rhifyn 101 hydref 2012 pris 50c santes helenpapurdre.net/wp-content/uploads/archif/101.pdfrhifyn 101...

20
PAPUR DRE PAPUR DRE Rhifyn 101 HYDREF 2012 Pris 50c PAPUR DRE I BOBOL DRE SANTES HELEN 2012 1912 Elin Evans ac Alexander Pursglove, dau ddisgybl fenga’r ysgol yn dathlu ei chanmlwyddiant. Mwy o’r hanes ar dudalen 4. PapurDreGorffennaf2012_PapurDreHydref2010 04/10/2012 21:59 Page 1

Upload: others

Post on 30-Jan-2021

3 views

Category:

Documents


0 download

TRANSCRIPT

  • PAPUR DREPAPUR DRERhifyn 101 HYDREF 2012 Pris 50c

    PAPUR DRE I BOBOL DRE

    SANTES HELEN

    2012

    1912

    Elin Evans ac Alexander Pursglove, dau ddisgybl fenga’r ysgol yn dathlu ei chanmlwyddiant. Mwy o’r hanes ar dudalen 4.

    PapurDreGorffennaf2012_PapurDreHydref2010 04/10/2012 21:59 Page 1

  • 2

    Cadeirydd a DerbynLlythyrauGLYN TOMOSBorth Wen, Ael y Garth,Caernarfon, LL55 1HA(01286) [email protected]

    BWRDD GOLYGYDDOLROBIN EVANS(01286) 676963RHIAN TOMOS(01286) 674980TRYSTAN ACAROLYN IORWERTH(01286) 676949GERAINT LØVGREEN(01286) 674314 R. ELWYN GRIFFITHS(01286) 674731 JANET ROBERTS(01286) 669066

    TrysoryddGWYNDAF ROWLANDS46 Stryd yr Hendre,(01286) 678254

    Hysbysebion ELERI LØVGREENY Clogwyn, LL55 1HYFfôn: 07900061784Ffacs: (01286) [email protected]

    Clwb 100CEREN WILLIAMS13 Lôn Oleuwen, LL55 2UP(01286) 676073

    Tanysgrifio/TrefnyddDosbarthuALUN ROBERTSMelangell, Lôn Sgubor WenLL55 1HS(01286) 677208

    PWY ‘DIPWY...

    Stiwdio Gwallta Harddwch

    46 Stryd Llyn, Caernarfon

    Rhif Ffôn: 672999Perchnogion: G Geal a G Evans

    Nid yw’r Bwrdd Golygyddol na’rnoddwyr o angenrheidrwydd yncytuno gyda’r farn yn y Papur

    Ellis Davies a’i GwmniCYFREITHWYR

    Yn gwasanaethupobl Caernarfon ers

    1898

    27 Stryd Bangor,Caernarfon LL55 1AT

    Ffôn:(01286) 672437

    [email protected]

    Pwy sydd Yn y Gadair y mis yma? Mae’nHydref arnom ni, ond yn Haf o hyd i hon.Gweler tud 6.

    BE SY'N DIGWYDDCymdeithas Ddinesig CaernarfonNos Fercher, Hydref 24ain am 7.00 yrhwyr Yr Institiwt CaernarfonCyflwyniad gan Gwyn Parry ar y pwnc‘Tywysydd Twristiaid yng NgogleddCymru’ h.y. sut y daeth yn dywysydd abeth mae hyn yn ei olygu a sut maeCaernarfon yn dod i mewn i'r rhaglen.Traddodir y ddarlith yn Saesneg.

    Cylch Llenyddol Caernarfon a GwyrfaiYn Ystafell Gymuned LlyfrgellCaernarfonHydref 16, 7.30- Manon Wyn Williams

    Cymdeithas Hanes Teuluoedd GwyneddYn Ystafell Gymuned LlyfrgellCaernarfon7 pm 25 Hydref, Sophia M Pari-Jones: Y Felin Faesog, Clynnog

    Clwb Arlunio Caernarfon18 Hydref, Noel McReady. Matisse aPicasso (Fy ngwaith i.)

    Merched y Wawr13 Tachwedd, Geraint Thomas, Panorama,Llynnoedd Eryri

    (Croeso i bawb anfon gwybodaeth amddigwyddiadau yn dre)

    RHODDIONHoffai PAPUR DRE ddiolch o galon i’r canlynol ameu rhodd ariannol: Olwen Whittaker, Llundain Haf Evans, Llundain Geraint Roberts, Froncysyllte Dienw

    LLONGYFARCHIADAUD.A.Williams o 47 Maes Meddyg oedd y darllenwrlwcus a enillodd gryno ddisg Co Bach ac Ifas yTryc yn sgil cystadleuaeth a ymddangosodd ynrhifyn Gorffennaf PAPUR DRE.Llongyfarchiadau mawr.

    Siambrau Banc LloydsCaernarfon

    Swyddfeydd ym Mangor,Porthaethwy a Chaergybi

    Tudur OwenRoberts, Glynne & Co.

    Ffôn: (01286) 672207

    Cyfreithwyr

    DEWCH ATOM I BLYGU PAPURDRE

    Rhifyn: TACHWEDD

    Noson Plygu: NOS LUN, TACHWEDD 12

    Yn lle: YSGOL MAESINCLA

    Faint o’r gloch: o 5.00 ymlaen

    Deunydd i law’r golygyddion perthnasol NOS LUN – HYDREF 29

    Os gwelwch yn ddaDaw’r rhifyn nesaf o’r wasg NOS LUN – TACHWEDD 12

    Y RHIFYN NESAF

    NODDI PAPUR DREOs oes unrhyw un arall yn dymuno dodyn un o’n prif noddwyr, cysylltwch ag

    Eleri ar 01286 674314

    PapurDreGorffennaf2012_PapurDreHydref2010 05/10/2012 09:10 Page 2

  • CAFFIBWYTY

    BARY Maes, Caernarfon, LL55 2YD

    (01286) 673100

    3

    ModurdyB & K Williams

    Lôn Parc/ South Road, CaernarfonGwynedd LL55 2HP

    Ffôn: 01286 675557Ffôn symudol:07768900447

    Gwasanaeth Cyfeillgaro’r Safon Orau Bob Amser

    Y Llyfrgell yn gwobrwyo Mae’r Gwasanaeth Llyfrgell yngNghaernarfon yn gwobrwyo aelod o’r staffbob blwyddyn am ei gyfraniad arbennig i’rgwasanaeth. Yr aelod buddugol yn 2011/ 2012 oedd JamieRichardson, un o hogia Dre sy’n gyrrullyfrgell symudol ‘Lori Ni’ o gwmpasysgolion Gwynedd. Mae’n ymweld agysgolion cynradd ac uwchradd y sir - rhyw120 i gyd – o leia ddwywaith y flwyddyn. Ysiwrna bella i’r Lori ydy Aberdyfi.Yn ystod y gwyliau fe fydd Jamie yn myndrownd clybiau ac yn mynychu diwrnodauagored ac ati. Mae’r Lori ar y lôn drwy’rflwyddyn. Mae Jamie yn gwneud y gwaith ersbron i bedair blynedd bellach ac ynmwynhau pob munud, medda fo. Yn ôl pobtebyg mae’r disgyblion hwythau wrth eubodd efo Jamie – a’r gwasanaeth llyfrgellgwych wrth gwrs! Ar wahân i lyfrau, pêl-

    droed ydy’r sgwrs rhwng Jamie a bechgynGwynedd gan amlaf, hynny am fod Jamie ynEvertonian rhonc ac yn gyd-reolwr ail dîmCaernarfon. Yr ‘X Factor’ ydy testun mwyapoblogaidd sgyrsiau’r merched mae’n debyg!

    UN BACH ARALL ETO Mae sioe glybiau newydd Theatr Bara Caws‘UN BACH ARALL ETO’ ar daith ar hyn obryd ac yn dod i Glwb Pêl-droed Caernarfonnosweithiau Mawrth, Mercher a Iau, Hydref23-25. Twm Miall ydi’r awdur. Noson ddifyr yngnghwmni llu o gymeriadau lliwgar wrth i uno sioeau clybiau mwya poblogaidd Bara Cawsgael ei hatgyfodi o’r newydd. Yr actorion ydiBethan Dwyfor, Iwan Charles, Llŷr Evans aHefin Wyn. Dewi Rhys o Gaernarfon ydi’rcyfarwyddwr. Bydd pob noson yn cychwynam 7.30 ac mae tocynnau ar gael drwy ffonioWalter ar 01286 672059 neu 07500 754302

    JAMIE ‘NI’

    Nia Gruffydd, Rheolwr GwasanaethauDefnyddwyr Llyfrgelloedd Gwynedd yn cyflwynotystysgrif i Jamie yn Llyfrgell Caernarfon.

    Arweiniad Ariannol Annibynnol

    Independent Financial Advice

    36 Y Maes, Caernarfon, Gwynedd, LL55 2NN

    01286 672011

    w

    [email protected]

    Gwasanaeth Cyfeillgar, Profiadol, Lleol a Phroffesiynol:

    C

    Pensiynau Buddsoddiadau Yswiriant Personol Cynllunio a Chyngor Ariannol

    Dylan Roberts: Arbenigwr AriannolRhaglen Nia ar Radio Cymru36 Y Maes, Caernarfon, Gwynedd, LL552NN 01286 [email protected]

    Gwasanaeth Cyfeillgar, Profiadol, Lleol a Phroffesiynol:Cysylltwch yn syth i drefnu eich cyfarfod cychwynol ynrhad ac am ddim.

    ArweiniadAriannolAnnibynnol

    PETER HARROPB.Sc. (Anrh) MCOptom

    OPTOMETRYDDOPTEGYDD

    43, Stryd Llyn, Caernarfon

    (01286) 673631

    PapurDreGorffennaf2012_PapurDreHydref2010 04/10/2012 21:59 Page 3

  • 4

    CYFREITHWYR•

    O. Gerallt Jones LL.B (HONS)•

    Gail Jones LL.B (HONS)Cyfreithwraig Gynorthwyol

    Gwasanaeth Personol ac Agos Atoch•

    4 Stryd y CastellCaernarfon LL55 1SE

    Ffôn: 672307 • Ffacs: 678244Ebost: [email protected]

    Emyr Thomas a’i Fab

    Ffôn: 01286 677771

    7 Stryd y Plas,Caernarfon

    Gwynedd LL55 1RH

    CYMORTHFEYDDOs oes gennych fater yr hoffech ei

    drafod gyda'ch AS mewn cymhorthfa,yna cysylltwch ag ef yn ei swyddfayng Nghaernarfon neu ym Mangor:

    Swyddfa Etholaeth, 8 Stryd y Castell,Caernarfon, LL55 1SE

    (01286 672 076)Swyddfa Etholaeth, 70 Stryd Fawr,Bangor, LL57 1NR (01248 372 948)[email protected]

    HywelWilliamsAelod SeneddolEtholaeth Arfon

    PLANT MEITHRIN MAESINCLA

    CANMLWYDDIANT SANTES HELEN

    Mae plant bach meithrin Ysgol Maesincla wrth eu bodd yn eu hysgolnewydd.

    Ar yr 16eg o Hydref 2012 mae Ysgol Santes Helen yn dathlu eichanmlwyddiant. Cafodd yr ysgol ei sefydlu gan Offeiriad ifanc.Dyma sut y digwyddodd hyn.

