noson gyrri - annibynwyr · 2019. 7. 16. · hawdd iawn credu mai creaduriaid digon araf a diog...

4
Y TYST PAPUR WYTHNOSOL YR ANNIBYNWYR CYMRAEG Sefydlwyd 1867 Cyfrol 152 Rhif 20 Mai 16, 2019 50c. MURLUN Y PASG Noson gyrri Ar nos Fawrth 9 Ebrill, trefnwyd noson gyrri ym Masala Llanelli er mwyn codi arian tuag at Apêl Madagascar. Braf oedd gweld cymaint o aelodau a ffrindiau Capel Hope- Siloh Pontarddulais wedi dod ynghyd i gefnogi’r fenter. Cafwyd noson hyfryd o gymdeithasu a gwledd fendigedig o fwyd Indiaidd. Llwyddwyd i godi £736. Dechreuad rhagorol i’n hymdrech arbennig ni. Diolch yn fawr i bawb a gefnogodd. Saron Creunant Roedd yr haul yn disgleirio’n danbaid yng Nghwm Dulais ar fore Sadwrn y Pasg ar gyfer digwyddiad arbennig iawn yng nghapel Saron, y Creunant pryd cafwyd amser arbennig. Cynhaliwyd ‘Brecwast Capel’ er mwyn codi arian tuag at yr Achos. Roedd raffl a brecwast continental ar gael i bawb. Roedd aelodau’r capel yn brysur y bore hwnnw yn paratoi tost a chrempog i bawb a chodwyd £326.40 mewn dwy awr: AM WAITH DA! Yn ystod y bore roedd y festri dan ei sang ac roedd pawb yn hynod o ddiolchgar. Tynnodd Rhys Locke – darpar weinidog yr Eglwys – sylw pawb at y faith taw’r Pasg yw’r ŵyl bwysicaf i’r Cristion oherwydd fe ddathlwn atgyfodiad Iesu o farw yn fyw. O ganlyniad i’r Atgyfodiad roedd yn bosib cwrdd mewn undeb. Roedd wal y festri yn edrych yn foel. ’Nôl yn yr hydref roedd yn fwrlwm o liw – baneri Madagascar a Chymru, lluniau’r plant o’r goeden baobab ac adnodau cyfarwydd yn y Gymraeg a Malagaseg. Cyfraniad yr ysgol Sul tuag at godi ymwybyddiaeth o apêl yr Undeb. Wedi hynny, daeth ‘sêr y nos yn gwenu, clychau llon yn canu’ wrth i ni ddynesu at y Nadolig, heb anghofio coed Nadolig y plantos. Daeth ac fe aeth Gŵyl Ddewi a’i gennin Pedr. Ond wedyn ... dim. Wal wag. Sut oedden ni am ei llenwi? Sylw syml ysgogodd y syniad. ‘Mae siope yn masnacheiddio Pasg, fel mini- Nadolig,’ meddai rhywun. ‘O ble daeth y bwni Pasg yma? Ma’ wyau Pasg ar werth ers misoedd. Mae ystyr y Pasg yn mynd ar goll.’ Wel nid yn Minny Street! Trwy gyfrwng DVD gwych y Cyngor Ysgolion Sul, Beiblau addas i blant o bob oed a thaflenni gwaith pwrpasol, sicrhawyd bod stori’r Pasg yn rhan sylfaenol o gynhysgaeth plant yr ysgol Sul. Rhoddwyd cyfle hefyd iddynt greu murlun yn cofnodi digwyddiadau pwysicaf yr Wythnos Fawr. Y ‘twts’ fu’n gwneud y palmwydd ar gyfer Sul y Blodau, yn sbloet o bapur tusw a glud. Bu’r rhai hŷn yn dylunio’r Swper Ola’, Gethsemane ac ati. Roedd yr Atgyfodiad yn frith o sticeri smiley a blodau. A pham lai? Onid achlysur i wneud i ni wenu yw’r Atgyfodiad? Ond pam amlhau geiriau. Mynnwch olwg ar y cyfan yn y llun ... a ’dyw’r wal ddim yn foel bellach! Elinor Patchell

Upload: others

Post on 05-Feb-2021

0 views

Category:

Documents


0 download

TRANSCRIPT

  • Y TYSTPAPUR WYTHNOSOL YR ANNIBYNWYR CYMRAEG

    Sefydlwyd 1867 Cyfrol 152 Rhif 20 Mai 16, 2019 50c.

