ysgol gymunedol pentrefoelas cymraeg.pdfmae pynciau’r cwricwlwm 7 – 11 oed yn cynnwys: mae’n...

26
1 YSGOL Gymunedol Pentrefoelas 2017-2018 Mae’r ddogfen hon ar gael mewn ffurfiau eraill

Upload: others

Post on 14-Feb-2021

2 views

Category:

Documents


0 download

TRANSCRIPT

  • 1

    YSGOL Gymunedol Pentrefoelas

    2017-2018

    Mae’r ddogfen hon ar gael mewn ffurfiau eraill

  • 2

    CYNNWYSCYNNWYSCYNNWYSCYNNWYS

    1 Llythyr o groeso 2 Rhifau ffôn defnyddiol 3 Nôd ac Amcanion Ysgol Pentrefoelas 4a Y Corff Llywodraethol 4b Y Corff Llywodraethol a polisiau 5 Polisi Iaith 6a Y Cwricwlwm 6b Gwersi Offerynnol 7 Staff 8a Trefniadau a Pholisi Derbyn Disgyblion 8b Iechyd a Diogelwch 9 Addysg Blynyddoedd Cynnar – Dosbarth Meithrin a Derbyn 10 Trefniadau Trosglwyddo i Ysgol Uwchradd 11 Polisi Codi Tâl 12 Trefn Gwyno 13a Gofal a Disgyblaeth 13b Cyngor Ysgol 14a Dyddiadau / Gwyliau’r Ysgol 14b Amserlen 15 Addysg Grefyddol a Chyd-Addoli 16 Addysg Rhyw 17 Addysg Bersonol a Chymdeithasol 18 Trefn amddiffyn Plant 19a Salwch 19b Salwch tra yn yr ysgol 19c Moddion 20 Absenoldebau / Presenoldeb 20b Trefniadau Tywydd Drwg 21 Teithiau Allan o’r Ysgol 22 Cymdeithas Rhieni ac Athrawon 23 Gwaith Cartref 24 Addysg Gorfforol 25 Cylchlythyrau 26 Addysg Dysgu Ychwanegol/Plant dan Ofal 27 Disgyblion ag Anabledd 28 Cyfle Cyfartal 29 Cinio Ysgol 30a Colur a Chlustdlysau 30b Ffonau Symudol 31 Gwisg Ysgol 32 Cyfarfod Blynyddol y Rhieni 33 Cyswllt â’r Rhieni / Cartref / Cymuned 34 Cludiant 35 Gweithgareddau Ychwanegol 36 Clwb Brecwast 37 Clybiau ar ôl ysgol 38 Gwybodaeth Bersonol 39 Dyddiadau Tymhorau a Gwyliau 2017-2018 40 Presenoldeb

  • 3

    Llythyr o GroesoLlythyr o GroesoLlythyr o GroesoLlythyr o Groeso

    Ysgol Pentrefoelas

    Betws-y-coed LL24 0LE

    Pennaeth/Headteacher: Mrs Ann E. Jones B.Add / B.Ed E-bost/E-mail: [email protected] Ffôn/Phone: 01690 770226

    ***************************************************************************************************************** Annwyl Rieni Pwrpas y prospectws hwn yw eich helpu i wybod mwy am fywyd a gwaith yn Ysgol Pentrefoelas. Ysgol Gynradd Cymunedol cyfrwng Cymraeg ydym sy’n darparu addysg ar gyfer bechgyn a merched rhwng 3 a 11 oed. Ein nôd yw darparu amgylchedd llawn gofal i’ch plentyn a chyflwyno ystod eang o brofiadau dysgu, i holl blant yr ysgol er mwyn eu cynorthwyo i ddatblygu yn feddyliol, yn gymdeithasol ac yn emosiynol. Credwn, mai trwy gyd weithio agos rhwng yr ysgol a’r cartref y bydd eich plentyn yn elwa fwyaf. Yr ydym fel staff yn barod bob amser i drafod unrhyw agwedd o ddatblygiad eich plentyn. Mae’r wybodaeth a geir yn y prospectws hwn yn gywir ar hyn o bryd, ond fe fydd angen newid rhai pethau o bryd i’w gilydd. Cewch ragor o wybodaeth os bydd amgylchiadau yn newid. Mae polisi 'drws agored' yn yr ysgol ac mae croeso i chwi ffonio neu alw mewn trwy drefniant i siarad â'r pennaeth. Nid yw’n bosibl bob amser i siarad ac athrawon yr ysgol yn fyrfyfyr, ond mae croeso i chi wneud apwyntiad i siarad â’r athrawon ar amser cyfleus. Edrychwn ymlaen at gyd weithio gyda chi er mwyn sicrhau y bydd cyfnod eich plentyn yn yr ysgol hon yn gyfnod hapus a llwyddiannus. Yr eiddoch yn gywir Ann E. Jones Pennaeth

  • 4

    2222 RHIFAU FFÔN DEFNYDDIOLRHIFAU FFÔN DEFNYDDIOLRHIFAU FFÔN DEFNYDDIOLRHIFAU FFÔN DEFNYDDIOL

    YR YSGOL:

    Pennaeth: Mrs Ann E. Jones

    � 01690 770226

    Y LLYWODRAETHWYR:

    Cadeirydd: Mr Paul Williams

    � 01690 710323

    Clerc: Mrs Helen Hitchmough

    � 01490 460250

    YR AWDURDOD ADDYSG:

    Yr Adran Addysg Adeiladau’r Llywodraeth

    Ffordd Dinerth Bae Colwyn LL28 4UL

    � 01492 575031/2

  • 5

    3333 NÔD AC AMCANION YSGOL PENTREFOELASNÔD AC AMCANION YSGOL PENTREFOELASNÔD AC AMCANION YSGOL PENTREFOELASNÔD AC AMCANION YSGOL PENTREFOELAS Ysgol gynradd naturiol Gymraeg yw Ysgol Pentrefolas a Chymraeg yw cyfrwng y dysgu a’r gweinyddu. Ethos Gymreig sydd i’r ysgol.

    NÔDNÔDNÔDNÔD Creu amgylchfyd ac awyrgylch lle y gall disgybl dyfu, datblygu ac aeddfedu i ddod yn unigolyn hyderus, yn ymwybodol o lệs eraill, ac yn aelod cyfrifol o’r gymdeithas. Cynnig addysg o’r ansawdd uchaf posibl sydd yn adlewyrchu gofynion yr Awdurdod, y Llywodraeth, y gymdeithas a’r unigolyn.

    AMCANIONAMCANIONAMCANIONAMCANION Y Plentyn Ennyn hyder a brwdfrydedd ymhob unigolyn i ymgyrraedd at ei botensial ac i

    ymhyfrydu yn eu llwyddiannau eu hunain ac eraill. Datblygu pob rhan o bob disgybl, boed hynny’n ysbrydol, yn foesol, yn

    ddiwylliannol, yn gymdeithasol, yn feddyliol ac yn gorfforol. Sicrhau cyfle cyfartal i bob plentyn. Y Cwricwlwm Darparu cwricwlwm eang, perthnasol, gwahaniaethol a chytbwys. Awyrgylch ac Ethos Sicrhau awyrgylch hapus, gweithgar, cartrefol, cyson, croesawus, positif sy’n

    sensitif i wahaniaethau rhwng plentyn a phlentyn. Ennyn a chadarnhau hunan-barch a chariad at eraill. Addysgu a Dysgu Cynllunio addysg o’r safon orau posib fel bod pob plentyn yn cyrraedd ei lawn

    botensial. Gosod targedau realistig a hyblyg fel nôd gan ganolbwyntio ar flaenoriaethau

    i wella ansawdd y dysgu a’r addysgu. Trefniadaeth Creu trefniadaeth sy’n hyrwyddo cydlynedd a chydbwysedd trwy’r ysgol gan

    fanteisio a gwerthfawrogi ar wahanol arbenigedd o fewn yr ysgol i sicrhau fod y disgyblion yn gallu manteisio ar amrywiaeth o brofiadau.

    Y Gymuned Hyrwyddo partneriaeth dda rhwng yr ysgol a’r rhieni. Rheolaeth a Sicrhau bod pawb yn gweithio tuag at yr un amcanion trwy cyd-gynllunio a Gweinyddol chyd-weithio i lunio a gweithredu polisiau yr ysgol. Adeiladau Cadw’r adeilad mewn cyflwr sy’n hybu diogelwch, cyfleustra a glanweithdra. Datblygiad Staff Sicrhau hyfforddiant perthnasol i’r holl staff. Adnoddau Sicrhau bod cyflenwad digonol o adnoddau dysgu ac addysgu a bod y plant

    yn cael manteisio arnynt.

  • 6

    4444aaaa Y CORFF LLYWODRAETHOLY CORFF LLYWODRAETHOLY CORFF LLYWODRAETHOLY CORFF LLYWODRAETHOL Dyddiad

    Mr Paul Williams (Cadeirydd) Cynrychiolydd AALI 27.02.17 Mr Hywel Williams Cynrychiolydd AALI 30.06.17 Mrs Carys Pierce Cynrychiolydd Rhieni 13.07.18 Mrs Mari Evans Cyfetholedig 31.12.19 Mr Gari Jones Cymunedol 03.11.17 Mrs Mags Williams Cynrychiolydd Staff 31.10.18 Mrs Nia Jones Cyfetholedig 23.06.18 Mr Gerallt Jones Is Gadeirydd Cynrychiolydd Rhieni 31.10.18 Mr Ieuan Lloyd Cynrychiolydd Rhieni 30.01.21 Mr Garffild Ll Lewis Cynghorydd Sir Sylwebydd Mrs Ann Jones Yn rhinwedd ei swydd Mrs Eleri Davies Cynrychiolydd Staff 30.06.17 Clerc – Mrs Helen Hitchmough

    BETH YW LLYWODRAETHWYR?BETH YW LLYWODRAETHWYR?BETH YW LLYWODRAETHWYR?BETH YW LLYWODRAETHWYR? Mae’r llywodraethwyr fel Bwrdd o Gyfarwyddwyr sy’n penderfynu ar sut mae’r ysgol yn cael ei rhedeg. Cynhelir cyfarfod o’r Corff Llywodraethol o leiaf un waith pob tymor. Penodir llywodraethwyr i gynorthwyo yn y canlynol: 1. Penderfynu beth a ddysgir 2. Gosod safonau ymddygiad 3. Cyfweld a phenodi staff 4. Penderfynu sut gwerir cyllid yr ysgol. Mae gan Lywodraethwyr ysgol ddyletswyddau cyfreithiol, pwerau a chyfrifoldebau. Gallent weithredu ar y cyd ac ni allent weithredu fel unigolion.

