arfs cymraeg for website - tai ceredigion...y mae grŵp monitro tai ceredigion (gmtc) yn dal i gwrdd...

30
Adroddiad Blynyddol a Datganiadau Ariannol 2018

Upload: others

Post on 14-Aug-2020

0 views

Category:

Documents


0 download

TRANSCRIPT

Page 1: ARFS Cymraeg for Website - Tai Ceredigion...Y mae Grŵp Monitro Tai Ceredigion (GMTC) yn dal i gwrdd yn fisol ag uwch dimau, gan archwilio a herio penderfyniadau ar ran yr ... benodwyd

AdroddiadBlynyddol

aDatganiadau

Ariannol2018

Page 2: ARFS Cymraeg for Website - Tai Ceredigion...Y mae Grŵp Monitro Tai Ceredigion (GMTC) yn dal i gwrdd yn fisol ag uwch dimau, gan archwilio a herio penderfyniadau ar ran yr ... benodwyd

Adroddiad Blynyddola Datganiadau Ariannol

Tai Ceredigion

Y Flwyddyn a Ddaeth i Ben31 o Fawrth 2018

Page 3: ARFS Cymraeg for Website - Tai Ceredigion...Y mae Grŵp Monitro Tai Ceredigion (GMTC) yn dal i gwrdd yn fisol ag uwch dimau, gan archwilio a herio penderfyniadau ar ran yr ... benodwyd

Rhagair gan y Prif Weithredwr a Chadeirydd y Bwrdd 4

Adroddiad Strategol 6

Aelodau’r Bwrdd, Swyddogion Gweithredol, Ymgynghorwyr a Bancwyr 13

Adroddiad y Bwrdd Rheoli 13

Adroddiad yr Archwilydd Annibynnol 28

Datganiad Incwm Cynhwysfawr 32

Datganiad Sefyllfa Ariannol 33

Datganiad Newidiadau yn y Cronfeydd wrth Gefn 34

Datganiad Llifau Arian 35

Nodiadau i’r Datganiadau Ariannol 36

CYNNWYS

2 3

Page 4: ARFS Cymraeg for Website - Tai Ceredigion...Y mae Grŵp Monitro Tai Ceredigion (GMTC) yn dal i gwrdd yn fisol ag uwch dimau, gan archwilio a herio penderfyniadau ar ran yr ... benodwyd

RHAGAIRgan Y Prif Weithredwr a Chadeirydd y Bwrdd

Ar ôl cyfnod o ryw 12 mis o drafodaeth a gwaith diwydrwydd dyladwy, cytunodd y Bwrdd y dylai’r Gymdeithas Gofal (elusen fach leol) ddod yn is-gwmni i Tai Ceredigion. Mae gwaith y Gymdeithas Gofal yn cefnogi pobl mewn sefyllfaoedd bregus iawn. Rydym yn parhau’n ddau gorff ar wahân mewn strwythur grŵp ond gyda’n gilydd bydd modd cwrdd yn well ag anghenion pobl o ran tai ar wahanol adegau yn eu hoes. Yn ystod 2017/18, y mae Byrddau Tai Ceredigion a Tai Canolbarth Cymru wedi cydnabod buddiannau potensial ymchwilio i fwy o gydweithrediad, a bydd gwaith ffurfiol yn digwydd yn ystod y flwyddyn ariannol nesaf.Roeddem yn falch o dderbyn Dyfarniad Rheoleiddio Safonol unwaith eto eleni. Y mae hyn yn cadarnhau ein bod, mewn perthynas â Llywodraethiant a Darparu Gwasanaethau, yn nodi ac yn rheoli risgiau newydd sy’n dod i’r golwg a, mewn perthynas â rheolaeth ariannol, yn cwrdd â’r gofynion hyfywedd a bod gennym y capasiti ariannol i ymdrin yn briodol â sefyllfaoedd a allai godi. Rydym yn falch o groesawu’n Rheolwr Rheoleiddio i gyfarfodydd Bwrdd ac o weithio mewn amgylchedd o gydreoleiddio.Y mae’r Bwrdd yn ymroddedig i lywodraethiant da, rhywbeth sy’n hanfodol i lwyddiant Tai Ceredigion. Rydym yn cydweithio fel tîm i ddarparu arweinyddiaeth strategol a gwneud penderfyniadau gwybodus gan ddefnyddio’r cydbwysedd o sgiliau, cefndir, profiad a gwybodaeth y mae pob aelod o’r Bwrdd yn ei gyfrannu i’r Bwrdd.Yn ystod y flwyddyn, aeth aelodau o’r Bwrdd i wahanol gynadleddau a digwyddiadau hyfforddiant sy’n berthnasol i’r sector, gan gynnwys nifer o weithdai â ffocws penodol ar risgiau. Y mae deall y risgiau sy’n wynebu’r corff a’r sector a’u rheoli yn allweddol i sicrhau bod gennym fodel busnes cryf ac i hyfywedd y corff yn yr hirdymor.Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf y mae cyflenwyr, contractwyr a’n rhwydwaith o bartneriaethau wedi’n helpu, naill ai’n uniongyrchol neu’n anuniongyrchol, i ddarparu tai a gwasanaethau mewn perthynas â thai i’n tenantiaid ac rydym yn cydnabod eu cyfraniad. Yn enwedig, fe roddem ddiolch i’n cyllidwyr, Banc Barclays, am eu cefnogaeth a’u cymorth parhaus.I gloi, hoffem gymryd y cyfle hwn i ddiolch i aelodau’n Bwrdd am eu gwaith caled a’u hymroddiad drwy gydol y flwyddyn; heb anghofio, yn enwedig, y cyfraniad a wnaed gan Derek Lassetter, Cadeirydd Tai Ceredigion, a fu farw, trista’r sôn, yn sydyn ym mis Medi 2017.Hoffem ddiolch hefyd i bob aelod o’r staff am eu gwaith dygn parhaus.

Steve JonesPrif Weithredwr

Karen OliverCadeirydd y Bwrdd

Rheoli

Y mae Tai Ceredigion wedi ymrwymo i weledigaeth; sef bod yn landlord ac yn gyflogwr dwyieithog o’r math gorau un sy’n rhoi tenantiaid yn gyntaf, yn darparu cartrefi o safon ac sydd o fudd i gymunedau a’r economi leol.Y mae tenantiaid wrth graidd y Gymdeithas, ac y mae’r gwaith a’r her a roddir gan Grŵp Monitro Tenantiaid Tai Ceredigion yn rhan allweddol o sicrhau bod y Gymdeithas yn deall ac yn diwallu anghenion ei thenantiaid. Rydym yn ddiolchgar am eu hymroddiad ac am eu craffu a’u hadroddiadau a gyflwynir i’r Bwrdd drwy gydol y flwyddyn.Y mae’r Tîm Rheoli Tai’n dal ati i weithio’n galed i sicrhau bod tenantiaid yn gwbl ymwybodol o’r newidiadau sy’n dal i fynd ymlaen o ran Diwygio Lles; un o flaenoriaethau allweddol Tai Ceredigion yw eu helpu i gynnal eu tenantiaethau ac aros yn eu cartrefi a’u cymunedau. Mewn amgylchedd economaidd heriol sy’n newid o hyd, rydym yn gweithio’n galed i gynnal ein stoc dai a’n gwasanaethau ar yr un pryd ag adeiladu a chwlio am gyfleoedd i’r dyfodol yn unol â’n nodau a’n hamcanion strategol. Mae’n tîm ein hunain ym Medra yn chwarae rhan allweddol yn hyn o beth yn ogystal â darparu swyddi o ansawdd uchel yn lleol. Y mae’r Bwrdd yn ymroddedig i sicrhau rhaglen datblygu tai i gwrdd â’r angen cynyddol am dai fforddiadwy o safon, cymysg o ran deiliadaeth, ar yr un pryd â pharhau i fuddsoddi yn y cartrefi sydd eisoes yn bod. Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, mae Tai Ceredigion wedi buddsoddi £4 miliwn mewn cartrefi sydd eisoes yn bod a datblygiadau newydd.

4 5

Page 5: ARFS Cymraeg for Website - Tai Ceredigion...Y mae Grŵp Monitro Tai Ceredigion (GMTC) yn dal i gwrdd yn fisol ag uwch dimau, gan archwilio a herio penderfyniadau ar ran yr ... benodwyd

CYDWEITHIO

1. “Bod yn landlord dwyieithog rhagorol sy’n cynnwys ei denantiaid a’i gwsmeriaid ar bob lefel â phwyslais ar gynnal tenantiaethau a gwelliant parhaus”

BLAENORIAETHAU STRATEGOL

Cyfathrebwyd â thenantiaid drwy’r Cyfryngau Cymdeithasol - gan ddefnyddio Facebook, Twitter ac Instagram i gysylltu â chynulleidfa newydd er mwyn cyfranogiad tenantiaid a’r gymuned yn gyffredinol

Darparwyd gwasanaeth ymateb cwbl ddwyieithog ar gyfer yr holl gyfryngau cymdeithasol

Parhawyd i ddatblygu’r Ap TŷFi ac annog cofrestru, a thros 220 o denantiaid yn gwneud defnydd gweithredol o’r system i reoli eu tenantiaieth a rhoi gwybod am waith atgyweirio

Ail-lansiwyd y Wefan - gan ddiweddaru ac uwchraddio i adlewyrchu ymagweddiad newydd y gymdeithas

Trefnwyd y Gystadleuaeth Erddi flynyddol i holl denantiaid Tai Ceredigion

Cynhaliwyd y Diwrnod Hwyl haf i denantiaid TC a’u teuluoedd ifainc, gan ddarparu gweithgareddau i blant, cymorthfeydd cyngor, cludiant a chinio Cynhaliwyd Cynhadledd i

Denantiaid ynghylch ‘Bod yn Saff yn eich cymuned’ gyda stondinau a sesiynau taro heibio i denantiaid

Y mae Grŵp Monitro Tai Ceredigion (GMTC) yn dal i gwrdd yn fisol ag uwch dimau, gan archwilio a herio penderfyniadau ar ran yr holl denantiaid ac fe fu’n cymryd rhan mewn arolygiadau o’r ystadau, arolygon barn dros y ffôn ac archwilio tai gwag cyn eu hailosod

Cynhaliwyd digwyddiadau ymgynghori i denantiaid ynglŷn â gwelliannau ar ystadau a mewn cynlluniau cysgodol

Cynhaliwyd 6 chyfarfod fforwm tai cysgodol i’r holl denantiaid mewn tai cysgodol ar draws y sir

Derbyniwyd cyllid loteri at Goed Actif Cymru, a hynny’n mynd â thenantiaid tai cysgodol allan i wahanol goedwigoedd i gymryd rhan mewn gweithgareddau coedwriaeth

20815

32

o ymgeiswyr yn cael eu hailgartrefu, gan gynnwys:

o ymgeiswyr digartref yn cael cartrefi parhaol

o bobl ddigartref a ailgartrefwyd mewn llety cyfamserol/brys

Drwy roi cymorth i’n tenantiaid gynnal eu tenantiaeth, cafwyd y canlyniadau canlynol:

19o gydgyfnewidiadau’n cael eu cwblhau i gynorthwyo’n tenantiaid sy’n wynebu pwysau ariannol oherwydd y ‘dreth ystafell wely’

23o denantiaid yn trosglwyddo i gartrefi sy’n gweddu’n well i’w hanghenion

448o denantiaid yn cael cymorth gan ein tîm Cynnal a gyrchodd fwy na £600,000 mewn incwm ychwanegol, er enghraifft; budd-dal tai, taliadau tai yn ôl disgresiwn a Thaliadau PIP

6 7

Page 6: ARFS Cymraeg for Website - Tai Ceredigion...Y mae Grŵp Monitro Tai Ceredigion (GMTC) yn dal i gwrdd yn fisol ag uwch dimau, gan archwilio a herio penderfyniadau ar ran yr ... benodwyd

Y gweithlu cynnal a chadw o’r enw Medra yw’r tîm mewnol

cyntaf yng Nghymru i gyflawni prosiectau adeiladu o’r newydd

sy’n cynnwys adeiladu 2 fyngalo

Gwaith allanol i fflatiau Penparcau wedi’u cwblhau gyda storfeydd bin

newydd, ardaloedd sychu dillad, siediau ar gyfer beiciau, parcio oddi

ar y ffordd, goleuadau a llwybrau

CYNNAL A CHYNYDDU STOC

2. “Cynnal y cartrefi o ansawdd uchel sydd eisoes yn bodoli o fewn cymunedau cynaliadwy a chynyddu’r nifer ohonynt”

BLAENORIAETHAU STRATEGOL

Gwaith yn mynd ymlaen ar y datblygiad mawr newydd o 33 o fflatiau a marchnata a hybu ar y

gweill i helpu tenantiaid presennol i symud i gartref llai o faint

Datblygiad Clwb Pêl-Droed Tref

Aberystwyth

o ystafelloedd ymolchi wedi’u huwchraddio

38o geginau wedi’u

huwchraddio

46o dai newydd yng Nghenarth, yn ogystal ag ymchwilio i 2 eto ar sail rhentu i brynu /

rhanberchenogaeth

14

o dai newydd ym Mrongest, Llanbedr Pont

Steffan

14

8523 o ddyddiau ar gyfartaledd i

ailosod yn 2017-18

18½

Y mae Tai Ceredigion o hyd yn lletya swydd y Swyddog Galluogi Tai

Gwledig i Geredigion a’r ardaloedd cyfagos, sy’n asesu’r angen penodol

am dai i unigolion yn yr ardal

o fwyleri cyfun nwy newydd wedi’u gosod

o bympiau gwres ffynhonnell aer wedi’u

gosod mewn tai nad ydynt ar y prif gyflenwad nwy

8 9

Page 7: ARFS Cymraeg for Website - Tai Ceredigion...Y mae Grŵp Monitro Tai Ceredigion (GMTC) yn dal i gwrdd yn fisol ag uwch dimau, gan archwilio a herio penderfyniadau ar ran yr ... benodwyd

Llywodraethiant• Bu 8 o aelodau’r Bwrdd mewn cynadleddau a gynhaliwyd gan Cartrefi Cymunedol

Cymru a chyrff allanol eraill i gadw’n gyfredol â’r darlun cenedlaethol a rhwydweithio gydag aelodau Bwrdd eraill.

• Strategaeth rheoli risgiau yn ei lle ac yn cael ei hadolygu bob chwarter.• Cofrestr Asedau a Rhwymedigaethau yn ei lle ac yn cael ei hadolygu bob chwarter.

Yn mynd ati’n weithredol i hybu’r defnydd o gyflenwyr

sydd wedi’u lleoli yng Ngheredigion i ddarparu gwasanaethau ar ran y

gymdeithas – o wasanaethau adeiladu arbenigol i

wasanaethau busnes megis dylunio gwe a phrintio.

Y £ leolo Warged Gweithredu

£3.3m

Y pwynt isaf erioed yn ôl-ddyledion y gymdeithas - Rhagfyr 2017

1.18%

o Gronfeydd wrth Gefn£9.6m

2016 2017 2018Colled rhent

lleoedd gwag fesul eiddo

£69 £49 £25(£79 oedd cyfartaledd 2017 ar draws y sector)

Colled drwy ddrwgddyledion

fesul eiddo£15 £12 £5

(£28 oedd cyfartaledd 2017 ar draws y sector)

ARIANNOL IACH

3. “Bod yn fusnes ariannol iach a hyfyw, sy’n mynd ynglyn â’i waith ag onestrwydd, uniondeb a llywodraethiant cryf”

BLAENORIAETHAU STRATEGOL

4. “Bod yn ddewis gyflogwr sy’n darparu cyfleoedd cyflogaeth, hyfforddiant a lleoliadau gwaith yn yr ardal”

STAFFIO EIN DYFODOL

BLAENORIAETHAU STRATEGOL

Cyber Essentials Plus – ardystiwyd Tai Ceredigion gan Cyber Essentials Plus (cynllun a gynhelir gan y

Llywodraeth ac a gefnogir gan ddiwydiant) sy’n ceisio gwirio bod gan sefydliadau’r protocoliau diogelwch TGCh

priodol yn eu lle i wrthsefyll ymosodiad seiber. Mae Tai Ceredigion yn ymuno â’r nifer fach o gymdeithasau tai sydd wedi derbyn y lefel hon o ardystiad. Mae’r safon

ddiogelwch seiber yn nodi’r mesurau rheoli diogelwch y mae’n rhaid i sefydliad fod â nhw yn eu lle yn ei systemau

TG er mwyn bod yn hyderus ei fod yn mynd i’r afael yn effeithiol â diogelwch seiber ac yn lliniaru’r perygl sy’n

dod o fygythiadau ar y Rhyngrwyd.

