y gloran rhagfyr 2012

7
y gloran papur bro blaenau’r rhondda fawr rhifyn 277 2il gyfrol 20c Rhagfyr 12 GOLYGYDDOL Fwy nag unwaith, mae’r golofn hon wedi tynnu sylw at bwysigrwydd dio- gelu busnesau canol ein trefi. O fewn cof llawer ohonom gwelwyd dirywiad syfrdanol yng nghyflwr ein strydoedd mawr. Yn yr ardal hon, Y Pentre yw’r enghraifft orau efallai, gyda dyrnaid yn unig o siopau ar ôl lle bu gynt rai o fusnesau mwyaf Cwm Rhondda - E.H.Davies, R.T. Evans, Walters a Rees, yr haearnwerthwyr, siop ddillad ysblennydd Cule a busnesau llwyddiannus Sam Wilshire, Dotter a Phillips “y Typewriter’. Bu dirywiad y Pentre’n ddramatig ac yn yr un modd gwelsom strydoedd Dunraven, Tonypandy a Stryd Hannah, Y Porth, NADOLIG LLAWEN I’N DARLLENWYR I GYD

Upload: anne-baik

Post on 26-Mar-2016

238 views

Category:

Documents


5 download

DESCRIPTION

Papur Bro Blaenau'r Rhondda Fawr, papur misol o newyddion lleol

TRANSCRIPT

Page 1: Y Gloran Rhagfyr 2012

y gloranpapur bro blaenau’r rhondda fawr

rhifyn 277 2il gyfrol

20cRhagfyr 12

GOLYGYDDOLFwy nag unwaith, mae’r golofn hon wedi tynnu sylw at bwysigrwydd dio-gelu busnesau canol ein trefi. O fewn cof llawer ohonom gwelwyd dirywiad syfrdanol yng nghyflwr ein strydoedd mawr. Yn yr ardal hon, Y Pentre yw’r enghraifft orau efallai, gyda dyrnaid yn unig o siopau ar ôl lle bu gynt rai o fusnesau mwyaf Cwm Rhondda - E.H.Davies, R.T. Evans, Walters a Rees, yr haearnwerthwyr, siop ddillad ysblennydd Cule a busnesau llwyddiannus Sam Wilshire, Dotter a Phillips “y Typewriter’. Bu dirywiad y Pentre’n ddramatig ac yn yr un modd gwelsom strydoedd Dunraven, Tonypandy a Stryd Hannah, Y Porth,

NADOLIGLLAWEN

I’N DARLLENWYR

I GYD

Page 2: Y Gloran Rhagfyr 2012

golygyddol y gloran parhadSTORI RHYS JONES

a fu gynt yn ganolfan-nau siopa llewyrchus, yn colli tir yn gyflym yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Bu colli diw-ydiannau trwm, diboblo-gi a dyfodiad yr arch-farchnadoedd mawrion yn rhannol gyfrifol am hyn ynghyd â gallu pobl â cheir i siopa y tu allan i’r ardal. Yn wyneb y datblygi-adau hyn, dau ddewis sydd - naill ai derbyn bod y dirywiad yn anorfod neu chwilio am ddulliau newydd o fasnachu. Fel y gwelwn yn y rhifyn hwn o’r Gloran, mae arwyddion bod masnachwyr canol Treorci yn ceisio ymateb yn gadarnhaol ac yn greadigol i’r her trwy drefnu digwyddiadau fydd yn hybu busnes yn y dref. Un o’r rhain oedd gŵyl croesawu’r Nadolig a gynhaliwyd ddydd Gwener, 30 Tach-wedd i ddathlu cynnau’r goleuadau ar y goeden Nadolig ac ar hyd y stryd fawr.O ganol dydd ymlaen roedd perfformwyr o bob math yn arddangos eu doniau o flaen tafarnau’r Lion a’r Cardiff Arms a threfnwyd bod ffair bleser fywiog y tu fa’s i Glwb y Bechgyn a’r Merched. Roedd amry-wiaeth o stondinau dan do yn y clwb ei hun a’r lle dan ei sang. Roedd hi’n dda gweld bod nifer o’r masnachwyr lleol

wedi manteisio ar y cyfle i werthu eu nwyddau a does ond gobeithio eu bod wedi cael dechrau da fydd yn arwain at Nado-lig proffidiol iddynt. Yn sicr, llwyddodd y fenter i ddenu cannoedd o bobl i Dreorci ac ymddangosai fod y caffis a’r tafarnau yn enwedig wedi bod yn brysur trwy gydol y dydd. Syniad da oedd cael cystadleuaeth am y ffenest siop orau a bod cymaint o fusnesau wedi cymryd rhan. Bu corau o ysgolion cynradd yr ard-al, gan gynnwys Treorci, Y Gelli, Y Pentre a Thon Pentre yn perfformio a Radio Rhondda a GTFM yn darparu cerddoriaeth ynghyd â Band Arian Treherbert. Yn naturiol, daeth rhieni a thylwyth y plant i’w cefnogi gan sicrhau bod llif cyson o bobl yn crwydro’r stry-doedd.Dangosodd y diwrnod sut y gall menter ma-snachwyr ac ychydig o help ariannol gan y Cyngor gyfuno i ddenu pobl i ganol y dref. Yn barod eleni bu’r Ŵyl Gerdd a’r Eisteddfod yn achlysuron llwyd-diannus a does ond gobeithio y bydd y digwyddiadau hyn yn dod yn rhan sefydlog o galendr y flwyddyn, nid yn unig yn Nhreorci ond yn nhrefi eraill blaenau’r cymoedd.

