actor o fri! · 2020. 9. 20. · yn y diwedd maent yn sylweddoli bod rhaid iddynt gydweithio os am...

16
PAPUR BRO LLANGADFAN, LLANERFYL, FOEL, LLANFAIR CAEREINION, ADFA, CEFNCOCH, LLWYDIARTH, LLANGYNYW, CWMGOLAU, DOLANOG, RHIWHIRIAETH, PONTROBERT, MEIFOD, TREFALDWYN A’R TRALLWM. 458 458 458 458 458 Awst / Medi 2020 Awst / Medi 2020 Awst / Medi 2020 Awst / Medi 2020 Awst / Medi 2020 80c Actor o fri! Dyma lun o Tudor Lewis, Dolymelinau, Tregynon yn derbyn cwpan arian gan Rich- ard Jones, Wernddu, Aberhafesp. Enillodd Tu- dor y cwpan am yr Actor H~n Gorau yng nghystadleuaeth Dramâu y Ffermwyr Ifanc yn ôl ym mis Chwefror. Mae Tudor yn fab i Jennifer a David ac yn @yr i Roy a Mai Richards, Maenllengen, Adfa. ‘BRENIN Y TRENYRS’ Dyma lun o Pryderi Jones yn edrych yn falch iawn wrth afael mewn copi o’i gyfrol gyntaf ‘Brenin y Trenyrs’. Rhaid sôn hefyd am Huw Richards, ei gyfaill, sydd wedi gwneud y gwaith celf ar gyfer y llyfr. Mae’r Plu wedi bod yn ddigon ffodus o gael cyfweliad gyda Pryderi ar dudalen 11 y papur. Be’ mae Hywel wedi fwyta?? Beth sydd wedi achosi iddo dagu? Ateb ar dudalen 16 Eirlys a’i merch-yng-nghyfraith Louise sydd gyda’i darpar ferch-yng-nghyfraith, Grace! Dros gyfnod y ‘clo’ bu criw y Cwpan Pinc yn hynod o brysur. Tra roedd llawer o fusnesau wedi cloi eu drysau - roedd newidiadau mawr ar droed yn Llangadfan. Gweledigaeth criw prysur y Cwpan Pinc oedd cael agor siop bentre a swyddfa bost yn yr hen garej drws nesa i’r caffi enwog. Yn wir i chi ar ddydd Sadwrn 17eg o Orffennaf fe agorwyd ‘Siop y Pentre’ yn swyddogol. Mae’r trawsnewidiad yn rhyfeddol ac yn werthfawr iawn i’n cymuned. Maent wrthi ar hyn o bryd yn ail- wneud y caffi hefyd. Hoffai Eirlys a Louise ddiolch yn fawr iawn i bawb am eu cefnogaeth yn ystod y cyfnod anodd diweddar a bydd croeso cynnes iawn i ffrindiau hen a newydd yn fuan iawn. Rhyfeddod yn yr awyr Diolch i Bethan, Tymawr am y llun uchod o’r rhyfeddod a welodd tua 9 o’r gloch yr hwyr nos Sadwrn y 25ain uwchben Penffordd.

Upload: others

Post on 05-Mar-2021

0 views

Category:

Documents


0 download

TRANSCRIPT

Page 1: Actor o fri! · 2020. 9. 20. · yn y diwedd maent yn sylweddoli bod rhaid iddynt gydweithio os am lwyddo – ond y cymeriad Quint yw’r ffefryn ynde! Mae gan bob oes ei stori moesoldeb

PAPUR BRO LLANGADFAN, LLANERFYL, FOEL, LLANFAIR CAEREINION, ADFA, CEFNCOCH, LLWYDIARTH, LLANGYNYW,CWMGOLAU, DOLANOG, RHIWHIRIAETH, PONTROBERT, MEIFOD, TREFALDWYN A’R TRALLWM.

458458458458458 Awst / Medi 2020Awst / Medi 2020Awst / Medi 2020Awst / Medi 2020Awst / Medi 2020 8888800000ccccc

Actor o fri!

Dyma lun o Tudor Lewis, Dolymelinau,Tregynon yn derbyn cwpan arian gan Rich-ard Jones, Wernddu, Aberhafesp. Enillodd Tu-dor y cwpan am yr Actor H~n Gorau yngnghystadleuaeth Dramâu y Ffermwyr Ifanc ynôl ym mis Chwefror. Mae Tudor yn fab iJennifer a David ac yn @yr i Roy a MaiRichards, Maenllengen, Adfa.

‘BRENIN Y TRENYRS’

Dyma lun o Pryderi Jones yn edrych yn falchiawn wrth afael mewn copi o’i gyfrol gyntaf‘Brenin y Trenyrs’. Rhaid sôn hefyd am HuwRichards, ei gyfaill, sydd wedi gwneud ygwaith celf ar gyfer y llyfr. Mae’r Plu wedi bodyn ddigon ffodus o gael cyfweliad gyda Pryderiar dudalen 11 y papur.

Be’ mae Hywel wedi fwyta??

Beth sydd wedi achosi iddo dagu?Ateb ar dudalen 16

Eirlys a’i merch-yng-nghyfraith Louise sydd gyda’i darpar ferch-yng-nghyfraith, Grace!

Dros gyfnod y ‘clo’ bu criw y Cwpan Pinc ynhynod o brysur. Tra roedd llawer o fusnesauwedi cloi eu drysau - roedd newidiadau mawrar droed yn Llangadfan. Gweledigaeth criwprysur y Cwpan Pinc oedd cael agor siopbentre a swyddfa bost yn yr hen garej drwsnesa i’r caffi enwog. Yn wir i chi ar ddyddSadwrn 17eg o Orffennaf fe agorwyd ‘Siop y

Pentre’ yn swyddogol. Mae’r trawsnewidiadyn rhyfeddol ac yn werthfawr iawn i’ncymuned. Maent wrthi ar hyn o bryd yn ail-wneud y caffi hefyd.Hoffai Eirlys a Louise ddiolch yn fawr iawn ibawb am eu cefnogaeth yn ystod y cyfnodanodd diweddar a bydd croeso cynnes iawn iffrindiau hen a newydd yn fuan iawn.

Rhyfeddod yn yr awyr

Diolch i Bethan, Tymawr am y llun uchod o’rrhyfeddod a welodd tua 9 o’r gloch yr hwyrnos Sadwrn y 25ain uwchben Penffordd.

Page 2: Actor o fri! · 2020. 9. 20. · yn y diwedd maent yn sylweddoli bod rhaid iddynt gydweithio os am lwyddo – ond y cymeriad Quint yw’r ffefryn ynde! Mae gan bob oes ei stori moesoldeb

22222 Plu’r Gweunydd, Awst/Medi 2020

DYDDIADURMedi 11 Sioe Ffasiwn ‘Cotton’ yng Nghanolfan

Pontrobert at Hen Gapel John Hughesam 7.30

Medi 19 Taith Gerdded Plu’r GweunyddMedi 19 Noson o Ganu Gwlad efo Johnny a

Hywel yn HenllanHydref 8 Sioe Ffasiwn Kathy Gittins er budd

Cylch Meithrin Dyffryn Banw yn y RoyalOak, Trallwm.

Hydref 22 Pwyllgor Blynyddol Plu’r Gweunydd ymMhontrobert am 7 o’r gloch.

20232023202320232023Mai 29 - Meh.3 Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd

Maldwyn ym Machynlleth

TIM PLU’R GWEUNYDD

Panel GolygyddolPanel GolygyddolPanel GolygyddolPanel GolygyddolPanel GolygyddolAlwyn a Catrin Hughes, Llais Afon,

Llangadfan 01938 [email protected]

Mary Steele, EirianfaLlanfair Caereinion SY210SB

01938 [email protected]

Ffôn: 01938 552 309

Pryderi [email protected]

Dafydd Morgan Lewis

dafyddmlewis@ gmail.com

Is-GadeiryddIs-GadeiryddIs-GadeiryddIs-GadeiryddIs-GadeiryddSian Vaughan Jones, Pontrobert

Trefnydd Busnes a ThrysoryddTrefnydd Busnes a ThrysoryddTrefnydd Busnes a ThrysoryddTrefnydd Busnes a ThrysoryddTrefnydd Busnes a ThrysoryddHuw Lewis, Post, Meifod 500286

Ysgri fenyddionYsgri fenyddionYsgri fenyddionYsgri fenyddionYsgri fenyddionGwyndaf ac Eirlys Richards,

Penrallt, Llwydiarth, 01938 820266

TTTTTrefnydd refnydd refnydd refnydd refnydd TTTTTanysgrifiadauanysgrifiadauanysgrifiadauanysgrifiadauanysgrifiadauSioned Chapman Jones,12 Cae Robert, Meifod

[email protected], 01938 500733

CadeiryddCadeiryddCadeiryddCadeiryddCadeiryddRichard Tudor

Llysun Llanerfyl

A fyddech cystal ag anfon eich cyfraniadauat y rhifyn nesaf erbyn ddydd Sadwrn,Sadwrn,Sadwrn,Sadwrn,Sadwrn,Medi 19Medi 19Medi 19Medi 19Medi 19Bydd y papur yn cael eiddosbarthu nos Fercher Medi 30

RHIFYN NESAF

DiolchHoffai Rhys ac Anwen, Bryncoch Uchafddiolch o galon i bawb am yr holl anrhegion,cardiau a dymuniadau caredig ar enedigaethMoli Jane. Diolch yn fawr i chi i gyd.

“You’re going to need a biggerboat…”Dim ots sawl gwaith rydych chi wedi gweld yffilm, os ydych chi’n digwydd taro arni tra’nfflicio drwy sianeli teledu, rydych chi yn myndyn mynd i’w gwylio…eto.Enw’r ffilm wrth gwrs yw Jaws…stori amgymuned yr ymosodir arni gan rym nerthol oddyfnder y môr. Mae’r ffilm yn chwedlonol olwyddiannus, ond roedd ei chynhyrchiad ynerchyll o drafferthus, gyda nifer o bethau ynmynd o’u lle. Ond yn y diwedd rydym yn caelyr alegori yma am drachwant dynoliaeth a’rpwysigrwydd a’r parch y dylid eu rhoi i fydnatur.Pwy yw dihiryn y ffilm? Y siarc? Y maer syddyn anwybyddu rhybuddion? Ynteudinasyddion ynys Amity?Tua diwedd y ffilm mae’r tri arwr yn myndallan mewn cwch i geisio dal y siarc. Maecymeriadau’r tri ohonynt yn gwbwl wahanoli’w gilydd, ac mae yna straen rhyngddynt. Ondyn y diwedd maent yn sylweddoli bod rhaididdynt gydweithio os am lwyddo – ond ycymeriad Quint yw’r ffefryn ynde!Mae gan bob oes ei stori moesoldeb wedi eigwisgo i fyny fel stori am ryw anghenfil; yn yBeibl rydym yn cael stori Jona yn cael ei lyncugan bysgodyn mawr cyn iddo ddysgu amfaddeuant Duw. Yn stori Jona mae’r morwyryn gofyn y cwestiwn, “O achos pwy y daethy drwg hwn arnom?” (Jona 1:7) O hyn a ydymi ddyfalu mai mewn unrhyw argyfwng y pethmae dynoliaeth yn ei wneud yw chwilio amrywun i’w feio?Wrth i Covid-19 barhau i fod yn beryglus, fewelwn yr hen ysfa yma i bwyntio bys ynamlygu ei hun. Pwy ddylai fod wedi ymateb

Munud i Fyfyrioyn gynt? Pwy sydd ar fai am beidio gwneud ypeth a’r peth? Mewn hanes mae pobol yn fwyeffeithiol yn delio efo problem wrth ddod at eigilydd er lles ei gilydd. Wrth fynd ati i feiounigolion neu gr@p arbennig o bobl, dim onddwysau a wna’r sefyllfa.Ffolineb yw peidio gwrando ar arbenigwyr, acfel ffolineb y maer yn Jaws, yn rhoi’r awcham arian uwchlaw diogelwch y bobol, middylem ninnau wrando ac ufuddhau i’rcanllawiau diogelwch.Gadewch i ninnau dros wythnosau’r haf fodyn gall ac yn ofalus wrth i ni gael cyfle i drioymlacio a mwynhau ein hunain. Peidiwn âthaflu ein hymddygiad cydwybodol i’r gwynt,ond parhewn i fod yn gymdogion da a dilyn ycanllawiau.A chofiwch, yn lle taflu eraill allan o’r cwcha’u beio, efallai y dylem wrando ar Chief Brodyyn Jaws a chael cwch mwy. Hynny ydi, osydym yn gwybod am rywun sydd yn caelcyfnod anodd, ein bod ni yn cynnig helpu eucodi nhw o’r dyfroedd. Ac yn yr un modd, osydych chi’n teimlo eich bod mewn dyfroedddyfnion – plis, plis siaradwch â rhywun, agofyn am gymorth, nid oes yna unrhyw bwllna dyfroedd na ellir dianc rhagddynt. Y maecariad Duw ar gael i bawb ac yn gryfach nachysgod unrhyw siarc sydd yn nofio yn einhis-ymwybod.“Er i’r mynyddoedd symud, ac i’r bryniau siglo,ni symuda fy ffyddlondeb oddi wrthyt, a byddfy nghyfamod heddwch yn ddi-sigl,” medd yrArglwydd, sy’n tosturio wrthyt” – Eseia 54:10.Un nodyn bach cyn cloi - ymddengys ni fyddy capeli yn ail agor tan o leiaf fis Medi - yrydym yn dal i obeithio (os bydd canllawiau yncaniatáu!) i gynnal gwasanaeth awyr agoredar Faes Pêl Droed Llanfair - y dyddiad i’wgadarnhau.Ac mae croeso i unrhyw un godi’r ffôn unrhywamser os oes rhywbeth yn eich poeni neu dimond i gael sgwrs! 07826 708652Hwyl am y tro, a mwynhewch y gwyliau! Pobbendith,

Euron

‘Ariennir Plu’r Gweunyddyn rhannol gan Lywodraeth Cymru’

G. H.JONESG. H.JONESG. H.JONESG. H.JONESG. H.JONESSatellite. Aerial-TVRhif ffôn newydd: 01938 554325

Ffôn symudol: 07980523309E-bost: [email protected]

47 Gungrog Hill, Y Trallwm, Powys

Brian LewisBrian LewisBrian LewisBrian LewisBrian Lewis

Gwasanaethau PlymioGwasanaethau PlymioGwasanaethau PlymioGwasanaethau PlymioGwasanaethau Plymioa Gwresogia Gwresogia Gwresogia Gwresogia Gwresogi

Atgyweirio eich holl offerplymio a gwresogiGwasanaethu a GosodboileriGosod ystafelloedd ymolchi

Ffôn 07969687916 neu 01938 820618

Y TRALLWM

Ffôn: 01938 554540Ffôn: 01938 554540Ffôn: 01938 554540Ffôn: 01938 554540Ffôn: 01938 554540

PETHE POWYS

MAE’R SIOP ARGAU BOB

DYDD MAWRTH

Oriauagor

10 y borehyd 3.00

Chwilio am Rifynnau o’r Plu?Cyfres Gyflawn ar gael

‘TRYSOR CYMDEITHASOL’Ffoniwch

Emyr Davies01938 820556

SYLWERMAE SIOP PETHE POWYS

BELLACH WEDI AIL-AGOR

Page 3: Actor o fri! · 2020. 9. 20. · yn y diwedd maent yn sylweddoli bod rhaid iddynt gydweithio os am lwyddo – ond y cymeriad Quint yw’r ffefryn ynde! Mae gan bob oes ei stori moesoldeb

