hydref 2012

7

Click here to load reader

Upload: tst

Post on 09-Mar-2016

223 views

Category:

Documents


6 download

DESCRIPTION

Hydref 2012

TRANSCRIPT

Page 1: Hydref 2012

Cyfrol 16 Rhif 1 Volume 16 No. 1

BWLETIN TYMOR YR HYDREF

2012

AUTUMN TERM

BULLETIN

YSGOL GLANRAFON, YR WYDDGRUG.

Page 2: Hydref 2012

Medi/September 2012. Annwyl rieni/Dear parents, A hithau bron yn ddiwedd mis Medi yn barod, mae’n bleser gen i, fel bob amser, gyflwyno’r Bwletin tymhorol cyfredol i’ch sylw caredig. Braf yw cael dweud bod y tymor a’r flwyddyn addysgol newydd yn mynd rhagddi yn rhwydd iawn a bod pawb wedi ymgartrefu yn ôl i drefn ysgol unwaith eto. Mawr hyderir y cawn oll flwyddyn lwyddiannus a llewyrchus yn ystod 2012-2013. Fel y nodir yn y Bwletin ei hun, mae’r sylwadau a geir ynddo yn fwy cyffredinol erbyn hyn, gan fod taflen wybodaeth benodol wedi’i hanfon allan ar gyfer dosbarthiadau eich plant. Gyda’r Cylchlythyr Wythnosol yn cael ei anfon i chi bob dydd Gwener hefyd, mae cymaint o wybodaeth gyfredol yn cael ei drosglwyddo’n rheolaidd i chi erbyn hyn. Fodd bynnag, pleser yn wir yw cael eich cyfarch yn swyddogol ar ddechrau blwyddyn ysgol newydd ac edrychir ymlaen at gyd-weithio hapus eleni eto. With it being nearing the end of September already, it gives me great pleasure, as always, to present the current termly Bulletin for your kind attention. It is so pleasing to say that the new term and new academic year are going well and that everyone has settled back to school routine once again. It is sincerely hoped that everyone will have a successful and flourishing 2012-2013 academic year. As is noted in the Bulletin, the information given is far more general by now, as the information sheet regarding your children’s class/es has already been sent out to you. With the Weekly Newsletter being sent out every Friday also, so much more current information is relayed regularly to you. It is however, a pleasure to officially greet you at the beginning of another academic year and we all look forward to your happy co-operation during the year ahead. Yn gywir/Yours sincerely, Ll.M.Jones (Miss) (Prifathrawes – Headmistress)

Page 3: Hydref 2012

1. CROESO – WELCOME. Fel bob amser, pleser o’r mwyaf yw cael croesawu pawb yn ôl yn dilyn gwyliau’r haf. Mae nifer fawr o ddisgyblion wedi cychwyn o’r newydd yn yr ysgol, ac erbyn hyn, mae niferoedd yr ysgol wedi codi i 298 o ddisgyblion – sy’n golygu bod y nifer wedi bod yn cynyddu’n raddol dros y blynyddoedd diwethaf sy’n galonogol iawn ar gyfer addysg Gymraeg. Manteisir ar y cyfle hwn i ddymuno’n dda i’r disgyblion hynny sydd wedi symud ymlaen i addysg uwchradd, a rhaid yw llongyfarch ein cyn-ddisgyblion ar eu llwyddiant yn yr arholiadau TGAU a Lefel A yn ystod yr haf. Ymfalchiwn yn llwyddiannau ein holl ddisgyblion bob amser. As always, it gives us great pleasure to welcome everyone back following the summer holiday. A large number of pupils have started from new here in Glanrafon, and by now, the number of pupils on the school’s role has increased to 298 pupils – which means that the school numbers have risen gradually over recent years, which is very encouraging for Welsh medium education. We take this opportunity to wish those pupils who have moved on to secondary education all the very best, and we congratulate our past pupils on their successes in this summer’s GCSE and A level results. We are always very proud of our pupils’ success at all times.

