bangor university - rated gold in the teaching …€¦ · web view1.y gadwyn 2.newyddion darllen:...
TRANSCRIPT
UNED 7
Patrwm craidd
Y GODDEFOL (Passive)
Mi ges i fy ngeni
Mi gest ti dy eni
Mi gaeth o ei eni
Mi gaeth hi ei geni
Mi gaethon ni ein geni
Mi gaethoch chi eich geni
Mi gaethon nhw eu geni
[Yn y Cwrs Wlpan, mae’r patrwm yma’n codi yn Uned 36]
Hefyd yn yr uned:
GWRANDO: 1. Y Gadwyn
2. Newyddion
DARLLEN: Newyddion o’r Papur Bro
YSGRIFENNU: Tair eitem o newyddion i’r papur bro
125
A. PROC I’R COF
i. Treigladau
FI FO/HI*
Tŷ
Gwallt
Car
Deintydd
Llygaid
Bos
Esgidiau glaw
Agwedd
* Dewiswch chi.
126
a) Ymarfer
Mae fy nhŷ i’n fach; mae ei dŷ o / ei thŷ hi’n fawr
Mae fy agwedd i’n bositif; mae ei agwedd o / ei hagwedd hi’n negyddol
ac ati
b) Disgrifio
Disgrifiwch eich tŷ chi, eich deintydd chi, eich agwedd chi, ac ati.
Yna siaradwch am rywun arall.
ii. Gorffennol “cael”
a) Be’ gaethoch chi i fwyta ddoe?
Be’ gaethoch chi i yfed ddoe?
Be’ gaethoch chi yn y post ddoe?
Pryd/Lle gaethoch chi dynnu eich llun ddiwetha?
Pryd/Lle gaethoch chi dorri eich gwallt ddiwetha?
Pryd/Lle gaethoch chi grempog ddiwetha?
Pryd/Lle gaethoch chi siampên ddiwetha?
Pa un oedd y gwyliau gorau gaethoch chi erioed?
Pa un oedd y gwyliau gwaetha gaethoch chi erioed?
b) Lle gaethoch chi eich ffôn? Mi ges i fy ffôn o ... / gan ... / ar y we
Lle gaethoch chi eich car? Mi ges i fy nghar
Lle gaethoch chi eich côt? ac ati
Lle gaethoch chi eich ci/cath?
Newidiwch y personau yn ymarfer (b), e.e. Lle gaeth John ei gôt?
Lle gaeth Ann ei chôt? ac ati
127
iii. Y goddefol (The passive)
a) Lle gest ti dy eni? Mi ges i fy ngeni yn .....
Pryd gest ti dy eni? Mi ges i fy ngeni ym mis .....
Lle gaeth dy nain/dy chwaer (ac ati) ei geni? Mi gaeth hi ei geni yn ....
Pryd gaeth hi ei geni? Mi gaeth hi ei geni ym mis ....
Lle gaeth dy daid/dy frawd (ac ati) ei eni? Mi gaeth o ei eni yn ....
Pryd gaeth o ei eni? Mi gaeth o ei eni ym mis ....
Lle gaeth dy blant/dy rieni (ac ati) eu geni? Mi gaethon nhw eu geni yn ....
Pryd gaethon nhw eu geni? Mi gaethon nhw eu geni yn y nawdegau /
pumdegau, ac ati
b) Lle gest ti dy fagu? Mi ges i fy magu yn ....
Pryd gest ti dy dalu? Mi ges i fy nhalu ....
Lle gest ti dy ddal? Mi ges i fy nal yn ....
Pam gest ti dy stopio? Mi ges i fy stopio achos ....
Newidiwch y personau i fo, hi, chi/ni a nhw, e.e.
Lle gaeth o ei fagu? Mi gaeth o ei fagu yng Nghaergybi
Pryd gaeth hi ei thalu? Mi gaeth hi ei thalu wythnos diwetha
Lle gaethoch chi eich dal? Mi gaethon ni ein dal yn y maes awyr
Pam gaethon nhw eu stopio? Mi gaethon nhw eu stopio achos roedden
nhw’n gyrru’n rhy gyflym
128
129
c) Be’ ddigwyddodd?
achub - brathu - cicio allan - cloi allan - deffro - gadael ar ôl
1) Be’ ddigwyddodd i ti? Mi ges i fy .....