Plu’r Gweunydd, Awst/Medi 2020 3 3 3 3 3

SEREN Y MIS

1. Disgrifia dy hun mewn 3 gair?Disgrifia dy hun mewn 3 gair?Disgrifia dy hun mewn 3 gair?Disgrifia dy hun mewn 3 gair?Disgrifia dy hun mewn 3 gair?Penderfynol, Ystyriol, Anhrefnus2. Petae ti’n cael dewis gwneud unrhywPetae ti’n cael dewis gwneud unrhywPetae ti’n cael dewis gwneud unrhywPetae ti’n cael dewis gwneud unrhywPetae ti’n cael dewis gwneud unrhywbeth am ddiwrnod, beth fyddai hynny?beth am ddiwrnod, beth fyddai hynny?beth am ddiwrnod, beth fyddai hynny?beth am ddiwrnod, beth fyddai hynny?beth am ddiwrnod, beth fyddai hynny?Treulio’r diwrnod efo Smudge a’r c@n yn yfedG&T pinc yn hwylio yn y Norfolk Broads mewncwch posh3. Beth wyt ti’n ofni?Beth wyt ti’n ofni?Beth wyt ti’n ofni?Beth wyt ti’n ofni?Beth wyt ti’n ofni?Pryfed cop4. Hoff fisged?Hoff fisged?Hoff fisged?Hoff fisged?Hoff fisged?Bisgedi ‘Border’ Siocled Tywyll a Sinsir5. Ble treuliaist ti dy wyliau gorau?Ble treuliaist ti dy wyliau gorau?Ble treuliaist ti dy wyliau gorau?Ble treuliaist ti dy wyliau gorau?Ble treuliaist ti dy wyliau gorau?Dinbych y Pysgod / Saundersfoot6. Beth fase ti’n ei ganu mewn nosonBeth fase ti’n ei ganu mewn nosonBeth fase ti’n ei ganu mewn nosonBeth fase ti’n ei ganu mewn nosonBeth fase ti’n ei ganu mewn nosonKaraoke?Karaoke?Karaoke?Karaoke?Karaoke?Delilah7. Petae’n rhaid i t i fwyta un pryd ynPetae’n rhaid i t i fwyta un pryd ynPetae’n rhaid i t i fwyta un pryd ynPetae’n rhaid i t i fwyta un pryd ynPetae’n rhaid i t i fwyta un pryd ynunig am weddill dy oes, beth fyddaiunig am weddill dy oes, beth fyddaiunig am weddill dy oes, beth fyddaiunig am weddill dy oes, beth fyddaiunig am weddill dy oes, beth fyddaihwnnw?hwnnw?hwnnw?hwnnw?hwnnw?Fajitas8. Pwy yw dy arwr?Pwy yw dy arwr?Pwy yw dy arwr?Pwy yw dy arwr?Pwy yw dy arwr?Mae gen i ddwy. Roedd Sandra Francis ynarwres i mi. Roedd hi’n weithgar, mamfendigedig, caredig, hwyliog, doniol ac roeddhi bob amser yn codi fy nghalon, ffrind ffyddlon,cwmni da ar y nosweithiau prin allan hynnyac ymladdodd yn ddewr hyd y diwedd. Rwy’nei cholli’n fawr.Eirlys Smith yw fy ail arwres. Mae hi’n fam-yng-nghyfraith, ffrind a phartner busnes.Gallaf ddibynnu arni. Mae hi’n garedig,gonest, galluog ac ni fyddai’r Cwpan Pinc yrhyn ydi o hebddi hi.9. Beth yw dy brif fai?Beth yw dy brif fai?Beth yw dy brif fai?Beth yw dy brif fai?Beth yw dy brif fai?Dod ag anifeiliaid amddifad adre ac achosianhrefn.10. Beth fase ti ’n ei wneud gydaBeth fase ti ’n ei wneud gydaBeth fase ti ’n ei wneud gydaBeth fase ti ’n ei wneud gydaBeth fase ti ’n ei wneud gyda£5,000?£5,000?£5,000?£5,000?£5,000?Talu rhywun i roi trefn ar yr ardd acw gan fodmochyn wedi byw ynddi ers dros 8 mlynedd!11. Pa dalent yr hofPa dalent yr hofPa dalent yr hofPa dalent yr hofPa dalent yr hoffet ti ei chael?fet ti ei chael?fet ti ei chael?fet ti ei chael?fet ti ei chael?Faswn i wrth fy modd yn gallu canu.

Y Chwaer HynafY Chwaer HynafY Chwaer HynafY Chwaer HynafY Chwaer HynafHanes Eisteddfod CymrodoriaethHanes Eisteddfod CymrodoriaethHanes Eisteddfod CymrodoriaethHanes Eisteddfod CymrodoriaethHanes Eisteddfod Cymrodoriaeth

TTTTTalaith a Chadair Powys 1820-2020alaith a Chadair Powys 1820-2020alaith a Chadair Powys 1820-2020alaith a Chadair Powys 1820-2020alaith a Chadair Powys 1820-2020Mae’r awdur, Huw Ceiriog wedi cyflwyno’rgyfrol hon i Emyr Davies, a’r diweddar NestDavies a Trefor Owen fel cydnabyddiaeth o’ugwaith arloesol yn y maes.Ar y clawr fe gawn lun o Meiriadog, yr argraffwro Lanfair Caereinion gyda’r gadair a enilloddyn Eisteddfod Powys Meifod 1892.Mae’r teitl yn ein hatgoffa mai hon yw’r Ei-steddfod hynaf sy’n dal mewn bodolaeth. Fegynhaliwyd y gyntaf yn Wrecsam yn 1820.Rhwystrodd y coronafeirws ni rhag dathluhynny yn Rhosllannerchrugog eleni.Cynhaliwyd yr ail Eisteddfod yn y Trallwngpan enillodd Eben Fardd ei gadair. Ei awdl ary testun ‘Dinistr Jerusalem’ oedd yr orau agyfansoddwyd yn y bedwaredd ganrif arbymtheg ac fe ddylai’r Gymrodoriaeth sicrhaufod hyn yn cael ei goffau ymhen rhaiblynyddoedd.Bylchog iawn fu’r eisteddfodau wedyn er bodyr un gynhaliwyd yn Llangollen yn 1858 gyda’rfwyaf erioed. Yn hon y daeth athrylith Ceiriogi’r amlwg pan enillodd y goron am ei rieingerdd‘Myfanwy Fychan’.Mae pethau’n bywiogi yn y 1890au ond ni cheirgwir drefn tan 1913 pan sefydlwyd yGymrodoriaeth ac mae Cadvan, dyn o’r Foel,yn haeddu cryn dipyn o’r clod am hyn.Bwriad yr Offeiriaid Llengar pan drefnwyd yreisteddfodau cyntaf yn 1820 ac 1824 oeddgwarchod y Gymraeg a’i thraddodiadau. Nitheimlent y gellid dibynnu ar yr Anghydffurfwyri wneud hynny. A thros y blynyddoedd feachosodd y Gymraeg fwy na’i siâr obroblemau i’r #yl. Pan gynigiodd y Parch W.R.Jones (pwy oedd o tybed?) fod yr holl faterionyngl~n â’r Eisteddfod oedd i’w chynnal ynLlanfair yn 1927 i’w trafod yn y Gymraeg, ynunig, fe ystyriwyd hyn yn ‘eithafol’.Cododd andros o ffrae yn dilyn EisteddfodPowys Croesoswallt yn 1948 pan draddododdJohn Eilian, fel llywydd y dydd, araith uniaithSaesneg. D.Alun Lloyd o’r Foel (Alun Tanfron)fu’n arwain yr ymosodiad ac fe fu dadlauchwyrn yn y wasg leol am wythnosau.Yng Nghwmllinau yn 1960 fe gynigiodd HildaJones, Llanrhaeadr ym Mochnant fod polisi

iaith pendant yn cael ei fabwysiadu ond fefethodd ei chais gyda 30 o blaid a 50 ynerbyn.Adroddir peth o hanes lliwgar yr Orsedd a’rmodd y cafodd ei hun ym Meifod yn 1922heb gleddyf i gadeirio’r bardd. Ond fefenthycwyd un y Field Marshal Haig oedd yndigwydd bod yno. Roedd y gorseddogion ynfalch iawn rwy’n si@r. Ond fe glywais gan henewythr fu’n gwasanaethu yn y Rhyfel BydCyntaf nad pawb oedd yn hapus. Teimlai llawero gyn-filwyr yn gryf iawn, iawn na ddylai’r Ei-steddfod gydnabod y Field Marshal mewnunrhyw fodd am ei fod yn gyfrifol am laddmiloedd ar filoedd o fechgyn ifanc yn ffosyddFfrainc. Credaf iddo ddweud fod protest wediei chynnal, ond ni allaf fod yn si@r o hynny.Y ferch gyntaf i ennill cadair yr Eisteddfodoedd Sioned Penllyn a hynny yn y Drenewyddyn 1952. Aeth y goron yn yr un Eisteddfod iMari Ellis o Aberystwyth am ei nofel ‘AwelonDarowen’. Merch hefyd oedd y cyntaf igyflawni’r dwbwl (ennill cadair a choron yn yrun #yl). Karina Wyn Davies oedd hon.Digwyddodd hyn mor ddiweddar â 2018 ahynny yn y Drenewydd unwaith eto.Fe gyhoeddwyd gweithiau llenyddol buddugolEisteddfod Powys 1824 ond bu’n rhaid arostan Eisteddfod Powys Dyffryn Banw 1955 cyni hyn ddigwydd eto. Glyn Ifans, athro yn YsgolUwchradd Caereinion oedd yn gyfrifol am yfenter hon.

Fe gyflawnodd Huw Ceiriog gryn gamp yncasglu’r gyfrol hon ynghyd. Roedd ywybodaeth yn eithriadol o wasgarog a’r hollgofnodion rhwng 1913 ac 1935 ar goll. Bu’nrhaid chwilio’n hir mewn papurau newydd cyncael y cyfan at ei gilydd.Tybed a oes gennych chi fel darllenwyr y Pluatgofion i’w rhannu am Eisteddfodau Powysy gorffennol? Byddai’n dda o beth cofnodi rhaiohonynt efallai.

DML

DEWI R. JONESDEWI R. JONESDEWI R. JONESDEWI R. JONESDEWI R. JONES

Pob math o waith adeiladu at eich gwasanaeth

ADEILADWYRADEILADWYRADEILADWYRADEILADWYRADEILADWYR

Ffôn: 01938820387 / 596

Ebost: [email protected]

Ein seren y mis yma yw Louise Smith un o’rtîm prysur sy’n rhedeg y Cwpan Pinc ynLlangadfan. Fel y gwelwch o’r dudalen flaenmae newidiadau mawr wedi bod yn ddiweddargydag agor Siop y Pentre drws nesa i’r caffi.Mae Louise hefyd wedi llwyddo i gael yswyddfa bost i ail-agor yn Llangadfan acedrychir ymlaen yn fawr at yr agoriadswyddogol yn y misoedd nesaf.

Page 4: Actor o fri! · 2020. 9. 20. · yn y diwedd maent yn sylweddoli bod rhaid iddynt gydweithio os am lwyddo – ond y cymeriad Quint yw’r ffefryn ynde! Mae gan bob oes ei stori moesoldeb

44444 Plu’r Gweunydd, Awst/Medi 2020

O’r diwedd, mae’n destun dathlu i ni ein bodwedi llwyddo i ailagor y Cylch cyn gwyliau’rhaf yn unol â chanllawiau a’r mesuraudiogelwch i leoliadau gofal plant. Diolch i Miraina Gwenllian am eu gwaith trylwyr a gofalusfel Arweinydd ac Unigolyn Cyfrifol y Cylch iwneud yn si@r ein bod ni’n bodloni’r holl ofynionpriodol er mwyn gallu ailagor yn ddiogel. Diolchi’r neuadd am eu cydweithrediad hefyd. Mae’rplant wedi bod wrth eu bodd cael bod yn ôlefo’i gilydd! Ers ailagor, maen nhw wedi caelllu o weithgareddau amrywiol i’w cadw’nddiddan a llawn cyffro; o wneud hufen iâ i bobipitsa, creu enfys efo d@r a lliw bwyd, i fynd arhelfa trychfilod a gwneud menyn. Diolch Mirainam dy waith caled a chreadigol yn cynlluniogweithgareddau hwyliog a difyr iddyn nhw.

Mi allwn ni dderbyn plant o’r diwrnod wediiddyn nhw droi’n ddwy oed yng NghylchMeithrin Dyffryn Banw, felly cysylltwch [email protected] i ofyn am einhargaeledd ac i gadw lle i’ch plentyn bach.Bydd y Cylch yn agor ar yr oriau canlynol ymmis Medi:Llun 12-4pmMawrth 9am-1pmMercher 9am-3pm (neu opsiwn 9am-1pm)Gwener 9am-1pmMi wnaethon ni dorri tir newydd yn hanesCylch Meithrin a Ti a Fi Dyffryn Banw ym misMehefin wrth gynnal ein Cyfarfod CyffredinolBlynyddol dros linc fideo. Fel Pwyllgor rydynni’n falch iawn o allu rhannu bod y Cylch mewnsefyllfa ariannol iach ac mae’r swyddogionwedi cytuno i barhau yn eu swyddi presennol.Diolchwyd i Mirain a Heddys am eu gwaithcaled trwy’r flwyddyn, a rhannwydllongyfarchiadau i Mirain yn arbennig am ei

Cylch Meithrin a Ti a Fi Dyffryn Banwblwyddyn gyntaf fel Arweinydd penigamp i’rCylch. Rydyn ni’n ffodus iawn ohoni ac ynteimlo’n hyderus fod y Cylch mewn dwyliodiogel iawn dan ei harweiniad. Rydyn ni’nhapus iawn i groesawu Cerys Pierce-Evansyn aelod newydd i’r Pwyllgor hefyd ac ynedrych ymlaen at y dydd y byddwn ni i gyd yncael cwrdd wyneb yn wyneb i ailddechrautrefnu digwyddiadau codi arian cymdeithasolunwaith eto!

Hwyl fawr a phoblwc i’r pedwarbach fydd yncychwyn ynYsgol CwmBanwy ym misMedi. Mae’rCylch wediffarwelio efoArthur, Gino,Gwenllïan ac Ioriac yn dymuno’ndda iddyn nhw areu hanturnesa ’ .Cadwcholwg ar gyfrifonFacebook a Twit-ter Cylch Meithrin

Dyffryn Banw am newyddion ynghylchsesiynau Ti a Fi, a phryd y bydd hi’n bosibac yn ddiogel i ni gwrdd unwaith eto.

YsgolCwm Banwy

Cytuno ar enw a logo Ysgol CwmBanwyYn dilyn mewnbwn gan y gymuned leol, mae’rcorff llywodraethol dros dro wedi cytuno maiYsgol Cwm Banwy, Ysgol yr Eglwys yngNghymru fydd enw’r ysgol newydd. Mae logoar gyfer yr ysgol wedi’i gytuno hefyd. Cafoddy logo ei ddylunio gan ddefnyddio syniadau adderbyniwyd gan ddisgyblion a’r gymuned.Mae symboliaeth gref i’r nodweddion o fewn ylogo. Gobeithiwn yn fawr eich bod yn ei hoffia’i werthfawrogi.

Gweledigaeth yr ysgolMae gweledigaeth wedi’i gytuno ar gyfer YsgolCwm Banwy. Mae’r weledigaeth fel a ganlyn:

Y mwynder mewn llawer lliw

Gwisg YsgolYn dilyn mewnbwn gan y disgyblion, mae’rCorff Llywodraethol Dros Dro wedi cytuno arwisg ysgol ar gyfer Ysgol Cwm Banw, sefsiwmper / cardigan ysgol glas a chrys-tgwyrdd.

