papur wythnosol yr annibynwyr cymraeg y tyst · 2018. 12. 6. · y tyst parhad ar dudalen 7 papur...

4
Y TYST parhad ar dudalen 7 PAPUR WYTHNOSOL YR ANNIBYNWYR CYMRAEG Sefydlwyd 1867 Cyfrol 151 Rhif 37 Medi 13, 2018 50c. Tair blynedd yn ôl mi gollodd Mathew Rowcliffe o Bencader ei olwg yn ofnadwy o ddisymwth. Bu am amser y ceisio dod i delerau â’r cyflwr yma ac yntau newydd raddio a chael swydd yn Northampton. Bu Cymdeithas y Deillion yn garedig iawn iddo, yn ei helpu i ddygymod, dod o hyd i swydd, gwneud yn siŵr ei fod yn cael chwarae teg. Penderfynodd ei fod am godi arian i’r gymdeithas fel arwydd o’i werthfawrogiad, ac aeth ati i redeg marathon Llundain gyda’i frawd Huw yn ei dywys gyda tharged o godi £2,500. Ysgrifennodd at nifer am gymorth, a rhoddodd gais ym mhapur bro’r Garthen. O ganlyniad i hynny penderfynodd aelodau ifanc ysgol Sul y Tabernacl ei helpu i wireddu’r freuddwyd o godi £2,500, yn enwedig gan fod Mathew yn gyn-aelod o’r ysgol Sul. Roedd holl aelodau’r eglwys hefyd am helpu, a chodwyd £600. Braf nodi fod y cyfanswm a godwyd wedi cyrraedd dros £6,000 o bunnoedd. Y TABERNACL PENCADER Plant yr ysgol Sul yn cyflwyno siec o £600 i Mathew a Huw Gyda thristwch yn ein calonnau daeth hanes y capel i ben ar nos Fawrth 31 Gorffennaf ond roedd nodyn o lawenydd yn yr oedfa am ein bod yn dathlu a chofio. Llywydd yr oedfa oedd y Parchg Geraint S. Rh. Hughes, Pwllheli, a fagwyd yn y Tabernacl. I ddechrau’r gwasanaeth, wedi canu emyn, darllenwyd o’r Ysgrythur gan un cyn-weinidog y Parchg Ioan Wyn Gruffydd BA, BD Pwllheli, ac un arall a godwyd i’r weinidogaeth yn y Tabernacl, y Parchg Gwilym Wyn Roberts BA,BD Caerdydd fu yn ein harwain mewn gweddi. Cawsom unawd gan Calum Mckay yn dilyn. Y dechreuadau Yn ei anerchiad adroddwyd hanes dechreuadau’r Achos yn y Tabernacl gan y llywydd. Yn Rhagfyr 1893 daeth pwyllgor at ei gilydd i ystyried y mater o adeiladu capel i’r Annibynwyr Cymraeg yng nghanol y pentref, gan fod y lle’n cynyddu mewn poblogaeth. Cadeirydd y pwyllgor oedd y Parchg Caleb Williams, Horeb, Dwygyfylchi a ddaeth yn weinidog maes o law yn y Tabernacl hefyd. Bu’n weinidog yn y fro am 50 mlynedd. Ar 2 Mehefin 1895 pregethwyd am y tro cyntaf yn y capel newydd gan y Parchg Caleb Williams. Ei destun oedd 1 Brenhinoedd 8: 57 a 58. Cynhaliwyd y Cyfarfod Mawr agoriadol ar 26 Mehefin 1895 a sefydlwyd yr eglwys yn ffurfiol mewn cyfeillach ar 28 Gorffennaf. Horeb, Dwygyfylchi oedd yr eglwys ymneilltuol gyntaf ym Mhenmaenmawr a’r cylch. Y Parchg William Hughes, Caegwigin (Bethlehem, Talybont, Bangor) oedd yn gyfrifol am ei sefydlu. Sefydlwyd dwy eglwys arall yn y fro gan yr Annibynwyr sef Salem, Penmaenan a’r Tabernacl. Bellach nid oes dim un capel gan yr Annibynwyr yn y fro. Gwasanaethwyd yr eglwys gan saith gweinidog sef y Parchedigion Caleb Williams, J. H. Roberts, G. J. Richards, Gwyn Eifion Rees, Ioan Wyn Gruffydd, Gwilym Parry a John G. E.Watkin. Codwyd tri i’r weinidogaeth o’r Eglwys sef y Parchedigion Harold Rhys Hughes, Gwilym Wyn Roberts a Geraint S. Rh. Hughes. Datgorffori Capel y Tabernacl, Penmaenmawr

