home | education through regional working · web viewsir gaerfyrddin – 9 ysgol/clwstwr o ysgolion...

5
Cynllun Ysgolion Creadigol Arweiniol Mae cynllun yr Ysgolion Creadigol Arweiniol yn un o flociau adeiladu allweddol Dysgu Creadigol drwy’r Celfyddydau - cynllun gweithredu i Gymru. Cyhoeddwyd y cynllun ym mis Mawrth 2015, ac fe’i hariennir ar y cyd gan Gyngor Celfyddydau Cymru a Llywodraeth Cymru. Mae’n fenter fawr ar gyfer gwella ysgolion sy’n cael ei datblygu mewn partneriaeth â’r pedwar Consortiwm Addysg Rhanbarthol. Adeg ei lansio, bu’r Gweinidog Addysg a Sgiliau a’r Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth yn ailddatgan y rhan bwysig y mae’r celfyddydau a chreadigrwydd yn ei chwarae mewn helpu i rymuso a chefnogi dysgu yn ein hysgolion. Mae’r cynllun yn defnyddio technegau addysgu a dysgu sydd wedi’u hen ddatblygu ac sydd wedi’u cynllunio’n benodol i fod yn ymarferol ac yn berthnasol i ofynion cwricwlwm bywyd go iawn. Caiff y technegau hyn eu llywio gan ymchwil helaeth o bedwar ban byd i’r hyn sy’n gwneud ysgol sy’n perfformio’n uchel. Mae Ysgolion Creadigol Arweiniol yn meithrin a datblygu creadigrwydd dysgwyr er mwyn iddynt gyflawni eu potensial, tyfu’n unigolion cytbwys a bod yn barod â sgiliau am oes. Hoffem sicrhau bod plant a phobl ifanc yng Nghymru, mewn byd sy’n cyflym newid, yn gallu bodloni anghenion yr economi a ffynnu yn amgylchedd mwyfwy cystadleuol bywyd pob dydd. Credwn nad sgil sydd ynghlwm wrth y celfyddydau mo creadigrwydd, ond gallu ehangach i gwestiynu, gwneud cysylltiadau, a defnyddio dull arloesol a dychmygus o ddatrys problemau. Mae’r rhain yn sgiliau a fynnir gan gyflogwyr erbyn hyn. Credwn hefyd ei bod yn holl bwysig cysylltu plant a phobl ifanc â chynnig diwylliannol cyfoethog ac amrywiol – gan eu cysylltu â gwaith yr artistiaid, gweithwyr proffesiynol

Upload: others

Post on 21-Jan-2021

1 views

Category:

Documents


0 download

TRANSCRIPT

Page 1: Home | Education Through Regional Working · Web viewSir Gaerfyrddin – 9 ysgol/clwstwr o ysgolion – 1 arbennig, 3 uwchradd, 5 cynradd Sir Benfro – 5 ysgol – 1 arbennig, 2

Cynllun Ysgolion Creadigol Arweiniol

Mae cynllun yr Ysgolion Creadigol Arweiniol yn un o flociau adeiladu allweddol Dysgu Creadigol drwy’r Celfyddydau - cynllun gweithredu i Gymru. Cyhoeddwyd y cynllun ym mis Mawrth 2015, ac fe’i hariennir ar y cyd gan Gyngor Celfyddydau Cymru a Llywodraeth Cymru. Mae’n fenter fawr ar gyfer gwella ysgolion sy’n cael ei datblygu mewn partneriaeth â’r pedwar Consortiwm Addysg Rhanbarthol. Adeg ei lansio, bu’r Gweinidog Addysg a Sgiliau a’r Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth yn ailddatgan y rhan bwysig y mae’r celfyddydau a chreadigrwydd yn ei chwarae mewn helpu i rymuso a chefnogi dysgu yn ein hysgolion.

Mae’r cynllun yn defnyddio technegau addysgu a dysgu sydd wedi’u hen ddatblygu ac sydd wedi’u cynllunio’n benodol i fod yn ymarferol ac yn berthnasol i ofynion cwricwlwm bywyd go iawn. Caiff y technegau hyn eu llywio gan ymchwil helaeth o bedwar ban byd i’r hyn sy’n gwneud ysgol sy’n perfformio’n uchel.

Mae Ysgolion Creadigol Arweiniol yn meithrin a datblygu creadigrwydd dysgwyr er mwyn iddynt gyflawni eu potensial, tyfu’n unigolion cytbwys a bod yn barod â sgiliau am oes. Hoffem sicrhau bod plant a phobl ifanc yng Nghymru, mewn byd sy’n cyflym newid, yn gallu bodloni anghenion yr economi a ffynnu yn amgylchedd mwyfwy cystadleuol bywyd pob dydd.