    Doedd yna ddim offeiriad Catholig parhaol yng Nghaernarfon tan y19eg ganrif pan ddaeth llawer o Wyddelod i’r ardal, yn dianc o’rnewyn yn eu gwlad. Oherwydd hyn, daeth galw am offeiriad yn yDre, a dyna ddigwyddodd. Ym 1872 daeth Cymro Cymraeg, y Tad John Hugh Jones o’r Bala, ynoffeiriad i’r Dre gyda’r weledigaeth nid yn unig i wasanaethu’rnewydd ddyfodiaid ond hefyd i ddod â’r Eglwys yn rhan annatod o’rgymuned Gymraeg leol. Cyrhaeddodd Gaernarfon yn 29 oed, ynllawn brwdfrydedd dros ei alwad newydd. Roedd yn dipyn ogymeriad yn ôl y sôn, ac fe’i gwelwyd yn aml yn reidio rownd y Drear ei feic “Penny-Farthing”.Roedd yn weithgar iawn yn hyrwyddo’r Eglwys, a fo fu’n gyfrifol amadeiladu Eglwys Santes Helen yn Twtil. Yn ogystal, dechreuoddysgol yn ei gartref gan addysgu’r plant ei hun. Ceisiodd gael ariancyhoeddus i gyflogi athro proffesiynol ond bu’n aflwyddiannusoherwydd gwrthwynebiad chwyrn rhai o drigolion y Dre i ariannuaddysg Gatholig. Penderfynodd felly sefyll fel cynghorydd ei hun ac,er gwaetha’r ffaith mai dim ond 20 o Gatholigion oedd wedi’ucofrestru yn y Dre, fe’i hetholwyd a llwyddodd i sicrhau’r arianangenrheidiol i barhau gyda’r fenter. Roedd y Tad Jones yn benderfynol y dylai’r Eglwys ddefnyddio iaithy bobl a mynnodd ddathlu’r Offeren trwy gyfrwng y Gymraeg.Ysgrifennodd adroddiad ar gyflwr yr Eglwys Gatholig yng Nghymruar gyfer yr Esgob Knight ym 1893 gan ddatgan bod pobl Cymru

    angen gwasanaethau a llyfrau Catholig yn eu hiaith eu hunain. Bu’r Tad Jones yn offeiriad yn y dre hyd at 1908, a phlannodd yrhadau ar gyfer y datblygiadau oedd i ddilyn. Ym 1912 gwireddwydun o’i freuddwydion mawr wrth weld adeiladu Ysgol Santes Helen.Parhawyd gyda gweledigaeth y Tad Jones trwy’r ugeinfed ganrif, ynenwedig dan ofalaeth y Tad MacNamara, neu Father Mac fel roeddpawb yn Dre’n ei adnabod. Mae’r freuddwyd yn fyw hyd heddiwgyda’r plwyf dan ofal Cymro Cymraeg arall, y Tad Gordon Campbell,ac Ysgol Santes Helen wedi sefydlu ei hun fel yr unig ysgol Gatholigyn y byd sy’n addysgu trwy gyfrwng y Gymraeg yn bennaf. Bydd dathliadau 100 mlynedd ers adeiladu Ysgol Santes Helen ynparhau trwy’r flwyddyn ysgol. Bydd manylion ar gael yn yr Alwad achylchlythyr yr ysgol.

    Dewi Rhys (Magwa)07827 63104501286 238095

    GWAITH TEILSIOWALIE A LLORIE

    Eirian Bradley Roberts, Pennaeth Ysgol Santes Helen.

    PapurDreGorffennaf2012_PapurDreHydref2010 04/10/2012 21:59 Page 4

  • 5

    Lowri Ceiriog (Prif Ferch); Owain Fenn-Jones (Prif Fachgen), Sam Burford (Dirprwy BrifFachgen) a Dwynwen Elen (Dirprwy Brif Ferch)

    Cafodd y pedwar eu dewis oherwydd eu llwyddiant addysgol hyd yn hyn, ac oherwydd euhymroddiad diflino at holl agweddau bywyd yr ysgol. Mae’r ysgol yn hynod falch o’r pedwarac yn teimlo’n sicr y byddant yn cyfrannu’n fawr at lwyddiant yr ysgol yn y dyfodol drwyysbrydoli holl ddisgyblion iau’r ysgol i gyrraedd safon rhagoriaeth bersonol.

    Noson WobrwyoCynhaliwyd noson wobrwyo’r ysgol ynddiweddar i gydnabod llwyddiant rhai o’nddisgyblion mwyaf addawol. Cyflwynwydgwobrau i ddisgyblion a oedd wediymdrechu'n sylweddol a dangosbrwdfrydedd nodedig tuag at bwncpenodol neu ar draws y pynciau i gyd.Croesawyd y disgyblion i'r llwyfan gan ŵrgwadd y noson, sef aelod seneddol Conwy,Guto Bebb, un o gyn-ddisgyblion yr ysgol.Dywedodd Mr Bebb: "Rydw i'n gobeithio,wrth ddathlu llwyddiant disgyblion SyrHugh heno, yr ânt yn eu blaenau i wneudyn dda. Mae gan bob disgybl y cyfle iwneud gwahaniaeth."

    Ymysg y disgyblion a gafodd wobrau roeddPrif Fachgen a Phrif Eneth y flwyddynacademaidd hon, sef Owain Fenn-Jones aLowri Ceiriog. Cyflwynir un wobrarbennig gan y Prifathro i ddisgyblionsydd wedi disgleirio. Eleni rhoddwyd ywobr i Ceri Lois Owen ac Erin MônDavies, y ddwy o flwyddyn 12, am euhymdrech, eu hymddygiad a’u gwaithcaled drwy gydol eu cyfnod yn yr ysgol. Irai disgyblion, roedd y noson yn un brysuriawn, gan eu bod wedi cael eu dewis idderbyn amryw o wobrau. Cafodd MariDavies o flwyddyn 10 gyfanswm syfrdanolo chwe gwobr yn ystod y noson. CaiGruffydd gafodd y wobr am y marciau

    uchaf ar lefel TGAU eleni, gydag 8A* a 4A,a fo hefyd enillodd y gwobrau amGymraeg, Gwyddoniaeth a Cherdd. ErinFflur Williams o flwyddyn 12 gafodd ywobr am ferch y flwyddyn eleni - y trydyddtro iddi ennill gwobr a’r ail dro iddi ennilly wobr hon yn benodol. Roedd hi'n noson i ymfalchïo ynllwyddiant y disgyblion, ac yn nosonarbennig i Dîm y Flwyddyn, sef y PartiCerdd Dant. Cafodd aelodau’r parti eullongyfarch am eu gwaith caled a’uhymdrech yn paratoi tuag at yr Eisteddfodleol ac am gael yr ail wobr ar y brif lwyfanyng Nglynllifon eleni. Roedd rhai oaelodau ieuengaf y parti yn gwerthfawrogi'rwobr. Dywedodd Sara Elin, Malan Jones,Dewi Morgan ac Osian Jones: "Roedd hi'nbrofiad grêt cystadlu mewn Eisteddfodleol, ac rydan ni eisiau diolch i Mrs BetiRhys a Miss Delyth Huws am einhyfforddi!"

    CHIROPODYDD

    Galwadau i'r CartrefRichard Thomas, SrCH/HPC

    Rhif ffôn symudol:0797 631 6487Rhif ffôn cartref:01758 612384

    PLANT PARCIAUGofal dydd ar gyfer babanod a

    phlantOriau agor 8.00yb - 6.00yh, dydd

    Llun - dydd GwenerGofalwyr cofrestredig CymraegPrydau bwyd o gynnyrch lleol yndilyn canllawiau Cyfundrefn Iechyd

    y BydAwyrgylch cartrefol a chlyd gyda'r

    adnoddau diweddaraf

    PLANT IACH - PLANT HAPUS -PLANT PARCIAU

    Rhiain Ackers - 01286 673000

    YSGOL SYR HUGH

    EISTEDDFOD YSGOL SYRHUGH OWEN

    Nos Iau, Hydref 25ain, 2012 yn Neuadd yr Ysgol

    am 6.00 yr hwyr

    Mynediad trwy docyn yn unigPris - £4 i oedolion, £2 i blant a’r henoed

    Maen nhw ym mhobman...cyfieithiadau od!Beth am osgoi hynny a throi at yr arbenigwyr

    iaith? Cyfieithu o bob math ar eich stepan drws.

    Ffôn: 01286 674409E-bost: [email protected]

    Cymen, Twll yn y Wal, Caernarfon, Gwynedd LL55 1RF

    Straeon i’r papurGlyn Tomos, Ffôn: (01286) 674980e-bost: [email protected]

    PapurDreGorffennaf2012_PapurDreHydref2010 04/10/2012 21:59 Page 5

  • 6

    Am gymorth:i gychwyn prosiecti gael hyfforddianti geisio am granti redeg mudiadi wirfoddoli

    cysylltwch â Mantell Gwynedd– yn cefnogi grwpiau

    gwirfoddol a chymunedol

    [email protected] 672626 neu01341 422575

    Elusen Gofrestredig 1068851Cofrestrwyd yng Nghymru

    Cwmni Cyfynedig drwy Warant 3420271

    Yn y Gadair y mis hwn mae rheolwraigCaffi Maes, Ffion Haf Jones. Ynwreiddiol o Bontnewyfd mae hi bellachwedi mudo yr holl ffordd i Dre!

    Beth yw eich ofn mwyaf?Pryfaid cop blewog hefo'r hen goesau hir'na ac 'Elvis Impersinators'! Dwi’m ynmeindio Elvis ond am ryw reswm mae'rrheiny sy’n ei ddynwared yn mynddrwydda' i!

    Beth yw eich cof cynharaf?Mynd i dŷ Nain Bont i chwara’ a chaelmynd i bigo tomatos a chiwcymbyrs o’r tŷgwydr i’w rhoi nhw ar frechdan ham.Dwi’n cofio’r ogla yn iawn, lyfli...ogla s’ynfy atgoffa fi o ’mhlentyndod.

    Be’ dach chi ddim yn licio amdanochchi’ch hun?Y ffaith ’mod i’n addo mynd i 'ngwely'ngynt bob nos....ond mae’n mynd yn rhyhwyr bob tro!

    Be’ dach chi’n ei gasau mewn pobl eraill?Fedra i ddim cymryd at bobl snobyddlyd,ffals sy'n meddwl eu bod nhw'n well nageraill. Fydda i hefyd yn trio osgoi bod yngnghwmni pobl negyddol sy'n cwyno ambawb a phopeth! Ac yn bennaf oll, dwi'ncasáu pobl anonest.

    Be di’r peth drutaf i chi’i brynu erioed?Tocyn awyren i Awstralia.

    Be ’di’r peth pwysica sydd gennych chi?Teulu, Tudor, ffrindiau a’ nghi bach, Seth.

    Pwy fasach chi’n eu gwahodd i’ch swperdelfrydol?Martin Scorcese, Barrack Obama aMichelle, Owain Glyndŵr, MorganFreeman, Mr Gwynne Davies (sylfaenyddAntur Waunfawr) William Morgan (a'iddefaid!), Bill Bryson, SophiaCoppola...sori mae hyn yn dechra troi'nbarti rŵan tydi?!

    Be fasa’n gwella ansawdd eich bywyd?Mwy o amser.

    Be’ sy’n eich cadw chi’n effro yn y nos?Gwylanod yn sgrechian a dawnshio ar dofflat y Caffi!

    Pa gân fasach chi’n hoffi gael ei chanu yneich angladd?'That's Life!' neu "As I leave you softly" ganMatt Monroe. Ond fyswn i'm isho i bawbfod yn drist chwaith.

    Be dach chi’n neud i gadw’n heini?Rhedag i fyny ac i lawr grisiau'r Caffi!!

    Prun yw eich hoff ddilledyn?Rhyw ffrog ddu sgen i – sy’n mynd hefopob dim – a mhyjamas !

    Pwy fu’r dylanwad mwyaf arnoch chi?Dad, Mam a fy chwaer fawr, Einir.

    Pryd oedd y tro diwethaf i chi grio – neuchwerthin – go iawn?Crio- ges i’r fraint o fod yn bresennol ynystod genedigaeth Elis Gwilym, fy nai, fisGorffennaf... emosiynol iawn! Chwerthin –yn ystod penwythnos yn Lerpwl i 'wlychupen y babi’ gyda'r genod.