    RHIENI LLYWODRAETHWYRRHIENI LLYWODRAETHWYRRHIENI LLYWODRAETHWYRRHIENI LLYWODRAETHWYR 1. Mae ganddynt blentyn yn yr ysgol 2. Cant eu hethol gan rieni 3. Tymor eu swydd yw 4 blynedd fel y llywodraethwyr eraill.

    COFNODION CYFARFODYDD Y CORFF LLYWODRAETHOLCOFNODION CYFARFODYDD Y CORFF LLYWODRAETHOLCOFNODION CYFARFODYDD Y CORFF LLYWODRAETHOLCOFNODION CYFARFODYDD Y CORFF LLYWODRAETHOL Gellir gweld cofnodion o gyfarfodydd y Corff Llywodraethol yn swyddfa’r ysgol.

    4b Y CORFF LLYWODRAETHOL4b Y CORFF LLYWODRAETHOL4b Y CORFF LLYWODRAETHOL4b Y CORFF LLYWODRAETHOL / POLISIAU/ POLISIAU/ POLISIAU/ POLISIAU Mae’r broses o gyflwyno a chadarnhau polisiau’r ysgol yn un barhaus, a chant eu cadarnhau gan y Llywodraethwyr:

    5555 POLISI IAITHPOLISI IAITHPOLISI IAITHPOLISI IAITH

    Y BWRIAD: NÔD AC AMCANIONY BWRIAD: NÔD AC AMCANIONY BWRIAD: NÔD AC AMCANIONY BWRIAD: NÔD AC AMCANION Prif nôd yr ysgol yw sicrhau fod pob plentyn yn gwbl ddwyieithog cyn gadael i ysgolion uwchradd. Cymraeg fydd prif iaith ddysgu’r plant ond cyflwynir darllen Saesneg ym Ml 1. Pan ddaw hwyr-ddyfodiaid di-Gymraeg i’r ysgol, byddwn yn sensitif i ofynion ieithyddol y plant hynny.

  • 7

    DEFNYDDIO’R GYMRAEGDEFNYDDIO’R GYMRAEGDEFNYDDIO’R GYMRAEGDEFNYDDIO’R GYMRAEG Y Gymraeg yw iaith gyfathrebol yr ysgol hon. Mae dysgu’r iaith Gymraeg yn datblygu’r plentyn

    • i allu cyfathrebu

    • i gyfoethogi gwybodaeth a deall

    • i gydymffurfio â gofynion y Cwricwlwm Cenedlaethol

    • i werthfawrogi llenyddiaeth Gymraeg a’u treftadaeth a’u cymuned

    • i hyrwyddo’r ymwybyddiaeth o Gymreictod

    • i ddatblygu eu sgiliau gwrando, llefaru, darllen a sgwennu.

    ETHOS YR YSGOLETHOS YR YSGOLETHOS YR YSGOLETHOS YR YSGOL “Mae creu ethos Cymraeg mewn ysgol��yn sicr o gyfrannu at effeithiolrwydd y dysgu.” Ysgol naturiol Gymreig yw Ysgol Pentrefoelas. Mae’n hanfodol, felly, i ni adlewyrchu hyn drwy greu awyrgylch gartrefol Gymraeg a Chymreig. Dylid rhoi naws Gymreig i’r deunydd dysgu ar draws y Cwricwlwm.

    6666aaaa Y CWRICWLWMY CWRICWLWMY CWRICWLWMY CWRICWLWM Yn unol â gofynion Deddf Addysg 1986 mae’r Awdurdod Addysg wedi llunio, ac yn bwriadu adolygu’n rheolaidd, ddatganiad ysgrifenedig o’i bolisi mewn perthynas â’r cwricwlwm seciwlar. Dehonglir gofynion y Cwricwlwm Cenedlaethol yng nghyd-destun athroniaeth a pholisiau presennol yr Awdurdod. Dyfynnir isod ragair ac amcanion cyffredinol y datganiad fel y gwelir hwynt yn nogfen yr Awdurdod Addysg. Ers Medi 2016 gweithredir y cwricwlwm newydd. Dyfodol Llwyddiannus a Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd Cenedlaethol (FfLlRh). Mae yn rhan o gynlluniau’r cwricwlwm sy’n ymgorffori llythrennedd a rhifedd. Ym Medi 2016 dechreuwyd cyflwyno’r Cymhwysedd Digidol drwy defnydd o Hwb Dysgu Cymru Strwythur y FfLlRh: Mae’r FfLlRh yn disgrifio’n fanwl y sgiliau rydym yn disgwyl i blant a phobl ifanc eu caffael a’u meistroli o 5 i 14 oed. Mae dwy gydran i’r fframwaith - llythrennedd a rhifedd. Fe’u rhennir yn llinynnau fel a ganlyn. O fewn llythrennedd disgwyliwn i blant fod yn hyddysg mewn: - llafaredd ar draws y cwricwlwm - darllen ar draws y cwricwlwm - ysgrifennu ar draws y cwricwlwm. O fewn rhifedd disgwyliwn i blant a phobl ifanc fod yn hyddysg mewn: - datblygu ymresymu rhifyddol - defnyddio sgiliau rhif - defnyddio sgiliau mesur - defnyddio sgiliau data.

  • 8

    RHAGAIRRHAGAIRRHAGAIRRHAGAIR Pwrpas cyfundrefn addysg yw creu sefyllfaoedd a chyflenwi adnoddau fydd yn galluogi pob plentyn i dyfu yn bersonoliaeth lawn, i ddatblygu ac ymarfer ei holl ddoniau, fydd yn darparu ar ei gyfer yn ôl oedran, gallu a diddordeb, ac yn ei gymhwyso i fod yn aelod cyfrifol o gymdeithas ddwyieithog, yn aelod fydd yn gallu cyfrannu iddi a derbyn oddi wrthi, a byw mewn heddwch a brawdgarwch gyda’i gyd-ddyn. Y mae i’r datganiad cyffredinol hwn dair agwedd gyd-berthnasol: a) galluogi i bob plentyn i ddatblygu i’w lawn botensial. b) sicrhau bod pob plentyn yn cael ei gyflwyno i’r etifeddiaeth Gymreig. c) rhoi cyfle i bob plentyn ddatblygu fel aelod llawn o gymdeithas sy’n prysur newid.

    AMCANION CYFFREDINOLAMCANION CYFFREDINOLAMCANION CYFFREDINOLAMCANION CYFFREDINOL 1 Datblygu sgiliau llafaredd, llythrennedd a rhifedd yng nghyd-destun symbylu chwilfrydedd,

    dychymyg a diddordeb y plentyn.

    2 Cynyddu gwybodaeth y plentyn a datblygu ei allu i resymu er mwyn ei gynorthwyo i addasu i fyd sy’n cyflym newid ac yn mynd yn fwy soffistigedig yn ei brosesau a’i dechnegau, yn arbennig mewn perthynas â thechnoleg hysbysiaeth.

    3 Creu ym mhob plentyn yr awydd i geisio am fwy o wybodaeth a phrofiadau yn ystod ei fywyd a datblygu ei feddwl a’i synnwyr moesol ac ysbrydol.

    4 Cynorthwyo’r plentyn i fedru byw a gweithio gydag eraill a datblygu agweddau fydd yn ei alluogi i fod yn aelod cyfrifol o’r gymdeithas.

    5 Datblygu yn y plentyn sensitifrwydd, gwerthfawrogiad esthetig a sgiliau hamdden.

    6 Rhoi sylw arbennig i bob plentyn sydd ag anghenion arbennig, e.e. rhai eithriadol o alluog a rhai sydd dan anfanteision amrywiol.

    7 Cyflwyno syniadau a chysyniadau a hynny trwy ddulliau bywiog a deinamig sy’n hawlio ymateb y disgybl.

    Mewn perthynas â’r Cwricwlwm Cenedlaethol, mae’n orfodol i’r canlynol gael eu dysgu:

    Dathlu Gwyl Dewi 2016 efo Alun Tan Lan

  • 9

    Dat blygiad Personol a Chymdeithasol, Lles ac

    Amrywiaeth Diwylliannol

    Dwyieithrwydd

    Datblygiad Corfforol Datblygiad Creadigol

    Gwybodaeth a

    Dealltwriaeth o’r Byd

    Datblygiad

    Mathemategol

    Sgiliau Iaith, Llythrennedd a

    Chyfathrebu

    Y CYFNOD

    SYLFAEN

    Y Cyfnod Sylfaen:

    Meysydd y Cyfnod Sylfaen (CS):

    Ers Medi 2014 hefyd mae Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd yn rhan o’r Cwricwlwm o Bl Derbyn – Bl 6. Ymgorfforir y cwricwlwm hwn yn y meysydd Dysgu yn CS a’r pynciau yn CA2. Gwelir copi o’r Fframwaith ar www.learning.gov.wales/resources/

  • 10

    Cwricwlwm 7 – 11 oed Mae pynciau’r Cwricwlwm 7 – 11 oed yn cynnwys:

    Mae’n ofynnol i bob ysgol baratoi a datblygu cynllun cynhwysfawr yn seiliedig ar ddogfen yr Awdurdod Addysg ac yn unol â gofynion y Cwricwlwm Cenedlaethol. Bydd y cynllun hwn yn cynnwys manylion am y cwrs addysg a’r modd y mae’n cael ei weithredu er mwyn sicrhau bod yr addysg a gyfrennir i’r disgyblion yn cyfarfod yn llawn â’r amcanion sydd yn y ddogfen.

    PATRWM GWAITHPATRWM GWAITHPATRWM GWAITHPATRWM GWAITH Ceisir sicrhau bod yr addysg a ddarperir yn hybu datblygiad moesol a diwylliannol, meddyliol a chorfforol pob disgybl a bod natur y cwricwlwm cyflawn yn wahaniaethol, eang a chytbwys. I ymateb â’r gofynion hyn bydd trefniadaeth y dosbarth yn hyblyg; weithiau darperir gwaith ar sail oedran plant, dro arall bydd plant o ystod oedran sy’n rhychwantu mwy nag un blwyddyn ysgol yn cyd-weithio ar yr un dasg.

