ygoleuad - eglwys bresbyteraidd cymru · 2020. 10. 20. · llanbrynmair, gandhi, hedd wyn a’r...

8
Roedd y capel y cafodd Haf, fy ngwraig, ei magu ynddo yn un dwyieithog a gwraig un o’r blaenoriaid a oedd yn dod o Malpas yn Sir Gaer yn benderfynol bod y capel yn cael ei aduno mewn ffordd arbennig iawn ar gyfer ‘the Harvest Festival’. Ac yn wir i chi, yn fuan iawn dechreuodd y capeli Cymraeg yn yr ardal ddilyn yr un patrwm! Mi gefais i fy magu mewn capel Cymraeg yng Nghaer ac roedd y traddodiad o addurno’r capel mewn ffordd helaeth yn gryf iawn yn y fan honno hefyd. Ar ôl symud i Gymru i fyw, meddyliwch y sioc y cefais o fynd i gymryd oedfa ddiolchgarwch mewn ambell i le a ddim hyd yn oed un potyn o flodau i ddangos pa fath o wasanaeth oedd hi! ‘Amrywiaeth’ ydy’r gair sy’n crynhoi’r hyn rwyf newydd fod yn sôn amdano, ac mae’r un gair yn disgrifio’r hyn rydym yn mynd ymlaen i sôn amdano rfian sef agweddau gwahanol pobl tuag at ailddechrau addoli yn ein capeli ar ôl y cyfnod clo. Roedd rhai cynulleidfaoedd ond yn rhy barod i ddechrau yn ôl ar y cyfle cyntaf bosibl a hynny ar ôl paratoi yn fanwl ac anfon yr asesiad risg ymlaen i ysgrifennydd yr henaduriaeth. Ond mae yna lefydd eraill oedd ddim am oedi tan yr Hydref, neu Dachwedd, neu adeg y Nadolig neu hyd yn oed y Pasg! Mae pawb yn gwybod beth sydd orau iddyn nhw ac mae’r Cyfundeb yn dweud na ddylem ni roi pwysau ar bobl, yn enwedig y rhai sydd efo pethau fel clefyd siwgr neu broblemau’r galon; ac rydym i gyd yn parchu hynny wrth gwrs. Ond yr hyn sy’n fy mhoeni i gryn dipyn ydy’r perygl bod llawer o bobl sydd mewn llawn iechyd wedi dod i arfer gymaint gyda’r gwasanaethau maen nhw wedi ei fwynhau yn ystod y cyfnod clo, y radio a’r teledu a’r ffyrdd mwy modern sydd bellach ar gael trwy facebook, youtube, skype, zoom ayyb ond sy’n golygu llai o drafferth ar ein rhan yn enwedig pan mae’r tywydd yn oer ac yn wlyb. Fodd bynnag, mae’r rhain yn gwneud i ffwrdd efo’r pethau rydym wastad wedi mwynhau eu gwneud sef cyfarch ein gilydd, yr ysgwyd llaw, y canu a’r gweddïo gyda’n gilydd a’r sgwrsio ar y diwedd (dros baned o de mewn llawer lle.) Mae awdur Salmau 42 a 43 yn hynod o ddigalon am ei fod yn cael ei hun yn bell i ffwrdd o’r cyd-addoli yn y cysegr sydd wedi bod mor werthfawr iddo ar hyd y blynyddoedd. Mae rhai esbonwyr yn meddwl ei fod yn ffoadur yng ngogledd ddwyrain y wlad ac yn hiraethu am bresenoldeb agos Duw; mae o’n teimlo fel yr hydd sychedig yn brefu am ddfir ac yn torri ei galon wrth iddo ‘gofio mynd gyda’r dyrfa i dª Dduw, yn gweiddi a moli’n llawen gyda phawb arall wrth ddathlu’r fiyl.’ (ad.4) Tybed oes rhai ohonom ni yn teimlo felly? Yn wahanol i’r Salmydd, nid ydym yn bell o’r addoldy yn ddaearol, eto mae’r ffaith ein bod ni heb allu mynd iddo am gyfnod o chwe mis yn ein gwneud ni’n drist. Tair gwaith yn y salm mae’r awdur yn y gwaelodion. Ond bob tro, yn y gytgan, mae’n codi uwchben ei dristwch ac yn dweud:- ‘F’enaid, pam rwyt ti’n teimlo mor isel? Pam wyt ti mor anniddig? Rho dy obaith yn Nuw! Bydda i’n moli Duw eto am iddo ymyrryd i’m hachub i.’ (ad.5) Mae’n bosibl eich bod chi’n teimlo’n isel ac yn ddigalon yn enwedig os nad ydych wedi cael cyfle i ymuno â phobl yr Arglwydd am gyfnod hir a dim gobaith i hyn ddigwydd yn y dyfodol agos, ond fel mae’r Salmydd yn dweud, ‘rho dy obaith yn Nuw! Ac fel mae John Treharne yn ei ddweud yn Geiriau Ffydd 3 (tud.193), ‘Gallwn geisio’n Tad nefol unrhyw bryd ac yn unrhyw le. Mae llen y Deml wedi ei rwygo wrth i Iesu Grist farw trosom, a chawn ddod at orsedd rasol Duw ac i’w bresenoldeb sanctaidd yn Ei enw, beth bynnag yr amgylchiadau.’ Parch Eric Greene Llywydd y Gymdeithasfa yn y Gogledd CYFROL CXLVIII RHIF 43 DYDD GWENER, HYDREF 23, 2020 Pris 50c yn calonogi yn ysbrydoli yn adeiladu y G O LEU AD EGLWYS BRESBYTERAIDD CYMRU Gwerthfawrogiad o gyfraniad ac o gyfrol … t. 2 • O Gefn Gwlad … t. 7 • Dyma gyfarfod … t. 8 AMRYWIAETH Fel y brefa yr hydd am yr afonydd dyfroedd, felly yr hiraetha fy enaid amdanat ti, O DDUW. Sychedig yw fy enaid am DDUW, am y DUW byw…

Upload: others

Post on 04-Mar-2021

2 views

Category:

Documents


0 download

TRANSCRIPT

Page 1: yGOLEUAD - Eglwys Bresbyteraidd Cymru · 2020. 10. 20. · Llanbrynmair, Gandhi, Hedd Wyn a’r Gadair Ddu, y Parch. Ddr. Owen Thomas (Lerpwl), cenhadon Cymreig India, yn ogystal

Roedd y capel y cafodd Haf, fy ngwraig,ei magu ynddo yn un dwyieithog agwraig un o’r blaenoriaid a oedd yn dodo Malpas yn Sir Gaer yn benderfynolbod y capel yn cael ei aduno mewnffordd arbennig iawn ar gyfer ‘theHarvest Festival’. Ac yn wir i chi, ynfuan iawn dechreuodd y capeliCymraeg yn yr ardal ddilyn yr unpatrwm!

Mi gefais i fy magu mewn capelCymraeg yng Nghaerac roedd y traddodiado addurno’r capelmewn ffordd helaethyn gryf iawn yn y fanhonno hefyd. Ar ôlsymud i Gymru i fyw,meddyliwch y sioc ycefais o fynd i gymrydoedfa ddiolchgarwchmewn ambell i le addim hyd yn oed unpotyn o flodau iddangos pa fath owasanaeth oedd hi!

‘Amrywiaeth’ ydy’r gairsy’n crynhoi’r hyn rwyfnewydd fod yn sônamdano, ac mae’r ungair yn disgrifio’r hynrydym yn myndymlaen i sôn amdanorfian sef agweddaugwahanol pobl tuag atailddechrau addoli yn ein capeli ar ôl ycyfnod clo. Roedd rhai cynulleidfaoeddond yn rhy barod i ddechrau yn ôl ar ycyfle cyntaf bosibl a hynny ar ôl paratoiyn fanwl ac anfon yr asesiad risgymlaen i ysgrifennydd yr henaduriaeth.

Ond mae yna lefydd eraill oedd ddimam oedi tan yr Hydref, neu Dachwedd,neu adeg y Nadolig neu hyd yn oed yPasg! Mae pawb yn gwybod beth syddorau iddyn nhw ac mae’r Cyfundeb yndweud na ddylem ni roi pwysau arbobl, yn enwedig y rhai sydd efopethau fel clefyd siwgr neu broblemau’rgalon; ac rydym i gyd yn parchu hynnywrth gwrs.

Ond yr hyn sy’n fy mhoeni i gryn dipynydy’r perygl bod llawer o bobl syddmewn llawn iechyd wedi dod i arfergymaint gyda’r gwasanaethau maennhw wedi ei fwynhau yn ystod y cyfnodclo, y radio a’r teledu a’r ffyrdd mwymodern sydd bellach ar gael trwyfacebook, youtube, skype, zoom ayybond sy’n golygu llai o drafferth ar einrhan yn enwedig pan mae’r tywydd ynoer ac yn wlyb.