Polisi DerbynMae’r corff llywodraethol dros dro wedi cytunoPolisi Derbyn Dros Dro ar gyfer Ysgol CwmBanwy. Mae’r Polisi Derbyn Dros Dro yngalluogi i blant gael eu derbyn i’r ysgol yn llawnamser neu’n rhan amser ar ddechrau’r tymorcyn eu pen-blwydd yn bedair oed. Gwahoddirrhieni/gwarcheidwaid plant a fydd yn cael eupen-blwydd yn bedair oed rhwng Medi 2020ac Awst 2021 i wneud cais am le yn yr ysgoltrwy gysylltu efo’r Pennaeth, Betsan Llwyd, trwyanfon ebost at [email protected]. Byddgwaith ar ddatblygu polisi derbyn parhaol argyfer yr ysgol yn dechrau ym nhymor yr hydref.

Corff Llywodraethol ParhaolMae’r prosesau i benodi llywodraethwyrparhaol ar gyfer Ysgol Cwm Banwy wedidechrau. Diolch i aelodau’r Corff LlywodraetholDros Dro am eu gwaith dros y misoedddiwethaf i baratoi ar gyfer agor yr ysgolnewydd.

https://www.facebook.com/plurgweunyddTTTTTwitter: witter: witter: witter: witter: @PluGweunyddPluGweunyddPluGweunyddPluGweunyddPluGweunydd

Gyda’n gilydd yn lliwio’r byd.

Am flwyddyn a hanner, ond ‘den i wedi cyrraedd y llinell derfyn! Hoffwnddiolch i BAWB sydd ynghlwm ag Ysgol Gymraeg y Trallwng: planthollol ARBENNIG, staff ARBENNIG, ymroddgar a chefnogol,llywodraethwyr cefnogol, rhieni hollol WYCH a’r gymuned mor garedig.Mae hi wedi bod yn flwyddyn hynod lwyddiannus ac mae’r ysgol wedicryfhau mewn nifer iawn o ffyrdd, mae pawb yn deall ei gilydd ac yn deall fod pawb yn haeddu’raddysg orau.Braint ac anrhydedd yw arwain yr ysgol hon.Hoffwn ddymuno pob hwyl i Laura Jones ar ei swydd fel Pennaeth Dros Dro yn YsgolGynradd Llanfair Caereinion. Hoffwn ddiolch iddi am ei hymroddiad, ei charedigrwydd a’iphroffesiynoldeb dros y blynyddoedd. Byddwn yn ei cholli’n fawr, ond byddwn yn cadwllygaid barcud arni!Felly, mwynhewch eich gwyliau ac YMLACIWCH. Mae pawb yn haeddu seibiant yn barodar gyfer mis Medi. Ond, plîs cadwch mor saff â phosib.Diolch o galon,Miss Angharad Davies

Ysgol Gymraeg y TYsgol Gymraeg y TYsgol Gymraeg y TYsgol Gymraeg y TYsgol Gymraeg y Trallwngrallwngrallwngrallwngrallwng

Page 5: Actor o fri! · 2020. 9. 20. · yn y diwedd maent yn sylweddoli bod rhaid iddynt gydweithio os am lwyddo – ond y cymeriad Quint yw’r ffefryn ynde! Mae gan bob oes ei stori moesoldeb

Plu’r Gweunydd, Awst/Medi 2020 5 5 5 5 5

FOEL aLLANGADFAN

CroesoBraf iawn yw cael croesawu Gareth a JennySmith a’r merched Alys a Penny i MaesDderwen. Rwy’n siwr fod y merched yngyffrous iawn o gael dechrau yn ysgol newyddCwm Banwy ym mis Medi. Nid yw Nain wedisymud yn bell a dwi’n si@r fod Nerys yn glydiawn yn ei chornel newydd drws nesa’.

CofionAnfonwn ein cofion gorau at Diana, Gwern-y-bwlch sydd wedi cael anffawd fach ynddiweddar. Gobeithio fod y ‘sennau yn gwellaa bod y poen yn well erbyn hyn.Anfonwn ein cofion hefyd at Glyn, Y Ddôl syddwedi treulio cyfnod yn Ysbytai Amwythig a’rTrallwm.

DathluMae Siôn, Brynawelon newydd ddathlu eibenblwydd yn 21ain ar Orffennaf 19eg.Cafwyd parti yn y sied (dan yr amgylchiadau)i deulu a ffrindiau i nodi’r achlysur.

CydymdeimladAnfonwn ein cydymdeimlad at MeiraGlynrhosyn a’r teulu yn dilyn marwolaethGlynwen Williams, Llanfyllin. MagwydGlynwen yn Abernodwydd cyn symud iLanfyllin ar ei phriodas â Don Williams. Bu’nddriprwy bennaeth yn Ysgol Gynradd Llanfyllinam flynyddoedd lawer.

“Welcome back we’ve missed you”Dyma’r arwydd ar y ffens wrth fynedfa’r maescarafanau ym mhentref Llangadfan.Oherwydd cyfyngiadau cofid bu’r maescarafanau ar gau am fisoedd heb unrhywymwelwyr o gwbwl a thrigolion Llangadfan wedieu hamgau mewn swigen fach ddiogel. Ynaar y 4ydd o Orffennaf fe fyrstiodd y swigen adaeth yr ymwelwyr yn ôl yn eu cannoedd. Erdifrifoldeb ac ansicrwydd y sefyllfa, roedd ymisoedd tawel a gafwyd yn ystod ycyfyngiadau symud yn rhyfeddol o leddfol.Er bod rhai ohonom wedi diflasu’n barod ars@n y ceir di-ddiwedd ar y ffordd a bobl ddiarthym mhobman, i fusnesau lleol ar y llaw arallmaent yn hanfodol ar gyfer eu bywoliaeth.

BWRLWM O’R BANW

Diwedd cyfnod Ysgol Dyffryn BanwRoedd ffarwelio â’r disgyblion, staff a rhieni ar ddiwedd tymor yr haf yn brofiad tra gwahanoleleni, am fwy nag un rheswm. Mae’r misoedd diwethaf wedi ein hwynebu â sialensau amlwg,lle mae cymaint wedi digwydd mewn byr amser i Ysgol Dyffryn Banw. Hoffwn ddiolch i bob uno ran-ddeiliad yr ysgol am eu cefnogaeth amhrisiadwy dros y cyfnod anodd hwn. Mae’r plantwedi bod yn arbennig, ac wedi manteisio ar brofiadau a chyfleoedd newydd o adre. Rydym ynbrowd iawn o’u gwaith, gan gynnwys prosiect ar y thema ‘Llaeth’ fel cofiant a gwerthfawrogiadi Mr Tudor. Cafodd y newyddion torcalonnus yma o ddamwain Richard effaith fawr arnom felysgol, ac nid hawdd oedd dygymod â hyn o dan yr amgylchiadau. Byddai Mr Tudor yn falchiawn o’r hyn a ddysgodd y plant yn ystod wythnosau olaf Ysgol Dyffryn Banw, am yr hyn yr oeddyntau mor angerddol amdano. Rydym wedi penderfynu datblygu gardd goffa ac ardal i’r plantfwynhau natur ar ei orau, a hoffem i’r gymuned fod yn rhan o’r cynllunio a’r datblygiadau yn ydyfodol agos.A dyma ni golofn olaf ‘Bwrlwm o’r Banw.’ Fel unrhyw bennaeth, mae’r ysgol a’r gymunedgyfan yn agos iawn at fy nghalon. Fel yr wyf wedi ei ddweud o’r blaen, dyma ddechraunewydd a chyfle newydd ar gyfer ein plant yn y dyffryn. Tra bod un cyfnod yn dod i ben, maeun arall ar fin dechrau...

Ysgol Dyffryn Banw 1940-2020Ffarwel i Flwyddyn 6Hoffwn ddymuno’r gorau i Beatrice, Angharad, Tom, Joseff a Deio wrth iddynt ddechrau eucyfnod yn yr Ysgol Uwchradd. Nid ydym wedi gallu dathlu yn y modd arferol, ond yn gobeithiotrefnu BBQ fis Awst. Fel sypreis treuliodd y pump fore yn pysgota ym Mharc Clychau’r Gogcyn dychwelyd i’r ysgol gyda’u rhieni am bryd o fwyd o Cann Office. Cyfrannodd Kate Pindergacen flasus fel pwdin- diolch. Yn y prynhawn cawsom lawer o hwyl wrth gynnal brwydr dd@ra phaent gyda’r staff! Roedd enfys amryliw fel cwmwl dros Ysgol Dyffryn Banw.

Parti bwmp i Mrs Pugh!Braf iawn oedd mwynhau te prynhawn wediei baratoi gan Mandy, Dyffryn i ddymuno’ndda i Mrs Pugh cyn iddi ddechrau ei chyfnodmamolaeth fis Medi. Dymuniadau gorau iCarwyn a Rhian wrth iddynt ddyfod yn rhieninewydd.

cacennau dathlu unigryw

Penblwydd, Nadolig,Priodas, Bedyddio,Ymddeol,Pob Lwc

01938 820856 neu07811 181719

CEGIN KATE

Yvonne Steilydd Gwallt

Ffôn: 01938 820695

neu: 07704 539512

Hefyd, tyllu

clustiau a

thalebau rhodd.

Ar gyfer eich holl

ofynion gwallt.

Page 6: Actor o fri! · 2020. 9. 20. · yn y diwedd maent yn sylweddoli bod rhaid iddynt gydweithio os am lwyddo – ond y cymeriad Quint yw’r ffefryn ynde! Mae gan bob oes ei stori moesoldeb

66666 Plu’r Gweunydd, Awst/Medi 2020

LLANERFYL

Dyma lun o ddisgyblion Ysgol Llanerfyl ym 1973Rhes gefn: Mrs E.J. Morgan; Gareth Jones (Maescelynog)?; Enid Jones (Tynewydd Gosen); Helen Jones (Pantygelynen); Diana Wallace(Craen); Bethan James; Louise Owen; Jennifer Roberts; Anwen Davies (Tanyfoel); Catherine Davies (Coedtalog); Lynn Owen; Mrs MeganEmbertonRhes ganol: Mrs Watkins (Ty’r Ysgol); Thomas Wyn Watkins (Caerbwla); William Howells (Goetre); Emyr Wyn Jones (Maescelynog);Geraint Roberts (Dolau); Aled Davies (Tanyfoel); Eleanor Davies (Coedtalog); Jane Gittins (Tynewydd); Sian James (Bryntanat); Trefor Jones(Maescelynog); Gwynfor Astley (Rhosgomorog); John Gittins (Tynewydd); Gwyndaf Roberts (Dolau)Rhes flaen: Mrs E.M. Morgan; Gillian Roberts; Simon Roberts; Margaret Howells (Goetre); Linda Wallace (Craen); Llinos Jones (Pantygelynen);Gwenan Davies (Coedtalog); Dawn Wallace (Craen); Tania Roberts; Angela Jones (Erfyl House); Menna Baines; Dafydd Baines; Ann Gittins;Rhiannon Williams

Llyfr Newydd

I’r rhai ohonoch sydd yn hoffi darllen mae’rllyfr newydd yma jyst y peth. ‘Cofio Ioan’ydi’r enw ac wrth gwrs llyfr er cof am IoanRoberts sydd yma wedi ei gyhoeddi ganMyrddin ap Dafydd ac sy’n cynnwyscyfraniadau a lluniau gan hen ffrindiau ymhellac agos. ‘Roedd o’n dad direidus iawn’ ‘Roedd o’n dad direidus iawn’ ‘Roedd o’n dad direidus iawn’ ‘Roedd o’n dad direidus iawn’ ‘Roedd o’n dad direidus iawn’ –Lois a Sion

LLUNIAU O’R GORFFENNOL

Lundain i Marseille! Rwyf bellach (21 Orffennaf) ar ddiwrnod 40 ac yn gorffen Medi19 ...dim ond 60 diwrnod i fynd! … o diar!Nid wyf yn llawer o redwraig felly mae hon ynher enfawr i mi. Byddaf yn codi arian at AsthmaUK, elusen sydd yn arbenigo gydag ymchwilat wella asthma. Maent wedi bod yn hanfodoli gymaint dros y cyfnod pryderus hwn. Felrhywun sydd wedi dioddef o asthma ers ynblentyn, rwyf wedi gweld gwir bwysigrwyddyr elusen. Os hoffech gyfrannu a fy helpu i gyrraedd fynghanfed diwrnod, mae modd cyfrannu trwyy linc yma neu cysylltwch â Sarah neu Berylyn uniongyyrchol.https://www.gofundme.com/f/1000km-in-100-days-1000km-mewn-100-diwrnodDiolch yn fawr am eich holl gefnogaeth achadwch yn saff!

Sarah xNewid bydDymunwn yn dda i Sarah May sydd ar ôl 11mlynedd bellach wedi gadael ei swydd ynYsgol Uwchradd Caereinion. Mae Sarah yngobeithio canolbwyntio mwy ar ei gwaith feltiwtor Cymraeg i oedolion.

Diwedd cyfnodGyda thristwch mawr rhaid cofnodi diweddcyfnod yma yn y pentre sef cau drysau YsgolLlanerfyl am y tro ola’. Mae cyfyngiadau’rmisoedd diwethaf wedi bod yn anodd iawn acyn golygu nad oedd hi’n bosibl cynnal ygweithgareddau diwedd tymor oedd ar ygweill gan Ffrindiau’r Ysgol. Anfonwnddymuniadau gorau i’r staff a’r disgyblionsydd yn symud ymlaen i’w hysgolion newydda dwi’n siwr bydd pob unigolyn yn cadw yn ycof eu hatgofion arbennig am yr ysgol. Byddyn rhyfedd iawn peidio clywed s@n plant ynchwarae ar yr iard o hyn ymlaen.

‘... un o gymeriadau mawr Cymru’ ‘... un o gymeriadau mawr Cymru’ ‘... un o gymeriadau mawr Cymru’ ‘... un o gymeriadau mawr Cymru’ ‘... un o gymeriadau mawr Cymru’ – LizSaville A.S.‘Mae’n stori gwerth ei hadrodd.’ ‘Mae’n stori gwerth ei hadrodd.’ ‘Mae’n stori gwerth ei hadrodd.’ ‘Mae’n stori gwerth ei hadrodd.’ ‘Mae’n stori gwerth ei hadrodd.’ – AlunFfred. Cyhoeddir y llyfr gan Gwasg CarregGwalch: £8.50.

Sialens Sarah

Dyma Sarah yn egluro ei her diweddara’:“Cefais fy ysbrydoli gan gymaint o unigoliondros y cyfnod anodd yma, yn gwneud gymainto bethau da at elusennau gwahanol fellypenderfynais innau fy mod am ddechrausialens fy hun.Rwyf yn rhedeg (a/neu gerdded) hyd at 10km ydydd am 100 diwrnod, gyda tharged o 1000kmyn y diwedd. Mae hynny bron yr un fath ârhedeg marathon bob 5 dydd a thrafeilio o

Page 7: Actor o fri! · 2020. 9. 20. · yn y diwedd maent yn sylweddoli bod rhaid iddynt gydweithio os am lwyddo – ond y cymeriad Quint yw’r ffefryn ynde! Mae gan bob oes ei stori moesoldeb

Plu’r Gweunydd, Awst/Medi 2020 7 7 7 7 7

Cynefin Alwyn Hughes

Dal i gofio diwedd yr Ail Ryfel BydFe gyfeiriais at ddiwedd yr Ail Ryfel Byd yn yrhifyn diwethaf, a gofynnais am ragor oatgofion. Yn anffodus ni chafwyd llawer, ondroedd yr hyn a gaed yn ddiddorol iawn.Dywedodd Dwynwen fod ei diweddar fam, MrsSydney Roberts, yn gyrru parseli ac anrhegioni fechgyn Llanerfyl dros gyfnod y rhyfel, acroedd ganddi bentwr o lythyrau gan y milwyryn cydnabod yn ddiolchgar iawn yr hyn agawsant.Roedd Mrs Roberts yn casglu arian igynorthwyo’r bechgyn yn ogystal ac isod fegeir cerdd a ysgrifennwyd ganddi yn nodiwythnos y cynilo ‘Saving Week’ 1943 “Saluteour Men”.