    ASESU, COFNODI AC ADRODD I RIENIASESU, COFNODI AC ADRODD I RIENIASESU, COFNODI AC ADRODD I RIENIASESU, COFNODI AC ADRODD I RIENI Asesir datblygiad plant y Blynyddoedd Cynnar yn rheolaidd, a chedwir cofnod manwl o ddatblygiad personol, profiadau a galluoedd disgyblion yn CS a CA2. Cedwir sampl o waith ym mhroffil disgyblion.

    Mathemateg

    Addysg Grefyddol

    Cerddoriaeth

    Celf a Dylunio

    Addysg Gorfforol

    Technoleg Gwybodaeth a

    Chyfathrebu

    Addysg Bersonol a

    Chymdeithasol

    Addysg

    Gynaliadwy

    Dylunio a

    Thechnoleg

    Hanes

    Daearyddiaeth

    Gwyddoniaeth

    Saesneg Cymraeg

    Y CWRICWLWM

    7 – 11 oed

  • 11

    Gwahoddir rhieni i’r ysgol i drafod cynnydd eu plant unwaith y tymor ond mae croeso i unrhyw riant gysylltu â’r ysgol i drafod hefo’r athrawon petaent yn dymuno. Derbyniodd y Corff Llywodraethol wybodaeth am Ganlyniadau Asesiad y Cwricwlwm Cenedlaethol ar gyfer y flwyddyn diwethaf. Roedd y Llywodraethwyr yn fodlon iawn â’r canlyniadau. Mae polisi a threfn asesu trwyadl wedi ei fabwysiadu ac wedi ei dyfarnu gan Arolygwyr eu Mawrhydi Mawrth 2004 i fod o safon uchel iawn.

    6b GWERSI OFFERYNNOL6b GWERSI OFFERYNNOL6b GWERSI OFFERYNNOL6b GWERSI OFFERYNNOL Bydd disgyblion Blynyddoedd 3, 4, 5 a 6 yn dysgu canu’r recorder fel rhan o’r gwersi cerdd. Cynygir y gwersi offerynnol canlynol i ddisgyblion Blwyddyn 3, 4, 5 a 6: piano a gitar. Bydd athro arbenigol yn dod i’r ysgol i ddysgu’r plant. Adolygir y ddarpariaeth yn gyson. Mae’r Corff Llywodraethol wedi penderfynu codi tâl / cyfraniad tuag at y gwesi yma. Bydd y tâl a’r ddarpariaeth yn cael ei adolygu o bryd i’w gilydd gan gymryd i ystyriaeth cost y gwasanaeth i’r ysgol a nifer y plant sy’n derbyn y gwersi. Efallai bydd disgwyl o bryd i’w gilydd i rieni brynu llyfrau cerdd. Rhoddir y cyfle i rai plant sy’n derbyn gwersi eistedd arholiadau cerdd yr Ysgolion Cerdd Brenhinol a bydd hyn yn golygu talu tâl ychwanegol. Ar ôl cyrraedd y safon ddisgwyliedig mae cyfle i ddisgyblion fynychu cerddorfa ieuenctid y Sir yn Ysgol Dyffryn Conwy, Llanrwst er mwyn iddynt gael y profiad o gyd chwarae gyda phlant o ysgolion eraill. Cewch ragor o fanylion oddi wrth yr athrawon unigol. Disgwylir i’r plant sy’n ymrwymo i dderbyn gwersi offerynnol eu cymryd am o leiaf 3 tymor.

    7777 STAFFSTAFFSTAFFSTAFF Pennaeth Mrs Ann Jones Athrawon Mrs Eleri Davies Gweinyddes Feithrin Mrs Amanda Caley/Miss Rebeca Lloyd Ysgrifenyddes Ms Llinos Ll. Jones Gofalwr a Glanhawraig Mrs Margaret Williams Cogyddes Mrs Kim Bunnagar Clwb Brecwast Mrs Julie Lloyd a Mrs Megan Roberts Uwch Oruchwylwraig Awr Ginio Mrs Pat Jones Athro Teithiol Piano Mr Dafydd Huw Pobl eraill sy’n dod i’r ysgol o bryd i’w gilydd: Athrawon Cyflenwi Miss Meinir Hughes Mrs Mair Roberts Mrs Nia M. Jones Mrs Dona Roberts * Seicolegydd Addysgol Mrs Nerys Hughes Nyrs Ysgol – Cynghorydd Iechyd Pobl Ifanc Nyrs Sian Edwards * Ni fydd y pobl yma yn gweld eich plant heb eich caniatad chi.

  • 12

    8888 TREFNIADAU A PHOLISI DERBYN DISGYBLIONTREFNIADAU A PHOLISI DERBYN DISGYBLIONTREFNIADAU A PHOLISI DERBYN DISGYBLIONTREFNIADAU A PHOLISI DERBYN DISGYBLION 8b IECHYD A DIOGELWCH8b IECHYD A DIOGELWCH8b IECHYD A DIOGELWCH8b IECHYD A DIOGELWCH Derbynnir plant i’r Adran Feithrin (rhan amser) yn y mis Medi ar ôl eu trydydd penblwydd ac i’r adran fabanod (amser llawn) yn y mis Medi ar ôl eu pedwerydd penblwydd h.y. gall unrhyw blentyn sy’n bedair oed erbyn 31 Awst gael eu derbyn ym Medi. Dylai unrhyw riant sy’n dymuno i’w plentyn fynychu’r ysgol, gysylltu â’r Pennaeth. Rydym yn ymrwymo i ddarparu addysg o ansawdd i’n holl ddisgyblion gan gynnwys Plant Mewn Gofal (PMG). Rydym yn credu fod gennym ‘ddyletswydd i ddiogelu plant sy’n derbyn gofal, i hyrwyddo eu cyflawniadau addysgol a sicrhau eu bod yn gallu cyflawni a chyrraedd eu potensial’. (Deddf Plant 2004). Mae gan yr ysgol bolisi sy’n sicrhau ein bod yn darparu a chynnal amgylchiadau gwaith diogel ac iach, ynghyd â chyfarpar a systemau gwaith i’r holl ddisgyblion a’r staff (dysgu ac ategol). Hefyd, rydym yn darparu gwybodaeth a hyfforddiant lle bo hynny’n bosibl neu’n angenrheidiol, ac arolygaeth i’r diben hwn. Gellir cael copi o bolisi Iechyd a Diogelwch yr ysgol o’r swyddfa. Caiff asesiadau risg eu cwblhau yn rheolaidd i sicrhau fod yr adeilad, y safle a mannau ymweld yn ddiogel i’r plant, i’r staff ac i ymwelwyr.

    9999 ADDYSG BLYNYDDOEDD CYNNAR ADDYSG BLYNYDDOEDD CYNNAR ADDYSG BLYNYDDOEDD CYNNAR ADDYSG BLYNYDDOEDD CYNNAR DOSBARTH MEITHRIN A DERBYN DOSBARTH MEITHRIN A DERBYN DOSBARTH MEITHRIN A DERBYN DOSBARTH MEITHRIN A DERBYN

    � Bydd y plant Derbyn yn mynychu’r ysgol drwy’r dydd 9.00 – 3.30, a bydd y sesiwn Meithrin o 9.00 – 11.30. Mae dewis gan rieni i gasglu eu plant naill ai am 11.30 neu am 12.55, wedi cinio, drwy drefniant efo’r athrawon. Gofynnir i rieni bigo plant tu allan i giat yr ysgol.

    � Er mwyn creu awyrgylch hapus a chartrefol i’r disgyblion gall rhieni y plant meithrin eu

    harwain i’r dosbarth yn y bore os dymunant. Ond gan mai ein nôd yw creu amgylchedd ac awyrgylch lle y gall y disgyblion dyfu, datblygu ac aeddfedu i ddod yn unigolion hyderus, ac yn aelodau cyfrifol o’r gymuned, disgwyliwn y bydd y plant yn hapus i gerdded i mewn eu hunain erbyn diwedd y flwyddyn yma.

    � Mae cysylltiad agos rhwng yr ysgol a’r ‘Ysgol Feithrin’ leol, a gynhelir yn yr Ysgol. Os bydd

    eich plentyn yn mynychu ‘Ysgol Feithrin’ yn y prynhawn mi fydd yr arweinydd yn sicrhau bod eich plentyn yn cael ei gasglu erbyn dechrau sesiwn y prynhawn. Gellir cael rhagor o wybodaeth am yr ‘Ysgol Feithrin’ gan y Pennaeth.

    TREFNIADAU PARCIO/CERDDED DIOGEL YR YSGOL Gofynnir i BOB gyrrwr sy'n cludo plant i'r ysgol gydymffurfio â'r rheolau canlynol y tu mewn i gampws yr ysgol:

    � � � � Rhaid gyrru'n ARAF o flaen yr ysgol bob amser;

    � � � � Ni chaniateir gyrru heibio prif fynediad yr ysgol.

    � � � � Rhaid gofalu bod eich plant BOB AMSER YN CERDDED AR Y PALMANT o flaen yr ysgol

    � � � � STAFF YR YSGOL YN UNIG gaiff barcio ger Prif Adeilad yr Ysgol i sicrhau ffordd glir i'r rhieni sy’n gollwng eu plant cyn ac ar ol ysgol o flaen y brif fynedfa a hefyd y gwasanaethau a galwadau brys.

    � � � � NI CHANIATEIR gyrru cerbyd i iard chwarae’r ysgol.

  • 13

    � Mae Addysg Blynyddoedd Cynnar yn ceisio datblygu a chynnal brwdfrydedd a chwilfrydedd plant i ddysgu drwy chwarae pwrpasol a chyfrannu mewn nifer o weithgareddau a thasgau amrwyiol.

    � Rhoddir i bob plentyn yn y Meithrin sylfaen gadarn yn y Gymraeg er mwyn eu galluogi i gyrraedd eu nod o ddwyieithrwydd llawn maes o law. Cyflwynir Saesneg fel ail iaith o flwyddyn 2-6. Yng CA2 gwneir darpariaeth arbennig ar gyfer hwyrddyfodiaid iau.

