u r m y t ab0506 c o m s e m l i a s i w o r n e f o Õs r e r m i s s i o … · 2019-03-05 ·...

58
AB0506 AB0506 AB0506 AB0506 AB0506 Beth yw ein gwaith... ...beth rydyn ni wedi bod yn ei wneud... ...a beth rydyn ni’n teimlo bod angen ei wneud... C o m i s i y n y d d P l a n t C y m r u C h i l d r e n ’s C o m m i s s i o n e r f o r W a l e s

Upload: others

Post on 05-Aug-2020

0 views

Category:

Documents


0 download

TRANSCRIPT

Page 1: u r m y t AB0506 C o m s e m l i a s i W o r n e f o Õs r e r m i s s i o … · 2019-03-05 · pwysicaf fy ngwaith. Rhan fawr o’m gwaith yw codi llais dros blant a phobl ifanc

AR0506AR0506

AR0506AR0506AR0506What we’re about...

...what we’ve been up to... ...and whatwe

thinkneedsdoing...

AB0506AB0506

AB0506AB0506AB0506

Beth yw ein gwaith... ...beth rydyn ni wedi bod yn ei wneud...

...a beth rydyn ni’n teimlo bod angen ei wneud...C

om

isiynyddPlantCymru

Ch

ildre

n’

sCommissionerforW

ales

Com

isiynydd Plant Cym

ru

Ch

ildren’s Commissioner fo

rW

ale

s

Com

isiy

nydd

Plan

tC

ymru

:Ado

lygi

adB

lyny

ddol

2005

-200

6

Children’s

Com

missioner

forW

ales:AnnualReview

2005-2006

Page 2: u r m y t AB0506 C o m s e m l i a s i W o r n e f o Õs r e r m i s s i o … · 2019-03-05 · pwysicaf fy ngwaith. Rhan fawr o’m gwaith yw codi llais dros blant a phobl ifanc
Page 3: u r m y t AB0506 C o m s e m l i a s i W o r n e f o Õs r e r m i s s i o … · 2019-03-05 · pwysicaf fy ngwaith. Rhan fawr o’m gwaith yw codi llais dros blant a phobl ifanc

Beth yw eingwaith...

...beth rydyn niwedi bod yn

ei wneud... ...a beth rydynni’n teimlo bod angen ei wneud...

CynnwysRhif y Dudalen

RHAGAIR: Gair gan Peter Clarke 4ADRAN UN: Beth yw ein gwaith 6ADRAN DAU: Beth rydyn ni wedi bod yn ei wneud 11

Rhoi cyngor a chefnogaethCyflawni newidiadau er gwellY DU, Ewrop a’r tu hwntYr adolygiadau a’r adroddiadau diweddaraf

ADRAN TRI: Cadw plant a phobl ifanc yn ganolog i bopeth a wnawn 29Cynnwys plant a phobl ifanc yn ein gwaithCynnal deialog gyda phlant a phobl ifanc CymruRhoi’r gair ar led a chodi llais ar ran plant a phobl ifancYmchwil werthuso: I ba raddau rydyn ni’n llwyddo?

ADRAN PEDWAR: Ein rhaglen waith at y dyfodol 39

ADRAN PUMP: Beth rydyn ni’n teimlo bod angen ei wneud: Adolygiad ComisiynyddPlant Cymru o faterion sy’n berthnasol i hawliau a lles plant 41Gwasanaethau eiriolaeth annibynnolRhoi argymhellion Clywch ar waith a chefnogaeth gwnselaGwasanaethau iechyd meddwl i blant a phobl ifanc a gwasanaethauiechyd eraill i blant a phobl ifancTlodi plantGwasanaethau i bobl ifanc sy’n ymddwyn mewn modd rhywiol niweidiolAddysg plant sy’n derbyn gofal a bod yn rhieni corfforaethol daTynnu’n ôl o wirfodd neu waharddiadau anffurfiolDyfais y mosgito a pharchLimwsînau a diogelwch cerbydauPlant a bwydNyrsys ysgolDefnydd diogel o’r rhyngrwydCludiant ysgolAmddiffyn plant mewn canolfannau gweithgareddauConfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn

ADRAN CHWECH: Gwybodaeth ariannol 53

Tîm y Comisiynydd Plant: siart trefniadol Tudalennau canolRydym yn ddiolchgar unwaith eto i’r holl blant a phobl ifanc sydd wedi gweithio gyda ni yn ystod yflwyddyn, bod hynny fel aelodau o’n Grwpiau Ymgynghorol, trwy ein gwaith uniongyrchol, fel llysgenhadonysgol, aelodau o Atebnôl, neu drwy gymryd rhan yn ein gwaith ymgynghori, ein digwyddiadau neu’nhadolygiadau. Mae llawer o’u safbwyntiau a’u sylwadau ar ddwy thema flaenoriaeth ysgolion ac addysg achwarae ac amser rhydd, yn ogystal â’u ffotograffau, i’w gweld ar hyd yr adroddiad.

Mae modd darparu’r adroddiad hwn mewn fformatau eraill ar gais.

Cyfeiriadau a manylioncyswlltTy YstumllwynarthLlys SiarterPhoenix WayLlansamletAbertawe SA7 9FSFfôn: 01792 765600 Ffacs: 01792 765601

Plas Penrhos Oak DriveBae Colwyn Conwy LL29 7YWFfôn: 01492 523333 Ffacs: 01492 523336

E-bost:[email protected]:www.complantcymru.org.uk

www.complantcymru.org.uk > 3

Page 4: u r m y t AB0506 C o m s e m l i a s i W o r n e f o Õs r e r m i s s i o … · 2019-03-05 · pwysicaf fy ngwaith. Rhan fawr o’m gwaith yw codi llais dros blant a phobl ifanc

Yn sgîl newid yn y rheoliadau, nid oes rhaid i mi gynnwysgwybodaeth ariannol fanwl yn yr adroddiad hwn. Rwy’n dalyn ymroddedig i sicrhau bod y ddogfen hon yn hysbysu’rcyhoedd ynghylch plant a’m gwaith drostynt. Mae hefyd ynnodi pa weithredu rydyn ni’n teimlo ddylai gael ei wneudgan amrywiaeth o asiantaethau.

Cyflawnwyd llawer yn 2005-06, pan gefais y pleser o weldllawer o’m cynlluniau er datblygu’r sefydliad yn cael eu rhoiar waith. Yn fwyaf nodedig bu cynnydd o ran y ddauflaenoriaeth a nodwyd yn fy nau Adroddiad Blynyddoldiwethaf, sef sefydlu gwasanaeth cyngor a chefnogaethpenodol a hefyd cynyddu cyfranogiad a rhan plant a phoblifanc yn ein gwaith.

Gwaetha’r modd, bu ambell rwystr hefyd, ac er fy mod ynfalch (ac yn teimlo cryn ryddhad) o fod yn ôl wrth y llywwedi cyfnod o salwch difrifol, effeithiodd hynny ar ein gallui gyflawni’n holl gynlluniau, a bu’n rhaid newid rhaiterfynau amser. Yr amlycaf o’r rhain yw’r oedi wrth gwblhauein hadolygiad thematig ar fwlio – er nad yw hynny’ngolygu bod y mater hwn wedi symud o frig yr agenda pan

nad oeddwn i mewn sefyllfa i wneud cyfraniad rhagweithioli’r gwaith. Yn fwy nag erioed, rwy’n ddiolchgar iawn i’m tîmcynyddol o staff am droi fy ngweledigaeth yn realiti.

Rhoddodd fy salwch gyfle hefyd i mi fyfyrio ar agweddaupwysicaf fy ngwaith. Rhan fawr o’m gwaith yw codi llaisdros blant a phobl ifanc a hyrwyddo’u hawliau, gan eu bodmor aml yn cael eu beirniadu a heb gael cyfle i leisio barndrostynt eu hunain. Dyma’r peth mwyaf hanfodol o hyd ymae’n rhaid i ni ei sicrhau ar gyfer ein plant yng Nghymru.Mae angen bod gennym systemau, prosesau acagweddau yn eu lle sy’n caniatáu i blant – yn enwedigplant hawdd eu niweidio – fynegi eu barn a’u pryderon, abod yn rhan o benderfyniadau sy’n effeithio arnynt. Maethema gwrando a gweithredu wedi dod i’r amlwg yn gysonyng ngwaith fy swyddfa, ac mae dau fater sydd wediachosi pryderon llawer mwy na’r disgwyl, o’m rhan i:eiriolaeth a chwnsela i bob plentyn. Byddaf yn parhau iymdrechu i sicrhau bod y rhain yn cael eu datblygu’nbriodol.

4 > adolygiad blynyddol 05-06

Gair gan Peter ClarkeBob blwyddyn rwyf wedi croesawu’r cyfle a gaf yn fy adroddiad blynyddol i edrych ar ygwaith rydyn ni wedi bod yn ei wneud yn ystod y flwyddyn flaenorol. Mae’n rhoi cyfle ini ddweud ychydig mwy wrth bobl am sut sefydlwyd swyddfa’r Comisiynydd Plant yngNghymru, pa bwerau sydd gen i i’m helpu gyda’r gwaith o ddiogelu a hyrwyddohawliau a lles plant a phobl ifanc, a pha waith sydd wedi’i gynllunio ar gyfer yblynyddoedd i ddod. Serch hynny, un o’r pethau gorau am yr adroddiad yw ei fod ynrhoi cyfle i ni amlygu’r materion a ddaeth i’n sylw drwy bob agwedd ar ein gwaith. Maerhai o’r pethau rydyn ni’n eu dysgu wrth wrando ar blant a phobl ifanc yn gadarnhaol,ond fel y byddech yn disgwyl, rydyn ni hefyd yn clywed llawer o bethau negyddol.

Page 5: u r m y t AB0506 C o m s e m l i a s i W o r n e f o Õs r e r m i s s i o … · 2019-03-05 · pwysicaf fy ngwaith. Rhan fawr o’m gwaith yw codi llais dros blant a phobl ifanc

Rwy’n aml wedi gwneud y sylw mai prif nod ComisiynyddPlant ddylai fod gwneud ei swydd yn ddiangen. Petai pawbyn diogelu lles plant ac yn eu hannog i chwarae rhan lawnyn y gymdeithas, fyddai dim angen Comisiynydd. Er bodhyn yn wir, nid yw hynny’n gysur wrth i mi sylweddoli mai fyadroddiad nesaf fydd fy un olaf fel Comisiynydd. I bobpwrpas dyna fydd fy ‘Adroddiad Diwedd Tymor’ wrth i migyrraedd diwedd fy nghyfnod yn y swydd. O ran fysylwadau ar berfformiad Llywodraeth Cynulliad Cymru achyrff eraill ar y materion sydd, yn fy marn i, yn hanfodol,rwy’n gobeithio’n fawr y bydd yn taro nodyn cadarnhaol, ynhytrach na ‘gallai fod yn well’.

Peter Clarke

Peter Clarke, Comisiynydd Plant CymruHydref 2006

www.complantcymru.org.uk > 5

Page 6: u r m y t AB0506 C o m s e m l i a s i W o r n e f o Õs r e r m i s s i o … · 2019-03-05 · pwysicaf fy ngwaith. Rhan fawr o’m gwaith yw codi llais dros blant a phobl ifanc

Rydym yn ffodus yng Nghymru ein bod wedi cyflawni llawero bethau mewn perthynas â hawliau plant am y tro cyntafyn y DU. Mae’r blynyddoedd o ymgyrchu a lobïo, ogynyddu ymwybyddiaeth a phwysleisio’r angen amgynnwys pobl ifanc a’u cymryd o ddifrif, wedi dwyn ffrwyth.O leiaf mae’n ymddangos felly ar bapur.

Mae rhai o’r sialensiau sy’n wynebu’r rheiny sy’n gweithioym maes hawliau plant yng Nghymru bellach ynymddangos rywfaint yn fwy heriol. Yn sicr yn sgîl enillioncyflym dyddiau cynnar y Cynulliad Cenedlaethol cawsomsawl rheswm dros fod yn llawen. Ond yn ystod yblynyddoedd nesaf, er gwaethaf y ffaith y gall ymddangosyn dipyn o ymdrech, rhaid i ni sicrhau nad ydym yn colli

gafael ar ein penderfyniad i yrru newidiadau yn eu blaen asicrhau bod y geiriau cynnes yn llawer mwy na rhywbetharwynebol yn unig.

Fel tîm rydym yn ymroddedig i wneud Confensiwn yCenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn yn realiti yngNghymru. Gwrando ar blant a phobl ifanc, eu grymuso,dysgu o’r hyn a glywsom a gweithredu arno yw conglfeini’ngwaith. Adlewyrchir cylch gorchwyl eang gwaith yComisiynydd Plant yn ystod ac amrywiaeth yr hyn rydym ynei wneud. Mae llawer i’w gyflawni o hyd, a gobeithiwn ybydd yr adroddiad hwn yn dweud cymaint wrth ddarllenwyram y broses o wneud ein gwaith ag am y casgliadau a’rcanlyniadau.

Beth yw ein gwaith...Cyflwyniad

Adran 1

6 > adolygiad blynyddol 05-06

Page 7: u r m y t AB0506 C o m s e m l i a s i W o r n e f o Õs r e r m i s s i o … · 2019-03-05 · pwysicaf fy ngwaith. Rhan fawr o’m gwaith yw codi llais dros blant a phobl ifanc

www.complantcymru.org.uk > 7

Beth yw Comisiynydd Plant?

Rhywun sy’n codi llais droshawliau a lles plant a phobl ifancac yn eu hyrwyddo

Pencampwr plant

Sefydliad hawliau dynolannibynnol

Rhywun sy’n helpu i sicrhau bodplant a phobl ifanc yn derbyn euhawliau ac yn medru lleisio barn

Mae union waith pob Comisiynydd Plant, a sut mae’n eigyflawni, yn amrywio o wlad i wlad – ond maent bobamser yn gweithredu i sicrhau’r gorau i blant a phobl ifanc.Mae nifer y Comisiynwyr Plant ar gynnydd yn Ewrop aledled y Byd wrth i wledydd ddod yn fwy ymwybodol o’rangen am hyrwyddo a diogelu hawliau a lles plant a phoblifanc, a’u cymryd o ddifri. Bellach mae gan bob un owledydd y DU Gomisiynydd sy’n gweithio dros Blant aPhobl Ifanc.

Pam mae gan GymruGomisiynydd Plant?

Weithiau mae hawliau plant yncael eu hanwybyddu, neu euhanghofio

Does dim pw^er economaidd agwleidyddol gan blant

Weithiau dyw plant ddim yn cael yrhyn y mae ei angen arnyn nhw

Weithiau mae plant mewn perygl

Ymgyrchodd sefydliadau plant yng Nghymru amGomisiynydd Plant am dros 10 mlynedd. Roeddgwleidyddion yn y Cynulliad hefyd yn frwd o blaid y syniad.Roeddent am gael rhywun fyddai’n codi llais dros hawliauplant a phobl ifanc ac yn helpu i gryfhau a gwella’rsystemau oedd yn bodoli i’w hamddiffyn.

“Mae’n dda bod cymaint o ffyrddgwahanol o ddysgu yn yr ysgol, felactio, y bwrdd gwyn, celf a TG.”

Page 8: u r m y t AB0506 C o m s e m l i a s i W o r n e f o Õs r e r m i s s i o … · 2019-03-05 · pwysicaf fy ngwaith. Rhan fawr o’m gwaith yw codi llais dros blant a phobl ifanc

8 > adolygiad blynyddol 05-06

Sut cafodd Cymru GomisiynyddPlant?Yn gynnar yn 2000, cyhoeddodd Syr Ronald Waterhouseei adroddiad – Ar Goll mewn Gofal – wedi ymchwiliad hir igam-drin plant mewn cartrefi plant yng Ngogledd Cymru.Argymhellodd y dylai Cymru gael Comisiynydd Plant i geisioatal pethau felly rhag digwydd eto. Cyflymodd hyn yrymgyrch a daeth deddfwriaeth i rym yn Senedd y DU ermwyn creu’r swydd a rhoi iddi’r pwerau angenrheidiol.

Sefydlwyd swydd Comisiynydd Plant Cymru – y gyntaf o’ibath yn y DU – gan Ddeddf Safonau Gofal 2000.Ehangodd Deddf Comisiynydd Plant Cymru 2001 y cylchgorchwyl a chyflwyno prif nod y Comisiynydd, sef diogelu ahyrwyddo hawliau a lles plant yng Nghymru.

Pwy yw Comisiynydd PlantCymru?Peter Clarke – a daeth ef i’w swydd ar Ddydd Gw^yl Dewi2001. Fe’i penodwyd gan Brif Weinidog CynulliadCenedlaethol Cymru wedi iddo gael ei gyfweld gan blant,pobl ifanc ac oedolion.

Diben y Comisiynydd Plant a’i dîm yw helpu i sicrhaubod plant a phobl ifanc yng Nghymru:

• yn ddiogel rhag niwed a cham-drin

• yn derbyn y cyfleoedd a’r gwasanaethau y maent yn euhaeddu ac y mae eu hangen arnynt

• yn cael eu parchu a’u gwerthfawrogi

• yn medru codi llais yn eu cymunedau a chwarae rhanmor llawn â phosibl mewn penderfyniadau sy’neffeithio arnynt

• yn gwybod am eu hawliau a Chonfensiwn y CU arHawliau’r Plentyn.

Y prif ffocws yw pawb 18 oed a iau sy’n byw yng Nghymru,neu’n byw yng Nghymru fel arfer. Fodd bynnag, gall yComisiynydd Plant weithredu hefyd ar ran pobl ifanc hy^n odan rai amgylchiadau arbennig – er enghraifft os ydyntwedi derbyn gofal gan awdurdod lleol. Os oes goblygiadaui blant a phobl ifanc heddiw, gall hefyd ymchwilio i bethaua ddigwyddodd i oedolion pan oeddent yn blant.

“Yn y clwb ieuenctid, sdim pawb yn galluymuno a^’r gweithgareddau.”

Page 9: u r m y t AB0506 C o m s e m l i a s i W o r n e f o Õs r e r m i s s i o … · 2019-03-05 · pwysicaf fy ngwaith. Rhan fawr o’m gwaith yw codi llais dros blant a phobl ifanc

www.childcomwales.org.uk > 9

Beth yw Confensiwn y CU arHawliau’r Plentyn?Rhestr o hawliau yw’r confensiwn, y mae bron holl wahanolwledydd y byd wedi ei dderbyn. Mae’n dweud y dylid cadwpob plentyn a pherson ifanc yn ddiogel, y dylent dderbyn ypethau angenrheidiol i dyfu a datblygu fel pobl, ac y dylid eucynnwys mewn penderfyniadau am eu bywydau.

Sut mae’r Comisiynydd a’i dîmyn gwneud eu gwaith?

Sut rydyn ni’n ei wneud…

• Gwrando ar blant a phobl ifanc

• Dweud wrth bobl sy’n gallu gwneudgwahaniaeth beth ddylai newid

• Rhoi cyngor a chefnogaeth

• Gwirio bod pobl yn gwneud eugorau dros blant a phobl ifanc,yn eu cymryd o ddifri, ac yn eutrin â pharch

• Dweud wrth bawb – gan gynnwysplant a phobl ifanc – am hawliauplant

Nid dim ond ar faterion sy’n cael eu hystyried yn faterionplant fel arfer, megis iechyd, addysg a’r gwasanaethaucymdeithasol, y mae Comisiynydd Plant Cymru’n edrych.

Mae cynllunio, cludiant, yr amgylchedd, datblygiadeconomaidd a materion gwledig hefyd yn cael eu cwmpasugan ei rôl.

Gall y Comisiynydd:

• adolygu effeithiau polisïau, polisïau arfaethedig achyflwyno gwasanaethau i blant

• archwilio’n fanylach achos plentyn neu blant penodolos yw’n cynnwys mater sy’n gyffredinol berthnasol ifywydau plant yng Nghymru

• gofyn bod asiantaethau neu bersonau sy’n gweithreduar eu rhan yn darparu gwybodaeth, a gofyn bod tystionyn rhoi tystiolaeth ar eu llw

• darparu cyngor a chymorth i blant a phobl ifanc, aceraill sy’n pryderu ynghylch eu hawliau a’u lles.

Mae gan Gomisiynydd Plant Cymru hefyd bw^ er ychwanegolpwysig, sef ystyried a chyflwyno cynrychiolaethau i GynulliadCenedlaethol Cymru ynghylch unrhyw fater sy’n effeithio arhawliau a lles plant yng Nghymru.

Mae’r Comisiynydd Plant yn ymroddedig i:

• sicrhau bod plant a phobl ifanc yn gwybod ble mae eiswyddfeydd a sut mae cysylltu ag ef a’i dîm

• annog plant i gysylltu ag ef a’r tîm

• gofyn barn plant am ei waith a’i waith at y dyfodol, achaniatáu iddynt ddylanwadu ar ei raglen waith

• sicrhau ei fod ef a’i staff yn mynd i gwrdd â phlant blebynnag y maent

• talu sylw arbennig i blant ‘anodd eu cyrraedd’,oherwydd eithrio cymdeithasol neu sydd ar y cyrionmewn rhyw fodd

• Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plant,gan ei gadw mewn cof ym mhopeth mae ef a’r tîmcyfan yn ei wneud.

www.complantcymru.org.uk > 9

Page 10: u r m y t AB0506 C o m s e m l i a s i W o r n e f o Õs r e r m i s s i o … · 2019-03-05 · pwysicaf fy ngwaith. Rhan fawr o’m gwaith yw codi llais dros blant a phobl ifanc

Sut rydyn ni’n gweithioMae’r Comisiynydd Plant a’i staff wedi’u lleoli mewnswyddfeydd yn Abertawe a Bae Colwyn, ond maent yngweithio ledled Cymru. Yn ogystal â’r Comisiynydd a’iGynorthwy-ydd Personol, mae pedwar grw^p gwahanol ostaff, gyda Chomisiynydd Cynorthwyol neu swyddogcyfatebol yn ben ar bob un ohonynt. Dyma’r pedwar:

• Cyfathrebu a Chyfranogiad

• Gwasanaethau Corfforaethol

• Cyfreithiol ac Ymchwiliadau

• Polisi a Gwerthuso Gwasanaeth.

Mae pob grw^p o staff yn cyfrannu sgiliau a gwybodaetharbenigol ac mae llawer o brosiectau a darnau o waith yncynnwys staff o feysydd gwahanol yn cydweithio fel tîmaml-swyddogaeth.

