bwletin rhieni / ebrill / april 2016 -...
TRANSCRIPT
Bwletin Rhieni / Parents’ Bulletin
Ebrill / April 2016 RHAI DYDDIADAU PWYSIG / SOME IMPORTANT DATES
Dydd Llun / Monday
02.05.2016
Gwyliau Calan Mai / May Day Bank Holiday
Dydd Gwener / Friday
13.05.2016
Arholiadau TGAU yn cychwyn
GCSE Examinations start
Dydd Llun / Monday
16.05.2016
Arholiadau Blwyddyn 12/13 yn cychwyn
Year 12/13 Examinations start
Dydd Llun / Monday
30.05.2016
Gwyliau Hanner Tymor
Half Term Holiday
Dydd Gwener / Friday
24.06.2016
Proffil Personol Blwyddyn 11/13
Year 11/13 Personal Profile
Dydd Mawrth / Tuesday
28.06.2016
HMS – Dim ysgol i’r disgyblion
Inset Day – No school for pupils
Dydd Llun – Gwener / Monday to Friday
04.07.2016 – 08.07.2016
Profiad Gwaith Bl. 10 ac 12
Year 10 and 12 Work Experience
CATEGOREIDDIO YSGOLION / SCHOOLS’ CATEGORIZATION Penderfynodd Llywodraeth Cymru osod pob ysgol yng Nghymru mewn un o 4 categori – gwyrdd, melyn, oren neu
goch – yn ddibynnol ar sut mae’r ysgol yn perfformio ar hyn o bryd a pha gefnogaeth sydd ei hangen ar yr ysgol i
wella. Ysgol Dyffryn Ogwen oedd yr unig ysgol uwchradd yng Ngwynedd a Môn i gael ei gosod yn y categori
gwyrdd – sydd yn dweud fod yr ysgol eisoes yn perfformio’n rhagorol, ac nad oes angen unrhyw gymorth allanol i
wella. Mae hyn yn gryn glod i bawb sy’n ymwneud â’r ysgol – yn Llywodraethwyr, staff a disgyblion.
The Welsh Government decided to place every school in Wales in one of four categories - green, yellow, amber or
red - depending on how the school is performing at the moment and what support is needed to improve the school.
Ysgol Dyffryn Ogwen was the only secondary school in Gwynedd and Anglesey to be placed in the green category -
which means that the school is already performing very well, and does not need any outside help to improve. This
is a major achievement for everyone involved in the school - Governors, staff and pupils.
Cafwyd diwrnod gwisg eu hunain yn yr ysgol – gyda phawb yn gwisgo dilledyn gwyrdd – gan gasglu digon o arian
i brynu gwerth £250 o gyfranddaliadau yng nghynllun hydro Ynni Ogwen. Bwriad yr ysgol yw gwneud defnydd
addysgiadol o’r cynllun gan godi ymwybyddiaeth am fanteision cynhyrchu ynni glân a fydd yn fanteisiol i’r
gymuned.
Pupils were allowed to wear their own clothes to school – with everyone wearing something green – and they
raised enough money to buy £250 worth of shares in the Ynni Ogwen hydro scheme. The school will use the
scheme for education, raising the pupils’ awareness of the advantages of producing clean energy from a venture
that will be provide benefits to the community.
GWASANAETH COFFÁU’R HOLOCOST / HOLOCAUST MEMORIAL SERVICE
Bu Alys Haf, Elin Cain, Sioned Carran a Joshua Williams mewn gwasanaeth i goffáu’r
Holocost yng Nghaernarfon ar ddydd Mercher, 27 Ionawr 2016, er mwyn cofio’r bobl
ddiniwed sydd wedi dioddef hil-laddiad.
Yn ogystal, cynhaliwyd gwasanaethau arbennig yma yn yr ysgol i gofio ac i ysgogi pobl
i wneud yn siŵr nad yw digwyddiadau dychrynllyd yr Holocost fyth yn cael eu anghofio
nac yn digwydd eto.
Alys Haf, Elin Cain, Sioned Carran and Joshua Williams attended a memorial service
commemorating the Holocaust in Caernarfon on Wednesday, January 27, 2016 in
memory of the innocent people who have suffered as a result of genocide.
In addition, special services were also held in the school to commemorate this and to
encourage people to make sure that the horrendous events of the Holocaust will never be
forgotten or repeated.
GWAITH ELUSENNOL / CHARITY WORK
Diolch yn fawr i chi am gefnogi sawl ymgyrch yn ystod y tymor diwethaf. Cefnogwyd sawl achos da gan yr ysgol,
gan gynnwys Plant Mewn Angen, Achub y Plant, Tŷ Gobaith, Macmillan, TEAMS4U, RSPCA, Action Aid.
Gwerthfawrogir gwaith caled a chefnogaeth disgyblion a rhieni.
Thank you for supporting a number of campaigns during the last term. Several good causes have benefited,
including Children in Need, Save the Children, Hope House, Macmillan, TEAMS4U, RSPCA, Action Aid. The hard
work and support of pupils and parents are greatly appreciated.
PANTOMEIM / PANTOMIME
Bu holl ddisgyblion blwyddyn 7 yn gweld perfformiad o’r pantomeim
‘Snow White and the Seven Dwarfs’ yn Llandudno yn ystod yr wythnos
olaf cyn gwyliau’r Nadolig. Roedd yn berfformiad lliwgar, bywiog a
swnllyd yn unol â thraddodiad y pantomeim Nadoligaidd ac fe gafodd y
disgyblion a’r aelodau staff fore difyr iawn. Diolch i’r adran Saesneg am
drefnu.