    MURLUN Y PASG

    Noson gyrriAr nos Fawrth 9 Ebrill, trefnwydnoson gyrri ym Masala Llanelli ermwyn codi arian tuag at ApêlMadagascar. Braf oedd gweld cymainto aelodau a ffrindiau Capel Hope-Siloh Pontarddulais wedi dod ynghydi gefnogi’r fenter. Cafwyd nosonhyfryd o gymdeithasu a gwleddfendigedig o fwyd Indiaidd.Llwyddwyd i godi £736. Dechreuadrhagorol i’n hymdrech arbennig ni.Diolch yn fawr i bawb a gefnogodd.

    Saron CreunantRoedd yr haul yn disgleirio’n danbaid yng NghwmDulais ar fore Sadwrn y Pasg ar gyfer digwyddiadarbennig iawn yng nghapel Saron, y Creunant prydcafwyd amser arbennig. Cynhaliwyd ‘BrecwastCapel’ er mwyn codi arian tuag at yr Achos. Roeddraffl a brecwast continental ar gael i bawb. Roeddaelodau’r capel yn brysur y bore hwnnw yn paratoitost a chrempog i bawb a chodwyd £326.40 mewndwy awr: AM WAITH DA!

    Yn ystod y bore roedd y festri dan ei sang acroedd pawb yn hynod o ddiolchgar. Tynnodd RhysLocke – darpar weinidog yr Eglwys – sylw pawbat y faith taw’r Pasg yw’r ŵyl bwysicaf i’r Cristionoherwydd fe ddathlwn atgyfodiad Iesu o farw ynfyw. O ganlyniad i’r Atgyfodiad roedd yn bosibcwrdd mewn undeb.

    Roedd wal y festri ynedrych yn foel. ’Nôlyn yr hydref roeddyn fwrlwm o liw –baneri Madagascara Chymru, lluniau’rplant o’r goedenbaobab ac adnodaucyfarwydd yn y Gymraega Malagaseg. Cyfraniad yr ysgol Sul tuagat godi ymwybyddiaeth o apêl yr Undeb.Wedi hynny, daeth ‘sêr y nos yn gwenu,clychau llon yn canu’ wrth i ni ddynesu aty Nadolig, heb anghofio coed Nadolig yplantos. Daeth ac fe aeth Gŵyl Ddewi a’igennin Pedr. Ond wedyn ... dim. Wal wag.Sut oedden ni am ei llenwi?

    Sylw syml ysgogodd y syniad. ‘Mae

    siope yn masnacheiddio Pasg, fel mini-Nadolig,’ meddai rhywun. ‘O ble daeth ybwni Pasg yma? Ma’ wyau Pasg ar werthers misoedd. Mae ystyr y Pasg yn mynd argoll.’

    Wel nid yn Minny Street! Trwy gyfrwng DVD gwych y CyngorYsgolion Sul, Beiblau addas i blant o boboed a thaflenni gwaithpwrpasol, sicrhawyd bodstori’r Pasg yn rhansylfaenol o gynhysgaethplant yr ysgol Sul.Rhoddwyd cyfle hefydiddynt greu murlun yncofnodi digwyddiadaupwysicaf yr Wythnos Fawr.Y ‘twts’ fu’n gwneud ypalmwydd ar gyfer Sul yBlodau, yn sbloet o bapurtusw a glud. Bu’r rhai hŷn

    yn dylunio’r Swper Ola’, Gethsemane acati. Roedd yr Atgyfodiad yn frith o sticerismiley a blodau. A pham lai? Onid achlysuri wneud i ni wenu yw’r Atgyfodiad?

    Ond pam amlhau geiriau. Mynnwcholwg ar y cyfan yn y llun ... a ’dyw’r walddim yn foel bellach!

    Elinor Patchell

  • tudalen 2 Y Pedair Tudalen Gydenwadol Mai 16, 2019Y TYST

    GWEFR Y PASG YNG NGHRICIETH’Dan ni’n rhai da amgwyno a gweld yr ochrdywyll i bopethrhywsut, ac mi awn ni ichwilio am yr ochrdywyll honno’n rhyaml o ddim rheswm.Ond neges o obaith achalondid ddaeth i miyn ystod y Pasg eleni.

