd clir fod yr ysgolion ym Mhowys yn llawer hapusach gyda'r gwasanaeth yr oedd yr Ymgynghorwyr Her yn ei ddarparu ar eu cyfer, o gymharu â Sir Benfro ac Abertawe, a oedd yn fwy tueddol o ateb yn negyddol am eu profiad o gymharu â phob un o'r Awdurdodau Lleol eraill.

Wedi'u hamlinellu isod y mae rhai o'r argymhellion a gododd o'r Dadansoddiad o Adborth y Penaethiaid a Chyfweliadau Robin Hughes. Mae'r rhain yn deillio o'r negeseuon eglur a oedd yn amlwg drwyddi draw:

Argymhelliad 1: Mae angen i'r pecyn cymorth fod yn fwy pwrpasol ar gyfer pob ysgol. Dim ond 61% oedd yn credu ei fod yn diwallu hawliau dyraniad y broses gategoreiddio. Mae 61% yn ffigur boddhad isel, o gymharu ag atebion eraill, gan fod y cwestiynau eraill wedi ennyn cyfraddau boddhad o 84%. Roedd yna hefyd gred bod ERW yn canolbwyntio mwy ar yr ysgolion sy'n tanberfformio, a bod y Ddewislen Cymorth wedi'i theilwra'n fwy ar eu cyfer nhw, yn hytrach nag ar gyfer 'ysgolion Gwyrdd/gwell eu perfformiad'.

Argymhelliad 2: Mae nifer mawr o ysgolion wedi gofyn am fwy o rwydweithio Ysgol i Ysgol, a hefyd am enghreifftiau o arfer da. Grwpio ynghyd ysgolion sydd â chategorïau tebyg. Mae'n rhaid cael rhagor o wybodaeth am ba ysgolion a ddylai gael eu defnyddio fel meincnodau/esiampl o Arfer Da i ysgolion eraill ledled y rhanbarth. Mae'r cynnydd o ran Dolen yn cael ei annog yn fawr.

Argymhelliad 3: Mae trosiant Ymgynghorwyr Her yn rhywbeth y mae angen mynd i'r afael ag ef. Cyfeiriodd nifer o Benaethiaid at y ffaith bod trosiant Ymgynghorwyr Her yn fater anfanteisiol iawn, ac yn tarfu ar gynnydd a datblygiad yr ysgol. Nid oeddent yn gallu meithrin perthynas â'u Hymgynghorydd Her gan ei bod yn debygol mai Ymgynghorydd Her arall a fyddai'n ymweld â nhw y tro canlynol. Roedd hyn yn cael ei ddwysáu gan fodel o bennaeth wedi'i gomisiynu mewn rhai achosion.

Argymhelliad 4: Mae angen i Ymgynghorwyr Her fod wedi paratoi'n dda cyn ymweld â'r ysgol. Roedd ysgolion yn fwy parod i wrando ar yr Ymgynghorydd Her, a thalu sylw i'w gyngor, a hynny am fod yna elfen gynyddol o ymddiriedaeth oherwydd bod gan staff yr ysgol fwy o ffydd yn ei gymhwysedd o ran gwybod beth yr oedd yn ei wneud.

Argymhelliad 5: Mae ysgolion yn credu bod angen mwy o gysondeb o ran yr Ymgynghorwyr Her ar lefel yr Awdurdod Lleol. Os yw hyn yn wir ar lefel yr Awdurdod Lleol, yna mae angen mwy o gysondeb fyth ar lefel ranbarthol gan fod y canlyniadau wedi amlygu gagendor mawr ym mhrofiad ysgolion mewn awdurdodau lleol gwahanol.

Tudalen 2 | 36

Page 3: Headteacher Feedback analysis · Web viewMae coridor yr M4 yn golygu bod yna lif yn bodoli nad yw'n cyd-fynd â ffiniau'r consortia." – Pennaeth Ysgol Uwchradd, Castell-nedd Port

Argymhelliad 6: Dylai Ymgynghorwyr Her fod yn mynd yno i gefnogi, ac nid i graffu/gwestiynu. Roedd rhai yn canolbwyntio gormod ar edrych ar ddata'r ysgol yn hytrach nag ymgysylltu â'r disgyblion eu hunain ac edrych ar eu llyfrau.

Argymhelliad 7: Mae angen neges eglur a chyson sy'n diffinio ERW a'r hyn y mae'n sefyll drosto. Mae'r negeseuon amrywiol a'r anghysondebau ledled y rhanbarth yn tanseilio gwaith ERW. Ni all hyn gael ei gyflawni os oes anghysondebau yn bodoli o ran safon Ymgynghorwyr Her yn yr Awdurdodau Lleol, ynghyd â'r trosiant parhaus ohonynt, gan y bydd hyder ysgolion yn ERW yn gwanhau. Bydd ysgol sy'n teimlo'n hyderus yn ei Hymgynghorydd Her yn barod i wrando arno, ac felly dylai fod llwybr clir o gyfathrebu gan ERW trwy'r Ymgynghorydd Her.

Bydd gallu ERW i gyflawni'r Argymhellion hyn yn dibynnu'n helaeth ar y berthynas sydd gan yr ysgol â'i Hymgynghorydd Her, a bod yr anghysondebau yn cael eu lleihau'n sylweddol.

Tudalen 3 | 36

Page 4: Headteacher Feedback analysis · Web viewMae coridor yr M4 yn golygu bod yna lif yn bodoli nad yw'n cyd-fynd â ffiniau'r consortia." – Pennaeth Ysgol Uwchradd, Castell-nedd Port

Cyflwyniad

Mae'r adroddiad hwn wedi cyfuno Dadansoddiad o Adborth Penaethiaid Ôl-ymweliad Craidd 1 a'r Ymchwil Ansoddol a gyflawnwyd gan Robin Hughes ar gyfer ERW rhwng 1 Mawrth a 27 Ebrill, pan aeth i nifer o gyfarfodydd Penaethiaid, Grwpiau Clwstwr a Phenaethiaid Adrannau. Aethpwyd ati i ymgymryd â'r gwaith hwn er mwyn cael gwell dealltwriaeth o farn Penaethiaid y rhanbarth am ERW a'r holl broses o wella ysgolion. Mae'r wybodaeth hon yn amhrisiadwy er mwyn i ni allu gwella ein gwasanaeth, a darparu gwell profiad yn y dyfodol ar gyfer holl ysgolion ein rhanbarth.

Holiadur a bostiwyd ar SurveyMonkey oedd yr Adborth Penaethiaid. Roedd yn cynnwys 14 o gwestiynau, a oedd yn amrywio o: pa Awdurdod Lleol yr oedd yr ysgol yn perthyn iddi, sector – cynradd, uwchradd, pob oed ac arbennig; i gwestiynau mwy manwl a oedd yn gofyn am safon rôl yr Ymgynghorydd Her – a oedd wedi cydymffurfio â dealltwriaeth yr ysgol o'i chryfderau a'i gwendidau, a oedd y broses gategoreiddio wedi cael ei rhoi ar waith mewn modd effeithiol, a oedd y cymorth yn berthnasol; i gwestiynau ar dechnegau cyfathrebu ERW, a sut y gallai ERW wella ei gwasanaeth. Cafodd yr ymatebion y soniwyd amdanynt eisoes eu cyflawni wedi i Ymweliad Craidd 1 gael ei gwblhau. Cafodd yr holiaduron eu llenwi rhwng 14 Mawrth 2017 a 5 Mai 2017. Yn ystod y cyfnod hwnnw, roedd 207 o ymatebion wedi dod i law, a phenderfynwyd bod hwn yn faint digon mawr i'w ddadansoddi.

Roedd Ymchwil ansoddol Robin Hughes yn cynnwys cyfweliadau ag 11 o Benaethiaid unigol, cyfarfodydd grwpiau o Benaethiaid, a dau gyfarfod Penaethiaid Adrannau. Roedd pob Awdurdod Lleol a Sector yn cael ei gynrychioli mewn modd teg yn ystod yr ymchwil hon. Yn yr un modd â'r holiadur, roeddem yn dymuno cael gwybodaeth werthfawr am farn gyffredinol ysgolion am ERW.

Tudalen 4 | 36

Page 5: Headteacher Feedback analysis · Web viewMae coridor yr M4 yn golygu bod yna lif yn bodoli nad yw'n cyd-fynd â ffiniau'r consortia." – Pennaeth Ysgol Uwchradd, Castell-nedd Port

Methodolegau Adrodd

Dadansoddiad o Adborth Penaethiaid

Roedd dau gant a saith o ysgolion wedi dechrau'r broses o lenwi'r holiadur (ar 9 Mai 2017), ond collodd llawer ohonynt ddiddordeb ar ôl ychydig gwestiynau, ac ni lwyddasant i'w hateb i gyd. Dim ond yr ychydig gwestiynau cyntaf y llwyddodd rhai i'w hateb, sef y cwestiynau Sector ac Awdurdod Lleol, ac nid oedd rhai wedi ateb unrhyw gwestiynau ar ôl cwestiynau 3-5. Nid oedd dros 20 o ymatebwyr wedi llenwi'r holiadur o gwestiwn 3 ymlaen, ac mae'r nifer hwn yn cynyddu'n raddol i tua 30 erbyn yr ychydig gwestiynau olaf yn yr holiadur.

Manylion yr Awdurdodau Lleol

Manylion y Sectorau

Ymchwil Ansoddol Robin Hughes

Roedd yr ymchwil yn cynnwys cyfweliadau strwythuredig, cwbl Ansoddol. Cynhaliwyd cyfanswm o 19 o gyfweliadau: 11 â Phenaethiaid unigol, wyth yn rhai cyfarfodydd grŵp – chwech ohonynt yn grwpiau Penaethiaid Cynradd ac Uwchradd ym Mhowys, Castell-nedd Port Talbot ac Abertawe, a dau yn Rhwydwaith Penaethiaid Adrannau – Saesneg a Mathemateg. Cafodd pob sector ei gynrychioli yn y gwaith ymchwil, yn ysgolion Cynradd, Uwchradd, Ffydd, Arbennig.

Manylion yr Awdurdodau Lleol

Tudalen 5 | 36

Abertawe 38Castell-nedd Port Talbot 29Ceredigion 15Powys 46Sir Caerfyrddin 54Sir Benfro 23Heb nodi pa sir 2

Arbennig 5Cynradd 168Pob Oed 5Uwchradd 27Sir Caerfyrddin 54Heb nodi pa sector 2

Abertawe 3Castell-nedd Port Talbot 3Ceredigion 1Powys 5Sir Caerfyrddin 3Sir Benfro 2Penaethiaid Adrannau 2

Page 6: Headteacher Feedback analysis · Web viewMae coridor yr M4 yn golygu bod yna lif yn bodoli nad yw'n cyd-fynd â ffiniau'r consortia." – Pennaeth Ysgol Uwchradd, Castell-nedd Port

Ymweliad Craidd 1 yr Ymgynghorydd Her, a'r cymorth a ddarparwyd

Dadansoddiad o Adborth y Penaethiaid

A oedd Ymweliad Craidd 1 yn cadarnhau'r ddealltwriaeth o gryfderau a gwendidau'r ysgol?Abertawe %

Oedd – yn dda iawn 29 90.63%Oedd – yn ddigonol 2 6.25%Nac oedd 1 3.13%Y Cyfanswm a Atebodd 32

Castell-nedd Port Talbot %

Oedd – yn dda iawn 23 88.46%Oedd – yn ddigonol 3 11.54%Nac oedd 0 0.00%Y Cyfanswm a Atebodd 26

Ceredigion %Oedd – yn dda iawn 12 85.71%Oedd – yn ddigonol 2 14.29%Nac oedd 0 0.00%Y Cyfanswm a Atebodd 14

Powys %

Oedd – yn dda iawn 4395.56%

Oedd – yn ddigonol 2 4.44%Nac oedd 0 0.00%Y Cyfanswm a Atebodd 45

Sir Caerfyrddin %Oedd – yn dda iawn 36 75.00%Oedd – yn ddigonol 12 25.00%Nac oedd 0 0.00%Y Cyfanswm a Atebodd 48

Sir Benfro %Oedd – yn dda iawn 15 68.18%Oedd – yn ddigonol 5 22.73%Nac oedd 2 9.09%Y Cyfanswm a Atebodd 22

Tudalen 6 | 36

Page 7: Headteacher Feedback analysis · Web viewMae coridor yr M4 yn golygu bod yna lif yn bodoli nad yw'n cyd-fynd â ffiniau'r consortia." – Pennaeth Ysgol Uwchradd, Castell-nedd Port

Yes – very well Yes - adequately No0.00%

10.00%

20.00%

30.00%

40.00%

50.00%

60.00%

70.00%

80.00%

90.00%

100.00%90.63%

6.25%3.13%

88.46%

11.54%

0.00%

85.71%

14.29%

0.00%

95.56%

4.44%0.00%

75.00%

25.00%

0.00%

68.18%

22.73%

9.09%

Frequency of Responses

Swansea Neath Port Talbot Ceredigion Powys Carmarthenshire Pembrokeshire

Did the visit confirm your understanding of the school's strengths and weaknesses?

