newyddion cpi gwanwyn 2010

4
Helo ir CPI Cynnwys Croeso CPI ....................................................1 Newyddion Byd Natur ....................................1 Syniadau Arnie Actif ......................................2 Digwyddiadau...............................................3 Cornel Jeff .....................................................3 Hwyl a Gemau ..............................................4 Gofalu am ein Draenogod Wedi gaeaf oer iawn, bydd anifeiliaid megis draenogod yn deffro o’u gaeafgwsg rhwng mis Mawrth a mis Ebrill. Rydym yn gallu gwneud llawer o bethau i helpu draenogod ac efallai eu denu i’n gerddi. Os ydych yn lwcus, efallai y byddwch yn gweld draenogod yn eich gardd neu mewn parciau a mannau gwyrdd eraill ar draws Abertawe. Gaeafgwsg Fel arfer, mae draenogod yn mynd i gysgu (neu’n gaeafgysgu) rhwng mis Tachwedd a mis Mawrth er mwyn goroesi’r gaeaf, pan nad oes llawer o fwyd yn gyffredinol neu pan fydd yn brin. Yn ystod gaeafgwsg, gall draenog ddeffro sawl gwaith. Os gwelwch un, mae’n syniad da cynnig bwyd a dw ˆr. Os nad oes arwydd o broblem, gadewch i’r draenogod fynd ar eu ffordd. Bwydo draenogod Yn ddiweddar, ychwanegwyd draenogod at y rhestr mewn perygl yn y DU, felly dyna reswm arall i roi help iddynt. Dyma ychydig o awgrymiadau: Mae garddwyr yn hoffi draenogod am eu bod yn mwynhau bwyta gwlithod a malwod sy’n dinistrio planhigion. Fel arfer, os yw’r tywydd yn wael (rhew, eira), maent yn hoffi ychydig o fwyd cw ˆn sych. Eu hoff fwydydd eraill yw chwilod, lindys a mwydod, ond byddant hefyd yn bwyta ffrwyth wedi cwympo, grawnfwyd a chig ffres. Yr amser gorau i’w gweld yw yn ystod y cyfnos. Mae ffynhonnell o ddw ˆr ffres yn bwysig iawn, yn enwedig yn ystod tywydd poeth. Gadewch ddysglaid bas a sefydlog o ddw ˆr allan ar bwys y bwyd. Peidiwch â rhoi bara a llaeth i ddraenogod! Mae’n gallu rhoi bola tost a dolur rhydd iddynt. Newyddion Byd Natur Croeso i’n cylchlythyr cyntaf yn 2010. Gobeithio y cawsoch amser gwych dros y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd ac i chi i gyd lwyddo i fwynhau’r eira, tra’n cadw’n gynnes ac yn ddiogel. Yn y rhifyn hwn, byddwn yn ystyried gaeafgwsg a chael gwybod am yr hyn mae Arnie Actif wedi bod yn ei wneud. Rydym hefyd wedi cynnwys gemau difyr newydd i chi eu chwarae. Os oes gennych unrhyw sylwadau ar ein cylchlythyr neu os hoffech i ni roi sylw i unrhyw fater penodol, cofiwch roi gwybod i ni.

Upload: city-and-county-of-swansea

Post on 06-Mar-2016

240 views

Category:

Documents


4 download

DESCRIPTION

Newyddion CPI Gwanwyn 2010

TRANSCRIPT

Page 1: Newyddion CPI Gwanwyn 2010

Helo i’r CPI

CynnwysCroeso CPI ....................................................1Newyddion Byd Natur....................................1Syniadau Arnie Actif ......................................2Digwyddiadau...............................................3Cornel Jeff.....................................................3Hwyl a Gemau ..............................................4

Gofalu am ein DraenogodWedi gaeaf oer iawn, bydd anifeiliaid megisdraenogod yn deffro o’u gaeafgwsg rhwng misMawrth a mis Ebrill.

