newyddlen prifblaned
DESCRIPTION
Newyddlen Cynaliadwyedd PriBlaned Mae cyfathrebu yn hanfodol wrth gynnal ein hymdrechion cynaliadwyedd ym Mhrifysgol Bangor. Er bod y wefan PrifBlaned yn gweithredu fel porth i gadw gwybodaeth ledled cymuned y Brifysgol, mae'n bwysig bod y wybodaeth yn cael ei ledaenu yn rheolaidd. Mae'r newyddlen hwn yn gyfrwng ychwanegol i helpu ni i gyrraedd ein cynulleidfa enfawr. Darllenwch rifyn yr haf o'r Newyddlen CynaliadwyeddTRANSCRIPT
Newyddlen PrifBlaned
SBBS
Haf 2014
Bangor yn cyrraedd yr 20 uchaf yn nhabl cynghrair Prifysgolion Gwyrdd y byd Mae ymrwymiad Prifysgol Ban-gor i gynaliadwyedd wedi ennill safle 19 i'r brifysgol mewn tabl cynghrair rhyngwladol o sefydliadau sy'n amgylcheddol gyfeillgar. Bu 301 o brifysgolion mewn 61 gwlad yn cystadlu yn nhabl cynghrair a lansiwyd gan Universitas Indonesia yn 2010 i dynnu sylw at gynaliadwyedd a rheolaeth amgylcheddol mewn prifysgol-ion ledled y byd. Meddai'r Is-Ganghellor, yr Ath-ro John G Hughes, "Rwy’n hynod falch bod ymrwymiad amlwg Bangor i gymryd camau cadarnhaol i hyrwyddo cynaliadwyedd a sicrhau gwell-iant amgylcheddol parhaus yn ennill cydnabyddiaeth ryngwladol." Daw'r cyhoeddiad hwn yn fuan ar ôl enwi Bangor fel y brifysgol 'werddaf' yng
Nghymru yn 2013 yn ôl Cynghrair Werdd y Bobl a'r Blaned. Meddai Ricky Carter, Rheolwr Amgylcheddol yn adran Ystad-au a Chyfleusterau, "Rydym yn gwneud cynnydd gwych, ac mae'r newyddion diweddaraf hyn yn galonogol iawn." Gan ychwanegu at enw da cynyddol y brifysgol ym maes amgylcheddol byd-eang, cyf-lwynwyd polisi cynaliadwyedd newydd arloesol gan Fangor yn ddiweddar ac mae'n cymryd rhan weithredol mewn ystod eang o brojectau ymchwil a datblygu gyda'r sec-tor diwydiant yn canolbwyntio ar dair colofn cynaliadwyedd sef Pobl, y Blaned a Ffyniant. Ymatebodd Dr Einir Young, Pennaeth Datblygiad Cynaliadwy, Prifysgol Bangor i'r cyhoeddiad am fod yn yr 20 uchaf trwy ddweud,
"Mae ein hymdrechion yn arwain gwelliannau amgylcheddol ac effeithlonrwydd o ran adnoddau ym mhob rhan o'r sefydliad yn dechrau dwyn ffrwyth. Ond rydym yn gwybod mai dim ond un agwedd yw hon ar yr agenda datblygu cynaliadwy. Yn unol â'r polisi cynaliadwyedd newydd rydym yn canolbwyntio ein hymdrechion ar integreiddio arfer gynaliadwy i bopeth a wnawn, trwy ein hymchwil, ein dysgu a'n cadwyn cyflenwi ein hunain".
www.bangor.ac.uk/cynaliadwyedd
PrifBlaned Prifysgol Bangor Uni
UniPlanet
@planedPBUplanet
Datblygu Eco-Amgueddfa cyntaf
Cymru ym Mhen Llŷn
Mae Prifysgol Bangor yn falch iawn o fod yn
rhan o Bartneriaeth Trosglwyddo Gwybod-
aeth sydd newydd ddechrau ar y cyd gydag
Oriel Plas Glyn-y-Weddw. Nod y prosiect yw
datblygu Eco-Amgueddfa ym Mhen Llŷn er
mwyn dathlu cyfoeth yr ardal gyfan wrth i
saith sefydliad treftadol ddod ynghyd i weithio
mewn partneriaeth. Mae’r cysyniad o’r Eco-
Amgueddfa yn boblogaidd iawn yn rhai o
wledydd eraill Ewrop, ond hwn fydd y cyntaf i
gael ei ddatblygu yng Nghymru.