All pupils in year 7 went to see a performance of the pantomime 'Snow
White and the Seven Dwarfs' in Llandudno during the final week before
the Christmas holidays. The performance was colourful, lively and noisy
in true Christmas pantomime fashion and the pupils and staff had a very
enjoyable morning. Thanks to the English department for organizing the
trip.
TE PRYNHAWN NADOLIG 2015 / CHRISTMAS AFTERNOON TEA 2015
Eto eleni bu’r te prynhawn yn llwyddiant. Croesawyd dros 90 o’r henoed lleol i’r ysgol am brynhawn o luniaeth
ysgafn ac adloniant. Roedd y lluniaeth wedi cael ei baratoi gan grŵp Lletygarwch blwyddyn 10, a bydd eu
cyfraniad yn ystod y prynhawn yn cyfrif tuag at eu cymhwyster lefel 2 BTEC. Diolch o galon i fusnesau lleol am
gyfrannu tuag at y bwyd a’r raffl, heb eu cyfraniad ni fuasem wedi gallu cynnal y te Nadolig. Cyflwynodd côr yr
ysgol nifer o eitemau ac ymuno gyda’r gynulleidfa i gyd-ganu dwy garol.
Again this year the afternoon tea was a great success. Over 90 local elderly people were welcomed to the school
for an afternoon of light refreshments and entertainment. The refreshments had been prepared by the year 10
Hospitality group, and their contribution during the afternoon will count towards their BTEC level 2 qualification.
Many thanks to local businesses for donating food and raffle prizes, without their contributions we would not have
been able to prepare the Christmas Tea. The School Choir presented some items and sang two carols with the
audience.
CÔR YR YSGOL / SCHOOL CHOIR Ar nos Sul, Rhagfyr 20fed cafodd yr ysgol wahoddiad i ymuno
yn nathliadau’r gymuned yn y gwasanaeth carolau yng
Nghapel Jerusalem. Cyflwynodd y côr bedair cân allan o ‘Gair
yn Gnawd’ gyda chyfraniadau unawdol gan Elin Cain, Cadi
Rhys, Anna Tugwell-Williams, Elen Wyn, Buddug ac Efa
Glain. Daeth y gwasanaeth i ben yn fawreddog gyda’r corau
yn cyd-ganu ‘Haleliwia’ o ‘Teilwng yw’r Oen’ gyda Chôr y
Penrhyn a Chôr y Dyffryn. Roedd hyn yn brofiad gwefreiddiol
i’r disgyblion.
On Sunday evening, 20th
December the school choir were
invited to join the community in the carol service at Capel
Jerusalem. The choir sang four songs from ‘Gair yn Gnawd’ with solos from Elin Cain, Cadi Rhys, Anna Tugwell-
Williams, Elen Wyn , Buddug and Efa Glain. The service came to a majestic end as they sang ‘Haleliwia’ from
'Teilwng yw’r Oen' with Côr y Penrhyn and Côr y Dyffryn. This was a thrilling experience for the pupils.
ARWEINYDD O FRI / A TALENTED CONDUCTOR
Rydym i gyd yn ymwybodol iawn o ddoniau cerddorol Gwydion Rhys
sydd yn ddisgybl ym mlwyddyn 8. Yn ddiweddar cafodd Gwydion y
cyfle gwych i arwain Cerddorfa Gymreig y BBC. Profiad anhygoel i
fachgen 12 oed! Gellir gweld y perfformiad ar dudalen Facebook y
gerddorfa! Mae’n werth ei weld!
We are all well aware of the musical talents of Gwydion Rhys, year 8.
Gwydion recently was given a wonderful opportunity to lead the BBC
National Orchestra of Wales. This was an incredible experience for a 12 year old boy! The performance can be
seen on the orchestra’s Facebook page. It is well worth viewing!
ENWEBU ATHRAWES YSBRYDOLEDIG / INSPRIRATIONAL TEACHER AWARD
Llongyfarchiadau mawr i Mrs Lynne Jones, Pennaeth yr Adran Saesneg, am ennill gwobr fel athrawes
ysbrydoledig gan Brifysgol Rhydychen. Bob blwyddyn mae Prifysgol Rhydychen yn gofyn i fyfyrwyr sydd ar eu
blwyddyn gyntaf enwebu athro neu athrawes oedd wedi eu hysbrydoli tra yn yr ysgol, a chafodd Mrs Lynne Jones
ei henwebu gan Bethan Hughes a oedd yn fyfyriwr yn y Chweched Dosbarth y llynedd ac sydd bellach yn astudio
Saesneg yn Rhydychen. Penderfynodd y Brifysgol fod Mrs Lynne Jones yn un o 10 o athrawon buddugol a bydd
hi’n mynd i Rydychen i dderbyn ei gwobr mewn seremoni ddechrau mis Mai. Fel paratoad ar gyfer y seremoni bu
criw ffilmio o Rydychen yn yr ysgol yn ddiweddar yn ffilmio Mrs Jones a’r pennaeth Mr Alun Llwyd. Mae’r ysgol
bob amser yn ymfalchïo yn llwyddiant y disgyblion a’r staff.
