y ddraig goch gwanwyn 2014

8
N ôl ym mis Hydref, yn ystod ein cynhadledd flynyddol, soniais am y cynnydd a wnaethom yn Ewrop, a’r gwahaniaeth mae llais Plaid Cymru yn ei wneud i fywydau pobl. Heb y llais hwn, byddai’n llawer anoddach cyflawni gweledigaeth y Blaid ar gyfer Cymru. Mae gennym ni ymgeisyddion cryf, polisïau cadarn a gweledigaeth am Gymru flaengar. Mae’r ymgyrch Ewropeaidd yn cynnig cyfle delfrydol i adeiladu ar y cynnydd a wnaed llynedd yn Ynys Môn a Phenyrheol, gan adeiladu at etholiadau San Steffan, ac arwain at ddyfodiad Leanne Wood yn Brif Weinidog Cymru yn 2016. Mae Cymru’n elwa mwy gan yr Undeb Ewropeaidd na nifer o ardaloedd eraill yn y Deyrnas Gyfunol. Wrth ymgyrchu byddwn yn pwysleisio mai Plaid Cymru yw’r unig blaid sy’n rhoi Cymru’n gyntaf. Ni yw’r unig blaid i bleidleisio yn erbyn torri cyllideb yr UE, a’r unig blaid i bleidleisio yn erbyn torri taliadau uniongyrchol i ffermwyr. Byddwn yn canolbwyntio ar ein cefnogwyr, yn adeiladu o’r gwaelod i fyny. Fel y gwyddom, mae pob pleidlais yn cyfrif. Dyma’n pum addewid clir er mwyn sicrhau bod Ewrop yn gweithio dros Gymru. Cytundebau Cymreig i gwmnïau Cymreig Rydym am leihau biwrocratiaeth a mân-reolau fel y gall busnesau Cymreig ennill mwy o gytundebau yng Nghymru. Ar hyn o bryd, dim ond tua hanner y cytundebau cyhoeddus sy’n cael eu dyfarnu i gwmnïau Cymreig. Pe byddai’r ffigwr yma’n cynyddu i 75%, gallai greu bron i 50,000 o swyddi. Swyddi i’n pobl ifanc Does dim yn bwysicach na sicrhau swyddi i’n pobl ifanc. Byddwn yn pwyso i weld gweithredu’r Cynllun Gwarant Ieuenctid fydd yn sicrhau gwaith, hyfforddiant neu addysg i bobl ifanc sydd wedi bod yn ddi-waith am bedwar mis. Rhwydwaith drafnidiaeth ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain Fe gofiwn y sgandal diweddar wedi i Gymru gael ei hepgor o fap y coridorau trafnidiaeth hanfodol. Amlygodd Plaid Cymru’r ffaith nad oedd Llywodraeth Cymru na’r DG yn ymladd cornel Cymru. Byddwn yn parhau i gynnig arweiniad gan sicrhau bod arian yr UE yn cael ei gyfeirio at wella rhwydwaith ffyrdd a rheilffyrdd ar draws Cymru. Cydraddoldeb i’r Gymraeg a’r Saesneg fel ieithoedd swyddogol yr UE Mae’r addewid yma’n gwbl eglur. Mae’r Gymraeg yn iaith swyddogol yng Nghymru, fe ddylai hefyd fod yn yr Undeb Ewropeaidd. Gyda deddfwriaeth yr UE yn cael ei gweithredu’n uniongyrchol yng Nghymru, ein hawl ddemocrataidd yw bod y ddeddfwriaeth yn llythrennol hefyd yn siarad yn uniongyrchol â ni. Lleiafswm incwm yn holl wledydd yr UE Mae Plaid Cymru’n cefnogi cynigion dros leiafswm incwm digonol ymhob aelod wladwriaeth Ewropeaidd gan fod gan bawb yr hawl i safon byw digonol. Ni ddylai neb gael eu gorfodi i fyw mewn tlodi na chwaith i adael cartref er mwyn canfod gwaith yn sgil diffyg cyfleoedd yn eu mamwlad. Fe fydd Plaid Cymru’n ymladd dros y fargen orau bosib i Gymru yn Ewrop. Dyma nod ein hymgeisyddion. Ond ni allaf i na Marc Jones, Steven Cornelius na Ioan Bellin wneud hyn ar ein pennau ein hunain. Fe fydd gennym ni ymgyrch lwyddiannus gan fy mod yn gwybod y byddwch chi yno hefyd, yn gweithio gyda ni, ac yn rhoi Cymru’n gyntaf. Y Ddraig Goch Gwanwyn 2014 £1 Rhoi Cymru’n Gyntaf yn Ewrop Jill Evans ASE

Upload: plaid-cymru

Post on 30-Mar-2016

253 views

Category:

Documents


0 download

DESCRIPTION

 

TRANSCRIPT

Nôl ym mis Hydref, yn ystod ein cynhadledd flynyddol,

soniais am y cynnydd a wnaethom yn Ewrop, a’r gwahaniaeth mae llais Plaid Cymru yn ei wneud i fywydau pobl. Heb y llais hwn, byddai’n llawer anoddach cyflawni gweledigaeth y Blaid ar gyfer Cymru. Mae gennym ni ymgeisyddion cryf, polisïau cadarn a gweledigaeth am Gymru flaengar. Mae’r ymgyrch Ewropeaidd yn cynnig cyfle delfrydol i adeiladu ar y cynnydd a wnaed llynedd yn Ynys Môn a Phenyrheol, gan adeiladu at etholiadau San Steffan, ac arwain at ddyfodiad Leanne Wood yn Brif Weinidog Cymru yn 2016.