    Beth oedd eich swydd waethaf?Gweithio mewn ffatri pacio DVDs ynSydney. Roedd Ceri a finnau yn teithio acangen y pres. Roeddan ni’n dod nôl i'rhostel ‘ma bob nos hefo golwg ofnadwy arein bysedd, ar ôl pacio 15,000 o DVDsmewn diwrnod! Afiach!

    Be di’r llyfr gorau i chi ei ddarllen?‘Neither here nor there’ gan Bill Bryson.Dwi wedi’i ddarllen o sawl gwaith ac wedichwerthin yn uchel wrth wneud bob tro.

    Pe baech chi’n anifail be fasach chi?Cath, yn byw yn nhŷ fy rhieni !

    Beth yw eich hoff grŵp / fiwsig?Dim byd yn arbennig. Dwi’n licio geiria daond ddim yn 'keen' ar y caneuon amlwg 'masy'n trio odli pob llinell fel 'Dwi'n cerddadlawr y stryd a ti'n cerddad yr un pryd...' aballu!

    Beth yw eich hoff fwyd?Unrhyw beth yn Caffi Maes(!), bwyd môrac omlette mam.

    YN Y GADAIR

    TOWN CABSPerchennog:

    Brian O’Shaughnessy

    TACSI TACSITACSI

    01286 67609107831 268995

    Siwrneiau Lleol

    Meysydd Awyr

    Dydd a Nos

    Car 8 person

    Mwynhewch PAPUR DREa gwyliwch ein rhaglenni ar S4C y mis yma:

    GWLAD YR ASTRA GWYNSGORIO

    ROWND A ROWND

    PapurDreGorffennaf2012_PapurDreHydref2010 04/10/2012 21:59 Page 6

  • 7

    Pob Dim i Ddodrefnu’r T ŷCanol y Dref, Caernarfon LL55 1NN

    Parcio aml-lawr, 100 metr i ffwrddFfôn: 01286 676040 Oriau Agor Llun - Sadwrn 9.30 - 5.00

    DODREFNA LLORIAU

    CARPEDI

    John WilliamsYn ôl at eich gwasanaeth!

    Ffôn: (01286) 674432Symudol: 07721 750958

    Sefydlwyd 1972

    Cyflenwi a Gosod CarpediTEILS CARPED, FEINYL, MATIAU

    LLORIAU PREN

    Ty SiocledˆSiocled Gorau

    17 Stryd y PlasCAERNARFON01286 675007

    Blodau ffresBlodau ffugBasgedi GwelltCardiau CyfarchCludiant yn lleolPriodasau a Chnebrwng

    Blodyn Tatws19 Stryd y Plas, Caernarfon

    01286 673002

    GWYNDAF WILLIAMS A’I FAB• Trwsio Esgidiau • Copïo Goriadau • Gosod Strapiau a Batri

    Oriawr • Engrafiadau a lysau • Anrhegion i’w engrafu• Ciosg Lluniau Kodak

    27 Stryd Llyn Caernarfon, LL55 2AD. 01286 675433

    Mae ’na aelodnewydd wediymuno â staffGaleri – MennaThomas oAbergwyngregynyw hi ac fegafodd Papur Dregyfle i ddod i’wnabod hi ychydigyn well…

    Beth yw dy swydd newydd di ac ers faintwyt ti yn Galeri?Cydlynydd Celfyddydau ond dim ond ynfy mis cyntaf!Beth wyt ti’n ei fwynhau fwyaf am ygwaith?Gan fy mod i dal yn newydd i’r swydd,dwi’n mwynhau’r holl brofiadau newydd,does dim dau ddiwrnod yr un fath! Maepethau newydd yn cael eu taflu ata i bobdydd!Beth wyt ti’n ei fwynhau leiaf am ygwaith?Gorfod gwneud ceisiadau am grantiau aphrosiectau - dwi isio bwrw ati a’u gneudnhw!Pa ddigwyddiad/cynhyrchiad yn Galeriydi’r mwyaf cofiadwy a pham?Gan fy mod i’n newydd i’r swydd anewydd ddod yn ôl i’r gogledd, does gen i

    ddim llawer o brofiad o Galeri cyn imigychwyn yma. Bydd rhaid imi felly ddewisy sesiwn ‘Dawn Deud’ gyda’r artist EmrysWilliams yn trafod ei waith yn ystod eiarddangosfa “RAFFT”. Roedd hi’n hynodo ddifyr gwrando arno’n trafod ei waith a’iarddull.Beth wyt ti’n edrych ymlaen at ei weldfwyaf yn rhaglen ddigwyddiadau Galeri’rtymor hwn?Dwi’n edrych ymlaen fwyaf at gael gweld“The Paper Cinema’s Odyssey” ar y 10fedo Dachwedd, fydd yn cyflwyno storiHomer mewn arddull gwahanol iawn.Bydd y cynhyrchiad yn un hudolus ahardd yn defnyddio pypedau acherddoriaeth fyw.Beth neu bwy hoffet ti ei weld yn Galeriyn y dyfodol?Yn y dyfodol ’swn i’n hoffi cefnogiartistiaid lleol i arddangos yn y Safle Celf,ac i Galeri gynnal mwy o weithdai yngymunedol. Dwi’n awyddus i arddangosgwaith yr artist Mary Lloyd Jones yn ySafle Celf. Mae’r gwaith yn hynod o ddifyrac yn delio ag archwilio i faterion pwysig oran iaith, gwleidyddiaeth a thir felCymraes. Yn ogystal, mae’r gwaith ynhynod o ddeniadol. ’Swn i wrth fy moddcael y cyfle i gydweithio â rhywun morddylanwadol yn y byd celf yng Nghymru athrwy’r byd.

    Cafwyd prynhawn emosiynol a chofiadwyiawn i Winston Roddick, ei gydweithwyr,ei deulu a’i ffrindiau yn y GanolfanCyfiawnder Troseddol yng Nghaernarfonddiwedd mis Medi. I ddechrau cafwyd teyrngedau iddo yn sônam ei yrfa ddisglair ym myd y Gyfraith acyntau yn ymddeol o’i swydd fel CofiadurAnrhydeddus cyntaf Caernarfon. Fe aethati wedyn i ddadorchuddio plac yn nodibod adeilad y Ganolfan Cyfiawnder wedi’igodi ar safle Ysgol Segontium lle bu’nddisgybl. Syniad Cymdeithas DdinesigCaernarfon oedd y plac yn nodi canmlynedd ers agor Ysgol Segontium yn1912. GWEITHWYR GALERI

    YMDDEOL A CHOFIO AM EI HEN YSGOL YR UN PNAWN

    Lluniau, top chwith: Winston Roddick gyda’ideulu a’i gyfeillion.Uchod: Winston Roddick yndadorchuddio’r plac.

    Cae Llenor, Lôn Parc,

    CAERNARFON, LL55 2HH

    Ffôn: (01286) 685300

    Ffacs: (01286) 685301

    SIOE DOLIG TUDUR OWENMynnwch eich tocyn i'r sioe 'dolig arbennig hon, a byddwch yn

    rhan o gynulleidfa gynhyrfus Tudur Owen wrth iddo holi aherio, procio a phryfocio mewn noson hwyliog llawn

    chwerthin. Nos Sadwrn yr 8fed o Ragfyr am 7 or gloch yn yGaleri, Caernarfon. Tocynnau yn £3, ar gael drwy Galeri , neu

    am 10+ tocyn cystlltwch a Cwmni Da ar 01286 685 300Bydd yr elw yn mynd tuag at yr Ambiwlans Awyr.

    Addas I rai dros 16

    PapurDreGorffennaf2012_PapurDreHydref2010 04/10/2012 21:59 Page 7

  • 8

    Alun FfredJones

    Aelod Cynulliad Arfon

    CYMORTHFEYDDOs oes gennych fater yr hoffech ei

    drafod gyda’ch AC mewn cymhorthfa,

    yna cysylltwch ag o yn ei swyddfa yng

    Nghaernarfon neu ym Mangor:

    Swyddfa Etholaeth, 8 Stryd y Castell,

    Caernarfon, LL55 1SE

    01286 - 672 076

    Swyddfa Etholaeth, 70 Stryd Fawr,

    Bangor, LL57 1NR

    01248 - 372 948

    [email protected]

    IAITH – (ac olion ieithoedd)Mae Caernarfon wedi bod yn dref ryngwladol ers canrifoedd. Cyn i’rRhufeiniaid ddod yma a sefydlu eu caer yn Segontium roedd pobolFrythoneg wedi ymgartrefu yn eu caer ar BenTwtil. Nid oesdystiolaeth o’r iaith a siaradent ond yr iaith honno ddatblygodd i fodyn iaith Gymraeg. Felly mae’r iaith sydd ar y stryd heddiw wedi bod

    yma ers ymhell dros ddwy fil o flynyddoedd ond ei bod wedi newidyn aruthrol ers hynny wrth gwrs. Yn y chweched/seithfed ganrif oed Crist mi ddatblygon ni yn Gymrya siarad Cymraeg cynnar. Chafodd yr Anglo Saxon ddim llawer ohwyl yma yng Ngwynedd a toedd y Llychlynwyr ddim gwell: eu helyn ôl i Ddulyn gafodd y tacla! Ond yna pwy ddaeth ond y Normaniaid felltith efo’u cestyll a’uharfau a’u tref filwrol frwnt ac wrth i’r iaith Ffrangeg a ddefnyddidganddynt ymuno â’r Anglo Sacsoneg mi ddatblygodd yn iaithSaesneg cynnar, a chyda Ffrangeg ac ambell air Cymraeg wedi eiddwyn gan y brodorion mi roedd cawdal o ieithoedd hyd strydoeddhen dref Caernarfon. Mae hyn i’w weld yn natblygiad enwau’r drefdros y canrifoedd: Caer Seiont, Caer Segont, Segontium, Caer Eudav,Octavium, Caer Sallwg, Caer Salloch, Sallulium, Caer Cystenydd,Caer Cystenyn, Constantium, Minmanton ac, erbyn hyn, Dre!Trwy gydol y datblygiad ieithyddol roedd y bobol leol yn dal iffermio, pysgota, marchnata, caru a chwffio yn Gymraeg. Pan ddaethmorwyr o bob math yma i’r Cei Llechi a’r Doc, cyflwynwyd ieithoeddnewydd i’r dref: Saesneg yn bennaf, ond roedd ieithoedd Ewrop acymhellach i’w clywed ar hyd y dref. O’r Saesneg y daw’r gair Cofi, sefCovey, gair am gyfaill. Felly, nid yw’r chwedl bod rhaid i rywun gaelei eni o fewn muriau’r dref i fod yn Gofi go iawn yn wir gan ein bodi gyd yn Gofis mewn gwirionedd!A bellach mae ’na ieithoedd newydd i’w clywed rownd Dre gan fodpobol o Bangladesh, Gwlad Pwyl, Hwngari a sawl gwlad arall yn caeleu cynrychioli a’u clywed yng nghanol tref y Cofis.Ond, be sy’n bwysig ydy bod na Gofis yn Dre sy’n dal i siarad Heniaith Cofi o hyd - ar y strydoedd ac mewn caffis, siopa a thai potas. Emrys Llewelyn

    DAL FY LLYGAID

    Rhif Cofrestredig Elusennol: 1084271

    Cynigir hyfforddiant cerddorolo safon uchel ar amrywiaeth o offerynnau a llais. Pob lefel.Croeso cynnes i bob oedGrwpiau cerdd i blant

    18mis i 3oed yn ystod y dydd

    Canolfan Gerdd William MathiasGaleri, Doc VictoriaCaernarfon, Gwynedd LL55 1SQ(01286) 685230 • [email protected]

    DIOLCH O WAELODCALON

    Ar ôl deng mlynedd o gyfrannu’n ddi-dor, mae Meirion Hughes wedi

    penderfynu rhoi'r gorau i gyflwynocolofn reolaidd bob mis (er ein bod yngobeithio y bydd yn dal i gyfrannu'nachlysurol). Diolch o waelod caloniddo am bob cyfraniad. Mae’n siwr ybydd darllenwyr Papur Dre wrth eubodd o ddeall ei fod wrthi'n paratoicyfrol o'i ysgrifau i’w chyhoeddi cyn

    bo hir. Diolch yn fawr unwaith eto i chiMeirion am eich cyfraniad.Golygydd Papur Dre.

