taith gerdded bae caerdydd - bbcdownloads.bbc.co.uk/cymru/cerdded/bae_caerdydd.pdfyma oedd ei lle...

3
Ymwadiad - Awgrymir eich bod yn dilyn y cyfarwyddiadau ar y wefan hon gan gadw at y ffyrdd a nodir yn unig. Dylid cerdded y teithiau mewn cwmni ac yng ngolau dydd, gan wisgo esgidiau addas. Nid yw’r BBC yn gyfrifol am iechyd a diogelwch y rhai sy’n ymgymryd â’r teithiau hyn. 1 bbc.co.uk/cerdded Teithiau cerdded Canolfan y Mileniwm Ca Ca Ca Ca C a 2 3 Cei y Fairforwyn Stryd James Stryd Stuart Stryd Biwt A4232 A470 A4119 S g w â r M o u n t S tu art Gorsaf Reilffordd Bae Caerdydd 1 5 4 6 7 Bae Caerdydd Mae hon yn daith o gwmpas Bae Caerdydd a lleoliadau ffilmio niferus cyfresi Doctor Who a Torchwood, yn ogystal ag adeiladau hynod Canolfan y Mileniwm a’r Senedd. Mae sawl maes parcio talu ac arddangos tocyn ym Mae Caerdydd, dilynwch yr arwyddion ar ôl cyrraedd y Bae. Gyda’r nos mae hefyd modd parcio am ddim yn Sgwâr Mount Stuart heb gyfyngiad amser. 1. Sgwâr Mount Stuart ac adeilad y Coal Exchange Mae’r daith yn cychwyn ar Sgwâr Mount Stuart (tu allan i City Canteen & bar.) Ar y sgwâr hwn y ffilmiwyd rhaglenni Doctor Who ‘Rise of the Cybermen’ (cyfres 2 pennod 5) ac ‘Age of Steel’ (cyfres 2 pennod 6.) Cerddwch syth ymlaen i lawr gydag ochr City Canteen & bar (bydd y dafarn ar y chwith.) Ar y dde mae adeilad mawr y Coal Exchange. Trowch i’r dde i fynd at flaen y Coal Exchange. Ffilmiwyd ‘Planet of the Dead’ (un o benodau arbennig Doctor Who) yma. Tu mewn i’r adeilad hwn hefyd ffilmiwyd ‘Voyage of the Damned’ un o’r rhaglenni Nadolig arbennig, gyda Kylie Minogue yn serennu. Ewch yn ôl yr un ffordd a throwch i’r dde tuag at y brif ffordd (James Street.) Trowch i’r chwith a cherddwch at Ganolfan y Mileniwm (fe welwch yr adeilad o’ch blaen.) Croeswch wrth y goleuadau traffig a chariwch ymlaen at Ganolfan y Mileniwm. © Hawlfraint a hawliau cronfa ddata’r Goron 2009. Cedwir pob hawl. Rhif Trwydded yr Arolwg Ordnans 100019855 Opsiwn A Opsiwn B

Upload: others

Post on 03-Jul-2020

3 views

Category:

Documents


0 download

TRANSCRIPT

Page 1: Taith gerdded Bae Caerdydd - BBCdownloads.bbc.co.uk/cymru/cerdded/bae_caerdydd.pdfYma oedd ei lle gwaith, HC Clements ac yma y cyfarfu â’i dyweddi Lance. Ymwadiad - Awgrymir eich

Ymwadiad - Awgrymir eich bod yn dilyn y cyfarwyddiadau ar y wefan hon gan gadw at y ffyrdd a nodir yn unig. Dylid cerdded y teithiau mewn cwmni ac yng ngolau dydd, gan wisgo esgidiau addas. Nid yw’r BBC yn gyfrifol am iechyd a diogelwch y rhai sy’n ymgymryd â’r teithiau hyn.

1bbc.co.uk/cerdded

Teithiau cerdded

Canolfan yMileniwmCaCaCaCaCCa2

3

Cei y Fairforwyn

Stryd James

Stryd Stuart

Stryd Biwt

A4232

A470

A4119

Sgw

âr M

ount

Stuart

Gorsaf ReilfforddBae Caerdydd

1

546

7

Bae Caerdydd

Mae hon yn daith o gwmpas Bae Caerdydd a lleoliadau ffilmio niferus cyfresi Doctor Who a Torchwood, yn ogystal ag adeiladau hynod Canolfan y Mileniwm a’r Senedd.

Mae sawl maes parcio talu ac arddangos tocyn ym Mae Caerdydd, dilynwch yr arwyddion ar ôl cyrraedd y Bae. Gyda’r nos mae hefyd modd parcio am ddim yn Sgwâr Mount Stuart heb gyfyngiad amser.

