ymdeithas gwasanaethau gwirfoddol sir gâr · 2019-11-25 · roedd yr eitemau rheolaidd ar yr...
TRANSCRIPT
Cymdeithas Gwasanaethau
Gwirfoddol
Sir Gâr
Adroddiad Blynyddol 2018—2019
Adroddiad Blynyddol CAVS 2018—2019 2
Bwrdd yr Ymddiriedolwyr Gillian Wright (Cadeirydd) – Cymdeithas Teithwyr Rheilffordd Calon Cymru
Wyn Llewellyn (Is-Gadeirydd) – Coleg Elidyr
Dorothy McDonald (Trysorydd) – Grŵp Cefnogi Gofalwyr Dementia
Sandra Cooke – Olympaidd Arbennig Sir Gâr
Hugh Edwards – Pwll Hydrotherapi Llanelli
Ann Evans – Rhwydwaith Aml-Ddiwylliannol Sir Gâr
Brian Hobart – Clwb Cymdeithasol y Deillion Aman Gwendraeth
Peter Loughran – Age Cymru Sir Gâr
Jayne Pritchard – Cynrychiolydd Cyngor Sir Gâr (Arsylwr)
Cllr. Cefin Campbell – Enwebai Cyngor Sir Gâr (Arsylwr)
Staff Marie Mitchell – Prif Swyddog
Jane Hemmings – Swyddog Gwirfoddoli
Fflur Lawlor – Swyddog Gwirfoddoli (hyd at 10.02.19)
Clare Pilborough – Swyddog Ymgysylltu
Jackie Dorrian – Swyddog Datblygu Chwarae / Swyddog Cefnogi Datblygu
Tom Haskett – Gweithiwr Chwarae
Jamie Horton – Swyddog Prosiect Gwirfoddoli Gwledig
Alud Jones – Cynorthwy-ydd Prosiect Gwirfoddoli Gwledig
/Swyddog Prosiect Gwirfoddoli Gwledig (dechreuodd 16.04.19)
Louise Morgan – Cydlynydd Swyddfa
Sandra Williams – Gweinyddwr Cymorth
Sian Johnson – Gweinyddwr Cymorth
Gwyneth Lewis – Swyddog Cyllid
Bwrdd yr Ymddiriedolwyr a Staff
Prif Swyddog CAVS, Marie Mitchell, yr Is-Gadeirydd, Wyn Llewellyn a’r Cadeirydd, Gillian Wright
3 Adroddiad Blynyddol CAVS 2018—2019
Mae’n bleser unwaith eto i gyflwyno Adroddiad Blynyddol CGGSG. Bu 2018-19 yn flwyddyn brysur a
llwyddiannus arall. Mae Bwrdd Ymddiriedolwyr CGGSG a’r staff yn deall yn iawn ein bod yn wynebu
cyfnod fwy heriol. Yr her fwyaf yw dod o hyd i gyfleoedd ariannu newydd a gweithio tuag at wneud
ein gwaith a’n prosiectau presennol yn fwy cynaliadwy tra’n parhau i ddarparu’r gwasanaethau craidd
y mae ein haelod fudiadau a’r Trydydd Sector ehangach yn Sir Gaerfyrddin yn eu disgwyl gan Gyngor
Gwirfoddol Sirol.
Mae mwy a mwy o alw am ein gwasanaethau, ac fel sydd hefyd yn digwydd yn gynyddol, mae disgwyl
i’r Trydydd Sector ddarparu gwasanaethau o ansawdd uchel ond am gost isel. Mae’r sector wedi
ymateb i’r her hon, a gall yn wir ddarparu’r gwasanaethau o ansawdd sydd eu hangen mewn ffordd
broffesiynol ac effeithiol. Fodd bynnag, mae’n rhaid talu pris teg am wasanaethau o’r fath ac mae’n
rhaid inni hawlio cost lawn y gwaith. Rydym wedi parhau i ddarparu’r ystod lawn o wasanaethau a
ddisgwylir gan Gyngor Gwirfoddol Sirol.
Unwaith eto eleni, rydym wedi parhau i weithio’n agos gyda’n partneriaid. Rydym wedi uno gyda’r
Cynghorau Gwirfoddol Sirol eraill a Chyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru i weithio fel Cefnogi
Trydydd Sector Cymru, rhwydwaith o fudiadau cymorth ar gyfer y Trydydd Sector yng Nghymru yn
gweithio dros y pileri – Gwirfoddoli, Llywodraethu Da, Cyllid Cynaliadwy a Ymgysylltu a Dylanwadu.
Gobeithiwn y mwynhewch ein Hadroddiad Blynyddol; mae’n cynnig cipolwg o’r hyn a wnaethom yn
ystod y flwyddyn a’n gobaith yw y cewch eich ysbrydoli gan gyfoeth y gwasanaethau a ddarperir gan
CGGSG, o’n swyddogaethau craidd i’n prosiectau.
Er mwyn cael gwybod mwy am ein gwaith ewch i’n gwefan www.cavs.org.uk lle y gallwch hefyd ddar-
ganfod mwy am gyfleoedd aelodaeth a sut allwch fod yn rhan o’n gwaith.
Cyd Ragair & Chroeso
Cyd Ragair & Chroeso
Prif Swyddog CAVS, Marie Mitchell a’r Cadeirydd Gillian Wright
Adroddiad Blynyddol CAVS 2018—2019 4
CAVS yw’r Cyngor Gwirfoddol Sirol ar gyfer Sir Gâr
Dyma Amcanion Cymdeithas Gwasanaethau Sir Gâr:
“hyrwyddo pob diben elusennol, neu unrhyw rai ohonynt, neu’r rheiny y bernir
yn gyfreithiol eu bod, nawr neu maes o law, yn elusennol, er lles y gymuned yng
Nghymru, gyda blaenoriaeth benodol i Sir Gâr, trwy gyfrwng y Gymraeg a’r
Saesneg.”
