newyddlen rhagfyr 2011

4
Nadolig Llawen! Aeth mis arall heibio gyda llawer yn digwydd ym maes anabledd ar lefel genedlaethol, ac o fewn y prosiect hefyd wrth gwrs. Mae Tîm Both Caerffili wedi mynd i ysbryd yr ŵyl yn gynnar yn Ysgol Trinity Fields drwy gefnogi Ffair Nadolig. Cafodd y plant a’r bobl ifanc gyfle i ymweld â Siôn Corn a’i goblynnod Nadolig o Gyfleoedd Gwirioneddol - ond ble oedd Dafydd? Mewn newyddion cenedlaethol mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn ymgynghori ar hyn o bryd ar eu Cynllun Cydraddoldeb Strategol drafft ac yn gofyn am eich mewnbwn i sicrhau bod y celfyddydau yn trin pawb yn deg. Os hoffech roi eich adborth a sicrhau bod y cynllun yn adlewyrchu’ch barn ewch i www.artswales.org. Mae’r holl wybodaeth ar gael ar ffurf Darllen Hawdd. Y dyddiad cau ar gyfer adborth yw 20fed Ionawr 2012. Mae pobl anabl a’u sefydliadau ar draws y DU hefyd wedi derbyn cais i gyfrannu’n uniongyrchol at strategaeth anabledd traws- lywodraeth newydd. Mae’r trafodaethau yn canolbwyntio ar dair prif egwyddor: gwireddu dyheadau, rheolaeth unigol a newid agweddau ac ymddygiadau. Bydd ymatebion i’r ddogfen drafod yn bwydo i mewn yn uniongyrchol i strategaeth y Llywodraeth, fydd yn cael ei gyhoeddi yn y gwanwyn y flwyddyn nesaf. I gyfrannu ewch i www.dwp.gov. uk a chwilio am ‘gyflawni addewidion’ - gellir cyflwyno sylwadau tan 9 Mawrth 2012. Mae cyllid ar gael i gynnal digwyddiadau trafod, lle gall pobl anabl drafod yr ymgynghoriad gyda chynrychiolwyr o’r tîm strategol. Am fwy o wybodaeth am hyn ac unrhyw beth a nodwyd yma, cysylltwch ar bob cyfrif. Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda! Laura Davies Swyddog Gwybodaeth y Prosiect Cylchlythyr Prosiect Trawsnewid i Gyflogaeth AAA Rhanbarthol Rhagfyr 2011 Yn y rhifyn hwn: Cyflwyniad Nadolig Llawen, ysbryd yr ŵyl yng Nghaerffili a’ch cyfle i ddweud eich dweud. Gwneud Gwybodaeth yn Hawdd Cyngor ar sut i ysgrifennu gwybodaeth ar ffurf Darllen Hawdd. Diolchiadau! Rhiant a pherson ifanc yn dweud diolch i’r timau both Cyfleoedd Gwirioneddol sydd wedi’u helpu nhw. ASD Ymwybodol Lansio cynllun newydd i godi ymwybyddiaeth o ASD Hyfforddiant a Digwyddiadau Rhestr o’r hyfforddiant a’r digwyddiadau sydd ar y gweill 1 Santa yn Ysgol Trinity Fields, Caerffili

Upload: real-opportunities

Post on 06-Mar-2016

224 views

Category:

