annwyl aelod o bartneriaeth bioamrywiaeth cymru, croeso i … · 2020. 3. 5. · croeso i newyddlen...
TRANSCRIPT
-
D I L Y N W C H ni ar T W I T T E R
Gwefan
Annwyl aelod o Bartneriaeth Bioamrywiaeth Cymru,
croeso i newyddlen mis Chwefror 2020
Nid yw'r erthyglau a ddangosir wedi'u cymeradwyo gan Bartneriaeth Bioamrywiaeth Cymru
Y N e w y d d i o n D i w e d d a r a f
Adroddiad Gwyddoniaeth a Thystiolaeth ar Dreial Afancod yr Afon Otter
Drwy Dreial Afancod yr Afon Otter, cafwyd cyfnod o bum mlynedd ar gyfer arsylwi ar gam cytrefu
afancod (Castor fiber) mewn dalgylch afon tir isel yn ne Dyfnaint.
Mae effaith dulliau adeiladu ac arferion bwydo afancod wedi darparu nifer o fuddion ecolegol sylweddol
wrth i ardaloedd newydd o gynefin gwlyptir gael eu creu a'u rheoli, a cheir buddion hysbys ar gyfer
amffibiaid, adar hela a llygod y dŵr. I fyny'r afon o bentref lle ceir eiddo sydd mewn perygl rhag
llifogydd, mae afancod wedi adeiladu cyfres o argaeau, ac o ganlyniad gwelwyd gostyngiad mewn llifau
brig. Mae poblogaethau o bysgod wedi gweld buddion mewn ardaloedd o weithgarwch afancod. Roedd
yr adroddiad yn cynnwys crynodeb o'r gost feintioledig, ac mae'r buddion a ddaeth o ganlyniad i
https://twitter.com/WBP_wildlifehttp://www.biodiversitywales.org.uk/CARTREFhttps://www.exeter.ac.uk/creww/research/beavertrial/http://www.twitter.com/http://www.biodiversitywales.org.uk/
-
ailgyflwyno afancod yn dangos bod y gwasanaethau ecosystemau a'r buddion cymdeithasol a gafwyd
yn fwy na'r costau ariannol yr aethpwyd iddynt.
Darllenwch yr adroddiad yma
Yng Nghymru, gallai afancod gael eu hailgyflwyno am y tro cyntaf ers mwy na 400 o flynyddoedd, ac
mae astudiaeth ddichonoldeb wedi'i chynnal gan Brosiect Afancod Cymru. Yn amodol ar ganlyniadau
gwaith ymgynghori a thrwyddedu, gallai'r gwaith ailgyflwyno, a reolir dros bum mlynedd, fynd yn ei flaen
ar afon Dyfi ym Mhowys.
Ailgyflwynwyd afancod yn yr Alban yn 2009.
Afanc © David Parkyn / Cornwall Wildlife Trust
Cynllun ariannu Lleoedd Lleol ar gyfer Natur gan Cadwch Gymru’n Daclus Mae'r cyfnod ymgeisio bellach ar agor i grwpiau cymuned a sefydliadau sy'n ceisio gwrthdroi'r dirywiad mewn natur. Y dyddiadau cau ar gyfer pob rownd ymgeisio yw: 6 a 27 Mawrth a 17 Ebrill. Os hoffech ragor o fanylion ewch i wefan Cadwch Gymru'n Daclus Mae'r pecyn hwn yn rhan o gronfa ehangach 'Lleoedd Lleol ar gyfer Natur' Llywodraeth Cymru sy'n werth £5 miliwn ac sy'n ymrwymedig i gaffael, adfer a gwella natur 'ar drothwy eich drws'.
Offeryn cyfalaf naturiol
Lansiwyd adnodd ar-lein newydd ar gyfer mesur cyfalaf naturiol.
Mae'r offeryn yn cyfrifo sgôr effaith datblygiadau ar gyfer 10 gwasanaeth ecosystem gwahanol, gan
roi arwydd o gyfeiriad, a maint effaith y datblygiadau ar bob gwasanaeth a asesir ar wahân, yn ogystal â
phob
gwasanaeth gyda'i gilydd, dros gyfnod o 25 blynedd ar ôl cwblhau'r datblygiad.