“Cyfarch y Milwr” ofynnir i niAr hyd yr Wythnos honDrwy roddi ein harian ar logau daA sicrwydd o hyn dan ein bron.Rhyw gyfran fechan yw hon onide,I’r bechgyn sydd ledled y byd?Gorfodir i nhw ym mlodau eu hoesAberthu y cyfan i gyd.

Ac nid oes addewid y cân hwy logAm aberth mor uchel â hynYr un gan-moliant â’n Gwaredwr gyntFu farw ar Galfari fryn.Pwy all esbonio ysbeilio fel hynDdyfodol gartrefi ein gwlad.Rhyw ddisgwyl ar Dduw o hyd ‘rydym niDdychwelyd i’r plant eu tad.

Meirion y Banw ac Eddie TynllanGadawent gartrefi clyd.Tra Percy ac Alf yn hiraethu syddAm anwyliaid sydd wag eu byd.Grenville Bryntanat a’i fywyd diffaelYntau i adael y cyfanMae’n nawr yn yr Eidal yn Swyddog R.A.Hiraetha am weled ei faban.

Mae Meirion a Howard yn India drawAc ymladd ‘ynt hwy sydd ffiaiddA Chris druan bach sydd yn Burma bellWyneba y Japs anwaraidd.Trevor Dolerfyl a Maurice TynrhosSydd fechgyn disglair o’n hardalMaurice yn India a’i gwsg dan y lloer,Trevor sy’n rhwym yn yr Eidal.

Gwyn Aberdeunant ac Erfyl MinddolA Trevor Efailcraen ym MhrydainErfyl Glynbach, unig gwmni ei famOrfodwyd i gymryd ei adain.Nid aberth rhagrith sydd eisiau eu rhoiOnd rhoddi o ddyfnder y galon.Bydd hatling y weddw yn well i’r NefNa “duwiau aur” y cybyddion.

Yn ffodus ni laddwyd yr un o fechgyn Llanerfylyn yr ail ryfel byd – daethant i gyd adre.

Un o fechgyn Garthbeibio a laddwyd yn yr AilRyfel Byd oedd Gwynoro Davies, ArddolHouse y Foel. Roedd Gwynoro yn un ochwech o blant a fagwyd yn y t~ a elwir ynDerwen Deg heddiw. Roedd ei dad Tomi yncadw siop yno.Dyma gyfres o englynion coffa a ysgrifennwydgan Mr J.R. Thomas, Cemaes. Magwyd efyn Nôl y Garreg Wen, Cwm Nant yr Eira, acroedd yn perthyn i deulu diwylliedigCwmderwen. Symudodd i Rydlli, Llangadfangan fynd a’r hen le tân gyda’r craen a’r twlllludw (neu’r uffern) o’i flaen gydag ef i Rydlli– mae’n parhau i fod yno hyd heddiw – yrunig un rwyf yn gwybod amdano yn yr ardalhon.

Hiraeth sy’ am Wynoro – a dolur Ardaloedd fu’i glwyfoAr ei aelwyd hir wyloYno fydd amdano fo.

Annwyl lanc, mae cwyn a loes – am ynni A thwym hoen ei einioes;Ac am hoffter ei feroes,Ei delyn fud, a’i lân foes.

O oedfa’r gwaed a’r adfyd – du ingol Dihangodd ei ysbryd;O s@n bom, aeth i swyn bydO heddwch a dedwyddyd.

Ei rin i fro ei eni – roes efo Rhoes ei fywyd drostiYstyriwn ddifrif storiEi ola nos – wylwn ni.

Gwelir y garreg goffa a roddwyd ym mhorthCapel y Foel i gofio amdano.

Gwelir ei enw hefyd ar y gofeb ar wal NeuaddYsgol y Banw. Mae’n hynod o anarferol iweld enw merch ar gofgolofn. Dymagofnodwyd am Mary Jane Harris ym Mhlu’rGweunydd, Rhagfyr 2018. “Roedd Mary Janeyn ferch i David ac Ann Harris, Bryngwaliaac fe’i ganed tua 1903. Rydym yn meddwl eibod hi’n nyrsio yn Llundain a’i bod wedi caelei lladd yn ystod cyrch bomio. Claddwyd eirhieni ym mynwent Eglwys Llangadfan ac ary garreg fedd mae’r geiriau ‘Mary Jane Harrisdied January 8, 1945 (on active service) aged41 years’. Bu ei mam farw rhyw chwechwythnos yn ddiweddarach.”

Mae gan Annie Ellis, Pencoed atgofion plentynam ddiwedd yr Ail Ryfel Byd. Roedd ynmynychu Ysgol Pontllogel ar y pryd, pan oeddyn byw yn y Pandy. Cofia’r athro yn gyrru’rplant allan o’r ysgol i hel brigau fel y gallentwneud delw o Hitler a’i losgi ar goelcerth!!

Diolch i Dwynwen ac Annie am eu cymorth.Apeliaf unwaith eto am ragor o wybodaeth ynymwneud â’r Ail R yfel Byd a’i therfyn. Mae’nfwriad gennyf drafod rôl yr Home Guard y tronesaf, ond amhosib fydd gwneud hynny hebwybodaeth!

YR HELYGLLANFAIR CAEREINION

Ffôn: 01938 811306

Contractwr adeiladuAdeiladu o’r Newydd

Atgyweirio Hen DaiGwaith Cerrig

CEFIN PRYCE

A THANAU FIREMASTERPrisiau CystadleuolGwasanaeth Cyflym

JAMES PICKSTOCK CYF.MEIFOD, POWYSMEIFOD, POWYSMEIFOD, POWYSMEIFOD, POWYSMEIFOD, POWYS

01938 500355 a 500222

Dosbarthwr olew AmocoGall gyflenwi pob math o danwydd

Petrol, Kerosene, Disl Tractor a Derv acOlew Iro a

Thanciau StorioGWERTHWR GLO CYDNABYDDEDIG

Dofwy Cemaes

HUW EVHUW EVHUW EVHUW EVHUW EVANSANSANSANSANSGors, LlangadfanGors, LlangadfanGors, LlangadfanGors, LlangadfanGors, Llangadfan

Arbenigwr mewn gwaith:* Torwr Coed ar Diger

* Ffensio* Unrhyw waith tractor

* Troi gydag arad 3 cwys ‘spring’a 4 cwys dwy ffordd ‘spring’

* Torri Gwrych

01938 820296 / 07801 583546

Page 8: Actor o fri! · 2020. 9. 20. · yn y diwedd maent yn sylweddoli bod rhaid iddynt gydweithio os am lwyddo – ond y cymeriad Quint yw’r ffefryn ynde! Mae gan bob oes ei stori moesoldeb

88888 Plu’r Gweunydd, Awst/Medi 2020

JANE VAUGHAN GRONOW:07789 711757

Nia Roberts: 07884 472502

LLANGYNYW

CystadleuaethffotograffiaethGrwpCymunedolLlangynywMae’r gystadleuaethwythnosol yn parhaui fod yn boblogaiddiawn ymysg trigolionLlangynyw. Rydymwedi cael pob math othemâu gan gynnwys- y tywydd;a d l e w y r c h i a d ;cysgodion; ‘rhywbethdwi’n casau’ a gyrru.Diolch i bawb amrannu eu lluniau.Dyma dri llun hyfrydyn cynnwys enfysgan Mike Ostrowski,Ruth Hesketh aRachel Davies.

Pen-blwydd Hapus

Penblwydd hapus hwyr a phob dymuniad da i@r bonheddig arbennig iawn sef MeurigWilliams (Meic, T~ Mawr). Dathlodd Meurigei benblwydd yn 96 ar yr 20fed o Fehefin.Daeth nifer o deulu agos a ffrindiau draw i’wgyfarch (o bell) a chafodd gyfle i agor llawer ogardiau penblwydd. Credwn mai Meurig ywun o drigolion hynaf Llangynyw - a dymunwniddo lawer mwy o flynyddoedd hapus iawn.

LlongyfarchiadauGanwyd merch fachi Aled a Mandy, Pen-y-Dyffryn ar 5ed oFehefin. Mae Alwynwrth ei fodd gyda’ichwaer fach ElsiMay.

Rachel Davies, Heniarth

Mike Ostrowski,

Ruth Hesketh

Garej Llanerfyl

Ffôn LLANGADFAN 820211

Arbenigwyr mewn atgyweirioGwasanaeth ac MOT

Cysodir ‘Plu’rGweunydd ganCatrin Hughes,

a Gwasg y Lolfa,Talybont sydd yn ei

argraffu

Page 9: Actor o fri! · 2020. 9. 20. · yn y diwedd maent yn sylweddoli bod rhaid iddynt gydweithio os am lwyddo – ond y cymeriad Quint yw’r ffefryn ynde! Mae gan bob oes ei stori moesoldeb

Plu’r Gweunydd, Awst/Medi 2020 9 9 9 9 9

WWWWWertha i byth mohonoertha i byth mohonoertha i byth mohonoertha i byth mohonoertha i byth mohonoHuw Richards, Y Trallwm

“Meddylia am dri pheth na fyddet ti byth yneu gwerthu a gwna bwt amdanynt ar gyfer yPlu plîs.” meddai Catrin ar ddiwrnod ola’rtymor. “Peth!” meddai Catrin, “Nid person!”

Felly dyma ni. Y cyntaf yw bathodyn cap yWhite Star Line oedd yn cael ei wisgo gan fynhaid pan oedd yn gweithio fel Prif-Bursar arlong yr Olympic sef chwaer-long y Titanic.Diolch i’r drefn mai i’r llong honno y cafodd eiddanfon i weithio ac nid y llall. Chwrddais ierioed â’m taid. Roedd o’n ddafad ddu yn einteulu ni. Ond wrth siarad ag ambell un oeddyn ei adnabod yn ei gartref ym Mhorthaethwymae’n debyg ei fod yn ddyn hynod o alluogac yn ddyn caredig tu hwnt. Trist iawn felly eifod wedi marw’n rhy ifanc o drawiad ar y galon.Pan fydda i’n edrych ar y bathodyn dw i’nteimlo cysylltiad agos â fy nhaid er na ches ierioed fwynhau ei gwmni ond mi fydda i hefydyn cael fy nharo gan y ffaith fod dipyn go lewo’r math yma o fathodyn yn gorwedd ar waeloddyfroedd oer gogledd yr Atlantig. Mae gan ybathodyn gysylltiad â hanes trasig y Titanic ynogystal â chysylltiad â’r Taid na ches i erioedei adnabod go iawn.

Yr ail peth fyddwn i byth yn ei werthu yw’rteclyn od iawn yr olwg sydd yn y llun (isod).Gallwch chi ddadlau mai dyma Sony Walkmany 1930’au. Dyma gramaffon cludadwy fy nhado’i ieuenctid yn ystod cyfnod yr Ail Ryfel Byd.Mae o’n cau i fod yn focs tua maint hanner tortho fara. Mae ‘na olwg reit drist arno erbyn hyn,roeddwn i a’m tri brawd yn chwarae ag o’n aml

pan oeddem yn ifanc. Ond mi oroesodd ygramaffon daith i Normandi gyda fy nhad ar D-Day felly mi gafodd ei adeiladu er mwyn bodyn gryf. Pan fydda i’n edrych arno mi fydda i’nmeddwl am fy nhad yn ei wisg llongwr, mewnhamoc ar fwrdd ei long yn mwyhau Glen Millerneu Harry Ray gyda’i gyd-longwyr ond hefydyn ei gofio’n canu nerth esgyrn ei ben pan oeddyn golchi llestri cinio dydd Sul i hen ganeuonadeg y Rhyfel oedd yn cael eu canu ar y radio

Teisen Mafon Cochion aChaws Ricotta

Diddorol yw cymysgu cynhwysion safri gydarhai melys a blasu sut maent yn gweddu gyda’igilydd. Mae’r rysait hwn mor gyfoethog fel ymedrwn alw y deisen yn ‘Gateau’ ac yn addasiawn ar gyfer penblwyddi ac ati.Mae’n bosib defnyddio ffrwythau eraill syddyn eu tymor fel cyrens cochion, mwyar duon,llus duon, llygaid eirin ond byddai angen mwyo siwgr gyda’r rhain. Mae amrywiaeth o gnauy gellir eu defnyddio sef almon, cyll, cnauFfrengig ond byddai cnau pistachio ynychwanegu mwy o flas. Bydd yn rhaid iunrhyw ddewis o gnau gael eu malu (ground).

Yr ysbwng75g (3 owns) o fflwr codi50g (2 owns) o gnau wedi eu malu125g (5 owns) o fenyn125g (5 owns) o siwgr mân2 wy mawrllond llwy de wastad o bowdr codisudd hanner lemwnParatoi yr ysbwng gan ddefnyddio y dullarferol o hufenu’r menyn a’r siwgr ac yna,ychwanegu’r wyau a’r fflwr a’r cnau.Rhannu’r cymysgedd rhwng dau dun bas aphobi am rhyw hanner awr a gadael iddyntoeri.

Y Llenwad400g (pwys) o gaws ricotta100g (4 owns) o siwgr mânCroen un oren fechanwedi’i ratio’n fân200ml o hufen dwblllond llwy de o flas fanila50g (2 owns) o gnau mân150g (6 owns) omafon cochion (raspberries)

Gan ddefnyddio prosesydd neu gymysgwrbwyd, curo’r caws gyda’r siwgr hyd nes y byddyn hufennog a llyfn. Curo’r hufen dwbl ynysgafn hyd iddo dwchu’n gymhedrol. Cyfuno’rcymysgedd caws a’r hufen ac ychwanegu’rblasau.Gosod un o’r ddwy ysbwng nôl yn y tun athaenu’r llenwad arno. Suddo 100g o’r mafoncochion i’r hufen ac yna, gosod yr hanner arallyn ysgafn ar y llenwad. Gadael i’r llenwad setioam awr yn yr oergell. Addurno’r wyneb gydagweddill y mafon gyda dail mintys.Gellir rhewi sleisys o’r deisen gyda phapurcwyr rhwng y sleisys.

Gair o ddiolch i ffrindiau Bro Banw am y nifero gardiau a’r negeseuon ffôn dwi wedi euderbyn yn ystod y tri mis anodd aeth heibio.Maent wedi bod yn gysur mawr i mi.Braf yw dod nôl i gorlan gynnes Plu’rGweunydd unwaith eto. Cadwch yn saff acyn iach pob un ohonoch.

bob pnawn Sul yn y chwedegau a’r saithdegu.Y trydydd peth yw fy nhedi. Does gen i ddimcywilydd deud hyn chwaith. Prynwyd Tedi ganchwaer fy nhad, Anti Beti ac mi oedd Tedi yn y

crud gen i ar ddiwrnod fy ngenedigaeth.Roedd yn gyfaill cyson i mi pan oedd fymrodyr mawr wedi fy argyhoeddi bodbwystfilod o dan y gwely a finnau’nbump oed. Dw i’n cofio gwneud dilladiddo gyda fy Mam-gu yng Nghaerdyddpan oeddwn i’n ifanc iawn. Defnyddionni ddarn o lawes i hen siaced oedd ynperthyn gynt i fy Nhad-cu i greu côtiddo. Erbyn hyn, hen gap sydd ar ei bena dw i’n cofio’i brynu mewn ffair sborion

pan oeddwn i tua wyth oed. Wrth i mi dyfu mae

o wedi symud gyda mi i eistedd arwahanol silffoedd mewn gwahanolystafelloedd ar hyd y ffordd. Dan ni’r unoed yn union ac fe welwch chi fod amseryn dechrau deud arno – fel fi!Felly, yn y diwedd trafod ‘peth’ syddyma ond roedd yn amhosib gwneudfelly heb drafod ambell berson. Werthai byth mohonyn nhw.