Am wybod mwy?• Mae Deddf Safonau Gofal 2000 a Deddf

Comisiynydd Plant Cymru 2001 ar wefan Llyfrfa eiMawrhydi, yn www.opsi.gov.uk/legislation

• Derbyniodd y Cynulliad Reoliadau ar gyfer yComisiynydd Plant ym mis Gorffennaf 2001 achewch hyd i’r rhain hefyd ar wefan Llyfrfa eiMawrhydi, ynwww.opsi.gov.uk/legislation/wales/wales_legislation

• Mae dogfen ymgynghori’r Cynulliad ar y cynigion argyfer rheoliadau’r Comisiynydd yn rhoi mwy o fanylionam y cylch gorchwyl a’r pwerau llawn. Mae ar gael arwefan y Cynulliad, ynwww.wales.gov.uk/subichildren

• Mae llawer o wybodaeth a fersiwn hawdd ei deall oGonfensiwn y CU ar Hawliau’r Plentyn ar gael arwww.unicef.org.uk/youthvoice/rights,www.plantyngnghymru.org.uk, www.unicef.org.uk neu www.crae.org.uk. Hefydgallech edrych ar www.draigffynci.org ahttp://cypi.carnegieuktrust.org.uk/cypi/home

• I gael rhagor o wybodaeth am Gomisiynwyr Plant ac ombwdsmyn ledled Ewrop edrychwch ar:www.ombudsnet.org

• I gael mwy o wybodaeth am y gwahanol Gomisiynwyr plant a phobl ifanc yn y DU, ewch i’wgwefannau: Yr Alban www.sccyp.org;Gogledd Iwerddon www.niccy.org;a Lloegr www.childrenscommissioner.org

• Edrychwch ar ein gwefan:www.complantcymru.org.uk

“Y peth sy’n dda am fy ysgol i yw’rathrawes, Miss Roberts.”

10 > adolygiad blynyddol 05-06

Page 11: u r m y t AB0506 C o m s e m l i a s i W o r n e f o Õs r e r m i s s i o … · 2019-03-05 · pwysicaf fy ngwaith. Rhan fawr o’m gwaith yw codi llais dros blant a phobl ifanc

Adran 2

www.complantcymru.org.uk > 11

beth rydyn ni wedi bod yn ei wneud ...Defnyddio’r offer sydd ar gael ini: pwerau statudol yComisiynyddGellir cymharu’r pwerau a gyflwynwyd yn y cyfreithiau agreodd Gomisiynydd Plant Cymru â’r offer y mae euhangen i wneud y gwaith. Dydy popeth sydd ar gael ddimyn cael ei ddefnyddio bob dydd, ond mae gweithgareddaua rhaglen waith y flwyddyn yn golygu bod y pweraucyfreithiol yn cael eu defnyddio’n effeithiol. Mae’rddeddfwriaeth hefyd yn nodi rhai pethau y mae’n rhaid iPeter Clarke eu gwneud i fod yn bencampwr gwybodus iblant a phobl ifanc, gan symbylu newid i sicrhau dyfodolmwy disglair a diogel i blant Cymru.

Rhoi cyngor a chefnogaethYn ôl y ddeddfwriaeth gall Comisiynydd Plant Cymru, felrhan o’i waith, roi cyngor a chefnogaeth i blant i roi gwybodiddynt am eu hawliau a’u helpu i fynegi eu barn a’udymuniadau. Gall y Comisiynydd hefyd roi cyngor agwybodaeth i unrhyw un sy’n pryderu ynghylch hawliau alles plentyn, neu blant yn gyffredinol. Gall hefydgynorthwyo, gan gynnwys drwy roi cymorth ariannol, gydagachosion cyfreithiol, plant a phobl ifanc nad yw eu hawliauwedi cael eu parchu. Er bod pwerau swyddfa ComisiynyddCymru’n eang, mae hefyd rai pethau na allwn eu gwneud– er enghraifft, allwn ni ddim edrych ar unrhyw fater sy’ndestun achos cyfreithiol ar y pryd neu sydd wedi bod yndestun penderfyniad gan lys neu dribiwnlys. Hefyd, ni allwnddyblygu gwaith CAFCASS Cymru.

Page 12: u r m y t AB0506 C o m s e m l i a s i W o r n e f o Õs r e r m i s s i o … · 2019-03-05 · pwysicaf fy ngwaith. Rhan fawr o’m gwaith yw codi llais dros blant a phobl ifanc

Ein gwasanaeth cyngor achefnogaethBellach mae’r gwasanaeth pwysig hwn yn cael ei ddarparugan dîm penodol o staff, gyda chefnogaeth arbenigwyr ardraws y sefydliad a chyngor arbenigol allanol. Mae’rgwasanaeth ffôn ar gael ar hyn o bryd drwy ein prif rifauswitsfwrdd ac mae ar agor rhwng 10.00 am ac 1.00 pmbob dydd ar gyfer oedolion. Gall plentyn neu berson ifancddefnyddio’r gwasanaeth unrhyw bryd pan fydd einswyddfa ar agor (fel arfer 9.00 am tan 5.00 pm, dydd Lluni ddydd Gwener).

Bydd unrhyw un sy’n ffonio’r gwasanaeth yn medru siaradag aelod o’r tîm cyngor a chefnogaeth amlddisgyblaeth.Mae plant a phobl ifanc, eu teuluoedd a’u gofalwyr, ynogystal â gweithwyr proffesiynol sy’n gweithio gyda nhw, yncysylltu â’r tîm. Mae’r gweithwyr proffesiynol sy’n cysylltu âni yn cynnwys staff gwasanaethau cymdeithasol,ymarferwyr iechyd, athrawon ac undebau llafur. Rydymhefyd yn derbyn galwadau gan eiriolwyr plant, cyfreithwyr,Aelodau Cynulliad ac Aelodau Seneddol.

Mae’r achosion sy’n derbyn sylw’r tîm cyngor achefnogaeth yn darparu gwybodaeth werthfawr. Yn ogystalâ helpu i gyflawni gwell canlyniadau, mwy o amddiffyniadneu unioni pethau i’r plentyn neu’r person ifanc dan sylw,mae achosion unigol yn aml yn ein cyfeirio at faterion,polisïau neu arferion sy’n achosi llawer o drafferth. Maedadansoddi beth aeth o’i le ar gyfer un person ifanc ynrhoi cipolwg i ni sy’n hysbysu’n cyfraniad at drafodaeth fwycyffredinol, ymateb ymgynghori neu ymgyrch benodol, acyn helpu i nodi blaenoriaethau ar gyfer gwaith pellach.

Sut mae’r gwasanaeth yn gweithioRydym yn gwrando ar bobl sy’n ffonio, gan siarad â’rplentyn neu’r person ifanc dan sylw cyn gynted â phosib osbydd oedolyn wedi galw ar eu rhan. Rydym yn aml yn cwrddâ nhw i gael darlun llawnach o’u sefyllfa, eu dymuniadaua’u teimladau. Ar ôl casglu’r holl wybodaeth gallwn ddelioâ’r sefyllfa mewn sawl ffordd, ond rydym bob amser yncanolbwyntio ar ddod o hyd i ateb – yn trafod, yn hwylusocyfathrebu, yn mynychu cyfarfodydd, yn cyfryngu neu’n eiriolyn ôl y galw. Mewn rhai achosion bydd ein hymyrraeth ynfwy ffurfiol; defnyddio’n pwerau statudol, er enghraifft, drwygynnal adolygiad ymchwiliol i amgylchiadau achos penodolam fod iddo oblygiadau i blant a phobl ifanc eraill.

12 > adolygiad blynyddol 05-06

Achos enghreifftiolRoedd dyn ifanc mewn llety diogel yn dilyn euogfarn amymosodiad rhywiol. Roedd anabledd ganddo ac roeddangen mawr iddo dderbyn therapi er mwyn helpu i’watal rhag troseddu eto. Roedd hefyd yn datgelucamdriniaeth a ddioddefodd ef ei hun pan oedd yn iau.Roedd yr angen am therapi wedi’i nodi ond hebddigwydd oherwydd dadl ariannol rhwng y BwrddCyfiawnder Ieuenctid, yr awdurdod lleol a’r bwrddiechyd lleol. Cysylltodd yr awdurdod lleol â ni i gael helpar ei ran. Buom yn trafod gyda’r Bwrdd CyfiawnderIeuenctid sydd wedi cytuno i ariannu rhaglen trintroseddwyr rhyw.

“Mae Mam yn becso gormod pan dwi’nmynd allan i chwarae.”

Page 13: u r m y t AB0506 C o m s e m l i a s i W o r n e f o Õs r e r m i s s i o … · 2019-03-05 · pwysicaf fy ngwaith. Rhan fawr o’m gwaith yw codi llais dros blant a phobl ifanc

www.complantcymru.org.uk > 13

Yn ystod 2005-06 deliodd y gwasanaeth cyngor achefnogaeth ag achosion oedd yn ymwneud â 566 o blant aphobl ifanc. O’r achosion hyn, cyfeiriwyd 30% at asiantaethauneu ffynonellau cyngor a chefnogaeth eraill. O gyfanswm niferyr achosion, datryswyd 90%, datryswyd 7% yn rhannol, a dimond 3% oedd heb eu datrys ar ddiwedd y flwyddyn.

Cyngor a chefnogaeth: Rhyw'r plentyn neu'r person ifanc 2005-06

Yn ystod y flwyddyn dan sylw, cyfran yr achosion a ddaethat sylw’r gwasanaeth dros y ffôn oedd y mwyaf sylweddol ohyd, heb fawr ddim newid yng nghanrannau’r rheiny oeddyn ysgrifennu e-bost neu lythyr atom.

Rhai ffeithiau a ffigurau

Gwryw 54%

Benyw 46%

“Mae fy addysg i yn y Gymraeg acmae hynny dda, a dwi’n dysgu ieithoedd

arall fel Ffrangeg.”

Achos enghreifftiolCysylltodd rhiant â’r swyddfa, yn pryderu nad oedd yrAwdurdod Addysg Lleol yn cwblhau’r asesiad statudolar gyfer eu plentyn am eu bod wedi cyflwyno cwynffurfiol yn erbyn y swyddogion dan sylw. Buom ni’ncyfryngu rhwng yr AALl a’r rhieni a chynhaliwydcyfarfod i drafod unrhyw faterion oedd heb eu datrys.

Achos enghreifftiolFfoniodd gofalwr maeth ni am fachgen oedd âphroblemau ymddygiad ac a oedd wedi cael ei leoli y tuallan i’r sir lle roedd yn byw am 4 blynedd. Roedd yn caeltrafferth rheoli dicter, yn clywed lleisiau, yn cael meddyliauafiach, wedi niweidio’i hun ac wedi cychwyn tân ynfwriadol. Er ei fod wedi derbyn asesiad, lle nodwyd bodangen cefnogaeth CAMHS arbenigol arno, roedd dadlrhwng dau fwrdd iechyd lleol ynghylch talu’r bil yn golyguei fod wedi aros ers dwy flynedd am driniaeth. Roedd ygofalwr maeth wedi cyrraedd pen ei thennyn ac roedd ybachgen wedi dechrau ymwneud â gweithgareddautroseddol ac wedi’i wahardd o’r ysgol. Fe wnaethon niymyrryd a dod â’r sefyllfa at sylw’r Gweinidog dros Iechyda Gwasanaethau Cymdeithasol. Cytunodd y Bwrdd IechydLleol yn y sir lle roedd wedi’i leoli i dalu am ei driniaeth.Bydd Llywodraeth Cynulliad Cymru’n cyflwyno arweiniadcliriach i sicrhau ei bod hi’n amlwg mai’r BILl sy’n lleolisy’n atebol mewn achosion o’r fath yn y dyfodol.

Page 14: u r m y t AB0506 C o m s e m l i a s i W o r n e f o Õs r e r m i s s i o … · 2019-03-05 · pwysicaf fy ngwaith. Rhan fawr o’m gwaith yw codi llais dros blant a phobl ifanc

Cyngor a chefnogaeth: Sut gwnaed y cyswllt cychwynnol 2005-06

Yn y mwyafrif o achosion, rhiant, gofalwr neu’r teulu estynedigsy’n gwneud y cyswllt cychwynnol. Mae oedolion proffesiynolmegis eiriolwyr, athrawon a gweithwyr iechyd hefyd yn cysylltuâ ni, ond fel y soniwyd eisoes, byddwn ym mhob achos ynsiarad â’r plentyn neu’r plant cyn gynted â phosib i sicrhau einbod yn deall safbwynt y plentyn, ac nad agenda oedolyn sydddan sylw. Mewn rhai achosion, os bydd y plentyn neu’r personifanc yn cytuno i hynny, oedolyn – naill ai gofalwr neu weithiwrproffesiynol – fydd ein prif bwynt cyswllt. Fodd bynnag, maeoedolion bob amser yn cael gwybod mai ar ran y plentyn neu’rperson ifanc yr ydym yn gweithredu, ac mai eu lles, eudymuniadau a’u teimladau hwythau fydd yn penderfynu arunrhyw gamau a gymerwn, yn hytrach na dymuniadau’roedolion. Mae’n hanfodol felly eu bod yn derbyn gwybodaethyn rheolaidd ac yn rhan o bob penderfyniad.

Cyngor a chefnogaeth: Pwy wnaeth y cyswllt cychwynnol 2005-06

Mewn blynyddoedd blaenorol, roedd dadansoddi gwybodaetham oedran y plant yr oeddem yn gweithredu ar eu rhan yndangos bod y cyfnodau pontio – o’r ysgol fabanod i’r ysgoliau, o addysg gynradd i uwchradd ac o’r ysgol i addysgbellach a byw’n annibynnol – yn adegau amlwg lle roeddanawsterau’n debygol o godi. Roedd llawer o’r materion ybuom yn delio â nhw’n cefnogi’r dadansoddiad cynnar hwn,ond at ei gilydd roedd cynnydd cyson yng nghanran y boblifanc yng nghanol eu harddegau oedd yn profi anhawsterneu’n teimlo nad oedd gwasanaethau’n eu helpu.

14 > adolygiad blynyddol 05-06

Ffôn 68%

E-bost 9%

Llythyr 22%

Personol 1%

Achos enghreifftiolCysylltodd mam â ni am ei phlentyn ifanc, a oedd ynderbyn gofal ac a oedd hefyd wedi’i wahardd o’r ysgolam ymddwyn yn ymosodol. Fe wnaethon ni gysylltu â’rysgol a’r adran gwasanaethau cymdeithasol lleol a dodi gytundeb y byddai’r ysgol yn addysgu’r plentyn nesbod modd cael hyd i ysgol arbenigol. Digwyddodd hyn asymudodd y plentyn i leoliad preswyl yn fuan wedyn.

Achos enghreifftiolCysylltodd person ifanc oedd yn gadael gofal â’rgwasanaeth cyngor a chefnogaeth i gael cyngor ar fyw’nannibynnol ac addysg bellach. Fe wnaethon ni gysylltuâ’i hawdurdod lleol a sôn am ei sefyllfa, gan eu hatgoffay dylen nhw gyflawni eu dyletswydd tuag ati. Cytunwyd arbecyn ariannol i ddiwallu anghenion y person ifanc yma.

Teulu Estynedig 7.8%

Rhywun yn datgelu camarfer 0.4%

Gweithiwr Proffesiynol arall 2.7%

Aelod Cynulliad 1.2%

Awdurdod Lleol 1.2%

Rhiant 56.2%

Plentyn/Person Ifanc 4.9%

Y Gwasanaeth Prawf 0.2%

Aelod o'r cyhoedd 4.1%

Ysgol 2.9%

Darparwr Eiriolaeth 4.9%

Dienw 1.6%

Gweithiwr Iechyd Proffesiynol 1.6%

Gofalwr 7.4%

Sefydliad Gwirfoddol 2.9%

Page 15: u r m y t AB0506 C o m s e m l i a s i W o r n e f o Õs r e r m i s s i o … · 2019-03-05 · pwysicaf fy ngwaith. Rhan fawr o’m gwaith yw codi llais dros blant a phobl ifanc

Cyngor a Chefnogaeth 2005-06Oedran a rhyw'r plant fu'n defnyddio'rgwasanaeth

Pa fath o faterion mae pobl yncysylltu â ni yn eu cylch?Cwynion a phryderon unigol ynghylch addysg a’rgwasanaethau cymdeithasol oedd amlycaf yng ngwaith y tîmcyngor a chefnogaeth eto, gydag ychydig o dan 43% o’r hollachosion yn ymwneud â materion cysylltiedig ag ysgolion acaddysg. Gwelwyd gostyngiad bychan yn nifer y materionamddiffyn plant a ddaeth i sylw’r swyddfa, er bod y cynnyddyng nghyfanswm nifer yr achosion oedd yn ymwneud âmaterion gwasanaethau cymdeithasol yn golygu nad oedd ynewid canran hwn mor arwyddocaol â’r flwyddyn flaenorol.At ei gilydd, roedd bron 23% o’r achosion yn ymwneud âmaterion gwasanaethau cymdeithasol.

Pan ddaw achosion o’r fath i’n sylw rydym yn gwrando ar yplant a’r bobl ifanc a’u cynrychiolwyr ac yn cwrdd â’rasiantaethau perthnasol i geisio sicrhau bod unrhyw risgiauy rhown wybod amdanynt yn cael eu hasesu. Rydym hefydyn monitro ymchwiliadau dilynol yn fanwl.

www.complantcymru.org.uk > 15

Achos enghreifftiolCysylltodd mam-gu â’r gwasanaeth cyngor achefnogaeth am ei bod yn pryderu am lefel y trais yn ycartref roedd ei hwyrion yn ei weld. Roedd hi’n teimlonad oedd y gwasanaethau cymdeithasol yn cymryd ytrais yn y cartref o ddifri, bod y plant yn ofnus, ac nadoedd y gwasanaethau cymdeithasol yn cael mynediadi’r ty^. Roedd hi’n pryderu bod y plant nid yn unig yngorfod amddiffyn eu hunain, ond hefyd eu bod ynamddiffyn eu mam i ryw raddau. Ar ôl siarad â’r plantfe wnaethon ni roi pwysau ar yr adran gwasanaethaucymdeithasol i alw cyfarfod aml-asiantaeth. Daethnifer fawr o asiantaethau iddo a chymerodd ygwasanaethau cymdeithasol y mater o ddifri.Rhoddwyd cynllun aml-asiantaeth ar waith i asesu’rrisg i’r plant petaent yn parhau i fyw gartref.

Achos enghreifftiolFfoniodd person ifanc y swyddfa am ei bod yn cael eibwlio yn yr ysgol ac yn y gymuned, a bod hynny wedibod yn digwydd ers 5 mlynedd. Fe wnaethon ni gwrddâ hi a gwrando. Roedd yr heddlu’n gwybod am ysefyllfa ac nid oedd hi’n mynd i’r ysgol bellach achosbod ofn arni. Fe wnaethon ni gysylltu â’r ysgol, trefnuei bod hi’n mynd yno i sefyll ei harholiadau’n unig athrefnu cyfarfod aml-asiantaeth gyda’r hollbroffesiynau, gan gynnwys yr heddlu, fel bod moddrhannu’r wybodaeth berthnasol a chytuno ar gynllungweithredu. Mae’r person ifanc bellach wedidychwelyd i’r ysgol yn llawn amser.

“Dydy’n ni ddim yn gallu gwneud rhaipethau oherwydd ein bod ni’n rhy

ifanc, neu’n rhy hen.”

0

10

20

30

40

50

dan

12

mis 1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16 17 18

dros

18

Cyfanswm

Benyw

Gwryw

Nife

r

Oed

Page 16: u r m y t AB0506 C o m s e m l i a s i W o r n e f o Õs r e r m i s s i o … · 2019-03-05 · pwysicaf fy ngwaith. Rhan fawr o’m gwaith yw codi llais dros blant a phobl ifanc

Rydym hefyd yn rhoi gwybod i gyrff eraill megis byrddauiechyd lleol am achosion amddiffyn plant. Rydym ynymwybodol bod rhai o’r plant a’r bobl ifanc sy’n cysylltu â niwedi colli ffydd yn yr asiantaethau statudol. I’w hannog igysylltu â ni i roi gwybod am eu lles hwy a phlant eraill, ynenwedig y rheiny sy’n derbyn gofal, mae gennym lefel uwcho gyfrinachedd na’r asiantaethau stautdol ac ni fyddwn ynrhannu gwybodaeth ond wedi derbyn caniatâd y plentynneu os byddwn yn barnu bod y plentyn hwnnw neu blentynarall mewn perygl uniongyrchol. Byddem yn rhoi gwybod i’rperson ifanc pe baem yn penderfynu gwneud hyn ac yn eucefnogi drwy’r broses ddilynol.

Cyngor a chefnogaeth: Materion a godwyd 2005-06

Gan fod cynifer o nodweddion tebyg yn rhai o’r achosion awelwn rydym wedi medru ystyried yn ofalus pa gamau maeangen eu cymryd. Er enghraifft, rydym wedi casglugwybodaeth ar sail yr achosion iaith a lleferydd, ac un o’r

0 10 20 30 40 50 60 70 80 90 100 110 120

Cynllunio

Yr Amgylchedd

Chwaraeon a Hamdden

Mewnfudo

Lloches

Hawliau anabledd

Hawliau

Addysg

AAA

Bwlio

Cludiant ysgol

Social services

Gwasanaethau Cymdeithasol

Amddiffyn Plant

Plentyn mewn angen

Cyfraith Deuluol

Cyfreithiol

Darpariaeth iechyd

Tai

Achos enghreifftiolCysylltodd person ifanc oedd yn derbyn gofal â nioherwydd ei bod yn anhapus am yr hyn oedd yndigwydd yn ei chartref maeth. Dywedodd ei bod yncael ei tharo gan ei gofalwr maeth, a oedd hefyd yngweiddi arni, ac nad oedd ei gweithiwr cymdeithasolyn gwrando arni pan oedd hi’n ceisio egluro beth oeddwedi digwydd. Roedd hi am gwrdd â ni rywle heblaw’rlleoliad maeth fel ei bod yn medru siarad yn ddi-ofn,ac fe wnaethon ni drefnu cwrdd â hi yn yr ysgol lleroedd hi’n teimlo’n gyfforddus ac yn ddiogel.Cysylltodd y Pennaeth â ni i ddweud bod y PennaethGwasanaethau Plant wedi dweud wrtho am beidio âgadael i ni fynd i’r ysgol i gyfweld y person ifanc. Fewnaethon ni drafod gyda’r Pennaeth, gan egluro’n rôla hawliau’r plentyn dan sylw. Cynhaliwyd y cyfarfod acfe wnaethon ni gyflwyno pryderon y person ifanc i’radran gwasanaethau cymdeithasol. Symudodd hi ileoliad maeth newydd.