Fodd bynnag, mae’r rhain yn gwneud iffwrdd efo’r pethau rydym wastad wedimwynhau eu gwneud sef cyfarch eingilydd, yr ysgwyd llaw, y canu a’rgweddïo gyda’n gilydd a’r sgwrsio ary diwedd (dros baned o de mewnllawer lle.)

Mae awdur Salmau 42 a 43 yn hynod oddigalon am ei fod yn cael ei hun ynbell i ffwrdd o’r cyd-addoli yn y cysegrsydd wedi bod mor werthfawr iddo arhyd y blynyddoedd. Mae rhai esbonwyryn meddwl ei fod yn ffoadur yngngogledd ddwyrain y wlad ac ynhiraethu am bresenoldeb agos Duw;mae o’n teimlo fel yr hydd sychedig yn

brefu am ddfir ac yn torri ei galonwrth iddo ‘gofio mynd gyda’r dyrfa idª Dduw, yn gweiddi a moli’n llawengyda phawb arall wrth ddathlu’r fiyl.’(ad.4)

Tybed oes rhai ohonom ni yn teimlofelly?

Yn wahanol i’r Salmydd, nid ydym ynbell o’r addoldy yn ddaearol, eto mae’rffaith ein bod ni heb allu mynd iddo am

gyfnod o chwe misyn ein gwneud ni’ndrist. Tair gwaith yn ysalm mae’r awdur yny gwaelodion. Ondbob tro, yn y gytgan,mae’n codi uwchbenei dristwch ac yndweud:-

‘F’enaid, pam rwytti’n teimlo mor isel?Pam wyt ti moranniddig? Rho dyobaith yn Nuw!Bydda i’n moliDuw eto am iddoymyrryd i’m hachub i.’(ad.5)

Mae’n bosibl eichbod chi’n teimlo’nisel ac yn ddigalonyn enwedig os nadydych wedi caelcyfle i ymuno â

phobl yr Arglwydd am gyfnod hir adim gobaith i hyn ddigwydd yn ydyfodol agos, ond fel mae’r Salmyddyn dweud, ‘rho dy obaith yn Nuw!Ac fel mae John Treharne yn eiddweud yn Geiriau Ffydd 3 (tud.193),‘Gallwn geisio’n Tad nefol unrhywbryd ac yn unrhyw le. Mae llen yDeml wedi ei rwygo wrth i Iesu Gristfarw trosom, a chawn ddod at orseddrasol Duw ac i’w bresenoldebsanctaidd yn Ei enw, beth bynnag yramgylchiadau.’

Parch Eric GreeneLlywydd y Gymdeithasfa

yn y Gogledd

CYFROL CXLVIII RHIF 43 DYDD GWENER, HYDREF 23, 2020 Pris 50c

yn calonogi

yn ysbrydoli

yn adeiladu

yGOLEUADE G LW Y S B R E S B Y T E R A I D D C Y M R U

Gwerthfawrogiad o gyfraniad ac o gyfrol … t. 2 • O Gefn Gwlad … t. 7 • Dyma gyfarfod … t. 8

AMRYWIAETH

Fel y brefa yr hydd am yr afonydd dyfroedd,felly yr hiraetha fy enaid amdanat ti, O DDUW.

Sychedig yw fy enaid am DDUW, am y DUW byw…

Page 2: yGOLEUAD - Eglwys Bresbyteraidd Cymru · 2020. 10. 20. · Llanbrynmair, Gandhi, Hedd Wyn a’r Gadair Ddu, y Parch. Ddr. Owen Thomas (Lerpwl), cenhadon Cymreig India, yn ogystal

Bu cyfraniad D. Ben Rees i lenyddiaeth ffeithiol a chrefyddol Cymrudros gyfnod o hanner canrif a mwy yn aruthrol. Cofiaf yn dda eiddadansoddiad treiddgar o rôl y capel mewn cymdeithasddiwydiannol yn ‘Chapels in the Valley’ (1975), a’i grynodeb craffo’r traddodiad diwylliannol Cymreig a Chymraeg yn ‘Wales: theCultural Heritage’ (1981). Yn y gyfrol honno ceir brawddegarwyddocaol yn rhagarweiniad yr awdur:

‘The Cultural heritage of Wales is very muchtied up with the religious fervour that took placein the eighteenth century.’

Bu D. Ben Rees yn ffyddlon i’r weledigaethhonno trwy gydol ei yrfa fel awdur: a hynny, wrthgwrs yn adlewyrchu ei alwedigaeth felgweinidog gweithgar a bugail amryddawn i’wgymuned ddinesig. Mae’r gyfrol bresennol ynrhestru 30 o gyhoeddiadau o’i eiddo ynglªn âhanes, crefydd a bywyd Lerpwl. Yn ychwanegoli’r rheiny, ysgrifennodd am destunau amrywiol oran amser a lle: John Calfin, Samuel RobertsLlanbrynmair, Gandhi, Hedd Wyn a’r GadairDdu, y Parch. Ddr. Owen Thomas (Lerpwl),cenhadon Cymreig India, yn ogystal â chyfrolauo weddïau a defosiwn. Dwy gyfrol y cefais i flasarbennig arnyn nhw oedd ei gofiannau i’r ddauwleidydd Llafur pwysig, Cledwyn Hughes aJames Griffiths, lle mae’n dangos yn amlwg yllinyn arian o Gristionogaeth ymarferol sy’nrhedeg trwy hanes y Blaid Llafur.

Yn y gyfrol newydd hon, mae’r teitl yn gwbladdas. Ni fedr y darllenydd lai na rhyfeddu at amrywiaeth a maintcyflawniad llawer o Gymry Lerpwl dros y tair canrif ddiwethaf. Ceircameos diddorol o Gymry mentrus fel Dafydd ap Gruffudd, ogyfnod y Tuduriaid, yn feistr y tollau yn Lerpwl dros Harri VII a maery dref ddwywaith. Cawn hanes maer diweddarach, Owen Prichard,brodor o Fôn, a fu’n noddwr i’r bardd Goronwy Owen ac yn gyfaill iForysiaid Môn. Owen Prichard oedd y maer yn 1745, pan dorroddgwrthryfel y Tywysog Charles Edward Stuart (‘Bonnie PrinceCharlie’) yn yr Alban, ag y daeth gyda’i fyddin trwy ogledd Lloegr igeisio diorseddu’r Hanoferiaid. Hysbysodd Owen Prichard ySwyddfa Gartref bod byddin y Tywysog ar ei ffordd, ac aeth ati idrefnu catrawd o wirfoddolwyr, y ‘Liverpool Blues’, pan oedd yllywodraeth yn Llundain mewn panig ac yn disgwyl yn ofer i’r

Arglwyddi-Rhaglaw sirol wneud y gwaith. Owen Prichard a gafoddswydd curad i Goronwy Owen yn Walton yn 1753, ac yno, yngnghanol ei drafferthion eraill, y collodd y bardd ei ferch fach:

‘Collais Elin liw hinon, / Fy ngeneth oleubleth lon.’

Cawn gipolwg ar un o adar drycin morwriaeth Lerpwl yn yddeunawfed ganrif, sef Fortunatus Wright, a fu’n defnyddio mantell

rhyfel, a’r hawl i herwgipio llongau’r gelyn trwy‘lettres de marque’, i gipio 16 o longau Ffrainc,gwerth £400,000 o bunnau, yn 1746. Ar un olongau Lerpwl, y Fame y bu’n hwylio. Pan fuWright farw, priododd yr Henadur OwenPrichard ei weddw, Mary, merch y sgweiar a’rdyddiadurwr o Fôn, William Bulkeley o’rBrynddu.

Wrth gwrs, mae hanes Lerpwl fel porthladd ynrhan bwysig o’r stori hon, a dengys yr awdur ybuasai Cymru â lle amlwg yn y pictiwr o’rcychwyn. Trwy borthladd bychan Lerpwl yrhwyliodd byddin a chyfarpar y Brenin Ioan iGaer yn 1212, yn ystod un o’i gyrchoedd ynerbyn Llywelyn Fawr. Yn 1283 cludwyd llwythi ogoed o Lerpwl gan swyddogion Edward I argyfer codi Castell Caernarfon. Erbyn yddeunawfed ganrif roedd nifer fawr o longau oGymru yn cludo copr o Fôn a llechi o SirGaernarfon, yn ogystal â bwydydd, i Lerpwl.Dywed yr awdur bod 62 o longau o Amlwch,erbyn 1787, yn cario copr o Fynydd Parys iLerpwl. Galwai’r trigolion lleol y ‘George’s Dock’

(a agorwyd yn 1771) yn ‘the Welsh Basin’ oherwydd nifer y llongauo Gymru a ddeuai yno. Bu nifer fawr o Gymry yn adeiladu’r dociauac yn gweithio ynddyn nhw, ton gynnar o’r ymfudo mawr a wnaethLerpwl yn ‘brifddinas Gogledd Cymru’. Un o’r cysylltiadau prin syddgan fy nheulu i â Lerpwl yw bod fy nhaid wedi bod yn gweithio yn ydociau am gyfnod o gwmpas 1900, pan oedd gwaith yn brin ynChwarel Llithfaen. O Lerpwl, hefyd, yr hwyliodd ambell i aelod arallo’r teulu i Ganada a’r Unol Daleithiau. Mae’n ddiddorol sawl un oGymry nodedig Lerpwl a ddaethai yno’n wreiddiol, meddai’r awdur,gyda’r bwriad o ymfudo i America, a phenderfynu aros.