Credwn nad sgil sydd ynghlwm wrth y celfyddydau mo creadigrwydd, ond gallu ehangach i gwestiynu, gwneud cysylltiadau, a defnyddio dull arloesol a dychmygus o ddatrys problemau. Mae’r rhain yn sgiliau a fynnir gan gyflogwyr erbyn hyn. Credwn hefyd ei bod yn holl bwysig cysylltu plant a phobl ifanc â chynnig diwylliannol cyfoethog ac amrywiol – gan eu cysylltu â gwaith yr artistiaid, gweithwyr proffesiynol creadigol a sefydliadau creadigol yn y celfyddydau a’r sectorau diwylliannol, treftadaeth a chreadigol – wrth ehangu gorwelion a chyflwyno cyfleoedd.

Page 2: Home | Education Through Regional Working · Web viewSir Gaerfyrddin – 9 ysgol/clwstwr o ysgolion – 1 arbennig, 3 uwchradd, 5 cynradd Sir Benfro – 5 ysgol – 1 arbennig, 2

Mae’r cynllun yn cefnogi gwaith gydag ysgolion dros gyfnod o ddwy flynedd, i archwilio sut gall addysgu a dysgu creadigol wella eu harfer ac achosi newid cynaliadwy mewn dulliau addysgu a dysgu. Mae’r ysgolion sydd wedi’u recriwtio i’r cynllun wedi arddangos ymrwymiad i werthfawrogi datblygiad sgiliau creadigol dysgwyr ac i ddefnyddio creadigrwydd i gefnogi eu gweledigaeth a helpu i gyflenwi eu blaenoriaethau datblygu ysgol.

Bydd pob ysgol sy’n cyfranogi yn penderfynu ar ffocws penodol i’w prosiect Ysgol Greadigol Arweiniol sy’n cysylltu â’i blaenoriaethau datblygu ysgol. Mae’r ffocws ar wella llythrennedd, rhifedd a lleihau effaith tlodi ar gyflawniad drwy ddull arloesol, trawsgwricwlaidd yn aml, cyfranogol a diddorol.

Mae dull y Cynllun Ysgolion Creadigol Arweiniol yn un neilltuol: mae'n dechrau gyda’r Cynllun Datblygu Ysgol – gan gysylltu datblygiad

cynllun a rhaglen yn agos â’r blaenoriaethau a nodwyd gan yr ysgol sy’n cyfranogi;

mae’n gwneud amser i gynllunio manwl priodol i sicrhau bod prosiectau’n berthnasol ac yn seiliedig ar anghenion yr ysgolion a’r dysgwyr;

mae’n hwyluso prosesau lle gall pobl ifanc, athrawon a gweithwyr creadigol proffesiynol gydweithio i gyd-adeiladu dysgu;

mae’n rhoi cyfleoedd i ddysgwyr gymryd cyfrifoldeb am eu dysgu;

mae’r cynllun yn dod o hyd i ymagweddau creadigol at lythrennedd, rhifedd ac at leihau’r bwlch cyrhaeddiad rhwng dysgwyr sy’n gymwys am brydau ysgol am ddim (eFSM) a’u cymheiriaid;

Mae’r cynllun Ysgolion Creadigol Arweiniol yn darparu rhwng £5,000 a £14,500 o gyllid grant bob blwyddyn am ddwy flynedd i’r ysgolion llwyddiannus.

Rhanbarth ERW – ysgolion sy’n rhan o flwyddyn 1 cynllun yr Ysgolion Creadigol Arweiniol

Page 3: Home | Education Through Regional Working · Web viewSir Gaerfyrddin – 9 ysgol/clwstwr o ysgolion – 1 arbennig, 3 uwchradd, 5 cynradd Sir Benfro – 5 ysgol – 1 arbennig, 2

31 o geisiadau llwyddiannus yn ERW ym mlwyddyn 1 yn cynnwys 44 o ysgolion (roedd rhai ceisiadau’n cynnwys clwstwr o ysgolion) – y nifer uchaf o ysgolion o’r pedwar rhanbarth yng Nghymru