Rydyn ni wedi lobïo i gael hawl mynediad i sefydliadaui gyfweld â phlant ers cryn amser. Bellach mae’r pw^eryna gennym ni o dan Adran 61 Deddf Plant 2004.

Achos enghreifftiolFfoniodd nyrs ar ward iechyd meddwl ni ar brynhawnGwener. Roedd hi’n poeni bod dau berson ifanc wedicael eu rhoi mewn ward iechyd meddwl i oedolion. Fewnaethon ni ffonio Comisiwn Iechyd Cymru addywedodd fod problem ariannol. Symudwyd y plant ofewn awr.

“Gwell adeiladau bydde’n gwneud fyaddysg i’n well.”

16 > adolygiad blynyddol 05-06

Page 17: u r m y t AB0506 C o m s e m l i a s i W o r n e f o Õs r e r m i s s i o … · 2019-03-05 · pwysicaf fy ngwaith. Rhan fawr o’m gwaith yw codi llais dros blant a phobl ifanc

prif faterion sy’n tynnu’n sylw yw diffyg asesu ffurfiol i blantsydd ag anawsterau emosiynol ac ymddygiad, a fyddai’nhelpu i nodi problemau eraill, megis anawsterau iaith alleferydd. Yn aml iawn mae’r diagnosis yn dod yn rhy hwyr,sy’n golygu bod pobl ifanc mewn perygl o gael eu gwahardda heb fedru cael mynediad i’r gefnogaeth y mae ei hangenarnynt ac sy’n hawl iddynt.

Mae pryder parhaus hefyd ynghylch argaeleddgwasanaethau i blant a phobl ifanc ag anhwylderausbectrwm awtistig, yn enwedig y rheiny lle cafwyd diagnosisSyndrom Asperger. Er bod gweithwyr proffesiynolymroddedig yn cyflwyno gwasanaeth o ansawdd mewn rhaiardaloedd, prin yw’r ddarpariaeth yn y mwyafrif o ardaloeddCymru. Mae’n destun pryder bod rhieni’n dal i orfod ymladdi sicrhau bod eu plentyn yn derbyn y ddarpariaeth addysgoly mae ganddynt hawl i’w disgwyl. Rydym hefyd yn pryderuam ddyfodol gwasanaethau awtistiaeth trydyddol yngNghymru ac yn disgwyl cyhoeddi’r Strategaeth Awtistiaetha’r broses o’i rhoi ar waith â diddordeb.

Mewn llawer o achosion rydym wedi ymyrryd i gyflymu’rcynnydd lle mae plant wedi gorfod aros yn yr ysbytyoherwydd nad oes trefniadau yn y gymuned i gefnogi plantanabl a phlant ag anghenion iechyd cymhleth. Eto mae’ndestun pryder bod oedi o’r fath yn parhau os na cheirymyrraeth i hwyluso gweithio ar y cyd ymhlith yrasiantaethau dan sylw.

www.complantcymru.org.uk > 17

“Dwi’n gallu chwarae gyda fy chwaer yn yr ardd.”

Achos enghreifftiolRoedd plentyn 14 oed ar y gofrestr amddiffyn plant ynbyw gyda’i fam-gu, a oedd wedi’i ‘droi allan’. Pangysylltodd â ni roedd yn ddigartref. Fe wnaethon nigwrdd â fe ac fe ddywedodd bopeth am ei sefyllfa: moranobeithiol roedd yn teimlo, sut roedd yn teimlo nadoedd yn cael ei helpu gan y gwasanaethaucymdeithasol a’i fod wedi treulio wythnosau’n teimlo’nofnus, heb wybod beth dylai neu na ddylai ei wneud, nable y dylai fyw. Dywedodd ei weithiwr camddefnyddiosylweddau wrthym fod y person ifanc yma wedi cael eiadael i ofalu amdano’i hun ac mai ef ei hun oedd yngyfrifol am ddod o hyd i le i gysgu bob nos. Cawson niwybod nad oedd yn derbyn ymweliadau na chefnogaethgan weithiwr cymdeithasol. Fe wnaethon ni ymyrryd acmae’r dyn ifanc bellach yn byw gyda pherthnasau ac yncael ei gefnogi gan y gwasanaethau cymdeithasol.Dywedodd wrthym ni fod cyfarfod â’r swyddog cyngor achefnogaeth wedi gwneud iddo deimlo ‘ei fod yn bwysiga bod rhywun yn gwrando’. Gofynnodd i ni ei helpu iysgrifennu llythyr at y gwasanaethau cymdeithasol iddweud wrthyn nhw sut roedd e’n teimlo am ei brofiad.

Achos enghreifftiolRoedd person ifanc wedi cael amser caled ynemosiynol wedi i un o’i rieni farw, ac o ganlyniad roeddyn cael trafferth codi i fynd i’r ysgol yn y bore. Roedd yrysgol yn anfodlon ar bresenoldeb y person ifanc acroedd hyn yn ei roi dan fwy o straen. Trefnodd swyddogcyngor a chefnogaeth gyfarfod gyda’r person ifanc asiaradodd â’r swyddog lles addysg a’r ysgol. Trefnwydcyfarfod i lunio cynllun cefnogi cydlynus a oedd yngolygu ei fod yn haws iddo barhau i fynd i’r ysgol.

Page 18: u r m y t AB0506 C o m s e m l i a s i W o r n e f o Õs r e r m i s s i o … · 2019-03-05 · pwysicaf fy ngwaith. Rhan fawr o’m gwaith yw codi llais dros blant a phobl ifanc

18 > adolygiad blynyddol 05-06

Yn aml mae materion amddiffyn plant y clywn amdanynt ynymwneud ag esgeulustod, yn ogystal â cham-drin corfforolneu rywiol, neu fod yn dyst i drais yn y cartref. Rydym yn amlwedi rhannu gwybodaeth gyda’r gwasanaethau cymdeithasollle rydym wedi cael gwybod am achosion o esgeulustod, felarfer gan aelodau o’r teulu estynedig. Mae hyn yn arwain atasesiadau ychwanegol sy’n bwydo i benderfyniadau ynghylchdiogelu plant. Gwelsom o’n profiad bod angen mwy ohyfforddiant ar gyfer gweithwyr proffesiynol yn y maes hwn, abod ymyrraeth gynnar yn hanfodol. Mewn llawer o achosionmae’r awdurdod lleol yn ymyrryd mewn argyfwng yn unig, acweithiau ceir camdriniaeth ddifrifol cyn i esgeulustod gael eigymryd o ddifri.

Er i ni amlygu’r mater hwn mewn adroddiadau blynyddolblaenorol a galw am fwy o adnoddau ar gyfer gwasanaethauiechyd meddwl i blant a phobl ifanc, mae’r achosion a ddawi sylw’n gwasanaeth cyngor a chefnogaeth yn dangos bodhwn yn dal yn wasanaeth bylchog, heb ddigon o adnoddau,

sy’n methu diwallu anghenion llawer o’n plant a phobl ifanchawdd eu niweidio. Trafodir hyn ymhellach yn adran 5 yradroddiad hwn.

Cyngor a chefnogaeth: materion fel canran o’r cyfanswm 2005-06

Achos enghreifftiolCysylltodd gofalwr maeth â’r Comisiynydd Plant am eifod eisiau i’r gwasanaethau cymdeithasol dalu amwersi cerddoriaeth ychwanegol i berson ifanc yn eiofal. Fe wnaethon ni gwrdd â’r person ifanc a siaradâ’r gwasanaethau cymdeithasol i gyflwyno safbwynt yperson ifanc. Cytunwyd y bydden nhw’n asesu’r caisac yn cymryd barn y person ifanc o ddifri. Cytunwydhefyd y byddai’n cael cynnig eiriolwr i gynrychioli eifarn yn y dyfodol.

Cludiant ysgol 2.9%

Bwlio 8.7%

AAA 11.5%

Addysg 19.8%

Gwasanaethau cymdeithasol 15.6%

Amddiffyn plant 6.7%

Cyfraith deuluol 9.1%

Cyfreithiol 0.2%

Tai 5.5%

Ariannu 2.7%

Cynllunio 0.2%

Hawliau 6.5%

Hawliau anabledd 0.7%

Lloches 1.1%

Plentyn mewn angen 0.5%

Darpariaeth iechyd 7.3%

Mewnfudo 0.2%Chwaraeon a hamdden 0.5%Yr amgylchedd 0.2%

“Dwi’n hoffi dysgu trwy canu.”

Page 19: u r m y t AB0506 C o m s e m l i a s i W o r n e f o Õs r e r m i s s i o … · 2019-03-05 · pwysicaf fy ngwaith. Rhan fawr o’m gwaith yw codi llais dros blant a phobl ifanc

Datblygiadau cyngor achefnogaeth at y dyfodolYn ystod y flwyddyn recriwtiwyd Cydlynydd Gwirfoddolwyrfel rhan o sawl datblygiad yn y gwasanaeth cyngor achefnogaeth. Mae gwirfoddolwyr yn awr yn cael eurecriwtio gyda chymorth y bobl ifanc o’n grwpiauymgynghorol.

Bydd yr aelodau newydd hyn o’r tîm yn helpu staff eingwasanaethau Rhadffon a negeseuon testun SMS amddim i bobl ifanc a fydd yn cael eu lansio yng ngwanwyn2007. Er y byddant ar gael i bob plentyn a pherson ifancyng Nghymru sydd am gysylltu â ni ynghylch unrhywagwedd ar ein gwaith, byddant yn cael eu hyrwyddo’nbenodol fel gwasanaeth i blant sy’n derbyn gofal gan yrawdurdod lleol, sydd wedi’u gwahardd neu mewn perygl ogael eu gwahardd o’r ysgol, a phobl ifanc mewn lletydiogel neu garchar.

Mae gwaith ar hyrwyddo’r gwasanaeth cyngor achefnogaeth ymhlith y grwpiau penodol yma o bobl ifancwedi cychwyn eisoes; un enghraifft o hynny yw bodSwyddogion Cyngor a Chefnogaeth yn awr yn ymweld âcharchardai’n rheolaidd. Fel menter ar y cyd â’r staffCyfathrebu a Chyfranogiad, mae hyfforddiant hefyd wedicael ei ddarparu i Swyddogion Cyswllt Ysgolion yr Heddluledled Cymru fel eu bod yn gwbl glir beth yw rôl swyddfa’rComisiynydd Plant a’r gwasanaeth cyngor a chefnogaethyn arbennig, pan fyddant yn ymweld ag ysgolion fel rhano’u gwaith.

www.complantcymru.org.uk > 19

Achos enghreifftiolRoedd person ifanc yn cael ei bwlio – yn yr ysgol a’r tuallan. Trefnodd swyddog cyngor a chefnogaethgyfarfod gyda’r person ifanc a’i chefnogi yn ei dewis,sef symud i ysgol newydd. Digwyddodd y symud yngymharol gyflym, a gwnaeth y person ifanc ffrindiaunewydd yn y gymuned ac yn ei hysgol newydd.

“Mae addysg yn ffordd da i ddysgu amholl ddiwylliannau’r byd.”

“Mae llawer o bethau gyda ni i wneudlle dwi’n byw. Mae fi a fy ffrindiau yn

mynd allan a chwarae ar y beics.”

Page 20: u r m y t AB0506 C o m s e m l i a s i W o r n e f o Õs r e r m i s s i o … · 2019-03-05 · pwysicaf fy ngwaith. Rhan fawr o’m gwaith yw codi llais dros blant a phobl ifanc

Dylanwadu ar bolisïau agweithdrefnauUn o brif nodweddion Comisiynwyr Plant yw eu bod yngweithio mewn ffordd sy’n dod â budd i lawer o blant. Maedylanwadu ar ddatblygiad polisïau a phwyso am welliannauarfer a gweithdrefnau yn hanfodol felly. Dyw trwsio’r tyllauyn y systemau diogelwch lle mae plant unigol wedi syrthiotrwodd ddim yn ddigon.

Yn aml dyw hawliau plant ddim yn cael eu parchuoherwydd bod system neu drefn wedi’i sefydlu er lles ysefydliad yn hytrach na phlentyn neu berson ifanc. Er bodpeth o’n gwaith dylanwadu’n digwydd wrth i ni hyrwyddoargymhellion adroddiad neu ddogfen benodol, dro arallmae’n edrych yn benodol ar a yw plant a phobl ifanc wedigallu lleisio barn neu chwarae rhan mewn cynigion ac wrthwneud penderfyniadau. Rydym wedi datblygu cysylltiadaugyda Byrddau Iechyd Lleol ac Ymddiriedolaethau GIG ledledCymru, darparwyr eiriolaeth, mudiadau (NGOs) plant achymdeithasau proffesiynol, yn ogystal â grwpiaudiddordeb arbennig, is-adrannau’r Cynulliad a ChyrffCyhoeddus a noddir gan y Cynulliad.

Yn ystod y flwyddyn rydym wedi ymateb i ymgynghoriadau’rCynulliad, gan seilio’n galwadau polisi ar wybodaeth agasglwyd trwy ein cyfranogiad, cyngor a chymorth, a gwaithcyfathrebu, yn ogystal ag ar yr hyn rydym ni’n credu ei foder budd mwyaf i blant. Ar hyd y flwyddyn rydym wediparhau i ymateb i ymgynghoriadau ar ganllawiau drafft achynnal adolygiadau – gan ragori ar ein targed o 25%.

Dyma rai enghreifftiau o ddogfennau a phapurauymgynghori y gwnaethom ni ymateb iddynt.

• Ymchwiliad Ffurfiol i Anghydraddoldebau IechydCorfforol a Brofwyd gan Blant ac Oedolion âPhroblemau Iechyd Meddwl a Phlant ac Oedolion agAnableddau Dysgu yng Nghymru a Lloegr

• Arweiniad i Gyrff Llywodraethu Ysgolion ar WeithdrefnauCwynion sy’n ymwneud â Disgyblion

• Ymgynghoriad ar Gynllun Llywodraeth Cynulliad Cymruar gyfer rhoi Cymorth Ariannol ar gyfer Gwisg Ysgol

• Ymgynghoriad ar y Cynigion ar gyfer Deddfwriaeth arGyflawni Dyletswyddau i Bobl Ddigartref (Mawrth –Mehefin 2005)

• Cynllun Gweithredu Magu Plant – Cefnogi Mamau,Tadau a Gofalwyr sy’n Magu Plant yng Nghymru

• Cynhwysiad a Chefnogi Disgyblion

• Cwynion a Gweithdrefnau Cynrychiolaethau yngNgwasanaethau Cymdeithasol Awdurdodau Lleol

• Arweiniad Statudol ar Wneud Trefniadau o dan Adran28 Deddf Plant 2004

• Diogelu Plant gyda’n gilydd – Arweiniad i FyrddauDiogelu Plant Lleol yng Nghymru

• Plant a Phobl Ifanc: Hawliau i Weithredu(Partneriaethau Cryfach i sicrhau Gwell Canlyniadau)

• Trefniadau Estyn ar gyfer Sicrhau Ansawdd Gwaith sy’ncael ei Gontractio Allan yng nghyswllt Arolygiadau YsgolAdran 10

• Deddf Addysg 2002 – Adran 175

• Tystiolaeth i Bwyllgor Addysg a Dysgu Gydol Oesadolygiad polisi Cynulliad Cenedlaethol Cymru oAnghenion Addysgol Arbennig

20 > adolygiad blynyddol 05-06

Sicrhau newid er gwell

“Dwi’n hoffi’r amrywiaeth o wersi gwahanol.”

Page 21: u r m y t AB0506 C o m s e m l i a s i W o r n e f o Õs r e r m i s s i o … · 2019-03-05 · pwysicaf fy ngwaith. Rhan fawr o’m gwaith yw codi llais dros blant a phobl ifanc

• Adolygu Cyflwyno Gwasanaeth yn lleol (AdolygiadBeecham)

• Ymgynghoriad Dechrau’n Deg.

Gwnaethom gyfraniad sylweddol hefyd i Adolygiad yCynulliad ar Ddiogelu Plant Hawdd eu Niweidio a hyrwyddoymwybyddiaeth o’r angen am wasanaethau awdurdodaulleol ar gyfer plant ag ymddygiad rhywiol niweidiol a materioneraill a ddaeth i’r amlwg trwy waith cynghori a chefnogi.

Adolygu a monitro cynnydd oran argymhellion Beirniadaeth gyson ar adroddiadau yw nad ydynt yn symudo’r silff ar ôl cael eu cyhoeddi a derbyn pethcyhoeddusrwydd. Mae’r gallu i ofyn bod ymateb i unrhywargymhellion a wneir, ac i’w monitro, yn sicrhau nad yw hynyn digwydd i adroddiadau’r Comisiynydd Plant.

Rydym yn parhau i fonitro gweithrediad yr argymhellion awnaed yn ein hadroddiadau:

• Datgan pryderon (eiriolaeth, datgelu camarfer achwynion mewn adrannau gwasanaethau cymdeithasolawdurdodau lleol)

• Adroddiad Clywch

• Dydy plant ddim yn cwyno… (eiriolaeth, datgelucamarfer a chwynion mewn awdurdodau addysg lleol)

• Codi’r clawr (ar doiledau ysgol)

• Ond mod i’n cyrraedd yn sâff (ar fysus ysgol).

Gweithio gydag eraillGan fod ein gwaith yn cwmpasu ystod mor eang o faterionrydym yn ymwybodol iawn na ddylem ddyblygu gwaithasiantaethau eraill. I wybod yn union sut rydym yn gweithiogyda rhai cyrff allweddol eraill rydym yn llunioMemorandwm Dealltwriaeth gyda nhw. Mae’r dogfennauyma’n cael eu llofnodi gan y ddwy ochr sy’n llunio’rcytundeb ac maen nhw’n glir iawn am ein cyfrifoldebau abeth gallwn ni ei ddisgwyl oddi wrth ein gilydd. Maememorandwm o ddealltwriaeth yn ein helpu i weithio ar ycyd ag asiantaethau y mae eu gwaith yn effeithio arhawliau a lles plant a phobl ifanc.

Eleni rydym wedi cwrdd â’r Ombwdsmon GwasanaethauCyhoeddus yn rheolaidd i weld beth yw’r ffyrdd gorau ogydweithio. Rydym wedi cytuno i ymchwilio ar y cyd i achossy’n ymwneud â lleoli plant y tu allan i’r sir (neu’r wlad) trwyasiantaeth faethu breifat, gan edrych yn benodol ar rolau achyfrifoldebau’r gwasanaethau cymdeithasol a’r asiantaeth.Teimlwn y bydd hyn yn enghraifft o sut gallwn weithio gydachyrff eraill er lles plant trwy gyfuno nid yn unig arbenigedd,ond hefyd bwerau statudol y ddau sefydliad.

www.complantcymru.org.uk > 21

“Rwy’n hoffi fy adnoddau chwarae ganmod i’n meddwl bod chwarae yn

bwysicach na teledu.”

Page 22: u r m y t AB0506 C o m s e m l i a s i W o r n e f o Õs r e r m i s s i o … · 2019-03-05 · pwysicaf fy ngwaith. Rhan fawr o’m gwaith yw codi llais dros blant a phobl ifanc

Dylanwadu a rhwydweithioRydym yn ceisio dylanwadu ar ddiwylliant a’i newid, o fewnsefydliadau neu yn y gymdeithas ehangach, ac mae hyn yngalw am ymagwedd gwmpasog. Mae aelodau o dîm yComisiynydd yn cymryd rhan ac yn cyfrannu atrwydweithiau a gweithgorau – yn aml fel arsylwyr iddiogelu’n hannibyniaeth – gan sicrhau ein bod yndylanwadu ar ddatblygiadau ac yn cyflawni gwelliant yngynnar yn oes menter polisi neu arfer gwaith. Mae arsylwimewn llawer o weithgorau wedi golygu ein bod mewnsefyllfa i gadw llygad ar gynnydd a datblygiadau, ond hefyd iwneud awgrymiadau, er enghraifft ynghylch sut gallai’rgweithgorau helpu plant a phobl ifanc i gyfranogi achyfrannu iddynt. Rydym hefyd yn cyfrannu at nifer orwydweithiau a grwpiau eraill sy’n gysylltiedig â’n gwaith.

Yn ystod y flwyddyn roedd y grwpiau a’r rhwydweithiauroeddem yn rhan ohonynt, neu’n arsylwi ynddynt, yncynnwys y canlynol:

• Grw^p Ymgynghorol a Gweithredu Cwynion aChynrychiolaethau (CRAIG)

• Adolygiad Diogelu Plant Hawdd eu Niweidio, CynulliadCenedlaethol Cymru.

• Cam-drin yn y Cartref: Grw^p tasg a gorffen cyswllt plant ynystyried agwedd Gwasanaethau Cynghori a Chefnogi’rLlysoedd Plant a Theuluol (CAFCASS) at faterion plant yngnghyswllt cam-drin yn y cartref.

• Y grw^p fu’n adolygu’r broses wrth i ArolygiaethGwasanaethau Cymdeithasol Cymru a Swyddfa ArchwilyddCenedlaethol Cymru adolygu perfformiad gwasanaethaucymdeithasol awdurdodau lleol yng Nghymru ar y cyd

• Gweithgor gwrthweithio Ecsbloetio Plant yn Rhywiol

• Fforwm Rhyngasiantaeth Llysoedd Teulu Abertawe

• Cymdeithas Cyfreithwyr Cyfraith Gyhoeddus a HawliauDynol Cymru

• Cyngor Cyfiawnder Teuluol

• Datblygu’r Offeryn Hunanasesu ac Archwilio ar gyfer yFframwaith Gwasanaeth Cenedlaethol i Blant, Pobl Ifanc aGwasanaethau Mamolaeth (NSF)

• Gweithgor Cynllun Gweithredu Magu Plant

• LlCC- Gweithgor neiniau a theidiau

• Fforwm Polisi Amddiffyn Plant

• Cymdeithas Cyfraith Teulu Cymru

• Grw^p Polisi Plant NGOs Cymru

• Rhwydwaith Atal Tlodi Plant Cymru

• ‘Sdim Curo Plant!