    � Yn ystod y flwyddyn rhoddir cyfle i’r plant Meithrin ymuno yng ngweithgareddau’r ysgol gyfan

    e.e. ymweliadau / tripiau, mabolgampau, gwasanaethau, cyngherddau ac ati. Byddwn yn eich hysbysu drwy lythyr os bydd angen iddynt fynychu gweithgaredd trwy’r dydd.

    � Mae’r ysgol yn ceisio hybu bwyta’n iach, felly bob bore bydd y plant yn cael cyfle i fwyta eu

    ffrwyth. Hefyd rydym yn annog pawb i yfed dwr ac mae modd iddynt gael diod o’r peiriant dwr yn ystod y dydd. Bob bore mi fydd yr ysgol yn darparu carton o lefrith i’r plant 3-7 oed am ddim,ac mae cyfle i bob plentyn archebu llaeth os ydynt yn dymuno.

    � Os ydych yn anfon arian i’r ysgol, sicrhewch ei fod mewn amlen neu bwrs caeedig sydd

    wedi’u labelu’n glir gyda enw’r plentyn e.e. arian cinio, ffrwythau, trip ac ati. Mi fydd arian cinio ac unrhyw arian arall yn cael ei gasglu ar ddydd Llun neu ddydd Iau.

    � Yn aml byddwn yn eich hysbysu drwy lythyr/e-bost am weithgareddau, newyddion neu

    wybodaeth bwysig – bydd y llythyr yma’n cael ei roi i’ch plentyn hynaf. Carwn i chwi felly archwilio bag eich plentyn yn ddyddiol.

    � Weithiau, bydd angen i chwi drosglwyddo gwybodaeth bwysig i ni yn yr ysgol e.e.

    newidiadau mewn trefniadau / cludiant mynd adref, apwyntiad doctor / deintyddII Gofynnwn i chwi ein hysbysu drwy lythyr neu alwad ffôn mor fuan a phosib.

    � Os bydd eich plentyn yn absennol o’r ysgol yn ddi-rybudd, oherwydd salwch neu

    amgylchiadau eraill, mae’n orfodol i chwi esbonio’r absenoldeb drwy lythyr syml neu ar lafar / dros y ffôn.

    � Rhoddir bag darllen i Ddisgyblion yn ystod Blwyddyn Derbyn

    er mwyn cario llyfrau darllen/trafod adref. Gofynnwn i’r rheini a’r plentyn rannu’r llyfr drwy gyd-ddarllen a thrafod ei gynnwys. Gofynnwn yn garedig i chwi ddychwelyd y bag unwaith mae’r plentyn wedi gorffen ynghyd â’r llyfr cofnodi – wedi’i arwyddo er mwyn i ni newid y llyfrau erbyn yr wythnos canlynol. Rhoddir Llyfr darllen Saesneg a Chymraeg I’r disgyblion iau i deithio nol a mlaen i’r ysgol bob dydd.

    � Addysg Gorfforol:

    Bydd pawb angen y dillad canlynol mewn bag addas a’i enw arno. Siorts du (trowsus loncian yn y gaeaf) Crys T Gwyn Trainers cadarn. Pwysleisir bod angen cadw’r bag yn yr ysgol o Ddydd Llun i Ddydd Gwener ac yna anfonwn

    ef adref i’w olchi dros yr hanner tymor.

    � Gan bod nifer helaeth o’r plant yn gwisgo gwisg ysgol mae’n hanfodol bod enw eich plentyn yn glir ar bob dilledyn.

  • 14

    � Rydym yn hybu chwarae strwythuredig mewn ardal bwrpasol tu allan i’r dosbarth ac yma bydd cyfleoedd i blant ddysgu amryw o sgiliau a derbyn profiadau newydd megis arbrofi gyda dŵr a thywod, plannu ac edrych ar ôl planhigion, arsylwi ar fyd natur a.y.b. Rydym yn darparu gwisgoedd addas ar gyfer rhai gweithgareddau ymarferol i warchod dillad eich plentyn (esgidiau glaw, ffedogau a gwisg wrth-law).

    10101010 TREFNIADAU TROSGLWYDDO I YSGOL UWCHRADDTREFNIADAU TROSGLWYDDO I YSGOL UWCHRADDTREFNIADAU TROSGLWYDDO I YSGOL UWCHRADDTREFNIADAU TROSGLWYDDO I YSGOL UWCHRADD Mae mwyafrif helaeth y disgyblion yn trosglwyddo yn 11 oed ar ddiwedd blwyddyn 6 i Ysgol Dyffryn Conwy, Llanrwst. Mae cysylltiad agos rhwng yr ysgolion ac fe fydd y disgyblion yn cael cyfle i gyfarfod â phennaeth y flwyddyn gyntaf ynghyd â threulio 2 ddiwrnod yn yr ysgol yn ystod eu blwyddyn olaf yn Ysgol Pentrefoelas.

    11111111 POLISI CODI TÂLPOLISI CODI TÂLPOLISI CODI TÂLPOLISI CODI TÂL Ni chodir tâl am weithgareddau ysgol heblaw am yr isod:

    � Gwersi cerdd gan athrawon peripatetig, lle gofynnir am gyfraniadau gan rieni er mwyn i’r ysgol fedru cynnig ystod eang o wersi offerynnol.

    � Teithiau addysgol, lle gofynnir am gyfraniadau gan rieni.

    � Gweithgareddau allgyrsiol a drefnir gan fudiadau allanol.

    � Mae’r ysgol bob amser yn barod i drafod pan fo rhiant / gwarcheidwad yn pryderu am gostau syʼn ymwneud âʼ r ysgol.

    12121212 TREFN GWYNOTREFN GWYNOTREFN GWYNOTREFN GWYNO Pwysleisir y gellir ymdrin â llawer o gwynion yn gyflym ac effeithiol drwy ystyriaeth anffurfiol yn seiliedig ar drafodaethau gyda’r Pennaeth. Hwn yw’r cam rhesymol cyntaf, a bydd y Corff Llywodraethu’n disgwyl bod y cam yma wedi ei gyflawni cyn cyflwyno’r gwyn yn ffurfiol mewn achosion eithriadol. Camau Cwyno – GWELER Atodiad 1

    Bydd yr Awdurdod Addysg Lleol yn disgwyl bod y camau yma wedi ei cyflawni cyn derbyn cwyn yn ffurfiol mewn achosion eithriadol.

    13a13a13a13a GOFAL A DISGYBLAETHGOFAL A DISGYBLAETHGOFAL A DISGYBLAETHGOFAL A DISGYBLAETH Ceisiwn yn yr ysgol greu cymuned arbennig gydag awyrgylch o gyd-fyw a chyd-weithio hapus. Mae Polisi Disgyblaeth gadarn wedi ei fabwysiadu gan y Corff Llywodraethol ac mae’r drefn yn weithredol yn yr ysgol. Rhoddir pwyslais cryf ar: 1 Meithrin a chynnal cyd-barch rhwng disgyblion a’i gilydd ac hefyd rhwng holl staff yr ysgol a’r

    plant. 2 Meithrin hunan-ddisgyblaeth yn y plant i weithio’n annibynnol ac i deimlo’n gyfrifol am yr hyn

    a wnant. 3 Meithrin parch at eiddo eraill. 4 Meithrin parch at yr ysgol a’i hamgylchfyd.

  • 15

    Yr ydym yn ceisio gosod lefel uchel o ddisgyblaeth ac yn gwneud hynny yn y modd canlynol: 1 Ceisiwn ddod i adnabod ein disgyblion yn dda. Mae’n bwysig fod plentyn yn ymwybodol o’r

    diddordeb a ddengys y staff ynddynt fel unigolion. Mae hyn yn gam pwysig wrth greu perthynas dda rhwng athro a disgybl.

    2 Yr ydym yn canmol ymddygiad ac ymdrechion da pob disgybl. 3 Ceisiwn gael y plant yn ymwybodol o’r angen am reolau ysgol. 4 Byddwn yn ymdrin ag ymddygiad annerbyniol bob tro. 5 Ceisiwn ymateb yn gyson i bob un o’r sefyllfaoedd uchod. Gofynnwn am gydweithio da

    rhwng staff a rhieni er mwyn i ni lwyddo i wireddu’r gwerthoedd yma ac ystyriwn yn bwysig i lwyddiant yr ysgol.

    13b13b13b13b CYNGOR YSGOLCYNGOR YSGOLCYNGOR YSGOLCYNGOR YSGOL Mae gan yr ysgol Gyngor Ysgol sydd yn cyfarfod oddeutu unwaith pob hanner tymor. Mae aelod o staff a 2 ddisgybl etholedig o bob blwyddyn ysgol ar y cyngor ysgol. Trafodir cynigion a dymuniadau disgyblion yr ysgol yn y cyngor yma.

    Plannu Coeden amGwobr ail-gylchu stac 2 Fetr o bapur 2017

    14a14a14a14a DYDDIADAU / GWYLIAU’R YSGOLDYDDIADAU / GWYLIAU’R YSGOLDYDDIADAU / GWYLIAU’R YSGOLDYDDIADAU / GWYLIAU’R YSGOL Gweler y daflen amgaeedig ynglyn â gwyliau’r ysgol. Yn ogystal â’r rhain, mae’r plant yn cael gwyliau achlysurol ar ddyddiau Hyfforddiant Mewn Swydd. Gelwir y rhain yn ddyddiau HMS (Hyfforddiant Mewn Swydd) neu yn Saesneg, INSET (In-Service Educational Training). Cewch wybod amdanynt mewn da bryd.

    14b AMSERLEN14b AMSERLEN14b AMSERLEN14b AMSERLEN Gwelir y ddyddiadau gwyliau ar gyfer y flwyddyn addysgol hon fel atodlen yn y llyfr hwn. Mewn blwyddyn ysgol mae 190 o ddyddiau dysgu a 5 o ddyddiau Hyfforddiant Staff. Diwrnod yn yr Ysgol: Clwb Brecwast 8.10 - 8.40 Ysgol yn dechrau 9.00 Gwasanaeth Boreol 9.05 - 9.20 Gwersi 9.20 - 10.30

  • 16

    Amser Chwarae 10.30 - 10.50 Gwersi 10.50 - 12.00 Amser Cinio 12.00 - 1.00 Gwersi 1.00 - 2.15 Amser Chwarae 2.15 - 2.30 Gwersi CA2 a CS 2.30 - 3.30 Cyfanswm yr oriau dysgu mewn wythnos yw 23 awr a 45 munud i’r plant iau a 22 awr a 55 munud i’r babanod. Arolygir plant ar ddechrau ac ar ddiwedd y dydd ac amseroedd chwarae. Mae staff yr ysgol yn gyfrifol am y plant am 10 munud cyn ac ar ôl oriau ysgol. Yn ystod amseroedd chwarae, mae aelod o’r staff ar ddyletswydd ar yr iard. Yn ystod amser chwarae cinio, mae’r uwch arolygwraig ar ddyletswydd (Mrs Pat Jones).