Upload: others

Post on 01-Feb-2021

0 views

Category:

Documents


0 download

TRANSCRIPT

  • Y TYST

    parhad ar dudalen 7

    PAPUR WYTHNOSOL YR ANNIBYNWYR CYMRAEG

    Sefydlwyd 1867 Cyfrol 151 Rhif 37 Medi 13, 2018 50c.

    Tair blynedd yn ôl mi gollodd MathewRowcliffe o Bencader ei olwg ynofnadwy o ddisymwth. Bu am amser yceisio dod i delerau â’r cyflwr yma acyntau newydd raddio a chael swydd ynNorthampton.

    Bu Cymdeithas y Deillion yn garedigiawn iddo, yn ei helpu i ddygymod, dod ohyd i swydd, gwneud yn siŵr ei fod yncael chwarae teg. Penderfynodd ei fod amgodi arian i’r gymdeithas fel arwydd o’iwerthfawrogiad, ac aeth ati i redegmarathon Llundain gyda’i frawd Huw ynei dywys gyda tharged o godi £2,500.

    Ysgrifennodd at nifer am gymorth, arhoddodd gais ym mhapur bro’r Garthen.O ganlyniad i hynny penderfynoddaelodau ifanc ysgol Sul y Tabernacl eihelpu i wireddu’r freuddwyd o godi£2,500, yn enwedig gan fod Mathew yngyn-aelod o’r ysgol Sul. Roedd hollaelodau’r eglwys hefyd am helpu, achodwyd £600. Braf nodi fod y cyfanswma godwyd wedi cyrraedd dros £6,000 obunnoedd.

    Y TABERNACL PENCADER

    Plant yr ysgol Sul yn cyflwyno siec o £600 i Mathew a Huw

    Gyda thristwch ynein calonnau daethhanes y capel i benar nos Fawrth 31Gorffennaf ondroedd nodyn olawenydd yn yroedfa am ein bod yndathlu a chofio.Llywydd yr oedfaoedd y ParchgGeraint S. Rh.Hughes, Pwllheli, afagwyd yn yTabernacl. Iddechrau’rgwasanaeth, wedicanu emyn, darllenwyd o’r Ysgrythur ganun cyn-weinidog y Parchg Ioan WynGruffydd BA, BD Pwllheli, ac un arall agodwyd i’r weinidogaeth yn y Tabernacl, yParchg Gwilym Wyn Roberts BA,BDCaerdydd fu yn ein harwain mewn gweddi.Cawsom unawd gan Calum Mckay yndilyn.

    Y dechreuadauYn ei anerchiad adroddwyd hanesdechreuadau’r Achos yn y Tabernacl gan yllywydd. Yn Rhagfyr 1893 daeth pwyllgorat ei gilydd i ystyried y mater o adeiladucapel i’r Annibynwyr Cymraeg yngnghanol y pentref, gan fod y lle’n cynyddumewn poblogaeth. Cadeirydd y pwyllgor

    oedd y Parchg Caleb Williams, Horeb,Dwygyfylchi a ddaeth yn weinidog maes olaw yn y Tabernacl hefyd. Bu’n weinidogyn y fro am 50 mlynedd. Ar 2 Mehefin1895 pregethwyd am y tro cyntaf yn ycapel newydd gan y Parchg CalebWilliams. Ei destun oedd 1 Brenhinoedd 8:57 a 58. Cynhaliwyd y Cyfarfod Mawragoriadol ar 26 Mehefin 1895 a sefydlwydyr eglwys yn ffurfiol mewn cyfeillach ar28 Gorffennaf.

