dysgu ar y cof arholiad v3 - llafar
DESCRIPTION
TRANSCRIPT
La mémoire(Dysgu ar y cof)
Sut mae cofio darn estynedig o waith llafar ar y cof?
• D’abord…edrychwch ar lefel geiriol: Pa eiriau sydd yn anodd i’w cofio? Pam ydyn nhw’n anodd i’w cofio? Ystyr? / Sillafu? / Lleoliad yn y frawddeg? / Ynganu? Sut fedrwch chi gofio’r geiriau yma? Meddyliwch
am ddull gyda’ch partner!
Cymerwch ofal gyda’r ynganu! Ymarferwch y grwpiau llythrennau yma…
Cofio darn estynedig o waith ar y cof
• Ensuite…edrychwch dros y testun yn ei chyfanrwydd: Oes unrhyw frawddegau dydych chi ddim yn deall?
• Sicrhewch eich bod yn DEALL eich darn yn llwyr! Os nad ydych yn deall unrhyw ddarn – beth fedrwch
chi wneud?
Cofio darn estynedig o waith ar y cof
• Après…dysgwch un darn neu baragraff ar y tro.
• Ne vous inquietez pas – Madame James a des techniques pour vous!
Mais COMMENT???!!
Technique No. 1 => 3-2-1• Darllenwch eich darn yn uchel, gan gymryd
tro gyda’ch ffrind neu aelod o’ch teulu i ddweud unai 1, 2 neu 3 gair ar y tro.
• Pwy bynnag sy’n dweud gair olaf y frawddeg sy’n colli pob tro!
• Essayez-le maintenant!
• Sut mae’r dechneg yma yn ein helpu?
Technique 2 => Action!
• Rydym wedi defnyddio meim yn aml wrth ddysgu geiriau a strwythurau yn y dosbarth. Defnyddiwch y meimiau yma eto wrth ddysgu eich gwaith!
• Wrth i chi ddarllen eich gwaith yn uchel, defnyddiwch unrhyw symudiadau medrwch gofio o’r dosbarth – neu dyfeisiwch rai eich hunain!
• Essayez-le maintenant!• Sut mae’r dechneg yma yn ein helpu?
Technique No. 3 => On dessine…• Gadewch eich artist mewnol allan!• Tynnwch luniau i ddangos ystyr y
brawddegau a gwelwch os medrwch ail-greu’r frawddeg ar lafar dim ond trwy edrych ar y lluniau.
• Dewiswch dau frawddeg o’ch cyflwyniad nawr a newidiwch nhw i luniau. Yna, ceisiwch ddweud eich brawddegau yn uchel i’ch partner.
• Sut mae’r dechneg yma yn ein helpu?
Technique 4 => Code Secret!
• Ysgrifennwch lythrennau cyntaf eich geiriau yn unig. Cofiwch gynnwys eich holl atalnodi! (Pam?)
• Fedrwch chi gofio eich cynnwys gan ddefnyddio’r cod yn unig? Uwcholeuwch unrhyw lythrennau rydych yn cael trafferth yn cofio a gwiriwch nhw’n ofalus cyn trio eto.
• Essayez-le maintenant!• Sut mae’r dechneg yma yn ein helpu?
Finalement (très important)…!
• Cofiwch ddysgu ychydig bob nos – 15 munud bob nos am wythnos yn llawer mwy effeithiol na 2 awr y noswaith o flaen yr arholiad.
• Gallwch ddarllen yn dawel yn eich pen, ddarllen yn uchel, ysgrifennu fe mas, recordio eich hunan ar eich ffôn a gwrando nol arno…cofiwch i’w ymarfer mewn amrywiaeth o ffyrdd er mwyn helpu’r gwaith i sticio yn y cof!