Elusen Gofrestredig Rhifyn 1062144
Cwmni Cyfyngedig 3348742
SWYDDFA GOFRESTREDIG
Y Mount
18 Stryd y Frenhines
CAERFYRDDIN
SA31 1JT
Ffôn: 01267 245555
E-bost: [email protected]
SAFLE WE CAVS
www.cavs.org.uk
Facebook @CAVSCarms Twitter @CAVSCarms & @CAVSVolCentre
Ynglyn â CAVS
CAVS yn rhan o Cefnogi Trydydd Sector Cymru
Rhwydwaith o fudiadau cymorth i’r Trydydd Sector yng Nghymru
yw Cefnogi Trydydd Sector Cymru. Nod y rhwydwaith yw gal-
luogi’r Trydydd Sector a gwirfoddolwyr ledled Cymru i gyfran-
nu’n llawn at lesiant unigolion a chymunedau, yn awr ac at y
dyfodol.
5 Adroddiad Blynyddol CAVS 2018—2019
Prif Gyflawniadau
Datblygu Dysgu
144
Nifer y bobl a gymerodd ran mewn cyrsiau hyfforddiant wyneb-i-wyneb
Ymgysylltu a Dylanwadu
215
Nifer y bobl a fu mewn partneriaethau/fforymau/rhwydweithiau/digwyddiadau a
hwyluswyd
Gwirfoddoli
Cyllid Cynaliadwy
Faint o arian a roddwyd i fudiadau wedi iddynt gael cefnogaeth
Faint o arian a roddwyd ac a ddosbarthwyd i fudiadau gan CAVS
£20,176
£150,000
Nifer y gwirfoddolwyr a ymrwymodd i gyfle gwirfoddoli ar-lein
Nifer y gwirfoddolwyr a gefnogwyd i fanteisio ar gyfle gwirfoddoli
583
50
Llywodraethu Da
255
Nifer y mudiadau a gefnogwyd i fanteisio ar gyngor ac arweiniad arbenigol
Nifer y mudiadau a gefnogwyd gyda chyngor a gwybodaeth uniongyrchol
36
Adroddiad Blynyddol CAVS 2018—2019 6
Yn ystod 2018 -19 rhoddwyd cefnogaeth ac arweini-ad i nifer o fudiadau gwahanol, o glybiau a grwpiau cymunedol bychain i fudiadau cenedlaethol.
Roedd y ddarpariaeth hon yn cynnwys gwybodaeth a chefnogaeth gydag ymholiadau o bob math megis:
Cynllunio busnes
Dewis dogfen lywodraethu briodol
Cofrestru yn Fudiad Ymgorfforedig Elusennol (C.I.O.) gyda’r Comisiwn Elusennau neu'n Gwmni Budd Cymunedol gyda Thŷ’r Cwmnïau
Rolau a chyfrifoldebau ymddiriedolwyr, cy-farwyddwyr, pwyllgorau rheoli
Y system DBS
Recriwtio, cynefino a rheoli staff a gwirfoddol-wyr
Datblygu polisïau
Rheolaeth ariannol
Monitro a gwerthuso
Systemau gwarantu ansawdd a chyhoeddusrwydd
Marchnata a hyrwyddo
Llywodraethu Da
Dros y flwyddyn ddiwethaf mae nifer o fudiadau wedi gofyn am gymorth gyda diweddaru eu dogfennau lly-wodraethu, llawer ohonynt dros 20 mlwydd oed ac angen eu gwneud yn fwy cyfredol. Cafwyd llawer o geisiadau hefyd ynghylch perchnogaeth tir a lesau ar adeiladau.
Cefnogaeth ac arweiniad
Mae CAVS yn cynnig cymorth gydag ymholiadau o bob math o ran materion llywodraethiant a rheolaeth er mwyn sicrhau bod gan ymddiriedolwyr yr hyder i arwain eu mudiadau i gyflawni’n effeithiol ac effeithlon.
Mudiadau newydd
Ceisiadau am gymorth i fudiadau newydd yn ystod y flwyddyn hyd at fis Mawrth 2019, roedd y grwpiau
oedd yn cael eu datblygu yn cynnwys:
Menter ar gyfer Cadwraeth Natur Cymru – daeth yn elusen gofrestredig
The Hangout – daeth yn elusen gofrestredig
Ymddiriedolaeth Fferm Permaddiwylliant Dyfed – ymchwilio dod yn elusen
Sefydliad Cymunedol y Scarlets – daeth yn elusen gofrestredig
Rhwydwaith Ymddiriedolwyr
Rhoddodd y Rhwydwaith Ymddiriedolwyr gyfle i ymddiriedolwyr hen a newydd ddysgu o brofiad eraill a chyfle anffurfiol i godi materion roeddent angen cefnogaeth â nhw.
Rydym wastad yn edrych ar ffyrdd newydd o ymgysylltu ag Ymddiriedolwyr yn y Rhwydwaith hwn, a pha ffordd well o wneud hynny nac i wahodd pobl i fore coffi ac i siarad am faterion all ddeillio o fod yn ymddiriedolydd.
Llun: Bore coffi ymddiriedolwyr 15.11.18
7 Adroddiad Blynyddol CAVS 2018—2019
Digwyddiadau
Cyfnod o Newid
Roeddem yn gyd-drefnwyr digwyddiad Rhanbarthol Gorllewin Cymru ar yr 21ain Chwefror 2019, ac un-waith eto roedd yn ddigwyddiad arbennig o lwyddian-nus a noddwyd gan Bevan Buckland ac a gefnogwyd gan Ganolfan Gydweithredol Cymru, “Cyfnod o Newid”. Rhoddodd gyfle i fudiadau glywed am: Brexit a sut y bydd yn effeithio’r Trydydd Sector Cofrestriad CIO a Newyddion am Elusennau Is-gwmnïau Masnachu Diweddariad Rhanbarthol Gorllewin Cymru
Llywodraethu Da
Cynhadledd y Gyfraith & Llywodraethiant yn y Trydydd Sector De Cymru
Buom hefyd yn rhan o gynhadledd ranbarthol arall ar y cyd â Chymdeithasau Gwirfoddoli Sirol yn Abertawe, Castell-nedd Port Talbot a Phenybont ar Ogwr. Cynhaliwyd y gynhadledd yng Ngwesty Towers, Aber-tawe ar 20fed Mehefin 2018 . Y materion a drafodwyd oedd: Cyfarwyddwyr – dyletswyddau a chyfrifoldebau Elusennau sy’n masnachu ac is-gwmnïau Trosglwyddiadau Busnes gan gynnwys TUPE Seibr Ddiogelwch
255
Nifer y mudiadau a gefnogwyd gyda chyngor a gwybodaeth uniongyrchol
Nifer y mudiadau a gefnogwyd i fanteisio ar gyngor ac arweiniad arbenigol
36
Prif Gyflawniadau
Adroddiad Blynyddol CAVS 2018—2019 8
Cymorth Cyllido
Darparodd CAVS gymorth gydag ymholiadau o bob math ym maes datblygu cynaliadwy a sut all mudiadau symud i’r cyfeiriad hwn.
