y selar - awst 2012

24
y-selar.co.uk 1 y Selar RHIF 30 | AWST | 2012 Sw ˆ nami Cowbois Rhos Botwnnog, Datblygu 30, @Violas_, Adolygiadau

Upload: y-selar

Post on 06-Mar-2016

248 views

Category:

Documents


4 download

DESCRIPTION

Cylchgrawn yn trin a thrafod y sin roc gymraeg

TRANSCRIPT

Page 1: Y Selar - Awst 2012

y-selar.co.uk 1

y SelarRHIF 30 | AWST | 2012

Swnami

Cowbois Rhos Botwnnog, Datblygu 30, @Violas_, Adolygiadau

Page 2: Y Selar - Awst 2012
Page 3: Y Selar - Awst 2012

GOLYGYDDION Owain Schiavone ([email protected]) Gwilym Dwyfor ([email protected])

DYLUNYDD Dylunio GraffEG ([email protected])

MARCHNATA Ellen Davies ([email protected])

CYFRANWYRGwilym Dwyfor, Griff Lynch, Casia Wiliam, Owain Gruffudd, Miriam Elin Jones, Ifan Edwards, Ciron Gruffydd a Heledd Williams.

Mae’r Selar yn cael ei ddosbarthu ledled Cymru gan y Mentrau Iaith. Cysylltwch â’ch Menter leol i fynnu eich copi.

Ariennir Y Selar gan grant Cyngor Llyfrau Cymru. Argraffwyd gan Y Lolfa.

Rhybudd – Defnyddir iaith gref mewn mannau, ac iaith anweddus mewn mannau eraill yn Y Selar.

y SelarSu’mai unwaith eto gerddoriaeth-garwyr! Os ydych chi’n darllen hwn ar faes yr Eisteddfod gobeithio ei bod hi’n braf (mae Maes B yn yr awyr agored eleni cofiwch!)

Does yna ddim ffasiwn beth â chinio am ddim yn ôl y Sais, (trio pabell Prifysgol Bangor ar y dydd Gwener fyswn i ond stori arall ydi honno). Yn wir, yn yr Eisteddfod go brin fod yna ffasiwn beth â chinio am lai na phum punt, ond peidiwch â digalonni bobl – o leiaf mae gennych chi gylchgrawn gwerth chweil i bwdin, a hwnnw am ddim.

Ond beth sydd yn y rhifyn hwn dwi’n eich clywed chi’n gofyn. Wel, yn fras... Ciron yn chwarae Cowbois, Lowri mewn Sŵnami, Twmffat yn sôn am gelf, Violas yn ffidlan efo trydar a chyfres radio yn Datblygu yn Y Selar. A llwyth o adolygiadau wrth gwrs gan gynnwys un estynedig arbennig iawn.

Mwynhewch a byddwch lawen, a pheidiwch â derbyn da da gan ddieithriaid (na losin o faniau di Gymraeg).

Hwyl,Gwilym Dwyfor

4 10 12 14

Sgwrsio â Swnami

trydar gyda @Violas

Dydi Fama’n Madda i Neb

Dathliadau Datblygu

Mentro Draw Dros y Mynydd

Cronicl cerdd

Adolygiadau

4

9

10

12

14

18

20

CYNNWYS

@[email protected]

Llun Clawr: SŵnamiFfotograffydd: Andrew Kime

RHIF 30 | AWST | 2012

Page 4: Y Selar - Awst 2012

y-selar.co.uk4

Sgwrsio â Swnami

Mae’n noson lawiog a does dim i’w wneud heblaw swatio ar y soffa. Heblaw, mae gen i gyfweliad i’w wneud a hynny gyda band Sŵnami o Ddolgellau. Be’ dwi’n ei wybod am Sŵnami? Eu bod nhw’n

dod o Ddolgellau, bod ganddyn nhw sengl hynod o afaelgar mas ar hyn o bryd ac un arall ar y ffordd ... a bod y to bach ar yr ‘w’ yn bwysig iawn! Heblaw hynny, dim llawer, felly rhaid cael sgwrs fach i ddarganfod mwy am y band ’ma.

Dwi’n gofyn i ddechrau iddyn nhw gyflwyno eu hunain. Mae hanner y band yn nhŷ Ifan Ywain (gitâr). Yno hefyd mae Huw Ynyr sy’n chwarae Synth ac Ifan Davies sy’n canu a chwarae’r gitâr. Dyw Gerwyn (bas) na Tom (drymiau) yn gallu bod yna felly dyma’r tri sy’n fy nghyflwyno i Sŵnami.

Ifan Davies sy’n esbonio o lle ddaeth y grŵp, “Roeddwn i ac Ifan Ywain yn ffrindiau yng Ngholeg Meirion Dwyfor, ac fe wnaeth y ddau ohonon ni ddechrau jamio ac ysgrifennu caneuon. Roedd Ifan yn ’nabod hogia’ eraill fase’n medru cychwyn band felly dyna wnaethon ni. Gathon ni ein hymarfer cyntaf yn Nhŷ Siamas yn Nolgellau ac wedi hynny ’nath o jyst digwydd rili!”

A fel yr esbonia Huw, mae’r ymateb wedi bod yn dda “Wel ’da ni hefo’n gilydd ers rhyw flwyddyn a hanner, ac ma’ pethau ’di digwydd yn eithaf cyflym. Fe wnaethon’ ni gymryd rhan ym Mrwydr y Bandiau C2 llynedd a chael ymateb da a chael cyfleoedd o ganlyniad. Aethon ni i’r stiwdio i recordio cân a chael tipyn o sylw, ac fe ’naethon ni Brwydr y Bandiau Maes B hefyd. Oedd e’ i gyd yn grêt ac o achos y cyfleoedd yna gafon ni dipyn o sylw ac ymateb da.” Dwi’n cyfaddef wrthyn nhw mod i ’di ystyried fod y

band wedi bod yn gigio ers mwy na blwyddyn a hanner - mae’n teimlo’n hirach ers i Sŵnami fod yn ein swyno!

Creu TonnauDiolch i gystadleuaeth Frwydr y Bandiau arall, fe enillodd Sŵnami yr hawl i chwarae yng ngŵyl Wakestock eleni.

“Do, welon ni gystadleuaeth ar dudalen facebook Wakestock i ddod o hyd i fand i chwarae yn yr ŵyl felly ’naethon ni anfon un o’n caneuon ni atyn nhw ac roedden ni’n lwcus iawn i ennill!” meddai Huw. “Falle ein bod ni wedi bod yn lwcus mai Lisa Gwilym oedd y beirniad - rydyn ni’n ddiolchgar iawn iddi hi am ein dewis pryn bynnag!”

Dwi’n siŵr ei bod hi wedi bod yn gig gyffrous iawn? Ifan Davies sy’n cytuno... “Oedd. Honno oedd ein gig mwyaf ni hyd yma yn bendant ac fe wnaethom ni fwynhau’n fawr iawn. Roedd hi’n wahanol iawn i gigs eraill rydyn ni wedi eu chwarae - doeddem ni heb arfer chwarae ar lwyfan mor fawr a chael cyfleusterau cystal. Ac roedd treulio amser gefn llwyfan yn hwyl!”

Roedd yna fandiau reit amlwg yn chwarae gyda’r bois yn yr ŵyl don fyrddio enfawr. “All American Rejects oedd yn headleinio ein llwyfan ni. Ac roedd bandiau eraill fel Ed Sheeran a Benjamin Francis Leftwich yno hefyd... llwyth o fandiau!”

Maen nhw’n amlwg wedi dal y llygad yn genedlaethol, ond sut ymateb sydd wedi bod yn lleol? “Rydyn ni wedi cael ymateb rili da. Rydym ni’n chwarae yn Sesiwn Fawr Dolgellau a bydd tipyn o bobl leol yn dod i weld hwnna. ’Da ni wedi cael ymateb da tu allan i ardal Dolgellau hefyd.” meddai Huw. Ifan Ywain sy’n ymhelaethu, “Does dim llawer iawn o gigs yn digwydd yn lleol a dweud y gwir. Rydym ni wedi gwneud mwy o gigs yn ardal Bangor, Dyffryn Conwy, Caernarfon ac ati...”

“Rydym ni newydd chwarae gig Hanner Cant Cymdeithas yr Iaith hefyd ac roedd hi’n wych chwarae gyda chymaint o fandiau mawr o Gymru - gan gynnwys Gruff Rhys!” ychwanega Ifan. “Fe chwaraeon ni ar y dydd Sadwrn, ond roeddem ni yno am y penwythnos yn dathlu penblwydd Ifan Davies yn ddeunaw oed!”

Ac ydy gweddill yr haf yn mynd i fod yr un mor brysur hefyd? “Ydy yn bendant, mae ganddom ni gig bob penwythnos yn ystod mis Gorffennaf ac mae ganddom ni dipyn o gynigion yn dod mewn dros ebost sy’n grêt. Fyddan ni’n chwarae ym Maes B ar y nos Wener yn yr Eisteddfod Genedlaethol ac ar y llwyfan ar y maes ar y dydd Mawrth ... felly dewch draw!”

Dylanwadau di-Gymraeg Oes ’na fandiau Cymraeg penodol maen nhw’n hoff o chwarae gyda nhw? “Rydym ni wedi chwarae tipyn gyda bandiau fel Y Bandana, Candelas a Sen Segur.” meddai Huw. Felly oes ’na fandiau Cymraeg wedi dylanwadu arnyn nhw? “Does ’na ddim wir band Cymraeg sy’n dylanwadu arnon ni’n gerddorol.

Does yna ddim byd yn ein plesio ni yma yn Y Selar yn fwy na chael “un yn iawn”. Does gennym ni ddim diddordeb mewn medalau aur na rhubanau glas, mewn sefyll ar bodiwm nac eistedd ar gadair – y cwbl yr ydym ni eisiau yw cael “un yn iawn” o dro i dro. A gyda Swnami fe gawsom ni “un yn iawn”. Gadewch i mi egluro: Rhagfyr 2011 – Dau i’w Dilyn, Awst 2012 – Tudalen flaen. Do, mae hi wedi bod yn dipyn o flwyddyn i’r band o Feirionydd, a Lowri Johnston fu’n holi mwy ar ran Y Selar.

Page 5: Y Selar - Awst 2012
Page 6: Y Selar - Awst 2012

y-selar.co.uk6

Rydan ni’n fwy tebygol o wrando ar y bandiau Saesneg sydd o gwmpas nawr. Rydan ni’n hoff iawn o fandiau fel Kasabian. Fasen i’n dweud bod cymysgedd o fandiau fel Artic Monkeys a 2 Door Cinema Club wedi dylanwadu’n fawr arnon ni ac mae hyn yn dangos yn ein cerddoriaeth.”

Felly os mai bandiau Saesneg sydd wedi dylanwadu ar Sŵnami, pam dewis canu’n Gymraeg? Ifan Davies sy’n ateb, “roedd o’n ddewis naturiol llwyr i ganu’n Gymraeg. Doedd o ddim yn croesi’n meddwl ni i ganu’n Saesneg pan ddechreuon ni.”