    Cofis Bach yn y Castell! Hanes ddoe a breuddwydion fory - dymathemâu gwaith celf anhygoel plant a phoblifanc Cofis Bach a Chofis Mawr a welwyd yny castell yn yr Haf fel rhan o brosiectCrochan a Ffwrnais yr OlympiadDiwylliannol 2012. Yn theatr y castell ahefyd fel rhan o ddigwyddiadau Gŵyl ArallCaernarfon cafodd ffilm newydd Cofis Bachymateb gwych. Drwy ddefnyddio pypedaucysgod mae’r plant wedi cynhyrchu ffilmarbennig ac maent wedi lleisio’n gelfydd raicymeriadau adnabyddus o’n gorffennol.

    COFIWCH: COFIS BACH YN AILGYCHWYN TACHWEDD 6ed,NODDFA. NOSON GOFRESTRU:HYDREF 23ain, 4 - 6 o’r gloch! NODDFA.

    Am fwy o fanylion ffoniwch: 07879 202547neu 07765 655 848

    PapurDreGorffennaf2012_PapurDreHydref2010 04/10/2012 21:59 Page 8

  • 9

    OWEN GLYN OWEN CYFCigydd i’r Tai Bwyta Gorau

    Ffôn: (01286) 672146•Ffacs: (01286) 6777612 STRYD BANGOR, CAERNARFON

    UN SAFON –Y SAFON GORAU

    AELOD O URDD CIGYDDION

    Sefydlwyd 1939

    Jason Parry16 Stryd BangorCaernarfon

    Ffôn:(01286) 672366Symudol:

    07900594279

    Yr Alexandra GO-AHEADTACSI

    07760 28800901286 674400

    • CLUDIANT IFAES AWYR

    • 24 AWR Y DYDD• PRYDLON

    A DIBYNADWY• PRIS CYSTADLEUOL

    TEITHIWCH MEWN STEIL

    Ty SiocledˆSiocled Gorau

    17 Stryd y PlasCAERNARFON01286 675007

    Blodau ffresBlodau ffugBasgedi GwelltCardiau CyfarchCludiant yn lleolPriodasau a Chnebrwng

    Blodyn Tatws19 Stryd y Plas, Caernarfon

    01286 673002

    GWYNDAF WILLIAMS A’I FAB• Trwsio Esgidiau • Copïo Goriadau • Gosod Strapiau a Batri

    Oriawr • Engrafiadau a lysau • Anrhegion i’w engrafu• Ciosg Lluniau Kodak

    27 Stryd Llyn Caernarfon, LL55 2AD. 01286 675433

    Maen nhw’n deud bod nifer o gapeli athafarndai yn cau bob wythnos y dyddiauhyn. Yn ddiddorol iawn mae capel a thŷtafarn gyferbyn â’i gilydd wedi cau yngNghaernarfon. Mae’r dafarn ‘Prince of Wales’wedi cau ers tro byd a mis Medi y llynedd fegynhaliwyd gwasanaeth dadgysegru CapelPendref ar Stryd Bangor dan arweiniad yParch Gwynfor Williams. Roedd cynulleidfao un-ar-ddeg yn mynychu’r Capel cyn ei gau. Mae’n debyg y bydd Capel Pendref wedi eiwerthu ac mewn dwylo newydd erbyn hynoherwydd ar y 4ydd o Hydref roedd yn caelei werthu mewn ocsiwn yn yr AngleseyArms, Porthaethwy, a’r pris gofyncychwynnol oedd £30,000. Faint ohonoch sydd wedi pasio heibio i’rCapel dros y blynyddoedd a heb fod i mewnynddo? Fe gafodd ffotograffydd PAPURDRE gyfle i fynd yno a thynnu’r lluniau hyn.Capel yr Annibynwyr ydyw, yn fam Eglwys iGapel Salem, ac os edrychwch uwchben yfynedfa i’r capel fe welwch y dyddiad 1791sydd yn cofnodi sefydlu’r achos yno. Mae’rcynlluniau cynnar yn 1810 a 1834 yn dangosbod y capel wedi’i adeiladu tu ôl i res ofythynnod yn wynebu Stryd Bangor syddbellach wedi eu dymchwel. Cafodd yr adeiladpresennol ei ailadeiladu a’i ehangu yn 1862tra cafodd y set fawr a’r pulpud eu hailfodeluyn 1881.Tybed beth ddaw o’r adeilad yn y dyfodol?

    Diolch i Richard Thomas am dynnu'r lluniau.

    BE DDAW I BENDREF?

    Croeso cynnes bobamser gan Dilys a Ken. Tafarn gartrefol a chlydCwrw da, gwasanaeth

    cyfeillgarFfôn: (01286) 672871

    Croeso cynnes bob dyddgan

    31 Stryd y BontCaernarfon

    Ffôn: (01286) 672427

    Caffi Cei

    Panorama Cymru19 Stryd y Plas

    Arddangosfa o dirluniau trawiadol ganGeraint Thomas

    a ffotograffwyr eraill.Llogi offer ffotograffig arbenigol.

    Argraffu lluniau o safon uchel.Gwasanaeth fframio.

    Gwasanaeth meddalwedd.01286 674140

    Margaret Sandra Jones sydd wedi bod ynorganyddes yn y capel ers 50 mlynedd.

    PapurDreGorffennaf2012_PapurDreHydref2010 04/10/2012 21:59 Page 9

  • Fe aeth criw o hogiau clwb pêl-droed Cae Glyn a’u rhieni i Gopa’r

    Wyddfa yn ddiweddar i godi arian i’r clwb.Yna cafwyd noson

    hwyliog ym mharc carafanau Coed Helen i ddathlu diwrnod

    llwyddiannus.

    AWN I BEN YR WYDDFA!

    Dau dad balch tua hanner ffordd – Carl

    Daniels ac Arwel Pritchard.

    Lwcus nad oes ’na wynt go gryf, dwi’n siwr mai Cwm Hetia sy lawr

    fanna! Adrian Roberts, Cadeirydd Cae Glyn a’i gap yn dal ar ei ben.

    Cian: Sa well gin i fod yn Anfield!

    Osian: Be’ wna i, dal i fynd ta troi nôl?!

    Mae na glawdd go hwylus tu ôl i ti, Sion.

    Sion: Be wyt ti’n neud, Trystan?

    PapurDreGorffennaf2012_PapurDreHydref2010 04/10/2012 21:59 Page 10

  • Lwcus nad oes ’na wynt go gryf, dwi’n siwr mai Cwm Hetia sy lawr

    fanna! Adrian Roberts, Cadeirydd Cae Glyn a’i gap yn dal ar ei ben.

    Cian: Sa well gin i fod yn Anfield!

    Niwl ar y copa, ond pawb mewn hwylia da.

    John McGrath, dyn a’i fryd ar goncro’r mynydd!

    Alex Philp: Sbia arna i pan dwi’n siarad efo chdi, Tomos.

    Jennifer : Ga’ i aros yn famaplis, Aled?!

    PapurDreGorffennaf2012_PapurDreHydref2010 04/10/2012 22:00 Page 11

  • 12

    I gadw’n gynnes a chlyd cysylltwch â

    JOHN HUGHES A’I FABMasnachwyr Glo Carmel

    01286 882 160Galwch yn yr iard i weld ein dewis

    eang o stôfs traddodiadol a

    modern

    Cynigwn wasanaeth cyflawn gan

    gynghori a gosod eich stôfEdrychwch ar ein gwefan

    www.fflam.biz

    CIROPODI PODIATRI

    Iola Roberts

    M.Ch.S. S.R.Ch.

    Galwadau i’r cartref

    25 mlynedd o brofiad

    HPC cofrestredig

    symudol:

    07771 278633

    Siop gyntaf Palas Print

    Dylan Iorwerth a Siân Gwenllian

    Hwre, mae nosweithiau 4 a 6 wediailddechrau yng Nghlwb Canol Dre! Os nadydach chi wedi profi noson 4 a 6 eto, lle dachchi ’di bod? Mi gawson ni ddwy noson ddifyra gwahanol ym mis Medi, y gyntaf yngnghwmni’r bardd Karen Owen a’r grwpiauPlu a Siddi – dau grŵp gwreiddiol acarbennig iawn. Am yr ail noson bu’r prifardd newydd DylanIorwerth yn cyflwyno’i waith ac yn sgwrsioefo Sian Gwenllian, a daeth Chris Jones oGwm y Glo i ganu baledi traddodiadol obedair gwlad Prydain. Ac erbyn i’r papuryma weld golau dydd bydd Rhys Iorwerth,

    Myrddin ap Dafydd a Hywel Pitts wedi bodyn ein diddanu hefyd.Be sydd i ddod nesa te? Wel, cadwch nosWener 19 Hydref yn rhydd i groesawu’rbrodyr o Lanrug, Ynyr ac Eurig Roberts ynôl i Gaernarfon. Bydd, mi fydd Brigyn efo ni,a Hefin Huws yn gwmni iddyn nhw i ganuambell i glasur. Ac mi gawn ni ddos ofarddoniaeth ddigri a chrafog gan Iwan Rhys,cyn-enillydd y Stomp Farddol yn y SteddfodGenedlaethol, sy’n byw bellach yn Dre.Wedyn nos Iau 1 Tachwedd noson oddiwylliant unigryw ardal Stiniog ydi’rarlwy, efo Twmffat a Dewi Prysor. Dauddyddiad i’w nodi felly a dwy noson sy’naddo digon o hwyl i bawb. Croeso i bawb, ynhen ac ifanc! Mynediad £5 ar y drws.

    NOSON 4 A 6 YN ÔL

    Un o uchafbwyntiau dathlu Siop PalasPrint yn 10 oed yn ddiweddar oeddcyhoeddi’r 10 uchaf o lyfrau Cymraeg aSaesneg a werthwyd ers agor y siop. Mae’nddiddorol bod gan bump o’r deg llyfrgysylltiad efo Caernarfon. Dyma nhw i chi. • Caersaint - Angharad Price• Hiwmor y Cofi - Dewi Rhys• Trwy Lygad y Camera - Arwyn Herald• Martha Jac a Sianco - Caryl Lewis• Er Budd Babis Ballybunion - Harri Parri• Llyfr Adar - Iolo Williams• Hi yw fy Ffrind - Bethan Gwanas• Last Hundred Days - PatrickMcGuinness

    • Brithyll - Dewi Prysor• Neighbours from Hell - Mike ParkerErs blynyddoedd mae’r siop wedi hensefydlu fel cyrchfan ddelfrydol i brynullyfrau, cylchgronau, cardiau a chrynoddisgiau heb anghofio cornel ddarllen yplant a’r cyfle i fodio drwy ambell lyfr gydaphaned o de neu goffi.Mae gan Eirian, cyd berchennog gyda’i gŵrSelwyn, sawl atgof difyr am y degawddwytha. ‘Llyfr cynta i ni werthu erioed oedd ‘Prayerfor Owen Meany’ gan John Irving..... ahwnnw i rywun ar ei ffordd adra o'r pyb’meddai Eirian. ‘Cwta fis ar ôl agor y siop,enillodd ‘O! Tyn y Gorchudd’ ganAngharad Price, Fedal Ryddiaith

