se fydlwyd 1 867 cyfrol 152 rhif 49 rhagfyr 5 , 2019 50c ... · drwy hyn, roedd ganddo...

4
Y TYST PAPUR WYTHNOSOL YR ANNIBYNWYR CYMRAEG Sefydlwyd 1867 Cyfrol 152 Rhif 49 Rhagfyr 5, 2019 50c. Llawenydd yn Wrecsam Adroddiad o wasanaeth sefydlu’r Parch. Aled Lewis Evans yn weinidog ar Gapel y Groes ac Ebeneser yn Wrecsam a chapel St John Street yng Nghaer. Cynhaliwyd y gwasanaeth o dan arweiniad y Parchedig Eirlys Gruffydd Evans, Llywydd Henaduriaeth y Gogledd Ddwyrain yng Nghapel y Groes Ebeneser, Wrecsam ar brynhawn Sadwrn Tachwedd 16eg. Hyfrydwch o’r mwyaf oedd gweld cynrychiolaeth o’r tair eglwys yn y gynulleidfa ac yn cymryd rhan. Cyfranwyr Yn dilyn emyn o anogaeth i’r Eglwys a ledwyd gan Betty Morris Capel St John Street, Caer, darllenwyd am natur cariad Duw o’r Llythyr at y Rhufeiniaid pennod 8 gan Gareth R. Williams, Capel y Groes. Offrymodd y Parch. R. W. Jones y weddi gyntaf ac yna fe ledodd Elinor Jones, diacon yn eglwys Ebeneser yr emyn, ‘Na foed cydweithwyr Duw byth yn eu gwaith yn drist.’ Fe dystiodd y Parch. John Williams i reoleidd-dra’r alwad, ac fe holodd y Llywydd Aled cyn y Sefydlu ffurfiol ei hun. Gweddi a siars Daeth Marian Lloyd Jones i offrymu gweddi dros y gweinidog ac yna cyflwynwyd y trydydd emyn gan weithiwr ieuenctid yr ofalaeth sef Siwan Jones. Cyflwynwyd y siars i’r Eglwysi gan y Parch. Pryderi Llwyd Jones, Cricieth. Ef a fu yn weinidog ar Aled yn ei arddegau a’i gyfnod yn y coleg a bu’n ddylanwad allweddol arno. Tra’r oedd Pryderi yn Wrecsam datblygodd cyd-weithio naturiol rhwng Capel y Groes ac Ebeneser. Roedd yn genadwri i’n hannog ni i gyd, ac yn ysbrydoliaeth i Aled. Yna cafwyd gweddi ar ran eglwysi'r ofalaeth gan y Parch. Huw Powell Davies o’r Wyddgrug. Y Llywydd a gyflwynodd yr emyn olaf sef, ‘Arglwydd Iesu, llanw d’Eglwys / Â’th Lân Ysbryd Di dy hun,’ a’r Fendith. Dymuna Aled ddiolch yn fawr iawn i bawb a wnaeth ei sefydlu yn weinidog ar Gapel y Groes, Ebeneser a St John Street, Caer, yn brofiad i’w gofio iddo. Diolch i Wyn Jones o Gaer am dynnu lluniau yn ystod y seremoni ei hun. Yna, braf oedd i bawb ymlacio dros baned a thamaid o fwyd yn y festri. Diolch yn fawr iawn i bawb. Y Parchedigion Aled Lewis Evans ac Eirlys Gruffydd Evans. Y Parchedigion Pryderi Llwyd ac Aled Lewis Evans. Cynhaliodd Cymdeithas Hanes yr Annibynwyr noson hynod ddifyr yng nghwmni’r hanesydd Gareth Williams yng Nghapel y Groes, Wrecsam. Rhoddodd Gareth ddarlith yn ymdrin â chysylltiadau clos Morgan Llwyd â thref Wrecsam. Dyma flas o’r cynnwys. Daeth Morgan Llwyd i Wrecsam o Gynfal, Maentwrog, yn 1635 yn hogyn 15 oed. Cafodd ei ddanfon gan ei fam, Mari Wyn, i fod yn ddisgybl yn yr ysgol ramadeg yno, yr un ysgol ag y bu’r arweinydd milwrol a’r gwleidydd, John Jones, Maes-y-garnedd – un o’r rhai a fu’n gyfrifol am lofruddiaeth y Brenin Siarl I – yn ddisgybl rhai blynyddoedd yn gynt. Hyd yn hyn roedd Morgan Llwyd wedi derbyn addysg gan berthynas agos sef Huw Llwyd, a hefyd gan ei fam, a’i drwytho yn yr iaith Gymraeg a’i diwylliant. Drwy hyn, roedd ganddo ymwybyddiaeth glir o ffydd gref ei fam. Ysgytwol Yn Wrecsam bu’n astudio Saesneg, Lladin, Clasuron a Rhethreg a bu’n canu yng nghôr yr eglwys. Yn ystod y gwasanaethau clywodd y Piwritan Walter Cradoc yn pregethu a chafodd hyn effaith ysgytwol ar yr hogyn nes iddo droi ei gefn ar grefydd ei dadau ac ymuno â’r Piwritaniaid. Pan fu’n rhaid i Cradoc adael y dref fe ddilynodd yr hogyn ifanc a threulio rhai blynyddoedd yn Llanfaches, lle priododd ag Ann Herbert. Rhyfel Cartref Pan dorrodd y Rhyfel Cartref allan ymunodd Morgan Llwyd â byddin y Senedd fel milwr a phregethwr gan deithio hyd a lled Lloegr a Chymru. Yn ystod y cyfnod hwn cyfarfu â llawer o arweinwyr y Piwritaniaid a chael cyfle i drafod eu syniadau a’u credoau’n helaeth. Erbyn 1647, roedd yn ddyn gwahanol iawn mewn nifer o ffyrdd i’r hogyn a adawodd Wrecsam yn 1639. Ymgartrefodd unwaith eto yn Wrecsam, ym Mryn-y-ffynnon, tŷ oedd eiddo i John Jones a bu’n diwtor i fab I Wrecsam decaf: Morgan Llwyd a Wrecsam Gareth Vaughan Williams, Wrecsam Llywydd y noson, Joan Thomas, Caerfyrddin parhad ar dudalen 2 Cynfal Fawr