Rwy’n holi ymhellach am gynnwys y caneuon ...“mae’n job deud rili am be’ ma’r caneuon...” meddai Huw, “... does dim neges benodol i’r rhan fwyaf ohonynt. Rydan ni i gyd yn cyfrannu at ysgrifennu’r geiriau ac oherwydd hynny rydan ni’n bownsio oddi ar ein gilydd. Gall un gân berthyn i sawl aelod o’r band achos yn aml mae mwy nag un ohonon ni yn ysgrifennu. Felly mae’r neges yn aml yn wahanol i bob aelod - mae’n gwneud y cyfan yn fwy amwys. Weithiau bydd y pump ohonom ni wedi ysgrifennu un gân!”

Mae gan y grŵp sengl newydd allan ar hyn o bryd, ac Ifan Ywain sy’n dweud mwy “mae ein sengl gyntaf sef ‘Mynd a Dod’ allan ar hyn o bryd. Dyma’r gyntaf o ddwy sengl fydd allan ym mis

Gorffennaf. Bydd ein hail sengl sef ‘Eira’ allan o gwmpas adeg yr Eisteddfod Genedlaethol ar label Copa.”

Sut deimlad ydy rhyddhau cynnyrch cyntaf felly? “Grêt, dydan ni heb ryddhau dim o’r blaen ac mae popeth rydan ni wedi recordio wedi bod ar gyfer y radio neu sesiynau gwahanol. Fe wnaethon ni recordio’r caneuon yma yn Stiwdio Ferlas ym Mhenrhyndeudraeth. Fydd o’n gyfle gobeithio i gael mwy o sylw, gyda’r gobaith yn y diwedd o fynd ati i recordio EP neu albwm.”

“Mae modd prynu’r senglau trwy label Copa neu ar y we ar itunes neu amazon ac mae’r caneuon ar ein tudalen Spotify ni hefyd.”

Rwy’n awgrymu eu bod nhw’n gwneud y mwyaf o wefannau cymdeithasol, “ydyn, rydyn ni’n hoff iawn o Spotify gan ei fod mor hawdd i’w ddefnyddio. Rydyn ni hefyd yn defnyddio dipyn ar Facebook. Mae’n ffordd dda o gael ein cerddoriaeth ‘allan yna’ a chyrraedd cynulleidfa ehangach.”

A gyda hynny, dwi’n dymuno pob lwc i’r band gyda’u gigs a’u senglau wrth gwrs. Bydd Sŵnami yn ymddangos mewn nifer o gigs dros yr haf felly fyddwch chi’n ddwl i’w colli nhw. Does dim ar ôl i mi i’w wneud felly ond mynd nôl i swatio ar y soffa i gyfeiliant y bechgyn o Ddolgellau.

Page 7: Y Selar - Awst 2012

RHAGORIAETHMEWN GWYLA GWAITH

• Copiau o’n prospectws newydd a manylion cyrsiau ar gaelar gyfer mynediad yn 2013

• Dewis helaeth o gyrsiau, gyda mwy o gyrsiau trwy gyfrwng yGymraeg nag unrhyw brifysgol arall yng Nghymru

• Sicrwydd llety i holl fyfyrwyr y flwyddyn gyntaf, gyda neuaddGymraeg ar safle Ffriddoedd sy’n gartref i fyfyrwyr o bob cwro Gymru

• Bywyd cymdeithasol sy’n fywiog ac yn wirioneddol gyfeillgar

• Costau byw isel a chefnogaeth ariannol sy’n cynnwysYsgoloriaethau Mynediad a Bwrsariaethau yn ogystal a bwrsario £250 i’r rhai sy’n dewis astudio trwy gyfrwng y Gymraeg

Ffôn: 01248 382005 / 383561 E-bost: [email protected]

www.bangor.ac.uk Dilynwch ni:Facebook.com/PrifysgolBangor • Twitter: @prifysgolbangor

hysbys 487 selar:487 01/05/2012 12:22 Page 1Rhagor o fanylion a thocynnau: [email protected] | 02920 486469 | cymdeithas.org/steddfod

Sadwrn, Awst 4ydd CwiS CAwlACh MeiC AgoRedMynediad am Ddim | 7yh

Sul, Awst 5edNoSoN o FlAeN y BoCS gydA SiANel ’62Mynediad am Ddim | 7yh

llun, Awst 6edNoson Munud i DdathluyR odS BReiChiAu hiRy RwtCh Ffilm ‘Munud i Ddathlu’£7 | 7yh

Mawrth, Awst 7fedGig Coleg Cymraegy BANdANA MR huw y CoNduCtoRS NeBulA£7 | 7yh

Mercher, Awst 8feddathliad 50 tuduR oweN yn cyflwynodAFydd iwAN + heAtheR JoNeS £7 | 7yh

iau, Awst 9fedNoson PRS: Chwarae Teg i Gerddorion CymruMeiC SteveNS huw M £10 | 7yh JAMie BevAN A’R gweddillioNgwener, Awst 10fedNoson Tynged yr Iaith 2 a Chynghrair Cymunedau Cymru Steve eAveS lleuweN CASi wyN£10 | 7yh

Sadwrn, Awst 11egGig Cymdeithas yr Iaith yn hyrwyddo’r SRG dros y degawdau JeSS CliNigol JJ SNeed BlAidd £10 | 7yh

gweRSyllA dim ond £6 y noson! Cawodydd, Bwyd,10% o ostyngiad i wersyllwyr wrth y bar, Llai na 2 filltir o faes yr eisteddfod,Agos i dafarndai a siopau Llanilltud Fawr,Gigs dan do

+ ar y maes!Parti Pen-blwydd y gymdeithas yn 50Dewch draw i dorri’r gacen!2pm Dydd Sadwrn Awst 4Pabell Cymdeithas yr Iaith

gweithdy Sianel 623pm Dydd Llun, Awst 6Gofod Hacio’r Iaith, Pabell Cefnlen Sioe 50Rifíw am Gymdeithas yr Iaith 2.30pm Dydd Mawrth Awst 7Theatr Fach y Maes Fforwm agored i hybu gwaith y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. 2pm Dydd Mercher Awst 8Pabell y Cymdeithasau 2 Cerddi hanner Cant1.30pm Dydd Iau Awst 9Y Babell Len

‘Brwydr y Beasleys’Cyflwyniad i ddathlu safiad y Beasleys dros y Gymraeg gydag aelodau o’r teulu yn cymryd rhan.5pm Dydd Iau Awst 9Pabell y Cymdeithasau 2 ocsiwn Cyn – gadeiryddion Cymdeithas yr iaith gymraeg 6pm Dydd Iau Awst 9Pabell y Cymdeithasau 2

Cyfarfod Cynghrair Cymunedau CymruCyfarfod cenedlaethol cyntaf y Gynghrair- croeso i bawb .Cadeirydd: Craig ab Iago12 o’r gloch Dydd Sadwrn Awst 11,Y Neuadd Ddawns

Steddfod Bro Morgannwg

gigsCymdeithas yr Iaith

Clwb Rygbi Llanilltud Fawr

Hysbys_CyIG_Steddfod_2012_190x138mm.indd 1 14/07/2012 11:48:56

Page 8: Y Selar - Awst 2012

www.ylolfa.com

Newydd o’r Lolfa!

£8.95 £7.95 £7.95

£5.95 £5.95£5.95

1.10.12 – 17.11.12

@aradgoch #SXTO www.aradgoch.org

Rhif Elusen 702506

13+

“Pawb yn gwylio pawb yn gwylio pawb a nabod neb.”

gan Bethan Gwanas

aradgoch

hysbysA5.indd 1 25/7/12 09:11:48

Page 9: Y Selar - Awst 2012

trydar gyda @Violas@y_selarSu’mai @Violas_, croeso i gyfweliad trydar @y_selar! ’Da chi’n iawn?

@Violas_Helo! ‘Den ni’n iawn diolch.

@y_selarClywed fod yna EP newydd ar y gweill, oes ’na enw?

@Violas_Oes - Nos Somnia.

@y_selarBe’ allwn ni ei ddisgwyl o ran y gerddoriaeth ta?

@Violas_Wel, mae’r EP lot mwy “dreamy”. ’Chydig o post rock. EP dwyieithog eto. 5 cân ‘tro ‘ma!

@y_selarA lle fuoch chi’n recordio, yn Music Box [Caerdydd] eto?

@Violas_Ie! A thŷ Llion [Robertson, y cynhyrchydd].

@y_selarOnd rhyddhau efo’r label, I Ka Ching y tro yma wrth gwrs, sut brofiad ’di hynny?

@Violas_Grêt! Cyffrous iawn! Ma’ nhw ’di rhyddhau stwff gan Texas Radio Band, Jen Jeniro a Sen Segur. Gyd yn fandiau gwych. Yep, edrych ’mlaen yn arw.

@y_selarRoedd ’na waith celf trawiadol iawn efo’r EP diwetha’, Hwylio. Allwn ni ddisgwyl rhywbeth difyr felly eto?

@Violas_Ma’r gwaith celf ’chydig yn wahanol tro ‘ma ond gobeithio bydd o’n plesio. Mae’r elfen weledol yn bwysig i ni.

@y_selarDa iawn. A be’ ’di hyn dwi’n ei glywed am gardiau post hefyd?

@Violas_Ie, fe fydd yna gardiau post ar gael yn y Steddfod gyda lawrlwythiad am ddim.

@y_selarDiddorol. Tamaid bach i aros pryd.

@Violas_Ie!

@y_selarA dwi’n iawn yn meddwl fod neb llai na T.H. Parry Williams yn ymddangos ar un o draciau’r EP?!

@Violas_Ydi wir! Cân offerynnol i gyd-fynd efo cerdd T.H Parry Williams, Moelni. ‘Den ni ’di bod yn chware hi’n fyw ers dipyn!

@y_selarFydd athrawon Lefel A Cymraeg yn eich caru chi! Be’ arall sydd ar y gweill dros yr haf? Unrhyw wyliau diddorol?

@Violas_Ha! Ni’n chware gŵyl o’r enw Lodestar wrth Caergrawnt ddiwedd Awst. Ac eitha’ dipyn o gigs sydd yn siawns gwych i hybu’r EP.

@Violas_Ni hefyd yn gweithio ar fideo...

@y_selarCyffrous iawn. Digon o waith hyrwyddo felly. Fydd ’na un gig lansio swyddogol?

@Violas_Fydd y noson lansio yn Undertone yng Nghaerdydd ar y 29ain o Awst.

@y_selarEdrych ymlaen yn barod, a beth am y fideo yma, beth allwn ni ei ddisgwyl yn hwnnw?

@Violas_Wel, ‘dyma’r fideo cynta’ i ni neud felly ddim yn siwr be’ i ddisgwyl! Dal yn trafod efo’r tîm ffilmio/cynhyrchu...

@y_selarEdrych ymlaen. I gyd yn help efo’r hyrwyddo. Fyddwch chi’n defnyddio dipyn o twitter a facebook i ledaenu’ch cerddoriaeth hefyd?