    Eisteddfod Genedlaethol Tyddewi.Darllenais y gyfrol yn syth y noson honno,a rhaid i mi ddweud ei fod yn dal i fod ynun o fy hoff ddarnau o lenyddiaethGymraeg.“Er mod i wedi gweithio yn y diwydiantllyfrau o'r blaen, roedd rhedeg siop lyfrauyma ddeng mlynedd yn ôl yn brofiadnewydd. Roeddem wedi prynu'r stoc gan yperchnogion blaenorol, ac wrth gwrs, roeddyn mynd i gymryd amser i ddod i adnabody stoc yn dda. Cofiaf rhywun yn gofyn i miar ddiwedd ein wythnos gyntaf, “Be di'rgwerthwyr gorau hyd yn hyn?” Doeddwn iddim yn gwybod yr ateb yn bendant, ondroedd gen i syniad go lew. Roedd 'na lyfr o'renw ‘Austerlitz’ gan W G Sebald ar y bwrddllyfrau Saesneg ac roeddwn i'n cofio mod iwedi gwerthu sawl copi ohono yn ystod yrwythnos. Wrth gwrs, pan agorais y papurdydd Sul, dyna lle roedd ‘Austerlitz’ ar dopy rhestr gwerthwyr gorau yr wythnoshonno. Mae'r llyfr yn dal i werthu 10mlynedd yn hwyrach, ac yn un o'n clasuroncyfoes.“Yn 2008 mi aethom ati i lansio gwefanPalas Print, sy’n rhoi gwybodaeth am yrhyn sydd yn digwydd yn y siop, ond syddhefyd wedi'i gysylltu â'n system reoli stoc.Felly mae modd i bobl checio be sy gennymni mewn stoc, a'i brynu ar-lein i'w bostioallan, neu i'w gasglu o'r siop. Erbyn hyn

    mae gennym dros 500 o gwsmeriaid ar-lein,ac rydan ni'n postio llyfrau allan ynrheolaidd i bobl ymhell ac agos.“Dwi'n cael 'buzz' pan mae pobl yn ffeindiollyfrau sydd wrth eu bodd yn y siop, a hefydbob tro bydd rhywun yn canmol y siop.Uchafbwynt arall oedd cael ein cynnwys yny Guardian Guide to IndependentBookshops. Roeddem ni'n gwybod ein bodam gael ein rhestru yn y llawlyfr, ond roeddyn sypreis hyfryd agor y llawlyfr ar y dyddSadwrn hwnnw, tua blwyddyn yn ôl, a chaelbod awdur a chwsmer wedi sgwennuerthygl am y siop. Rydan ni’n dibynnu argefnogaeth pawb yn lleol ac ymwelwyr acyn diolch i bawb am eu cefnogaeth dros y10 mlynedd diwethaf, gan obeithio y cawnddal ati am 10 mlynedd arall.”

    10 UCHAF DROS 10 MLYNEDD

    PapurDreGorffennaf2012_PapurDreHydref2010 04/10/2012 22:00 Page 12

  • 13

    Moduron Menai

    Ffôn: 678681Ffôn symudol:

    07780 998637Ffordd y Gogledd,

    Caernarfon, Gwynedd LL55 1BEwww.moduronmenai.co.uk

    Dewis helaetho geir o’r ansawdd uchaf

    am brisiaucystadleuol

    O Sul i Sul

    Ar gyfer eich hollanghenion yswiriant

    6 Stryd Bangor, CaernarfonFfôn: (01286) 677787Ffacs: (01286) 677629

    SEILOHydref 14 Parch Gerallt Ll. EvansHydref 21 Parch Gwenda RichardsHydref 28 Dafydd IwanTachwedd 4 Gweinidog/Uno yn Salemam 4pmTachwedd 11 Parch Iorwerth JonesBowen

    PLWYF LLANBEBLIG Hydref 14eg. Llanbeblig10.30 Offeren Ar Gân4.00 Gosber A PhregethHydref 21ain Y DiolchgarwchSantes Fair.10.30 Offeren Ar Gân.Llanbeblig4.00 Gosber A Phregeth.Hydref 28ain. Llanbeblig10.30 Offeren Ar Gân.4.00 Gosber A Phregeth.

    EGLWYS NODDFAGwasanaeth am 3 Ysgol am 2:30 oni nodiryn wahanolHydref 14: Parch Dafydd Andrew Jones Hydref 21: Parch Marcus RobinsonHydref 28: Dathlu Diolchgarwch. Oedfadeulu am 3 a swper i ddilyn. Tachwedd 4: Mr Dafydd IwanTachwedd 11: Parch John Roberts – oedfagymun

    SALEMHydref 14: 10 a.m. Athro Euros Wyn Jones,Llangefni; 5 p.m. Y gweinidog Parch.J.Ronald Williams Hydref 21: 10 a.m. Gweinidog; 5 p.m. cydaddoli yn SeiloHydref 28: 10 a.m. Gweinidog; 4 p.m. yn yfestri, Parch. John Pritchard, LlanberisTachwedd 4: 10 a.m. Gweinidog; 4 p.m.cydaddoli efo Seilo yn Salem, y gweinidog.Tachwedd 11: 10 a.m. Parch. GeraintHughes; 4 p.m. gweinidog

    EBENESERGwasanaethau am 10 y bore. Yr Ysgol Sulyn cydredeg â'r Oedfa Hydref14 Parch. R. F. Capon, Ynys Môn 21 Gwasanaeth Diolchgarwch28 Parch. Gwynfor Williams, Caernarfon

    Tachwedd 4 Mr Glyn Owen, Llanwnda11 Dr Tudor Ellis, Groeslon

    CAERSALEMwww.caersalem.com

    Hydref 14: 10am - Denis Young5.30pm - Rhys LlwydHydref 21: 10am - Rhys Llwyd 5.30pm - Kent Morris

    Hydref 28: 10am - Arwel Jones 5.30pm - Rhys LlwydTachwedd 4: 10am - Peter Cousins5.30pm - Kent MorrisTachwedd 11: 10am - Arwel Jones5.30pm - Rhys LlwydManylion ynglŷn â chyfarfodydd canolwythnos ar ein gwefan ynghyd âphodlediadau o bregethau diweddar.

    Cynllun Chwarae Eglwys NoddfaMae pawb yn gwybod fod yr ha’ wedi cael ei sgubo i ffwrdd gan y gwynt a’r glaw ac ynteimlo’n bell iawn yn ôl erbyn hyn. Ond llai na dau fis yn ôl roedd Cynllun Chwarae EglwysNoddfa yn lle prysur dros ben gyda dros gant o blant rhwng 4 a 14oed yn mynychu un o drisesiwn yn ystod y dydd. Mae’r Cynllun Chwarae wedi cael ei redeg gan yr Eglwys ynNoddfa ers dros ugain mlynedd ac mae’n gynllun hynod o lwyddiannus. Diolch i LlinosMai Morris, gweithiwr ieuenctid Eglwys Noddfa, am gydlynu a threfnu’r cynllun ac iEiriona Rees Hughes am arwain y gweithgaredd. Diolch hefyd i’r holl staff a gwirfoddolwyr.Derbyniodd y Cynllun adroddiad ardderchog gan AGGCC sy’n gyfrifol am arolygudarpariaeth gofal plant. Cafodd y Cynllun ei ariannu eleni gan Gyngor Gwynedd ac EglwysBresbyteraidd Cymru – diolch iddynt am eu cefnogaeth.Ond does dim rhaid poeni fod y Cynllun Chwarae wedi dod i ben rŵan fod yr ysgol wedi ailddechrau, mae digon o weithgareddau yn mynd ymlaen i blant a phobl ifanc yn EglwysNoddfa. Cynhelir Ysgol Sul bob prynhawn Sul rhwng 2:30 a 4:00 i blant o 4 oed i fyny.Dewch i gael gwneud nifer o weithgareddau gwahanol llawn hwyl.Dyma’r clybiau eraill sy’n cael eu cynnal:Clwb TlwsCyfarfod bob nos Lun i genod oed 11+ 5:30 – 7:00. Gweithgareddau’n cynnwys: coginio,panad, help gyda gwaith cartref, gemau, sgwrsio, relacsio a lot o hwyl!! Bydd Clwb Tlws ynailgychwyn ar Hydref 15fed. Clwb DarllenCyfarfod bob dydd Mercher 4-5 i blant bl 3, 4, 5 a 6. Ailgychwyn Hydref 17.Clwb CicCyfarfod bob nos Iau i hogia 7-11 oed 5-6:30. Gweithgareddau’n cynnwys: pêl-droed, pŵl,badminton, snwcer. Ailgychwyn ar Hydref 18.Dim plant yn unig sy’n cael sylw yn Eglwys Noddfa! Cynhelir gwasanaeth bob prynhawndydd Sul am 3 ac mae criw hapus a chroesawgar yn troi i mewn – felly dowch draw!Cynhelir te bach ar ddydd Iau olaf y mis ac mae Côr Peblig yn cyfarfod bob nos Iau rhwng 7a 8:30.

    PapurDreGorffennaf2012_PapurDreHydref2010 04/10/2012 22:00 Page 13

  • FFILBI… yn gwylioa gwrando!

    14

    BARGEINION ABARGEN?Prif stori y Cnafron a Dedli yn ddiweddaroedd honno am chwalu hen ganolfan deiarsATS [Red Garage flynyddoedd yn ôl] a’rPrince of Wales i greu siop fawr a maesparcio. Grêt. Hip hip hwre - rhywbeth ynagor yn Dre. Ond trist hefyd mewn ffor’.Dim Sainsbury’s, Waitrose na Marks ’nSparks oedd yn ceisio dod yma. Y geiriauamlwg yn y stori oedd “discount” a“bargains”, arwyddion o gyflwreconomaidd Dre ac Arfon. [Digon tebyg igael y siop prynu aur ‘na]. Mae cwmnïamawr yn gwneud eu gwaith cartref cynbuddsoddi mewn safle newydd ac maeHome Bargains wedi dod i’r casgliad fod naddigon o bobl ffor’ma angen be’ maennhw’n ei gynnig. Ond mi fydd y siop yncreu gwaith ac yn denu pobl i ganol Dre.Pob lwc iddyn nhw.Mae un rhan o’r Prince, hwnnw agosa atDre, yn hen iawn. Mi fyddai’n biti garwchwalu rhywbeth mor hen i wneud maesparcio. Piti garw hefyd i nifer fawr o Gofisac eraill gafodd eu gwleddau priodas a’upartis penblwydd yno ar hyd yblynyddoedd. Yn y 60au, meddan nhw, yPrince oedd y pyb prysyraf yn Dre. Onddyna ni, mae amseroedd yn newid.Mae na lwyth o giaps wedi cael eu gwario arwella neu ‘ddiwygio’ canol Dre yn ôl pobsôn. Ond dach chi ddim yn meddwl bod yrholl beth yn troi yn rhyw fersiwn hunllefusy Cofi o beintio’r Forth Rail Bridge? Ymunud mae’r gwaith yn cael ei orfen mae’nbryd ailddechrau’r pen arall. Newyddddarfod Stryd Llyn mae “Dawnus” onddiwrnod o’r blaen roedd na folards mewntri lle sydd angen eu trwsio… YNBAROD!! Mae’r Maes ‘newydd’ wedi caelei broblemau o’r dechrau. Bu’n rhaid ailwneud pafins y Bont Bridd. Ac o sôn ambafins – mae hwnnw o Galeri i fyny amMorrisons reit newydd, yn gerrig ‘pinc’del…ond yn beryg bywyd! Gormod ofylchau o lawer i rywun cloff efo ffon.Bylchau allai beri damwain, yn enwedigpan gofiwch chi bod y rhan fwyaf o bobl yrardal sydd â ffon yn mynd i Hafan Iechydrownd y gornel! Yn y bôn tydy safon ygwaith a’r cynllunio ddim digon da. Un peth ydy brolio faint o bres sy’n cael eidaflu at Dre, ond peth arall ydy gwastraffulot ohono fo trwy beidio â gneud y job yniawn. Mae’n edrych yn debyg y bydd gwellacanol Dre yn cymryd degawda. Ond dyna ichi yrfa oes, handi i rywun ifanc sydd amaros yn Dre – trwsio cocyps cyson y‘Diwygio Mawr’!Chawsom niddim bargen ynfanna naddo ?!