1. Sgwâr Mount Stuart ac adeilad y Coal Exchange

Mae’r daith yn cychwyn ar Sgwâr Mount Stuart (tu allan i City Canteen & bar.)

Ar y sgwâr hwn y ffilmiwyd rhaglenni Doctor Who ‘Rise of the Cybermen’ (cyfres 2 pennod 5) ac ‘Age of Steel’ (cyfres 2 pennod 6.)

Cerddwch syth ymlaen i lawr gydag ochr City Canteen & bar (bydd y dafarn ar y chwith.) Ar y dde mae adeilad mawr y Coal Exchange. Trowch i’r dde i fynd at flaen y Coal Exchange.

Ffilmiwyd ‘Planet of the Dead’ (un o benodau arbennig Doctor Who) yma. Tu mewn i’r adeilad hwn hefyd ffilmiwyd ‘Voyage of the Damned’ un o’r rhaglenni Nadolig arbennig, gyda Kylie Minogue yn serennu.

Ewch yn ôl yr un ffordd a throwch i’r dde tuag at y brif ffordd (James Street.) Trowch i’r chwith a cherddwch at Ganolfan y Mileniwm (fe welwch yr adeilad o’ch blaen.) Croeswch wrth y goleuadau traffig a chariwch ymlaen at Ganolfan y Mileniwm.

© Hawlfraint a hawliau cronfa ddata’r Goron 2009. Cedwir pob hawl. Rhif Trwydded yr Arolwg Ordnans 100019855

Opsiwn A

Opsiwn B

Page 2: Taith gerdded Bae Caerdydd - BBCdownloads.bbc.co.uk/cymru/cerdded/bae_caerdydd.pdfYma oedd ei lle gwaith, HC Clements ac yma y cyfarfu â’i dyweddi Lance. Ymwadiad - Awgrymir eich

Ymwadiad - Awgrymir eich bod yn dilyn y cyfarwyddiadau ar y wefan hon gan gadw at y ffyrdd a nodir yn unig. Dylid cerdded y teithiau mewn cwmni ac yng ngolau dydd, gan wisgo esgidiau addas. Nid yw’r BBC yn gyfrifol am iechyd a diogelwch y rhai sy’n ymgymryd â’r teithiau hyn.

2bbc.co.uk/cerdded

Teithiau cerdded2. Canolfan Mileniwm Cymru

Agorodd y Ganolfan gelfyddydol ei drysau yn 2004. Yma ffilmiwyd y bennod ‘New Earth’ (cyfres 2 pennod 1) o Doctor Who, pan drawsnewidiwyd y cyntedd a’r llawr gwaelod yn ysbyty i estronwyr. Gallwch fynd i mewn i’r cyntedd, i’r tai bwyta a siop y Ganolfan - am fanylion oriau agor ewch i wefan Canolfan y Mileniwm.

Yn ogystal â llwyfannu cynyrchiadau o bob math yn Theatr Donald Gordon, mae’r ganolfan yn gartref i Gwmni Opera Cenedlaethol Cymru, Cerddorfa BBC Cymru, yr Academi, Urdd a sefydliadau eraill.

3. Plass Roald Dahl

Tu allan i’r Ganolfan mae Plass Roald Dahl (wedi ei enwi ar ôl yr awdur llyfrau plant Roald Dahl, cafodd ei eni yng Nghaerdydd.) Mae’r gwagle hwn wedi ei ddefnyddio droeon mewn golygfeydd o Doctor Who a Torchwood. Un o’r penodau o Doctor Who a ffilmiwyd yma ydy ‘Boom Town’ (cyfres 1 pennod 11). Hefyd mae sawl un o benodau Torchwood wedi eu ffilmio yma gan gynnwys, ‘End of Days’ (cyfres 1 y bennod olaf) ac ‘A Day in the Death’ (cyfres 2 pennod 8)

Mae’r tŵr dŵr y tu allan i Ganolfan y Mileniwm yn bwysig yng nghyfresi Torchwood, o dan y tŵr dŵr hwn y mae eu pencadlys. Edrychwch allan am y lechen ar y llawr sy’n mynd i lawr at y pencadlys!

Cerddwch tuag at y Senedd (ewch i’r chwith rhwng Canolfan y Mileniwn ac adeilad coch y Pierhead.)

4. Adeilad y Senedd

Cyrhaeddwch adeilad y Senedd a agorodd ei ddrysau yn 2006. Yn Neuadd y Senedd y ffilmiwyd ‘The Lazarus Experiment’ (Doctor Who cyfres 3 pennod 6.) Mae sawl rhaglen wedi eu ffilmio y tu allan i’r adeilad hwn hefyd.