Mae Cymru’n elwa mwy gan yr Undeb Ewropeaidd na nifer o ardaloedd eraill yn y Deyrnas Gyfunol. Wrth ymgyrchu byddwn yn pwysleisio mai Plaid Cymru yw’r unig blaid sy’n rhoi Cymru’n gyntaf. Ni yw’r unig blaid i bleidleisio yn erbyn torri cyllideb yr UE, a’r unig blaid i bleidleisio yn erbyn torri taliadau uniongyrchol i ffermwyr. Byddwn yn canolbwyntio ar ein cefnogwyr, yn adeiladu o’r gwaelod i fyny. Fel y gwyddom, mae pob pleidlais yn cyfrif.

Dyma’n pum addewid clir er mwyn sicrhau bod Ewrop yn gweithio dros Gymru.

Cytundebau Cymreig i gwmnïau CymreigRydym am leihau biwrocratiaeth a mân-reolau fel y gall busnesau Cymreig ennill mwy o gytundebau yng Nghymru. Ar hyn o bryd, dim ond tua hanner y cytundebau cyhoeddus sy’n cael eu dyfarnu

i gwmnïau Cymreig. Pe byddai’r ffigwr yma’n cynyddu i 75%, gallai greu bron i 50,000 o swyddi.

Swyddi i’n pobl ifancDoes dim yn bwysicach na sicrhau swyddi i’n pobl ifanc. Byddwn yn pwyso i weld gweithredu’r Cynllun Gwarant Ieuenctid fydd yn sicrhau gwaith, hyfforddiant neu addysg i bobl ifanc sydd wedi bod yn ddi-waith am bedwar mis.

Rhwydwaith drafnidiaeth ar gyfer yr unfed ganrif ar hugainFe gofiwn y sgandal diweddar wedi i Gymru gael ei hepgor o fap y coridorau trafnidiaeth hanfodol. Amlygodd Plaid Cymru’r ffaith nad oedd Llywodraeth Cymru na’r DG yn ymladd cornel Cymru. Byddwn yn parhau i gynnig arweiniad gan sicrhau bod arian yr UE yn cael ei gyfeirio at wella rhwydwaith ffyrdd a rheilffyrdd ar draws Cymru.

Cydraddoldeb i’r Gymraeg a’r Saesneg fel ieithoedd swyddogol yr UE Mae’r addewid yma’n gwbl eglur. Mae’r Gymraeg yn iaith swyddogol yng Nghymru, fe ddylai hefyd fod yn yr Undeb Ewropeaidd. Gyda deddfwriaeth yr UE yn cael ei gweithredu’n uniongyrchol yng

Nghymru, ein hawl ddemocrataidd yw bod y ddeddfwriaeth yn llythrennol hefyd yn siarad yn uniongyrchol â ni.

Lleiafswm incwm yn holl wledydd yr UEMae Plaid Cymru’n cefnogi cynigion dros leiafswm incwm digonol ymhob aelod wladwriaeth Ewropeaidd gan fod gan bawb yr hawl i safon byw digonol. Ni ddylai neb gael eu gorfodi i fyw mewn tlodi na chwaith i adael cartref er mwyn canfod gwaith yn sgil diffyg cyfleoedd yn eu mamwlad.

Fe fydd Plaid Cymru’n ymladd dros y fargen orau bosib i Gymru yn Ewrop.

Dyma nod ein hymgeisyddion. Ond ni allaf i na Marc Jones, Steven Cornelius na Ioan Bellin wneud hyn ar ein pennau ein hunain. Fe fydd gennym ni ymgyrch lwyddiannus gan fy mod yn gwybod y byddwch chi yno hefyd, yn gweithio gyda ni, ac yn rhoi Cymru’n gyntaf.

Y Ddraig GochGwanwyn 2014 £1

Rhoi Cymru’n Gyntaf yn EwropJill Evans ASE

Y Ddraig Goch Gwanwyn 2014

Cyhoeddwyd canlyniadau PISA fis Rhagfyr. Cadarnhaodd

y canlyniadau bod y ffordd y paratown ein plant ar gyfer problemau’r byd go iawn mewn argyfwng.

Yn yr hydref, cyflwynais y Bil Addysg Ariannol a Chynhwysiant - deddfwriaeth aelod a fydd yn anelu i wneud dau beth: gwella gallu ariannol y rhai sy’n gadael ysgol; a rhoi pwerau i awdurdodau lleol i fynd i’r afael a dulliau benthyca modern - megis benthyciadau diwrnod cyflog - sy’n cael eu hanelu at fanteisio

ar y rhai nad ydynt yn gallu eu fforddio.

Er y bydd y Bil yn cymryd amser i ddod yn gyfraith (ar hyn o bryd dyma’r unig ddeddfwriaeth a gyflwynir gan Blaid Cymru yn y Cynulliad), mae’r dystiolaeth gref wedi’n hargyhoeddi y bydd nid yn unig o gymorth i bobl ifanc a’r difreintiedig wneud y penderfyniadau ariannol cywir, fe fydd hefyd yn gosod sylfaen gref i gyflawni’n nod economaidd tymor hir fel plaid.

Byddai gweithlu sy’n ariannol graff yn ddeniadol i fuddsoddwyr

o’r tu allan ag eraill, a thrwy hynny greu cyfle i ostwng y nifer o fusnesau sy’n dewis gadael Cymru a sefydlu mewn gwledydd eraill.

Fydd hynny ddim yn digwydd dros nos, ond mae gan y Bil hwn y potensial i sicrhau manteision tymor hir i Gymru a’i heconomi.