    Medi 2 - Yn station Bangor yn isda’n ochordynas fo'r talcan mwyaf erioed.Oes na’m hyd yn oed cart i gael panadnagoes? Fydd o fel cartref Hedd Wyn yrholl ffordd lawr.

    3 - Jyst yn licio lyshio ar nos Fawrth ti bo.7 - Dwi di bod yn Gaerdydd am 5 diwrnod.Di pyrfio gymaint dwi di dychryn boddwim yn ddall.“@Slycivilian1 Watching a show calledGwefreiddiol on S4C. I have no idea what'sgoing on but I love the idea: language as ameans of de-colonising the mind.”Falch di boi yn re-tweet dwetha fi ddim yngwbod be sy'n mynd mlaen chwaith.8 - Newydd cael sgan o CD, casgliad Cân iGymru. Lot o tiwns da, ond bobol bach,mae na shit di ennill dros y blynyddoedddoes?Dagrau ddoe?! Father and Son gan CatStevens di hwnna! Blaw bod un Cat Stevensyn dda.10 - Dilynwch dyn sy'n licio ffidlan.@idrismjones11 – [Serbia 6 Cymru 1] Iawn, pryd mae'rBrodyr Gregory am ddod allan i ddeud najôc di hyn i gyd? a bod y gêm yn dechra goiawn mewn hanner awr!Osian di enw fy mrawd mawr. Ganddo mabo'r enw Efnisien. Go iawn. Awkward atfamily get togethers.12 - Nath Sos Coch erioed rhyddhauwbath? Gwylio fideo o nhw'n perfformio ynfyw! Dewi Rhys yn edrych yn wallgo.13 - @MariLovgreen Ti'n addicted ipriodasa, angen chdi stopio y lol yma wan.14 - Festival number 6, blydi anhygoel.Edrych 'mlaen am diwrnod arall o tiwns alyshio ti bo.18 - Ai jyst fi sydd yn darllen pobcynghanedd allan mewn llais Yoda?Hyd yn oed sa Cynghanedd yn torri mewni fy nhŷ a mwrdro pawb ynddo, fyswn i dalim yn gwbod be dio.20 - Dwi heb gwylio S4C ers i Tush adaelpobl y cwm.

    21 - Llanrug am beint ne ddau heno, ia,Llanrug.22 - Dwi'n dychmygu bod Malcolm Allenhefo acen cry yr Alban a gêm Celtic vRangers di hwn #sgorio [TNS v Bangor]26 - Byth deud sori am dy Gymraeg. Os dibobol ’im yn licio fo, ff**io nhw.

    Mae na longwrs tir sych medden nhw.Mae’n amlwg y byddai hi wedi bod yn welltasa’r llongwr drama yma wedi aros ar dirsych. Meddwl mynd am beint arall i’rAnglesey oedd o hwyrach?!

    BWRW’R CWCHI’R (DIM) DŴR!

    Ac meddaiLloyd George ‘Bydded Goleuni’!

    Cefnogwch einhysbysebwyr

    MIS DYL MEIAR TWITTER

    PapurDreGorffennaf2012_PapurDreHydref2010 04/10/2012 22:00 Page 14

  • 15

    Ar agor:Llun, Maw, Merch a

    Gwen: 9–5pmDydd Iau9–6pm

    Dydd Sul AR GAU

    • Arbenigwyr mewn cyflenwi, gosod llefydd tân osafon yn cynnwys stôfau amldanwydd, llosgi coed,

    nwy a thrydan.• Archwilio simneau â chamera • Sgubo simneiau

    Ymgymerir y gwaith gan beirianwyr cymwys a [email protected]

    Y Lle Tân4 Lôn Glanhwfa, Llangefni, Ynys Môn, LL77 7EN

    01248 751175

    AM FUNUD

    Diddordeb mewn adar, ac awyddpanad, a barodd inni alw mewnGwarchodfa Natur. Wrth gerdded o’rcar i’r ganolfan dyma sylwi ar hysbysebmewn llythrennau eithaf bras: Maecyfleusterau newid babanod ar gael yn ySiop Goffi.Wrth ddynesu at y fan ro’n i’ndychmygu gweld rhes hir o rieni hefo’uplant, yn disgwyl am gyfle i’w cyfnewidnhw am rai haws i’w trin ac ynymddwyn yn well. Mi wyddoch sutbydd pethau, weithiau; rhieni, ynarbennig ar wyliau, yn mynd â’u plant iweld rhyw ryfeddodau neu’i gilydd, yplant yn blino’n fuan ac yn mynd drosben llestri. Yna, y rhieni’n meddwlmor braf fyddai hi i gael plantgwahanol.Wedyn, mae yna rieni mor addysgoluchelgeisiol fel eu bod nhw’n gofidiona fyddai’u plant nhw’n alluocachneu’n fwy dawnus. Cystadleuaethafiach, yn fy marn i, ydi un y DailyPost, ar hyn o bryd, i ddarganfod‘Babi’r Flwyddyn 2012’ – a hynny arsail un clic camera!Ond mae yna rieni mewn gwledyddtlawd sydd yn barod nid i gyfnewid euplant ond i’w gwerthu nhw i’wmabwysiadu, yn y gobaith y caiff yplant hynny gyfle ar fywyd yn hytrachna marw cyn pryd. Ond sgwn i faint oblant a fyddai’n falch iawn o gaelcyfnewid eu rhieni? Be am y fam ugainoed honno o Aberhonddu a garcharwydyn ddiweddar am bymtheg mis amadael baban ar ben ei hun am wsnosgron adeg y Nadolig? I’r babi hwnnwdoedd cyfnewid mam ddim yn bosibl.Ond yn ôl at yr hysbyseb: Maecyfleusterau newid babanod ar gael yn ySiop Goffi. Ond cyfleusterau ‘newidbabanod’ nid eu ‘cyfnewid’ nhw oedd ygeiriad. Mi wyddoch beth maehynny’n ei olygu. Hwyrach y dylai’rhysbyseb fod wedi bod yn llai amwys acfelly osgoi’r posibilrwydd i rai fel figamddarllen.HARRI PARRI

    Ceisio bod yn wasanaeth gyda mynediadhawdd ac sydd yn weladwy o’r stryd i boblifanc - dyna oedd un o brif negeseuon SianElen Tomos, Prif Weithredwr yngNghyfarfod Blynyddol GISDA ynddiweddar. Dywedodd y byddai’n hoff oweld y gwaith o godi ymwybyddiaeth owaith ataliol yn parhau er mwyn sicrhaubod pobl ifanc oed ysgol yn deall beth ywdigartrefedd a deall pa mor anodd ydi bodheb gefnogaeth teulu. “Rydym eisiausicrhau ein bod yn darparu gwasanaethsydd yn cynnig cyfleoedd amrywiol i boblifanc, gan geisio hefyd leihau rhwystraurhag dysgu a datblygu eu hunain. Rydymwedi penodi gwirfoddolwr i’n cynorthwyogyda’r gwaith codi arian a marchnatacyffredinol a bydd yn dechrau ym misHydref,” meddai. Diolchwyd i Winston Roddick CB QC amgytuno i fod yn Llywydd Anrhydeddus.Mae yn frodor balch iawn o Gaernarfon, eriddo ddilyn gyrfa lwyddiannus iawn felBargyfreithiwr ac yn Farnwr dwyieithog.Mae Caernarfon yn agos iawn i’w galon.

    Wrth siarad yn y cyfarfod dywedodd “Nidoes dim mwy gwerthfawr i bobl ifanc nagwybod eu bod o werth ac yn rhan orywbeth gwerth chweil.”Cyfrannodd y Cadeirydd, Cyng TudorOwen, sef Maer Caernarfon, drwy ddiolch ibawb am eu cefnogaeth a dweud ei fodhefyd yn edrych ymlaen at y dyfodol gandderbyn rhai o’r heriau fel cyfle.Hoffai Gisda ddiolch i bawb am eucefnogaeth yn y cyfarfod blynyddol a hefyddrwy gydol y flwyddyn. Os hoffech ragor owybodaeth am waith GISDA gallwch weldeu hadroddiad blynyddol ar eu gwefan

    ANELU AT FOD YN WASANAETHGWELADWY I BOBL IFANC

    Gemwaith o Safon

    SIOP y PLASDewis cynhwysfawr oemwaith aur ac arian argyfer pob oed a phoced

    Aur Cymruy Metel (C.Y.M.) a Clogau

    Trwsio rhesymolStryd y Plas, Caernarfon

    (01286) 671030

    NÔL I'R YSGOL efo

    Trefor JonesDILLAD YSGOL I FECHGYN A

    MERCHED YSGOL SYR HUGH OWENAC YSGOL BRYNREFAIL. Dewishelaeth bob amser mewn stoc.

    Crysau chwys o £9.95;crysau polo o £7.95

    Trefor Jones, 8 Y Bont Bridd,Caernarfon LL55 1AB

    01286 676 612

    PapurDreGorffennaf2012_PapurDreHydref2010 04/10/2012 22:00 Page 15

  • Gemwaith o Safon

    GEMWAITHYn newydd eleni – PANDORA

    Dewis cynhwysfawr o emwaithaur ac arian ar gyfer pob oed a phocedAur Cymru

    y Metel (C.Y.M.) a ClogauTrwsio rhesymol

    Y Bont Bridd, Caernarfon(01286) 675733

    16

    R. A. JONES A'R MAB• SIOP DAN CLOC•37 Stryd Fawr, Caernarfon2 Llys Penlan, Pwllheli

    01286 673121 / 01758 701138Teganau, modelau - yr enwau mawr i gyd

    TEGANAU I BOB OEDRANNwyddau babanod: M&P, Bebecomfort, Cossatto, Jane Chicio a phob math

    o ddillad plant 0-6 mlwydd oed.

    www.rajonesandson.co.uk

    Roberts y Newyddion 44 Y Bont Bridd, Caernarfon

    01286 672 991

    Papurau newydd • cardiau cyfarch • offerysgrifennu • Da-da a diodydd • Tlysau arian

    a thlysau ffasiwn

    Ar agor Llun – Sad (5.30am tan yr hwyr)

    dydd Sul (5.30am – 12.00). Dosbarthu papurau i’rdrws. Gwasanaeth cyfeillgar bob amser

    am wneud rhywbeth i helpu’r Dre i edrychyn lliwgar ar gyfer y Gwanwyn. Y gobaithydi y bydd cymdeithasau a busnesau eraillyn noddi i gael mwy o fylbiau neu botiaulliwgar ar y Maes yr haf nesaf.

    MERERID A’I DISGYBLION CERDDMae Merched y Wawr yn awyddus i roi cyflei ieuenctid lleol ddangos eu dawn. Y tro ymaMererid Mair yn ei dull cartrefol fu’n canu’rpiano a chyflwyno ei disgyblion cerdd. Tairo genod o’r dre sy’n mynychu Ysgol SyrHugh Owen ydi Ellie Vaughan Owen, SiânRebecca Evans a Malan Fôn a chawsomunawdau a deuawdau ganddynt a datganiadar y trwmped gan Ellie. Mae dyfodoldisglair o’u blaenau ac edrychwn ymlaen i’wgweld yn blodeuo. Yn sicr fe roddodd ytalentau ifanc wên ar ein wynebau agobeithio y bydd y cennin Pedr yn gwneudyr un peth pan ddaw’r Gwanwyn.