Bydd y prosiect yn adeiladu ar y gwaith tref-
tadol mae Partneriaeth Tirlun Llŷn eisoes
wedi ddechrau. Mae aelodau partneriaeth yr
Eco-Amgueddfa yn cynnwys, Oriel Plas Glyn
-y-Weddw, Felin Uchaf, Plas Heli, Plas yn
Rhiw, Porth y Swnt, Amgueddfa Forwrol Llŷn
a Nant Gwrtheyrn. Mae’r prosiect arloesol
hwn yn mynd yn ei flaen gyda diolch i gefn-
ogaeth ariannol gan Fwrdd Technoleg Strat-
egol Llywodraeth Cymru yn dilyn cymorth
dechreuol drwy’r Rhwydwaith WISE.
Dywed Gwenan Griffith, sydd newydd ei
phenodi fel Cysylltai KTP Prosiect Eco-
Amgueddfa Pen Llŷn,
“Does dim model penodol ar gyfer unrhyw
eco-amgueddfa, yr un peth sy’n gyffredin
rhwng pob un yw’r ffaith bod pob sefydliad yn
cydweithio ac yn rhannu’r un weledigaeth.
Mae hwn yn gyfle gwych i gynyddu balchder
cymunedol ym Mhen Llŷn a chodi proffil yr
ardal yn fyd-eang a thorri tir newydd wrth
ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol mewn
ffordd arloesol a chadarnhaol.”
Bydd y prosiect yn asesu’r defnydd o
dechnoleg ddigidol a darparu hyfforddiant i’r
mudiadau sy’n rhan o’r bartneriaeth.
Gweledigaeth yr Eco-Amgueddfa yw gweld
cynnydd mewn twristiaeth ddiwylliannol, gan
arwain at ddiwydiant twristiaeth pedwar
tymor cynaliadwy, fydd yn dod a buddion
economaidd i’r ardal yn ogystal â rhai
cymdeithasol.
Am ragor o wybodaeth am Eco-Amgueddfa
Pen Llŷn, cysylltwch gyda Gwenan Griffith ar
Yn mis Mai fe wnaeth y tîm cynaliadwyedd helpu drefnu sgriniad o’r ffilm MORE THAN HONEY ar gyfer grŵp lleol Cyfeillion y Ddaear a’r cyhoedd. Rhaglen ddogfen gan y crëwr ffilmiau Swisaidd Marcus Imhoof, yn edrych i fyd hynod ddiddorol y gwenyn, sy'n dangos teuluoedd bach o wenynwyr a ffermydd mel diwydiannol. Mae MORE THAN HONEY yn ffilm ar y berthynas rhwng dyn a'r gwenyn mêl, am natur ac am ein dyfodol ac yn sicr y mae’n ffilm gwerth ei gweld.
Undeb Myfyrwyr Bangor yn ennill
tair gwobr am eu gwaith
Amgylcheddol
Mae Undeb Myfyrwyr Bangor wedi ennill nid
un na dwy, ond tair gwobr am eu gwaith am-
gylcheddol yn ddiweddar.
Gwobrwywyd yr Undeb efo Gwobr Aur yng
Ngwobrwyon ‘Green Impact’ yr UCM (Undeb
Cenedlaethol y Myfyrwyr), wedi iddynt ennill
Gwobr Aur ddwywaith yn 2011 a 2012 a’r
wobr Rhagoriaeth Effaith Gwyrdd yn 2012-13
am eu cynllun peilot 'Beics Bangor'.
Gwobrwywyd nhw hefyd yn Undeb y
Flwyddyn (anfasnachol) yn y Gwobrau
Effeithiau Gwyrdd ym Manceinion.
Cynllun achredu amgylcheddol sy’n cael ei
gynnal gan yr NUS yw Green Impact, lle caiff
perfformiad amgylcheddol undebau myfyrwyr
eu meincnodi’n annibynnol. Mae’r Wobr yn
rhoi her i Undebau Myfyrwyr ddilyn y dulliau
gweithredu gorau yn ymwneud â’r
amgylchedd ac ystyried cynaladwyedd wrth
gynnig gwasanaethau i fyfyrwyr. Nod y
Gwobrau hefyd yw tynnu sylw at y gwaith da
mewn perthynas â’r amgylchedd a wneir
mewn Undebau Myfyrwyr a’u cyflwyno i’r
cyhoedd.