Rhan 2: CARIO’R FFLAM A MWY[Rhagor o hanes yr athletwr parlympaidd ifanc o Gwm Clydach yn cael ei adrodd gan ei dad-cu balch, Ray Poulton]Cafodd Rhys Jones, yr athletwr para-olym-paidd sy’n hanu o Gwm Clydach, ei enwebu gan Chwaraeon Anabledd Cymru i gario’r fflam Olympaidd trwy Lansawel [Briton Ferry] ar 26 Mai, 2012. Enillodd y fraint yn gydnabyddiaeth am ei waith fel hyfford-dwr gwirfoddol gyda thîm pêl-droed Teigrod Rhondda Cynon Taf, tîm o chwaraewyr anabl, ac am ei ymdrechion fel llysgennad dros fabolgampau ymhlith pobl anabl yn y fwrde-istref. Dywedodd yr hoffai ddilyn gyrfa yn hyfford-dwr chwaraeon ar gyfer pobl anabl yn y pen draw a lansiodd ymgyrch i godi £2,700 dros y Gymdeithas Encephilitis trwy rafflo crys Tîm GB wedi ei lofnodi gan lu o sêr o fyd y campau gan gynnwys y capten, Dai Green o Lanelli. “Dw i’n dwlu bod y cyflymaf ar y trac,” meddai Rhys, “Mae chwaraeon wedi newid fy mywyd i gymaint. Ond roedd cael cario’r fflam Olympaidd yn fraint anhygoel.” Fodd bynnag, cyn yr achlysur hwnnw, roedd yn edrych ymlaen at gynrychioli Cymru yng Ngemau’r Ysgolion oedd yn cael eu cynnal yn y Stadiwm Olympaidd newydd sbon. Braint oedd cael rhedeg ar yr un trac ag athletwyr gorau’r byd ac roedd yn gobeithio ennill. “ Enillais y fedal aur yn y ras 200m. yn 2010 a’r aur am y 100m a’r 200m. yn 2011. Yn natu-

riol, hoffwn ennill aur eto!” Ac yn y mabolgampau llwyd-dodd i gyflawni ei freuddwyd o flaen tor o 35,000.LlansawelO’r diwedd, gwawriodd 26 Mai a’r un diwrnod y cludwyd y fflam trwy Dreherbert a Threorci roedd Rhys yn ei chario trwy Stryd Fawr Llansawel. Yn ffodus, roedd y tywydd yn braf iawn pan gyrhaeddon ni’r man cychwyn, sef Clwb JK lle roedd digon o fyrddau picnic dan gysgod ymbarelau. Yn raddol, cynyddodd y dorf gyda nifer fawr o aelodau ei deulu, ei ffrindiau a’i athrawon o Ysgol Sant Ioan yno i gef-nogi Rhys. Roedd yr awyrgylch yn drydanol wrth i’r amser nesau. Cododd bloedd enfawr pan gamodd Rhys gyda’i wên lydan o’r bws a phawb yn tynnu lluniau ohono ac yn cyhw-fan baneri wrth iddo godi’r ffagl. Gallwch chi ddychmygu fy mod i a fy ngwraig yn browd iawn o’n hŵyr annwyl.Cael ei ddewisOnd cododd ein balchder ohono’n fwy fyth ar 4 Gorffennaf pan dderbynion ni’r newyddion bod Rhys wedi ei ddewis yn un o’r garfan o 49 ar gyfer y Gemau Paralympaidd. Y peth cyntaf y gwnaeth y wraig a minnau oedd sicrhau seddau ar y trên i Lundain. Roeddem yn benderfynol o fod yno!Ond cyn hynny, roedd rhaid mynd â Rhys i Sefydliad Chwaraeon Cymru yng Nghaerdydd am gyfweliad gyda’r Cymry eraill oedd yn y tîm. Ar ôl y cyfweliadau, clywais rywun yn siarad Cymraeg a chael, er mawr syndod i mi, fod y gŵr ifanc yn dod o Fferm y Graig, Y Mwnt, Sir Aberteifi, sef y fferm nesaf at Fferm Blaenwaun, safle ein carafan ni ers ugain mlynedd! Am fyd bach! Rai dyddiau’n ddiwed-darach cefais i fy nghyfweld ar S4C yn sôn am yrfa Rhys, ei anawsterau a sut y daeth yn athletwr tan gamp.ParatoiCafodd e amser prysur cyn y gemau eu hunain yn my-nychusesiynau hyfforddi bob dydd Sadwrn yng Ngholeg Loughborough a hedfan wedyn ar 8 Awst i Bortiwgal ar gy-fer gwersyll ymarfer. Rhys oedd yr olaf i’w gael ei gynnwys yn y garfan derfynol a hynny er syndod iddo gan taw ei brif obaith cyn hynny oedd cynrychioli Prydain yn Rio yn 2016. Fel y dywedodd ei fa, “Dydyn ni ddim yn disgwyl i Rhys ennill medal y tro hwn, ond bydd yn baratoad ardderchog ar gyfer Rio mewn pedair blynedd.”Yn sgil llwyddiant Rhys, cawson ni fel teulu ein rhwydo gan ramant y Gemau a chafodd yntau gyfle i wireddu ei freuddwydion. “Y peth gorau wnes i erioed,” meddai “oedd ymuno â Theigrod y Rhondda. Fe’m gwnaeth yn berson mwy hyderus a thyfais yn fwy annibynnol wrth wneud llu o ffrindiau ar y ffordd. Dysgais sgiliau newydd a fydd yn sylfaen i yrfa yn y dyfodol ond yn fwy na dim mae’n gyfle imi annog eraill i ddilyn eu breuddwydion heb ganiatau i unrhyw beth eu rhwystro.”