Do - yn dda iawn/Yes - very well

Do - yn ddigonol/Yes - adequately

Naddo/No

Yn gyffredinol, roedd y canlyniad yn gadarnhaol iawn. Roedd bron 85% yn credu bod yr ymweliad yn cadarnhau eu dealltwriaeth o gryfderau a gwendidau'r ysgol; roedd bron 14% yn credu bod y ddealltwriaeth wedi bod yn ddigonol; a dim ond 1.6% oedd yn credu nad oedd hynny wedi bod yn wir. O'r tri ymatebydd a oedd wedi datgan nad oedd yr Ymweliad Craidd wedi cadarnhau eu dealltwriaeth o gryfderau a gwendidau'r ysgol, roedd dau yn dod o Sir Benfro ac un o Abertawe. Yn

Tudalen 7 | 36

Amlder %Oedd – yn dda iawn 158 84.49%Oedd – yn ddigonol 26 13.90%Nac oedd/No 3 1.60%Cyfanswm 187

Page 8: Headteacher Feedback analysis · Web viewMae coridor yr M4 yn golygu bod yna lif yn bodoli nad yw'n cyd-fynd â ffiniau'r consortia." – Pennaeth Ysgol Uwchradd, Castell-nedd Port

ymatebion Powys, gallwn weld cred gref iawn fod hyn yn wir, gyda bron 96% o'r ymatebwyr yn dweud, 'Oedd – yn dda iawn', a'r ddau arall yn dweud, 'Oedd – yn ddigonol'.Wrth edrych ar y sylwadau a gyflwynwyd gan y Penaethiaid amrywiol, roedd hyn yn cadarnhau eu cred bod yr ymweliad wedi bod o fudd iddynt.

“Roedd yr ymweliad yn gefnogol iawn – yn arbennig gan fy mod yn Bennaeth Gweithredol newydd yn y swydd. Mae fy Ymgynghorydd Her yn bresenoldeb cefnogol iawn, ac yn rhywun yr wyf yn teimlo y gallaf gysylltu ag ef, a chael cymorth priodol ganddo." – Pennaeth Ysgol Gynradd, Sir Benfro.

“Rhagorol. Cefnogol, ac eto'n heriol.” – Pennaeth Ysgol Arbennig, Powys.

"Ymweliad cefnogol iawn yn ystod adeg o ansicrwydd yn ein hysgol. Her, cyngor a thrafodaeth adeiladol, gyda chefnogaeth Uwch-dîm Arwain dros dro i gynllunio sut i fwrw ymlaen â chydweledigaeth." – Pennaeth Ysgol Gynradd, Powys.

"Cafodd yr ymweliad ei gynnal mewn modd proffesiynol a chefnogol." – Pennaeth Ysgol Gynradd, Castell-nedd Port Talbot.

"Roedd yr Ymgynghorydd Her yn rhagorol, a chyflawnodd waith da. Roedd yn gefnogol ac yn heriol ar yr un pryd. Nid oedd y pecyn cymorth – er ei fod yn ddigonol (a heb fod unrhyw fai ar yr Ymgynghorydd Her na'r rhanbarth) – yn diwallu pob angen yn yr ysgol. Byddai hyn yn ymddangos bron yn amhosibl, ac ni fyddwn yn disgwyl iddo wneud hynny." – Pennaeth Ysgol Gynradd, Abertawe.

Roedd rhai yn credu nad oedd yr ymweliadau a'r Her yn darparu cefnogaeth, dim ond yn eu herio – "Mae arnom angen rhagor o gymorth ymarferol a llai o herio. Mae angen i ni ganolbwyntio ar yr hyn a wnawn gyda'r plant yn hytrach na chynhyrchu gweithdrefnau gweinyddol dan gochl monitro a thystiolaeth." – Pennaeth Ysgol Gynradd, Abertawe.

"Byddai llai o herio a rhagor o gymorth yn ddefnyddiol." – Pennaeth Ysgol Gynradd, Castell-nedd Port Talbot.

Cyfweliadau Robin Hughes

Yng nghyfweliadau Robin Hughes, roedd Pennaeth Uwchradd yn Sir Benfro, yn yr un modd, yn credu bod:

"Angen i Ymweliad Craidd 1 fod yn fwy na 'bod hyn neu'r llall yn wan neu'n gryf'. Mae angen iddo ganolbwyntio mwy ar gymorth." Pennaeth Ysgol Uwchradd, Sir Benfro.

"Mae Ymweliad Craidd 1 yn edrych ar ganlyniadau, deilliannau. Dylai ddechrau'n gynharach gan nad oes gwir angen aros nes bod y canlyniadau cymeradwy terfynol yn cael eu cadarnhau ganol tymor yr hydref. Mae Ymweliad Craidd 2 yn ymwneud mwy ag addysgu a dysgu, ac felly'n fwy defnyddiol." Pennaeth Ysgol Uwchradd, Sir Benfro.

Roedd Pennaeth Cynradd yng Ngheredigion yn credu y byddai rhannu arfer da o fudd mawr yn ystod Ymweliad Craidd 1:

"Byddai'n wych pe byddai'r Ymgynghorydd Her yn gallu dweud yn ystod Ymweliad Craidd 1, 'Dyma arfer da perthnasol' o ran mater lle mae angen cymorth. Mae aros am yr adroddiad, ac yna aros am y cymorth, yn golygu bod eich rhestr 'I'w Wneud' yn tyfu bob dydd!' Pennaeth Ysgol Gynradd, Ceredigion.

Roedd Penaethiaid yn gofyn am enghreifftiau o arfer da yn thema reolaidd yn yr ymchwil, boed hynny'n rhan o Ymweliad Craidd 1 neu Ymweliad Craidd 2.

Tudalen 8 | 36

Page 9: Headteacher Feedback analysis · Web viewMae coridor yr M4 yn golygu bod yna lif yn bodoli nad yw'n cyd-fynd â ffiniau'r consortia." – Pennaeth Ysgol Uwchradd, Castell-nedd Port

"Adnodd ar gyfer rhannu arfer gorau? Da. Ond rhaid hefyd sicrhau ei ansawdd. Pe byddai gan Ymweliad Craidd 1 neu Ymweliad Craidd 2 bromt i nodi 'arfer gwerth ei rannu', byddai hynny o help." Pennaeth Ysgol Uwchradd, Powys.

"Mae gwybod lle mae arfer da i'w gael yn beth pwerus a defnyddiol iawn. Mewn gwirionedd, ni all Dolen ddod yn ddigon cyflym, a gorau oll os oes ynddo arfer da o'r tu hwnt i'r rhanbarth hefyd. Wedi dweud hynny, nid wyf yn siŵr o gwbl a ydym yn cydweithio'n ddigon da o fewn y rhanbarth eto!" Pennaeth Ysgol Gynradd, Ceredigion.

"Mae'n hynod ddefnyddiol os yw eich Ymgynghorydd Her yn dweud, 'Gadewch i mi eich tywys at ddwy neu dair ysgol sy'n hynod dda o ran gwneud hynny'." Grŵp Penaethiaid Clwstwr Ysgolion Cynradd, Abertawe.

"Mae Dolen yn swnio'n dda. Byddwn yn gobeithio y gallech gynnwys rhywbeth tebyg i 'Strategaethau ymddygiad', ac y byddai rhestr o astudiaethau achos yn ymddangos." Grŵp Penaethiaid Clwstwr Ysgolion Cynradd, Abertawe.

"Efallai fod angen i ni newid ein canfyddiad ohono. Gallem ddweud bod ar ERW ei angen, er mwyn datblygu trefniadau gweithio mewn partneriaeth ag ysgolion, a nodi arfer da, sydd wedyn yn cael ei rannu. Wrth gwrs, mae'n werthfawr o hyd fel modd o gynnal deialog rhwng y Pennaeth a'r Ymgynghorydd Her. Pennaeth Ysgol Gynradd, Powys.

Mae'n eglur bod ysgolion yn credu mai darparu enghreifftiau o 'arfer da' yw'r ffordd o wella'r cymorth a ddarperir yn Ymweliad Craidd 1 hyd yn oed fwy, a'u bod yn ystyried Dolen yn adnodd gwerthfawr.

Wedi'i gysylltu'n agos â rhannu 'arfer da' y mae gwaith Ysgol i Ysgol ERW. Mae ysgolion yn credu'n gryf mai 'gwaith Ysgol i Ysgol' yw'r ffordd ymlaen. Mae'n amlwg yn sylwadau'r Penaethiaid yn y Dadansoddiad o'u hadborth, ac yng nghyfweliadau Robin Hughes, eu bod yn dymuno gweld gwelliant mawr o ran y cyfleoedd sydd ar gael iddynt gydweithio ag ysgolion eraill.

I ba raddau y mae ysgolion yn credu bod gwaith 'ysgol i ysgol' a ffurfio system hunanwella yn datblygu yn ERW?

Amlder %ddim o gwbl/not at all 8 4.44%yn rhannol/partially 109 60.56%yn sylweddol/significantly 63 35.00%

Cyfanswm 180

Abertawe %ddim o gwbl/not at all 4 13.33%yn rhannol/partially 23 76.67%yn sylweddol/significantly 3 10.00%Y Cyfanswm a Atebodd 30

Castell-nedd Port Talbot %ddim o gwbl/not at all 0 0.00%yn rhannol/partially 18 72.00%yn sylweddol/significantly 7 28.00%

Tudalen 9 | 36

Page 10: Headteacher Feedback analysis · Web viewMae coridor yr M4 yn golygu bod yna lif yn bodoli nad yw'n cyd-fynd â ffiniau'r consortia." – Pennaeth Ysgol Uwchradd, Castell-nedd Port

Y Cyfanswm a Atebodd 25

Ceredigion %ddim o gwbl/not at all 0 0.00%yn rhannol/partially 8 61.54%yn sylweddol/significantly 5 38.46%Y Cyfanswm a Atebodd 13

Powys %ddim o gwbl/not at all 1 2.22%yn rhannol/partially 24 53.33%yn sylweddol/significantly 20 44.44%Y Cyfanswm a Atebodd 45

Sir Caerfyrddin %ddim o gwbl/not at all 3 6.82%yn rhannol/partially 27 61.36%yn sylweddol/significantly 14 31.82%Y Cyfanswm a Atebodd 44

Sir Benfro %ddim o gwbl/not at all 0 0.00%yn rhannol/partially 9 39.13%yn sylweddol/significantly 14 60.87%Y Cyfanswm a Atebodd 23

Tudalen 10 | 36

To what extent do you believe school to school work and the development of a self improving system is developing in ERW?

ddim o gwbl/not at all

yn rhannol/partially

yn sylweddol/significantly

Page 11: Headteacher Feedback analysis · Web viewMae coridor yr M4 yn golygu bod yna lif yn bodoli nad yw'n cyd-fynd â ffiniau'r consortia." – Pennaeth Ysgol Uwchradd, Castell-nedd Port

Drwyddo draw, mae'r Dadansoddiad o Adborth Penaethiaid yn amlygu mai Sir Benfro yw'r Awdurdod Lleol sydd wedi rhoi'r adborth negyddol yn fwyaf cyson. Er hynny, gallwn weld bod y Penaethiaid yn credu bod yna 'waith ysgol i ysgol a datblygiad system hunanwella yn ERW', a hwnnw'n sylweddol. Hefyd, dyma'r unig Awdurdod Lleol sydd â'r nifer mwyaf (60.87%) sy'n credu bod yna welliant sylweddol (sy'n llawer uwch na'r cyfartaledd o 35%), o gymharu â gwelliant rhannol, neu ddim gwelliant o gwbl. Abertawe (4) yw un o'r tri Awdurdod Lleol sy'n credu nad oes unrhyw waith ysgol i ysgol na datblygiad system hunanwella yn bodoli yn ERW, gyda thri yn Sir Caerfyrddin ac un ym Mhowys yn dweud yr un peth. Fodd bynnag, mae'n werth nodi mai Powys oedd â'r nifer mwyaf o ymatebwyr a ddywedodd bod gwelliant sylweddol i'w weld.