    Wrth gwrs, cofiogwewyr a wnawn wrthgofio’r croeshoelio,ond gorfoleddu a ddylem wrth ddathlu’rPasg. Tydi emyn Glyn Lewis (rhif 554),Llanwddyn wedi dod yn boblogaidd ynystod y blynyddoedd diwethaf? Ac mae’nemyn godidog: ‘ ... bywyd newydd ddaethi ni wedi concwest Calfarî’.Gwener y GroglithDaethom yn gynulleidfa eitha cryno yngNghapel y Traeth fore Gwener i gofio,plygu a diolch, a bu cyfraniad GwynethGlyn i’r oedfa’n allweddol. Gofynnais iddiganu pennill Alltud Glyn Maelor (JohnRobert Jones 1800–81). Brodor o’r

    Brymbo ger Wrecsam asylfaenydd yr Achos yn yTabernacl, Brymbo. Glywsochchi’r pennill o’r blaen? Trowch irif 512 yn Caneuon Ffydd ac fewelwch chi’r pennill: ‘Cofio’r wyfyr awr ryfeddol,’ ac y mae’rbriodas rhwng y pennill a’r henalaw Gymraeg ‘Diniweidrwydd’yn berffaith. Wrth gwrs, fegawsom ddehongliad nodedig o’ralaw honno a’r pennill ganGwyneth yn yr oedfa.

    AtgyfododdYna ar fore Sul y Pasg, dyna chi wefr! Taircynulleidfa ac ymwelwyr efo’i gilydd –cynulleidfa Bresbyteraidd Capel y Traeth, achynulleidfa Jerwsalem, Cricieth (sy’ncyd-addoli yng Nghapel y Traeth ersblynyddoedd bellach), ynghyd âchynulleidfa Salem, Porthmadog wedi dodam dro’r bore hwnnw i Gricieth. Dathlugrym yr atgyfodiad a wnaethom wrthfwrdd y Cymun (cymunwyd hefyd ddyddGwener). Nos Sul, dyma ddarllen arTwitter gan Ion Tomos, Caerdydd, oedd ar

    ymweliad â’i deulu-yng-nghyfraith yngNghricieth, ac yn yr oedfa, pa mor brafoedd hi o fod yn dathlu grym yr atgyfodiadyng Nghricieth a dim digon o wydrauCymun ar gyfer y gynulleidfa, er bodtyllau’r llestri’n llawn gwin. Hyfryd oeddgweld y paratowyr yn mynd allan i baratoirhagor. Prynwr bywA wnawn ni ddim anghofio cyfraniadcerddorol y ddau ddiwrnod chwaith -Alwena Davies wrth yr organ dyddGwener a’i naws addolgar addas i achlysury Groglith, ynghyd a, fel y cyfeiriaisynghynt, cyfraniad Gwyneth Glyn. Ynadehongliad Huw Gwynne wrth organbwerus Capel y Traeth fore’r Pasg o waithPietro Mascagni, ‘O rejoice that the Lordhas arisen’, a’r gynulleidfa’n dyblu athreblu’r bedair llinell olaf, ‘Mi wn fod fyMhrynwr yn fyw’ i orffen yr oedfa. Ersrhai misoedd bellach, cawn glywed sŵn yffidil bob bore Sul yn Salem, Porthmadoggan y cyfaill Robert o Flaenau Ffestiniog.Daeth Robert i Gricieth fore’r Pasg gangyfoethogi’r mawl.

    Oes, yn y dyddiau hyn, mae lle iddiolch a lle i orfoleddu. Wedi’r cyfan,Pobol y Pasg ydan ni! Iwan Llewelyn

    parhad ar y dudalen gefn

    Dyddiadur Madagascar 14Wel, dyma’r olaf yn y gyfres DyddiadurMadagascar. Mae wedi bod yn eithriadol oddifyr ac addysgiadol cael dilyn ôl traedRobin, Rhodri a Richard ar eu hymweliadâ Madagascar yn cywain gwybodaeth,fideo a lluniau ar gyfer yr Apêl. Mae’rhanesion hyn – yn ystod y misoedddiwethaf – wedi ysgogi llawer ohonom ifynd ati i godi arian tuag at y 4 prosiect.Daliwch ati! Gwerthfawrogwn yn fawriawn holl waith Robin yn rhoi’r cwbl arglawr fel hyn. Dyma hanes y dydd Sul olafym Madagascar.