    GORUCHWYLIO DISGYBLION CYN AC AR ÔL SESIWN YSGOLGORUCHWYLIO DISGYBLION CYN AC AR ÔL SESIWN YSGOLGORUCHWYLIO DISGYBLION CYN AC AR ÔL SESIWN YSGOLGORUCHWYLIO DISGYBLION CYN AC AR ÔL SESIWN YSGOL

    Amser agor yr ysgol 9:00 am Amser cau yr ysgol 3:30 pm

    Bydd staff mewn ‘loco parentis’ o 8.50 y bore hyd 3.40 y prynhawn. Cyfrifoldeb y rhieni neu yrwyr tacsi / bysiau yw sicrhau diogelwch a lles y disgyblion cyn dod ac ar ôl mynd trwy giatiau’r ysgol ar ddiwedd y dydd.

    COFRESTRCOFRESTRCOFRESTRCOFRESTR Sesiwn bore – Bydd y gofrestr ar agor hyd 9.20yb. Os na fydd y disgyblion yma cyn hyn cofrestri’r hwynt yn absennol. Sesiwn prynhawn – Bydd y cofrestr ar agor hyd 1.20yp.

    AMSER MYND ADREFAMSER MYND ADREFAMSER MYND ADREFAMSER MYND ADREF **** Disgyblion sy’n mynd adref ar gludiant a ddarparwyd gan y Cyngor Sir Oni chlywir yn wahanol trwy lythyr (neu alwad ffôn mewn argyfwng) rhoddir y plant ar y tacsi / bws mini arferol i fynd gartref. Os bydd rhieni yn dod i gasglu eu plant disgwylir iddynt ddweud wrth aelod o staff yr ysgol.

    *Dyma’r amser mwyaf gofidus i blentyn os nad oes dealltwriaeth cywir o’r hyn sy’n digwydd.

    HOLL DDISGYBLIONHOLL DDISGYBLIONHOLL DDISGYBLIONHOLL DDISGYBLION Ni fydd staff yr ysgol yn rhyddhau plentyn i ofal person nad yw fel arfer yn ei gasglu / chasglu heb lythyr neu rhyw fath o gadarnhad gan ei rieni / rhieni.

    GWGWGWGWEITHGAREDDAU AR ÔL YSGOLEITHGAREDDAU AR ÔL YSGOLEITHGAREDDAU AR ÔL YSGOLEITHGAREDDAU AR ÔL YSGOL a) A drefnwyd gan yr ysgol

    Fe fydd yr un lefel o oruchwyliaeth ac unrhyw weithgaredd yn ystod oriau ysgol. b) A drefnwyd gan asiantaethau eraill

    e.e Adran Twristiaeth a Hamdden y Cyngor Sir Gwersi dawns gan Ysgol Ddawns Ffit Conwy Cyfrifoldeb y rhieni yw sicrhau fod lefel o oruchwyliaeth yn dderbyniol iddynt.

  • 17

    Mae gan y Pennaeth a Chorff Llywodraethol yr ysgol hawl i wahardd unrhyw asiantaeth neu gymdeithas rhag defnyddio’r adeiladau a thir yr ysgol os ydynt yn tybio yn eu barn hwy

    1) fod lefel y goruchwyliaeth yn annigonol 2) fod ymddygiad yn annerbyniol

    Yn yr holl weithgareddau uchod, cyfrifoldeb rhieni yw sicrhau eu bod yn casglu eu plant ar amser pan fo’r weithgaredd yn gorffen.

    15151515 ADDYSG GREFYDDOL A CHYDADDYSG GREFYDDOL A CHYDADDYSG GREFYDDOL A CHYDADDYSG GREFYDDOL A CHYD----ADDOLIADDOLIADDOLIADDOLI Nid yw’r ysgol hon yn dal cysylltiad uniongyrchol a ffurfiol ag unrhyw enwad crefyddol. Ceir cyd-addoliad cyffredinol Cristnogol yn bennaf i’r ysgol gyfan. Y mae’r addysg grefyddol a gyflwynir yn seiliedig ar faes llafur cydnabyddedig yr Awdurdod. Gellir archwilio copi o’r maes llafur hwn yn yr ysgol. Fe ellir gwneud trefniadau ar gyfer plant nad yw eu rhieni am iddynt fynychu’r gwasanaethau crefyddol neu astudiaeth gyffelyb.

    16161616 ADDYSG RHYWADDYSG RHYWADDYSG RHYWADDYSG RHYW Credwn y dylai Addysg Rhyw fod yn rhan o addysg pob plentyn a’i fod yn elfen bwysig yn ei ddatblygiad cymdeithasol. Penderfynodd y Corff Llywodraethol y dylai Addysg Rhyw blethu i mewn i’r Cwricwlwm ac Addysg Bersonol a Chymdeithasol. Mae copi o’r polisi llawn ar gael drwy gysylltu â’r Pennaeth. Bydd yr ysgol yn sicrhau y byddent yn delio yn sensitif wrth ymwneud ag unrhyw fater a fyddai’n achosi pryder i ddisgybl. Gwelwch amcanion rhaglen o addysg rhyw fel a ganlyn: 1. Creu awyrgylch lle gall cwestiynau ynglyn â pherthnasau personol gael eu gofyn heb

    embaras.

    2. Darparu geirfa addas a derbyniol am rannau o’r corff.

    3. Egluro natur cenhedlu.

    4. Pwysleisio gwerth bywyd teuluol a phwysigrwydd arbennig gofalu am yr ieuanc o fewn teuluoedd.

    5. Egluro newidiadau i’r corff a’r rhesymau dros y newidiadau.

    6. Creu sicrwydd bod y newidiadau corfforol a’u heffaith corfforol, emosiynol a chymdeithasol yn arferol a derbyniol.

    7. Darparu cefnogaeth emosiynol parhaus i gefnogi’r plant yn ystod y newidiadau yma.

    8. Cynorthwyo’r plant i dderbyn a deall gwahaniaethau, yn enwedig gwahaniaethau corfforol.

    9 Darparu cymorth pan ac os bydd pethau yn mynd yn anghywir.

    17171717 ADDYSG BERSONOL A CHYMDEITHASOLADDYSG BERSONOL A CHYMDEITHASOLADDYSG BERSONOL A CHYMDEITHASOLADDYSG BERSONOL A CHYMDEITHASOL

    Yn y Blynyddoedd Cynnar ac yn y Cyfnod Sylfaen bydd cyfleoedd mewn Addysg Bersonol a Chymdeithasol (ABCh) i ganolbwyntio ar ymwybyddiaeth gynyddol y disgyblion ohonynt eu hunain yn gorfforol ac yn emosiynol yng nghyd-destun eu perthynas â’u ffrindiau, eu teulu a’u hamgylchedd uniongyrchol. Dylid rhoi pwyslais ar feithrin hunan-ddealltwriaeth a chydberthnasau gydag eraill

  • 18

    mewn amgylchedd cadarnhaol a derbyniol lle caiff hunan-dyb y disgybl ei feithrin, lle datblygir hyder a chyfrifoldeb a lle cadarnheir cyflawniad. Yng Nghyfnod Allweddol 2 bydd ABCh yn cynnig cyfleoedd a phrofiadau dysgu sy’n adlewyrchu rhyddid ac ymwybyddiaeth gorfforol a chymdeithasol gynyddol y disgyblion. Dylid eu paratoi i ddatblygu cydberthnasau effeithiol, derbyn mwy o gyfrifoldeb personol a chadw eu hunain yn ddiogel. Bydd ABCh yn helpu’r disgyblion i ymdopi â newidiadau aeddfedrwydd, eu cyflwyno i fyd ehangach a’u galluogi i wneud cyfraniad gweithredol yn y gymdeithas.

    18181818 TREFN AMDDIFFYN PLANTTREFN AMDDIFFYN PLANTTREFN AMDDIFFYN PLANTTREFN AMDDIFFYN PLANT MAE YN DDYLETSWYDD STATUDOL AR YR YSGOL I GYFEIRIO UNRHYW AMHEUAETH O GAMDRIN I’R ASIANTAETHAU PRIODOL ER LLES Y PLENTYN.

    19191919aaaa SALWCHSALWCHSALWCHSALWCH Daw’r nyrs ardal i brofi clyw a golwg a.y.b. Fel y gwyr y rhan fwyaf ohonoch, mae llau i’w darganfod yn achlysurol ymhob ysgol. I’n cynorthwyo, carem i chwi archwilio gwallt eich plentyn pan fo’n golchi ei wallt, a hysbysu’r ysgol os bydd problem. Cofiwch mai gwalltiau glân sy’n dioddef fynychaf. Bydd pob hysbysiad er hyn, yn hollol gyfrinachol, fel y bydd gyda llyngyr. Mae peidio dweud wrthym yn gwaethygu’r sefyllfa’n ddifrifol Nyrs Ysgol Yn ei thro fe ddaw’r nyrs a byddwch yn cael rhybudd o’r ymweliadau hyn, fel y gallwch fod yno gyda’ch plentyn. Gyda rhai afiechydon, mae Awdurdod Iechyd Conwy yn argymell i’r plentyn gadw’n glir o’r ysgol am nifer o ddyddiau: Y Frech Ieir 7 diwrnod ar ôl darganfod y frech Y Frech Wen 4 diwrnod ar ôl darganfod y frech Y Frech Goch 7 diwrnod ar ôl darganfod y frech Clwy’r Pennau 7 diwrnod ar ôl i’r clwy ddiflannu Y Pâs 21 diwrnod ar ôl cychwyn pesychu Dylech roi gwybod i’r Pennaeth am unrhyw un o’r afiechydon hyn gan fod gofyn iddi gysylltu â’r meddyg lleol.