Dadansoddiad o Adborth Penaethiaid

"Mae ar ysgolion angen arweiniad o hyd o ran perthnasedd ERW. Byddai hwyluso a hyrwyddo gwaith ysgol i ysgol yn fuddiol." – Pennaeth Ysgol Uwchradd, Castell-nedd Port Talbot.

"Gwella'r system Ysgol i Ysgol, e.e. grwpio ysgolion tebyg" – Pennaeth Ysgol Gynradd, Sir Caerfyrddin.

"Gweithgor Penaethiaid i gydgysylltu gwaith ysgol i ysgol." – Pennaeth Ysgol Gynradd, Powys.

"Calendr o weithgareddau Ysgol i Ysgol sy'n adlewyrchu 'gwasgbwyntiau' mewn ysgol. Ar hyn o bryd y tymor hwn, ni all yr un o'n staff fforddio colli dosbarthiadau Safon Uwch neu TGAU, ac nid ydynt yn dymuno gwneud hynny!" – Pennaeth Ysgol Uwchradd, Powys.

"Cyfleoedd i staff gael profiad o weithio mewn ysgolion eraill, yn rhan o'u datblygiad proffesiynol, fel eu bod yn dychwelyd gyda syniadau o ysgolion rhagorol." – Pennaeth Ysgol Gynradd, Sir Benfro.

Cyfweliadau Robin Hughes

Tudalen 11 | 36

ddim o gwbl/not at all yn rhannol/partially yn sylweddol/significantly0.00%

10.00%

20.00%

30.00%

40.00%

50.00%

60.00%

70.00%

80.00%

90.00%

100.00%90.63%

6.25%3.13%

88.46%

11.54%

0.00%

85.71%

14.29%

0.00%

95.56%

4.44%0.00%

75.00%

25.00%

0.00%

68.18%

22.73%

9.09%

Frequency of Responses

Swansea Neath Port Talbot Ceredigion Powys Carmarthenshire Pembrokeshire

Page 12: Headteacher Feedback analysis · Web viewMae coridor yr M4 yn golygu bod yna lif yn bodoli nad yw'n cyd-fynd â ffiniau'r consortia." – Pennaeth Ysgol Uwchradd, Castell-nedd Port

"Byddwn yn gofyn i ERW barhau i ddatblygu gwaith ysgol i ysgol, ac i ganolbwyntio ar gymorth. Mae'r agwedd herio yn gweithio'n iawn, ond mae angen i gymorth barhau i ddatblygu." – Pennaeth Ysgol Gynradd, Abertawe.

Dywedodd un Pennaeth Ysgol Gynradd o Sir Benfro – "Awgrymodd Ymgynghorydd Her ein bod yn ymweld ag ysgol debyg yr oedd wedi'i nodi yng Nghaerdydd. Euthum gyda'm Dirprwy, ac roedd hynny'n werth chweil. Ac roedd yn wych gallu rhannu â chyd-weithwyr proffesiynol, a chael ein hannog fod llawer o'r hyn yr ydym yn ei wneud yn iawn, 'a'n bod ar y trywydd iawn'." …"Rwyf wedi edrych ar y ddewislen cymorth ond, mewn gwirionedd, rwy'n cael sgwrs â'm Hymgynghorydd Her am y cymorth sydd ar gael, neu y gallwn geisio ei gael. Weithiau, rwy'n sgwrsio â'r Ymgynghorydd Her bob wythnos, ac o leiaf bob pythefnos."

"Mae ERW wedi ychwanegu gwerth at y rhwydwaith a oedd gan yr ysgolion arbennig eisoes. Mae wedi hyrwyddo gwaith ysgol i ysgol a chydweithio yn gyffredinol." Pennaeth Ysgol Arbennig, Powys.

"Cefais gefnogaeth, a oedd yn dda. Roedd yn bwrpasol, ac nid wedi'i chodi'n syth o'r rhestr chwerthinllyd yna ar bapur." – Pennaeth grŵp Uwchradd, Castell-nedd Port Talbot.

Gallwn weld o'r sylwadau uchod fod yna hyder mawr yn ERW i ddatblygu'r rhwydwaith Ysgol i Ysgol yn y rhanbarth, gan baru ysgolion tebyg â'i gilydd; roedd un ysgol hyd yn oed wedi nodi y dylai'r gwaith gael ei wneud ledled Cymru.

Dadansoddiad o Adborth Penaethiaid

“Mae arnom angen rhagor o rwydweithio rhwng ysgolion yn y categori Gwyrdd fel y gallant ddysgu oddi wrth ei gilydd. Mae gwaith cymorth Ysgol i Ysgol yn dda ar gyfer cefnogi ysgolion sydd mewn categorïau eraill, ond mae angen rhwydweithio rhwng ysgolion sydd yn y categori Gwyrdd hefyd, fel bod eu harfer hwythau hefyd yn gwella" – Pennaeth Ysgol Gynradd, Sir Caerfyrddin.

Cyfweliadau Robin Hughes

"Rydym yn genedl fechan. Mae angen i ni gydweithio mwy. Mae gennym fwy yn gyffredin â Phen-y-bont ar Ogwr a'r Cymoedd na Cheredigion. Mae coridor yr M4 yn golygu bod yna lif yn bodoli nad yw'n cyd-fynd â ffiniau'r consortia." – Pennaeth Ysgol Uwchradd, Castell-nedd Port Talbot.

Tudalen 12 | 36

Page 13: Headteacher Feedback analysis · Web viewMae coridor yr M4 yn golygu bod yna lif yn bodoli nad yw'n cyd-fynd â ffiniau'r consortia." – Pennaeth Ysgol Uwchradd, Castell-nedd Port

A oedd y pecyn cymorth a ddarparwyd gan ERW yn diwallu hawliau'r dyraniad a'ch gofynion o ran cymorth wedi i chi gael eich categoreiddio?

Abertawe %Oedd – yn dda iawn/Yes – very well 10 32.26%Oedd – yn ddigonol/Yes – adequately 13 41.94%Nac oedd/No 8 25.81%Y Cyfanswm a Atebodd 31

Castell-nedd Port Talbot %Oedd – yn dda iawn/Yes – very well 18 69.23%Oedd – yn ddigonol/Yes – adequately 8 30.77%Nac oedd/No 0 0.00%Y Cyfanswm a Atebodd 26

Ceredigion %Oedd – yn dda iawn/Yes – very well 9 64.29%Oedd – yn ddigonol/Yes – adequately 5 35.71%Nac oedd/No 0 0.00%Y Cyfanswm a Atebodd 14

Powys %Oedd – yn dda iawn/Yes – very well 37 82.22%Oedd – yn ddigonol/Yes – adequately 8 17.78%Nac oedd/No 0 0.00%Y Cyfanswm a Atebodd 45

Sir Caerfyrddin %Oedd – yn dda iawn/Yes – very well 26 59.09%Oedd – yn ddigonol/Yes – adequately 15 34.09%Nac oedd/No 3 6.82%Y Cyfanswm a Atebodd 44

Sir Benfro %

Tudalen 13 | 36

Page 14: Headteacher Feedback analysis · Web viewMae coridor yr M4 yn golygu bod yna lif yn bodoli nad yw'n cyd-fynd â ffiniau'r consortia." – Pennaeth Ysgol Uwchradd, Castell-nedd Port

Oedd – yn dda iawn/Yes – very well 11 50.00%Oedd – yn ddigonol/Yes – adequately 8 36.36%Nac oedd/No 3 13.64%Y Cyfanswm a Atebodd 22

Yes – very well Yes - adequately No0.00%

10.00%

20.00%

30.00%

40.00%

50.00%

60.00%

70.00%

80.00%

90.00%

100.00%

32.26%

41.94%

25.81%

69.23%

30.77%

0.00%

64.29%

35.71%

0.00%

82.22%

17.78%

0.00%

59.09%

34.09%

6.82%

50.00%

36.36%

13.64%

Frequency of Responses

Swansea Neath Port Talbot Ceredigion Powys Carmarthenshire Pembrokeshire

Did the support package offered by ERW meet the allocation enti-tlement and your support requirements following your categori-

sation?Oedd - yn dda iawn/Yes - very well

Oedd - yn ddigonol/Yes - ad-equately

Nac oedd/No

Roedd dros 60% (111) o'r ymatebwyr wedi datgan bod y pecyn cymorth a gynigiwyd gan ERW yn diwallu hawliau'r dyraniad yn 'dda iawn', gyda 31.32% (57) o'r farn bod ERW wedi diwallu'r hawliau

Tudalen 14 | 36

%Oedd – yn dda iawn/Yes – very well 111 60.99%Oedd – yn ddigonol/Yes – adequately 57 31.32%Nac oedd/No 14 7.69%

Cyfanswm 182

Page 15: Headteacher Feedback analysis · Web viewMae coridor yr M4 yn golygu bod yna lif yn bodoli nad yw'n cyd-fynd â ffiniau'r consortia." – Pennaeth Ysgol Uwchradd, Castell-nedd Port

mewn modd digonol, a'r 7.69% (14) a oedd yn weddill yn credu nad oedd ERW wedi gwneud hynny o gwbl. Gallwn weld bod yr ymatebwyr yn fodlon iawn ym Mhowys, gydag 82.22% (37) yn datgan bod pecyn cymorth ERW wedi diwallu hawliau'r dyraniad yn dda iawn, a'r 17.78% a oedd yn weddill yn credu bod ERW wedi cyflawni hyn mewn modd digonol. Fel y crybwyllwyd yn gynharach, roedd 14 o'r ymatebwyr o'r farn nad oedd ERW wedi cyflawni hyn, gydag wyth ohonynt yn dod o Abertawe a thri o Sir Caerfyrddin a Sir Benfro. Mae yna thema gyffredin yn ei hamlygu ei hun yma, gyda Sir Benfro, yn bennaf, ac Abertawe, yn rhoi ymatebion negyddol bob tro, a Sir Caerfyrddin yn cyfrannu rhai datganiadau negyddol hefyd.

Mae yna gred nad yw ysgolion Gwyrdd ac ysgolion 'Gwell' eu Perfformiad yn cael unrhyw gymorth, neu nad yw'r cymorth wedi'i deilwra ar eu cyfer, ond, yn hytrach, ei fod wedi'i deilwra ar gyfer yr ysgolion hynny sy'n tanberfformio, ac mai'r ysgolion Gwyrdd a'r ysgolion 'Gwell' eu Perfformiad, hefyd, sydd yn gorfod cefnogi'r ysgolion hynny.

Cyfweliadau Robin Hughes

"Wrth gwrs, bydd meithrin hygrededd yn ERW yn cymryd amser. Mae'r cyfan yn dal i fod yn eithaf newydd. Ond un o'r pethau y mae'n rhaid i ni ei wneud yn well yw nodi'r hyn sy'n cael ei roi i'r ysgolion nad ydynt yn cael eu herio, a chyfathrebu'r wybodaeth honno. Mae'r rhai sy'n cael eu herio yn cael cymorth, ond beth y mae'r lleill yn ei gael? Maent yn rhoi."

"Os ydych chi'n ysgol sy'n perfformio'n dda, beth a all ERW ei ddarparu sy'n eich helpu i symud ymlaen? Ble y mae'r cam addysgegol nesaf?"

"Mae gennym fodel ar gyfer adfer diffyg. Mae popeth yn canolbwyntio ar ysgolion isel eu cyflawniad. Ond mae angen rhagor, os ydym i gyd i ddatblygu a gwella."

"Ledled ERW, mae'r hyfforddiant fel petai'n seiliedig ar y lluosrif cyffredin lleiaf. Nid yw hynny, mewn gwirionedd, yn symud pethau yn eu blaenau o ran gwella ysgolion. Nid yw'n sicrhau digon o ymestyn a herio."

"Pwy sy'n dewis y thema ar gyfer Ymweliad Craidd 2? O ble y mae'r thema'n dod? Dim ond rhagor o'r hen luosrif cyffredin lleiaf yna eto yw hyn."

"Nid wyf yn credu bod yna ddigon o amrywiaeth yn y cymorth sydd ar gael. Ac mae angen hyrwyddo'r cymorth llawer mwy."