2) Be’ ddigwyddodd iddo fo? Mi gaeth o ei .....
3) Be’ ddigwyddodd iddi hi? Mi gaeth hi ei .....
ch) Be’ dach chi’n wybod am:
y tŷ? (g) Mi gaeth o ei adeiladu gan gowbois
John F Kennedy? (g) Mi gaeth o ei ladd gan Lee Harvey Oswald
y bont? (b) Mi gaeth hi ei hadeiladu gan Thomas Telford
y dafarn? (b) Mi gaeth hi ei phrynu gan bobl y pentre
y lluniau? Mi gaethon nhw eu tynnu gan fy hen daid
y llythyrau? Mi gaethon nhw eu hysgrifennu gan fy hen nain
Taflen Waith 1
129
1. Llenwch y bylchau
Mi ges i fy __________________ (geni) yn Llandudno.
Lle gest ti dy __________________ (magu)?
Pryd gaeth hi ei __________________ (talu)?
Mi gaeth y plant __________________ symud.
Mi gaethon ni __________________ cloi allan.
Mi ges i fy neffro __________________ y sŵn.
Mi __________________ nhw eu gadael ar ôl.
Lle __________________ chi eich stopio?
Mi gaeth y tŷ __________________ __________________ (adeiladu).
Mi __________________ y tai eu __________________ (adeiladu).
2. Cyfieithwch
I was moving _____________________________________________
I was moved _____________________________________________
He was paying _____________________________________________
He was paid _____________________________________________
They were working hard _____________________________________________
They were worked hard _____________________________________________
3. Atebwch
Lle gaethoch chi eich magu? _______________________________________
Gaethoch chi eich geni mewn ysbyty? _________
Pryd gaeth eich tŷ chi ei adeiladu? _______________________________________
Gaethoch chi eich talu mis diwetha? _________
B. YMESTYN
130
i. Amser presennol (Present tense)
Pryd dach chi’n cael eich talu? Dw i’n cael fy nhalu heddiw
Pryd mae’r ffatri’n cael ei chau? Mae hi’n cael ei chau heddiw
Pryd mae’r biniau’n cael eu casglu? Maen nhw’n cael eu casglu heddiw
Pryd dan ni’n cael ein taflu allan? Dach chi’n cael eich taflu allan rŵan!
ii. Cymraeg fwy ffurfiol (More formal Welsh)
Mi gaeth y ffatri ei hagor > Cafodd y ffatri ei hagor
Mi gaeth y wobr ei hennill > Cafodd y wobr ei hennill
Mi gaeth y bil ei dalu > Cafodd y bil ei dalu
Mi gaeth y lleidr ei restio > Cafodd y lleidr ei restio
Mi gaeth y protestwyr eu symud > Cafodd y protestwyr eu symud
Mi gaeth tri o bobl eu lladd > Cafodd tri o bobl eu lladd
iii. Cymraeg ffurfiol iawn
Mi gaeth y ffatri ei hagor > Agorwyd y ffatri
Mi gaeth y wobr ei hennill > Enillwyd y wobr
Mi gaeth y bil ei dalu > Talwyd y bil
Mi gaeth y lleidr ei restio > Restiwyd y lleidr
Mi gaeth y protestwyr eu symud > Symudwyd y protestwyr
Mi gaeth tri o bobl eu lladd > Lladdwyd tri o bobl
Taflen waith 2
131
1. Sut dach chi’n deud y brawddegau yma mewn ffordd fwy anffurfiol?How do you say these sentences in a more informal way?
e.e. Talwyd y bil > Mi gaeth y bil ei dalu
Sgoriwyd y gôl gan Gareth Ramsey
____________________________________________________________________
Symudwyd yr anifeiliaid
____________________________________________________________________
Gwerthwyd y tŷ
____________________________________________________________________
Peintiwyd y neuadd
____________________________________________________________________.
Torrwyd y ffenest
____________________________________________________________________
Enillwyd y wobr
____________________________________________________________________
Taflwyd ni allan
____________________________________________________________________
Dysgwyd fi gan fy nain
____________________________________________________________________
Adeiladwyd y tai yn 1900
____________________________________________________________________
Perfformiwyd y ddrama gan Gwmni Theatr Bara Caws
____________________________________________________________________
2. Ysgrifennu
Ysgrifennwch dair eitem o newyddion i’r papur bro.