Dyfarnodd ein harchwilwyr allanol, Mazars, fod Tai Ceredigion yn ‘rhagorol’ yn eu hasesiad o’r busnes.

Bu’r staff yn cefnogi digwyddiadau cymunedol

ledled y sir.

Cafodd gweithlu Tai Ceredigion a elwid gynt yn Sefydliad Llafur Uniongyrchol

ei ailfrandio fel Medra, a faniau a ffurfwisgoedd yn newid yn

unol â hynny.

Hyfforddiant i’r holl staff

ar Gydraddoldeb ac Amrywiaeth,

Ymwybyddiaeth o Straen a diweddariadau

Iechyd a Diogelwch ar gyfer Medra.

Y mae Tai Ceredigion yn

parhau i fuddsoddi yn ei staff, gan eu cefnogi

drwy gymwysterau proffesiynol mewn

Rheoli Tai, AD a Chyfrifyddiaeth.

Y mae ymrwymiad

parhaus i dyfu Tai Ceredigion drwy

brentisiaethau, i grefftwyr a gweithwyr swyddfa fel ei gilydd,

gan ysbrydoli pobl ifainc i ymuno â’r

tîm.

Noddi Digwyddiadau

– Mae Tai Ceredigion unwaith eto wedi noddi’r

gystadleuaeth gwaith coed a gynhelir yn rali Clwb Ffermwyr

Ifanc y sir. Mae hyn yn gyfle pwysig i roi cyhoeddusrwydd i

Tai Ceredigion fel cyflogwr a darparwr prentisiaethau a

chyfleoedd am swyddi yn yr ardal.

10 11

Page 8: ARFS Cymraeg for Website - Tai Ceredigion...Y mae Grŵp Monitro Tai Ceredigion (GMTC) yn dal i gwrdd yn fisol ag uwch dimau, gan archwilio a herio penderfyniadau ar ran yr ... benodwyd

ADRODDIAD Y BWRDD RHEOLIY mae aelodaeth y Bwrdd i’w gweld isod:

Cadeirydd:Karen OliverDerek Lassetter

(hyd 25/09/17)

Is-Gadeirydd:Stephen Cripps Lorrae Jones-Southgate

(hyd 04/05/17)

Aelodau Eraill:Dafydd EdwardsCatrin MilesLynford ThomasPeter SaundersCadwgan ThomasJohn JenkinsCatherine ShawPeter DeakinJohn Rees

(aelod cyfetholedig a benodwyd 09/06/17)

Chris Mackenzie-Grieve (aelod cyfetholedig a ymddiswyddodd 23/05/17)

Gweler tudalen 14 am fwy o wybodaeth.

Cyllidwyr:Barclays Capital5 The North ColonnadeCanary WharfLondonE14 4BB

Bancwyr:Banc Barclays cccSgwâr HarfordLlanbedr Pont SteffanCeredigionSA48 7HF

Archwilwyr Mewnol:Barcud Shared ServicesTai O’r Cymoedd i’r ArfordirParc Busnes TremainsHeol TremainsPen-y-bont ar OgwrCF31 1TZ

Archwilydd Allanol:Mazars LLP45 Church StreetBirminghamB3 2RT

Swyddfa Gofrestredig:4 Parc Busnes Pont SteffanHeol yr OrsafLlanbedr Pont SteffanCeredigionSA48 7HH

Cofrestrwyd o dan Ddeddf Cymdeithasau Cydweithredol a Chymdeithasau Budd Cymunedol 2014 â rheolau elusennol. Cofrestrwyd gan Lywodraeth Cymru Rhif L151.

Kate CurranCyfarwyddwr Gwasanaethau Corfforaethol ac Ysgrifennydd y Cwmni

Llŷr EdwardsCyfarwyddwr Gwasanaethau Eiddo

Eleri JenkinsCyfarwyddwr Tai a Chefnogaeth

Steve JonesPrif Weithredwr

Swyddogion Gweithredol:

12 13

Page 9: ARFS Cymraeg for Website - Tai Ceredigion...Y mae Grŵp Monitro Tai Ceredigion (GMTC) yn dal i gwrdd yn fisol ag uwch dimau, gan archwilio a herio penderfyniadau ar ran yr ... benodwyd

Cyfreithiwr yw Karen, a chanddi fwy na phymtheng mlynedd o brofiad o weithio yn y Sector Tai Cymdeithasol. Bu’n Gyfarwyddwr Llywodraethiant a Gwasanaethau Cyfreithiol gyda Grŵp Gwalia hyd 2014 ac yn gweithio cyn hynny i Awdurdod Lleol ac yn ymarfer yn breifat. Y mae hi bellach yn hunangyflogedig ac yn cynnig cymorth o ran llywodraethiant, polisi a phrosiectau i Gymdeithasau Tai, Elusennau a chyrff yn y drydedd sector. Y mae hi’n ymroddedig i sicrhau bod tai fforddiadwy da ar gael gyda chymunedau cynaliadwy ac yn deall mor bwysig yw cynnwys tenantiaid a gwrando arnynt i helpu i siapio gwasanaethau. Y mae Karen yn wirfoddolwr gyda’r Multiple Sclerosis Society fel Ymddiriedolwr a hefyd yn cefnogi’r gymdeithas honno ar lefel leol.

Karen Oliver(Cadeirydd)

Prif Swyddog Llywodraeth Leol wedi ymddeol yw Stephen, a chanddo brofiad helaeth iawn o reoli tai. Ac yntau wedi gweithio am fwy na 30 mlynedd yn Lloegr, y mae profiad Stephen yn cynnwys cyfrifoldeb dros Dai, Gwasanaethau Technegol, Gwasanaethau Amgylcheddol, TGCh a Hamdden. Bu’n chwarae rhan hefyd mewn nifer o bartneriaethau, gan weithio gyda’r sectorau cyhoeddus, gwirfoddol a phreifat. Y mae am weld Tai Ceredigion yn parhau i ddatblygu a thyfu fel y bydd y buddiannau y mae’n dod â nhw i’r Sir, i bobl leol ac i’r economi leol yn parhau i gynyddu ac fel y bydd mewn lle da i gwrdd ag anghenion y dyfodol yn ogystal â rhai’r presennol. Bydd parhau i ddatblygu gwaith partneriaethol yn rhan allweddol o gyrraedd y nod hwnnw.

Stephen Cripps(Is-Gadeirydd, Cyfetholedig)

Y mae Peter, sydd erbyn hyn wedi ymddeol, yn byw yn Aberystwyth ac yn dysgu’r Gymraeg. Fe gafodd ei hyfforddi yn wreiddiol yng Nghaerdydd fel Cynllunydd Tref, ond fe symudodd yn fuan wedyn at ymchwil ac yna darlithio. Bu’n dysgu ym Mhrifysgol John Moores yn Lerpwl am rai blynyddoedd, gan feithrin diddordeb mewn polisi cyhoeddus, yn enwedig tai ac iechyd. Am 12 mlynedd olaf ei yrfa roedd Peter yn Gyfarwyddwr Gwasanaethau Myfyrwyr ac yn gyfrifol am gyflwyno newidiadau sylweddol i’r modd y câi’r holl gefnogaeth i fyfyrwyr ei gweinyddu a’i darparu. Yn ddiweddarach, mae Peter wedi meithrin diddordeb byw mewn gofal cymdeithasol a thai ‘gofal ychwanegol’.Peter Saunders

ADRODDIAD Y BWRDD RHEOLIAELODAU BWRDD ANNIBYNNOL

Ganwyd a magwyd Cadwgan yn Aberystwyth ond fe symudodd i Gaerdydd fwy nag 20 mlynedd yn ôl i ddilyn gyrfa mewn Adeiladu. Y mae’n Syrfëwr Meintiau Siartredig ac wedi’i gyflogi ar hyn o bryd fel Pennaeth Datblygiad gyda Hafod Resources Cyf. Y mae Cadwgan yn gweithio yn y Sector Tai Cymdeithasol er 1996 ac wedi goruchwylio datblygiad sawl adnewyddiad a nifer o brosiectau adeiladu o’r newydd a phrosiectau cartref gofal yn Ne-Ddwyrain Cymru.

Cadwgan Thomas

Cyfrifydd Siartredig yw John, a chanddo ystod eang o brofiad a gwybodaeth drylwyr o Gyllid, ac yntau wedi gweithio am flynyddoedd lawer yn Ninas Llundain. Y mae’n gweithio ar hyn o bryd fel ymgynghorydd busnes hunangyflogedig. Yn un o Sir Benfro yn enedigol y mae’n byw yn Llanfarian, ger Aberystwyth, ers mwy na 15 mlynedd ac yn Gyfarwyddwr Cwmni Budd Cymunedol.

John Jenkins

Y mae John wedi’i gymhwyso fel Cyfrifydd Ardystiedig Siartredig, a chanddo ddeng mlynedd o brofiad. Efe yw’r Rheolwr Cyllid ar hyn o bryd i Coastal Housing Group. Cyn hynny, bu’n cyflawni amryw o swyddogaethau mewn diwydiant yn ogystal ag ymarfer yn breifat. Y mae John ar hyn o bryd yn eistedd ar Banel De-Orllewin Cymru Cymdeithas y Cyfrifwyr Ardystiedig Siartredig, sef llais ei haelodau yn yr ardal leol. Y mae’n selog iawn dros y sector tai cymdeithasol ac yn awyddus i helpu Tai Ceredigion i gyflawni ei ffocws i ddarparu cefnogaeth i gymunedau lleol Ceredigion.

John Rees(Aelod Cyfetholedig)

14 15

Page 10: ARFS Cymraeg for Website - Tai Ceredigion...Y mae Grŵp Monitro Tai Ceredigion (GMTC) yn dal i gwrdd yn fisol ag uwch dimau, gan archwilio a herio penderfyniadau ar ran yr ... benodwyd

Mae Dafydd yn byw ym Methania gyda’i wraig Llinos. Daeth yn Gynghorydd Sir Ceredigion yn 2008, gan wasanaethu ward Llansantffraid. Mae’n aelod gweithredol ar Fyrddau gwahanol grwpiau sy’n cefnogi cymunedau, drama leol a’r celfyddydau. Peirianneg sifil yw ei gefndir ac ar hyn o bryd mae’n gweithio yn y maes hwn, gan ddarparu gwasanaethau peirianneg sifil, mesur meintiau ac ymgynghoriaeth reoli – sgiliau a phrofiad sydd oll yn hynod o werthfawr yn ei swyddogaeth ar Fwrdd Tai Ceredigion.

Y Cynghorydd

Dafydd Edwards

Y mae Catrin yn cynrychioli ward Teifi, Aberteifi ar Gyngor y Dref ac ar Gyngor Sir Ceredigion er Mai 2008. Gyda chefndir mewn datblygiad cymunedol a mentr gymdeithasol, y mae’n gwasanaethu ar lawer o fyrddau a phwyllgorau lleol, corff llywodraethu Ysgol Uwchradd Aberteifi ac Ysgol Gynradd Gymunedol Aberteif (is-gadeirydd) ill dwy ac Ardal Ceredigion o Gyngor Iechyd y Gymuned. Yn Ymddiriedolwr i Theatr Byd Bychan, yn aelod gweithgar o bwyllgor Gŵyl Ddiwylliannol Flynyddol Aberteifi - GŴYL FAWR ABERTEIFI, ac yn un o aelodau cychwynnol bwrdd golygyddol “Y DWRGI”, sef papur bro Aberteifi. Ymhlith ei phrosiectau presennol y mae cydlynu Partneriaeth Canol Tref Aberteifi a darparu Maes Chwarae newydd i’r De o Afon Teifi.

Y Cynghorydd

Catrin Miles

Un o Gwm Tawe yw Lynford yn enedigol ond y mae’n byw yng Ngheredigion er 1969 pan symudodd i fyw i Felinfach gyda’i deulu i weithio yn ffatri’r Bwrdd Marchnata Llaeth fel peiriannydd trydanol - symudiad o lo i laeth. Pan gaewyd y ffatri laeth yn 1988, ac yntau erbyn hyn yn Ymarferydd Diogelwch Cofrestredig, sefydlodd ei Wasanaeth Ymgynghori Iechyd a Diogelwch ei hun o’i gartref yn Ystrad Aeron, gan gynnig gwasanaeth ymgynghorol i wahanol gleientiaid ledled y Deyrnas Unedig, hyd nes iddo ymddeol yn 2010. Ac yntau’n aelod gweithgar o gymuned Dyffryn Aeron, y mae Lynford wedi cyflawni gwahanol swyddogaethau mewn cyrff lleol byth ers iddo symud i’r ardal.Y Cynghorydd

Lynford Thomas

AELODAU BWRDD O’R CYNGORADRODDIAD Y BWRDD RHEOLI

Daeth Catherine Shaw i Aberystwyth yn fyfyriwr yn y Brifysgol yn 1996. Roedd yn fwriad ganddi ddilyn gyrfa academaidd mewn Ieithoedd Modern, ond bu’n rhaid iddi roi’r gorau i hynny ar ôl mynd yn anabl. A hithau’n denant i’r Cyngor ers nifer o flynyddoedd dechreuodd ymwneud â chynrychioli tenantiaid pan roddwyd y syniad o sefydlu Tai Ceredigion gerbron y tenantiaid yn gyntaf. Bu’n gwasanaethu ar Grŵp Llywio’r Tenantiaid a ddaeth wedyn i fod yn Grŵp Monitro’r Tenantiaid, gan ddechrau yn y cyfnod pan oedd Tai Ceredigion yn cael ei sefydlu (2008/09) hyd fis Gorffennaf 2010 ac wedyn eto o 2013 hyd 2015 pan gafodd ei chyfethol i’r Bwrdd. Y mae Catherine yn gobeithio dod â llais y tenantiaid i’r Bwrdd, sicrhau bod tenantiaid yn cael eu hystyried ym mhob penderfyniad a helpu Tai Ceredigion i ddatblygu â thenantiaid wrth graidd ei fusnes.

Catherine ShawAberystwyth

Mae Peter yn byw yn Aberaeron er 1988, gan rentu fflatiau yn y sector breifat a’r sector gymdeithasol ill dwy. Cyn y trosglwyddiad oddi wrth y Cyngor, bu’n aelod o’r Panel Ymgynghorol ar Dai a chymerodd ran yn y Panel Arfarnu Opsiynau Tai. O hyn, daeth yn Gadeirydd cyntaf ar y Grŵp Monitro, gan aros gyda’r grŵp hyd nes iddo gael ei benodi i’r Bwrdd. Y mae’n credu’n gryf mewn tai cymdeithasol a mewn cyfranogiad gweithredol gan denantiaid cymdeithasol mewn datblygiadau at y dyfodol.

Peter DeakinAberaeron

AELODAU O’R BWRDD SY’N DENANTIAID

16 17

Page 11: ARFS Cymraeg for Website - Tai Ceredigion...Y mae Grŵp Monitro Tai Ceredigion (GMTC) yn dal i gwrdd yn fisol ag uwch dimau, gan archwilio a herio penderfyniadau ar ran yr ... benodwyd

Y mae’r Bwrdd Rheoli’n cyflwyno eu hadroddiad a’r datganiadau ariannol am y flwyddyn a ddaeth i ben 31 o Fawrth 2018.

