rhaglen gŵyl golwg

64
g w y l MEDI 5- 7 CAMPWS PRIFYSGOL Y DRINDOD DEWI SANT LLAnBED RHAGLEN SWYDDOGOL

Upload: golwg-cyf

Post on 28-Mar-2016

262 views

Category:

Documents


0 download

DESCRIPTION

Rhaglen Swyddogol Gŵyl Golwg - 5-7 Medi 2013

TRANSCRIPT

Page 1: Rhaglen Gŵyl Golwg

gwyl

MEDI 5-7CAMPWS PRIFYSGOL Y DRINDOD DEWI SANT LLAnBED

RhAGL

EN

SWYDD

OGOL

Page 2: Rhaglen Gŵyl Golwg
Page 3: Rhaglen Gŵyl Golwg

3

Cynnwys RhaglenCyflwyniad a chynllun safle 4Golwg Go Whith 6Gig Gwyl Golwg 10Stafell Sgwrsio 14Y Babell Roc 26Gweithgareddau Plant 36Y Cwmwl 42Y Gweithdy 52Llun Eiconig Golwg 25 56Marchnad Gwyl Golwg 57

Tocynnau Gwyl GolwgNos Iau: Golwg Go Whith £8Nos Wener: Gig Gwyl Golwg £8Dydd Sadwrn (£5 ymlaen llaw) / Plant am ddim £8

Archebwch nawrwww.gwylgolwg.com / 01570 423529

Page 4: Rhaglen Gŵyl Golwg

4

P

PArtistiaid a Chriw

PMaes Parcio

Yr Wyl

Stry

d y

Cole

g A4

82

1 Gweithdy2 Neuadd Celfyddydau3 Marchnad Gwyl Golwg4 Y Babell Roc5 Stafell Sgwrsio6 Y Cwmwl ac Y Fro (Llawr 1af)

Prif Fynedfa

1 2

3

45

6

Stryd y Bont A482

Page 5: Rhaglen Gŵyl Golwg

5

Gwyl GolwgPlethu’r gorffennol, y presennol a’r dyfodol

Gŵyl Golwg – digwyddiad arbennig i nodi chwarter canrif ers dechrau cyhoeddi’r cylchgrawn materion cyfoes Cymraeg, Golwg.

Cyhoeddwyd rhifyn enghreifftiol o Golwg i’w ddosbarthu’n rhad ac am ddim yn Eisteddfod Genedlaethol Casnewydd 1988 ond dyddiad cyhoeddi’r rhifyn wythnosol cyntaf oedd 8 Medi 1988 – union 25 mlynedd yn ôl i’r penwythnos yma.

Ers 8 Medi 1988, mae Golwg wedi ymddangos yn ddi-fwlch bob wythnos– ar wahân i bythefnos o egwyl bob blwyddyn dros y Nadolig. Dyna chi hanner cant o rifynnau’r flwyddyn, am bump ar hunain o flynyddoedd ... cyfanswm o 1,250 rhifyn o Golwg erbyn penwythnos yr ŵyl.

‘Cylchgrawn newyddion a materion cyfoes’ fu’r disgrifiad o Golwg erioed, ond un maes sydd bob amser wedi cael lle amlwg iawn yn y cylchgrawn ydy’r celfyddydau. Pa ffordd well i nodi achlysur pen-blwydd Golwg na thrwy

gynnal gŵyl gydag amrywiaeth o sesiynau celfyddydol, a lle gwell nag yng nghartref prif swyddfa Golwg ers y dechrau – Llanbedr Pont Steffan.

Fel mae’r cylchgrawn wedi gwneud erioed, mae’r ŵyl yn rhoi llwyfan i amrywiaeth eang o’r celfyddydau mwyaf cyfoes ... gydag ambell elfen hiraethus wedi’u plethu i’r arlwy.

Mae cerddoriaeth, comedi, llenyddiaeth, celf weledol a llawer mwy yng Ngŵyl Golwg. Byddwn hefyd yn edrych tua’r dyfodol, ac yn rhoi lle amlwg i’r chwyldro digidol sydd eisoes yn ddylanwad mawr iawn ar y byd cyhoeddi.

Does dim yn bwysicach i ddyfodol y Gymraeg na phlant ac mae lle amlwg i weithgareddau plant yng Ngŵyl Golwg – gŵyl i’r teulu oll heb os.

Rhwng cloriau’r rhaglen hon mae crynodeb o’r hyn fydd yn digwydd yng Ngŵyl Golwg - welwn ni chi oll yno. Ac , os ydych chi eisoes wedi cyrraedd – croeso mawr i ddathlu efo ni.

www.gwylgolwg.com

Page 6: Rhaglen Gŵyl Golwg

Golwg go whithTheatr Felinfach - Nos Iau 5 Medi 7:30 £8

Bydd noson gomedi go wahanol i’r arfer yn cael ei chynnal yn Theatr Felinfach i ddechrau Gŵyl Golwg eleni.

Gary Slaymaker fydd yn cyflwyno cwis panel ysgafn gyda rhai o’r diddanwyr amlyca! Dyma gyfle i edrych nôl ar gynnwys cylchgrawn Golwg dros y chwarter canrif diwethaf ... ond nid edrych nôl mewn ffordd gyffredin o bell ffordd. Her y panelwyr fydd dyfalu a dehongli’r hanesion tu cefn i rai o benawdau, lluniau a dyfyniadau mwyaf trawiadol a gwahanol Golwg ers sefydlu’r cylchgrawn ym 1988.

Dewch draw i fwynhau noson llawn hwyl a chwerthin yng nghwmni criw o bobol ddoniolaf y genedl.

6

RhybuddMae’r noson yn debygol o gynnwys iaith gref, goch ...

ac o bosib ymddygiad anweddus. Anaddasi bobol dan 16 oed.

Gary SlaymakerMae Gary Slaymaker yn un o gomedïwyr a chyflwynwyr mwyaf adnabyddus Cymru. Fe’i ganwyd ym mhentref Cwmann, ger Llanbedr Pont Steffan, ac aeth i’r ysgol uwchradd yn y dref. Aeth ymlaen i astudio yng Ngholeg Normal Bangor cyn symud i fyw yng Nghaerdydd.

Mae Slaymaker wedi datblygu gyrfa lwyddiannus ac amrywiol fel beirniad ffilmiau, cyflwynydd teledu a radio, nofelydd a digrifwr. Bu’n cyflwyno un o hen raglenni Hwyrach ar Radio Cymru yn ystod y 1980au. Bu hefyd yn wyneb cyfarwydd ar S4C gyda’i raglen adolygu ffilmiau Slaymaker a rhaglen Potsh yn ystod y 1990au. Cyhoeddodd ei nofel gyntaf ‘Y Sach Winwns’ yn 2005.

Mae bellach wedi ailddechrau perfformio comedi stand-up

ac yn parhau i gyflwyno rhaglenni ar y radio, gan gynnwys y cwis dychanol, Bwletîn.

Page 7: Rhaglen Gŵyl Golwg

7

www.gwylgolwg.com

Page 8: Rhaglen Gŵyl Golwg

8

Aeron PugheAc yntau’n un o dalentau ifanc mwyaf cyffrous y foment, daw Aeron Pughe o Ddarowen ger Machynlleth, ac mae’n gweithio ar fferm y teulu gyda’i frawd a’i dad.

Mae Aeron yn berfformiwr profiadol wedi ennill ei blwyf gyda mudiad y Ffermwyr Ifanc cyn mynd ati i berfformio’n broffesiynol. Mae’n brif leisydd y band Hufen Iâ Poeth, wedi cyflwyno ar raglenni S4C a bellach yn wyneb adnabyddus i blant Cymru fel y môr-leidr ‘Ben Dant’ ar Cyw. Roedd Aeron hefyd yn un o’r cystadleuwyr ar raglen Fferm Ffactor yn 2010.

Eirlys BellinMerch o’r Bont Faen yw Eirlys Bellin. Mae hi’n actores, digrifwraig a throsleisydd. Hyfforddodd ym Mhrifysgol Caeredin a Mountview Academy of Theatre Arts. Mae Eirlys yn ymddangos yn rheolaidd ar ‘live London circuit’ ac mae wedi bod yn y rownd gynderfynol yn y ‘Funny Women Awards.’ Roedd ei sioe ‘Eirlys Bellin: Unaccustomed As I Am’ yn llwyddiannus iawn yn y ‘Pleasance’ yng Nghaeredin yn 2010.

Mae’n fwyaf adnabyddus i ni’r Cymry erbyn hyn trwy’r cymeriad digri’, ffan mwyaf tîm rygbi Cymru, Rhian “madamrygbi” Davies sy’n ymddangos yn rheolaidd ar raglen Jonathan ar S4C. Mae Eirlys wedi ymddangos ar nifer o raglenni teledu eraill fel Dr Who, Noson Lawen, High Hopes, A470 a Pobol y Cwm. Un o ferched doniolaf Cymru heb os.

Ifan GruffyddIfan Gruffydd yw un o ddiddanwyr mwyaf amryddawn a hirhoedlog Cymru. Ers dechrau perfformio yng Nghlwb Ffermwyr Ifanc Tregaron, mae Ifan wedi cael gyrfa lewyrchus gyda deg cyfres o’i raglen Ma’ Ifan ‘Ma yn cael eu darlledu ar S4C. Mae bron 28 mlynedd ers i’r gyfres hon ymddangos ar y teledu gyntaf.

Ysgrifennodd y rhaglen gomedi Nyth Cacwn ar y cyd ag Euros Lewis, yn ogystal ag actio ynddi yn 1989. Ffermio yw ei briod waith ar gyrion Tregaron ond mae’n cyfaddef fod jôcs yn talu’n well iddo fe na’r defaid! Mae hefyd wedi ysgrifennu sawl cyfrol o lyfrau megis Hiwmor Ifan Tregaron a Pwy faga ddefed?

Page 9: Rhaglen Gŵyl Golwg

9

Iwan JohnDaw Iwan John yn wreiddiol o Fynachlog-ddu, Sir Benfro. Wedi blynyddoedd o fyw yng Nghaerdydd, mae’r actor comedi bellach yn byw gyda’i wraig a’i blant ym Mridyll, ger Aberteifi.

Mae’n adnabyddus iawn fel actor wedi ymddangos mewn cyfresi niferus i blant fel Noc Noc, Hotel Eddie, Y Rhaglen Wirion ‘Na a’r gyfres sgetsus Mawr! Yn ddiddorol iawn, mae wedi magu arbenigedd yn portreadu menywod gyda’i sbŵff o Kath ‘nage Mark ni nath e’ Jones a’i gymeriad Cheryl yn y ffilm Beryl, Meryl a Cheryl. Mae hefyd wedi ymddangos mewn nifer o raglenni teledu eraill gan gynnwys Tair Chwaer, Y Pris, Gig-l, Caryl, Dudley: Pryd o Sêr, a Y 7 Magnifico a Matthew Rhys. Bydd ffans rygbi yn ei gofio hefyd o’r pytiau hyrwyddo gêmau rhyngwladol Cymru - Scrum 4.

Actor da...ond yn bwysicach i ni, boi doniol iawn!

Ifan Jones EvansMae Ifan Jones Evans yn gyflwynydd teledu a radio, a hefyd yn ffermio ar y fferm deuluol ym Mhontrhydygroes, ger Tregaron. Ar ôl addysg yn ysgol Uwchradd Tregaron, aeth ymlaen i

ddilyn cwrs Theatr Cerdd a’r Cyfryngau yng Ngholeg y Drindod Caerfyrddin cyn symud yn ôl adref i ffermio. Cafodd ei swydd gyntaf ym myd teledu yn cyflwyno rhaglen i blant o’r enw Peirianhygoel, cyn symud ymlaen i gyflwyno Mosgito. Ers hynny mae wedi cyflwyno amrywiaeth o raglenni poblogaidd ar S4C fel Rasus, Y Porthmon, Y Goets Fawr, Y Sipsiwn ac Eisteddfod y Ffermwyr Ifanc. Mae Ifan hefyd yn llais cyfarwydd ar C2 BBC Radio Cymru ers tair blynedd wrth iddo gyflwyno ei sioe wythnosol bob nos Fawrth rhwng 7 a 10.

