cylchlythyr / newsletter cyngor yr ysgol / eco ......dyma gynrychiolwyr cyngor yr ysgol / eco...
TRANSCRIPT
CYLCHLYTHYR / NEWSLETTER
YSGOL LLANBRYNMAIR
Tymor yr Hydref / Autumn Term 2015
CROESO / WELCOME
Ar ddechrau ail hanner o Dymor yr Hydref fe groesawyd Evie
Owen i flwyddyn 1.
After the half term holidays we welcomed Evie Owen to year
1.
Ysgolion Iach / Healthy Schools
Daeth swyddogion o Ysgolion Iach Powys i
siarad gyda Chyngor yr ysgol am ddau faes roeddynt wedi
bod yn dysgu amdanynt yn benodol ar gyfer ennill 4ydd
deilen ysgolion iach Powys, sef Hylendid ac Addysg
Bersonol a Pherthnasau. Braf yw dweud ein bod wedi
ennill y ddeilen yng ngham 4 gyda theilyngdod. Roedd y
swyddogion wrth eu boddau yn arsylwi amser cylch
disgyblion Blwyddyn 1.
Powys Healthy Schools officials came to speak with the
School Council on two areas that they had been learning
about specifically towards winning the 4th leaf of Powys
Healthy Schools regarding Personal Hygiene and Personal
and Social Education. We are pleased to say that we have
won the leaf in step 4 with merit. The officers loved
observing Yr 1 pupils.
Dyma gynrychiolwyr o gyngor yr ysgol yn dilyn ein
llwyddiant ar ennill y 4ydd ddeilen Ysgolion Iach Powys.
These are the representatives of the School Council
following their success in obtaining the 4th leaf of Powys
Healthy Schools.
Cyngor yr Ysgol / Eco bwyllgor
School Council / Eco Commitee
Dyma gynrychiolwyr Cyngor yr ysgol / Eco bwyllgor 2015 –
2016. Ar ddechrau’r flwyddyn ysgol mae pob disgybl yn
ethol un disgybl o bob blwyddyn i’w cynrychioli ar y cyngor.
Mae pob disgybl ym mlwyddyn 6 yn rhan o Gyngor yr Ysgol /
Eco bwyllgor.
Here are representatives of the School Council / Eco
committee in 2015 - 2016. At the beginning of the school
year all pupils elect one pupil from each year to represent
them on the council. All pupils in year 6 are part of the
School Council / Eco committee.
Presenoldeb 100% Tymor yr Hydref
100% Attendance Autumn Term
Llongyfarchiadau mawr i Meggan, Elin, Sara, Eva, Osian,
Marvin, Iwan, Manon, Euros, Kyra, Deio, Gwion, Cadi,
Caleb, Heledd, Felicity, Elliw, Llinos, Gwenlli, Connor & Mali
am fod yn bresennol yn yr ysgol bob dydd y tymor hwn. Da
iawn chi.
Congratulations Meggan, Elin, Sara, Eva, Osian, Marvin,
Iwan, Manon, Euros, Kyra, Deio, Gwion, Cadi, Caleb,
Heledd, Felicity, Elliw, Llinos, Gwenlli, Connor & Mali for
100% attendance this term. Well done to you all.
Clwb yr Urdd / The Urdd Club
Mae Clwb yr Urdd wedi ail gychwyn gyda 10 aelod newydd.
Mae’r clwb yn cwrdd ar ôl ysgol bob nos Fercher 3.30 –
4.15 drwy hanner tymor yr Hydref hyd at ddiwedd Tymor y
Gwanwyn i ddisgyblion Blwyddyn 1 – 6. Rydym wedi
mwynhau chwarae bingo, gemau parasiwt, gwnio, paentio
ac yna gemau potes gyda Mr David Oliver, Swyddog
Datblygu’r Urdd.
The Urdd Club has begun once again with 10 new
members. The club meets every Wednesday 3.30 – 4.15
throughout this Autumn term and will run until the end of
the Spring Term for pupils in Years 1 – 6. The children have
enjoyed playing bingo, parachute games, sewing, painting
and playing games with Mr David Oliver, Urdd
Development Officer.
