ysgol bontnewydd newyddlen y...

2
Ysgol Bontnewydd Newyddlen y Tymor Nadolig 2011 Daeth diwedd i dymor prysur iawn gyda bwrlwm arferol y Nadolig. Cafwyd dwy sioe hynod o lwyddiannus—’Y Goeden Fach Hardd’ gan blant y Cyfnod Sylfaen a ‘Seren Ddi-lewyrch’ gan yr Adran Iau. Llongyfarchiadau mawr i’r plant ar eu perfformiadau a llawer o ddiolch i holl staff yr ysgol am eu paratoi mor drylwyr. Byddwn yn defnyddio rhan o elw’r noson i noddi Alex Ddamulira, ein plentyn nawdd yn Uganda. Cafwyd dau barti Nadolig yn ystod wythnos olaf y tymor —gwobr haeddiannol i’r plant ar ol eu gwaith caled ar hyd y tymor. Y Goeden Fach Hardd Cyngor Eco/Grwp Gwyrdd Mae aelodau newydd y Cyngor Eco/Grŵp Gwyrdd wedi bod yn hynod o brysur ers mis Medi. Blaenoriaethau’r ysgol yw Arbed Ynni a Gwella’r Amgylchedd. Pob wythnos mae aelodau’r Cyngor wedi bod yn monitro’r dosbarthiadau, coridorau a swyddfa Mrs George er mwyn sicrhau bod y goleuadau a chyfrifiaduron i ffwrdd; y drysau a ffenestri ar gau dros amser chwarae a’r awr ginio a phob tap wedi cau yn sownd. Mae’r plant yn cael cyfle i adrodd yn ôl yn ystod gwasanaethau’r ysgol ac o ganlyniad mae’r holl ddisgyblion yn gwneud eu gorau glas i arbed ynni. Mae gardd yr ysgol yn edrych yn wych ac mae nifer fawr o’r disgyblion hŷn wedi bod yn gweithio’n galed er mwyn datblygu’r ardal natur. O ganlyniad i holl waith caled y plant a’r Cyngor, mae’r ysgol wedi derbyn dwy wobr sef Achrediad Efydd, Ysgolion Gwyrdd ac Achrediad Arian, Eco-Sgolion. Rydym yn hynod o falch o hyn. Di- olch i Miss Madine am arwain y gwaith hwn. Llwyddiannau Llongyfarchiadau i’t tîm rygbi ar ddod yn drydedd yng nghystadleuaeth Rygbi, Clwb Rygbi Caernarfon. Diolch arbennig i Mr Dewi Jones am eu hyfforddi. Llongyfarchiadau i aelodau’r tîm nofio ar eu perfformiad yng Ngala Nofio’r Urdd. Da iawn chi! Seren Ddi-lewyrch Llwyddiannau Llongyfarchiadau i’r plant talentog canlynol ar cael eu dewis i fod yn ran o Griw Celf Gwynedd a Môn — Lois Bee, Deio Sion, Elis Jones ag Ela Davies. Llongyfarchiadau mawr i Ffion Elain ar cael ei dewis i fod yn ran o Sgwad Sgwennu Gwynedd a Môn — awdures yn y dyfodol efallai!

Upload: others

Post on 22-Jan-2021

6 views

Category:

Documents


0 download

TRANSCRIPT

Page 1: Ysgol Bontnewydd Newyddlen y Tymorysgolbontnewydd.org/downloads/120412_newyddlen_tymor_yr_hydref11.pdfNewyddlen y Tymor Nadolig 2011 Daeth diwedd i dymor prysur iawn gyda bwrlwm arferol

Ysgol Bontnewydd Newyddlen y Tymor

Nadolig 2011

Daeth diwedd i dymor prysur iawn gyda bwrlwm arferol y Nadolig. Cafwyd dwy sioe hynod o lwyddiannus—’Y Goeden Fach Hardd’ gan blant y Cyfnod Sylfaen a ‘Seren Ddi-lewyrch’ gan yr Adran Iau. Llongyfarchiadau mawr i’r plant ar eu perfformiadau a llawer o ddiolch i holl staff yr ysgol am eu paratoi mor drylwyr. Byddwn yn defnyddio rhan o elw’r noson i noddi Alex Ddamulira, ein plentyn nawdd yn Uganda. Cafwyd dau barti Nadolig yn ystod wythnos olaf y tymor —gwobr haeddiannol i’r plant ar ol eu gwaith caled ar hyd y tymor.

