llyfrgell genedlaethol cymru hyn yn argoeli’n dda o safbwynt cyfleoedd newydd i gydweithio. linda...

16
Adolygiad Blynyddol 2015-2016 Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Upload: truongthien

Post on 18-May-2018

213 views

Category:

Documents


0 download

TRANSCRIPT

Adolygiad Blynyddol2015-2016

Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Mae’n fraint enfawr i wasanaethu fel Llywydd y Llyfrgell Genedlaethol ac i gydweithio â’r staff, yr Ymddiriedolwyr a’r gwirfoddolwyr sy’n ymroddedig i sicrhau dyfodol llewyrchus i’r sefydliad cenedlaethol hwn. Er yn newydd i’r swydd ac yn ymwybodol iawn o’r heriau sylweddol sy’n ein hwynebu, mae brwdfrydedd a dyfalbarhad y bobl hyn wedi fy argyhoeddi y gallwn oroesi a datblygu’n rym canolog i ddyfodol y genedl.

Cyhoeddodd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones AC yn ddiweddar bod angen ail ddiffinio’r Deyrnas Unedig mewn termau ffederal gan gydnabod yr amrywiaethau sy’n bodoli a datganoli grymoedd priodol i’r seneddau cenedlaethol. Ond os ydym am weld gwireddu gobeithion y Prif Weinidog am ddyfodol gwleidyddol Cymru o fewn y Deyrnas Unedig, mae angen adeiladu’r genedl. Mae sefydliadau cenedlaethol yn gwbl sylfaenol i’r broses honno. Rhaid cydnabod bod Cymru yn brin o sefydliadau o’r fath ond ymysg y godidocaf ohonynt mae’r Llyfrgell Genedlaethol ac mae’n sefydliad cwbl unigryw.

Gall y Llyfrgell Genedlaethol gyfrannu’n helaeth at adeiladu’r genedl mewn amryfal ffyrdd. Cyflawna’r rôl draddodiadol o gof y genedl a chartref i’r casgliad mwyaf cyfoethog ac amrywiol o ddeunyddiau hanesyddol a chelfyddydol. Gallai’r sefydliad hwn gyflawni cymaint yn fwy. Dyma sefydliad dwyieithog sy’n cael ei weinyddu’n bennaf trwy gyfrwng y Gymraeg ac oddeutu dau gant o Gymry Cymraeg yn cael eu cyflogi ganddo. Gall y Llyfrgell Genedlaethol chwarae rhan ganolog ym mwriad y llywodraeth i greu miliwn o siaradwyr y Gymraeg a gwasanaethau cyhoeddus dwyieithog.

Mae gan y Llyfrgell botensial enfawr i gyfrannu’n addysgiadol. Eisoes mae’n cyfrannu tuag at addysg gydol oes gyda defnyddwyr o bob oed yn manteisio ar y gwasanaethau a gynigir ganddi. Bydd y gwaith blaengar a wnaed wrth ddigideiddio ein deunyddiau yn golygu y bydd mynediad i’r casgliadau yn cael ei ehangu’n sylweddol. Mae digideiddio wedi rhoi troedle inni o fewn Addysg Uwch a’r bwriad yw adeiladu ar hynny mewn partneriaethau gyda phrifysgolion. Yn sicr, sefydliad addysg uwch yw Llyfrgell Genedlaethol Cymru a dylid ei chydnabod felly. Byddwn yn croesawi datblygu strategaeth rymus ar gyfer sefydliadau cenedlaethol. O dderbyn y gydnabyddiaeth a’r gefnogaeth briodol y mae gennym ni’r uchelgais a’r brwdfrydedd i gyfrannu’n allweddol tuag at atgyfnerthu hunaniaeth Cymru mewn byd sy’n newid.

Rhodri Glyn Thomas, Llywydd

1

Mae 2015-2016 wedi bod yn flwyddyn gynhyrchiol iawn a llwyddwyd i wneud gwelliannau sylweddol i systemau gwybodaeth y Llyfrgell ynghyd â chynnal arddangosfeydd a digwyddiadau llwyddiannus fel y brif arddangosfa o fywyd a gwaith y ffotograffydd adnabyddus o Gymru, Philip Jones Griffiths gyda’i luniau o Fietnam a rhyfeloedd eraill, cynhadledd i goffáu canmlwyddiant marwolaeth y Cymro a’r ysgolhaig arbennig Syr John Rhys a nifer o weithgareddau llwyddiannus eraill i dynnu sylw at ‘Flwyddyn Antur’ yng Nghymru.