Datblygu Dysgu
Chwiliadau Open 4 Community
Chwiliadau Cyllido Cymru
Cymorth ymarferol gyda cheisiadau am arian
Adborth ar geisiadau oedd wedi’u llenwi
Rhoi ar waith ‘gymysgedd’ ariannu priodol / codi arian ac ati
Strategaethau codi arian
Cynlluniau busnes
Rhagolygon ariannol
Templedi incwm a gwariant
Strategaethau ymadael
Ffyrdd o arallgyfeirio - ffyrdd amgen o gynhyrchu incwm, tendro a chontractio a chytundebau lefel gwasanaeth.
Hyfforddiant
Wedi dosbarthu Dadansoddiad o Anghenion
Hyfforddiant, cafodd rhaglen hyfforddiant helaeth ei
datblygu, yn cynnig cyfuniad o gyrsiau hyfforddiant
rhad ac am ddim, cost isel ac am dâl.
Roedd yr adborth yn dda iawn a gofynnodd rhai
mudiadau am gyrsiau pwrpasol ar eu cyfer nhw’n
benodol. Cyflwynwyd yr hyfforddiant mewn nifer o
ffyrdd gwahanol, gan gynnwys gweithio gyda phart-
neriaid fel Gweithredu dros Iechyd Meddwl Gorllew-
in Cymru.
Roedd y cyrsiau a gyflwynwyd yn cynnwys:
Cymorth Cyntaf
Amddiffyn Sylfaenol Cymru Gyfan
Ymwybyddiaeth Hunanladdiad
Hyfforddiant Cyllid
Hyfforddiant i Ymddiriedolwyr
GDPR
Ymwybyddiaeth o iechyd meddwl
Technegau ar gyfer Rheoli Gwrthdaro
Anhwylder Deubegynnol
Warden Tân
Gwahoddiad i Rwydwaith PQASSO Cymru
Ymwybyddiaeth Alcohol a Chyffuriau
Gweithio Unigol
Ymwybyddiaeth o hunanladdiad
Roedd y cymorth a’r gefnogaeth (a roddwyd i ymddiriedolwyr, staff a gwirfoddolwyr) yn cynnwys:
Cyllid Cynaliadwy
144
Nifer y bobl a gymerodd ran mewn cyrsiau hyfforddiant wyneb-i-wyneb
Prif Gyflawniadau
9 Adroddiad Blynyddol CAVS 2018—2019
Cyllid Cynaliadwy
Ffair Ariannu, CAVS Gorffennaf 2018
Rhoddwyd gwybodaeth ariannu yn nigwyddi-
adau’r Fforwm Trydydd Sector Rhoesom wybod i grwpiau a mudiadau am y cyllid oedd ar gael trwy ein gwefan ac e-fwletin.
Rhoesom gefnogaeth un i un i grwpiau bach, naill ai ar y ffôn neu yn bersonol er mwyn cynorthwyo gyda chwiliadau ar borth ariannu Open 4 Communities a Cyllido Cymru, y platfform newydd i chwilio am arian.
Digwyddiad Ariannu
Cynhaliodd CAVS dair Ffair Ariannu ar draws y flwyddyn ym misoedd Gorffennaf, Medi a Thachwedd 2018
Cynhaliwyd Cymhorthfa Ariannu gyda’r Sefydliad Cymunedol yng Nghymru
Gwnaethom ddechrau gweithio gyda Chronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol ar gyflwyno gweithdai ar yr arian sydd ar gael
Cyllido Cymru.- y platfform newydd gan Cefnogi Trydydd Sector Cymru i chwilio am arian funding.cymru
Prif Gyflawniadau
Faint o arian a roddwyd ac a ddosbarthwyd i fudiadau gan CAVS
£20,176
Faint o arian a roddwyd i fudiadau wedi iddynt gael cefnogaeth
£150,000
Adroddiad Blynyddol CAVS 2018—2019 10
Ymgysylltu a Dylanwadu
Fforwm Trydydd Sector Sir Gaerfyrddin
Buom yn annog grwpiau i fynychu cyfarfodydd y Fforwm yn Mai 2018 trwy drefnu siaradwyr ar bynciau penodol a sicrhau bod elfen Rwydweithio i’r sesiwn. Rhoddwyd cyflawniadau gan: Busnes Cymdeithasol Cymru Sefydliad Codi Arian Bywydau a Rennir a Mwy
Roedd yr eitemau rheolaidd ar yr agenda yng nghyfarfodydd y Fforwm yn cynnwys diwed-dariad o’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus a diweddariadau o ‘r partneriaethau strat-egol. Yn dilyn y diweddariadau hyn, roedd cyfle i’r mynychwyr holi’r swyddogion oedd yn bresennol yn ogystal â chodi materion yr oeddent yn awyddus i dynnu sylw atynt gyda Phrif Swyddog CAVS a Chadeirydd Bwrdd Ymddiriedolwyr CAVS. Roedd eitemau eraill yn cynnwys y Diweddariad Cyllido ac amser i rwydweithio a rhannu gwybodaeth a phrofiadau ac arfer gorau.
Rhwydwaith Iechyd & Llesiant
Ffurfiwyd y grŵp hwn ym mis Mai 2018 er mwyn cynnull y sawl sy’n gweithio ym myd Iechyd a Gofal Cymdeithasol at ei gilydd. Pwrpas hynny oedd sicrhau llais i’r Trydydd Sector mewn datblygiadau strategol yn dilyn dyfodiad y Ddeddf Gofal Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) a Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol( Cymru). Mae’r grŵp yn cysylltu â gwaith CUSP (tud.12) ac mae’n anelu at fwydo gwybodaeth i ac oddi wrth Grŵp Cyflawni Ymyriadau Cynnar ac Atal y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus.