Documents


4 download

DESCRIPTION

Newyddlen Prosiect Trawsnewid i Gyflogaeth AAA Rhanbarthol

TRANSCRIPT

Page 1: Newyddlen Rhagfyr 2011

Nadolig Llawen!Aeth mis arall heibio gyda llawer yn digwydd ym maes anabledd ar lefel genedlaethol, ac o fewn y prosiect hefyd wrth gwrs. Mae Tîm Both Caerffili wedi mynd i ysbryd yr ŵyl yn gynnar yn Ysgol Trinity Fields drwy gefnogi Ffair Nadolig. Cafodd y plant a’r bobl ifanc gyfle i ymweld â Siôn Corn a’i goblynnod Nadolig o Gyfleoedd Gwirioneddol - ond ble oedd Dafydd?Mewn newyddion cenedlaethol mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn ymgynghori ar hyn o bryd ar eu Cynllun Cydraddoldeb Strategol drafft ac yn gofyn am eich mewnbwn i sicrhau bod y celfyddydau yn trin pawb yn deg. Os hoffech roi eich adborth a sicrhau bod y cynllun yn adlewyrchu’ch barn ewch i www.artswales.org. Mae’r holl wybodaeth ar gael ar ffurf Darllen Hawdd. Y dyddiad cau ar gyfer adborth yw 20fed Ionawr 2012.Mae pobl anabl a’u sefydliadau ar draws y DU hefyd wedi derbyn cais i gyfrannu’n uniongyrchol at strategaeth anabledd traws-lywodraeth newydd. Mae’r trafodaethau yn canolbwyntio ar dair prif egwyddor: gwireddu dyheadau, rheolaeth unigol a newid agweddau ac ymddygiadau. Bydd ymatebion i’r ddogfen drafod yn bwydo i mewn yn uniongyrchol i strategaeth y Llywodraeth, fydd yn cael ei gyhoeddi yn y gwanwyn y flwyddyn nesaf. I gyfrannu ewch i www.dwp.gov.uk a chwilio am ‘gyflawni addewidion’ - gellir cyflwyno sylwadau tan 9 Mawrth 2012. Mae cyllid ar gael i gynnal digwyddiadau trafod, lle gall pobl anabl drafod yr ymgynghoriad gyda chynrychiolwyr o’r tîm strategol. Am fwy o wybodaeth am hyn ac unrhyw beth a nodwyd yma, cysylltwch ar bob cyfrif. Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda!

Laura DaviesSwyddog Gwybodaeth y Prosiect

Cylchlythyr Prosiect Trawsnewid i Gyflogaeth AAA Rhanbarthol

Rhagfyr 2011Yn y rhifyn hwn:

CyflwyniadNadolig Llawen, ysbryd yr ŵyl yng Nghaerffili a’ch cyfle i ddweud eich dweud.

Gwneud Gwybodaeth yn HawddCyngor ar sut i ysgrifennu gwybodaeth ar ffurf Darllen Hawdd.

Diolchiadau!Rhiant a pherson ifanc yn dweud diolch i’r timau both Cyfleoedd Gwirioneddol sydd wedi’u helpu nhw.

ASD YmwybodolLansio cynllun newydd i godi ymwybyddiaeth o ASD

Hyfforddiant a DigwyddiadauRhestr o’r hyfforddiant a’r digwyddiadau sydd ar y gweill

1

Santa yn Ysgol Trinity Fields, Caerffili

Page 2: Newyddlen Rhagfyr 2011

Gwneud Gwybodaeth yn hawdd

“The more you read the more things you will know. The more that you learn the more places you’ll go”. Dr Seuss, rwy’n gallu darllen gyda fy llygaid ar gau. Mae mor bwysig i bob un ohonom wneud yn siŵr ein bod yn trosglwyddo gwybodaeth yn glir ac mewn ffyrdd sy’n galluogi ein pobl ifanc i gael mynediad iddi yn annibynnol. Mae gallu darllen a deall yr hyn sy’n cael ei ddarllen yn hybu hyder ac mae’n sgil angenrheidiol er mwyn byw’n annibynnol.

2

Mae gan chwech o bob deg person gydag anabledd dysgu broblem gyda gweld, ac ni all saith o bob deg ddarllen yn dda iawn. Ar ben hynny, gallai fod gan bobl ag anabledd dysgu sgiliau llythrennedd gwael neu broblem yn canolbwyntio. Gallent ei gael yn anodd deall cysyniadau haniaethol fel emosiynau neu amser a gallant ei gael yn anodd cofio gwybodaeth neu drosglwyddo gwybodaeth o un syniad i’r nesaf. Gallwn helpu i oresgyn y rhwystrau hyn drwy ddilyn canllawiau darllen hawdd syml.

Cyn i chi ddechrauParatowch eich gwybodaeth a meddwl am eich grŵp targed ac at bwy yr anelir yr wybodaeth. Beth ydych am ei ddweud? Beth yw’r nodau a beth yw’r prif bwyntiau? Er mwyn nodi pwyntiau allweddol, ysgrifennwch eich gwybodaeth i lawr, darllenwch a chrynhoi pob paragraff i mewn i un neu ddwy frawddeg. Gwnewch yn siŵr bod eich gwybodaeth yn llifo a’i bod mewn trefn resymegol; y byrraf yw’r darn, gorau oll! Cyn symud ymlaen, gallech gysylltu â grŵp ffocws ar y cam hwn.