Heledd CynwalGaned Heledd yng Nghaerdydd, cyn symud i bentref Bethlehem ger Llandeilo. Mae’n un o gyflwynwyr mwyaf adnabyddus Cymru ac wedi bod yn wyneb amlwg ar S4C ers blynyddoedd. Bydd rhai yn ei chofio’n cyflwyno Uned 5, lle dechreuodd ei gyrfa. Aeth ymlaen wedyn i gyflwyno llu o raglenni eraill ar S4C gan gynnwys Wedi 7, Wedi 3, Heno, Côr Cymru, Eisteddfod Ryngwladol Llangollen, Seren Bethlehem, Perthyn a Cofio.

www.gwylgolwg.com

Page 10: Rhaglen Gŵyl Golwg

Gig Gwyl GolwgNeuadd Gelfyddydau, Prifysgol Llanbed – Nos Wener 6 Medi 7:00

Tocynnau - £8

Cowbois Rhos BotwnnogMae’r Cowbois o Ben Llŷn bellach wedi hen sefydlu eu hunain fel un o fandiau mwyaf y sîn gyfoes Gymraeg.

Ffurfiwyd y grŵp gan dri brawd - Iwan, Dafydd ac Aled Hughes - yn 2005 a chyhoeddwyd eu halbwm cyntaf gwych, Dawns y Trychfilod, yn 2007 - daeth traciau fel Y Moch a Musus Glaw yn ffefrynnau mewn gigs byw ac ar y tonfeddi’n syth.

Cyhoeddwyd eu hail albwm Dyddiau Du, Dyddiau Gwyn yn 2010 ac erbyn hyn roedd Branwen ‘Springs’ Williams, Llyr Pari ac Euros ‘Jos’ Jones wedi ymuno fel offerynwyr ychwanegol. Cafodd Dyddiau Da, Dyddiau Gwyn ei enwi ar frig rhestr 10 uchaf albymau 2010 y flwyddyn yn Y Selar ac aeth y grŵp o nerth

i nerth yn 2011 gan berfformio’n rheolaidd ledled Prydain. Cyhoeddodd y Cowbois eu trydydd albwm, Draw Dros y Mynydd haf y llynedd.

Bob Delyn a’r EbillionMae Bob Delyn a’r Ebillion yn rhannu pen-blwydd â Golwg - yn ôl y chwedl fe chwaraeon nhw eu gig cyntaf yng ngig Cymdeithas yr Iaith yn y Clwb Gwyddelig yng Nghasnewydd yn ystod wythnos yr Eisteddfod Genedlaethol ym 1988. Yn ôl y sôn roedd Gorwel Roberts a Twm Morys wedi teithio i’r Steddfod i bysgio a rhywsut wedi llwyddo i blagio eu ffordd ar y leinyp ar gyfer un o’r nosweithiau.

Dros y blynyddoedd sefydlodd y grŵp eu hunain yn un o grwpiau mwyaf blaengar y sîn, ac mae eu cerddoriaeth dawns-gwerinol yn

10

Page 11: Rhaglen Gŵyl Golwg

11

dal i fod yn arloesol hyd heddiw. Byddai rhai yn dweud eu bod wedi ail-ddiffinio cerddoriaeth werin Gymreig a rhoi ystyr newydd i’r traddodiad.

Cyhoeddwyd albwm cyntaf y grŵp, Sgwarnogod Bach Bob, ym 1990 gyda Gedon yn dilyn ym 1992 a Gwbade Bach Cochlyd (1996). Eu halbwm diweddaraf yw Dore a ryddhawyd ar Sain yn 2003.

Er bod sŵn unigryw a llawn y grŵp yn swnio’n wych ar record, does dim amheuaeth mai wrth berfformio’n fyw y maen nhw ar eu gorau gyda phresenoldeb y prifardd Twm Morys yn hudo’r gynulleidfa.

Roedd Twm Morys yn golofnydd rheolaidd yng Nghylchgrawn Golwg yn y dyddiau cynnar – rhwng hynny a’u chwarter canrif fel grŵp, mae addas iawn fod Bob Delyn a’r Ebillion yn chwarae yng Ngŵyl Golwg.

www.gwylgolwg.com

Page 12: Rhaglen Gŵyl Golwg

12

Elin FflurDechreuodd gyrfa gerddorol Elin yn canu gyda’r grŵp Carlotta, sef grŵp a ffurfiwyd ganddi hi a’i brawd Ioan.

Wedi hynny, aeth ymlaen i ganu gyda’r Moniars, ond y trobwynt yn ei gyrfa oedd canu cân fuddugol Cân i Gymru 2002, Harbwr Diogel. O fewn y flwyddyn roedd Elin wedi cyhoeddi albwm ei hun, Dim Gair, ar label Sain. Flwyddyn yn ddiweddarach rhyddhaodd albwm arall o’r enw Cysgodion yn 2004.

Mae dau albwm pellach wedi dilyn, sef Hafana (2008) ac Y Goreuon (2010) ac mae Elin wedi hen sefydlu ei hun fel un o artistiaid benywaidd mwyaf poblogaidd Cymru. Mae hi hefyd yn gwneud gwaith cyflwyno ar S4C.

BromasMae’r flwyddyn a fu wedi bod yn un i’w chofio i’r criw o fechgyn ifanc yma o ardal Caerfyrddin. Y llynedd cipiodd y band goron enillwyr ‘Brwydr y Bandiau’ Maes B yn yr Eisteddfod ynghyd â gwobr ariannol werth £1,000 a sesiwn recordio trwy garedigrwydd C2 . Yn ogystal â hyn, cipiodd y band deitl ‘Band Newydd Gorau 2013’ yn noson wobrwyo’r Selar ym Mangor. Maent yn chwarae cerddoriaeth

indî-roc gan fwyaf gydag elfennau electroneg ar adegau ac ambell i faled i gadw’r ddysgl yn wastad.

Ond pwy yw’r Bromas? Mae’r pedwar yn ddisgyblion ysgol yn astudio tuag at eu lefelau A. Yn Ysgol Bro Myrddin y mae Llewelyn Hopwood, sy’n canu a chwarae’r allweddellau, a Steffan Cennydd, sydd ar y gitâr fas. Mae Cellan Wyn ar y drymiau yn mynd Ysgol Maes yr Yrfa, a daw Owain Huw, sy’n ffryntman a gitarydd, o Ysgol Ystalyfera.

MelltGrŵp o Aberystwyth ydy Mellt, ac maen nhw’n un o fandiau ifanc mwyaf cyffrous y sîn ar hyn o bryd.

Mae’r 4 aelod oll yn ddisgyblion yn ysgol Penweddig, a ffurfiodd y grŵp yn wreiddiol yn 2007 dan yr enw Y Gwirfoddolwyr. Penderfynodd yr aelodau newid yr enw llynedd, gan berfformio gyntaf fel Mellt wrth agor gig enfawr Hanner Cant ym Mhontrhydfendigaid.

Roedden nhw yn rownd derfynol Brwydr y Bandiau C2 eleni, a llawer o’r farn mai nhw ddylai fod wedi ennill. Mae grwpiau fel The Clash a’r Smiths wedi dylanwadu’n gryf arnynt, ac mae ganddyn nhw sŵn aeddfed iawn o ystyried eu hoed. Mae’n werth cadw llygad ar rhain.

Page 13: Rhaglen Gŵyl Golwg

13

www.gwylgolwg.com

Page 14: Rhaglen Gŵyl Golwg

Dymuna’r Lolfa ben-blwydd hapus iawn i gylchgrawn Golwg

01970 832304 [email protected] www.ylolfa.com

£9.95

£8.95£8.95

Dyddiaduron

Desg A4 £6.95Addysg A5 £5.95

Poced £3.95Ffeiloff aith £6.95

£8.95

Page 15: Rhaglen Gŵyl Golwg

AmserlenStafellSgwrsio

11:00 Dafydd Hywel: Hunangofiant Alff Garnant12:00 Llyfr y Flwyddyn 2013: Heini Gruffudd13:00 Y Stori Dditectif14:00 Darlith Goffa Islwyn Ffowc Elis: Gerwyn Wiliams15:00 Golwg ar Golwg16:00 Portreadu Kate: Datgelu’r cyfan eto17:00 Blas ar Blasu

15

www.gwylgolwg.com

Page 16: Rhaglen Gŵyl Golwg

16

Heini Gruffudd a gipiodd deitl Llyfr y Flwyddyn 2013 gyda’i gyfrol yn y categori ‘ffeithiol creadigol’, Yr Erlid. Mae’r gyfrol yn adrodd hanes teulu ei fam, Kate Bosse-Griffiths, yng nghyfnod erledigaeth y Natsïaid.

Cafodd Heini ei eni a’i fagu yn Abertawe ac mae’n byw yno o hyd. Bu’n athro Cymraeg, yn gyfieithydd ac yna’n ddarlithydd yn Adran y Gymraeg ac Adran Addysg Oedolion, Prifysgol Abertawe. Roedd yn un o sefydlwyr Tŷ Tawe, Canolfan Gymraeg Abertawe, a bu hefyd yn gadeirydd cenedlaethol Rhieni dros Addysg Gymraeg.

Llyfr y Flwyddyn 2013 - Heini Gruffudd

Mae’n awdur tros bymtheg o lyfrau dysgu Cymraeg gan gynnwys The Welsh Learner’s Dictionary a Welsh Rules. Cyn arbenigo yn y maes hwn, cyhoeddodd dair nofel, Y Noson Wobrwyo, Ewyllys i Ladd ac Yn Annwyl i Mi ac astudiaeth lenyddol, Achub Cymru.

Mae Gŵyl Golwg yn falch iawn i gydweithio â Llenyddiaeth Cymru i gynnal sesiwn holi arbennig gyda Heini Gruffudd i drafod cyfrol Llyfr y Flwyddyn 2013.

“Dim ond un cyfle fydd gen i i lunio cyfrol fel hon, ac rwy’n ostyngedig am y gydnabyddiaeth iddi.”Heini Gruffudd – golwg360, 19 Gorffennaf 2013

Page 17: Rhaglen Gŵyl Golwg

17

www.gwylgolwg.com

Page 18: Rhaglen Gŵyl Golwg

18

Mae straeon ditectif wedi dod yn hynod boblogaidd dros y blynyddoedd diwethaf gyda llenyddiaeth a chyfresi teledu’n pontio’n hynod lwyddiannus. Yn y sesiwn hon bydd yr awdur Ifan Morgan Jones yn arwain trafodaeth gyda chynhyrchydd cyfres newydd Y Gwyll, Ed Thomas, a’r awdur ditectif, Geraint Evans. Bydd y sgwrs yn holi beth sy’n gwneud stori ditectif da, yn mynd ar ôl y rhesymau dros boblogrwydd y genre, ac yn gofyn beth yn y byd sy’n gwneud Aberystwyth yn lleoliad mor atyniadol ar gyfer straeon ditectif!

Ed ThomasMae Ed Thomas yn gyfarwyddwr artistig a chynhyrchydd yn Fiction Factory. Dros y ddeuddeng mlynedd diwethaf mae wedi ennill nifer o wobrau gan gynnwys 3 Bafta Cymru, am ysgrifennu, cynhyrchu a chyfarwyddo, yn ogystal â dwy wobr Ysbryd yr Wyl yn yr Ŵyl Ffilmiau Geltaidd.

Ymysg cyfresi mwyaf llwyddiannus Ed mae Caerdydd (2005-2009), Y Pris (2007-2008) ac yn fwy diweddar

Pen Talar. Mae ei gynyrchiadau hefyd yn cynnwys A Mind to Kill, cyfres dditectif hynod lwyddiannus gyda’r diweddar, Phillip Madoc.

Ed yw uwch gynhyrchydd cyfres dditectif newydd Y Gwyll a fydd yn cael ei darlledu ar S4C yn yr hydref. Bydd fersiwn Saesneg o’r gyfres yn cael ei darlledu ar BBC Cymru Wales yn 2014 gyda darllediadau yn dilyn ar BBC4 a DR yn Nenmarc.

Geraint EvansMae Geraint Evans yn byw yn Nhal-y-bont, Ceredigion ond fe’i magwyd yn ardal lofaol Sir Gaerfyrddin. Bu’n ddarlithydd yn Adran Astudiaethau Gwybodaeth Prifysgol Aberystwyth ac yn warden Neuadd Breswyl Pantycelyn. Mae’n ddarllenwr brwd o nofelau ditectif ac ar ôl ymddeol dechreuodd ysgrifennu. Ymddangosodd ei nofel gyntaf Y Llwybr yn 2009, Llafnau yn 2011 a Diawl y Wasg yn 2013 - y tair yn nofelau ditectif wedi’u lleoli o gwmpas Aberystwyth ac yn achosion gwahanol i Inspector Gareth Prior a’i dîm. Y nod yn ôl Geraint yw llenwi bwlch a chreu deunydd ysgafn i roi mwynhad. Ei hoff awduron yw Henning Mankell a Ian Rankin.