@Violas_Byddwn. Tueddu i ddefnyddio twitter yn fwy na facebook dyddie yma......felly dilynwch ni!

@y_selarIa, yn sicr! Mi fyddwn i yma yn @y_selar yn siwr o gadw llygad arnoch chi dros y cyfnod prysur ’ma pryn bynnag.

@y_selarDiolch yn fawr iawn am gymryd yr amser i siarad efo ni a phob lwc efo’r EP, y gigs, y gwyliau, y fideo a phob dim arall. Hwyl!

@Violas_Dioooolch!

y-selar.co.uk 9

Page 10: Y Selar - Awst 2012

Mae yna rywbeth am lun o fwnci sy’n tynnu’r sylw’n syth does. Yn enwedig felly mwnci sydd yn gwenu’n od ac yn chwarae symbals. A waeth imi fod yn onest ddim, dyna pam y dewiswyd

albwm newydd Twmffat, Dydi Fama’n Madda i Neb, ar gyfer eitem O Glawr i Glawr y rhifyn hwn. Ond yn ffodus i mi ac i chithau sydd ar fin darllen fydd dim rhaid imi wastraffu hanner tudalen yn ceisio cyfiawnhau fy hoffter i o fwncïod achos mae yna ddigon i’w ddweud am y clawr dan sylw.

Mae’n debyg mai un peth sydd yn hynod ddefnyddiol i fand wrth feddwl am gynllunio eu cynnyrch cerddorol yw aelod

sydd hefyd yn rhedeg cwmni dylunio! Dyna yn union sydd gan Twmffat yn Justin Davies. Mae Justin yn chwarae’r harmonica a mandolin ar yr albwm ond fel perchennog cwmni Dylunio Gringo ym Mhenygroes, ef hefyd sydd yn gyfrifol am y gwaith celf.

Aeth Y Selar felly i holi’r cerddor-gynllunydd ynglŷn â’r CD a rhaid oedd dechrau trwy holi beth oedd hanes yr hen fwnci bach hoffus yna? “Syniad y mwnci yw bod tueddiad yn y sin Gymraeg i drio ail greu ffasiwn cerddoriaeth Lloegr gan weithiau fynd mor bell â chanu’n Saesneg, mae’n sefyllfa Monkey see, monkey do.” Eglura Justin. “Yna, yn y cefndir, fel cysgod y mwnci mae logo Twmffat, sy’n golygu bod rhywbeth gwahanol ar gael wrth i chi edrych yn fanylach. Mae hefyd yn golygu bod rhywbeth newydd ar ei ffordd o gysgod y diwylliant Monkey see, monkey do.”

Mae’r mwnci bach yn dipyn mwy arwyddocaol nag o’n i wedi ei feddwl felly. Ac mae’r logo yn y cysgod yn ddifyr iawn ynddo’i hun. Beth oedd y syniad y tu ôl i hwnnw tybed? “Logo Twmffat yw hwn... sef llwyth o bobl gyda dylanwadau a syniadau gwahanol yn mynd mewn i dop twmffat ac yn dod allan ar y gwaelod fel un band. Mae’r logo yn addas iawn gan fod y rhan fwyaf o’r band yn aelodau o fandiau eraill ac â diddordebau a steil hollol wahanol.”

Does dim prinder CDs Cymraeg yr adeg yma o’r flwyddyn ac felly mae’n bwysig bod unrhyw gynnyrch newydd yn tynnu sylw. Gwaith celf un albwm sy’n sicr yn gwneud hynny’r haf hwn yw Dydi Fama’n Madda i Neb, a dyna pam mai Twmffat sydd yn cael sylw O Glawr i Glawr y tro hwn.

Dydi Fama’n Madda i Neb

Page 11: Y Selar - Awst 2012

yn gwneud y gwaith yn gyflawn.” Ac mae Ceri’n cytuno, “Mae o’n bwysig dros ben! Yn enwedig yn yr oes sydd ohoni lle ti’n gallu lawrlwytho bob dim i wagle. Nai fyth anghofio gafael a syllu ar glawr LP, The Wall gan Pink Floyd tra’n gwrando ar yr yr albwm... oedd o’n gwneud synnwyr i mi. Dwi’n meddwl bod negeseuon albwm yn dod allan yn y gwaith celf er dy fod yn creu delweddau dy hun yn dy ben hefyd!”

Serch hynny, mae mwy a mwy o fandiau ac artistiaid yng Nghymru fel ym mhob man arall yn troi at ddulliau digidol o ryddhau eu cerddoriaeth. Oes yna rywbeth yn cael ei golli felly wrth i fwy a mwy o wrandawyr lawrlwytho cerddoriaeth yn hytrach na’i estyn o gas a’i daro yn yr hi-fi? “Mae llwyth o bobl yn pasio ffeils mp3 i’w gilydd dyddiau yma,” meddai Justin, “felly mae bod yn berchen ar gopi caled o albwm a’r gwaith celf yn medru gwneud i ti deimlo bod gen ti rywbeth am dy bres yn hytrach nag ychydig o kilobytes ar gyfrifiadur!”

Mae Ceri hefyd yn gefnogwr brwd o’r copi caled. “Oes ma’ ’na rhywbeth yn sicr yn cael ei golli yn fy marn i. Mae o fel petai o’n dibrisio’r gwaith - yr albwm fel cyfanwaith. Dim cyfres o ganeuon ti’n gallu lawrlwytho ydi albwm i fod ond cyfanwaith. Roedd cynhyrchu 200 copi o Dydi Fama’n Madda i Neb yn costio pedair gwaith gymaint â rhyddau’r caneuon i farchnad di-ben-draw Amazon, iTunes a Spotify. Mae o’n drist oherwydd mae’r siopau cerddoriaeth Cymraeg yn diodda ac eto mae o’n catch 22 oherwydd tisio cyn gymaint o bobl â phosib glywed dy gerddoriaeth di. Ond wnai fyth anghofio’r wefr o afael ar finyl Bob Marley am y tro cyntaf. Beth sydd yn od ydi; ti dal yn gallu prynu copi caled a’i lawrlwytho fo i dy declyn wedyn pryn bynnag, ffordd yna ti’n cael y gorau o’r ddau fyd! Mae gen i dros 10,000 o ganeuon ar fy iPod ac ma’ rheiny i gyd gen i ar CD, tâp neu finyl.” Ond beth bynnag fydd dyfodol yr hen gryno ddisg druan, gwnewch yn siwr eich bod yn ychwanegu Dydi Fama’n Madda i Neb i’ch casgliad cyn iddi ddiflannu. Nid yn unig gan ei fod yn gasgliad da o ganeuon ond achos bod yna lun o fwnci ar y ffrynt!

o glawr i glawr

Sôn am steil, pa mor bwysig yw cadw cysondeb rhwng steil y gerddoriaeth a steil y gwaith celf? Ydi’r berthynas rhwng y ddwy elfen greadigol yma’n bwysig? “Mae’r gerddoriaeth ar yr albwm yn eitha’ trwm mewn rhannau, ond mae gen ti ganeuon fel ‘Plis Gai Wy’ sy’n eitha’ digri. Mae pawb sydd wedi gweld Twmffat yn perfformio yn ymwybodol bod y band yn eitha’ gwyllt ac yn licio hwyl felly roedd o’n bwysig i mi gadw’r elfen hwyliog yma yn y gwaith celf, ond wrth gyfleu neges bwysig hefyd.”

Mae’r clawr yn sicr yn llwyddo yn hynny o beth. Siawns fod Justin yn hapus â’r gwaith terfynol felly? “Yndw ond dwi ddim yn siŵr am bawb arall! Job fwya’ oedd trio plesio pob aelod yn y band gan eu bod nhw’i gyd efo syniadau gwahanol!” Un o’r aelodau hynny wrth gwrs yw’r prif leisydd, Ceri Cunnington, felly aeth Y Selar ati i’w holi yntau hefyd ynglŷn â chlawr yr albwm. Yw yntau hefyd yn hapus? “Yndw tad, roedd ’na dipyn o anghytuno ac roedd arian ac amser yn brin ond dwi’n meddwl bod o’n wych ac yn gweithio ar sawl lefel.”

Ceri sydd yn gyfrifol am ysgrifennu’r caneuon felly faint o’i ddylanwad ef yn bersonol fel dyn y geiriau sydd yn mynd i’r lluniau? “Dwi’n ’nabod Justin yn dda ers dyddiau Anweledig,” eglura cyn brif leisydd y grŵp eiconig. “Mae’n amlwg wedi clywed fi’n rantio am ystyr y caneuon ar yr albwm ac wedi trosglwyddo hynny i ddelweddau sy’n gweithio. Mae ’na ddylanwad anuniongyrchol mawr yn mynd i mewn i’r gwaith oherwydd y cysylltiad cryf rhwng y geiriau, y gân a’r gelf.”

Roedd y gwaith celf ar albwm diwethaf Twmffat, Myfyrdodau Pen Wy, hefyd yn drawiadol iawn felly mae hi’n amlwg fod y band yn rhoi cryn bwyslais ar yr elfen weledol. Pa mor bwysig felly ydy gwaith celf ar gynnyrch cerddorol? Pwysig iawn ym marn Justin, “Mae celf a cherddoriaeth wastad wedi eu cysylltu rywsut ac mae pobl sy’n arbrofi mewn un yn aml iawn yn dablo yn y maes arall hefyd. Mae’r ddau ddull yn ffyrdd o gyfleu neges ac mae sawl person yn hoff iawn o brynu cerddoriaeth ar CD gan fod y gwaith celf

y-selar.co.uk 11

“Mae yna rywbeth am lun o fwnci sydd yn tynnu’r sylw’n syth does...”

Page 12: Y Selar - Awst 2012

Mae 2012 wedi bod yn dipyn o flwyddyn o ran penblwyddi cerddorol – Cymdeithas yr Iaith a’r Rolling Stones yn hanner cant a Hywel Gwynfryn yn 70! Ond un garreg filltir gerddorol arall sydd wedi bod yn cael dipyn o sylw’n ddiweddar (a hwnnw’n sylw dyledus iawn) yw penblwydd y band Datblygu yn 30. O’r diwedd mae cyfraniad y band tanddaearol chwedlonol yn cael ei ddathlu.

Talodd Yr Ods deyrnged addas iawn iddynt yn gig Hanner Cant trwy orffen eu set gyda geiriau David R. Edwards yn atseinio trwy Bafiliwn Pontrhydfendigaid. Fe fydd rhai ohonoch wedi sylwi hefyd fod y penblwydd yn cael ei ddathlu mewn ffordd hyfryd ac addas o wrth sefydliadol ar rai o strydoedd Caerdydd trwy gyfrwng celf stryd. Mae ciosg prydeinig ei natur ar Ffordd Cowbridge wedi ei addurno mewn eironi perffaith ers rhai

misoedd bellach, a’r hyn sy’n gwneud y cyfan yn well fyth yw’r ffaith fod y ffyliaid dal heb sylwi.