Upload: others

Post on 04-Oct-2020

1 views

Category:

Documents


0 download

TRANSCRIPT

Page 1: Se fydlwyd 1 867 Cyfrol 152 Rhif 49 Rhagfyr 5 , 2019 50c ... · Drwy hyn, roedd ganddo ymwybyddiaeth glir o ffydd gref ei fam. Ysgytwol ... Sport Go Mag | Gweplyfr Ffynhonnell tudalen

Y TYSTPAPUR WYTHNOSOL YR ANNIBYNWYR CYMRAEG

Sefydlwyd 1867 Cyfrol 152 Rhif 49 Rhagfyr 5, 2019 50c.

Llawenydd yn WrecsamAdroddiad o wasanaeth sefydlu’r Parch.Aled Lewis Evans yn weinidog ar Gapel yGroes ac Ebeneser yn Wrecsam a chapel StJohn Street yng Nghaer.Cynhaliwyd y gwasanaeth o dan arweiniady Parchedig Eirlys Gruffydd Evans,Llywydd Henaduriaeth y GogleddDdwyrain yng Nghapel y Groes Ebeneser,Wrecsam ar brynhawn Sadwrn Tachwedd16eg. Hyfrydwch o’r mwyaf oedd gweldcynrychiolaeth o’r tair eglwys yn ygynulleidfa ac yn cymryd rhan.

CyfranwyrYn dilyn emyn o anogaeth i’r Eglwys aledwyd gan Betty Morris Capel St JohnStreet, Caer, darllenwyd am natur cariadDuw o’r Llythyr at y Rhufeiniaid pennod 8gan Gareth R. Williams, Capel y Groes.Offrymodd y Parch. R. W. Jones y weddigyntaf ac yna fe ledodd Elinor Jones,diacon yn eglwys Ebeneser yr emyn, ‘Nafoed cydweithwyr Duw byth yn eu gwaithyn drist.’ Fe dystiodd y Parch. JohnWilliams i reoleidd-dra’r alwad, ac feholodd y Llywydd Aled cyn y Sefydluffurfiol ei hun.Gweddi a siarsDaeth Marian Lloyd Jones i offrymugweddi dros y gweinidog ac ynacyflwynwyd y trydydd emyn gan weithiwrieuenctid yr ofalaeth sef Siwan Jones.Cyflwynwyd y siars i’r Eglwysi gan yParch. Pryderi Llwyd Jones, Cricieth. Ef afu yn weinidog ar Aled yn ei arddegau a’igyfnod yn y coleg a bu’n ddylanwadallweddol arno. Tra’r oedd Pryderi ynWrecsam datblygodd cyd-weithio naturiolrhwng Capel y Groes ac Ebeneser. Roedd

yn genadwri i’n hannog ni i gyd, ac ynysbrydoliaeth i Aled. Yna cafwyd gweddiar ran eglwysi'r ofalaeth gan y Parch. HuwPowell Davies o’r Wyddgrug. Y Llywydd agyflwynodd yr emyn olaf sef, ‘ArglwyddIesu, llanw d’Eglwys / Â’th Lân Ysbryd Didy hun,’ a’r Fendith.

Dymuna Aled ddiolch yn fawr iawn ibawb a wnaeth ei sefydlu yn weinidog arGapel y Groes, Ebeneser a St John Street,Caer, yn brofiad i’w gofio iddo. Diolch iWyn Jones o Gaer am dynnu lluniau ynystod y seremoni ei hun. Yna, braf oedd ibawb ymlacio dros baned a thamaid ofwyd yn y festri. Diolch yn fawr iawn ibawb.

Y Parchedigion Aled Lewis Evans ac Eirlys Gruffydd Evans.