Rhoddwyd cyflwyniadau gan Brosiect Cysylltu Cymunedau Y Groes Goch Brydeinig ac Adran Gwyddor Data Prifys-gol Abertawe. Hyd yn hyn cawsom 3 chyfarfod, a bu pob un ohonynt yn llwyddiant. Gobeithiwn adeiladu ar y llwyddiant hwn i’r dyfodol.
Cefnogi’r Trydydd Sector Cynhadledd yng Nghanolfan Yr Egin Tachwedd 2018
Trefnwyd y gynhadledd hon ar y cyd â Chyngor Sir Caerfyrddin, Busnes Cymdeithasol Cymru a Phrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (ac fe’i hariannwyd trwy Raglen Datblygu Gwledig – Cymunedau Gwledig Lly-wodraeth Cymru 2014-2020)
Rhoddodd y gynhadledd syniadau ymarferol ar:
Ddefnyddio technoleg ddigidol i gefnogi eich mudi-ad. Golwg ar sut i wneud yn fawr o arfau a thechno-legau ar-lein.
Ymgysylltu â phobl ifanc – manteision ymgysylltu â phobl ifanc er mwyn cefnogi anghenion a mentrau eich mudiad.
Datblygu ochr fasnachol eich mudiad a lefel y gefnogaeth sydd ar gael.
Roedd cyfle hefyd i rwydweithio a rhannu gwybodaeth a syniadau gyda mudiadau Trydydd Sector eraill yn y sir.
11 Adroddiad Blynyddol CAVS 2018—2019
Ymgysylltu a Dylanwadu
Cydweithio
Yn ystod 2018-19 gweithiodd CAVS yn agos â phartner-iaid statudol i sicrhau bod llais y sector yn cael ei glywed yn y sir. Roedd y sector yn cael adborth trwy Fforwm Trydydd Sector Sir Gaerfyrddin, y Rhwydwaith Iechyd & Llesiant a thrwy wefan ac e-fwletin CAVS a’r Cyfryngau Cymdeithasol.
Roedd Prif Swyddog CAVS yn aelod o’r Bwrdd Gwasanae-thau Cyhoeddus. Cymeradwywyd Cynllun Llesiant Sir Gaerfyrddin ym mis Mai 2018 ac fe ffurfiwyd grwpiau cyflawni i weithredu’r cynllun, gan ganolbwyntio ar y pedwar amcan llesiant allweddol. Mae Prif Swyddog CAVS wedi cadeirio ac wedi bod yn arweinydd arbenigol ar gyfer y Grŵp Cyflawni Cysylltiadau Cryfion ac mae CAVS hefyd wedi cynrychioli’r Trydydd Sector ar bob un o’r grwpiau cyflawni eraill.
Gweithiwyd gydag ystod eang o bartneriaid, yn cynnwys :
Partneriaeth DOG Sir Gaerfyrddin
Cyngor Sir Gaerfyrddin
Bwrdd Gwasanaethau Integredig Sir Gaerfyrddin
Ffoaduriaid Syriaidd Sir Gaerfyrddin
Canolfan Iechyd a Llesiant Cross Hands
Grŵp Cefn Gwlad
Nifer y bobl a fu mewn partneriaethau/fforymau/rhwydweithiau/digwyddiadau a hwyluswyd
215
Prif Gyflawniadau
Ffoaduriaid Syriaidd Sir Gâr
Roedd CAVS yn aelod o Dasglu Ffoadu-riaid Syriaidd Sir Gaerfyrddin, sy’n gwneud ei orau i sicrhau bod teuluoedd sy’n cyrraedd yma yn cael cefnogaeth gyda’u hanghenion meddygol, tai ac addysgol ac yn cael eu helpu i integreiddio yn eu cymuned leol.
27 o deuluoedd =
125 unigolyn
Hyd at fis Mawrth 2019 roedd cyfanswm o Rhydaman
Caerfyrddin
Garnant
Llandeilo
Llanelli
Cydweli
Pontyberem wedi cael eu hail-sefydlu ar hyd a lled y Sir yn:
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
Cynlluniau Pentref Llesiant Llanelli
Bwrdd Comisiynu SCHT
Iechyd Cyhoeddus Cymru
Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant
Partneriaeth Gofal Gorllewin Cymru
Adroddiad Blynyddol CAVS 2018—2019 12
CUSP Prosiect Cefnogi Unedig Sir Gaerfyrddin
Nod CUSP yw galluogi mudiadau Trydydd Sector i ddarparu dull cydlynol o gefnogi pobl i fyw’n dda ac yn an-nibynnol. Mae CAVS yn rhan ganolog o wneud y bartneriaeth yn llwyddiant a darparodd yr ysgrifenyddiaeth er mwyn sicrhau bod y bartneriaeth yn parhau i ddatblygu.
Mae CUSP ar gyfer pobl sydd yn agos at fod angen gofal a chefnogaeth gan wasanaethau statudol, lle y gall cam bach yn ôl eu gwthio dros y dibyn. Bydd y prosiect hwn yn edrych ar ffyrdd o adeiladu cydnerthedd a chynnig cy-morth ymarferol. Bydd yn cynnig ffordd o alluogi mudiadau i feithrin cysylltiadau yn y gymuned ac edrych ar ffyrdd o weithio mor effeithiol ac effeithlon ag y bo modd er mwyn i bobl deimlo’n ddiogel, aros yn iach a byw’n annibynnol. Bydd cydweithio mewn partneriaeth yn cynnig ffordd o wneud i bobl deimlo eu bod yn cael eu cefnogi. Mae’r prosiect yn defnyddio system atgyfeirio y bydd pob mudiad dan sylw yn ei defnyddio i sicrhau ein bod yn cynnig gwasanaeth sy’n rhoi pobl yn gyntaf.
Wrth gael eu cefnogi gan CUSP bydd unigolyn yn cael asesiad gan Weithiwr Cymorth CUSP, a fydd yn mapio ad-noddau cymunedol, y ddarpariaeth sydd ar gael ac asedau eraill all helpu’r person hwnnw neu honno i adeiladu eu cydnerthedd. Bydd mudiadau partner a heb fod yn bartneriaid yn cyfeirio cleientiaid at CUSP.
Ymgysylltu a Dylanwadu
Partneriaid CUSP:
Comisiynwyr/ Budd-ddeiliaid ehangach
Partneriaid CUSP
Trydydd Sector
CAVS
Cymunedau
British Red Cross
Mae strwythur CUSP yn cynnwys dull aml-lefel o reoli a chyflawni.