2. PRESENOLDEB A PHRYDLONDEB – ATTENDANCE AND PUNCTUALITY. Fe’ch hatgoffir eleni eto, fel bob amser i sicrhau eich bod yn rhoi gwybod i’r ysgol bob amser pan fydd eich plentyn yn absennol o’r ysgol. Mae’n hanfodol ein bod ni’n cael gwybod bod y disgyblion oll yn ddiogel bob dydd, ac felly, ein bod yn cael gwybod pan fo unrhyw blentyn yn absennol a’r rheswm am hynny. Cofiwch nad oes disgwyl i’ch plentyn ddod i’r ysgol os nad yw ef/hi yn teimlo’n dda yn y bore, rhag achosi unrhyw anesmwythyd diangen i’r plant. Yn yr un modd, rydym yn gofyn i chi adael i ni wybod os y bydd eich plentyn yn hwyr ar unrhyw amser, fel y gallwn sicrhau eu bod yn cael eu cofnodi’n gywir ar system gofrestru’r ysgol. Mae prydlondeb hefyd yn hanfodol – mae pob eiliad o addysg y plentyn o 8.50 a.m. hyd at ddiwedd y dydd yn eithriadol o bwysig a phob munud yn cyfrif. Felly, fel y nodwyd uchod, gofynnir i chi adael i ni wybod os yw eich plentyn yn mynd i fod yn hwyr am unrhyw reswm bob amser. Byddwn yn trosglwyddo unrhyw bryder am ddiffyg prydlondeb parhaol i Swyddog Lles yr ysgol. You are reminded again this year, as always, to inform us at all times if your child is absent from school. It is essential that we know that all of our pupils are safe every day, and therefore, there is a necessity that we are informed when any child is absent and the reason for the absence. Please do not send your child/ren to school in the morning if he/she does not feel well so as to avoid any discomfort for the children. In the same way, we ask you to inform us if your child is going to be late any morning, so that we can record such instances correctly on the school’s attendance system. Punctuality is also vital – every second of a child’s education from 8.50 a.m. to the end of every day is exceptionally important and every minute counts. Therefore, as was noted overleaf, you are asked to inform us if your child is going to be late for any reason at any time. We will transfer any concern we have about a pattern of lateness to the school’s Welfare Officer.

3. RHIFAU CYSWLLT – CONTACT NUMBERS. Fel a nodir yn gyson, mae’n bwysig bod gennym y rhifau ffôn cysylltiol diweddaraf o’ch eiddo yn ein cofnodion bob amser. Os oes unrhyw newid yn eich rhifau ffôn, mae’n hanfodol eich bod yn rhoi gwybod i ni am y newidiadau hynny os gwelwch yn dda. As always, it is important that we have your latest contact numbers on our records at all times. If there are any changes in your contact numbers, it is essential that we are informed of those changes please.

Page 4: Hydref 2012

4. CYFEIRIADAU E-BOST – E-MAIL ADDRESSES. Yn yr un modd, gofynnir i chi ein hysbysu os oes unrhyw newid yn eich cyfeiriad e-bost ers y flwyddyn ddiwethaf. Mae hyn yn fodd i sicrhau bod y gohebiaeth yn eich cyrraedd yn electronig. In the same way, we ask you to inform us of any change to your e-mail address since last year. This ensures that all correspondence arrives with you electronically.

5. PARCIO - PARKING. Fel bob amser, mae’r Bwletin yn gyfle i’ch hatgoffa na ddylid parcio ar faes parcio’r ysgol ar unrhyw amser yn ystod y dydd os nad oes gennych fathodyn glas anabledd. Fe sylwch bod y maes parcio yn orlawn bob un diwrnod oherwydd y mae nifer ein staff wedi cynyddu’n raddol ar hyd y blynyddoedd. Caiff y tacsis ddod ar y maes parcio ar ddechrau a diwedd y dydd bob diwrnod. A fyddech cystal â hysbysu unrhyw un arall sy’n dod i gasglu’ch plentyn ac nad ydynt yn derbyn y Bwletin hwn, o bwysigrwydd y mater hwn o iechyd a diogelwch i bawb os gwelwch yn dda. Rwyn gwbl hyderus y gellir dibynnu ar eich cydweithrediad yn hyn o beth. Rhaid pwysleisio hefyd nad oes gan neb hawl i barcio eu ceir ym mynedfa unrhyw dŷ sydd ger yr ysgol, gan fod hyn yn achosi cryn anhwylustod i’r trigolion. Mae’n bwysig fod pawb yn parchu preifatrwydd y trigolion hyn. As always, the Bulletin is an opportunity to remind everyone not to park on the school parking ground at any time during the school day, unless you have a blue disability badge. You will notice that the school’s staff has increased considerably over the years. The taxis are allowed to come on the yard at the beginning and end of every school day. You are kindly asked to relay this information to anyone who is bringing your child/ren or collecting them from school occassionally. It must be emphasised again that no-one has the right to park in front of the entrance to any house near the school, as this causes much inconvenience for the residents. It is important that we all respect the residents’ privacy.