Y Parchedigion Pryderi Llwyd ac Aled Lewis Evans.

Cynhaliodd Cymdeithas Hanes yrAnnibynwyr noson hynod ddifyr yngnghwmni’r hanesydd Gareth Williams yngNghapel y Groes, Wrecsam. RhoddoddGareth ddarlith yn ymdrin â chysylltiadauclos Morgan Llwyd â thref Wrecsam. Dymaflas o’r cynnwys.

Daeth Morgan Llwyd i Wrecsam o Gynfal,Maentwrog, yn 1635 yn hogyn 15 oed.Cafodd ei ddanfon gan ei fam, Mari Wyn,

i fod yn ddisgybl yn yr ysgol ramadeg yno,yr un ysgol ag y bu’r arweinydd milwrola’r gwleidydd, John Jones, Maes-y-garnedd– un o’r rhai a fu’n gyfrifol amlofruddiaeth y Brenin Siarl I – yn ddisgyblrhai blynyddoedd yn gynt. Hyd yn hynroedd Morgan Llwyd wedi derbyn addysggan berthynas agos sef Huw Llwyd, ahefyd gan ei fam, a’i drwytho yn yr iaithGymraeg a’i diwylliant. Drwy hyn, roeddganddo ymwybyddiaeth glir o ffydd gref eifam. YsgytwolYn Wrecsam bu’n astudio Saesneg, Lladin,Clasuron a Rhethreg a bu’n canu yngnghôr yr eglwys. Yn ystod y gwasanaethauclywodd y Piwritan Walter Cradoc ynpregethu a chafodd hyn effaith ysgytwol aryr hogyn nes iddo droi ei gefn ar grefyddei dadau ac ymuno â’r Piwritaniaid. Panfu’n rhaid i Cradoc adael y dref feddilynodd yr hogyn ifanc a threulio rhaiblynyddoedd yn Llanfaches, lle priododdag Ann Herbert.

Rhyfel CartrefPan dorrodd y Rhyfel Cartref allanymunodd Morgan Llwyd â byddin ySenedd fel milwr a phregethwr gan deithiohyd a lled Lloegr a Chymru. Yn ystod ycyfnod hwn cyfarfu â llawer o arweinwyr yPiwritaniaid a chael cyfle i drafod eusyniadau a’u credoau’n helaeth. Erbyn1647, roedd yn ddyn gwahanol iawn mewnnifer o ffyrdd i’r hogyn a adawoddWrecsam yn 1639. Ymgartrefodd unwaitheto yn Wrecsam, ym Mryn-y-ffynnon, tŷoedd eiddo i John Jones a bu’n diwtor i fab

I Wrecsam decaf: Morgan Llwyd a Wrecsam

Gareth VaughanWilliams, Wrecsam

Llywydd y noson, JoanThomas, Caerfyrddin

parhad ar dudalen 2

Cynfal Fawr

Page 2: Se fydlwyd 1 867 Cyfrol 152 Rhif 49 Rhagfyr 5 , 2019 50c ... · Drwy hyn, roedd ganddo ymwybyddiaeth glir o ffydd gref ei fam. Ysgytwol ... Sport Go Mag | Gweplyfr Ffynhonnell tudalen

tudalen 2 Y Pedair Tudalen Gydenwadol Rhagfyr 5, 2019Y TYST

John Jones hefyd. Yn Wrecsam y bugydol gweddill ei oes nes iddo farw yn1659 a’i gladdu yn y dref. Cyflawnoddlawer iawn yn Wrecsam yn ystod ycyfnod hwn. Roedd yn fugail ar eglwysBiwritanaidd ymneilltuol ac yn amlwgyn fugail gweithgar, llwyddiannus acharedig. Roedd hefyd yn bregethwrgrymus yn Gymraeg a Saesneg.Deddf TaenuYn 1650 cafodd ei ethol yn un o’rprofwyr pan basiwyd Deddf Taenu’rEfengyl yng Nghymru ac wedyn yn1656 fe’i sefydlwyd yn weinidogeglwys y plwyf, sef Sant Silyn. O 1653ymlaen y cyflawnodd ei waith mawr,sef ei weithiau ysgrifenedig, cyfrolaumegis Llythyr i’r Cymry Cariadus aLlyfr y Tri Aderyn. Gwelai mai ei dasgfawr yng Nghymru oedd paratoi eigydwladwyr i dderbyn dyfodiad teyrnasCrist. Gwnaeth hyn drwy gynnalteithiau pregethu ac ysgrifennu. Ynystod ei gyfnod yn Wrecsam hefyd maeei syniadau yn datblygu yn enwedig ygred bod Duw i’w ganfod yng nghalonpob un.Cofgolofn RhosdduWedi marw, ychydig iawn o sylw agafodd Morgan Llwyd yn Wrecsam hydat yr ugeinfed ganrif pan aethpwyd atiyn 1905 i godi arian ar gyfer cofgolofniddo. Codwyd y golofn yn 1912 a’idadorchuddio gan Mrs Lloyd George.Ac yn 1919, er mwyn dathlu trichanmlwyddiant geni Morgan Llwydcafwyd seremoni ger y gofgolofn gydaMrs Lloyd George yn gosod torchwrthi. Mae’r cysylltiad rhwng MorganLlwyd a Wrecsam yn un mor glos fel ydylem ei adnabod mewn gwirionedd fel‘Morgan Llwyd o Wrecsam’.