Golygyddion: Hoffem longyfarch Huwar ei gampwaith yn gwneud y gwaithcelf ar gyfer cyfrol newydd ‘Brenin yTrenyrs’ gan ei gyfaill Pryderi Jones.

Page 10: Actor o fri! · 2020. 9. 20. · yn y diwedd maent yn sylweddoli bod rhaid iddynt gydweithio os am lwyddo – ond y cymeriad Quint yw’r ffefryn ynde! Mae gan bob oes ei stori moesoldeb

1010101010 Plu’r Gweunydd, Awst/Medi 2020

LLANFAIRCAEREINION

DOLANOG

Pen-blwydd arbennigBraf yw cael cyfarch Mrs Phyllis DaviesBrynmawr wrth iddi ddathlu ei phen-blwyddyn 90 oed ar y 1af o Awst.Anfonwn ein dymuniadau da a chofioncynnes atoch a gobeithio y bydd cyfle i chigael dathliad bach tawel yng nghwmni’r teulu.

GraddioLlongyfarchiadau gwresog i Carys DolwarFach sydd wedi derbyn gradd Dosbarth cyntafmewn Amaeth gyda Marchnata ym MhrifysgolHarper Adams, ac sydd bellach wedi dechrauswydd newydd fel Swyddog Marchnata ar lein(e-commerce) gyda chwmni Charlie’s, yn eupencadlys ar gyrion Trallwng.

Pennaeth newyddLlongyfarchiadau i Miss Laura Jones ar eiphenodiad yn Bennaeth Dros Dro YsgolGynradd Llanfair Caereinion. Mae Laura wedibod yn gweithio yn Ysgol Ardwyn ac ynddiweddarach yn Ysgol Gymraeg y Trallwng,fel athrawes, Dirprwy Bennaeth a Phennaethdros dro felly mae ganddi flynyddoedd lawero brofiad. Bydd yn dechrau ar ei gwaith ym misMedi a dymunwn y gorau iddi yn y swydd.

Gwellhad buanDyna yw’n dymuniad i Mrs Glenys Jones,Glanyrafon sydd wedi treulio cyfnod yn YsbytyGobowen yn dilyn cwymp a thorri ei garddwrn,ac i Mrs Beti Francis, Bryn Meurig, sydd wedicael triniaeth lwyddiannus ar ei llygaid.

Y LlyfrgellNewyddion da yw clywed fod y gwasanaeth

Siop, Caffi, Swyddfa Bost, SiopSiop, Caffi, Swyddfa Bost, SiopSiop, Caffi, Swyddfa Bost, SiopSiop, Caffi, Swyddfa Bost, SiopSiop, Caffi, Swyddfa Bost, SiopDrwyddedig a Gorsaf BetrolDrwyddedig a Gorsaf BetrolDrwyddedig a Gorsaf BetrolDrwyddedig a Gorsaf BetrolDrwyddedig a Gorsaf Betrol

MallwydAr agor o 7.30 tan 7.00 yr hwyrAr agor o 7.30 tan 7.00 yr hwyrAr agor o 7.30 tan 7.00 yr hwyrAr agor o 7.30 tan 7.00 yr hwyrAr agor o 7.30 tan 7.00 yr hwyr

Bwyd da am bris rhesymol8.00a.m. - 5.00p.m.Ffôn: 01650 531210

Marw Heb EwyllysHeb ewyllys, mae eich ystad yn atebol i’rgyfraith. Mae’r Rheolau Marwolaeth hebEwyllys yn rhestru mewn trefn benodedig yperthnasau gwaed hynny a fyddai’n etifeddu.Mae’r rhestr hon yn gymharol gyfyng ac os nadoes unrhyw un o’r perthnasau a benodir yn yrhestr wedi eich goroesi yna aiff eich holl eiddoi’r Goron.Heb ewyllys, os ydych chi’n briod a bodgennych blant a bod gwerth eich ystad yn fwyna £270,000, ni fydd eich g@r neu wraig ynetifeddu popeth. Byddant yn etifeddu £270,000a rhennir y gweddill yn gyfartal rhyngddyn’ nhwa’ch plant. Os yw gwerth eich cartref yn fwyna £270,000 nid yw hyn yn ddelfrydol ac fe allachosi trafferthion mawr.Mae ewyllys yn rhoi’r cyfle i chi benodigwarchodwyr ar gyfer plant ifanc. Hebbenodiad fel hyn gallai fod anghytuno mawryngl~n â phwy fydd yn gofalu amdanyn nhw arôl eich marwolaeth.Heb ewyllys, oni bai eich bod yn briod gyda’chpartner neu mewn partneriaeth sifil gyda nhw,fydden nhw’n cael dim byd. Chaiff llys blantnad ydych wedi’u mabwysiadu ddim byd‘chwaith os nad oes ewyllys. Mae gwneudewyllys yn rhoi’r cyfle i chi ddarparu ar gyferteuluoedd estynedig.Mae ewyllys hefyd yn eich galluogi i nodidymuniadau penodol ar gyfer eich angladd. Aydych am gael eich claddu neu i’ch corff gaelei losgi? Efallai bod gennych gyfarwyddiadaupenodol yngl~n â lle y dymunwch gael eichcladdu neu lle y dymunwch i’ch gweddilliongael eu gwasgaru.Mae gwneud ewyllys gan wybod eich bod wedinodi eich dymuniadau yn dod â thawelwchmeddwl, ac yn sgil yr argyfwng presennol, maehi efallai yn bwysicach nag y bu hi erioed iwneud ewyllys.Ruth Ceri Jones LL.B. Cyfreithwraig

Os hoffech drafod llunio Ewyllys yn yGymraeg cysylltwch trwy ebost arruthcjones25ruthcjones25ruthcjones25ruthcjones25ruthcjones25@aol.comaol.comaol.comaol.comaol.comRuth Ceri Jones LL.B.Ruth Ceri Jones LL.B.Ruth Ceri Jones LL.B.Ruth Ceri Jones LL.B.Ruth Ceri Jones LL.B.Aelod o’r Gymdeithas YsgrifenwyrEwyllysiau

KATH AC EIFION MORGANyn gwerthu pob math o nwyddau,

petrol a’r Plu

POST A SIOPPOST A SIOPPOST A SIOPPOST A SIOPPOST A SIOPLLLLLLLLLLWYDIARWYDIARWYDIARWYDIARWYDIARTHTHTHTHTH

Ffôn: 820208

llyfrgell yn darparu gwasanaeth Archebu aChasglu llyfrau ar gyfer darllenwyr sy’n caeleu cyfyngu i’w cartrefi ar hyn o bryd. I archebullyfrau o’r llyfrgell gallwch fynd icy.powys.gov.uk/archebuachasglullyfrau neuffonio 01597 827460. Yn ogystal â chasglullyfrau o lyfrgelloedd Llanfyllin a’r Drenewydd,mae posib casglu llyfrau bellach hefyd olyfrgell y Trallwng. Gwasanaeth hynod oddefnyddiol i bobl sy’n cael eu cyfyngu yn eucartrefi ar hyn o bryd, a chofiwch hefyd y byddsiop Pethe Powys ar agor yn awr hefyd i roicyfle i chi brynu llyfrau newydd yr haf.

GraddioLlongyfarchiadau i Rhian Glyndwr sydd wedigraddio gyda gradd Dosbarth 1af mewnDaearyddiaeth o Brifysgol Aberystwyth. ByddRhian yn dechrau ar gwrs ymarfer dysgu yngNghaerdydd yn yr Hydref.

SwyddLlongyfarchiadau i Caryl, Tremafon sydd wedicael swydd newydd fel SwyddogAmaethyddiaeth Amgylcheddol gydaChyfoeth Naturiol Cymru. Pob lwc i ti Caryl.

Diwedd CyfnodAr ddiwedd tymor hynod anarferol a dweud y lleiaf yn Ysgol Uwchradd Caereinion bu inniffarwelio efo dwy aelod o staff sydd wedi gwneud cyfraniad mawr i’r ysgol. Bu Avril Hughesyn lyfrgellydd ac yn athrawes am 30 mlynedd a bu Eluned yn rhedeg y swyddfa a chadw trefn aryr arian ers 17 o flynyddoedd. Rydym hefyd yn ffarwelio efo Sarah May (sydd ddim yn y llun),hithau wedi bod â swyddi anodd a chyfrifol ers un mlynedd ar ddeg. Rydym yn diolch o galonac yn dymuno’n dda iawn i’r dair ar gyfer y dyfodol.

Page 11: Actor o fri! · 2020. 9. 20. · yn y diwedd maent yn sylweddoli bod rhaid iddynt gydweithio os am lwyddo – ond y cymeriad Quint yw’r ffefryn ynde! Mae gan bob oes ei stori moesoldeb

Plu’r Gweunydd, Awst/Medi 2020 11 11 11 11 11

PORI TRWY’R PLUYn union 35 o flynyddoedd yn ôl i’r mis hwn fe deipiais fy rhifyn cyntaf o Blu’r Gweunydd a dymarannau ohono isod. Roeddwn newydd gwblhau cwrs ysgrifenyddol yng Ngholeg Addysg BellachLlanbadarn pan ddaeth yr alwad frys am deipyddes i’r papur bro. Yn y dyddiau hynny roeddwnyn teipio’r papur ar stribedi o bapur 7cm o led ar deipiadur o oes yr arth a’r blaidd oedd ynpwyso tunnell! Roedd rhaid defnyddio beiro os oedd angen gosod to bach ar air neu gywirocamgymeriad. Yna byddai’r stribedi papur yn mynd i Lys Mwyn lle byddai criw yn cynnwys,Emyr, Elwyn a Nest, Meri Griffiths, Roger Elis Humphreys a Mary Jones yn dod at ei gilydd iosod y papur. Byddai’r stribedi papur yn cael eu gludo yn golofnau (cam fel arfer!) efo ‘pritt’ arddarn o gardfwrdd pwrpasol. Ymhen rhai blynyddoedd, cyrhaeddodd y cyfrifiadur i gymryd lley teipiadur a’r ‘pritt’. Rwy’n dychryn weithiau wrth feddwl fod gen i berthynas hirach efo’r Plunag efo’r g@r!

Tân yn LlanfairCafodd trigolion Llanfair Caereinion eubrawychu Nos Wener diwethaf tua 8 o’r glochy nos. Achos y fraw oedd i’r hen adeiladauger y Wynnstay fynd ar dân ac fe fygythwydcartrefi cyfagos gan fod Glyn a Sandra Jonesa’r teulu yn byw yn hen Siop ‘Twist’. Maediolch y cymdogion hyn yn fawr i ddynion tânLlanfair dan arweiniad Haydn Gwalchmai a fumor gyflym yn troi allan. Difrodwyd yr henadeiladau fferm i gyd a bu llawer o niwed i’rhen stablau lle y mae ffermwyr ersblynyddoedd wedi cario eu cnydau gwlân.

Ymweliad â Llundain

Cafodd Sian Foulkes wahoddiad i ArddwestFrenhinol ym Mhalas Buckingham ganol misGorffennaf. Mae Sian wedi bod yn weithgartu hwnt gyda’r Groes Goch ers tua pedairblynedd ar ddeg ac mae’n gyfrifol am yr AdranIau yn Llanfair ers blynyddoedd. Deallwn iddihi a Terry gael amser hyfryd iawn yn Llundain.

Tîm Pêl-rwyd Aelwyd Penllys afu’n fuddugol yn y gemau terfynolyn Aberystwyth

Teyrnged i Mr Dafydd Jones ParcRoedd Mr Dafydd Jones, Parc wedi marw ymis blaenorol ac yn rhifyn Awst cafwyd tudaleno deyrngedau iddo. Dyma ddetholiad byr:Fel aelod o’r cwmni drama lleol y cawsomfwyaf o’i gwmni, nid yn unig yr oedd yn cymrydrhan flaenllaw fel actor ond y fo oedd prifysbrydoliaeth y cwmni, a diamau y byddaiaml i ymdrech i ddysgu drama wedi mynd i’rwal oni bai am ei ddycnwch ef. Pan oeddemyn gwneud drama ‘Hywel Harris’ gan Cynan,Dafydd Jones oedd yn actio darn WilliamsPantycelyn, ac yn un rhan roedd rhaid iWilliams ganu emyn, ond yn y perfformiadRich Cefne oedd yn gwneud y canu, a DafyddJones yn mynd trwy’r mosiwns, ond ni wyddai’rgynulleidfa yn amgenach, ac am a wn i dymaun o rannau mwyaf llwyddiannus yperfformiad.

Richard LewisRoedd Mrs Jones bob amser gartref a Dafyddy rhan fwyaf i ffwrdd mewn rhyw gyfarfod neu’igilydd. Felly nid meistr wrth eich sawdl bobawr o’r dydd oedd Dafydd Jones, ond un aoedd yn ymddiried yn ei weithwyr eu bod yngwneud diwrnod gonest o waith. Anaml iawny clywais ef yn rhoi ‘orders’, ond clywais efdroeon yn holi ein barn ni yngl~n â gwahanolweithgareddau ar y fferm. Proffeswr ar godiwaliau cerrig sych oedd Dafydd Jones, ahynny yn ddigon naturiol fel un wedi’i fagu ynardal Llanuwchllyn, a chai lawer o bleser yn ygwaith. Byddai hefyd yn dod gyda ni i blygugwrych neu agor draen, ef yn aml yn gwneudy gwaith a ninnau yno fel cwmpeini.

Gwilym Jones, LlanrhaeadrLleidrDyma hanesyn bach difrifol a gofnodwyd ganMarion Owen dan golofn y Foel.“Cymerch wers, peidiwch â gadael dim ar led-ymyl! Cerddodd rhywun neu rywrai i mewn iYsgol y Banw yn ystod amser cinio rhywddiwrnod ym mis Mehefin a cherdded allanefo fy handbag! Roeddem i gyd yn y cantîn

mae’n debyg. Pwy fuasai’n meddwl y byddai’rffasiwn beth yn digwydd yng nghefn gwlad”.

Canolfan NewyddRoedd Sadwrn, 20 Gorffennaf, 1985, ynddiwrnod pwysig yn hanes Dyffryn Banw panagorwyd yn swyddogol y Neuadd Gymunednewydd. Mewn heulwen gynnes datglowyd ydrws gan y Cynghorwr David Rowlands, acef hefyd a ddadorchuddiodd y llechen gydagarysgrif bwrpasol arni. Gwahoddwyd pawb ide ar ôl yr agoriad.Yn yr hwyr cafwyd cyngerdd o ddoniau lleol,gydag Alun Jones yn arweinydd. Ieuan Jonesoedd wrth y drws. Yn cymryd rhan roedd PartiDwynwen, Y Parti Dawns, Sion Williams,Hefin a Nia Evans, Anwen a Glyn Roberts,Eleri Williams, Emrys Roberts ac Alun Jones.