Congratulations to Mrs Lynne Jones, Head of the English Department, for winning an Inspirational Teachers
Award from Oxford University. Each year the University asks students in their first year to nominate a teacher who
inspired them while they were at school and Mrs Lynne Jones was nominated by Bethan Hughes, who was a
student in our Sixth Form last year and is now reading English at Oxford. The University judged Mrs Lynne Jones
to be one of the 10 successful teachers and she will go to Oxford to receive her award in a ceremony at the
beginning of May. As part of the preparations for the ceremony a film crew from Oxford came to the school
recently to film Mrs Jones and the head, Mr Alun Llwyd. The school is always proud of the success of our pupils
and staff.
DOD Â SIWAN YN FYW / BRINGING SIWAN TO LIFE
Fel rhan o’u cwrs Uwch Gyfrannol mae blwyddyn 12 yn astudio’r ddrama radio ‘Siwan’ gan Saunders Lewis.
Bu’r criw’n ffodus iawn i gael bod yn rhan o drafodaeth yng nghanolfan newydd sbon Pontio yn ystod mis Ionawr.
Trefnwyd y sgwrs gan Brifysgol Bangor ac roedd yn gyfle gwych i wrando ar actorion a dramodwyr yn trafod y
ddrama. Roedd Maureen Rhys a Ffion Dafis ar y panel, ac fe soniodd y ddwy am eu profiadau nhw yn perfformio
rhan Siwan. Roedd y dramodydd William Lewis a’r darlithydd Dr Manon Wyn Williams hefyd yn rhan o’r
drafodaeth. Cafwyd prynhawn difyr iawn, diolch i Brifysgol Bangor am drefnu.
Year 12 are studying the radio play ‘Siwan’ by Saunders Lewis as part of their AS level course. They were very
fortunate to take part in a discussion held in the brand new Pontio centre in January. The discussion was
organised by Bangor University and gave the students a great opportunity to listen to actors and writers discussing
the play. Maureen Rhys and Ffion Dafis were on the panel and they both talked about their own experiences of
performing the part of Siwan. The playwright William Lewis and the lecturer Dr Manon Wyn Williams were also
part of the discussion. It was a very interesting afternoon and we are grateful to Bangor University for organising
it.
GWEITHDY DRAMA ‘CHWALFA’ / ‘CHWALFA’ DRAMA WORKSHOP
Daeth yr actor Owen Arwyn o Theatr Genedlaethol Cymru i gynnal gweithdy drama gyda
disgyblion blwyddyn 10.
Cychwynnodd y bore drwy gynhesu’r llais a’r corff ac yna ymlaen i’r gweithgaredd yn
ymwneud â chadw cyswllt llygaid wrth actio. Diolch i Owen Arwyn a oedd wedyn i’w
weld yn perfformio yn ‘Hogia Ni’ gan Meic Povey yn Neuadd Ogwen fis Mawrth.
The actor Owen Arwyn from Theatr Genedlaethol Cymru came and held a drama
workshop with year 10 pupils.
He started the morning by warming up the voice and body and then proceeded to the activity, which involved
maintaining eye contact while acting. We are grateful to Owen Arwyn who could later be seen performing in
‘Hogia Ni’ by Meic Povey in Neuadd Ogwen in March.
Mae’r ysgol yn falch iawn i 14 o’n disgyblion o bob oedran fod yn rhan o
berfformiadau Chwalfa yn Pontio yn ddiweddar. Bu tua 50 o ddisgyblion
hefyd yn gweld un o’r perfformiadau ac mewn sgwrs gyda’r cynhyrchydd
cyn y perfformiad. Cynhaliodd y Theatr Genedlaethol weithdy sgriptio
gydag Aled Jones Williams yn yr ysgol hefyd yn ystod y cyfnod yma.
Mae Adran y Gymraeg wedi creu murlun yn yr adran yn crynhoi’r holl
weithgarwch a fu gyda Chwalfa.
The school is very proud of the 14 pupils of all ages who performed in
Chwalfa in Pontio recently. About 50 pupils also saw one one the
performances. The Theatr Genedlaethol also held a script-writing
workshop with Aled Jones Williams at the school during this time. The Welsh Department have created a mural in
the department that summarises all the activities that took place with Chwalfa.
PROSIECT ‘AWYR DYWYLL ERYRI’ / SNOWDONIA DARK SKY PROJECT
Bu disgyblion blwyddyn 7 ac Adran y Gymraeg yn cydweithio ar brosiect ‘Awyr Dywyll Eryri’ gyda’r Parc
Cenedlaethol. Bwriad y cynllun yw gwarchod ardaloedd gydag
amgylchfyd nos eithriadol, a bu’r disgyblion yn gweithio ar gyfres o
dasgau gyda swyddog addysg y Parc gan ddisgrifio rhai o’r golygfeydd
rhyfeddol a welir yn yr awyr uwch ein pennau.
Year 7 pupils and the Welsh Department worked with the National Park
on the ‘Snowdonia Dark Sky’ project. The aim of this scheme is to
protect area with an outstanding night environment and the pupils
worked on a series of tasks with the Park’s education officer, describing
some of the wonderful sights to be seen in the skies above us.
CWIS POP C2 RADIO CYMRU/ RADIO CYMRU’S ‘CWIS POP C2’
Llongyfarchiadau mawr i dîm yr ysgol am gyrraedd ffeinal Cwis Pop C2
Radio Cymru eleni. Alys Haf, Elin Cain, Rhiannon Llwyd a Iago
Davies.