I Wrecsam decaf:Morgan Llwyd a

Wrecsam – parhad

Siyamthanda Kolisi, Capten D. A.Ychydig o’r gwybodusion a roddai ‘hopsmul mewn grand national’ ar y ffaith ybyddai tîm rygbi De Affrica yn curoLloegr yn rownd derfynol CwpanRygbi’r byd heb sôn am roi cweiriddynt. Onid oeddent wedi ennillyn odidog rwydd yn erbynSeland Newydd a’rAffricaniaid wedi crafuheibio i dîm Cymru odrwch adain gwybedynmain yn y gemau cynderfynol? Onid oedd euchwaraewyr ben acysgwydd yn rhagorach nachwaraewyr y Springboksa’u sgiliau melfedaidd ynhaeddu englyn arobryngan fardd coronog? Ondo fewn pedwar ugain munud fe roddwydpin go finiog yn swigen fawr euhunandybiaeth. Gorchfygwyd Lloegr ynddigamsyniol o 32 pwynt i 12 ynYokohama, Japan.Pwysicach na 1995Yn dilyn y gêm derfynol honno fe godwydCwpan Webb Ellis gan SiyamthandaKolisi, capten croenddu cyntaf De Affrica.Daeth Kolisi i lygaid y cyhoedd, yn arwrdiymhongar ac yn seren i lewyrchu ynffurfafen chwaraeon y byd. Ni ellirgorbwysleisio pwysigrwydd symbolaidd ydigwyddiad hwn mewn gwlad sydd wedi eirhwygo gan apartheid, tlodi, gwrthdarocymdeithasol a chasineb hiliol cyhyd.Dywedodd y cyn-gapten Francois Pienaar,a dderbyniodd tlws Cwpan Rygbi’r Bydym 1995 gan Nelson Mandela, fodbuddugoliaeth y tîm eleni yn fwyarwyddocaol na hynny hyd yn oed i’rgenedl mewn cyfnod ôl-Apartheid.Meddai: ‘Mae hyn yn fwy. Mae’r tîm wediei weddnewid gyda 58 miliwn o bobl yngwylio De Affrica a phobl o wahanol hilyn gwisgo’r crys gwyrdd. Ni fyddai hynnywedi digwydd yn ein cyfnod ni.’Zwide, Port Elisabeth Mae hanes bywyd Kolisi yn un rhyfeddol.Cafodd ei fagu mewn ardal eithriadol odlawd yn nhrefgor Zwide ym MhortElisabeth, De Affrica. Bu farw ei famPhakama pan nad oedd ond 15 oed ac fegafodd ei fagu gan ei nain, Nolulamile.Ymdrechodd ei deulu i roi addysg iddo ondnid oedd ganddynt ddigon o arian i dalu’rffi flynyddol o $4 am ei addysg gynradd.Pan yn 12 oed gwnaeth argraff fawr arsgowtiaid rygbi pan chwaraeodd mewncystadleuaeth ym Mossel Bay. Yn sgilhynny cynigiwyd ysgoloriaeth iddo ifynychu ysgol iau Grey ym MhortElizabeth ac yna ysgoloriaeth rygbi ynysgol uwchradd Grey. Yn raddol

datblygodd yn chwaraewr o’r raddflaenaf. Bu gyda thîm ieuenctidEastern Province Kings a thîm danddeunaw De Affrica. Chwaraeodd ei

gêm ryngwladol gyntaf i’r Boks ar15 Mehefin 2013 yn erbyn yr

Alban yn Stadiwm Mbombela,Nelspruit. Enillodd De Affricao 30–17 ar y dydd hwnnw.Ffydd yn sylfaenUn peth amdano nad yw’rcyfryngu torfol yn rhoi fawriawn o sylw iddo yw ei fodyn Gristion ac y mae hyn ynrhan sylfaenol o’i fywyd.Mewn cyfweliad gydachylchgrawn Sport Gorhannodd am ei daith