Enillodd Undeb y Myfyrwyr drydedd wobr
genedlaethol hefyd, Her Cyfathrebu The
Ecologist, o ganlyniad i ffilm amgylcheddol un
munud o hyd, gan ddefnyddio cyfrwng ffilm i
gyflwyno neges amgylcheddol. Cais Undeb
Myfyrwyr Bangor oedd 'Flash Garden' a grë-
wyd mewn 60 eiliad lle greodd myfyrwyr
gardd ecolegol bywiog wedi ei gwneud o ffyn-
onellau cynaliadwy mewn man cyhoeddus
iawn ar y campws am ddiwrnod.
Dywedodd Antony Butcher Llywydd yr Undeb
"Mae hyn yn gyflawniad rhyfeddol arall i
Undeb Myfyrwyr Bangor; rydym wedi profi ein
bod yn gwneud gwaith rhagorol yn ymwneud
â chynaliadwyedd, yn ogystal â gwneud
cynaliadwyedd yn un o'n gwerthoedd craidd,
mae'n cael ei ymgorffori yn gyfan gwbl o fewn
diwylliant staff, swyddogion a myfyrwyr yr
Undeb.”
PrifBlaned PrifBlaned yw strwythur y Brifysgol sy’n ein helpu i ddeall a rheoli datblygiad cynaliadwy y Brifysgol o dan y strwythur cynaliadwyedd a cyffredin: Pobl, Planed a Ffyniant.
Cyfrannwch at y drafodaeth drwy roi eich barn ar ein gwefan ac
unrhyw beth yn ymwneud a chynaliadwyedd o fewn y brifysgol drwy
gysylltu â [email protected]
Byw’n Wyrddach
Eleni mae Prifysgol Bangor wedi cymryd
rhan yn y prosiect 12 mis ‘Byw’n Wyrdd-
ach’ sy’n gosod myfyrwyr Cymru wrth gal-
on yr agenda gynaliadwyedd. Mae hwn
yn brosiect mewn partneriaeth gyda UCM
Cymru sydd wedi cael ei gyllido i raddau
helaeth gan Lywodraeth Cymru a’i reoli
gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru
(CCAUC). Fe wnaeth UCM Cymru redeg
y mentrau gwyrddio canlynol ym Mangor,
ar hyd y flwyddyn; Effaith Gwyrdd, Myf-
yrwyr yn Diffodd , Diffodd Pop-
eth Cymru, Snapiwch e Ffwrdd
Diffodd Popeth Cymru
Fel rhan o ymdrechion Prifysgol
Bangor i amlygu a lleihau ei ddefnydd o
ynni, fe wnaeth y Brifysgol yn ymuno â
Prifysgolion ar draws Cymru yn
“Diffodd Popeth Cymru” mewn
ymarferiad mawr ar nos Wener 21ain o
Fawrth.
Yr her oedd i ddiffodd yr holl offer oedd
wedi cael eu gadael ymlaen mewn
swyddfeydd cyn y penwythnos. Wedyn
fe wnaeth y Brifysgol gymharu'r defnydd o ynni yn ystod y digwyddiad 'Diffodd Popeth' gyda’r
defnydd o ynni ar benwythnos tebyg. Fe wnaeth 45 o wirfoddolwyr myfyrwyr a 18 o wirfoddolwyr
staff gymryd rhan gan archwilio’r 14 adeilad oedd yn rhan o’r cynllun. Y lleihad yn y defnydd ynni
oedd 1,495 kWh trydan oedd yn ostyngiad o 4% a 723 kg CO2, ac arbedwyd £180.54 mewn
trydan a chostau treth Carbon. Felly byddai potensial i wneud lleihad blynyddol o 77,714 kWh
trydan a 37,580 kg CO2 a fyddai’n arbediad blynyddol o £9,388.07 mewn trydan a chostau treth
Carbon. Mae hynny'n ddigon i gynhesu bron i 5 cartref tair ystafell wely bob blwyddyn! Dangos-
odd yr ymarfer yr arbedion go iawn y gellir eu cyflawni gyda dim ond ychydig o newidiadau bach
yn y ffordd mae pobl yn gweithio.