Dechreuais fel Llyfrgellydd Interim ym mis Tachwedd 2015 a chroesawyd Rhodri Glyn Thomas fel y Llywydd newydd. Dechreuodd ei rôl newydd yn Ebrill 2016 ar ôl iddo ymddeol fel Aelod o’r Cynulliad. Mae sawl aelod o staff wedi gadael y Llyfrgell, nifer ohonynt â gyrfa hir a nodedig, yn cynnwys Avril Jones, Cyfarwyddwraig Casgliadau a Rhaglenni Cyhoeddus. Hefyd, yn ystod y flwyddyn bu farw cyn Lyfrgellydd Cenedlaethol ac un o ysgolheigion mwyaf disglair iaith a llên Cymru yn ein cyfnod, yr Athro Emeritws R. Geraint Gruffydd MA DPhil DLitt FLSW FBA. Estynnwn ein cydymdeimlad dwysaf i’w deulu; y mae hefyd yn golled fawr i Gymru.

Yn ystod y flwyddyn, aeth y Bwrdd Ymddiriedolwyr ati’n syth i weithredu argymhellion adroddiad a gomisiynwyd gan PricewaterhouseCoopers i wella gweithdrefnau llywodraethu a rheoli yn y Llyfrgell ac ystyriwyd effaith y rhaglen ailstrwythuro staff a gynlluniwyd er mwyn i’r Llyfrgell allu sicrhau dyfodol mwy cynaliadwy. Cafodd Cyfeillion Llyfrgell Genedlaethol Cymru flwyddyn brysur iawn ac rydym yn ddiolchgar iawn i aelodau a phawb sydd wedi cefnogi gwaith y Llyfrgell drwy gydol y flwyddyn. Rydym hefyd yn ddiolchgar i Ken Skates, Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth a’i weision sifil am gymorth ariannol parhaus gan Lywodraeth

Cymru ac am gyfrannu’n gadarnhaol i’r drafodaeth ynglŷn â phrif amcanion y Llyfrgell a’i chyfraniad pwysig i fywyd Cymru.

Mae cynnal cyfrifoldebau craidd y Llyfrgell fel Llyfrgell Genedlaethol Cymru’n dal yn her yng nghyd-destun y gostyngiad parhaus mewn cyllid craidd sydd wedi arwain at golli tua 22% o staff mewn 3 blynedd. Mae’r Llyfrgell mewn perygl o fethu â gallu cynnal sgiliau a gallu arbenigol i weithio’n effeithiol. Felly mae croeso mawr i’r rhodd hael gan y Cyfeillion a fydd yn golygu bod 2 gadwraethwr dan hyfforddiant yn gallu dechrau gweithio yma, felly hefyd yr holl roddion i helpu’r Llyfrgell barhau â’i gwaith i bobl Cymru. Mae ymroddiad ac ymrwymiad staff y Llyfrgell, a’i gwirfoddolwyr, yn ysbrydoliaeth barhaus i mi ac rwy’n gwerthfawrogi’n fawr gyfraniad unigol pob unigolyn waeth beth fo’u rôl.

Parhaodd yr ymdrech i godi ymwybyddiaeth o waith y Llyfrgell a chynyddu mynediad at ei chasgliadau i fod yn flaenoriaeth yn ystod y flwyddyn ac mae’r cyfraniad a wnaed gan y Llyfrgell i Raglen Cyfuno: Trechu tlodi trwy ddiwylliant LlC, Llwyfan Hwb i ysgolion a rhaglen Cymru’n Cofio 1914-1918 yn tanlinellu’r amrywiaeth o weithgareddau a gefnogwyd. Ar ddiwedd y flwyddyn, croesawyd Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru i swyddfeydd newydd yn y Llyfrgell. Mae hyn yn argoeli’n dda o safbwynt cyfleoedd newydd i gydweithio.

Linda Tomos, Llyfrgellydd Cenedlaethol

2

Ym mis Gorffennaf 2016, derbyniodd y Llyfrgell Achrediad Gwasanaeth Archifau, cynllun safonau a weithredir drwy’r DU. Canfu Panel Achredu’r Gwasanaeth Archifau:

“Fod yr achrediad yn gydnabyddiaeth sylweddol o’r ffordd y mae’r Llyfrgell yn llwyddo i warchod treftadaeth archifol gyfoethog Cymru a sicrhau mynediad i’r archif honno. Mae’r achrediad hefyd yn adlewyrchu sgiliau a gofal ei gweithlu ymroddedig.”