Hefyd yn ardal Treganna o Gaerdydd fe allwch chi ddod o hyd i arddangosfa arbennig iawn yng nghaffi Waffle sydd yn cofnodi ac yn dathlu hanes y band. Ychwanegwch at hynny wedyn y ffilm ddogfen newydd sydd wrthi’n cael ei pharatoi gan Owain Llŷr o gwmni bwcibo cyf. ac fe sylwch chi ei bod hi’n ferw gwyllt o ddathliadau penblwydd heb jeli nac hufen iâ ar gyfyl y lle.

Datblygu30Datblygu30 yw enw’r arddangosfa hyfryd sydd i’w gweld yng nghaffi Waffle ar hyn o bryd. Eto, rwy’n gyndyn o’i galw’n ‘arddangosfa’ achos tydi ymweliad â’r caffi bach clud yma ddim byd tebyg i ymweliad ag amgueddfa neu oriel gelf ddiflas. Chewch chi ddim byseddu pob dim a thynnu pethau oddi ar y wal yn y Tate Modern na chewch! Fydd curadur y Guggenheim ddim yn diflannu allan i’r stryd yn Bilbao ac yn dychwelyd ddau funud yn ddiweddarach efo mwy o stwff na fydd! Ac o ia... mae’r bwyd yn well na Sain Ffagan hefyd.

Yn wir, mae brwdfrydedd y perchenog, Victoria Morgan am fand ei chwaer, Pat, yn heintus. Ac nid jôc oedd y busnes diflannu i nôl mwy o stwff yna – fe aeth hi i’r tŷ i nôl copiau gwreiddiol o ffansins Datblygu, Yn Syth O’r Rhewgell. Ond cyn pori trwy rheiny roeddwn wedi cael cyfle i fwynhau gweddill y deunydd ac i holi ychydig o’r hanes.

“I ddechrau, na i gyd o’n i ishe oedd rhywbeth diddorol i roi lan ar y wal,” eglura Victoria “Ofynnes i Pat, fy chwaer, os oedd rhywbeth ’da hi a hi wedodd eu bod nhw’n dathlu tri deg mlynedd. Feddylies i ei fod e’n gyfle gwych i wneud rhywbeth a ma’ fe wedi datblygu ers ’ny.”

y-selar.co.uk12

Dathliadau Datblygu

Yn sicr, mae’r diddordeb yn y casgliad syml o doriadau papur newydd a chloriau finyl wedi tyfu a thyfu gan ennyn cryn ddiddordeb yn y wasg. Ac mae’r diddordeb ar wefannau cymdeithasol wedi bod yn gryf hefyd fel yr eglura Victoria: “Fi wedi creu tudalen ar facebook a twitter a ma’ gyda fi dros 500 o bobl yn y grŵp facebook erbyn hyn! Wnes i erioed ddychmygu fydde gymaint o ddiddordeb ynddo fe, yn enwedig gan bobl ifanc oedd ddim hyd yn oed wedi cael eu geni pan oedd Datblygu’n dechre.”

Mae’r caffi wedi cael ambell i ymwelydd adnabyddus hefyd. “Do, Gruff Rhys! Odd hynny’n ddoniol. Gerddodd e’ mewn ac o’n i’n meddwl yn naturiol ei fod e’ wedi clywed am yr arddangosfa, ond wedi dod â’i ferch i wers taekwando gerllaw odd e’ ac wedi dod i mewn am baned! Ac wedyn welodd e’ hyn i gyd a hyd yn oed sbotio fe’i hunan yn un o’r lluniau, yn fachgen ifanc yn un o’r gigs!”

Mae’r holl beth yn berl eithaf annisgwyl mewn stryd gefn ac mae’n braf gweld cerddoriaeth Gymraeg yn cael sylw mewn lleoliad amgen. Ond pa mor bwysig ydi dogfennu hanes y sin fel hyn ym marn Victoria? “Fi’n meddwl ei fod e’n bwysig iawn. Ma’ fe’n gyfle i atgoffa pawb pa mor dda oedd Datblygu a gobeithio y bydd e’n annog pobl i ail wrando arnyn nhw achos yn wleidyddol, mae’r caneuon yr un mor berthnasol heddiw ag erioed.”

Mae’n od meddwl bod y band yn cael yr holl sylw yma eleni gan gofio eu bod yn arfer ysgrifennu eu ffansins eu hunain o dan ffugenwau gan nad oedd neb arall yn rhoi sylw iddynt. Tybed felly beth mae Dave Datblygu ei hunan yn ei feddwl o hyn i gyd? “Fi’n

Page 13: Y Selar - Awst 2012

meddwl bod David yn blês â’r holl beth,” meddai Victoria, “ma’ fe wedi mwynhau’r holl sylw!”

Fe fydd y deunydd ar y wal yn Waffle tan wythnos yr Eisteddfod o leiaf felly cofiwch ddianc draw rhyw fore os ydych chi’n dechrau laru ar bot nwdls o’r Gorlan i frecwast!

Prosiect DatblyguProsiect Datblygu yw ffilm ddogfen ddiweddaraf Owain Llŷr o gwmni bwcibo cyf. Beth oedd yr ysgogiad felly i wneud ffilm ar y band? “Ro’n i wedi bod yn gwneud stwff ychydig yn wahanol ers ychydig o flynyddoedd a ro’n i wastad wedi meddwl fod Datblygu yn bwnc da ar gyfer rhaglen ddogfen – edrych ar ddylanwad y grŵp a sut argraff maen nhw wedi ei gael ar bobl.”

Cyfweliadau fydd y ffilm yn bennaf er bod Owain yn gobeithio sicrhau ychydig o ddeunydd archif S4C hefyd. Mae wedi cyfweld pobl fel John Griffiths (Llwybr Llaethog), Gareth Potter (Tŷ Gwydr) a Huw Stephens i gael syniad o ddylanwad y band ond wedi cyfweld aelodau o’r band hefyd wrth gwrs gan gynnwys hen ffrind iddo, y dyn ei hun, David R. Edwards. “Fe wnes i gyfweliad gyda Dave dros benwythnos y briodas frenhinol llynedd achos oedd e’ ffansi cael cwmni ar y dydd!”

Yn ogystal â chyfweliadau a deunydd archif mae Owain yn gobeithio defnyddio ychydig o stwff o arddangosfa Waffle yn y ffilm a fydd yn cael ei dangos yn Theatr y Mwldan, Aberteifi yn ystod yr Hydref.

Pa mor bwysig oedd Datblygu fel band felly ym marn Owain? “Nhw oedd un o’r bandiau mwyaf gwreiddiol. Fe wnaethon nhw greu llwybr newydd gyda bandiau eraill ar y pryd fel Anhrefn, Y Cyrff, Fflaps, Llwybr Llaethog a Thŷ Gwydr. Yr argraff maen nhw’n ei adael yw eu bod nhw’n fand oedd yn datblygu (mind the pun), a hynny gyda’r sain gymaint â’r geiriau. Ac ar ben hynny roedd

ganddyn nhw ganeuon ffantastig, er bod y geiriau yn chwarae ar Gymreictod roedden nhw’n dweud rhywbeth eithaf gonest a diffuant.”

Mae Owain wedi bod yn rhan o’r sin ei hunan, fel aelod o amrywiol fandiau yn y 90au ac yna fel cyfarwyddwr fideos ar Bandit yn y degawd diwethaf. Beth tybed yw ei argraffiadau ef felly o’r sin heddiw ac yn enwedig y sin danddaearol dri deg mlynedd ers genedigaeth Datblygu?

“Un peth sy’n anodd falle wrth i gyfryngau ehangu yw dweud beth sy’n boblogaidd a beth sy’n danddaearol. Erbyn heddiw, fi ddim yn gweld y peth yn gallu cael ei adlewyrchu ar y teledu. Ond mae C2 yn chwarae stwff bach mwy amgen na’r hyn oedd yn arfer cael ei chwarae ar Radio Cymru.” Allwn ni ddisgwyl unrhyw ffilmiau eraill am y sin ar ôl Prosiect Datblygu felly? “Ddim gen i na, fi’n ymddeol ar ôl hon! Ond fe lenwith hon fy amser i am ryw fis neu ddau eto!”

Edrychwn ymlaen yn arw at yr hydref felly, am y cyfle i ddysgu mwy am un o fandiau mwyaf chwedlonol y sin ac i orffen y parti mewn steil.

y-selar.co.uk 13

Page 14: Y Selar - Awst 2012

y-selar.co.uk14

Fe es i i gyfarfod brodyr Cowbois Rhos Botwnnog mewn tafarn yng Nghaerdydd yn ystod pencampwraeth Ewro 2012. Roedden nhw lawr yn y brifddinas am yr ail

waith mewn wythnos ac yn edrych ’mlaen at ddwy gig arall yn y deheubarth dros y dyddiau nesaf, un ohonyn nhw fel band Georgia Ruth. Does dim dwywaith eu bod nhw’n cadw’n brysur.

Ro’n i wedi mynd i gyfarfod Iwan, Aled a Dafydd Hughes i drafod yr albwm newydd, Draw Dros y Mynydd, ddaeth allan ym mis Gorffennaf. Albwm, sydd, yn ei anian, yn ddilyniant i Dyddiau Du, Dyddiau Gwyn a gafodd dderbyniad gwresog pan ei ryddhawyd yn 2010. “Mi oedd lot o’r caneuon ar yr albwm yma wedi cael ei sgwennu’n barod,” meddai Aled, yr hynaf o’r tri brawd. “Felly mae’i bron fatha’r ail ran i fod yn onest – ar wahân i’r geiriau sydd ddim mor bersonol ella”. “Ond, mae’n swnio’n wahanol,” ychwanega Iwan. “Fe wnaethon ni arbrofi fwy hefo hwn.”

Cafodd yr albwm newydd ei recordio yn yr un stiwdio â Dyddiau Du, Dyddiau Gwyn - ym Mryn Derwen gyda’r cynhyrchydd Dave Wrench. Buodd hyn o help i’r teimlad o ddilyniant rhwng y ddwy record a hefyd wrth arbrofi gyda’r sŵn. Oedd y ffaith bod y band a Dave ychydig mwy cyfforddus yng nghwmni ei gilydd y tro yma yn help gyda hynny?

“Dwn’im. Gan ein bod ni’n ymarfer y caneuon yn reit dda cynt, mae’r esgyrn yno’n barod pan ’da ni’n mynd i’r stiwdio,” esbonia Aled. “A ’da ni’n gwybod lle i roi pethau dros y caneuon hefyd felly mi oeddan ni wedi gorffen recordio yn eithaf handi. Ella, gan ein bod ni wedi gorffen m’bach cynt na’r albwm diwethaf mi oedd gennom ni amser i drio pethau newydd.”