Page 3: Y Gloran Rhagfyr 2012

newyddion lleol DEUNYDD AR GYFER POB RHIFYN I MEWN ERBYN DECHRAU’R MIS OS GWELWCH YN DDA

TREHERBERTRoedd dydd Gwener, 9 Tachwedd, yn ddi-wrnod trist iawn pan ddechreuodd gwaith i ddymchwel Pwll Nofio Treherbert. Mae pwll wedi bod ar yr un safle am 76 o flynyddoedd a golygfa ofnadwy oedd gweld peiriaunau chwalu yn bwrw’r waliau i lawr. Mae llawer o bobol wedi gweithio’n ddyfal dros y blynyddoed i ail agor y pwll. Diolch i gyfarwyd-dwyr Cwmni Pwll Nofio Treherbert am eu gwaith mawr yn paratoi sawl cais am arian. Diolch i Mr Ralph Cole am godi swm sylweddol wrth drefnu nifer o dripiau ac i’r disgyblion o ysgol Penyrenglyn am eu llythyron i ‘r Argwlydd Seb Coe. Diolch hefyd i drigolion Treherbert a’r cylch am fynd i brotestio yn Siambr y Cyngor ac yn y Senedd yng Ng-haerdydd a diolch am y cannoed a fynychodd nifer fawr o gyfarfodydd cyhoeddus. Yn olaf

diolch yn fawr i CwmNi a oedd bod amser wrth gefn yr ymgyrch yn cy-northwyo ac yn cefnogi. Er gwaethaf y pedair blynedd o frwydro mae Treherbert,,un o’r arda-loedd mwya difreintiedig yng Nghymu, yn dlotach fyth..

Bydd llif trafnidiaeth yn cael ei amharu ar fordd y Rhigos am rai dyddiau rhwng 5 Rhagfyr a 31 Mai 2013 wrth i’r heol gael ei chau am awr yn y bore ac awr yn y pryn-hawn er mwyn cludo melinau gwynt Maerdy o Hirwaun i ben Craig y Llyn. Trosglwyddir y melynau rhwng 10.15 a 11.15 yb a rhwng 1.30 a 2.30yp ar ddyd-diau penodedig. Mae’r Cyngor wedi addo rhoi 48 awr o rybydd cyn pob symudiad.Mae’r maes parcio y Dunraven yn cael ei ailwampio . Gosodir llinellau newydd a bydd safle arbennig i’r blwch ailgylchu

Cynhelir gwasaneth arbennig ar 22 Rhagfyr yng nghapel Blaeny-cwm i fendithio priodas Natasha a Lee Foster o Flaenrhondda. Bydd y gwasanaeth dan olau canwyllau a dymunwn ddyfodol hapus i’r ddau.Cynhalwyd gwasanaeth carolau yng nghapel Car-mel ar y 7fed o Rhagfyr. Roedd y gwasanaeth dan nawdd Mudiad Mac-millan a chodwyd swm syweddol o arian at yr elusen arbennig yma.Bydd gwasanaeth caro-lau dan olau canwyll yng nghapel Blaenycwm ar y 16 Rhagfyr am 6.00yh. Croeso cynnes i bawb.Roedd llawer o hwl a sbri yng Nglwb Llafur Tynewydd ar 8 Rhagfyr 8fed pan lwyfanwyd pantomeim Cinderella. Aelodau’r clwb a staff Cwmni oedd yn trefnu ac actio yn y pantomime a daeth Sion Corn i ymweld â’r plant ar ôl y sioe.

EICHGOHEBWYRLLEOL :Rhowch wybod iddyn nhw os byddwch chi ei-siau rhoi rhywbeth yn Y GLORAN

Treherbert:Geraint a Merrill Davies

Cwmparc:D G Lloyd

Treorci:Mary Price

Y PentreTesni PowellAnne Brooke

Ton Pentre a’r GelliHilary Clayton Graham John

Cyfarchion y Tymoroddi wrth LeanneLeanne Wood AC leanne.wood@cymru. gov.uk 01443 421691

Nadolig Llawenoddi wrth LeightonLeighton Andrews AC leighton.andrews@cymru. gov.uk 01443 685261

Nadolig Llawenoddi wrth JillJill Evans ASE jill.evans@europarl. europa.eu 01443 441395

Thom

as N

ast

Cawsom y llun hwn o dîm rygbi Ysgol Fodern Treorci 1948-49 gan Lindsey Foxall, Cwmparc. Ydych chi’n gwybod enwau’r ddau fachgen sy’n eisiau? Rhowch wybod os ydych.

Rhes gefn o’r chwith: Arthur Thomas, John Salisbury, John Birmingham, ???, Brian Bebb.Rhes ganol: Haydn Williams [Athro Ymarfer Corff], Colin Jones, Evan John Baker, David Reynolds, Alwyn Parry, John Stanley Evans, Cyrnol Idris Evans [Prifathro], Lindsey Foxall.Rhes flaen: ???, Idwal Woolson, Brian Dyer, David Roberts, Malcolm Evans.