Mae’r Llyfrgell yn falch iawn o’i rôl arweinyddiaeth yn datblygu Llyfrgell Ddigidol Genedlaethol Cymru mewn partneriaeth â llyfrgelloedd eraill yng Nghymru. Lansiwyd Llyfrgell Ddigidol Genedlaethol Cymru ym Mawrth 2016 ac mae cynlluniau cyffrous i ddatblygu gwasanaethau a chynnwys digidol ar gyfer aelodau llyfrgelloedd Cymru gan gynnwys adnoddau hanes teulu, e-lyfrau ac e-gylchgronau, papurau newydd a deunydd cyfeirio cyffredinol. Mae’r gwasanaeth ‘Dod o hyd i lyfr’ yn chwilio holl gatalogau llyfrgelloedd yng Nghymru drwy un chwiliad.

Cynhaliwyd cynhadledd ar Gadwedigaeth Ddigidol yn y Llyfrgell ar 25 Chwefror 2016 i drafod agweddau strategol cadwedigaeth ddigidol, yn cynnwys polisïau ac integreiddio â systemau eraill. Mae hon yn flaenoriaeth bwysig i waith strategol y Llyfrgell. Mae polisi cadwedigaeth ddigidol cenedlaethol yn cael

ei ddatblygu a fydd yn darparu fframwaith i sefydliadau drwy Gymru. Mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi cyllid ychwanegol i ddatblygu’r gwaith hwn yn ystod 2016-2017.

Llwyddwyd i weithredu gwelliannau o bwys i systemau yn ystod y flwyddyn yn cynnwys system rheoli llyfrgelloedd Cymru ar gyfer llyfrgelloedd addysg uwch a ddatblygwyd gyda Fforwm Llyfrgelloedd Addysg Uwch Cymru a llyfrgelloedd y GIG a oedd hefyd yn cynnwys system benodedig ar gyfer casgliadau archifau’r Llyfrgell. Bydd y system hon yn helpu’r broses barhaus i symleiddio’r gwaith o reoli cyfres gymhleth o systemau gwybodaeth sydd wedi eu datblygu dros sawl blwyddyn yn y Llyfrgell a chyfnewid gwybodaeth gyda llyfrgelloedd eraill. Cyfeiriwyd at y prosiect fel ‘Tîm Llyfrgell Arbennig’ yng Ngwobrau Rheoli ac Arweinyddiaeth Addysg Uwch blynyddol y Times (THELMA) sy’n uchafbwynt y calendr academaidd ac yn dathlu’r gorau yn y sector Addysg Uwch.

Datblygiad strategol pwysig oedd y cytundeb ym Mawrth 2016 gan y Cyd Bwyllgor ar Adnau Cyfreithiol o gyhoeddwyr a llyfrgelloedd hawlfraint y DU y gallai’r Llyfrgell ddarparu mynediad at ei chasgliadau digidol ar ail safle, am y tro cyntaf yn ei hanes, mewn adeilad a rentir gan Brifysgol Caerdydd.

Diogelu ein Treftadaeth

“Fod yr achrediad yn gydnabyddiaeth sylweddol o’r ffordd y mae’r Llyfrgell yn llwyddo ...”

3

Yr Oxyrhynchus Papyri – dernynnau o bapyrws sy’n cynnwys manylion am fywyd bob dydd yn yr Aifft yn dyddio o 113 OC hyd at y 4edd ganrif – yw’r eitem gynharaf a gedwir yn y Llyfrgell Genedlaethol, sy’n gartref i 2,500 o gasgliadau archifau a 40,000 o lawysgrifau.

Mae papurau Lloyd George ymysg y cofnodion a gedwir yn yr archif wleidyddol, tra bod y Llyfrgell hefyd yn gartref i archifau personol rhai o gewri llenyddol Cymru, yn cynnwys Dylan Thomas a’r dramodydd Saunders Lewis.

Mae Casgliad Peniarth yn cynnwys llawysgrif gynnar a phwysig o The Canterbury Tales gan Chaucer, yn ogystal â Llyfr Du Caerfyrddin, y llawysgrif gynharaf yn yr iaith Gymraeg, a Brut y Tywysogion, y cofnod cynharaf o hanes Cymru. Fe’i hychwanegwyd i Gofrestr UNESCO o Gof y Byd yn 2010.

Parhaodd y gwaith pwysig o ddigido eitemau o blith y 6.5 miliwn a gedwir yn y Llyfrgell ar ran pobl Cymru. Bellach mae modd gweld gwybodaeth fanylach ar gopïau digidol o lawysgrifau hanesyddol y Llyfrgell. Mae trysorau diwylliannol fel Cyfreithiau Hywel Dda, system o gyfraith frodorol Gymreig a gyfundrefnwyd gan Hywel Dda (c.880 - 950), ymysg yr eitemau yng nghasgliad memrwn y Llyfrgell.