Y Stori Dditectif

Page 19: Rhaglen Gŵyl Golwg

Ifan Morgan JonesNewyddiadurwr, darlithydd a nofelydd Cymraeg yw Ifan Morgan Jones sy’n enedigol o Waunfawr, Gwynedd, ond sydd bellach yn byw ym Mhenrhiwllan ger Llandysul.

Bu’n ohebydd a Dirprwy Olygydd ar gylchgrawn Golwg rhwng 2006 a 2009, cyn dod yn Olygydd Golwg360 hyd at Fedi 2011. Mae bellach yn ddarlithydd rhan amser yn adran Astudiaethau Creadigol a’r Cyfryngau Prifysgol Bangor.

Enillodd ei lyfr Igam Ogam, Wobr Goffa Daniel Owen yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd a’r Cylch 2008. Yn 2010 cyhoeddodd nofel dditectif hanesyddol Yr Argraff Gyntaf.

19

www.gwylgolwg.com

Richard Harrington yn Y Gwyll

Page 20: Rhaglen Gŵyl Golwg

20

Darlith Goffa Islwyn Ffowc ElisIslwyn Ffowc Elis yw un o’r nofelwyr Cymraeg mwyaf erioed.

I nodi ei gyfraniad arbennig i lenyddiaeth Gymraeg a Llanbedr Pont Steffan, ac i nodi deng mlynedd ers ei farwolaeth, mae Gŵyl Golwg yn falch iawn i sefydlu Darlith Goffa Islwyn Ffowc Elis. Hoffwn ddiolch yn fawr i’w deulu am eu cydweithrediad a’u cefnogaeth.

Roedd Gerwyn Wiliams yn gyfaill teuluol, ac yn gydweithiwr i Islwyn Ffowc ac ef fydd yn traddodi’r ddarlith goffa gynta’ dan y teitl ‘Cysgod y Ddraig’.

Cysgod y DdraigCysgod y Cryman, a gyhoeddwyd yn 1953, oedd nofel gyntaf Islwyn Ffowc Elis. Hanner can mlynedd yn ddiweddarach, roedd hi’n parhau mor boblogaidd ag erioed oherwydd dyma’r gyfrol a enwyd yn Llyfr y Ganrif gan ddarllenwyr Cymraeg yn 1999. Wrth galon y nofel honno mae gwrthdaro - rhwng yr hen a’r ifainc, rhwng y patriarch Edward Vaughan a’i fab gwrthryfelgar, Harri Vaughan.

Bydd y ddarlith hon yn symud y stori yn ei blaen i Gymru’r 1960au a’r gwrthdaro rhwng yr hen a’r ifanc a ganolodd o gwmpas brwydr yr iaith.

Dau o brif gymeriadau’r cyfnod oedd Cynan a Dafydd Iwan, y naill yn un o gynheiliaid tadol y sefydliad a’r llall yn un o arweinwyr mudiad protest Cymdeithas yr Iaith Gymraeg. Ac roedd y gwrthdaro rhwng y ddau yn nofelyddol o ddiddorol! Efallai fod Islwyn Ffowc Elis wedi ysgrifennu dilyniant swyddogol i Cysgod y Cryman sef Yn Ôl i Leifior yn 1956: dyma awgrym o nofel ddilynant amgen iddi o’r enw ‘Cysgod y Ddraig’.

Islwyn Ffowc ElisCafodd ei eni yn Wrecsam cyn symud i fferm y teulu yn Aberwiel. Aeth i Ysgol Gynradd Nantyr cyn mynd i Ysgol Uwchradd Llangollen ac wedyn i Goleg Prifysgol Cymru, Bangor.

Tra oedd yn weinidog gyda’r Methodistiaid Calfinaidd, enillodd y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol Llanrwst 1951, am gyfres o ysgrifau a gyhoeddwyd yn y gyfrol Cyn Oeri’r Gwaed. Cyhoeddodd ei nofel gyntaf Cysgod y Cryman yn 1953 - nofel a enillodd deitl ‘Llyfr y Ganrif’ ym 1999. Ysgrifennodd lwyth o nofelau eraill gan gynnwys Ffenestri Tua’r Gwyll, Yn Ôl i Leifior, Wythnos yng Nghymru Fydd.

Page 21: Rhaglen Gŵyl Golwg

Yn ogystal â nofelau, ysgrifennai ganeuon a sgriptiau radio a theledu. Ymhlith ei sgriptiau roedd Rhai yn Fugeiliaid (1962), sef y ddrama gyfres Gymraeg gyntaf ar y teledu.

Bu’n ddarlithydd ac yn Uwch-ddarlithydd yn Adran y Gymraeg yng Ngholeg y Drindod, Caerfyrddin (1963-1968) ac eto yng Ngholeg Prifysgol Dewi Sant, Llanbedr Pont Steffan (1975-1990).

Gerwyn WiliamsUn o Bwllheli yn wreiddiol ond a fu’n byw am gyfnod yn Llanbed. Graddiodd yn y Gymraeg ym Mhrifysgol Cymru, Aberystwyth. Ar ôl ennill

ei ddoethuriaeth, bu’n gweithio am gyfnod byr yn Is-olygydd i’r cylchgrawn misol Barn cyn cael ei benodi’n Ddarlithydd yn y Gymraeg ym Mhrifysgol Bangor yn 1989. Rhwng 1993 a 1999 bu’n golygu Taliesin, cylchgrawn yr Academi Gymreig, a rhwng 2005 a 2011 bu’n olygydd Ysgrifau Beirniadol.

Daeth i’r amlwg yn ifanc fel bardd: enillodd Fedal Lenyddiaeth yr Urdd gyda dau gasgliad o gerddi, Tynnu Gwaed (1983) a Colli Cyswllt (1984) a chyhoeddodd dair cyfrol arall o gerddi sef Rhwng y Cŵn a’r Brain (1988), Cydio’n Dynn (1997) a Tafarn Tawelwch (2003). Enillodd ei ddilyniant o gerddi ‘Dolenni’ y Goron yr Eisteddfod Genedlaethol Castell-Nedd 1994.

www.gwylgolwg.com

21

Page 22: Rhaglen Gŵyl Golwg

22

Golwg ar GolwgI nodi pen-blwydd cylchgrawn Golwg yn 25 oed dyma gyfle arbennig i weld un o newyddiadurwyr gorau ac amlycaf Cymru, Vaughan Roderick yn holi un o ... newyddiadurwyr gorau ac amlycaf Cymru, Dylan Iorwerth. Dyma gyfle i wrando sgwrs unigryw am hanes un o gylchgronau mwyaf llwyddiannus Cymru gyda sylfaenydd a Golygydd Gyfarwyddwr Golwg.

Vaughan RoderickNewyddiadurwr gwleidyddol Cymreig yw Vaughan Roderick a gafodd ei eni a’i fagu yng Nghaerdydd.

Mae’n olygydd Materion Cymreig y BBC, yn ohebydd ar raglen Newyddion ac yn gyflwynydd CF99 ar S4C. Mae hefyd yn cyflwyno’r rhaglen wleidyddol wythnosol O’r Bae ar BBC Radio Cymru a rhaglen sy’n rhoi adolygiad a rhagolwg cynhwysfawr o’r wythnos wleidyddol, The Sunday Supplement ar BBC Radio Wales.

Dylan IorwerthLlenor ac un o newyddiadurwyr mwyaf uchel ei barch Cymru. Cafodd ei eni yn Nolgellau cyn symud i Waunfawr pan oedd yn saith oed. Ar ôl astudio yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth bu’n gohebu i’r Wrexham Leader cyn ymuno ag Adran Newyddion BBC Radio Cymru. Gweithiodd am gyfnod fel gohebydd gwleidyddiaeth BBC Cymru yn Llundain. Roedd yn un o sylfaenwyr y papur Sul wythnosol byrhoedlog Sulyn, cyn helpu i sefydlu cylchgrawn Golwg 1988.

Mae Dylan wedi ennill y Goron Driphlyg ym myd llenyddiaeth drwy ennill y Gadair, y Goron a’r Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru. Enillodd y Goron yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Llanelli 2000, Y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol Eryri a’r Cyffiniau 2005 a’r Gadair yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Bro Morgannwg 2012. Gwnaethpwyd ef yn gymrawd er anrhydedd o Brifysgol Cymru Llanbedr Pont Steffan ym mis Mawrth 2010.24

golwg | mehefin 14 | 2012

[email protected] eich lluniau, straeon a sibrydion at

Enw: Vaughan RoderickEnw Twitter: @VaughanRoderickLleoliad: Caerdydd Gwaith: Newyddiadurwr BBCYn dilyn: 1,249Nifer y dilynwyr: 3,212Yn trydar ers: Mehefin 2009

“Dyw e ddim yn

wahanol iawn i’r hyn

roedden ni’n ei wneud

mewn ogofau deng mil o

flynyddoedd

yn ôl.”

Pa mor ddibynnol ydych chi ar

Twitter?Dw i’n ffodus iawn achos fy

mod i’n ddisgybledig, bod dim

iPhone na Mwyaren gyda fi ond

hen Nokia bach cyntefig o Oes y

Cerrig. Yr unig bryd dw i’n trydar

yw os ydw i wrth gyfrifiadur, naill

ai yn y gwaith neu adre. Dw i

ddim yn un o’r bobol yma sy’n

glwm i’r dechnoleg. Ro’n i yna

yn reit agos at y cychwyn, achos

i newyddiadurwyr mae Twitter

mor debyg i’r hyn rydyn ni’n ei

ddefnyddio bob dydd fel ffrwd

newyddion. Ro’n i’n ffeindio

ei fod yn siwtio fi yn well na

Facebook.

Sut ydych yn elwa ohono o ran

eich gwaith?

Dw i’n cael straeon ohono’n

gyson. Gawson ni stori

newyddion ynghylch Ysgol

Gartholwg gan rywbeth oedd

un o’r disgyblion yn ei drydar.

Cyfrif personol yw e, felly dw

i’n penderfynu ei ddefnyddio i

wthio fy rhaglenni i nid rhaglenni

pobol eraill! Dw i hefyd yn ei ddefnyddio i

rannu dolenni i straeon dw i’n eu

hystyried yn ddifyr. Yn aml iawn

mewn newyddiaduraeth, mae

stori yn sych iawn os nad ydych

chi’n ffeindio unigolyn, felly

rydych chi’n trydar ‘oes rhywun

yn nabod rhywun sy’n siarad

Cymraeg ac sy’n gwneud hyn

a’r llall?’ Mae wedi gwneud cael

gafael ar Gymry Cymraeg mewn

gwledydd tramor yn llawer haws.

A yw Twitter wedi newid

gwleidyddiaeth?

Yr hyn sy’n ddiddorol yw ei fod

wedi cyflymu’r cylch newyddion,

ynghlwm wrth bethau eraill.

Roedd yr esiampl o’r bobol yn

ymateb i olygyddion tudalen

flaen y Western Mail (ar gostau

cyfieithu yn y Cynulliad) lle’r oedd

ryw storom Awst wedi codi o fewn

munudau i’r peth arddangos ar

y wefan. O’r blaen efallai y buasai

yna gwyno, ond fyddai’r rheiny

ddim yn ymddangos fel llythyrau

yn y papur am ddyddiau wedyn.

Yn yr ystyr hynny, mae’n rym

democrataidd, yn gadael i bobol

ateb yn sydyn iawn.

Os oes yna ryw fath o critical

mass o gwyno neu alw am

rywbeth, mae’n gallu cael effaith.

Os oedd yna raglen â sgŵp, fuasen

i byth yn torri’r sgŵp yna ar Twitter.

Mater o farn yw e ar ddiwedd

y dydd, beth y’ch chi’n teimlo y

mae’n rhaid ei gadw yn ôl ar gyfer

rhaglenni. Os ydi rhywbeth yn cael

ei drydar gyda logo’r BBC, allwch

chi fod yn weddol saff ei fod yn wir.

Os yw rhywbeth yn cael ei drydar

gan Sioni Hoi o’r Rhondda sydd

ar ryw brotest, efallai ei fod yn wir,

efallai bod e ddim.