"Mae angen symud cymorth yn ei flaen fel nad yw wedi'i gyfyngu i ddewislen eithaf cul o ymyraethau y gellir eu rhoi ar waith, sy'n caniatáu i bobl wneud dim mwy nag igam-ogamu ymlaen. Ble y mae'r gwaith ymchwil a'r dystiolaeth o bethau sy'n gweithio, nid yn unig yng Ngorllewin Cymru, ond hefyd ymhellach i ffwrdd, yn fyd-eang?

"Bydd dewislen cymorth eleni yn debyg iawn i ddewislen y llynedd. Ble y mae'r gwaith gwerthuso arni?"

Fel y gwelir yn y ddau ddyfyniad olaf uchod, nid yw Penaethiaid ledled y rhanbarth yn credu bod y Ddewislen Cymorth, yn gyffredinol, yn bwrpasol nac wedi'i theilwra ddigon, nid yn unig yn achos yr ysgolion Gwyrdd neu'r ysgolion Gwell eu Perfformiad, ond mae hyn hefyd yn amlwg yn y ddau ddadansoddiad gan ei fod yn eglur yn ymatebion y Penaethiaid yn dilyn Ymweliad Craidd 1.

Dadansoddiad o Adborth Penaethiaid

"Roedd yr ymweliad yn heriol ac yn gefnogol. Roeddem yn credu bod yr Ymgynghorydd Her yn adnabod ein hysgol ac wedi mynd ati i ddadansoddi data'r ysgol. Dewislen cymorth siomedig. Fel ysgol, rydym yn tueddu i

Tudalen 15 | 36

Page 16: Headteacher Feedback analysis · Web viewMae coridor yr M4 yn golygu bod yna lif yn bodoli nad yw'n cyd-fynd â ffiniau'r consortia." – Pennaeth Ysgol Uwchradd, Castell-nedd Port

ffurfio ein rhwydweithiau cymorth ysgol i ysgol ein hunain, ac rydym yn prynu DPP yn allanol." – Pennaeth Ysgol Gynradd, Abertawe.

"Proffesiynol a chefnogol. Mae'r ddewislen cymorth yn gyfyngedig o ran ysgolion arbennig, ond roedd yr eitemau a ddewiswyd yn briodol, ac ers yr ymweliad rydym wedi cael cymorth i ailddatblygu ein gwefan gan fod pgfl wedi cael ei dileu." – Pennaeth Ysgol Arbennig, Sir Benfro.

"Roedd yr Ymgynghorydd Her yn rhagorol. Nid oedd y ddewislen cymorth ar gyfer rhifedd, llythrennedd a gwahaniaethu mor effeithiol." – Pennaeth Ysgol Gynradd, Castell-nedd Port Talbot.

Cyfweliadau Robin Hughes

"Ni allaf gofio unrhyw Ymgynghorydd Her yn rhoi dewislen cymorth i mi, gan ddweud 'mae angen gwella llafaredd, a dyma A, B ac C i chi' a 'dyma restr o rai ysgolion sydd ag arfer da yn hyn o beth'. – Pennaeth Ysgol Gynradd, Sir Caerfyrddin.

"Nid yw'r ddewislen cymorth wedi'i theilwra. Yr hyn sydd ei angen mewn gwirionedd yw 'ble ydym wedi gweld hyn o'r blaen?', 'pwy sydd wedi wynebu her debyg a beth a wnaethpwyd yn ei chylch?'. Â phwy y gallwn gwrdd i siarad am hyn?" – Pennaeth Ysgol Uwchradd, Sir Benfro.

Mae'n amlwg bod ysgolion yn credu'n gryf nad yw'r Ddewislen Cymorth wedi'i theilwra ddigon ar gyfer ysgolion. Ymysg yr holl ysgolion a aeth ati i drafod Dewislen Cymorth ERW ar lafar, roeddent yn unfrydol bod y Ddewislen Cymorth yn rhy gyffredinol. Fel y dywedodd un Pennaeth Cynradd o Abertawe: "Mewn gwirionedd, mae'r ddewislen cymorth yn ymwneud â rhoi'r hyn y gellir ei ddarparu i ni, yn hytrach na'n bod yn cael yr hyn y mae arnom ei angen."

Ni chafodd unrhyw ddatganiadau/sylwadau cadarnhaol eu cyflwyno mewn perthynas â'r Ddewislen Cymorth. Eto i gyd, wrth edrych yn unig ar ystadegau'r Dadansoddiad o Adborth Penaethiaid isod, gwelwn fod 91.89% o'r ymatebwyr yn credu o ddifrif eu bod wedi cael Dewislen Cymorth berthnasol.

A gawsoch ddewislen cymorth berthnasol o ganlyniad i ymweliad yr ymgynghorydd â'ch ysgol?

Abertawe %Do/Yes 23 71.88%Naddo/No 9 28.13%Y Cyfanswm a Atebodd 32

Castell-nedd Port Talbot %

Do/Yes 25 96.15%Nac oedd 1 3.85%Y Cyfanswm a Atebodd 26

Tudalen 16 | 36

Page 17: Headteacher Feedback analysis · Web viewMae coridor yr M4 yn golygu bod yna lif yn bodoli nad yw'n cyd-fynd â ffiniau'r consortia." – Pennaeth Ysgol Uwchradd, Castell-nedd Port

Ceredigion %Do/Yes 14 100.00%Nac oedd 0 0.00%Y Cyfanswm a Atebodd 14

Powys %Do/Yes 45 100.00%Nac oedd 0 0.00%Y Cyfanswm a Atebodd 45

Sir Caerfyrddin %Do/Yes 45 100.00%Nac oedd 0 0.00%Y Cyfanswm a Atebodd 45

Sir Benfro %Do/Yes 18 78.26%Nac oedd 5 21.74%Y Cyfanswm a Atebodd 23

Amlder %Do/Yes 170 91.89%Nac oedd 15 8.11%Cyfanswm 185

Tudalen 17 | 36

Swansea Neath Port Talbot Ceredigion Powys Carmarthenshire Pembrokeshire0

5

10

15

20

25

30

35

40

45

50

Do/Yes Naddo/No

Page 18: Headteacher Feedback analysis · Web viewMae coridor yr M4 yn golygu bod yna lif yn bodoli nad yw'n cyd-fynd â ffiniau'r consortia." – Pennaeth Ysgol Uwchradd, Castell-nedd Port

Did you receive a relevant menu of support as a consequence of the adviser's visit to your School?

Do/Yes

Naddo/No

Dywedodd 91.89% o'r ymatebwyr eu bod wedi cael dewislen cymorth berthnasol o ganlyniad i ymweliad yr ymgynghorydd â'r ysgol; nid oedd yr 8.11% a oedd yn weddill yn credu hynny. Roedd y 15 (8.11% o'r ymatebwyr) nad oeddent wedi cael dewislen cymorth berthnasol yn dod o Abertawe, Sir Benfro a Chastell-nedd Port Talbot, sef naw, pump ac un, yn y drefn honno.

Mae yna duedd i'w weld bod pob ysgol a atebodd yr holiadur mewn modd negyddol yn dod o'r un Awdurdodau Lleol â'r rhai a roddodd sylwadau negyddol, sef Sir Benfro, Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot. Mae'n amlwg bod yr ysgolion yn yr Awdurdodau Lleol hyn yn credu nad yw'r Ddewislen Cymorth yn bwrpasol/wedi'i theilwra ddigon.

Tudalen 18 | 36

Page 19: Headteacher Feedback analysis · Web viewMae coridor yr M4 yn golygu bod yna lif yn bodoli nad yw'n cyd-fynd â ffiniau'r consortia." – Pennaeth Ysgol Uwchradd, Castell-nedd Port

Sylwadau ar ansawdd yr ymweliad a'r Ymgynghorwyr Her yn gyffredinol

Adroddiad ar y Dadansoddiad o Adborth Penaethiaid

Cafodd yr ymatebion o'r dadansoddiad o adborth Penaethiaid eu categoreiddio fel a ganlyn: Gwyrdd Tywyll – Rhagorol, Gwyrdd Golau – Da, Melyn Golau – Yn fwy cadarnhaol na negyddol, Melyn Llachar – Yn fwy negyddol na chadarnhaol, ac yna Coch – Gwael/dim adborth cadarnhaol.

 CyfanswmAbertawe

Castell-nedd Port Talbot

Ceredigion Powys Sir Caerfyrddin Sir Benfro

Gwyrdd Tywyll – Rhagorol 74 13 11 4 24 13 9

Gwyrdd Golau – Da 55 10 6 6 15 14 4Melyn Golau – Yn fwy cadarnhaol na negyddol 5 1 1 0 0 2 1Melyn Llachar – Yn fwy negyddol na chadarnhaol 12

2 0 0 0 7 3

Coch – Gwael 5 0 0 0 0 0 5

Dyma'r prif bwyntiau a grynhowyd o'r sylwadau: Roedd tri o'r pum ymateb a gategoreiddiwyd yn y categori Coch gan ysgolion Sir Benfro

wedi datgan/defnyddio'r gair 'Gwael' yn eu sylwadau.

Bob tro y byddai'r Ymgynghorwyr Her wedi paratoi'n dda ac yn wybodus am ddata/wybodaeth yr ysgol, byddai'r ysgolion yn ymateb yn dda ac yn rhoi adborth cadarnhaol. Pan fyddai'r Ymgynghorydd Her yn ymweld, byddai staff yr ysgol yn llawer mwy parod i wrando arno a thalu sylw i'w gyngor, a hynny am fod yna elfen gynyddol o ymddiriedaeth oherwydd bod ganddynt fwy o ffydd yn ei gymhwysedd o ran gwybod beth yr oedd yn ei wneud.

Roedd rhai ymweliadau yn rhy hir, ac weithiau byddai gormod o wybodaeth yn cael ei rhannu mewn un ymweliad; o ganlyniad, byddai'r neges yn mynd ar goll, a byddai'r her o'u blaenau yn llawer rhy anodd.

Roedd rhai Ymgynghorwyr Her yn canolbwyntio gormod ar ddata'r ysgol yn hytrach nag ymgysylltu â'r disgyblion eu hunain ac edrych ar eu llyfrau.

O edrych ar bwyntiau 2 a 4, awgrym ar gyfer gwelliant fyddai cynghori'r Ymgynghorwyr Her i baratoi'n dda cyn ymweld ag unrhyw ysgol. Trwy wneud hynny, byddent yn gwbl gyfarwydd â'r holl ddata pwysig ar gyfer yr ysgol, yn hytrach na'u bod yn pori trwyddynt yn ystod yr ymweliad; o ganlyniad, byddent yn canolbwyntio mwy ar y problemau amlwg, ac yn mynd i'r afael â nhw. Dylai'r broses o ddadansoddi'r data a dod o hyd i unrhyw wybodaeth fod wedi'i chwblhau eisoes, cyn yr ymweliad cyntaf.

Tudalen 19 | 36

Page 20: Headteacher Feedback analysis · Web viewMae coridor yr M4 yn golygu bod yna lif yn bodoli nad yw'n cyd-fynd â ffiniau'r consortia." – Pennaeth Ysgol Uwchradd, Castell-nedd Port

Thema fynych, amlwg o'r cyfweliadau oedd y broblem yr oedd ysgolion yn ei hwynebu o ran trosiant Ymgynghorwyr Her uchel. Cyfeiriwyd at hyn mewn wyth o'r 19 o gyfweliadau.

"Roedd yr ymweliad yn iawn, ond dyma'r trydydd Ymgynghorydd Her yr ydym wedi'i gael mewn tair blynedd, ac nid oedd Estyn (yr wythnos hon) yn hapus gyda'r diffyg cysondeb." Pennaeth Ysgol Gynradd, Sir Benfro.

"Roedd yr Ymgynghorwyr Her yn broffesiynol iawn. Fodd bynnag, gan fod yr ysgol wedi cael ei phedwerydd Ymgynghorydd Her yn yr un nifer o flynyddoedd, roedd hyn yn rhwystredig iawn gan fod yn rhaid i ni egluro ein cyd-destun bob tro. Byddai dilyniant yn well." Pennaeth Ysgol Gynradd, Abertawe.Roedd hyn hefyd yn amlwg yng Nghyfweliadau Robin Hughes:

"Mae cael Ymgynghorydd Her newydd bob blwyddyn yn creu rhai anawsterau. Hoffwn iddynt aros am dair blynedd, fel bod y ddeialog yn gwella trwy'r amser, a'u bod yn gweld y gwelliant yr ydym i gyd yn gweithio tuag ato. – Pennaeth Ysgol Gynradd, Ceredigion.

“The turnover of Challenge Advisers per school and per cluster is high. It is disadvantageous.” – Primary School Cluster HT Group, Swansea.