• Grw^p Monitro Confensiwn y CU ar Hawliau’r Plentyn

• Rhwydwaith Cyfreithiol y Plant (y DU)

• Tasglu Tlodi Plant LlCC

• Plant yng Nghymru Hawliau Plant Grwpiau Cyfnewid Arferyng Ngogledd a De Cymru

• Tadolaeth Cymru (Fatherhood Wales)

• Grw^p llywio ac is-grwpiau Consortiwm/Uned CyfranogiadCymru

• Sefydliadau Pobl Ifanc Cymru Gyfan (AWYPO).

22 > adolygiad blynyddol 05-06

Page 23: u r m y t AB0506 C o m s e m l i a s i W o r n e f o Õs r e r m i s s i o … · 2019-03-05 · pwysicaf fy ngwaith. Rhan fawr o’m gwaith yw codi llais dros blant a phobl ifanc

Gweld y darlun ehangachMae cyswllt rheolaidd gyda phlant a phobl ifanc a’r rheinysy’n gweithio gyda nhw neu’n gweithredu ar eu rhan ynhanfodol. Er y gallwn ganolbwyntio’n bennaf ar rai materionpenodol, mae angen hefyd i ni gadw bys ar y pwls o ranrhai materion pwysig eraill. Fel swyddfa mae’n bwysig einbod yn cyflawni’n rôl fel eiriolwyr systemig, gan geisiodylanwadu ar ddatblygiad polisi a’i roi ar waith a gyrru’ragenda yn ei blaen. Mae materion ehangach yn dod i’nsylw mewn tair prif ffordd:

• cyswllt uniongyrchol gyda phlant a phobl ifanc, erenghraifft trwy waith cyfranogiad neu gyngor achefnogaeth

• gwybodaeth a rennir gyda ni gan weithwyr proffesiynol asefydliadau

• agweddau allweddol ar adolygiadau.

Mae hyn yn golygu ein bod yn medru gwneud sylwadaugwybodus ar amrywiaeth o faterion – yn wir, ar unrhyw fatersy’n effeithio ar hawliau a lles plant a phobl ifanc.

www.complantcymru.org.uk > 23

Page 24: u r m y t AB0506 C o m s e m l i a s i W o r n e f o Õs r e r m i s s i o … · 2019-03-05 · pwysicaf fy ngwaith. Rhan fawr o’m gwaith yw codi llais dros blant a phobl ifanc

24 > adolygiad blynyddol 05-06

Rhwydwaith Ewrop o Ombwdsmyn Plant(ENOC)

Sefydlwyd ENOC ym 1997 ac mae’n cysylltu’r swyddogionplant annibynnol yn y gwledydd Ewropeaidd lle maent ynbodoli. Mae Peter Clarke yn gyn-Lywydd i ENOC, ac rydymyn ymroddedig i’w nodau o annog y gweithrediad ehangafposib i’r UNCRC ledled Ewrop. Rydym hefyd ar ein hennill orannu gwybodaeth, dulliau a strategaethau a dysgu obrofiad Comisiynwyr Plant ac Ombwdsmyn eraill.

Rhwydwaith Prydain ac Iwerddon oOmbwdsmyn a Chomisiynwyr Plant(BINOCC)

Wedi’i sefydlu fel is-bwyllgor i ENOC, mae creu rhwydwaithnewydd o Gomisiynwyr Plant yn y DU a GweriniaethIwerddon wedi dod â llawer o fanteision yn ei sgîl. MaeBINOCC yn cyfarfod yn annibynnol ar ENOC bob deufis.Mae’r Comisiynwyr a’u timau’n rhannu gwybodaeth ac yntrafod materion a dulliau o ddiddordeb cyffredin. Yn ystod2005-06 cyhoeddwyd dau ddatganiad ar y cyd – ardriniaeth Plant a Phobl Ifanc sy’n Ceisio Lloches ac arGosbau Corfforol – a chawsant gryn gyhoeddusrwydd.Mae staff o bob un o’r swyddfeydd hefyd yn medru cydlynugwaith a rhannu adnoddau a dysgu o ddydd i ddydd. Maehyn yn cynnwys gwaith adrodd ar gynnydd tuag at roiConfensiwn y CU ar Hawliau’r Plentyn ar waith yn llawn.

Hyrwyddo Confensiwn y CenhedloeddUnedig ar Hawliau’r Plentyn

Yn ôl y ddeddfwriaeth, mae’n rhaid i’r Comisiynydd Plantystyried Confensiwn y CU ar Hawliau’r Plentyn (UNCRC) ynei holl waith. Byddai gweithdai a chyflwyniadau i blant aphobl ifanc neu’r rheiny sy’n gweithio gyda nhw’nanghyflawn pe na bai rôl y Comisiynydd yn cael ei hegluroyng nghyd-destun hawliau dynol plant a phobl ifanc.

Rydym yn hyrwyddo’r UNCRC a hawliau plant mewn sawlffordd. Rydym yn annog ymwybyddiaeth o’r egwyddorionsy’n sail i’r confensiwn ymhlith y rheiny sy’n darparugwasanaethau i blant a’r rheiny sy’n gyfrifol am feysydd.

“Byddai adeilad ysgol newydd a bwydgwell yn helpu.”

Y Deyrnas Unedig, Ewrop a’r tu hwnt

Page 25: u r m y t AB0506 C o m s e m l i a s i W o r n e f o Õs r e r m i s s i o … · 2019-03-05 · pwysicaf fy ngwaith. Rhan fawr o’m gwaith yw codi llais dros blant a phobl ifanc

polisi sy’n effeithio ar eu bywydau. Mae’r hawl i gael euhamddiffyn, i dderbyn darpariaeth, ac i fedru cyfranogi ynganolog i’n hagwedd at gyngor a chefnogaeth. Maegweithgareddau neu waith uniongyrchol gyda phlant aphobl ifanc a’r rheiny sy’n gweithio gyda nhw bron ynddieithriad yn troi o amgylch yr UNCRC a hawliau.

Seilir holl waith y Swyddfa ar Gonfensiwn y CenhedloeddUnedig ar Hawliau’r Plentyn (UNCRC) ond mae’r ffocws ynfwy llym gan fod rhaid i lywodraeth y DU adrodd i Bwyllgory DU ar Hawliau’r Plentyn ar y cynnydd a wnaed yn 2007.Bydd Comisiynwyr Plant y DU yn cael cyfle i adrodd ynannibynnol i Bwyllgor y CU ar Hawliau’r Plentyn.

Cynrychiolir y swyddfa fel arsylwr ar Grw^p Monitro UNCRCNGO Cymru, ac rydym hefyd yn cynnal gweithdai adigwyddiadau, gyda’r plant a’r oedolion sy’n gweithio gydanhw, i gynyddu eu hymwybyddiaeth o’r UNCRC.

Rydym yn ceisio sicrhau bod cyfeiriad at yr UNCRC yn yrholl ddeddfwriaeth berthnasol a bod asiantaethau’ncynorthwyo a chefnogi plant i ymarfer eu hawliau o dan yconfensiwn i fod yn rhan o benderfyniadau sy’n effeithioarnynt. Er enghraifft, rydym yn trafod gyda ThribiwnlysAnghenion Addysgol Arbennig Cymru newidiadau i’rddeddfwriaeth a fyddai’n golygu bod plant a phobl ifanc ynmedru apelio iddynt ynghylch agweddau ar eu hanghenionaddysgol arbennig neu wahaniaethu ar sail anabledd –hawl sydd ond ar gael i’w rhieni ar hyn o bryd.

www.complantcymru.org.uk > 25

“Does dim llawer i wneud i bobl yn euharddegau yn y nhref i, sy’n drist oherwyddbod angen rhywle arnon ni i fynd hefyd.”

Page 26: u r m y t AB0506 C o m s e m l i a s i W o r n e f o Õs r e r m i s s i o … · 2019-03-05 · pwysicaf fy ngwaith. Rhan fawr o’m gwaith yw codi llais dros blant a phobl ifanc

Rhywun i wrando:Rhywbeth i’w wneudMewn adroddiadau blynyddol blaenorol rydym wedi tynnusylw at y ffaith fod llawer o bobl ifanc yn teimlo nad oesganddynt unrhyw beth i’w wneud ac nad ydynt yn cael euparchu yn eu cymunedau. Rydym hefyd wedi nodi bodllawer o bobl ifanc, yn ogystal ag oedolion, yn poeni amymddygiad sydd – yn gam neu’n gymwys – yn eu barnnhw’n fygythiol neu’n ‘wrth-gymdeithasol’. Mae hyn weditaro tant gyda llawer o sefydliadau sy’n gweithio ar eu rhan.

Roeddem yn awyddus, nid yn unig i dynnu sylw at y materhwn a gwrthwynebu safbwynt rhai arweinwyr gwleidyddol acharfannau o’r cyfryngau, ond hefyd i wneud cyfraniadadeiladol at wrthweithio’r tueddiad hwn.

Fel rhan o gyfres o gyfarfodydd gyda Phrif GwnstabliaidHeddlu Cymru, cafodd Peter Clarke gyfarfod gyda PhrifGwnstabl De Cymru, Barbara Wilding. Buon nhw’n trafodffyrdd o wella pethau ac roedden nhw’n pryderu, er bodCymru wedi datblygu nifer o strategaethau gwych apholisïau allweddol ym maes cefnogi plant a phobl ifanc, abod sylfeini cadarn yn cael eu gosod ar gyfer cyflwyno gwellgwasanaethau, ei bod hi’n dal yn aneglur i ba raddau roeddrhai asiantaethau’n cysylltu ag eraill i gefnogi pobl ifanc.

Cawsom adborth gan lawer o gyrff statudol a gwirfoddol yndweud bod gwaith da yn digwydd, ond ei fod yn aml ynynysig ac weithiau mewn cystadleuaeth uniongyrchol. Fewnaethon ni gwrdd â nifer o Brif Weithredwyr, uwchswyddogion LlCC ac ymarferwyr rheng flaen profiadol.Daeth yn amlwg bod angen dull cyfannol a chydlynus osoedd y gwaith hwn yn wir yn mynd i fod er lles plant aphobl ifanc mewn perygl. Datblygwyd y ddogfen

Rhywun i wrando: Rhywbeth i’w wneud, ganymgynghorydd annibynnol. Mae’r model arfer ar gyfer ardalheddlu De Cymru a amlinellir yn y cyhoeddiad yndefnyddio’r fframwaith strategol a pholisi a bennwyd ganLywodraeth Cynulliad Cymru ac yn ymateb i’r angen amoresgyn rhwystrau i arfer da.

Nid yw Rhywun i wrando: Rhywbeth i’w wneud yn honnicynnwys yr holl atebion, ond mae’n ceisio:

• amlinellu egwyddorion allweddol dull cyfannol, aml-asiantaeth, sydd wedi’i seilio ar gyfranogiad gweithredolplant a phobl ifanc

• archwilio sut gellir integreiddio gwasanaethaucyffredinol, wedi’u targedu ac unigol er y lles mwyaf

• rhoi gwybodaeth glir ac ymarferol ar yr hyn y gellid eiwneud i gysylltu â’r plant a’r bobl ifanc sydd yn y peryglmwyaf a darparu gwasanaethau ar eu cyfer

• darparu model o arfer y gellir ei addasu i ddiwalluanghenion penodol ardaloedd lleol, boed y rheiny’n rhaitrefol, cymoedd, ardaloedd gwledig neu led-wledig.

Bydd y cyhoeddiad yn adnodd defnyddiol ar gyfer llawer o’rrheiny sy’n cyflwyno gwasanaethau i blant a phobl ifancmewn cymunedau lleol ar draws De Cymru. Maeymarferwyr ac uwch reolwyr wedi mynegi cryn ddiddordebac mae tair ardal eisoes wedi dweud yr hoffent fod ynbeilot i’r model arfer. Gobeithiwn y bydd hefyd ynffynhonnell syniadau ac ysbrydoliaeth i’r rheiny sy’ngweithio mewn rhannau eraill o Gymru a ledled y DU.

26 > adolygiad blynyddol 05-06

Adolygiadau ac adroddiadau diweddaraf

“Does dim digon o offerynau cerddoroli ddysgu arno.”

Page 27: u r m y t AB0506 C o m s e m l i a s i W o r n e f o Õs r e r m i s s i o … · 2019-03-05 · pwysicaf fy ngwaith. Rhan fawr o’m gwaith yw codi llais dros blant a phobl ifanc

Taclo bwlio yng Nghymru:adolygiad thematigNodwyd hwn fel un o dri ‘phrosiect y Comisiynydd’ cyfredolyn y cynllun corfforaethol, ac mae’r adolygiad hwn ynceisio nodi bylchau a rhwystrau i weithredu mentrau apholisïau gwrthfwlio’n effeithiol. Er ei fod yn canolbwyntio’nbennaf ar ysgolion, mae’r ymagwedd yn gyfannol ac ynystyried materion perthnasol sy’n ymwneud â’r gymuned,diwylliant a hyd yn oed bywyd teuluol.

Trwy ein holl waith gyda phlant a phobl ifanc rydym wedidysgu bod bwlio’n rhywbeth sy’n effeithio ar bawb, fwy neulai, mewn rhyw ffordd. Gall plant a phobl ifanc o bobcefndir gael eu bwlio. Hyd yn oed os nad ydyn nhw’n caeleu bwlio’u hunain, mae gwybod ei fod yn digwydd yn gallueffeithio ar eu hymddygiad, eu hyder a’u gallu i deimlo’nddiogel. Er gwaethaf polisïau gwrthfwlio a gwaith da mewnllawer o ysgolion yng Nghymru, rydym yn gwybod ei fod yndal mewn sawl modd yn fater lle mae llawer sy’n dioddefei effaith yn cadw’n dawel. Er bod llawer yn anfodlon arsut mae ysgol wedi delio â’r bwlio ar ôl cael gwybodamdano, drwy beidio â’i gymryd o ddifri, rydym hefyd wediclywed ei bod hi’n well gan blant yn aml ddelio â’r peth euhunain ac ymdopi gyda chefnogaeth cyfoedion a staff,oherwydd pan fydd oedolion wedi cael eu cynnwys, maepethau weithiau wedi gwaethygu.

Mae bwlio’n dal yn gyffredin iawn ac yn aml yr ysgolionsy’n delio ag ef orau yw’r rheiny sy’n agored ynghylch yffaith ei fod yn agwedd ar ymddygiad dynol sy’n digwyddym mhob math o gyd-destunau, gan gynnwys y cartref, ygymuned a’r gweithle. Yn ystod y flwyddyn rydym wedi caelein calonogi gan waith a wnaed mewn ardaloeddawdurdodau lleol i annog ymagwedd gyfannol, a changynnwys ysgolion a’r gwasanaeth ieuenctid, a hyd yn oed ywasg leol, wrth hyrwyddo negeseuon cadarnhaol.

Beth rydym ni wedi’i wneud hyd yma

Cychwynnodd Cam 1 o’r adolygiad eang yma yn 2005-06ac roedd yn cynnwys arolwg gyda phlant a phobl ifanc;mae hyn wedi helpu i hysbysu’n gwaith ar y mater hwn.Rhoddwyd cyfle i blant a phobl ifanc, a rhai rhieni agofalwyr, leisio barn am eu hymwybyddiaeth o bolisïau amentrau gwrthfwlio. Rydym wedi dadansoddi’r holldystiolaeth a gasglwyd, ac rydym bellach mewn sefyllfa isymud ymlaen yn uniongyrchol yn y gwaith gyda phlant aphobl ifanc.

Casglwyd tystiolaeth ar bapur, yn ogystal ag ymchwil, acenghreifftiau o arfer gorau ledled Cymru, y DU, ac mewnardaloedd y tu hwnt i hynny. Rydym wedi edrych arwahanol agweddau neu ffurfiau ar fwlio, megis aflonydduhiliol, bwlio homoffobig, a bwlio sy’n digwydd trwydechnoleg newydd fel ffonau symudol a’r rhyngrwyd.Rydym wedi edrych ar y fframwaith polisi a chyfreithiolpresennol ac wedi edrych ar beth mae asiantaethau asefydliadau sy’n gweithio gyda phlant neu drostynt yn euhyrwyddo neu wedi’u llunio i atal bwlio ac ymateb iddo panfydd yn codi. Yn anffodus, ni lwyddwyd i benodi secondaiyn gydlynydd prosiect i’n helpu gyda’r gwaith pwysig hwnyn unol â’n bwriad, a hynny am resymau ariannol.

“Hoffwn i gael mwy o wersi ymarfer corff.”

www.complantcymru.org.uk > 27

Page 28: u r m y t AB0506 C o m s e m l i a s i W o r n e f o Õs r e r m i s s i o … · 2019-03-05 · pwysicaf fy ngwaith. Rhan fawr o’m gwaith yw codi llais dros blant a phobl ifanc

Beth byddwn ni’n ei wneud nesaf

Er i waith ar fwlio barhau ar hyd y flwyddyn, roeddcanlyniadau anochel yn sgîl methu â phenodi cydlynyddpenodol. Yn arwyddocaol hefyd, gan fod hwn yn brosiect ymae’r Comisiynydd ei hun yn bersonol ymroddedig iddo,golygodd absenoldeb salwch Peter Clarke for rhaidaddasu’r amserlen ar gyfer Cam 2.

Y camau nesaf yng Ngham 2 o’r adolygiad fydd:

• darganfod mwy am brofiad plant a phobl ifanc o fwliotrwy negeseuon testun, e-bost, blogiau a gwefannau –a beth gellir ei wneud am hynny. Bydd hyn yn digwyddtrwy lawer o’n gwaith uniongyrchol gyda phlant a phoblifanc

• cwrdd â grwpiau o bobl ifanc a fu’n ymwneud âmentrau i atal bwlio a gwrando arnyn nhw, a mynd ati ihyrwyddo diwylliant o wrando mewn ysgolion ar yr hynmaen nhw’n teimlo sy’n gweithio neu beidio

• dadansoddi’r holl wybodaeth sydd gennym er mwyncynhyrchu adroddiad terfynol

• parhau i rwydweithio a dylanwadu ar waith gan gyrff asefydliadau eraill ar y mater pwysig hwn

• sicrhau bod argymhellion yr adolygiad yn cael eucymryd o ddifri a bod gweithredu yn ei sgîl i helpu ileihau’r achosion o fwlio mewn ysgolion a mannaueraill lle mae plant a phobl ifanc yn treulio’u hamser.

Mae ein holl gyhoeddiadau ar gael o’n swyddfeydd, neugellir eu lawrlwytho o’n gwefanwww.complantcymru.org.uk

28 > adolygiad blynyddol 05-06

Page 29: u r m y t AB0506 C o m s e m l i a s i W o r n e f o Õs r e r m i s s i o … · 2019-03-05 · pwysicaf fy ngwaith. Rhan fawr o’m gwaith yw codi llais dros blant a phobl ifanc

Adran 3

www.complantcymru.org.uk > 29

O’r cychwyn cyntaf – cyn bod tîm o staff yn ei le, hyd ynoed – roedd Comisiynydd Plant Cymru’n benderfynol bodplant a phobl ifanc yn allweddol wrth bennu ei agenda adylanwadu ar ei raglen waith. Er bod yr ymrwymiad hwn i’wweld yn glir mewn adroddiadau fel Codi’r clawr ac Ondmod i’n cyrraedd yn sâff, roeddem ni am wneud yn well.Roeddem am i blant a phobl ifanc fedru dylanwadu o ddifriar ein penderfyniadau o ran y dasg nesaf ac roeddem am

sicrhau bod y pethau sy’n bwysig iddyn nhw yn wir wrthwraidd ein gwaith. Buom ni’n ymgynghori â’r plant a’r boblifanc ac fe wnaethon ni lunio fframwaith newydd er mwynmedru gwneud hyn mewn ffordd fwy systematig.

Cadw plant a phobl ifanc yn ganolog i’n gwaithDechreuadau cynnar

Page 30: u r m y t AB0506 C o m s e m l i a s i W o r n e f o Õs r e r m i s s i o … · 2019-03-05 · pwysicaf fy ngwaith. Rhan fawr o’m gwaith yw codi llais dros blant a phobl ifanc

Cynnwys plant aphobl ifanc yn eingwaith

Sut rydyn ni’n gwneud hynny...

Cynnwys plant a phobl ifanc yn eingwaith a’n penderfyniadau

• Digwyddiadau Beth nesaf? ablaenoriaethu prosiectau’rComisiynydd

• 2 Grw^p ymgynghorol

• casglu gwybodaeth o bobagwedd ar ein gwaith

Eleni oedd y flwyddyn gyntaf i ni weithredu’n Fframwaithnewydd ar gyfer Cynnwys Plant a Phobl Ifanc. Roedd hyn yncynnwys cynnal dau ddigwyddiad lle gallai plant a phobl ifancddweud beth ddylai’r blaenoriaethau fod i’r swyddfa ac ynsefydlu dau grw^p ymgynghorol o bobl ifanc sy’n cefnogiamrywiol agweddau ar ein gwaith beunyddiol.

Gan fod cynifer o wahanol fathau o faterion yn dod i’n sylw trwywahanol agweddau ar y gwaith, roedd angen i ni sefydlusystem deg a chywir fel eu bod yn medru mynegi barn ar eindewisiadau o ran blaenoriaethau gweithredu, yn hytrach nagwneud yr holl benderfyniadau yna ein hunain. Roedd angenhefyd i ni sicrhau bod pobl ifanc yn cael cyfle i chwarae rhan ynein gwaith o ddydd i ddydd a ffordd o sicrhau bod yr hyn maennhw’n ei ddweud wrthym yn cael ei adlewyrchu’n gywir yngngweithgaredd dylanwadol a datblygiadau polisi’r sefydliad.Roedd ein profiad blaenorol yn amlygu nad oedd modd canfodun ateb i bawb felly – ar ben y gwaith roeddem ni’n ei wneudeisoes – fe wnaethon ni ddatblygu dwy ffordd newydd ogynnwys plant a phobl ifanc a rhoi cyfle iddynt gyfranogi mewngwahanol agweddau ar ein gwaith.

Dylanwad uniongyrchol plant a phobl ifancar ein rhaglen waith

Cyflwynwyd pum thema yn y digwyddiadau blaenoriaethneu ‘Beth nesaf’?’ Tynnwyd y rhain o’r holl wybodaeth agasglwyd oddi wrth blant a phobl ifanc ac oedolion ynystod y flwyddyn flaenorol. Roedd y materion hyn yn dod i’ramlwg o bob agwedd ar ein gwaith, gan gynnwys

30 > adolygiad blynyddol 05-06

“Mae angen mwy o amser i gael cinio afwy o amser i chwarae.”