Mae 400,000 o dudalennau ychwanegol, yn cynnwys teitlau newydd, wedi eu hychwanegu at y 15 miliwn o erthyglau o fwy na 120 o deitlau papurau newydd a gyhoeddwyd yng Nghymru rhwng 1804

a 1919 ar gael i’w darllen am ddim ar wefan Papurau Newydd Ar-lein Cymru ar ei newydd wedd. Gall defnyddwyr bori yn ôl delweddau megis cartwnau, graffiau, mapiau neu ffotograffau a gallant gysylltu erthyglau â’r bywgraffiadur ar-lein, Wicipedia.

Mae digwyddiadau pwysig megis gwrthryfel y Siartwyr yn 1839 a Diwygiad 1904-1905

ymhlith y straeon sy’n cael sylw, gydag adroddiadau manwl am y Rhyfel Mawr (1914-1918). Mae manylion bywyd bob dydd hefyd yn cael eu cofnodi, o oedfaon capel i gyngherddau, eisteddfodau a gemau chwaraeon.

Ar Ddydd Gŵyl Dewi, roedd 300 o fapiau hanesyddol ar gael ar wefan y Llyfrgell. Mae adran newydd sbon bellach yn benodol ar gyfer mapiau hanesyddol sydd wedi eu digido. Dangosir mapiau fel ‘Prima Europe Tabula’ Ptolemy - y map hynaf yn ein casgliad, y map cynharaf i oroesi o Gymru, ‘Cambriae Typus’ (1573) Humphrey Llwyd, map prawf Christopher Saxton o Gymru (1580), cyfres lawn o fapiau sirol a morwrol o Gymru o’r 16eg a’r 17eg ganrif. Mae’r adran hefyd yn darparu mynediad ar-lein am y tro cyntaf i dros 200 o fapiau ystadau drwy Gymru. Mae gan y Llyfrgell 1.5 miliwn o fapiau, cynlluniau a siartiau, un o’r casgliadau mwyaf yn y byd.

Yn Ionawr 2016, cafodd y Llyfrgell y fraint o arddangos y Llyfr Cofio Cenedlaethol am y tro cyntaf y tu allan i Gaerdydd. Mae’r llyfr yma sydd wedi ei ysgrifennu â llaw yn cynnwys enwau dros 35,000 o bobl a laddwyd yn y Rhyfel Mawr, yn cynnwys Preifat Trevor Lewis a oedd yn llyfrgellydd dan hyfforddiant yn y Llyfrgell. Mae’r Llyfrgell yn digido’r Llyfr fel rhan o brosiect Cymru dros Heddwch sy’n cael ei ariannu gan Gronfa Treftadaeth y Loteri fel y gall pobl ddod o hyd i’w perthnasau eu hunain a darganfod eu straeon.

Gweddnewid mynediad

15 miliwn o erthyglau o 120 o bapurau newydd ar gael arlein!

4

Adeiladu i’r dyfodol

Datblygiadau newydd ar gyfer partneriaeth newydd – Y Comisiwn Brenhinol

Ym Medi 2015, ymunodd Ken Skates, Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth â staff ac ymddiriedolwyr y Llyfrgell i ailagor yn swyddogol ran o’r trydydd adeilad ar ôl y tân yn Ebrill 2013 a wnaeth ddifrod difrifol i 6 llawr yn y rhan hon o safle’r Llyfrgell. Gyda chymorth ariannol o £2.5m gan Lywodraeth Cymru, cwblhaodd y Llyfrgell raglen drwsio helaeth. Atgoffwyd pawb gan ddigwyddiad y tân mor bwysig yw gwarchod cof Cymru drwy gasgliadau llyfrau, llawysgrifau, mapiau, ffotograffau a chelf weledol amhrisiadwy’r Llyfrgell.

Ar ddiwedd y flwyddyn hefyd bu datblygiad newydd wrth i’r gwaith o greu swyddfeydd newydd a chyfleusterau cadw arbenigol gael ei gwblhau ar gyfer Comisiwn Bren-hinol Henebion Cymru. Roedd hwn yn brosiect cyfalaf pwysig gwerth £3.5 miliwn a gwblhawyd yn brydlon ac yn unol â’r gyllideb gan reolwyr y Llyfrgell.

5

Mae’r Llyfrgell wedi parhau i ganolbwyntio ar ehangu ei gwasanaethau i gynulleidfaoedd newydd yn ystod y flwyddyn yn cynnwys cyfraniad o bwys i weithgareddau yn y 7 Ardal Arloesi o dan y Rhaglen Cyfuno: Trechu tlodi trwy ddiwylliant. Roedd hyn yn cynnwys y rhaglen Dosbarth Celf hynod o lwyddiannus lle eir ag un o drysorau’r Llyfrgell i ysgol mewn ardal wedi’i thargedu i ysgogi disgyblion.