Pa mor ddidwyll ydych chi ar

Twitter?Does yna ddim twyll! Weithiau

dw i’n gorfod brathu ’nhafod.

Mae’n rhaid sicrhau nad oes

unrhyw duedd wleidyddol yn

cael ei gyfleu. Dw i’n awgrymu fy

marn ar ambell i beth.

Mae trydar yn gwneud i rywun

flogio yn llai aml. Mae Twitter

wedi newid pwrpas blogiau, i

fod yn bethau mwy meddylgar,

ystyrlon efallai.

Y gwahaniaeth yw bod y blog

yn Gymraeg tra fy mod i’n trydar

yn y ddwy iaith.

Pa drydarwyr ydych yn eu

hedmygu, a pham?

Dw i’n licio’r rhai sy’n trydar yn

ffraeth. Mae un, @mwydro, sy’n

ddoniol iawn. Dw i’n dilyn nifer

fawr o ffrydiau newyddion. A dw

i’n hoff iawn o’r ffug-ffrydiau sy’n

dod i fodolaeth o bryd i’w gilydd

- mae rhai ohonyn nhw’n uffernol

ond mae rhai yn gallu bod yn dda

iawn. Mae un da iawn oedd yn

dynwared John Walter Jones ar

un adeg, ond mae wedi dod i ben

erbyn hyn. Ond @EdwinaHartski

yw un o’r goreuon, sy’n seiliedig

ar Edwina Hart.

Pa rai sydd wedi’ch siomi, a

pham?Dw i’n dilyn dros fil o bobol, felly os

yw rhywun yn gythraul bach diflas,

mae’n cael diflannu o’r sgrin.

Ai hwb i’r ego yw Twitter?

Na. Mae yna elfen o hynny gan

fod rhywun yn cadw llygad ar

faint o bobol sy’n eich dilyn, ond

dw i’n meddwl ei fod e jest yn

ffordd o sgwrsio gan ddefnyddio

technoleg. Dyw e ddim yn

wahanol iawn i’r hyn roedden

ni’n ei wneud mewn ogofâu

deng mil o flynyddoedd yn ôl.

Llun: Emyr Young

@VaughanRoderick

Slaven Bilic – rheolwr Croatia

Twm Morys – golygydd Barddas

Alan Llwyd – cyn-olygydd cylchgrawn y beirdd am

amsar hir iawn iawn

Vicente del Bosque – rheolwr Sbaen

Chris Tarrant

“Pwy sydd eisiau bod yn filiwnydd?”

Ian Jones “Pum mlynedd efo S4C ac mi fydda i’n filiwnydd ta

beth Chris bach!”

Talcan ta ffrinj sy’n edrach fwya’ llengar

deudwch?

Robin Llywelyn

Gruffudd Antur

gwahanwyd yn y groth

Euro 2012 BONANZA!

Lembit i serennu yn y ffilm Adam

and The Asbos - The Movie

6

golwg | awst 16 | 2012bardd y gamp lawn

Mae enillydd Gwobr Goffa Daniel Owen eleni wedi rhoi ei wobr o £5,000 i fudiad iaith newydd Dyfodol yr Iaith. Mae Robat Gruffydd wedi bod yn gweithio’n wirfoddol i’r mudiad a fydd yn cynnal cyfarfod cyffredinol ddechrau’r hydref.

“Mae angen yr arian yn dost arnyn nhw. I gael clwb lobïo effeithiol, rhaid cyflogi pobol. Y syniad yw bod popeth sy’n mynd trwy’r Cynulliad yn cael eu harchwilio.”Yn ôl Robat Gruffudd mae angen rhoi sylw arbennig i’r maes cynllunio. “Mae’r gwleidyddion yn dangos lot o ddiddordeb yn Dyfodol, gan gynnwys rhai o’r Blaid Dorïaidd. Ond mae lot o’r gweision sifil yma yn dod o Loegr a does ganddyn nhw ddim syniad am Gymru. Maen nhw’n gosod targedau datblygu i’r siroedd sy’n hollol afrealistig ac wedi’u seilio ar y mewnlifiad. “Mae eisiau i broses gynllunio ystyried yr iaith. Dylai bod ceisiadau cynllunio yn ystyried effaith ieithyddol, yr un peth

ag effaith amgylcheddol. R’yn ni angen edrych ar dai cymdeithasol, ar bolisi pwyntiau a gwneud yn si[r eu bod yn ffafrio pobol leol.” Mae Dyfodol yn bwriadu paratoi cynllun iaith genedlaethol ar gyfer yr ugain mlynedd nesaf. “Ar hyn o bryd, mae gwaith y Comisiynydd ond yn ymwneud â statws. Mae statws yn amherthnasol. Beth sy’n bwysig yw iaith yn y gymuned, iaith mewn teulu, mewn byd pop, chwaraeon... rhaid i Dyfodol feddwl yn ehangach ac

yn fwy cynhwysfawr am yr iaith fel rhan o fywyd yn ei lawnder. “Dw i’n teimlo bod pethau heb symud mlaen – r’yn ni’n dal i frwydro’r frwydr ieithyddol fel petai’r Cynulliad ddim yn bod. Mae angen ers amser gorff lobïo sy’n dishgwl ar bethau sy’n digwydd yn y Cynulliad. Maen hwnnw’n rhywbeth dylai fod wedi’i sefydlu ers sbel yn ôl... ond gwell hwyr na hwyrach.”

Non Tudur

Roedd cerddi’r Gadair eleni ar y testun ‘Llanw’ yn “deyrnged” gan y Prifardd i’w dad, a fu farw ym mis

Chwefror eleni.Roedd ennill y Gadair yn

golygu bod y newyddiadurwr sy’n Olygydd Gyfarwyddwr cwmni Golwg wedi cyflawni’r gamp lawn eisteddfodol.

Enillodd Dylan Iorwerth y Goron yn 2000 am gerdd a oedd yn sôn am golli ffrind agos ac yn 2005 enillodd y Fedal Ryddiaith. Ar ôl ei fuddugoliaeth eleni datgelodd ei fod wedi dod yn ail yng nghystadleuaeth y Gadair y llynedd i’w nai, Rhys Iorwerth.

Enillodd Cadair Eisteddfod Bro Morgannwg am ddilyniant o gerddi yr oedd wedi’u sgrifennu dros gyfnod o chwe diwrnod mewn ffermdy wrth odre Cader Idris yn dilyn marwolaeth ei dad, Thomas Edward Jones.“Roedd ychydig bach o syniad o deyrnged achos roedd lot o bethau yn y cerddi yn bethau roeddwn i’n eu trafod yn aml efo ‘nhad,” meddai Dylan Iorwerth. “Roedd o’n licio sgwrsio am ystyr bywyd a’r pethau mawr yna.

“Yn sicr, pan fyddai’n mynd yn sgyrsiau adre, mi fyddai yn aml iawn, iawn yn troi at grefydd ac ystyr bywyd. Mae’n swnio’n ofnadwy o ddwys, ond roedd y pynciau yna wastad yn codi ac mae rhywfaint o hynny y tu cefn i’r cerddi.”Y môr a’r llanw yn y cerddi ydi esblygiad, meddai. “Os ydach chi’n edrych o safbwynt y môr, mae o’n bwyta i mewn i’r tir, mae o’n tynnu nôl ond drwy’r amser mae o’n dewis rhai pethau, yn cadw rhai pethau ac yn mynd ymhellach a dyna un ffordd o edrych ar esblygiad. Felly dyna sydd y tu cefn i’r peth.”

Roedd ei dad â’i fryd ar ymuno â’r Weinidogaeth, ond penderfynodd fynd yn filwr i’r rhyfel. “Roedd o wedi dechrau hyfforddi i fod yn weinidog ac wedyn mi aeth o i’r rhyfel, er ei fod yn heddychwr, yn y bôn. Ond roedd yn teimlo cyfrifoldeb os oedd pobol eraill yn mynd, y dylai yntau fynd.“Ddaru o ddim mynd yn

weinidog. Rydan ni’n amau ei fod yn teimlo annheilwng oherwydd ei fod o wedi mynd yn filwr. O ganlyniad, roedd yn holi fo’i hun am y pethau yma ar hyd ei oes, dw i’n meddwl.”Dywedodd Ieuan Wyn (a

oedd yn beirniadu ar y cyd â Mererid Hopwood a Huw Meirion Edwards) wrth Golwg ei fod yn credu fod y gogwydd ar y gobeithiol yn y cerddi yma: “Waeth ba is-thema sydd o fewn y brif thema, sef colledigaeth, mae bywyd ac adnewyddiad yma yn barhaus.”

Mae Dylan Iorwerth yn gobeithio bod y cerddi yn realistig yn hytrach nag yn obeithiol.

“Roedd fy nhad yn realistig achos roedd wedi paratoi pan fuodd o farw,” meddai. “Mi ddaru ddweud yn yr wythnosau olaf ei fod yn teimlo yn fwy ysbrydol nag oedd o wedi gwneud ers blynyddoedd, a’i fod o wedi dod i’r casgliad mai cariad ydi’r grym pwysicaf.”Mae un gerdd yn cyfleu hynna, meddai, sef yr un am ‘Eglwys Llandanwg’, sydd weithiau’n diflannu o dan y tywod ac wedyn yn cael ei chlirio eto.

“Roedd hynny ychydig bach fel teimladau fy nhad yn ei wythnosau olaf.”

Non Tudur

Trafod ystyr bywyd wrth y bwrdd bwyd

Cynllunio at ddyfodol y Gymraeg a Chymru

Angen creu Trefi Twf yng Nghymru “Mae’n rhaid i ni hefyd edrych ar beth allwn ni ei wneud i rwystro all-lifiad, hynny yw, creu swyddi a symud cwangos mas o Gaerdydd, ” meddai Robat Gruffudd, “Pam na all Caernarfon gael diwydiant teledu?

Mae datblygu Caernarfon fel lle Cymraeg yn un o’r pethau mwya’ pwysig y gall neb ei wneud. “Dw i’n licio’r syniad bod yna rai Trefi Twf Cymraeg ar gael lle mae yna ryw fath o gancr positif Cymreig, yn creu rhai pocedi o ddatblygiad economaidd Cymraeg mewn llefydd.”

Dylan Iorwerth

Coriolanus yn anfarwol

Howl Griff

Diddordeb arbennig

Lindsay Whittle

Cyfrol 24 | Rhif 49 | Awst 16 | 2012

Moon yn glanio yn y

gogledd

Agor drysau yn y Bae – cwmni

lobïo Nerys Evans

£1.50

Peilonau Pren

Powys

Y Gamp Lawn i’r dyn â’r ddawn

Y rapiwr o Rydaman

Page 23: Rhaglen Gŵyl Golwg

23

Hunangofiant Alff GarnantYn yr hydref bydd Dafydd Hywel, un o actorion mwyaf adnabyddus a gorau Cymru, yn cyhoeddi ei hunangofiant gyda gwasg Gomer. Mae Gŵyl Golwg yn falch iawn i gynnal sesiwn sgwrsio arbennig rhyngddo a chyd awdur y gyfrol, Alun Wyn Bevan, gan godi’r llen ar rai o straeon mwyaf difyr yr hunangofiant a thrafod rhai o achlysuron mwyaf cofiadwy ei fywyd diddorol a lliwgar.

Dafydd HywelActor o Ddyffryn Aman yw Dafydd Hywel. Mae wedi cael gyrfa lwyddiannus ar y sgrin a’r llwyfan. Mae wedi serennu ar raglenni teledu fel Stella, Indian Doctor, Y Pris, Pen Talar, Ar y Tracs, Tair Chwaer a llawer iawn mwy. Serennodd hefyd yn rhai o ffilmiau mwyaf cofiadwy’r iaith Gymraeg - Yr Alcoholig Llon, Rhosyn a Rhith, Milwr Bychan a Burton:Y Gyfrinach. Mae hefyd yn Brif Weithredwr Cwmni Mega.

Mae Hunangofiant Alff Garnant yn gyfrol gignoeth wrth i Dafydd Hywel rannu ei atgofion personol a phroffesiynol gyda ni o’i fagwraeth yng nghymuned dosbarth gweithiol y Garnant i gamu i’r llwyfan a’r sgrin. Daw ei eiriau o’r galon bob amser ac mae ganddo farn bendant ar nifer o bynciau gan gynnwys y celfyddydau, addysg Gymraeg, y pyllau glo, alcoholiaeth, rygbi a bocsio. Nid dyn i aros ar y ffens mohono ac ni fydd yn ofni dweud ei ddweud yn y sesiwn hon yng Ngŵyl Golwg.