Nod yr offeryn cyfalaf naturiol yw sicrhau nad oes angen arbenigedd penodol ym maes gwasanaethau
ecosystemau ar y defnyddiwr.
Mae'r defnyddiwr yn mewnbynnu amrediad o ddangosyddion, fel newidiadau mewn defnydd tir, sy'n
hawdd cael gafael arnynt yn rhad ac am ddim, i'r offeryn.
Datblygwyd yr adnodd mewn cydweithrediad ag arbenigwyr ar draws DEFRA a'i asiantaethau, a
chafodd ei lywio gan waith cyrff academaidd, proffesiynol a gwirfoddol fel y Valuing
Nature Network, er mwyn sicrhau bod y dystiolaeth orau sydd ar gael yn cael ei chynnwys mewn modd
sy'n hwylus i ddefnyddwyr. Cyfalaf naturiol yw cyfanswm ein hecosystemau, sy'n rhoi bwyd,
aer a dŵr glân, bywyd gwyllt, ynni, coed a hamdden i ni, ac sy'n ein hamddiffyn rhag peryglon.
Gellir defnyddio'r offeryn, mewn egwyddor, unrhyw le yn y DU. Yng Nghymru mae'r dull wrthi'n cael ei
ddatblygu, yn arbennig o ran sut y gellir defnyddio Datganiadau Ardal i ddisgrifio'r gwasanaethau
ecosystemau sy'n bresennol.
https://www.exeter.ac.uk/creww/research/beavertrial/https://www.welshbeaverproject.org/cy/cartref/https://www.keepwalestidy.cymru/pages/category/naturehttps://www.gov.uk/government/news/natural-capital-tool-launched-to-help-protect-the-environment
-
Cyhoeddi'r Crynodeb o Dystiolaeth Fframwaith Datblygu Cenedlaethol Cymru
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi crynodeb o dystiolaeth fel canllaw ategol i ddrafft y Fframwaith
Datblygu Cenedlaethol a'r papurau esboniadol a gyhoeddwyd yn gynnar ym mis Ionawr. Mae'n barod
bellach, ac ar gael ar ei gwefan.
Mae effeithiau byd-eang defnydd tir ar fioamrywiaeth yn wahanol ynmhlith grwpiau swyddogaethol.
Mae astudiaeth fyd-eang wedi canfod mai ysglyfaethwyr, yn enwedig anifeiliaid di-asgwrn-cefn bach fel
corynnod a buchod coch cwta, yw'r mwyaf tebygol o gael eu colli pan gaiff cynefinoedd naturiol eu trosi'n dir amaethyddol neu'n drefi a dinasoedd. Cyhoeddwyd y canfyddiadau yng
nghyfnodolyn Functional Ecology y British Ecological Society .
Testun yn seiliedig ar erthygl y British Ecological Society
Dolen
Gwanwyn Glân Cymru
Ymunwch â digwyddiad mawr Gwanwyn Glân Cymru 20 Mawrth – 13 Ebrill
Y gwanwyn hwn, mae Cadwch Gymru’n Daclus yn galw arnoch i helpu i wella'r amgylchedd sydd ar
drothwy ein drws. Ei fwriad yw ysbrydoli miloedd o bobl i gydweithio er mwyn casglu, a chael gwared ar
sbwriel yn ddiogel oddi ar ein strydoedd, parciau a thraethau, gan ailgylchu cymaint ohono ag sy’n
bosibl.