Dywedodd Dr Einir Young, Cyfarwyddwr Datblygu Cynaliadwy ym Mhrifysgol Bangor:
“Roedd y digwyddiad yn ffordd o ymgysylltu a grymuso myfyrwyr a staff mewn gweithredoedd
cynaliadwyedd, a chodi proffil materion cynaliadwyedd ar draws y Brifysgol. Roedd cymryd rhan
yn y digwyddiad effaith uchel hwn yn eistedd yn dda gyda’n hymrwymiad i ‘Ddod a Cynaliadwy-
edd yn fyw' a gyda’n enw da fel Prifysgol Gwyrddaf Cymru ac yn un o'r Prifysgolion Gwyrddaf yn
y DU. ”
Y Brifysgol yn dathlu Gwobrau Effaith Werdd 2014 Yn ddiweddar, dathlodd Prif-ysgol Bangor ei blwyddyn gynt-af o gymryd rhan yn y Project Effaith Werdd, gan gynnal Seremoni Wobrwyo. Bu’r digwyddiad yn gydnabyddiaeth o waith caled y timau i wneud eu gweithleoedd yn fwy gwyrdd yn ystod y flwyddyn, ac o gyfraniad cynyddol y staff at ‘wyrddio’ eu gweithleoedd wrth weithredu arferion i’w gwneud yn fwy cynaliadwy. Mae Effaith Werdd yn gynllun achredu amgylcheddol a gynhelir yn lleol gan Dîm Cynaliadwyedd Prifysgol Ban-gor, a archwilir gan fyfyrwyr ac a reolir gan Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr (UCM). Gall timau gasglu pwyntiau yn ôl faint o weithgareddau gwyrddio a gwblhânt yn y gweithle, a gallant ennill safon Efydd, Ar-ian neu Aur. Am y flwyddyn gyntaf o gymryd rhan yn y proj-ect,
enillodd naw tîm y Wobr Efydd ac enillodd un tîm y Wobr Aur. Dyma Enillwyr y Wobr Efydd eleni: Dyfrdwy, Library Worms, Cymraeg i Oedolion, Thoday, y Drydedd Fordd, UniPlanet, PVC Posse a Gweithwyr Coleri Gwyrdd. Tîm ‘Fifty Shades of Green’ a enillodd y Wobr Aur. Meddai Mair Rowlands, Swyddog Cynaliadwyedd Prifysgol Bangor a fu’n cydlynu’r project, “Roedd y seremoni’n ffordd wych o ddathlu’r gwaith gwych a wneir gan staff i leihau effaith eu gweithleoedd ar yr amgylch-edd. Roedd yn ysbrydoliaeth gweld y creadigrwydd, yr an-gerdd a’r ymroddiad a gyfran-nwyd gan y timau at yr Effaith Werdd. Meddai’r Athro John Hughes, Is-Ganghellor, “Mae’r enw da cynyddol y mae Prifysgol Bangor wedi’i ennill ers ychydig flynyddoedd i’w briodoli i waith gwych ei staff a’i myfyrwyr. Rydym yn falch iawn o’n cynnydd ac wrthi’n ennill enw da ar lefel genedlaethol am
gynaliadwyedd y mae’r gwobrau hyn yn adlewyrchiad cwbl deg ohono.” Gwirfoddolodd deg o fyfyrwyr Prifysgol Bangor fel archwilwyr ar gyfer yr Effaith Werdd. Cawsant hyfforddiant perthnasol gan UCM mewn technegau archwilio amgylcheddol, buont yn dysgu sut y cynhelir y Brifysgol, ac yn datblygu medrau defnyddiol ar gyfer eu gyrfaoedd yn y dyfodol. Bu’r seremoni hon hefyd yn gyfle i ddathlu llwyddiant parhaus gwaith Undeb y Myfyrwyr ym maes cynaliadwyedd a’i gamp wrth ennill Gwobr Aur uchel ei pharch yng Ngwobrau Effaith Werdd UCM, gan ennill Gwobr ‘Communications Challenge’ yr Ecologist o ganlyniad i ffilm ‘eco-stunt’ un funud, gan ddefnyddio cyfrwng ffilm i gyflwyno neges amgylcheddol. Cafodd Undeb y Myfyrwyr hefyd ei enwi’n Undeb y Flwyddyn (anfasnachol).