Page 4: Y Gloran Rhagfyr 2012

TREORCIRoedd yn flin gan bawb dderbyn y new-yddion am farwolaeth Mr John Middleton, gynt o Stryd James, ond ers rhai blynyd-doedd o Bont-lliw, Abertawe. Dioddefodd John gystudd hir a chydymdeimlwn yn ddiffuant â’i weddw a’i blant a hefyd â’i frawd Peter a’r teulu sy’n byw yn Stryd Regent.Ddydd Iau, 6 Rhag-fyr cafodd aelodau Clwb yr Henoed gyfle i ddechrau eu siopa Nadolig pan aeth llond bws ohonyn nhw i Gaerwrangon [Worces-ter] am y diwrnod. Roedd hi’n wythnos brysur i bawb gan

fod nifer wedi mwyn-hau cinio Nadolig yng ngwesty’r Tŷ Newydd, Penderyn ar y dydd Llun blaenorol.Nos Fawrth, 18 Rhag-fyr, cynhaliodd Se-fydliad y Merched ei wasanaeth blynyddol o ddarlleniadau a cha-rolau yn Eglwys Sant Matthew. Yn ôl yr ar-fer, dilynwyd y gwasa-naeth gan luniaeth ysgafn a chyfle i bawb gymdeithasu a mwyn-hau hwyl yr Ŵyl.Roedd yn flin gan bawb dderbyn y newyddion am farwiolaeth Mrs Pauline Rees, Pros-pect Place, yn dilyn rhai blynyddoedd o afiechyd. Cydymdeim-lwn â David, ei ph-

riod, Emma, ei hunig ferch a’r teulu oll yn eu colled. Un arall a gollwyd yn ddiweddar oedd Mrs Jean Pitt, Stryd Stuart. Roedd Jean yn aelod ffyddlon a gweithgar o Glwb yr Henoed lle roedd yn boblogaidd iawn. Cy-dymdeimlwn â’i meibi-on, Michael a Simon yn eu profedigaeth.Cynhaliodd Pwyllgor Ymchwil i Gancr Treorci ei noson goffi flynyddol yn Neuadd Sant Matthew, nos Iau 24 Tachwedd. Cafwyd noson hwyliog a llw-yddiannus fel arfer a llwyddwyd i godi dros £700 at yr achos teilwng hwn. Aelodau Cwmni Theatr Spot-

light oedd yn gyfrifol am yr adloniant a cha-fodd pawb amser da yn mwynhau eu talentau. Golyga hyn y bydd y pwyllgor yn gallu anfon £2,500 at Cancer UK cyn diwedd y flwyd-dyn ac maen nhw am ddiolch i bawb am eu cefnogaeth ffyddlon ar hyd y blynyddoedd.Beth amser yn ôl, gwrthododd Pwyllgor Cynllunio Rh.C.T. gais i godi 4 tŷ y tu ôl i da-farn y Red Cow. Fodd bynnag, aeth yr achos i apêl a phenderfynodd Arolygyddd Llywodra-eth Cymru ganiatau’r datblygiad. Seiliwyd gwrthwynebiad y Cyn-gor ar y diffyg mannau parcio yn y cynllun,

ond dadleuodd yr Arolygydd fod digon o drafnidiaeth gyhoeddus ar gael i ateb y galw.Pob dymuniad da a llawer o ddiolch i’r Bliswraig Gynorthwyol Suzanne Casey sydd wedi bod yn gyfrifol am ardal Treorci ers rhai blynyddoedd a hithau’n disgwyl ei hail blentyn ac yn debygol o weithio’n nes at ei chartref ym Merthyr ar ôl ei chyfnod mamo-laeth. Ar yr un pryd, estynnwn groeso i’w holynydd PSO Paul Jones, frodor o’r Rhon-dda a fydd yn gofalu amdanom o hyn allan. Gellir cysylltu â Paul ar 07805 301085 neu trwy [email protected] ffenestri siopau canol y dref yn werth eu gweld gyda phawb

yn cystadlu am y gorau i gael y ffenest fwyaf atyniadol. Edrychwn ymlaen at weld pwy fydd yn fuddugol. Chi fydd yn penderfynu ac mae modd ichi fwrw eich pleidlais naill ai yn y Llyfrgell neu yn nha-farn y Lion. Felly, ewch ati yn ddiymdroi!O hyn ymlaen bydd Cylch Meithrin Her-mon yn ymestyn ei oriau gan fod ar agor am 4 awr bob bore. Bydd sesiynau pryn-hawn hefyd ar gael ar ddau brynhawn. Am fanylion pellach, ffoni-wch Melanie ar 07858 577155.Ddydd Sul, 16 Rhagfyr am 10.30am, cynhali-odd aelodau Hermon eu gwasanaeth carolau blynyddol gyda nifer yn cymryd at y darl-leniadau traddodiadol.

Dilynwyd hyn gan fore coffi yn y festri.

CWMPARCLlongyfarchiadau i Lou Reed, Heol y Parc ac en-nill ei gap llawn cyntaf dros Gymru yn y gêm rygbi yn erbyn Awstralia. Mae’n drueni na lwyd-dodd i gael anrheg Nado-lig gynnar yn ogystal wrth i Gymru ildio cais yn y funud olaf ar ôl bod ar y blaen! Ond, da iawn,Lou. Fe gest ti gêm gyntaf ardderchog o dan amodau anodd.Mae Nerys Bowen, Heol Conwy yn trefnu boreau coffi achlysurol yn Neuadd y Parc ar gyfer dysgwyr Cymraeg. Mae hin awyddus i ddenu dysgwyr a siaradwyr Cymraeg i’r achlysuron hyn. Am ragor o fan-ylion, ffoniwch Nerys ar 771114.