6. CERDDED YN DDIOGEL – WALKING SAFELY. Cofier mai’r llwybrau troed yn unig ddylid eu defnyddio wrth gerdded tuag at ac oddi wrth yr ysgol bob amser. Gan fod y bobl sydd â’r hawl i wneud hynny yn gyrru eu ceir yn rheolaidd i mewn ac allan o faes parcio’r ysgol, mae hi’n llawer rhy beryglus i unrhyw un gerdded ar y ffordd honno, felly trwy naill ai’r giat uchaf neu yr un ar waelod y cae y dylai unrhyw un sy’n cerdded i’r ysgol neu oddi yma eu defnyddio. RHAID cadw at hyn er diogelwch i BAWB. Please remember that it is the footpaths only that should be used by anyone walking to or from the school at all times. As those people who have the right to be on the school’s car park drive back and forth along the roadway leading to the school, it is far too dangerous for anyone to walk on that roadway, therefore, it is the top or bottom gates that all pedestrians should use. This MUST be adhered to for EVERYONE’S safety.

7. GWEINYDDU MEDDYGINIAETHAU – ADMINISTER MEDICATION. Fel y gwyddoch, dim ond mewn amgylchiadau argyfyngus yn unig y byddwn yn gweinyddu meddyginiaethau os yw eich plentyn/plant yn digwydd bod ar gwrs o feddyginiaeth unrhyw bryd. Mae nifer o resymau am hyn wrth gwrs – y cyfrifoldeb mawr a osodir ar ein hysgwyddau os digwydd i bethau fynd o’i le a rhesymau iechyd a diogelwch amlwg megis i’r feddyginiaeth fynd ar goll yn yr ysgol. Taer erfyniwn arnoch i ddod i’r ysgol i weinyddu’r feddyginiaeth i’ch plentyn/plant lle bynnag y bo hynny’n ymarferol bosib os yw eich plentyn yn ddigon da i ddod i’r ysgol. As you know, it is in emergency circumstances only that we administer medication to any pupil/s who happen to be on a course of medication at any time. There are reasons for this of course – the huge responsibility that is laid upon us if anything goes wrong and obvious health and safety reasons if the medication happens to be mislaid. We appeal to you to make every possible effort to come to school to administer the medication to your child/ren where this is practically possible if your child is well enough to come to school.

Page 5: Hydref 2012

8. CYMORTH CYNTAF – FIRST AID. Ar hyn o bryd, mae gennym 3 pherson sydd wedi gwneud yr hyfforddiant dwys ar gyfer gweinyddu cymorth Cyntaf yn yr ysgol, ac un arall wedi’i chofrestru ar gyfer cwrs o’r fath. Os bydd disgybl yn disgyn yn yr ysgol a’i fod ef/hi angen triniaeth sylfaenol, fe wneir hynny yn yr ysgol, ac anfonnir nodyn adref gyda’r disgybl i’ch hysbysu o hynny. Mewn achosion mwy difrifol neu un sydd ag unrhyw amheuaeth yn ei gylch, cysylltir â chi ar unwaith – rheswm arall paham y dylai’r holl rifau cyswllt fod yn gyfoes, neu mewn argyfwng, gyda’r gwasanaethau brys. At the moment, we have 3 qualified First aiders in school, and another member who has been registered for such a course. If any child falls in school and needs minor treatment, this is dealt with in school, and a note is sent home with the child to inform you of this. In more serious circumstances, or ones that we are doubtful about, we will contact you immediately – another reason to ensure that all the contact numbers are up to date, or in a crisis, the emergency services are called upon.