(I’w barhau)Robert Morris

2 Y Goleuad Hydref 23, 2020

Gwerthfawrogiad o gyfraniad ac o gyfrol‘Hanes Rhyfeddol Cymry Lerpwl’ gan D. Ben Rees, Y Lolfa 2019, pris £19.99

Dyma ni’n torri tir newydd unwaith eto ymayn Llundain wrth gynnal ein hoedfadiolchgarwch gyntaf erioed ar-lein. O danarweiniad Mr Gwyndaf Evans a thair YsgolSul cawsom oedfa fendithiol a boddhaoliawn ar fore Sul, 3ydd Hydref.

Daeth dros 85 o blant ac oedolion ynghyddros gyfrwng y we i greu naws arbennigiawn. Gwnaeth Ysgol Sul Clapham, o danarweiniad Mrs Moyra Greaney, eucyfraniad yn fyw. Nid yw’n beth rhwydd iamseru dros y rhyngrwyd ond aeth popethyn benigamp.

Nesa cafwyd cyflwyniad slic iawn o YsgolSul Eglwys y Drindod o dan arweiniad DrHeulwen Reading. Roedd rhan fwya’ wedirecordio ‘mlaen llaw. Canolbwyntiwyd arwerth a’r niferoedd o wahanol fara yn ybyd – diddorol iawn.

Proffesiynol oedd y gair i ddisgrifiocyfraniad Ysgol Sul Seion Ealing Greenhefyd. Roedd eu neges yn pwysleisiogwerth yr hinsawdd ag amgylchedd ynbennaf. Canwyd ‘Mor dda yw ein Duw’ gany rhithgor swynol iawn. Hyfryd oedd gwelddefnydd dyfeisgar iawn o declynnau’r geginfel band taro. Roedd y plant yn amlwg wrtheu boddau. Diolchwyd i’r plant a’u rhienigan Dr Mair Beetham, un o’r arweinyddionar y cyd gyda Mrs Joanna Thomas-Wright.

Roeddem yn ffodus iawn i gael anerchiadgwbl bwrpasol gan Mrs Nia Williams –Swyddog Addysg ac Adnoddau yr EBC.Roedd y plant (a’r oedolion) wrth eu

boddau gyda’i chyflwyniad bywiog, diddorola rhyngweithiol.

Roedd y cyfan yn bosib trwy sgiliautechnegol Mr Jonathan Wright a MrsJoanna Thomas-Wright ac mae ein dylediddyn nhw yn enfawr. Diolchwyd iddyn nhwynghyd a’r plant, eu teuluoedd, Mrs NiaWilliams a’r gynulleidfa gan Mrs LlinosMorris, ysgrifennydd Capel Jewin. Roeddyr elw yn mynd i fanciau bwyd lleol ynLlundain. Diolchgarwch werth ei chofio.

Susan Harston

Gol. Mae rhagor o luniau i'w gweld ar dudalenFacebook capel Seion, Ealing Green.

Diolchgarwchyn Llundain

Page 3: yGOLEUAD - Eglwys Bresbyteraidd Cymru · 2020. 10. 20. · Llanbrynmair, Gandhi, Hedd Wyn a’r Gadair Ddu, y Parch. Ddr. Owen Thomas (Lerpwl), cenhadon Cymreig India, yn ogystal

Mae tair asiantaeth cyfieithu’r Beiblwedi ymuno i sicrhau bod y Beibl argael yn ehangach mewn cannoedd mwyo ieithoedd drwy brosiect digidouchelgeisiol. Mae MissionAssist,Cymdeithas y Beibl a Wycliffe:Cyfieithwyr y Beibl yn apelio amwirfoddolwyr i ddigido cyfieithiadauo’r Ysgrythur fel y gellir eu darparu’nrhwydd ar blatfformau mawr megisYouVersion.Mae’r gwaith yn cynnwys copïo

cyfieithiadau sydd ddim ond yn bodoliar ffurf brintiedig oherwydd eu bodwedi eu gwneud cyn yr oes ddigidol,neu oherwydd bod copïau digidol hªnwedi eu colli.

Mae llawer o’r cyfieithiadau hynmewn ieithoedd lleiafrifol nad yw eusiaradwyr yn gallu cael gafael ar ydigonedd o adnoddau sydd ar gael isiaradwyr Saesneg. Yn ogystal âdiwallu anghenion Cristnogion a rhaisy’n astudio’r Beibl, mae cyfieithiadaudigidol – oherwydd eu bod yn ehangu’rystod o lenyddiaeth sydd ar gael yn yrieithoedd hyn – yn helpu i sicrhau bodyr ieithoedd a’r diwylliannau hyn yngoroesi.Mae digido testunau yn golygu hefyd

y gellir gwella cyfieithiadau cynharacha chwblhau prosiectau nad ydynt wedieu gorffen, ac y gellir cynhyrchufersiynau Braille i bobl ddall.Dan arweiniad MissionAssist, mae

Prosiect Digido’r Beibl yn cynnwyshyfforddi gwirfoddolwyr yn y sgiliaubysellfwrdd sydd eu hangen arnynt idrawsgrifio testunau’r Beibl i iaith nadydynt yn ei gwybod. Mae angen sgiliaucyfrifiadurol sylfaenol ar wirfoddolwyr,ond cywirdeb a’r gallu i ganolbwyntiosydd bwysicaf.Yn y dechneg a ddatblygwyd gan

MissionAssist, mae dau wirfoddolwr yngweithio’n annibynnol ar yr un testun.Yna, mae eu canlyniadau’n cael eucoladu a’u gwirio o’u cymharu â’rtestun printiedig gwreiddiol, a’u cywiro

gan wirfoddolwr arall yn ôl yr angen ermwyn sicrhau’r lefel uchaf bosibl ogywirdeb.Mae Mrs Christine Reynolds (76), o

Balham, yn digido’r Salmau i iaithMicmac, iaith frodorol sydd mewnperygl ac a ddefnyddir gan lai na 7,000o bobl yn Nova Scotia. Dywedodd hifod y gwaith yn heriol oherwydd ysgiliau canolbwyntio sydd eu hangen,yn ogystal â’r sgiliau y bu’n rhaid iddieu caffael er mwyn mewnbynnu’rllythrennau Micmac. ‘Mae’n rhaid i middefnyddio bysellau nad wyf erioedwedi bod yn agos atyn nhw o’r blaen,’meddai. ‘Mae angen pedwar trawiadbysell ar gyfer rhai llythrennau.’Ychwanegodd: ‘Mae’r gwaith yn rhoi

boddhad mawr ichi oherwydd eich bodchi’n galluogi rhywun i gael gafael ar yBeibl. Rydych chi’n helpu i achub iaithsydd mewn perygl hefyd; mae’r byd ynmynd yn wallgof ynglªn â rhywogaeth -au sydd mewn perygl, ond rydym ni’nanghofio bod ein hieithoedd a’ndiwylliannau ein hunain yn diflannu. Ynogystal â diwallu anghenion ysbrydolrhywun, rydych yn cadw iaith calonrhywun yn fyw.’Dywedodd James Poole, Cyfar -

wyddwr Gweithredol Wycliffe: ‘Mewnbyd lle nad yw bron i 1 o bob 5 o boblyn gallu cael gafael ar y Beibl yn euhiaith eu hunain, ond lle bo’r defnydd offonau clyfar a’r rhyngrwyd yncynyddu’n gyflym, mae hon yn fenterstrategol iawn. Gall cael ysgrythurddigidol ar ffurf ddarllenadwy a sainfod yn drawsnewidiol i eglwysi achymunedau, a gall Cristnogion yma yny Deyrnas Unedig wneud gwahaniaethgwirioneddol yn hynny o beth.’Dywedodd Prif Swyddog Gweith -

redol MissionAssist, y Parch. DarylRichardson: ‘All Beibl ddim gwneudllawer yn gorwedd mewn storfa lyfrgellwedi’i orchuddio gan lwch, ond pan fopobl yn darllen neu’n clywed gair Duwdrostynt eu hunain, yna mae bywydau’ncael eu newid. Mae’n waith hynod owerthfawr – ac iddo ganlyniadautragwyddol – pan fo gwirfoddolwyr ynrhoi rhywfaint o’u hamser hamdden iwneud yr Ysgrythurau’n hygyrch i’rcenhedloedd y maent wedi’u bwriadu areu cyfer. Dyw’r bobl yma ddim ynrhan o’r broses gyfieithu, ond trwyddefnyddio bysellfyrddau eu cyfrif -iaduron gartref, ar ôl cael hyfforddiantgan MissionAssist, maen nhw’n sicrhaubod llyfrau o’r Beibl ar gael i bobl eudarllen neu eu clywed yn eu gwlad eu

hunain. Mae’n fraint gallu anfon gairiachawdwriaeth o gysur ein cartrefi einhunain ledled y byd.’Dywedodd Paul Williams, Prif

Swyddog Gweithredol Cymdeithas yBeibl: ‘Mae digido cyfieithiadau o’rBeibl yn hynod o bwysig. Cymdeithas yBeibl sydd â’r casgliad mwyaf oYsgrythurau printiedig yn y byd, ac ynein harchifau ceir testunau mewnieithoedd nad oes Ysgrythurau ar-leiniddyn nhw. Rydym ni’n dymunosicrhau eu bod nhw ar gael mor eang âphosibl fel y gall mwy a mwy o boblddarllen y Beibl yn iaith eu calon.Rydym ni’n falch iawn o gydweithio âChymdeithas y Beibl ac asiantaethaucyfieithu eraill i wneud i hyn ddigwydd.Mae gan wirfoddolwyr ar y bysellfwrddran hanfodol i’w chwarae i wneud gairDuw yn hygyrch heddiw.’