    Fferm y crocodeilodGadael yr eglwys ar ddiwedd ygwasanaeth, ac ar ein taith olaf yn ôl i’rmaes awyr yn ardal Ivato, yng nghwmni’rtri a fu’n gofalu amdanom drwy gydol yrwythnos, Josiane, Tojo a Heritiana. Yngyntaf roeddem am dalu ymweliad â’r‘Croc Farm’, sef parc preifat sydd yn magucrocodeilod er mwyn gwerthu’r croen a’rcig. Mae’r fferm hefyd yn barc anifeiliaid aphlanhigion sy’n gynhenid i Fadagascar.

    Ceir tua 80 math gwahanol o anifeiliaid fellemyriaid, brogaod, madfallod a nadredd,yn ogystal â phlanhigion. Ond wrth gwrs ycrocodeilod yw’r atynfa fawr.Cyrri Croc!Doedden ni ddimwedi cael cinio, ganfod Tojo ynbenderfynol bodrhaid mynd i’r bwytyyn y parc sy’narbenigo mewn cigcrocodeil – crocbyrgyrs, stecen croc,croc ar sgiwer achyrri croc! Roeddent hyd yn oed ynchwarae ‘croc a rôl’ ar y system sain.Rydw i’n barod i drio’r rhan fwyaf o bethe,ond fydda i ddim yn rhuthro i fwyta croceto! Gormod o esgyrn a gewynnau am unpeth, a’r ffordd orau i ddisgrifio’r blasfyddai rhywbeth rhwng cyw iâr aphysgodyn, gydag ychydig o ôl-flas mwd!Ond aeth dim byd i wastraff, gan fod Tojoa Heritiana yn amlwg yn hoff iawn o’r cig.Cyflymder a grymYna i lawr at y llyn mawr ynghanol y parclle’r oedd degau o grocodeilod yn cysgu ynyr haul o’i amgylch. Roedd rhai ohonyntyn enfawr, dros 20 troedfedd o hyd. Mae’ndebyg fod rhai o’r crocs mwyaf wedi caeldod yno am eu bod, yn eu cynefin naturiol,

    yn beryglus i bobl. Diolch felly fod ynaffens uchel rhyngom ni a nhw, neu berygmai ni fyddai’n ginio iddyn nhw! Cawsombrynhawn difyr yng nghwmni’r crocs, ahawdd iawn credu mai creaduriaid digonaraf a diog oeddent. Ond dyma un o’rgwarchodwyr yn mynd ati i ddangos i ni pamor dwyllodrus fyddai credu felly, ganbrocio hen groc, gyda darn hir o brendrwy’r ffens. Dim cyffro am ychydig, ondyna’r llygaid yn agor, a’r croc yn troi’nsydyn gan dorri’r darn pren rhwng eiddannedd fel tase’n goes matsien. Cawsomgipolwg ar gyflymder yr anifail, yn ogystalâ phŵer y safn a miniogrwydd y dannedd. ErledigaethDraw wedyn i’r maes awyr. Taith 10munud i fod, ond unwaith eto roedd ytraffic yn ddychrynllyd. Sut mae unrhywun yn Antananarivo yn cyrraedd unmanmewn car, mae’n anodd deall. Roedd ynamlwg fod Josiane ar bigau’r drain i fyndadref, a chwarae teg dydi heb weld llawero’i phlant dros yr wythnos diwethaf. Fellydyma ffarwelio â hi ynghanol tref Ivato.Gweinidog gyda FJKM yw gŵr Josiane acroedd ef yn un o’r rhai oedd yn gefnogol iMarc Ravalomana a Lala. Cawsom beth ohanes y cyfnod anodd hwnnw gan Josianeyn ystod y prynhawn. Eglurodd bod rhaigweinidogion FJKM yn ofni am eubywydau oherwydd eu teyrngarwch iMarc. Roedd cefnogwyr un o’r ymgeiswyreraill am yr arlywyddiaeth wedi cyflogihurfilwyr i fygwth a dychryn cefnogwyr