Am fanylion pellach, cysylltwch â’m swyddfa i ar (01639) 643549.

Gwthio a phrocio er mwyn creu plaid a Chymru well

Mae ‘na rywbeth agos atoch chi mewn ysgol aeaf. Mae

popeth ar un safle cyfleus yng Nglan-llyn a phawb felly’n cael cyfle i sgwrsio a thrafod. Er bod digon o ddadlau ac anghytuno, mae’r lleoliad yn golygu mai adeiladol ac ystyrlon ydi’r dadlau ar y cyfan. Does ‘na ddim coleri a theis, nac areithio llwyfan.

O ran uchafbwyntiau, fe fwynheais glywed syniadau Adam Price am Arfor, rhanbarth gorllewinol newydd fyddai’n blaenoriaethu’r iaith Gymraeg yn arw. Dwi’n anghytuno’n llwyr gyda rhannu Cymru’n ieithyddol oherwydd yr oblygiadau i weddill y wlad. Ond sbardunodd drafodaeth fywiog allasai wedi parhau drwy’r dydd. Efallai dyna hanfod ysgol aeaf – gwthio a phrocio er mwyn creu plaid a Chymru well yn hytrach na phasio

cynigion sy’n casglu llwch yn rhy aml.

Roedd yr ysgol aeaf hefyd yn gyfle i ail-afael yng ngwaith Undeb, grŵp undebau llafur Plaid Cymru. Os bu cyfnod lle bu angen rhwydwaith gref o undebwyr llafur i herio toriadau ac ideoleg atgas llywodraeth y glymblaid yn Llundain yn ogystal â llywodraeth ddi-siâp Carwyn Jones, dyma fo. Does ‘na fawr o siâp ar y cynghorau Llafur sy’n gwneud toriadau twp a dweud y lleiaf. Mae’r toriadau sy’n taro’n cynghorau lleol o fis Mawrth ymlaen yn awgrymu y bydd angen herio ar bob lefel ac mae Undeb yn barod i arwain drwy sefydlu rhwydwaith o ymgyrchwyr lleol.

Mae ‘na le i ddysgu gan brofiad yr SNP. Yn yr Alban mae’r undebau llafur wedi bod yn hynod o dawel ynglŷn ag annibyniaeth,

lle gellid disgwyl y byddent wedi ddilyn eu meistri Llafur yn slafaidd. Tybed ai gwaith caled rhwydwaith o undebwyr llafur yr SNP ar lawr wlad sydd wedi llwyddo i niwtraleiddio, os nad troi pennau, gweithwyr? Os felly, mae’n dangos fod nifer gymharol fechan o bobl yn y llefydd iawn yn medru newid pethau’n radical.

Roeddwn hefyd yn falch o glywed Jill Evans yn trafod prif negeseuon ymgyrch Ewrop mewn ffordd gadarn a phwerus. Dyma fydd un o’r ymgyrchoedd Ewropeaidd anoddaf i’r Blaid gan y bydd papurau asgell dde Llundain yn gosod agenda gwrth-UE UKIP. Mae’n dadleuon yn bositif ac yn gryf os cawn eu clywed – dyna pam ei bod hi mor bwysig i ni fedru cyrraedd ein pleidlais graidd a sicrhau fod gan Gymru lais cryf annibynnol yn Ewrop.

Marc Jones yn yr Ysgol Aeaf

Paratoi’n plant at broblemau’r byd go iawn Bethan Jenkins AC

Mae Plaid Cymru wedi datgan ein gweledigaeth

am y modd i fynd i’r afael â’r argyfwng staffio yn y gwasanaeth iechyd. Fis Hydref diwethaf yng nghynhadledd y Blaid, amlinellais ein cynlluniau i recriwtio 1,000 o feddygon yn ychwanegol dros ddau dymor llywodraeth Plaid Cymru.

Mae gan Gymru eisoes un o’r cymarebau gwaethaf o feddygon i’r boblogaeth, ac yn yr UE, dim ond Romania a Bwlgaria sydd waeth. Mae byrddau iechyd ar hyd a lled Cymru wedi wynebu anawsterau penodol i lenwi swyddi mewn adrannau brys, meddygaeth plant, ac iechyd meddwl.

Ac eto, datgelodd cais Rhyddid Gwybodaeth gan Blaid Cymru’r haf diwethaf na wnaeth rhai byrddau iechyd unrhyw ymgais i ddenu meddygon o’r UE. Dylai meddygon gael eu recriwtio o dramor fel ateb tymor byr i ardaloedd penodol lle mae’n anodd llenwi swyddi. Mae’n synhwyrol manteisio i’r eithaf ar

ryddid pobl i symud y tu mewn i’r UE.

Mae Plaid Cymru yn cynnig cyfres o fesurau i fynd i’r afael â’r argyfwng recriwtio sy’n bygwth dyfodol y Gwasanaeth Iechyd.

Un syniad yw talu dyledion myfyrwyr meddygol yn gyfnewid am warant o nifer o flynyddoedd o wasanaeth, yn ystod y cyfnod hyfforddi a blynyddoedd cynnar eu cyflogaeth.

Er bod rhai o’r polisïau yn gofyn am fwy o arian, bwriad eraill yw arbed arian trwy dorri biwrocratiaeth a gwaith papur, a denu mwy o gyllid ymchwil i ddenu incwm ychwanegol.