"Y feirniadaeth fwyaf yr wyf wedi'i chael yw fy mod wedi cael newid blynyddol. Bob tro, rydych yn dechrau o'r dechrau unwaith eto. Ac oherwydd hynny, nid yw'r effaith cyn gryfed ag y gallai fod." – Pennaeth Ysgol Uwchradd, Sir Benfro.

"Rwyf wedi cael pum Ymgynghorydd Her mewn 18 mis, a hynny mewn cyfnod yn arwain at arolygiad." – Grŵp Penaethiaid Clwstwr Ysgolion Cynradd, Castell-nedd Port Talbot.

"Rwyf wedi cael Ymgynghorydd Her gwahanol bob blwyddyn yn ystod fy mhrifathrawiaeth, ac mae hynny'n creu anawsterau, er bod y perthnasoedd â'r Ymgynghorwyr wedi bod yn dda. Mae'r ymweliadau wedi tyfu i fod yn rhai mwy pwrpasol, ac mae'r ddeialog wedi gwella dros amser." – Pennaeth Ysgol Gynradd, Abertawe.

Gallwn weld mai'r ymatebwyr o Abertawe oedd y rhai mwyaf cyson o ran datgan bod y trosiant o Ymgynghorwyr Her yn uchel, gydag ychydig o Sir Benfro hefyd yn mynegi eu pryder.

Dim ond ysgolion yn Awdurdod Lleol Sir Penfro oedd yn credu bod ansawdd yr ymweliad a'r Ymgynghorydd Her yn 'Wael', ac roedd tair ysgol wedi defnyddio'r gair 'Gwael' hyd yn oed.

"Gwael – heb gadw at y gweithgareddau a'r prosesau cytunedig. Sawl barn wedi'i llunio ar sail tystiolaeth arall a gafwyd. Cyfanswm yr amser ar gyfer yr ymweliad yn llawer hirach na'r hyn a ddyrannwyd. Rhyw hap-broses, a oedd yn ddiffygiol o ran eglurder." Pennaeth Ysgol Uwchradd, Sir Benfro.

“Gwael. Gallai'r cwestiynau hyn fod yn rhai mwy trylwyr mewn perthynas â'r broses, e.e. canfod sut y cafodd yr ymweliad ei gynnal, yn ymwneud â sgiliau a chymwyseddau'r Ymgynghorwyr Her. Rwy'n amau'r gwir ddealltwriaeth sydd gan unrhyw Ymgynghorydd Her o ysgol os nad yw'n treulio amser gyda'r dysgwyr. Mae llawer o Benaethiaid yn sôn am golli'r elfen fugeiliol yn rôl yr Ymgynghorydd Her, ac er mai'r prif ddiben yw herio, dylai'r elfen hon gael ei hyrwyddo yn yr hinsawdd sydd ohoni. Mae safon yr adroddiadau yn wael – ni fyddwn yn disgwyl i athrawon ddarparu'r safon hon ar gyfer ein plant. Rwy'n amau a all Ymgynghorwyr Her ein helpu i symud ymlaen fel ysgol. Credaf fod angen adolygu'r rôl er mwyn i'r Ymweliad Craidd fod yn fwy ystyrlon. Ychydig iawn a gyflawnwyd ar gyfer ein hysgol ni." Pennaeth Ysgol Gynradd, Sir Benfro.

"Cyfarfod Ymweliad Craidd 1 oedd y tro cyntaf i'r Ymgynghorydd Her ddod i'r ysgol, a'r tro cyntaf iddo gwrdd â mi. Roedd yr ymweliad yn saith awr o hyd, heb doriad o gwbl am ginio, a threuliwyd yr holl amser, bron, yn edrych ar ddata, is-lefelau, a thracio. Ychydig iawn o ddiddordeb a welwyd o ran dod i adnabod yr ysgol, neu gwrdd â'r plant a'r athrawon, dim ond awydd i edrych ar ddata. Roedd yr Ymgynghorydd Her yn canolbwyntio ar "herio", a'r lefelau y mae'r disgyblion yn eu cyflawni flwyddyn ar ôl blwyddyn. Ychydig iawn o ddealltwriaeth

Tudalen 20 | 36

Page 21: Headteacher Feedback analysis · Web viewMae coridor yr M4 yn golygu bod yna lif yn bodoli nad yw'n cyd-fynd â ffiniau'r consortia." – Pennaeth Ysgol Uwchradd, Castell-nedd Port

a amlygwyd o'r ffaith nad yw dysgu yn llinol, ac nad yw plant gwahanol, o reidrwydd, yn dysgu ar yr un cyflymder. Gwn fod yna waith i'w wneud o ran codi safonau, ond ni all hyn fod yn fater o "mae arnoch chi angen rhagor ar L5" pan nad oes gennych chi unrhyw wybodaeth am y plant. Mae'n debyg mai gwir yw dweud po bellaf fyddwch chi oddi wrth y plentyn, mwyaf pwysig yw'r data. Credaf ei bod yn hanfodol meddu ar farn ehangach am yr hyn y mae ysgol yn ei wneud/gyflawni ar gyfer ei dysgwyr. Gyda chwricwlwm Donaldson ar y trothwy, mae angen ystyried y newidiadau o ran addysgu a dysgu; ar ehangder y cwricwlwm sy'n cael ei gynnig i ddysgwyr, ynghyd â'r nodweddion mwy cynnil sydd i ysgol, yn hytrach na lefelau, is-lefelau a data mewn Saesneg, Mathemateg, Gwyddoniaeth a Chymraeg." Pennaeth Ysgol Gynradd, Sir Benfro.

Materion eraill a godwyd gan Benaethiaid oedd gwaith paratoi yr Ymgynghorwyr Her, sut yr oeddent wedi perfformio a rhyngweithio yn ystod Ymweliad Craidd 1, ynghyd â hyd yr ymweliad a pha mor ddwys yr oedd y diwrnod ei hun. Roedd rhai yn credu mai dim ond edrych ar ddata yr oedd rhai Ymgynghorwyr Her.

"Ffocysu ar ddata yn hytrach na'r effaith ar ddatblygiad emosiynol y disgyblion, gwaith ysgol i ysgol, ac ati." Pennaeth Ysgol Gynradd, Sir Benfro.

"Nid edrychwyd ar unrhyw lyfrau o gwbl." – Pennaeth Ysgol Gynradd, Sir Caerfyrddin.

"Roedd hwn yn ddiwrnod caled. Cafodd y data ei 'gwestiynu' nid ei herio! (Yn union fel bod yn drahaus/ymosodol.) Doeddwn i ddim yn cytuno â'r angen i gyflwyno'r is-lefelau rhwng lefelau yn CA2 – pam?? Beth yw diben dweud ar ddiwedd CA2 fod plentyn yn 4 a, b neu c? – nid yw'n gwneud unrhyw wahaniaeth. Yr hyn yr ydych am ei wybod yw a yw'r plentyn ar L4 neu L5 – does dim angen. Dywedodd Estyn nad oedd yna unrhyw angen!!!" – Pennaeth Ysgol Gynradd, Sir Benfro.

"Trylwyr iawn. Fodd bynnag, mae'n ddiwrnod dwys a hir iawn. Gormod ynddo." – Pennaeth Ysgol Gynradd, Abertawe.

"Wedi'i wneud mewn modd proffesiynol. Cyfathrebu eglur ac agored cyn yr ymweliad, yn ystod yr ymweliad ac ar ei ôl, a oedd yn fodd i ddeialog gonest ac agored gael ei chynnal. Dylai fod yn ofynnol bod cyfarfodydd rheoli perfformiad penaethiaid yn cael eu cynnal ar ddiwrnod gwahanol gan fod y Pennaeth a'r llywodraethwyr, erbyn yr amser hwnnw, wedi bod yn meddwl yn ddwys am sawl awr. Nid yw hyn yn rhoi cyfle i benaethiaid ganolbwyntio'n ddigon da ar eu hanghenion na'u gofynion eu hunain. Gwn fod hyn yn opsiynol ond, yn gyffredinol, rydym yn ceisio gwneud pethau'n haws ar gyfer ein Hymgynghorwyr Her a'n llywodraethwyr; fodd bynnag, mae hyn yn golygu ein bod yn ildio blaenoriaeth eto. Byddai gwaith Rheoli Perfformiad mwy eglur, ac iddo ffocws mwy pendant, yn gwella sgiliau arwain ac, o ganlyniad, yr arweinyddiaeth yn yr ysgol." Pennaeth Ysgol Gynradd, Powys.

Fel y crybwyllwyd eisoes o'r prif bwyntiau yn y sylwadau ar yr Ymgynghorwyr Her yn y Dadansoddiad o Adborth Penaethiaid, os oes perthynas gref yn bodoli rhwng yr ysgol a'r Ymgynghorydd Her, ac os yw'r staff yn gallu ymddiried bod yr Ymgynghorydd yn brofiadol ac y bydd yn eu cefnogi, yna mae llawer mwy o barodrwydd i'w weld ar eu rhan nhw. O'r pwys mwyaf yn hyn o beth yw paratoad yr Ymgynghorwyr Her ar gyfer pob ymweliad ac, unwaith eto, roedd hyn yn amlwg yn y ddau ganfyddiad.

Dadansoddiad o Adborth Penaethiaid

“Rhagorol. Roeddwn yn teimlo bod ein Hymgynghorydd Her yn adnabod ein hysgol yn dda, ac er bod y broses yn drylwyr, roeddwn yn teimlo ei bod yn broses gefnogol hefyd." – Pennaeth Ysgol Gynradd, Sir Benfro.

"Roedd yr Ymgynghorwyr Her yn broffesiynol, roeddent wedi gwneud eu gwaith ymchwil, ac roeddent wedi helpu gyda'r broses hunanwerthuso."

Tudalen 21 | 36

Page 22: Headteacher Feedback analysis · Web viewMae coridor yr M4 yn golygu bod yna lif yn bodoli nad yw'n cyd-fynd â ffiniau'r consortia." – Pennaeth Ysgol Uwchradd, Castell-nedd Port

“Rhagorol. Roeddwn yn teimlo bod gan ein Hymgynghorydd Her ddealltwriaeth gadarn o'r ysgol, a'i fod yn gofyn cwestiynau heriol ac yn cynnig cymorth yn ôl yr angen. – Pennaeth Ysgol Gynradd, Sir Benfro.

Cyfweliadau Robin Hughes

"Pan fydd eich Ymgynghorydd Her yn adnabod eich disgyblion ac yn adnabod eich ysgol, gallwch gydweithio. Mae hynny'n cymryd amser." – Cyn-bennaeth Cynradd, cydgysylltydd cyfredol Grŵp Penaethiaid Cynradd, Castell-nedd Port Talbot.

"Cefais bedwar Ymgynghorydd Her gwahanol mewn saith mlynedd, a chrefais ar ERW am rywfaint o sefydlogrwydd. Gwrandawyd arnaf a, bellach, mae gennyf Ymgynghorydd sy'n gefnogol. Mae wedi ennyn fy mharch." – Pennaeth Ysgol Gynradd, Abertawe.

"Y peth gorau a ddigwyddodd i mi oedd pan ddaeth yr Ymgynghorydd Her – roeddem yn ysgol Her Ysgolion Cymru – i siarad â mi, a chawsom drafod y materion. Yna, aeth yr Ymgynghorydd ymaith a dod o hyd i ysgolion eraill a oedd â materion tebyg, a beth yr oeddent yn ei wneud yn eu cylch, a rhoi hynny i mi. Roedd hynny'n wych." Pennaeth Adran Mathemateg, Awdurdod Lleol anhysbys.

Tudalen 22 | 36

Page 23: Headteacher Feedback analysis · Web viewMae coridor yr M4 yn golygu bod yna lif yn bodoli nad yw'n cyd-fynd â ffiniau'r consortia." – Pennaeth Ysgol Uwchradd, Castell-nedd Port

Dadansoddiad o Adborth Penaethiaid

A oedd y broses gategoreiddio, a oedd yn rhan o'r ymweliad, wedi cael ei chyflawni mewn modd effeithiol?