13 Adroddiad Blynyddol CAVS 2018—2019
Ymgysylltu a Dylanwadu
Rhannu Gwybodaeth
Danfonwyd e-fwletin CAVS allan yn rheolaidd trwy gydol y
flwyddyn. Ym mis Ionawr 2019 newidiodd o fod yn wythnosol i
bob pythefnos. Roedd yn cynnwys adrannau ar Newyddion, Dig-
wyddiadau, Hyfforddiant, Cyllid, Ymgynghoriadau, Gwirfoddoli a
Swyddi yn y 3ydd Sector. Gall pobl drefnu derbyn yr e-fwletin
trwy wefan CAVS.
Hefyd, cyhoeddwyd tri rhifyn o gylchlythyr CAVS, Llais Myrddin
(Gwanwyn, Haf/Hydref a Gaeaf), gan gynnig mwy o newyddion a
gwybodaeth ar gyfer y Trydydd Sector.
Defnyddiwyd gwefan ac e-fwletin CAVS a’r cyfryngau
cymdeithasol i rannu newyddion am ddatblygiadau yn y Sector
Cyhoeddus, manylion am ymgynghoriadau, ymgyrchoedd, dig-
wyddiadau ymgysylltu â’r cyhoedd a gwybodaeth oddi wrth
Bartneriaid a mudiadau Trydydd Sector er mwyn codi
ymwybyddiaeth ac annog mudiadau i chwarae rhan weithredol
mewn materion a phryderon lleol.
infoengine
Gweithiodd CAVS gyda
Chymdeithasau Gwirfoddoli Sirol
lleol eraill i barhau i ddatblygu a
hyrwyddo infoengine yn brif ffyn-
honnell gwybodaeth ar-lein am
wasanaethau Trydydd Sector ledled
Sir Gaerfyrddin a Chymru.
Mae infoengine https://
infoengine.cymru/ yn cynnig ffordd
rwydd i fudiadau Trydydd Sector gael
presenoldeb ar y we a hyrwyddo eu
gwasanaethau ar-lein.
Ym mis Hydref 2018 daeth y ddolen
rhannu gwybodaeth rhwng infoen-
gine a DEWIS Cymru yn weithredol.
Mae DEWIS Cymru yn wefan sy’n darparu gwybodaeth am lesiant yng Nghymru, a ddatblygwyd gan Data Cymru
ar ran y 22 awdurdod lleol yng Nghymru.
Mae hwn yn gydweithrediad ymarferol rhwng y Trydydd Sector a’r sector cyhoeddus yng Nghymru ac mae’n
sicrhau bod gwybodaeth ar gael yn hwylus i’r cyhoedd ac i’r sawl sy’n cynnig cyngor a chefnogaeth i’r cyhoedd ar
draws Cymru. Yn ymarferol, mae gwybodaeth am wasanaethau o’r fath ar gael erbyn hyn ar y ddwy wefan, waeth
o ble y caiff yr wybodaeth ei hychwanegu.
Adroddiad Blynyddol CAVS 2018—2019 14
Canolfan Gwirfoddoli CAVS
Mae Canolfan Gwirfoddoli CAVS, yn Y Mount yng Nghaerfyrddin, yn gweithio i hyrwyddo a chefnogi gwirfoddoli ar draws Sir Gaerfyrddin. Rydym yn gweithio gyda grwpiau sy’n defnyddio gwir-foddolwyr ac unigolion sy’n awyddus i ddod yn wirfoddolwyr. Mae ein gwaith gyda darpar wirfoddolwyr yn amrywiol iawn ac mae’n seiliedig ar anghenion unigolion. Trwy roi gwybodaeth a chefnogaeth am leoliadau gwirfoddoli, sy’n gweddu i sgiliau, anghe-nion datblygu personol a diddordebau’r unigolyn, ein nod yw cysylltu’r gwirfoddolydd gyda mudiad lleoli addas. Gallwn hefyd ddarparu hyfforddiant anffurfiol ar gyfer grwpiau o wirfoddolwyr gweithredol.
Rhoddir arweiniad a chefnogaeth i fudiadau lleoli am arfer da drwy hyfforddiant anffurfiol ac achrededig, cy-morth gyda datblygu polisïau addas a gweithdrefnau a chyfleoedd rhwydweithio i rannu arfer da. Mae’r Ganolfan Gwirfoddoli yn trefnu cyfarfodydd CVON (Rhwydwaith Trefnwyr Gwirfoddoli Sir Gaerfyrddin). Mae’r rhwydwaith llwyddiannus yn sesiwn wybodaeth i gydlynwyr gwirfoddoli ac mae’n cefnogi dros 200 o grwpiau Trydydd Sector yn y Sir. Mae’r rhwydwaith yn cynnig cyfle i rannu arfer gorau ymhob agwedd o reoli a llywodraethu gwirfoddolwyr trwy drafodaethau bywiog, rhannu gwybodaeth, gweithdai a siaradwyr gwadd yn ogystal â diweddariad gan CAVS a’r Ganolfan Gwirfoddoli ym mhob cyfarfod. Cyfarfu CVON dair gwaith yn ystod y flwyddyn. Rhoddwyd y gwahanol gyflwyniadau gan amrywiol fudiadau, megis eleni gan Mark Thomas (PCYDDS) Carol Lincoln ac Abbi Steanson (Burns By Your Side) Phil Gibson (Gwasanaeth Tystion CAB) Cawsom gyflwyniad hefyd i wefan newydd gwirfoddoli-cymru.net gan Fflur Lawlor, a diweddariadau gan Jamie Horton ac Alud Jones am ddatblygiadau yn y Prosiect Gwirfoddoli Gwledig.