Page 31: u r m y t AB0506 C o m s e m l i a s i W o r n e f o Õs r e r m i s s i o … · 2019-03-05 · pwysicaf fy ngwaith. Rhan fawr o’m gwaith yw codi llais dros blant a phobl ifanc

gweithdai a thrafodaethau gyda phobl ifanc, cyngor achefnogaeth a materion polisi. Mae’n bosib i sefydliadauplant, cymdeithasau proffesiynol neu gyrff eraill hefydgyflwyno materion oedd yn destun pryder i’n sylw, acmae’r rhain i gyd yn cael eu cynnwys wrth i ni benderfynupa themâu allweddol sy’n dod i’r amlwg.

Ar gyfer 2005-06 y pum thema a nodwyd oedd:

(i) Chwarae a HamddenRoedd plant a phobl ifanc wedi dweud wrthym eubod heb ddim i’w wneud, nac unman i fynd yn euhamser sbâr. Buon nhw hefyd yn sôn am barciauwedi’u fandaleiddio, diffyg cyfleusterau lleol, cael eusymud o le i le, a theimlo’n anniogel wrth dreulioamser y tu allan.

(ii) Addysg ac YsgolionRoedd gan blant a phobl ifanc lawer o bryderon ynghylchaddysg a’r ysgol. Y materion allweddol oedd teimlo nadoedd neb yn gwrando arnynt ac ymateb gwael i fwlio, aoedd yn aml yn gwneud y sefyllfa’n waeth. Roeddmaterion eraill yn ymwneud â pheidio â derbyn adborthneu beidio â gwybod beth oedd canlyniadpenderfyniadau. Y teimlad cyffredinol oedd nad oeddunrhyw beth y tu allan i’r cwricwlwm ysgol yn gweithio’ndda a bod plant a phobl ifanc yn aml yn teimlo nadoedd neb yn gwrando arnynt nac yn eu parchu.

(iii) Iechyd emosiynolCodwyd materion iechyd meddwl, fel hunan-niweidio,iselder, anhwylderau bwyd, a phryder a phyliau obanig, gan blant a phobl ifanc trwy weithdai adigwyddiadau, a’r gwasanaeth cyngor a chefnogaeth.Er mai ein hymateb yn yr achosion hyn fel arfer ywcyfeirio’r plentyn neu’r person ifanc at y gwasanaethperthnasol priodol, mae hynny’n aml wedi bod ynhaws dweud na gwneud. Amlygodd hyn y diffyggwasanaethau priodol yng Nghymru i gefnogi plant aphobl ifanc sydd ag unrhyw fath o anawsterauemosiynol neu iechyd meddwl.

(iv) Cefnogaeth a gwasanaethau i blant a phoblifanc y mae eu hangen arnyntCodwyd llawer o’r materion gan blant sy’n derbyngofal a phlant a phobl ifanc anabl. Roedden nhw’ndweud nad oedd digon o wasanaethau i’w cefnogi ytu allan i’w gwasanaethau prif ffrwd.

(v) ParchRoedd thema parch yn codi ym mhob un o’r pedairthema arall ac yn ystod y flwyddyn flaenorol y matercyffredinol a godwyd amlaf oedd bod plant a phoblifanc yn teimlo nad oeddent yn cael gwrandawiadna’u cymryd o ddifri gan oedolion a gweithwyrproffesiynol. Roedden nhw hefyd yn teimlo eu bod ynaml yn cael eu labelu’n annheg, a heb eu gweld felaelodau cyflawn o’u cymunedau.

www.complantcymru.org.uk > 31

Page 32: u r m y t AB0506 C o m s e m l i a s i W o r n e f o Õs r e r m i s s i o … · 2019-03-05 · pwysicaf fy ngwaith. Rhan fawr o’m gwaith yw codi llais dros blant a phobl ifanc

Yn ystod y flwyddyn fe wnaethon ni gynnal y cyntaf o’ndigwyddiadau i blant a phobl ifanc leisio barn arflaenoriaethau’n rhaglen waith. Dyma oedd y cyntaf mewncyfres flynyddol o weithgareddau sy’n rhan o fframwaithmwy systematig i sicrhau ein bod yn canolbwyntio arflaenoriaethau’r Comisiynydd ym marn plant a phobl ifanc.

Daeth cant a hanner o blant a phobl ifanc i’r ddauddigwyddiad fel ei gilydd. Cynhaliwyd y digwyddiad 7-11oed yng Nghastell Bodelwyddan, a’r digwyddiad i rai drosun ar ddeg yn Stadiwm y Mileniwm. Cafodd y plant a’rbobl ifanc gyfle i archwilio pum thema yn y digwyddiadauhyn, a dynnwyd o bob agwedd ar waith y Comisiynydd, acwedyn blaenoriaethu’r ddwy thema roedden nhw’n teimloy dylem ni ganolbwyntio fwyaf arnynt. Bwriad ydigwyddiadau yw bod mor gynhwysol a hygyrch (a difyr) âphosib, a dyrannir lleoedd trwy ysgolion, sefydliadau aphrosiectau ledled Cymru. Dywedir wrth y sefydliadauhynny fod croeso arbennig i geisiadau gan bobl ifancanabl, pobl ifanc lesbiaidd, hoyw a deurywiol, teithwyr,pobl ifanc ddigartref, y rheiny sy’n derbyn gofal neu syddwedi gadael gofal yn ddiweddar, troseddwyr ifanc agrwpiau eraill ar y cyrion. Ond does dim angen i ni wybodam eu cefndir oni bai bod angen i ni ddiwallu’uhanghenion i’w helpu i gyfranogi. Nid dod i siarad am euhamgylchiadau eu hunain y byddan nhw, nac i gynrychiolibuddiannau grw^p penodol, ond mae’n bwysig bod y rheinysy’n cymryd rhan yn adlewyrchu cefndir a phrofiadaubywyd amrywiol plant a phobl ifanc Cymru.

At ei gilydd cyfrannodd dros 1,000 o blant a phobl ifanc aty broses bleidleisio, a gynhaliwyd hefyd yn ein gweithdaieraill, mewn digwyddiadau megis Eisteddfod yr Urdd a’rGenedlaethol, a thrwy Atebnôl a’n gwefan. Y ddau fater addewiswyd oedd Chwarae a Hamdden ac Addysg acYsgolion. Mae’r rhain yn awr yn cael eu datblygu felProsiectau i’r Comisiynydd ar gyfer y flwyddyn ariannolnesaf.

Grwpiau ymgynghorolSefydlwyd dau grw^p ymgynghorol newydd a’u datblygueleni. Wedi’u lleoli o amgylch y ddwy swyddfa, gyda’raelodau’n cael eu recriwtio trwy fforymau ieuenctidpresennol o bob ardal awdurdod lleol er mwyn sicrhau bodpobl ifanc o bob rhan o Gymru’n cael eu cynnwys,datblygwyd y grwpiau hyn i weithredu fel ymgynghorwyr. Euswyddogaeth yw dylanwadu ar ein polisïau a’ngweithdrefnau a darparu mewnbwn iddyn nhw, eincyhoeddiadau, ein recriwtio, ein dulliau gwaith, trefnu’rdigwyddiadau Beth nesaf? a’n hamgylchedd ffisegol. Nid ygrwpiau ymgynghorol sy’n penderfynu ar raglen waith yComisiynydd Plant a’i dîm, ond maen nhw yn cyfrannu atnodi’r materion a gynigiwyd ar gyfer y broses ‘Beth nesaf?’a hefyd at gynllunio a chynnal y digwyddiadau.

Bu aelodau o’r grwpiau ymgynghorol yn ymwneud ârecriwtio 13 aelod newydd o staff yn ystod y flwyddyn acmaent wedi bod wrthi’n datblygu eu cylch gorchwyl euhunain a’u ffyrdd o weithio gyda chefnogaeth y staffCyfathrebu a Chyfranogiad.

32 > adolygiad blynyddol 05-06

Digwyddiadau Beth nesaf?

“Dwi’n hoffi chwarae gyda fy ffrindiau acyn chwarae pel droed ar ddydd Sadwrn.”

Page 33: u r m y t AB0506 C o m s e m l i a s i W o r n e f o Õs r e r m i s s i o … · 2019-03-05 · pwysicaf fy ngwaith. Rhan fawr o’m gwaith yw codi llais dros blant a phobl ifanc

www.complantcymru.org.uk > 33

Aelodau’r grwpiau ymgynghorolYn ystod y flwyddyn bu’n bleser cyd-weithio gyda’r boblifanc canlynol:

Gogledd Cymru (yn cynnwys dirprwyon)

Aaron Katie

Alaw Katie

Beth Kirsty

Carwyn Mark

Ceindeg-Fflur Maurice

Chloe Ryan

Debbie Susannah

De Cymru (yn cynnwys dirprwyon)

Adelle Hannah

Anasse Jessica

Angharad Kyle

Ben Laura

Billie Lexie

Cameron Mary

Cara Matthew

Cerys Mitchell

Elaine Paige

Ethan Robert

Georgia Sophie

Page 34: u r m y t AB0506 C o m s e m l i a s i W o r n e f o Õs r e r m i s s i o … · 2019-03-05 · pwysicaf fy ngwaith. Rhan fawr o’m gwaith yw codi llais dros blant a phobl ifanc

34 > adolygiad blynyddol 05-06

MMyyffyyrriioo aarr ggaaeell ccyyffwweelliiaadd ggaann bbllaanntt aa pphhoobbll iiffaannccPan ges i’r llythyr yn fy ngwahodd am gyfweliad i fod yn Swyddog Polisi i Gomisiynydd PlantCymru, roeddwn i’n falch o weld y byddai pobl ifanc yn rhan o’r panel cyfweld. Serch hynny,doeddwn i ddim yn siwr pa fath o brofiad bydde fe – nac os fyddwn i’n medru ateb eucwestiynau.

Ar ddiwrnod y cyfweliad roedd yn bleser cael fy nghyfweld gan y panel, a oedd yn cynnwys 2berson ifanc o Grwp Ymgynghorol De Cymru. Rwy’n gwybod bellach fod pawb ar y panel wedigweithio ar y cwestiynau gyda’i gilydd, ond fe ges fod eu cwestiynau’n ddiddorol ac yn herioliawn. Cefais mod i’n canolbwyntio mwy ar esbonio fy hun yn glir ac osgoi defnyddio jargon. Adweud y gwir, roedd gwneud hynny’n eitha anodd mewn cyfweliad.

Fe wnes i fwynhau’r profiad yn fawr ac rwy’n sicr yn gobeithio y bydd sefydliadau eraill sy’ngweithio gyda phlant a phobl ifanc yn dilyn yr esiampl hon.

Gareth

...... ...... aa ssuutt ooeedddd hhii ii ffoodd aarr yy ppaanneell ........Dyma’r tro cyntaf i fi fod yn rhan o broses recriwtio, ond roeddwn i ar y panel ar gyfer trio’r swyddi, felly mae gen i gryn dipyn o brofiad erbyn hyn. Roedd yr hyfforddiant yn dda iawn adysgon ni sut i ofyn cwestiynau clir, sut i drin pawb yn deg ac yn ddiduedd. Gwnes i wirfwynhau’r profiad a theimlaf fod fy marn yn cyfri. Y cyfweliadau eu hunain oedd y darn gorau,er mod i wedi ffeindio gwerthuso sut wnaeth y bobl wahanol yn anodd ar adegau.

Dwi’n barod yn edrych ymlaen at fod yn rhan o recriwtio eto. Doedd e ddim cymaint ei fode’n waith caled, ond roedd yn sialens, sy’n rhywbeth dwi wastad yn mwynhau. Teimlaf ein bod nii gyd wedi cyd-weithio ac roeddwn i yn bendant yn rhan o’r penderfyniadau gymerwyd.

Cerys

Page 35: u r m y t AB0506 C o m s e m l i a s i W o r n e f o Õs r e r m i s s i o … · 2019-03-05 · pwysicaf fy ngwaith. Rhan fawr o’m gwaith yw codi llais dros blant a phobl ifanc

www.complantcymru.org.uk > 35

Sut rydyn ni’n gwneud hynny…Cyfathrebu a hyrwyddocyfranogiad

• ymweliadau• gweithdai• rhaglen wedi’i thargedu – grwpiau

hawdd eu niweidio, ar y cyrion acanodd eu cyrraedd

• mynd i ddigwyddiadau• cynyddu ymwybyddiaeth oedolion

a’u hyfforddi• llysgenhadon ysgol• Atebnôl – ein cylch e-bost• gwefan• cyfryngau a gwaith hyrwyddo

Estyn allan i bob plentyn apherson ifancDrwy ymweld ag ysgolion a grwpiau o bobl ifanc ynrheolaidd, siarad mewn cynadleddau a mynd iddigwyddiadau, mae Peter Clarke yn sicrhau ei fod yn

medru gwybod am y materion diweddaraf sydd o bwys iblant a phobl ifanc ac sy’n effeithio ar eu bywydau ar ypryd. Trwy’r gwasanaeth cyngor a chefnogaeth achysylltiadau â sefydliadau a chyrff allanol mae hefyd yncasglu mwy o wybodaeth am faterion sy’n destun pryderarbennig.

Ond mae sicrhau ei fod yn casglu’r wybodaeth honno oddiwrth HOLL blant a phobl ifanc Cymru’n dasg anodd, ac erbod y gwaith o gynnwys plant a phobl ifanc a chynnaldeialog gyda nhw wedi bod ar waith ers cryn amser, bwriady rhaglenni o ymweliadau a gweithdai yw sicrhau ein bodyn ymdrechu’n systematig i gyrraedd pawb.

Yn ogystal ag ymweliadau ag ysgolion, grwpiau ieuenctid afforymau, mae gennym raglen waith systematig wedi’ithargedu at blant a phobl ifanc sydd ar y cyrion, yn hawddeu niweidio neu’n ‘anodd eu cyrraedd’. O ystyried yr ardalddaearyddol eang a’r amrywiaeth eang o grwpiau dan sylwmae hyn yn golygu gweithio ochr yn ochr â sefydliadaueraill ac mae’n ymrwymiad hir dymor. Drwy sicrhau bodllinynnau neu weithgareddau gwahanol yn cyfrannu at yrhaglen hon, ein nod yw sicrhau deialog gytbwys achynhwysol, gan sicrhau bod y rheiny sy’n aml heb lais ynmedru dweud eu barn. Mewn cydnabyddiaeth o werth ymath hwn o waith rydym yn gobeithio sicrhau arian igyflogi mwy o staff Cyfathrebu a Chyfranogiad yn yblynyddoedd nesaf, er mwyn cyflawni’r dasg sylweddol aphwysig hon yn fwy effeithiol a rhoi’r gair ar led.

Cynnal deialog gyda phlant a phobl ifanc

Page 36: u r m y t AB0506 C o m s e m l i a s i W o r n e f o Õs r e r m i s s i o … · 2019-03-05 · pwysicaf fy ngwaith. Rhan fawr o’m gwaith yw codi llais dros blant a phobl ifanc

36 > adolygiad blynyddol 05-06

Llysgenhadon ysgol

Mae’r fenter llysgenhadon ysgol yn un enghraifft o sutmae’r nod o gynyddu ymwybyddiaeth a gwella sianelicyfathrebu gyda thîm y Comisiynydd ynghlwm wrthhyrwyddo Confensiwn y CU. Yn ogystal â nodi dau ddisgyblmewn ysgol gynradd fel prif bwyntiau cyswllt i ni o fewn yrysgol, mae’r cynllun yn annog ac yn cefnogi creuamgylchedd lle ceir ymwybyddiaeth o hawliau ac mae’ngrymuso ac yn cefnogi Llysgenhadon i ddatblyguprosiectau sy’n arbennig o berthnasol i’w hysgol. Yn amlwgbydd yr hwb ychwanegol a roddir i greu cynghorau ysgoldrwy eu gwneud yn orfodol yn cynyddu’r potensial ar gyfercysylltiadau rhwng Llysgenhadon a’u cynghorau ysgol, ynogystal â rhwng y Comisiynydd Plant a’r strwythurau eraillnewydd ar gyfer cyfrannu a chwarae rhan.

Yn dilyn peilot Llysgenhadon Ysgol 2004-2005, rydym ynparatoi ar gyfer cam nesaf y cynllun. Mae pecyn offer yLlysgenhadon Ysgol yn cael ei ailddatblygu ar sail adborthy gwerthusiad peilot yn 2005. Rydym hefyd yn ymwybodol,heb y cynnydd a gynlluniwyd yn wreiddiol yn y staffcyfranogiad, bod angen i’r pecyn offer ddarparu adnoddaudigonol i lysgenhadon a’u hathrawon cyswllt ddatblygu’rfenter heb y lefel uniongyrchol o gefnogaeth a gynhwyswydyn y cynllun yn wreiddiol.

Mae’r pecyn offer yn awr yn cynnwys mwy o adnoddau acadran ar werthuso i helpu’r Llysgenhadon wrth eu gwaith.Mae pecyn offer i athrawon hefyd yn cael ei ddatblygu,sy’n cynnwys gwybodaeth gyfatebol i flwch offer yLlysgenhadon, yn ogystal â nodiadau ychwanegol i roiarweiniad i athrawon a dangos y cysylltiadau â’rCwricwlwm Cenedlaethol.

Gwella Atebnôl

Mae gweithgor o blant a phobl lifanc wedi bod yn edrychar sut gall menter Atebnôl – grw^p arolwg e-bost – gael eiwella er mwyn bod yn offeryn cyfathrebu mwy effeithiol; argyfer plant a phobl ifanc ac ar gyfer swyddfa’r ComisiynyddPlant. Mae’r grw^p wedi bod yn ymateb i feysydd megis sutmae cynyddu’r aelodaeth, sut mae sicrhau bod ynegeseuon a dderbynnir gan blant a phobl ifanc yn cael eudefnyddio’n fwyaf effeithiol, a sut mae sicrhau bod y fenteryn canolbwyntio mwy ar blant a phobl ifanc.

“Mae ysgol yn le gwych i weld eichffrindiau. Mae’n hwyl gwneud

ffrindinau newydd!”

Page 37: u r m y t AB0506 C o m s e m l i a s i W o r n e f o Õs r e r m i s s i o … · 2019-03-05 · pwysicaf fy ngwaith. Rhan fawr o’m gwaith yw codi llais dros blant a phobl ifanc

Cyfle cyfartal

Mae’n hanfodol bod tîm y Comisiynydd Plant yn hygyrchac yn groesawgar i holl blant Cymru, yn dathluamrywiaeth, ac yn cofleidio arfer gwrth-ormesol. Rydym ynymroddedig i weithio tuag at hyn. Yn aml bydd hyn yngolygu gweithio gyda’r rheiny sydd â phrofiad mewn rhaidulliau cyfathrebu neu mewn gwaith uniongyrchol gydagrw^p penodol o blant a phobl ifanc.

Cynllun iaith Gymraeg

Mae tua hanner y tîm o staff yn gwbl ddwyieithog yn yGymraeg a’r Saesneg, tra bod sawl aelod arall o staffeisoes yn medru rhywfaint o’r iaith Gymraeg neu’n myndati i’w dysgu. Rydym yn ffodus bod pob maes gwaitharbenigol yn cynnwys o leiaf un aelod o staff sy’n medrudarparu gwasanaeth a chyfathrebu yn Gymraeg.Cwblhawyd y gwaith ar ein Cynllun Iaith Gymraeg yn ystody flwyddyn, ac mae bellach wedi’i gymeradwyo gan Fwrddyr Iaith. Bydd Grwpiau Ymgynghorol y Bobl Ifanc yn helpu iddatblygu cynllun i roi cyhoeddusrwydd a hyrwyddo’rcynllun ymhlith y cyhoedd – a phlant a phobl ifanc ynarbennig. Cysylltwch â’n swyddfeydd am gopi o’r cynllun,neu lawrlwythwch un o’n gwefan.

“Dydw i ddim yn meddwl bod pethau’nrhy ddrud neu’n rhy bell i ffwrdd. Maeparc llawr y ffordd a mae llawer o bobl

i chwarae gyda ar y stryd.”

www.complantcymru.org.uk > 37

“Mae’r athrawon yn fy ysgol i ynesbonio pethau’n dda iawn.”

Page 38: u r m y t AB0506 C o m s e m l i a s i W o r n e f o Õs r e r m i s s i o … · 2019-03-05 · pwysicaf fy ngwaith. Rhan fawr o’m gwaith yw codi llais dros blant a phobl ifanc

38 > adolygiad blynyddol 05-06

Ymchwil werthuso: i ba raddau rydyn ni’n llwyddo?Mae cynnwys plant a phobl ifanc wrth werthuso acadolygu’r gwasanaethau maent yn eu derbyn yn rhywbethrydym yn rheolaidd yn annog sefydliadau eraill i’w wneud.Mae’r angen am yr ymagwedd hon yr un mor wir yn achosein sefydliad ni ag i unrhyw sefydliad neu wasanaeth arall iblant yng Nghymru. O ganlyniad, comisiynwyd tîm oBrifysgol Abertawe i adolygu a gwerthuso effeithiolrwydd yswyddfa, ac i gynnwys plant a phobl ifanc a gweithio gydanhw’n uniongyrchol yn y broses.

Mae hon yn astudiaeth hir dymor, gydag adroddiad iymddangos yn 2008. Mae’r tîm ymchwil wedi treulioamser gyda’r staff, wedi mynd i’r digwyddiadau i blant aphobl ifanc, wedi cwrdd â’r Grwpiau Ymgynghorol ac wediarsylwi’n gwaith. Maen nhw hefyd yn cynnal arolwg ac yngweithio gyda phlant a phobl ifanc ledled Cymru. Bydd yrymchwil werthuso’n amhrisiadwy ar gyfer ComisiynyddPlant nesaf Cymru ac ar gyfer y tîm cyfan wrth ddatblygu allunio’n gwaith.

Rhoi’r gair ar led a chodi llais arran plant a phobl ifancMae cyflwyno’r neges yn uchel ac yn eglur yn hanfodol osyw pencampwr plant i fod yn effeithiol. Mae gan hollaelodau tîm y Comisiynydd ran i’w chwarae wrthhyrwyddo’n gwaith a’r hyn rydym yn sefyll drosto. Maegennym daflenni a phecynnau am ddim, ac rydym yndefnyddio gwahanol ffyrdd o sôn wrth bobl am ein gwaith.Weithiau rydym yn defnyddio posteri bach neu fersiynaupobl ifanc o’n hadroddiadau. Weithiau rydym yn cynnalgweithdai neu seminarau neu’n rhoi anerchiadau neugyflwyniadau i egluro’n canfyddiadau a’r hyn rydyn ni’nteimlo ddylai newid.