Alun Wyn BevanMae Alun Wyn Bevan yn ddarlledwr a sylwebydd rygbi profiadol yn ogystal â bod yn gyn-ddyfarnwr rygbi. Daw’n wreiddiol o Frynaman ond mae’n byw yng Nghastell-nedd erbyn hyn. Mae wedi gweithio ym myd addysg ers dros ugain mlynedd ac ar hyn o bryd mae’n ymchwilydd/cynhyrchydd ar gyfer cwmni teledu Tinopolis yn Llanelli.

Mae’n awdur sydd wedi cyhoeddi ystod o lyfrau chwaraeon poblogaidd gan gynnwys Straeon o’r Strade, Grav yn ei Eiriau ei Hun ac Y Gemau Olympaidd a Champau’r Cymry. Mae hefyd yn gyfrannwr rheolaidd, a di flewyn ar dafod i gylchgrawn Golwg.

www.gwylgolwg.com

Page 24: Rhaglen Gŵyl Golwg

24

Kate Roberts oedd un o awduron mwyaf blaengar yr ugeinfed ganrif. Ymddangosodd ei chyfrol gyntaf o straeon byrion O Gors y Bryniau yn 1925, ond ei chyfrol o straeon byrion mwyaf llwyddiannus oedd Te yn y Grug yn 1959. Ei nofel fwyaf poblogaidd oedd Traed Mewn Cyffion (1936) sy’n adlewyrchu bywyd anodd teulu mewn ardal chwareli llechi.

Mae ei gwaith yn nodedig am gyfoeth ei hiaith ac am ei chanfyddiad. Mae rôl menywod mewn cymdeithas, syniadau blaengar am fywyd a chariad yn themâu pwysig yn ei gwaith.

Go brin fod yr un gyfrol Gymraeg diweddar wedi ysgogi’r fath drafod a dadlau â Kate: Cofiant Kate Roberts 1891-1985 a gyhoeddwyd gan Alan Llwyd yn 2011. Dyma’r astudiaeth fwyaf trylwyr erioed o fywyd a gwaith Kate Roberts ac mae’n datgelu canfyddiadau newydd ymhlith papurau personol Kate Roberts.

Portreadu Kate: Datgelu’r cyfan etoDyma gyfle arbennig i wrando ar sgwrs gydag awdur y gyfrol bwysig yma am Frenhines ein Llên dan arweiniad gohebydd celfyddydau Golwg, Non Tudur. Bydd Non yn holi Alan Llwyd ymhellach am rai o ganfyddiadau mwyaf diddorol ei gyfrol a bydd cyfrannwr gwâdd arall yn rhan o’r sgwrs’ ar ddiwedd y frawddeg yma?.

Alan LlwydBardd, beirniad llenyddol a golygydd yw Alan Llwyd. Fe’i ganed yn Nolgellau a derbyniodd addysg ym Mhrifysgol Bangor.

Cyhoeddodd ei gyfrol gyntaf o gerddi Y March Hud yn 1971. Llwyddodd Alan Llwyd i ennill y Gadair a’r Goron yn Eisteddfod Genedlaethol 1973 ac ailadrodd y gamp yn Eisteddfod Genedlaethol 1976.

Mae wedi cyhoeddi casgliadau ac astudiaethau ar waith beirdd eraill gan gynnwys Goronwy Owen a Hedd Wyn. Ysgrifennodd y sgript ffilm Hedd Wyn a enwebwyd am Oscar i ffilm yn 1992. Yn ogystal â’i gofiant i Kate Roberts, ei gyhoeddiad mwya’ diweddar yw Bob:Cofiant R.Williams Parry.

Page 25: Rhaglen Gŵyl Golwg

25

Blas ar Blasu“Roedd y blas yn dal yn fyw ar fy nhafod a daeth atgofion eraill yn ôl ata i’n sydyn, pob un yn gysylltiedig â blas (…)”

Ail nofel i oedolion Manon Steffan Ros, Blasu, heb os oedd un o uchafbwyntiau llenyddiaeth ffuglen Gymraeg yn 2013. Mae’n nofel afaelgar a phwerus sy’n taclo themâu mawr, a’r cyfan yn troelli o amgylch un cymeriad cofiadwy, Pegi.

Mae Gŵyl Golwg yn hynod falch i groesawu un o awduron ifanc mwyaf cyffrous Cymru i drafod y nofel a gipiodd deitl categori ffuglen Llyfr y Flwyddyn 2013.

Manon Steffan RosAwdures a dramodydd yw Manon Steffan Ros o Bennel, Bro Dysynni. Ganwyd Manon yn ferch ieuangaf i’r cerddor Steave Eaves, a’i magu yn Rhiwlas, Dyffryn Ogwen.

Enillodd y Fedal Ddrama ddwy flynedd yn olynol yn 2005 a 2006, ac enillodd ei nofelau Trwy’r Tonnau a Prism wobr Tir Na N’Og yn 2010 a 2012. Cipiodd wobr Barn y Bobl yn seremoni Llyfr y Flwyddyn 2010 am ei nofel Fel Aderyn ac enillodd ei nofel Blasu gategori ffuglen Llyfr y Flwyddyn 2013.

www.gwylgolwg.com

Page 26: Rhaglen Gŵyl Golwg

26

hysbysA5_selar.indd 1 31/07/2013 23:05

Page 27: Rhaglen Gŵyl Golwg

12:00 Kizzy Crawford13:00 Siddi14:00 Fflur Dafydd15:00 Casi Wyn16:00 Dyddiau Ankst 17:00 Gildas18:30 Dewi Pws a Radwm

27

hysbysA5_selar.indd 1 31/07/2013 23:05

AmserlenY Babell Roc

www.gwylgolwg.com

Page 28: Rhaglen Gŵyl Golwg

28

Casi WynMae Casi Wyn yn un o sêr diweddaraf y sîn Gymraeg, gyda’i llais unigryw eisoes wedi hudo cynulleidfaoedd ar draws Cymru a thu hwnt.

Yn wreiddiol o Fangor, mae’n byw yn Llundain ar hyn o bryd ac wedi cyhoeddi ei EP cyntaf, 1, ym mis Ebrill 2013. Mae’r casgliad wedi cael ymateb gwych ac mae ei llais traddodiadol ond ffres, wedi llwyddo i swyno’r gwrandawyr yn llwyr.

Cafodd y cyfle i chwarae yng Ngŵyl Sŵn y llynedd ac roedd ei pherfformiad ar raglen Yn Fyw o Acapela ar S4C yn un cofiadwy tu hwnt.

SiddiBrawd a chwaer o Lanuwchllyn yw aelodau Siddi - sef Osian a Branwen. Cyhoeddwyd eu halbwm cyntaf ‘Un Tro’, sef casgliad o ganeuon gwerin ddechrau’r flwyddyn. Mae’r albwm yn un cysyniadol sy’n seiliedig ar stori dylwyth teg o Gwm Cynllwyd yng Ngwynedd. Bu’r ddau’n gweithio ar yr albwm naw trac ers tua dwy flynedd, wedi iddyn nhw ddod ar draws y stori dylwyth teg sydd wedi ei defnyddio yn stori gefnlen i’r albwm.

Mae Osian yn aelod o Candelas, a’r ddau yn aelodau o Gowbois Rhos Botwnnog. Dymabrosiect cerddorol hyfryd dros ben.

Page 29: Rhaglen Gŵyl Golwg

29

www.gwylgolwg.com

Page 30: Rhaglen Gŵyl Golwg

Kizzy CrawfordCantores a chyfansoddwraig 17 mlwydd oed o Ferthyr Tydfil yw Kizzy Crawford. Er bod ei theulu o Rydychen a Barbados, magwyd Kizzy yn Aberaeron ac mae hi’n angerddol iawn am y Gymraeg a’r diwylliant Cymreig.

Ei huchelgais fel artist Cymraeg du, yw gadael ei marc drwy gyfuno canu gwerin a ffync yn ddwyieithog ac mae ei cherddoriaeth yn cael ei chwarae’n aml ar BBC Radio Wales, Radio Cymru yn ogystal â pherfformiadau byw ar S4C.

Yn ddiweddar, enillodd Kizzy gystadleuaeth the Merthyr & RCT Singer-Songwriter a derbyniodd wobr ariannol i recordio gydag Amy Wadge.

30

Fflur DafyddYn wreiddiol o Landysul, dechreuodd Fflur Dafydd ei gyrfa gerddorol fel aelod o’r grŵp Johnny Panic, a newidiodd eu henw’n ddiweddarach i Y Panics. Daeth y band i ben yn 2004, ond yn ystod haf 2005 penderfynodd Fflur fentro i’r llwyfan gyda’i gitâr a’i chyfaill Rhys James, i berfformio dan ei henw ei hun.

Erbyn diwedd 2005 roedd Fflur wedi cyhoeddi ei halbwm cyntaf, Coch am Weddill fy Oes, a gafodd dderbyniad gwresog. Dilynodd Un Ffordd Mas yn 2007 gan ddangos datblygiad mawr i’r sŵn ynghyd ag aeddfedrwydd a hyder amlwg.

Yn Nhachwedd 2009 cyhoeddwyd yr albwm cysyniadol, Byd Bach ac ym mis Mehefin llynedd cyhoeddwyd ei phedwerydd albwm sef Ffydd, Gobaith, Cariad.

Mae cysylltiad teuluol cryf rhwng Fflur a Golwg - roedd ei thad, Wynfford James, yn un o’r ffigurau allweddol wrth sefydlu’r cwmni a’i mam, y bardd Menna Elfyn, yn un o banel ymgynghorol y cylchgrawn yn y dyddiau cynnar.

Page 31: Rhaglen Gŵyl Golwg

31

www.gwylgolwg.com

Page 32: Rhaglen Gŵyl Golwg

AnkstYn 1988, roedd cerddoriaeth pop Cymraeg yn gyfyngedig i gorau meibion a thelynau. Felly penderfynodd dau fyfyriwr o Brifysgol Cymru, Aberystwyth - Alun Llwyd a Gruffudd Jones - ffurfio partneriaeth a chafodd Ankst ei greu.

Pan sefydlodd Ankst fel busnes llawn amser a symud i lawr i Gaerdydd, ymunodd Emyr Glyn Williams yn y bartneriaeth. Roedden nhw’n gyfrifol am gyhoeddi deunydd rhai o brif enwau cerddoriaeth Gymraeg fel Steve Eaves, Geraint Jarman, Llwybr Llaethog, Super Furry Animals a Gorky’s Zygotic Mynci.

Rhwng 1988 a 1997, cyhoeddodd y label tua 80 record cyn chwalu mewn i ddau gwmni ar wahân ym 1997. Roedd Ankst Management yn cael ei redeg gan Alun Llwyd a Gruffudd Jones ac yn gyfrifol am Melys, Super Furry Animals, Gorky’s Zygotic Mynci, Los Campesinos!, The Longcut ac, am gyfnod, Cerys Matthews.

Roedd Ankst yn gwbl ganolog i symudiad ‘Cŵl Cymru’ ar ddiwedd y Mileniwm felly, ac mae eu dylanwad ar y sin Gymraeg wedi bod yn enfawr. I nodi chwarter canrif ers ffurfio Ankst, bydd Toni Schiavone yn holi un o sylfaenwyr y cwmni, Alun Llwyd, am eu profiadau gan fynd o dan groen rhai o’r hanesion mwyaf difyr.

32

10 record orau Ankst*

Y GwefrauY Gwefrau (1989)

Y CyrffLlawenydd heb Ddiwedd (1990)

Ty GwydrReu (1990)

Steve EavesCroendenau (1992)

‘Ffa Coffi PawbHei Vidal (1992)

DatblyguLibertino (1993)

Aml-gyfrannogAp Elvis (1993)

Super Furry Animals – Llanfairpwllgwyngyll.... (in space) (1995)

Gorkys Zygotic MynciBwyd Time (1995)

TopperArch Noa EP (1997)

*yn ôl cylchgrawn Y Selar, Awst 2013

Page 33: Rhaglen Gŵyl Golwg

33

www.gwylgolwg.com

Page 34: Rhaglen Gŵyl Golwg

GildasGildas ydi prosiect unigol Arwel Lloyd Owen, sy’n dod yn wreiddiol o Lansannan yng Nghonwy. Dechreuodd ei yrfa gerddorol yn brif gitarydd Al Lewis Band, ac mae wedi bod yn rhan allweddol o lwyddiant y grŵp hwnnw dros y blynyddoedd diwethaf.