Mae Prosiect Cynefin yn digido holl fapiau degwm Cymru o 1837. Mae’n brosiect cydweithredol pwysig gyda gwasanaethau archifau awdurdodau lleol Cymru. Mae’r testun cysylltiedig, sef 27,000 o dudalennau, sy’n cynnwys enwau caeau, perchnogion a thenantiaid, yn ffynhonnell bwysig o wybodaeth hanesyddol ar gyfer y cyfnod. Mae Cynefin wedi recriwtio dros 700 o wirfoddolwyr, nifer ohonynt yn wirfoddolwyr digidol, i gofnodi’r mapiau. Mae gallu ymuno â’r gymuned rithiol wedi helpu nifer o unigolion sy’n aml wedi eu cyfyngu

i’w cartrefi i gyfrannu ac ymuno mewn gweithgaredd gwerth chweil. Mae’r prosiect wedi ennill gwobr farchnata digidol ac rydym yn bwriadu defnyddio’r dull arloesol hwn ar gyfer prosiectau digidol yn y dyfodol.

Yn ystod y flwyddyn bu Gwasanaeth Addysg y Llyfrgell yn gweithio gyda 1,092 o ddysgwyr. Daeth 847 o’r rhain i adeilad y Llyfrgell fel rhan o 26 ymweliad, tra bod 245 o ddefnyddwyr wedi gweithio gyda ni yn ystod 10 ymweliad allanol. Roedd y gwaith hwn yn amrywio o weithdai wedi eu seilio ar themâu’r cwricwlwm, gweithio gydag eitemau gwreiddiol, myfyrwyr prifysgol yn ymweld fel grwpiau i weithio gyda’r casgliadau a myfyrwyr y Fagloriaeth Gymreig.

Ceisio cynulleidfaoedd newydd

Defnyddio diwylliant i drechu tlodi

6

Mae’r Gwasanaeth Addysg wedi helpu i ddatblygu’r Porth Creadigol ar lwyfan digidol Hwb, a oedd yn un o’r argymhellion yn adroddiad yr Athro Dai Smith ‘Celfyddydau mewn Addysg yn Ysgolion Cymru’. Mae’r gwasanaeth wedi helpu Llywodraeth Cymru i ddatblygu cynnwys ar gyfer y porth cyn ei lansio ym Mawrth 2016 ac mae wedi cefnogi gweithgareddau addysgol Grŵp Dysgu’r Rhaglen Cyfuno.

Ym mis Tachwedd 2015, lansiodd y Gweinidog Addysg a Sgiliau adnodd dysgu digidol arloesol, sef ap Cymru yn y Rhyfel ar gyfer ysgolion, a gynhyrchwyd gan y Llyfrgell mewn partneriaeth. Erbyn Mawrth 2016, llwyddodd Prosiect Addysg y Rhyfel Mawr, a ddarparwyd mewn partneriaeth ag Amgueddfa Cymru-National Museum

Wales ac a ariannwyd gan Adran Addysg a Sgiliau Llywodraeth Cymru, i gwblhau adnoddau dysgu digidol a gomisiynwyd ar gyfer llwyfan Hwb. Mae’r rhain ymysg y rhai mwyaf poblogaidd ar y llwyfan dysgu.

Cymunedau dysgu

Coffáu’r Rhyfel Byd Cyntaf - creu deunydd addysgiadol

7

Parhaodd cysylltiadau’r Llyfrgell â Wicimedia i ddatblygu’n gadarnhaol iawn yn ystod y flwyddyn. Caiff eitemau digidol o gasgliadau’r Llyfrgell eu gweld yn gyson dros 12 miliwn o weithiau’r mis. Mae nifer o synergeddau, yn cynnwys cysylltiadau â’r Bywgraffiadur Cymreig ar-lein a gynhelir ar y cyd â’r Ganolfan Uwch Efrydiau Cymreig a Cheltaidd, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant. Cynhaliwyd sawl golygathon, yn cynnwys yr Olygathon Gelf a Ffeminyddiaeth gyntaf yn y DU. Roedd yr Olygathon Gelf a Ffeminyddiaeth yn rhan o ddigwyddiad byd-eang i gau’r bwlch rhwng y ddau ryw ar Wicipedia a chreu neu wella erthyglau ar bynciau’n gysylltiedig â chelf a ffeminyddiaeth.