https://llyw.cymru/fframwaith-datblygu-cenedlaethol-ffdc-casgliad-o-dystiolaeth?_ga=2.4430131.1873209073.1583321655-85784196.1580406284https://www.britishecologicalsociety.org/global-study-finds-predators-likely-lost-habitats-converted-human-use/https://www.biodiversitywales.org.uk/Content/Upload/Cylchlythyr%203%20Grŵp%20Rhywogaethau%20Estron%20Goresgynnol%20Cymru.pdfhttps://www.keepwalestidy.cymru/pages/site/cy/category/gwanwyn-glan-cymruhttps://www.biodiversitywales.org.uk/Content/Upload/Cylchlythyr%203%20Grŵp%20Rhywogaethau%20Estron%20Goresgynnol%20Cymru.pdf
-
Dolen
D i w e d d a r i a d P o l i s i
G r ŵ p G w e i t h r e d u ' r C y n l l u n G w e i t h r e d u
A d f e r N a t u r
Mae grŵp gweithredu'r Cynllun Gweithredu Adfer Natur yn llywio ac yn gyrru'r gwaith o
gyflawni a gweithredu'r Cynllun Gweithredu Adfer Natur. Mae’r grŵp yn dilyn dull
cydweithredol o ran cyflawni'r cynllun, ac mae ganddo amrediad eang o aelodaeth yn
cynnwys Llywodraeth Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru, Cyd-bwyllgor Cadwraeth Natur,
sefydliadau cadwraeth natur, y sector ffermio a sefydliadau eraill o'r sector cyhoeddus a'r
https://naturalresources.wales/guidance-and-advice/business-sectors/education-learning-and-skills/wales-outdoor-learning-week/?lang=cyhttps://llyw.cymru/cynllun-gweithredu-adfer-natur-2015?_ga=2.96090396.1873209073.1583321655-85784196.1580406284https://naturalresources.wales/guidance-and-advice/business-sectors/education-learning-and-skills/wales-outdoor-learning-week/?lang=cy
-
sector preifat.
Ar hyn o bryd, mae'r grŵp yn canolbwyntio ar adnewyddu Rhan II (Ein Cynllun
Gweithredu) o'r Cynllun Gweithredu Adfer Natur, fel y cyhoeddwyd gan Weinidog yr
Amgylchedd yn ystod Cynhadledd Partneriaeth Bioamrywiaeth Cymru yn 2018.
Cynhaliodd y grŵp gyfres o weithdai er mwyn datblygu'r gwaith adnewyddu, a chynhelir
cyfarfod llawn nesaf grŵp gweithredu'r Cynllun Gweithredu Adfer Natur ar 3 Mawrth.
Ceir rhagor o wybodaeth ar grŵp gweithredu'r Cynllun Gweithredu Adfer Natur, gan
gynnwys y grwpiau amrywiol a gomisiynwyd i ddatblygu tasgau a blaenoriaethau penodol,
ar wefan Partneriaeth Bioamrywiaeth Cymru.
D e d d f w r i a e t h a u a s t r a t e g a e t h a u
a l l w e d d o l
Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016
I gael rhagor o fanylion am Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) a rhestr o ddogfennau
ategol cliciwch yma.
Lluniwyd y Canllaw hwn gan Lywodraeth Cymru i gynorthwyo a chefnogi awdurdodau cyhoeddus i gydymffurfio â dyletswydd Bioamrywiaeth a Chydnerthedd Ecosystemau (dyletswydd A6) wrth gyflawni swyddogaethau mewn perthynas â Chymru, a gyflwynwyd gan Adran 6 o dan Ran 1 o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016.
Y Polisi ar Adnoddau Naturiol yw'r ail elfen statudol sy'n deillio o Ddeddf
yr Amgylchedd (Cymru)
• Cynnig atebion sy'n seiliedig ar natur,
• Cynhyrchu mwy o ynni adnewyddadwy a defnyddio adnoddau'n fwy effeithlon,
• Gweithredu mewn ffordd sy'n seiliedig ar leoedd.
Y camau nesaf
Mae CNC yn defnyddio’r wybodaeth i gynllunio a thargedu eu cyfathrebu a’n
hymgysylltu o safbwynt Datganiadau Ardal.
Adroddiad o Gyflwr Adnoddau Naturiol (SoNaRR) 2016
Ac – am y tro cyntaf – mae’r adroddiad yn creu’r cysylltiad rhwng cydnerthedd
adnoddau naturiol Cymru a lles pobl Cymru.