132
Geirfa’r uned b = benywaidd/feminineg = gwrywaidd/masculine
achub - to rescue
agwedd (b) - attitude
brathu - to bite
casglu - to collect
cloi - to lock
crempog (b) - pancake
dal - to catch, to hold, still
gadael - to leave
gwaetha - worst
gwe (b) - web y we = the web
gwobr (b) - prize
hen daid (g) - great grandfather
hen nain (b) - great grandmother
lladd - to kill
lleidr (g) - robber
taflu - to throw
tynnu lluniau - to take pictures, to draw
Geirfa’r ddeialog
ar y pryd - at the time
cyflymder (g) - speed
dim felly - not really
diwrnod i ffwrdd (g) - day off
fel cath i gythraul - like a bat out of hell
gobeithio’r gorau - hope for the best
gwenu - to smile
ymwybyddiaeth (b) - awareness
133
C. DEIALOG
A. Wnest ti fwynhau dy ddiwrnod i ffwrdd ddoe?
B. Naddo, dim felly. Mi es i ar gwrs Ymwybyddiaeth Cyflymder.
A. O diar! Pryd gest ti dy ddal?
B. Tua chwech wythnos yn ôl, ar y ffordd adra o’r gwaith.
A. Lle? Wrth yr eglwys?
B. Ia. Sut wyt ti’n gwybod?
A. Mi ges i fy nal wrth yr eglwys wythnos diwetha! Mi ddôth y llythyr yn y post bore
’ma.
B. Ella bydda i’n cael llythyr arall wythnos nesa. Pan ôn i ar y ffordd i’r cwrs bore ddoe,
mi ges i fy nal mewn ciw ar yr A55 am dros hanner awr. Mi yrres i fel cath i gythraul
wedyn, achos dôn i ddim isio bod yn hwyr. Ond mi anghofies i am y camera wrth y
bont, ’ndo?
A. Gest ti dy ddal eto, felly?
B. Dw i ddim yn siwr. Mi wnes i wenu’n glên ar y camera wrth basio, beth bynnag, felly
gobeithio’r gorau!
134
CH. GWRANDO:
1. Y Gadwyn
Geirfa
cadwyn (b) - chaincysylltiad (g) - connection,
contactyr un - the sameYr Almaen - Germanydewis - to choose
ers hynny - since thencyflogi - to employcoblyn o... - hell of a...efo’n gilydd - togethergwirfoddol - voluntary
1. Lle gaeth Dewi ei fagu?
_____________________________________________________________________
2. Lle gaeth Mair ei magu? (2 le)
_____________________________________________________________________
3. Pam symudodd Mair i’r Almaen?
_____________________________________________________________________
4. Pam aeth Mair i Sawdi Arabia?
_____________________________________________________________________
5. Pam wnaeth Mair adael Sawdi Arabia?
_____________________________________________________________________
6. Lle gaeth plant Dewi eu magu?
_____________________________________________________________________
6. Pam wnaeth Geraint adael Sawdi Arabia?
_____________________________________________________________________
7. Pam mae Mair yn ddi-waith ar hyn o bryd?
_____________________________________________________________________
8. Lle gaeth Rhian ei magu?
_____________________________________________________________________
135
TASG 1Ym mha eitem mae’r geiriau yma’n codi? In which item do these words arise?
2. Bwletin newyddion
Geirfa
anafu - to injure
cadw - to keep
curo - to beat
chwythu - to blow
gradd (b) - degree
llifogydd - floods
oherwydd - because of
pencampwriaeth (b) - championship
perygl (g) - danger
peryglus - dangerous
rownd derfynol (b) - final
to (g) - roof
troi drosodd - to turn over
troedfedd (b) - foot
TASG 2: Llenwch y bylchau
Eitem 1
Cafodd Pont Britannia ____________ ____________ am chwech awr ddoe.