  • Mai 16, 2019 Y Pedair Tudalen Gydenwadol tudalen 7Y TYST

    Barn AnnibynnolCODWCH EICH LLAIS

    Yn Neges Ewyllys Da yr Urdd eleni mae’rbobl ifanc yn annog ieuenctid y byd i godieu llais er mwyn i’w cri dros fywyd aheddwch gael ei chlywed. Mae angen i’rifanc gael eu clywed, medden nhw, ganfod eu dyfodol dan fygythiad difrifol.Mae’r rhan fwyaf ohonom wedi deall bodcynhesu byd-eang yn berygl enbyd wrth iiâ’r pegynau doddi ac i diroedd gael euboddi. Gwyddom mai’r da eu byd, a’uffordd o fyw afradus sy’n bennaf gyfrifol,ac mai’r bobl dlotaf sy’n talu’r pris uchaf.Gwelwn y tywydd yn cynddeiriogi astormydd dinistriol ar gynnydd. Er bodeffeithiau drwg y llygru yma yn barod,deallwn hefyd y bydd yn waeth ar einplant a’n disgynyddion.

    Mae llawer ohonom yn cymryd y matero ddifri drwy addasu peth ar ein ffordd ofyw. Yn ein cartrefi byddwn yn diffodd ybwlb nad oes ei angen, ac yn troi’rtymheredd i lawr. Byddwn yn holi, oesraid mynd â’r car? Beth am gerdded?Beth am y bws? Daeth yn glir erbyn hynnad yw tincran â manion felly yn ddigon.Rhaid bod yn llawer mwy radical. Rydymyn deall y sefyllfa lawer gwell erbyn hyn,ond mae’r gweithredu yn llusgo ymhell arôl.Adroddiad y Cenhedloedd UnedigWythnos ddiwethaf cyhoeddwydadroddiad ar ran y Cenhedloedd Unedigy bu 450 o wyddonwyr yn ei baratoi drosgyfnod o dair blynedd. Mae ei gynnwysyn sobri dyn.• Miliwn rhywogaeth mewn perygl o gael

    eu colli.• Y systemau sy’n cynnal y ddynoliaeth

    dan fygythiad gwirioneddol – fforestyddyn cael eu difa ar gyflymder arswydus,er enghraifft.

    • Niferoedd gwenyn a pheillwyr eraillwedi’u haneru mewn deugain mlynedd.

    Mae byd natur yn gwegian, a dyfodol yddynoliaeth ar y dibyn. Dyw dal ati felarfer, gyda mân newidiadau i’n ffordd ofyw, ddim yn ddigon.Gosod nod erbyn 2050Yn ddiweddar hefyd mae corff swyddogolsy’n cynghori llywodraeth San Steffan arnewid hinsawdd yn cymeradwyo bodtarged o dorri nwyon tŷ gwydr i sgôr osero erbyn 2050. Golyga hynny newidmawr yn ein harferion.Llanw’n troi?Ymddengys bod mwy a mwy ohonom yndod i weld y byddai peidio â gwneudhynny yn gwbl anghyfrifol. Neidioddcefnogaeth i’r Gwyrddion yn etholiadaulleol Lloegr i gyfanswm o 265 sedd,cynnydd o 194.

    Gadawodd ymgyrch ExtinctionRebellion yn cau strydoedd yn Llundain adinasoedd eraill argraff gadarnhaol arfeddwl llawer. Roedd yn neges glir i’rgwleidyddion: ‘Mae’n argyfwng ar y

    ddynoliaeth ac ar y ddaear ei hun; rhaidgweithredu ar frys.’Plant yn arwainPobl o bob oed oedd y rheini, yn adleisiople’r plant ysgol. Roedd gweithredu’rplant yn ddatblygiad newydd. Welwyderioed o’r blaen, niferoedd o blant ar yraddfa hon yn mynd ar streic ac yngwrthod mynd i’r ysgol. Dyfodol y blaned,dim byd llai, oedd yn eu gyrru. Rhaidgosod hynny o flaen popeth arall, oedd yneges.Greta ThunbergY ferch ifanc ryfeddol 16 oed, GretaThunberg o Sweden, yw’r arwr mawr. Buei hareithiau a’i dewrder yn symbyliad inewid agwedd llaweroedd. Mae Penguinar fin cyhoeddi eillyfr No one is toosmall to make adifference. Meddaihi yn hwnnw:‘Rwy’n siarad arran cenedlaethau’rdyfodol. Dydyn ni’rplant ddim ynaberthu einhaddysg a’nplentyndod er mwyn i chi ddweud wrthymni beth sy’n wleidyddol bosibl, yn ygymdeithas rydych wedi’i chreu. Rydynni’r plant yn gwneud hyn i ddeffro’roedolion ... rydym yn gwneud hyn i gaelein gobeithion a’n breuddwydion yn ôl.’