Congratulations to the school team for reaching the final of Radio
Cymru’s ‘Cwis Pop C2’ this year. Alys Haf, Elin Cain, Rhiannon Llwyd
and Iago Davies.
SIOE GERDD / MUSICAL
Ar Ragfyr 16eg bu nifer o ddisgyblion blynyddoedd 8, 9 a 10 ar daith i weld sioe gerdd
‘The Bodyguard’ yn y Palace Theatre ym Manceinion. Cafodd y disgyblion gyfle i siopa
a chael cinio yng Nghanolfan Siopa Trafford yn ystod y bore, ac wedyn ymlaen i
fwynhau’r sioe gerdd enwog yn ystod y prynhawn.
On 16th
of December, a number of pupils in years 8, 9 and 10 went on a trip to see the
musical 'The Bodyguard' at the Palace Theatre in Manchester. They enjoyed shopping
and had lunch at the Trafford Shopping Centre during the morning, and had an
unforgettable experience during the afternoon enjoying the famous musical.
RHIENI BLYNYDDOEDD 11/12/13
Mae 2016 yn flwyddyn bwysig iawn i ddisgyblion sy’n sefyll arholiadau allanol
eleni. Mae llawer o Asesiadau dan Reolaeth ac Arholiadau Ymarferol sydd yn
cyfrannu i raddau terfynol cymwysterau Lefel Mynediad/TGAU/UG/Safon Uwch
yn cael eu cynnal yn ystod gwersi hyd at Fai 2016. Mae presenoldeb y disgyblion
ym mhob un o’u gwersi yn allweddol os ydynt am wneud y defnydd gorau o’r
cyfle i gyrraedd eu potensial.
Gofynnir am gydweithrediad rhieni i sicrhau lefel uchel o bresenoldeb yn yr ysgol
drwy gydol y cyfnod pwysig hwn.
Mae gan y disgyblion hefyd gyfle i ennill llawer iawn o farciau drwy gyflwyno gwaith cwrs o’r safon uchaf bosibl
a hynny’n brydlon.
Fel yr ydych yn ymwybodol, ni ddylid dod â ffôn symudol i’r ysgol – mae hyn yn cynnwys yr ystafell arholiad.
Mae gan y byrddau arholi reolau llym a byddant yn dileu marciau’r disgybl am bapur penodol neu hyd yn
oed y gyfres gyfan o arholiadau os byddant yn cael eu dal gyda ffôn yn eu meddiant.
YEAR 11/12/13 PARENTS
2016 will be a very important year for pupils taking external examinations this year. Many Controlled
Assessments and Practical Examinations, which contribute towards the final grades of Entry Level/GCSE/AS/A
Level qualifications, will be held during lessons until May 2016. Attendance in every lesson is extremely important
if the pupils are to fulfil their potential. Parental support is requested to ensure a high level of attendance
throughout this very important period.
Pupils also have an opportunity to gain valuable marks by presenting coursework assignments on time and to the
highest possible standard.
As you are aware, mobile phones should not be brought into school – this includes the examination room. The
examination boards have strict rules and pupils will not receive any marks for the paper or, in some cases, the
whole series of examinations if they take a mobile phone into an examination room.
GWISG YSGOL
Diolch am eich cydweithrediad er mwyn sicrhau
cysondeb a pharch tuag at reolau gwisg ysgol.
Hoffwn eich atgoffa o’r canlynol:- Bechgyn Genethod
Crys chwys nefi yr ysgol Crys chwys nefi yr ysgol
Crys polo gwyn Crys polo glas golau
Trowsus du plaen Trowsus/sgert nefi/du plaen
(nid gwaelod tracwisg)
Esgidiau du Esgidiau du
SCHOOL UNIFORM
Thank you for your co-operation in ensuring consistency
and respect for the school uniform rules.
We would like to remind you of the following:- Boys Girls
Navy School Sweatshirt Navy School Sweatshirt
White polo shirt Light blue polo shirt
Plain black trousers Plain black/navy trousers/skirt
(not tracksuit bottoms)
Black shoes Black shoes
CLWB GWAITH CARTREF / HOMEWORK CLUB
Mae’r Clwb Gwaith Cartref ar agor bob dydd Llun i ddydd Iau o 3:20 hyd at 4:20 mewn ystafell
gyda chyfrifiaduron. Mae hyn yn gyfle ardderchog i ddisgyblion gael cymorth gyda’u gwaith
ysgol.
The Homework Club is open every day from Monday to Thursday from 3:20 to 4:20 in a room
with computers. This is an excellent opportunity for pupils to get help with their school work.
PRYDLONDEB / PUNCTUALITY
Mae disgwyl i bawb fod yn yr ysgol erbyn 8:45yb er mwyn rhoi dechrau trefnus i’r
diwrnod. Gofynnwn am gydweithrediad rhieni gyda’r mater yma. Bydd disgyblion sy’n
cyrraedd yn hwyr yn gyson yn y bore, neu sy’n hwyr ar gyfer eu gwersi yn cael eu
cadw i mewn amser cinio ac yna ar ôl ysgol.
All pupils are expected to be in school by 8:45am to ensure an orderly start to the day.
We ask for parents’ co-operation with this. Pupils who regularly arrive late in the
morning or who are late for their lessons will be kept in at dinner time and then after
school.