Croeso adre o’r FalklandsRoedd David Richards, Y Forge, Pontrobertnewydd ddychwelyd adre o’r Falklands.Roedd hyn dair blynedd ar ôl y Rhyfel.Aethom i mewn i’r ynysoedd ar y 5ed oFawrth; maen nhw rhyw hanner maint Cymruac mae’r tir yn reit debyg i’r tir gwyllt a berthyni rannau o’n gwlad ni. Ces fy anfon i Foxbay,tua 15 milltir o Port Stanley. Roeddwn i ynun o’r rhai oedd yn gwarchod y maes awyrnewydd yn ystod ei agoriad.Roedd ymuno mewn gwyliadwriaethau yngwneud bywyd yn fwy diddorol am fod bywydyn y gwersyll yn ddiflas iawn. Roeddem yncerdded rhwng 10 a 15 milltir y dydd efo tua80 pwys ar ein cefnau. Roedd ygwyliadwriaethau hefyd yn rhoi cyfle i nigyfarfod y bobl leol. Roeddynt yn gyfeillgariawn tuag atom, ac yn barod i roi pryd o fwydpoeth i ni, a gwely am noson weithiau. Burhai o’r bechgyn yn ffodus i gyfarfod â phoblleol oedd yn hannu o Gymru ac roeddent ynfalch iawn o gael byddin Gymreig yno. Cadwdefaid a wnaent at eu bywoliaeth. Roeddyntyn hela’r defaid efo’r c@n a cheffylau a chigdafad oedd eu prif fwyd.Bywyd diflas iawn oedd ein bywyd yno, wythohonom yn cysgu mewn caban heb wres, acroedd yn rhaid i ni ddiddori ein hunain, ondroeddem yn cael bwyd da, felly roedd hynny’nrhoi tipyn o gysur inni. Roeddem yn disgwylgwaeth tywydd – rwy’n deall i chi gael gwaethgaeaf yn y wlad yma - ond roedd y gwynt yntreiddio at fêr ein hesgyrn weithiau.

Carnifal Banw

Pris rhifyn mis Awst/Medi 1985 oedd 20c.

Beth Smith oedd wedi gwisgo fel clown argyfer y carnifal blynyddol yn Llangadfan!

Catrin

Page 12: Actor o fri! · 2020. 9. 20. · yn y diwedd maent yn sylweddoli bod rhaid iddynt gydweithio os am lwyddo – ond y cymeriad Quint yw’r ffefryn ynde! Mae gan bob oes ei stori moesoldeb

1212121212 Plu’r Gweunydd, Awst/Medi 2020

Ganwyd ef ym Meifod, Maldwyn, Chwefror 9,1816. Ffermwyr oedd ei hynafiaid, yn cynnwysRobert Jones, ei dad; a merch i ffermwr, sefThomas Williams, hefyd o Faldwyn, oedd eifam. Roedd ei nain o ochr ei dad, yn hanu o’rteulu Nicholas, Meirionydd, ac yn berthynasi’r Prif Farnwr Richards. Oherwydd hoffter eidad at geffylau rasio a ch@n hela, lleihawydamgylchiadau ariannol y teulu gyda’rcanlyniad iddynt ymfudo i Delaware, Ohio, yn1822. Roedd David, brawd ei dad, wedi prynuffarm yn yr ardal honno ddwy flynedd ynghyntond yn y cyfamser gwnaeth y teulu eu cartrefychydig filltiroedd i ffwrdd o’r dwyrain i’r llehwnnw.

Yn dair ar ddeg oed enillodd Thomas C. eifywoliaeth yn gwasanaethu ar y ffermydd ynnhymorau’r gwanwyn, haf a’r hydref,mynychai’r ysgol yn y gaeaf. Yn ddeunaw oeddysgodd grefft y saer a symudodd iCincinnati, Ohio, i fyw, ac yna i St.Louis, Mis-souri, lle bu’n gweithio am ddwy flynedd. YnHydref 1836, dychwelodd yn ei ôl i Delaware,Ohio, a’r flwyddyn ganlynol aeth i astudio’rgyfraith i swyddfa ei frawd, sef Edward Jones(m.1838). Y gaeaf canlynol gwasanaethoddfel athro yn un o ysgolion yr ardal.Yn Ebrill, 1839, cychwynodd ar ei daith i Loegr,i ymadael â gweddill o eiddo ei dad. Treulioddddeunaw mis yn astudio’r gyfraith ymMhrydain. Dychwelodd yn ôl i’r America yn yGwanwyn, 1841, ac ar ôl eistedd arholiadau oflaen y Llys Uchaf yn Gallipolis, Ohio, cafoddei drwydded i weithredu fel cyfreithiwr acagorodd swyddfa yn Delaware, Ohio. Ynddiweddarach daeth yn bartner i’r BarnwrSherman Finch am bum mlynedd. Yn Hydref,1842, priododd Harriet, ail ferch i’r BarnwrHosea Williams, hen deulu o Massachusetts.Roedd ei hynafiaid yn berchenogiongwreiddiol tref Williamstown, Massachusetts.Roedd priod y Barnwr Williams, sef CharlotteElizabeth Avery, yn hanner chwaer i’rLlywodraethwr Edwin D. Morgan (1859-62)Efrog Newydd, yn wreiddiol o Sir Berk, Mas-sachusetts.Yn 1843 symudodd i Circlevile,Ohio, am dairmlynedd ar ddeg. Dychwelodd i Sir Delawareyn 1856 lle prynodd ffarm a magu gwarthegbyrgorn, defaid Southdown, ynghyd â stocgwych eraill. Yn yr un flwyddyn bu’n bartnergyda H. M. Carper, Delaware. Yn 1859 cafoddei annog gan y Blaid Weriniaethol, Sir Dela-ware a Sir Licking, Ohio, i sefyll fel ymgeisydd

i’r Senedd Daleithol, etholwyd ef gyda mwyafrify pleidleisiau. Mewn cyfarfod o gymdeithasAmaethyddol y Dalaith, yn Ionawr, 1859,etholwyd ef yn aelod o Fwrdd AmaethyddiaethTaleithiol. Bu yn y swydd honno am wythmlynedd, yn llywydd un flwyddyn, ac ynLlywydd Gweithredol y Bwrdd am flwyddynarall. Yn Hydref, 1861, penodwyd ef yn farnwrIs-Adran Gyntaf y Chweched DosbarthCyfreithiol yn cynnwys Siroedd Delaware,Licking a Knox, Ohio, a’i ail-ethol yn 1866 –cyfanswm o ddeng mlynedd o wasanaeth.Roedd yn aelod o Gonfensiwn y BlaidWeriniaethol, ac yn Gadeirydd DirprwyaethOhio, yn Chicago yn 1868. Roedd yn aelod

o’r ConfensiwnCenedlaethol yn1876, ac yn gefnogwrbrwd i’r Arlywydd Ru-therford B. Hayes,ffrind iddo ers dyddiauei blentyndod, ac ynddisgybl yn yr unYsgol ac ef yn Dela-ware, Ohio.Yn 1876 roedd Tho-mas C. Jones yn un o’rrheithgor addewiswyd i wobrwyoyr anrhydeddau ynadran y gwartheg ynFfair Fawr y Byd,P h i l a d e l p h i a ,

Pensylfania, ac yn un o ‘r cadeiryddion hefyd.Ymwelodd â Phrydain yn 1880 gydai briod llebu’n gwneud sylwadau helaeth yngl~n âmasnach da byw. Cafodd ei adroddiad eigyhoeddi ymysg bridwyr yr Unol Daleithiau ynddiweddarach wedyn. Yn 1881 penodwyd efar gomisiwn o dan ddeddf arbennig y Gyngresi chwilio ac adrodd ar anghenion ac adnoddauamaethyddol taleithiau y Môr Tawel, mewncyd-weithrediad â’r Athro E.W. Hilgard,Prifysgol Califfornia, a’r cyn-lywodraethwr,Robert Furnas, o Nebraska. Roedd ynymwelydd cyson a swyddogol â’r AcademiForwrol, yn Annapolis, Maryland.Ysgrifennodd nifer o erthyglau ar bynciauamaethyddol, yn arbennig yn yr adrandiwydiant anifeiliaid. Ef oedd Llywydd cyntafCymdeithas Bridwyr Gwartheg Byrgorn, Ohio,ac ef hefyd a roddodd yr ysbrydoliaeth igyhoeddi yr “Ohio Herd Book”. Roedd yn aelodo’r Eglwys Brotestanaidd Esgobol, ynymddiriedolwr yr Athrofa Diwinyddol, a ColegKenyon, Gambier, Ohio.

Roedd yn dad i bedwar o blant, un ferch a thrio feibion. Un o’i feibion oedd y Parchedig.Hosea Williams Jones, gweinidog gyda’rEglwys Brotestanaidd Esgobol. Bu farw yn1892.

Y BarY BarY BarY BarY Barnwr nwr nwr nwr nwr TTTTThomas Chomas Chomas Chomas Chomas C..... J J J J Jonesonesonesonesones

W. Arvon Roberts

MEIFODMorfudd Richards

01938 [email protected]

Swydd NewyddLlongyfarchiadau mawr i Mary Bailey, PantMawr ar gael swydd gyntaf fel athrawesAddysg Grefyddol yn Ysgol UwchraddCaereinion. Pob lwc i ti Mary.

BabiLlongyfarchiadau mawr i Sian a Nick Walsh,Llety Dafydd ar enedigaeth Briallen ynddiweddar, chwaer i Owen.Pob dymuniad da i Laura ac Ed Gittins YstumColwyn ar enedigaeth eu hail fab Elliot, brawdbach i Joshua.

PenblwyddiGobeithio i Beryl Wilkinson fwynhau dathliadei phen-blwydd yn 90 mis Ebrill gyda’i theulu.Dathlodd Paul Watson-Smyth ei ben-blwyddyn 70 ar y 3ydd o Orffennaf, gobeithio iddo gaeldathliad bach.Pen-blwydd hapus arbennig i Edward Birchallar ddathlu ei ben blwydd yn 18 oed - pob hwylgyda’r dathlu.

Pob math o waith tractor,

yn cynnwys-

Teilo gyda chwalwr

10 tunnell,

Chwalu gwrtaith neu galch,

Unrhyw waith gyda

Amryw o beiriannau eraill ar

gael.

Ffôn: 01938 820 305

07889 929 672

IVOR DAVIESPEIRIANWYR PEIRIANWYR PEIRIANWYR PEIRIANWYR PEIRIANWYR AMAETHYDDOLAMAETHYDDOLAMAETHYDDOLAMAETHYDDOLAMAETHYDDOLRevel Garage, Aberriw, Y Trallwng

Trwsio a gwasanaethu peiriannau fferm yrholl brif wneuthurwyr

Ffôn/Ffacs:Ffôn/Ffacs:Ffôn/Ffacs:Ffôn/Ffacs:Ffôn/Ffacs: 01686 640920Ffôn symudol:Ffôn symudol:Ffôn symudol:Ffôn symudol:Ffôn symudol: 07967 386151

Ebost:Ebost:Ebost:Ebost:Ebost: [email protected]

Page 13: Actor o fri! · 2020. 9. 20. · yn y diwedd maent yn sylweddoli bod rhaid iddynt gydweithio os am lwyddo – ond y cymeriad Quint yw’r ffefryn ynde! Mae gan bob oes ei stori moesoldeb

Plu’r Gweunydd, Awst/Medi 2020 13 13 13 13 13

Y PLU YN HOLI’R AWDUR- PRYDERI GWYN JONES -

1. Rho ychydig o dy gefndir inni...Cefais fy ngeni yn Aberystwyth a fy magu ynLlansannan ac ym Mangor. Es i Ysgol yCreuddyn (ger Llandudno) ac yna i BrifysgolCymru, Bangor. Dwi lawr yn y canolbarth ‘maers ugain mlynedd.

2. Be oeddet ti’n ddarllen yn dyarddegau?Rydw i’n cofio darllen llyfrau Roald Dahl ahefyd llyfrau Adrian Mole. Yn Gymraeg, roeddJabas yn ddifyr iawn. Ond llyfrau am bêl-droedwyr fel Ian Rush a Mark Hughes, a llyfrauam sut i chwarae darts a thenis oeddwn i yneu benthyg o lyfrgell yr ysgol.

3. Pa awdur(on) sydd wedidylanwadu arnat?Rydw i wrth fy modd efo’r ffordd mae TwmMorys yn sgwennu rhyddiaith ond hefydawduron fel Caradog Pritchard, MihangelMorgan a Manon Steffan Ros. Yn Saesnegmae Roddy Doyle yn wych a hefyd, HarukiMurakami, Phillpie Djijon a Milan Kundera.

4. Ar gyfer pa oedran yn benodolmae’r llyfr wedi ei anelu?Yn fy meddwl i mae’r llyfr ar gyfer plant 12 i14 oed. Ond mae yna lawer o hen bobol yndeud eu bod wedi ei fwynhau hefyd!

4. Rho ychydig o gefndir y stori inni.Sôn mae’rllyfr amf a c h g e nsydd eisiaupâr o drenyrsn e w y d dAdidas ondmaen nhw’nrhy ddrud!Felly, mae oyn gorfodmeddwl amffyrdd o gaelarian i’wprynu nhw atydy hynnyddim ynhawdd! Mae’rsyniad ynmynd yn ôl i fy arddegau pan dreuliwn i aRheinallt fy ffrind ein prynhawniau Sadwrn ynsiopau chwaraeon Rhyl a Llandudno yn llygadutrenyrs drudfawr!

5. Oeddet ti wedi gorfod gwneudunrhyw ymchwil ar gyfer y llyf?Mi ddarllenais i ddau lyfr am drenyrs. ‘Sneakerwars’ oedd y cyntaf sydd yn trafod yrelyniaeth rhwng y ddau frawd a sefydloddgwmni Adidas a chwmni Puma. ‘Shoe dog’oedd yr ail, sy’n trafod hanes sefydlu cwmniNIKE! Mi ddarllenais dipyn am hanes GemauOlympaidd Berlin, 1936 hefyd.

6. Pa olygfa yw dy hoff olygfa yn yllyfr?Yr olygfa yn y pwll nofio dwi’n credu!

7. Sut wyt ti’n dewis enwau ar gyferdy gymeriadau?Mi driais i ddewis enwau sydd yn swnio’nnaturiol. Mi sylwodd Nia fod enwau’r merched,am ryw reswm, i gyd yn dechra efo ‘L’ acroedd rhaid newid chydig wedyn!

8. Roeddwn yn sylwi dy fod wedicyflwyno’r llyfr i ‘Dad a Mam’, i baraddau wnaethon nhw ddylanwaduar dy chwaeth mewn llyfrau?Do! Y Beibl roeddan nhw isio mi ddarllen cyndim byd arall. Ond fe gefais i lwyth o lyfraueraill hefyd, fel y Llewod gan Dafydd Parri,llyfrau T Llew Jones a llyfrau Islwyn FfowcEllis. Yn Saesneg, y Famous Five gan EnidBlyton, llyfrau Agatha Christie a Cider withRosie, Laurie Lee.

9. Ar ddiwrnod cyffredin faint oamser wyt ti’n treulio yn ysgrifennu?Pan fo amser gen i, mae dwy i dair awr oysgrifennu yn hen ddigon dwi’n meddwl.

10. Be wyt ti’n ddarllen ar hyn obryd?Mae yna ddau lyfr gan Murakami gen i oWaterstones Amwythig, pan es i ag Efa ynoat yr Orthodontydd! Hefyd, llyfr gan Gareth FWilliams, ‘O ddawns i ddawns’ ydy ei enw.

11. Be ydi dy gynlluniau fel awdur argyfer y dyfodol?Wel bydd yr ail lyfr yn cael ei gyhoeddi yn yrHydref, a’r trydydd, os byw ac iach, yn 2021.Dyna drioleg y trenyrs. Mi hoffwn i orffen nofeli oedolion hefyd, ond cawn ni weld!