Y ‘Da’ a’r ‘Na’DA defnyddiwch eiriau hawdd, prynu yn lle pwrcasu; gwella yn lle adfer DA defnyddiwch y ffurfrifiadol ar gyfer rhifau, 2 nid dau. Fodd bynnag mae rhifau mawr fel miliwn yn well fel geiriau.DA defnyddiwch y cloc 12 awr yn hytrach na’r cloc 24 awr a defnyddiwch ‘yn y bore’ neu ‘yn y prynhawn’ yn lle am a pm. Mae hefyd yn ddefnyddiol cynnwys lluniau o wyneb cloc gyda’r rhifau.DA symleiddiwch ganrannau, dywedwch 1 allan o 10 yn lle 10%. Gallwch ddefnyddio lluniau hefyd i gefnogi hyn.DA symleiddiwch y syniad o amser a dyddiadau, gallech ddefnyddio ‘amser maith yn ôl’ yn lle ‘yn 1066’.NA peidiwch ag ofni egluro pethau mewn dwy ffordd wahanol, er enghraifft ‘digwyddodd Brwydr Hastings yn 1066. Roedd hyn amser maith yn ôl’. DA ysgrifennwch un syniad yn unig ym mhob brawddeg.NA peidiwch â defnyddio geiriau gyda dau ystyr

gwahanol neu drosiadau. Er enghraifft ‘Daliwch ati’.DA defnyddiwch frawddegau gweithredol ac nid rhai goddefol. Mewn brawddegau gweithredol mae rhywun sy’n ‘gwneud’ rhywbeth yn y frawddeg, ond mewn brawddegau goddefol nid oes rhywun sy’n ‘gwneud’ neu mae’r person hwnnw yn dod i mewn ar y diwedd, sy’n fwy dryslyd. Er enghraifft: byddwn yn anfon llythyr atoch nid anfonir llythyr atoch. DA cadwch yr atalnodi yn syml, defnyddiwch atalnodau llawn a rhai commas. Peidiwch â defnyddio hanner colon; colon: neu gysylltnodau-.NA peidiwch ag ysgrifennu yn y trydydd person. Defnyddiwch iaith bersonol fel Fi, Ni, Chi. Er enghraifft gallwch brynu diod wrth y bar nid mae diodydd ar gael wrth y bar.DA strwythurwch eich brawddegau yn nhrefn pwysigrwydd; llenwch y tegyll â dŵr. Yna trowch ef ymlaen nid rhowch y tegyll ymlaen ar ôl ei lenwi â dwr. DA rhowch ‘os’ neu ‘oherwydd’ yn gyntaf. Er enghraifft os yw’n mynd i fwrw glaw, ewch ag ymbarél nid ewch ag ymbarél os yw’n mynd i fwrw glaw.DA gwnewch yn siŵr bod pwyntiau bwled yn gwneud synnwyr ar eu pennau’u hunain.DA defnyddiwch luniau i gefnogi testun. Mae rhan fwyaf y bobl ag anableddau dysgu yn dweud ei fod yn well ganddynt weld delweddau go iawn na darluniau. Ceisiwch osod delweddau yn yr un lle drwy’r testun, er enghraifft, i’r chwith i bob brawddeg.NA peidiwch â rhoi ysgrifen dros ddelweddau neu ddefnyddio delweddau gyda gormod o fanylion.DA cadwch y cynllun yn syml, defnyddiwch gefndir syml a pheidiwch ag unioni’r testun ar yr ochr dde. Defnyddiwch benawdau a dim mwy na dau fath o ffont mewn un ddogfen. Defnyddiwch leiafswm o faint testun 14 pwynt a pheidiwch â defnyddio priflythrennau bras. Defnyddiwch brint bras i amlygu geiriau pwysig.Peidiwch ag anghofio, gallech roi cynnig ar Ddrama, Chwarae Rôl, Gweithdai, Fideos, Posteri, CDau neu DVDs i gyfleu eich gwybodaeth.