PRIF WEITHGAREDDAUCymdeithas dai ddielw yw Tai Ceredigion. Fel pob Landlord Cymdeithasol Cofrestredig (LCC) yng Nghymru, y mae wedi’i gofrestru gyda Llywodraeth Cymru ac yn cael ei reoleiddio ganddi.Ffurfiwyd y Gymdeithas er lles cymunedau mewn ardaloedd lle mae’r Gymdeithas yn perchenogi neu’n rheoli stoc dai.Y mae Tai Ceredigion wedi’i gofrestru o dan Ddeddf Cymdeithasau Cydweithredol a Chymdeithasau Budd Cymunedol 2014 â rheolau elusennol. Y swyddfa gofrestredig yw Uned 4, Parc Busnes Pont Steffan, Llanbedr Pont Steffan, Ceredigion, SA48 7HH.Y mae’n gorff sydd â’r prif nod o ddarparu tai rhent fforddiadwy i bobl sydd mewn angen o ran tai. Sefydlwyd Tai Ceredigion â help Cyngor Sir Ceredigion yn benodol i gyflenwi tai fforddiadwy o ansawdd uchel a gwasanaethau tai a chymunedol rhagorol i’r bobl yng Ngheredigion a sicrhau bod pob eiddo’n cael ei wella i gwrdd â Safon Ansawdd Tai Cymru.

MEDDIANNAU TAIDangosir manylion newidiadau i asedau sefydlog Tai Ceredigion yn nodiadau 9 a 10 i’r datganiadau ariannol.

TALU CREDYDWYRBydd Tai Ceredigion yn cytuno telerau ac amodau ei drafodion busnes â chyflenwyr adeg cyflenwi. Telir wedyn yn unol â’r telerau hyn, yn amodol ar fod y cyflenwr yn cwrdd â’r telerau ac amodau.

BUDDSODDI MEWN GWEITHWYRY mae gweithwyr brwdfrydig ac ymroddedig yn hanfodol i gyrraedd ein nod o ddarparu gwasanaethau o safon uchel i’n preswylwyr ac y mae’r Bwrdd yn cofleidio’r angen i weithwyr gael eu grymuso a chael cyfranogi ar bob lefel o’r sefydliad.Y mae Tai Ceredigion wedi ymrwymo i sicrhau a hyrwyddo cyfle cyfartal i bawb yn y gwasanaethau a ddarpara ac yn y modd y darperir y gwasanaethau hynny, gan sicrhau bod gwahaniaethau’n cael eu cydnabod. Y mae Tai Ceredigion hefyd wedi ymrwymo i sicrhau cydraddoldeb i’w holl weithwyr ac ymgeiswyr am gyflogaeth.Fel darparwr tai cymdeithasol y mae Tai Ceredigion yn ymwybodol bod ansawdd bywyd llawer wedi cael ei danseilio gan gamwahaniaethu ac anfantais. Y mae Tai Ceredigion wedi ymrwymo i ymateb i amrywiaeth gymdeithasol yn y gymdeithas sydd ohoni ac yn ymlafnio i adlewyrchu hyn yn ei ddiwylliant ei hun fel sefydliad.Y mae datblygu gweithwyr yn hanfodol i dyfu’r gymdeithas. Cymerir ymagweddiad trefnus at hyfforddiant a datblygiad i alluogi gweithwyr i gyflawni a datblygu eu swyddogaeth o fewn Tai Ceredigion. Y mae hyn yn cynnwys cyrsiau hyfforddiant mewnol a ddarperir yn lleol, cyrsiau untro o natur arbenigol a hyfforddiant sy’n ymwneud â rhoi systemau busnes ar waith. Bydd Tai Ceredigion hefyd yn cefnogi pobl sy’n ymgymryd â chyrsiau a chymwysterau allanol sy’n briodol i anghenion y busnes.

IECHYD A DIOGELWCHY mae’r Bwrdd yn ymwybodol o’i gyfrifoldebau dros bob mater sy’n ymwneud ag iechyd a diogelwch. Y mae Tai Ceredigion yn meddu ar bolisïau iechyd a diogelwch manwl, yn cydymffurfio â’i ddyletswyddau statudol ac yn darparu hyfforddiant ac addysg i staff ar faterion iechyd a diogelwch. Byddir yn monitro cynnydd rheolaidd drwy gyfarfodydd o’r Fforwm Iechyd a Diogelwch, y Cydbwyllgor Ymgynghorol a’r Bwrdd.

AELODAU’R BWRDD A CHYFARWYDDWYRY mae’r aelodau Bwrdd a’r uwch swyddogion gweithredol a fu’n gwasanaethu yn ystod y flwyddyn a hyd at y dyddiad presennol i’w gweld ar dudalen 13. Y mae’r Bwrdd wedi’i gyfansoddi o hyd at 12 aelod, wedi’u rhannu rhwng hyd at 4 o aelodau wedi’u dethol gan y tenantiaid, hyd at 4 wedi’u henwebu gan Gyngor Sir Ceredigion a hyd at 4 o aelodau Bwrdd annibynnol. At hynny, er mwyn llenwi unrhyw fylchau mewn sgiliau neu gymwysterau gellir dethol hyd at 5 o aelodau cyfetholedig. Gall unrhyw denant neu breswyliwr brynu cyfranddaliad am £1 a dod yn aelod o Tai Ceredigion. Y mae asesiad wedi cael ei wneud o sgiliau a phrofiad aelodau i sicrhau bod y Bwrdd yn parhau i gyflawni ei swyddogaeth yn effeithiol.Y cyfarwyddwyr yw’r Prif Weithredwr ac unrhyw un arall sy’n aelod o dîm Rheolaeth Weithredol Tai Ceredigion. Nid yw’r cyfarwyddwyr yn aelodau o’r Bwrdd, nid oes ganddynt ddim buddiant yng nghyfranddaliadau Tai Ceredigion ac y maent yn gweithio fel swyddogion gweithredol o fewn yr awdurdod a ddirprwyir gan y Bwrdd.Y mae gan Tai Ceredigion bolisïau yswiriant sy’n indemnio ei aelodau Bwrdd a’i gyfarwyddwyr rhag atebolrwydd wrth iddynt weithredu ar ran Tai Ceredigion.

TÂLPolisiY Bwrdd sy’n gyfrifol am gytuno lefel tâl ei gyfarwyddwyr. Bydd yn cytuno penodiad cyfarwyddwyr a’u tâl, yn ogystal â’r brîff y gall y Prif Weithredwr ddod i delerau ar gyflogau staff y tu mewn iddo.Bydd y Bwrdd yn rhoi sylw astud i lefelau tâl yn y sector wrth bennu pecynnau tâl y cyfarwyddwyr. Gosodir cyflogau gan gymryd i ystyriaeth gyfrifoldebau pob cyfarwyddwr a lefelau tâl am swyddi cyffelyb.Ni thelir aelodau Bwrdd Tai Ceredigion a dim ond treuliau rhesymol a gânt.

PensiynauY mae’r cyfarwyddwyr yn aelodau o Gronfa Bensiwn Dyfed, cynllun pensiwn cyflog terfynol ac iddo fuddion wedi’u diffinio. Byddant yn cyfranogi o’r cynllun ar yr un telerau â phob aelod cymwys arall o’r staff a bydd Tai Ceredigion yn cyfrannu at y cynllun ar ran ei weithwyr.

Contractau gwasanaethCyflogir y cyfarwyddwyr ar yr un telerau â gweddill y staff, er mai tri mis yw eu cyfnod rhybudd (chwe mis i’r Prif Weithredwr a’r Cyfarwyddwr Gwasanaethau Corfforaethol).Cydnabyddwn mai gweithio mewn partneriaeth â thenantiaid yw’r ffordd orau o sicrhau bod Tai Ceredigion yn darparu gwasanaethau y mae tenantiaid yn eu dymuno ac yn eu gwerthfawrogi. Y mae Tai Ceredigion hefyd yn credu mai cyfranogiad effeithiol ac ystyrlon gan denantiaid yw’r ffordd orau o wybod a yw gwasanaethau’n cael eu darparu i’r safon y mae gan gwsmeriaid yr hawl i’w disgwyl. Byddwn yn mynd ati’n weithredol i annog cyfranogiad gan denantiaid wrth i benderfyniadau gael eu gwneud drwy ddatblygu a hybu mecanweithiau dyfeisgar ar gyfer ymgysylltiad.

ADRODDIAD Y BWRDD RHEOLI

18 19

Page 12: ARFS Cymraeg for Website - Tai Ceredigion...Y mae Grŵp Monitro Tai Ceredigion (GMTC) yn dal i gwrdd yn fisol ag uwch dimau, gan archwilio a herio penderfyniadau ar ran yr ... benodwyd

GWARANTU MESURAU RHEOLAETH MEWNOLY Bwrdd sydd â’r cyfrifoldeb cyffredinol dros sefydlu a chynnal yr holl drefn reolaeth fewnol ac am adolygu ei heffeithiolrwydd. Y mae’r drefn reolaeth fewnol wedi’i chynllunio i reoli’r risg o fethu â chyflawni amcanion y busnes, yn hytrach na’i diddymu, ac i roi sicrwydd rhesymol, ac nid llwyr, rhag camfynegiad neu golled o bwys. Bydd y Bwrdd yn derbyn ac yn ystyried adroddiadau gan gyfarwyddwyr a rheolwyr ar reoli risgiau a threfniadau rheolaeth yn ystod y flwyddyn.Y mae’r trefniadau a fabwysiedir gan y Bwrdd wrth adolygu effeithiolrwydd y drefn reolaeth fewnol, ynghyd â rhai o elfennau allweddol y fframwaith rheoli, yn cynnwys:

Nodi a chloriannu risgiau allweddolY mae gan Tai Ceredigion strategaeth rheoli risgiau, sy’n nodi agwedd a chyfrifoldeb y Bwrdd o ran risgiau wrth gyflawni ei amcanion.

Amgylchedd rheolaeth a mesurau rheolaeth mewnolY mae’r prosesau i nodi a rheoli’r risgiau allweddol y mae Tai Ceredigion yn agored iddynt yn rhan annatod o’r amgylchedd rheolaeth mewnol. Y mae prosesau o’r fath yn cynnwys cynllunio strategol, recriwtio cyfarwyddwyr a staff uwch, monitro perfformiad yn rheolaidd a gosod safonau a thargedau ar gyfer meysydd gweithredol allweddol.

Systemau gwybodaeth ac adroddY mae’r gweithdrefnau adrodd ariannol yn cynnwys cyllidebau manwl ar gyfer y flwyddyn i ddod a rhagolygon ar gyfer blynyddoedd dilynol. Caiff y rhain eu hadolygu, eu cymeradwyo a’u monitro drwy gydol y flwyddyn gan y Bwrdd. Bydd y Bwrdd yn derbyn adroddiadau’n rheolaidd ar ddangosyddion perfformiad allweddol i asesu cynnydd tuag at gyflawni amcanion, targedau a chanlyniadau busnes allweddol.

Trefniadau monitroBydd adroddiadau rheolaidd gan reolwyr ar faterion mesurau rheolaeth yn rhoi sicrwydd i reolwyr ac i’r Bwrdd. Ategir hyn drwy adolygiadau rheolaidd gan yr Archwilwyr Mewnol sy’n rhoi sicrwydd annibynnol i’r Bwrdd drwy ei Bwyllgor Archwilio a Pherfformiad. Y mae’r trefniadau’n cynnwys gweithdrefn drwyadl, a gaiff ei monitro gan y pwyllgor hwnnw, i sicrhau bod camau cywiro’n cael eu cymryd mewn perthynas ag unrhyw broblemau rheoli o bwys.

MESURAU RHEOLAETH ARIANNOL MEWNOLY Bwrdd sy’n dwyn y cyfrifoldeb dros sicrhau bod y corff yn rhedeg amgylchedd rheolaeth diogel. Pwrpas y mesurau rheolaeth yw rhoi sicrwydd rhesymol o ran:

• dibynadwyedd gwybodaeth ariannol a ddefnyddir o fewn y Gymdeithas ac i’w chyhoeddi • cynnal cofnodion cyfrifyddu priodol • diogelu asedau rhag defnydd heb awdurdod.

Y Bwrdd sy’n gyfrifol am sefydlu a chynnal trefnau rheolaeth ariannol fewnol. Ni all trefnau o’r fath roi sicrwydd llwyr rhag camfynegiadau neu golled ariannol o bwys, ond fe ellir disgwyl iddynt roi sicrwydd rhesymol.Y mae’r elfennau allweddol mewn sicrhau amgylchedd diogel yn cynnwys:

• presenoldeb polisïau a gweithdrefnau ffurfiol • dirpwyo awdurdod yn glir• lefel briodol o staff profiadol a chanddynt gymwysterau addas• arfarnu perfformiad mewn modd priodol• paratoi a monitro rhagolygon a chyllidebau• awdurdodi mewn modd priodol ymrwymiadau mawr a allai beri risg i’r Gymdeithas • gwasanaeth archwilio mewnol cryf ac annibynnol, sy’n adrodd yn briodol i aelodau, a

mecanweithiau dilyniant addas yn eu lle.• Cofrestr gyfredol o Asedau a Rhwymedigaethau

Y mae’r Pwyllgor Archwilio a Pherfformiad wedi adolygu effeithiolrwydd y drefn reolaeth fewnol yn y Gymdeithas mewn perthynas â’r flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 o Fawrth 2018. Ni chafwyd dim gwendidau mewn mesurau rheolaeth ariannol mewnol a esgorodd ar golledion, treuliau annisgwyl neu achosion o ansicrwydd pwysig y mae angen eu datgelu yn y datganiadau ariannol neu yn adroddiad yr archwilydd ar y datganiadau ariannol, ac ni ŵyr y Bwrdd am unrhyw wendidau o’r fath o 1 o Ebrill 2017 hyd heddiw.

CWMNI GWEITHREDOLAr ôl gwneud ymholiadau, y mae gan y Bwrdd le rhesymol i ddisgwyl bod Tai Ceredigion yn meddu ar adnoddau digonol i barhau mewn bodolaeth weithredol am y dyfodol rhagweladwy, sef cyfnod o ddeuddeng mis ar ôl y dyddiad y mae’r adroddiad a’r datganiadau ariannol wedi’u llofnodi arno. Am y rheswm hwn, y mae’n parhau i fabwysiadu’r sail o gwmni gweithredol yn y datganiadau ariannol.

DATGANIAD O GYFRIFOLDEBAU’R BWRDD RHEOLIY Bwrdd Rheoli sy’n gyfrifol am baratoi’r datganiadau ariannol yn unol â’r gyfraith berthnasol ac Arferion Cyfrifyddu sy’n Dderbyniol yn y Deyrnas Unedig.Y mae Deddf Cymdeithasau Cydweithredol a Budd Cymunedol 2014 a deddfwriaeth ynghylch Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig yn ei gwneud hi’n ofynnol i’r Bwrdd Rheoli baratoi, ar gyfer pob blwyddyn ariannol, ddatganiadau ariannol sy’n rhoi arolwg gwir a theg o sefyllfa Tai Ceredigion ac o incwm a gwariant Tai Ceredigion am y cyfnod hwnnw. Wrth baratoi’r datganiadau ariannol hyn, mae hi’n ofynnol i’r Bwrdd:

• ddethol polisïau cyfrifyddu addas a’u defnyddio mewn modd cyson;• gwneud dyfarniadau ac amcangyfrifon sy’n rhesymol ac yn bwyllog;• datgan a ddilynwyd y safonau cyfrifyddu perthnasol a’r Datganiad o Arfer a Argymhellir

ar gyfer Darparwyr Tai Cymdeithasol Cofrestredig 2014 (DAA), yn amodol ar unrhyw wyriadau o bwys a ddatgelir ac a eglurir yn y datganiadau ariannol;

• paratoi’r datganiadau ariannol ar sail cwmni gweithredol oni bydd yn amhriodol cymryd yn ganiataol y bydd Tai Ceredigion yn parhau mewn busnes.