Mae heddwas cynorth-wyol newydd gan Gwm-parc, sef PCSO Ceri Lyons a fu gynt yn y Ton a’r Pentre. Bydd e hefyd yn rhannu ei ddyletsw-yddau â swyddo Treorci, Paul Jones a gan fod dau ohonynt nawr gobeithir cynnig gwell gwasanaeth i’r ddwy ardal. I gysylltu â Ceri, ffoniwch 07584 770625.Ar 5ed o Ionawr cynhali-wyd cyngerdd yn eglwys St Sior. Roedd yr eglwys bron yn llawn a chafwyd amryw ganeuon gan Gôr Meibion Cwm Rhondda o dan yr arweinydd Neil Topping a oedd hefyd yn cyfeilio. Yn ogystal cafwyd amryw caneuon gan gôr plant Ysgol y Parc ar seindorf plant yr ysgol. rhaid canmol noson ardderchog gyda’r plant a’r côr meibion ar eu gorau.

Page 5: Y Gloran Rhagfyr 2012

Y PENTREDiolch i Michael a Tesni Powell, Llys Siloh am eu gwaith yn casglu newyd-dion yr ardal yn abse-noldeb Dr Anne Brooke. Gobeithio y cânt Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda ynghyd â’n holl ddarllenwyr yn Y Pentre.Mae preswylwyr Llys Siloh yn dymuno pen-blwydd hapus iawn i Iris Pearce, Fflat 8 a Gareth Edwards, Fflat 9 sydd, ill dau yn dathlu’r mis hwn.Mae pawb yn y Llys he-fyd yn dymuno gwellhad llwyr a buan i’w warden, Dianne Wakeford sydd wedi torri asgwrn yn ei throed o ganlyniad i gwymp a gafodd yn ddiweddar.Roedd yn ddrwg gan bawb yn Llys Nazareth dderbyn y newyddion am farwolaeth Doris Ca-dogan. Roedd Doris yn adnabyddus yn yr ardal a gwelir ei heisiau gan lawer. Cydymdeimlwn â’i theulu a’i ffrindiau yn eu colled.Gobeithiwn y bydd dathlu mawr yn Nhŷ’r Pentre ar 4 Rhagfyr pan fydd Jess a Mary Mer-rit yn dathlu eu priodas ddiemwnt. Yn anffodus, mae Jess yn yr ysbyty ar hyn o bryd ond hyderwn y gall y ddau fod nôl gyda’i gilydd ar gyfer eu diwrnod mawr. Pob bendith iddynt.Bydd band Byddin yr Iachawdwriaeth yn ymweld â Carmel, Treherbert, nos Wener, 7 Rhagfyr ar gyfer gwasa-naeth carolau a fydd yn

dechrau am 7.30pm. Croeso i bawb.Cafodd yr ardal goll-edion yn ystod yr wythnosau diwethaf gyda marwolaeth Mrs Betty Evans, Stryd Price. Cofiwn am Janet, Steve a’r teulu cyfan yn eu profedigaeth. Hefyd, tristawyd preswylwyr Tŷ’r Pentre gan farwola-eth Ceridwen Davies oedd wedi trigo yno ers peth amser.Mae pawb yn Nhŷ’r ,entre yn edrych ymlaen yn eiddgar at ymweliad band Byddin yr Iach-awdwriaeth ar 16 Rhag-fyr pan fyddan nhw’n perfformio rhwng 2.30 - 3.15pm. Maen nhw hefyd am ddymuno Pen-blwydd Hapus i Mabel Matthews sy’n dathlu ar 21 Rhagfyr.Mae croeso i bawb ddod i Bencadlys y Fyddin yn Stryd Carne, ddydd Sul 23 Rhagfyr pan fydd y bobl ifainc yn perfformio’r sioe hudol ‘Christmas Jigsaw’ Bydd y dathlun dechrau am 4.30pm.Pwy yw’r person hynaf o fewn dalgylch y Glo-ran? Tybed oes unrhyw un cyn hyned â Audrey Middleton sydd bellach yn derbyn gofal yng Nghartref Pentwyn. Ar 30 Tachwedd, dathlodd Audrey ei phen-blwydd yn 109 oed. Ydy hyn yn record? Rhowch wybod inni.Yn naturiol, bydd Eglwys San Pedr yn brysur dros yr Ŵyl gan ddechrau gyda gwasana-eth carolau am 6.30pm,

13 Rhagfyr. Hefyd, bydd gwasanaeth arbennig am 8pm, ar Noswyl y Nadolig, sef nos Lun, 24 Rhagfyr.

TON PENTRECafwyd gwledd o ganu pan ddaeth aelodau capeli’r ardal ynghyd i ddathlu’r Nadolig trwy ganu carolau traddodia-dol. Roedd yn dda cael cwmni aelodau Byd-din yr Iachawdwriaeth i ychwanegu at hwyl yr Ŵyl.Llongyfarchiadau cal-onnog i Nicki a Helen Cope, Y Parade ar enedigaeth eu mab Evan Daniel.Roedd yn ddrwg gen-nym dderbyn newyddion am nifer o farwolaethau yn yr ardal y mis hwn eto ac estynnwn ein cydymdeimlad cywiraf i deuluoedd y canlynol yn eu profedigaeth: Patricia Stuckey, Gelli Crossing; Phyllis Sparrow, Stryd Taf; Tegwen Biggs, Heol Avondale; Gwen Evans, Heol Avondale a Nor-man Goodwin, Heol y Gelli.Dechreuodd dathliadau Nadolig preswylwyr Tŷ Ddewi nos Wener, 30 Tachwedd pan gafwyd ymweliad gan y Côr Treftadaeth / Heritage Choir o Bontypridd o dan arweiniad Fred Nicholas. Canon nhw raglen amrywiol o ganeuon poblogaidd a cherddoriaeth gorawl. Da oedd gweld parti o breswylwyr Constantine