Abertawe %Oedd – yn dda iawn 27 90.00%Oedd – yn ddigonol 3 10.00%Nac oedd 0 0.00%Y Cyfanswm a Atebodd 30

Castell-nedd Port Talbot %Oedd – yn dda iawn 23 88.46%Oedd – yn ddigonol 2 7.69%Nac oedd 1 3.85%Y Cyfanswm a Atebodd 26

Ceredigion %Oedd – yn dda iawn 13 92.86%Oedd – yn ddigonol 1 7.14%Nac oedd 0 0.00%Y Cyfanswm a Atebodd 14

Powys %Oedd – yn dda iawn 43 95.56%Oedd – yn ddigonol 2 4.44%Nac oedd 0 0.00%Y Cyfanswm a Atebodd 45

Sir Gaerfyrddin %Oedd – yn dda iawn 36 76.60%Oedd – yn ddigonol 11 23.40%Nac oedd 0 0.00%Y Cyfanswm a Atebodd 47

Sir Benfro %Oedd – yn dda iawn 14 60.87%Oedd – yn ddigonol 7 30.43%Nac oedd 2 8.70%Y Cyfanswm a Atebodd 23

Tudalen 23 | 36

Page 24: Headteacher Feedback analysis · Web viewMae coridor yr M4 yn golygu bod yna lif yn bodoli nad yw'n cyd-fynd â ffiniau'r consortia." – Pennaeth Ysgol Uwchradd, Castell-nedd Port

Yes – very well Yes - adequately No0.00%

10.00%

20.00%

30.00%

40.00%

50.00%

60.00%

70.00%

80.00%

90.00%

100.00%

32.26%

41.94%

25.81%

69.23%

30.77%

0.00%

64.29%

35.71%

0.00%

82.22%

17.78%

0.00%

59.09%

34.09%

6.82%

50.00%

36.36%

13.64%

Frequency of Responses

Swansea Neath Port Talbot Ceredigion Powys Carmarthenshire Pembrokeshire

Tudalen 24 | 36

Was the categorisation process as part of the visit delivered ef -fectively?

Do - yn dda iawn/Yes - very well

Do - yn ddigonol/Yes - adequately

Naddo/No

Amlder yr Ymatebion %Oedd – yn dda iawn 156 84.32%Oedd – yn ddigonol 26 14.05%Nac oedd 3 1.62% Cyfanswm 185

Page 25: Headteacher Feedback analysis · Web viewMae coridor yr M4 yn golygu bod yna lif yn bodoli nad yw'n cyd-fynd â ffiniau'r consortia." – Pennaeth Ysgol Uwchradd, Castell-nedd Port

Roedd bron 85% yn credu bod y broses gategoreiddio wedi cael ei chyflawni'n dda iawn, roedd 14% yn credu ei bod wedi cael ei chyflawni'n ddigonol, a dim ond tair ysgol oedd yn credu nad oedd wedi cael ei chyflawni mewn modd effeithiol o gwbl. O'r tair ysgol hynny, roedd dwy ohonynt, unwaith eto, yn Sir Benfro, ac un yng Nghastell-nedd Port Talbot. Ym Mhowys, Ceredigion ac Abertawe, gwelwyd ffigurau o 90% neu uwch yn y categori 'Oedd – yn dda iawn'. Dim ond 60.87% o ymatebwyr yn Sir Benfro oedd yn credu bod y broses gategoreiddio wedi cael ei chyflawni 'yn dda iawn'. Mae hyn ymhell islaw'r sgôr gyfartalog o 84.32%. Sir Caerfyrddin oedd yr unig Awdurdod Lleol arall a oedd ymhell islaw'r cyfartaledd. Roedd gan Sir Benfro a Sir Caerfyrddin, fel ei gilydd, ganran uchel iawn yn y categori 'yn ddigonol', o gymharu â'r cyfartaledd o 14.05%; roedd eu sgorau yn 30.43% a 23.4%, yn y drefn honno.

Nid oedd cyfweliadau Robin Hughes wedi cynnwys y broses gategoreiddio.

Tudalen 25 | 36

Page 26: Headteacher Feedback analysis · Web viewMae coridor yr M4 yn golygu bod yna lif yn bodoli nad yw'n cyd-fynd â ffiniau'r consortia." – Pennaeth Ysgol Uwchradd, Castell-nedd Port

Trefniadau Cyfathrebu ERW

Dadansoddiad o Adborth Penaethiaid

Abertawe %Aneffeithiol/Ineffective 1 3.23%Aneffeithiol Iawn/Very Ineffective 1 3.23%Boddhaol/Satisfactory 13 41.94%Effeithiol/Effective 11 35.48%Effeithiol Iawn/Very Effective 5 16.13%Y Cyfanswm a Atebodd 31

Castell-nedd Port Talbot %Aneffeithiol/Ineffective 2 8.00%Aneffeithiol Iawn/Very Ineffective 0 0.00%Boddhaol/Satisfactory 5 20.00%Effeithiol/Effective 12 48.00%Effeithiol Iawn/Very Effective 6 24.00%Y Cyfanswm a Atebodd 25

Ceredigion %Aneffeithiol/Ineffective 0 0.00%Aneffeithiol Iawn/Very Ineffective 0 0.00%Boddhaol/Satisfactory 3 23.08%Effeithiol/Effective 7 53.85%Effeithiol Iawn/Very Effective 3 23.08%Y Cyfanswm a Atebodd 13

Powys %Aneffeithiol/Ineffective 1 2.22%Aneffeithiol Iawn/Very Ineffective 0 0.00%Boddhaol/Satisfactory 7 15.56%Effeithiol/Effective 30 66.67%Effeithiol Iawn/Very Effective 7 15.56%Y Cyfanswm a Atebodd 45

Tudalen 26 | 36

Page 27: Headteacher Feedback analysis · Web viewMae coridor yr M4 yn golygu bod yna lif yn bodoli nad yw'n cyd-fynd â ffiniau'r consortia." – Pennaeth Ysgol Uwchradd, Castell-nedd Port

Sir Gaerfyrddin %Aneffeithiol/Ineffective 0 0.00%Aneffeithiol Iawn/Very Ineffective 0 0.00%Boddhaol/Satisfactory 15 34.09%Effeithiol/Effective 20 45.45%Effeithiol Iawn/Very Effective 9 20.45%Y Cyfanswm a Atebodd 44

Sir Benfro %Aneffeithiol/Ineffective 0 0.00%Aneffeithiol Iawn/Very Ineffective 1 4.55%Boddhaol/Satisfactory 4 18.18%Effeithiol/Effective 17 77.27%Effeithiol Iawn/Very Effective 0 0.00%Y Cyfanswm a Atebodd 22

Tudalen 27 | 36

Aneffeithiol / Ineffective Aneffeithiol iawn / Very Ineffective

Boddhaol / Satisfactory Effeithiol / Effective Effeithiol iawn / Very Effec-tive

0.00%

10.00%

20.00%

30.00%

40.00%

50.00%

60.00%

70.00%

80.00%

90.00%

100.00%

3.23% 3.23%

41.94%

35.48%

16.13%

8.00%

0.00%

20.00%

48.00%

24.00%

0.00% 0.00%

23.08%

53.85%

23.08%

2.22%0.00%

15.56%

66.67%

15.56%

0.00% 0.00%

34.09%

45.45%

20.45%

0.00%

4.55%

18.18%

77.27%

0.00%

Frequency of Responses

Swansea Neath Port Talbot Ceredigion Powys Carmarthenshire Pembrokeshire

Page 28: Headteacher Feedback analysis · Web viewMae coridor yr M4 yn golygu bod yna lif yn bodoli nad yw'n cyd-fynd â ffiniau'r consortia." – Pennaeth Ysgol Uwchradd, Castell-nedd Port

Aneffeithiol/Ineffective 4 2.22%Aneffeithiol Iawn/Very Ineffective 2 1.11%Boddhaol/Satisfactory 47 26.11%Effeithiol/Effective 97 53.89%Effeithiol Iawn/Very Effective 30 16.67%Cyfanswm 180

During the past year ERW's communications arrangements have been

Aneffeithiol / Ineffective

Aneffeithiol iawn / Very Ineffective

Boddhaol / Satisfactory

Effeithiol / Effective

Effeithiol iawn / Very Effective

O'r Dadansoddiad o'r Adborth, mae Sir Benfro ac Abertawe, unwaith eto, yn un o'r tri Awdurdod Lleol sydd wedi rhoi adborth mwy negyddol o'u cymharu â'r lleill. Gallai eu profiad cadarnhaol neu negyddol mewn perthynas â'u Hymgynghorwyr Her, ac ERW yn ei gyfanrwydd, fod wedi effeithio ar yr ymateb hwn a'r atebion sy'n weddill. Ar y cyfan, fodd bynnag, gallwn weld bod yr adborth yn gadarnhaol gan fod dros 50% o'r ymatebwyr o'r farn bod trefniadau cyfathrebu ERW, ran amlaf, yn effeithiol, gyda'r canran yn y categori Boddhaol yn 26.11%. Felly, mae lle i wella gan mai dim ond 16.67% oedd yn credu bod trefniadau cyfathrebu ERW yn effeithiol iawn.

Cyfweliadau Robin Hughes

Roedd yr ysgolion yn gwerthfawrogi eu bod yn gallu codi'r ffôn neu gysylltu'n hawdd â rhywun â chyfrifoldeb yn ERW.

"Mae ERW i weld yn barod i wrando. Mae hynny'n galonogol. Rwy'n teimlo y gallaf gysylltu â nhw, hyd yn oed y Rheolwr Gyfarwyddwr yn uniongyrchol." – Pennaeth Ysgol Gynradd, Abertawe.

"Ar y dechrau, roedd gan ERW yr un disgwyliadau ar ein cyfer ni, ysgolion arbennig, ag ysgolion eraill. Bu i ni godi ein llais, gwrandawodd ERW, a bellach mae gennym rwydwaith ysgolion arbennig. Roeddem wedi siarad â'r Rheolwr Gyfarwyddwr, a gwrandawodd." Pennaeth Ysgol Arbennig, Powys.

Tudalen 28 | 36

Page 29: Headteacher Feedback analysis · Web viewMae coridor yr M4 yn golygu bod yna lif yn bodoli nad yw'n cyd-fynd â ffiniau'r consortia." – Pennaeth Ysgol Uwchradd, Castell-nedd Port

"Roeddwn yn anesmwyth ynghylch Ymgynghorydd Her, a chefais air â'r Prif Ymgynghorydd Her. Aethpwyd i'r afael â'r mater. Mae'r berthynas â'r Prif Ymgynghorydd Her yn bwysig dros ben." – Grŵp Penaethiaid Cynradd, Powys.

"Os oes gennyf unrhyw broblem, rwy'n cysylltu â'r Rheolwr Gyfarwyddwr. Mae hi'n hawdd siarad â hi. Ond mae'n debyg nad yw hynny'n gynaliadwy mewn gwirionedd." Grŵp Penaethiaid Uwchradd, Castell-nedd Port Talbot.

"Cefais bedwar Ymgynghorydd Her gwahanol mewn saith mlynedd, a chrefais ar y Rheolwr Gyfarwyddwr am rywfaint o sefydlogrwydd. Gwrandawodd arnaf a, bellach, mae gennyf Ymgynghorydd sy'n gefnogol. Mae wedi ennyn fy mharch." – Pennaeth Ysgol Gynradd, Sir Benfro.

Dadansoddiad o Adborth Penaethiaid

Pan ofynnwyd i'r ysgolion pa ddull cyfathrebu yr oeddent yn ei ystyried yn fwyaf defnyddiol o ran cael gwybodaeth am waith ERW, dyma eu hymatebion:

Dull Cyfathrebu AmlderY wefan/Website 41Twitter/Twitter 22Cylchlythyr/Newsletter 61E-bost/E-mail 158Arall (nodwch)/Other (please specify) 5

Which method of communication do you find most helpful to gain information on ERW's work?

Y wefan/Website Trydar/Twitter

Cylchlythyr/Newsletter E-bost/E-mail

Arall (nodwch)/Other (please specify)

Tudalen 29 | 36

Page 30: Headteacher Feedback analysis · Web viewMae coridor yr M4 yn golygu bod yna lif yn bodoli nad yw'n cyd-fynd â ffiniau'r consortia." – Pennaeth Ysgol Uwchradd, Castell-nedd Port

A oedd gwefan ERW yn ddefnyddiol?

Amlder %Ddim yn ddefnyddiol o gwbl/Not useful at all 6 3.41%Defnyddiol/Useful 46 26.14%I ryw raddau/To some extent 124 70.45%Cyfanswm 176

Do you find the ERW website useful?