Y Bwrdd Rheoli sy’n gyfrifol am gadw cofnodion cyfrifyddu cywir sy’n datgelu mewn modd rhesymol o gywir ar unrhyw adeg sefyllfa ariannol Tai Ceredigion ac yn ei alluogi i sicrhau bod y datganiadau ariannol yn cydymffurfio â’r ddeddfwriaeth berthnasol. Y Bwrdd hefyd sy’n gyfrifol am gynnal drefn reolaeth fewnol ddigonol a diogelu asedau Tai Ceredigion ac felly am gymryd camau rhesymol i atal a darganfod twyll a mathau eraill o afreoleidd-dra.

DATGELU GWYBODAETH I’R ARCHWILYDDAr ddyddiad gwneud yr adroddiad hwn y mae pob un o aelodau Bwrdd Tai Ceredigion, fel y’u nodir ar dudalennau 14 hyd 17, yn cadarnhau’r canlynol:

• hyd y gŵyr pob aelod o’r Bwrdd, nid oes dim gwybodaeth berthnasol y mae ei hangen ar archwilydd Tai Ceredigion mewn perthynas â pharatoi eu hadroddiad nad yw’r archwilydd yn ymwybodol ohoni, ac

• y mae pob aelod o’r Bwrdd wedi cymryd yr holl gamau y dylai fod wedi’u cymryd fel aelod o’r Bwrdd er mwyn ei (g)wneud ei hun yn ymwybodol o unrhyw wybodaeth berthnasol y mae ei hangen ar archwilydd Tai Ceredigion mewn perthynas â pharatoi eu hadroddiad ac i sefydlu bod archwilydd Tai Ceredigion yn ymwybodol o’r wybodaeth honno.

Cymeradwywyd ar 20fed o Orffennaf a llofnodwyd ar ei ran gan:

Karen Oliver, Cadeirydd y Bwrdd Rheoli

GWARANTU MESURAU RHEOLAETH MEWNOL

20 21

Page 13: ARFS Cymraeg for Website - Tai Ceredigion...Y mae Grŵp Monitro Tai Ceredigion (GMTC) yn dal i gwrdd yn fisol ag uwch dimau, gan archwilio a herio penderfyniadau ar ran yr ... benodwyd

Lansiodd Cartrefi Cymunedol Cymru’r Cod Llywodraethiant newydd yn ddiweddar, a hwnnw’n canolbwyntio ar saith egwyddor:

Bydd llywodraethiant da’n galluogi ac yn hyrwyddo cydymffurfiaeth corff â deddfwriaeth a rheoleiddio perthnasol. Bydd hefyd yn hyrwyddo agweddau a diwylliant lle mae popeth yn gweithio tuag at wireddu gweledigaeth y corff. Y bwrdd sy’n arwain ar lywodraethiant, ond bydd llywodraethiant da’n cynnwys yr holl gorff o’r brig i’r bôn. Y mae Tai Ceredigion wedi’i asesu ei hun yn erbyn y Cod ac y mae’n gyfforddus ei fod yn rhoi’r saith egwyddor ar waith drwy’r holl gymdeithas.

LLYWODRAETHIANT

Pwrpas y Sefydliad

Gwneud penderfyniadau, risg a rheolaeth

Arweinyddiaeth

Effeithiolrwydd byrddau

Uniondeb

Amrywiaeth

Agoredrwydd ac atebolrwydd

GWERTH am ARIANY mae gan Tai Ceredigion strategaeth helaeth ynghylch Gwerth am Arian sy’n disgrifio fel y bydd Tai Ceredigion yn ymdrechu i gyrraedd safonau uchel o werth am arian ar draws y gymdeithas drwy fod yn ddarbodus, yn effeithlon ac yn effeithiol wrth geisio cyflawni amcanion cymdeithasol sydd o fudd i ystod o randdeiliaid. Fel cyrff â phwrpas cymdeithasol, y mae cymdeithasau tai wedi ymrwymo i gael y gwerth gorau y gellir i’w tenantiaid, tenantiaid a fydd a’r gymuned ehangach.Yn ystod 2017/18 gwnaed adolygiad Gwerth am Arian gyda Chyfranogiad Tenantiaid gan y Pennaeth Cyllid yn debyg i’r adolygiadau o adrannau eraill o’r blaen. Roedd yn amlwg bod Tai Ceredigion yn gweithio’n galed i gynnwys tenantiaid mewn amryw o ffyrdd a bod Grŵp Monitro Tai Ceredigion (GMTC) yn rhoi cymorth mawr yn hyn o beth. Wedi dweud hynny, y mae bob amser le i wella’n barhaus a bydd staff a GMTC fel ei gilydd yn gweithio ar yr argymhellion yn yr adroddiad yn ystod 2018/19.

Y mae cyfrifon cyffredinol y sector wedi nodi cyfres o ddangosyddion a ddefnyddir i asesu gwerth am arian a meincnodi ar draws y sector.Gwelir isod ganlyniadau Tai Ceredigion o’u cymharu â chyfartaleddau’r sector:

Crynodeb Dwy Flynedd o Werth am ArianCanlyniadau

Tai Ceredigion

Cyfartaleddau Blynyddol y

Sector

Ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben 31 o Fawrth 2018 2017 2017

Cyfanswm cost gweithredu fesul uned tai cymdeithasol £2,639 £2,043 £2,990

Costau rheolaeth fesul uned tai cymdeithasol £947 £948 £1,181

Costau ymatebol fesul uned tai cymdeithasol £951 £814 £1,091

Atgyweiriadau a chydrannau mawr fesul uned tai cymdeithasol (gan gynnwys dibrisiant a diffygiant) £1,424 £2,794 £1,084

Costau drwgddyledion fesul uned tai cymdeithasol £5 £12 £29

Cost gyfartalog gymhwysol cyfalaf 7.4% 6.64% 4.9%

Llif arian rhydd i mewn (allan) fesul cymdeithas £2.918m £0.99m £0.222m

Ôl-ddyledion/trosiant tai cymdeithasol gros 1.9% 2.3% 4.3%

Rhent fesul uned tai cymdeithasol £5,007 £4,806 £5,076

Colled rhent lleoedd gwag fesul uned tai cymdeithasol £25 £49 £79

22 23

Page 14: ARFS Cymraeg for Website - Tai Ceredigion...Y mae Grŵp Monitro Tai Ceredigion (GMTC) yn dal i gwrdd yn fisol ag uwch dimau, gan archwilio a herio penderfyniadau ar ran yr ... benodwyd

ARIAN I MEWN2017-18

Rhent a Thaliadau Gwasanaeth£11,322,000

Gwasanaethau Medra£44,000

Grantiau Eraill£299,000

Grant Cefnogi Pobl£241,000

Gwerthu Asedau Dros Ben£169,000

Incwm Arall£131,000

Tariff Cyflenwi£112,000

Llog i’w Dalu ar Fenthyciadau£1,492,000

Gwella Cartrefi£3,294,000

Costau Eraill£1,694,000

Atgyweiriadau o Ddydd i Ddydd£2,162,000

Costau Rheolaeth a Gwasanaethau£2,514,000

Dibrisiant£2,491,000

ARIAN ALLAN2017-18

24 25

Page 15: ARFS Cymraeg for Website - Tai Ceredigion...Y mae Grŵp Monitro Tai Ceredigion (GMTC) yn dal i gwrdd yn fisol ag uwch dimau, gan archwilio a herio penderfyniadau ar ran yr ... benodwyd

RISGIAU ARIANNOLY mae gweithgareddau Tai Ceredigion yn ei adael yn agored i nifer o risgiau ariannol.

ADOLYGIAD ARIANNOLAdroddodd Tai Ceredigion warged o £1.8m ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben 31 o Fawrth 2018 ar gyfanswm trosiant o £12m. Cyflawnwyd lled gweithredu o 27%.

Y mae’r canlyniadau ar gyfer y cyfnod ac ar gyfer 2016/17 wedi’u crynhoi yn y tabl isod:

Prif Bwyntiau Ariannol - Crynodeb Dwy Flynedd Canlyniadau Tai Ceredigion

Ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben 31 o Fawrth 2018£’000

2017£’000

Datganiad o Incwm Cynhwysfawr

Cyfanswm trosiant 12,158 11,347

Incwm o osod Tai Cymdeithasol 11,595 10,877

Dibrisiant 2,491 2,277

Amorteiddiad 218 198

Llog i’w dalu 1,492 1,387

Gwarged weithredol 3,257 2,700

Datganiad Sefyllfa Ariannol

Asedau diriaethol sefydlog, ar gost ddibrisiedig 52,328 47,162

Grant Tai Cymdeithasol a grantiau eraill 14,881 12,524

Asedau cyfredol net 16,663 16,120

Darpariaeth ar gyfer rhwymedigaeth bensiynau 2,550 2,920

Benthyciadau hirdymor 20,159 20,127

Cyfanswm cronfeydd wrth gefn 9,573 7,044

Risg llif arianUn o’r prif risgiau yw’r posibilrwydd o newidiadau mewn cyfraddau llog. Fel y safai pethau ar 31ain o Fawrth 2017, yr oedd gan Tai Ceredigion 100% o’i rwymedigaethau benthyciad ar gyfradd llog sefydlog i warantu sicrwydd llifau arian. Risg arall yw colli incwm oherwydd diwygio budd-daliadau lles neu newid yn y polisi gosod rhenti. Y mae mesurau rheolaeth mewnol yn eu lle megis profion straen rheolaidd ar y cynllun busnes a darbodaeth wrth osod cyllidebau.

Risg hylifeddEr mwyn cynnal hylifedd i sicrhau bod cronfeydd digonol ar gael ar gyfer gweithrediadau parhaus a datblygiadau yn y dyfodol, y mae Tai Ceredigion yn defnyddio cymysgedd o gyllid hirdymor a byrdymor sy’n cynnwys cyfleuster cylchdroi.

Risg gredydPrif asedau Tai Ceredigion yw ei stoc dai, daliannau yn y banc ac arian parod, ôl-ddyledion rhent a derbyniadwyon eraill. Y mae’r symiau a gyflwynir yn y Datganiad Sefyllfa Ariannol yn net o lwfansau ar gyfer drwgddyledion. Nid yw’r risg gredyd wedi’i chrynhoi’n sylweddol yn unlle, a’r hyn yr ydym yn agored iddi wedi’i gwasgaru ar draws nifer fawr o wrthbartïon a thenantiaid.

26 27

Page 16: ARFS Cymraeg for Website - Tai Ceredigion...Y mae Grŵp Monitro Tai Ceredigion (GMTC) yn dal i gwrdd yn fisol ag uwch dimau, gan archwilio a herio penderfyniadau ar ran yr ... benodwyd

BarnYr ydym wedi archwilio datganiadau ariannol Tai Ceredigion Cyf (y ‘gymdeithas’) ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben 31 o Fawrth 2018 sydd wedi’u cyfansoddi o’r Datganiad Incwm Cynhwysfawr, y Datganiad Sefyllfa Ariannol, y Datganiad Newidiadau mewn Cronfeydd wrth Gefn, y Datganiad Llifau Arian a nodiadau i’r datganiadau ariannol, gan gynnwys crynodeb o bolisïau cyfrifyddu o bwys. Y fframwaith adrodd ariannol a ddefnyddiwyd wrth eu paratoi yw’r gyfraith berthnasol ac Arferion Cyfrifyddu’r Deyrnas Unedig, gan gynnwys FRS 102 “Y Safon Adrodd Ariannol sy’n berthnasol yn y DU a Gweriniaeth Iwerddon” (Arferion Cyfrifyddu sy’n Gyffredinol Dderbyniol yn y Deyrnas Unedig).Yn ein barn ni, y mae’r datganiadau ariannol:

• yn rhoi golwg wir a theg ar gyflwr busnes y gymdeithas fel y safai ar 31 o Fawrth 2018 ac ar ei gwarged ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben y pryd hynny;

• wedi cael eu paratoi’n gywir yn unol â’r Arferion Cyfrifyddu sy’n Gyffredinol Dderbyniol yn y Deyrnas Unedig;

• wedi cael eu paratoi yn unol â gofynion Deddf Cymdeithasau Cydweithredol a Chymdeithasau Budd Cymunedol 2014, Deddf Tai ac Adfywio 2008 a’r Penderfyniad Cyffredinol ynghylch Gofynion Cyfrifyddu ar gyfer Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig (Cymru) 2015.

Sail y farnGwnaethom ein harchwiliad yn unol â Safonau Rhyngwladol ar Archwilio (DU) (ISAs (UK)) a’r gyfraith berthnasol. Disgrifir ein cyfrifoldebau ni o dan y safonau hynny ymhellach yn y rhan o’n hadroddiad ar gyfrifoldebau’r Archwilydd dros archwilio’r datganiadau ariannol. Yr ydym yn annibynnol ar y gymdeithas yn unol â’r gofynion moesegol sy’n berthnasol i’n harchwiliad o’r datganiadau ariannol yn y DU, gan gynnwys Safon Foesegol yr FRC ac yr ydym wedi cyflawni’n cyfrifoldebau moesegol eraill yn unol â’r gofynion hyn. Credwn fod y dystiolaeth archwilio a gawsom yn ddigonol ac yn briodol i roi sail i’n barn.

Casgliadau mewn perthynas â chwmni gweithredolNid oes gennym ddim i’w adrodd o ran y materion canlynol y mae’r ISAs (UK) yn gofyn ein bod yn adrodd i chi mewn perthynas â nhw lle:

• nad yw defnydd y Bwrdd o’r sail cwmni gweithredol i gyfrifyddu wrth baratoi’r datganiadau ariannol yn briodol; neu

• nad yw’r Bwrdd wedi datgelu yn y datganiadau ariannol unrhyw achosion o ansicrwydd o bwys a nodwyd a all fwrw amheuaeth sylweddol ar allu’r gymdeithas i barhau i fabwysiadu’r sail cwmni gweithredol i gyfrifyddu am gyfnod o ddeddeng mis o leiaf i’r dyddiad pryd y mae’r datganiadau ariannol wedi’u hawdurdodi i’w defnyddio.

i Aelodau Tai Ceredigion Cyf

Gwybodaeth arallY Bwrdd sy’n gyfrifol am yr wybodaeth arall. Y mae’r wybodaeth arall yn cynnwys yr wybodaeth a geir yn yr adroddiad blynyddol heblaw’r datganiadau ariannol a’n hadroddiad ni fel archwilwyr ar y rheini. Nid yw’n barn ni ar y datganiadau ariannol yn cwmpasu’r wybodaeth arall a, heblaw i’r graddau a nodir yn echblyg fel arall yn ein hadroddiad, nid ydym yn mynegi unrhyw fath o gasgliad gwarant mewn perthynas â hi.Yr ydym wedi adolygu datganiad y Bwrdd ar gydymffurfiaeth y gymdeithas â chylchlythyr Llywodraeth Cymru RSL 02/10 ‘Rheolyddion ac adroddiadau mewnol’. Nid oes gofyn inni fynegi barn ar effeithiolrwydd trefn reolaeth fewnol y gymdeithas.Mewn perthynas â’n harchwiliad o’r datganiadau ariannol, ein cyfrifoldeb ni yw darllen yr wybodaeth arall ac, wrth wneud hynny, ystyried a yw’r wybodaeth arall yn anghyson mewn ffordd berthnasol â’r datganiadau ariannol neu ein gwybodaeth ni a gafwyd yn yr archwiliad neu’n ymddangos rywsut arall fel petai wedi’i chamfynegi mewn rhyw ffordd berthnasol. Os nodwn anghysonderau perthnasol neu gamfynegiadau perthnasol ymddangosiadol o’r fath, y mae gofyn inni benderfynu a oes camfynegiad perthnasol yn y datganiadau ariannol neu gamfynegiad perthnasol o’r wybodaeth arall. Os down i’r casgliad, ar sail y gwaith a wnaethom, fod camfynegiad perthnasol o’r wybodaeth arall hon, y mae gofyn inni adrodd y ffaith honno.Nid oes gennym ddim i’w adrodd yn hyn o beth.