Court yn bresennol yn ymuno yn y dathlu.Dau fudiad lleol arall a gynhaliodd eu cini-awau Nadolig yn nhafarn Fagins yw Cameo a fu’n gwledda ar 28 Tachwedd a Brawdoliaeth Eglwys Sant Ioan ar 5 Rhagfyr.Roedd pawb yn drist wrth dderbyn y newyd-dion am farwolaeth un o drigolin mwyaf adna-byddus a phoblogaidd yr ardal, Mr Grenville Hutchings, Highlands, Y Parêd. Roedd Gren-ville yn adnabyddus fel un o wŷr busnes mwyaf blaengar y cylch. Estyn-nwn ein cydymdeimlad i’w weddw Pat ac i’r teulu cyfan yn eu pro-fedigaeth.Pob dymuniad da am wellhad llwyr a buan i Mrs Sylvia Pugh, Up-lands sydd ar hyn o bryd yn Ysbyty Cwm Rhon-dda. Cyn iddi ymddeol, Mrs Pugh oedd warden Canolfan Ddydd Brynar Jones, Y Gelli.Bob dydd Mawrth rhwng 1 - 4pm cynhelir grŵp cymdeithasol, cy-munedol yng Nghanol-fan Brynar Jones, Stryd Rees, Y Gelli. Gelwir y prosiect ‘Bywyd i’w Fyw” a’i nod yw rhoi cyfle i bobl gwrdd â’i gi-lydd ac adnewyddu hen gyfeillgarwch. Am ragor o fanylion, cysylltwch ag Allison Evans ar 671023.

CYMDEITHASGYMRAEGAIL HANNER RHAGLEN Y GYMDEITHASYm mis Tachwedd cefnogodd llawer o aelodau’r Gymdeithas sioe gerdd Ysgol Gy-fun Cymer Rhondda ‘Grease’ a lwyfannwyd yn Theatr y Parc a’r Dâr. Mwynhaodd pawb y perfformiad lliwgar a bywiog a da oedd gweld cymaint o ddisgyblion yn cael cyfle i gymryd rhan. Llongyfarchiadau calonnog iddynt i gyd a llawer o ddiolch i’r staff am eu gwaith caled yn hyfforddi’r bobl ifainc dalentog hyn.Bydd ail ran rhaglen

Cymdeithas Gymraeg Treorci yn dechrau nos Iau olaf mis Ionawr [31 Ion.] pan fydd y dar-lledwr adnabyddus Arfon Haines Davies yn ŵr gwadd. Roedd yn un o wynebau mwyaf cy-farwydd y sgrîn deledu gan gyflwyno nifer o gyfresi ar gyfer HTV gan gynnwys ‘Pacio’, ‘Pen-blwydd Hapus’ a ‘Pws’ yn y Gymraeg. Cyhoed-dodd ei hunangofiant beth amser yn ôl sy’n sôn yn ddiddorol iawn ei fagwriaeth yn Aberyst-wyth ac yng Nghlwyd yn ogystal ag am ei yrfa amrywiol ym myd y cyfryngau.Yn ei ddilyn ar 28 Chwefror fydd y gwlei-dydd lliwgar o Dori, Felix Aubel. Yn fab i ŵr

o Slofenia ac athrawes o Aberdâr, mae e bellach yn weinidog ar eglwysi annibynnol Cymraeg yn Sir Gâr. Derbyniodd ei addysg gynnar yn Ysgol Rhydfelen ac etifeddodd ei syniadau gwleidyddol gan ei dad. Ymunodd â’r SDP i ddechrau, cyn troi at y Toriaid. Er na fu’n ymgeisydd llwyddian-nus ar eu rhan, bu’n eu cynrychioli’n gyson ar y cyfryngau. Mae’n ŵr annibynnol ei farn sy’n credu mewn senedd i Gymru ond hefyd bod sosialaeth ‘yn gomi-wnyddiaeth heb y dryll!’ Mae’n siwr y bydd aelodau’r Gymdeithas yn cael noson fywiog iawn yn ei gwmni.I gloi’r tymor, cawn gyngerdd yng nghwni

Parti’r Efail. Mae gan arweinydd y parti hwm, Menna Thomas, gysyll-tiadau agos â’r ardal hon gan fod ei mam yn hanu o Flaenrhondda lle roedd ei thad-cu, Sam Williams, yn bri-fathro. Mae’r parti hwn yn amryddawn iawn a’i repertoire yn amrywio o gerdd dant i alawon gwerin a chaneuon poblogaidd. Mae do-niau unigol disglair gan nifer o’r aelodau fydd yn sicrhau noson ddiddorol a hwyliog yn eu cwmniBydd y cyfarfodydd hyn i gyd yn cael eu cynnal yn Hermon, Treorci, gan ddechrau am 7.15pm. Croeso i bawb.