12. Yn olaf, pa drenyrs wyt ti’ngwisgo?Cwestiwn da! Dwi newydd brynu Adidas Fore-court originals! Fe gyrhaeddon nhw yn y postyr un pryd â bocs o lyfrau o’r wasg! Maennhw’n bethau hyfryd iawn!

Llongyfarchiadau i’n colofnydd Pryderi Gwyn Jones sydd newydd gyhoeddi ei nofel gyntaf ibobl ifanc. Mae Pryderi yn athro Cymraeg poblogaidd yn Ysgol Uwchradd Caereinion acrydym i gyd yn dymuno’n dda iawn iddo gyda’i gyfrol gyntaf. Cyhoeddwyd y llyfr gan GwasgCarreg Gwalch a bydd ar gael yn eich siopau llyfrau lleol am £6.96.

PEN-TYMOR

DENO LOCKSMITH

Ffôn: 07828-951215

Ebost: [email protected] Gewfan: www.denolocksmiths.co.uk

Busnes teuluol yn Llangadfan

Fe ymddeolodd John Vaughan, Tymawr, Llanerfylo swydd gyfrifol fel Cadeirydd Cyllid Sioe FrenhinolCymru ar ôl Sioe 2019, a bellach mae hefyd wediymddeol o fod yn aelod o’r Bwrdd. Wrth ddymuno’ndda iddo ar ei ymddeoliad, cawsom gyfle i’w holiam ei gysylltiad hir â’r Sioe a rhoi cyfle iddo fwrwgolwg dros rai o Sioeau’r gorffennol.Pryd wnest ti ddechrau gweithio gyda’r Sioe?Pryd wnest ti ddechrau gweithio gyda’r Sioe?Pryd wnest ti ddechrau gweithio gyda’r Sioe?Pryd wnest ti ddechrau gweithio gyda’r Sioe?Pryd wnest ti ddechrau gweithio gyda’r Sioe?Dwi wedi bod ynghlwm â’r Sioe ers yr 80au cynnar.Fe ddes i yn aelod o Bwyllgor Ymgynghorol SirMaldwyn yn 1983, ac ymhen blwyddyn cefais fyethol yn gadeirydd y pwyllgor hwnnw. Deuthum ynaelod o’r Bwrdd yn 1985. Bum yn aelod o FwrddRheoli Cymdeithas y Sioe a oedd yn cyfarfod ynfisol ac yna deuthum yn aelod o bwyllgorau eraill.Oherwydd y mwynhad nid oeddwn yn teimlo body gwaith yn faich o gwbl.Pa Sioe oedd yr un fwyaf cofiadwy?Pa Sioe oedd yr un fwyaf cofiadwy?Pa Sioe oedd yr un fwyaf cofiadwy?Pa Sioe oedd yr un fwyaf cofiadwy?Pa Sioe oedd yr un fwyaf cofiadwy?Mae pob Sioe yn gofiadwy yn ei ffordd ei hun, ondpan mae Maldwyn yn noddi mae yna berthynasarbennig yn digwydd, felly mae 1992, 2006 a 2018yn fwy cofiadwy, gyda 2018 yn arbennig gan fymod i a Beryl wedi cael y fraint o agor y Sioe yflwyddyn honno.Pwy oedd yr ymwelydd mwyaf diddorol i chiPwy oedd yr ymwelydd mwyaf diddorol i chiPwy oedd yr ymwelydd mwyaf diddorol i chiPwy oedd yr ymwelydd mwyaf diddorol i chiPwy oedd yr ymwelydd mwyaf diddorol i chiei groesawu i’r Sioe?ei groesawu i’r Sioe?ei groesawu i’r Sioe?ei groesawu i’r Sioe?ei groesawu i’r Sioe?Syr Geraint Evans, a ddaeth i’r Sioe i agor y PafiliwnRhyngwladol. Roedd wedi tyfu barf fawr ar gyferopera arbennig ac wedi dod i’r Sioe i’w thorri ganfod yr opera wedi dod i ben! Cyflawnwyd yseremoni o flaen swyddogion y Gymdeithas agyfrannodd yn hael at elusen o’i ddewis!Wrth edrych yn ôl ar ddatblygiad y Sioe,Wrth edrych yn ôl ar ddatblygiad y Sioe,Wrth edrych yn ôl ar ddatblygiad y Sioe,Wrth edrych yn ôl ar ddatblygiad y Sioe,Wrth edrych yn ôl ar ddatblygiad y Sioe,beth wyt ti’n fwya’ balch ohono?beth wyt ti’n fwya’ balch ohono?beth wyt ti’n fwya’ balch ohono?beth wyt ti’n fwya’ balch ohono?beth wyt ti’n fwya’ balch ohono?Pafiliwn yr Aelodau a godwyd ar ôl apêl SioeMaldwyn yn 2006, sydd o ddefnydd mawr i’r Sioea’r Gymdeithas, a Chanolfan Arddangos yGwartheg a’r Defaid, sydd o fudd i’r arddangoswyr.Rwyt wedi bod yn Gadeirydd Cyllid y SioeRwyt wedi bod yn Gadeirydd Cyllid y SioeRwyt wedi bod yn Gadeirydd Cyllid y SioeRwyt wedi bod yn Gadeirydd Cyllid y SioeRwyt wedi bod yn Gadeirydd Cyllid y Sioeam ugain mlynedd. Beth oedd yr heriauam ugain mlynedd. Beth oedd yr heriauam ugain mlynedd. Beth oedd yr heriauam ugain mlynedd. Beth oedd yr heriauam ugain mlynedd. Beth oedd yr heriaumwyaf?mwyaf?mwyaf?mwyaf?mwyaf?Roedd yna lawer o her yn y gwaith ac ambell i siom,fel Clwy’r Traed a’r Genau, pan ganslwyd y Sioe,ac yna roedd 2017 yn flwyddyn wlyb iawn achollwyd arian y flwyddyn honno. Ceir ymateb daiawn gan y siroedd nawdd bob blwyddyn, sydd yngefn i’r Gymdeithas, ac mae hyn yn galonogol iawn.Mae’r holl ddatblygiadau ar y Maes wedi digwyddo ganlyniad i’r gefnogaeth honno.Siom i bawb oedd deall na fyddai’r Sioe ynSiom i bawb oedd deall na fyddai’r Sioe ynSiom i bawb oedd deall na fyddai’r Sioe ynSiom i bawb oedd deall na fyddai’r Sioe ynSiom i bawb oedd deall na fyddai’r Sioe yncael ei chynnal eleni. Fydd yna un y flwyddyncael ei chynnal eleni. Fydd yna un y flwyddyncael ei chynnal eleni. Fydd yna un y flwyddyncael ei chynnal eleni. Fydd yna un y flwyddyncael ei chynnal eleni. Fydd yna un y flwyddynnesaf tybed?nesaf tybed?nesaf tybed?nesaf tybed?nesaf tybed?Roedd gorfod canslo Sioe eleni yn siom aruthrol ibawb ac yn arbennig i’r rhai sy’n arddangos stoca’r masnachwyr. Does ond gobeithio’n fawr y byddmodd cynnal Sioe y flwyddyn nesa’.Sut wyt ti am ddefnyddio’r holl amserSut wyt ti am ddefnyddio’r holl amserSut wyt ti am ddefnyddio’r holl amserSut wyt ti am ddefnyddio’r holl amserSut wyt ti am ddefnyddio’r holl amserhamdden fydd gen ti ar ôl rhoi’r gorau i waithhamdden fydd gen ti ar ôl rhoi’r gorau i waithhamdden fydd gen ti ar ôl rhoi’r gorau i waithhamdden fydd gen ti ar ôl rhoi’r gorau i waithhamdden fydd gen ti ar ôl rhoi’r gorau i waithy Sioe?y Sioe?y Sioe?y Sioe?y Sioe?Wel, dwi’n dal i ffarmio! Mae Sychtyn yn nwylocenhedlaeth newydd r@an ac rydw i yno i helpu ynôl yr angen.

Page 14: Actor o fri! · 2020. 9. 20. · yn y diwedd maent yn sylweddoli bod rhaid iddynt gydweithio os am lwyddo – ond y cymeriad Quint yw’r ffefryn ynde! Mae gan bob oes ei stori moesoldeb

1414141414 Plu’r Gweunydd, Awst/Medi 2020

Ann y Foty a Daniel KawczynskiMynd am dro o gwmpas yr ardaloeddwn i pan gyfarfyddais â ffrind.“Ar y ffordd I’r ‘Mwythig ydych chiAnn,” holodd, “i ddymchwelcofgolofn yr hen Robert Clive yna?”

Mae’n amlwg fod y wraig hon yn uno’r bobl brin hynny wnaeth ddarllen fy erthyglyn y Plu fis yn ôl, lle roeddwn i wedi galw amchwalu moniwment yr Arglwydd Clive.Eglurais nad oeddwn i wedi mentro ar y daithhonno eto.Yna aeth fy ffrind yn ei blaen i ddweud iddi fywyn yr Amwythig am flynyddoedd.“Roedd y bobl braidd yn amheus ohonom ni’rCymry,”meddai. “Fel pe bai arnyn nhw ofngweld byddin Gymreig yn dod tros y WelshBridge i ymosod ar y dre unrhyw funud.”Gwyddwn fod rhywbeth tebyg i hyn wedidigwydd yn nyddiau Llywelyn Fawr ac efallaifod y digwyddiad hwnnw yn rhan o gof llwytholy trigolion hyd heddiw.Cofiais wedyn fod Amwythig unwaith wedi bodyn brifddinas teyrnas Powys. Pengwern oeddei henw bryd hynny a bu’n gartref i Heledd a’Ibrodyr. Wedyn fe ddaeth yn gadarnle i’r EinglSacsoniaid a’r Normaniaid.Fe gododd Roger de Montgomery, un ofarwniaid mwyaf nerthol William Goncwerwrgastell yma ac o’r lle hwnnw gallai gadw llygadbarcud ar y Cymry trafferthus dros y ffin, ganfentro i ymosod arnynt o dro i dro, cyn rhuthro’nôl i ddiogelwch ei gaer.Yma hefyd (yn hytrach na Chilmeri) y daethannibyniaeth y Cymry i ben yn 1283, panddedfrydwyd Dafydd ap Gruffudd, brawdLlywelyn ein Llyw Olaf i farwolaeth gan ybrenin barbaraidd hwnnw, Edward y Cyntaf.Dafydd oedd y dyn cyntaf erioed i gael eigyhuddo o deyrnfradwriaeth. Wedi eiddienyddio rhannwyd ei gorff i’w wasgaru ibedwar ban y deyrnas. Ceir plac ar wal yn ydre i’n hatgoffa o hyn.

Mae’r berthynas rhyngom a phobol Amwythigychydig yn fwy gwaraidd erbyn hyn . Amganrifoedd buom yn tyrru yno i farchnata achynnal pwyllgorau gan dyfu’n bur hoff o’r llegyda’i adeiladau du a gwyn hynafol.Synhwyraf bellach fod pethau’n dechrau newideto. Mae gan Amwythig heddiw AelodSeneddol o’r enw Daniel Kawczynski. Pwyliada aned yn Warsaw yw ef sydd wedi troi yngenedlaetholwr Seisnig ffyrnig ac yn aelod o’rBlaid Geidwadol. Galwodd yn ddiweddar amddiddymu Senedd Cymru. Synhwyraf ei fodyn ei ystyried ei hun fel rhyw fath o ail Rogerde Montgomery fyddai wrth ei fodd yn arwainbyddin i oresgyn ein gwlad. Yr hyn a’icythruddodd oedd fod llywodraeth Cymru ynystod yr argyfwng diweddar wedi ei waharddef a’i etholwyr tros y ffin rhag dod i dorheulo arlan y môr yn ein gwlad ni. Wedi’r cwbwl, onidmaes chwarae iddo fo a’i deip oedd Cymru ifod?Ac nid fo yw’r unig wleidydd adain dde I siaradfel hyn yn ddiweddar. Dyna i chi Mark Reck-less, arweinydd Plaid Brecsit yn y Senedd yngNghaerdydd, neu Gareth Bennett a’i blaidAbolish the Assembly (byddai Ashamed to beWelsh yn well enw arni). Iddyn nhw lle’r Cymryyw bod yn dawel a thaeog a chwbl ddibynnolar Loegr. A dweud y gwir, digon tebyg ywagwedd y Toriaid Cymreig bron i gyd. Tra’ndifrio a dinistrio eu gwlad eu hunain maennhw’n edrych yn addolgar tuag at Lundain.Iddynt hwy Lloegr yw’r wlad sy’n llifeirio olaeth a mêl. Maen nhw wrthi yn prysurdanseilio ein hamaethyddiaeth ac yn gwerthuein Gwasanaeth Iechyd i Donald Trump. Yfreuddwyd fawr fe ymddengys, yw gwneudCymru yn rhan o Western England.Rhaid cyfaddef er hynny fy mod i y dyddiauhyn yn hynod falch fod yna ffin (waeth pamor anelwig) rhwng y ddwy wlad. Bydded iDaniel Kawczynski aros ar yr ochor arall iddi.

S U D O C W

ENW: _________________________

CYFEIRIAD: ____________________

____________________________________

Y mis nesaf bydd yr enillydd lwcus yn derbyntocyn gwerth £10 i’w wario yn un o siopauCharlie’s. Anfonwch eich atebion at MarySteele, Eirianfa, Llanfair Caereinion, YTrallwm, Powys, SY21 0SB neu CatrinHughes, Llais Afon, Llangadfan, Y Trallwm,Powys, SY21 0PW yn ddim hwyrach na dyddSadwrn Medi 19egSadwrn Medi 19egSadwrn Medi 19egSadwrn Medi 19egSadwrn Medi 19eg

Diolch yn fawr iawn i’r 24 ohonoch a fu cystalag anfon eich atebion i mewn i’r gystadleuaethSudocw: Rhiannon Gittins, Llanerfyl; EirysJones, Dolanog; Wat, Brongarth; GlenysRichards, Pontrobert; Bethan Lewis, Pennal;Hywel Jones, Llanrhaeadr-ym-Mochnant;Bethan Davies, Penybontfawr; David Smyth,Foel; Ivy, Belan-yr-argae; Megan Roberts,Llanfihangel; Delyth Thomas, Carno; AnnEvans, Bryncydyn; Moyra Rowlands-GoodgerNantycaws; Linda James, Llanerfyl; Ann Lloyd,Rhuthun; Jean Preston, Dinas Mawddwy;Maureen Jones, Talardeg; Noreen Thomas,Amwythig; Cleds Evans, Llanfyllin; EirwenRobinson, Cefncoch; Myra Chapman,Pontrobert; Mavis Lewis, Llanfair; IvorRoberts, Llanymawddwy ac Arfona Davies,Bangor. Yr enw cyntaf allan o’r fasged olchioedd Hywel Jones, Llanrhaeadr ym Mochnantfydd yn derbyn tocyn gwerth £10 i’w wario ynun o siopau Charlie’s.