Yn iaith Kare, sef iaith GweriniaethCanolbarth Affrica, y mae un o’rcyfieithiadau sy’n cael eu digido.Dywedodd un siaradwr brodorol sy’ngweithio ar adolygiad gyda Wycliffe:‘Ers i mi gael fy ngeni, dw i erioed wedigweld testun yn iaith Kare. Ond yn awr,rydym ni wedi darllen testun yn einhiaith ein hunain am y tro cyntaf!’Siaredir iaith Kare gan oddeutu 97,000o bobl yng Ngweriniaeth CanolbarthAffrica. Yn ôl cyfarwyddwr gwladolasiantaeth gyfieithu’r Beibl SIL,Elizabeth Marti, cwblhawyd cyfieithiadyn ystod y 1940au. ‘Ers oddeutu 2013,roeddwn i’n gwybod bod cyfieithiadKare wedi’i wneud yn ystod y 1940au,’meddai, ‘ond doeddwn i erioed wedigweld copi ohono fy hun. Roedd ynymddangos hefyd y byddai cael hyd igopïau oedd wedi goroesi yn y pentrefi– gan ystyried y tywydd, amser arhyfeloedd – yn annhebygol iawn.Roedd yn rhan o hanes a gollwyd dros yblynyddoedd.’

Hydref 23, 2020 Y Pedair Tudalen Gydenwadol tudalen 3Y PEDAIR TUDALEN GYDENWADOLy4t y4t

Gwirfoddolwyr yn adfer cyfieithiadau coll o’r Beibl

Gwirfoddolwr digido wrthi’n gweithio

Gwahanol ffyrdd o ymgysylltu â’rYsgrythur

(parhad ar y dudalen nesaf)

Page 4: yGOLEUAD - Eglwys Bresbyteraidd Cymru · 2020. 10. 20. · Llanbrynmair, Gandhi, Hedd Wyn a’r Gadair Ddu, y Parch. Ddr. Owen Thomas (Lerpwl), cenhadon Cymreig India, yn ogystal

Gwers 16

Iago fab Sebedeus

GweddiCymorth ni heddiw, Arglwydd, i feddwlam daerineb ein tystiolaeth i ti, ac iailddarllen am ymroddiad yr EglwysFore i fwrlwm y genhadaeth o fynd â’refengyl i’r holl fyd. Amen.

Darllen: Mathew 4:18–22; Actau12:1–5

CyflwyniadPryd bynnag y byddai Iago yn cael eienwi, roedd cyfeiriad ato fel brawd Ioanyr Apostol, ac i’r ddau fod yn feibion iSebedeus. Bydd rhai esbonwyr ynbarotach na’i gilydd i ddweud maiSalome oedd eu mam, a hithau o bosiblyn chwaer i Mair, mam Iesu. Os gwirhyn, byddai Ioan ac Iago yn gefndryd i’rIesu (Mathew 27:26, Marc 15:40), ondprin y bu’r pwyslais hwn ar drawsrhychwant personoliaethau’r disgyblionfel grfip. Heb amheuaeth, roedd teuluSebedeus yn agos at Iesu ac roedd yddau frawd yn rhan o’r cylch mewnol oddisgyblion. Cyfeirir at Ioan ac Iago fel‘y Boanerges’ neu ‘Feibion y Daran’oherwydd eu bod yn bobl frwdfrydig acyn llawn argyhoeddiad. Dywedir bodSebedeus yn bysgotwr cyfoethog ahynny am ei fod yn berchen sawl llongbysgota, a deallwn fod Ioan ac Iago yncydbysgota gyda’r ddau frawd arall, sefPedr ac Andreas. Darllenwn yn Actau12:1 mai Iago oedd y cyntaf i’w

ferthyru a hynny o dan law’r breninHerod Agrippa yn 44 OC.

MyfyrdodDros y blynyddoedd diweddar,clywsom lawer am filwyr eithafolMwslemiaeth yn cael eu lladd, a’uhystyried yn ferthyron i’w hachos. Panfydd rhai o arweinwyr y cyrff terfysgolhyn, boed yn Affganistan, ymMhacistan neu yn Syria, yn cael eulladd, bydd y wasg orllewinol yndueddol o ddathlu eu marwolaeth. Prinbod lladd arweinwyr wedi llwyddo igael gwared ar derfysgaeth erioed, nathorri calon y sawl a’u cefnogodd. Beth,tybed, oedd adwaith y Cristnogioncynnar i’r ffaith fod Herod Aggripawedi lladd Iago drwy gleddyf, ahynny gydag anogaeth yr Iddewon.Merthyrwyd naw arall o’r deuddegdisgybl gwreiddiol, gan gofio fod JudasIscariot wedi cyflawni hunanladdiad aci Ioan farw yn hen fir.

Ar draws y pedair canrif gyntaf ersgeni Iesu, lladdwyd cymaint oGristnogion, a hynny yn bennaf drwylaw’r Rhufeiniaid. Ond erbyn dechrau’rbumed ganrif roedd yr YmherawdrCystennin wedi troi’n Gristion a hynnyar ei wely angau, a’i fedyddio ganEusebius; ac yn 380 OC roeddTheodosius I wedi mabwysiadu’rgrefydd Gristnogol fel crefydd swydd -ogol yr ymerodraeth. Dyna beth oeddchwyldro go iawn. Y Rhufeiniaidddaeth â Christnogaeth i Gymru, athrodd yr erlidiwr yn genhadwr.

Tybed a yw gweld y llywodaeth neu’r

sefydliad yn derbyn y ffydd Gristnogolyn fendith neu’n felltith, oherwydd, panddaeth sêl bendith y sefydliad ar yffydd, uniaethwyd nodweddion gwaelafy sefydliad â’r grefydd honno. Prin fodunrhyw un yn credu bod trwchMwslemiaid y byd yn bleidiol ierchylltra’r Taliban neu i’r hyn affurfiodd luoedd ISIS. Bu farw 220,000yn Syria ers 2011, a dihangodd niferaneirif o’u cymunedau, ond nid ygrefydd Fwslemaidd achosodd i hynnyddigwydd. Pwy fyddai am ddadlaubod ymgyrchoedd Rhisiart I yn yCroesgadau gwaedlyd yn dystiolaethiach o’r Efengyl? A bu ymddygiadCristnogion mewn sawl gwlad wrthlywodraethu eraill yn ddigariad a chwblgreulon. Wrth gofio brwdfrydedd Iago,holwn a oes brwdfrydedd yn einbywydau a’n tystiolaeth dros Grist, hebofidio am ein diogelwch na’n llwydd -iant o ran gyrfa na phoblogrwydd. Ayw’r Cristnogion yn y gwledyddMwslemaidd yn agosach at ddidwyll -edd a thaerineb yr Eglwys Fore nag yrydym ni?*

GweddiTrugarha wrthym, Arglwydd, am einbod mor llugoer ein tystiolaeth a difaterein gweddi. Agor ein llygaid o’r newyddi’n cyfle a’n cyfrifoldeb i fyw’r ffydd aci rannu gras a chariad, yn hytrach nadim ond sôn amdanynt. Amen.

Trafod ac ymateb

• ‘Ac ar unwaith, gan adael y cwch a’utad, canlynasant ef’ (Mathew 4:22).Trafodwch barodrwydd Iago a’ifrawd Ioan i adael teulu a bywoliaeth.Beth oedd atyniad Iesu iddynt? Ydychchi yr un mor barod a brwd i’wddilyn?

• Dywedir bod mwy o undeb rhwngCristnogion yn Syria nag erioed o’rblaen yn wyneb erledigaeth a gormes.Trafodwch y cwestiwn olaf yn ymyfyrdod (*).