Barn ar faterion eraill a ragnodir gan gylchlythyr Llywodraeth Cymru RSL 02/10 ‘Rheolyddion ac adroddiadau mewnol’Yn ein barn ni, ar sail y gwaith a wnaed yn ystod yr archwiliad mewn perthynas â datganiad y Bwrdd ar reolaeth fewnol:

• y mae’r Bwrdd wedi darparu’r datgeliadau a ofynnir gan gylchlythyr Llywodraeth Cymru RSL 02/10 ‘Rheolyddion ac adroddiadau mewnol’; ac

• nid yw’r datganiad yn anghyson â’r wybodaeth yr ydym yn ymwybodol ohoni o’n gwaith archwilio ar y datganiadau ariannol.

Materion y mae gofyn inni adrodd arnynt drwy eithriad Nid oes gennym ddim i’w adrodd mewn perthynas â’r materion canlynol y mae’n ofynnol inni adrodd arnynt i chi o dan Ddeddf Cymdeithasau Cydweithredol a Chymdeithasau Budd Cymunedol 2014 os yw’r canlynol, yn ein barn ni, yn wir:

• nid yw’r gymdeithas wedi cadw llyfrau cyfrifon iawn; neu• nid yw trefn foddhaol o reolaeth dros drafodion wedi cael ei chynnal; neu• nid yw’r datganiadau ariannol yn cytuno â’r llyfrau cyfrifon; neu• nid ydym wedi derbyn yr holl wybodaeth ac esboniadau y mae arnom eu hangen ar

gyfer ein harchwiliad.

ADRODDIAD YR ARCHWILYDD ANNIBYNNOL

28 29

Page 17: ARFS Cymraeg for Website - Tai Ceredigion...Y mae Grŵp Monitro Tai Ceredigion (GMTC) yn dal i gwrdd yn fisol ag uwch dimau, gan archwilio a herio penderfyniadau ar ran yr ... benodwyd

Cyfrifoldebau’r BwrddFel a esbonnir yn llawnach yn y Datganiad o Gyfrifoldebau’r Bwrdd a gyflwynir ar dudalen 21, y Bwrdd sy’n gyfrifol am baratoi’r datganiadau ariannol ac am fod wedi’i sicrhau eu bod yn rhoi golwg wir a theg, ac am y fath reolaeth fewnol ag a benderfyno’r Bwrdd sydd ei hangen i alluogi paratoi datganiadau ariannol sy’n rhydd o gamfynegiad o bwys, boed hynny oherwydd twyll neu wall.Wrth baratoi’r datganiadau ariannol, y mae’r Bwrdd yn gyfrifol am asesu gallu’r gymdeithas i barhau’n gwmni gweithredol, gan ddatgelu, fel a fo’n berthnasol, faterion sy’n ymwneud â chwmni gweithredol a chan ddefnyddio’r sail cwmni gweithredol i gyfrifyddu oni bai bod y Bwrdd yn bwriadu naill ai diddymu’r gymdeithas neu ddod â gweithrediadau i ben, neu oni bai nad oes ganddynt ddim dewis realistig ond gwneud felly.

Cyfrifoldebau’r archwilydd dros archwilio’r datganiadau ariannol Ein hamcanion yw cael sicrhad rhesymol a yw’r datganiadau ariannol yn eu cyfranrwydd yn rhydd o gamfynegiad o bwys, boed hynny oherwydd twyll neu wall, a rhoi adroddiad archwilydd sy’n cynnwys ein barn. Y mae sicrhad rhesymol yn lefel uchel o sicrhad, ond nid yw’n warant y bydd archwiliad a wneir yn unol ag ISAs (UK) bob amser yn canfod camfynegiad o bwys pan fo i’w gael. Gall camfynegiadau godi o dwyll neu wall ac fe’u hystyrir yn rhai o bwys os gellid disgwyl yn rhesymol y byddent, yn unigol neu gyda’i gilydd, yn dylanwadu ar benderfyniadau economaidd defnyddwyr a gymerid ar sail y datganiadau ariannol hyn.Ein cyfrifoldeb yw archwilio’r datganiadau ariannol a mynegi barn arnynt yn unol â’r gyfraith berthnasol a Safonau Rhyngwladol ar Gyfrifyddu (DU). Y mae’r safonau hynny’n mynnu ein bod yn cydymffurfio â Safon Foesegol y Cyngor Adrodd Ariannol. Ceir disgrifiad pellach o’n cyfrifoldeb ni dros yr archwiliad o’r datganiadau ariannol ar wefan y Cyngor Adrodd Ariannol o dan www.frc.org.uk/auditorsresponsibilities

Defnydd o’r adroddiad archwilioI aelodau’r gymdeithas fel corff yn unig y gwneir yr adroddiad hwn yn unol â Rhan 7 o Ddeddf Cymdeithasau Cydweithredol a Chymdeithasau Budd Cymunedol 2014 a Phennod 4 o Ran 2 o Ddeddf Tai ac Adfywio 2008. Ymgymerwyd â’n gwaith archwilio er mwyn inni allu ddatgan i aelodau’r gymdeithas y materion hynny y mae gofyn inni eu datgan iddynt mewn datganiad archwilydd ac nid i unrhyw ddiben arall. I’r graddau eithaf a ganiateir gan y gyfraith, nid ydym yn derbyn nac yn ymgymryd â chyfrifoldeb i neb ond y gymdeithas ac aelodau’r gymdeithas fel corff dros ein gwaith archwilio, dros yr adroddiad hwn, na thros y dyfarniadau yr ydym wedi’u gwneud.

Mazars LLPCyfrifwyr Siartredig ac Archwilydd Statudol 45 Church StreetBirminghamB3 2RTDyddiad: 20fed o Orffennaf 2018

i Aelodau Tai Ceredigion Cyf (parhad)ADRODDIAD YR ARCHWILYDD ANNIBYNNOL

30 31

Page 18: ARFS Cymraeg for Website - Tai Ceredigion...Y mae Grŵp Monitro Tai Ceredigion (GMTC) yn dal i gwrdd yn fisol ag uwch dimau, gan archwilio a herio penderfyniadau ar ran yr ... benodwyd

2018 2017 Nodyn £’000 £’000 TROSIANT 2a 12,158 11,347 Llai: Costau gweithredu 2a (8,901) (8,647) ———— ————GWARGED WEITHREDOL 2a 3,257 2,700 Gwarged ar waredu meddiannau tai 3 169 366Llog derbyniadwy 5 2Costau llog a chyllido 8 (1,492) (1,387)Diffygiant eiddo buddsoddi 10 (135)

———— ————GWARGED AR GYFER Y FLWYDDYN 4 1,804 1,681

Enillion/(colledion) actiwaraidd ar y cynllun pensiwn 20 727 (1,549) CYFANSWM INCWM CYNHWYSFAWR AR GYFER ———— ————Y FLWYDDYN 2,531 132 ══════ ══════

DATGANIAD INCWM CYNHWYSFAWRar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben 31 o Fawrth 2018

Nodyn 2018 2017

ASEDAU SEFYDLOG DIRIAETHOL £’000 £’000Meddiannau tai - Cost gros llai dibrisiant 9 51,342 46,277Eiddo, peiriannau ac offer eraill 10 986 885 ———— ———— 52,328 47,162 ———— ————ASEDAU CYFREDOL Dyledwyr 11 23,163 21,893Stoc 12 17 12Arian parod a chyfatebol i arian parod 1,144 954 ———— ———— 24,324 22,859 CREDYDWYR: SYMIAU SY’N DOD YNDDYLEDUS O FEWN UN FLWYDDYN 13 (7,661) (6,739) ———— ————ASEDAU CYFREDOL NET 16,663 16,120 ———— ———— CYFANSWM ASEDAU LLAI RHWYMEDIGAETHAU CYFREDOL 68,991 63,282 Rhwymedigaeth bensiwn 20 (2,550) (2,920) CREDYDWYR: SYMIAU SY’N DOD YN DDYLEDUS AR ÔL MWY NAG UN FLWYDDYN 14 (56,868) (53,318) ———— ————ASEDAU NET 9,573 7,044 ══════ ══════CYFALAF A CHRONFEYDD WRTH GEFN Cyfalaf cyfranddaliadau di-ecwiti 15 -Cronfeydd Refeniw wrth Gefn 9,573 7,044 ———— ———— 9,573 7,044 ══════ ══════

Cafodd y datganiadau ariannol ar dudalennau 32 hyd 54 eu cymeradwyo gan y Bwrdd ar 20fed o Orffennaf 2018 a’u llofnodi ar ei ran gan:

Karen Oliver John Jenkins Kate Curran

DATGANIAD SEFYLLFA ARIANNOLfel y safai ar 31 o Fawrth 2018

32 33

Page 19: ARFS Cymraeg for Website - Tai Ceredigion...Y mae Grŵp Monitro Tai Ceredigion (GMTC) yn dal i gwrdd yn fisol ag uwch dimau, gan archwilio a herio penderfyniadau ar ran yr ... benodwyd

DATGANIAD NEWIDIADAU YN Y CRONFEYDD WRTH GEFN

Cronfeydd refeniw wrth gefn Cyfanswm

£’000 £’000 Ar 1 o Ebrill 2016 6,912 6,912 Gwarged ar gyfer y flwyddyn 1,681 1,681 Colled actiwaraidd mewn perthynas â chynlluniau pensiwn (1,549) (1,549) ———— ————Ar 31 o Fawrth 2017 7,044 7,044 ══════ ══════ Ar 1 o Ebrill 2017 7,044 7,044 Gwarged ar gyfer y flwyddyn 1,804 1,804 Enillion actiwaraidd mewn perthynas âchynlluniau pensiwn 727 727 ———— ————Ar 31 o Fawrth 2018 9,573 9,573 ══════ ══════

DATGANIAD NEWIDIADAU YN Y CRONFEYDD WRTH GEFNar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben 31 o Fawrth 2018

2018 2017 £’000 £’000 Nodyn Arian net a gynhyrchwyd oweithgareddau gweithredu A 6,224 4,875 Llifau arian o weithgareddau buddsoddiPrynu eiddo, peiriannau ac offer (7,794) (6,321)Enillion o werthu eiddo, peiriannau ac offer 172 371Grantiau a dderbyniwyd 3,172 3,658Llog a dderbyniwyd 5 2 ———— ————Llif arian net o weithgareddau buddsoddi (4,445) (2,290)

Llifau arian o weithgareddau cyllidoCostau cyllid a dalwyd (1,386) (1,398)Benthyciadau newydd - 1,850Ad-dalu arian a fenthyciwyd (203) (3,250)Enillion ar ddyroddi cyfranddaliadau - - ———— ————Llif arian net o weithgareddau cyllido (1,589) (2,798)

Cynnydd net mewn arian parod acelfennau cyfatebol i arian parod 190 (213)

Arian parod ac elfennau cyfatebol i arian parod ar ddechrau’r cyfnod 954 1,167 ———— ————Arian parod ac elfennau cyfatebol i arian parod ar ddiwedd y cyfnod 1,144 954 ══════ ══════ A Arian parod net a gynhyrchwyd o weithgareddau gweithredu Gwarged ar gyfer y flwyddyn 3,257 2,700 Addasiad am eitemau amgen nag arian parod: Dibrisiant asedau sefydlog 2,491 2,277 Amorteiddiad grantiau llywodraeth (218) (197) Amorteiddiad grantiau llywodraeth (5) 6 Lleihad/(cynnydd) mewn dyledwyr (82) 91 Cynnydd/(lleihad) mewn credydwyr 781 (2) Arian parod net a gynhyrchwyd gan weithgareddau gweithredu 6,224 4,875 ══════ ══════

DATGANIAD LLIFAU ARIANar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben 31 o Fawrth 2018

34 35

Page 20: ARFS Cymraeg for Website - Tai Ceredigion...Y mae Grŵp Monitro Tai Ceredigion (GMTC) yn dal i gwrdd yn fisol ag uwch dimau, gan archwilio a herio penderfyniadau ar ran yr ... benodwyd

LLIF ARIAN RHYDD AR GYFER Y FLWYDDYN

2018 2017

£’000 £’000

Arian parod net a gynhyrchwyd o weithgareddau gweithredu 6,224 4,875

Llog a dalwyd (1,386) (1,398)

Llog a dderbyniwyd 5 2

Addasiad am ailfuddsoddi mewn meddiannau mewn bodolaeth eisoes

Cydrannau newydd yn lle hen rai (3,213) (4,089)

Prynu asedau sefydlog eraill yn lle hen rai (127) -

Grant a dderbyniwyd ar gyfer cydrannau newydd 1,618 1,625

———— ————

Arian parod rhydd a gynhyrchwyd cyn ad-daliadau ar fenthyciadau 3,121 1,015

Benthyciadau a ad-dalwyd (ac eithrio credyd cylchdro a gorddrafftiau) 203 -

Arian parod rhydd a gynhyrchwyd ar ôl ad-daliadau ar fenthyciadau 2,918 1,015 ══════ ══════

Nodiadau i’r Datganiadau Ariannolar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben 31 o Fawrth 2018

1. POLISÏAU CYFRIFYDDUY mae Tai Ceredigion Cyf wedi’i gofrestru o dan Ddeddf Cymdeithasau Cydweithredol a Chymdeithasau Budd Cymunedol 2014 ac yn Landlord Cymdeithasol Cofrestredig. Y mae Tai Ceredigion wedi mabwysiadu rheolau elusennol. Y mae’r prif bolisïau cyfrifyddu wedi’u crynhoi isod. Y maent oll wedi cael eu gweithredu’n gyson drwy gydol y flwyddyn a mewn perthynas â’r flwyddyn flaenorol, yn unol ag FRS 102. Endid budd cyhoeddus yw Tai Ceredigion Cyf, fel y’i diffinnir yn FRS 102 ac y mae’n gweithredu’r paragraffau perthnasol a ragflaenir â ‘PBE’ yn FRS 102.

(a) Confensiwn cyfrifydduParatoir y datganiadau o dan y confensiwn cost hanesyddol, yn unol â’r Safon Adrodd Ariannol 102 (FRS 102) a gyhoeddir gan y Cyngor Adrodd Ariannol ac y maent yn cydymffurfio â’r Datganiad o Arfer a Argymhellir ar gyfer Darparwyr Tai Cymdeithasol Cofrestredig 2014 (DAA), Deddf Tai ac Adfywio 2008 a’r Penderfyniad Cyffredinol ynghylch Gofynion Cyfrifyddu ar gyfer Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig (Cymru) 2015.

(b) TrosiantY mae trosiant yn cynrychioli incwm o rent ac fel arall sy’n dderbyniadwy (yn net o golledion o leoedd gwag), incwm o werthu eiddo, a grantiau refeniw sy’n dderbyniadwy. Y mae hefyd yn cynnwys grantiau sy’n digolledu gwariant penodol ar y rhaglen welliannau.