Mae angen i blant a phobl ifanc dderbyn adborth ar einhymateb i’r wybodaeth maen nhw’n ei rhoi i ni ac maeangen i ni sicrhau bod llunwyr polisi a’r rheiny sy’n gallugwneud gwahaniaeth yn gwybod am safbwyntiau acargymhellion y Comisiynydd. Rydym bob amser yn ceisioadlewyrchu’r hyn mae plant a phobl ifanc wedi’i ddweudwrthym – nid dim ond yr hyn rydyn ni’n teimlo fyddai o’rlles mwyaf iddyn nhw.

Drwy roi cyfweliadau i bapurau newydd cenedlaethol, lleolac i’r DU gyfan, cylchgronau, cyfnodolion, a rhaglenniteledu a radio, rydym yn ceisio cyrraedd cynifer o bobl âphosib. Rydym yn derbyn digon o ymholiadau gan ycyfryngau, ac er ein bod yn cyflwyno datganiadau i’r wasg,mae’r rhan fwyaf o gyfleoedd yn y cyfryngau’n tarddu oddatblygiadau allanol, felly mae’n rhaid i ni ymateb.

Page 39: u r m y t AB0506 C o m s e m l i a s i W o r n e f o Õs r e r m i s s i o … · 2019-03-05 · pwysicaf fy ngwaith. Rhan fawr o’m gwaith yw codi llais dros blant a phobl ifanc

Adran4

www.complantcymru.org.uk > 39

Ein rhaglen waith at y dyfodol

Page 40: u r m y t AB0506 C o m s e m l i a s i W o r n e f o Õs r e r m i s s i o … · 2019-03-05 · pwysicaf fy ngwaith. Rhan fawr o’m gwaith yw codi llais dros blant a phobl ifanc

40 > adolygiad blynyddol 05-06

Beth sydd nesaf?

Yn ogystal â’r gweithgareddau newydd a restrwyd ynadrannau blaenorol yr adroddiad hwn a dal i weithio arelfennau parhaus ein rhaglen waith, yr agweddauallweddol fydd:

• parhau i gynyddu ymwybyddiaeth o swyddfa’rComisiynydd ac UNCRC trwy bob agwedd ar ein gwaith

• lansio gwasanaeth rhadffon i’w gwneud hi’n haws iblant a phobl ifanc ledled Cymru gael gafael ar yComisiynydd Plant

• darparu gwasanaeth cyngor a chefnogaeth o ansawdduchel

• ymchwilio i achosion cymhleth a chynnal adolygiadauymchwiliol

• cynyddu ymwybyddiaeth o’r gwasanaeth cyngor achefnogaeth, yn enwedig gyda phlant a phobl ifancifanc ledled Cymru, gan gychwyn gyda phlant a phoblifanc sy’n derbyn gofal, wedi’u gwahardd o’r ysgol neuyn y carchar

• ail-lansio’r rhaglen llysgenhadon ysgol ddiwygiedig ermwyn recriwtio Llysgenhadon yn raddol mewn ysgolioncynradd ym mhob rhan o Gymru

• cynyddu ymhellach ran plant a phobl ifanc yn y brosesgynllunio ac wrth bennu blaenoriaethau fel rhan o’nrhaglen waith at y dyfodol

• lansio menter Atebnôl newydd a gwell

• parhau i fonitro gweithrediad yr argymhellion a wnaedyn ein hadroddiadau

• cwblhau gwaith ar yr adolygiad thematig o fwlio

• creu cysylltiadau cryfach gyda phartneriaethaufframwaith plant a phobl ifanc

• parhau i wrando a dysgu, hybu arfer da a chodi llaisdros blant a phobl ifanc Cymru

• cyfrannu at waith cydlynus yng nghyswllt mecanwaithcofnodi UNCRC

• monitro, adolygu ac ymateb i ymgynghoriadau, asicrhau bod plant a phobl ifanc yn cael llais yn ymaterion sy’n effeithio arnyn nhw

• ymgymryd â dau brosiect penodol i’r Comisiynydd – anodwyd gan blant a phobl ifanc – o fewn themâuChwarae a Hamdden ac Addysg ac Ysgolion.

Bydd y rhaglen waith ar gyfer y flwyddyn ddilynol a fydd yncychwyn yn Ebrill 2007 yn naturiol yn cynnwys cynnal adatblygu ymhellach yr amrywiol agweddau ar ein gwaith a’rgwasanaethau rydyn ni’n eu darparu. Fel bob amser,byddwn yn darparu ar gyfer cyfraniad plant a phobl ifanci’n blaenoriaethau a’u dylanwad ar sut y byddwn yncyflawni peth o’r gwaith rydym eisoes wedi ymrwymo i’wwneud.

“Bydde ysgol yn well petai’r pynciau fwyo hwyl fel ein bod yn gallu ymlacio mwy a

chanolbwyntio’n well yn y gwersi.”

Page 41: u r m y t AB0506 C o m s e m l i a s i W o r n e f o Õs r e r m i s s i o … · 2019-03-05 · pwysicaf fy ngwaith. Rhan fawr o’m gwaith yw codi llais dros blant a phobl ifanc

Adran 5

www.complantcymru.org.uk > 41

Mewn blynyddoedd blaenorol mae’r adran hon o’rAdroddiad Blynyddol wedi codi materion newydd sy’ndestun pryder i mi ac wedyn wedi dychwelyd at faterion agodwyd mewn blynyddoedd blaenorol lle mae’r cynnyddnaill ai wedi bod yn wych neu’n anfoddhaol. Mae’n fyngwneud yn eitha anniddig fy mod wedi gorfod newidhynny eleni. Mae sawl un o’r materion allweddol aamlygwyd mewn blynyddoedd blaenorol – y mae rhaiohonynt yn ymwneud â systemau a phrosesau sylfaenol

sydd i fod i roi llais i blant a phobl ifanc hawdd eu niweidio– yn rhai cyfarwydd. Mae adroddiadau ymchwiliadau, gangynnwys rhai Waterhouse a Carlile, wedi tynnu sylw at yrangen am weithredu ac am adnoddau a gwasanaethau oansawdd. Mae’n destun pryder difrifol felly bod rhaid i middychwelyd at rai materion sy’n dal i achosi pryder ergwaethaf fy argymhellion innau, ac eraill, ar gyfergwelliant.

… beth rydyn ni’n teimlo bod angen ei wneud …Adolygiad y Comisiynydd Plant o faterion perthnasol i hawliau a llesplant yng Nghymru

Page 42: u r m y t AB0506 C o m s e m l i a s i W o r n e f o Õs r e r m i s s i o … · 2019-03-05 · pwysicaf fy ngwaith. Rhan fawr o’m gwaith yw codi llais dros blant a phobl ifanc

42 > adolygiad blynyddol 05-06

Gwasanaethau eiriolaethannibynnol

Yn fy adroddiad, Datgan Pryderon, fe wnes i gyflwynoargymhellion oedd yn ymateb i ofynion allweddolstrategaeth genedlaethol i ddiwallu anghenion plant aphobl ifanc, yn fy marn i. Rwy’n teimlo bod sefydlu unedeiriolaeth genedlaethol gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, ifonitro a chynghori ar ddarparu safonau eiriolaeth cyson argyfer plant ledled Cymru, yn hanfodol. Diben eiriolaethwrth gwrs yw galluogi plant a phobl ifanc i fod yn rhan obenderfyniadau am eu bywydau a rhoi cefnogaeth briodolar adegau sy’n arbennig o anodd – er enghraifft pan fyddganddynt bryderon difrifol neu pan fyddant am gwynoynghylch agwedd ar eu gofal. Dylai eiriolaeth fod ar gael ibob plentyn sydd am gwyno ynghylch unrhyw wasanaethawdurdod lleol; dylai darparwyr eiriolaeth fedrugweithredu’n annibynnol ac ar ran y plentyn maen nhw’nei gynrychioli yn ddieithriad. Rhaid i eiriolaeth o’r fath hefydfod ar gael yn hwylus i blant a phobl ifanc, ble bynnagmaen nhw’n byw.

Pan gyhoeddodd Datgan Pryderon, dywedoddLlywodraeth Cynulliad Cymru eu bod yn derbyn yr hollargymhellion. Elfennau allweddol yn yr adroddiad oedd ydylid sicrhau uned eiriolaeth ganolog fel bod gwasanaeth

gyda digon o adnoddau a oedd yn annibynnol, yn gyson aco ansawdd sicr ar gyfer plant. Gwnaed yr argymhelliad hwngyda’r bwriad o ymateb i lawer o’r pryderon hir dymor achyson ynghylch sut comisiynir y ddarpariaeth a sut caiff eithrin ar hyn o bryd, gyda darparwyr yn newid yn aml aphobl ifanc yn aml yn cael eu hamddifadu o gyfle iddatblygu perthynas o ymddiriedaeth gydag oedolyn sy’neu cynrychioli. Mae ansefydlogrwydd felly’n amharu, ynenwedig pan fyddwn yn ystyried hawliau a lles plant aphobl ifanc a all fod yn hawdd iawn eu niweidio ac syddwedi cael perthynas hynod negyddol gydag oedolion yn ygorffennol.

Serch hynny, rwyf wedi cael fy siomi’n fawr gan ydatblygiadau ers hynny. Yn nodedig, nid yw’r arweiniaddrafft diweddar yn sôn am Uned Eiriolaeth o gwbl, ac maegennyf bryderon difrifol am y model a gynigiwyd. Nid wyfwedi fy argymhoeddi felly y bydd y gwasanaethau hyn ynwell na’r rhai sy’n cael eu darparu ar hyn o bryd. Mae’nymddangos bod y ddogfen yn closio at fodel ar gyfercomisiynwyr, yn hytrach na cheisio diwallu anghenioneiriolaeth plant a phobl ifanc.

Mae’r un mor siomedig nad yw’r drafft yn sôn o gwbl am yradroddiad ar fy ail adolygiad o eiriolaeth, datgelu camarfera threfniadau cwynion, Dydy plant ddim yn cwyno…, aedrychodd ar awdurdodau addysg lleol. Mae’r adroddiadhwn yn argymell estyn gwasanaethau eiriolaeth i blant aphobl ifanc a all ddymuno cwyno am y gwasanaethauaddysg. Mae’r canllawiau drafft yn aneglur ynghylch afyddai gwasanaethau eiriolaeth ar gael o dan yramgylchiadau hyn.

Rwy’n credu bod cyfle hollbwysig i wella ac estyn eiriolaethi blant – i roi llais y mae ganddynt hawl iddo iddynt – wedicael ei golli. Ar adeg ysgrifennu rwy’n ystyried yn ofalusdefnyddio’r pwerau cyfreithiol sydd ar gael i mi i adolygusut mae LlCC yn gwneud penderfyniadau sy’n effeithio arblant. Mae’n drist fy mod mewn sefyllfa lle rwy’n teimlobod angen defnyddio’r pwerau hyn yng nghyswllt ysefydliad a greodd fy swydd fel rhan o’i ymateb i’r angen anodwyd yn Adroddiad Waterhouse am roi llais i blant aphobl ifanc.

Page 43: u r m y t AB0506 C o m s e m l i a s i W o r n e f o Õs r e r m i s s i o … · 2019-03-05 · pwysicaf fy ngwaith. Rhan fawr o’m gwaith yw codi llais dros blant a phobl ifanc

www.complantcymru.org.uk > 43

Rhoi argymhellion Clywch arwaith a chefnogaeth gwnsela

At ei gilydd rwyf wedi bod yn falch o weld mwyafrif y 31 oargymhellion a wnaed yn adroddiad Clywch yn cael eu rhoiar waith – rhai ohonynt yn fuan iawn ar ôl ei gyhoeddi.Rwyf wedi’m bodloni y bydd hyn wedi cyfrannu rhywfaint atwella mesurau diogelu i’n plant ysgol. Serch hynny, mae’rcynnydd ar ambell un o’r argymhellion allweddol wedi bodyn arafach nag y byddwn wedi hoffi ac mae’r camauterfynol y mae eu hangen i roi polisïau ar waith yn dal hebeu cyflawni. Mae’r ymatebion a dderbyniwyd ganawdurdodau addysg lleol a Phwyllgorau Amddiffyn Plant yrArdaloedd ledled Cymru wedi bod yn galonogol, gan fod ymwyafrif wedi rhoi argymhellion perthnasol ar waith. Arben hynny mae Cyd-bwyllgor Addysg Cymru, y cyfryngau asefydliadau eraill wedi derbyn yr argymhellion sy’nberthnasol iddynt hwythau.

Serch hynny, rydym yn dal i ddisgwyl cyhoeddi nifer oddogfennau allweddol penodol yng nghyd-destunargymhellion a gyfeiriwyd at Lywodraeth Cynulliad Cymru.Er fy mod yn deall bod rhai camau nesaf arwyddocaolwedi’u cymryd yng nghyswllt y Strategaeth Genedlaethol argyfer Gwasanaethau Cwnsela Plant mewn Ysgolion, mae’ndrueni mawr bod y datblygiadau hyn wedi cymryd cyhyd.Mae’r diffyg cynnydd hwn yn fy synnu a’m siomi, ynenwedig o ystyried yr ymrwymiad cyhoeddus cadarn iwelliant a wnaed gan y Gweinidog dros Addysg a DysguGydol Oes a’r Gweinidog dros Blant pan gyhoeddwydAdroddiad Clywch, ac yn y cyfnod wedi hynny.

Rwy’n ystyried yr argymhelliad a wnaed ynghylch datblygustrategaeth gwnsela ar gyfer ysoglion yng Nghymru fel un

a fyddai wedi cael effaith amlwg ar fywydau plant a phoblifanc o fewn cyfnod cymharol fyr. Rwyf yn pryderu gymaintam yr oedi wrth gwblhau’r gwaith paratoi, datblygu’rstrategaeth a’r gwir fanteision i ddisgyblion fel fy mod wedipenderfynu gwneud cyfraniad personol i’r gweithgor sy’nsymud y materion hyn ymlaen. Er bod mynediad i gwnselamewn ysgolion yn ddatblygiad cymharol newydd o bosib,nid yw’n rhywbeth hollol ddieithr. Mae’n siomedig nawnaeth LlCC yn fawr o’r ymchwil a’r dystiolaeth oeddeisoes ar gael yn eu dogfen gwmpasu. Mae hwn yn gyfle ifod yn flaengar a meddwl yn ysbrydoledig. Byddai caelrhywun i droi atynt wedi gwneud cymaint o wahaniaeth ifywydau nid yn unig y bobl ifanc a gafodd eu cam-drin gany diweddar John Owen, ond hefyd i’r dioddefwyr y clywsomeu hanesion mewn llawer o ymchwiliadau eraill. Rwy’nannog LlCC yn gryf i sicrhau bod rhoi’r argymhelliad hwn arwaith yn flaenoriaeth.

“Mae yna bobl yn fy ardal i sydd ddimyn bobl da felly dydy fy rhieni ddim yngadael i ni fynd allan ambell waith.”

Page 44: u r m y t AB0506 C o m s e m l i a s i W o r n e f o Õs r e r m i s s i o … · 2019-03-05 · pwysicaf fy ngwaith. Rhan fawr o’m gwaith yw codi llais dros blant a phobl ifanc

Gwasanaethau Iechyd MeddwlPlant a Phobl Ifanc (CAMHS) agwasanaethau iechyd eraill iblant a phobl ifanc

Rwyf wedi gwneud sylwadau o’r blaen am ariannu CAMHSac mae wedi dod yn eglur bod y gwasanaethau a ddarperirar draws Cymru’n aml yn anghyfartal, ac felly na all llawero blant gael mynediad i’r gwasanaethau y mae eu hangenarnynt. Fel y soniwyd eisoes yn yr adroddiad hwn, mae fyswyddfa’n parhau i ddelio â materion sy’n ymwneud âdarparu gwasanaethau iechyd meddwl i blant a phoblifanc. Mae’n eglur bod angen i mi bryderu ynghych diffygcefnogaeth ariannol i strategaeth LlCC. Yn wir, mae’nymddangos nad oes fawr ddim wedi newid ers i mi dynnusylw at y mater hwn ddiwethaf.

Hyd yma mae’r arian a ddarparwyd wedi bod yn annigonoli ddatblygu’r cynigion strategol a chyflwyno gwasanaeth aamlinellwyd yn Busnes Pawb a’r Fframwaith GwasanaethCenedlaethol i Blant, Pobl Ifanc a GwasanaethauMamolaeth (FfGC Plant). Nid yw’r cynnydd cymharol fachyn y cyllid ond wedi ymateb i gyfran fechan iawn o’r angen.Carwn atgoffa LlCC i’r grw^p gweithredu CAMHSamcangyfrif y byddai angen £10m ychwanegol y flwyddynar gyfer tair blynedd cyntaf cyflawni’r strategaeth aamlinellwyd yn Busnes Pawb. Er gwaethaf yr ymrwymiad awnaed yn y ddogfen honno ac yn y FfGC Plant, mae’rddarpariaeth CAMHS yn wynebu argyfwng ar draws Cymru.

Mae fy ngwasanaeth cyngor a chefnogaeth wedi ymwneudag amrywiaeth o achosion sydd wedi cadarnhau nad oesgan Gymru ddigon o welyau mewn ysbytai i bobl ifanc.Mewn cyfnod o bythefnos deliodd y gwasanaeth â thriachos – dau berson ifanc ag anhwylderau bwyd ac un lle’roedd hunan-niweidio – lle gwrthododd Comisiwn IechydCymru ariannu’r lleoliadau oedd yn briodol ar gyfer euhanghenion ym marn gweithwyr proffesiynol CAMHS. Maepobl ifanc sydd mewn angen difrifol am driniaeth arbenigolyn gorfod disgwyl am wythnosau cyn cael eu derbyn i’rysbyty. Mae pobl ifanc hefyd yn cael eu trin ar wardiauiechyd meddwl i oedolion, nad ydynt yn gyfarwydd âdarparu gofal i bobl o’r oedran yma, a lle gall y profiadaufod yn frawychus ac yn niweidiol i bobl ifanc. Trwy’rgwasanaeth cyngor a chefnogaeth rwyf hefyd wedi dod ynymwybodol i’r unig wely ar gyfer CAHMS yng NgorllewinCymru gael ei gau gan yr ymddiriedolaeth heb ymgynghori.

Yn ystod y flwyddyn mae fy nhîm wedi cael cryn dipyn ogyswllt gyda gweithwyr iechyd proffesiynol. Rwy’nymwybodol bod peth arfer blaengar a da ar waith acroeddem yn falch bod llawer o leoliadau iechyd bellach yncydnabod hawliau a lles plant i raddau mwy. Serch hynny,mae gweithwyr proffesiynol wedi mynegi cryn bryderynghylch y diffyg ariannu ar gyfer llawer o’r datblygiadaunewydd yn y gwasanaeth iechyd i blant a phobl ifanc.

Er enghraifft, rydym yn ymwybodol o brosiectau sy’n ceisiomynd i’r afael â hunan-niweidio a ‘niwed cudd’. Prosiectautymor byr yw’r rhain na fydd o bosib yn parhau am fwy na

44 > adolygiad blynyddol 05-06

“Byddai mwy o bapur ty^ bach yn gwneud fy addysg i yn well.”

Page 45: u r m y t AB0506 C o m s e m l i a s i W o r n e f o Õs r e r m i s s i o … · 2019-03-05 · pwysicaf fy ngwaith. Rhan fawr o’m gwaith yw codi llais dros blant a phobl ifanc

rhai blynyddoedd, ac sy’n cael eu hariannu mewn rhaiachosion gan arian y Loteri. Rhaid i Gynulliad CenedlaetholCymru ddod â’r sefyllfa hon i ben, lle mae gwasanaethaupwysig yn cael eu cynnal ag arian tymor byr. Mae’r FfGCPlant wedi codi disgwyliadau, ond nid yw wedi derbyndigon o adnoddau i gyflawni ei holl dargedau.

Mae gwahaniaethau sylweddol o ran cyfarwyddyd acariannu ar gyfer iechyd plant o’i gymharu â iechydoedolion. Mae gweithwyr proffesiynol yn dweud wrthym fodcanllawiau Llywodraeth Cynulliad Cymru’n anghyflawn acnad yw’r ariannu ar gyfer newidiadau i wasanaethauoedolion ar gael ar gyfer gwasanaethau plant. Testunpryder pellach i weithwyr proffesiynol yw bod llawer oanghenion plant yn cael eu nodi, ond nad oes modd argael i’w diwallu, ac mae’r fformwlâu ariannu cyfredol yncynyddu’r anghydraddoldeb yn y gwasanaethau a ddarperir.

Nid yw’r holl dargedau a amlygwyd yn y FfGC Plant ac aoedd i’w rhoi ar waith erbyn mis Mawrth eleni wedi’ucyflawni. Fodd bynnag, yn hytrach na chadarnhauymrwymiad i gyflawni’r targedau a bennwyd gan LlCC yneu Dogfen Wasanaeth a Fframwaith Ariannol (y SAFF),mae’r targedau hynny yn awr wedi cael eu gollwng o’rflwyddyn ariannol nesaf. Yn wir, nid yw’r SAFF yn cynnwystargedau o gwbl ar gyfer cyflawni’r safonau a nodwyd yn yFfGC Plant. Nid wyf yn sicr sut yn union y gellir rhoi’r rhainar waith heb ymrwymiad ariannol.

Tlodi plant

Er y gwelwyd peth gwelliant yn yr ystadegau tlodi plant yngNghymru ers i mi amlygu’r mater gyntaf yn fy adroddiadaublynyddol, mae’n ymddangos yn glir bod tlodi parhaus yngNghymru’n anodd ei ddatrys. Rwy’n falch bod y pleidiaugwleidyddol wedi ymrwymo i daclo tlodi plant a

theuluoedd ac nad yw’r mater yn llithro oddi ar yr agendawrth baratoi ar gyfer etholiadau’r Cynulliad. Rwyf wediparhau i fonitro’r cynnydd cyson a wneir ar lefelgenedlaethol a thrwy Rwydwaith Atal Tlodi Plant Cymrurwyf hefyd wedi gallu cael gwybod am y datblygiadaudiweddaraf yn gynnar.