ABSENOLDEB DISGYBLION / PUPILS’ ABSENCE
Mae presenoldeb rheolaidd yn yr ysgol yn hanfodol os yw’r disgyblion i fanteisio’n llawn ar y cyfleoedd addysgol
sydd ar gael iddynt. Er mwyn cynnal a gwella presenoldeb yn yr ysgol gofynnwn yn garedig i chi gysylltu ar
ddiwrnod cyntaf absenoldeb eich plentyn.
1. Cysylltwch â’r ysgol, rhwng 8:15 a 9:00, ar y bore cyntaf y mae eich plentyn yn absennol: Ffonio
01248 600291.
2. Os na fydd yr ysgol wedi derbyn galwad ffôn rhwng 8:15 a 9:00 o’r gloch yn dweud wrthym pam nad
yw eich plentyn yn yr ysgol, yna bwriedir cysylltu gyda neges testun i’r rhiant.
3. Gofynnir i chi nodi rheswm yr absenoldeb yn nyddiadur eich plentyn.
Regular attendance at school is essential if the pupils are to take full advantage of the educational opportunities
available to them. In order to maintain and improve attendance levels at the school we would kindly ask you to
contact us on the first day of your child’s absence.
1. Please contact the school between 8:15 and 9:00 on the first morning that your child is absent:-
Telephone 01248 600291.
2. If the school has not received a telephone call between 8:15 and 9:00 o’clock telling us why your child is
not at school, we will then try to contact the parent with a text message.
3. You are requested to note the reason for the absence in your child’s diary.
CINIO YSGOL AM DDIM
Efallai fod eich plentyn yn gymwys i gael cinio ysgol
am ddim os ydych yn derbyn un o’r isod:-
Cymorth Incwm
Lwfans Chwilio am Waith
Credyd Treth Plant (yn unig)
Gwarant Credyd Pensiwn
Cysylltwch gyda’r Adran Fudd-daliadau yng
Nghaernarfon ar 01286 682689.
FREE SCHOOL MEALS
Your child may be entitled to free school meals if you
receive any of the following:-
Income Support
Job Seekers Allowance
Child Tax Credit (only)
Pension Credit Guarantee
Contact the Benefits Department in Caernarfon on
01286 682689.
BANC BWYD / FOOD BANK
Daeth Maggie Azarpey a Gwyn Williams i roi cyflwyniad i ddisgyblion y
chweched dosbarth am y Banc Bwyd. Mae Banc Bwyd Caernarfon yn
darparu bwyd brys i bobl sy’n cael trafferth bwydo eu teuluoedd yn ardal
Arfon. Yn dilyn y cyflwyniad fe ysbrydolwyd Manon, Math a Rhiannon.
Fe benderfynwyd mynd i wirfoddoli yn siop Tesco Bangor. Yno fe
wnaethant helpu i rannu pamffledi ac i gasglu’r bwyd. Yn yr wythnosau yn
dilyn at y Nadolig rhoddwyd basged yng nghyntedd yr ysgol er mwyn
casglu bwyd ar gyfer y Nadolig. Drwy roddion disgyblion a staff,
llwyddwyd i gasglu bwyd oedd yn mwy na llenwi’r fasged. Yn ogystal fe
aeth rhai o ddisgyblion y chweched i Asda er mwyn prynu mwy o fwyd
gyda’r rhoddion ariannol.
Maggie Azarpey and Gwyn Williams came to the school to give a presentation to the sixth form about the food
bank. The Caernarfon Food Bank provides emergency food for people who find it hard to feed their families in the
Arfon area. After the presentation Manon, Math and Rhiannon were inspired to volunteer in Tesco’s, Bangor,
where they gave out leaflets and collected the food. In the following weeks up till Christmas, a basket was placed in
the school entrance in order to collect food for Christmas. Thanks to the generosity of pupils and staff, more than
enough food was collected to fill the basket. Some sixth form pupils also went to Asda to buy more food with the
money that was given.
YSGOLORIAETH / SCHOLARSHIP
Llongyfarchiadau i Alys Haf o flwyddyn 13 sydd wedi ennill ysgoloriaeth i Brifysgol
Aberystwyth. Bwriad Alys yw astudio’r Gyfraith. Dymunwn y gorau iddi.
Congratulations to Alys Haf, year 13, who has won a scholarship to Aberystwyth University. Alys
intends to read Law. Our best wishes to her.
DIWRNOD BLASU - BIOWYDDORAU / BIOSCIENCES TASTER DAY
Fe aeth myfyrwyr bioleg blwyddyn 12 ar ddiwrnod blasu i Adran Fioleg Prifysgol Bangor
yn mis Ionawr. Ffocws y diwrnod oedd dysgu am system resbiradu pysgod drwy wrando ar
ddarlith a drwy wneud gwaith ymarferol yn y labordy. Dysgodd y myfyrwyr lawer am
anatomeg pysgodyn drwy ddyrannu macrell. Gan mai’r Coleg Cymraeg Cenedloaethol oedd
wedi trefnu’r diwrnod, fe gafodd y myfyrwyr wybod am y cyfleoedd sydd i ddilyn
modiwlau cyrsiau gradd yn y Gymraeg ac am yr ysgoloriaethau sydd ar gael am wneud
hynny.
Year 12 biology students went on a taster day to the Bangor University Biology Department
in January. The focus of the day was on learning about the respiratory system of fish by
listening to a lecture and doing practical work in the laboratory. The students learned much about the anatomy of
fish by dissecting a mackerel. Since the day had been organised by the Welsh Federal College, the students learned
about the opportunities that exist to study degree course modules through the medium of Welsh and about the
scholarships that are available for those who do so.