Rydym yn gallu gwneud llawer o bethau ihelpu draenogod ac efallai eu denu i’ngerddi. Os ydych yn lwcus, efallai y byddwch yngweld draenogod yn eich gardd neu mewnparciau a mannau gwyrdd eraill ar drawsAbertawe.

GaeafgwsgFel arfer, mae draenogod yn mynd i gysgu(neu’n gaeafgysgu) rhwng mis Tachwedd a misMawrth er mwyn goroesi’r gaeaf, pan nad oesllawer o fwyd yn gyffredinol neu pan fydd yn brin.

Yn ystod gaeafgwsg, gall draenog ddeffro sawlgwaith. Os gwelwch un, mae’n syniad da cynnigbwyd a dwr. Os nad oes arwydd o broblem,gadewch i’r draenogod fynd ar eu ffordd.

Bwydo draenogodYn ddiweddar, ychwanegwyd draenogod aty rhestr mewn perygl yn y DU, felly dyna reswmarall i roi help iddynt.

Dyma ychydig o awgrymiadau:

Mae garddwyr yn hoffi draenogod am eubod yn mwynhau bwyta gwlithod a malwodsy’n dinistrio planhigion. Fel arfer, os yw’r tywydd yn wael (rhew, eira),maent yn hoffi ychydig o fwyd cwn sych.Eu hoff fwydydd eraill yw chwilod, lindys amwydod, ond byddant hefyd yn bwyta ffrwythwedi cwympo, grawnfwyd a chig ffres. Yr amser gorau i’w gweld yw yn ystod y cyfnos.Mae ffynhonnell o ddwr ffres yn bwysig iawn,yn enwedig yn ystod tywydd poeth.Gadewch ddysglaid bas a sefydlog oddwr allan ar bwys y bwyd.Peidiwch â rhoi bara a llaeth iddraenogod! Mae’n gallu rhoi bola

tost a dolur rhydd iddynt.

Newyddion Byd Natur

Croeso i’n cylchlythyr cyntaf yn 2010.Gobeithio y cawsoch amser gwych drosy Nadolig a’r Flwyddyn Newydd ac i chi igyd lwyddo i fwynhau’r eira, tra’n cadw’ngynnes ac yn ddiogel.Yn y rhifyn hwn, byddwn yn ystyried gaeafgwsg achael gwybod am yr hyn mae Arnie Actif wedi bodyn ei wneud. Rydym hefyd wedi cynnwys gemaudifyr newydd i chi eu chwarae.

Os oes gennych unrhyw sylwadau arein cylchlythyr neu os hoffech i niroi sylw i unrhyw fater penodol,cofiwch roi gwybod i ni.

23589-10 JPR Spring W:Layout 1 19/02/2010 09:23 Page 1

Page 2: Newyddion CPI Gwanwyn 2010

C Pa aderyn sy’n byw mewn iglw?

A Cyw iâ.

C Pa flwyddyn yw’r orau gan gangarw?

A Blwyddyn naid.

C Pryd mae’n anlwcus gweld cath ddu?

A Pan rydych yn llygoden.

C Sut mae gwenyn yn teithio?

A Mewn cwch gwenyn.

Jocs

2 Cylchlythyr Ceidwaid Parc Iau Gwanwyn 2010 www.abertawe.gov.uk/jpr

Ble mae Birt? Yn y rhifyn diwethaf, roeddemwedi gofyn i chi weld ble roedd Birt. Roedd yny Gerddi Botanegol ym Mharc Singleton.Cawsom lawer o atebion cywir ac rydym wedidewis un ar hap. Enillydd y mis hwn yw Jessica,sy’n byw yn Nhreboeth, sy’n ennill tocynNandos gwerth £40. Llongyfarchiadau i chi!

Fel hwyl, fe wnaethom hefyd ofyn i chi gyfrifsawl sbrigyn celyn a oedd yn y rhifyndiwethaf. Yr ateb oedd 20.