    19b 19b 19b 19b SALWCH TRA YN YR YSGOLSALWCH TRA YN YR YSGOLSALWCH TRA YN YR YSGOLSALWCH TRA YN YR YSGOL Os bydd eich plentyn yn sal yn yr ysgol yna byddwn yn eich ffonio a gofyn i chi ddod i’w nôl. (Cofiwch hysbysu ni o rifau ffôn newydd). Damweiniau Yn anffodus, mae damweiniau yn digwydd weithiau wrth i’r plant chwarae. Os bydd eich plentyn yn cael damwain, yna rhoddir cymorth cyntaf iddo ef / hi os bydd angen. Ble gwelir fod angen sylw mwy arbenigol, yna cysylltir â’r rhieni er mwyn mynd â’r plentyn at y meddyg / uned ddamweiniau. Os na ellir cysylltu â’r rhieni yna fe fydd aelod o’r staff yn mynd â’r plentyn naill ai at y meddyg neu’r uned ddamweiniau yn ysbyty Glan Clwyd. Cofnodi’r damweiniau yn y llyfr damweiniau.

  • 19

    19c19c19c19c MODDIONMODDIONMODDIONMODDION Pan ofynnir i aelodau o staff gan ddisgyblion a rhieni i roi moddion, dilynir y canllawiau canlynol yn ofalus. 1 Mae gan staff dysgu yr hawl i wrthod rhoi moddion i’r disgyblion ond gall y pennaeth wneud

    hynny o dan amodau arbennig. Mae’n well i blentyn gymeryd moddion adref, ac os nad yw hyn yn bosibl, rhaid i rieni ddod i gysylltiad â’r pennaeth cyn anfon y moddion i’r ysgol.

    2 Os yw’r plentyn yn dioddef o asma caniateir defnyddio anadlwr yn yr ysgol.

    22220000aaaa ABSENOLDEBAUABSENOLDEBAUABSENOLDEBAUABSENOLDEBAU Mae presenoldeb rheolaidd yn anhraethol bwysig. Pan fo’ch plentyn yn dychwelyd o gyfnod o absenoldeb dylech anfon nodyn i egluro’r absenoldeb i’r athro dosbarth gyda’ch plentyn. Yn ail, os ydych yn gwybod y bydd eich plentyn yn absennol, neu’n bwriadu ymweld â’r deintydd neu’r meddyg a.y.b. danfonwch nodyn atom yn cynnwys y dyddiad. Fel hyn, gallem baratoi yn ôl y gofyn. Mae peidio â danfon nodyn yn golygu ein bod yn cofnodi’r absenoldeb fel ‘Absenoldeb heb Ganiatâd’ ac mae cyfres o’r rhain yn hawlio fod yr ysgol yn hysbysu’r Awdurdod Addysg.

    20b TREFNIADAU TYWYDD DRWG Gwneir pob ymdrech i gadw’r ysgol yn agored am 190 diwrnod y flwyddyn. Os yw’r tywydd yn ddrwg byddwn yn cau’r ysgol . Y brif flaenoriaeth yw diogelwch Disgyblion. Peidiwch ag anfon eich plentyn i’r ysgol os nad ydych yn sicr ei fod ar agor – gallwch ffonio’r pennaeth ar y rhif ysgol neu edrych am wybodaeth cau ysgolion ar dywydd drwg ar wefan yr Awdurdod.

    21212121 TEITHIAU ALLAN O’R YSGOLTEITHIAU ALLAN O’R YSGOLTEITHIAU ALLAN O’R YSGOLTEITHIAU ALLAN O’R YSGOL Mae’n ofynnol i bob rhiant lenwi ffurflen addas cyn y caniateir i’r plant fynd ar ymweliadau y tu allan i’r ysgol, yn ôl polisïau’r Awdurdod Addysg a’r ysgol. Ffurflen gan yr Awdurdod Addysg yw hon ac fe allwch gael copi oddi wrth y Pennaeth.

    22222222 CYMDEITHAS RHIENI AC ATHRAWONCYMDEITHAS RHIENI AC ATHRAWONCYMDEITHAS RHIENI AC ATHRAWONCYMDEITHAS RHIENI AC ATHRAWON Ffurfiwyd y Gymdeithas fel peiriant i godi arian tuag at yr ysgol. Newidir y swyddogion yn rheolaidd fel bod pawb yn cael cyfrannu. Mae ochr gymdeithasol o’r gweithgareddau yr un mor bwysig ac yn help i’n clymu ychydig yn nes at ein gilydd. Mae gan yr ysgol Gymdeithas Rhieni ac Athrawon weithgar. Maent wedi codi arian i brynu cyfrifiaduron, llyfrau a llawer o eitemau eraill i’r ysgol. Byddant yn talu am gostau bws i deithiau ‘Dolig a Haf. Cynhelir gweithgareddau’r gymdeithas o leiaf unwaith y tymor. Croesewir pob rhiant i ddod a chymryd rhan. Ym mis Medi bob blwyddyn cynhelir Cyfarfod Blynyddol y Gymdeithas. Dyma’r amser yr etholir aelodau newydd.

    23232323 GWAITH CARTREFGWAITH CARTREFGWAITH CARTREFGWAITH CARTREF Mae polisi Gwaith Cartref ar gael i’w weld yn yr ysgol. Rhoddir gwaith cartref ffurfiol i’r plant yng Nghyfnod Allweddol 2.

  • 20

    Ambell i dro bydd gweithgarwch arbennig yn gofyn am wybodaeth gan rieni a pherthnasau a chymdogion, neu’n gofyn am waith holi a darganfod ar ran y plant. Sylweddolir mai cyfrifoldeb y cartref yw’r plentyn yn ystod yr oriau hyn ac mai yng ngoleuni’r cyfrifoldeb hwnnw y bydd y rhieni yn cytuno neu anghytuno i gydweithredu. O dro i dro fe all athro arbennig ofyn i blentyn wneud gwaith ychwanegol er mwyn dileu rhyw wendid neu ganolbwyntio ar agwedd arbennig o’r gwaith. Bryd hynny gobeithir cael cydweithrediad llwyr y cartref ac anogaeth i’r plentyn wneud y gwaith. Bydd disgwyl i’r plant ddysgu tablau a thasgau sillafu a osodir gan yr athrawon yn rheolaidd. Mae gan yr ysgol gynllun darllen adref. Hyderwn yn ddirfawr y cawn gefnogaeth lwyr pob rhiant.

    24242424 ADDYSG GORFFOROLADDYSG GORFFOROLADDYSG GORFFOROLADDYSG GORFFOROL/LLYTHRENNEDD CORFFOROL/LLYTHRENNEDD CORFFOROL/LLYTHRENNEDD CORFFOROL/LLYTHRENNEDD CORFFOROL Oherwydd glendid personol, ac ymarferoldeb, fe ddisgwylir i bob plentyn wisgo dillad pwrpasol. Bydd pob plentyn yn derbyn gwersi Addysg Gorfforol yn wythnosol. Tu mewn e.e. gymnasteg a dawns (yn droednoeth) – trowsus bach a chrys t. Tu allan e.e. chwaraeon ac athletau – trowsus bach a chrys t ac esgidiau hyfforddi. Awgrymir dod â throwsus llaes a thop cynnes (nid dillad arferol ysgol) ar gyfer gwersi tu allan yn wythnosau oeraf y gaeaf. Bydd disgyblion yr ysgol yn derbyn amrywiaeth o brofiadau allgyrsiol yn ystod eu cyfnod yn CA2 e.e. cwrs preswyl yng Nghlan Llyn Cyfrifoldeb pob plentyn yw unrhyw eiddo personol. Dylid marcio dillad, esgidiau, bagiau a.y.b. yn glir fel y gellir eu hadnabod. NOFIO Mae’r ysgol yn cael hyfforddiant nofio ym mhwll nofio Llanrwst. Mae’r ysgol yn talu am y gwersi ond gofynnwn yn garedig am gyfraniad tuag at gludo eich plentyn yno. Ein nod nofio yw fod pob disgybl yn gallu nofio 25 metr cyn diwedd blwyddyn 6.

    25252525 CYLCHLYTHYRAUCYLCHLYTHYRAUCYLCHLYTHYRAUCYLCHLYTHYRAU Danfonir pob neges neu gylchlythyr atoch gan ddefnyddio’r postmon ardderchog hwnnw, sef eich plentyn! Ond er gwyched y postmon, bydd weithiau’n anghofio gwagio’i sach! Carwn felly i chwi archwilio’r bag yn ddyddiol.

    26262626 ANGHENION DYSGU YCHANGHENION DYSGU YCHANGHENION DYSGU YCHANGHENION DYSGU YCHWANEGOLWANEGOLWANEGOLWANEGOL/PLANT DAN OFAL/PLANT DAN OFAL/PLANT DAN OFAL/PLANT DAN OFAL Yn unol â’r côd ymarfer ar Adnabod ac Asesu Anghenion Addysg Arbennig a gyflwynwyd yn sgil deddf Addysg 2008, mae gan yr ysgol bolisi cynhwysfawr yn y maes yma. Y mae gan yr ysgol gofrestr o blant sydd angen cymorth ychwanegol hefo’u gwaith gan gynnwys plant mwy abl a thalentog. Bydd y plant yn derbyn cymorth ychwanegol yn y dosbarth gan yr athrawon i ddechrau ac yna bydd Cynlluniau Addysgol Unigol (CAU) yn cael eu paratoi pe cyfyd yr angen am hyn. Gwahoddir rhieni y disgyblion yma i’r ysgol i drafod y CAU. Bydd yr ysgol yn cadw cysylltiad agos iawn gyda’r rhieni os bydd plentyn yn cael anawsterau. Mae polisi cyfredol cynhwysfawr ar gael yn yr ysgol.

    27 DISGYBLION AG ANABLEDD

  • 21

    Mae ein Polisi Anghenion Addysgol Arbennig ac anabledd a pholisi mynediad yn cyd-fynd â’r Côd Ymarfer 2002 ac rydym yn ceisio cynnig addysg i bob plentyn ar y lefel berthnasol. Efallai bydd Datganiad o Anghenion Addysgol Arbennig yn cael ei baratoi gan yr Awdurdod Addysg Lleol a bydd hyn yn nodi sut bydd anghenion y plentyn yn cael eu diwallu. Bydd pob disgybl sy’n gallu manteisio o addysg mewn ysgol prif-ffrwd yn cael eu trin yn gyfartal a bydd gwaith gwahaniaethol yn cael ei baratoi. Mae’r adeilad yn hwylus i gadair olwyn.