• Gan gofio am Gristnogion Syria, crudCristnogaeth yn y Dwyrain Canol, llemae eu canran o’r boblogaeth wedihaneru o 8% i 4% ers dechrau’r rhyfelyno yn 2011, gweddïwch ar iheddwch gael ei sefydlu yn Syria – ybydd yna ddiwedd i’r rhyfel a’i drais.Gweddïwch dros Gristnogion sy’nbyw mewn ardaloedd a reolir ganeithafwyr Islamaidd sy’n eugormesu’n greulon. Gweddïwch amras iddyn nhw allu maddau i’wgormeswyr ac am nerth a gobaith.Gweddïwch dros y rhai sy’n dewisaros yn Syria, y bydd llawenydd yrArglwydd yn nerth iddynt ynghanoleu herledigaeth.

tudalen 4 Y Pedair Tudalen Gydenwadol Hydref 23, 2020Y PEDAIR TUDALEN GYDENWADOLy4t y4t

Yna, canfuwyd bod copi y gellidei ddigido yn archifau’r DeyrnasUnedig. ‘Am fendith annisgwyl!’meddai Elizabeth. ‘Gellir ei ddefnyddioyn awr i gyfeirio ato ar gyfercyfieithiad modern diwygiedig i iaithKare.’

Nid yw’n bosibl dweud faint ynunion o Feiblau neu ddarnau o’rYsgrythur sydd wedi eu cyfieithu yn ygorffennol ond y mae angen eu digido ohyd. Cyhoeddwyd o leiaf 204 o Feiblaucyflawn, 545 Testament Newydd a thros1,000 o ddarnau o’r Ysgrythur yn ystodyr 80 mlynedd diwethaf nad ydynt ar

gael ar blatfformau digidol; maeymchwil ar waith i weld a ywunrhyw un o’r rhain yn bodoli ar ffurfddigidol.

I gael gwybod mwy am brosiectDigido’r Beibl neu sut y gallwchhelpu, cysylltwch ag YmholiadauGwirfoddoli: [email protected].

I gael rhagor o wybodaeth hefyd,fe ellir cysylltu â CarwynGraves o swyddfa Wycliffe yngNghymru: 01656 253 372 [email protected]

Gwirfoddolwyr yn adfer cyfieithiadau coll o’r Beibl (parhad)

Adnabod Cymeriadau’r Testament Newydd –Yr Efengylau

Cyfres o astudiaethau Beiblaidd ar gyfer y cartref neu grfipgan y Parch. Denzil I. John

Mae testun a chyflwyniad fideo o’r deunydd hwn ar gael ar wefany Cyngor Ysgolion Sul: https://www.ysgolsul.com/?page_id=804

Page 5: yGOLEUAD - Eglwys Bresbyteraidd Cymru · 2020. 10. 20. · Llanbrynmair, Gandhi, Hedd Wyn a’r Gadair Ddu, y Parch. Ddr. Owen Thomas (Lerpwl), cenhadon Cymreig India, yn ogystal

Gair o’r galon yw hwn: gair i lawenhau,a gair i ddiolch.Llawenhau, oherwydd ar 21 Medi

2020, Diwrnod Heddwch y Byd,cyhoeddwyd, ar ôl rhai blynyddoedd obaratoi, fod Academi Heddwch Cymruwedi’i sefydlu yn swyddogol. O’r flwyddyn 2009, pan fu inni roi

pwys arbennig ar ddweud wrth boblCymru am y nod o sefydlu’r AcademiHeddwch, cawsom gefnogaeth barod ganlu o fudiadau ac unigolion. Yn 2012, erenghraifft, derbyniodd PwyllgorDeisebau’r Cynulliad dros 70 oymatebion cefnogol ysgrifenedig, hebneb yn gwrthwynebu. Brwd iawn hefydoedd y croeso yn dilyn y Gynhadleddgenedlaethol a gynhaliwyd ynAberystwyth, 23 Mawrth 2013, pangafodd Jill Evans (ASE bryd hynny) aminnau’r fraint o annerch ar ran Cymru.Yn 2014 bu i Lywodraeth Cymrugefnogi’r egwyddor o sefydlu’r Academi.Yna, yn 2015, sefydlwyd yr elusen:Menter Academi Heddwch Cymru. Brydhynny arferid defnyddio’r arwyddlun agyhoeddir gyda’r llythyr hwn. Bellach, y mae pob prifysgol

yng Nghymru; y Coleg CymraegCenedlaethol; Cymdeithas DdysgedigCymru; a Chanolfan MaterionRhyngwladol Cymru, wedi llofnodi

datganiad o gefnogaeth i’r Academi.Ardderchog.Hyfrydwch arbennig i mi, er yn lled

ifanc, fu cael rhoi pob cefnogaeth bosibli weithgarwch hollbwysig Cymdeithas yCymod a mudiadau heddwch eraill yngNghymru. Yr oedd yn naturiol, felly, panddechreuais deithio yn Ewrop a thu hwntyn 1965, imi ymddiddori mewnsefydliadau heddwch a ddaeth i fod ynrhai o’r gwledydd y bûm yn darlithio acyn ymchwilio ynddynt, megis yrAlmaen, Norwy, Sweden, y Ffindir,UDA, a Siapan. Sefydliadau oedd y mwyafrif o’r rhain

gyda chyswllt arbennig â llywodraeth ywlad, yn bodoli er mwyn cynghori adylanwadu, a chofiaf feddwl bryd hynny:‘Dyna sydd arnom ei angen yngNghymru’. Ond un sy’n gwybod llawer mwy na

mi am y sefydliadau heddwch, ynarbennig yn Ewrop, yw Jill Evans. O’rdechrau un, bu hi ar flaen y gad yn yrymgyrch i sefydlu Academi Heddwch iGymru. A mawr iawn ein dyled iddi. Yr un modd, daliaf ar y cyfle hwn i

ddiolch o galon i bawb arall a fu’ncefnogi’r fenter, personau megis JillGough, Stephen Thomas, a Dr JohnCross. Rhaid enwi yn arbennig JaneHarries a fu’n ysgrifenyddes mor frwd

am gyfnod mor faith. Hefyd, ac ynarbennig yn ystod y blynyddoedddiweddaraf hyn, ni fu pall ar gyfraniadymroddedig yr Athro Mererid Hopwood,a hi fydd Ysgrifenyddes yr Academi([email protected]). Yn y Deml Heddwch ac Iechyd,

Caerdydd, y bydd cartref yr Academi.Ond bydd hefyd yn eiddo i Gymru gyfan.Croeso ar yr aelwyd i bawb sy’n hiraethuam dangnefedd a heddwch. Paham y maearnom angen Academi o’r fath? Fel rhano ateb cryno, dyfynnaf eiriau asgrifennais mewn e-lythyr at gyd-aelodau’r Pwyllgor Llywio, 15 Chwefror2013:

‘Mae gen i freuddwyd y bydd Cymruyn fuan yn arwain gyda’r nod aruchelo chwifio baner cyfiawnder aheddwch yn Ewrop a’r byd. Byddaisefydlu’r Academi Heddwch yngyfraniad cwbl allweddol tuag atwireddu’r freuddwyd hon.’

Bu i’r crydd diwylliedig John PenryJones (1914–89), o’r Foel, DyffrynBanw, yntau roi’r ateb, a hynny mewncwpled cynganeddol cofiadwy iawn:

Taenu trais ar drais yn drwchYw lladd i ennill heddwch.

Hydref 23, 2020 Y Pedair Tudalen Gydenwadol tudalen 5Y PEDAIR TUDALEN GYDENWADOLy4t y4t

Sefydlu AcademiHeddwch Cymru

Robin Gwyndaf

Gweddi Byw’n SymlTroedia’n dyner

Mae pob deilen, pob petal,pob gronyn, pob bod dynol,yn dy glodfori,Dduw’r Creawdwr.Mae pob creadur yn y byd,yr holl fynyddoedda’r moroedd mawrion,yn cyhoeddi dy ogoniant,ysbryd cariad.Ac etomae crafanc trachwantwedi atafaelu ac anrheithiody ysblander,wedi meddiannu dy roddiona heb eu rhannu,wedi ymhonni’n berchennogar y ddaear,yn lle byw fel gwestai yma.Ac felly,mae’r rhew yn teneuo,mae afonydd yn sychu,mae llifogydd yn llyncu’rdyffrynnoedd,

a’r eira’n diflannu o’r copaon.Dduw ein Tad, dangos innisut i droedio’n dyner,sut i fyw’n syml,gan barchu a charupopeth a wnaethost.Amen.

Cydnabyddiaeth: Linda Jones, CAFOD.Cyfieithwyd i’r Gymraeg gan Siôn AledOwen.Mae Byw’n Syml yn ymgyrch ganCAFOD i hybu byw cynaliadwy mewncymunedau eglwysig.Gellir gweld manylion pellach yma:https://cafod.org.uk/Campaign/Livesimply-award

Sul, 25 Hydref

OedfaDechrau Canu Dechrau Canmol

am 11:00yb

Mae Oedfa Dechrau Canu, DechrauCanmol yn ôl. Yng nghyfnod yDiolchgarwch, ymunwch â ni fore Sulmewn myfyrdod, gweddi a chân. Ynarwain yr oedfa yr wythnos hon y mae’rParchedig Anna Jane Evans.