Cysylltwch â ni ar [email protected]
Mae adroddiad interim SoNaRR 2019 wedi'i gyhoeddi a bydd yr adroddiad llawn yn cael ei
https://www.biodiversitywales.org.uk/Cynllun-Adfer-Natur-Cymruhttps://biodiversitywales.us2.list-manage.com/track/click?u=2cf93706f530c57a639a2c5cc&id=19611ef4cc&e=f890149ab6https://llyw.cymru/deddf-yr-amgylchedd-cymru-2016-rheoli-adnoddau-naturiol-yn-gynaliadwy?_ga=2.77970711.2070531544.1561635341-1345813498.1530107459https://www.biodiversitywales.org.uk/Adran-6https://naturalresources.wales/about-us/area-statements/?lang=cymailto:[email protected]://naturalresources.wales/evidence-and-data/research-and-reports/state-of-natural-resources-interim-report-2019/?lang=cy
-
lansio'n ddiweddarach yn 2020.
Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015
I gael manylion am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) cliciwch yma
Os ydych chi wedi darllen neu ddefnyddio’r Fframwaith anfonwch eich adborth atom
ni ar [email protected]
Cynllun Adfer Natur
I gael rhagor o fanylion yn amlinellu amcanion y Cynllun Adfer Natur ac esboniad o’r
rhannau sydd ynddo, ewch i wefan Llywodraeth Cymru.
Diweddariad y Tasglu Peillwyr I gyfrannu at waith y Grŵp Peillwyr yng Nghymru, ac am ragor o fanylion am
weithgareddau’r grŵp, cysylltwch â [email protected] neu ewch i’r adran
peillwyr ar wefan Partneriaeth Bioamrywiaeth Cymru. Caiff cyfarfod nesaf Tasglu’r
Cynllun Gweithredu ar gyfer Pryfed Peillio ei gynnal ym Moelyci ar 20 Ebrill a bydd yn
canolbwyntio ar weirgloddiau.
Dolen
http://www.legislation.gov.uk/cy/anaw/2015/2/contents/enactedmailto:[email protected]://llyw.cymru/cynllun-gweithredu-adfer-natur-2015?_ga=2.236820994.2070531544.1561635341-1345813498.1530107459mailto:[email protected]://www.biodiversitywales.org.uk/Cynllun-Gweithredu-Cymru-ar-gyfer-Pryfed-Peilliohttp://www.biodiversitywales.org.uk/Cynllun-Gweithredu-Cymru-ar-gyfer-Pryfed-Peilliohttp://www.sewbrec.org.uk/event/lerc-wales-symposium.pagehttp://www.sewbrec.org.uk/event/lerc-wales-symposium.page
-
R h y w o g a e t h y m i s
Mae rhywogaeth y mis yn nodwedd newydd a gyflwynir mewn cydweithrediad â
Chanolfannau Cofnodion Amgylcheddol Lleol yng Nghymru. Gallwch gyflwyno
cofnodion am rywogaethau i roi sylw iddynt, neu unrhyw rywogaeth arall (dim ots pa mor
gyffredin yw hi) i un o’r pedair Canolfan Cofnodion Amgylcheddol Lleol - gyda phob un
ar gyfer ardal benodol o Gymru. I weld pa Ganolfan sydd ar gyfer eich
lleoliad daearyddol chi, cliciwch yma
Rhywogaeth Mis Ionawr a Chwefror: Alan mawr (Petasites hybridus)
Mae’r alan mawr yn blanhigyn anghyffredin yr olwg sy'n ffurfio lleiniau mewn
cynefinoedd llaith fel glannau afon, coetiroedd gwlyb a dolydd llaith. Mae'r sbrigynnau
blodau tal yn ffurfio cyn y dail, a gellir eu gweld ar ddechrau'r gwanwyn. Mae'r
rhywogaeth yn debyg o ran ei golwg i'r rhywogaeth estron oresgynnol yr alan pêr
(Petasites fragrans), ond ceir nifer o wahaniaethau allweddol: Nid oes gan yr alan mawr
arogl ac mae ganddo ddail mawr sy'n llwyd oddi tanynt, ond mae gan yr alan pêr arogl
cryf o fanila a dail bychain sy'n wyrdd oddi tanynt. Mae’r alan mawr yn blanhigyn
cyffredin yng Nghymru ond ni chaiff ei gofnodi ddigon – gallwch weld y dosbarthiad o’r
alan mawr y gwyddys amdano yng Nghymru yma ar Aderyn. Gellir cael rhagor o
wybodaeth yn Plantlife a NatureSpot.