    28282828 CYFLE CYFARTALCYFLE CYFARTALCYFLE CYFARTALCYFLE CYFARTAL Mae gan yr ysgol bolisi cyfle cyfartal ac mae hwn yn nodi ein bod yn ceisio darparu awyrgylch hapus, diogel, llawn gofal i blant gan ystyried unrhyw angen corfforol neu addysgol sydd ganddynt. Mae’r ysgol yn ceisio meithrin agwedd iach tuag at wahaniaethau rhyw, lliw a chymdeithas, crefydd ac anghenion arbennig.

    29 29 29 29 CINIO YSGOLCINIO YSGOLCINIO YSGOLCINIO YSGOL Mae cinio ysgol yn cael ei ddarparu. Cesglir arian cinio bob dydd Llun/dydd Iau ar gyfer yr wythnos honno. Dylid anfon yr arian mewn amlen gydag enw’r plentyn arni. Gallwch ofyn am brydau llysieuol/diet arbennig i’ch plentyn os dymunwch. Mae ffurflenni cinio am ddim ar gael o’r ysgol.

    30303030a a a a COLUR A CHLUSTDLYSAUCOLUR A CHLUSTDLYSAUCOLUR A CHLUSTDLYSAUCOLUR A CHLUSTDLYSAU Ni chaniateir gwisgo colur na chlustdlysau (ar wahân i styds). Ni ddylid gwisgo addurniadau di-angen. Diogelwch ac estheteg sydd flaenllaw yn ein meddyliau wrth lunio’r rheol hon. Ni ddylid, ychwaith, ddod ac unrhyw beth gwerthfawr i’r ysgol (gan gynnwys pres diangen). Ni ellir dal yr ysgol yn gyfrifol am unrhyw golledion.

    30b30b30b30b FFONAU SYMUDOLFFONAU SYMUDOLFFONAU SYMUDOLFFONAU SYMUDOL Nid oes achlysur yn codi yn yr ysgol pan fydd angen ffôn symudol ar blant – Maent yn cael rhyddid I ddefnyddio ffôn yr ysgol. Felly, byddwn yn ddiolchgar iawn pe baech yn ein cefnogi i sicrhau na fydd ffôn gan eich plentyn yn yr ysgol. Yn achlysurol – gall ffôn fod yn ddefnyddiol e.e. Cerddorfa / Taith Addysgol – felly ein polisi yw: Os oes ffôn ganddo – dod atom ar ddechrau’r dydd i roi gwybod Cadw’r ffôn mewn bocs arbennig yn y swyddfa nes bydd ei angen

    31313131 GWISG YSGOLGWISG YSGOLGWISG YSGOLGWISG YSGOL Disgwylir i bob plentyn wisgo’n addas ar gyfer dod i’r ysgol a gwerthfawrogir cydweithrediad rhieni yn hyn o beth. Er nad yn orfodol, mae’r Corff Llywodraethol wedi mabwysiadau’r lliwiau fel a ganlyn, ar gyfer rhieni sy’n dymuno gwisgo eu plant mewn gwisg ysgol. Gellir prynu’r wisg yn Brodwaith, Pentrefoelas. 1. Crys chwys jade gyda logo’r ysgol. 2. Crys polo gwyn gyda logo’r ysgol.

  • 22

    3. Trowsus, trowsus byr, trowsus loncian neu sgert . Gellir archebu / prynu crysau chwys / polo gyda logo’r ysgol arnynt yn Siop Brodwaith. NODWCH ENW EICH PLENTYN AR BOB DARN O DDILLEDYN OS GWELWCH YN DDA.

    32323232 ADRODDIADADRODDIADADRODDIADADRODDIAD BLYNYDDOL LLYWODRAETHWYR BLYNYDDOL LLYWODRAETHWYR BLYNYDDOL LLYWODRAETHWYR BLYNYDDOL LLYWODRAETHWYR I’R RHIENI / GWARCHODWYRI’R RHIENI / GWARCHODWYRI’R RHIENI / GWARCHODWYRI’R RHIENI / GWARCHODWYR Ers 1988, mae’n ofynol i bob corf llywodraethol yng ngwledydd Prydain baratoi Adroddiad Blynyddol i Rieni.

    33333333 CYSWLLT Â’R RHIENI / CARTREF / CYMUNEDCYSWLLT Â’R RHIENI / CARTREF / CYMUNEDCYSWLLT Â’R RHIENI / CARTREF / CYMUNEDCYSWLLT Â’R RHIENI / CARTREF / CYMUNED Nodwyd eisoes mai partneriaeth yw addysg a gall hwn gymeryd sawl ffurf gwahanol. Gwahoddir y rhieni sy’n dod â’u plant i’r ysgol am y tro cyntaf i gyfarfod y Pennaeth i drafod y broses addysgol ac unrhyw bwyntiau perthnasol eraill. Gwahoddir y plant sy’n cychwyn yn y dosbarth meithrin i dreulio amser yn y dosbarth yn ystod y tymor blaenorol. Sefydlir cysylltiadau dros gyfnod estynedig gyda’r ysgol feithrin lleol er mwyn meithrin perthynas gyda’r plant cyn iddynt ddechrau yn y dosbarth meithrin. Gwahoddir y rhieni i fynychu nifer o weithgareddau yn ystod y flwyddyn ysgol, e.e. gwasanaethau Diolchgarwch, cyngherddau neu wasanaethau Nadolig, cyngerdd Dydd Gwyl Ddewi a’r mabolgampau. Trefnir cyfarfodydd gyda’r rhieni i’w galluogi i gyfarfod yr athrawon ac i drafod gwaith eu plant. Yn arferol, trefnir y cyfarfodydd yma tua canol pob tymor. Gwerthfawrogir y bydd rhieni efallai eisiau trafod datblygiad eu plant ar adegau eraill a gellir trefnu hyn drwy gysylltu gyda’r Pennaeth ymlaen llaw. Mae gan yr ysgol gymdeithas ‘Rhieni ac Athrawon’ sy’n weithgar iawn ac ystyrir fod pob rhiant neu warchodwr yn aelod. GWELD GWAITH Y PLANT Gallwch ddod i weld gwaith eich plentyn unrhyw dro y dymunwch (rhwng 3:15 a 4:00 trwy drefniant â’r athrawon perthnasol). Rydym hefyd yn trefnu noson i drafod yr Adroddiad Blynyddol ar eich plentyn yn nhymor yr Haf.

    CYSTYLLTIADCYSTYLLTIADCYSTYLLTIADCYSTYLLTIADAAAAU A’R GYMUNEDU A’R GYMUNEDU A’R GYMUNEDU A’R GYMUNED Ysgol Gymunedol yw Ysgol Pentrefoelas a defnyddir yr adeilad yn helaeth ar fin nosau gan nifer o gymdeithasau. Ni ellir rhestru yma yr holl gymdeithasau sy’n defnyddio’r adeilad ond dyma rai ohonynt: � Clwb Godre Hiraethog � Adran Bentref yr Urdd � Clwb Boxercise

    CREST yn cyflwyno siec am waddol y Banc dillad

    CYTUNDEB CARTREF/YSGOL Disgwylir i rieni a’r ysgol gytuno a llofnodi Cytundeb Cartre/Ysgol er mwyn cydweithio er budd y disgyblion.

  • 23

    � Cyngor Cymuned � Cymdeithas Cwn Defaid Hiraethog � Gyrfaoedd Chwist � Clwb Snwcer � Ymarferion Eisteddfod

    URDD GOBAITH CYMRUURDD GOBAITH CYMRUURDD GOBAITH CYMRUURDD GOBAITH CYMRU Mae gan yr ysgol gangen o’r Urdd a byddwn yn cystadlu yn lleol, sirol a chenedlaethol yng ngweithgareddau’r eisteddfod. Byddwn hefyd fel ysgol yn ymuno â gweithgareddau eraill yr Urdd, sef Jambori (sesiwn o ganu a hwyl), chwaraeon, mabolgampau, nofio a thraws gwlad. Er mwyn cystadlu yng ngweithgareddau’r Urdd rhaid talu tâl aelodaeth pob blwyddyn.

    CLWB ADRAN BENTREF YR URDDCLWB ADRAN BENTREF YR URDDCLWB ADRAN BENTREF YR URDDCLWB ADRAN BENTREF YR URDD Bydd plant blwyddyn 2-6 yn cyfarfod yn wythnosol ar nos Fercher yn mhymor yr Hydref a’r Gwanwyn. Bydd cyfarfod misol ar gyfer blwyddyn Derbyn ac 1. Rheolir y clwb gan bwyllgor o rieni gweithgar sy’n trefnu nifer o weithgareddau ar gyfer yr aelodau. Codir tâl am berthyn i’r Clwb, sy’n cynnwys tâl aelodaeth o’r Urdd. Nid oes raid felly i aelodau’r Adran Bentref dalu tâl aelodaeth yr Urdd drwy’r ysgol hefyd. Ennillodd un disgybl o Fl 4 Wobr gyntaf y Gendlaethol yn yr Adran Dylunio a Thechnoleg yn Eisteddgfod 2017.

    34343434 CLUDIANTCLUDIANTCLUDIANTCLUDIANT Mae Awdurdod Addysg Conwy yn darparu system dacsi i gario rhai plant y dalgylch. Mwy o fanylion i gael drwy gysylltu â’r ysgol.

    35353535 GWEITHGAREDDAU YCHWANEGOLGWEITHGAREDDAU YCHWANEGOLGWEITHGAREDDAU YCHWANEGOLGWEITHGAREDDAU YCHWANEGOL Mae’r ysgol yn gobeithio sicrhau cefnogaeth a chydweithrediad y rhieni gyda’r gweithgareddau ychwanegol a drefnir. Bydd athrawon weithiau yn trefnu ymweliadau addysgol i’w dosbarthiadau ac hysbysir y rhieni drwy lythyr ymlaen llaw. Bydd angen cyfraniadau gwirfoddol gan y rhieni ar adegau i gyllido’r gweithgareddau a gwneir yn eglur y bydd angen cyfraniadau digonol os yw’r gweithgaredd i barhau. Mae’r ysgol yn cynnig amrywiaeth o weithgareddau sy’n agored i’r disgyblion i gyd, sydd ym marn y Pennaeth, yn barod ac yn ddigon aeddfed i gymeryd rhan ynddynt.