Yn fwy diweddar dechreuodd gyfansoddi dan yr enw Gildas, a cyhoeddodd albwm hyfryd – Nos Da yn 2010. Cyhoeddodd Gildas ei ail albwm, Sgwennu Stori, ddechrau mis Gorffennaf eleni gan deithio dros yr haf i hyrwyddo’i albwm newydd.

Mae’r enw Gildas er cof am fynach Cymreig oedd o gwmpas yn y 6ed ganrif oedd yn teithio cryn dipyn, gan gofnodi llawer o hanes y dydd wrth fynd ar ei hynt.

Mae sŵn unigryw cerddoriaeth Gildas yn ei wneud yn un o artistiaid mwyaf diddorol Cymru ar hyn o bryd - yn gymysgedd acwstig ac electronig wedi’i dylanwadu gan gerddoriaeth thema cartwnau!

Dewi Pws a RadwmMae Dewi Pws yn ddyn amryddawn sy’n byw yn Nhresaith. Mae’n enwog am fod yn aelod o grwpiau megis Y Tebot Piws ac Edward H Dafis, ond yn fwy diweddar mae wedi bod yn teithio’r wlad i berfformio gyda’r grŵp Radwm.

Band traddodiadol gwerinol yw Radwm sy’n canu a rhoi stamp ei hun ar rai o ganeuon mwyaf adnabyddus Cymru fel Sosban Fach a Lleucu Llwyd. Band tri aelod ydyn nhw gyda Del yn brif leisydd ac ar yr acordion, Helen ar y ffidil, a Joe ar yr offerynnau taro.

Lle bynnag yr aiff Dewi Pws a Radwm, mae digon o hwyl i’w gael a bydd eu perfformiad yn un addas iawn i gloi Gŵyl Golwg.

Mae gan Del hefyd gysylltiad anuniongyrchol â Golwg – roedd ei thad Dic Jones yn golofnydd meistrolgar yn y cylchgrawn o’r dechrau am bron ugain mlynedd.

34

Page 35: Rhaglen Gŵyl Golwg

35

www.gwylgolwg.com

Page 36: Rhaglen Gŵyl Golwg

Y Gwyll

9.3029 Hydref

Cyfres ddrama iasol gyda

Richard Harrington yn chwarae

rhan DCI Tom Mathias - ditectif

greddfol ac eithriadol sy’n

aflonyddu cyfrinachau’r

gorffennol ac yn mynnu

cyfiawnder.

s4c.co.uk

Y Plas8.3015 MediSut fyddai bywyd mewn plasty

Cymreig crand ym 1910? Cawn

flas ar y cyfnod wrth i deulu

ac unigolion symud i Blas

Llanerchaeron i fyw, i weithio

ac i hamddena fel y bonedd

a’r gweithlu.

s4c.co.uk

Yn yr hydref

A5_Portrait.indd 1 30/07/2013 14:14

Page 37: Rhaglen Gŵyl Golwg

37

10.30–11.00 Sioe Fach Wcw gyda Pili Pala a Rwdlan11.30–12.00 Dona Direidi12.30–1.00 Rwdlan Efo Pensel gydag Angharad Tomos (gweithdy ysgrifennu a thynnu llun)

2.00–2.30 Sioe Fach Wcw gyda Pili Pala a Rwdlan3.00–3.30 Dona Direidi4.00–4.30 Rwdlan Efo Pensel gydag Angharad Tomos (gweithdy ysgrifennu a thynnu llun)

Trwy gydol y dydd:Sgiliau SyrcasKariad Y ClownPaentio WynebauCystadleuaeth Arlunio / CrefftStondin Nwyddau Nyth WcwSali Mali A Superted

GweithgareddauPlant Gwyl Golwg

www.gwylgolwg.com

Page 38: Rhaglen Gŵyl Golwg

38

Gweithgareddau PlantMae Gŵyl Golwg yn ŵyl deuluol, ac mae ‘na lu o weithgareddau wedi’u trefnu ar gyfer y plant - rhywbeth at ddant pawb.

Dona DireidiBydd Dona Direidi - cymeriad hoffus Cyw ac Wcw a’i Ffrindiau yn ymweld â ni i sgwrsio, canu, rapio a dawnsio

Wcw a Swyn yr ArddBydd cyfle hefyd i weld sioe lwyfan boblogaidd Wcw a deithiodd Gymru nôl ym mis Ebrill eleni. Bydd fersiwn llai o’r sioe Wcw a Swyn yr Ardd gydag Wcw, Pili Pala a Rwdlan yn cael ei pherfformio fore a phrynhawn Sadwrn yn Neuadd y Celfyddydau

Kariad y ClownDewch i weld Kariad y Clown a’i sioe Hud a Lledrith hyfryd - bydd Kariad yn crwydro’r Ŵyl yn rhannu’u chyfrinachau hudol â chi

Sgiliau SyrcasSesiynau Sgiliau Syrcas trwy gydol y dydd - cyfle i droi eich llaw at jyglo, troi platiau a nifer o sgiliau anghyffredin eraill

Page 39: Rhaglen Gŵyl Golwg

39

Celf a chrefftDewch i liwio llun neu greu campwaith celf yng nghystadleuaeth Nyth Wcw - gwobrau arbennig i’w hennill

Ffrindiau WcwAc wrth gwrs bydd nifer o ffrindiau Wcw ar hyd y blynyddoedd - Sali Mali, Superted ac eraill yn galw heibio i ddweud helo!

Dewch yn llu am ddiwrnod llawn hwyl a sbri - bydd rhywbeth i bawb yng Ngŵyl Golwg eleni!

Rwdlan efo penselBydd Angharad Tomos yn ymweld â ni hefyd ac yn cyflwyno gweithdy llun a stori i gyd-fynd a chyfres boblogaidd Rwdlan sy’n dathlu ei phen-blwydd yn 30 oed eleni ac sy’n rhan o gylchgrawn Wcw a’i Ffrindiau o’r dechrau.

www.gwylgolwg.com

Page 40: Rhaglen Gŵyl Golwg

allan rwan!

stori am ddim!

Dewch i ddarllen a gwrando ar anturiaethau Rwdlan a’i ffrindiau

Ap addysgiadol sy’n hybu llythrennedd, rhifedd a chreadigrwydd

Ap newydd sbon ar gyfer yr iPad

Llond lle o straeon, posau a

chystadlaethau bob mis

Anrhegion cyson ar y

clawr

Dim ond £1.25 y mis! Ar werth mewn

siopau lleol ar draws Cymru.

Os na allwch ei weld, gofynnwch!

Cylchgrawn bob mis i blant CymruAwst 2013 Rhif 203 £1.25

cyhoeddiad

Dewch i’r traeth

a’i ffrindiaua’i ffrindiaua’i ffrindiaua’i ffrindiaua’i ffrindiaua’i ffrindiau

Ac oes nad oes siop yn gyfleus, gallwch archebu drwy’r post - 01570 423 529 neu e-bostiwch - [email protected]

Page 41: Rhaglen Gŵyl Golwg

41

www.gwylgolwg.com

Page 42: Rhaglen Gŵyl Golwg

42

C

yngh

rair

Med

dalw

edd

Cym

ru

Mae technoleg yn newid y byd busnes yng Nghymru yn gyflym - diolch i gwmnïau TG arloesol sy'n defnyddio talentau lleol, a busnesau o bob math yn canfod ffyrdd newydd clyfar o weithio. Mae Cynghrair Meddalwedd Cymru yn cefnogi cam nesaf y twf technegol drwy roi sylw i drawstoriad o anghenion oddi mewn ac oddi allan i'r sector TG.

Mae ein holl weithgareddau wedi'u dyfeisio i greu Cymru newydd sy'n canolbwyntio ar TG, ble mae cwmnïau ym mhob rhanbarth yn rhwydweithio, yn dysgu ar y cyd ac yn rhannu arferion gorau. Mae hyn ar ffurf pedwar ffrwd prosiect unigryw, gyda chyllid ar gael i fusnesau yn Ardaloedd Cydgyfeirio Cymru.

Hyfforddiant ar gyfer Gweithwyr TG Proffesiynol Rydym yn galw hyn yn CPD, neu Ddatblygiad Proffesiynol Parhaus. Wrth i dechnoleg newid o ddydd i ddydd, mae yna bob amser sgiliau newydd i'w dysgu. Ond gyda ni, chi sy'n creu'r agenda - rhowch wybod i ni yr hyn sydd angen i chi ei ddysgu, ac fe edrychwn ni ar beth yw eich dewisiadau o ran hyfforddiant.

Gweithdai Busnes TG Mae angen sgiliau TG ar bobl nad ydyn nhw'n bobl TG. Felly mae ein sesiynau gweithdy yn cyflwyno ochr haws ei defnyddio a llai technegol TG. Byddwn yn edrych ar dechnolegau newydd ac yn chwalu'r mythau, er mwyn i chi ddiweddaru eich arferion gwaith heb foddi.

Prosiectau Myfyrwyr ar gyfer Busnesau Mae angen arbenigedd ar fusnesau, ac mae angen profiad ar fyfyrwyr. Felly rydyn ni'n dod â'r ddau ynghyd, ac mae pawb yn ennill. Gall cwmnïau lleol fanteisio ar sgiliau myfyriwr Cyfrifiadureg yn ei flwyddyn olaf i ddatrys problem busnes neu i fynd ar drywydd cyfle.

Ardystiad Cwmni TG Mae gan y rhan fwyaf o gwmnïau TG ardystiedig broffil busnes uchel, yn ogystal â hygrededd a all arwain at gyfleoedd newydd yn gyflym. Ond dim ond un ochr yw hynny. Mae rhaglen ardystio Accredit UK sy'n canolbwyntio ar TG yn treiddio'n ddwfn i'ch busnes, gan arwain at ffyrdd o weithio mwy effeithlon a mwy proffidiol.

_________________________________________

Wnaethon ni sôn? Pan fyddwch chi'n gweithio gyda ni, byddwch yn manteisio ar arbenigedd blaengar ein Prifysgolion sy'n bartneriaid: Abertawe, Bangor, Morgannwg, Aberystwyth a'r Drindod Dewi Sant. Mae llawer o waith ymchwil yn cael ei wneud yng Nghymru, a dyma'r llwybr cyflymaf at y syniadau diweddaraf a dulliau sydd wedi'u profi.

Eisiau gwybod mwy? E-bost: [email protected]

Page 43: Rhaglen Gŵyl Golwg

12:00 Beth sy’n app-elio13:00 Saethu ffilm gyda dyfeisiadau symudol gydag Emma Meese14:00 Dyfodol lleol?15:00 Blog i bôb un gydag Elliw Gwawr16:00 Trydar mewn Trawiadau gyda Llion Jones17:00 Lledaenu lliwgar: hyrwyddo cerddoriaeth yn ddigidol

AmserlenY Cwmwl

43

www.gwylgolwg.com

Page 44: Rhaglen Gŵyl Golwg

44

Sesiynau digidol Gwyl GolwgMae Gŵyl Golwg yn gyfle i edrych nôl ar 25 mlynedd o gyhoeddi cynnwys o safon trwy gyfrwng y Gymraeg, ond mae hefyd yn gyfle i edrych tua’r dyfodol.

Bydd sesiynau digidol amrywiol Y Cwmwl yn canolbwyntio ar themâu sy’n ymwneud â chynhyrchu cynnwys Cymraeg yn ddigidol, a’i ledaenu’n effeithiol er mwyn cyrraedd cynulleidfa eang a newydd.

Y Cwmwl

Page 45: Rhaglen Gŵyl Golwg

45

Beth sy’n app-elioMae’r diwydiant apps dyfeisiadau symudol wedi tyfu’n gyflym ac yn werth biliynau o bunnoedd bob blwyddyn erbyn hyn – amcangyfrifir y bydd y diwydiant yn werth tua £47 biliwn yn 2013.

Y newyddion da ydy fod nifer o apps Cymraeg wedi ymddangos ac yn dal i ymddangos yn rheolaidd ar y farchnad. Er hynny, mae cwestiynau’n codi ynglŷn â llwyddiant y rhain, ac a oes modd creu diwydiant apps cynaliadwy a phroffidiol yn y Gymraeg.