    Horeb, Dwygyfylchi oedd yr eglwysymneilltuol gyntaf ym Mhenmaenmawr a’rcylch. Y Parchg William Hughes,Caegwigin (Bethlehem, Talybont, Bangor)oedd yn gyfrifol am ei sefydlu. Sefydlwyddwy eglwys arall yn y fro gan yrAnnibynwyr sef Salem, Penmaenan a’rTabernacl. Bellach nid oes dim un capelgan yr Annibynwyr yn y fro.

    Gwasanaethwyd yr eglwys gan saithgweinidog sef y Parchedigion CalebWilliams, J. H. Roberts, G. J. Richards,Gwyn Eifion Rees, Ioan Wyn Gruffydd,Gwilym Parry a John G. E.Watkin.Codwyd tri i’r weinidogaeth o’r Eglwys sefy Parchedigion Harold Rhys Hughes,Gwilym Wyn Roberts a Geraint S. Rh.Hughes.

    Datgorffori Capel y Tabernacl, Penmaenmawr

  • tudalen 2 Y Pedair Tudalen Gydenwadol Medi 13, 2018Y TYST

    DATHLIADY Parchg Gwylfa Evans

    felGweinidog Eglwys Annibynnol

    Gymraeg Harrowam

    40 o flynyddoeddPrynhawn Sul, Medi 23 am 3.00pm

    TUA LLANYSTUMDWY –Deirgwaith mewn wythnos

    Llanystumdwy – pentref Lloyd George?Wel ia, ar un wedd, ac yno y mae o wedi’igladdu, fwy neu lai ar lan yr afon Dwyfor,ac yn rhyfedd iawn, roedd Elen a minnau aMacs y ci yn cerdded glannau’r afonb’nawn Sadwrn, 21 Gorffennaf. Y p’nawndilynol, y Sul felly, ro’n i’n ôl ynLlanystumdwy yn arwain addoliad yngnghapel Moreia (MC), a hynny am y trodiwethaf gan fod ei ddrysau’n cau a’rachos yn dod i ben ym mis Medi eleni. Panlosgwyd yr hen Moreia ym 1935, fegodwyd yr adeilad newydd gan neb llai naClough Williams Ellis, a rhaid cyfaddef, ymae ei bensaernïaeth yn dra gwahanol igapeli’r cyfnod.Pentref hynodWrth fod yn yr oedfa, fel ag y bûm sawltro yn ystod y blynyddoedd, dyma weldDora, gweddw Wil Sam, yr awdur a’rdramodydd, a chofio am gyfraniad enfawry teulu yma i fywyd Llanystumdwy aChymru’r ugeinfed ganrif. I mi maeLlanystumdwy yn lawn cymaint o bentrefWil Sam ag ydio’n bentref Lloyd George!A chofio’r un pryd mai yng nghartref Wil aDora y ganwyd un arall o fawrion Cymru,y Dr R. Tudur Jones, ac o flaen drws ffryntTyddyn Gwyn, sydd rhwng Llanystumdwya Rhoslan, y gosodwyd cofeb iddo yn ôl yny flwyddyn 2000.Blaen-y-wawrYna, dydd Mercher 25 Gorffennaf, y ffônyn canu a llais Bryn, ymgymerwr angladdau Cricieth, yn gofyn ‘Wyt ti argael dydd Mawrth nesa?’ ‘Pwy sydd wedimynd Bryn?’ gofynnais innau, ‘O, Lora,Blaen-y-wawr, Llanystumdwy ...’ Wedimynegi gofid, ac mi roedd o’n ofidgwirioneddol, oherwydd bu Lora yn fud