Mae’n ddogfen ymgynghorol yn cynnwys cynigion i ddatblygu Gwasanaeth Iechyd arloesol gyda phwyslais trwm ar ymchwil i wneud Cymru yn lle deniadol i feddygon hyfforddi a datblygu eu gyrfaoedd. Mae angen hefyd ailwampio hyfforddiant i feddygon ôl-raddedig er mwyn gwella’r sgiliau sy’n bodoli eisoes.

Mae’r sefyllfa recriwtio’r un mor ddifrifol ymysg meddygon teulu. Yng nghymoedd y de a sawl ardal wledig, mae hyd at 40% o feddygon teulu yn debygol o ymddeol dros y ddegawd nesaf a neb ar gael i gymryd eu lle. Yn gyffredinol, mae 20% o’r gweithlu meddygol a deintyddol dros 50 oed a disgwylir iddynt ymddeol dros y ddegawd nesaf.

Mae cynnig 1,000 yn ychwaneg o feddygon yn un o bolisïau allweddol Plaid Cymru ar gyfer etholiadau’r Cynulliad Cenedlaethol yn 2016. Anogaf aelodau’r blaid i drafod ein syniadau gyda chefnogwyr, cydweithwyr, teulu a chyfeillion - unrhyw un sydd â diddordeb!

Gallwch lawrwytho Gweithlu GIG cynaliadwy i Gymru gyfan - 1000 o feddygon yn ychwanegol o’r wefan: www.plaidcymru.org

Rhannwch eich barn drwy e-bostio Heledd Brooks Jones, [email protected]

1000 yn fwy o feddygonLeanne Wood AC,Arweinydd Plaid Cymru

Undeb CredydPlaid Cymru

Aelodau yn ei rhedeger budd aelodau

Mae Undeb Credyd Plaid Cymru (UCPCCU) yn dyst ymarferol i athroniaeth gydweithredol y Blaid o adeiladu Cymru newydd annibynol, hyderus.

Yr aelodau sy’n berchen ar UCPCCU ac ers 20 mlynedd mae UCPCCU wedi gweithio dros aelodau’r Blaid a’u teuluoedd, yn cefnogi eu busnesau teuluol bychain a Changhennau’r Blaid.

Mae cynilo arian yn golygu bod gennych chi rywbeth i edrych ymlaen ato ac i syrthio’n ôl arno.Talwyd difidend o 2% ar gynilion yn 2011/12.

Yn ddibynnol ar statws mae’n bosib benthyg hyd at £5,000 trwy benthyciad isel ei gost, heb unrhyw daliadau cudd.

Undeb Credyd Plaid Cymru (UCPCCU) Tŷ’r Cymry, 11 Heol Gordon, Caerdydd, CF24 3AJT: 029 2049 1888 www.ucpccu.org E: [email protected]

Ymunwch ag Undeb Credyd Plaid Cymru ein sefydliad ariannol cenedlaethol ni.Am fwy o fanylion, ewch at www.ucpccu.org Cliciwch ar ‘Ffurflenni’ er mwyn dadlwytho’r

Ffurflenni Cais am Aelodaeth ac Archeb Banc. Printiwch a chwblhau y ffurflennni a’u postio i Swyddfa’r Undeb Credyd.

Y Ddraig Goch Gwanwyn 2014

Marian MorrisEmrys Roberts

Mae gan Margret a minnau atgofion cynnes iawn am

Marian o’n hamser ym Merthyr yn y saithdegau. Roedd hi’n fenyw dawel a diymhongar a chanddi gariad mawr at Gymru. Doedd hi byth yn chwilio am na sylw na chlod, ond yn hytrach yn chwilio am waith. Roedd hi’n weithwraig ymarferol benigamp ac yn benderfynol o wthio’r maen i’r wal. Roedd hi’n f’atgoffa yn

aml am stori’r crwban chwedlonol a enillodd y ras yn erbyn yr ysgyfarnog.

Pan ddaeth Margret a minnau i Ferthyr, cawsom groeso mawr gan bawb (wel, nid pawb o’r cynghorwyr Llafur efallai!) a phawb yn addo pob math o gymorth inni. Ac fe gafodd y Blaid gymorth mawr gan nifer sylweddol o bobl. Ond, ysywaeth, yn y byd sydd ohoni nid pawb sy’n ei chael hi’n hawdd cadw eu haddewidion. Nid felly Marian. Os oedd Marian yn rhoi ei gair, roedd Marian yn gwireddu ei gair, ac yn cyflawni llawer mwy nag a

addawyd.Er yn

dawel, roedd gan Marian haearn yn ei gwythiennau - yn ffyddlon, yn weithgar ac yn llawn dyfalbarhad. Diolch Marian am y rhinweddau hynny.

Mawr yw’n dyled i MarianA haearn yn ei hanian;Diflino dyfalbarhadEr mwyn gweld rhyddid i’w gwlad.

Cofio

Lliwgar a phwrpasol. Yn swynol ddadleuol. Gŵr difyr ond

cythryblus. Person hwylus a fedrai fod yn dra ‘styfnig. Dyn hael ond darbodus. Dyn trugarog fedrai fod yn ddidostur pe deimlai angen. Cyfaill ffyddlon oedd weithiau mor anwadal. Gwleidydd a enynnai teyrngarwch a gelyniaeth yn gymesur fel bron neb arall y gallaf feddwl amdano neu amdani - ac eithrio, efallai, Margaret Thatcher (er na ddiolchai imi am ddweud hynny!).