Ffynhonnell y testun - Addaswyd o SEWBReC
Alan mawr © Paul Parsons
https://www.lercwales.org.uk/https://aderyn.lercwales.org.uk/public/distribution/10k/results?taxon_dict_id=1777930https://www.plantlife.org.uk/uk/discover-wild-plants-nature/plant-fungi-species/butterburhttps://www.naturespot.org.uk/species/butterburhttps://www.plantlife.org.uk/uk/discover-wild-plants-nature/plant-fungi-species/butterbur
-
D i s g r i f i a d S w y d d Cyfle- Job Adfer River Rheolwr -Programme Cynefin
Adfer River Rheolwr Rhaglen Habitat-
Dyddiad Cau: 15 Mawrth Dolen
Tir Coed
Mae Tir Coed yn recriwtio ar gyfer 3 swydd
Rheolwr Marchnata a Chyfathrebu
http://tircoed.org.uk/files/downloads/JD.Rheolwr.Marchnata2020.02.11.pdf
Codwr Arian http://tircoed.org.uk/files/downloads/JD.Codwr.Arian.2020.02.11.pdf
Cydlynydd Sir Benfro
http://tircoed.org.uk/files/downloads/JD.Cydlynydd.Sir.Benfro.2020.02.11.pdf
Y m g y n g h o r i a d a u Cynllun Aer Glân i Gymru
Hoffem glywed eich barn ynghylch ein dull o leihau llygredd aer yng Nghymru.
Dolen
Dyddiad gorffen: 10 Mawrth
Strategaeth economi gylchol
Hoffai Llywodraeth Cymru gael eich barn am ein strategaeth i sicrhau bod Cymru'n wlad carbon
isel, diwastraff sy'n defnyddio cyfran deg o adnoddau.
Dolen Dyddiad cau'r ymgynghoriad: 3 Ebrill
https://www.welshdeetrust.com/job-opportunity-restoring-river-habitat-programme-manager/http://tircoed.org.uk/files/downloads/JD.Rheolwr.Marchnata2020.02.11.pdfhttp://tircoed.org.uk/files/downloads/JD.Codwr.Arian.2020.02.11.pdfhttp://tircoed.org.uk/files/downloads/JD.Cydlynydd.Sir.Benfro.2020.02.11.pdfhttps://llyw.cymru/cynllun-aer-glan-i-gymru?_ga=2.172937056.2100323033.1579625484-1345813498.1530107459https://llyw.cymru/strategaeth-economi-gylchol?_ga=2.107337090.1854442958.1582307461-85784196.1580406284
-
Draenog David Cooper/PTES
D y d d i a d a u C a l e n d r N a t u r 2 0 2 0
Os fuoch yn ddigon lwcus i fynd allan er gwaethaf y glaw byddwch wedi sylwi bod cennin Pedr a chrocysau yn eu blodau – mae'n ymddangos ei fod yn digwydd yn gynharach bob blwyddyn. Dyma adeg wych o'r flwyddyn i weld brogaod, llyffantod a madfallod dŵr wrth iddynt ddychwelyd i'w mannau silio. Nid yw mudwyr y gwanwyn yn bell i ffwrdd - cafodd cynffonwen ei gweld ar Ynysoedd y Sianel yr wythnos hon, wrth iddi wneud ei ffordd o Affrica i ogledd Ewrop. Cyn hir bydd gwenoliaid y glennydd yn cyrraedd ac ar ddyddiau twym a heulog cadwch lygad allan am famwenyn yn chwilota am fwyd ar goed helyg a dant y llew. Bydd y canllaw defnyddiol hwn a gyhoeddwyd gan y Lancashire Wildlife Trust yn eich helpu i adnabod gwenyn y gwanwyn. Os ydych chi eisiau mwynhau rhywbeth mwy egnïol, beth am wirfoddoli a mwynhau yn yr awyr agored mewn amgylchedd cymdeithasol. Os ydych chi eisiau mwynhau rhywbeth mwy egnïol, beth am wirfoddoli a mwynhau yn yr awyr agored mewn amgylchedd cymdeithasol. Cenhinen Bedr wyllt Coedwig Penhow © Sean McHugh
Ffocws ar Arolygon