Page 3: Newyddlen Rhagfyr 2011

maent wedi elwa’n fawr o weithio gyda thîm Cyfleoedd Gwirioneddol Torfaen. Roedd Timothy, sydd nawr yng Ngholeg Derwen yng Nghroesoswallt, yn naturiol yn bryderus iawn am adael y cartref; fel rhieni aethom ag ef ar nifer o ymweliadau iddo gyfarwyddo â’r lle newydd, ond aeth Suzanne o’r tîm ag ef hefyd i ymweld â’r lle ym mis Gorffennaf. Teithion nhw i fyny ar y trên ac roedd Suzanne wedi gwneud llyfryn oedd yn cynnwys gwybodaeth i Tim ar orsafoedd a thirnodau yr oeddent yn eu pasio. Aethant o gwmpas y coleg a chael cinio ym mwyty’r Orenfa. Pan ddaeth Tim adref roedd yn teimlo’n fwy hyderus am fywyd coleg!Yn ystod yr haf, aeth y ddau fachgen ar daith gwersylla braf i Gŵyr, a chael llawer o hwyl er gwaetha’r glaw! Ni wnaeth Andrew stopio siarad am ymgais ddoniol Helen i neidio ar draws un o’r twyni tywod! Roedd y daith wedi annog sgiliau cymdeithasol ac annibyniaeth - maen nhw’n ddigon hapus i olchi’r llestri gartref nawr! Mae llyfryn llawn lluniau gan y bechgyn i’w hatgoffa am y profiad ond dim lluniau o ‘anturiaethau’ Helen! Cymerodd Andrew ran mewn cwrs adeiladu hyder dau ddiwrnod cyn iddo ddechrau yng Ngholeg Pontypwl; eto cyfle gwych iddo ymgysylltu

3

diolchiadauâ sgiliau cymdeithasol. Aeth Kristina ag Andrew i ddosbarthiadau Tai Kwon Do yng Nghanolfan Byw’n Weithgar Pontypwl a rhoi mwy a mwy o gyfle iddo yn raddol i fynd i mewn i’r dosbarth ar ei ben ei hun. Mae’n dal i fynd ac yn gobeithio ennill

ei ddyfarniad cyntaf cyn hir! Yn y Flwyddyn Newydd bydd Andrew yn dechrau ar hyfforddiant teithio. Mae’r tîm wedi bod yn wych; maent yn cynnig cefnogaeth a chymorth i’r bobl ifanc a’u rhieni. Mae Timothy ac Andrew bob amser yn cael eu trin yn garedig a gyda pharch, ac maent wedi ennill profiad ymarferol fydd yn fuddiol iddynt am amser hir - mae’r tîm wedi rhoi cyfle iddynt drawsnewid yn llwyddiannus o’r ysgol i’r coleg. Yr hyn sy’n amlwg yw cymaint y maent yn mwynhau eu gwaith, mae llawer o chwerthin a brwdfrydedd. Diolch gan deulu diolchgar iawn!Ysgrifennodd Tomas Roberts o Ben-y-Bont ar Ogwr ddiolch arbennig iawn i’r tîm

yn Heronsbridge (isod).

Mae’r prosiect cyfleodd gwirioneddol wedi cael effaith bositif iawn ar bobl ifanc a’u teuluoedd ar draws y siroedd y mae wedi bod yn gweithio ynddynt. Dyma ddiolchiadau

gan riant o Dorfaen a pherson ifanc o Ben-y-Bont ar Ogwr oedd am i bawb wybod pa mor dda mae eu timau wedi bod iddynt hwy.

Timothy ac Andrew yn gwersylla ar y Gwyr

Mae mam o Dorfaen wedi anfon eu diolchiadau i’r prosiect Cyfleoedd Gwirioneddol. Mewn e-bost at Helen Palmer, Arweinydd Tîm Torfaen, ysgrifennodd, “Mae fy nau fab Timothy ac Andrew ar y sbectrwm awtistig ac

Page 4: Newyddlen Rhagfyr 2011

hyFFoRddiant adiGwyddiadau

I archebu lle ar unrhyw rai o’r digwyddiadau neu seminarau hyfforddiant canlynol cysylltwch â’r tîm gwybodaeth a hyfforddiant yn [email protected] am ffurflen archebu.

Rhwydwaith Cyflogaeth a ChyfleoeddDyddiad: 11eg Ionawr 2012Amser: 10am – 1pmLleoliad: Forge Fach CRCI: Pob Both a Chontractiwr

Cyflwyniad i’r Prosiect (RhCT)Dyddiad: 16eg Ionawr 2012Amser: 9:30am – 12:30pmLleoliad: Pontypridd YMCAI: Unrhyw un yn RhCT!