(c) Eiddo, peiriannau ac offer - meddiannau taiWrth eu cost y datgenir meddiannau tai, llai dibrisiant cronedig a cholledion diffygiant cronedig. Y mae cost yn cynnwys cost caffael tir ac adeiladau, costau datblygiad sydd i’w priodoli’n uniongyrchol a chostau benthyca y gellir eu priodoli’n uniongyrchol i adeiladu meddiannau tai newydd yn ystod y datblygiad. Daw cyfalafu i ben pan fo’r holl weithgareddau, yn sylweddol, sy’n angenrheidiol i wneud yr ased yn barod i’w ddefnyddio wedi’u cwblhau. Dim ond pan fo gwariant yn arwain at gynnydd ym mherfformiad economaidd yr ased y bydd cyfalafu’n digwydd. I gynyddu perfformiad ased, mae’n rhaid i wariant arwain at fod un neu fwy o’r canlynol yn digwydd:

¾ Mwy o incwm rhent ¾ Lleihad yn y costau cynnal a chadw yn y dyfodol ¾ Estyniad sylweddol i oes yr eiddo

(d) DibrisiantNi ddibrisir tir rhydd-ddaliadol.Meddiannau taiYn unol â gofynion y DAA, dibrisir gwelliannau i feddiannau tai i ddileu’r gost hanesyddol llai’r gwerth gweddilliol ar sail systematig drwy gydol yr oes ddefnyddiol a amcangyfrifir iddynt. Ceir y swm dibrisiadwy ar sail y gost wreiddiol, llai unrhyw werth gweddilliol.Rhennir adeiladau’n gydrannau sylweddol ac iddynt oes ddefnyddiol economaidd go wahanol. Codir dibrisiant yn y fath fodd ag i leihau gwerth llyfr gros y gydran i’r gwerth gweddilliol a amcangyfrifir iddi ar sail llinell unionsyth. Dibrisir y cydrannau sylweddol heblaw’r elfen eiddo weddilliol dros yr oesau canlynol:

Cydran OesCegin 20 mlyneddYstafell ymolchi 25 mlyneddFfenestri a drysau 30 mlyneddTo – ar ogwydd / concrit 60 mlyneddTo – fel arall 20 mlynedd

Cydran OesLifft 30 mlyneddBwyleri gwres canolog 15 mlyneddAilwifriad trydanol 30 mlyneddYnysiad 30 mlyneddAdeiladwaith 100 mlynedd

36 37

Page 21: ARFS Cymraeg for Website - Tai Ceredigion...Y mae Grŵp Monitro Tai Ceredigion (GMTC) yn dal i gwrdd yn fisol ag uwch dimau, gan archwilio a herio penderfyniadau ar ran yr ... benodwyd

Codir dibrisiant yn y flwyddyn pan brynwyd, pro rata i’r mis pan brynwyd neu’r dyddiad cwblhau terfynol os yw’n ymwneud â chontract datblygiad i adnewyddu neu adeiladu o’r newydd. Asedau sefydlog eraillCyfrifir dibrisiant i ddileu cost asedau sefydlog ar sail llinell unionsyth drwy gydol yr oes ddefnyddiol a amcangyfrifir iddynt. Ni roddir dim dibrisiant ar dir rhydd-ddaliadol. Y prif oesau a ddefnyddir ar gyfer asedau eraill yw:

Adeiladau rhydd-ddaliadol 25 mlyneddCaledwedd TG 5 mlyneddCelfi a gosodion sefydlog cynlluniau cysgodol 5 mlyneddDodrefn ac offer swyddfa 5 mlyneddCerbydau modur 4 blyneddPeiriannau ac offer 5 mlynedd

Gwneir adolygiadau am ddiffygiant adeiladau rhydd-ddaliadol yn flynyddol neu os bydd arwydd o ddiffygiant i’w gael. Cydnabyddir unrhyw ddiffygiant mewn uned incwm-gynhyrchiol (megis eiddo rhent â thenantiaid ynddo) drwy godiant i’r Datganiad Incwm Cynhwysfawr. Cydnabyddir diffygiant lle bo gwerth llyfr uned incwm-gynhyrchiol yn uwch na’r uchaf o’i werth sylweddoladwy a’i werth mewn defnydd. Bydd Tai Ceredigion yn chwilio’n flynyddol i weld a oes unrhyw arwydd o ddiffygiant drwy gyfeirio at:

¾ Dueddiadau yn y cyfraddau eiddo gwag a gosod stoc ¾ Cyngor gan briswyr allanol o ran eu disgwyliadau nhw o werth stoc.

(e) StocrestrauDatgenir stocrestrau wrth yr isaf o’u cost a’u gwerth sylweddoladwy net.

(f) Trethiant

TAWDangosir pob incwm yn net o TAW a dangosir gwariant gan gynnwys TAW anadferadwy.Y mae gan Tai Ceredigion gysgodfa TAW 15 mlynedd yn ei lle, wedi’i chymeradwyo gan CThEM. Y mae’r gysgodfa TAW yn trosglwyddo cost TAW y gwaith y mae ei angen i gwrdd â Safon Ansawdd Tai Cymru (SATC) i Gyngor Sir Ceredigion. Y mae’r trafodion fel a ganlyn:

¾ O dan y cytundeb trosglwyddo trosglwyddodd y Cyngor y meddiannau i Tai Ceredigion ynghyd ag ymrwymiad i ymgymryd â’r gwaith SATC ar draul y Cyngor. Y pris a dalwyd am y meddiannau oedd £71,524,223 (heb gynnwys TAW); y mae’r pris hwn yn adlewyrchu gwerth marchnad y stoc â thenantiaid, sef dim, a gwerth amcangyfrifedig y gwaith, sef £71,524,223 (heb gynnwys TAW).

¾ Cyflawnodd y Cyngor ei ymrwymiad i wneud y gwaith o dan y Cytundeb Trosglwyddo drwy ymgymryd â Chytundeb Datblygu 15 mlynedd â Tai Ceredigion. Contract pris sefydlog yw hwn am £71,524,223 ynghyd â TAW o £10,728,633.

Yn ystod oes y Cytundeb Datblygu, y mae gan Tai Ceredigion hawl i adennill TAW ar y costau a ddaw i’w ran gan drydydd partïon am gyflawni’r gwaith SATC fel a nodir yn y Cytundeb Datblygu.

Y mae’r DAA yn gofyn bod landlordiaid cymdeithasol yn cydnabod taliadau o’r fath cyn gwaith fel rhagdaliadau a derbyniadau ymlaen llaw i’w cydnabod yn rhwymedigaethau.

(g) Treth GorfforaethNid yw Tai Ceredigion yn agored i dalu Treth Gorfforaeth oherwydd ei statws elusennol.

Nodiadau i’r Datganiadau Ariannolar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben 31 o Fawrth 2018

(h) Costau Pensiwn

Cronfa Bensiwn Dyfed (LGPS) Y mae Tai Ceredigion Cyf yn aelod cyfrannol o Gronfa Bensiwn Dyfed, cynllun pensiwn llywodraeth leol sy’n gynllun amlgyflogwr lle mae modd i gyflogwyr unigol fel cyrff derbyniedig nodi eu cyfran nhw o asedau a rhwymedigaethau’r cynllun pensiwn. I’r cynllun hwn y symiau a roddir yn erbyn gwarged weithredol yw’r costau sy’n deillio o wasanaethau gweithwyr a ddarparwyd yn ystod y cyfnod a chost cyflwyniadau, newid buddion, setliadau a chwtogiadau mewn perthynas â’r cynllun. Fe’u cynhwysir yn rhan o gostau staff. Rhoddir y gost log net ar y rhwymedigaeth buddion diffiniedig net yn erbyn refeniw ac fe’i cynhwysir o fewn costau cyllid. Y mae ailfesuriadau sy’n cynnwys enillion a cholledion actiwaraidd a’r enillion o asedau’r cynllun (heb gynnwys symiau a gynhwysir mewn llog net ar y rhwymedigaeth buddion diffiniedig) yn cael eu cydnabod yn syth mewn incwm cynhwysfawr arall. Trosglwyddodd Cyngor Sir Ceredigion weithwyr cyflogedig i Tai Ceredigion adeg y trosglwyddiad stoc. Yr oedd llawer o’r rhain yn aelodau o Gronfa Bensiwn Dyfed gyda’r rhwymedigaethau pensiwn adeg trosglwyddo yn cael eu hariannu’n llawn gan y Cyngor, a chostau a ddeuai wedyn i ddod i ran Tai Ceredigion. O dan brisiad actiwaraidd y Cyngor, felly, ymgymerodd Tai Ceredigion â sefyllfa o £dim net o rwymedigaeth adeg trosglwyddo.Y mae gan weithwyr cyflogedig newydd y dewis o ymuno â’r Cynllun Pensiwn Tai Cymdeithasol (SHPS) neu NEST.Cyllidir cynlluniau buddion diffiniedig, ac asedau’r cynllun yn cael eu dal ar wahân i rai Tai Ceredigion, mewn cronfeydd ar wahân a weinyddir gan ymddiriedolwyr. Mesurir asedau cynlluniau pensiwn ar werth teg a mesurir rhwymedigaethau ar sail actiwaraidd gan ddefnyddio’r dull credyd uned rhagamcanol. Ceir y prisiadau actiwaraidd o leiaf unwaith bob tair blynedd ac fe gânt eu diweddaru ar ddyddiad pob Datganiad Sefyllfa Ariannol.

Cynllun Pensiwn Tai CymdeithasolY mae Tai Ceredigion hefyd yn cyfranogi o gynllun pensiwn cyfraniadau diffiniedig a weinyddir gan yr Ymddiriedolaeth Bensiynau. Rhoddir y cyfraniadau sy’n daladwy am y flwyddyn yn erbyn y Datganiad Incwm Cynhwysfawr.

(i) Prydlesi GweithreduRhoddir taliadau rhent o dan brydlesi gweithredu yn erbyn y Datganiad Incwm Cynhwysfawr.

(j) Gwerthu Meddiannau TaiEr nad yw’n fwriad cyffredinol gan Tai Ceredigion Cyf gael gwared ar stoc dai, gall meddiannau gael eu gwerthu am amryw o resymau. Gall Tai Ceredigion Cyf werthu meddiannau gwag fel rhan o’i strategaeth rheoli asedau parhaus neu lle bo dadleuon economaidd yn cyfiawnhau gwerthu.Cyfrifir am y warged neu’r diffyg ar werthu meddiannau tai a ddelir fel asedau sefydlog ar wyneb y Datganiad Incwm Cynhwysfawr.

(k) Grant Tai CymdeithasolCydnabyddir grantiau llywodraeth gan ddefnyddio’r model croniadau ac fe’u dosberthir naill ai fel grant sy’n berthnasol i refeniw neu grant sy’n berthnasol i asedau. Cydnabyddir grantiau sy’n berthnasol i refeniw mewn incwm ar sail systematig dros y cyfnod pryd y cydnabyddir costau cysylltiedig y bwriedir i’r grant eu digolledu. Cydnabyddir grantiau sy’n berthnasol i asedau mewn incwm ar sail systematig dros oes ddefnyddiol ddisgwyliedig yr ased. Cydnabyddir grantiau a dderbynnir ar gyfer meddiannau tai mewn incwm dros oes ddefnyddiol ddisgwyliedig adeiladwaith y meddiant tai. Lle ceir grant yn benodol ar gyfer cydrannau meddiant tai cydnabyddir y grant mewn incwm dros oes ddefnyddiol ddisgwyliedig y gydran.

38 39

Page 22: ARFS Cymraeg for Website - Tai Ceredigion...Y mae Grŵp Monitro Tai Ceredigion (GMTC) yn dal i gwrdd yn fisol ag uwch dimau, gan archwilio a herio penderfyniadau ar ran yr ... benodwyd

(l) Arian parod ac elfennau sy’n cyfateb i arian parodY mae arian parod ac elfennau sy’n cyfateb i arian parod yn cynnwys arian parod mewn llaw ac adneuon sy’n hygyrch ar gais, ynghyd â buddsoddiadau byrdymor eraill sy’n dra hylifol ac y gellir eu trosi’n rhwydd i symiau hysbys o arian parod a’r risg o newidiadau yn eu gwerth yn un ddibwys.

(m) Llog sy’n DaladwyCostau benthyca yw llog a chostau eraill a geir mewn perthynas â benthyca cronfeydd. Cyfrifir costau benthyca gan ddefnyddio’r gyfradd llog effeithiol, sef y gyfradd sy’n disgowntio’n union daliadau neu dderbyniadau arian disgwyliedig yn y dyfodol drwy oes ddisgwyliedig yr offeryn ariannol ac a bennir ar sail swm llyfr y rhwymedigaeth ariannol adeg ei chydnabod yn gyntaf. O dan y dull llog effeithiol, cost amorteiddiedig rhwymedigaeth ariannol yw gwerth presennol taliadau arian yn y dyfodol wedi’u disgowntio ar y gyfradd llog effeithiol ac y mae’r traul llog mewn cyfnod yn cyfateb i swm llyfr y rhwymedigaeth ariannol ar ddechrau cyfnod wedi’i luosi â’r gyfradd llog effeithiol ar gyfer y cyfnod.

(n) Offerynnau AriannolCydnabyddir asedau ariannol a rhwymedigaethau ariannol pan ddaw Tai Ceredigion yn barti i ddarpariaethau contractiol yr offeryn.

Asedau ariannol a ddygir ar gost amorteiddiedigY mae asedau ariannol a ddygir ar gost amorteiddiedig yn cynnwys ôl-ddyledion rhent, derbyniadwyon masnach ac eraill ac arian parod ac elfennau sy’n cyfateb i arian parod. Cydnabyddir asedau ariannol yn y lle cyntaf ar werth teg ynghyd â chostau trafodiad sydd i’w priodoli’n uniongyrchol. Ar ôl eu cydnabyddiaeth gychwynnol, fe’u mesurir ar gost amorteiddiedig gan ddefnyddio’r dull llog effeithiol. Hepgorir disgowntio lle bo effaith disgowntio’n ddibwys. Os oes tystiolaeth wrthrychol bod colled ddiffygiant i’w chael, fe fesurir swm y golled fel y gwahaniaeth rhwng swm llyfr yr ased a gwerth presennol llifau arian amcangyfrifedig yn y dyfodol wedi’u disgowntio yn ôl cyfradd llog effeithiol wreiddiol yr ased ariannol. Lleiheir swm llyfr yr ased yn unol â hynny. Datgydnabyddir ased ariannol pan dderfydd yr hawliau contractiol i’r llifau arian, neu pan drosglwyddir yr ased ariannol a phob risg a budd sylweddol.Os yw trefniant yn ffurfio trafodiad cyllido, mesurir yr ased ariannol ar werth presennol y taliadau yn y dyfodol wedi’u disgowntio ar gyfradd llog farchnadol am offeryn dyled cyffelyb.

Rhwymedigaethau ariannol a ddygir ar gost amorteiddiedigY mae’r rhwymedigaethau ariannol hyn yn cynnwys taladwyon masnach ac eraill a benthyciadau sy’n dwyn llog. Bydd offerynnau dyled nad ydynt yn gyfredol ac sy’n cwrdd â’r amodau angenrheidiol yn FRS 102 yn cael eu cydnabod yn y lle cyntaf ar werth teg wedi’i addasu am unrhyw gost drafodiad sydd i’w phriodoli’n uniongyrchol a’u mesur ar ôl hynny ar gost amorteiddiedig gan ddefnyddio’r dull llog effeithiol, a thaliadau cysylltiedig â llog yn cael eu cydnabod fel traul mewn costau cyllido yn y Datganiad Incwm Cynhwysfawr. Hepgorir disgowntio lle bo effaith disgowntio’n ddibwys.Dim ond pan ddiddymir yr ymrwymiad contractiol, hynny yw, pan gaiff yr ymrwymiad ei gyflawni neu ei ganslo neu pan dderfydd, y datgydnabyddir rhwymedigaeth ariannol.

2. Dyfarniadau o bwys gan reolwyr a phrif ffynonellau ansicrwydd wrth amcangyfrifMae paratoi’r datganiadau ariannol yn gofyn bod rheolwyr yn gwneud dyfarniadau, amcangyfrifon a rhagdybiaethau sy’n effeithio ar y modd y gweithredir polisïau a’r symiau a adroddir o ran asedau a rhwymedigaethau, incwm a threuliau. Seilir yr amcangyfrifon a’r rhagdybiaethau cysylltiedig ar brofiad hanesyddol ac amryw o ffactorau eraill y credir eu bod yn rhesymol o dan yr amgylchiadau, a chanlyniadau’r rheini’n ffurfio’r sail ar gyfer gwneud y dyfarniadau ynghylch gwerth llyfr asedau a rhwymedigaethau nad ydynt i’w gweld yn amlwg o ffynonellau eraill. Gall y canlyniadau gwirioneddol fod yn wahanol i’r amcangyfrifon hyn.