Penwythnos Glan-llyn / Glan-llyn weekend
Aeth disgyblion ym mlwyddyn 5 & 6 ar benwythnos
gweithgareddau i Wersyll yr Urdd Glan-llyn (Bala) ym mis
Medi. Cawsant brofiadau gwych ar y cwrs rhaffau, yn
dringo, yn canŵio ar y llyn ac yn adeiladu rafft.
Children from Years 5 & 6 went on an activities weekend to
the Urdd camp at Glan-llyn (Bala) in September. They had a
fantastic time on the rope course, canoeing on the lake and
making a raft.
Gala Nofio’r Urdd Swimming Gala
Llongyfarchiadau i Oliver, Eva, Thomas, Osian Pennant,
Rhodri, Elgan, Elin, Sara, Erin Meddins, Rhiannon & Manon a
fu’n cynrychioli’r ysgol yn y Gala Nofio ym mis Tachwedd.
Roedd yn dipyn o gamp nofio yn gystadleuol ac mewn pwll
sydd dipyn mwy na phwll nofio Machynlleth. Da iawn chi.
Congratulations to Oliver, Eva, Thomas, Osian Pennant,
Rhodri, Elgan, Elin, Sara, Erin Meddins, Rhiannon & Manon
who represented the school in
the Swimming Gala in
November. It was a challenge
for them to swim
competitively in a much larger
pool than they are used to in
Machynlleth. Well done to you
all.
Pêl droed a Phêl Rhwyd
Cafodd disgyblion blwyddyn 5 & 6 gyfle i gymryd rhan yng
nghystadleuaeth pêl droed a phêl rwyd yr Urdd yn
ddiweddar. Llongyfarchiadau mawr i chi gyd am roi o’ch
gorau.
Year 5 & 6 pupils took part in the Urdd Football and netball
tournament recently. Congratulations to you all for giving
of your best.
Diwrnod Chwaraeon / Sports day (5x60)
Cynhaliwyd diwrnod chwaraeon ar gae chwarae’r ysgol a
daeth disgyblion o Ysgolion Bro Hyddgen, Glantwymyn a
Charno atom. Cafodd y disgyblion gyfle i gymryd rhan a
dysgu sgiliau amrywiol gan gynnwys sgiliau rygbi tag, pel-
droed, naid hir, bocca, chwarae gemau parasiwt, rhedeg a
chriced.
A sports day was held on the school playing field and pupils
from Bro Hyddgen, Glantwymyn and Carno came to us. The
students had the opportunity to learn various skills
including tag rugby skills, football, long jump, bocca, play
parachute games, running and cricket.
Pêl droed Blwyddyn 1 a 2 football
Cafodd disgyblion Blwyddyn 1 a 2 gyfle i fynd i chwarae pêl
droed yn erbyn ysgolion eraill y ffederasiwn. Cawsom fore
cyffroes yn enwedig wrth sgorio ambell gôl.
Pupils from Years 1&2 had the opportunity to play football
against other schools in the Federation. We had an
exciting morning especially when we scored a few goals.
Cyfeiriannu
Cafodd disgyblion blwyddyn 3,4,5 & 6 gyfle i fwynhau
prynhawn o gyfeiriannu ar Gampws uwchradd ysgol Bro
Hyddgen. Llongyfarchiadau mawr i Elin a Sara am ddod yn
gyntaf yn ras Blwyddyn 5/6 (pâr) ac i holl ddisgyblion
blwyddyn 5/6 ar ddod yn ail fel tim yn eu dosbarth
hwythau. Llongyfarchiadau mawr hefyd i dim 3/4 ar ddod
yn 3ydd mewn ras ar eu cwrs hwythau.
Orienteeting
Pupils in years 3,4,5 & 6 had the opportunity to enjoy an
afternoon of orienteering at the Ysgol Bro Hyddgen
secondary school campus. Congratulations to Elin and Sara
for coming first in the race for Years 5/6 (pairs) and to all
the pupils in years 5/6 for coming second as a team in their
race. Congratulations also to 3/4 team for coming 3rd in a
race on their course.
Cyfnod Sylfaen / Foundation Phase
Dydd a Nos oedd thema’r Cyfnod Sylfaen yn ystod y tymor.
Mae’r disgyblion wedi cael llawer o hwyl yn darganfod
gwybodaeth am dylluanod ac am anifeiliaid eraill y nos
ynghyd â dysgu am y gofod.
Day and Night was the Foundation Phase theme this term.