RHAI O HEN ARFERION Y NADOLIG

Whipo’r CelynDyma arfer a ddigw-yddai ar Ddydd Gŵyl Steffan [Boxing Day] yn yr hen amser. Byd-dai dynion a bechgyn yn crwydro o gwmpas ar y diwrnd hwnnw ac yn chwipio coesau ei gilydd â changhennau celyn nes y byddent yn gwaedu. mewn rhai arda-loedd merched ifainc a gwragedd oedd y targed. Does neb yn sicr beth

yw tarddiad yr arfer. Mae rhai yn ei gysylltu â merthyrdod Steffan a goffeir ar y dydd ar ôl y Nadolig tra bod eraill yn dweud ei fod yn tarddu o’r arfer o ollwng gwaed ceffylau yr adeg hon o’r flwyddyn.

Y PlygainGwasanaeth arbennig a gynhelid yn gynnar iawn ar fore’r Nadolig. Daw’r term o’r Lladin ‘pulli cantus’ neu ‘ganiad y ceiliog’ oedd i’w glywed ar doriad gwawr - yr

adeg pan fydden nhw’n cynnal y gwasanaethau hyn. Yn y gwasanaeth hwn roedd llawer o bw-yslais ar olau, a’r arfer oedd cynnau’r eglwysi â channoedd o oleuadau cannwyll. Mae’r arfer wedi par mewn rhannau o siroedd Meirionnydd a Trefaldwyn hyd hed-diw er taw gyda’r nos, yn hytrach nag yn y bore bach y cynhelir y gwasa-naethau. Cenir carolau traddodiadol gan bartion sydd, yn aml, yn perthyn i’r un teulu a’r rheiny wedi trosglwyddo carol draddodiadol o genhed-laeth i genhedlaeth. Yn yr hen amser, cysylltid y plygain â chyfle am hwyl ac weithiau anhre-fn gyda dynion meddw yn dod i’r gwasanaeth ar ôl noson o loddesta.’ Digwyddiadau fel hyn a arweiniodd at dranc yr arfer mewn sawl rhan o Gymru wrth i ymneillt-uaeth a’r mudiad dirwest

gryfhau.

Boncyn GwylaI’r hen bobl, roedd arwyddocâd arbennig i’r arfer o losgi a pharatoi tân adeg y Nadolig. Ceir tystiolaeth a’r arfer hon ar draws Ewrop pryd y teflid boncyff sylweddol ar y tân ddydd Ndolig ond sircrhau bod y darn olaf ohono’n cael ei arbed i’w ddefnyddio i gynnau tân y flwyd-dyn ddilynol. Eto, mae dadlau ynlŷn â phwrpas hyn. Mynn rhai taw’r nod oedd cadw ysbry-dion drwg a gwrachod i ffwrdd tra bo eraill yn honni bod y ddefod yn gysylltiedig â ffrwyth-lonedd ac â pharhad bywyd

Page 6: Y Gloran Rhagfyr 2012

ysgolion a phrifysgolion NEWYDDION Y G G BODRINGALLT

NEWYDDION Y G G YNYSWEN

Ysgol YnyswenY RhonddaAnnwyl Siôn CornGai beic pinc os gwelwch yn dda. Rydw i’n ferch dda iawn. Rydw i’n mynd I roi llaith a cwch I ti. Rydw i’n mynd I roi moron I Rwdolff. Rwy’n mynd i’r gwely 10 o’r gloch.Diolch Siôn CornOddi wrth Ellie.Ellie Morgan 7bl 1mis

Lluniau : Band Ynyswen yn chwarae yn Nhreorci

Sion Corn ganOlivia Morris Bl6

Fy Nadolig i

Wrth i mi ddeffro mae fy nghoesau yn symud i lawr y gwely i deimlo’r hosan Nadolig yn llawn. Rydw i’n neidio allan o fy ngwely ac yn rhedeg i fewn i ystafell wely Mam a Dad a gweiddi “Mae Sion Corn wedi bod!” yn uchel iawn. Mae Mam a Dad yn dweud “Ewch i nol dy hosan te,”yn flinedig. Ar ol i fi agor fy anrhegion bydd Dad yn mynd i lawr y grisiau ac yn taflu hosan lan y grisiau os mae Sion Corn wedi bod. Wedyn ar ol i fi agor fy anrhegion byddaf yn cael brecwast ac yn gwisgo ein dillad yn barod i fynd allan i dy nain a ty fy modryb.

Nadolig Slymiau India

Wrth i mi ddeffro does dim cyffro yn fy nghorff. Does dim hosan Nadolig ar waelod fy mlanced. Dim hyd yn oed un anrheg ar ochr arall fy mhabell. Fydd dim cinio Nadolig gyda fi. Bydd rhaid i fi chwilio am fwyd yn y sbwriel. Mae rhaid i fi wisgo dillad carpiog trwy’r dydd. Does dim arian gyda fi i brynu unrhyw deganau am fy mrawd neu chwaer.Dydw i ddim yn gallu fforddio mynd i’r ysgol i wneud cardiau Nadolig neu dynnu lluniau pert. Rydw i’n dlawd.

Ellie BrownBlwyddyn 4YGG Bodringallt

Y Teigr AnnwylGan Ella DaviesBlwyddyn 5YGG Bodringallt

Yng nghanol sŵ tlawd yn Ne Affrica roedd teigr o’r enw Syr Twm. Roedd Syr Twm a’i deulu yn llwglyd iawn a penderfynodd Syr Twm wneud rhywbeth, roedd Syr Twm yn mynd i ddianc o’r sŵ.