Nodiadau i’r Datganiadau Ariannolar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben 31 o Fawrth 2018

Byddir yn adolygu amcangyfrifon a rhagdybiaethau isorweddol yn barhaus. Cydnabyddir diwygiadau i amcangyfrifon cyfrifyddu yn y cyfnod y diwygir yr amcangyfrif ynddo a mewn unrhyw gyfnodau yn y dyfodol yr effeithir arnynt.

Dyfarniadau o bwys gan reolwyr Y canlynol yw’r dyfarniadau gan reolwyr a wneir wrth weithredu polisïau cyfrifyddu’r gymdeithas sy’n cael yr effaith fwyaf ar y symiau a gydnabyddir yn y datganiadau ariannol.

Cyfalafu costau datblygu eiddo Bydd y gymdeithas yn cyfalafu gwariant datblygu yn unol â’r polisi cyfrifyddu ar feddiannau tai. Arferir crebwyll ynghylch y tebygrwydd y bydd prosiectau’n parhau.

Prif ffynonellau ansicrwydd wrth amcangyfrifBydd y gymdeithas yn gwneud amcangyfrifon a rhagdybiaethau ynglŷn â’r dyfodol. Anaml, o’u diffiniad, y bydd yr amcangyfrifon cyfrifyddu a geir o ganlyniad yn gyfartal â’r canlyniadau gwirioneddol cyfatebol. Ymdrinnir isod â’r amcangyfrifon a’r rhagdybiaethau sydd â risg sylweddol o achosi addasiad sylweddol i symiau llyfr asedau a rhwymedigaethau o fewn y flwyddyn ariannol nesaf.

DarpariaethauDarperir ar gyfer rhai rhwymedigaethau ac ar gyfer ôl-ddyledion rhent yr ystyrir eu bod y tu hwnt i’w casglu. Y mae’r darpariaethau’n gofyn amcangyfrif gorau rheolwyr o gostau a geir ar sail gofynion deddfwriaethol a chontractiol. Hefyd, y mae amseru’r llifau arian a’r cyfraddau disgowntiedig a ddefnyddir i sefydlu gwerth presennol net y rhwymedigaethau’n gofyn am grebwyll gan reolwyr.

Cynllun pensiwn buddion diffiniedigY mae rhwymedigaethau ar y gymdeithas i dalu buddion pensiwn i rai gweithwyr cyflogedig. Y mae cost y buddion hyn a gwerth presennol y rhwymedigaeth yn dibynnu ar nifer o ffactorau, gan gynnwys disgwyliad einioes, codiadau cyflog a’r gyfradd disgownt ar fondiau corfforaethol. Bydd rheolwyr yn amcangyfrif y ffactorau hyn wrth bennu’r rhwymedigaeth bensiwn net yn y fantolen. Adlewyrchu profiad hanesyddol a thueddiadau cyfredol y bydd y rhagdybiaethau. Gallai amrywiadau o’r rhagdybiaethau hyn effeithio’n sylweddol ar y rhwymedigaeth.

Cydrannau meddiannau tai ac oesau defnyddiol Y mae gan gydrannau sylweddol meddiannau tai batrymau go wahanol o draul buddion economaidd ac fe wneir amcangyfrifon i ddosrannu cost gychwynnol y meddiant i’w gydrannau sylweddol ac i ddibrisio pob cydran dros ei hoes economaidd ddefnyddiol. Bydd y gymdeithas yn ystyried a oes unrhyw arwyddion bod eisiau diwygio’r oesau defnyddiol ar bob dyddiad adrodd i sicrhau eu bod yn dal i fod yn briodol.

40 41

Page 23: ARFS Cymraeg for Website - Tai Ceredigion...Y mae Grŵp Monitro Tai Ceredigion (GMTC) yn dal i gwrdd yn fisol ag uwch dimau, gan archwilio a herio penderfyniadau ar ran yr ... benodwyd

20

18

2018

20

18

2017

20

17

2017

Cos

tau

Gw

arge

d

Cos

tau

Gw

arge

d

Tros

iant

G

wei

thre

du

Wei

thre

dol

Tros

iant

G

wei

thre

du

Wei

thre

dol

£’

000

£’00

0 £’

000

£’00

0 £’

000

£’00

0

Gos

od ta

i cym

deith

asol

(Nod

yn 2

b)

11,5

95

(8,8

61)

2,73

4 10

,877

(8

,482

) 2,

395

Gw

eith

gare

ddau

era

ill o

ran

tai c

ymde

ithas

ol

G

arej

ys

196

- 19

5 18

6 -

186

Gw

asan

aeth

au M

edra

44

(4

0)

4 20

(1

65)

(145

)G

rant

iau

refe

niw

era

ill 81

-

81

23

- 23

Erai

ll 24

3 -

243

241

24

1

——

——

——

——

——

——

——

——

——

12,1

58

(8,9

01)

3,25

7 11

,347

(8

,647

) 2,

700

══

══

══

══

══

══

══

══

══

══

══

══

══

══

══

2a. TROSIANT, COSTAU GWEITHREDU A GWARGED WEITHREDOL

Nodiadau i’r Datganiadau Ariannolar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben 31 o Fawrth 2018

2b. MANYLION INCWM A GWARIANT O OSOD TAI CYMDEITHASOL

2018 2018 2017 2017 Tai anghenion Tai anghenion cyffredinol a cyffredinol a chysgodol Cyfanswm chysgodol Cyfanswm £’000 £’000 £’000 £’000 INCWM Rhent derbyniadwy 10,479 10,479 9,864 9,864 Incwm tâl gwasanaeth 657 657 575 575 Amorteiddio grantiau 218 218 198 198 Cefnogi Pobl 241 241 240 240 ———— ———— ———— ———— Trosiant o osod tai cymdeithasol 11,595 11,595 10,877 10,877 ———— ———— ———— ———— COST

Costau rheolaeth (2,152) (2,152) (2,146) (2,146) Costau tâl gwasanaeth (362) (362) (386) (386) Cynnal a chadw yn y drefn arferol (2,162) (2,162) (2,092) (2,092) Drwgddyledion (11) (11) (27) (27) Dibrisiant (2,491) (2,491) (2,277) (2,277) Costau eraill (1,683) (1,683) (1,554) (1,554) ———— ———— ———— ———— Costau gweithredu ar osod tai cymdeithasol (8,861) (8,861) (8,482) (8,482) ———— ———— ———— ———— Gwarged weithredol ar osod tai cymdeithasol 2,734 2,734 2,395 2,395 ══════ ══════ ══════ ══════

Colled rhent ar leoedd gwag (nodyn memorandwm) 56 56 110 110 ══════ ══════ ══════ ══════

42 43

Page 24: ARFS Cymraeg for Website - Tai Ceredigion...Y mae Grŵp Monitro Tai Ceredigion (GMTC) yn dal i gwrdd yn fisol ag uwch dimau, gan archwilio a herio penderfyniadau ar ran yr ... benodwyd

3. GWARGED AR WERTHU MEDDIANNAU TAI 2018 2017 £’000 £’000 Enillion o werthu meddiannau 172 371 Treuliau gwerthu (3) (5) ———— ———— Gwarged ar werthu 169 366 ══════ ══════

4. GWARGED AR GYFER Y FLWYDDYN

2018 2017 Datgenir gwarged y flwyddyn ar ôl codi/(credydu): £’000 £’000

Dibrisiant 2,491 2,277 Tâl yr archwilydd allanol - - yn eu swyddogaeth fel arcwhilwyr 17 17 Gwarged ar werthu asedau sefydlog (169) (366) Amorteiddio grant (218) (198)

5. TRETHIANT

Y mae gweithgareddau elusennol Tai Ceredigion Cyf wedi’u heithrio o drethiant o dan Adran 505 o Ddeddf Trethi Incwm a Chorfforaeth 1988.

6 GWEITHWYR CYFLOGEDIG 2018 2017 Nifer Nifer Nifer fisol gyfartalog y gweithwyr cyflogedig (gan gynnwys Cyfarwyddwyr Gweithredol) wedi’i mynegi fel cyfwerth ag amser llawn Gweinyddu 15 15 Gwasanaethau gweithredol - Yn y swyddfa 56 54 - Rheolwyr cynllun a glanhawyr 10 10 - Tîm atgyweiriadau cymunedol 53 47 ———— ———— 134 126 ══════ ══════ 2018 2017 £’000 £’000 Costau staff: Cyflogau 3,439 3,171 Costau nawdd cymdeithasol 309 289 Costau pensiwn 250 241 ———— ———— Cyfanswm 3,998 3,701 ══════ ══════

Nodiadau i’r Datganiadau Ariannolar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben 31 o Fawrth 2018

6 GWEITHWYR CYFLOGEDIG (PARHAD)Nifer y staff cyfwerth ag amser llawn a dderbyniodd daliadau gan gynnwys cyfraniadau pensiwn dros £50,000 oedd:

Band Cyflog 2018 2017 Nifer Nifer

£50,000 - £59,999 3 4 £60,000 - £69,999 2 - £70,000 - £79,999 - 1 £80,000 - £89,999 1 1 £90,000 - £99,999 2 1 £100,000 - £109,999 - - £110,000 - £119,999 - - £120,000 - £129,999 1 1

7. TÂL PERSONÉL RHEOLAETH ALLWEDDOL 2018 2017 £’000 £’000 Cyflogau 549 495 Costau Nawdd Cymdeithasol 65 59 Costau Pensiwn Eraill 58 50

Aelodau’r Bwrdd Cyflogau - - Costau Nawdd Cymdeithasol - - Costau Pensiwn Eraill - - Treuliau 2 2 ———— ———— 674 606 ══════ ══════

Tâl y Prif Weithredwr, ———— ———— heb gynnwys cyfraniadau pensiwn 114 111 ══════ ══════

Y mae’r Prif Weithredwr yn aelod cyffredin o’r cynllun pensiwn ac nid yw’n derbyn dim telerau mwy ffafriol nac arbennig.

8. COSTAU LLOG A CHYLLIDO 2018 2017 £’000 £’000 Llog ar fenthyciadau - i’w dalu mewn rhandaliadau mewn mwy na 5 mlynedd 1,418 1,348 Costau cyllido pensiynau (Gweler nodyn 20) 74 39 ———— ———— 1,492 1,387 ══════ ══════

44 45

Page 25: ARFS Cymraeg for Website - Tai Ceredigion...Y mae Grŵp Monitro Tai Ceredigion (GMTC) yn dal i gwrdd yn fisol ag uwch dimau, gan archwilio a herio penderfyniadau ar ran yr ... benodwyd

9. ASEDAU SEFYDLOG DIRIAETHOL – MEDDIANNAU TAI Meddiannau Meddiannau Meddiannau Cyfanswm Tai a Tai’n Cael eu Tai ar Gadw Gwblhawyd Hadeiladu i’w Gwerthu COST £’000 £’000 £’000 £’000

Ar 1 Ebrill 2017 51,186 2,840 22 54,048 Ychwanegiadau 4,322 3,044 - 7,366 Gwarediadau (13) - - (13) ———— ———— ———— ———— Ar 31 Mawrth 2018 55,495 5,884 22 61,401 ══════ ══════ ══════ ══════

DIBRISIANT Ar 1 Ebrill 2017 7,768 - 4 7,772 Codiant yn y flwyddyn 2,299 - 1 2,300 Gwarediadau (13) - - (13) ———— ———— ———— ———— Ar 31 Mawrth 2018 10,054 - 5 10,059 ══════ ══════ ══════ ══════

GWERTH LLYFR NET ———— ———— ———— ———— Ar 31 Mawrth 2018 45,441 5,884 17 51,342 ══════ ══════ ══════ ══════ Ar 31 Mawrth 2017 43,437 2,840 - 46,277 ══════ ══════ ══════ ══════

Derbyniodd Tai Ceredigion y stoc dai gan Gyngor Sir Ceredigion a’i werth yn sero ar y sail bod y gwariant yr oedd ei angen i ddod â’r eiddo i fyny i Safon Ansawdd Tai Cymru’n fwy na gwerth yr eiddo, a hynny’n seiliedig ar brisiad a wnaed gan Savills.

Ychwanegiadau at feddiannau wedi’u cwblhau ar gadw i’w gosod 2018 2017 £’000 £’000 Cydrannau newydd yn lle hen rai 3,213 4,089 Prynu meddiannau a oedd eisoes yn bod 633 373 Datblygiadau 395 3,116 Gwelliannau 81 51 ———— ———— 4,322 7,629 Codiant ar y Datganiad Incwm Cynhwysfawr 2,162 2,092 ———— ———— Cyfanswm gwariant ar feddiannau wedi’u cwblhau 6,484 9,721 ══════ ══════

Nodiadau i’r Datganiadau Ariannolar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben 31 o Fawrth 2018

Ti

r A

deila

dau

Med

dian

nau

Gw

ella

O

ffer

Cer

byda

u//

Cyf

answ

m

Le

sdda

liado

l M

asna

chol

Sw

yddf

eydd

TG

Er

aill

CO

ST

£’00

0 £’

000

£’00

0 £’

000

£’00

0 £’

000

£’00

0

Ar 1

Ebr

ill 20

17

156

407

- 43

1,

101

951

2,65

8Yc

hwan

egia

dau

- -

300

9 65

54

42

8G

war

edia

dau

- -

- -

- (8

2)

(82)

——

——

——

——

——

——

——

——

——

——

Ar 3

1 M

awrth

201

8 15

6 40

7 30

0 52

1,

166

923

3,00

4

——

——

——

——

——

——

——

——

——

——

——

DIB

RIS

IAN

T

Ar 1

Ebr

ill 20

17

- 57

-

29

874

813

1,77

3C

odia

nt y

n y

flwyd

dyn

- 17

-

4 86

84

19

1G

war

edia

dau

- -

- -

- (8

2)

(82)

——

——

——

——

——

——

——

——

——

——

—Ar

31

Maw

rth 2

018

0 74

0

33

960

815

1,88

2

——

——

——

——

——

——

——

——

——

——

——

DIF

FYG

IAN

T

Ar 1

Ebr

ill 20

17

- -

- -

- -

-C

odia

nt y

n y

flwyd

dyn

- -

135

- -

- 13

5

——

——

——

——

——

——

——

——

——

——

——

Ar 3

1 M

awrth

201

8 0

0 13

5 0

0 0

135

——

——

——

——

——

——

——

——

——

——

—G

WER

TH L

LYFR

NET

——

——

——

——

——

——

——

——

——

——

—Ar

31

Maw

rth 2

018

156

333

165

19

206

108

986

══

══

══

══

══

══

══

══

══

══

══

══

══

══

══

══

══

═Ar

31

Maw

rth 2

017

156

351

0 14

22

7 13

8 88

5

══

══

══

══

══

══

══

══

══

══

══

══

══

══

══

══

══

══

10. EIDDO, PEIRIANNAU AC OFFER ERAILL

46 47

Page 26: ARFS Cymraeg for Website - Tai Ceredigion...Y mae Grŵp Monitro Tai Ceredigion (GMTC) yn dal i gwrdd yn fisol ag uwch dimau, gan archwilio a herio penderfyniadau ar ran yr ... benodwyd

11. DYLEDWYR 2018 2017 £’000 £’000 Ôl-ddyledion rhent a thâl gwasanaeth gros 218 248 Llai: darpariaeth ar gyfer drwgddyledion (63) (62) ———— ———— Ôl-ddyledion rhent net 155 186 Rhagdaliadau ac incwm cronedig 955 841 1,110 1,027 ══════ ══════ Symiau sy’n dod yn ddyledus ar ôl mwy nag un flwyddyn: Cytundeb cysgodfa TAW 22,053 20,866 ———— ———— 23,163 21,893 ══════ ══════

12. STOCRESTRAU 2018 2017 £’000 £’000 Stoc o ddefnyddiau 17 12 ══════ ══════

13. CREDYDWYR: SYMIAU SY’N DOD YN DDYLEDUS O FEWN UN FLWYDDYN 2018 2017 £’000 £’000 Credydwyr masnach 1,644 714 Taliadau rhent wedi’u derbyn ymlaen llaw 262 257 Grant Tai Cymdeithasol wedi’i dderbyn ymlaen llaw 4,796 4,198 Grantiau llywodraeth - incwm gohiriedig 226 199 Croniadau a chredydwyr eraill 733 1,168 Benthyciad yn ddyledus o fewn un flwyddyn - 203 ———— ———— 7,661 6,739 ══════ ══════

14. CREDYDWYR: SYMIAU SY’N DOD YN DDYLEDUS AR ÔL MWY NAG UN FLWYDDYN

2018 2017 £’000 £’000 Benthyciad yn ddyledus ar ôl mwy nag un flwyddyn 20,159 20,127 Grantiau llywodraeth - incwm gohiriedig 14,655 12,325 Cytundeb cysgodfa TAW 22,054 20,866 ———— ———— 56,868 53,318 ══════ ══════

Diogelir benthyciadau tai drwy godiant ar yr holl stoc eiddo ym mherchenogaeth Tai Ceredigion ar ôl trosglwyddo. I ariannu’r gwaith ar gyfer Safon Ansawdd Tai Cymru y mae Tai Ceredigion wedi trefnu cyfleuster benthyciad o £35m, i’w dynnu i lawr dros nifer o flynyddoedd.