Canlyniadau’rCystadlaethau

Nod y gêm: Sgorio cymaint o geisiadauag y bo modd ac atal y gwrthwynebwyrrhag sgorio cais.

Amcanion sylfaenol1. Nod y gêm yw llorio’r bêl dros linell gais

y gwrthwynebwyr.2. Dim ond yn ôl i’w cydchwaraewyr gall

chwaraewyr basio’r bêl.3. Er mwyn atal cludwyr y bêl rhag sgorio,

mae’n rhaid i amddiffynwyr dynnu un o’rddau ruban a gweiddi “Tag”.

4. Pan fydd 4 chwaraewr wedi’u tagio,caiff y bêl ei throsglwyddo i’r tîmamddiffyn, sef yr ymosodwyrwedyn. Yna, cânt dro i geisiosgorio gyda’r bêl yn eudwylo.

Ole, ole, ole, ole - Gweilch!A fydd y Gweilch yn cyrraedd rownd derfynolCwpan Heineken? Ac a fydd Cymru’n ennilltwrnamaint rygbi’r 6 Gwlad eleni?

Mae Arnie Actif yn dwlu ar rygbi a bydd yncefnogi’r chwaraewyr yn y ddau dîm dros yrychydig wythnosau nesaf.

Er mwyn gloywi ei sgiliau rygbi, mae Arnie wedibod yn ymuno â sesiynau rygbi tag y Gweilchmewn canolfannau hamdden Abertawe Actif acyn mynd i’w barc lleol i weithio ar sut mae’n trafody bêl a’i sgiliau pasio gyda’i ffrindiau.

Mae rygbi tag yn llawer o sbort ac yn ffordd ddao gael ymarfer corff. Os oes diddordeb gennych,gallwch ddysgu sgiliau sylfaenol y gêm yn sesiynausgiliau rygbi Abertawe Actif a’r Gweilch i blant 5 – 7oed. Edrychwch ar www.abertaweactif.com amfwy o fanylion.

Yn y cyfamser, beth am roi cynnig ar rygbi yneich parc lleol? Ddim yn gwybod sut i chwarae?Dyma amlinelliad sylfaenol i chi ddechrau. I gaelmwy o wybodaeth am reolau rygbi a lle gallwchchwarae, ewch i www.arnieactif.com.

Sgiliau rygbi gydag Arnie a’r Gweilch

23589-10 JPR Spring W:Layout 1 19/02/2010 09:25 Page 2

Page 3: Newyddion CPI Gwanwyn 2010

Cylchlythyr Ceidwaid Parc Iau Gwanwyn 2010 www.abertawe.gov.uk/jpr 3

JeffA ydych erioed wedi ystyriedgwneud abwydfa?Mae mwydod yn wych:

Mae mwydod yn cynyddu swm yr aer a’r dwrsy’n mynd yn y priddMae mwydod yn bwyta dail, pilion cegina glaswelltMae mwydod yn gadael gwrtaith gwychar eu holau sy’n bwydo planhigion ac yn euhelpu i dyfu

Cornel

Ar ôl siarad â llawer o Geidwaid Parc Iau a’u rhieni mewndigwyddiadau, rydym wedi penderfynu newid sut rydym yncynnal ein digwyddiadau yn y dyfodol. Gobeithiwn y byddwchyn fodlon ar y newidiadau hyn.

*Sylwer ar y newid i’r amserau a’r dyddiau.*

10 Mawrth Crefft a gemau Canolfan Ddarganfod, Parc Brynmill 4.30pm – 6.00pm6 Ebrill Plannu Llysiau Ty’r Blodau, Parc Singleton 10.30am – 12.00 ganol dydd8 Ebrill Chwaraeon a gemau Canolfan Ddarganfod, Parc Brynmill 10.30am – 12.00 ganol dydd13 Ebrill Celf a Chrefft Canolfan Ddarganfod, Parc Brynmill 10.30am – 12.00 ganol dydd14 Ebrill Chwaraeon a Gemau Canolfan Ddarganfod, Parc Brynmill 4.30pm – 6.00pm15 Ebrill Saffari Dwr Canolfan Ddarganfod, Parc Brynmill 10.30am – 12.00 ganol dydd

MAE POB DIGWYDDIAD AM DDIM, OND RHAID CADW LLE YMLAEN LLAW.