9. TAFLEN WYBODAETH – INFORMATION SHEET. Derbynioch i gyd daflen gwybodaeth berthnasol i ddosbarth eich plentyn chi ddiwedd yr wythnos diwethaf. Cynhwyswyd llawer o’r gwybodaeth a fyddai, fel arall, yn cael ei gynnwys yn y Bwletin hwn ynddo. Golyga hyn y bydd y Bwletin yn llai o faint, gan fod y wybodaeth gyffredinol wedi’i gynnwys yn y daflen honno. Mae’r Cylchlythyr wythnosol hefyd yn golygu bod llai o ddeunydd i’w gynnwys yn y Bwletin tymhorol You all received a paper copy of the information specific to your child/ren’s class/es at the end of last week. Much of the information included was what would have been in the Termly Bulletin, and therefore, the Bulletin is considerably shorter, as general information was included on the Information sheet. The Weekly newsletter also means that there is less information to include in the Bulletin.

10. STAND FEICIAU – BICYCLE STAND. Fe’ch hysbysir na all yr ysgol gymryd cyfrifoldeb am unrhyw feic neu sgwter gaiff eu gadael yn y stand feiciau tu allan i’r ysgol dros nos neu ar benwythnos. Fe’n hysbyswyd gan y sir nad yw eu hyswiriant yn ad-dalu am golled os bydd un yn mynd ar goll o dir yr ysgol. Felly, apelir arnoch i sicrhau fod eich plentyn/plant yn dod â’u beic neu sgwter adref efo nhw bob nos, rhag iddynt fod yn demtasiwn i dresmaswyr wedi oriau ysgol. You are notified that school can not take responsibility for any bike or scooter that is left in the school’s bike stand at the end of the day or at a week end. We have been informed by the Authority that the county’s insurance policy does not pay for one that goes missing from the school ground. Therefore, we appeal to you to ensure that your child/ren bring their bike or scooter home with them at the end of the day, so that they are not left as a temptation for any trespasser on the school ground after school hours.

11. MÂN DEGANAU A THRYSORAU – SMALL TOYS AND NOVELTIES. Gwyddom fod y disgyblion yn hoffi dod â mân offer neu deganau efo nhw i’r ysgol, ond yn anffodus, gall hyn beri anesmwythyd mawr i’r plant pan fyddant yn mynd ar goll neu yn peri anghydfod rhwng y plant. Oherwydd hynny, gofynnir yn garedig iawn i chi beidio â chaniatau i’ch plant ddod â phethau o’r fath efo nhw i’r ysgol. Byddwn yn rhoi gwybod i’r disgyblion pan fyddant yn cael caniatad i ddod â theganau efo nhw i’r ysgol megis ar ddiwedd tymor. We know that the pupils like to bring small items or toys with them to school, but unfortunately, this can cause the children much distress if they become lost or if they cause disagreement amongst the children. Because of this, you are kindly asked not to allow your children to bring such items with them to school. We will let the children know if they can bring toys with them to school on such occasions as the end of term.

Page 6: Hydref 2012

12. TREFN CODI CŴYN – COMPLAINTS PROCEDURE. Mae copi llawn o weithdrefnau’r ysgol ar gyfer codi cŵyn ar gael yn yr ysgol i unrhyw un sy’n dymuno cael copi ohono. Cofier mai’r man cychwyn ynglyn ag unrhyw gŵyn wrth gwrs yw’r ysgol. Ymfalchiwn ym mholisi ‘drws agored’ yr ysgol hon bob amser. A full copy of the school’s complaints procedures is available in school if anyone wishes to have a copy. The starting point for any complaint as you know, is the school itself. We pride ourselves in our ‘open door’ policy at all times.