    36363636 CLYBIAU AR ÔL YSGOL CLYBIAU AR ÔL YSGOL CLYBIAU AR ÔL YSGOL CLYBIAU AR ÔL YSGOL –––– BLWYDDYN 3,BLWYDDYN 3,BLWYDDYN 3,BLWYDDYN 3, 4,4,4,4, 5 a5 a5 a5 a 6666 CHWARAEONCHWARAEONCHWARAEONCHWARAEON Mae’r timau pêl-droed rygbi a phêl-rwyd yn cystadlu yn erbyn ysgolion lleol ac ysgolion gwadd a cheisir rhoddi cyfle i bob plentyn fod yn aelod o dîm ysgol cyn iddo/iddi adael yr ysgol. Rydym wedi sefydlu cyngrhair rhwng ysgolion y dalgylch.

    37373737 CLWB BRECWASTCLWB BRECWASTCLWB BRECWASTCLWB BRECWAST

  • 24

    Mae’r Clwb Brecwast ar agor i bob disgybl yn ddyddiol rhwng 8:10 – 8.50 y.b. Nid oes unrhyw gost i fynychu’r Clwb Brecwast. Bydd y plant yn cael dewis o sudd ffrwythau, llaeth, grawnfwyd a thost. Mae’r Clwb yng ngofal Mrs Megan Roberts a Mrs Julie Lloyd.

    38383838 GWYBODAETH BERSONOLGWYBODAETH BERSONOLGWYBODAETH BERSONOLGWYBODAETH BERSONOL Mae’n bwysig ein bod yn cadw cofnod o enw llawn y plentyn, enwau’r rhieni/ rhiant / gwarchodwyr. Yn gynnar yn y tymor newydd byddwn yn gyrru ffurflen i’r cartref yn gofyn am wybodaeth megis enw, cyfeiriad, rhifau teleffon a.y.b. Gofynnwn am eich cydweithrediad i’w yrru’n ôl yn ddiymdroi. Yn ogystal, os oes unrhyw newid byddai cael yr wybodaeth yn syth o gymorth mawr. Mae gwybodaeth feddygol yn bwysig iawn hefyd gan ei fod yn rhoi darlun eglur inni o’r plentyn ac unrhyw anawsterau sydd ganddo. Byddwn hefyd yn dymuno cael enw a chyfeiriad eich meddyg. O dro i dro bydd angen cysylltu â rhieni ar frys, felly byddwn angen gwybodaeth am eich rhif ffôn adref ac, os yw’n briodol, rhif eich man gwaith. Gofynnwn i bob absenoldeb gael ei egluro mewn llythyr neu drwy alwad ffôn. Erbyn hyn, mae’n ofynnol yn ôl y gyfraith, bod y rhesymau am holl absenoldebau yn cael eu hysbysu. Ar ddiwedd y flwyddyn, bydd angen i’r ysgol ddynodi canran ffigyrau presenoldeb sydd yn dangos lefel absenoldebau heb awdurdod.

    39393939 DDDDYDDIADAU TYMHORAU A GWYLIAU 2YDDIADAU TYMHORAU A GWYLIAU 2YDDIADAU TYMHORAU A GWYLIAU 2YDDIADAU TYMHORAU A GWYLIAU 2010101017777----2012012012018888

    TYMOR YR HYDREF

    Dechrau Tymor yr Hydref 04.09.17 Diwrnod HMS 01.09.17 09.10.17 Cau Hanner Tymor 27.10.17 Agor Hanner Tymor 06.11.17 Diwedd Tymor 22.12.17 TYMOR Y GWANWYN Dechrau Tymor y Gwanwyn 09.01.18 Diwrnod HMS 08.01.18 Cau Hanner Tymor 09.02.18 Agor Hanner Tymor 19.02.18 Diwedd Tymor 23.03.18 TYMOR YR HAF Diwrnod HMS 09.04.18 Dechrau Tymor yr Haf 10.04.18 Dydd Gwyl Fai 07.05.18 Cau Hanner Tymor 25.05.18 Agor Hanner Tymor 04.06.18 Diwrnod HMS 02.07.17 Diwedd Tymor 20.07.18

  • 25

    40404040 PRESENOLDEBPRESENOLDEBPRESENOLDEBPRESENOLDEB Mae’n ofynnol i bob rhiant hysbysu’r ysgol am unrhyw absenoldeb ar y diwrnod cyntaf mewn llythyr neu trwy alwad ffôn. Os na wneir hynny bydd eich plentyn yn cael ei ddynodi fel ‘absennol heb ei ganiatau’. Rhaid gofyn am ganiatad y pennaeth os am drefnu gwyliau yn ystod amser ysgol. Mae’r gofrestr yn cael ei chau am 9:10. Bydd unrhyw ddisgybl sydd yn cyrraedd wedi’r amser hwn heb reswm meddygol yn cael ei ddynodi fel ‘hwyr wedi i’r gofrestr gau’ ac yn cael ei drin fel absenoldeb bore ar Ystadegau’r ysgol. Anogir rhieni i geisio, lle bo’n bosibl, i wneud apwyntiadau meddygol neu ddeintyddol y tu allan i oriau ysgol, rhag tarfu ar addysg eu plentyn. PRESENOLDEB 2016-2017 (Gorffennaf 2017)

    Presenoldeb % Absenoldeb Awdurdodedig%

    CA2 97.79 2.21

    Cyfnod Sylfaen 98.43 1.57

    Nid oedd unrhyw absenoldebau Anawdurdodedig.

    Plant yn mwynhau Dathlu diwrnod Tseiniaidd

    Adroddiadau perfformiad Disgyblion ar diwedd Cyfnod Allweddol yn ôl Asesiadau Athro

    Oherwydd niferoedd bychan yn y cohort ni ellir datgelu canlyniadau disgyblion

  • Y

    sgol P

    entr

    efo

    ela

    s

    School C

    om

    pla

    ints

    Pro

    cedure

    s

    Ychwanegiad A: Crynodeb o sut i ddelio â phryderon neu gwynion

    Dily

    nir y

    weithdre

    fn h

    on o

    s c

    yflw

    ynir p

    ryder

    neu g

    wyn a

    m y

    r ysg

    ol, c

    yn b

    elle

    d n

    ad y

    w’r p

    ryder

    neu’r g

    wyn y

    n b

    ert

    hnasol i

    we

    ithdre

    fnau s

    tatu

    dol era

    ill.

    Cam A (Anffurfiol)

    Myneg

    wch e

    ich p

    ryder

    wrt

    h y

    r ath

    ro/a

    thra

    wes n

    eu’r u

    nig

    oly

    n d

    ynodedig

    o few

    n 1

    0 d

    iwrn

    od y

    sg

    ol.

    Ysgrife

    nnw

    ch a

    t y p

    ennaeth

    (neu u

    nig

    oly

    n d

    ynod

    edig

    yr

    ysg

    ol) o

    few

    n p

    um

    diw

    rnod y

    sg

    ol.

    Cam B (Ffurfiol)

    B

    ydd y

    Pennaeth

    *, n

    eu b

    ers

    on a

    rall

    wedi ei ddyno

    di g

    an y

    r ysg

    ol, y

    n c

    yfa

    rfod g

    yda c

    hi o few

    n 1

    0

    niw

    rnod y

    sg

    ol o d

    derb

    yn e

    ich lly

    thyr.

    Byddan n

    hw

    ’n y

    mchw

    ilio i’c

    h c

    wyn a

    c y

    n y

    sg

    rife

    nnu a

    toch c

    hi o

    few

    n 1

    0 n

    iwrn

    od o

    gw

    blh

    au’r y

    mchw

    iliad i r

    oi g

    wybod

    i c

    hi beth

    yw

    'r c

    anly

    nia

    d.

    Cam C (Ffurfiol)

    Ysgrife

    nnw

    ch a

    t G

    adeirydd y

    Lly

    wodra

    eth

    wyr*

    * o few

    n p

    um

    diw

    rnod y

    sg

    ol.

    Bydd y

    gw

    yn y

    n c

    ael ei chly

    wed g

    an b

    wyllg

    or

    cw

    ynio

    n y

    corf

    f lly

    wodra

    eth

    u o

    few

    n 1

    5 d

    iwrn

    od y

    sg

    ol

    i’r d

    yddia

    d y

    bydd e

    ich lly

    thyr

    wedi dod i law

    .

    Cew

    ch w

    ybod y

    canly

    nia

    d o

    few

    n 1

    0 d

    iwrn

    od y

    sg

    ol.

    Mater wedi’i ddatrys

    Mater heb ei ddatrys

    Cwyn wedi’i datrys

    Cwyn wedi’i

    datrys

    Cwyn heb ei datrys

    * O

    s y

    w’r

    gw

    yn y

    n y

    mw

    ne

    ud â

    ’r p

    en

    nae

    th,

    dyle

    ch y

    sgri

    fennu a

    t gad

    eir

    ydd

    y c

    orf

    f lly

    wo

    dra

    eth

    u.

    **

    Os y

    w’r g

    wyn

    yn

    ym

    wn

    eud â

    ch

    ade

    iryd

    d y

    lly

    wo

    dra

    eth

    wyr,

    dyle

    ch y

    sgrife

    nnu a

    t yr

    is-g

    ade

    iryd

    d. T

    arg

    ed

    au y

    w’r h

    oll

    am

    serlenni a d

    da

    ngosir a

    c m

    aent

    yn

    hyb

    lyg

    ; m

    ae o

    fudd i b

    aw

    b b

    od c

    wyn y

    n c

    ae

    l e

    i da

    trys c

    yn

    gynte

    d â

    phosib

    l. B

    yd

    d y

    r ysgo

    l yn

    gw

    eith

    io g

    yd

    a c

    hi i sic

    rhau b

    od y

    r am

    ser

    a n

    eill

    tuir i d

    de

    lio â

    ’r m

    ate

    r sy’n

    achosi pry

    der

    i ch

    i ne

    u’c

    h c

    wyn y

    n r

    hesym

    ol a

    ’i fo

    d y

    n h

    elp

    u i g

    ael ate

    b i’r b

    roble

    m.

    Ato

    dia

    d 1