Cynhadledd Ryngwladol EEAC 2013 ym Mhrifysgol Bangor
Cynhaliwyd Cynhadledd ryngwladol yn canolbwyntio ar ymagwedd ar 'ecosystemau’ ym
Mhrifysgol Bangor ddydd Gwener 18 Hydref, 2013.
Bu gwyddonwyr a chynghorwyr polisi sy'n darparu cyngor annibynnol yn seiliedig ar dystiolaeth
i’w llywodraethau cenedlaethol yn trafod y datblygiadau polisi diweddaraf ac ymchwil mewn
rheoli ecosystemau ar lefelau Ewropeaidd, y DU a Chymru, ac yn benodol, sut mae’r
gwyddoniaeth yn troi yn bolisïau.
Gwnaethant rannu enghreifftiau o arfer da o Ewrop a'r DU yn ehangach, ac yn naturiol, roedd y
ffocws ar ddatblygiadau diweddar a wnaed yng Nghymru, gan gynnwys y corff amgylcheddol
newydd - Adnoddau Naturiol Cymru, a chynnydd gyda sawl prosiect ymchwil gwasanaethau
Ecosystemau gwerth £miliwn.
Wrth groesawu'r Gynhadledd ar ran Prifysgol Bangor, dywedodd Yr Athro John G. Hughes,
Is - Ganghellor y Brifysgol:
“Rydym yn falch iawn i gynnal y Gynhadledd hon ar ei ymweliad cyntaf â Chymru. Mae gan y
Brifysgol enw da yn rhyngwladol am ymchwil ac addysgu yn y gwyddorau amgylcheddol, a
rydym wedi gwneud ymrwymiadau cynaliadwyedd clir, a fe gydnabyddir yn ein statws fel y
Brifysgol ‘wyrddaf’ yng Nghymru. Mae un o'r nifer o ffyrdd y gall addysg uwch gyfrannu yn cael
ei arddangos gan ein Canolfan Ymchwil Amgylcheddol Cymru, sydd o fewn ein Coleg Adnoddau
Naturiol. Wedi'i ariannu gan Lywodraeth Cymru, mae’r Ganolfan yn manteisio ar arbenigedd o
fewn prifysgolion a sefydliadau i ddarparu'r sylfaen o dystiolaeth sy'n llywio ac yn ategu polisi'r
llywodraeth."
Mae Cynghorau Cynghori ar Ddatblygu Cynaliadwy yr Amgylchedd Ewropeaidd (EEAC) wedi
cael eu sefydlu yn y rhan fwyaf o wledydd Ewrop, ac mae eu Rhwydwaith yn cynrychioli 16 o
wledydd Ewropeaidd. Cafodd y Gynhadledd ei gyd-gynnal gan Brifysgol Bangor ac Adnoddau
Naturiol Cymru .
Mae myfyrwyr Ysgol Busnes Bangor wedi
cymryd rhan mewn datblygu ymgyrch diwedd
tymor i leihau problemau gwastraff ym Mangor.
Mae'r ymgyrch Swynwr y Sbwriel lle bydd
partneriaid yn gweithio gyda'i gilydd i fynd i'r af-
ael â'r broblem flynyddol o wastraff ar ddiwedd
tymor o ollwng sbwriel ar y stryd a mannau cy-
hoeddus eraill, wedi cael ei ddatblygu a bydd yn
cael ei arwain gan fyfyrwyr Meistr o Ysgol
Fusnes y Brifysgol ar y cyd â Chyngor Gwynedd.
Nod yr ymgyrch a arweinir gan fyfyrwyr yn
defnyddio y cymeriad doniol ac ysgafn ‘Swynwr
y Sbwriel’ er mwyn codi ymwybyddiaeth o'r ang-
en i gael gwared ar sbwriel ac ailgylchu’n gyfrifol.
Mae Cyngor Gwynedd yn chwarae ei ran yn yr
ymgyrch drwy drefnu casgliadau gwastraff
ychwanegol ar y stryd i gyd-fynd a’r ymgyrch
Swynwr y Sbwriel. Bydd y Cyngor yn
canolbwyntio ar gasglu sbwriel myfyrwyr i wella'r
amgylchedd lleol ar adeg pan mae gwastraff
diwedd tymor yn gallu adeiladu a gollwng dros
strydoedd. Bydd y Swynwr Sbwriel yn dod i
Fangor ar yr 2il, 9fed a 16eg o Fehefin gan ofyn i
fyfyrwyr i roi eu sbwriel ychwanegol allan ar y
dyddiau dynodedig arbennig yma wrth glirio eu
llety. Fel rhan o'r ymgyrch, bu yna hefyd
sesiwn godi sbwriel i fyfyrwyr ym Mangor ar
ddydd Mercher y 28ain o Fai ar y cyd gyda
Gwirfoddoli Myfyrwyr Bangor.