Y Goeden Fach Hardd

Cyngor Eco/Grwp Gwyrdd

Mae aelodau newydd y Cyngor Eco/Grŵp Gwyrdd wedi bod yn hynod o brysur ers mis Medi. Blaenoriaethau’r ysgol yw Arbed Ynni a Gwella’r Amgylchedd. Pob wythnos mae aelodau’r Cyngor wedi bod yn monitro’r dosbarthiadau, coridorau a swyddfa Mrs George er mwyn sicrhau bod y goleuadau a chyfrifiaduron i ffwrdd; y drysau a ffenestri ar gau dros amser chwarae a’r awr ginio a phob tap wedi cau yn sownd. Mae’r plant yn cael cyfle i adrodd yn ôl yn ystod gwasanaethau’r ysgol ac o ganlyniad mae’r holl ddisgyblion yn gwneud eu gorau glas i arbed ynni. Mae gardd yr ysgol yn edrych yn wych ac mae nifer fawr o’r disgyblion hŷn wedi bod yn gweithio’n galed er mwyn datblygu’r ardal natur. O ganlyniad i holl waith caled y plant a’r Cyngor, mae’r ysgol wedi derbyn dwy wobr sef Achrediad Efydd, Ysgolion Gwyrdd ac Achrediad Arian, Eco-Sgolion. Rydym yn hynod o falch o hyn. Di-olch i Miss Madine am arwain y gwaith hwn.

Llwyddiannau Llongyfarchiadau i’t tîm rygbi ar ddod yn drydedd yng nghystadleuaeth Rygbi, Clwb Rygbi Caernarfon. Diolch arbennig i Mr Dewi Jones am eu hyfforddi. Llongyfarchiadau i aelodau’r tîm nofio ar eu perfformiad yng Ngala Nofio’r Urdd. Da iawn chi!

Seren Ddi-lewyrch

Llwyddiannau

Llongyfarchiadau i’r plant talentog canlynol ar cael eu dewis i fod yn ran o Griw Celf Gwynedd a Môn — Lois Bee, Deio Sion, Elis Jones ag Ela Davies. Llongyfarchiadau mawr i Ffion Elain ar cael ei dewis i fod yn ran o Sgwad Sgwennu Gwynedd a Môn — awdures yn y dyfodol efallai!

Page 2: Ysgol Bontnewydd Newyddlen y Tymorysgolbontnewydd.org/downloads/120412_newyddlen_tymor_yr_hydref11.pdfNewyddlen y Tymor Nadolig 2011 Daeth diwedd i dymor prysur iawn gyda bwrlwm arferol

Gwaith Elusennol y Tymor

Llawer o ddiolch i’r plant ac i chi rieni am eich cefnogaeth i waith elusennol yr ysgol. • Casgliad o £58 a rhoddion o blanhigion i gydnabod y Diolchgarwch • £172 i apél Plant Mewn Angen • 93 o focsys ar gyfer’ Operation Christmas

Child’ • Apél y Pabi Coch • Noddi plentyn yn Uganda • 8 Gafr i Affrica drwy gynllun ‘Fill a Welly’

Ymweliadau Cafwyd sawl ymweliad addysgol yn ystod y tymor. Mae’r ymweliadau hyn yn cyfoethogi’r cwricwlwm ac yn cefnogi’r dysgu Bl 1 a 2 — Capel Libanus Bl 3 — Tai Celtaidd Melin Llynnon Bl 4 — Cadeirlan, Bangor Bl 3 a 4 — Y Rimbojam Bl 5 — Amgueddfa Lechi, Llanberis Bl 6 — Classe de Mer a Glan llyn

Tymor Nesaf Bydd Tymor nesaf yn cychwyn ar 3/1/2012 Arian Cinio £7.40 am yr wythnos gyntaf, yna £9.50 yn wythnosol. (Sieciau yn daladwy i Gyngor Gwynedd).

Diolch Ar ran holl staff yr ysgol hoffwn ddiolch o galon am y cardiau a’r anrhegion lu.

Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda i chi i gyd.

Er Gwybodaeth Bydd parti canu a’r band pres yn diddannu ar y Maes nos Iau y 15fed. Bydd côr yr Adran Iau yn ymddangos ar y Sgrin Fawr yn yr wythnos yn arwain at Nadolig.

Clwb 100 Medi Hydref 1. Julia Hughes 1. Buddug Roberts 2. Buddug Roberts 2. Mari Rose 3. Maria Owen 3. Siân Jones Tachwedd Rhagfyr 1. Bethan Jones 1. Iona Thomas 2. Linda Owen 2. Catrin Jones 3. Delyth Hughes 3. Meilys Smith Os ydych am ymuno â’r Clwb 100, cysylltwch â Glenda Lloyd Evans.

Llongyfarchiadau

Llongyfarchiadau i Ynyr Pritchard blwyddyn 5 ar gael ei ddewis i Gerddorfa Cenedlaethol Prydain. Llongyfarchiadau mawr i Mared Hughes ar gael ei dewis unwaith eto i dîm gymnasteg Gogledd Cymru.