Mwy am yr adeilad a thaith ryngweithiol o’r Senedd yma - bbc.co.uk/cymru/deddwyrain/safle/cynulliad/

Mae’r Senedd ar agor i’r cyhoedd bob dydd – manylion ar eu gwefan www.cynulliadcymru.org/index

Y tu allan i’r Senedd gyda’ch cefn at yr adeilad ewch i’r chwith a gwelwch adeilad llwyd Atradius.

5. Atradius

Dyma lle ffilmiwyd ‘The Runaway Bride’, rhaglen arbennig y Nadolig o Doctor Who gyda Catherine Tate. Yma oedd ei lle gwaith, HC Clements ac yma y cyfarfu â’i dyweddi Lance.

Page 3: Taith gerdded Bae Caerdydd - BBCdownloads.bbc.co.uk/cymru/cerdded/bae_caerdydd.pdfYma oedd ei lle gwaith, HC Clements ac yma y cyfarfu â’i dyweddi Lance. Ymwadiad - Awgrymir eich

Ymwadiad - Awgrymir eich bod yn dilyn y cyfarwyddiadau ar y wefan hon gan gadw at y ffyrdd a nodir yn unig. Dylid cerdded y teithiau mewn cwmni ac yng ngolau dydd, gan wisgo esgidiau addas. Nid yw’r BBC yn gyfrifol am iechyd a diogelwch y rhai sy’n ymgymryd â’r teithiau hyn.

3bbc.co.uk/cerdded

Teithiau cerddedEwch ymlaen at dafarn y Waterguard (yr un sy’n edrych fel castell) defnyddiwyd y lleoliad hwn ym mhennod ‘The Runaway Bride’ hefyd.

Ar hyd y cei ewch at yr Eglwys Norwyeg. O’r fan yma gallwch oedi i edrych ar yr olygfa ar draws y Bae, yn ôl at adeiladau seneddol a chelfyddydol Bae Caerdydd, y gwestai a thai bwyta a dros y dŵr at dref Penarth.

Ewch yn ôl yr un ffordd at adeilad y Senedd, ac ewch heibio adeilad coch y Pierhead. Ewch dros y bont (Plass Roald Dahl i’r dde) ac ymlaen at dai bwyta Cei y Fairforwyn (Mermaid Quay.)

6. Cei y Fairforwyn (Mermaid Quay)

Mae llawer o olygfeydd o Torchwood a Doctor Who wedi eu ffilmio yma. Ydych chi’n gallu adnabod rhai o’r golygfeydd? Ffilmiwyd ‘Boom Town’ (cyfres 1 pennod 11) yn nhai bwyta Bellinis a Bosphorous, ‘Out of Town’ (Torchwood cyfres 1 pennod 10) yn Pearl of the Orient a ‘New Earth’ (Doctor Who cyfres 2, pennod 1)

Ar y platfform pren o dan dafarn y Terra Nova mae’r drws i fynd i mewn i bencadlys Torchwood hefyd.

Opsiwn AWrth gyrraedd y dafarn Salt gallwch droi i’r dde yma (heibio i Gourmet Burger Kitchen ar y dde a chlwb comedi Glee ar y chwith) yn ôl at James Street ac i Sgwâr Mount Stuart lle cychwynnwyd y daith.

Opsiwn B

Ymlaen at Warchodfa Gwlypdiroedd bae Caerdydd.

7. Gwarchodfa Gwlypdiroedd bae Caerdydd

Ewch i’r chwith ar hyd y Cei, heibio i dafarn y Terra Nova (ar y dde). Ewch dros y bont a heibio i amgueddfa Techniquest ar y dde. Dilynwch yr arwyddion at y warchodfa. Byddwch yn mynd heibio i Westy Dewi Sant a thrwy’r maes parcio at fynedfa’r Warchodfa.

Ewch yn ôl yr un ffordd i Gei y Fairforwyn (Mermaid Quay) ger tafarn y Terra Nova a dilynwch gyfarwyddiadau Opsiwn A uchod yn ôl i fan cychwyn y daith.

Nid ydyn wedi nodi pob golygfa sydd wedi eu ffilmio ym Mae Caerdydd ar y daith hon. Mae manylion pellach ar wefannau Doctor Who, bbc.co.uk/doctorwho, Torchwood, bbc.co.uk/torchwood, BBC Local South East Wales, bbc.co.uk/wales/southeast ac mewn mannau eraill ar y we.