––––––––Dechrau Canu Dechrau Canmol

nos Sul, am 7:30yh

Mae hi’n dymor Diolchgarwch, a’rwythnos yma Nigel fydd yn treulioamser gyda ffermwyr ifanc yng nghanolprysurdeb tymor yr hydref. Cawnfwynhau perfformiad gan y gantoresifanc o Ddyffryn Clwyd, CelynCartwright, a Ryland fydd yn sgwrsio agIfan Tregaron am ffermio a ffydd. ––––––––––––––––––––––––––––––

Oedfa Radio Cymru25 Hydref am 12:00yp

yng ngofal Jill Hayley Harries, Abertawe

Page 6: yGOLEUAD - Eglwys Bresbyteraidd Cymru · 2020. 10. 20. · Llanbrynmair, Gandhi, Hedd Wyn a’r Gadair Ddu, y Parch. Ddr. Owen Thomas (Lerpwl), cenhadon Cymreig India, yn ogystal

Bydd dydd Sul, 25 Hydref 2020, yn garreg filltirarall yn hanes y frwydr yn erbyn dibyniaeth aralcohol, cyffuriau ac ymddygiad niweidiol arallyng Nghymru. Unwaith eto eleni, nodwyd y Sul fel Sul

Adferiad i annog eglwysi nid yn unig i ystyriedsefyllfa’r rhai sy’n dioddef o ddibyniaeth o rywfath, i ddysgu mwy am eu sefyllfa, eu hangen a’rhelp sydd ar gael trwy ymdrechion mudiadaumegis y Stafell Fyw, CAIS ac AdferiadRecovery, ond hefyd i weithredu yn ymarferol iestyn cymorth. Gall y cymorth olygu cyfraniad ariannol tuag

at y gwaith i rai, tra bydd eraill yn cymryd sylwnewydd o’r anogaeth sydd yn Hebreaid 13:3,“Daliwch ati i gofio’r rheiny sy’n y carchar, ganfeddwl sut brofiad fyddai hi i fod yn y carchareich hunain!” Efallai mai carchar llythrennol sydd dan sylw awdury llythyr at yr Hebreaid, ond ar Sul Adferiad cofiwn fod caethiwed

dibyniaeth ar alcohol, cyffuriau, bwyd, rhyw,gamblo a mwy, yn garchar i gymaint o boblheddiw. Elin Maher sy’n gyfrifol am baratoi’r

gwasanaeth ac ynddo mae’n myfyrio ar y gairDEFNYDD – y defnydd yn ein dillad a’rdefnyddiau sydd o’n cwmpas a’r weithred oddefnyddio. Mae croeso i chi ddefnyddio’r gwas -

anaeth hwn, yn y Gymraeg neu’r Saesneg.Gellir ei ddadlwytho o’n gwefan:www.cynnal.wales.Dyma nawfed Sul Adferiad Cymru. Ar y

Sul hwn, gwahoddwn Gristnogion Cymru iuno mewn gweddi dros y rhai sy’n gaeth, ynddibynnol gan ofyn i Dduw ein helpu nii’w helpu nhw.

Diolch rhag blaen am bob cydweithrediad a chefnogaeth.

Wynford Ellis Owen

tudalen 6 Y Pedair Tudalen Gydenwadol Hydref 23, 2020Y PEDAIR TUDALEN GYDENWADOLy4t y4t

NAWFED SUL ADFERIAD CYMRU

Mewn ymateb i holiadur Prosiect Fory,dywedodd 35% o’r mudiadau aymatebodd na fydden nhw’nailddechrau yn yr hydref, a doedd 30%arall “heb benderfynu”.Roedd 70 o fudiadau o bob cwr o

Gymru wedi ymateb i’r holiadur ynystod mis Medi – mis a fyddai, yndraddodiadol, yn arwydd o ddechrau’rflwyddyn ddiwylliannol newydd.Roedd y mudiadau hynny’n amrywio ogorau, canghennau MyW, sgowtiaid,CFfI, eglwysi, clybiau cinio, clybiauchwaraeon, cymdeithasau hanes a llen -yddiaeth, mentrau cymdeithasol a mwy.Fe gododd pwysigrwydd mudiadau

droeon yn sgyrsiau Prosiect Fory –sgyrsiau sydd wedi’u cynnal dros ymisoedd diwethaf mewn sawlcymdogaeth. Er bod pobol yn awyddusi beidio â mynd yn ôl i fel roedd pethau,mae’r awydd i ailgydio yn y pethauhynny sy’n rhoi blas ar fywyd, ac sy’nrhoi cyfleoedd i ni gymdeithasu, ynparhau.

Lleoliadau’n broblem

Y peth mwyaf oedd yn rhwystro’rclybiau rhag ailymgynnull oedd bod“dim modd cwrdd yn ein lleoliadarferol” – naill ai oherwydd bod y

lleoliadau’n anaddas, neu oherwyddnad oedd yr adeiladau hynny wedi agoreto.Er y pryderon, roedd yna obaith

hefyd. Roedd dros hanner y mudiadau’nawyddus i ailymgynnull, naill ai ar ôlcael canllawiau clir (gan lywodraethneu gan swyddfa ganolog eu mudiad)neu ar ôl iddyn nhw feddwl am ffyrddnewydd o gwrdd yn ddiogel.

Effaith bositif ar gapeli

Roedd rhai eglwysi a chapeli’n rhannusylw diddorol iawn, yn cydnabod bodcael eu gorfodi i greu myfyrdodaudigidol (yn hytrach na phregethau) ar ySul, a chynnal gwasanaethau ar Zoom(yn lle yn y capel) wedi arwain atgynnydd yn nifer y bobol sy’n gwylio,gwrando a chymryd rhan. Mae’r cyfnodwedi bod o fudd annisgwyl i ambellgymdeithas!Fe rannodd sawl un syniadau am

ffyrdd o barhau i gwrdd, ondgwneud hynny’n ddiogel ganleihau’r ddibyniaeth ar adeiladau.Roedd hynny’n cynnwys cynnalgweithgareddau yn yr awyr agored, ganddilyn y cyfarwyddiadau 2 fetr, neugynnal gweithgareddau yn ddigidol, e.e.trwy Zoom.

Rhai o’r syniadau am weithgareddaudiogel i’w cynnal

• Cwis, neu bingo ar Zoom• Helfa drysor ar-lein• Recordio cân ar wahân a’i rhyddhaufel côr

• Taith gerdded trwy’r fro• Te pnawn mewn gardd neu barc• Cynnal cystadlaethau a derbyncynigion trwy Whatsapp/Messenger.

Pwy yw Prosiect Fory?

Mae’r fenter yn bartneriaeth rhwngRadio Beca a Bro360. Nod y ddau ywrhoi’r grym i bobol siapio cymdeithastrwy ysgogi trafodaeth am syniadau, agalluogi darlledu’r syniadau hynny ermwyn eu rhannu’n eang.

Manylion Pellach: Lowri Jones (07792031786) / Euros Lewis (07813 17155)

65% o fudiadau heb gynlluniau i ailddechrau70 o fudiadau wedi rhannu eu gobeithion a’u pryderon yn holiadur Prosiect Fory

Cyfeiriad Golygydd Y PEDAIR TUDALEN

Huw Powell-Davies

neu Llifor, 60 Ffordd Rhuthun,Yr Wyddgrug, CH7 1QH

Anfonwch eich erthyglau, hysbysebiona.y.y.b. i’r cyfeiriad uchod.

Mae’r Pedair Tudalen Gydenwadol yncael eu cynnwys yn rhan o bapurauwythnosol tri enwad, sef Y Goleuad(Eglwys Bresbyteraidd Cymru), SerenCymru (Undeb Bedyddwyr Cymru) a’rTyst (Undeb yr Annibynwyr Cymraeg).

[email protected]

Page 7: yGOLEUAD - Eglwys Bresbyteraidd Cymru · 2020. 10. 20. · Llanbrynmair, Gandhi, Hedd Wyn a’r Gadair Ddu, y Parch. Ddr. Owen Thomas (Lerpwl), cenhadon Cymreig India, yn ogystal

‘No network’Wn i ddim be ydi’r canran cywir ond midd’wedwn i fod y rhan fwya o bobol erbynhyn yn berchen ffôn bach neu ffônsymudol, y teclyn hwnnw sy’n gymorthhawdd ei gael ar bob achlysur, yn bopetharall ar wahân i ffôn erbyn hyn hefyd, acsy’n foddion difyrrwch mae’n amlwg ynenwedig i’n hieuenctid ble bynnag y maennhw, ac sy gyda llaw yn gwneud llawerohonyn nhw mewn cwmni yn greaduriaiddiflas ac anghymdeithasol ar y naw. Fe’ugwelir hyd yn oed yn nwylo plant ynEisteddfodau’r Urdd, ac ym mhobmanarall hefyd synnwn i ddim. Ydyn nhw’ncysgu efo ffôn bach dan eu gobennyddtybed?