Ers i’r band ddechrau gyda’r tri brawd mae aelodau eraill wedi ymuno â nhw. Euron ‘Jôs’ Jones ar y gitâr bedal ddur; Llŷr Pari, sydd erbyn hyn yn chwarae’r drymiau i’r Niwl, ar y gitâr; Branwen Williams, sy’n canu un o’r caneuon ar yr albwm newydd, ar yr allweddellau; a rŵan ei brawd hi, Osian, o’r band Candelas, hefyd. Ydi’r ychwanegiadau yma wedi effeithio ar sŵn y band?

“Pan ’naethon ni recordio Dyddiau Du, doeddan ni heb fod yn chwarae’n fyw hefo’r band llawer. Ond rŵan, a ninnau’ wedi

bod yn chwarae hefo nhw ers dros flwyddyn, ella’i bo’ nhw yn fwy cyfforddus nag oeddan nhw ar y dechrau.” meddai Dafydd. “’Da ni’n lwcus iawn hefo’r band,” meddai Aled. “Maen nhw i gyd yn gerddorion

Does dim dwywaith mai Cowbois Rhos Botwnnog yw un o fandiau mwyaf y sin ers sawl blwyddyn bellach. Felly pan glywodd Y Selar fod y brodyr o Lŷn yn rhyddhau eu trydydd albwm, Draw Dros y Mynydd, rhaid oedd inni yrru Ciron Gruffydd am sgwrs â’r hogia’.

Mentro Draw Dros y Mynydd

“... mae’r esgyrn yno’n barod pan ’da ni’n mynd i’r stiwdio.”

Page 15: Y Selar - Awst 2012

y-selar.co.uk 15

gwych ac yn gwneud i ni swnio’n well. Sef be’ tisio mewn band a dweud y gwir.”

Ond er yr arbrofi, does dim gymaint o amrywiaeth rhwng y caneuon ag oedd ar Dyddiau Du, Dyddiau Gwyn yn ôl Aled: “Hefo hon, does ’na ddim gymaint o amrywiaeth o ran tempo – mai’n drymach dwi’n meddwl. Dim o ran geiriau, ond o ran y cyfansoddi.”

“Jans ei bod hi’n anoddach gwrando arni,” ychwanega Iwan, sy’n canu ac yn sgwennu’r rhan fwyaf o’r caneuon, cyn i Aled gytuno. “Yn y diwethaf, mi oedd ’na un neu ddwy o ganeuon cyflym i dorri ar draws y pethau lleddf. Does ‘na ddim ar hon dwi’m yn meddwl.”

Ond yn ogystal â bod yn brysur yn paratoi’r albwm newydd, mae newid byd arall wedi bod i’r Cowbois dros y flwyddyn ddiwethaf - ers iddyn nhw droi’n broffesiynol ym mis Hydref. “’Da ni’n sgint, ond ’da ni hefyd yn brysur sy’n ofnadwy o braf,” meddai Dafydd y drymiwr. “Fysai’n dorcalonnus os fysan ni wedi penderfynu gwneud hyn a ninnau’n ddistaw.”

Ond onid breuddwyd gwrach yw’r meddylfryd bod band sy’n canu’n Gymraeg yn gallu ei gwneud hi’n broffesiynol? “Mae pobl yn deud ei bod hi’n amhosib ond mi rydan ni’n neud o,” meddai Dafydd. “ Mae ’na lot yn gofyn hyn - oes ’na blaniau i sgwennu’n Saesneg a ballu. ’Da ni’m yn ei weld o fel ‘na. A deud y gwir, dydi’r peth ddim yn codi o gwbl ar wahân i pan mae pobl Cymraeg yn gofyn y cwestiwn. ’Dio’m byd gwleidyddol, dim byd i wneud hefo profi y gallwn ni ei gwneud hi drwy ganu’n Gymraeg. ’Da ni jyst yn chwarae’r gerddoriaeth

ma’ bobl isio i ni chwarae a bod yn brysur hefo fo.”“’Da ni ’di chwarae’n eithaf aml yn Lloegr eleni a di’r peth erioed

’di codi ei ben,” esbonia Aled. “’Da ni’n gwneud yr hen gân werin Americanaidd, ‘Fall on your Knees’, a ’na fo. Tydi o ddim i’w weld yn amharu ar faint mae rhywun yn mwynhau na faint o CDs ’da ni’n eu gwerthu mewn gig.”

“Ond,” meddai Iwan. “’Da ni’n gwneud hyn dan amgylchiadau lwcus ac unigryw. Fysan ni methu gwneud hyn oni bai ein bod ni’n byw hefo’n gilydd yn Llithfaen.” Ond dyw’r ffaith fod y brodyr yn byw gyda’i gilydd ddim yn golygu bod y Cowbois yn cyfansoddi pob awr o’r dydd. “Tydi o ddim mor glamorous a ma’ bobl yn ei feddwl,” meddai Iwan. “A gan mai dyma di’n gwaith ni, ’da ni’n fwy tebygol o ymlacio pan ’da ni adra”.“A ’da ni’m yn sgwennu hefo’n gilydd beth bynnag,” ateba Aled. “Mae Iwan yn sgwennu 90% o bethau ac os dwi’n sgwennu un neu ddwy, dwi’n sgwennu’r rheini ar ben fy hun hefyd.”

A beth yw cynlluniau’r band yn y dyfodol? “Gigio i hyrwyddo’r albwm ’di bob dim ar hyn o bryd. Mi rydan ni hefyd yn chwarae gyda Georgia Ruth ac mi fyddwn ni’n gwneud taith o Brydain gyda hi yn yr Hydref yn ogystal â gwneud taith theatrau ein hunain o amgylch Cymru. Beth bynnag sy’n digwydd, dwi’m yn gweld ni’n stopio.”

“Os nad ’da ni’n ffraeo’n arw rhyw ben,” oedd ateb parod Iwan cyn i Aled ymateb, “Ia. Ma’ ’na hynny.” Ond, dyw’r Cowbois heb ffraeo hyd yma. A chyn cic gyntaf gêm ddiweddaraf pencampwriaeth Ewro 2012, daeth y cyfweliad i ben, a throdd y tri i wynebu’r teledu yn fodlon iawn eu byd.

Page 16: Y Selar - Awst 2012

y-selar.co.uk16

Pwy: Un o’r bandiau cyntaf i gael eu henwi yng nghyfres Dau i’w Dilyn oedd Y Bandana. Gyda’r band yn mynd o nerth i nerth, mae eu prif ganwr a gitarydd, Gwilym Bowen Rhys, yn cymryd y cyfle i berfformio fel artist unigol pan mae unrhyw seibiant o’r band yn codi. Yn wyneb cyfarwydd ac amlwg i ddilynwyr yr SRG (a ffans Rownd a Rownd!), mae Gwil yn siŵr o ddenu torf wrth gigio’n fyw.

Pwy: Band newydd o ardal Dyffryn Nantlle yw Y Reu. Dau ffrind o’r ysgol uwchradd leol, sef Mathonwy Llwyd ac Iwan Fôn, sy’n gyfrifol am y prosiect. Daeth y band at ei gilydd ar gychwyn mis Mehefin yn dilyn trafodaethau yn nhafarn y Morgan Lloyd yng Nghaernarfon – lleoliad bywiog yn y sin Gymraeg dros y blynyddoedd diwethaf! Ond nid yw’r ddau’n gwbl anghyfarwydd â pherfformio’n fyw, gyda Math yn DJ mewn gwahanol leoliadau yng ngogledd Cymru ac Iwan yn gyn aelod o’r band, Y Stereotypicals.

Sŵn: “Cerddoriaeth hefo neges tu ôl iddo sydd am wneud i chi ddownsio” yw’r ffordd y mae’r band yn disgrifio eu hunain ar eu proffil Soundcloud. Mae Math ac Iwan yn rhannu’r un diddordebau cerddorol; Noel Gallagher’s High Flying Birds, We Are

dau i’w dilyn

Gwilym Bowen Rhys

Y ReuAnimal, Arctic Monkeys a Masters In France. Gellir clywed cyfuniad o ddylanwadau’r bandiau hyn yng nghaneuon Y Reu, gyda’r defnydd cryf o gitârs a synthiau - steil sy’n tyfu’n boblogaidd iawn trwy’r byd cerddorol ar hyn o bryd.

Hyd yn Hyn: Roedd y band yn rhan o gystadleuaeth Band 50 Gŵyl Hanner Cant yn ddiweddar, gyda’r ennillydd yn cael agor arlwy dydd Sadwrn yn

Un wyneb cyfarwydd yn arbrofi ar ei liwt ei hun ac un band newydd sbon danlli sydd wedi dal sylw Owain Gruffudd yn ddiweddar.

“Cerddoriaeth hefo neges tu ôl iddo sydd

am wneud i chi ddownsio”

“ ... mae’n ystyried y posibilrwydd o gael ei ddwy chwaer, Elan a

Marged, i ymuno â’r band.”

Page 17: Y Selar - Awst 2012

y-selar.co.uk 17

gig enfawr Cymdeithas yr Iaith. Er na ddaeth y band yn fuddugol, cawsant ymateb addawol iawn gan y cyhoedd. Mae’r band hefyd wedi cael eu canmol gan yr artist Drum and Bass amlwg o Fryste, Tom Casswell, neu TC fel y mae’n cael ei adnabod. Mae un demo ar eu safle Soundcloud, sef Beth Genai Ddweud, ac mae’r trac hwnnw wedi cael ei chwarae dros 1000 o weithiau ar y safle yn ogystal ag ar raglenni Lisa Gwilym a Huw Stephens ar C2.

Cynlluniau: Mae Iwan a Math yn gobeithio cael drymiwr a gitarydd ychwannegol ar gyfer eu setiau byw dros yr haf. Maen nhw hefyd yn gobeithio mynd ati i recordio mwy o draciau yn y stiwdio. Ar gyfer y diweddaraf am eu gigs dros yr haf, dilynwch y band ar twitter, @Y_Reu , ac ewch i ymweld â’u tudalen Facebook.

Ys dywed Anweledig yn y dull hynod farddonol, “Mae ’na wythnos gyfa’ i ddod, o’r eistedd-fod. Yn yr eisteddfod ie”.

Wythnos gyfa’ o sgwrsio, barddoni, cystadlu, ymgolli mewn gwledd o ddiwylliant, ac ymfalchio ein bod ni’n Gymry Cymraeg. Neu feddwi. Eleni mae’r Eisteddfod yn cael ei chynnal yn ‘Y Fro’ (saethwch fi os dwi byth yn galw’r lle yn ‘Y Fro’ eto), ac mae’n wir fod ’na rywbeth i bawb dros yr ŵyl, boed wedi ei drefnu gan y sefydliad neu yn rhywbeth ymylol. I’r mynychwr gigs, mae yna amrywiaeth eang o nosweithiau ond ydi hyn o reidrwydd yn beth da i’r diwydiant cerddorol Cymraeg? Mae Cymdeithas Yr iaith yn cynnal gigs o’r nos Lun hyd at ddiwedd yr wythnos, a Maes B o’r nos Fercher ymlaen. Yn amlwg mae rhai’n teimlo’n rhy hen i fynd i Faes B, neu’n rhy ifanc i fynd i gigs Cymdeithas, ac felly’n dibynnu ar yr opsiwn. Ond does bosib fod yna rhyw gyfaddawd, i greu cyfres o gigs cryf, gyda chynulleidfa frwd?