The pupils have had much fun in discovering information
about owls and other night animals as well as learning about
space.
Cyfarfod Diolchgarwch / Thanksgiving Service
Cynhaliwyd ein Gwasanaeth Diolchgarwch ddydd Mercher
Hydref 14eg. Thema y Gwasanaeth oedd ‘Ein synhwyrau’.
Roedd y casgliad yn mynd at Cymorth Cristnogol a daeth Ms
Llinos Roberts o Gymorth Cristnogol i siarad gyda’r
disgyblion.
Our Harvest Thanksgiving Service was held on Wednesday
October 14th
. The service theme was “Our Senses”. The
collection was for Christian Aid and Ms Llinos Roberts from
Christian Aid came to talk with the pupils.
Dathlu 100 T.Llew Jones/T. Llew Jones Centenary Celebration
Ar yr 11eg o Hydref eleni bu Cymru’n dathlu can mlynedd
ers geni T. Llew Jones, Brenin Llenyddiaeth Plant Cymru.
Cynhaliwyd te parti arbennig yn yr ysgol i ddathlu’r
achlysur a daeth wyres T.Llew i ddathlu gyda ni.
On the 11th October this year, Wales was celebrating the
centenary of the birth of T. Llew Jones, the king of Wales’
Children Literature. A special tea party was held at the
school to celebrate the occasion and T. Llew’s
granddaughter came to celebrate with us.
Bags2school
Diolch i rieni a thrigolion y pentref am glirio cypyrddau,
droriau, y garej a’r atig am ddillad, esgidiau a deunyddiau i’w
hailgylchu. Llwyddwyd i godi £104 at gronfa’r ysgol. Fe
fydd casgliad arall yn fuan yn nhymor yr Haf, felly os oes
gennych chi ddillad nad ydych eisiau rhagor dowch a nhw
mewn i’r ysgol mewn bag du. Rydym yn gwerthfawrogi pob
cyfraniad.
Thank you to the parents and the people who live in the
village for clearing their wardrobes, drawers, garage and
attic for clothes, shoes, and materials for us to re-cycle.
Together we raised £104 towards school funds. There will
be another collection early in the Summer Term so if you
have any clothes, shoes etc that you no longer need please
feel free to bring them into school. We appreciate every
donation.
Entrepreneuriaeth / Enterprise
Fel y gwyddoch bu’r plant yn brysur cyn hanner tymor yn
cynllunio cerdyn Nadolig. Diolch yn fawr iawn i chi am
brynu’r cardiau unwaith eto eleni.
Mae dosbarth Miss Rowlands wedi bod yn brysur yn sefydlu
eu cwmni busnes hwythau yn ddiweddar. Maent wedi
gwneud gwaith ymchwil ac wedi rhoi at ei gilydd gynllun
busnes syml. Enw’r busnes eleni yw ‘Geiriau Gwych’ ac
maent wedi bod wrthi’n ddiwyd yn cynllunio a chreu costeri
ynghyd â chymryd archebion am luniau arbennig. Maent
wedi cael dros 60 o archebion am y lluniau ac wrthi’n brysur
yn cyfri’r elw. Bydd ganddynt benderfyniadau mawr i
wneud yn y Flwyddyn Newydd ar sut maent yn mynd i
wario’r arian.
As you are aware the children have been busy before half
term creating a Christmas card. Thank you very much for
buying the cards again this year.
Miss Rowlands’ class have been busy establishing their new
business company recently. They have been researching and
have put together a business plan. The name of this year’s
business is ‘Geiriau Gwych’ – ‘Fantastic words’ and they have
been busy designing and creating coasters as well as taking
orders for special pictures. They have received over 60
orders for pictures and have been busy counting their profit.
They will have big decisions to make in the New Year on how
they are going to spend the money.
Marchnad Ffermwyr / Farmers Market
Cynhaliwyd ein Marchnad Ffermwyr flynyddol ym mis
Tachwedd. Daeth nifer o stondinau i’r Farchnad a chafwyd
gyfle gwych i bawb brynu anrhegion Nadolig. Bu’r disgyblion
wrthi’n brysur yn gwnio addurniadau nadolig, yn coginio
danteithion di ri ac hefyd yn brysur yn gweithio ar y
stondinau. Diolch yn fawr i’r stondinwyr daeth i’n cefnogi a
hefyd i’r rhai a ddaeth i brynu nwyddau gan y stondinwyr.