https://ptes.org/https://www.lancswt.org.uk/blog/charlotte-varela/spring-bees-identificationhttps://www.biodiversitywales.org.uk/Digwyddiadauhttps://www.first-nature.com/waleswildlife/e-nnr-penhow.phphttps://ptes.org/get-involved/surveys/
-
Arolwg Cenedlaethol Titw’r Helyg 2020
dolen Mapiwr Mamaliaid Mae ap am ddim ar gael gan y Gymdeithas Mamaliaid i recordio arwyddion o famaliaid a chipolwg o famaliaid pan fyddwch chi'n bwrw at weithgareddau bob dydd neu pan fyddwch chi'n gweld mamaliaid yn yr ardd, yn y parc neu ar daith gerdded. Helfa Chwilod Olew Yr Hydref, Buglife Cymru Y gwanwyn diwethaf fe ofynnom am eich cymorth i gofnodi chwilod olew yng Nghymru, a diolch i’ch help chi mae gennym bellach syniad llawer gwell ynghylch ble mae’r chwilod prin yma; nawr, gallwn ddefnyddio’r wybodaeth yma er mwyn helpu i warchod a chyfoethogi’r cynefinoedd llawn blodau gwyllt y mae’r chwilod yn dibynnu arnynt. Wel, peidiwch â phoeni, gan mai dyma’r adeg o’r flwyddyn pryd y bydd ein trydedd rywogaeth fwyaf swil o chwilen olew yng Nghymru - y chwilen olew Arw - yn dod i’r golwg. Ond, gan ystyried mai gyda’r nos ac yn ystod misoedd y gaeaf y mae’r chwilen yn fwyaf bywiog, mae’n bosibl nad ydym wedi sylwi ar ei phresenoldeb yma yng Nghymru – mae’n bosibl bod ei niferoedd yn fwy helaeth. Cofiwch roi gwybod inni os gwelwch chwilen olew Arw yng Nghymru, mae’n bosibl iawn y bydd eich adroddiad yn ddarganfyddiad newydd! Buglife Cymru
Gallwch helpu MCS drwy gofrestru ar gyfer eich canllaw Chwilio Mawr am Wymon a byddwch yn cyfrannu at waith ymchwil hanfodol drwy gael hwyl ac archwilio eich traeth creigiog lleol.
Mae’r adnoddau ar gael yn y Gymraeg hefyd. Mae OPAL Data Explorer wedi’i lansio’n ddiweddar fel eich bod yn gallu gweld y data amgylcheddol sydd wedi’u cyflwyno gan gyfranogwyr OPAL ar gyfer pob un o Arolygon cyfredol OPAL.
Ffocws ar Ddigwyddiadau
https://community.rspb.org.uk/ourwork/b/biodiversity/posts/willow-tit-national-survey-2019-20https://www.mammal.org.uk/volunteering/mammal-mapper/https://www.buglife.org.uk/get-involved/surveys/wales-oil-beetle-survey/https://www.buglife.org.uk/get-involved/near-me/buglife-cymru/https://www.mcsuk.org/get-active/http://www.opalexplorenature.org/news/enjoy-opal-activities-welsh-translationhttps://www.opalexplorenature.org/dataexplorer/
-
Arolygon wyau'r frithribin frown yn sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro
Bydd cangen de Cymru o’r elusen Butterfly Conservation yn cynnal gweithgareddau
awyr agored ar gyfer gwirfoddolwyr yn yr hydref, gaeaf ac yn gynnar yn y
gwanwyn.
Mae'r arolygon wedi helpu i adeiladu darlun dros y degawd diwethaf o ffawd
amrywiol y frithribin frown ar draws y tair sir.
Ceir manylion pellach ar wefan y Butterfly Conservation
C y l l i d
Newyddlen Cyllid
Mae diweddariad Cyllid cyfredol wedi’i lunio gan Gyfoeth Naturiol Cymru ac
mae ar gael ar eu gwefan.
Cynllun ariannu Lleoedd Lleol ar gyfer Natur gan Cadwch Gymru’n Daclus Mae'r cyfnod ymgeisio bellach ar agor i grwpiau cymuned a sefydliadau sy'n ceisio gwrthdroi'r dirywiad mewn natur.