Ei gyfraniad i wleidyddiaeth Cymru yn ystod y ’60au a’r ’70au fydd cofiant Glyn Owen. Bu’n

aelod etholedig o Gyngor Tref Aberdâr a’i olynydd,

Cyngor Bwrdeistref Cwm Cynon am bymtheg mlynedd. Fe’i etholwyd i Gyngor Sir Morgannwg ac yna Cyngor Sir Morgannwg Ganol. Ni

fu cyfnodau mwy bywiog a chythryblus yn eu hanes

na phan fu’n aelod diwyd, di-flewyn-ar-dafod ohonynt!Chwyldrôdd ei ddulliau

ymgyrchu cyffrous etholiadau cyffredinol 1970 a 1974 yn etholaeth Aberdâr, cymaint nes

bod pob un o’r pleidiau wedi efelychu ei ddulliau wedi hynny. Uchafbwynt ei yrfa wleidyddol fu sefyll fel ymgeisydd yn nau etholiad cyffredinol 1974. Bu canlyniad yr ail etholiad yn siom; ond noder taw’r 11,973 pleidlais a gafodd Glyn yn etholiad cyntaf 1974 fu’r bleidlais uchaf i unrhyw ymgeisydd yn yr etholaeth yn erbyn y Blaid Lafur ers 1924.

Gwn mor ffyddlon y gallai fod wrth y sawl a barchwyd ganddo (fy mam yn eu plith), ac mor garedig y bu wrth fudiadau ac unigolion oedd wrth fodd ei galon. Bu ganddo ei feirniaid. Ond yn hytrach na barnu, beth am geisio, os yw’n bosib, cymod gyda’r byd a phawb ynddo. Fel dywed y bardd Henry Vaughan o Sir Frycheiniog, mae peth o’r dwyfol ym mhob un.

Glyn OwenDavid Leslie Davies

Daeth cant o bobl i ddathliad arbennig yn y Windsor Arms,

Penarth i gofio nawdeg mlynedd ers cyfarfod cyntaf y Mudiad Cymreig, grŵp a arweiniodd at ffurfio Plaid Cymru.

Cynhaliwyd y cyfarfod hanesyddol cudd cyntaf hwnnw ym Medwas Place, Penarth ar Ionawr 7fed 1924. Yn bresennol roedd y darlithydd a’r dramodydd Saunders Lewis, yr hanesydd, Ambrose Bebb, yr ysgolhaig, G.

J. Williams a’i wraig Elizabeth, perchnogion y tŷ.

Fel rhan o’r noson, trafododd y gŵr gwadd, Yr Athro Richard Wyn Jones bwysigrwydd cyfarfodydd y grŵp a’u dylanwad wrth ddatblygu cysylltiadau gyda chenedlaetholwyr yng ngogledd Cymru, arweiniodd at sefydlu Plaid Cymru’n swyddogol yn 1925. Cafwyd cyfle hefyd i glywed mwy am hanes gwleidyddiaeth ym Mhenarth gan Gadeirydd y gangen

Adrian Roper.

Trefnwyd y dathliad gan Gymdeithas Hanes Plaid Cymru a Changen Penarth. Cadeiriwyd y cyfarfod gan Alun Ffred Jones AC, ŵyr i’r Parchedig Ffred Jones, a ymunodd â’r Mudiad Cymreig wedi’r cyfarfod cyntaf.

Cofio’r Mudiad Cymreig Dafydd Williams

Dylid cynnig y gyfrol ‘The Phenomenon of Welshness II,’

ynghyd â’r gyfrol gyntaf i bob aelod newydd o Blaid Cymru, yn wir i unrhyw un sydd eisiau atgyfnerthu eu cenedlaetholdeb gyda dadleuon sy’n berthnasol i’r byd cyfoes.

Fel mae’r clawr yn awgrymu, testament dros Gymru heddiw yw’r gyfrol. Mae cysgod Gemau Olympaidd Llundain, efallai’n cynrychioli’r ymosodiad mwyaf bygythiol gan genedlaetholdeb Prydeinig ar Gymru ers yr arwisgiad. Dyma Jobbins yn taro ergyd yn ôl ar ein rhan.

Fel yn y gyfrol gyntaf, ceir cyfres o erthyglau yn ymdrin â thestunau amrywiol, yn cynnwys pobl hoyw yng Nghymru, dadansoddiad o economi’r wlad yng nghyd-destun annibyniaeth, a Chymru ar y we. Mae yna beryg weithiau i gyfrol sy’n dod ag erthyglau amrywiol

ynghyd ddarllen yn lletchwith, heb linyn arian i’w clymu. Nid felly’r gyfrol hon. Wrth rannu’r erthyglau’n daclus dan bum thema, mae rhesymeg amlwg yn priodi pob adran ynghyd.

Mae hyn yn cael ei atgyfnerthu gan gyflwyniad cynhwysfawr yr awdur ar ddechrau’r gyfrol, yn ogystal â’r ffaith bod pob erthygl yn agor â chyflwyniad byr, sy’n cynnig dealltwriaeth o syniadaeth yr awdur, a’r symbyliad dros roi pen wrth bapur yn y lle cyntaf.

Un enghraifft yw’r erthygl ‘The Day We Stopped Singing God Save the Queen.’ Yma, mae Jobbins yn cofio nôl i’r cyfnod pryd oedd ‘y Cwîn’ i’w chlywed dros uchelseinydd Parc yr Arfau cyn gemau rygbi Cymru.

Mewn erthygl hynod drwyadl, mae’r awdur yn ceisio dod i’r afael

â gwlad a ‘anghofiodd’ eiriau anthem yr ymerodraeth yn sydyn iawn cyn gemau rygbi ond a wrthododd ddatganoli mor llethol.