Gwirfoddoli
Pob Hwyl Fflur
Ynghanol mis Chwefror, roedd CAVS yn drist iawn o orfod ffarwelio â Fflur Lawlor ar ôl 15mlynedd gyda’r gymdeithas. Bydd ei chydweithwyr a’r nifer fawr o wirfoddolwyr a mudiadau a gefnogodd dros y blynyddoedd yn ei cholli’n fawr iawn. Dechreuodd Fflur weithio gyda CAVS yn 2003 yn Swyddog Datblygu Rhwydweithiau Pobl Ifanc cyn symud ymlaen i fod yn Swyddog Gwirfoddoli yn 2004. Dros y blynyddoedd bu’n gyfrifol hefyd am brosiect Gwirfoddoli MAWR, y prosiect Ymgysylltu, gwirfoddolwyr ifanc, cynllun Gwirfoddolwyr y Mileniwm a bu’n rheoli’r Grant Dan Arweiniad Ieuenctid ar ran GwirVol. Bu Fflur hefyd yn hwyluso hyfforddiant achrededig ar gyfer gwirfoddolwyr a rheolwyr gwir-foddolwyr gyda’i chydweithwyr. Am y deunaw mis diwethaf hi oedd y Rhe-olydd Prosiect ar gyfer y Prosiect Gwirfoddoli Gwledig a hi oedd swyddog ar-weiniol CAVS ar gyfer gweithio tuag at safon ansawdd Elusen Ddibynadwy. Bu ei hadnabyddiaeth o’r Sector Gwirfoddol yn Sir Gaerfyrddin yn amhrisiadwy i wirfoddolwyr a mudiadau sy’n defnyddio gwirfoddolwyr. Roedd Fflur yn aelod allweddol o’r tîm yn CAVS, yn boblogaidd ymhlith ei chydweithwyr ac yn uchel iawn ei pharch gan y nifer fawr o wirfoddolwyr a mudiadau yn y sir y gweithiodd yn ddiwyd â nhw yn ystod ei chyfnod gyda CAVS. Dymunwn y gorau posib i Fflur gyda’i theulu hyfryd a phob llwyddiant iddi yn ei swydd newydd.
Ffarwel a Phob Hwyl Fflur Byddwn yn dy golli!
15 Adroddiad Blynyddol CAVS 2018—2019
Gwirfoddoli Ieuenctid
Mae’r Prosiect yn gweithio gyda phobl ifanc 11 - 25 oed yn Sir Gaerfyrddin. Mae’r gwaith hwn yn dod o hyd i gyfleoedd gwirfoddoli addas i’r unigolyn sy’n gwneud y gorau o’u potensial ac sy’n sicrhau eu bod yn elwa i’r eithaf ar y manteision y gall gwirfoddoli eu cynnig. Mae’r prosiect yn hollgynhwysol, gan ddiystyru anabledd, rhy-wedd, lleiafrifoedd ethnig, iaith, amgylchiadau (e.e. plant mewn gofal), gan sicrhau mynediad a chyfranogiad i bawb i gymaint graddau ag y bo modd, a’u galluogi i ddod yn aelodau gwerthfawr o’u cymuned
Gwirfoddolwyr y Mileniwm
Mae Gwirfoddolwyr y Mileniwm yn fenter genedlaethol sy’n ceisio hyrwyddo a chydnabod gwirfoddoli ymhlith pobl ifanc 14-25 oed. Mae’r wobr yn cynnwys 3 lefel – 50awr, 100awr a 200awr. Dros y 12 mis diwethaf, mae 10 person ifanc newydd wedi ymuno â’r cynllun. Cyflawnodd 10 person ifanc 50 awr, derbyniodd 11 o bobl ifanc eu tystysgrif 100 awr a chwblhaodd 1 person ifanc y cynllun a chyflawni 200 awr o wir-foddoli. Newidiodd y cynllun yn 2018, pan gyflwynwyd llwyfan digidol newydd ar gyfer gwirfoddoli – oedd yn golygu fod gwirfoddolwyr erbyn hyn yn gallu cofnodi eu horiau a thracio eu gweithgareddau gwirfoddoli trwy’r wefan. Pwrpas Cynllun Gwirfoddoli Ieuenctid CAVS yw hyrwyddo a chydnabod gwirfoddoli ymhlith pobl ifanc 11-13 oed yn Sir Gaerfyrddin. Mae 5 lefel i’r wobr – 20awr, 30awr, 50awr, 100awr a 500awr. Cafodd y wobr 500 awr i bobl ifanc o 11-25 oed ei gyflwyno am y tro cyntaf eleni i Brittany Alsop-Bingham o Gyngor Ieuenctid Sir Gâr. Mae’r cynllun yn gwneud argraffiadau cadarnhaol ar gymunedau lleol, gan gynnig cyfleoedd heriol a diddorol i bob person ifanc, a gwella’r ffordd y mae gwirfoddoli’n cael ei weld gan bobl ifanc yn y gymuned.
Gwirfoddoli
Hyfforddiant Canolfan Gwirfoddoli CAVS
Buom yn gweithio gyda Chymdeithasau Gwirfoddol Sirol cyfagos i’w helpu i baratoi cyrsiau hyfforddiant ‘Paratoi i Wirfoddoli’ i’w cyflwyno i ddarpar wirfoddolwyr. Buom hefyd yn cyd-gyflwyno darn o hyfforddiant gyda CAVO i grŵp o gwsmeriaid Canolfan Byd Gwaith. Buom yn datblygu cyrsiau blasu byrion i’w cyflwyno gan y Prosiect Gwir-foddoli Gwledig yn eu HYBIAU. Roedd y rhain yn cynnwys ‘Gwirfoddoli Tuag at Waith’, a gweithdy ‘Adeiladu Hy-der’. Ym misoedd Ebrill a Mai buom yn cyflwyno ein cwrs achrededig 5 niwrnod Agored Cymru ‘Rheoli Gwirfoddolwyr’. Cawsom gwrs llawn o bymtheg person, a dewisodd tri ar ddeg ohonynt gyflwyno gwaith ar gyfer yr achrediad ar lefel tri. Roeddent oll yn llwyddiannus. Roedd yr adborth gan aelodau’r cwrs yn rhagorol. Ein gobaith yw cyflwyno’r cwrs hwn bob dwy flynedd, gan ddibynnu ar y galw.