bersonol yn ôl at ffydd:‘Roedd yr Arglwydd wedi bod yn fy

mharatoi ar gyfer hyn. Wrth frwydro gydallawer o bethau personol – temtasiwn,pechodau a ffordd o fyw – sylweddolaisnad oeddwn yn byw fel y dylwn fel unoedd yn dweud ei fod yn Gristion.Penderfynais ildio fy hun yn llwyr i’r Iesugan fyw yn ôl ei ewyllys. Daeth rhywbethanaddas o fy mywyd personol ynwybodaeth gyhoeddus a gwyddwn brydhynny bod rhaid i mi un ai newid fy fforddo fyw neu golli popeth. Dewisais golli fymywyd fy hun er mwyn ei ennill yn Iesu.Trwy wneud hyn rwyf wedi canfod ygwirionedd am rym achubol Iesu Gristmewn ffordd cwbl newydd. Mae’r bywydnewydd hwn wedi rhoi tangnefedd i mi nadwyf wedi ei brofi o’r blaen. Nawr gan fymod wedi rhoi popeth i Dduw nid ywpethau eraill mor ddylanwadol arnaf.Rwy’n byw nawr yn y rhyddid o wybod ybydd Duw yn cyflawni ei gynllun doed addelo. Dyna sydd bwysicaf i mi nawr.’Ffynonellau: BBC Sport | Sport Go Mag| Gweplyfr

Ffynhonnell tudalen FacebookSiyamthanda Kolisi

Sundays with CWM: Rising to Life 2020

Mae Tŷ John Penri wedi derbyncyflenwad o Sunday’s with CWM, sefllyfr sy’n cynnwys myfyrdodau agweddïau ar gyfer pob Sul yn yflwyddyn. Mae’n gyfrol hardd ac ynadnodd gwerthfawr ar gyfer defosiwndrwy gydol y flwyddyn. Os hoffechdderbyn copi yn rhad ac am ddim,cysylltwch â Thŷ John Penri. Codwch yffôn ar (01792) 795888 neu anfonwche-bost: [email protected] iarchebu’ch copi.Mae’n gyfrol fach werth ei chael.

Page 3: Se fydlwyd 1 867 Cyfrol 152 Rhif 49 Rhagfyr 5 , 2019 50c ... · Drwy hyn, roedd ganddo ymwybyddiaeth glir o ffydd gref ei fam. Ysgytwol ... Sport Go Mag | Gweplyfr Ffynhonnell tudalen

Rhagfyr 5, 2019 Y Pedair Tudalen Gydenwadol tudalen 7Y TYsT

Barn AnnibynnolTikTok, TikTok,

mae amser yn cerdded ...Pobol ifanc heddi! Beth maen nhw’n eiwybod am unrhyw beth? Yr hen a ŵyr, yrifanc a dybia, yntife? Fel ’na mae hi wedibod a siawns nad oes llawer wedi newid ...Wel, falle ddim ... Does ond rhaid i chiedrych ar y llanast mae oedolion yn eiwneud o’r byd er mwyn holi a ydyn nioedolion wir yn gwybod wedi’r cyfan ...ond efallai mai stori arall yw honno atrywbryd eto. Megis firwsYn y cyfamser, mae pobl ifanc yn siarad,maen nhw’n siarad â’i gilydd yn fyd-eang.Mae Generation-Z yn cynnal deialog â’igilydd ac mae hynny’n beth pwerus, er llesy byd. Ydyn, maen nhw’n rhannu pethaudoniol, pethau ffwrdd â hi fflwcslyd yfunud, fydd yn codi gwên ac yn cael eurhannu fel tân gwyllt. Oherwydd dyna ywnatur y cyfryngau cymdeithasol, gweldrhywbeth un funud, ei rannu’n gyflym yfunud nesaf ac yna mae’n cael eidrosglwyddo at y person nesaf, acymlaen, ac ymlaen ... yn y modd hwnmae’n lledaenu fel firws, mae’n mynd ynviral mewn matter o sawl clic ac mae’rneges ar led drwy’r byd.CyfathrebuA’r dyddiau hyn, mae sawl ffordd o rannupethau drwy’r cyfryngau cymdeithasol:Snapchat, Instagram (ac i chi gael deall,

mae unrhyw un sy’n defnyddio Facebookneu Twitter yn hen ac yn past it ... dealwith it) a hefyd TikTok,sy’n blatfform cyfathrebua grëwyd yn Tsieina.Fideos byrion, oddeutu15 eiliad yw TikTok.Defnyddir y platfform nidyn unig i rannu caneuona ffilmiau byrion doniol ond hefyd i rannustraeon mwy difrifol. Mae TikTok yn cael eiddefnyddio er mwyn trafod pethau o bwysa chodi ymwybyddiaeth, er mwyn rhannubarn, a hynny ar draws y byd. Ac maennhw’n trafod pynciau pwysig, pethau fel yramgylchedd, gwleidyddiaeth, materionhanesyddol sydd wedi cael effaithchwyldroadol ar heddiw, anghyfiawnderaudynol. Yn ddiweddar, defnyddiodd FeorzaAziz o America, y cyfrwng i dynnu sylw atanghyfiawnderau dynol enbyd sy’ndigwydd yn Tsieina yn erbyn Mwslemiaid,roedd ei ffilm yn cychwyn gyda thiwtorialharddwch ar sut i gyrlio amrannau, cyntasgu mewn i ddatganiad tanbaid am yrhyn sy’n digwydd - dilëwyd y ffilm ganTikTok am gyfnod. Maen pobl ifanc hefydyn trafod profiadau personol ar TikTok, ofrwydrau gyda salwch meddwl, gorbryder ianghyfiawnderau cymdeithasol.Micro a macroYdyn, mae pobl ifanc yn sgwrsio â’i gilyddar draws y byd am bethau sy’n bwysigiddyn nhw. A thrwy wneud hyn maennhw’n edrych ar y macro, tra ein bod ni’nystyried pob dim yn y micro. Mae’rddeialog wedi newid, ac yn parhau inewid, ac yn fwyfwy, fyddwn ni, bobl hŷn,ddim yn rhan o’r ddeialog honno, oni bai