A hithau’n flwyddyn etholiadau Ewrop, gall aelodau’r Blaid ddysgu sut y llwydodd biwrocratiaid anffasiynol Brwsel achub y gair ‘peint’ ar wydrau cwrw Llŷn. Yn wir, mae gan yr erthyglau i gyd agwedd rhyngwladol, sy’n pwysleisio brawdgarwch cenedlaetholdeb Cymreig o’i gyferbynnu â syniadaeth ynysig Prydeindod.

Efallai nad yw’r gyfrol yn ateb cwestiwn oesol Dafydd Iwan,‘Pam fod eira’n wyn?,’ ond mae’n cynnig naratif a chyfle i ni o leiaf roi cynnig arni!

Atgyfnerthu’n cenedlaetholdebSteffan Lewis yn adolygu The Phenomenon of Welshness II, Siôn Jobbins (Gwasg Carreg Gwalch, £9)

Jill Evans ASE

45 Gelligaled Road, Ystrad, Rhondda, CF41 7RQ

T: 01443 441395 E: [email protected]

jillevans.net

youtube.com/jillevansasemep

twitter.com/jillevansmep

flickr.com/jillevansasemep

Noda’r flwyddyn hon y gyntaf o dair blynedd gyffrous

iawn i Blaid Cymru. Gydag etholiadau Ewropeaidd ym mis Mai, refferendwm yr Alban ym mis Medi eleni, yn ogystal ag etholiadau San Steffan ac etholiadau’r Cynulliad ar y gorwel, mi fydd ddigon i edrych ymlaen ato yn y Gynhadledd Wanwyn.

Cynhelir y Gynhadledd Wanwyn eleni rhwng Mawrth 7-8fed 2014, yng Ngwesty’r Holland House, Caerdydd. Yng nghanol bwrlwm y brifddinas, dyma gyfle arbennig i ddathlu llwyddiannau a gweledigaeth y Blaid.

Bydd gan y cabinet cysgodol ar ei newydd wedd le amlwg yn yr amserlen, yn arwain paneli trafod gydag arbenigwyr ac aelodau llawr gwlad.

Ymysg yr uchafbwyntiau bydd

araith Leanne Wood AC brynhawn Gwener, araith Hywel Williams AS a sesiwn drafod ar y Comisiwn Williams. Bydd etholiad Ewrop wrth galon y digwyddiad, gydag araith ein ASE Jill Evans yn binacl.

I ddathlu Diwrnod Rhyngwladol y Menywod ar Fawrth 8fed, bydd Rhuanedd Richards yn arwain trafodaeth gyda rhai o aelodau benywaidd mwyaf blaenllaw’r Blaid.

Cynhelir cinio’r gynhadledd nos Sadwrn yn y gwesty ei hun. Pris tocyn i aelodau yw £40 o flaen llaw neu £45 yn y Gynhadledd. I archebu tocynnau cysylltwch â Gwenno George ar [email protected] neu ffonio 029 20 475923.

Edrychwn ymlaen at eich gweld chi yno!

Lawr yn y ddinasCynhadledd Wanwyn 2014

Y Ddraig Goch Gwanwyn 2014

Cynhaliwyd cynhadledd lwyddiannus yng Nghorsica ar

Hydref 17eg, gyda’n partneriaid gwleidyddol o fewn Cynghrair Rhydd Ewrop (EFA). Dangosodd y gynhadledd bwysigrwydd cydweithredu ac yn gyfle defnyddiol i ddod i ddeall sefyllfa gwledydd eraill sy’n ceisio annibyniaeth. Llwyddodd y gynhadledd hefyd i dynnu sylw at y ffaith mai pobl ifanc sy’n cael eu taro caletaf yn dilyn y cwymp economaidd, a’r modd y

gall hyn arwain at ddifaterwch gwleidyddol. Pwysleisiodd y gynhadledd bwysigrwydd rôl mudiadau ieuenctid fel Plaid Cymru Ifanc wrth addysgu pobl Cymru am bwysigrwydd ein perthynas ag Ewrop.

Cyn yr etholiadau Ewropeaidd, fe fydd EFAy yn trefnu cyfarfod cyffredinol yn Santiago de Compostela. Rhai o’r pynciau dan sylw fydd pleidlais i bawb yn 16 mlwydd oed, egwyddor sydd wedi

bod wrth galon syniadaeth Plaid Cymru Ifanc ers blynyddoedd am y byddai’n annog cyfranogiad democrataidd pobl ifanc. Ymysg cynigion eraill a drafodir bydd ffracio, y dull dadleuol o echdynnu nwy sy’n gallu achosi effeithiau amgylcheddol trychinebus. Fe fydd y Cyfarfod Cyffredinol hefyd yn helpu i ni lunio ein maniffesto ar gyfer yr etholiad Ewropeaidd ac yn gam pwysig yn y frwydr i ennill ail sedd Ewropeaidd i Blaid Cymru.

Plaid Cymru Ifanc yng Nghorsica

Braf yw cyhoeddi ein bod yn y broses o sefydlu grŵp lleol newydd yn Sir

Gâr. Fel ein grwpiau lleol eraill yng Nghaerdydd, Abertawe, Bangor, ac Aberystwyth, nod y grŵp yw cynnal digwyddiadau a gweithgareddau fydd yn apelio at bobl ifanc y sir, yn enwedig wrth i etholiadau San Steffan 2015 nesáu.

Yn ogystal â’r budd gwleidyddol amlwg, mae grwpiau lleol fel Sir Gâr yn bwysig am eu bod yn cynnig cyfle i oedolion ifanc gyda’r un diddordebau gymdeithasu a rhannu syniadau. Yn

gynnar yn 2014 cynhelir cyfarfod cyntaf y grŵp newydd gyda Jonathan Edwards AS, Rhodri

Glyn Thomas AC a - croesi bysedd - Leanne Wood AC.