13. OFFER CHWARAE – PLAY EQUIPMENT. Dim ond dan arolygiaeth staff yr ysgol y caniateir i’r disgyblion ddefnyddio’r ddwy set o offer chwarae yn ystod y dydd. Ni chaniateir i’r disgyblion ddefnyddio’r offer yn ystod cyfnodau ar ddechrau a diwedd y dydd, gan na all yr ysgol fod yn gyfrifol am unrhyw anffawd a ddigwydd yn ystod y cyfnodau hynny. The pupils are only allowed to use the two sets of play equipment under the supervision of school staff during the day. They are not permitted to use the equipment before the beginning or at the end of the school day, as the school cannot be responsible for any misfortune or accident during these times.

13. GWEITHGAREDDAU AR ÔL YSGOL – AFTER SCHOOL ACTIVITIES. Fel y gallwn edrych ar ehangu ein darpariaeth wedi oriau ysgol, rydym yn casglu gwybodaeth i ddarganfod os oes unrhyw rieni yn barod i rannu eu doniau gyda’r disgyblion trwy gynnal clwb gweithgaredd wedi oriau ysgol. Os oes gennych ddiddordeb i sefydlu unrhyw glwb neu weithgaredd ychwanegol wedi oriau ysgol, gofynnir yn garedig i chi gysylltu gyda’r ysgol, fel y gallwn ystyried dechrau gwahanol weithgareddau ychwanegol wedi oriau ysgol. So that we could consider enhancing further our after school activities, we are gathering information to see if we have any parents who are prepared to share their talents with the pupils in an after school activity. If you have interest in establishing an extra after school activity, you are kindly asked to contact school, so that we could consider establishing such an activity with your assistance.

14. DYDDIADUR O DDIGWYDDIADAU – DIARY OF EVENTS. Isod, nodir y dyddiadau ar gyfer nifer o ddigwyddiadau o rwan hyd ddiwedd y tymor. Braslun yn unig yw hwn, gan y bydd digwyddiadau eraill yn codi wrth i’r tymor fynd yn ei flaen, a byddwch yn cael eich hysbysu o’r digwyddiadau ychwanegol fel y byddant yn codi. Daw mwy o fanylion wrth gwrs am y rhai a restrir isod wrth i’r tymor fynd yn ei flaen. Below, is a list of some of the events from now to the end of term. This is a summary of course, and further events will arise as the term progresses, and you will of course, be informed of any additional events. Further information will be sent to you regarding those listed below, as the term progresses. 28.09.12 Diwrnod o weithgareddau i godi arian at apêl Nyrsys McMillan – A day of activities to

raise money for the McMillan Nurses appeal. 03.10.12 Tynnu lluniau unigolion a theuluoedd yn yr ysgol – Individual and family photographs

taken in school. 04.10.12 Teulu o Awstralia yn dod i ymweld â’r ysgol ar ran Mr a Mrs Walter, Owen a Megan –

cyn ddisgyblion yr ysgol. – Australian family visit the school on behalf of Mr & Mrs Walter, Owen and Megan – ex pupils of the school.

05.10.12 Diwrnod Jeans for Genes yn yr ysgol – Jeans for Genes Day in school. 05.10.12 Adran yr Urdd yn ail-ddechrau am 3.15 p.m. – Urdd Adran re-commences – 3.15 p.m. 08.10.12 Pnawn Agored – Open Afternoon – 3.30 – 5.30 p.m. 10.10.12 Disgyblion Blwyddyn 3 a 4 yn ymweld â Chastell y Waun – Years 3 & 4 pupils visit Chirk

Castle. 11.10.12 Dathlu Diwrnod T.Llew Jones Celebration Day. 16.10.12 9.30 a.m. – Gwasanaeth Diolchgarwch Uned y Blynyddoedd Cynnar ar gyfer rhieni a

ffrindiau – Early Years Harvest Thanksgiving for parents and friends.

Page 7: Hydref 2012

16.10.12 Gwasanaeth Diolchgarwch disgyblion Blwyddyn 1-6 yn yr ysgol ar gyfer y disgyblion – Years 1-6 Harvest Thanksgiving service in school for the pupils.