Ond rhaid peidio gwamalu.

Mae’r ffôn bach yn declyn defnyddiol tuhwnt. Nid bob amser chwaith. Mae cwynomawr o dro i dro gan bobol sy’n methucysylltu â’u rhwydwaith, a hynny mewngwahanol rannau o’r wlad. Mae’r cwynohwn yn dibynnu ar ba system rydych chiwedi ei chysylltu â hi ac ym mha ran o’rwlad yr ydych chi ar y pryd, gan fod ynanifer fawr o systemau gwahanol, onddim un sy’n gwasanaethu dros y wlad igyd.

Mae gen i ffôn bach, Vodafone, er wn iddim pam hwnnw chwaith achos doedddim signal yn y Sarnau heb i mi fynd ifyny’r ffordd am ganllath neu fwy tan ynddiweddar iawn. Ac mi roeddwn i’n eitha

arbenigwr ar ble roedd signal i’w gael a lleroedd y neges No network yn ymddangosar y ffôn.

Roeddwn i’n teithio i Aberystwyth bethamser yn ôl ac angen cysylltu efo rhywuncyn cyrraedd. Ond mi wyddwn nad oeddcyswllt i’w gael am ran helaeth o’r daithgan gynnwys y rhan honno efo’r enwgodidog Cwm Hafod Oer, rhwng Dolgellaua Thal y llyn. Roedd car wedi stopio ar fin yffordd yn y fan honno a’r dreifar wrthi ffwlsbîd yn siarad ar ei ffôn bach efo rhywun, ahynny am fod ganddo system wahanol i fyun i a’i erial o yn cysylltu efo’r rhwydwaithyr oedd o’n perthyn iddi. Oes mae amrywohonyn nhw, O2, Vodafone, Orange i enwidim ond tri, pob un yn gwasanaethu rhywran o’r wlad ond dim un yn gwasanaethupawb chwaith.

I mi, y peth synhwyrol i’w wneud fyddaidod â’r systemau i gyd at ei gilydd a chreuun rhwydwaith fyddai’n gwasanaethupawb. Pam nad yw hynny’n digwydd wn iddim, ond mi wn i hefyd; rhesymauariannol ac economaidd, hawlfreintiau,rhesymau hunanol mewn gwirionedd aphob cwmni yn meddwl amdano’i hun ynhytrach nag am y gwasanaeth y gall eigynnig i bobol.

Ydi’r darlun yna’n eich atgoffa o rywbetharall dwedwch?

Mi ddyle fod gan mai darllen y Goleuadydech chi! Be am yr enwadau sy ganddonni yng Nghymru? Onid erial i gysylltu efoDuw ydi’r eglwys i fod trwy rwydwaith yrenwad yr yden ni yn digwydd bod ynperthyn iddo? Pawb â’i ffôn bach personola phawb â’i rwydwaith yn Bresbyteriaid, yn

Annibynwyr, yn Wesleiaid ac yn Fedyddwyri enwi dim ond rhai.

A system ddigon gwantan yw pob un gydarhannau helaeth lle nad oes rhwydwaith ogwbwl. Pob enwad yn dweud ei fod yncynnig gwasanaeth gwahanol – systemwell, fwy democrataidd falle, llai costus,nes at y gwirionedd na’r lleill. Ond yn y bônrhwydwaith gre hollgynhwysol ar gyfercyfathrebu efo Duw den ni ei angen, ac mifydde’n rheitiach o lawer i’r enwadau ddodat ei gilydd i geisio sicrhau hynny ynhytrach na mynnu dal ati i anwesu eurhwydweithiau bach, sy’n dirywio oflwyddyn i flwyddyn.

Ond dwi damed haws a’i ddweud o. Ddigwyddith o ddim. Gwell gan einhenwadau huno nag uno. Yn y cyfamser pa ddau air sy’n disgrifioorau sefyllfa crefydd yng Nghymru heddiwtybed? No network?

Elfyn Pritchard

Hydref 23, 2020 Y Goleuad 7

O Gefn Gwlad

Fel pawb arall bu’r ‘Community Café andChurch’ yng nghanol anawsterau!Mae’n heglwys ni yn cyfarfod yn y caffi acyn cynnal cyfarfodydd gweddi achyfarfodydd eraill trwy gydol yr wythnos.Rydym yn chwaer eglwys i eglwys fwy sefy ‘Community Church’ yn Rhosddu,Wrecsam.

Dan ni hefyd yn gaffi cymunedol i’r pentrefsydd yn cynnig lle cymdeithasol a diogellle y gall pobl ddod at ei gilydd i fwynhaucwmni ei gilydd. Yn ogystal â hyn mae’rcaffi yn cynnig posibilrwydd dysgu sgiliaunewydd, magu hyder, a chyfleoedd iwneud gwaith gwirfoddol, a hynny i bobl owahanol gefndiroedd gan gynnwys rhaiag anghenion addysgol arbennig.

Ym mis Mawrth bu’n rhaid i ni gau eindrysau oherwydd Cofid-19 ac o safbwyntdynol roeddem mewn helbul!Ond nid dyna ddiwedd y stori. Mae Duwyn ffyddlon. Dyma ddechrau profi ybyddai’n cynnal ein caffi trwy nifer ograntiau argyfwng oedd ar gael, ac ar benhynny bod ganddo bwrpas a chynllun argyfer y gymuned!

Roedd Duw yn eglur yn llefaru wrthyf acyn dangos bod gennym gyfrifoldeb iymateb i’r argyfwng Cofid-19 trwy gefnogipobl anghenus trwy gyfrwng Banc Bwyd.

Cefais fy arwain yn ei Air at hanes Josephyn yr Aifft a’r ffordd y bu iddo ef ymdrin â’rargyfwng (newyn) ddigwyddodd yn ystodei oes ef.

Rydym wedi cefnogi pobl fregus yn ygymuned leol ers blynyddoedd ond mewnbyr amser dyma Duw yn anfongwirfoddolwyr newydd atom. Dechreuoddy bwyd lifo i’r banc bwyd ar raddfa nasgwelwyd o’r blaen nes iddo fynd yn rhyfawr ac yn rhy effeithlon i allu aros yn ycaffi. Doedd dim un ffordd y gallemailagor y caffi a pharhau gyda gwaith ybanc bwyd. (Mae’r caffi yn fychan).

Ar hyn o bryd dan ni yn cefnogi tua 200 obobl sydd yn byw yn gymdogaeth. Maehyn yn cynnwys rhai o Bortiwgal a GwladPwyl sydd wedi ymgartrefu ar draws ardalWrecsam. Credaf y bydd y banc bwyd yndyfod yn fwy gwerthfawr fyth mewncyfnod o ddirwasgiad economaidd.

Mewn amser anodd, wrth i ni gadw eingolwg yn gyson ar Iesu, cofiwn ei fodwedi addo cyflawni ein holl angen yn ôlcyfoeth ei ogoniant (Philipiaid 4: 19).

Credaf, fel eglwys, ei fod yn hanfodol einbod yn ymateb i’r argyfwng presennol athrwy gyd-weithio fel gwahanol enwadaugallwn arddangos Duwiol undeb mewnpwrpas a chariad.

Yn ystod y cyfyngder sydd ohoni mae’nheglwys wedi cyfarfod i weddïo’n ffyddlonbob bore a hwyr, bob dydd o’r wythnos.Credwn, wrth i ni ymroddi i barhau mewngweddi y byddwn yn parhau i weld Duwyn cyflawni ein holl anghenion ac yncyfarfod â’r rhai sydd mewn angen.

Grace LockhartGweinidog/RheolwrRhos Community Café/Church/Foodbank

David Owen

Banc Bwyd Rhosllannerchrugog

Page 8: yGOLEUAD - Eglwys Bresbyteraidd Cymru · 2020. 10. 20. · Llanbrynmair, Gandhi, Hedd Wyn a’r Gadair Ddu, y Parch. Ddr. Owen Thomas (Lerpwl), cenhadon Cymreig India, yn ogystal

8 Y Goleuad Hydref 23, 2020

• Wythnos nesaf – Angori •

Os na nodir yn wahanol nid yw barn y cyfranwyr o angenrheidrwydd yn farn y golygydd na’r Gymanfa Gyffredinol.Anfoner pob gohebiaeth, newyddion, ysgrifau, a.y.y.b. at y Parch. Ddr. R. Watcyn James, Eryl, Capel Bangor, Aberystwyth SY23 3LZ. e-bost: [email protected]

Cyhoeddwyd gan Eglwys Bresbyteraidd Cymru ac argraffwyd gan Wasg y Bwthyn, Caernarfon.