Bydd y sesiwn banel yma’n trafod sut mae creu app Cymraeg llwyddiannus, a sut mae mesur y llwyddiant hwnnw. Ar y panel bydd Chris Price sydd wedi datblygu 4 app i ddysgu Cymraeg sydd wedi profi llwyddiant masnachol, ac Osian Evans o gwmni Moilin oedd yn gyfrifol am apps newydd Eisteddfod yr Urdd a’r Sioe Frenhinol eleni. Gareth Morlais, sy’n arbenigwr y Gymraeg,

technoleg a’r cyfryngau digidol gyda Llywodraeth Cymru fydd

yn llywio’r drafodaeth.

Chris Price Mae Chris Price yn arwain y tîm Cynghrair Meddalwedd Cymru yn Aberystwyth – maent wedi hyfforddi dros 200 o gwmnïau Cymreig mewn rhaglennu iPhone, rhaglennu Android, gweithredu gwefannau symudol a thechnoleg cysylltiedig. Mae wedi datblygu nifer o apps ei hun gan gynnwys 4 app ar gyfer dysgu Cymraeg sydd wedi eu lawr lwytho 60,000 o weithiau.

Osian EvansOsian Evans ydy perchennog cwmni asiantaeth rhyngweithiol Moilin Cyf a ffurfiwyd yn 2012. Cyn hynny bu’n ddatblygwr meddalwedd a rheolwr prosiectau technegol i’r BBC, yn ogystal â bod yn arweinydd tîm datblygwyr technegol gyda Tinopolis Cyf.

Datblygodd Moilin app Eisteddfod yr Urdd eleni a phrofi llwyddiant ysgubol gan gyrraedd siart 30 uchaf categori adloniant AppStore Apple diolch i 11,000 lawr lwythiad mewn 10 diwrnod.

www.gwylgolwg.com

Page 46: Rhaglen Gŵyl Golwg

46

Diolch i ddatblygiad dyfeisiadau symudol, mae creu cynnwys ffilm o safon uchel wedi dod yn hawdd i bron â bod unrhyw un.

Yn y sesiwn yma bydd Emma Meese yn cynnal gweithdy i roi arweiniad ynglŷn â sut i saethu ffilm yn effeithiol gyda dyfais symudol.

Emma MeeseBu Emma Meese yn Ysgol Gyfun Y Strade cyn graddio ym Mhrifysgol Morgannwg. Dechreuodd ei gyrfa fel newyddiadurwraig print cyn symud i fyd darlledu gan dreulio bron i ddegawd yn gwneud rhaglenni teledu ar gyfer y BBC. Mae’n newyddiadurwr llawn cymhelliant, gyda phymtheg mlynedd o brofiad, ac mae’n angerddol iawn am gyfryngau cymdeithasol.

Yn rhinwedd ei swydd yn Gynhyrchydd Cyfryngau Cymdeithasol sefydlodd Emma nifer o brif gyfrifon cyfryngau

cymdeithasol ar gyfer BBC Cymru ac mae’n hyfforddwr ar gyfer Coleg Newyddiaduraeth y BBC ac Academi BBC yn Llundain.

Mae bellach yn datblygu a rheoli Canolfan Newyddiaduraeth Gymunedol Prifysgol Caerdydd - cyfuniad unigryw o ymchwil ac ymarfer wedi ymrwymo i ddatblygu rhwydwaith gref o newyddiaduraeth lleol a chymunedol yng Nghymru.

Ffilmio gyda dyfeisiadau symudol ...gydag Emma Meese

Page 47: Rhaglen Gŵyl Golwg

47

Sara MoseleyAr hyn o bryd mae Sara ar secondiad o Lywodraeth Cymru yn Ysgol Newyddiaduraeth Prifysgol Caerdydd. Yno mae’n gweithio ar nifer o fentrau newydd gan gynnwys sefydlu Canolfan ar gyfer Newyddiaduraeth Gymunedol.

Dylan LewisMae Dylan yn gadeirydd ar bapur bro Llanbedr Pont Steffan a’r Fro, Clonc. Mae Clonc yn un o’r papurau bro mwyaf blaengar, ac yn gwneud defnydd cynyddol o’r we a’r cyfryngau cymdeithasol.

Dylan IorwerthMae Dylan Iorwerth yn Olygydd Gyfarwyddwr Golwg, ac yn gyfarwyddwr ar wasanaeth Golwg360 o’r dechrau cyntaf, ac mae’r gwasanaeth wedi bod yn ceisio ffeindio model lleol addas ers hynny yn y gobaith o sefydlu rhwydwaith genedlaethol.

Blog i bôb un...gydag Elliw GwawrYn wreiddiol o Ddolgellau, mae Elliw Gwawr yn ohebydd seneddol gyda’r BBC sydd bellach yn byw yn Llundain.

Ers dechrau 2011 mae Elliw wedi bod yn blogio am ei diddordeb mawr, sef pobi ar flog ‘Paned a Chacen’. Mewn dim amser roedd Paned a Chacen yn un o ‘r blogiau Cymraeg mwyaf llwyddiannus, a gyda hynny daeth cyfle i ysgrifennu cyfrol o ryseitiau gyda gwasg Y Lolfa. Cyhoeddwyd ei llyfr coginio, sy’n rhannu enw’r blog, ym mis Hydref 2012. Credir mai hwn yw’r llyfr Cymraeg cyntaf yn benodol am bobi, ac mae’n weddol saff mai dyma un o’r cyfrolau cyntaf i ddatblygu o flog Cymraeg.

Yn y sesiwn yma yng Ngŵyl Golwg bydd Elliw yn adrodd hanes sut yr aeth ati i greu’r blog yn y lle cyntaf, a’i ddatblygu wedi hynny gan thrafod rhinweddau’r cyfrwng blogio a blogio yn y Gymraeg yn benodol.

Dyfodol lleol?Mae’r we wedi gwneud niche yn boblogaidd – mae’n dod â phobol sydd â diddordebau tebyg i gysylltiad â’i gilydd ac yn creu cymunedau digidol. Ond beth am y cymunedau traddodiadol? Ydy’r chwyldro digidol yn fygythiad i gymunedau daearyddol, a thrwy hynny i’r iaith Gymraeg?

Bydd y sgwrs banel yma’n trafod potensial sefydlu rhwydwaith newyddion lleol iawn trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae’r panel o dri’n cynnwys Dylan Lewis; Sara Moseley, a Dylan Iorwerth.

www.gwylgolwg.com

Page 48: Rhaglen Gŵyl Golwg

Heb os, Twitter ydy ffenomena mwyaf y byd cyhoeddi digidol dros y blynyddoedd diwethaf. Mae wedi datblygu i fod yn declyn poblogaidd tu hwnt, ac yn arf pwerus iawn i’r sawl sy’n ei ddefnyddio’n effeithiol.

Mae cyfyngu eich hun i 140 o nodau wrth drydar yn gallu bod yn ddigon o gamp ynddo’i hun ar adegau. Doedd hyn ddim yn ddigon o her i Llion Jones, wrth iddo benderfynu trydar mewn cynghanedd yn unig.

Cyhoeddwyd cyfrol yn cynnwys detholiad o’i drydar cynganeddol dros y tair blynedd ddiwethaf gan Gyhoeddiadau Barddas yn Nhachwedd 2012. Cafodd y gyfrol ei henwi ar restr fer Llyfr y Flwyddyn, ac ennill teitl ‘Barn y Bobl’ mewn pleidlais gyhoeddus ar wefan Golwg360.

Brodor o Abergele sy’n byw bellach ym Mhenrhosgarnedd yw Llion Jones. Mynychodd Ysgol Uwchradd Glan Clwyd cyn graddio ym Mhrifysgol Cymru, Aberystwyth. Prifardd cadeiriol Eisteddfod Genedlaethol Llanelli a’r Cylch 2000 a sylfaenydd a golygydd gwefan farddoniaeth Yr Annedd.

Mae’n aelod o dîm Talwrn y Beirdd Caernarfon ac yn Gyfarwyddwr Canolfan Bedwyr ym Mhrifysgol Bangor.

Trydar mewn Trawiadau....yng nghwmni Llion Jones

48

Page 49: Rhaglen Gŵyl Golwg

49

Mae Meic Parry yn byw yng Nghaerdydd ac wedi gweithio yn y cyfryngau rhai blynyddoedd. Dechreuodd yn ymchwilydd gwe i’r BBC cyn mynd ymlaen i fod yn ymchwilydd a chynhyrchydd radio gyda Radio Cymru. Mae wedi bod yn aelod o nifer o grwpiau amlwg gan gynnwys y Dipsomaniacs, Winebego ac Y Ffyrc ac yn DJ poblogaidd.

Yn 2011 sefydlodd label recordiau newydd sef ‘Recordiau Lliwgar’ gyda dau o’i gyfeillion, Gruff Pritchard ac Osian Edwards. Cyhoeddwyd Y Record Goch gan y label yng Ngorffennaf 2011 a dilynodd Y Record Las yn Ebrill eleni. Cafodd Meic hwyl arbennig o dda ar hyrwyddo’r Record Las yn ddigidol, ac wrth ddefnyddio un o draciau’r record, ‘Celwydd’ gan Ifan Dafydd ac Alys Williams. Diolch i waith caled Meic, mae ‘Celwydd’ wedi denu’n agos at 200,000 o wrandawiadau ar wefan Soundcloud.

Bydd sesiwn Meic P yn edrych nôl ar lwyddiant hyrwyddo digidol Y Record Las, ac yn trafod rhai o’r technegau hyrwyddo a ddefnyddiwyd a sut i fonitro llwyddiant. Byddwn hefyd yn gofyn a oes modd i labeli a cherddorion Cymraeg eraill efelychu Recodiau Lliwgar i gyrraedd cynulleidfa ehangach.

Bydd cyfranwyr gwadd yn ymuno â’r drafodaeth yma.

Lledaenu lliwgar – hyrwyddo cerddoriaeth yn ddigidol... gyda Meic ‘P’ Parry

www.gwylgolwg.com

Page 50: Rhaglen Gŵyl Golwg

50

Y Fro DdigidolYng Ngŵyl Golwg eleni, mae ardal ‘ Y Fro Ddigidol’ yn gyfle i weld beth sydd ar gael, a beth allai fod ar gael yn ddigidol yn y Gymraeg.

Rydym yn falch iawn i gydweithio â phrosiect CEMAS (Canolfan Rhagoriaeth Gwasanaethau Rhaglenni Symudol) ym Mhrifysgol De Cymru i lwyfannu arddangosfa apps Cymraeg – dewch draw i weld beth sydd allan yna yn y Gymraeg ar ddyfeisiadau symudol.

Bydd swyddogion CEMAS yn y Fro i gynnig sesiynau cynghori ‘un i un’ ar gyfer unrhyw gwmnïau bach neu ganolig sy’n awyddus i ddatblygu app newydd.

Rydym hefyd yn falch iawn i groesawu criw Wicipedia Cymraeg i’r Fro Ddigidol yng Ngŵyl Golwg. Bydd y criw yn cynnal gweithdai i ddangos sut mae cyfrannu erthyglau yn y Gymraeg i’r encyclopedia ar-lein.

Wicipedia CymraegGall unrhyw berson ychwanegu gwybodaeth at Wicipedia, ac mae gwneud hynny’n hawdd iawn! Does dim angen mewngofnodi hyd yn oed! Mae tua 140 o olygyddion Cymraeg yn gwneud hynny’n rheolaidd ers blynyddoedd, gan gadw golwg barcud ar eirwiredd y wefan. Ychwanegir ffynhonnell yr wybodaeth at bob erthygl, bellach, a cheisir ei chadw mor niwtral â phosibl. Eleni rydym yn dathlu fod gennym 50,000 o erthyglau a’n pen-blwydd yn 10 oed!

Dyna pam y tyfodd Wicipedia Cymraeg i fod yn hynod o boblogaidd ar gyfer disgyblion ysgol a myfyrwyr - cawn tua 2.4 miliwn o dudalennau’n cael eu hagor pob mis - swm aruthrol!

Cafwyd arian gan y Llywodraeth yn ddiweddar i hyfforddi pobl ar sut i olygu Wicipedia. Mae llawer o gymdeithasau Cymraeg, ysgolion, cwmnïau a chyrff Cymraeg yn deall y pŵer aruthrol sydd gan y teulu Wici - y 5ed wefan fwyaf ar y blaned - ac yn awyddus i roi gwybodaeth amdanynt ar Wicipedia.