A’i ddim i’r ddadl os mai’r Eisteddfod ta’r Gymdeithas ddylai fod yn cynnal y gigs, achos mae’r ddau’n gwneud gwaith gwych yn hyrwyddo diwylliant Cymraeg. Ond â chynulleidfaoedd yn brin, a chynulleidfa sy’n gwrando’n brinach fyth, mae rhannu’r gynulleidfa’n ddwy eto ’chydig yn wallgof. Yn y gorffennol, pan oedd y sin bop yn gryfach o lawer, roedd un gyfres o gigs yn gweithio’n iawn. A bosib fod y sin yn gryfach oherwydd hynny?

Yn amlwg mae sawl dadl o blaid dwy gyfres o gigs e.e. mwy o amrywiaeth, dewis amgen a bod yn rhan o rywbeth ymylol, dim problem cael serve o dan oed ym Maes B a dim plant pissed yn gigs y Gymdeithas. Ond o safbwynt y diwydiant cerddorol mi fydda’ sianelu’r gynulleidfa, yr ymdrech, a’r arian i un ffrwd o gigs yn gweithio’n well. I fod yn deg â’r Gymdeithas, dydi eu line-up nhw ddim yn debygol o amharu ar line-up Maes B eleni, achos nid ydynt yn apelio at yr un gynulleidfa, ond mae rhoi dewis eang i gynulleidfa weithia’, fel sbwylio plentyn bach efo gormod o anrhegion, fydd y prat bach ddim yn gwerthfawrogi be’ ma’n ei gael wedyn.

Yn anffodus yma yng Nghymru mae gennym ni draddodiad o weithio yn erbyn ein gilydd a chystadlu, pan fyddai rhoi adnoddau efo’i gilydd a chydweithio yn dod â chanlyniad gwell. Efallai fod hyn yn rhywbeth i’r Gymdeithas a Maes B ystyried, os nad ydynt wedi gwneud yn barod.

Griff yn Trafod Gigs

Sŵn: I’r gwrthwyneb i roc Y Bandana, mae Gwilym yn canolbwyntio fwy ar gerddoriaeth gwerin draddodiadol. Gan gymryd dylanwadau gan fandiau fel The Dubliners, Bob Dylan a Chowbois Rhos Botwnnog, mae Gwil yn defnyddio nifer o offerynnau gwahanol yn ystod ei setiau byw, gan gynnwys banjo, gitâr acwstig, harmonica a phib. Yn y setiau hyn, mae Gwil yn chwarae nifer o covers yn Gymraeg ac yn Saesneg, yn ogystal â rhai o’i ganeuon ei hun.

Hyd yn Hyn: Bydd llawer wedi gweld Gwil yn perfformio’n unigol, am y tro cyntaf yng nghystadleuaeth Cân i Gymru 2012, pan gyfansoddodd Garth Celyn ar y cyd gyda’i fam. Yn dilyn hyn, cafodd y cyfle i wneud Sesiwn Byw ar raglen Lisa Gwilym ar C2. Mae Gwilym hefyd yn perfformio’n aml yn y Belle Vue ym Mangor Uchaf fel rhan o’i swydd rhan amser yn y dafarn.

Cynlluniau: Yn amlwg, Y Bandana, fydd blaenoriaeth Gwil yn y dyfodol, ond nid yw hyn yn golygu y bydd ei yrfa unigol yn dod i ben. Yn ogystal â’r gigs cyson yn y Bell Vue dros yr Haf, mae Gwil yn gobeithio symud lawr i Gaerdydd i astudio yn y Brifysgol ym mis Medi, lle gellir disgwyl ei weld yn perfformio mewn gigs a nosweithiau meic agored ar draws y ddinas. Mae hefyd yn gobeithio ysgrifennu mwy o ganeuon i gymryd lle rhai o’r covers yn ei set, ac mae’n ystyried y posibilrwydd o gael ei ddwy chwaer, Elan a Marged, i ymuno â’r band.

Page 18: Y Selar - Awst 2012

y-selar.co.uk18

AsbriAsbri oedd y cylchgrawn Cymraeg cyntaf i ganolbwyntio’n llwyr ar gerddoriaeth. Cafodd y rhifyn cyntaf ei gyhoeddi ym Mai 1969, dan olygyddiaeth Eilyr Davies, Huw Evans a chriw o unigolion brwdfrydig o ardal Caerfyrddin.

Erbyn hyn mae’n ymddangos yn sidêt iawn, gan roi llawer o sylw i’r grwpiau ‘pop’ oedd yn bodoli ar y pryd - Perlau Taf, Tony ac Aloma a’r amrywiol ‘Hogia’ a thriawdau merched oedd yn boblogaidd ar ddiwedd y 60au. Doedd dim yn ddadleuol nac yn grafog ynglŷn ag Asbri, ond fe wnaeth gyfraniad pwysig i’r sin gerddoriaeth Gymraeg ar ddechrau’r 1970au.

Mae’n siŵr mai Asbri oedd y cyntaf i gyflwyno’r syniad o wobrau cerddorol yn y Gymraeg gyda ‘Phleidlais Asbri’. Dafydd Iwan enillodd bleidlais y Canwr gorau ym 1970, gyda Heather Jones yn dod i frig y categori Cantores, Tony ac Aloma’n Grŵp neu Ddeuawd gorau, Meic Stevens yn mynd a theitl yr Offerynnwr a ‘Myn Duw Mi a Wn y Daw’ gan Dafydd Iwan yn Record orau.

Mae Asbri hefyd yn enwog heddiw am un peth arall, sef cystadleuaeth Miss Asbri. Rhyw fath o gystadleuaeth prydferthwch oedd hon, gyda chyfle i’r enillydd fynd am ddêt gyda Hywel Gwynfryn neu Huw Jones. Fe ganodd Geraint Jarman am ‘Miss Asbri ‘69’ ar ei albwm diweddar Brecwast Astronôt, ond ym 1970 y dyfarnwyd y teitl gyntaf, a hynny i Rosalind Lloyd, sydd bellach yn adnabyddus fel rhan o’r ddeuawd ‘Rosalind a Myrddin’.

Cyhoeddwyd y rhifyn olaf o Asbri ym 1978.

SwnSŵn oedd yr antidôt i Asbri a gyhoeddwyd gyntaf ym 1972. Alun ‘Sbardun’ Huws a’r diweddar Dafydd Meirion oedd y golygyddion ac roedd yn llawer iawn mwy amrwd nag Asbri a’i gloriau sgleiniog a thaclus.

Roedd Sŵn yn debycach i ffansin o ran ei wneuthuriad, ond roedd yn fwy arloesol ei gynnwys nag Asbri ac yn rhoi llawer mwy o sylw i’r don newydd o grwpiau roc oedd yn dechrau ymddangos ar ddechrau’r 70au. Roedd y cylchgrawn yn llawer iawn mwy crafog, ac yn barod iawn i ddweud ei ddweud heb ofni pechu.

Dim ond 9 rhifyn o Sŵn a gyhoeddwyd, y diwethaf ym 1974.

SgrechMae brand Sgrech yn reit chwedlonol erbyn hyn, gyda’r nosweithiau gwobrwyo enfawr a gynhaliwyd ym Mhafiliwn Corwen yn dal i gael eu rhamantu amdanynt.

Ym mis Awst bydd cyfres radio gan Y Selar yn cael ei darlledu ar Radio Cymru. Mae’n gyfres sy’n edrych nôl ar nifer o ragflaenwyr Y Selar, y cylchgronau Cymraeg sydd wedi rhoi sylw i’r sin gerddoriaeth gyfoes dros y blynyddoedd. Cyn gyflwynydd ‘Hwyrach’ ar Radio Cymru Ian Gill, fydd yn cyflwyno’r gyfres.

Ymysg y cyfranwyr bydd yr hanesydd cerddoriaeth Hefin Wyn, cerddorion amrywiol gan gynnwys Dafydd Iwan, Caryl Parry Jones, Geraint Løvgreen a Dyl Mei, ynghyd â hyrwyddwr fel Rhys Mwyn ac Alun Llwyd.

Dyma ragflas o’r hyn sydd i ddod, a chyflwyniad i rai o’r cyhoeddiadau bydd y gyfres yn talu sylw iddyn nhw..

Cronicl cerdd

Page 19: Y Selar - Awst 2012

y-selar.co.uk 19

Roedd Sgrech yn llwyddiannus iawn, yn cael ei redeg yn fwy proffesiynol na’r cylchgronau oedd wedi bod o’i flaen gyda rhwydwaith eang o gyfranwyr a gwerthwyr ledled y wlad. Llwyddodd Sgrech i greu rhyw ddiwylliant o gwmpas y cylchgrawn hefyd, yn ôl un o gyfranwyr y gyfres, Dylan Iorwerth roedd yn “beth diwylliannol yn fwy na pheth cerddoriaeth go iawn, ond yn cyd-fynd a’r cynnwrf a’r holl drefnu cyngherddau a dawnsfeydd ar y pryd ”.

Er hyn, mae Sgrech yn gylchgrawn sy’n hollti barn ac yn cythruddo llawer hyd heddiw oherwydd elfennau gwleidyddol oedd yn perthyn iddo. Roedd y bobl tu ôl i Sgrech yn aelodau blaenllaw o fudiad Adfer, oedd yn awyddus i hyrwyddo’r ‘Fro Gymraeg’, ac yn gwrthwynebu pethau oedd y tu hwnt i’r Fro honno.

Mae llawer o artistiaid y cyfnod, gan gynnwys Caryl Parry Jones, yn credu bod Sgrech wedi rhoi beirniadaeth annheg iddynt gan eu bod yn byw yng Nghaerdydd ac yn gweithio yn y cyfryngau. Cawn weld beth fydd ymateb cyfranwyr y gyfres i’r feirniadaeth yma.

LlmychAr ôl Sgrech, roedd bwlch am rai blynyddoedd lle na chafwyd cylchgrawn cerddoriaeth ‘swyddogol’ yn y Gymraeg. Er hynny, fe lanwyd y bwlch hwnnw gan nifer o ffansins oedd yn barod iawn i fynegi barn am gerddoriaeth, gwleidyddiaeth, ac unrhyw beth arall oedd yn mynd â bryd y rhai oedd yn gyfrifol amdanynt.

Gwelwyd dim ond rhifyn neu ddau o ffansins fel Llygredd Moesol a Dracht, ond roedd eraill yn fwy hirhoedlog. Un o’r amlycaf oedd Llmych, oedd yn cael ei gynhyrchu gan griw o gell Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn Nyffryn Conwy a Chlwyd.

Yr hyn oedd yn fwyaf diddorol am Llmych oedd y ffaith ei fod yn newid ei enw gyda phob rhifyn, ond gan ddefnyddio’r un llythrennau mewn trefn wahanol.