Mae’r Llyfrgell yn darparu rhaglen Casgliad y Werin i gefnogi sgiliau digidol drwy ymwneud â diwylliant a hanes fel partneriaeth wedi ei ffederaleiddio gydag Amgueddfa Cymru- National Museum Wales a Chomisiwn Brenhinol Henebion Cymru. Bu i raglen Casgliad y Werin gynnal

sesiynau hyfforddiant yn ystod y flwyddyn i gyfanswm o 383 o unigolion. Hefyd cofrestrodd 100 i gwblhau uned credyd Agored Cymru (Lefel 2) ar ddigido deunydd diwylliannol. Darparodd Casgliad y Werin fewnbwn sylweddol i weithgareddau yn y 7 Ardal Arloesi ar gyfer Rhaglen Cyfuno yn cynnwys sefydlu Gorsafoedd Treftadaeth Ddigidol a darparu hyfforddiant. Hefyd gwnaeth rhaglen Casgliad y Werin gyfraniad mawr tuag at sawl prosiect digidol yn cynnwys Cymru’n Cofio 1914-1918, Prosiect Cymru dros Heddwch, Prosiect Frongoch gyda Llywodraeth Iwerddon a’r Lle Hanes yn yr Eisteddfod Genedlaethol.

Gweithio mewn partneriaeth

O achredu i Wicimedia

8

Arddangosfeydd SHANI RHYS JAMESDistillation: 40 mlynedd o beintioYr arddangosfa fwyaf a mwyaf cynhwysfawr yn dangos holl ystod gwaith Shani Rhys James, sydd wedi byw a gweithio yng Nghymru ers 30 mlynedd.

LLENOR A LLEIDRSyr Siôn Prys a’r llyfrau Cymraeg cyntafSyr Siôn Prys oedd un o Ddyneiddwyr pennaf Cymru. Casglodd lyfrgell bersonol ragorol o lyfrau print a llawysgrifau, gan gynnwys Llyfr Du Caerfyrddin, y llawysgrif Gymraeg hynaf. Roedd yr arddangosfa hon yn edrych ar fywyd a gwaith y “Dyn Tuduraidd” rhyfeddol hwn, ac yn ceisio cysoni ei ddiwylliant â’i waith cythryblus o erlyn hereticiaid, diddymu mynachlogydd, a phlesio ei feistri caled, Thomas Cromwell a Harri VIII.

PHILIP JONES GRIFFITHSFfocws Cymreig ar Ryfel a Heddwch

Arddangosfa a oedd yn dathlu bywyd a gwaith un o ffotograffwyr dogfen pwysicaf y cyfnod diweddar, Philip Jones Griffiths. Trwy gyfrwng gweithiau gwreiddiol a deunydd o’i archif bersonol rydym wedi llwyddo i greu teyrnged fywgraffyddol i Gymro, athrylith a ffotograffydd a ddefnyddiodd ei gamera i roi llais i’r gorthrymedig.

SWYN Y STORÏWR Canmlwyddiant T. Llew JonesDathliad o fywyd a gwaith T. Llew Jones, un o awduron amlycaf a mwyaf poblogaidd Cymru. Trwy ei nofelau i blant yn ogystal â’i gerddi, mae cenedlaethau o blant ac oedolion fel ei gilydd wedi cael eu swyno gan y llenor arbennig hwn.

GWLADFA Arddangosfa oedd yn dathlu 150 mlynedd ers i’r Cymry cyntaf deithio ar y Mimosa i’w bywyd newydd ym Mhatagonia. Roedd yr arddangosfa’n dilyn taith yr ymfudwyr cyntaf o’r paratoadau cychwynnol i’r glaniad ym Mhorth Madryn yn 1865, gan edrych ar y blynyddoedd cyntaf hynny ar y paith a dathlu’r berthynas sy’n dal i fodoli rhwng Cymru a’r Wladfa.

9

‘DIRGEL FFYRDD NATUR’Robert Hooke a Gwyddoniaeth GynnarRoedd yr arddangosfa hon yn nodi 350 o flynyddoedd ers cyhoeddi’r best-seller gwyddonol cyntaf, Micrographia gan Robert Hooke, un o ffigurau blaenllaw’r Chwyldro Gwyddonol.

YSBRYDOLI’R YMDRECH Printiau’r Rhyfel Byd Cyntaf Arddangosfa deithiol o Amgueddfa Genedlaethol Cymru – National Museum Wales o’r 66 gwaith ym mhortffolio printiau 1917, The Great War: Britain’s Efforts and Ideals, sy’n cynnwys cyfraniadau gan rai o artistiaid Prydeinig enwocaf y cyfnod, megis Augustus John, Frank Brangwyn, William Rothenstein a C. R. W. Nevinson. Gyda’r nod o ysbrydoli’r cyhoedd oedd wedi cael digon ar ryfela, ac ailgynnau fflam yr ymdrech, dangosa’r printiau hyn gamau cynnar propaganda gwleidyddol modern.