Nodiadau i’r Datganiadau Ariannolar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben 31 o Fawrth 2018

14. (PARHAD)

Dadansoddiad Dyledion - Benthyciadau Tai 2018 2017 £’000 £’000 Un flwyddyn neu lai - 203 Mwy nag un flwyddyn a llai na dwy flynedd - - Mwy na dwy a llai na phum mlynedd - - Ymhen mwy na phum mlynedd 20,159 20,127 ———— ———— 20,159 20,330 ══════ ══════

Y mae £20m wedi’u tynnu i lawr o’n cyfleuster gyda Banc Barclays ar gyfraddau llog sefydlog. Ar 31 o Fawrth 2018, y mae gan Tai Ceredigion gyfleusterau benthyciad nas tynnwyd i lawr o £15m.

Incwm Gohiriedig - Grantiau Llywodraeth 2018 2017 £’000 £’000 Ar 1 Ebrill 2017 12,524 10,966 Grant yn dderbyniadwy 975 155 Grant yn dderbyniadwy - Gwaddol LlC 1,600 1,600 Amorteiddiad i’r Datganiad Incwm Cynhwysfawr (218) (197) ———— ———— Ar 31 Mawrth 2018 14,881 12,524 ══════ ══════ Yn ddyledus o fewn un flwyddyn 226 199 ══════ ══════ Yn ddyledus ar ôl un flwyddyn 14,655 12,325 ══════ ══════

15. CYFALAF CYFRANDDALIADAU DI-ECWITI 2018 2017 £ £ Cyfranddaliadau am £1 yr un, wedi’u dosrannu a’u dyroddi Ar 1 Ebrill 2017 238 218 Dyroddwyd yn ystod y flwyddyn 17 20 ———— ———— Ar 31 Mawrth 2018 255 238 ══════ ══════

48 49

Page 27: ARFS Cymraeg for Website - Tai Ceredigion...Y mae Grŵp Monitro Tai Ceredigion (GMTC) yn dal i gwrdd yn fisol ag uwch dimau, gan archwilio a herio penderfyniadau ar ran yr ... benodwyd

16. YMRWYMIADAU CYFALAF 2018 2017 £’000 £’000 Gwariant cyfalaf wedi’i gontractio ond heb ddarpariaeth 5,986 6,426 ar ei gyfer yn y datganiadau ariannol ══════ ══════

Gwariant cyfalaf wedi’i awdurdodi gan y Bwrdd ond heb ei gontractio 4,735 4,311 ══════ ══════ Drwy gyfleusterau banc sydd eisoes i’w cael yr ariennir yr ymrwymiadau uchod.

17. YMRWYMIADAU ARIANNOL ERAILL 2018 2017 Tir ac Tir ac Adeiladau Eraill Adeiladau Eraill £’000 £’000 £’000 £’000 Prydlesi eraill a dderfydd: O fewn un flwyddyn - 20 - 20 O fewn un i bum mlynedd - 31 - 50 Ar ôl pum mlynedd - - - - ———— ———— ———— ———— - 51 - 70 ══════ ══════ ══════ ══════

18. STOC DAI 2018 2017 Nifer Nifer Nifer yr unedau mewn rheolaeth

Llety tai i’w osod: Tai cyffredinol 1,931 1,919 Tai cysgodol 312 314 Rhenti canolradd 29 30 ———— ———— Cyfanswm ar rent 2,272 2,263 ══════ ══════

Unedau eraill Prydlesi hawl i brynu 123 132 Rhanberchnogaeth - - Garejys 682 690 Prydlesi Eiddo Masnachol - -

Nodiadau i’r Datganiadau Ariannolar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben 31 o Fawrth 2018

19. OFFERYNNAU ARIANNOLY mae gwerth llyfr asedau a rhwymedigaethau ariannol y Gymdeithas wedi’u crynhoi fesul categori isod:

Asedau Ariannol 2018 2017 £’000 £’000 Wedi’u mesur wrth y swm disgowntiedig sy’n dderbyniadwy Ôl-ddyledion rhent yn ariannu trafodion (gweler nodyn 11) 218 248 ══════ ══════ Rhwymedigaethau Ariannol Wedi’u mesur wrth gost amorteiddiedig Benthyciadau’n daladwy (gweler nodyn 14) 20,159 20,127 Wedi’u mesur wrth y swm heb ei ddisgowntio sy’n daladwy Credydwyr masnach ac eraill (gweler nodyn 13) 1,644 714 ———— ———— 21,803 20,841 ══════ ══════

20. CYNLLUN PENSIWNY mae Tai Ceredigion yn cyfranogi o Gronfa Bensiwn Dyfed. Derbyniwyd yr wybodaeth ganlynol gan actiwarïaid y Gronfa.Ar gyfer y flwyddyn sy’n dechrau 1 Ebrill 2018 y cyfraniadau cyflogwr fydd 15.8% o’r cyflog pensiynadwy. Y Gost Wasanaeth Gyfredol gyllidebol ar gyfer y flwyddyn sy’n dechrau 1 Ebrill 2018 yw rhyw 30.4% o gyflogau pensiynadwy a’r disgwyl yw y bydd hynny’n rhoi cost wasanaeth fras o £379,000.

Eitemau’r Datganiad Sefyllfa Ariannol fel y safent ar 31 o Fawrth 2018 2017 £’000 £’000 Gwerth presennol ymrwymiadau budd a ariennir 13,175 13,188 Gwerth presennol ymrwymiadau budd nas ariennir - - Cyfanswm gwerth presennol ymrwymiadau budd 13,175 13,188 Gwerth teg asedau’r cynllun (10,625) (10,268) Cost wasanaeth a fu nas cydnabyddir - - ———— ———— Diffyg 2,550 2,920 ———— ———— Cydrannau cost pensiwn ar gyfer y flwyddyn hyd at 31 o Fawrth 2018 Cost Wasanaeth Gyfredol 407 290 Llog ar Rwymedigaethau Pensiwn 74 39 Treuliau Gweinyddu 7 8 Cost wasanaeth a fu (ennill) - - Effaith Cwtogiadau neu Setliadau - - Effaith terfyn uchaf asedau - - ———— ———— Cyfanswm y gost bensiwn a gydnabyddir yn SOCI 488 337 ———— ———— Datganiad incwm cynhwysfawr arall Ailfesuriadau (rhwymedigaethau ac asedau) (727) 1,549 Effaith terfyn uchaf asedau - - ———— ———— Cyfanswm yr ailfesuriadau a gynhwysir yn y SOCI (727) 1,549 ———— ————

50 51

Page 28: ARFS Cymraeg for Website - Tai Ceredigion...Y mae Grŵp Monitro Tai Ceredigion (GMTC) yn dal i gwrdd yn fisol ag uwch dimau, gan archwilio a herio penderfyniadau ar ran yr ... benodwyd

20. (PARHAD) Eitemau datgeliad ychwanegol Asedau ar 31 Mawrth 2018 Asedau ar 31 Mawrth 2017 £’000 % £’000 % Soddgyfrannau 7,501 70.6% 7,239 70.5% Bondiau llywodraeth - 0.0% - 0.0% Bondiau eraill 2,061 19.4% 1,992 19.4% Eiddo 999 9.4% 955 9.3% Aran parod/hylifedd 64 0.6% 82 0.8% Eraill - 0.0% - 0.0% ———— ———— Cyfanswm 10,625 10,268 ———— ————

Newid yn yr ymrwymiad buddion yn ystod y flwyddyn hyd 31 Mawrth 2018 £’000 £’000 Buddion Holl nas ariennir fuddion Ymrwymiad buddion ar ddechrau’r cyfnod - 13,188 Cost wasanaeth gyfredol - 407 (32.6% o’r gyflogres bensiynadwy) Llog ar ymrwymiadau pensiwn - 341 Cyfraniadau aelodau - 87 Cost wasanaeth a fu - - Ailfesuriad (ymrwymiadau) Profiad (ennill)/colled 0 (0.0% o rwymedigaethau diwedd cyfnod) (Ennill)/colled ar ragdybiaethau - (623) (4.7% o rwymedigaethau diwedd cyfnod) Cwtogiadau - - Setliadau - - Buddion/trosglwyddiadau a dalwyd - (225) Cyfuniadau busnes - - ———— ———— Ymrwymiad buddion ar ddiwedd y cyfnod - 13,175 ———— ————

Newid yn asedau’r cynllun yn ystod y flwyddyn hyd at 31 o Fawrth 2018 Gwerth teg asedau’r cynllun ar ddechrau’r cyfnod - 10,268 Enillion disgwyliedig ar asedau’r cynllun - 267 Ailfesuriadau (asedau) - 104 (1.0% asedau diwedd cyfnod) Treuliau gweinyddu - (7) Cyfuniadau busnes - - Setliadau - - Cyfraniadau cyflogwr - 131 Cyfraniadau aelodau - 87 Buddion/trosglwyddiadau a dalwyd - (225) ———— ———— Gwerth teg asedau’r cynllun ar ddiwedd y cyfnod - 10,625 ———— ————

Enillion Gwirioneddol ar asedau’r cynllun 372 (3.5% of period end assets)

Nodiadau i’r Datganiadau Ariannolar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben 31 o Fawrth 2018

20. (PARHAD)Crynodeb o’r rhagdybiaethau actiwaraidd a ddefnyddiwydRhagdybiaethau ariannol (Proffeil parhad cyfartalog rhwymedigaethau ar ddiwedd y cyfnod cyfrifyddu) Dechrau’r cyfnod Diwedd y cyfnod - Cyfradd chwyddiant CPI / buddion CARE 2.3% 2.1% - Cyfradd cynnydd mewn cyflogau 3.8% 3.6%* - Cyfradd cynnydd mewn pensiynau 2.3% 2.2% - Cyfradd disgowntio 2.6% 2.7%* gwnaed addasiad am gyfyngiad byrdymor ar dâl yn y sector gyhoeddus yn unol â’r prisiad actiwaraidd diweddaraf

Manylion asedau’r holl gronfa Gwerth (£m) Pennwyd ar: - Prisiad actiwaraidd diwethaf 1,900 31 Mawrth 2016 - Dechrau’r cyfnod 2,236 31 Rhagfyr 2016 - Diwedd y cyfnod 2,535 31 Rhagfyr 2017

21. PARTÏON CYSYLLTIEDIGY mae Tai Ceredigion yn cael ei reoli gan Fwrdd Rheoli (y Bwrdd) o hyd at ddeuddeg o bobl. Tenantiaid yw dau o aelodau’r Bwrdd. Darperir y tenantiaethau ar sail telerau safonol Tai Ceredigion. Yn ystod blwyddyn ariannol 2017/18, y rhent a dderbyniwyd gan yr aelodau Bwrdd sy’n denantiaid oedd £9,936. Ni all aelodau’r Bwrdd ddefnyddio eu safle er eu lles eu hunain. Cynghorwyr o Gyngor Sir Ceredigion yw pedwar o aelodau’r Bwrdd. Ar hyd braich y gwneir unrhyw drafodion â’r Cyngor, ar delerau masnachol arferol, ac ni all yr aelodau Bwrdd o’r Cyngor ddefnyddio eu safle er lles y Cyngor. Gwelir isod grynodeb o’r taliadau a wnaed i Gyngor Sir Ceredigion yn ystod 2017/18:

Gweithfeydd Trin Carthion £90,000 Cytundebau Lefel Gwasanaeth £122,465 MOT/trin cerbydau £10,868 Didyniad cyflogres £2,598 Treth Gyngor / AAG £14,178 Ffïoedd Cynllunio/Rheoliadau adeiladu £6,531 Gordalu Budd-dal Tai £3,851 Taliadau amrywiol £15,753 £266,244

Fel y safai materion ar 31ain o Fawrth 2018, yr oedd Tai Ceredigion yn dal Cyngor Sir Ceredigion yn gredydwr yn ei Ddatganiad Sefyllfa Ariannol gwerth £14,389 am dalu AAG, Treth Gyngor a chynnal a chadw cerbydau. Yr oedd hefyd yn dal Cyngor Sir Ceredigion yn ddyledwr gwerth £61,237 am dâl Cefnogi Pobl y 4ydd chwarter (£55,589) ac ailgodi taliadau amrywiol.Aelodau annibynnol yw gweddill aelodau’r Bwrdd i gyd.

22. CYTUNDEB DATBLYGUYmgymerodd Tai Ceredigion Cyf â Chytundeb Datblygu yn gyd-ddigwyddiadol â dyddiad trosglwyddo’r stoc dai oddi wrth Gyngor Sir Ceredigion (CSC), i gyflawni rhaglen wedi’i chytuno o waith adnewyddu ar yr eiddo. Gwerth y gwaith hwn oedd £71.5m (heb gynnwys TAW). Cafodd y gost i CSC o gontractio am y gwaith hwn a oedd i’w wneud ei wrthbwyso yn erbyn cynnydd cyfartal ym mhris prynu’r stoc a dalwyd gan Tai Ceredigion. Caiff y gwaith wedi’i gontractio ei gyflawni dros gyfnod a ragwelir o 15 mlynedd a chaiff ei gydnabod wrth iddo gael ei wneud, yn unol â’r polisi cyfrifyddu ar gyfer atgyweiriadau mawr, cylchdröol ac ymatebol. Os digwydd bod Tai Ceredigion yn dewis peidio â chwblhau’r gwaith a nodwyd, gellir terfynu’r cytundeb datblygu heb unrhyw golled ariannol i Tai Ceredigion. Gweler Nodiadau 11 a 14 am y symiau a arhosai’n weddill ar 31 o Fawrth 2018.

52 53

Page 29: ARFS Cymraeg for Website - Tai Ceredigion...Y mae Grŵp Monitro Tai Ceredigion (GMTC) yn dal i gwrdd yn fisol ag uwch dimau, gan archwilio a herio penderfyniadau ar ran yr ... benodwyd

23. DIGWYDDIADAU AR ÔL Y FANTOLENAr y 1af o Ebrill 2018, creodd Tai Ceredigion strwythur grŵp lle daeth elusen ddigartrefedd leol, sef y Gymdeithas Gofal, yn is-gwmni elusennol i’r Gymdeithas. Y mae Llywodraeth Cymru’n nodi gofynion i gymdeithasau tai sydd wedi’u cofrestru yng Nghymru o ran strwythurau grŵp. Y mae’r rhain wedi’u hesbonio’n llawn yn y cylchlythyr i Gymdeithasau Tai RSL 05/08.

Nodiadau i’r Datganiadau Ariannol Nodiadauar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben 31 o Fawrth 2018

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

5554

Page 30: ARFS Cymraeg for Website - Tai Ceredigion...Y mae Grŵp Monitro Tai Ceredigion (GMTC) yn dal i gwrdd yn fisol ag uwch dimau, gan archwilio a herio penderfyniadau ar ran yr ... benodwyd