CYNHADLEDD IEUENCTID PARTNERIAETH AMGYLCHEDDOL GWYNEDD – GYRFA WERDD? /
GWYNEDD ENVIRONMENTAL PARTNERSHIP YOUTH CONFERENCE – A GREEN CAREER?
Aeth wyth disgybl o’r ysgol i Gynhadledd Ieuenctid Partneriaeth Amgylcheddol Gwynedd - Gyrfa Werdd? ar yr
8fed o Fawrth 2016 i Glynllifon a oedd yn sôn am yrfaoedd yn y byd amgylcheddol. Derbyniodd y criw
gyflwyniadau gan fusnesau lleol a chyfle i werthfawrogi cynnyrch cwmni Adra, a derbyn gwybodaeth am y
cyfleoedd gwaith a hyfforddiant yn yr awyr agored. Yr oedd y diwrnod yn fuddiol i’r aelodau o grŵp Eco Ysgol
Dyffryn Ogwen.
“Mae’r profiad wedi ein hybu i ddatblygu sgiliau ‘gwyrdd’ ac entrepreneuriaeth yma yn Nyffryn Ogwen” – Beca
Nia, Blwyddyn 9.
Eight of the school’s pupils went to the Gwynedd Environmental Partnership Youth Conference – A Green Career?
on the 8th of March 2016 in Glynllifon, which was on careers in the environmental field. The group were given
presentations by local businesses, an opportunity to appreciate the produce of the Adra company and information
about the opportunities for work and training in the outdoor sector. The day was of great benefit to the members of
Ysgol Dyffryn Ogwen’s Eco group.
“The experience has encouraged us to develop ‘green’ and entrepreneurship skills here in Dyffryn Ogwen,” said
Beca Nia, Year 9.
GALA NOFIO’R URDD / URDD SWIMMING GALA
Llongyfarchiadau i Esme Crowe a ddaeth yn 2il yng ngala nofio’r Urdd, rowndiau Eryri yn ddiweddar.
Mae Esme yn hyfforddi gyda chlwb Caernarfon yn gynnar yn y bore a gyda’r nos ar nifer o ddyddiau yn
ystod yr wythnos ac mae’n arbenigo yn y dull broga.
Congratulations to Esme Crowe for coming in 2nd in the Eryri rounds of the Urdd swimming gala recently. Esme
trains with the swimming club in Caernarfon early in the morning and in the evening on several days each week
and specializes in breaststroke.
Llongyfarchiadau Catherine Roberts blwyddyn 7 a ddaeth yn 7fed trwy Gymru yn ras nofio Pili
Pala. Hefyd y tîm ras gyfnewid a ddaeth yn 9fed allan o 16 o dimau.
Congratulations Catherine Roberts Year 7 who came 7th
through Wales in the Butterfly race. Also
to the relay team who came 9th
out of 16 teams.
Roedd Beca Dafydd ac Esme Crowe hefyd yn cystadlu ym
Mhencampwriaethau Nofio Cymru yn Abertawe. Cyrhaeddodd y ddwy y
rownd derfynol - Beca yn nofio ar ei chefn ac Esme yn y dull broga.
Beca Dafydd and Esme Crowe also took part in the Welsh National
Swimming Championships in Swansea. Both reached their respective finals
– Beca in the backstroke and Esme in the breaststroke.
EISTEDDFOD YR URDD / URDD EISTEDDFOD
Llongyfarchiadau i’r canlynol a fydd yn cynrychioli’r ysgol yn
Eisteddfod yr Urdd yn y Fflint ddiwedd Mai - Gwydion Rhys ar yr
unawd llinynnol, Elis Evans a Luned Elfyn ar yr Ymgom, y Parti
Bechgyn a’r Côr Cerdd Dant. Yr oedd nifer dda o ddisgyblion eraill
hefyd yn cynrychioli’r ysgol yn eisteddfod y cylch a’r sir.
Cynhaliwyd yr Eisteddfod Sir dros 15 yma yn Ysgol Dyffryn Ogwen
nos Wener, Mawrth 11eg.
Congratulation to the following pupils who will be representing the
school in the Urdd Eisteddfod in Flint at the end of May: Gwydion
Rhys in the string solo, Elis Evans and Luned Elfyn in the Dialogue
competition, the Boys’ Party and the Cerdd Dant Choir. A good
number of other pupils also represented the school in the area and county eisteddfodau.
The over 15s County Eisteddfod was held here in Ysgol Dyffryn Ogwen on Friday, March
11th.
MEDAL Y DYSGWYR / LEARNERS’ MEDAL Am yr ail flwyddyn yn olynol mae Hannah Cook o flwyddyn 11 wedi cyrraedd rownd
derfynol Medal y Dysgwr yn Eisteddfod yr Urdd. Bu Hannah yng ngwersyll yr Urdd yng
Nglan Llyn yn cymryd rhan mewn nifer o weithgareddau a chystadlaethau cyn cael ei
dewis i fod yn y tri olaf. Bydd y rownd derfynol yn digwydd yn ystod wythnos Eisteddfod
Genedlaethol yr Urdd yn y Fflint ddiwedd Mai. O gofio fod Hannah wedi byw yn
Banbury yn Swydd Rhydychen tan flwyddyn 8 mae ei champ i ddod yn gwbl rhugl yn y Gymraeg yn anhygoel.