Achrediad ISO14001
Yn dilyn archwiliad allanol dwys ym mis Mawrth
eleni, mae Prifysgol Bangor wedi llwyddo i gael
eu hardystio ar gyfer ISO 14001:2004 am ei ym-
rwymiad parhaus i wella’r amgylchedd. ISO
14001 yw'r safon a gydnabyddir yn rhyngwladol
ar gyfer sefydliadau sy'n rhagweithiol yn rheoli
eu heffeithiau amgylcheddol drwy System Rheoli
Amgylcheddol ffurfiol (EMS). Mae'r wobr hon yn
adeiladu ar ein tystysgrif Draig Werdd yr ydym
wedi cynnal ers 2009.
Dywedodd Ricky Carter, Rheolwr Amgylcheddol
Prifysgol Bangor, "Mae y Ddraig Werdd ac
ISO14001 yn gofyn am reolaeth systematig o'r
gweithgareddau hynny sy'n effeithio ar yr
amgylchedd. Mae’r Ddraig Werdd yn safon rheoli
credadwy iawn yng Nghymru ac i adeiladu ar
hyn drwy gyflawni ISO 14001 mae’n dangos yn
glir i'n rhanddeiliaid ar lefel fyd-eang, bod ein
Prifysgol wedi ymrwymo i ddiogelu a gwella ein
hamgylchedd naturiol”.
Rydym o hyd yn chwilio am syniadau er mwyn
gwellau perfformiad amgylcheddol; gyrrwch
unrhyw sylwadau neu awgrymiadau at
Swynwr y Sbwriel — Myfyrwyr yn taclo problemau gwastraff Bangor
Pŵer Gwyrdd i bobl Conwy
Mae Cartrefi Conwy wedi uno gyda Phrifysgol Bangor er mwyn mynd i’r afael â materion tlodi tanwydd a chostau cynyddol ynni eu tenantiaid.
Mae’r prosiect sy’n torri tir newydd yn bosib o
ganlyniad i arian gan Fwrdd Technoleg Strategol
Llywodraeth Cymru yn dilyn cymorth dechreuol
gan Rwydwaith WISE.
O ganlyniad, mae Dr Liz Shepherd wedi dechrau
astudiaeth dwy flynedd gyda’r nod o sefydlu
Cwmni Gwasanaethu Ynni (neu ESCo) fydd yn
darparu gwres a phŵer i denantiaid drwy ddull-
iau carbon isel.
Mi fydden ni’n edrych ar sawl ffordd y gallwn ni gynhyrchu egni gan gynnwys paneli solar, tyr-binau gwynt graddfa fechan ac efallai pympiau
gwres sy’n defnyddio technoleg er mwyn ech-dynnu gwres o’r aer, y ddaear a dŵr. Gall cym-unedau sy’n byw mewn mannau uchel yn Nyff-ryn Conwy gael mynediad at dechnoleg trydan dŵr hefyd. Efallai bydd yn bosib defnyddio llif nentydd ac afonydd i greu ynni,” dywedodd Liz.
Mae Adrian Johnson, Rheolwr Asedau a Chyn-
aliadwyedd Cartrefi Conwy, yn frwdfrydig iawn
am y prosiect:
Mae unrhyw beth allwn wneud i fynd i’r afael a thlodi tanwydd a lleihau costau ynni i’n tenanti-aid gwerth ei ddilyn. Mae yna lawer o dechnol-eg newydd ac os allwn ei ddefnyddio er mwyn cynorthwyo ein cymunedau a’n tenantiaid mae’n bwysig i ni wneud hynny. Rydym yn edrych ‘mlaen hefyd at ddatblygu mwy o brosiectau ar y cyd gyda Rhwydwaith WISE er mwyn datblygu dyfodol disglair gan ddefnyddio ymchwil o fewn y cwmni,” dywedodd.