    ers naw mlynedd wedi ergyd strôcdrom ac yn gaeth i gadair yngNghartref Nyrsio Plas Gwyn,Pentrefelin, a hefyd yn un offrindiau fy mam, a’r ddwy ynoefo’i gilydd am gyfnod, dymaateb yn gadarnhaol fy mod ‘argael’ ddydd Mawrth nesa. Ac unwaith eto,y mae Llanystumdwy yn llawn cymaint obentref Teulu Blaen-y-wawr hefyd. A Loraoedd yr olaf o bum plentyn roddoddgyfraniad cwbl nodedig i fywyd Cymru.Y GwynfrynAnn a Jeremiah Williams oedd y rhieni, aPhenycaerau, ardal yng ngodre Mynydd yRhiw ym Mhen Llŷn oedd dechrau’r daithi’r pedwar plentyn cyntaf. Yno y ganwydJohn (Jac), William (Wil), Madge a Robin(y Parchedig R. O. G. Williams, Rogw ilawer). Ond yn 1925, symudodd y teulu oBen Llŷn i Eifionydd ac i Lanystumdwypan gafodd Jeri, y tad, waith felgoruchwyliwr stad y Gwynfryn ar gyrion ypentref. Yn 1927 y daeth y cyw melynolaf, Lora Ann i’r byd. A Blaen-y-wawroedd y cartref yn y pentref.Pump disglairY peth cyntaf un a nodaf yw’r gallu mawroedd i’r pum plentyn – gallu oedd yndeillio heb amheuaeth oddi wrth y rhieni.Er i’r pump ddilyn gwahanol lwybrau – Jacyn athro ysgol, Wil yn saer, Madge ynnyrs, Robin yn weinidog a Lora’n gweithiomewn sawl maes, gan gynnwys siopau achartref nyrsio, roedd eu gallu yn eu clymuwrth ei gilydd. Dywedodd mwy nag unbeirniad llenyddol mai Pigau’r Sêr a MaesMihangel gan Jac oedd rhai o nofelaugorau’r Ugeinfed Ganrif. Robin, wedyn, a’iun ar bymtheg o gyfrolau swmpus a

    diddorol mewn deng mlynedd ar hugain:Basged y Saer, Hoelion Wyth, CracioConcrit ac yn y blaen. A dyna Wil a fu’ntroi’i weithdy yn Rhoslan yn ddosbarthWEA am flynyddoedd lawer a gwahoddamryw o enwogion y byd llenyddol yno igynnal dosbarthiadau. A beth am y ddwychwaer? Madge a Lora a’u cyfraniadauswmpus i gylchgronau sylweddol aphapurau bro? Maent yn ddi-rif. Lora, erenghraifft oedd y prif symbylydd i gaelpapur bro i Eifionydd, ac un da ydi o hyd,os ca’ i ddweud – Y Ffynnon. Gweithioddyn ddiarbed i sicrhau ei ddechreuadau a’ibarhad, a chan drefnu teithiau blynyddol ypapur i wahanol leoedd yng Nghymru a’rAlban bob yn ail a’r Ynys Werdd. Rhaidoedd mynd yno bob dwy flynedd gangymaint y croeso i’r Eifionwyr! (Cystalnodi bod deunydd epistolau yn y teithiauhyn.) I’r pump ohonynt yr oedd darllen acysgrifennu’r Gymraeg yn sylfaenol, ac feroddasant gyfraniad gwirioneddol loyw i’rcyfeiriad hwnnw.

    (Bydd ail ran yr ysgrif hon yn y rhifynnesaf o’r Tyst)

    Iwan Llewelyn

  • Medi 13, 2018 Y Pedair Tudalen Gydenwadol tudalen 7Y TYST

    Barn AnnibynnolSiopa llyfrau yn y SteddfodAr fy nesg mae casgliad o lyfrau newydd,ffrwyth wythnos o brynu yn EisteddfodGenedlaethol Cymru Caerdydd. O fewn

    y pentwr hwn maeamrywiaeth ogyfrolau, ffeithiol affuglen. Tra boambell un eisoeswedi’i darllen, maeeraill â’u dalennauwedi’u hagor mewnmannau strategol oddiddordeb ynbarod ar gyferhynny.

    Agweddau at ferchedNid yw’r pentwr mewn unrhyw drefnarbennig, ond sylwaf mai’r ail o’r brig ywcyfrol ddiddorol a hir ddisgwyliedig ArfonJones, Y Beibl ar… Ferched(Cyhoeddiadau’r Gair). Mae’r gyfrol honyn cynnig arweiniad ar sut mae deall adehongli rhai gosodiadau yn Y Beibl yngngoleuni’r cyd-destun gwreiddiol ar lemerched yn yr eglwys, a’r modd radical achwyldroadol roedd Iesu ei hun ynymdrin â nhw. Diolch Arfon am esboniadclir a chytbwys ar ambell beth maeunigolion wedi’i gamddeall yn llwyr ar

    hyd y canrifoedd gan esgor ar agweddaunegyddol a gormesol at ferched.