Mae angen pwysleisio rôl llywodraethau cenedlaethol wrthddelio â’r mater hwn, ond nid yw bob amser yn arwain arunwaith at leddfu effaith tlodi ar fywyd plentyn. Mae’nddefnyddiol ystyried ein rôl ni i gyd, yn enwedig feldarparwyr gwasanaeth, wrth leihau anghydraddoldeb a’rstigma sy’n gysylltiedig â thlodi plant. Gall ysgolion acaddysg ddylanwadu’n fawr yn y cyd-destun hwn, ac etoymddengys nad yw addysg y wladwriaeth, hyd yn oed, argael am ddim o bell ffordd.

Yn ôl amcangyfrif ffigurau a gyhoeddwyd gan ECPN Cymrubydd costau ychwanegol o ryw £14,000 y plentyn yn ystodeu cyfnod yn yr ysgol. Mae rhai o’r costau hyn ynguddiedig, ond maent yn cynnwys nid yn unig costaugwisg ysgol, offer chwaraeon a theithiau ysgol, ond hefydgostau defnyddio cyfrifiadur a’r rhyngrwyd. Nid pethaumoethus neu ychwanegol yw llawer o’r costau hyn, ondpethau sy’n hanfodol os yw plant i wneud yn fawr o’uhamser yn yr ysgol.

Mae addysg yn cynnig cyfle i ddysgu, i wneud ffrindiau ac igyflawni eu potensial i blant a phol ifanc, a gall helpu yrheiny sy’n byw mewn tlodi i oresgyn llawer o’r heriau sy’neu hwynebu. Mae’n destun pryder cynyddol bod hyd ynoed addysg y wladwriaeth yn gosod pwysau ariannolychwanegol ar deuluoedd sydd eisoes yn cael trafferthcadw dau ben llinyn ynghyd. Mae’n annerbyniol bod gorfodtalu’n sylweddol am bethau sy’n angenrheidiol i gyflawniym myd addysg yn rhoi llawer o bobl ifanc o dan anfantaisddifrifol mewn system lle maent i fod i gael eu trin yngyfartal. Rwy’n annog pawb yn y maes hwn – ar lefel ysgol,awdurdod lleol a chenedlaethol – i ystyried beth gallant eiwneud i unioni’r anghydraddoldeb yma.

www.complantcymru.org.uk > 45

“Does dim byd yn fy ardal yn ddigonrhad nac yn agos, fel parc.”

Page 46: u r m y t AB0506 C o m s e m l i a s i W o r n e f o Õs r e r m i s s i o … · 2019-03-05 · pwysicaf fy ngwaith. Rhan fawr o’m gwaith yw codi llais dros blant a phobl ifanc

46 > adolygiad blynyddol 05-06

Gwasanaethau i bobl ifanc agymddygiad rhywiol niweidiol

Mae rhai materion na fyddant byth yn ennill pleidleisiau,ond nid yw diffyg cefnogaeth boblogaidd iddynt yn golygunad ydynt yn destun pryder i’r cyhoedd. Mae matergwasanaethau i bobl ifanc ag ymddygiad rhywiol niweidiolyn effeithio ar nifer sylweddol o blant a phobl ifanc yngNghymru – ac nid dim ond y rheiny y mae angen iddyntgael mynediad i wasanaeth o’r fath. Mae hwn ynflaenoriaeth iechyd cyhoeddus – fel pob gwasanaeth sy’nymwneud â cham-drin plant.

Er bod y rheiny sy’n cael eu cam-drin yn haeddu cael euhamddiffyn a’u helpu gennym i ddelio â’r hyn sydd wedidigwydd, mae’n bwysig na ddylai plant a phobl ifanc gaeleu barnu yn ôl safonau oedolion am eu hymddygiadrhywiol. Mae angen ymateb cydlynus, strategol i ddiwalluanghenion plant a phobl ifanc sydd ag ymddygiad rhywiolniweidiol er mwyn lleihau’r achosion o gam-drin rhywiolgan blant ac i helpu i atal y plant hyn rhag cam-drin plantpan fyddant yn oedolion.

Rydym wedi casglu gwybodaeth gan Bwyllgorau AmddiffynPlant Ardaloedd yr holl Awdurdodau Lleol ynghylch yradnoddau a’r gwasanaethau sydd ar gael i ddiwalluanghenion plant a phobl ifanc ag ymddygiad sy’n cynnwyscam-drin rhywiol. Ar hyn o bryd, mae gan 11 Pwyllgor

Ardal ACPC gytundebau lefel gwasanaeth gyda phrosiectTaith Barnardos neu’r NSPCC neu NCH. Nid yw’rPwyllgorau Ardal eraill yn darparu gwasanaeth arbenigol ynfewnol ac maent yn dibynnu ar gaffael y gwasanaethauhynny pan gyfyd angen. Cadarnhaodd rhai pwyllgorauhefyd nad oes ganddynt bolisi a gweithdrefn ysgrifenedigar gyfer cyfeiriad o’r fath.

Mae gan blant a phobl ifanc sy’n arddangos ymddygiadrhywiol niweidiol hawl i Gynhadledd Amddiffyn Plant, acasesiad penodol arbenigol o’u hanghenion, gyda rhaglendriniaeth briodol i ddilyn. Rwyf fi o’r farn fod darparugwasanaethau penodol ac arbenigol ar gyfer asesu a thrinplant a phobl ifanc ag ymddygiad rhywiol niweidiol yn hawl.Byddaf felly’n gwneud sylwadau ar ddatblygu adnoddau iddiwallu anghenion y plant hyn yn fy adroddiad i Bwyllgor yCU.

Addysg plant sy’n derbyn gofalac effaith bod yn rhienicorfforaethol da

Yn 2005, roedd tua 4,400 o blant yn derbyn gofal ganawdurdodau lleol yng Nghymru, a rhyw 3,000 ohonyntgyda gofalwyr maeth. Mae’n costio rhyw £40,000 yflwyddyn i ofalu am blentyn ac mae nifer y plant sy’nderbyn gofal yng Nghymru wedi cynyddu tua 20% mewnpedair blynedd yn unig. Rhaid i ni gofio mai cyfrifoldebawdurdodau lleol yw’r plant hyn yn eu rôl fel rhienicorfforaethol. Yn y rôl hon byddwn yn gobeithio bod pobawdurdod lleol yn ymdrechu i sicrhau bod y gwasanaeth addarperir i bob plentyn sy’n derbyn gofal yn cyfateb i’r hynbyddent yn ei ddisgwyl i’w plant neu eu hwyrion eu hunain.Er y gall cysyniad y rhiant ymwthiol fod yn un anghysurus ilawer, profwyd bod cael rhieni sy’n ymddiddori yn eichaddysg ac yn eich annog i gyflawni eich potensial yn gallucael effaith gadarnhaol iawn ar eich cyflawniadau yn yrysgol, mewn addysg a hyfforddiant.

Page 47: u r m y t AB0506 C o m s e m l i a s i W o r n e f o Õs r e r m i s s i o … · 2019-03-05 · pwysicaf fy ngwaith. Rhan fawr o’m gwaith yw codi llais dros blant a phobl ifanc

www.complantcymru.org.uk > 47

Mae’r data’n dangos bod canlyniadau addysgol plant sy’nderbyn gofal yn llawer is na’u cyfoedion. Er enghraifft, dimond un y cant sy’n gadael gofal sy’n mynd i addysg uwch(prifysgolion) ac yn 2004 er bod 41 y cant wedi sicrhau oleiaf un TGAU neu gymhwyster cyfatebol, gadawodd 58 ycant yr ysgol heb un TGAU na chymhwyster cyfatebol. Maeymchwil arall wedi dangos y bydd dros hanner y plant hyna fu’n derbyn gofal yn ddi-waith. Data a chanlyniadau fel yrhain sy’n peri i mi bryderu bod angen ymateb i angheniony plant hyn ar frys a gwella’r dull corfforaethol o fagu plant.

Dyrannwyd £1m y flwyddyn gan Lywodraeth CynulliadCymru i awdurdodau lleol yng Nghymru ar gyfer 2006-2007 a 2007-2008. Er fy mod yn croesawu’r grantychwanegol hwn ar gyfer addysg plant sy’n derbyn gofalym mlynyddoedd 10 ac 11, gellid gweld targedu grant atblant sy’n derbyn gofal ym Mlynyddoedd 10 ac 11 yn unigfel mesur tymor byr sy’n ymateb i’r cyrhaeddiad addysgolis yng Nghyfnod Allweddol 4. Carwn awgrymu bod angencanolbwyntio am gyfnod hwy ar y materion sylfaenol agwella addysg i bob plentyn sy’n derbyn gofal.

Tynnu’n ôl o’r ysgol o wirfoddneu waharddiadau anffurfiol

Rydym wedi dod yn gynyddol ymwybodol o arfer afabwysiadwyd gan rai ysgolion, sef gofyn i rieni gadw plantgartref oherwydd na all yr ysgol ymdopi ag ymddygiad euplant. Yn aml awgrymir y bydd rhieni am osgoigwaharddiad ‘gan y byddai’n edrych yn wael ar gofnodysgol y disgybl’. Mae’r arfer hwn yn atal llawer oddisgyblion rhag sicrhau’r gefnogaeth y mae ei hangenarnynt i aros yn y dosbarth ac yn rhoi rhai ohonynt mewnperygl. Os yw plentyn yn cael ei wahardd oherwyddymddygiad problematig, bydd y llywodraethwyr a’rawdurdod addysg lleol yn ymwybodol o hynny ac yn medruholi a oes angen cefnogaeth ychwanegol ar y plentyn.Dylid asesu anghenion y plentyn yn gywir.

Er ei fod yn ddealladwy nad yw rhieni am i’w plentyn gaelei labelu, ym mron pob achos, bydd rhieni’n gweithredu erlles eu plentyn drwy fynnu bod yr ysgol naill ai’n darparu’nbriodol ar gyfer eu plant neu yn eu gwahardd yn ffurfiol.Byddai gwaharddiad yn rhoi cyfle i’r rhieni a’r AALlbenderfynu ar strategaeth hir dymor i ddiwallu anghenion yplentyn.

Bydd fy staff yn monitro’r defnydd o’r ymadawiadaugwirfoddol yma ac yn adrodd ar yr arfer i LywodraethCynulliad Cymru.

“Dim ond lle chwarae i blant bach sydd yn ein ardal ni, a does dim byd

i blant hyn i wneud heb deithio’n bell.”

“Mae angen mwy o offer chwaraeon amwy o amrywiaeth yn y gwersi.”

Page 48: u r m y t AB0506 C o m s e m l i a s i W o r n e f o Õs r e r m i s s i o … · 2019-03-05 · pwysicaf fy ngwaith. Rhan fawr o’m gwaith yw codi llais dros blant a phobl ifanc

48 > adolygiad blynyddol 05-06

Dyfais y Mosgito a mater parch

Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf mae adroddiadaunewyddion am y ddyfais ataliol a adwaenir yn gyffredinolfel y Mosgito wedi bod yn destun pryder i mi. Mae’rddyfais yn cynhyrchu sw^n uwchsain y mae’r gwneuthurwyryn honni sydd ond yn gallu cael ei glywed gan bobl ifanc odan 25 oed. Mae’n cael ei farchnata fel ffordd o atalymddygiad gwrthgymdeithasol gan rai yn eu harddegau.Mae’r sw^n yma’n tarfu’n fawr ar bobl ifanc sy’n ei glywedac yn eu gyrru i ffwrdd.

Yr hyn sy’n fy nharo i am y ddyfais yw nad yw’ngwahaniaethu ac nad yw’n mynd i’r afael â pham maepobl ifanc yn dewis treulio amser mewn mannau penodol.Er y gall yrru pobl ifanc sydd – yng ngeiriau’r gwneuthwr-‘yn loetran yn ddibwrpas’ o’r ardal o amgylch, ni fyddantond yn mynd i rywle arall. Mae’n bosib iawn y bydd ymannau hynny heb eu goleuo cystal neu’n llai diogel na’rmannau lle roeddent wedi dewis ymgynnull. Hefyd mae’rMosgito nid yn unig yn effeithio ar y rheiny sy’n ‘loetran’,ond mewn gwirionedd yn niweidio clyw’r holl bobl ifancsy’n dod i gysylltiad ag ef.

Mae defnyddio dyfais o’r fath yn amlwg yn cyfyngu ar hawlplant a phobl ifanc i ymgynnull mewn mannau cyhoeddus,sy’n hawl o dan UNCRC. Mae’r ddyfais hefyd yn amlygu’rffaith fod cymdeithas ein dyddiau ni’n mynnu parch ganblant a phobl ifanc ar yr union adeg pan yw’n cyfyngu areu hawliau.

Limwsinau a diogelwch cerbydau

Rwyf wedi mynegi pryderon yn y gorffennol am ddiogelwchplant a phobl ifanc wrth deithio i’r ysgol yn y bws. Yn yflwyddyn ddiwethaf, rwyf wedi dod i ddeall y gall fod llawero blant a phobl ifanc yn teithio mewn limwsinau hebdrwydded nac yswiriant. Mae hwn yn ddull teithio syddwedi dod yn fwyfwy poblogaidd ar gyfer cludo pobl ifanc iddigwyddiadau fel partïon pen-blwydd a dawnsiau ysgol.Mae llawer o’r cerbydau’n cael eu mewnforio o’r UnolDaleithiau ar ôl iddynt gael eu barnu’n anaddas atwasanaeth pellach. Mewn rhai achosion gallant fod yn rhyfawr ac yn anodd eu gyrru’n ddiogel ar ffyrdd Cymru.

O ran diogelwch plant mae nifer o faterion sy’n destunpryder pellach i mi. Mae’r rhain yn cynnwys gofynion iyrwyr roi gwybod am euogfarnau troseddol blaenorol a’rgofyniad bod pob teithiwr yn gwisgo gwregys diogelwch.Mae angen i’r llywodraeth ganolog a lleol ystyried diwygio’rddeddfwriaeth sy’n rheoli’r diwydiant cynyddol hwn ar frys,ac i rieni fod yn ymwybodol o’r materion diogelwch hyn cynllogi cerbydau o’r fath. Rwyf wedi siarad ag adrannauperthnasl y llywodraeth am hyn; ond mae’n ymddangosbod diffyg arian yn ei gwneud hi’n anodd iddynt fonitro’rdefnydd o limwsinau wrth gludo plant. Rhaid i’r mater lleshwn dderbyn sylw’r llywodraeth leol a chenedlaethol arunwaith.

Plant a bwyd

Mae’r bwyd mae plant a phobl ifanc yn ei fwyta mewnysgolion wedi bod yn destun sylw digymar yn ystod yflwyddyn ddiwethaf. Bu trafodaethau ynghylch bwyta’niachach a phryderon ynghylch bwyd sothach a pheiriannaugwerthu sy’n cynnwys dim ond diodydd carbonedig llawnsiwgr, neu felyster artiffisial ers sawl blwyddyn. CyhoeddoddLlywodraeth Cynulliad Cymru hefyd eu strategaeth –Archwaeth am Fywyd – sy’n amlinellu sut maent ynbwriadu gwella’r bwyd a weinir yn ysgolion ein gwlad.

Page 49: u r m y t AB0506 C o m s e m l i a s i W o r n e f o Õs r e r m i s s i o … · 2019-03-05 · pwysicaf fy ngwaith. Rhan fawr o’m gwaith yw codi llais dros blant a phobl ifanc

www.complantcymru.org.uk > 49

Fodd bynnag, mae angen cydnabod profiad rhai ardaloeddyn Lloegr a’r Alban, lle cafwyd bod prydau ysgol gwell yncostio mwy ac mae nifer y plant sy’n bwyta prydau ysgolwedi gostwng. Rwy’n aros i weld a fydd y syniadau ynArchwaeth am Fywyd yn gwella prydau ysgol i bob plentynac yn sicrhau bod gwell bwyd ysgol ar gael i fwy o blantheb fod yn rhy ddrud. Mae ansawdd y bwyd sydd ar gaelmewn ysgolion yn rhywbeth mae plant a phobl ifanc wedidweud wrthyf sy’n bwysig. Mae’n hanfodol eu bod hwy – obosib trwy gynghorau ysgol – yn rhan o gynigion ar gyfernewid, beth bynnag y byddant.

Mae cwmnïau bwyd a diod yn gwario miliynau’n hysbysebubwydydd llawn braster, siwgr a halen i blant. Mae’n amlwgbod hyn yn dylanwadu ar ddewisiadau bwyd plant a phoblifanc a’u teuluoedd; ond bydd hefyd yn cael effaithsylweddol ar eu hiechyd yn y dyfodol nid yn unig o rangordewdra, ond hefyd canser a chlefyd coronaidd y galon.Mae’r rhain yn aml yn afiechydon y gellir eu hatal ac maeangen eglur am sicrhau bod plant a phobl ifanc ynwybodus fel eu bod yn medru dewis yn iach mor aml âphosib. Rwy’n galw ar y diwydiant hysbysebu i weithredu’ngyfrifol wrth hysbysebu i blant. Byddaf yn monitrocanlyniadau’r hunan-reoleiddio arfaethedig.

Nyrsys ysgol

Yn fy adroddiad blynyddol diwethaf fe wnes i amlygu rôlallweddol nyrsys ysgol wrth sicrhau iechyd a lles plant, acfe wnes i bwysleisio bod hwn – ochr yn ochr â chefnogaethgwnsela a argymhellwyd yn Adroddiad Clywch – yn fater ydylid ei gymryd o ddifri. Fe wnes i hefyd ddyfynnu o’radroddiadau amrywiol a gyhoeddwyd yn edrych ar ddyfodoly gwasanaeth nyrsys ysgol yng Nghymru.

Gwaetha’r modd, flwyddyn yn ddiweddarach, ni welwydcynnydd boddhaol yng Nghymru, ac mae’n anodd deallpam fod negeseuon allweddol a adleisiwyd mewn triadolygiad academaidd o’r gwasanaeth nyrsio cymunedolwedi methu â sicrhau gweithredu priodol ar frys.Arweiniodd canfyddiadau pob adolygiad yn gyson at

alwadau am gynnydd yn yr adnoddau ar gyfergwasanaethau nyrsys ysgol.

Petai’r gwasanaeth hwn yn derbyn adnoddau digonol,rheolaeth gyson a chefnogaeth dda byddai manteision iiechyd corfforol ac emosiynol plant a phobl ifanc Cymru.Mae hefyd yn eithriadol o debygol y byddai manteision oran eu cyrhaeddiad addysgol a pherfformiad ysgolion.Byddaf yn monitro’r datblygiadau yn ystod y misoedd nesafi sicrhau bod y gwasanaeth hwn yn cael ei ddatblygu felmesur diogelu ychwanegol o ansawdd uchel o fewnterfynau amser rhesymol.

Defnyddio’r rhyngrwyd athechnoleg gwybodaeth achyfathrebu’n ddiogel

Er bod defnydd cynyddol o dechnoleg gan blant a phoblifanc i’w annog, mae diogelwch y rhyngrwyd wedi dod ynfater brys wrth amddiffyn plant a phobl ifanc yng Nghymru.Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi dweud bod rhaid iAwdurdodau Addysg Lleol (AALlau) fel amod ariannu TGChsicrhau bod trefniadau yn eu lle fel na all disgyblion gaelgafael ar ddeunyddiau amhriodol drwy’r Rhyngrwyd, gangynnwys deunydd a gyhoeddir ar y Rhyngrwyd ganddisgyblion ac ysgolion.

Mae hefyd yn ofynnol bod AALlau yn sicrhau bod ysgolionhefyd yn ymateb i’r materion hyn drwy eu cynlluniaudatblygu ysgol unigol. Mae’r AALlau yn rheoli, yn cynllunioac yn trefnu mynediad i’r rhyngrwyd ar gyfer ysgolion, ondmaent hefyd yn dibynnu ar yr ysgolion eu hunain i sicrhauarfer gorau. Mae atal gwefannau penodol a chyngor iysgolion ar bolisïau diogelwch y rhyngrwyd yn ymateb i’r

“Rownd lle dwi’n byw mae lot o bobol yn hoffi chwarae.”

Page 50: u r m y t AB0506 C o m s e m l i a s i W o r n e f o Õs r e r m i s s i o … · 2019-03-05 · pwysicaf fy ngwaith. Rhan fawr o’m gwaith yw codi llais dros blant a phobl ifanc

defnydd o’r rhyngrwyd yn yr ysgol, ond nid yw’n darparuaddysg effeithiol i ddisgyblion ar ddefnydd diogel cyffredinol.Rwy’n croesawu’r ffaith fod adolygiad o’r cwricwlwm TGChar waith ar hyn o bryd. Rwyf o’r farn ei bod yn hanfodol iddefnydd cyfrifol o’r rhyngrwyd a’r technolegau cyfathrebueraill newydd ddod yn rhan o’r cwricwlwm yng Nghymru. Nidyw darparu rhwystrau a muriau’n ddigonol yn lle addysg arsut mae amddiffyn eich hunan a pham nad yw’n dderbyniolcamddefnyddio’r dechnoleg i fwlio eraill. Mae’r holl waith awnaed gan sefydliadau plant yn hyn o beth yn fy nghalonogiac rwy’n gobeithio y bydd ymagwedd strategol yn sicrhaubod mynediad i gyngor a deunyddiau o’r fath yn cael eihyrwyddo yn yr holl ysgolion, yn rhai cynradd ac uwchradd.

Er nad yw Llywodraeth Cynulliad Cymru eto wedi datblygustrategaeth ar gyfer TGCh yng Nghymru, mae’r grw^p Polisiar gyfer y Strategaeth TGCh ar fin rhyddhau strategaethddrafft ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus ym mis Mawrth2007. ‘Ein Cadw Ni’n Sâff’ yw adroddiad Grw^p AdolyguDiogelu Plant Hawdd eu Niweidio ar Adolygiad yGwasanaethau i Blant Hawdd eu Niweidio. Teitl Her rhif 7yn yr adroddiad yw ‘Y Risgiau Newydd’ ac mae pwyntiau 3 a4 yn annog “LlCC i weithredu ar frys i ymateb yn fwycynhwysfawr i’r bygythiad a geir yn sgîl y rhyngrwyd athechnolegau newydd” ac i “wneud mwy o ddefnydd o’rmentrau sydd ar gael”. Byddaf yn parhau i ymddiddorimewn gweld sut mae’r camau hyn yn cael eu datblygu.