Diwrnodau 3 a 4 o PCP 5 DiwrnodDyddiad: 18fed & 19eg Ionawr 2012Amser: 18fed - 9:30am - 4:00pm 19eg - 10:00am - 3:00pm (Dewch â PI)Lleoliad: Tŷ Gwledig Manor Park, ClydachI: Pob Both (sydd wedi mynychu’n flaenorol)

Cyflwyniad 1 Diwrnod i PCPDyddiad: 23ain Ionawr 2012Amser: 10am - 4pmLleoliad: Pontypridd YMCAI: Pawb sy’n gweithio gyda PI yng Nghaerffili/Torfaen/ RhCT

Rhwydwaith PCP Cymru GyfanDyddiad: 26ain Ionawr 2012Amser: 10am – 3:15pmLleoliad: Canolfan Hamdden RhayadarCysylltwch ag Inacia yn LDW ar 02920 752149

Rhwydwaith CynhwysiadDyddiad: 17eg Chwefror 2012Amser: 10am – 1pmLleoliad: Forge Fach CRCI: Pob Both a Chontractiwr

Cyflwyniad 1 diwrnod i PCPDyddiad: 20fed Chwefror 2012Amser: 10am – 1pmLleoliad: Canolfan Bywyd Eglwys Bethlehem, Pen-y-bont ar OgwrI: Pawb sy’n gweithio gyda PI ym Mhen-y-bont ar Ogwr/Merthyr/CNPTDyddiadau ar gyfer eich Dyddiadur 2012:27ain Chwef - Diwrnod 5 o PCP 5 Diwrnod14eg Mawrth - Rhwydwaith Cynllunio ar gyfer y Dyfodol19eg Mawrth - Cyflwyni 1 Diwrnod i PCP (Abertawe/Caerfyrddin/Sir Benfro)

4

I weld eich stori yn y cylchlythyr, neu am fwy o wybodaeth cysylltwch â Laura ar 01792 817224 neu yn [email protected]

Gwnewch eich tîm yn ASD Ymwybodol! Ym mis Medi eleni lansiodd Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) gynllun ASD Ymwybodol. Ariannwyd y cynllun gan Lywodraeth Cymru fel rhan o Gynllun Gweithredu Strategol ASD Cymru. Nod y prosiect blaengar hwn yw cynyddu ymwybyddiaeth Anhwylderau Sbectrwm Awtistig (ASD) ar draws yr holl sectorau yng Nghymru.Mae’r cynllun yn cynnwys offeryn dysgu ar-lein sy’n helpu’r defnyddiwr i ddatblygu dealltwriaeth sylfaenol o ASD a’r opsiwn i ddefnyddwyr gwblhau holiadur ar-lein i brofi eu gwybodaeth. Drwy gofnodi gwybodaeth y rheiny sydd wedi cwblhau’r holiadur yn llwyddiannus, bydd y system yn gallu rhoi adborth ar ba fusnesau ac asiantaethau sydd â chyfran uchel o staff sy’n ymwybodol o ASD ac ail gam y prosiect fydd dyfarnu statws ASD Ymwybodol i fusnesau cyfranogol.Eglurodd y Cynghorydd Meryl Gravell OBE (Sir Gaerfyrddin), Llefarydd CLlLC dros Ofal Cymdeithasol ac Iechyd: “Amcangyfrifir bod gan 1 o bob 100 o bobl anhwylder Sbectrwm Awtistig ac mae pobl ag ASD yn defnyddio pob math o wasanaethau a busnesau yng Nghymru. Mae felly’n hanfodol bwysig bod staff yn y sefydliadau hyn yn ASD ymwybodol.”Gall unigolion gymryd rhan yn y cynllun drwy ymweld â www.ASDinfoWales.co.uk/ASDaware . Mae’r wefan yn cynnwys modiwl dysgu ASD ymwybodol byr. Yna gall defnyddwyr gofrestru i wneud holiadur prawf. Os atebir pob cwestiwn yn gywir cyflwynir tystysgrif bersonol i’w lawrlwytho.

Gall sefydliadau neu adrannau o fewn sefydliadau gymryd rhan yn y cynllun hefyd. Gellir gweld manylion ynghylch sut i ddod yn sefydliad ASD ymwybodol yn www.ASDinfoWales.

co.uk/organisations

lanSio cynllun aSd yMwybodol