    Meddai’r cyhoeddwyr amdani, ‘Hi ywllais ei chenhedlaeth sy’n wynebu hollrym trychineb hinsawdd ... yn dawel, ynddig, yn ddi-ofn, yn datgan gwirioneddwrth rym.’Neges Ewyllys Da(www.urdd.cymru)Gwerthfawrogwn glywed dyhead poblifanc Cymru yn eu neges at ieuenctid ybyd. Nid codwch eich dryll, nid codwcheich dwrn, ond ‘codwch eich llais’. ‘Maegyda ni hawl i roi ein barn, ac i rywunwrando arnon ni. Ein harf ni yw ein llais.Dewch gyda ni.’

    Ydyn ni’n gwrando?Dewi M. Hughes

    (Nid yw cynnwys y Barn Annibynnol o reidrwyddyn adlewyrchu safbwynt Undeb yr Annibynwyr

    na’r tîm golygyddol.)

    Llun yr artist graffit Banksy aymddangosodd yn Marble Arch, Llundain

    yn ystod y brotest Extinction Rebellion

    Harrow ac R. E. EdwardsWrth i Apêl Madagascar fynd rhagddi ymae mwy a mwy o atgofion achysylltiadau yn dod i’r fei. Ynddiweddar anfonodd Glenys Earnshaw,Llundain, ychydig wybodaeth atom amR. E. Edwards oedd yn dad i MairBarltrop sy’n ddiacon ffyddlon yn eglwysHarrow.

    Wedi cyfnod fel gweinidog ynAbertawe daeth R. E. Edwards a’r teulu ifyw yn Llundain ym 1950 gan ei fodwedi ei benodi yn ysgrifennydd drosGymru gyda LMS (London MissionarySociety). Daethant yn aelodau ffyddlonyn eglwys Harrow.

    Dychwelodd yn ôl i Abertawe iweithio gyda CWM (Cyngor y

    Genhadaeth Fyd-eang) yn y chwedegauhwyr. Bu’n gwasanaethu ar y Sul mewnllawer o eglwysi gan gynnwys ygwasanaeth cymun olaf yng nghapelSiloh, Maerdy ger Aberdâr. Rhoddwyd yllestri cymun i CWM i’w defnyddiomewn eglwys arall.

    Ym 1968 aeth R. E. Edwards iFadagascar i ddathlu 150 o flynyddoedders glanio’r ddau genhadwr o Gymru, sefDavid Jones a Thomas Bevan. CymeroddR. E. Edwards y gwasanaeth cymuncyntaf mewn capel newydd yno ganddefnyddio llestri Capel Siloh, Maerdy.Ym 1969–70 R. E. Edwards oeddCadeirydd yr Undeb Annibynwyr.Tybed a oes gennych fel darllenwyr YTyst ragor o atgofion am y genhadaethneu gysylltiad uniongyrchol neuanuniongyrchol gyda Madagascar?Byddai’n wych clywed gennych. Gellircysylltu trwy [email protected].

    CywiriadYn yr erthygl am gystadleuaeth igyfansoddi emyn er cof am DanielProthero a gyhoeddwyd yn rhifyn 18Y Tyst 2 Mai 2019, rhoddwyd y rhifblwch postio anghywir.Ymddiheurwn am hyn. Y rhif cywiryw P.O. Box 1054. Pob hwyl gyda’rcyfansoddi.

  • Cyhoeddwyd gan Undeb yr Annibynwyr Cymraeg ac argraffwyd gan Wasg Morgannwg, Uned 13, Ystad Ddiwyd. Heol Milland, Castell-nedd, SA11 1NJ. Cofrestrwyd yn y Swyddfa Bost.