Yn ôl Rhys Mwyn gellir dweud bod Llmych wedi chwarae rhan yn nyfodiad cŵl Cymru, “petai Llmych heb roi sylw i’r Cyrff, gallet ti fod wedi colli y prif ‘sgwennwr yn Catatonia.”

Tacsi, ffansins a’r SelarBydd y gyfres hefyd yn talu sylw i’r

cyhoeddiadau sydd wedi ymddangos ers troad y Mileniwm. Mae rhain yn cynnwys

cylchgrawn Tacsi, ffansins fel Ffwdanu, Viva Sparky a Crafu Byw ac wrth gwrs cylchgrawn gwych Y Selar!

Byddwn hefyd yn gofyn beth yw dyfodol y cylchgrawn print am

gerddoriaeth wrth i’r byd technegol cyffrous ddatblygu.

SothachAr ôl cyfnod y ffansins, daeth cylchgrawn mwy ffurfiol gan gwmni Cytgord o Fethesda. Roedd Llŷr Edwards eisoes wedi cyhoeddi rhai rhifynnau cyn i Cytgord dynnu’r cylchgrawn i mewn i’w gweithgarwch hwy.

Rhwng 1988 a 1996 cyhoeddwyd 85 o rifynnau o’r cylchgrawn, a gan fod Cytgord yn gwneud gwaith ymchwil am y sin roc i brosiectau eraill fel teletestun ‘Y Sgrin Roc’ ar S4C, roedden nhw’n gyson mewn cysylltiad â cherddorion Cymru ar y pryd.

Yn ôl Dafydd Rhys, un o sylfaenwyr Cytgord roedd yna alw am y cylchgrawn - “roedd yna’n bendant fwlch, roedd ‘na lawer mwy o fandiau, llawer iawn o fwrlwm ac roedd ‘na angen mawr i’w adlewyrchu o.”

Bydd Cronicl Cerdd yn cael ei ddarlledu

dros dair wythnos Radio Cymru gyda’r rhaglen gyntaf ar nos Fercher

15 Awst.

Page 20: Y Selar - Awst 2012

y-selar.co.uk20

Am ryw reswm dwi’n cael trafferth dechrau ysgrifennu’r adolygiad hwn, ac ar ôl stwnna am dipyn a gwneud dwn i ddim sawl paned o de, dwi’n meddwl ’mod i wedi sylweddoli pam. Mae yna rywbeth am Tecwyn Ifan; ei lais, ei eiriau a’i ysbryd, sydd yn anodd rhoi bys arno. Rhywbeth sy’n anodd ei ddisgrifio a’i ddiffinio gyda gair a gair, ond mae’r rhywbeth hwnnw yn hawdd iawn i’w deimlo wrth wrando ar Y Dref Wen.

Ers rhyddhau Y Dref Wen ar label Sain ddiwedd y saithdegau mae Tecwyn Ifan, yn dawel wylaidd a diymhongar, wedi naddu lle ac wedi perthyn yn annatod i dirwedd, calon a chân Cymry Cymraeg y genedl. Gyda chaneuon fel ‘Angel’, ‘Y Dref Wen’ a ‘Dychwelwn’, gan beidio cilio am eiliad rhag y pynciau mawr - cenedlaetholdeb, gobaith, cariad, ffydd a cholled, dwi’n meddwl mai saff yw dweud bod llais gwerin melfedaidd Tecwyn Ifan wedi siarad ar ran y genedl ers dros ddeg mlynedd ar hugain bellach. Roedd hi felly’n hwyr glas rhyddhau casgliad o gatalog cerddorol cyflawn y dyn ei hun.

Ydyn, dwi’n cyfaddef bod casgliadau fel hyn yn tueddu i greu tolc bach mewn waled, ond wir yr, dwi’n meddwl ei bod hi’n bwysig nodi bod y casgliad yma yn anhygoel o resymol. Pump cryno ddisg; naw albwm; cant a saith o ganeuon; y cwbl am ugain punt! Ac mae dogn da o’r teimlad hwnnw yr oeddwn i’n sôn amdano’n gynharach rhwng cloriau’r casgliad arbennig hwn hefyd ac mae hwnnw’n rhywbeth na allwch roi pris arno.

Cyffrous oedd clywed saith cân newydd yn cael eu cynnwys yn y casgliad hefyd. Mae yma amrywiaeth o fewn y saith – cân draddodiadol yw ‘Dy Garu Di Sydd Raid’, ond doeddwn i ddim wedi cysidro hynny tan imi ddarllen y llyfryn. A dyna rywbeth sy’n nodweddiadol am waith y boi chwedlonol a elwir Tecwyn Ifan; mae’n llwyddo i gyfansoddi caneuon sy’n oesol, yn hen fel aur ond yn feiddgar eu neges ar yr un pryd.

Geiriau’r diweddar Iwan Llwyd yw ‘Y

Groesffordd’, cân sy’n darlunio’r olygfa ac yn creu’r awyrgylch yn y loddest enfawr a fu yng Nghatraeth cyn i’r gwŷr fynd i ymladd. Mae rhywbeth yn chwerw-felys am y gân hon o wybod hynny ac mae’n braf ei bod wedi ei chynnwys yn y casgliad.

Mae ‘Ar Doriad Gwawr’ wedyn yn rhoi i ni hanes diwedd yr hen gymdeithas a hynny trwy ddefnydd o ddelweddau hynod drawiadol, fel cwch yr hen bysgotwr dal yn sownd wrth y cei ar doriad gwawr, pan yr arfer fod allan yn nŵr y bae. Mae ‘Ar Doriad Gwawr’ yn amlygu dawn ddihafal Tecwyn Ifan i blethu tristwch ysgytwol yn gelfyddyd gudd i alaw ysgafn. Dyma’r hen law ar ei orau.

Ac i gloi mae’n rhaid i mi sôn am ‘Gwrthod Bod yn Blant Bach Da’. Yma mae Tecwyn yn canu geiriau’r Prifardd Myrddin ap Dafydd, cân sy’n cofnodi sefydlu Cymdeithas yr Iaith hanner canrif yn ôl i eleni. A minnau newydd fwynhau penwythnos Hanner Cant ym Mhontrhydfendigaid i ddathlu’r union beth hynny, mae’n rhaid i mi gyfaddef fod fy enaid i’n cyffroi wrth wrando ar hôn. Yn ystod y penwythnos fe deimlais wefr wrth wrando ar Tecwyn Ifan yn canu ‘Y Dref Wen’, a throeon wedyn wrth glywed y Gymraeg o fy nghwmpas ym mhobman. Pwy â ŵyr, efallai mai yn y mwstas ’na mae’r majic. Prynwch y casgliad gwerthfawr hwn i fwynhau oriau o’r hud hwnnw.

9/10 Casia Wiliam

adolygiadau

Llwybrau Gwyn (Y casgliad llawn gyda 7 cân newydd) – Tecwyn Ifan

Yn dilyn yr ymateb anhygoel gafodd albwm ddiwethaf Cowbois Rhos Botwnnog, mae’n deg dweud fy mod i ychydig yn betrusgar cyn gwrando ar drydedd record y band o Ben Llŷn.Ond o nodyn gyntaf y gitâr ar ‘Glaw’ at ddrôn olaf ‘Tawel yma Heno’, mae’r albwm yn gyfanwaith medrus o’r sŵn gwerinol/americana maen nhw’n adnabyddus amdano. Er ei bod hi’n ddilyniant o’r albwm ddiwethaf,

Draw Dros y MynyddCowbois Rhos Botwnnog

mae’r Cowbois wedi tyfu fyny ac mae’r aeddfedrwydd i’w weld mewn caneuon fel ‘Ceffylau ar D’rannau’ gyda’r synths yn ychwanegu dyfnder nad oedd ar Dyddiau Du, Dyddiau Gwyn.Nid bod y band wedi teithio’n bell o’i gwreiddiau gwerinol. Mae llais Branwen Williams o Siddi sy’n canu’r hen gân werin, ‘Deio Bach’, yn ategu’r geiriau torcalonnus ac fe alla’i ‘Mastiau Hen Longau’ fod yn gân gafodd ei hysgrifennu ganrifoedd yn ôl.Fel cyfanwaith, mae hi’n gam ymlaen i Cowbois Rhos Botwnnog. Y cwestiwn ydi, lle fyddan nhw’n mynd nesa?

9/10Ciron Gruffydd

Ffydd Gobaith Cariad Fflur Dafydd

Dyma albwm arbennig iawn gan yr athrylith-wraig, Fflur Dafydd. Hoffwn ddweud fy mod wedi mwynhau gwrando ar yr albwm yn ei chyfanrwydd yn fawr iawn. Ac o’r eiliad y pwysais y botwm ‘chwarae’, daeth llif o ddylanwad i’m gwneud i wrando ymlaen, a dyna wnes i…

Mae’r albwm yn cynnwys traciau hamddenol â sylfaen wych tu ôl i bob un. Wrth wrando, deallais fod ôl meddwl gwych tu ôl i’r caneuon.

Ar ben hynny, mae’r traciau wedi’u trefnu’n wych a cheir y teimlad eu bod

y-selar.co.uk20

Page 21: Y Selar - Awst 2012

y-selar.co.uk 21adolygiadau

Yn dilyn blwyddyn brysur iawn, mae Sŵnami, o’r diwedd, wedi rhyddhau eu sengl gyntaf! Wedi blwyddyn o gigio brwd, dod i frig Brwydr y Bandiau Maes B Wrecsam a Brwydr y Bandiau Wakestock, yn ogystal ag ennill dwy wobr RAP nid yw eu sengl gyntaf swyddogol, Mynd a Dod, yn siomi.

Mae hi yr un mor anthemig â chaneuon blaenorol y band, ac mae natur ffres ac unigryw’r criw o ardal Dolgellau yn eich tynnu i’ch traed, ac mae’n amhosib peidio â chyd-ganu gyda’r geiriau. Mae dawn ryfeddol y band i gyfuno riffts gitâr bachog â llais swynol Ifan y prif ganwr yn dod i’r amlwg unwaith eto yn Mynd a Dod... ac wedi clywed y gân hon, sut allwch chi osgoi pendroni, beth sydd gan Sŵnami i’w gynnig i ni nesaf? Dwi’n weddol sicr nad fi yw’r unig un sy’n gobeithio am chwip o albwm yn y dyfodol!

9/10Miriam Jones

Mae amrywiaeth eang i gynnwys y caneuon ar yr albwm yma. Cawn ‘Ofn’ sydd yn gatharsis seicolegol, cân yn erfyn ar iâr i ddodwy yn ‘Plis Gai Wy’ a chaneuon llawn rhwystredigaeth a phrotest yn erbyn y system.

Mae’r sŵn yn gymysg o roc, gwerin a ska-dybllyd. Dywedodd rhywun wrtha’i bod Twmffat yn swnio’n union fel y band pync sipsi, Gogol Bodello. Roeddynt yn llygaid eu lle!