Teithio am Ddim efo Bysus Arriva Mae Bysus Arriva Cymru wedi ymuno â
Phrifysgol Bangor i gynnig teithio AM DDIM i
fyfyrwyr a staff sy'n teithio yn ôl ac ymlaen i'r
brifysgol yn ystod Wythnos Hinsawdd.
Meddai Ricky Carter, Rheolwr
Amgylcheddol y brifysgol: "Mae'r cynnig
hael hwn gan Arriva yn annog ein staff a
myfyrwyr i ystyried ffordd fwy
amgylcheddol o ddod i'r brifysgol na dod yn y car ac mae hefyd yn codi ymwybyddiaeth o
fanteision iechyd a lles defnyddio cludiant cyhoeddus i deithio yn ôl ac ymlaen i'r brifysgol.” Heb
gymorth Arriva, ni fyddai hyn wedi bod yn bosib."
BREAD4PLA
Mae Canolfan Biogyfansoddion Prifysgol Bangor
wedi bod ar y blaen o ran ymchwil, datblygu a
chymhwyso masnachol sy'n seiliedig ar Biogyfan-
soddion amgen yn lle deunyddiau synthetig, yn y
maes gweithgynhyrchu a diwydiant. Mae BC yn
cyfuno adnoddau technegol ac
academaidd o Brifysgol Bangor gyda rhagolygon
masnachol ac ymarferol i gynnig pecyn cyflawn o
ymchwil, arloesedd a chais am dechnoleg biogyf-
ansoddion.
Un o’u prosiectau diweddaraf yw BREAD4PLA
sy’n brosiect Ewropeaidd i gynhyrchu asid Poly-
lactic ( PLA ) Biopolymerau o gynhyrchion gwast-
raff y diwydiant pobi. Prif amcan y Project LIFE
yw dangos mewn proses peilot planhigion
cyn-gynhyrchiol barhaus, beth yw hyfywedd Asid
Polylactic (PLA) synthesis o gynhyrchion
gwastraff y diwydiant pobi a'u defnyddio yn y
broses gynhyrchu o ffilm 100% bioddiraddadwy i
gael eu defnyddio yn y pecynnu o gynnyrch pobi
(gan gau'r cylch bywyd).
Mae llawer o blastig bioddiraddadwy yn cael eu
cynhyrchu o ffynonellau adnewyddadwy fel cnyd-
au (gwenith, siwgr, betys, cansen, siwgr, tatws,
... ), gan arwain at drafodaethau
cymdeithasol a gwleidyddol oherwydd pen y daith
i fwyd dynol at y diben hwn. Mae BREAD4PLA yn
ateb i'r broblem hon, gan fod y deunyddiau crai i
gynhyrchu plastig bioddiraddadwy yn is-
gynhyrchion i’r diwydiant pobi, sydd fel arfer yn
cael eu cyfeirio at fwydo anifeiliaid.
Mae'r prosiect, a gydlynir gan AIMPLAS, yn
brosiect tair mlynedd ac mae'r tasgau cyntaf
eisoes wedi cychwyn: dethol, cymeriadu a trin yr
is-gynhyrchion o'r diwydiant pobi. Yn ystod y
misoedd nesaf, bydd y gwaith yn canolbwyntio ar
gael yr asid lactig allan o’r is-gynhyrchion a
ddewiswyd.
Yn ogystal â BC mae consortiwm y prosiect hefyd
wedi ei ffurfio gan y canolfannau arbenigol can-
lynol :
_CETECE : Sefydliad Technolegol Grawnfwyd-
ydd yn Palencia, Sbaen
_ATB : Sefydliad Amaethyddol yn Postdam,
Yr Almaen
_AIMPLAS : Sefydliad Technolegol Plastig yn
Valencia, Sbaen.
Melin Drafod Cynaliadwyedd@Bangor Byddwn yn trefnu cyfres misol nesaf y Felin Drafod Cynaliadwyedd dros gyfnod yr haf os oes
gennych unrhyw syniadau neu bynciau yr hoffech eu gyflwyno neu i’w trafod. Syniad y Felin Drafod
yw hyrwyddo syniadau a thrafodaeth o amgylch yr agweddau Amgylcheddol, Cymdeithasol,
Diwylliannol, Moesegol ac Ariannol o Gynaliadwyedd ym Mhrifysgol Bangor gyda pobl a
chymunedau o fewn ac o amgylch campws y Brifysgol, ac yn enwedig ar gyfer cyfranogwyr i arwain
eu prosiectau a gweithgareddau eu hunain i greu dyfodol cynaliadwy i Brifysgol Bangor.