Mae diddordeb wedi bod trwy’r sir yn barod, y cyfan sydd angen bellach yw chi! Os ydych chi’n byw yn Sir Gâr ac am

gymryd rhan, cysylltwch drwy Facebook/PlaidCymruIfancSirGar

neu cysylltwch gyda’r cadeirydd lleol, Peter Gillibrand drwy e-bostio, [email protected]

Sefydlu Grwp Lleol yn Sir Gâr

Mae Plaid Cymru Ifanc yn falch iawn o estyn eu

cefnogaeth i’r ymgyrch i gadw Neuadd Pantycelyn, y neuadd breswyl Gymraeg ym Mhrifysgol Aberystwyth, ar agor. Dros y blynyddoedd, mae’r neuadd wedi profi i fod yn gadarnle i genedlaetholdeb a’r iaith Gymraeg, gyda nifer o aelodau mwyaf blaengar y Blaid yn gyn preswylwyr.

Rhanna Plaid Cymru Ifanc ofnau Undeb Myfyrwyr Cymraeg Aberystwyth (UMCA) y byddai cau’r neuadd yn gallu bod yn fygythiad sylweddol i’r gymdeithas Gymraeg hon. Mae

nifer o aelodau ifanc y Blaid o fewn Prifysgol Aberystwyth wedi bod yn weithgar yn eu gwrthwynebiad i’r cynlluniau i gau’r neuadd, gan gymryd rhan mewn protestiadau a mynychu cyfarfodydd er mwyn lleisio eu gwrthwynebiad. Meddai Aled Morgan Hughes, Llywydd cangen Plaid Cymru Ifanc Prifysgol Aberystwyth, “Yma yma Mhrifysgol Aberystwyth, rydym yn falch iawn o frolio un o ganghennau cryfaf Plaid Cymru Ifanc drwy Gymru gyfan. Credaf fod cyfraniad cymdeithas

Pantycelyn yn ffactor ganolog i hyn. Mae 80% o’n haelodau eleni yn breswylwyr neu’n gyn-breswylwyr. Ofnaf yn fawr y byddai cau’r neuadd yn ergyd sylweddol i ni fel mudiad.”

Dilynwch yr ymgyrch drwy ddilyn ei chyfri trydar: @achubPantycelyn

#AchubPantycelyn

Ar yr 28ain o Chwefror 1974 cynhaliwyd y cyntaf o ddau

etholiad cyffredinol y flwyddyn honno. Roedd y canlyniad yn nodweddiadol am sawl rheswm.

Y peth pwysicaf i ni am Chwefror ’74 wrth gwrs oedd ein bod wedi cipio dwy sedd – y seddi cyntaf erioed i ni ennill mewn Etholiad Cyffredinol. Cafodd Dafydd Wigley ei ethol dros Gaernarfon ac fe ddaeth Dafydd Elis-Thomas yn Aelod Seneddol Meirionnydd.

Methodd Gwynfor Evans ag ail ennill Caerfyrddin – a hynny o dair pleidlais yn unig – ond o fewn 8 mis roedd wedi cipio’r sedd yn ôl.

Yng nghinio’r Gynhadledd Wanwyn byddwn yn nodi deugain mlynedd o wasanaeth y ddau Dafydd ers eu hethol yn ’74. Mae’n gyfle hefyd i gofio am yr holl aelodau sydd wedi rhoi cymaint o’u hamser a’u hegni dros yr un cyfnod. Mae gweld rhestr ymgeiswyr etholiad ’74 yn drawiadol ynddo’i hun – Aneurin Richards, Colin Palfrey, Emrys Roberts – ac mae gymaint o bobl eraill wedi gwasanaethu mewn ffyrdd eraill – yn cnocio drysau, dosbarthu taflenni a chodi arian dros ein hachos.

Roedd fy nhad, Phil Richards, ymhlith rheini a rhoddodd gynnig ar sefyll yn enw’r Blaid yn ’74. Ar yr 28ain o Chwefror y flwyddyn honno sicrhaodd 1,586 o bleidleisiau i’r Blaid yng Ngogledd Caerdydd. Mi geisiais i wneud fy rhan yn yr ymgyrch honno hefyd – oriau ar ôl cael fy ngeni, dair wythnos cyn yr

etholiad, mi ymddangosodd lun ohonof gyda rosette y Blaid ar fy siôl yn y South Wales Echo!

A heddiw, yng Nghymru’r 21 ganrif, pan fyddwn yn wynebu’r adegau hynny pan fo ambell frwydr etholiadol yn edrych yn anodd, mae’n rhaid cofio pa mor bell yr ydym wedi dod mewn deugain mlynedd – a’r gwaith sydd wedi ei wneud er mwyn sicrhau fod gennym Gynulliad Cenedlaethol ac aelodau etholedig yn Senedd San Steffan, Senedd Ewrop a’n Senedd ein hunain.

Mae’n rhaid i ni gofio hefyd y cyfleoedd sydd o’n blaenau – ein huchelgais i arwain Cymru ac yn y pendraw sicrhau annibyniaeth ein gwlad. Er mwyn gwneud hynny, mae’n rhaid creu momentwm ac ennill etholiadau – gan gynnwys sicrhau fod Jill Evans yn cael ei hail-ethol i gynrychioli Cymru yn Senedd Ewrop ym mis Mai. Mae’r polau piniwn yn dangos na allwn gymryd ennill y sedd honno yn ganiataol, ond gydag ymgyrch gref ar lawr gwlad a gwaith caled fe allwn gyrraedd y nod!