ein bod ni’n fodlon newid ein ffyrdd yn reitgyflym.CwestiynuA nawr, oherwydd y cawlach yr ydym niwedi ei wneud o’r byd hwn, mae’n poblifanc ni yn edrych ar y darlun ehangach acnid yn unig bod ganddyn nhw atebiongwahanol i bethau, maen nhw’n gofyncwestiynau hollol wahanol i’r rhai y buomni’n eu gofyn ar hyd y blynyddoedd. Ac ynsydyn fe glywn leisiau pobl ifanc fel GretaThunberg, Malala Yousafzai a phobl felAmika George sy’n ymladd tlodi mislif iferched ym Mhrydain, Jack Andraka oAmerica sy’n ymchwilio i ddulliaufforddiadwy o ddarganfod cancr ypancreas ac Emma Gonzáles yn yr UnolDaleithiau sy’n ymgyrchu dros wellreolaeth o ddrylliau yn America. Mae’rbobl hyn yn eu harddegau bob un ... Dwiddim yn meddwl mai’r hen sy’n gwybodheddiw, ddim o bell ffordd.Yr ifanc a ŵyr?Ac nid dim ond y bobl ifanc hynod o hynodhyn sydd wrthi chwaith ... holwch y boblifanc sy’n eich bywydau chi. Beth sy’n eupoeni nhw? Sut maen nhw’n gweld y byd?Beth maen nhw’n ei feddwl yw’r ateb ibethau? Wy’n addo i chi y cewch chi’nsynnu gan eu barn hwn ar bethau’r byd apha mor huawdl y maen nhw’n medru bodar bynciau o bwys. Ac efallai ... jyst efallai... y dysgwch chi rywbeth.

Elinor Wyn Reynolds(Nid yw cynnwys y Barn Annibynnol o reidrwydd

yn adlewyrchu safbwynt Undeb yr Annibynwyrna’r tîm golygyddol.)

AR DYMORGAEAF

Yr ŵyl sydd yn annwylgan Ddafydd Ddu yn ygarol isod, wrth gwrs,yw’r Nadolig a hynny‘waith (= oherwydd)geni’r Iesu gwyn’Gwaredwr dynoliaeth.Yn y cyfnod hwnnw niddydd gŵyl ynysig oeddy Nadolig, ond diwrnodcyntaf cyfnod pwysig yn grefyddol ac yngymdeithasol, sef cyfnod ‘y Gwyliau’.Mewn rhai ardaloedd o hyd, fel DyffrynConwy, fe elwir y Nadolig ar dafodleferydd yn ‘gwyliau’. Roedd hwn yndraddodiadol yn gyfnod o seibiant a dathlucyffredinol a ymestynnai hyd yr Ystwyll(Epiphany) a gynhelir ar 6 Ionawr.Deugain niwrnodOnd er bod yr Ystwyll yn nodi diwedddeuddeng niwrnod y Gwyliau, yn yr henamser ai’r dathlu ymlaen hyd ‘Ŵyl FairDdechre Gwanwyn’ ar yr ail o Chwefror, ydeugeinfed diwrnod wedi’r Nadolig. Enw

arall ar yr ŵyl hon oedd Gŵyl Fair yCanhwyllau. Mae’n enghraifft arall o’reglwys yn Cristioneiddio hen arfer, gan eibod yn cyd-daro ag adeg hen ŵylbaganaidd y Goleuni, a nodai hanner fforddrhwng Calan Gaeaf a Chalan Mai ac aroddai le amlwg i ganhwyllau yn eidefodaeth.

Yn unol â chyfarwyddiadau Lefiticus12, wedi iddi gyflawni deugain niwrnod eiphuredigaeth ar ôl geni’r Iesu, aeth Mairi’w gyflwyno yn y Deml. Dyna’r adeg ycymerodd Simeon Ef yn ei freichiau a’igyhoeddi’n ‘oleuni i oleuo y Cenhedloedd’(Luc 2:32). Rhwng y cwbl, felly, nidrhyfedd i’r eglwys fabwysiadu’r ail oChwefror fel Gŵyl Puredigaeth Mair, arhoi lle amlwg i ganhwyllau ynddi.