    Erthyglau, llythyrau at y Prif Olygydd: Y Parchg Ddr Alun Tudur39 Dorchester Avenue, Pen-y-lan,Caerdydd, CF23 9BSFfôn: 02920 490582E-bost: [email protected]

    Archebion a thaliadau i’r Llyfrfa:Tŷ John Penri, 5 Axis Court, ParcBusnes Glanyrafon, Bro Abertawe

    ABERTAWE SA7 0AJFfôn: 01792 795888

    E-bost: [email protected]

    tudalen 8 Y Pedair Tudalen Gydenwadol Mai 16 2019Y TYST Golygydd

    Y Parchg Iwan Llewelyn JonesFronheulog, 12 Tan-y-Foel,

    Borth-y-gest, Porthmadog, Gwynedd,LL49 9UE

    Ffôn: 01766 513138E-bost: [email protected]

    GolygyddAlun Lenny

    Porth Angel, 26 Teras PictonCaerfyrddin, Sir Gâr, SA31 3BX

    Ffôn: 01267 232577 / 0781 751 9039

    E-bost: [email protected]

    Dalier Sylw!Cyhoeddir y Pedair Tudalen

    Gydenwadol gan Bwyllgor Llywio’rPedair Tudalen ac nid gan Undeb yrAnnibynwyr Cymraeg. Nid oes awnelo Golygyddion Y Tyst ddim âchynnwys y Pedair Tudalen.

    Golygyddion

    Dyddiadur Madagascar 14 – parhadMarc. Cafodd rhai gweinidogion eu lladdac eraill eu curo. Herwgipiwyd Lala a’igam-drin, ac adroddodd Josiane amdani hia’i gŵr yn ofni gadael eu cartref, oherwyddbod pobl yn gwylio ac yn chwilio am gyflei’w dal. Ar lawer ystyr roedd rhywbethmor swreal am glywed hyn ar brynhawnheulog a braf yn y parc, ond wrth gwrsroedd presenoldeb y crocs yn ein hatgoffao ochr dywyll bywyd hefyd, ac morrhwydd mae bywyd braf yn gallu troi’nhunllef. Tua threCyrraedd y maes awyr o’r diwedd, gydadigon o amser i sbario, ond dymagyhoeddiad gan Air France bod yr awyrenyn mynd i fod o leiaf dwy awr a hanner ynhwyr yn gadael. Roedd Tojo a Heritiana ynbenderfynol o aros gyda ni tan i’r awyrenadael, ond fe fodlonon nhw i fynd unwaithfydden ni’n cael ein galw i fynd i gofnodi.O’r diwedd daeth yr alwad, a ffarwelio amy tro olaf. Mae Tojo a Heritiana, a Josianewrth gwrs, wedi bod yn wych yn gofaluamdanom. Er bod y trefniadau weithiau ynymddangos fel hap a damwain, a phringallai neb fod wedi rhagweld y trafferthiona ddeuai yn sgil y pla, ond mae’r cyfanwedi gweithio allan yn rhagorol, a ninnauwedi cael cyfle i weld cymaint o’r mannausy’n gysylltiedig â’r cenhadon ynghyd a’rprosiectau. Mae’r diolch am hynny iddynnhw.

    Mae wedi bod yn 9 diwrnod hynodflinedig, ond eto yn brofiad arbennig iawn.A gallwn i ddim bod wedi gofyn am wellcwmni na Rhodri a Richard ar y daith hon.Rwy’n edmygu’n fawr y ffordd mae’r ddauohonyn nhw wedi mynd ati i wneud yr hynsydd ei angen, yn gwbl broffesiynol wrtheu gwaith, ac rwy’n ffyddiog bydd gennymluniau a ffilmiau fydd yn fodd i gyffwrddac ysbrydoli’r eglwysi ar gyfer yr Apêl.Fihavanana Mae’n rhaid dweud mai un o’r pethe rwywedi gwerthfawrogi’n fawr yw’r awr fachtros botel oer o ‘THB’ (Three Horse Beer),y cwrw cenedlaethol, yn lolfa’r gwestywedi i ni gyrraedd yn ôl ar ôl bod allan ynymweld â’r prosiectau. Y tri ohonom ynrhannu meddyliau ar ddigwyddiadau’rdydd – yr uchelfannau yn ogystal â’rrhwystredigaethau – ac yn ddieithriad yngorffen yn chwerthin! Yn ddiddorol maeTHB wedi ei ddisgrifio fel symbol o’r hyn

    a elwir gan y Malagasi fel ‘Fihavanana’,sy’n golygu cyfeillgarwch, brawdoliaeth acewyllys da. Wel, fe brofon ni ddigon o‘Fihavanana’ yn ystod ein hymweliad â’rynys, a gobeithio gallwn ni, drwy ein hapêleleni, ddangos llawer ohono tuag at boblMadagascar.