Gair gan Dr Einir Young Y Pennaeth Datblygu Cynaliadwy Mae'r cylchlythyr hwn wedi dal y brwdfrydedd a’r diddordeb cynyddol a o amgylch cynaliadwyedd ym Mangor. Mae gan y Brifysgol arbenigedd sylweddol ym maes Datblygu Cynaliadwy ac arferion cynaliadwy. Rydym yn darparu gwasanaethau datblygu cynaliadwy ar ran naw Prifysgolion yng Nghymru ar draws prosiectau mawr a ariennir gan Ewrop, mae cynaliadwyedd yn cael ei gyflwyno i addysgu craidd y brifysgol drwy brosiectau megis y gynhadledd poster BSc Dadansoddi Ymddygiad Cymhwysol; yn y rhaglen entrepreneuriaeth gymdeithas-
ol a lansiwyd yn 2011 ac sydd wedi parhau i dyfu; wrth weithio mewn partneriaeth i greu Eco - Amgueddfa yn lleol; drwy’r arbenigedd sylweddol a chyswllt diwydiannol yn y maes sy’n ymestyn o ddeunyddiau amgen, bio-buro i ynni adnewyddadwy .... mae'r rhestr yn ddi ddiwedd. Mae'r Brifysgol hefyd wedi gwneud ei ymrwymiad mewnol ei hun i ymddwyn fel ' lab fyw' o ran ein arferion cynaliadwy ein hun ac ar y sail barhaus ein bod wedi ymrwymo i dreialu a gwerthuso ymyriadau o fewn ein diwylliant ein hunain a’n systemau a phrosesau er mwyn creu llwyfan sy'n seiliedig ar dystiolaeth ar gyfer cydweithio llwyddiannus gyda diwydiant a'r sector cyhoeddus fynd i'r afael â'r heriau o ddyfodol cynaliadwy. Dyma’r lle i chi fel myfyrwyr a staff yn dod i mewn gyda eich syniadau. Mae Melin Drafod yn cyfarfod unwaith y mis ac yn aml mae cwestiynau ymchwil y mae angen atebion yn codi. Rydym yn cyd-drefnu rhestr o bynciau prosiect posibl y gallech fod â diddordeb gwneud cais amdanynt fel rhan o'ch astudiaethau israddedig neu ôl-raddedig. Bydd canlyniadau yr ymchwil yma’n cyfrannu at ddealltwriaeth gwell o sut mae ein campws hun yn gweithio a beth sydd angen i ni fynd i’r afael ag e’n wahanol, a sut i wneud hynny. Ar gyfer eich dyddiadur: Ar 9 Gorffennaf yn y Fforwm Gweithredu Cynaliadwyedd bydd SBBS Cynaliadwyedd@Bangor yn cynnal trafodaeth wedi'i hwyluso gan Mike Palmer o Swyddfa Archwilio Cymru ar "Mae'r Brifysgol rydym am / The Nghymru, rydym eisiau ei gael".
www.bangor.ac.uk/cynaliadwyedd
Stop Cyn Creu Bloc ym Mangor Mewn cydweithrediad â diwrnod dŵr y byd (Mawrth 22), fe wnaeth Prifysgol Bangor a Dŵr Cymru ymuno i gynyddu ymwybyddiaeth o broblem sy'n effeithio pob un ohonom. Mae rhwystrau mewn carthffosydd yn arwain at ddifrod amgylcheddol enfawr ac yn achosi dioddefaint yn lleol drwy lifogydd mewn cartrefi. Nod yr ymgyrch Stop Cyn Creu Bloc oedd i annog pobl i leihau'r llygredd a llifogydd garthffosiaeth yn eu cartrefi. Prif ffocws yr ymgyrch oedd i gael gwared ar y syniad wrth bod rhywbeth allan o’ch golwg ei fod hefyd allan o’ch meddwl drwy dynnu sylw at yr holl bethau sy’n cael eu fflysio i lawr ein toiledau a lleihau brasterau gegin sy’n aml yn cael ei arllwys i lawr y draen.