Ddim yn ddefnyddiol o gwbl / Not useful at all

Defnyddiol / Useful

Ydy i raddau / To some extent

Tudalen 30 | 36

Not useful at all Useful To some extent0.00%

10.00%

20.00%

30.00%

40.00%

50.00%

60.00%

70.00%

80.00%

90.00%

100.00%

6.90%

17.24%

75.86%

0.00%

16.00%

84.00%

0.00%

46.15%

53.85%

6.67%

31.11%

62.22%

0.00%

21.95%

78.05%

4.35%

34.78%

60.87%

Frequency of Responses

Swansea Neath Port Talbot Ceredigion Powys Carmarthenshire Pembrokeshire

Page 31: Headteacher Feedback analysis · Web viewMae coridor yr M4 yn golygu bod yna lif yn bodoli nad yw'n cyd-fynd â ffiniau'r consortia." – Pennaeth Ysgol Uwchradd, Castell-nedd Port

Gwelliannau y gellir eu gwneud i wefan ERW

Dadansoddiad o Adborth Penaethiaid

Roedd nifer o'r ymatebwyr yn credu bod angen gwella llawer ar elfen 'hwylustod' y wefan, yn arbennig y broses o lywio'r wefan a dod o hyd i'r hyn yr oeddent yn chwilio amdano.

“Mae'n anodd llywio'r wefan a dod o hyd i'r wybodaeth angenrheidiol.” – Pennaeth Ysgol Gynradd, Powys.

“Mae angen iddi fod yn haws ei llywio.” – Pennaeth Ysgol Gynradd, Powys.

"Mae'n anodd dod o hyd i ddogfennau ar brydiau." – Pennaeth Ysgol Gynradd, Castell-nedd Port Talbot.

"A bod yn onest, does gennyf i ddim yr amser i ymlwybro trwy wefan!" – Pennaeth Ysgol Gynradd, Abertawe.

"Mae'n anodd dod o hyd i rai dogfennau." – Pennaeth Ysgol Gynradd, Castell-nedd Port Talbot.

"Dolenni eglurach a gwell cyfeirio o ran lle i ddod o hyd i ddogfennau allweddol." – Pennaeth Ysgol Gynradd, Powys.

"Nid wyf yn defnyddio'r wefan yn aml iawn, ond rwyf wedi chwilio am ddogfennau i'n cefnogi o ran materion yn ymwneud â phresenoldeb. Byddai hyperddolenni i ddogfennau perthnasol Llywodraeth Cymru ac Estyn hefyd yn ddefnyddiol, gan wneud gwefan ERW yn fwy o siop un stop." Pennaeth Ysgol Gynradd, Abertawe.

Cafodd hyn ei gadarnhau hefyd yng Nghyfweliadau Robin Hughes

"Mae'n anodd iawn dod o hyd i'r hyn y mae arnoch ei eisiau. Nid yw eitemau y byddech wedi meddwl a fyddai'n dod o dan Addysgu a Dysgu yno o gwbl, felly mae'n rhaid i chi ffonio rhywun yn y diwedd." – Grŵp Penaethiaid Cynradd, Powys.

"Mae'n weithredol. Ond nid yw'n glyfar. Nid yw'n eich arwain at bethau eraill. Er enghraifft, mae Amazon yn dweud, 'you bought this, so you may be interested in these.' Beth am gael dolenni i stwff perthnasol arall, er enghraifft adroddiadau Estyn, adroddiadau'r Swyddfa Safonau mewn Addysg, a phapurau gan brifysgolion?" – Pennaeth Ysgol Uwchradd, Sir Caerfyrddin.

"Mae ceisio dod o hyd i'r hyn y mae arnoch ei eisiau ar y wefan yn gallu bod yn rhwystredig iawn. Byddwch fel arfer yn gorfod ffonio rhywun yn y diwedd, iddo anfon y deunydd atoch." – Grŵp Penaethiaid Uwchradd, Castell-nedd Port Talbot. O'r sylwadau uchod, a'r ffigurau a gafwyd o'r Dadansoddiad o Adborth Penaethiaid, nid yw'r wefan yn cael ei hystyried yn llwyddiant, a hynny oherwydd y diffyg hwylustod a'r ffaith ei bod yn anymarferol. Mae hyn, yn ei dro, yn digalonni pobl rhag ei defnyddio. Dim ond 41 o'r ymatebwyr oedd wedi nodi mai'r wefan oedd eu dull dewisol o gasglu gwybodaeth.

O'r dyfyniadau sy'n dilyn, gallwn weld ychydig o ddulliau awgrymedig ar gyfer gwella'r wefan, fel bod rhagor o bobl yn ei defnyddio fel eu prif ffynhonnell o wybodaeth – mae angen rhagor o adnoddau, cynnwys a gwybodaeth i'w gwneud yn hawdd ei defnyddio ar gyfer ysgolion.

Dadansoddiad o Adborth Penaethiaid "Mae angen rhagor o wybodaeth a fydd o ddefnydd i ysgolion – prin iawn yw'r wybodaeth mewn rhai ardaloedd." – Pennaeth Ysgol Gynradd, Abertawe.

Tudalen 31 | 36

Page 32: Headteacher Feedback analysis · Web viewMae coridor yr M4 yn golygu bod yna lif yn bodoli nad yw'n cyd-fynd â ffiniau'r consortia." – Pennaeth Ysgol Uwchradd, Castell-nedd Port

"Byddai'n ddefnyddiol cael dolenni uniongyrchol trwy e-bost i ddeunyddiau a gwybodaeth berthnasol ar y wefan." – Pennaeth Ysgol Gynradd, Sir Benfro.

"Arfer da." – Pennaeth Ysgol Uwchradd, Sir Benfro.

"Gofynion/cyfarwyddyd/polisïau/dogfennau enghreifftiol, allweddol haws eu cyrchu." – Pennaeth Ysgol Gynradd, Sir Caerfyrddin.

"Mae'r adran ADY yn wael iawn. Mae hyn wedi cael ei amlygu yn ystod cyfarfodydd amrywiol." – Pennaeth o Gastell-nedd Port Talbot.

Gofynnodd rhai am gael gwybod pan fyddai gwybodaeth newydd yn cael ei phostio ar y wefan, neu am iddi gael ei gwneud yn amlwg.

"Ei gwneud yn haws ei llywio – a ellir tynnu sylw at bostiadau newydd ar y dudalen gartref?" – Pennaeth Ysgol Uwchradd, Powys.

“Neges e-bost i ddweud bod yna ddiweddariadau wedi'u rhoi ar y wefan.” – Pennaeth Ysgol Gynradd, Sir Caerfyrddin.

"Neges e-bost sydyn i roi gwybod i ni pan fydd rhywbeth newydd wedi cael ei ychwanegu." – Pennaeth Ysgol Gynradd, Sir Caerfyrddin. Roedd ymatebydd yng Nghyfweliadau Robin Hughes wedi argymell y canlynol:

"Mae o bwys os yw'r neges e-bost am 'bwnc llosg'. Byddai angen fflagio llythrennedd neu rifedd; ar hyn o bryd, 'Cymhwysedd Digidol' fyddai'n cael ei fflagio." – Cyn-bennaeth Cynradd, cydgysylltydd cyfredol Grŵp Penaethiaid Cynradd, Castell-nedd Port Talbot.

Diweddaru gwybodaeth yn rheolaidd. Dylai gwybodaeth gael ei rhannu mewn modd amserol, yn arbennig mewn perthynas â chyrsiau yn Sir Caerfyrddin; mae'n ymddangos bod ysgolion yn yr Awdurdod Lleol hwn yn cael gwybod yn rhy hwyr, ac felly maent yn methu mynychu.

Dadansoddiad o Adborth Penaethiaid

“Gwybodaeth am ddigwyddiadau yn cyrraedd yn rhy hwyr yn aml. Dyblygu yn digwydd yn rheolaidd hefyd." – Pennaeth Ysgol Uwchradd, Sir Caerfyrddin.

“Digwyddiadau'n cael eu cyhoeddi yn rhy hwyr yn aml – byr rybudd …” Pennaeth Ysgol Gynradd, Sir Caerfyrddin.

“Mae'r trefniadau cyfathrebu yn digwydd yn rhy hwyr yn aml. Does dim digon o ragrybudd am gyrsiau – nid yw rhybudd o wythnos neu bythefnos yn ddigon mewn ysgol brysur – mae angen o leiaf fis o rybudd cyn anfon pobl berthnasol ar gyrsiau/i gynadleddau." Pennaeth Ysgol Uwchradd, Sir Caerfyrddin.

Cyfweliadau Robin Hughes

"Nid yw negeseuon e-bost sy'n rhoi byr rybudd am hyfforddiant yn ddefnyddiol. A beth bynnag, maent yn peri i chi gwestiynu pa mor dda yw'r hyfforddiant." – Grŵp Penaethiaid Clwstwr Ysgolion Cynradd, Abertawe.

Roedd rhai ysgolion yn credu nad oedd angen anfon negeseuon e-bost/cylchlythyrau dwyieithog os oedd iaith gyntaf yr ysgol yn hysbys.

Tudalen 32 | 36

Page 33: Headteacher Feedback analysis · Web viewMae coridor yr M4 yn golygu bod yna lif yn bodoli nad yw'n cyd-fynd â ffiniau'r consortia." – Pennaeth Ysgol Uwchradd, Castell-nedd Port

Dadansoddiad o Adborth Penaethiaid

“Byddwn yn gwerthfawrogi pe gellid anfon gohebiaeth yn iaith gyntaf yr ysgol yn unig.” – Pennaeth Ysgol Gynradd, Castell-nedd Port Talbot.

"Does dim angen i bopeth fod yn ddwyieithog." – Pennaeth Ysgol Gynradd, Castell-nedd Port Talbot.

"Yn aml iawn, mae negeseuon e-bost yn cael eu hanfon yn Gymraeg yn unig, neu mae angen sgrolio am hydoedd i ddod o hyd i'r fersiwn Saesneg." – Pennaeth Ysgol Gynradd, Powys.

Roedd cyfranogwyr yng Nghyfweliadau Robin Hughes yn awgrymu bod niferoedd mawr o negeseuon e-bost yn golygu bod negeseuon pwysig yn mynd ar goll. Byddai llai o negeseuon, a'u cynnwys o well safon, yn fuddiol.

"Mae rhyw saith neu wyth neges e-bost yn cyrraedd, pan fyddai llai yn gwneud y tro. Byddai'n dda cael gwell protocol ar gyfer cyfathrebu â phenaethiaid." – Grŵp Penaethiaid Uwchradd, Powys.

"Mae Abertawe yn anfon neges e-bost at benaethiaid ar ddydd Llun. Maent yn ceisio cronni cymaint ag y gallant i'r neges honno, fel bod llai o negeseuon yn cael eu hanfon atom. Mae'n gweithio'n reit dda; mae'n bendant yn rhywbeth yr wyf yn neilltuo amser ar ei gyfer." – Pennaeth Ysgol Gynradd, Abertawe.

Mae yna hefyd alwad i wella'r Cylchlythyr, fel ei fod yn gyfredol ac yn ddiddorol.

"Mae'r Cylchlythyr yn wych, ond efallai fod arnom angen rhywbeth tebyg i 'hei, mae hwn yn hanfodol neu'n bwysig iawn', er mwyn tynnu sylw at rywbeth. Fel arall, gallwch yn hawdd golli rhywbeth neu deimlo eich bod yn gwastraffu peth o'ch amser." – Grŵp Penaethiaid Uwchradd, Powys.

"Mae gan ERW gylchlythyr. Nid wyf yn edrych arno ryw lawer; mae'n fwy o arddangosfa na ffrwd wybodaeth." – Pennaeth Ysgol Gynradd, Abertawe.

"Rwy'n lawrlwytho pob cylchlythyr. Ond os ydynt yn cymryd gormod o amser i lawrlwytho, neu ddim yn dal fy sylw ar unwaith, yna rwy'n eu cadw i'w darllen yn nes ymlaen. Ac wedyn, wrth gwrs, mae pethau eraill yn torri ar draws gallu gwneud hynny." – Pennaeth Ysgol Gynradd, Ceredigion.

Dyma ddyfyniadau trawiadol eraill o Gyfweliadau Robin Hughes ar Gyfathrebu: "Byddwch yn gweld bod neges e-bost wedi cyrraedd gan eich Ymgynghorydd Her, a byddwch yn meddwl, 'O, reit, bydd angen i mi ddarllen hon'." – Cyn-bennaeth Cynradd, cydgysylltydd cyfredol Grŵp Penaethiaid Cynradd, Castell-nedd Port Talbot.

Pan fydd Ymgynghorwyr Her ysgolion yn anfon negeseuon e-bost atynt, byddant yn fwy tebygol o'u darllen, o gymharu â phe byddai'r neges honno'n cael ei hanfon ar ffurf neges gyffredinol i bawb.