GEIRIAU’R GYFLAFAN Rhyfel Mewn Llenyddiaeth Gymreig Trwy’r canrifoedd mae beirdd a llenorion Cymru wedi portreadu’r profiad o ryfela, gan ddathlu buddugoliaeth neu alaru wedi methiant. Roedd yr arddangosfa hon yn canolbwyntio ar bedair cyflafan hanesyddol - mawr a bach - rhwng y chweched ganrif a’r ail ganrif ar bymtheg.

Dangoswyd geiriau artistiaid megis Aneirin a David Jones, Bleddyn Fardd a Gerallt Lloyd Owen, ochr yn ochr â thystiolaeth croniclwyr, rhai yn gyfoes ac eraill yn ôl-syllol.

COFIO DROS HEDDWCH Cyfle prin i weld Llyfr Cofio Cenedlaethol Cymru ochr yn ochr â’r copi digidol. Roedd yr arddangosfa hon yn edrych ar effaith y Rhyfel Mawr ar Gymru ac yn cyflwyno hanes rhai o’r milwyr hynny a gollodd eu bywydau yn y Rhyfel gan gynnwys dau aelod o staff y Llyfrgell hon.

O BEN Y PWLL I’R YSBYTY A THU HWNT Arddangosfa ar y cyd ag Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe, oedd yn edrych ar hanes cudd anabledd ym Meysydd Glo Prydain rhwng 1780 ac 1948 a chyn dyfodiad y GIG. Gan edrych ar ymchwil hanesyddol newydd mae’r arddangosfa hon yn gofyn cwestiynau megis: Sut oedd pobl anabl yn cael eu trin a’u gweld mewn cymunedau glofaol yn y cyfnod hwn, sut fywydau oedd ganddynt a beth mae hanes anabledd ym maes glo’r de yn ei ddysgu i ni?

ANTUR AR BOB TUDALEN Arddangosfa oedd yn mynd â chi ar antur i Fyd y Llyfr yng nghwmni rhai o gymeriadau mwyaf anturus llenyddiaeth.

10

11

Dinefwr – A Phoenix in Wales Gerald Morgan(traddodwyd gan Enid a Gerald Morgan)

Snowdonia Houses in context Richard Suggett

Cyfeillion – From Abertawe to Philadelphia: The Journey of a Medieval Welsh manuscript Ben Guy

The Black Book of Carmarthen: minding the gaps yr Athro Paul Russell a Ms Myriah Williams, Prifysgol Caergrawnt

Life and the cosmos: four centuries of the expanding horizons yr Arglwydd Rees o Lwydlo

Thomas Pennant: the leading British zoologist after Ray and before Darwin Dr Paul Evans

‘Y danbaid fendigaid Ann’Sian Meinir yn dehongli emynau Ann Griffiths

Letters between Merthyr Tydfil and the World: The Thomas Stephens Correspondence at the Library Dr Adam Coward

Darlith Flynyddol yr Archif Wleidyddol GymreigJeremy Bowen (Gohebydd y BBC ar y Dwyrain Canol)

LENS: Gŵyl Ffotograffiaeth 2015 Philip Jones Griffiths

Cyfeillion – A constant succession of workers: the early readers of the NLW and their reading habits Calista Williams, Rosemary Thomas, Nan Williams a Daniel Morgan

Sesiynau yn Y Drwm

12

Diolch i Lywodraeth Cymru a phawb sydd wedi ein cefnogi’n ariannol ac wedi rhoi’n wirfoddol o’u hamser a’u sgiliau yn 2015-16. Mae eich haelioni wedi ein helpu i weithio tuag at ein gweledigaeth o wybodaeth i bawb, drwy gasglu a gwarchod casgliadau’r wlad a sicrhau eu bod ar gael i’r cyhoedd. Gyda’n gilydd gallwn wneud yn siŵr fod ein treftadaeth yn cael ei sicrhau i genedlaethau’r dyfodol. Ein diolch arbennig i:

Aelodau PenodauNoddwyr UnigolDan Clayton-Jones Ysw., Pontyclun Yr Athro Neil McIntyre, LlundainDr Robin Gwyndaf, CaerdyddDr J. H. Jones, RugbyMrs Patricia J. Evans, CaerdyddYr Athro Aled Gruffydd Jones, AberystwythArglwydd Aberdâr DL, LlundainMrs Elizabeth Loyn, AberystwythMr Peter Loxdale, LlanilarMrs Dianne Bishton, TywynMr Chris Yewlett, CaerdyddMr Peter Walters Davies, AberystwythSyr Deian Hopkin, Llundainac eraill sy’n dymuno bod yn anhysbys..