    A oes heddwch?Ar ben cyfrol Arfon (nid yn fwriadol!) yn fymhentwr o lyfrau eisteddfodol mae’rgyfrol ardderchog Heddwch yn y Ddinasgan Jon Gower. Mae’r gyfrol yn nodi’rmannau yng nghanol prysurdebCaerdydd sy’n rhan o stori’r dyheu amheddwch byd-eang. Dyma gyfrol i’wchroesawu a’i chanmol yn fawr. Mae’n fyatgoffa o Heolydd Heddwch a lansiwydyng Nghaerfyrddin rai blynyddoedd yn ôl,gallwch lawrlwytho’r ap am ddim ariTunes Store Heolydd Heddwch. Caiffnifer ohonom yng Nghaerfyrddin y fraint

    o dywys eraill, gan gynnwysdosbarthiadau o blant ysgol, ar hyd taithHeolydd Heddwch Caerfyrddin. Wedilansio Heddwch yn y Ddinas onid yr heri bobl Caerdydd yn awr yw ceisio annogeraill, ac o bosib eu tywys ar hyd y daithheddwch hon? Diolch am drysor o gyfrol.

    RhufeiniaidTra bo rhai ohonom yn yr Eisteddfod ynymateb i gwestiwn yr Archdderwydd, ‘Aoes heddwch?’ bu cryn gyffro gartre ymayng Nghaerfyrddin dros wythnosau’r hafwrth i archeolegwyr ddarganfod olioncrochenwaith Rhufeinig ar safle yn Heoly Prior. Cawsant gyfle prin iawn i gloddioam hen olion Rhufeinig gan ddatgelu yny mwd a’r clai, mae’n debyg, fforddRufeinig yn ogystal â rhes o siopau bleroedd nwyddau gwydr a chrochenwaithyn cael eu gwerthu a’u prynu tua dwyganrif wedi geni Crist. Mae’r darnaucrochenwaith sydd wedi’u darganfod ynawgrymu bod Caerfyrddin yn dref bwysigyng nghyfnod yr Ymerodraeth Rufeinig abod presenoldeb milwrol mwy amlwg yny dref hanesyddol hon nag a gredwyd ynwreiddiol.Chwifiwn ein baneriOes, mae hanes presenoldeb milwrol ibob tref, ond onid oes hanes ym mhobtref hefyd am rai a aeth ati i greuheddwch? Bydd Baner Heddwch yn caelei chodi yng Nghaerfyrddin, yn ôl yr arfer,ar 21 Medi, sef Diwrnod Heddwch y Byd.Onid gwych o beth fyddai petai’r fanerhon yn cael ei chodi gan bawb ohonom athaith heddwch yn cael ei chreu ymmhob pentref, tref a dinas yng Nghymru?

    Beti-Wyn James(Nid yw cynnwys y Barn Annibynnol o

    reidrwydd yn adlewyrchu safbwynt Undeb yrAnnibynwyr na’r tîm golygyddol.)