Dysgwyr yn cymryd rhan mewn gwaith grŵp yn ystod y cwrs ar Reoli Gwirfoddolwyr
Adroddiad Blynyddol CAVS 2018—2019 16
Gwirfoddoli
Wythnos Gwirfoddolwyr 2018
Cynhelir Wythnos Gwirfoddolwyr bob blwyddyn rhwng Mehefin 1 a Mehefin 7. Ar Fehefin 6, cynhaliasom Gwrdd Cymunedol yn yr Amgueddfa Wlân Genedlaethol yn Drefach Felindre. Bwriad y digwyddiad rhad ac am ddim hwn, partneriaeth rhwng Volunteering Matters a CAVS, oedd darganfod mwy am wirfoddoli yn yr ardal a sut i gymryd rhan. Roedd y digwyddiad hefyd yn cynnwys cerddoriaeth ar y delyn gan Gymdeithas Clarsach, stondi-nau gwybodaeth am grwpiau lleol ac arddangosiadau gan staff yr Amgueddfa Wlân a mudiadau eraill. Ar Fehefin 7, roedd Uned Wirfoddoli Deithiol CAVS ar Sgwâr y Clós Mawr, Caerfyrddin, 10am-2pm i hyrwyddo gwirfoddoli a’r cyfleoedd sydd ar gael yn Sir Gaerfyrddin. Defnyddiwyd y cyfle hwn hefyd i hyrwyddo cystadleuaeth ‘Lluniwch Fy Mws’, sef ymgais i ddod o hyd i ddyluniad newydd i’n Huned Wirfoddoli Deithiol.
Grantiau Ieuenctid
Panel Grant Ieuenctid CAVS Ar ôl gweithio gyda Swyddog Cyfranogi Ieuenctid Cyngor Sir Caerfyrddin a Chyngor Ieuenctid Sir Gaerfyrddin llwyddwyd i gael 6 pherson ifanc o rannau gwahanol o’r sir i gymryd rhan yn y broses ac eistedd ar Banel Grant Ieuenctid CAVS. Mae’r panel yn cael ei arwain yn llwyr gan bobl ifanc, gan mai’r bobl ifanc a luniodd y meini prawf a’r gweithdrefnau, ynghyd â’r holl ddeunyddiau marchnata ar gyfer rhoi cyhoeddusrwydd i’r grant. Mae’r panel yn dosbarthu grantiau ar gyfer y Grant Dan Arweiniad Ieuenctid.
Grant Dan Arweiniad Ieuenctid GwirVol Canolfan Gwirfoddoli CAVS sy’n gweinyddu Grant Dan Arweiniad Ieuenctid GwirVol. Nod y cynllun yw cefnogi nifer o brosiectau a gweithgareddau gwirfoddoli bychan, sy’n cael eu cyflawni a’u harwain gan bobl ifanc, a chaiff ceisiadau eu dewis a’u hargymell gan banel o bobl ifanc 14-25 oed. Roedd £3200 ar gael i’w ddosbarthu a gallai pob prosiect gynnig am hyd at £1,000. Cymerodd pum person ifanc ran yn y broses gwneud penderfyniadau ar gyfer Grant Dan Arweiniad Ieuenctid GwirVol. Rhoddwyd arian i bum mudiad o bob rhan o’r sir fel y gellid cyflawni prosiectau a mentrau oedd yn def-nyddio gwitrfoddolwyr:
Prosiect Gwirfoddoli Caerfyrddin - Dr Mz Gwirfoddolwyr Aman & Gwendraeth Gwirfoddolwyr Ôl 16 Caerfyrddin Cymdeithas Rieni Ysgol y Gwendraeth Plas Llanelly
Prif Gyflawniadau
Nifer y gwirfoddolwyr a gefnogwyd i fanteisio ar gyfle gwirfoddoli
583
Nifer y gwirfoddolwyr a ymrwymodd i gyfle gwirfoddoli ar-lein
50
17 Adroddiad Blynyddol CAVS 2018—2019
Lluniwyd y rhaglenni hyfforddiant rhad ac am ddim er mwyn cefnogi ac annog gwirfoddolwyr posib i gym-
ryd y cam nesaf ac er mwyn i fudiadau ehangu eu sgiliau…
Adeiladu Hyder – Dywedodd mudiadau a gwirfoddol-wyr fod diffyg hunan hyder a hunan barch yn feysydd yr oeddent angen cefnogaeth ynddynt.
Hylendid Bwyd Sylfaenol - Gwnaed yr awgrym hwn oherwydd nifer y canolfannau cymunedol sy’n cael eu defnyddio ar gyfer digwyddiadau cyhoeddus ac sydd angen cefnogaeth eu cymdogion. Er na fyddent yn drwyddedig, byddai hyn yn rhoi hyder i unigolion gynnig am y rolau hyn ac ymgymryd â rhagor o hyfforddiant.
Gwirfoddoli Tuag at Gyflogaeth – Er nad yw pob gwir-foddolwr yn bwriadu defnyddio gwirfoddoli yn gam tuag at fyd gwaith, gwelwyd y gallai llawer yn y sir weld man-teision adnabod sgiliau trosglwyddadwy a gwneud eu hunain yn fwy cyflogadwy.
Hyrwyddo eich Mudiad trwy ddefnyddio Ffilm - Er y gallai grwpiau weld gwerth hyrwyddo eu rolau gwirfod-doli ar wefan Gwirfoddoli Cymru, a’u gwefannau eu hunain, fe gytunwyd efallai mai gallu defnyddio cyfryn-gau cymdeithasol mewn ffordd fwy deinamig fyddai’r cam nesaf ymlaen. Felly, gan ddefnyddio peiriannau iPad ac iPhone, aethom ati i ddatblygu gweithdy i greu clipiau cyfryngau cymdeithasol.
Gwirfoddoli
Prosiect Gwirfoddoli Gwledig
Mae’r tîm wedi parhau i fod yn brysur yn cyfarfod â grwpiau newydd a rhai fu ar waith ers peth amser, gan ddatblygu eu rhaglenni hyfforddiant ac ymweld â’u lleoliadau allestyn ledled y sir.
Jamie - Codi Hyder yng Nglanaman, cyfleoedd i rwydweithio a focyssu ar
y camau nesaf
Rhagfyr 2018 - Alud yn cyfarfod elusennau i edrych ar hyrwyddo eu gwaith
Adroddiad Blynyddol CAVS 2018—2019 18
Gwirfoddoli
Trwy gydol y flwyddyn mae’r tîm Gwirfoddoli Gwledig wedi bod yn crwydro ar hyd a lled cymunedau gwledig Sir Gaerfyrddin yn hyrwyddo gwerth gwirfoddoli a chy-northwyo darpar wirfoddolwyr, gwirfoddolwyr a grwpiau nid er mwyn elw i wireddu eu potensial.