Y gorchymyn mawr a’r Brenin mwy

Dyma gyfarfod hyfryd iawn…

EMYN 313: Gwn pa le

DARLLEN: Mathew 22:34-40

Gwelsom yn ystod yr wythnosau diwethafbod y Sadwceaid wedi trio eu gorau glasi faglu Iesu. (21:23 ymlaen) Ond cilio awnaethant a’u cynffonau rhwng eucoesau wrth i Iesu adrodd tair damegfeirniadol amdanynt. Onid hwy oedd wedicael eu gwahodd i’r winllan a’r wledd yn ylle cyntaf cyn difrïo’r meistr a sarhau’rbrenin?

Tro’r Phariseaid oedd hi wedyn i geisio’ifaglu ar air neu weithred. A ddylid talutrethi i Gesar? Ac wrth adael y sgwrs‘pan glywsant hyn rhyfeddasant agadawsant ef a mynd ymaith.’ (22:22)Chwarae teg i’w elynion. Allai neb eucyhuddo o fod yn llwfr. Oherwydd wedi i’rSadwceaid fethu â’i faglu am ystyr yratgyfodiad roedd y tyrfaoedd ‘yn synnu atyr hyn yr oedd yn ei ddysgu.’ (22:33)

Wedi methu â’i faglu ar wahân a chlywed‘iddo roi taw ar y Sadwceaid’ (22:34)cytunodd y Phariseaid a’r Sadwceaidgydweithio yn eu hamcan i gael achos ynerbyn Iesu. Fel y ‘llywodraethwyr ynymgynghori â’i gilydd yn erbyn yrArglwydd a’i eneiniog’ (Salm 2:2)roeddynt yn gytûn bod yn rhaid difa’r‘proffwyd’ peryglus hwn a dderbyniai fawly torfeydd, addoliad plant, ac a lefaraiamdano ei un fel conglfaen dewisedigDuw ond a wrthodwyd gan bobl.

A dyma gytuno ar gynllwyn a fyddai’n‘rhoi prawf arno.’ A phwy allai fod yn wellnag un o Athrawon y Gyfraith? Dylemgofio bod y fath hon o ymholiad yngwestiwn oedd yn cael ei drafod ymhlithyr athrawon ar y pryd. Onid oeddynt ynmedru gwahaniaethu mewn cyfraith oeddâ 631 o gyfreithiau rhwng y gorchmynion‘ysgafn’ a’r cyfreithiau ‘trymach’? (23:23)Yn wir cafodd yr Athro Hilel (c.20 O.C.) eiherio gan genedl-ddynion i grynhoi’r hollgyfraith tra’i fod yn sefyll ar un goes. AtebHilel oedd hyn. ‘Beth bynnag sy’n atgasgennyt paid â’i wneud i arall. Dyna’rgyfraith i gyd. Dehongliad neu esboniadyw’r gweddill. Dos a dysga sut iweithredu.’ (Cymharer â Luc 10:25-38)

Mae ateb Iesu’n cyfuno dwy ysgrythur(Deuter. 6:5 a Lef. 19:18). Câr yrArglwydd dy Dduw â’th holl galon ac â’thholl enaid ac â’th holl feddwl.’ Nid digondefodau crefyddol. Nid digon cadwrheolau. Nid digon dewis y gorchmynionsydd at ein dant. Mater o, ‘y cwbl syddynof ei enw sanctaidd ef’ (Salm 103) yw

galwad yr Arglwydd arnom.

Ar ryw olwg gellid dweud bod y tair elfenyn tanlinellu’r un gwirionedd. Y cwbl – dimllai. Ac eto, mae’n fwy na hynny hefyd.Mae’n holl galon yn cyfateb, neu’nymateb i’r ffaith bod ‘holl galon’ y Duwdodwedi bod ar waith wrth ein creu, einprynu, ein denu ato’i hun a’n hennill. Maeein ‘holl enaid’ yn cyfateb ac yn ymateb iholl Ysbryd Sanctaidd Duw ei hun. Ac nidymgolli mewn ‘profiad’ cyfriniol disylweddneu emosiynol a wnawn ond dysgu caruâ’n holl feddwl hefyd. Daw’r gwrthrycholyn realiti goddrychol trwy ras. Ac mae’nhaeddu’r cwbl a feddwn.

A phan drown at ail ran ateb Iesu Gristcanfyddwn hyn: ‘Câr dy gymydog fel ti dyhun.’ Os gosodwn ‘fi fy hun’ fel sylfaen i’ndealltwriaeth o’r hyn a olygir byddwn ynbarhaol yn canfod ffordd i osgoi ei ergyd.Wedi’r cyfan, mae’n hunanoldeb – hunangyfiawnder, hunan dosturi, hunan les –yn agos at bob yr un ohonom. Beth addigwydd os mai caru’n hunain i’rgraddau yr ydym yn caru’n cymydog (eincyfeillion a’n gelynion, ein teuluoedd a’rdieithriaid) a olyga? (Mae’r Bregeth ar yMynydd yn esbonio arwyddocâd hyn olli ni!)

O ddarllen gweddill efengyl Mathewgwelwn ymgnawdoliad perffaith o’r ddwyegwyddor hyn yn hunanaberth Iesu arGalfaria, yn ei atgyfodiad a’i esgyniad –y cyfan oll yn esiampl berffaith o’r hynmae’r ddau orchymyn yn ei olygu!

Darllen 22:41-46

A dyma droi’r byrddau drachefn wrth iIesu eu holi am Salm Feseianaidd (Salm110). Gwyddai’r arweinwyr y byddai’rMeseia o dras Dafydd. Mae Mathew’n einhatgoffa o bwysigrwydd ei dras (Mathew1:20; 2.) ac nid anghofiwyd hyn ganbregethu’r Eglwys Fore (Actau 2:32-36;Rhufeiniaid 1:3-4).

Rfian, nid yw’n arferol i frenin neufrenhines gyfarch eu disgynnydd felrhywun sy’n ‘Arglwydd’ arnynt. Yn 1969addawodd y Tywysog Charles,“I, Charles, Prince of Wales, do becomeyour liege man of life and limb and ofearthly worship, and faith and truth I willbear unto thee, to live and die against allmanner of folks.”

Derbyn ei ymostyngiad a’i addewidwnaeth y Frenhines.

Felly, pwy tybed oedd gan Dafydd mewngolwg pan gyfarchodd ei ddisgynnydd,

‘trwy’r Ysbryd’ fel Arglwydd? Dywedoddyr Arglwydd (hy Dafydd) wrth fy Arglwyddi, eistedd. Gwyddai’r Athrawon maicyfeiriad at y Meseia oedd hyn.Gwyddent hefyd i Iesu gael ei gyfarch felMab Dafydd. Chwech o weithiau ynefengyl Mathew defnyddir y teitl wrthgyfeirio at Iesu. (Mathew 9:27; 12:23;15:22; 20:30; 21:5,9)

Pwy felly yw’r person hwnnw ycyfarchodd Dafydd fel ei Arglwydd?

A chyn belled ag y mae Efengyl Mathewyn y cwestiwn dyma ddiwedd ar yr holi a’rymdrechion i faglu Iesu. Fel y cawn weldyn Mathew 23 tro Iesu yw hi i osod y rhaia’i croesholai o dan y chwyddwydr. ‘Nidoedd neb yn gallu ateb gair iddo.’

Gweddi gan Martin Luther(wedi ei addasu)

O Fy nhad nefol, Duw a Thad einHarglwydd Iesu Grist, Duw bobdiddanwch, diolchaf i ti am ddatguddio dyannwyl Fab Iesu Grist, yr hwn yr wyf ynymddiried ynddo, i mi. Ef yw’r un yr wyfwedi ei gyhoeddi a’i gyffesu, ei garu a’rfoli.

Gweddïaf arnat, Arglwydd Iesu Grist, ybyddet yn derbyn fy enaid (a’m bywyd oll)i’th law. Gwn nefol Dad, y caf fyw amennyd yn y corff hwn ac y caf fy nwyn o’rbywyd hwn i fyw gyda thi, a gwn na allunrhyw un fy nghipio o’th law.

Canys felly y carodd Duw y byd fel yrhoddodd efe ei unig anedig Fab, fel nacholler pwy bynnag a gredo ynddo ef ondcaffael ohono fywyd tragwyddol.

Ein Duw yw Duw’r waredigaeth, a’rArglwydd sy’n ein gwaredu rhagmarwolaeth.

O Dad, i’th ddwylo di y cyflwynaf fyYsbryd.

Ti a’m gwaredodd, O Arglwydd, Duw pobgwirionedd. Amen

Dduw pob daioni cyflwynwn i ti ein byd a’iddoluriau … ein daear a’i greithiau … eiphobl a’i hochenaid … ein bröydd a’ihofnau … ein hanwyliaid a’u pryderona’u gobeithion.

Er mwyn Iesu Grist.

Amen.

EMYN 315: Rwy’n dy garu, ti a’i gwyddost

Y FENDITH