Llwyddwyd i godi £370 i gronfa’r ysgol.
We held our Annual Farmers Market in November. It was a
good opportunity for everyone to buy Christmas presents
from a variety of stalls. The children had been busy sewing
Christmas decorations and cooking chutneys, fudge and
cakes to sell on our stall. Many thanks to everyone who
came to support the stall holders and to those who bought
foods and supported the event. We raised £370 towards
school funds.
Ymweliad gan Swyddog yr Heddlu / Police Liason Officer
Yn ystod y tymor daeth PC Mark Davies i siarad gyda’r
disgyblion am y pwysigrwydd o ddefnyddio’r we yn ofalus.
During the term, PC Mark Davies came to speak with the
pupils about the importance of internet safety.
Pontio / Transition
Yn ystod y tymor mae disgyblion Blwyddyn 6 wedi cael cyfle i
fwynhau diwrnodau pontio gyda’r ysgolion Uwchradd o’u
dewis. Mae hyn yn gyfle da iddynt gael blas ar fywyd ysgol
Uwchradd a chyfle i gwrdd a ffrindiau newydd ac athrawon.
During the term pupils from Year 6 had the opportunity to
enjoy a transition day with their Secondary school of choice.
This is a good opportunity for them to have a taste of
secondary school life and have the opportunity to meet new
friends and teachers.
Agor y Llyfr / Opening the Book
Braf yw croesawu y Parch Roland Barnes, Anti Heulwen a
ffrindiau atom yn fisol i gynnal Gwasanaeth arbennig o Agor
y Llyfr. Mae’r disgyblion yn mwynhau gwrando ar straeon
o’r Beibl.
It has been great to welcome Rev Roland Barnes, Aunty
Heulwen and friends on a monthly basis to hold a special
service of Opening the Book. The pupils enjoy listening to
stories from the Bible.
Sioeau / Shows
Mae’r disgyblion wedi bod yn hynod o lwcus i fwynhau
ystod o sioeau arbennig yn ystod y tymor. Fe aeth
disbyblion Blwyddyn 3,4,5 & 6 i fwynhau sioe Owain
Glyndwr yn y sened-dy ym Machynlleth nôl ym mis medi ac
yna i Glantwymyn i fwynhau sioe Arad Goch ‘ Hola’. Yna ar
ddiwedd y tymor cafodd disgyblion y Cyfnod Sylfaen fynd i
fwynhau pantomeim ‘Dacw Mam yn Dwad’ gan Martyn
Geraint yn Theatr Hafren.
The pupils have been extremely lucky to enjoy a number of
special shows during the term. Pupils from Years 3,4,5 & 6
enjoyed the Owain Glyndwr show at the Senedd-dy,
Machynlleth back in September and then to Glantwymyn
to enjoy the Arad Goch show “Hola”. At the end of term
pupils from the Foundation Phase went to enjoy a
pantomime “Dacw Mam yn Dwad” by Martyn Geraint in
Hafren Theatre.
Cyngerdd Nadolig / Christmas Concert
Hoffwn longyfarch y plant am berfformiad gwych o ‘Ble yn y
Byd mae Sion Corn’ nos Lun. Roedd pawb wedi dysgu’r
geiriau yn dda ac yn morio canu. Da iawn chi.
I would like to congratulate the children on their
performances in the Christmas concert ‘Ble yn y Byd mae
Sion Corn?’ (Where in the world is Father Christmas?) on
Monday evening. Everyone had learned their words well
and were obviously enjoying the singing. Well done
everyone.
Dyddiadau pwysig / Important dates
Rhagfyr 17 December Parti / Party (own clothes)
Rhagfyr 18 December ysgol yn cau am y gwyliau / school
closes for the Chrismas holidays
Ionawr 4 January Ysgol yn ail agor / School re opens
I weld rhagor o luniau neu am unrhyw wybodaeth bellach
ewch i’n gwefan. Cofiwch wylio allan am yr aderyn sydd
yn hysbysu digwyddiadau’r ysgol.
www.llanbrynmair.powys.sch.uk
For more pictures or information regarding the school
please visit our website. Remember to look out for
forthcoming events from the bird on the home page.
Twitter - @ysgllanbrynmair