Ar dymor gaeaf dyma’r ŵyl Sydd annwyl, annwyl in; Boed sain llawenydd ym mhob llu, Waith geni’r Iesu gwyn; Datseiniwn glod â llafar dôn, Rhoed rhai tylodion lef,Gan gofio’r pryd y gwelwyd gwawr Eneiniog mawr y nef! Ar gyfer heddiw Maban mwyn A gaed o’r Forwyn Fair;

Ac yno gweled dynol-ryw Ogoniant Duw y Gair: Mab Duw gorucha’n isa’n awr, Mewn preseb lle pawr ych; O! gwelwch, luoedd daear lawr, Diriondeb mawr y drych. Wel dyma gysur mawr i’r gwan Sydd beunydd dan ei boen, Fod gwên maddeuant, meddiant mwyn, Yn wyneb addfwyn Oen; Mae’n galw drwy’r efengyl bêr Ar bawb yn dyner, dewch: Nesewch at aur gynteddau’r Tad, Trugaredd rad a gewch.Fe bery cariad Iesu cu Fyth i’w ryfeddu’n faith; Datganu ei fawl, ryglyddawl* glod, Sydd ormod, gormod gwaith: Hyn oll yn awr a allwn ni, Sef llawen godi llef;Pa fodd yn well i seinio clod Cawn wybod yn y nef?

*Rhyglyddawl = teilwngDAVID THOMAS

(Dafydd Ddu Eryri 1759–1822)

parhad ar y dudalen gefn

Page 4: Se fydlwyd 1 867 Cyfrol 152 Rhif 49 Rhagfyr 5 , 2019 50c ... · Drwy hyn, roedd ganddo ymwybyddiaeth glir o ffydd gref ei fam. Ysgytwol ... Sport Go Mag | Gweplyfr Ffynhonnell tudalen

Cyhoeddwyd gan Undeb yr Annibynwyr Cymraeg ac argraffwyd gan Wasg Morgannwg, Uned 13, Ystad Ddiwyd. Heol Milland, Castell-nedd, SA11 1NJ. Cofrestrwyd yn y Swyddfa Bost.

Erthyglau, llythyrau at y Prif Olygydd: Y Parchg Ddr Alun Tudur39 Dorchester Avenue, Pen-y-lan,Caerdydd, CF23 9BSFfôn: 02920 490582E-bost: [email protected]

Archebion a thaliadau i’r Llyfrfa:Ty John Penri, 5 Axis Court, ParcBusnes Glanyrafon, Bro Abertawe

ABERTAWE SA7 0AJFfôn: 01792 795888

E-bost: [email protected]

tudalen 8 Y Pedair Tudalen Gydenwadol Rhagfyr 5, 2019Y TYST Golygydd

Y Parchg Iwan Llewelyn JonesFronheulog, 12 Tan-y-Foel,

Borth-y-gest, Porthmadog, Gwynedd,LL49 9UE

Ffôn: 01766 513138E-bost: [email protected]

GolygyddAlun Lenny

Porth Angel, 26 Teras PictonCaerfyrddin, Sir Gâr, SA31 3BX

Ffôn: 01267 232577 / 0781 751 9039

E-bost: [email protected]

Dalier Sylw!Cyhoeddir y Pedair Tudalen

Gydenwadol gan Bwyllgor Llywio’rPedair Tudalen ac nid gan Undeb yrAnnibynwyr Cymraeg. Nid oes awnelo Golygyddion Y Tyst ddim âchynnwys y Pedair Tudalen.

Golygyddion

Dafydd Ddu EryriGanwyd awdur y garol hon sef DavidThomas (Dafydd Ddu Eryri) ar Ebrill1759, ym Mhen-y-bont y Waun Fawr.Gwehydd o bandy Glynllifon oedd eidad Thomas Griffiths, ac yr oedd yngynghorwr gyda’r MethodistiaidCalfinaidd, ac ef a’i fab John, a ofalaiam eu hachos yn y Waun Fawr. Âi’rddau dros y mynydd i Lanberis hefyd igadw seiat yn y Llwyncelyn. CafoddDafydd Ddu wyth mis o ysgol gyda JohnMorgan, curad Llanberis. Ar ôl gadael yrysgol gweithiai waith gwehydd yn yWaun Fawr ac âi i Gaernarfon i weledRobin Ddu yr ail o Fôn (Robert Hughes).Clywodd ganddo am gyfarfodydd ybeirdd yn y tafarnau yn Llundain ac ynniwedd y gaeaf 1783–4 canodd DafyddDdu gân, ‘Gwahoddiad i’r Prydyddionddyfod i’r Betws bach Noswyl Fair’ ar ymesur a elwir Bel Eil March.Athro a barddAr 14 Gorffennaf 1787 rhoddodd ygorau i’w waith fel gwehydd a dechraucadw ysgol yn Llanddeiniolen. O 1807 i1810 bu’n brysur yn casglu’r defnyddiauar gyfer ei lyfr, Corff y Gainc, yn teithioi Ddolgellau i wylio ei argraffu, ac yna’ncrwydro i Lerpwl a mannau eraill i’wwerthu.