For the second year in succession Hannah Cook, year 11, has reached the final round in the Learners’ Medal in
the Urdd Eisteddfod. Hannah took part in a number of activities and competitions in the Urdd’s Glan-llyn Centre
before being selected for the final three. The final will take place during the Urdd National Eisteddfod week in
Flint at the end of May. Bearing in mind that Hannah lived in Banbury in Oxfordshire till year 8 her achievement
in gaining complete fluency in Welsh is incredible.
CYSTADLEUAETH GYMNASTEG / GYMNASTICS COMPETITION
Llongyfarchiadau i Nia George am ddod yn gyntaf mewn cystadleuaeth gymnasteg yng
nghlwb gymnasteg Eryri yn ddiweddar. Bu i Nia a’i chwaer Erin ynghyd â Sophie Pipe
gynrychioli’r ysgol ym mis Ionawr yng nghystadleuaeth gymnasteg yr Urdd yn Eryri.
Congratulations to Nia George on coming first in a gymnastics competition held at the
Eryri gymnastics club recently. Nia and her sister Erin together with Sophie Pipe
represented the school in January at the Urdd Eryri gymnastics competition.
RYGBI / RUGBY
Mae’r tîm rygbi merched yn mynd o nerth i nerth gyda tua 30 o ferched yn
mynychu’r ymarferion yn y clwb ar nos Fercher. Dydd Iau, Rhagfyr 18fed cafodd y
garfan iau gyfle i chwarae eu gêm gyntaf yn erbyn Ysgol Tryfan gyda nifer o
chwaraewyr newydd o flwyddyn 7. Y sgôr derfynol oedd 20-5 i Ysgol Dyffryn
Ogwen gyda Sophie Ellis yn sgorio pedwar cais.
The girls’ rugby team is going from strength to strength with around 30 girls
attending training at the club on Wednesday evenings. On December 18th
the junior
squad played their first game against Ysgol Tryfan with a number of new members
from year 7. The final score was 20-5 to Ysgol Dyffryn Ogwen with Sophie Ellis
scoring four tries.
Canlyniad Tîm Rygbi bechgyn dan 13 - Cwpan Eryri
Under 13 boys’ Rugby Result – Eryri Cup
Llongyfarchiadau i dim rygbi bechgyn dan 13 sydd wedi curo Ysgol John Bright
38-0. Ceisiau gan Huw Davies, Daniel Hughes, Louis Revilles, Thomas Ellis a
Sean Buchanan. Mae’r tim wedi cyrraedd yr 16 olaf.
Congratulations to the under 13s boys’ rugby team on beating Ysgol John Bright in the Eryri Cup 38-0. Tries by
Huw Davies, Daniel Hughes, Louis Revilles, Thomas Ellis and Sean Buchanan. The team has reached the last 16.
Rygbi - Cwpan Eryri dan 15 /
Rugby - Eryri Cup Under 15
Llongyfarchiadau i’r tîm rygbi dan 15 ar gyrraedd rownd derfynol Cwpan Eryri trwy ennill 17-10 yn erbyn Ysgol
Glan y Môr, Pwllheli. Sgoriwyd y ceisiau gan Kieran Briggs, Mathew Buchanan a Shaun Roberts.
Congratulations to the under 15s rugby team on reaching the final of the Eryri Cup by winning 17-10 against
Ysgol Glan y Môr, Pwllheli. The tries were scored by Kieran Briggs, Mathew Buchanan and Shaun Roberts.
Rygbi Gogledd Cymru Gorllewin Dan 15 /
Rygbi Gogledd Cymru West Under 15
Llongyfarchiadau i Mathew Buchanan, Sion Davies, Cai Griffiths, Gruffydd Roberts, Ben Williams a Dafydd Glyn
Williams am gael eu dewis i chwarae i Rygbi Gogledd Cymru Gorllewin yn erbyn Mynydd Mawr a Dinefwr (ardal
Carwyn James a Barry John) ac yn erbyn Pontypridd yn ddiweddar.
Bu Mathew Buchanan, Ben Williams a Shaun Thomas yn yr Eidal dros wyliau’r Pasg yn cymryd rhan mewn
twrnamaint gyda RGC dan 16. Tîm RGC enillodd y twrnamaint rhyngwladol yma.
Congratulations to Mathew Buchanan, Sion Davies, Cai Griffiths, Gruffydd Roberts, Ben Williams and Dafydd
Glyn Williams on their selection to play for Rygbi Gogledd Cymru West against Mynydd Mawr and Dinefwr (the
home of Carwyn James and Barry John) and against Pontypridd recently.
Mathew Buchanan, Ben Williams and Shaun Thomas were in Italy over the Easter holidays taking part in a
tournament with the RGC under 16s. The RGC team won this international tournament.
Rygbi Gogledd Cymru Dan 16 /
Rygbi Gogledd CymruUnder 16s Mae Mathew Buchanan a Shaun Thomas wedi cynrychioli Rygbi Gogledd Cymru dan 16 mewn nifer o gemau
rygbi yn ddiweddar gan gynnwys Gleision Caerdydd, Sgarlets, Gweilch a Dreigiau Casnewydd Gwent. Da iawn
chi!
Mathew Buchanan and Shaun Thomas have represented Rygbi Gogledd Cymru under 16s in a number of rugby
games recently, including the Cardiff Blues, Scarlets, Ospreys and Newport Gwent Dragons. Well done!