    Croeso i aelodau newydd ymuno â ni yn yrInstitiwt am 7.30. Ar Dachwedd 13eg byddGeraint Thomas, Panorama yn dangos ylluniau dynnodd ar gyfer ei lyfr “LlynnoeddEryri.” Rhagfyr 11eg cawn ein cinioNadolig yn y Clwb Golff.MAGI WYN ROBERTS

    Ro’n i wedi blino cwyno am ddiffyg blodauyng nghanol y Dre, felly dyma benderfynugwneud rhywbeth. Daeth y cyfle panwnaeth Pwyllgor Merched y Wawr gyfarfodym Mehefin. Roedd pawb yn gefnogol i’rsyniad o brynu a phlannu bylbiau cenninPedr.

    FAN WEN A GOLAU MELYNWedi sawl galwad ffôn ac ebost i ofyn amgymorth Cyngor Gwynedd, daeth ydiwrnod i gyfarfod Geraint Wyn Hughes.Cyrhaeddodd fan y Cyngor efo golau melynyn fflachio i’m nôl at ddrws y tŷ. Mi fuon nio gwmpas y Dre gan oedi yma ac acw a chaelamser i dynnu sylw Geraint at y chwyn wrthy stepiau ar y Maes, y gwagle wrth gerflunLloyd George yn ogystal â sylw FFILBI fodllond lle o chwyn yn cuddio enw Caernarfonyn y cafnau newydd. Wel mae blodau ynoerbyn hyn! Ond chwarae teg i Geraint maearian yn rhy brin i wneud pob dim sydd eiangen.

    PLANNU YN GRONANTYr unig dir glas yng nghanol y Dre ydiGronant, sef y llain wrth y grisiau sy’nmynd o Benllyn i Benrallt. Gellir ei weld oStryd Llyn, wrth fynd i’r maes parcio acwrth aros am y bysus. Roedd y llecyn yn

    MERCHED Y WAWRYN PLANNU BYLBIAU

    POBOL DRE

    plesio Geraint diolch byth. Awgrymodd i nigael lleiafswm o 500 o fylbiau os am wneudunrhyw argraff ac roedd hyn yn gostus. Arben y stepiau mae cafn fu’n wag ersblynyddoedd a chefais addewid y byddllwyni blodau tri-lliw-ar-ddeg yno yflwyddyn nesaf. Mwynheais y profiad o fyndo gwmpas y Dre gyda Geraint heb feddwlfod neb wedi fy adnabod. Ychydig ddyddiauwedyn gofynnodd Ann Evans, FforddBethel ai chwilio am gŵn strae oeddwn i!

    CYNGOR GAN JUSTINY cam nesaf oedd mynd i Fron Goch i gaelcyngor. Awgrymodd Justin i ni beidio caelblodau dyfai’n rhy uchel rhag iddyn nhwblygu yn y gwynt. Dewiswyd bylbiaucymysg a chael bargen go dda wrth brynurhai cannoedd. Cawsom hefyd fylbiaucynhenid Cymreig, sef daffodiliau Dinbych-y-pysgod sy’n llai, er mwyn eu plannu ar ygwaelod. Gobeithio y byddant yn dodwy acyn dal i flodeuo am flynyddoedd.

    RAFFL Y BYLBIAUYng nghyfarfod cynta’r gangen fis Medirhoddodd y swyddogion wobrau i raffl ybylbiau a chodwyd swm dda tuag at gost euprynu a'u plannu. Diolch yn fawr i’r aelodau

    Mererid Mair a’i disgyblion cerdd Ellie VaughanOwen, Siân Evans a Malan Fôn

    Mary Land, Mari Salisbury, Rita Williams, Ceri Williams enillwyr y raffl.

    PapurDreGorffennaf2012_PapurDreHydref2010 04/10/2012 22:00 Page 16

  • 17

    GARDDWR YN DRETrwsio, twtio, chwynnu a phlannu

    Telerau rhesymolCysylltwch â

    Gwyn Jones . 07881 [email protected]

    ' '' ' ' '

    ' '

    /$0$01213 ($ )")"!"!"#"##"#"$"$%$%&()' '

    ' ' ' '' '

    "4"4,4,$ " $&$&(0')*(*(+(#(,-&(.'' '

    ' ' ' '' '

    .'' '' ' ' '

    ' '

    2$12$1+1+561,2/ )")"

    ' '' ' ' '

    ' '

    "4"4 "' '

    ' ' ' '' '

    ' '' ' ' '

    ' '

    ar agor 9am–5pmFfôFfôn:Ty Seiont, FfFfofordd SantesAge Concern Gwynedd a

    ' '' ' ' '

    ' '

    Helen, Caernarfofon LL55 2YDa Mon

    ' '' ' ' '

    ' '

    D

    ' '' ' ' '

    ' '

    Neu ffffoniwch

    ar agor 9am 5pm

    Devon TQ13 7UP.P. ID9975 11/10masnachol. Rhoddir yr elw net i Age UK. Age Ugytundeb trwydded rhwng Age UK ac Age UK EAge UK yw nod masnach Age UK (Elusen rhif 1Darperir Nwywy a Thrydan gan E.ON Energy SolDarperir yswiriant cartref,f, car a theithio gan

    ' '' ' ' '

    ' '

    neu ewch i

    MP2430V2APR11_ SL036523_12K Enterprises Limited, Linhay House, Ashburton, Enterprises Limited, sef eu cangen gwasanaethau 128267). Defnyddir enw a logo Age UK o dan utions Cyfyfyngedig.Yswiriant Ageas Cyfyfyngeddig. i

    ' '' ' ' '

    ' '

    2_1

    Mae’n amser unwaith eto i ddechrauymarfer a chanu ein gorau glas, wrth i GôrDre ailgydio ynddi ar ôl toriad dros yr Haf! Bu hi’n flwyddyn ddigon prysur i’r côrifanc, a llwyddiannus hefyd, wrth i nigystadlu a pherfformio mewn amrywgystadlaethau a chyngherddau. Cafoddaelodau’r côr hwyl dda arni ym Methesda yllynedd, gan gystadlu (ac ennill yr ail wobr)yn Eisteddfod Dyffryn Ogwen. Dwi’n siŵrbod yr Eisteddfodwyr eraill i gyd yn falchiawn o weld doctor yn ein plith hefyd, wrthi Gwilym Siôn, un o'n haelodau ffyddlon,

    gamu i'r adwy wrth i un o enillwyr mawr ynoson gael ei daro'n wael. Mae’r côr yn falchiawn ohonot, Gwilym. Edrychwn ymlaen atgystadlu yn yr Eisteddfod unwaith eto fisTachwedd.Cafodd y côr lwyddiant dros y dŵr ym misEbrill hefyd, wrth i ni deithio draw i’r YnysWerdd i gymryd rhan yn yr Wyl BanGeltaidd. Cafwyd hwyl a sbri ar strydoeddCarlow, a dathliadau di-ri (gweler y llun!) arôl ennill yr ail wobr yng nghystadleuaeth yCôr Gwerin. Mae'r côr yn gobeithiodychwelyd i'r Wyl eto eleni, ac yn edrych

    ymlaen yn barod.Aeth y côr draw i Bontnewydd i gystadluhefyd, a braf oedd cael cefnogi Eisteddfodleol. Mae gennym gyfnod go brysur o’n blaenaunawr wrth i ni baratoi ar gyfer yr Wyl CerddDant yng Nghonwy, ac mae gennym ambelli Eisteddfod ar y gweill hefyd, ond gallafeich sicrhau bod yr aelodau’n cael digon oamser i fwynhau eu hunain hefyd! Hoffai’rcôr estyn croeso cynnes i unrhyw un fyddaiâ diddordeb ymuno â ni – rydym yn ymarferbob nos Iau am 7.30pm yn festri CapelSalem, Caernarfon. Gobeithiwn yn fawreich gweld chi yno.Mae’r côr hefyd ar gael ar gyfercyngherddau a digwyddiadau lleol.Cysylltwch â ni drwy ffonio 07733216504neu e-bostio [email protected].

    I chi sy'n gwylio ‘Deal or No Deal’ ar yteledu, efallai eich bod yn croesi bysedddros Caerwyn Roberts sy'n ffisiotherapyddgyda'r tîm Ymateb Brys yng Nghaernarfon.

    CÔR DRE

    GÊM O GOLFF, MISS?

    Athrawesau yr hen Sir Gaernarfon ydy’r rhain, yn dathlu pen-blwydd Cymdeithas yCyn-Athrawesau yn 40 oed yng Nghlwb Golff Caernarfon. Maen nhw’n cyfarfodddwywaith y flwyddyn i gael gêm o golff... a hel straeon wrth gwrs!

    Cefnogwch Eich Siop Gymraeg! Popeth Cymraeg o dan un to: Cryno Ddisgiau,

    DVDs, Llyfrau, Gemau a Jigsôs, Bagiau i bawb!Offer cegin, Mwgiau, Cadw-Mi-Gei, Dillad Ysgol,

    Hwdis a chrysau-T efo sloganau amrywiol, allawer mwy! Gwasanaeth argraffu - gallem

    argraffu neges bersonol o’ch dewis argrysau/hwdis, mwg, mat llygoden a mwy!

    www.na-nog.com 01286 676946na-nôg

    Y MAE

    S, Ca

    erna

    rfon

    CAERWYN YNBARGEINIO(NEU DDIM?)

    ˆ

    ˆ

    ˆ

    PapurDreGorffennaf2012_PapurDreHydref2010 04/10/2012 22:00 Page 17

  • 18

    CROESAIR

    CLIWIAU HAWSAr Draws5. Cyfarfodydd cystadleuol (11)7. Ar droed neu mewn band (4)8. Rhoesant eu bywydau tros eu cred (8)9. Corff o ddŵr yn Sir Fôn(3,4)11. Nifer mwy nag y gellir eu cyfrif (5)13. Mae gan y santes hon lon yngNghaernarfon (5014. Rydych yn defnyddio hon i gau drws (7)16. Dyma wnes i gael y ceffyl i fynd yn gynt(8)17. Mae gennych un ar eich llaw ac un areich troed (4)18. Un sy’n mynd yn groes (11)

    I Lawr1. O hon y gwnaethpwyd Efa (4)2. Tyddyn (4,3)3. Gwastraffu amser (5)4. Mae wedi cael ail wynt (8)5. Be oedd William Williams Pantycelyn(6,5)6. Un o bleidiau gwleidyddol GogleddIwerddon (11)10. Pentref ar arfordir Ceredigion (8)12. Dewi a Padrig – Cristnogion cynnar(3,4)15. Dyma wnaeth Hogia’r Wyddfa yn ybwlch (5)17. Person newydd anedig (4)

    CLIWIAU CRYPTIGAr draws5. Ar Log sy’n dal ar wib, fel aderyn. (4,1,6)7. Ai mewn llys, heb fannod, mae codihwn? (4)8. Mae’n hedfan drwy’r ffurfafen nes berwiyn wyllt. (5,3)9. Un cymedrol sy’n gadael ei ôl mewncerdd fechan. (7)11. Y mis a welwn wrth golli’r bêl yn ôl. (5)13. Llwyth i’w gludo mewn car go fawr! (5)14. Gŵr meddw ydi hwn, ylwch, nidtroëdig! (3,4)16. Mae’th reol yn anghywir ar gyfer penodiarweinydd y Cyngor. (8)17. Dychryn a gawn wrth weld ymadroddheb ddeg. (4)18. Rhaid gwneud parêd rywsut cyncyrraedd pymtheg. (2,3,6)

    I lawr1. Ar ôl colli O.M., cawsom rywbeth i’wfwyta. (4)2. Rhagosodiad sydd yn sail i ddilyn cant.(7)3. Aeth yn ddistaw, oer i lafoerio. (5)4. “Plannwch y cyfansoddwr o’r Almaen”medd babanod wrth y Sais. (5,3)5. Rhai cymdeithasol sydd yn y Cyngor Sir.(11)6. Dod o le uchel yn sydyn wneir wrth ail-weindio’r dryswch. (6,1,4)10. Dau gi Sol sy’n symud, symud felpendil. (8)12. Rhywle lle mae’r geiriau dan glo? (7)15. Magu mil mewn anhrefn wnaeth Nain.(5)17. Baw ar ben y domen ydi’r cyntaf obump mewn llaw. (4)

    ATEBION HAWS GORFFENNAFAr draws1. Dewi Pws. 5. Cwmni. 8. Luned. 9.Ofnadwy. 10. Wimbledon. 12. Log. 13.Dydd Sul/Llun. 14. Diafol. 16. F.W.A. 17.Caerfaddon. 20. Annette. 21. Lelog. 23.Truan. 24. Ionesco.I lawr1. Dilyw. 2. Wyn. 3. Pedolau. 4. Stond. 5.Cynan. 6. Medal efydd. 7. I’r ysgol. 11.Meddiannau. 13. Dyfnant. 15. I’r felin. 17.Cetyn. 18. Eleni. 19. Nogio. 22. Les.