Y diwrnod canlynol, cododd ceidwad y sŵ i ffeindio Syr Twm ar goll, edrychyn nhw ym mhobman. Ond, ar ochr arall y gat roedd Syr Twm yn ymborthi ar gwningen bychan. Cyn pen dim, roedd Syr Twm ar y cwch mawreddog. Yng nghanol Môr y Canoldir sud-dodd y cwch………

“AHHH!!! Ble ydw i??” holodd Syr Twm yn ystwrl-lyd. “Rwyt ti yn Bwlgaria, Ewrop.” atebodd llais distaw. Doedd Syr Twm ddim yn adnabod y llais yma. Cropiodd i fyny cyn bwro ei ben ar rhywbeth cadarn. “AWWWCH!!!” cwynodd Syr Twm bron â crio. “ Wyt ti’n iawn?” gofynodd y llais eto. Eisted-dodd i fyny a gwelodd deigr prydferth. “Ydw, ydw!! Felly….. pwy wyt ti?” gofynodd Syr Twm yn ddrys-lyd. “ Lleucu yw fy enw i. Cwmpais i o’r cwch! Beth yw dy enw di?” Meddyliodd am eiliad cyn……….

Y bore canlynol, roedd Syr Twm a Lleicu yn codi i ffeindio 30 o bobl yn syllu arnyn nhw. Un plentyn syllodd Syr Twm arno oedd bachgyn o’r enw Siôn. Roedd Sion yn 5 oed a daeth i’r sŵ gyda ei deulu. “Helo teigr hardd!!” meddai Sion. Sbonciodd i fyny yn chwim. Siaradodd am oriau gyda Sion bychan.

Y noson honno daeth Sion fewn i’r sŵ gydag all-wedd sgleiniog. “ Hello Syr Twm. Wyt ti eisiau dod adref gyda mi?” sibrydodd Sion. Cytunodd Syr Twm cyn deffro Lleici. Yn dawel cropiodd y tri mas o’r carchar eang. “ Ble ydyn ni’n mynd i aros?” gofyn-odd Lleucu. Meddyliodd Sion am funud…………. “Ahhh…… yn fy ngardd.”

Y bore canlynol, deffrodd Syr Twm a Lleucu yng ngardd Sion. Yn rhyfedd, ni welodd mam Siôn Syr Twm na Lleucu. Penderfynodd Lleucu gael babi yn ngardd Sion a dyna beth ddigwyddodd…………..

Flynyddoedd yn ddiweddarach

Cafodd Lleucu dri babi o’r enw Mali, Efa a Cai. Ond, doedd mam dal heb eu gweld nhw. Ond, un diwrnod roedd Syr Twm, Mali, Efa a Cai yn chwarae cyn clywed sgrech anferth. Ffoniodd mam y sŵ a dyna ble aeth Lleucu, Mali, Efa a Cai………….

Rhedodd a rhedodd Syr Twm cyn ffeindio cwch crand. Neidiodd Syr Twm ar y cwch crand ac aeth Syr Twm nôl i Affrica.

Yn nôl yn Affrica roedd Syr Twm yn frenin cryf, ond fydd neb yn anghofio am Syr Twm yn Mwlgaria lle cafodd ei achub.

Page 7: Y Gloran Rhagfyr 2012

NEWYDDION Y CYMER TALIESIN, VICKY AC ELIS YN CYNRYCHIOLI’R YSGOL YN YR AL-MAENBraf oedd derbyn llythyr yn llongyfarch Taliesin Evan-Jones o Flwyddyn 8, Vicky Rendell o Flw-yddyn 9 ac Elis James o Flwyddyn 10 ar fod yn lysgenhadon mor arben-nig i’r ysgol a’r cwm yn ystod taith i’r Almaen a drefnwyd gan Wasaneth Cerdd RCT yn ystod yr

hanner tymor. Cafodd y tri gyfle i berfformio mewn sawl lleoliad arbennig yn ystod y daith yn ogystal â gweld eira cynta’r tymor yn disgyn! Diolch i’r tri am eu hym-roddiad.

LLONGYFARCHI-ADAU KIERAN!Dymunwn yn dda i Ki-eran Wallen o Flwyddyn 9 wrth iddo ymgymryd â swydd Cadet y Maer. Cafodd Kieran ei en-webu ar gyfer y swydd oherwydd ei ymrwymiad i’r Cadets a’i waith yn y

gymuned. Llongyfarchi-adau mawr iawn a phob hwyl ar y gwaith Kieran!LLONGYFARCHI-ADAU JACK!Llongyfarchiadau mawr i Jack Harries, sy’n ddis-gybl ym Mlwyddyn 10, ar ennill ei wregys du!

GREASE!Llongyfarchiadau mawr i bawb a fu’n rhan o berfformiadau bythgo-fiadwy ‘Grease’ eleni! Diolch yn fawr hefyd i bawb a fu wrthi – yn ddisgyblion, athrawon a theuluoedd!

Mor braf oedd gweld do-niau disglair disgyblion Y Cymer yn serennu ar lwyfan y Parc a’r Dâr eto eleni.DAWNSIO A DATHLU’R ‘DOLIGEstynnwyd croeso cynnes a Nadoligaidd iawn unwaith eto i ddawnswyr y gymuned yn ein Dawns Dê ar Ragfyr y 4ydd. Di-olch i Sarah Stone, ein Gweithwraig Ieuenc-tid am y trefniadau. Edrychwn ymlaen at eich croesawu i’r Cymer unwaith eto cyn hir!

LluniauEin DawnswyrKieranTaliesin Viky ac Elis JamesGrease