Bu’r elfen allestyn yn gyfle arbennig ac fe roddodd
gyfle inni dreulio mwy o amser wyneb-i-wyneb i wrando ar anghenion ein budd-ddeiliaid.
e.e. Treulio amser gyda Choleg Sir Gâr a Phrifysgol Cym-
ru Y Drindod Dewi Sant Digwyddiad yn Neuadd Tymbl Calan Gaeaf ar Sgwâr y Clos Mawr Digwyddiad Sgiliau Cymru ym Mharc y Scarlets Cynhadledd Materion Gwledig
Diweddariad hyd at ddiwedd Mawrth 2019
127 Ymgysylltu â budd-ddeiliaid Cyflawni
6 Hybiau Rhagori
150 Gosod gwirfoddolwyr Ar y ffordd
12 Digwyddiad dosbarthu Rhagori
150 Cyfranogydd Hyfforddiant Ar y ffordd
Sesiynau Hyfforddiant cyflwynwyd 20
A threulio amser defnyddiol gyda gwirfoddolwyr ...
“Fe wnaethon nhw gymryd amser i wrando ar beth
roeddwn ei eisiau, a wnaeth wahaniaeth enfawr o’r
cychwyn cyntaf. Doeddwn i ddim yn
teimlo dan bwysau neu fy mod yn
cael fy anwybyddu. Fe wnaethon
nhw fy nghyfeirio at grwpiau perth-
nasol, a chadw cysylltiad wedyn i
weld sut roedd pethau’n mynd”
– Aeth Amanda ymlaen i wirfoddoli
gyda nifer o fudiadau, gan gynnwys Y
Groes Goch Brydeinig, Mencap, a Ra-
dio Glangwili
Mai 2018: Alud yn paratoi i gyfarfod myfyrwyr Coleg Sir Gâr
Chwefror 2019 – Jamie’n trafod gydag ieuenctid Sir Gâr yn nigwyddiad Sgiliau Cymru ym Mharc y Scarlets
19 Adroddiad Blynyddol CAVS 2018—2019
Prosiect Chwarae Llwybrau Porffor
Mae Llwybrau Porffor wedi tawelu rhyw gymaint dros y deuddeg mis
diwethaf. Yn anffodus, ni lwyddwyd i sicrhau cyllid ar gyfer y prosiect, ond
rydym wedi llwyddo darparu rhai sesiynau yn Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro.
Buom yn darparu chwarae ar gyfer Diwrnod Chwarae Penfro -
digwyddiad ar gyfer Plant a Phobl Ifanc anabl a gynhaliwyd ar Faes Sioe
Amaethyddol Sir Benfro.
Roedd Sioe Sir Benfro yn llwyddiant enfawr arall inni, wrth inni weithio
gyda mwy na 700 o blant a’u teuluoedd yn ystod y digwyddiad 3 diwrnod.
Llwybrau Porffor
Llogi Offer Rydym yn dal i logi offer ar gyfer digwyddi-
adau fel partïon pen-blwydd, ffeiriau ysgol ac
mae gwahanol fathau o offer ar gael, fel
chwarae meddal, peiriant gwneud batho-
dynnau a stociau.
Y Ffordd Ymlaen Mae ein tîm bach iawn yn gweithio gydag
ymroddiad ac ymrwymiad i sicrhau bod
plant a phobl ifanc yn cael cyfle i chwarae’n
rhydd, yn gynhenid a chyda natur.
Adroddiad Blynyddol CAVS 2018—2019 20
Access Wales
Action on Hearing Loss Cymru
Adlerian Society
Age Cymru Sir Gâr
Arts Council of Wales
Alzheimer's Society
Antioch Christian Centre
Antur Teifi
Cymru Versus Arthritis
Bro Myrddin Bowls Club
Calan DVS
CDAS
Canolfan Gymunedol Ystradowen Community Centre
Cardigan Youth Project
Care & Repair Carmarthenshire
Carers Trust Crossroads Sir Gâr
Carmarthen Arts
Carmarthen MIND
Carmarthen U3A
Carmarthen Youth Project
Carmarthenshire Counselling Services
Carmarthenshire County Fed of YFC
Carmarthenshire Disability Coalition for Action
Carmarthenshire Hoarding Support Group
Carmarthenshire Shopmobility Caerfyrddin
Carmarthenshire Women's Institute
Cartrefi Cymru
Cerebra
Coleg Elidyr
CYCA
Cymdeithas Neuadd yr Ysgol Llanfihanger-ar-Arth
Cyngor Cymunedol Llangennech
Deafblind Cymru
Disability Skiing Wales
DIVERSE Cymru
Eiriol
GABS (Gwendraeth Amman Blind Society)
GABS. V. I. Bowls
Greyhound Rescue Wales
Gwili Railway
Gwynfe Community Hall Association
Hafan Cymru
Heart of Wales Line Traveller's Association
Homestart Carmarthenshire
HUTS Workshop
IAM RoadSmart
Kidwelly Town Council
Llamau
Llandovery Community Sports Association
Llandovery Town Council
Llanelli & District Fairtrade
Llanelli Free Evangelical Church
Llanelli Hydrotherapy Pool
Llanelli Lightning Diving Club
Llanelli MIND
Llanelli Multicultural Network
Llanelli Rural Council
Llanelli Town Council
Llanelli U3A
Llanerch Community Group
Llanfynydd Village Society
Llangadog Community Centre
Llansawel Recreation Field & Hall
Llanwrda Cricket Club
Llanybydder Family Cente
Macular Society
Mencap
Menter Cwm Gwendraeth Elli Cyf
Merched Y Wawr
Myddfai Community Hall & Visitor Centre
National Botanic Garden of Wales
New Pathways
Old Age Pensioners Penygroes
Old Mill Foundation
Parkinson's Society
People Speak Up
Plant Dewi
Pontyates Welfare Association
Radio Glangwili
Really Pro Ltd
Relate
Royal Voluntary Services
SENSE Cymru
SNAP Cymru
South Cefncaeau Family Centre
Special Olympics Carmarthenshire
Stroke Association
Tafarn Cwmdu
The Hangout
The Black Mountain Centre
Threshold DAS Llanelli
Vision in Wales (Wales Council of the Blind)
Volunteering Matters
West Wales Prostrate Cancer Support Group
WWAMH
Aelodau CAVS