Cafodd gyrrwr y lori ____________ ____________.
Eitem 2
Cafodd pump o blant ____________ ____________ ddoe.
Cafodd tri o blant ____________ ____________ yn yr ysbyty.136
Eitem 3
____________ dau gant o bobl ____________ ____________ o’u cartrefi yn y Rhyl.
Eitem 4
____________ Llinos Llywelyn o Lanelli ____________ ____________ yn y rownd derfynol.
Eitem 5
Cafodd jacpot y loteri ____________ ____________ ____________ berson o Ogledd Cymru.
____________ y tocyn ____________ ____________ bore dydd Iau.
TASG 3: Rhifau
Pam mae’r rhifau yma’n codi yn y newyddion?
6 _______________________________________________________________
5 _______________________________________________________________
3 _______________________________________________________________
200 _______________________________________________________________
4 _______________________________________________________________
45 _______________________________________________________________
10 _______________________________________________________________
137
D. DARLLEN
Newyddion o’r Papur Bro
AGOR YSGOL Ar ddechrau Medi, agorwyd ysgol newydd Pentre Bach gan yr actores enwog Gwyneth Roberts. Roedd Gwyneth yn mynd i hen ysgol Pentre Bach yn y saithdegau, ond erbyn hyn, wrth gwrs, mae hi’n un o sêr mawr Hollywood. Mae’r adeilad newydd wedi costio £1.5 miliwn.
YSBYTY Cofion cynnes at Gwilym Rowlands, Tŷ Nant, sy yn yr ysbyty yn Awstralia. Brathwyd o gan grocodeil pan oedd o’n nofio yn y môr yn ymyl Perth. Mae Mr. Rowlands yn Awstralia i weld ei ferch, Rhian, sy’n gweithio fel athrawes yno ers pum mlynedd.
BARBICIW Ar ddiwedd Awst, cynhaliwyd barbiciw yn y cae chwarae i godi pres i helpu Cai Llwyd. Mae Cai’n mynd i gael llawdriniaeth fawr yn Tseina cyn bo hir. Yn anffodus, roedd hi’n bwrw glaw ar noson y barbiciw, ond roedd y sosejys yn flasus iawn beth bynnag. Coginiwyd y bwyd gan aelodau’r tîm rygbi.
MERCHED Y WAWR Mae’r gangen yn dathlu ei phen-blwydd yn dri deg oed eleni, felly trefnwyd cinio arbennig yng Ngwesty’r Castell ar ddechrau Medi. Torrwyd y gacen gan y Cadeirydd, Nesta Jones, ac enillwyd y raffl gan Gwenda Davies.
PÊL-DROED Mae tîm Pentre Bach allan o’r cwpan ar ôl colli yn erbyn Pentre Mawr o ddeg gôl i un. Sgoriwyd unig gôl Pentre Bach gan John Griffiths.
Geirfa
cangen (b) - branch
cofion cynnes - warm regards
cynnal - to hold (meeting, concert) cynhaliwyd = was held
llawdriniaeth (b) - operation, surgery
papur bro - local paper
seren / sêr (b) - star / stars
138
unig - only, lonely
Pam mae hanes y bobl yma yn y papur?
Gwenda Davies
___________________________________________________________________________
John Griffiths
___________________________________________________________________________
Nesta Jones
___________________________________________________________________________
Cai Llwyd
___________________________________________________________________________
Gwyneth Roberts
___________________________________________________________________________
Gwilym Rowlands
___________________________________________________________________________
Rhian Rowlands
___________________________________________________________________________
Y tîm pêl-droed
___________________________________________________________________________
Y tîm rygbi
___________________________________________________________________________
139
DD. GRAMADEG (Er gwybodaeth)
Y goddefolThe passive
Mi ges i fy nhalu / fy ngeni
Mi gest ti dy dalu / dy _eni
Mi gaeth o ei dalu / ei _eni
Mi gaeth hi ei thalu / ei geni
Mi gaethon ni ein talu / ein geni
Mi gaethoch chi eich talu / eich geni
Mi gaethon nhw eu talu / eu geni
Mi gaeth y plant eu talu / eu geni
= I was paid / I got paidI was born ac ati
Mae ’na “h” o flaen llafariad efo hi/ni/nhw¸e.e.There’s a “h” before a vowel with hi/ni/nhw¸e.g.