    Enillydd: Elspeth Roberts, 7 Cwm Silyn, Caernarfon.

    ATEBION CRYPTIG GORFFENNAFAr Draws1.Ynfytyn. 5. Lliaws. 8. Amlaf. 9. Minafon.10. Wimbeldon. 12. Iot. 13. Lleisio. 14 Ymorwr. 16. Nai. 17. Tri o’r gloch. 20 Cadwoed. 21. Riocha. 23. Gwead. 24. O’r gorau. I Lawr 1. Y Garw. 2. Fel. 3. Tafelai. 4. Nomad. 5.Llinyn. 6. Anfeidrol. 7. Senator. 11. Meiri’rDre. 13. Llond ceg. 15. Morgrug. 17. Troed.18. Ildio. 19. Chwalu.

    Enillydd: Sharon Davies, 23 Ffordd Cwstenin, Caernarfon.

    Anfonwch eich atebion erbyn diwedd ymis at Trystan Iorwerth, Graigwen, LônDdewi, Caernarfon. LL55 1BH. Tocynllyfr yn wobr i’r enillydd.

    Straeon i’r papur.Anfonwch eich straeon neu unrhywluniau difyr am y Dre at Glyn Tomos:

    Garreg Lwyd, 7 Bryn RhosRhosbodrual, LL55 2BT

    (01286) [email protected]

    ˆ

    PapurDreGorffennaf2012_PapurDreHydref2010 04/10/2012 22:00 Page 18

  • 19

    MIRI MEFUS

    AR DY FEIC!Nid gorchymyn ydy’r pennawd ondgwahoddiad i unrhyw un sydd ffansi myndallan i bedlo i ymuno â chriw Clwb BeicioMenai am 'chydig o oriau bob wythnos. Mifydd y seiclwyr yn cyfarfod bob bore Sul ary Maes am 9.30. Ar Sul cynta bob mis maena reid o ryw 20 milltir i aelodau newydd.Gweddill yr amser fe fyddan nhw’n seiclorhwng 30 a 40 milltir. Clwb cymdeithasolydy o yn y bôn, ac er bod un neu ddau wedi

    bod yn rasio yn y gorffennol, beicio o ranpleser ydy pwrpas y clwb arbennig yma. Fe’isefydlwyd ddeunaw mis yn ôl a hynny arddamwain – ond nid yn llythrennol!Roedd Malcolm Summers a Ryan Jonesallan yn beicio ar wahân un diwrnod ac midrodd sgwrs ar Lôn Eifion rhwng Groeslona Bryncir yn Clwb Beicio Menai, y cyntaf o’ifath yn Dre ac sydd bellach yn cael ei noddigan Beics Menai ar y Cei Llechi. Mae na 32o aelodau ond mae digon o le ar ffyrddGwynedd i fwy. Tynnwch y beic na allan o’rgarej, felly, bob bore Sul ac ymunwch â’rcriw ar y Maes.Os am gael gair efo Malcolm, rhowch ganiadiddo ar 07899 937939 neu gysylltu [email protected] gan y Clwb wefan hefyd:clwbbeiciomenai.wordpress.com

    Mae'r clwb yn gwahodd aelodaunewydd, yn fechgyn ac yn ferchedsydd rhwng 7 - 11 oed. Ewch i wefan yclwb www.segontumroversjfc.org.ukneu Facebook (SRJFC) a Twitter(@SegontiumRovers) i gael gwybodrhagor. Yn y llun mae Nathan Craig yncyflwyno gwobrau i 49 aelod Clwb Pêl-droed Iau Segontium Rovers.

    Tydi hi ddim wedi bod yn dywydd mefus ynddiweddar ond fe ddaeth genod y golff o hydi un rywbryd ynghanol yr hyn a elwid yn‘haf ’! Cymerodd 92 o ferched ran yn y MiriMefus blynyddol ac fe ddaeth y cystadleuwyro Wynedd, Môn a Chlwyd mewn timau obedair. Yn ogystal â’r golff bu cryn fynd ar ymefus, yr hufen a’r 'fizz' ar ddiwedd y rowndhefyd. Llwyddiant ysgubol ym mhob ffordd.Tîm o Bwllheli ddaeth i’r brig gydaRhuddlan yn ail ac Abergele yn drydydd. Yny llun mae’r Capten, Mrs Patricia Parkin yngwobrwyo Mrs Joan Massey.

    01286 672352Yr unig fferyllfa annibynnol

    yn y dre. Gwasanaethagos-atoch o’r safon uchaf.

    Cyngor, moddion achymwynasgarwch.

    FFeryllFa’r Castell

    SEGONTIUMROVERS

    Rhai o selogion Clwb Beicio Menai: (o’rchwith) Phil Stead, Tracey Page, David EJones, Ryan Jones, Iolo Williams, MalcolmSummers ac Alan Williams.

    NODDI PAPUR DREMae Papur Dre’n ddiolchgar iawn i brif

    noddwyr y papur: Cwmni Da,Cyngor Tref Caernarfon, Cymen,Galeri, Rondo a’r Black Boy. Osoes unrhyw un arall yn dymuno dod ynun o’n prif noddwyr, cysylltwch ag

    Eleri ar 01286 674314

    PapurDreGorffennaf2012_PapurDreHydref2010 04/10/2012 22:00 Page 19

  • ChwaraeonChwaraeonPAPUR DRE PAPUR DRE

    PAPUR DRE I BOBOL DRE

    Papur Dre: Sut mae’n mynd yn Torquay?Nathan Craig: Grêt ar y funud, diolch.

    P.D: Sut le ydy o?N.C: Ma Torquay yn dre lyfli. Ma’na dipyno bethau i neud yn ystod amsar rhydd–sinema, Paignton zoo, crazy golff a ballu.Yr unig ciami ydi bod o 6 awr i ffwr’ oGaernarfon. Dwi ddim yn siwr yn unionfaint o filltiroedd ond dwi'n gwbod bod o’nbell!

    P.D: Lle di’r lle pella dach chi’n gorfodteithio i chwara?N.C Ma hi rhwng Fleetwood Town, YorkCity a Rotherham. O leia 6 awr mewn bws.Ond ma’ ganddo’ ni gegin ar y bws (cwcyr,ffrij a meicrowêf). Hefyd ma’ ganddo’ ni tua6 teli i wylio dvd's - pethau fel bocs set o‘Only Fools and Horses’..

    P.D: Wyt ti’n byw mewn tŷ, fflat...rhannu tabe?N.C: Gin i fflat fy hun ar y funud, chydig oganol dre a dwi’n gallu gweld y môr.

    P.D: Wyt ti wedi setlo yn y clwb?N.C: Do, ers i mi fod yma am dreial ym misIonawr a deud y gwir.’Nath y chwaraewyr, ystaff a phobol Torquay fy helpu fi setlo ynsyth!

    P.D: A be am y rheolwr, Martin Ling?N.C:Dwi’n meddwl bod o’n licio fi ! Tydi oddim yn un o’r rheiny sy’n siarad wynab ynwynab efo chwaraewyr. Ond pan fydd o’ncael ei holi gan bapura newydd ac arwebsites ac ati mae o’n deud petha daamdanaf fi.Gobeithio neith o ddal ati, ia?

    P.D: Pwy di sêr y tîm, ar wahan i chdi wrthgwrs!N.C:Ma’r capten, Lee Mansell, wedi bod yny clwb ers blynyddoedd ac mae o wediedrach ar fy ôl i ers i mi ddwad yma, felly sawell i mi ddeud y fo !

    P.D: Faint ’ti’n gorfod ymarfer?N.C: Dim llawar o gwbwl! Dydd Llunrhwng 10.30-12.00 ( weithia dan ni’n caeldiwrnod i ffwrdd os dan ni di curo dyddSadwrn cynt. Dydd mawrth 10.30-12.00.Dim dydd Merchar (trio chwara golff felly,neu fifa 13!)........rwbath fel’na !

    P.D: Teimlad da cael bod yn y tîm cyntarwan?N.C Dwi wrth fy modd...cael chwarae bobwythnos mewn tîm proffesiynol.

    P.D: Dy gêm ora di hyd yn hyn?N.C: Cyn wsnos dwytha ‘swn i di gorfoddeud y gêm darbi yn erbyn Plymouth panges i ‘Man of the Match’. Ond nos Fercharyn erbyn Aldershot ges i a’r tîm glincar ogêm. ‘Nes i basio prawf ffitrwydd jyst cyncic off,oeddan ni’n colli 3-0 ond ddaethon ninol i ennill 4-3 yn y munud ola a ges i ‘manof the match’ eto. Anhygoel!

    P.D: A beth am y tymor hyd yma i’r tîm?N.C Gormod o gema cyfartal ar y funud ondo leia dan ni ddim yn ’u colli nhw i gyd. Adeud y gwir dim ond un dan ni wedi’i golli!Dal ati a gobeithio bydd y gema un pwyntyn troi’n rhai tri.

    P.D: Flwyddyn i rwan oeddat ti’n chwara iDre. Mae na lot wedi digwydd mewn 12mis?N.C Ti’n deud ’tha fi! O’n i’n arfar gweithio

    o 8 tan 5 ac ar benwythnosa a rwan dwi’nchwara ffwtbol bob dydd! Sy’n dangos, osdach chi wir isho rwbath mewn bywyd a’chbod chi’n fodlon gneud y gwaith calad, welma unrhywbeth yn bosib. Pan nes i seinio iDre oedd pawb yn meddwl bo’ fi’n gneudmisdêc ac y baswn i’n sdyc yn y WelshAlliance ond nesh i ddal ati a peidio rhoi gifyp.

    P.D: Rwan bo chdi’n chwara i Torquay, beam Gymru eto?N.C Yn Dre, a finna ddim yn chwara’nbroffesiynol, do’n i ddim yn cael chwara’ iGymru. Ond rŵan? Gobeithio ga’i gwpwl ogaps eto i dîm dan 21 Cymru (a’r tîm cyntaella, pwy a wyr!?) [cafodd Nathan gapiau i’rtîm dan 21 pan oedd ar lyfrau Everton –gol.]

    P.D: Be di’r cam nesa i Nathan Craig felly?N.C Codi oddi ar y soffa ma a sdopiochwara Fifa! Jôc!! Dwi’n gobeithio cariomlaen efo’r tîm cynta yn fama a chroesi‘mysadd am Gymru.

    P.D: ’Ti’n canlyn Laura (o Benygroes) ersdwy flynedd rwan. Mae Dyffryn Nantlle ynbell o Torquay?!N.C : Ydw, ac ma hi i lawr yn fama efo fidros wylia’r ha’, cyn cychwyn nôl ar ei hailflwyddyn yn y 'Nursing Cadets'. Sgeipio atecstio fydd hi wedyn a’r chwe awr na yn ycar pan fedra i!

    HER Y CO’ YN TORQUAYPapur Dre yn holi Nathan Craig, sydd bellach yn chwarae’nrheolaidd i Torquay United yn Adran 2, Cynghrair Lloegr.

    PapurDreGorffennaf2012_PapurDreHydref2010 04/10/2012 22:00 Page 20

    Papur Dre 101Papur Dre 101 Tud 2