25.10.12 Ysgol yn cau ar gyfer yr hanner tymor i’r disgyblion – School closes for the half term holiday for the pupils.

26.10.12 Diwrnod hyfforddiant mewn swydd i’r staff – dim ysgol i’r disgyblion – In-service training for the staff – no school for the pupils.

05.11.12 Ysgol yn ail-agor ar ôl y gwyliau hanner tymor – School re-opens after the half term holiday.

08.11.12 Gala nofio yr Urdd yn Nhreffynnon – Urdd Swimming gala in Holywell. 12-16.11.12 Gweithdy Celf gyda Mari Gwent – Art workshop with Mari Gwent. 16.11.12 Diwrnod Plant mewn Angen – Children in Need day. 27.11.12 Holl ddisgyblion yr ysgol yn ymweld â phantomeim yn Theatr y Stiwt, Rhos – All the

school’s pupils attend the pantomime at Theatr y Stiwt, Rhos. 11.12.12 9.30 a.m. – Gwasanaeth Nadolig Uned y Blynyddoedd Cynnar yn neuadd yr ysgol – Early

Years Unit’s Christmas service in the school hall. 11.12.12 6 p.m. - Cyngerdd Nadolig yr Uned dan 7 (Bl. 1 a 2) yn neuadd yr ysgol – Under 7’s

Unit’s (Years 1&2)Christmas concert in the school hall. 12.12.12 Pnawn – Cyngerdd Nadolig yr Uned dan 7 yn neuadd yr ysgol – Under 7’s Unit’s

Christmas concert in the school hall. 12.12.12 6 p.m. – Gwasanaeth Nadolig disgyblion C.A. 2 yng Nghapel Bethesda – K.S.2 pupils’

Christmas service at Bethesda Chapel. 21.12.12 Ysgol yn cau am wyliau’r Nadolig – School closes for the Christmas holidays. 07.01.13 Diwrnod hyfforddiant mewn swydd i’r staff – dim ysgol i’r disgyblion – In-service

training day for the staff – no school for the pupils. 08.01.13 Ysgol yn ail-agor i’r disgyblion – School re-opens for the pupils.

15. DYDDIADAU GWYLIAU 2012-2013 HOLIDAY DATES. Tymor yr Hydref – Autumn Term 2012

03.09.12 Diwrnod hyfforddiant mewn swydd – In-service training day. 04.09.12 Ysgol yn agor – School opens. 25.10.12 Ysgol yn cau i’r disgyblion ar gyfer y gwyliau hanner tymor – School closes for the

pupils for the half term holiday. 26.10.12 Diwrnod hyfforddiant mewn swydd – In-service training day. 05.11.12 Ysgol yn ail-agor wedi gwyliau’r hanner tymor – School re-opens following the

half term holiday. 21.12.12 Ysgol yn cau am wyliau’r Nadolig – School closes for the Christmas holiday.

Tymor y Gwanwyn 2013 – Spring Term. 07.01.13 Diwrnod hyfforddiant mewn swydd – In-service training day. 08.01.13 Ysgol yn ail-agor i’r disgyblion – School re-opens for the pupils. 08.02.13 Ysgol yn cau am wyliau hanner tymor – School closes for the half term holiday. 18.02.13 Ysgol yn ail-agor wedi’r gwyliau hanner tymor – School re-opens following the

half term holiday. 22.03.13 Ysgol yn cau am wyliau’r Pasg – School closes for the Easter holiday.

Tymor yr Haf 2013 – Summer Term. 08.04.13 Diwrnod hyfforddiant mewn swydd – In-service training day. 09.04.13 Ysgol yn ail-agor i’r disgyblion – School re-opens for the pupils. 06.05.13 Gŵyl y Banc – gwyliau undydd – Spring Bank holiday. 24.05.13 Ysgol yn cau am wyliau hanner tymor – School closes for half

Term holiday. 03.06.13 Ysgol yn ail-agor wedi gwyliau’r hanner tymor – School re-opens following the

half term holiday. 19.07.13 Ysgol yn cau am wyliau’r haf i’r disgyblion – School closes for the summer

holiday for pupils. 22.07.13 Diwrnod hyfforddiant mewn sywdd i’r staff – In-service training day for the staff.