01938 810242/01938 811281 [email protected] /www.banwyfuels.co.uk

TANWYDD

OLEWON AMAETHYDDOL

POTELI NWY

BAGIAU GLO A CHOED TAN

TANCIAU OLEW

BANWY FEEDS POB MATH O FWYDYDD

ANIFEILIAID ANWES

A BWYDYDD FFERM

argraffu daam bris da

holwch Paul am bris ar [email protected] 832 304 www.ylolfa.com

ym mhentre Llangadfan

01938 82063301938 82063301938 82063301938 82063301938 820633

ORIAU ORIAU ORIAU ORIAU ORIAU AGORAGORAGORAGORAGORDydd Llun i Ddydd SadwrnDydd Llun i Ddydd SadwrnDydd Llun i Ddydd SadwrnDydd Llun i Ddydd SadwrnDydd Llun i Ddydd Sadwrn

9 tan 49 tan 49 tan 49 tan 49 tan 4Dydd SulDydd SulDydd SulDydd SulDydd Sul

9 tan 39 tan 39 tan 39 tan 39 tan 3COGINIOCOGINIOCOGINIOCOGINIOCOGINIO

9 tan 29 tan 29 tan 29 tan 29 tan 2

Gwasanaeth Têc-a-wêGwasanaeth Têc-a-wêGwasanaeth Têc-a-wêGwasanaeth Têc-a-wêGwasanaeth Têc-a-wêBrecwast ar ddydd Llun,

Mercher a Gwener

Swper - bob yn ail nos SadwrnNesaf: Nos Sadwrn Nesaf: Nos Sadwrn Nesaf: Nos Sadwrn Nesaf: Nos Sadwrn Nesaf: Nos Sadwrn AAAAAwst 1afwst 1afwst 1afwst 1afwst 1af

Gwasanaeth cludo at y drwshttps://www.facebook.com/plurgweunydd

TTTTTwitter: witter: witter: witter: witter: @PluGweunyddPluGweunyddPluGweunyddPluGweunyddPluGweunydd

Page 15: Actor o fri! · 2020. 9. 20. · yn y diwedd maent yn sylweddoli bod rhaid iddynt gydweithio os am lwyddo – ond y cymeriad Quint yw’r ffefryn ynde! Mae gan bob oes ei stori moesoldeb

Plu’r Gweunydd, Awst/Medi 2020 15 15 15 15 15

LLANLLUGANI.P.E. 810658

G wasanaethau A deiladu D avies

Drysau a Ffenestri UpvcFfasgia, Bondo a Bargod Upvc

Gwaith Adeiladu a ToeonGwasanaethau Cynnal a Chadw Eiddo

Gwaith tirRheiliau Haearn, Giatiau a Balconïau

Ffôn: 01938 820521 Symudol: 07933 452175

www.davies-building-services.co.uk

Ymgymerir â gwaith amaethyddol,Ymgymerir â gwaith amaethyddol,Ymgymerir â gwaith amaethyddol,Ymgymerir â gwaith amaethyddol,Ymgymerir â gwaith amaethyddol,domestig a gwaith diwydiannoldomestig a gwaith diwydiannoldomestig a gwaith diwydiannoldomestig a gwaith diwydiannoldomestig a gwaith diwydiannol

O’R GORLANGwyndaf Roberts

Mae’n rhaid cyfaddef bod erthygl ysgubol Anny Foty yn ‘Dryllio’r Delwau’ wedi f’ysgogi iedrych eto ar ein hen lyfrau emynau enwadola chwilio’n arbennig am yr emynau cenhadolsydd ynddynt. Diddorol felly oedd darganfodbod llyfrau’r Annibynwyr a’r Bedyddwyr ynrhestru yn eu mynegeion emynau a ddisgrifirfel rhai cenhadol ond nad ydynt yn ymddangosmewn unrhyw adran arbennig yn y llyfrau.Mae’r Caniedydd (1961) yn rhestru 32 emynond dim ond un sef rhif 370 sy’n cyfeirio atwledydd tramor. Cyfieithiad yw 370 o emynHeber sy’n sôn am Greenland, India ac Affrigond nid oes dim ynddo sy’n ymylu ar fod ynhiliol.

Dim ond 24 emyn cenhadol sydd yn yLlawlyfr Moliant Newydd (1956) ond maecyfeiriad at India ac Asia yn rhif 93, yr Ethiopiayn 698, paganiaid duon yn 774, Israel yn 165a Greenland, India a’r Affrig yn 332.

Mae’n rhaid troi at Lyfr Emynau yMethodistiaid Calfinaidd a Wesleaid (1930) iweld adran wedi’i neilltuo i emynau cenhadol.Mae 37 emyn yn yr adran gyda deg ohonyntyn cyfeirio at wledydd tramor. Ceir dau emynyn yr adran sy’n cynnwys gair na ellir eiddefnyddio yma yn y Plu. Fel mae’n digwyddWilliams Pantycelyn yw awdur y ddau emyn.Er na fu Pantycelyn dramor mae ef fel sawlemynydd arall yn poeni am yr India, yr Aifft acEthiopia. Yn emyn 402 mae’n dweud ‘O naddoi ddydd yr India i ben’ tra yn yr ail bennillmae’n taro tant imperialaidd dros ben drwyddyheu ‘Boed Prydain Fawr yn fflam o dân / Ogariad at ei Phrynwr glân.’ Dw i’n amau oscanodd unrhyw un o ddarllenwyr y Plu yr emynhwn erioed.

Mae Ann yn feirniadol o ddau emyn ybu canu croch arnynt yn y gorffennol. Nid oessôn am Iesu, cofia’r plant yn llyfrau’r pedwarenwad. Hyd y gallaf weld, mae’n ymddangosyn gyntaf yng Nghaniedydd Newydd yr YsgolSul a gyhoeddwyd yn 1930 o dan nawdd yr

Annibynwyr Cymraeg. W Nantlais Williams(1874-1959) yw’r awdur a hen alaw wedi’ithrefnu gan y Dr Caradog Roberts (1878-1935)yw’r dôn. Mae’n ymddangos felly mai plantysgolion Sul yr Annibynwyr oedd y cyntaf iganu’r emyn hwn. Mae blas cyfnod ar ygeiriau pan oedd yr ysgol Sul yn boblogaidda dichon fod y dôn hithau wedi ychwanegu aty brwdfrydedd a fu unwaith wrth i blant o bobenwad gasglu at y Genhadaeth Dramor.

Mae’n amlwg o’r dystiolaeth yn yrerthygl y bu canu brwdfrydig ar emyn mawrPantycelyn Tyred Iesu i’r anialwch sy’n sônyn yr ail bennill am olchi’r aflan, cannu’rEthiop, / Gwneud yr euog brwnt yn lân. Mae’remyn yn y Caniedydd 472, y Llawlyfr Moliant592 a’r Llyfr Emynau 612 gyda chyfeiriad yny tri llyfr at cannu’r Ethiop. Diddorol er hynnyyw sylwi nad oedd y golygyddion yn cynnwysyr emyn o dan y pennawd Emynau Cenhadol.Da yw gweld yr emyn yn Caneuon Ffydd 730a bod y golygyddion wedi trwsio a gwella’remyn drwy newid y geiriau tramgwyddus iolchi’r aflan, cannu’r duaf / gwneud yr euogbrwnt yn lân.

Dw i’n cytuno i raddau pell iawn gydagAnn y Foty mai’r Beibl , y lejar a’r gwn, chwedlGwenallt, a ddefnyddid gan Brydain Fawr i“wareiddio“ sawl gwlad. Ond a ellir dweudgyda sicrwydd bod pob un o’r cenhadon ynrhannu’r dyhead Prydeinig hwn. Sêl crefyddola dyhead i ddilyn comisiwn Iesu a gwneuddisgyblion o’r holl genhedloedd oedd ysbardun i lawer. Byddai’n rhaid wrthastudiaeth fanwl a diduedd i benderfynu betha ysgogodd cenhadon fel Evan Evans Carno,John Davies Tahiti, Thomas Jones India,Jacob Davies Ceylon a David Jehu SierraLeone i fentro mor bell o’u mamwlad. Bethbynnag yw’n barn heddiw yngl~n â dilysrwyddy genhadaeth, teg dweud mai poblymroddedig a dewr oedd y rhain gyda’u golwgar ledaeniad teyrnas Iesu Grist yn brif nodiddynt. Erys y ffaith er hynny y bu cydredeggyda’r lejar a’r gwn yn fenter beryglus a dweudy lleiaf. Dyma rybudd y dylai’r EglwysGristnogol fod yn ymwybodol iawn ohoni ynein dyddiau ni hefyd.

DathluAr ddechrau Gorffennaf fe ddathlodd Mrs DoraDavies gynt o Tynllan ei phen-blwydd yna raidiwrnodau yn ddiweddarach tro MorfyddHuxley oedd hi i ddathlu ei phen-blwydd acymlaen ddeg ddiwrnod yr oedd ei merch ShanJones, Llwynmelyn Tregynon yn dathlu pen-blwydd arbennig iawn, hynny yw yn drigainoed, pob ddymuniadau da i ti Shan.

TristIe, o hapusrwydd ymlaen at dristwch. Tua30 mlynedd yn ôl daeth teulu ifanc i fyw iCaebryn, Richard, Teressa a’r plant Daniel,Emma a’r efeilliad Jamie a Casey. Yna’nddiweddar fe wnaethant symud i fyw rhwngCeri a Sarn. Ond, yna clywsom am farwolaethsydyn Richard o afiechyd tebyg i Roy Castle.Anfonwn ein cydymdeimlad dwys a’n cofionat y teulu bach oedd gynt o’r plwyf yma.

TorriTua chanol mis Gorffennaf daeth newyddionfod Mrs Glenys Jones gynt o Bleak House,gweddw Joe ni, wedi cwympo a thorri eigarddwn. Brysiwch wella ac edrychwn ymlaen at eich gweld chi‘n ôl adref yn eichcartref yn Llanfair.

CofioWrth edrych yn ôl dros y blynyddoedd— ‘rwyncofio mynd fyny i Siop Anti Gladys a Tommyeu mab, ac ‘roedd pob math o bethau i’wprynu - dillad, ‘sgidiau, papur, paent, hadau...ah..hadau, mae gen i stori am hadau. Prynaisbaced o hadau blodau, wedi anghofio pa rai,ond mai rhai Carter o Langollen oedden nhw.Anti yn meddwl y byd ohonynt, ac fe heuaisnhw yn fy ngardd fach, fach, fach i. D’wedaiswrth mam fy mod wedi eu plannu, “ I hopeyou read the instructions well before plant-ing” medde hithau. Do, wnes i ... OND 8modfedd yn y ddaear yn lle 8 modfeddrhyngddynt. Ni welais y blodau byth, tybedddaru rhywun yn Awstralia gael blodau yn yrardd nad oeddynt wedi eu plannu?

“Waw”Ie, mae “Waw” yn air mawr gennyf.Defnyddiaf “waw” yn aml iawn, ond ‘rwyf wedisylwi fod Mari Sychtyn yn hoff iawn hefyd oddefnyddio y gair “Waw” yn enwedig pan oeddyn blasu’r cig ar y sioe ddigidol eleni.Roeddwn hefyd wedi mwynhau y prawf aroddwyd iddi’n ddyddiol.

A.J.’sAnn a Kathy

Stryd y Bont, Llanfair

Siop Trin Gwallt

Ar agor o ddydd Mawrth iddydd Sadwrn

ac hwyr nos Wener

Ffôn: 811227Ffôn: 811227Ffôn: 811227Ffôn: 811227Ffôn: 811227

LLANFAIR CAEREINIONTREFNWR ANGLADDAU

Gwasanaeth Cyflawn a PhersonolCAPEL GORFFWYS

Ffôn: 01938 810657Hefyd yn

Ffordd Salop,Y Trallwm.

Ffôn: 559256

R. GERAINT PEATE

ar ddydd Llun a dydd Gwener

PRACTIS OSTEOPPRACTIS OSTEOPPRACTIS OSTEOPPRACTIS OSTEOPPRACTIS OSTEOPAAAAATHIGTHIGTHIGTHIGTHIG BRO DDYFI BRO DDYFI BRO DDYFI BRO DDYFI BRO DDYFI

yn ymarfer uwch ben

Salon Trin GwalltAJ’s

Stryd y BontLlanfair Caereinion

Ffôn: 01654 700007neu 07732 600650

E-bost: [email protected]

ByddMargery Taylor B.SC (Anrh) Ost.; D.C.R.R. a

Peter Gray, B.Sc (Anth) Ost.

Page 16: Actor o fri! · 2020. 9. 20. · yn y diwedd maent yn sylweddoli bod rhaid iddynt gydweithio os am lwyddo – ond y cymeriad Quint yw’r ffefryn ynde! Mae gan bob oes ei stori moesoldeb

1616161616 Plu’r Gweunydd, Awst/Medi 2020

Penblwydd Priodas Hapus i Dad a Mam, sef Roy ac Anwen Griffiths,sy’n dathlu eu Priodas Ruddem ddiwedd Awst. Llongyfarchiadau mawroddi wrth Owain a Hannah, Mererid, Geraint, Gwenllïan a Tegid.

HER Y SGONS LEMONED!Diolch yn fawr iawn i bob un ohonoch am fynd i’r drafferth o wneud ysgons ac anfon llun imi. Isod fe welwch luniau o’r sgons ‘lemonêd’ adderbyniais ac ychydig o sylwadau gan y cogyddion.

Hawdd iawn i’w gwneud- fegymerodd hanner awr o’r dechrautan eu bwyta! Huw y g@r yn eu hoffiyn fawr ond dim digon melys i mi.Bydd angen lot o jam!! Maen nhwyn ysgafn iawn ac wedi codi yndda. Mae’n siwr y byddaf yn eugwneud eto - gobeithio eu bod ynrhewi yn dda. Diolch am yr her -rwy’n mwynhau trio pethaunewydd.

Wedi paratoi sgons i de prynhawn.Doedden nhw ddim digon melysgan Mair.Mor hawdd i’w gwneud ac yn

ysgafn iawn.Jane James, Llanerfyl

Anni di gneud nhw a chael hwyldda arnyn nhw hefyd. Wedi gneudnhw ddydd Sadwrn dwytha i fyndefo ni i weld y teulu. Spesial iawnfelly.

Wedi eu mwynhau,dipyn ysgafnach na rhai traddodiadol .Dim anawsterau gyda’rparatoadau ac wedi defnyddiospatula i’w trosglwyddo o’r fowleni’r bwrdd. Byddaf yn bendant yndefnyddio hwn eto ond ddim ynrheolaidd. Wali yn rhoid ‘thumbsup ‘ hefyd.

Ffion Dolwar Fach yn falch iawno’i hymdrech

Wedi defnyddio hufen Elmlea.Sgons ysgafn iawn.

Myra Chapman, Pontrobert

Sgons Morfudd, Richards, Meifod

Roedd y sgons uchod yn “Big hit”ym Mharc Llwydiarth. Bu i Llinoswneud rhai efo Elmlea hefyd(isod). Gobeithio fod Hyw wedigorffen tagu!

Elen, Hafod

Dilys Lewis, Llangadfan

Delyth, Sarn,Carno

PEN-BLWYDD PRIODAS

Ferraris yn Llangadfan

Dyma ryfeddod a welwyd yn Llangadfan yn ddiweddar - 6 o Ferrariswedi eu parcio mewn rhes - whiw, hoffwn i ddim rhoi gwerth ariannolarnynt! Nid wyf yn credu am funud fod unrhyw wirionedd yn y si maiRichard Mills, Alyn Edwards, Gareth Parc, Emyr Wyn, Gwyndaf Gareja Berwyn sydd eu perchen (ond, pwy a @yr !!!!!!)

Sian Vaughan Jones, Pontrobert

AR AGORLlun – Gwener 7.30 a.m. – 5.00 p.m

Sadwrn 7.30 a.m. – 2.00 p.m.

BANWY BAKERYCAFFI

Bara a Chacennau CartrefPopty Talerddig yn dod â

Bara a Chacennau bob dydd IauBara Henllan yma bob dydd ond dydd Sul

Te Angladdau. Arlwyo i Bartïon. Saladau

Cysylltwch â Rita Waters ar 01938 810952