Noddwyr ar y CydDr David a Mrs Pamela Selwyn, Llanelli Ei Anrhydedd Humphrey Lloyd QC a Mrs Ann Lloyd, Surrey Dr W. J. C. a Dr B. A. Roberts, AberystwythMr John a Mrs Susan Gail Withey, Caerdyddac eraill sy’n dymuno bod yn anhysbys.

Aelodau CorfforaetholCastell Howell Foods Cyf

Ymddiriedolaethau a Sefydliadau Cronfa’r Loteri Fawr Sefydliad ScottishPowerSefydliad Ffilmiau Prydeinig Cronfa Cyfamod Cymunedol y Lluoedd Arfog Cronfa Dreftadaeth y Loteri

Cymdeithas Cyfeillion John Dilwyn Williams Cadeirydd, Cymdeithas Cyfeillion a’i gyd-aelodau

CymynroddionMr Lindsay MobleyMr G. W. PowellMiss Eunice J. Banks

Llys Llywodraethwyr 1916

Ein Diolch

13

Rhif

elus

en g

ofre

stre

dig:

525

775

Mae sicrhau bod diwylliant a threftadaeth y wlad yn cael eu gwarchod ar gyfer cenedlaethau’r presennol a’r dyfodol yn greiddiol i’r hyn y safwn drosto. Rydym yn parhau i weithio tuag at ddarparu ein Hamcanion Elusennol i gasglu, gwarchod a rhoi mynediad at wybodaeth gofnodedig o bob math a ffurf, yn arbennig yn ymwneud â Chymru, y Cymry a phobl Geltaidd eraill, er budd y cyhoedd yn cynnwys y rhai sy’n ymchwilio a dysgu.

Rydym yn chwilio am ddulliau arloesol i gyrraedd ac ymgysylltu â chynulleidfaoedd newydd, gan roi cyfleoedd i unigolion mewn cymunedau ar hyd a lled Cymru gael mynediad at ein gwasanaethau a’n casgliadau. Mae ein Tîm Addysg yn parhau i ehangu mynediad i’r Llyfrgell, gan weithio’n agos gydag ysgolion, colegau a phrifysgolion i gynnig cyfleoedd dysgu i blant a phobl ifanc, gan Drechu Tlodi trwy Ddiwylliant.

Rydym yn datblygu sgiliau, arbenigedd ac isadeiledd o fewn y sector treftadaeth ddiwylliannol yng Nghymru ac yn datblygu sgiliau ar gyfer cyflogaeth, datblygiad personol a gyrfa drwy wirfoddoli.

Byddwn yn parhau i ddarparu mynediad at gasgliadau’r Llyfrgell am ddim i helpu’r rhai sydd mewn angen mwyaf.

Adeiladwyd Llyfrgell Genedlaethol Cymru drwy haelioni rhoddion gan unigolion a gyda’ch cefnogaeth hael gallwn ddarparu gofal parhaol am gasgliadau’r wlad a rhoi

mynediad i genedlaethau’r presennol a’r dyfodol.

Ewch i www.llgc.org.uk i wneud rhodd. Dyma rai o’r dulliau eraill y gallwch helpu:

Rhoddion mewn Ewyllysiau:Gadewch rodd i Lyfrgell Genedlaethol Cymru yn eich ewyllys a gadewch etifeddiaeth barhaol i’r wlad. Gall hyd yn oed y rhodd leiaf wneud gwahaniaeth gwirioneddol, felly os yw Llyfrgell Genedlaethol Cymru wedi bod yn bwysig i chi ac os ydych yn rhannu ein gwerthoedd, cofiwch amdanom. I drafod gadael cymynrodd ffoniwch Rhian ar 01970 632938.

Rhoi’r gair ar led:Dilynwch ni ar Twitter, Facebook, Instagram, Youtube a Flickr, tanysgrifiwch i’n blog a rhannwch ein straeon i godi ymwybyddiaeth o’n casgliadau.

Gwirfoddoli:Rydym yn awyddus iawn i agor ein drysau a chroesawu gwirfoddolwyr i’r Llyfrgell. Am fwy o wybodaeth ynglŷn â chyfleoedd i wirfoddoli yn y Llyfrgell ewch i www.llgc.org.uk

Am fwy o wybodaeth ynglŷn â chefnogi Llyfrgell Genedlaethol Cymru a’n gwaith ffoniwch 01970 632933 neu ewch i www.llgc.org.uk

Bwrdd LLGC 2016 (mae Hugh Thomas, Huw Williams, Dyfrig Jones a Michael Trickey yn absennol o’r llun)

Edrych tua’r Dyfodol

14

15