Cludiant ysgol

Fe wnes i sylwadau ar faterion cludiant ysgol yn fyadroddiad Ond mod i’n cyrraedd yn sâff… ac mae’r tîmwedi bod yn monitro cynnydd ar y gwelliannau aargymhellwyd. Roeddem yn ddiolchgar am y gwahoddiad i

Grw^p Cydlynu Cludiant Ysgol Llywodraeth Cynulliad Cymruac yn falch o glywed am lawer o welliannau, o oed a chyflwry cerbydau i’w defnyddio i bolisïau ar wella ymddygiad arfysus a awgrymwyd gan bobl ifanc. Cawsom ein calonogihefyd gan lefel cyfranogiad plant a phobl ifanc wrthgynllunio gwasanaethau a hwyluswyd gan rai awdurdodaulleol. Mae hyn wedi arwain at ddulliau eraill blaengar.

Serch hynny, ni welir arfer da felly ym mhob rhan o Gymruac mae’n annhebygol o gael ei weld nes i’r tendrau gaeleu hasesu ar ansawdd y gwasanaeth yn hytrach na dimond y gost. Bydd angen arweiniad gan LywodraethCynulliad Cymru ar hyn.

Yn ystod y flwyddyn bu arfer un awdurdod addysg lleol aoedd yn cynnwys gwybodaeth gyfrinachol am ddisgyblionag Anghenion Addysgol Arbennig gyda’u gwahoddiadau idendro am wasanaethau tacsi yn destun pryder mawr i ni.Wedi gwneud ymholiadau cawsom nad oedd yr arfer hwnyn anghyffredin o bell ffordd. Yn ffodus, cawsom hyd i betharfer da yn ogystal.

Fe wnaethon ni gyflwyno’n canfyddiadau i LywodraethCynulliad Cymru gydag argymhelliad eu bod yn cysylltu âphob AALl gyda’r nod o ddod â’r arfer hwn i ben. Rydym yncroesawu’r ffaith y bydd Arweiniad yn cael ei gyflwyno isicrhau nad yw dogfennau tendro’n cynnwys manylion ydisgyblion a fydd yn cael eu cludo na gwybodaeth y gellidei defnyddio i wybod pwy ydynt.

Amddiffyn plant mewncanolfannau gweithgaredd

Mae plant yn elwa’n fawr o fynd i ganolfannaugweithgaredd lle byddant yn wynebu heriau a phrofiadaunewydd ac yn dod i gysylltiad â risgiau a asesir ac a reoliryn ofalus. Fodd bynnag, rwy’n ymwybodol o ddiffygion oran sut mae polisïau amddiffyn plant yn cael eu paratoia’u gweithredu yn y canolfannau hyn. Mae’r rhan fwyaf oganolfannau gweithgaredd, yn synhwyrol iawn, wedi

50 > adolygiad blynyddol 05-06

“Byddai’n dda cael help ychwanegol iblant sy’n gorfod colli ysgol.”

Page 51: u r m y t AB0506 C o m s e m l i a s i W o r n e f o Õs r e r m i s s i o … · 2019-03-05 · pwysicaf fy ngwaith. Rhan fawr o’m gwaith yw codi llais dros blant a phobl ifanc

paratoi polisïau a gweithdrefnau amddiffyn plant, ond nidoes unrhyw asiantaeth sy’n gyfrifol am eu harchwilio.Mae’r Awdurdod Trwyddedu Gweithgareddau Antur ynarchwilio diogelwch y gweithgareddau, ond nid yw eu cylchgorchwyl yn cynnwys amddiffyn plant. Rydym wedi cynnig ydylid ehangu eu cylch gorchwyl i wneud hynny. Byddai hynnid yn unig yn sicrhau cysondeb, ond hefyd byddai’rcanolfannau’n medru elwa o gasglu cyngor a rhannuprofiad o arfer da. Eto, rydym yn disgwyl gweithredu ar eincynnig gan Lywodraeth Cynulliad Cymru.

Adroddiadau UNCRC

Pan gadarnhaodd llywodraeth y DU Gonfensiwn yCenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn ymrwymodd isicrhau bod ei chanllawiau a’i deddfwriaeth yn cydymffurfioâ’r Confensiwn. Cytunodd hefyd y byddai’n cyflwynoadroddiad i’r Pwyllgor ar Hawliau’r Plentyn bob 5 mlyneddar y cynnydd a wnaed.

Cyflwynwyd adroddiad diwethaf Llywodraeth y DU yn 2002,a bydd y nesaf ym mis Mawrth 2007. Bydd y Pwyllgor hefydwedyn yn croesawu adroddiadau gan sefydliadau nad ydyntyn rhan o’r llywodraeth ac, am y tro cyntaf, ganGomisiynwyr Cymru, yr Alban, Gogledd Iwerddon a Lloegr ynannibynnol ar ei gilydd.

Rwy’n bwriadu cyflwyno cynrychiolaethau llawn i’r Pwyllgorac amlygu nid yn unig y meysydd niferus lle mae angengwneud mwy ond hefyd y cynnydd a wnaed gan LywodraethCynulliad Cymru mewn rhai meysydd sy’n ymwneud âhawliau plant yng Nghymru. Er bod UNCRC yn cael eienwi’n amlwg mewn dogfennau polisi perthnasol, hoffwnweld LlCC yn gwneud mwy o ran eu dyletswydd o danErthygl 42 y confensiwn. Ynghyd â nifer o asiantaethaugwirfoddol, mae fy swyddfa wrthi’n hyrwyddo’r confensiwnyn ddyddiol ymhlith pobl Cymru ac yn arbennig ymhlithplant a phobl ifanc. Er nad wyf am danseilio gwerth y gwaithhwn, rhaid cydnabod ei fod ar raddfa na all gael effaith hirdymor barhaol. Rwy’n galw felly ar Lywodraeth Cynulliad

Cymru i adnoddu rhaglen gydlynus o gynydduymwybyddiaeth o’r Confensiwn a’i oblygiadau i blant, rhieni,darparwyr gwasanaeth, llunwyr polisi a’r llywodraeth ar boblefel. Byddai hefyd yn gyfle i addysgu’r cyhoedd ynghylch ycyflawniadau a wnaed o ran gwireddu hawliau’r confensiwnyng Nghymru.

Mae’r ffaith i Lywodraeth Cynulliad Cymru wneud safiadegwyddorol ar wahardd taro plant yn destun pleser abalchder i mi ac rwy’n cefnogi eu gwaith yn annogmagwraeth gadarnhaol i blant. Ac eto heb newid yddeddfwriaeth mae’n sefyllfa ddryslyd. Nid yw’r mater hwnwedi’i ddatganoli, a daeth llywodraeth y DU i benderfyniadgwahanol i LlCC wrth i Ddeddf Plant 2004 fynd drwy’rSenedd. Mae’n dal yn gyfreithlon taro plant yn y DU, er maidim ond mewn rhai ffyrdd. Mae’r sefyllfa bresennol ynamlwg yn hurt, ac mae angen ei hunioni cyn gynted âphosib. Mae’r mater hwn yn un lle beirniadwyd llywodraethy DU yn llym yn y gorffennol ac mae’n debygol y bydd yPwyllgor yn eu holi ynghylch sut a pham y bu iddyntganiatáu i gyfle i gydymffurfio ag UNCRC gael ei golli.

www.complantcymru.org.uk > 51

“Pan nad yw pobl yn meddwl bod chwaraeyn bwysig, mae hynny mynd ar fy nerfau.”

Page 52: u r m y t AB0506 C o m s e m l i a s i W o r n e f o Õs r e r m i s s i o … · 2019-03-05 · pwysicaf fy ngwaith. Rhan fawr o’m gwaith yw codi llais dros blant a phobl ifanc

52 > adolygiad blynyddol 05-06

Page 53: u r m y t AB0506 C o m s e m l i a s i W o r n e f o Õs r e r m i s s i o … · 2019-03-05 · pwysicaf fy ngwaith. Rhan fawr o’m gwaith yw codi llais dros blant a phobl ifanc

www.complantcymru.org.uk > 53

Adran 6GWYBODAETH ARIANNOL

CyflwyniadMae’r wybodaeth ariannol sy’n dilyn wedi’i seilio ar yrAdroddiad Blynyddol llawn a Chyfrifon AdnoddauComisiynydd Plant Cymru ar gyfer y flwyddyn yn diwedduar 31ain Mawrth 2006. Trosolwg a geir yn yr adran hon,ac nid yw’n cynnwys yr holl wybodaeth berthnasol iganiatáu dealltwriaeth lawn o ganlyniadau a chyflwrtrafodion Comisiynydd Plant Cymru fel a geid yn yradroddiad blynyddol a’r cyfrifon llawn. Cyflwynwyd y rhain iGynulliad Cenedlaethol Cymru (y Cynulliad) ac maent yncynnwys yr wybodaeth fanwl sy’n ofynnol yn ôl y gyfraith a’rLlawlyfr Adroddiadau Ariannol. Gallwch gael copi o’radroddiad blynyddol a’r cyfrifon, yn ddi-dâl, drwyysgrifennu at y Comisiynydd yn ei swyddfa gofrestredig.

Ty^ YstumllwynarthLlys y SiarterPhoenix WayLlansamletABERTAWE SA7 9FS

O dan Atodlen 2 Deddf Safonau Gofal 2000, mae’nofynnol i Gomisiynydd Plant Cymru gadw cofnodion cyfrifocywir ar gyfer pob blwyddyn ariannol, yn unol âchyfarwyddyd cyfrifon a bennwyd gan y Cynulliad, ynmanylu ar yr adnoddau a gaffaelwyd, a ddaliwyd neu awaredwyd yn ystod y cyfnod a defnydd Comisiynydd Cymruo adnoddau yn ystod y cyfnod.

Page 54: u r m y t AB0506 C o m s e m l i a s i W o r n e f o Õs r e r m i s s i o … · 2019-03-05 · pwysicaf fy ngwaith. Rhan fawr o’m gwaith yw codi llais dros blant a phobl ifanc

Pwyllgor Archwilio

Mae’r Comisiynydd wedi sefydlu Pwyllgor Archwilio i roicyngor a sicrwydd ynghylch llywodraethu corfforaethol,rheoli risg a rheolaeth o fewn swyddfa’r Comisiynydd adigonoldeb y trefniadau archwilio mewnol ac allanol.

Mae’r Pwyllgor Archwilio’n cyfarfod o leiaf dwywaith yflwyddyn, ac yn cynnwys uwch-swyddogion y Comisiynydda thri aelod annibynnol, sef:

Brian Charles, Cadeirydd y Pwyllgor – cyn gadeirydd Dw^rCymru

Tom Cassidy – Cyn Brif Weithredwr CADW

John Cory – Cyn Gyfarwyddwr Cyllid Bwrdd Croeso Cymru

Uwch swyddogion

Bu’r canlynol yn gwasanaethu fel Uwch Dîm Rheoli ynystod y flwyddyn:

Peter Clarke Comisiynydd Plant Cymru a SwyddogCyfrifon

Maria Battle Is-Gomisiynydd, Cyfreithiol acYmchwiliadau a Dirprwy Gomisiynydd

Rhian Davies Is-Gomisiynydd, Polisi a GwerthusoGwasanaeth

Sara Reid Is-Gomisiynydd, Cyfathrebu aChyfranogiad

Andrew Robinson Pennaeth Gweithredol GwasanaethauCorfforaethol (tan 25 Ionawr 2006)

Tony Evans Pennaeth Gwasanaethau Corfforaethol(o 15 Mai 2006)

Rhwng ymadawiad Andrew Robinson (PennaethGweithredol Gwasanaethau Corfforaethol) ym mis Ionawr2006 a phenodiad Tony Evans yn Bennaeth newyddGwasanaethau Corfforaethol ym mis Mai 2006, rheolwydy swyddogaeth gwasanaethau corfforaethol gan MariaBattle yn ei rôl fel Dirprwy Gomisiynydd.

Ariannu

Mae Comisiynydd Plant Cymru’n annibynnol ar GynulliadCenedlaethol Cymru, ond yn cael ei ariannu ganddo. Yn2005-06 derbyniodd y Comisiynydd £1.4 miliwn (2004-05: £1.8 miliwn) i ariannu ei weithgareddau. Ers sefydluswyddfa’r Comisiynydd Plant mae swm yr arian adderbynnir gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru wedicynyddu’n gyson i gyfateb i lwyth gwaith cynyddol yComisiynydd.

Yn 2004-05 fe wnaethom ni dderbyn £296,250 a oeddar gyfer cyfnod 2005-06.

Canlyniadau ar gyfer y flwyddyn

Mae’r Datganiad Cost Gweithredu’n dangos costgweithredu net, ar gyfer y cyfnod, o £1,525,000 (2004-05: £1,497,000) sy’n cynrychioli cynnydd gwariant net o2 y cant o’i gymharu â 2004-05. Y gweddill yn y gronfagyffredinol ar ddiwedd y flwyddyn oedd £118,000 (2004-05: £202,000).

Rhwng Ebrill 2005 a Mawrth 2006 mae staff yComisiynydd wedi cynyddu o 20 (cyfwerth amser llawn) i27 (cyfwerth amser llawn) i adlewyrchu llwyth gwaithcynyddol y Comisiynydd a’i dimau.

54 > adolygiad blynyddol 05-06

Page 55: u r m y t AB0506 C o m s e m l i a s i W o r n e f o Õs r e r m i s s i o … · 2019-03-05 · pwysicaf fy ngwaith. Rhan fawr o’m gwaith yw codi llais dros blant a phobl ifanc

www.complantcymru.org.uk > 55

Staff yn eu swyddi (fesul grw^p staff) Ebrill 2006:

Cyfleoedd Cyfartal

Caiff pob cais am swydd gyda Chomisiynydd Plant Cymruei ystyried ar y sail y dylai pob ymgeisydd am swydddderbyn cyfle cyfartal am gyflogaeth a dyrchafiad ar sail eugallu, eu cymwysterau a’u haddasrwydd ar gyfer y gwaith.

Ni ddylai unrhyw ymgeisydd am swydd na chyflogaidderbyn triniaeth lai ffafriol ar sail hil, lliw, rhyw, tueddfrydrhywiol, oedran, statws priodasol, anabledd, crefydd,cyfrifoldebau teuluol/domestig na phatrymau gwaith e.e.rhan amser, ac ni ddylai unrhyw unigolyn gael ei roi dananfantais gan amodau neu ofynion na ellir profi eu bodwedi’u cyfiawnhau.

Archwilwyr

Caiff cyfrifon Comisiynydd Plant Cymru eu harchwilio a’uhardystio gan Archwilydd Cyffredinol Cymru yn unol âpharagraff 9 Atodlen 2 Deddf Safonau Gofal 2000.

Darparodd Gwasanaeth Archwilio Mewnol y Cynulliadwasanaethau archwilio mewnol i’r Comisiynydd yn ystod ycyfnod.

Yn ystod y cyfnod ni thalwyd yr archwilwyr am waithheblaw archwilio.

Cyfathrebu aChyfranogiad9

Gwas.Corfforaethol

3.5

Comisiynydd2

Polisi a Gwerthuso Gwasanaeth4.5

Cyfreithiol acYmchwiliadau

7

Page 56: u r m y t AB0506 C o m s e m l i a s i W o r n e f o Õs r e r m i s s i o … · 2019-03-05 · pwysicaf fy ngwaith. Rhan fawr o’m gwaith yw codi llais dros blant a phobl ifanc

56 > adolygiad blynyddol 05-06

Adnoddau fesul sefydliad nod ac amcanionar gyfer y cyfnod 1af Ebrill 2005 i 31ain Mawrth 2006

NOD AC AMCANION COMISIYNYDD PLANT CYMRU

NodDiogelu a hyrwyddo hawliau a lles plant ac ymarfer ei holl swyddogaethau yng nghyswllt confensiwn y CU ar hawliau’rplentyn.

2005-2006 2004-2005

Gros Incwm Net Gros Incwm Net£000 £000 £000 £000 £000 £000

Amcan:

Amcan 1 787 - 787 430 - 430

Amcan 2 235 - 235 272 - 272

Amcan 3 55 - 55 83 - 83

Amcan 4 52 - 52 30 - 30

Amcan 5 18 - 18 45 - 45

Amcan 6 247 - 247 602 - 602

Amcan 7 40 - 40 13 - 13

Amcan 8 91 - 91 22 - 22

1,525 - 1,525 1,497 - 1,497

Ffynhonnell: Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon Comisiynydd Plant Cymru ar gyfer 2005-06.

Page 57: u r m y t AB0506 C o m s e m l i a s i W o r n e f o Õs r e r m i s s i o … · 2019-03-05 · pwysicaf fy ngwaith. Rhan fawr o’m gwaith yw codi llais dros blant a phobl ifanc

www.complantcymru.org.uk > 56

Roedd amcanion y Comisiynydd fel aganlyn:

1. Hyrwyddo hawliau a lles plant, a sicrhau bod plant aphobl ifanc Cymru’n ymwybodol o fodolaeth yComisiynydd, o’i rôl a’i swyddogaeth, lleoliad eiswyddfeydd, sut gallan nhw gyfathrebu â’rComisiynydd/cael gafael arno fe a’i staff, a hawliauplant a phobl Ifanc, yn enwedig y rheiny a nodir yngnghonfensiwn y CU ar hawliau’r plentyn; annog ycyfathrebu/mynediad hwnnw; a sicrhau bod cyrffcyhoeddus Cymru’n ymwybodol o hawliau plant aphobl Ifanc.

2. Sicrhau bod barn plant a phobl ifanc yn cael ei cheisioynghylch sut dylai’r Comisiynydd ymarfer eiswyddogaeth a chynnwys rhaglen waith flynyddol yComisiynydd.

3. Adolygu a monitro gweithrediad trefniadau cwynion,eiriolaeth a chyngor a datgelu camarfer er mwyn gwelda ydynt yn effeithiol ac i ba raddau wrth ddiogelu ahyrwyddo hawliau a lles plant.

4. Adolygu a monitro effaith ymarfer neu fwriad i ymarferunrhyw un o swyddogaethau Cynulliad CenedlaetholCymru a/neu gyrff a restrir yn Atodlen 2a DeddfComisiynydd Plant Cymru 2001 ar blant.

5. Archwilio achosion plant penodol sydd yn neu wediderbyn gwasanaethau rheoledig gan gyrff a restrir ynAtodlen 2a Deddf Comisiynydd Plant Cymru 2001.

6. Darparu neu drefnu cyngor, cynrychiolaeth neugymorth arall i blentyn wrth wneud cwyn ffurfiol neugyflwyno achos i ddarparwr gwasanaeth; a/neu unrhywdrafodion sy’n ymwneud â darparu gwasanaeth, osydynt ym marn resymol y Comisiynydd yn ymwneud âmaterion sy’n fwy cyffredinol gymwys neu berthnasol ihawliau a lles plant yng Nghymru. Rhoi cyngor agwybodaeth i unrhyw un.

7. Adolygu pwerau’r Comisiynydd a’u heffaith ar blant ynbarhaus.

8. Ystyried a chyflwyno cynrychiolaethau i GynulliadCenedlaethol Cymru ar unrhyw fater sy’n effeithio arhawliau a lles plant yng Nghymru.

Mae’r amcanion yn destun adolygiad rheolaidd i sicrhaueu bod yn adlewyrchu rôl a swyddogaeth y Comisiynydd.Dyrannwyd costau gweithredu i’r amcanion gan gyfeirio aty cyfnodau cymharol o amser a dreuliwyd gan staff ar yramcanion uchod.

Page 58: u r m y t AB0506 C o m s e m l i a s i W o r n e f o Õs r e r m i s s i o … · 2019-03-05 · pwysicaf fy ngwaith. Rhan fawr o’m gwaith yw codi llais dros blant a phobl ifanc

Sara Reid

Assistant CommissionerIs-Gomisiynydd

Julie Griffiths

Senior Communication

and Participation Officer

Uwch Swyddog Cyfathrebua Chyfranogiad Jo Sims

Senior Communication

and Participation Officer

Uwch Swyddog Cyfathrebua Chyfranogiad

Peter ClarkeChildren’s Commissioner

Comisiynydd Plant

Monica RobertsPersonal Assistant

Cynorthwy-ydd Personol

John TudorCommunication andParticipation Officer

Swyddog Cyfathrebua Chyfranogiad

Sarah LewisCommunication andParticipation Officer

Swyddog Cyfathrebua Chyfranogiad

Jamie GwilliamWeb and ITCo-ordinatorCydlynydd yWê a TG

Jessica MillsCommunication andParticipation Officer

Swyddog Cyfathrebua Chyfranogiad

Lucy PayneMedia and

Communications Assistant

Cynorthwy-ydd Cyfryngaua Chyfathrebu

Ceri JamesAdministrativeAssistantCynorthwy-yddGweinyddol

Communications and ParticipationCyfathrebu a Chyfranogiad

Maria BattleAssistant Commissioner

Is-Gomisiynydd

Elaine ClokeLegal andInvestigations Manager

Rheolydd Cyfreithiol ac

Ymchwiliadau

Ken HintonVolunteerCo-ordinatorCydlynyddGwirfoddolwyr

John HarfordAdvice and Support Officer

Swyddog Cyngor a Chymorth

Kay WilliamsAdvice and Support Officer

Swyddog Cyngor a Chymorth

Tracey RogersAdvice and Support Officer

Swyddog Cyngor a Chymorth

Legal and InvestigationsCyfreithiol ac Ymchwiliadau

Tony Evans

Head of

Corporate Services

Pennaeth Gwasanaethau

Corfforaethol

Charlotte Blair

Finance and

Administration Manager

Rheolydd Cyllid

a Gweinyddol

Nicola McIntosh

Finance Assistant

Cynorthwy-ydd Cyllid

Ros Madge

Finance Assistant

Cynorthwy-ydd Cyllid

Eleri Bingham

Receptionist

Derbynnydd

Jon Murphy

Administrative Assistant

Cynorthwy-ydd Gweinyddol

Corporate ServicesGwasanaethau Corfforaethol

Rhian Davies

Assistant Commissio

ner

Is-Gomisiynydd

Peter Hosking

Senior Policy and Service

Evaluation Officer

Uwch Swyddog Polisi a

Gwerthuso Gwasanaethau

Mair Jones

Senior Policy and Service

Evaluation Officer

Uwch Swyddog Polisi a

Gwerthuso Gwasanaethau

Gareth Jones

Policy and Service

Evaluation Officer

Swyddog Polisi a

Gwerthuso Gwasanaethau

Elaine Canniffe

Information

Officer

Swyddog

Gwybodaeth

Shaun Raymond

Administrative

Assistant

Cynorthwy-ydd

Gweinyddol

Christine RoachPersonalSecretaryYsgrifennyddPersonol

Policy and Service EvaluationPolisi a Gwerthuso Gwasanaethau

Children’s CommissionerComisiynydd Plant Cymru