Y dyddiadau cau ar gyfer pob rownd ymgeisio yw: 6 a 27 Mawrth a 17 Ebrill. Os hoffech ragor o fanylion ewch i wefan Cadwch Gymru'n Daclus Cronfa Prosiectau Cymunedau Lleol Greggs
Mae Cronfa Prosiectau Cymunedau Lleol Greggs yn rhoi grantiau o hyd at £2,000 i alluogi sefydliadau nid-er-elw i wneud rhywbeth na allent fforddio ei wneud fel arall. Mae'r gronfa yn fwy tebygol o roi grantiau i sefydliadau lleol sydd â siop Greggs yn eu rhanbarth. Mae Cyllid Prosiectau Cymunedau Lleol yn cael ei gynnig i sefydliadau sy'n cefnogi pobl mewn angen. Gall unrhyw sefydliad nid-er-elw wneud cais, fodd bynnag, ni all sefydliadau mwy sydd â throsiant o fwy na £300,000 gymryd rhan yn y cynllun. Dolen
Cronfa Gweithredu Hinsawdd
Bydd y cymunedau hyn yn dangos yr hyn sy'n bosibl pan fydd pobl yn arwain
https://butterfly-conservation.org/in-your-area/south-wales-branchhttps://naturalresources.wales/about-us/funding/?lang=cyhttps://www.keepwalestidy.cymru/pages/category/naturehttps://funding.cymru/funds/291
-
wrth fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd.
Dolen ar y we.
Rhaid cyflwyno cynigion cyflawn erbyn canol dydd, dydd Gwener 27 Mawrth
2020.
Coed Cadw - Coed am ddim i ysgolion a chymunedau
Dolen Cyllid Cymunedol Tesco a weinyddir gan Groundwork Mae grantiau o £5,000, £2,000 a £1,000 ar gael ar gyfer gwella gofod agored
sydd o fudd i’r gymuned. Mae’r prosiectau cymwys yn cynnwys gofod fel parciau
bychain, tiroedd ysgol, rhandiroedd, cyfleusterau chwaraeon, llwybrau coetir a
gerddi cymunedol. I gael rhagor o fanylion ewch i’r wefan.
Cronfa Dreftadaeth y Loteri
Mae CDL Cymru yn cynnig gweithdai sy’n canolbwyntio ar wahanol raglenni
cyllido felly bydd rhaid i chi benderfynu pa un sydd fwyaf perthnasol i chi. Does
dim rhaid bod â phrosiect i fynychu - dewch draw i gael mwy o wybodaeth.
Mae’r Gweithdai Cefnogaeth Ariannol yn gyfle gwych i chi gael gwybod am ein
cyllid, dysgu am ein canlyniadau, cael cyngor ar sut i wneud cais da a
rhwydweithio gyda sefydliadau eraill o’ch ardal. Hefyd cewch gyfle i gyfarfod tîm
datblygu CDL Cymru.
Llun © Sean McHugh
https://www.tnlcommunityfund.org.uk/funding/programmes/climate-action-fund#section-1https://www.tnlcommunityfund.org.uk/funding/programmes/climate-action-fund#section-1https://www.woodlandtrust.org.uk/plant-trees/free-trees/https://www.woodlandtrust.org.uk/plant-trees/free-trees/https://www.groundwork.org.uk/Sites/tescocommunityscheme/pages/Category/boh-grant-for-project-teshttps://www.groundwork.org.uk/Sites/tescocommunityscheme/pages/Category/boh-grant-for-project-teshttps://www.groundwork.org.uk/Sites/tescocommunityscheme/pages/Category/boh-grant-for-project-teshttps://www.groundwork.org.uk/Sites/tescocommunityscheme/pages/Category/boh-grant-for-project-teshttps://cymraeg.hlf.org.uk/about-us/news-features/whats-waleshttps://cymraeg.hlf.org.uk/about-us/news-features/whats-waleshttps://cymraeg.hlf.org.uk/about-us/news-features/whats-waleshttps://cymraeg.hlf.org.uk/about-us/news-features/whats-wales