    Datgorffori Capel y Tabernacl,Penmaenmawr – parhad

    NewidiadauDaeth newid mawr i’r pentref dros y blynyddoedd ac meddai E. E. Edwards ym 1963,‘symudai rhai teuluoedd i ranbarth arall o’r plwyf, a deuai pobl ddi-gapel i fyw i’rpentref. Ȃi’r bobl ifanc i ffwrdd i weithio. Ceid merched a meibion yn priodi Saeson acyn cilio o’r capel.’ A dywed, ‘fod dirywiad crefyddol wedi cerdded ymhell erbyn hyn.Mae’r dirywiad crefyddol wedi mynd ymlaen ar garlam gwyllt a gwelwyd cefnu mawrar yr eglwys ac ar y ffydd Gristnogol’. Bu mewnlifiad o Loegr adeg y rhyfel a’r 60auhefyd yn gyfrifol am newid mawr yn y pentref.Cyfeillion ac atgofionDarllenwyd llythyrau gan gyn aelodau gan Mrs Enid Williams a phlant cyn-weinidogiongan gynnwys Alun Richards, mab G. J. Richards a Rhiannon Rees, merch Gwyn EifionRees. Y Parchg Dylan Rhys Parry, gweinidog Gofalaeth Bro’r Creuddyn acysgrifennydd Cyfundeb Gogledd Arfon oedd yn gyfrifol am yr orchwyl o ddatgorffori.Trwy garedigrwydd aelodau Eglwys Sant Paul aeth y gynulleidfa niferus i’r ysgoldy ifwynhau lluniaeth a chael cyfle i hel atgofion. Da oedd gweld cymaint yno o wahanoleglwysi yn cynnwys Mrs Catherine Watkin, Rhiannon ac Olwen Parry sef plant yParchg Gwilym Parry, Mrs Margaret Gruffydd. Yr organydd oedd Ms Siân Williams,hithau wedi bod yn cyfeilio yn y Tabernacl am dros 45 mlynedd. Rhaid hefyd diolch ibawb am eu cefnogaeth heb anghofio’r chwiorydd oedd yn gyfrifol am y gweini wrth ybyrddau a chyfeillion Sant Paul sydd wedi cynorthwyo’r eglwys dros sawl blwyddyn.

    Enid M. Williams a Geraint Hughes

    Beti-Wyn James

  • Cyhoeddwyd gan Undeb yr Annibynwyr Cymraeg ac argraffwyd gan Wasg Morgannwg, Uned 13, Ystad Ddiwyd. Heol Milland, Castell-nedd, SA11 1NJ. Cofrestrwyd yn y Swyddfa Bost.

    Erthyglau, llythyrau at y Prif Olygydd: Y Parchg Ddr Alun Tudur39 Dorchester Avenue, Pen-y-lan,Caerdydd, CF23 9BSFfôn: 02920 490582E-bost: [email protected]

    Archebion a thaliadau i’r Llyfrfa:Tŷ John Penri, 5 Axis Court, ParcBusnes Glanyrafon, Bro Abertawe

    ABERTAWE SA7 0AJFfôn: 01792 795888

    E-bost: [email protected]

    tudalen 8 Y Pedair Tudalen Gydenwadol Medi 13, 2018Y TYST Golygydd

    Y Parchg Iwan Llewelyn JonesFronheulog, 12 Tan-y-Foel,

    Borth-y-gest, Porthmadog, Gwynedd,LL49 9UE

    Ffôn: 01766 513138E-bost: [email protected]

    GolygyddAlun Lenny

    Porth Angel, 26 Teras PictonCaerfyrddin, Sir Gâr, SA31 3BX

    Ffôn: 01267 232577 / 0781 751 9039

    E-bost: [email protected]

    Dalier Sylw!Cyhoeddir y Pedair Tudalen

    Gydenwadol gan Bwyllgor Llywio’rPedair Tudalen ac nid gan Undeb yrAnnibynwyr Cymraeg. Nid oes awnelo Golygyddion Y Tyst ddim âchynnwys y Pedair Tudalen.

    Golygyddion

    Dyddiadur Madagascar 4Dydd MercherYn yr ysgrifau hyn y mae’r Parch. RobinSamuel yn adrodd hanes ei brofiadau ar yrynys fawr pan aeth yno ar ymweliad igywain gwybodaeth ar gyfer ApêlMadagascar Undeb yr Annibynwyr.BoreBore braf arall, a’r bobl allan ar y stryd yngynnar. Mae yna grŵp o ddynion ifanc ynymgasglu wrth ochr y gwesty bob bore.Byddai’n sylwi arnyn nhw wrth ddod lawryn y lifft i frecwast ac wrth fynd allan i’rstryd. Pam maen nhw yno? Dwn i ddim,ond weithiau maen nhw’n dal yno panfyddwn ni’n cyrraedd yn ôl ddiwedd ydydd. Go brin felly fod gwaith sefydlogganddynt. Mae Antananarivo, fel cymaint oddinasoedd y gwledydd sy’n datblygu, yndenu pobl. Mae pobl yn heidio yno o bobrhan o’r ynys yn credu bod digon o waithi’w gael a llwyth o arian i’w ennill. Ondprin eithriadol yw’r rhai sy’n dod o hyd i’r‘palmant aur.’Newid munud olaf