Ceredigion – 1 clwstwr o ysgolion – teulu Bro Teifi

Sir Gaerfyrddin – 9 ysgol/clwstwr o ysgolion – 1 arbennig, 3 uwchradd, 5 cynradd

Sir Benfro – 5 ysgol – 1 arbennig, 2 uwchradd, 2 gynradd

Castell-nedd Port Talbot – 1 ysgol gynradd

Abertawe – 8 ysgol/clwstwr o ysgolion - 1 arbennig, 4 uwchradd, 3 cynradd

Powys – 7 ysgol/clwstwr o ysgolion - 1 arbennig, 4 uwchradd, 2 gynraddCynnydd ar hyn o bryd – llinell amser blwyddyn 1:

Mae Cydlynwyr Ysgol ac athrawon o bob ysgol wedi bod i un o ddeng cwrs hyfforddi deuddydd. Mae’r Asiant Creadigol a’r Cydlynydd Ysgol yn nodi maes blaenoriaeth o Gynllun Datblygu’r Ysgol ac yn ffurfio ffocws ymholi/prosiect. Ariennir Asiantau Creadigol gan Gyngor Celfyddydau Cymru a gweithiant yn agos gyda chydlynydd yr Ysgol Greadigol Arweiniol ac uwch aelodau o staff yn ogystal â’r athro neu athrawes ddosbarth dan sylw (wedi hefyd cael cyfraniad y disgyblion eu hunain at gynllunio a’u profiad o ddysgu).

Mae Asiantau Creadigol sy’n gweithio gydag ysgolion yn rhanbarth ERW yn cynnwys awduron, addysgwyr dysgu oriel, beirdd, arbenigwyr dawns, cyfarwyddwyr theatr, artistiaid, ymarferwyr digidol ac mae ganddynt oll brofiad helaeth o gydweithio addysgol.

Mae ysgolion bellach yn gweithio gyda’u Hasiantau Creadigol i gynllunio prosiectau a dewis Ymarferwyr Creadigol. Mae ffurflenni cynllunio prosiect i’w cyflwyno erbyn 18 Rhagfyr, a bydd eu cymeradwyo yn rhyddhau’r cyllid grant cyntaf. Daw’r Ymarferwyr Creadigol o amrywiaeth eang o gefndiroedd a diwydiannau creadigol - yn rhanbarth ERW maent yn cynnwys pensaer, artistiaid digidol, awduron, beirdd, animeiddwyr ffilm, chwedleuwyr yn ogystal ag artistiaid gweledol a pherfformio. Ar ôl dewis a chymeradwyo’r prosiectau, byddant yn barod i ddigwydd yn nhymor y gwanwyn.

Cyfarfodydd Briffio Blwyddyn 2:

Mae cyfarfodydd briffio Blwyddyn 2 yn cael eu cynnal ym mhob rhanbarth i hysbysu ysgolion am gynllun Ysgolion Creadigol Arweiniol ac annog ysgolion

Page 4: Home | Education Through Regional Working · Web viewSir Gaerfyrddin – 9 ysgol/clwstwr o ysgolion – 1 arbennig, 3 uwchradd, 5 cynradd Sir Benfro – 5 ysgol – 1 arbennig, 2

newydd i ymgeisio – mae Ymgynghorwyr Her wedi cael gwybod hefyd ac mae gwybodaeth ar gael ar wefan ERW ac ar wefan Cyngor Celfyddydau Cymru.

Mae’r llinell amser yn ei lle a pharatoadau’n cael eu gwneud i asesu ceisiadau ysgol blwyddyn 2, hyfforddiant rownd 2 i Asiantau Creadigol, cydlynwyr Ysgol Greadigol Arweiniol ac Ymarferwyr Creadigol.

Astudiaeth ymchwil OECD:

Gwahoddwyd cynllun yr Ysgolion Creadigol Arweiniol i gymryd rhan mewn astudiaeth OECD ryngwladol sy’n edrych ar effeithiau technegau dysgu creadigol, gan gynnwys disgyblion sy’n cymryd rhan mewn prosiect mathemateg/rhifedd Ysgolion Creadigol Arweiniol yn naill ai Blwyddyn 4 neu Flwyddyn 9.

Mae’r ymchwil hwn yn adlewyrchu’r gydnabyddiaeth ryngwladol gynyddol i bwysigrwydd datblygu sgiliau creadigol ein dysgwyr – ac wrth wneud hynny cynyddu eu sgiliau mewn cydweithio, dychymyg, datrys problemau, cyfathrebu, cadernid a myfyrio.

I gael gwybod rhagor am Gynllun yr Ysgolion Creadigol Arweiniol yn rhanbarth ERW cysylltwch â Sophie Hadaway – Arweinydd Rhanbarthol Ffôn: 07710 026079

Neu ewch i wefan Cyngor Celfyddydau Cymru: cyngorcelfyddydaucymru.org.uk