Mi gaeth hi ei hethol (ethol = to elect)Mi gaethon ni ein hachub (achub = to rescue)Mi gaethon nhw eu henwi (enwi = to name)
Os dach chi’n defnyddio enw, mae’r treiglad yn dibynnu ar genedl yr enw, e.e.If you use a noun, the mutation depends on the gender of the noun, e.g.
Mi gaeth yr adeilad (g) ei brynu
Mi gaeth y neuadd (b) ei phrynu
Cymharwch (Compare):
Rôn i’n symud = I was moving [Gweithredol/Active]
Mi ges i fy symud = I was moved [Goddefol / Passive] (gan yr heddlu) (by the police)
140
Roedd o’n gweithio’n galed = He was working hard [Gweithredol/Active]
Mi gaeth o ei weithio’n galed = He was worked hard [Goddefol / Passive] (gan y bos) (by the boss)Ar bapur, mi fyddwch chi’n gweld:
ces icest ticafodd o/hicawson nicawsoch chicawson nhw
e.e. Cafodd y ffatri ei hagorCawson nhw eu hachub
I newid yr amser, dach chi’n defnyddio amserau gwahanol o "cael"To change the tense, you use different tenses of "cael"
dw i’n cael fy nhalu = I am paid / I get paid
rôn i’n cael fy nhalu = I used to get paid
mi fydda i’n cael fy nhalu = I will be getting paid
Mewn Cymraeg ffurfiol, dach chi’n gweld y ffurfiau yma:In formal Welsh, you will see these forms:
- wyd (gorffennol/past)
talwyd fi = mi ges i fy nhalu = I was paid
talwyd hi = mi gaeth hi ei thalu = She was paid
talwyd nhw = mi gaethon nhw eu talu = They were paid
adeiladwyd y ty = mi gaeth y ty ei adeiladu = the house was
built
cynhaliwyd cyfarfod = mi gaeth cyfarfod ei gynnal = a meeting was
held
141
- ir (presennol neu ddyfodol / present or future)
perfformir y ddrama = mae’r ddrama’n cael ei pherfformio (neu mi fydd ....)
= the play is being performed / will be performed
agorir y ffatri = mae’r ffatri’n cael ei hagor (neu mi fydd...)
= the factory is being opened / will be opened
GEIRFA UNED 7
at the time ar y pryd
attitude agwedd (b)
awareness ymwybyddiaeth (b)
beat, to curo
because of oherwydd
bite, to brathu
blow, to chwythu
branch cangen (b)
catch, to dal
chain cadwyn (b)
championship pencampwriaeth (b)
choose, to dewis
collect, to casglu
connection, contact cysylltiad (g)
danger perygl (g)
dangerous peryglus
day off diwrnod i ffwrdd (g)
degree gradd (b)
draw, to tynnu lluniau
employ, to cyflogi
final (round) rownd derfynol (b)
floods llifogydd
foot troedfedd (b)
Germany Yr Almaen
great grandfather hen daid (g)
great grandmother hen nain (b)
hell of a... coblyn o...
hold, to dal142
hold, to (meeting, concert) cynnal
hope for the best gobeithio’r gorau
injure, to anafu
keep, to cadw
kill, to lladd
leave, to gadael
like a bat out of hell fel cath i gythraul
local paper papur bro
lock, to cloi
not really dim felly
only, lonely unig
operation, surgery llawdriniaeth (b)
pancake crempog (b)
part rhan (b)
prize gwobr (b)
rescue, to achub
robber lleidr (g)
roof to (g)
same, the yr un
since then ers hynny
smile, to gwenu
speed cyflymder (g)
star / stars seren / sêr (b)
still (to continue) dal
take pictures, to tynnu lluniau
throw, to taflu
together efo’n gilydd
turn over, to troi drosodd
voluntary gwirfoddol
warm regards cofion cynnes
web gwe (b)
worst gwaetha
143
144