Dydych chi byth yn siŵr be’ ddigwyddith mewn gig byw Twmffat. Ym Methesda unwaith ddaru un o’r gynulleidfa gipio meic Ceri C a dechrau mwydro-bregethu yng nghanol cân, a dyna sut orffennodd y gig yn gynnar. Dyna un rheswm ei fod yn dda o beth fod y casgliad yma o ganeuon ar CD!

Albwm llawn caneuon bachog ond caneuon efo testun go iawn i gnoi cil arno hefyd. Mae’r albwm yn gyfanwaith sydd wedi llwyddo i gyfuno’r tywyll gyda gwiriondeb rhywsut.

Mae’r caneuon yn llawn angerdd ac yn hollol ‘boncyrs ond byth yn boring’! Yr unig beth negyddol y dywedwn i amdani ydi ei bod hi weithiau’n swnio fymryn yn anaeddfed a gwibiog, ond i ddweud y gwir fe wnes i fwynhau gwrando yn arw a dwi’n edrych ymlaen at glywed mwy!

8/10Heledd Williams

Dwi’n meddwl ei bod hi’n deg dweud fod Y Bandana wedi hollti’r farn gyhoeddus ers iddynt fyrstio ar y sin gwpl o flynyddoedd yn ôl bellach. Gewch chi geshio pa ochr i’r hollt hwnnw dwi’n sefyll ond mai’n saff dweud fy mod i wedi symud mymryn at yr ochr ar ôl gwrando ar y sengl yma sydd newydd gael ei rhyddhau yn ddigidol ar label Copa.

Achos mae ‘Heno yn yr Anglesey’ yn gân dipyn aeddfetach na’r rhai dwi wedi eu clywed gan y band o’r blaen.

Mae o wedi bod yn ddirgelwch imi erioed pam nad yw Dan Amor wedi cael mwy o sylw achos dwi wirioneddol yn meddwl mai fo ydi un o’r canwyr-gyfansoddwyr hawsaf i wrando arno yn y sin.

Ta waeth, fel yr awgryma’r teitl, cân Saesneg yw prif drac ei sengl newydd, ‘Lakeside’ (cân wych gyda llaw ond yma i sôn am y gweddill ydw i). Fe fydd rhai ohonoch yn gyfarwydd â’r gân, ‘Yr Anhaeddiannol’ o albwm ddiwethaf Dan Amor, Neigwl. Os ydych chi, fe fyddwch yn gwybod ei bod yn blethiad hyfryd o ganu a strymio di ymdrech. Ond fel bonws ar y sengl hon fe gewch chi ddwy fersiwn o’r gân wedi ei hail gymysgu.

Mae yma un trac newydd sbon hefyd sef ‘Mehefin’. A’r cwbl ’da chi angen ei wybod am hon ydi ei bod hi gan mil gwaith brafiach peth na’r Mehefin gawsom ni eleni.

8/10Gwilym Dwyfor

Mynd a DodSwnami

Di Fama’n Madda i NebTwmffat

Heno yn yr Anglesey / GeibanY Bandana

LakesideDan Amor

yn suddo mewn i’w gilydd i wneud un campwaith mawr.Casgliad aeddfed iawn yn wir, ond mae rhai caneuon yn aros yn y cof, yn enwedig ei theyrnged i’r arwr, Ray Gravell. Felly, chwilio am ’wbeth sydd ddim yn rhwygo eich clustiau? Ydych chi eisiau profi gwir ystyr y gair ‘hamddenol’? Wel, os hynny, dyma’r albwm ichi! O ‘Rhoces’ i ‘Rachel Myra’, dyma albwm llawn gwychtineb - Ardderchog!

8/10Ifan Edwards

Yn aeddfetach o ran y gerddoriaeth ac yn sicr felly o ran y geiriau. Dim cân am Sali Mali na rhyw Mr Pei ydi hon ond cân serch bach ddigon annwyl deu’ gwir.

Mae’r ail drac, ‘Geiban’ yn debycach i stwff blaenorol y band felly mi anwybyddwn ni’r b-side dwi’n meddwl. Wedi dweud hynny, peidiwch â synnu os welwch chi fi rhyw ben yr haf yma (yn geiban) yn dawnsio i gyfeiliant honno hefyd!

6/10Gwilym Dwyfor

y-selar.co.uk 21

Page 22: Y Selar - Awst 2012

Unwaith eto mae’r Selar wedi bod yn

cadw golwg ar y perlau cerddorol

Cymraeg sy’n cyfnewid dwylo ar wefan

prynu a gwerthu eBay. Dyma’r rai

ddaliodd ein sylw yn ddiweddar.

Y Blew - Maes BPris Gwerthu - £271.66 (2 gynnig)

Disgrifiad Gwerthwr: Qualiton Records QSP 7001. 2 drac, 1 disg, stereo finyl 7 modfedd, 45rpm. Blwyddyn rhyddhau - 1967.Cyflwr clawr: Da, hollt ar yr ymyl gwaelod, nifer o grychiadau. Cyflwr

label: Gwych. Cyflwr finyl: Ochr 1 - Da iawn+ Ochr 2: GwychGwerthodd y diwethaf o’r rhain i ymddangos ar eBay yn 2011 am £500 - peidiwch colli hwn. Barn Y Selar: Record eiconig, yn unig sengl y grŵp ‘roc’ Cymraeg cyntaf un. Gwnaeth Y Blew un daith a rhyddhau un record, gan chwalu lai na blwyddyn ar ôl ffurfio. Efallai’r record brinnaf yn y Gymraeg - anaml iawn y gwelir hon ar werth a dim syndod felly bod y pris mor uchel.

Sidan - Teulu Yncl SamPris Gwerthu - £52.57 (14 cynnig)

Disgrifiad Gwerthwr: LP gwerin/roc psych ar label Sain 1975. Record chwedlonol ac anodd iawn i’w ffeindio gan y grŵp o 5 merch gan gynnwys y rhyfeddol Caryl Parry Jones. Mae ar label pinc gwreiddiol a chwedlonol

label Sain 1017M o 1975. Mae’r clawr yn dda iawn, a’r record yn chwarae’n wych gyda rhai “eiliadau da iawn”Barn Y Selar: Er mai ifanc oedd Caryl a’i ffrindiau pan oedden nhw’n perfformio fel Sidan, roedd eu caneuon yn hynod o aeddfed ac yn reit arloesol yn y Gymraeg. Mae’r record yma’n cynnwys y glasur ‘Dwi ddim isho’, a’r tiwns ffynci ‘Ar Goll’ a ‘Di Enw’. Un o’r recordiau gorau’r cyfnod.

Datblygu: Hwgr Grawth OgPris Gwerthu: £9.48 (5 cynnig)

Disgrifiad Gwerthwr: EP 7” ryddhawyd ym 1986 ar Recordiau AnhrefnTraciau - Braidd, Casserole Efeilliaid, Firws i Frecwast, Mynd. Yn cynnwys

dalen eiriau caneuon wreiddiol Barn Y Selar: Dyma EP a recordiwyd yn stiwdio Foel, Llanfair Caereinion, a’r record finyl cyntaf i Datblygu ei ryddhau wedi cyfres o gasetiau. Mae’n debyg mai ar ôl clywed hon y gwahoddwyd Datblygu i wneud sesiwn Radio 1 i John Peel am y tro cyntaf. Bargen am y pris - record arloesol ac anaml y gwelir hon ar werth mewn cyflwr da.

Amlgyfrannog - Croeso ‘99Pris Gwerthu - £4.99 (2 gynnig)

Disgrifiad Gwerthwr: Casgliad Indî Iaith Gymraeg ar Recordiau Ankst (ANKSTMUSIK 089) 1999. Clawr cerdyn. Casgliad yn cynnwys bandiau indî: Datblygu, Rheinallt H. Rowlands, Infinity Chimps, Tystion, Ectogram,

Llwybr Llaethog a Da Da. Barn Y Selar: Dyma chi eitem fach ddiddorol. Cafodd hwn ei gyhoeddi a’i ddosbarthu am ddim yn ystod Gigs Cymdeithas yr Iaith yn Maes-B, Steddfod Llangefni 1999. Roedd rhain ar lawr dros y maes gwersylla ar fore dydd Sul ola’r Steddfod - os fu rhywun yn eu casglu mae cyfle iddyn nhw wneud ffortiwn!

Eirin Peryglus - Bronson/Y Dyn NewyddPris Gwerthu - £17.02 (8 cynnig)

Disgrifiad Gwerthwr: 7” Synthpop Cymraeg. Pop indî/synth swigoglyd o 1987. Mae’n eithaf prin yn ôl pob golwg. Cyflwr finyl - gwych, y clawr yn dda iawn+

Mae hwn yn rhan o gasgliad pync/ton newydd/synth/senglau obsgiwâr y byddaf yn cynnig dros y misoedd nesaf. Os nad ydach chi wedi clywed amdano fo, byddai siŵr o fod yn ei werthu!Barn Y Selar: Grŵp pop electronig oedd wrthi ar ddiwedd yr 80au a dechrau’r 90au oedd Eirin Peryglus. Un o’r aelodau oedd Fiona Owen, sef gwraig y cynhyrchydd gwych Gorwel Owen - Gorwel gynhyrchodd stwff Eirin Peryglus. Dyma record gyntaf y grŵp, ac mae’n werth yr £17 i’r prynwr!

y-selar.co.uk22

Page 23: Y Selar - Awst 2012

CD newydd :Fflur Dafydd Ffydd, Gobaith, Cariad £9.99

Sengl ddigidol newydd :Swnami Mynd a dod / Eira

Sengl ddigidol newydd :Y Bandana Heno yn yr Anglesey / Geiban

POST YN RHAD AC AM DDIM WRTH ARCHEBU DRWY www.sainwales.com

Sêl ar ôl gatalog Rasal•Gwymon•copa

Hwre! Hwre! Mae’r teitlau canlynol ar gynnig arbennigbacHwcH fargen!

£4.99 £4.99 £4.99 £4.99

£2.50 £1.50 £4.99 £1.50

£2.99 £2.99 £2.99 £1.50

www.sainwales.comffôn 01286 831.111 ffacs 01286 [email protected]

2.indd 1 19/07/2012 15:42

Page 24: Y Selar - Awst 2012

Creu, Cynhyrchu a Pherfformio Cerddoriaeth

Am fwy o fanylion ewch ar leinwww.ydds.ac.uk 0300 500 1822

BA CerddoriaethBA Cyfryngau CreadigolBA Perfformio

Creu, Cynhyrchu a Pherfformio Cerddoriaeth

• Cyfle i ddatblygu eichcreadigrwydd a'chcyflogadwyedd o fewny diwydiant cerddorola meysydd perthnasol

• Cyfle i gael cefnogaethariannol i'chastudiaethau, gangynnwys Ysgoloriaetham astudio trwygyfrwng y Gymraeg

• Cyfleon gwych ibontio rhwngmeysydd astudiaeth adoniau Ysgol yCelfyddydauPerfformio

• Lleoedd ar gael argyfer 2012 a 2013

• Addysgir y cyrsiau hynar ein campws yngNghaerfyrddin

Y Selar cerdd a perfformio_Layout 1 16/07/2012 11:11 Page 1