Gair o Dy GwynforRhuanedd Richards, Prif Weithredwr

40 mlynedd

Croeso mawr i Llywelyn Gruffudd Edwards, mab Jonathan Edwards AS a’i wraig Emma, a brawd bach Abi.

Y Ddraig Goch Gwanwyn 2014

Nabod ein poblLiz Saville Roberts, Ymgeisydd San Steffan Plaid Cymru Dwyfor Meirionydd

Soniwch am eich cefndir

Dwi’n hanu’n wreiddiol o Eltham yn ne-ddwyrain Llundain, ond symudais i Gymru i ddilyn cwrs gradd Astudiaethau Celtaidd yn Aberystwyth, ac yma dwi wedi bod am bron y cyfan o’m bywyd ers hynny. Dwi’n briod â Dewi o Danygrisiau, ac mae gennym efeilliaid 21 oed. Mae Lowri bellach yn astudio yn Aber, tra bod Lisa yn swyddog dan hyfforddiant gyda chwmni llongau masnachol. Rydym yn byw ym Morfa Nefyn ers 1993, gyda chasgliad o anifeiliaid lled ddof. Hyderaf i ddweud fy mod i’n siarad Cymraeg ers bron i 30 mlynedd, er bod acen fwngrel gennyf, braidd – rhyw gyfuniad o Dde Ceredigion, Caergybi a Phen Llŷn, gan adlewyrchu ble dwi wedi byw a gweithio trwy gydol yr amser hwnnw.

Atgof gwleidyddol cyntaf?

Y brotest gyntaf oedd ymweliad â Chomin Greenham yn Rhagfyr 1982 gyda chriw o Goleg Prifysgol Llundain (sy’n debyg o fod yn hynod barchus erbyn rŵan). Fy mhrif atgof yw mwd ymhob man a chael fy mrathu gan gi strae. Gellir cofnodi wedyn ymhél gyda

phrotestiadau gwrth arfau niwclear, streic y glowyr yn 1984-85 a bod yn niwsans ar lawr gwlad gyda Chymdeithas yr Iaith: bywyd myfyriwr digon di-nod yn yr 80au. Pryd y daethoch chi’n aelod o Blaid Cymru?

Dwi wedi bod yn aelod ers bron i 18 mlynedd. Arwyr gwleidyddol?

Constance Markiewicz – y ddynes gyntaf i gael ei hethol i San Steffan ym 1918. Er, oherwydd iddi sefyll dan faner Sinn Fein, ni chymerodd ei sedd erioed. (Ceffylwraig o fri). Yr holl genedlaetholwyr Cymraeg a safodd yn erbyn llif nerthol y farn gyffredin dorfol, gan feiddio dychmygu ac amddiffyn cenedlgarwch a dyngarwch amgen. Goya: arlunydd y ddeunawfed ganrif ym Madrid a fynegai ddicter moesol wrth bortreadu profiadau brawychus dynion a gwragedd cyffredin adeg rhyfeloedd Napolean yn Sbaen. (Nid yw’r grynodeb hon yn dechrau gwneud cyfiawnder â’i waith, ond gellir gwneud yn waeth na dechrau gyda’r Caprichos).

Beth yw eich gobeithion dros Gymru?

Bod pobl Cymru yn bwrw’r negyddiaeth sy’n ein cadw dan yr hatches o hyd. Mae ‘na safbwynt yn perthyn i wleidyddiaeth y lleiafrif sy’n fwyaf cyfforddus wrth feirniadu a dilorni: ond negyddiaeth ddi-ffrwyth, ddihyder ydi hon, sydd mewn gwirionedd yn diogelu gofod i’r sefydliad mwyafrifol barhau i lywodraethu, trwy ymwrthod â meddiannu’r gofod drosom ein hunain. Gellir beirniadu, wrth gwrs, ond rhaid wrth gynnig datrysiad a bod yn barod i wneud penderfyniadau. Diddordebau tu hwnt i’r Blaid?

Ceffylau, cefn gwlad a bod yn yr awyr agored.

Ers sefydlu yng Ngheredigion wledig yn 2001, mae Under The Thatch wedi tyfu i fod yn gwmni pwysig

ym marchnad llogi bythynnod gwyliau ar draws Ewrop. O gerbyd rheilffordd godidog ar lwybr arfordir

Ceredigion i blastai, carafannau sipsi ac ysguboriau, mae pob llety UTT yn brosiect cadwraeth unigryw, fel y byddech yn ei ddisgwyl gan gwmni a sefydlwyd gan Dr Greg Stevenson, hanesydd pensaernïol, awdur a chyflwynydd cyfresi S4C, Y Tŷ Cymreig a’r Dref Gymreig.

Mae Greg wedi cynnig ei gefnogaeth i ymdrech Mike Parker i adennill Ceredigion yn etholiad San Steffan,

drwy gyfrannu 10% o bris unrhyw wyliau gyda Under The Thatch i’r ymgyrch.

Y cyfan sydd angen ei wneud yw bwcio’r gwyliau yn ystod mis Mawrth. Does dim rhaid mynd ar wyliau bryd hynny, dim ond bwcio.

Wedi i chi archebu eich gwyliau, e-bostiwch y cyfeirnod i [email protected], a bydd 10% yn dod i’r Blaid!

Ewch i www.underthethatch.co.uk er mwyn gweld eu bythynnod a’u hargaeledd. Diolch Greg!

Cefnogwch ymgyrch Mike Parker - ewch ar eich gwyliau!