"Os bydd rhywun yn dangos gwerth y wefan neu HWB, neu ba beth bynnag, byddwch yn dechrau ei ddefnyddio, ac yn dod i'r arfer o wneud hynny. Dim ond newydd ddechrau defnyddio gwefan ERW a HWB ydwyf, ers mynd ar secondiad; fel Pennaeth, doeddwn i ddim yn defnyddio'r naill na'r llall." – Cyn-bennaeth Cynradd, cydgysylltydd cyfredol Grŵp Penaethiaid Cynradd, Castell-nedd Port Talbot.

"Mae cael arweinydd mewn enw, sy'n gyfrifol am bethau, ac yn rhoi wyneb i bethau, yn ddefnyddiol. Mae'n debygol y byddai'n llwyth gwaith trwm iddynt fynd i gyfarfodydd penaethiaid, ond efallai fod yn rhaid i hynny ddigwydd er mwyn gwthio cyfathrebu yn ei flaen." – Pennaeth Ysgol Uwchradd, Powys.

Tudalen 33 | 36

Page 34: Headteacher Feedback analysis · Web viewMae coridor yr M4 yn golygu bod yna lif yn bodoli nad yw'n cyd-fynd â ffiniau'r consortia." – Pennaeth Ysgol Uwchradd, Castell-nedd Port

ERW ei hun

Fel y gallwn weld o'r Dadansoddiad o Adborth Penaethiaid, mae llawer yn fodlon ar y gwaith y mae ERW yn ei wneud gyda nhw. Fodd bynnag, mae angen cryn dipyn o welliant o hyd. Mae angen mwy o sylw ar rai Awdurdodau Lleol nag eraill, a hynny am fod llawer o amrywiant ledled y rhanbarth. Er enghraifft, mae barn ymatebwyr ym Mhowys a Sir Benfro am ERW yn amrywio'n fawr. Eto i gyd, mae rhai ysgolion yn ystyried ERW fel corff arall y maent yn atebol iddo. Mae angen i ysgolion weld nad yw ERW yn sefydliad ar wahân, ond yn hytrach yn gynghrair gyfreithiol o fewn yr Awdurdod Lleol, sy'n gweithio gyda Llywodraeth Cymru, Estyn ac, yn arbennig, yr ysgol ei hun. Mae yna hefyd lawer iawn o anghysondeb ledled y rhanbarth o ran yr hyn y mae ERW yn ei wneud a beth y mae'n yn ei olygu. Er bod ansicrwydd o hyd ymysg rhai Penaethiaid, gallwn weld bod rhai Penaethiaid yn credu bod ERW, ers ei ddechreuad, wedi gallu darparu'r hyn nad oedd eu Hawdurdod Lleol wedi gallu ei ddarparu cyn hynny.

Dadansoddiad o Adborth Penaethiaid

"Mae ar ysgolion angen arweiniad o hyd o ran perthnasedd ERW. Byddai hwyluso a hyrwyddo gwaith ysgol i ysgol yn fuddiol." – Pennaeth Ysgol Uwchradd, Castell-nedd Port Talbot.

"Mae'r Awdurdod Lleol ac ERW yn gweithio mewn partneriaeth go iawn, ac mae hyn yn cael ei gydnabod gan ysgolion." – Pennaeth Ysgol Gynradd, Sir Benfro.

- “Ar hyn o bryd, rwy'n teimlo'n atebol i nifer mawr o bobl – plant, rhieni, y gymuned, llywodraethwyr, yr Awdurdod Lleol, ERW, Llywodraeth Cymru, Estyn. Byddai'n beth da cael cysondeb, a lleihau nifer y bobl yr ydym yn atebol iddynt (nid y plant na'r rhieni, wrth gwrs!), a chael yr un neges eglur o ran y cyfeiriad y mae angen i ni fynd iddo mewn perthynas â'r cwricwlwm, mentrau newydd a phrosiectau, systemau a pholisïau, ac ati. Byddai'n syniad da cael cysondeb rhwng y siroedd – yr un polisïau, gweithdrefnau, systemau a dogfennau, ac ati." – Pennaeth Ysgol Gynradd, Sir Benfro.

Cyfweliadau Robin Hughes

"Mae ERW yn gweithio ar bolisïau, ond mae'r Awdurdod Lleol hefyd yn edrych ar bolisïau. Mae yna rywfaint o densiwn yma ac, fel Pennaeth, mae gwir angen sicrwydd arnaf ynghylch pa bolisi i'w ddilyn. Os yw'r Awdurdod Lleol wedi cytuno y dylai ERW arwain, yna dylai'r Awdurdod Lleol gamu'n ôl." – Pennaeth Ysgol Gynradd, Abertawe.

"Os cewch chi bolisïau gan ERW a'r Awdurdod Lleol, byddwch yn dilyn polisïau'r Awdurdod Lleol oherwydd eich atebolrwydd." – Pennaeth Ysgol Uwchradd, Powys.

"Un o'r problemau i Bowys erioed fu'r gallu i gefnogi ysgolion. Mae ERW yn rhoi hynny iddi." Pennaeth Ysgol Uwchradd, Powys.

"Nid yw ERW yn bresennol yn go iawn yn ein hysgolion." Grŵp Penaethiaid Cynradd, Powys.

"Rwy'n gwybod beth y mae'r Awdurdod Lleol yn ei wneud. Ond nid wyf yn gwybod yn iawn beth y mae ERW yn ei wneud." Grŵp Penaethiaid Cynradd, Powys.

"Roedd y digwyddiadau ERW diwethaf yr euthum iddynt yn rhai cadarnhaol a gobeithiol. Mae hynny'n galondid. Ac yn gyferbyniad mawr â'r hyn rwyf wedi arfer ag ef gan y Sir ... Rwy'n gwybod beth yw fy mherthynas â'r Awdurdod Lleol, ac rwy'n gwybod beth yw fy mherthynas ag ERW; ond nid wyf yn gwybod yn iawn beth yw'r berthynas rhwng ERW a'r Awdurdod Lleol ...

Tudalen 34 | 36

Page 35: Headteacher Feedback analysis · Web viewMae coridor yr M4 yn golygu bod yna lif yn bodoli nad yw'n cyd-fynd â ffiniau'r consortia." – Pennaeth Ysgol Uwchradd, Castell-nedd Port

Rwyf wir yn meddwl bod yna sawl pennaeth yn ein hysgolion na fyddent yn gallu dweud wrthych beth yw ERW na beth y mae'n ei olygu ... Rwyf wedi bod i sawl cyfarfod penaethiaid, ac nid oes neb erioed wedi egluro beth yw ERW na beth y mae'n ei olygu." – Pennaeth Ysgol Gynradd, Sir Benfro

"Doedd yna ddim llawer o herio gan yr Awdurdod, na llawer o gefnogaeth chwaith. Mae pethau wedi gwella." – Pennaeth Ysgol Uwchradd, Sir Caerfyrddin.

"Dechreuodd y dull rhanbarthol yma fel ymateb i bwysau o ran y gyllideb. Arhosodd y pŵer a'r awdurdod yn y Sir. Bellach, fodd bynnag, mae yna densiwn. Os oes rhywbeth yn mynd o'i le yn yr ysgol, efallai y cewch chi gerydd gan yr Awdurdod Lleol, ond ERW fydd yn eich cefnogi. Mae pŵer ac awdurdod yn bethau gwahanol, felly pwy sydd â'r pŵer a phwy sydd â'r awdurdod 'nawr?" – Pennaeth Ysgol Uwchradd, Sir Caerfyrddin.

"Barnu yw rôl Estyn. Rydym i gyd yn gwybod hynny. Ond beth yw rôl ERW? Ai barnu y mae ERW yn ei wneud hefyd? Nid wyf yn credu bod ERW ei hun yn gwybod." – Grŵp Penaethiaid Clwstwr Ysgolion Cynradd, Abertawe.

"Mae'n rhwystredig. Ni wn yn iawn pwy yw fy meistr." – Grŵp Penaethiaid Clwstwr Ysgolion Cynradd, Abertawe.

"Heb wybod beth yw ei weledigaeth na beth yw ei rôl, ni wn yn iawn sut yr wyf yn ymwneud ag ef, na beth yw fy marn amdano." – Grŵp Penaethiaid Clwstwr Ysgolion Cynradd, Abertawe.

Gan Grŵp Penaethiaid Uwchradd yng Nghastell-nedd Port Talbot:

"Nid wyf yn meddwl bod gwir ddiben ERW yn eglur iawn. Mae'r gwahaniaeth go iawn rhwng ERW a'r Awdurdod Lleol yn niwlog."

"Nid yw'n eglur iawn mai dyma y mae ERW yn ei olygu, ac mai dyma beth y mae'n gallu ei gynnig er mwyn gwneud y gwaith." Grŵp Penaethiaid Uwchradd yng Nghastell-nedd Port Talbot.

"Mae ERW wedi aeddfedu. Mae wedi ennill yr hawl, does bosib, i wneud rhagor ac i roi ystyriaeth i fwy na dim ond blaenoriaethau Llywodraeth Cymru. Mae angen llawer mwy o waith ar hynny." – Pennaeth Ysgol Uwchradd, Sir Caerfyrddin.

Fel y gwelwn, mae yna farn amrywiol am ERW ledled y rhanbarth. Mae'r farn yn gwahaniaethu rhwng ysgolion nad ydynt, mewn gwirionedd, yn gwybod beth yw diben ERW, ac ysgolion eraill sy'n credu bod ERW wedi cymryd drosodd rai o rolau'r Awdurdod Lleol.

Er hynny, rydym am ddychwelyd at y thema fod ysgolion yn gweld ERW fel sefydliad ychwanegol y maent yn atebol iddo, ac sydd, yn eu barn nhw, yn creu llwyth gwaith ychwanegol, sef rhywbeth y dylai ERW fod yn arwain arno ac yn ei leihau.

Dadansoddiad o Adborth Penaethiaid

"Rwyf wir yn ei chael hi'n anodd gweld beth yw'r budd o gael ERW ac Awdurdod Lleol. Rwy'n teimlo bod y gwaith yn/wedi cynyddu ers creu ERW. Mae'r llwyth gwaith yn rhywbeth y mae ERW yn dymuno ei ystyried, ac eto, mae wedi cynyddu'r llwyth gwaith yn ddiweddar." – Pennaeth Ysgol Gynradd, Castell-nedd Port Talbot.

Cyfweliadau Robin Hughes

"Mae ERW mewn man delfrydol i ddweud, 'dyma ein blaenoriaethau', ac yna i ddweud, 'mae arnom hyn a hyn, ond does arnom ni ddim angen hyn a'r llall.' Gall ERW ofyn, 'A yw hyn yn wirioneddol angenrheidiol?', yn arbennig mewn perthynas â data." – Cyn-bennaeth Cynradd, cydgysylltydd cyfredol Grŵp Penaethiaid Cynradd, Castell-nedd Port Talbot.

Tudalen 35 | 36

Page 36: Headteacher Feedback analysis · Web viewMae coridor yr M4 yn golygu bod yna lif yn bodoli nad yw'n cyd-fynd â ffiniau'r consortia." – Pennaeth Ysgol Uwchradd, Castell-nedd Port

"Rheoli'r holl stwff sydd ar ei ffordd tuag atom. Amserlennu ei effaith, nodi beth sy'n bwysig ac erbyn pryd y mae angen iddo gael ei wneud – byddai honno'n rôl ar gyfer ERW." – Pennaeth Ysgol Uwchradd, Powys.

Mae anghysondeb yn thema gyffredin, drwyddo draw, yn yr Arolwg o Adborth Penaethiaid. Mae ysgolion nid yn unig yn gofyn am gysondeb o ran yr Ymgynghorwyr Her yn y rhanbarth, ond hefyd o fewn eu Hawdurdod Lleol eu hunain.

"Gormod o anghysondebau o hyd rhwng yr Ymgynghorwyr Her." – Pennaeth Ysgol Gynradd, Sir Benfro.

"Mwy o gysondeb o ran yr Ymgynghorwyr Her. Mae'n anodd iawn i ysgolion pan fydd yr Ymgynghorwyr Her yn newid o hyd, a phob un â'i syniadau ei hun." Pennaeth Ysgol Gynradd, Sir Caerfyrddin.

"Mwy o gysondeb rhwng yr Ymgynghorwyr Her ledled yr Awdurdod." – Pennaeth Ysgol Gynradd, Sir Caerfyrddin.

Tudalen 36 | 36