Rygbi Gogledd Cymru Dan 18 /
Rygbi Gogledd Cymru Under 18s
Llongyfarchiadau Iago Davies oedd yn rhan o garfan dan 18 Rygbi Gogledd
Cymru yn erbyn y Gweilch ym Mharc Eirias yn ddiweddar. Bu hefyd yn ran o
garfan dan 17 Rygbi Gogledd Cymru dros y Pasg mewn twrnamaint
Rhyngwladol ym Mharc Eirias.
Congratulations to Iago Davies who was part of the Rygbi Gogledd Cymru under 18s
squad who played the Ospreys at Eirias Park recently. He was also in the Rygbi Gogledd
Cymru under 17s squad in an international tournament over Easter in Eirias Park.
ATHLETAU / ATHLETICS
Mae Beca Nia wedi ennill gwobr merch orau dan 15 ar ôl iddi ennill tair cystadleuaeth a dod yn ail yn y bedwaredd
gystadleuaeth yng nghystadleuaeth Athletau Dan-do Gwynedd a Môn ym mis Mawrth.
Beca Nia has won the prize for the best girl under 15 after she won three competitions and
came second in the fourth competition in the Gwynedd and Anglesey Indoor Athletics
competion in March.
Llongyfarchiadau i Beca Nia, Sophie Ellis, Sophie Jeffreys a Natalie Owen am gynrychioli Eryri yn Athletau Dan-
do Cymru yn ddiweddar. Daeth tîm genethod dan 13 yn gyntaf a’r tîm dan 15 yn ail. Bydd Sophie a Natalie yn
mynd ymlaen i gynrychioli Cymru ym Manceinion ym mhencampwriaeth Athletau Dan-do Prydain. Mae Natalie
bellach yn cael ei rancio yn gyntaf trwy Brydain am daflu disgen dan 13eg.
Congratulations to Beca Nia, Sophie Ellis, Sophie Jeffreys and Natalie Owen on representing Eryri in the Welsh
Indoor Athletics competition recently. The under 13s girls team came first and the under 15s team second. Sophie
and Natalie will go on to represent Wales in Manchester in the British Indoor Athletics championships. Natalie is
ranked first throughout Britain for discuss throwing in the under 13 age group.
PÊL-RWYD / NETBALL
Llongyfarchiadau i Elin Owen ac Alaw Môn Gilford ar gael eu dewis i garfan
Datblygu Pȇl-rwyd Gogledd Orllewin Cymru.
Congratulations to Elin Owen and Alaw Môn Gilford on being selected for the
North West Wales Netball Development squad.
GWISG ADDYSG GORFFOROL / PHYSICAL EDUCATION KIT
Gofynnwn am eich cydweithrediad i sicrhau bod disgyblion yn dod â’r wisg briodol i bob un
o’u gwersi Addysg Gorfforol.
We ask for your co-operation in ensuring that pupils bring the correct PE kit to every lesson.
PENCAMPWRIAETH CRICED / CRICKET TOURNAMENT
Bu dau dîm o enethod dan 13 blwyddyn 7 ac 8 a thri thîm dan 15 yn cystadlu yn ddiweddar yn Mhencampwriaeth
Criced Dan-do Gogledd Cymru yng Nglannau Dyfrdwy. Llongyfarchiadau mawr i’r timau. Daeth Ysgol Dyffryn
Ogwen(2) blwyddyn 7 ac 8 yn Bencampwyr Gogledd Cymru a daeth Ysgol Dyffryn Ogwen(1) blwyddyn 7 ac 8 yn
3ydd yn y gystadleuaeth. Yn y gystadleuaeth dan 15 gorffennodd tîm Dyffryn Ogwen(2) yn ail yn y grŵp a thîm
Dyffryn Ogwen(1) yn drydydd yn y grŵp. Bowlio a batio gwych genod!
Two year 7 and 8 girls’ under 13s teams and three under 15s teams competed recently in the North Wales Indoor
Cricket Championship on Deeside. Congratulations to the teams. Ysgol Dyffryn Ogwen(2) years 7 and 8 became
the North Wales Champions and Ysgol Dyffryn Ogwen(1) years 7 and 8 came 3rd in the competition. In the under
15s competition the Dyffryn Ogwen(2) team came second in the group and the Dyffryn Ogwen(1) team came first
in the group. Some great bowling and batting, girls!
CWRS SGÏO / SKIING COURSE
Aeth pymtheg o ddisgyblion o flynyddoedd 7 i 11 ar gwrs wythnos o Sgïo i Bad Kleinkirchheim yn Awstria dros
wyliau hanner tymor diwethaf. Cafwyd digonedd o eira a llwyddodd y disgyblion i gyd i gwblhau’r cwrs gan
ddatblygu yn sgiwyr hyderus cyn diwedd yr wythnos.
Fifteen pupils from years 7 to 11 went on a week’s Skiing course in Bad Kleinkirchheim in Austria over the last
half-term holidays. There was plenty of snow and all the pupils succeeded in completing the course and developed
into confident skiers by the end of the week.
BOCSIO / BOXING
Llongyfarchiadau i David Florence ar ddod yn bencampwr Cymru mewn cystadleuaeth Bocsio yng Nghaerdydd
dros y Pasg. Bydd yn awr yn mynd ymlaen i gystadlu ar lefel Brydeinig.
Congratulations to David Florence on becoming the Welsh champion in a boxing competition in
Cardiff over Easter. He will now go on to compete at the British level.