Digwyddiadau’r gwanwyn...

Gwnewch abwydfaBeth mae ei angen arnoch:

Jar blastig fawr glirPridd llaithTywodMwydod - mae’n hawdd dod o hydiddynt yn eich gardd. Byddwch yn ofalusi beidio â’u brifo wrth eu tynnu o’r tirHen ddailPilion Llysiau / dail te

Beth i’w wneud:Rhowch haen o dywod mewnjar blastigYchwanegwch haen o briddYchwanegwch haen o dywodYchwanegwch haen arall o briddRhowch y mwydod i mewnYchwanegwch haen o ddail/pilionllysiau/dail teGwnewch dyllau yn y caeadGorchuddiwch â lliain duRhowch mewn lle tywyll oer Gwyliwch y mwydod ar waith; sicrhewch fodyr haenau’n llenwi’r jar fel uchod. Pan fydd y jaryn dechrau llenwi, gwacewch hi, yn ogystal â’rmwydod, ar y pridd yn eich gardd. Bydd hynyn helpu’ch planhigion i dyfu’n dda iawn.

23589-10 JPR Spring W:Layout 1 19/02/2010 09:26 Page 3

Page 4: Newyddion CPI Gwanwyn 2010

Lliwio’r Gwanwyn

Anagram y Gwanwyn

Fel hwyl yn unig, ceisiwch gyfrif y cennin Pedr!I ddathlu Dydd Gwyl Ddewi ddydd Llun 1 Mawrth -Dewi Sant yw nawddsant Cymru - rydym wedi cuddiollwyth o gennin Pedr yn y rhifyn hwn. Cenhinen Bedryw ein symbol cenedlaethol. Bydd llwyth ohonynt yny dorf os byddwch yn gwylio Cymru’n chwarae yngngemau rygbi’r 6 Gwlad.

4 Cylchlythyr Ceidwaid Parc Iau Gwanwyn 2010 www.abertawe.gov.uk/jpr

Dinas a Sir Abertawe, Datblygu ParciauYstafell 211, Swyddfa Penllergaer, Penllergaer, Abertawe, SA4 9GJ.

E-bostiwch [email protected] i gael gwybodaeth,negeseuon atgoffa ac i gadw lle ar gyfer digwyddiadau.

01792 635485www.abertawe.gov.uk/JPR

Os oes angen y cylchlythyr hwn arnoch mewn fformat arall,ffoniwch y Gwasanaethau Marchnata ar 01792 635478.

Mae’r holl fanylion yn gywir wrth fynd i’r wasg.

Aildrefnwch y llythrennau i ddod o hyd i’r geiriauyn ein Hanagram y Gwanwyn.

d l f a f i o d

e u h l w e n

l y n b o d

w t f

p l i t w i

y w n g y w n a

l a m b r y é

f d i r e n y a g l w

a c s i d e

w l p l

Ewch i www.abertawe.gov.uk/JPR lle cewch gyfarwyddiadau ar sut i wneud basged ar gyfer y Pasg.

Ble mae Birt?Allwch chi weld ble maeBirt? Anfonwch yr atebcywir atom a byddwn yntynnu enw’r enillydd o het.

Bydd yr enillydd yn derbyntocyn teulu Nandos gwerth

£45. Anfonwch eich atebioni’r cyfeiriad isod.

Clwb y Ceidwaid Parc Iau

23589-10 JPR Spring W:Layout 1 19/02/2010 09:28 Page 4