Ychydig o’i waith barddonol fyddai’napelio at ddarllenwyr heddiw. Gellidnodi ei englynion beddargraff a’igywydd ar agoriad eisteddfodCaernarfon yn 1821 fel yr enghreifftiaugorau o’i farddoniaeth gaeth, a ‘FyAnnwyl Fam fy Hunan’ cyfieithiad o’rgân Saesneg ‘My Mother’ fel enghraiffto gyfieithiad a barhaodd yn boblogaiddwedi i’r gân wreiddiol gael ei llwyranghofio.

Treuliodd y flwyddyn olaf o’i oes yny Fron Olau, Llanrug, ond crwydrai iweled cyfeillion yn yr ardaloeddcylchynol. Wrth ddychwelyd o Fangor oun o’r teithiau hynny syrthiodd wrthgroesi afon Cegin wrth ymyl Bach Riffria chafwyd ef wedi boddi ar 30 Mawrth1822.

Claddwyd ef ym mynwentLlanfihangel yn Llanrug a rhoes eigyfeillion gofadail ar ei fedd.

(addasiad o Carolau a’u Cefndir, gol. E. Wyn James)

AR DYMORGAEAF – parhad

Eglwys Heol Awst, CaerfyrddinPleser yw nodi bod Olga Williams wedi cyflwyno sieco £5,000 i Dr Anita Huws o Uned Cancr y Fron,Ysbyty Tywysog Philip, Llanelli, sef elw cyngerdd CôrMeibion Machynlleth ar nos Sadwrn, 12 Hydref 2019yn Heol Awst.Yr ysgol Sul Roedd thema ein gwasanaeth diolchgarwch eleni agynhaliwyd ar fore Sul, 20 Hydref yn seiliedig arDathlu Gŵyl y Cynhaeaf, gyda’r pum gair: Rhyfeddu,Diolch, Gofalu, Pam? a Dibynnu. Gwnaed yr anerchiadgan Meinir Loader, a chawsom neges oedd yn bwrpasoli bob oed ganddi.Y Gymdeithas DdiwylliadolDaeth y Nadolig yn gynnar eleni wrth i ni ddathlu gydachinio yng Ngwesty’r Hebog, Heol Awst ar ddydd Iau,14 Tachwedd. Er bod yr hin yn oer iawn y tu allan,cawsom groeso gwresog yn y Gwesty, ac roedd pawboedd yno wedi mwynhau’r gwmnïaeth a’r cinio blasusiawn.

Cau dy geg: gwers i’r plant (o bob oed)Adnod: Ond rhowch brawf ar bob peth, aglynwch wrth yr hyn sydd dda. (1Th 5:21BCND)Gwers: Cadw’r hyn sy’n werthfawr ac yndda neu byddwch yn araf i siarad.Adnodd: Llun o belican a gwalch.

Oes un ohonoch yn gwybod sut aderynyw’r pelican? Mae’n edrych yn ddoniol,mae ganddo big mawr a chwdyn mawr odan ei ên, tagell. Mae hwn yn ei helpu iddal pysgod. Gall ddal llawer iawn obysgod a’u cadw yn ei dagell. Ondwyddoch chi mewn rhai rhannau o’r bydmae rhywbeth rhyfedd iawn yn digwydd.Mewn rhai ardaloedd y mae gweilch aphelicanod yn byw yn yr un cynefin.Ambell dro mae gwalch yn hofran yn yr

awyr uwchben ac yn gweld fod pelicanwedi dal cegaid swmpus o bysgod. Ynamae’r gwalch hedfan i lawr at y pelicangan wneud cymaint o sŵn â phosib. Mae’rpelican yn edrych i fynnu i weld pwy sy’ngwneud yr holl sŵn gan agor ei geg led ypen. Yna mae’r gwalch yn dwyn pysgodyn

o’i geg. Mae hyn wedi digwydd ersmiloedd o flynyddoedd. Byddairhywun yn disgwyl y byddai’r pelicanyn dysgu ei wers. Ond nid felly ymae.GwersCred rhai mai’r wers o’r darlun hwnyw, cau dy geg, sy’n gallu bod yngyngor da gan ein bod weithiau yndweud pethau gwirion ac annoeth.Edrychwch ar lythyr Iago pennod 1adnod 26 i weld beth ddywedir am y

tafod. Gweler hefyd lythyr Iago 3: 3-12.Ond gwers arall yw daliwch eich gafael

yn yr hyn sydd yn werthfawr ac yn ddahyd yn oed os yw pobl yn galw arnoch iollwng gafael ynddynt. Mae’r Beibl yn eindysgu i garu Duw a phobl. I gredu yn IesuGrist fel Arglwydd; i fod yn garedig a haela gofalus; i beidio â dal dig a dial. Byddrhai yn dweud wrthym ein bod yn wirionac yn ein hannog i roi’r gorau i fod ynddisgybl i Iesu. Ond daliwch ati doed addelo a daliwch at eich ffydd.

Ffynhonnell David Clode ar Unsplash

Dr Anita Huws ac Olga Williams