    Wrth ddod allan o frecwast gweld bodHeritiana a Tojo yn aros amdanom. Dimsôn am Josiane eto, ond fe fydd hi’n siŵr ogyrraedd a’i gwynt yn ei dwrn. Diwrnodllawn arall o’n blaenau, er bydd rhaidsortio trefniadau’r daith i Tamatave gan ybydd Heritiana a Tojo yn gorfod cychwynar eu taith hwy ar ddiwedd y dydd. Yn ôlyr arfer mae yna newid yn y trefniadau –‘What’s new?’Onid fel hyn mae wedi bodbob dydd? Mae FJKM yn awyddus i niymweld ag un o’u hysgolion – sgwn ipam? Byddwn yn galw mewn ysgol ar yffordd yn ôl o weld y prosiect addysgamgylcheddol yng ngholeg Ivato.FferyllfaJosiane yn cyrraedd ac wedi brwydro’nffordd i’r cerbyd ochr arall y stryd, ganwrthod yn gwrtais pob cais i brynu batricar neu frwsh llaw a phadell lludw, iffwrdd â ni i ymweld â’n trydydd prosiect,sef fferyllfa mudiad SAF yng nghanol yddinas. Diffyg adnoddauMae gan SAF rwydwaith o 36 fferyllfa aryr ynys, tri ohonynt yn y brifddinas.Sefydlwyd SAF gan FJKM er mwyncynorthwyo’r bobl fwyaf bregus o fewn igymdeithas. Roedden ni am ymweld â’r

    brif fferyllfa drws nesaf i swyddfa FJKM,sy’n cynnig gwasanaeth deintyddol, 4diwrnod yr wythnos. Ry’m ni wedi arfer astorïau am bobl yn ciwio i gofrestru panfydd deintyddfa newydd yn agor yngNghymru, ond meddyliwch mai dim ond57 o ddeintyddion sydd ym Madagascar,neu 1 ar gyfer pob 500,000 o’r boblogaeth.Synnwn i ddim bod mwy na 57 oddeintyddion yn nhref Pen-y-bont a’rcyffiniau!MeddygonYn ogystal â’r deintydd, mae yna ddaufeddyg a dwy nyrs, ac mae pob un ohonyntyn gweld rhwng 50 a 60 o gleifion bobdydd. Dr Philipe yw pennaeth y clinig, gŵrhynaws oedd yn amlwg yn fawr ei barchgan ei staff a’r cleifion. Roedd wedi gadaelswydd gyfrifol a phroffidiol felCyfarwyddwr Rhaglen Iechyd CymunedolCenedlaethol Madagascar er mwyn mynd iweithio gyda SAF, ac mae wedi aros gydanhw am dros chwarter canrif. ‘Mae’nbleser ac yn fraint i gael gweithio i’reglwys. Dydi’r cyflog ddim yn bwysig.’Ceisio mynd i’r afael â’r diffygion amlwgym maes gofal iechyd Madagascar y maefferyllfeydd SAF. Nid yn unig bod prindergweithwyr iechyd hyfforddedig ar yr ynys,ond mae gofal meddygol yn ddrud a thuhwnt i allu’r person cyffredin i daluamdano. Mae SAF yn cynnigymgynghoriad meddygol a meddyginiaetham tua phumed ran beth fyddai’n rhaid taluyn un o fferyllfeydd y wladwriaeth. Doesdim rhyfedd bod yr ystafell aros yn orlawndrwy’r dydd.

    Marwolaethau babanodFe welsom hefyd bod gofal mamolaeth yncael lle blaenllaw ar raglen waith SAF.Ond does dim syndod am hynny mewn

    gwlad lle mae’r nifer o blant sy’n marw arenedigaeth tua 10 gwaith yn fwy na’r DU,a’r nifer o famau sy’n marw ar enedigaethbron i 40 gwaith yn fwy! Mae’r clinigmamolaeth yn ceisio cynnig gofalcynhwysfawr o ddyddiau cynnarbeichiogrwydd trwyddi i’r cyfnod ôl-genedigaeth, a hynny gydag adnoddau prin.