Dewch draw i’r Fro Ddigidol yng Ngŵyl Golwg i weld pa mor rhwydd ydy cyhoeddi ar Wicipedia.

Page 51: Rhaglen Gŵyl Golwg

51

Arddangosfa apps CymraegMae nifer o apps Cymraeg ar y farchnad, a diolch i gydweithrediad CEMAS mae modd i Ŵyl Golwg gynnal arddangosfa apps Cymraeg yn Y Fro Ddigidol.

Dewch draw i’r Fro i weld pa apps Cymraeg sydd ar gael, yn ogystal â rhoi tro ar ddefnyddio rhai ohonynt ar ein llechi.

Cyngor apps 1-i-1Rhedeg busnes bach neu ganolig? Eisiau datblygu app ar gyfer eich cwmni? Dyma’r lle i chi!

Bydd criw CEMAS (Canolfan Rhagoriaeth Gwasanaethau Rhaglenni Symudol) o Brifysgol De Cymru yn Y Fro Ddigidol i drafod eich syniadau apps newydd.

Mae CEMAS yn cefnogi busnesau cymwys yng Nghymru i leihau’r risg cychwynnol sy’n gysylltiedig â datblygu apps a gwasanaethau symudol newydd trwy gynllun datblygu wedi’i gyllido. Mae’r cynllun cefnogi’n anelu at ddod â’r diwydiant digidol i bob sector o’r economi Cymreig, ac mae CEMAS yn rhoi cymorth i gwmniau gyda datblygu, cynllunio, profi a lansio cynnyrch newydd.

Am fwy o wybodaeth am y cynllun cysylltwch â [email protected] , ffonio 01443 654265 ymweld â’r wefan www.cemas.mobi

www.gwylgolwg.com

Mae CEMAS wedi bod o gymorth mawr i Golwg wrth ddatblygu ap Golwg, ac yn arbennig ein app newydd i blant bach ap wcw: rwdlan.

Page 52: Rhaglen Gŵyl Golwg

52

Gweithdai celf i blantBydd cyfle i blant gael blas ar gelf amrywiol yng Ngŵyl Golwg eleni diolch i weithdai arbennig dan ofal staff a myfyrwyr Adran Gelf a Dylunio Prifysgol y Drindod Dewi Sant.

Mae croeso i blant o bob oed ddod draw i’r Gweithdy i brofi eu hochr artistig a chyfrannu at arddangosfa Gŵyl Golwg fydd yn datblygu’n raddol yn ystod y dydd.

Y Gweithdy

Page 53: Rhaglen Gŵyl Golwg

53

Gwenllian BeynonMae Gwenllian Beynon yn ymarferydd creadigol ac yn argraffydd sy’n defnyddio egwyddorion amlddisgyblaeth gan gynnwys 2D, 3D, dylunio, theatr, prosesau traddodiadol, anhraddodiadol ac yn ymdrechu i weithio mewn modd cynaliadwy gan leihau’r risg i’r amgylchedd.

Ers graddio â gradd Meistr gan Ysgol Celf Wimbledon yn 1996 bu Gwenllian yn artist llawrydd a hwylusydd gweithdai gan ysbrydoli creadigrwydd mewn eraill.

Mae Gwenllian yn aelod gweithgar a bywiog o’r tîm academaidd ac mae’n Uwch Ddarlithydd trwy’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

Iwan BalaMae Iwan Bala yn artist, awdur a darlithydd sydd wedi arddangos yn eang yng Nghymru ac yn rhyngwladol. Mae wedi cyhoeddi nifer o lyfrau ar gelf gyfoes yng Nghymru, gan gynnwys Hon, Ynys y Galon (Gomer) 2007.

Enillodd Fedal Aur yr Eisteddfod Genedlaethol yn 1997. Mae wedi gweithio’n ymgynghorydd celfyddydol ac i’r corff celf gyhoeddus Cywaith Cymru yn ogystal ag ysgrifennu a chyflwyno i’r teledu. Mae’n uwch ddarlithydd sydd yn cyfrannu at raglenni BA ac MA ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant. Prif thema ei waith yw ei ymdriniaeth o hunaniaeth ddiwylliannol.

Peter FinnemoreArlunydd yw Peter Finnemore sy’n gweithio ar draws y celfyddydau cain gan gynnwys ffotograffiaeth, ffilm , perfformio, gosodiadau, ysgrifennu a churadu. Cafodd ei arddangosfa fawr gyntaf yn y New Contemporaries yn ICA Llundain (1984). Ers hynny mae wedi arddangos yn genedlaethol ac yn rhyngwladol, a chynrychioli Cymru yn y 51fed Biennale Fenis yn 2007.

Cyflwyniad i staff Adran Gelf a Dylunio Prifysgol y Drindod Dewi Sant

www.gwylgolwg.com

Page 54: Rhaglen Gŵyl Golwg

Ein dymuniadau gorau i gyd

i Golwgar ddathluei 25 oed

Cynhyrchwyr Llyfrau, Cylchgronau, Taflenni ac argraffwyr Golwg ers y cychwyn, hefyd

argraffwyr Wcw a Lingo

Holwch am bris neu galwch i mewn

Argraffwyr CambrianLlanbadarn FawrAberystwythSY23 3TN01970 [email protected]

Untitled-2.indd 1 22/07/2013 11:32

54

Mae ei weithiau cyhoeddedig o bwys yn cynnwys Gwendraeth House (Ffotogallery, 2000) a Zen Gardener (Oriel Mostyn, 2004). Mae’n Uwch Ddarlithydd yn Ysgol y Celfyddydau Creadigol ac yn Athro Gwadd mewn Ffotograffiaeth ym Mhrifysgol Derby.

BA Celf a Dylunio – Prifysgol y Drindod Dewi SantMae’r radd gyffrous hon yn eich galluogi i astudio’r celfyddydau creadigol trwy gyfrwng yr iaith Gymraeg ac i gyfathrebu yn y Gymraeg gyda’r tiwtoriaid a’ch cyd-fyfyrwyr. Y BA Celf a Dylunio yw’r unig gwrs o’i fath yng Nghymru sydd yn eich caniatáu i edrych ar ddiwylliannau gweledol creadigol Cymru o fewn y cyd-destun rhyngwladol yn yr iaith Gymraeg.

Cewch gyfle i ddatblygu eich sgiliau ymarferol mewn gwaith 2D a 3D, prosesau digidol, delweddau llonydd a symudol ac mewn celf gain, crefft a dylunio. Yn sail i’r broses greadigol ymarferol, byddwch yn meithrin gwybodaeth hanesyddol a damcaniaethol, syniadau rhyngwladol, dealltwriaeth o gelf a dylunio cyfoes yn ogystal â phwysigrwydd y diwylliant gweledol.

Cynigi’r radd hon ystod eang a chyffrous o fodiwlau i fyfyrwyr o fewn amgylchedd cefnogol a heriol yn greadigol. Caniatâ hyn i chi ddatblygu eich sgiliau creadigol personol mewn celf a dylunio trwy gyfrwng y Gymraeg.

Manylion pellach: Gwenllian Beynon - [email protected] / 01267 676611

Delwedd: Ar y Tu Fas -Monoprint wedi ei liwio a llaw (Gwenllian Beynon)

54 – Hysbyseb Cambrian Printers

Page 55: Rhaglen Gŵyl Golwg

Ein dymuniadau gorau i gyd

i Golwgar ddathluei 25 oed

Cynhyrchwyr Llyfrau, Cylchgronau, Taflenni ac argraffwyr Golwg ers y cychwyn, hefyd

argraffwyr Wcw a Lingo

Holwch am bris neu galwch i mewn

Argraffwyr CambrianLlanbadarn FawrAberystwythSY23 3TN01970 [email protected]

Untitled-2.indd 1 22/07/2013 11:32

55

55 – Hysbyseb Cambrian Printers

Page 56: Rhaglen Gŵyl Golwg

56

Weithiau, mae llun da yn gallu dweud stori’n well na mil o eiriau.

Mae llun yn hanfodol i’r wasg wrth geisio creu darlun cyflawn o rywbeth. Mae hynny wedi bod yn wir iawn ym mhrofiad Golwg a dros y blynyddoedd mae cannoedd, os nad miloedd o luniau cofiadwy wedi ymddangos rhwng cloriau’r cylchgrawn.

Daeth y syniad felly i ddathlu gwaith y ffotograffwyr sydd wedi cyfrannu’n gyson i gylchgrawn Golwg dros y chwarter canrif diwethaf. A sut orau i wneud hynny? Wel, trwy gynnal pleidlais gyhoeddus i ddewis ‘llun mwyaf eiconig’ pump ar hunain mlynedd Golwg.

Mae naw o ffotograffwyr wedi’i gwahodd i ddewis lluniau ganddynt sydd wedi ymddangos yn Golwg, i fod yn rhan o’r bleidlais.

Agorwyd y bleidlais ar ddydd Iau yr Eisteddfod Genedlaethol yn Ninbych, ac mae modd i unrhyw un weld y lluniau a phleidleisio dros eu ffefryn o’r detholiad trwy fynd i wefan yr ŵyl - www.gwylgolwg.com

Llun eiconig Golwg 25 - pleidlais ac arddangosfa

Bydd y bleidlais yn cau ar ddydd Iau 5 Medi, a’r enillydd yn cael ei gyhoeddi yn ystod dydd Sadwrn yr ŵyl ddeuddydd yn ddiweddarach.

Byddwn yn arddangos y lluniau sydd ar restr hir y bleidlais yn yr ŵyl – peidiwch colli’r cyfle yma i edrych nôl dros rai o luniau mwyaf eiconig Cymru o’r chwarter canrif diwethaf.

Page 57: Rhaglen Gŵyl Golwg

57

Marchnad Gwyl Golwg

www.gwylgolwg.com

Yn ogystal â sesiynau, gweithdai a pherfformiadau celfyddydol amrywiol mae Gŵyl Golwg yn rhoi cyfle i chi gael blas ar bob math o gynnyrch Cymreig yn ein marchnad eleni.

Wedi eu gwasgaru o amgylch safle’r ŵyl bydd amrywiaeth o stondinau gan grefftwyr, cynhyrchwyr bwyd a busnesau bychain eraill yn lleol a chenedlaethol. Dewis eang o fwydydd, nwyddau i’r cartref, gemwaith, dillad a chrefftau Cymreig i’w prynu.

Bydd cyfle i chi brynu llyfrau’r amryw bobl sy’n cymryd rhan yn yr ŵyl hefyd, gyda sesiynau arwyddo arbennig yn cael eu cynnal gan Siop Smotyn Du ar ôl y sesiynau perthnasol.

Page 58: Rhaglen Gŵyl Golwg

‘Does dim angen i chi boeni‘Rydym yn gwasanaethu Cymru

Codi’r ffôn a dewis radioByddwn ninnau yn ei phostio

Ffôn: 01570 422055Ebost: [email protected]

Dymuniadau gorau ar y dathliadau ac i ddyfodol Golwg

Ffasiynnau merched

10 Stryd Fawr,

Llanbedr Pont Steffan, SA48 7BG

Ffo^ n: 01570 422855

Melin Mark Lane MillLlanbedr Pont Steffan/LampeterCeredigion SA48 7AG

Tel: 01570 422540 Fax: 01570 423644www.wdlewis.co.uk

Hefyd yn/Also at:Broneb StoresPumsaint, Llanwrda

Tel: 01558 650215

• Llety• Bwyd wedi’i goginio gartref• Digwyddiadau a dathliadau• Cynhadleddau • Priodasau

Llanwnnen, Llanbedr Pont Steffan, SA48 7JT

Cysylltwch â Siriol a Susan EvansFfôn 01570 480476

Symudol: 07813 753661ebost [email protected]

J H ROBERTS A’I FEIBION

Radios dela’r byd

gan Roberts

7 Stryd Fawr, Llanbedr Pont SteffanSefydlwyd 1937 Lambi’s

Y Grannell

L

Page 59: Rhaglen Gŵyl Golwg

Arbenigwyr mewn China a Gwydr

Bargeinion cau’r siopOherwydd ymddeoliad

Un o’r arwerthiannau mwyaf erioed o wydr a china yng

Nghymru

Gostyngiadau anferth ar yr holl stoc

Llestri – Crisial – Anrhegion

Crown Stores, 34/35 Stryd Fawr, Llanbedr Pont Steffan SA48 7BB

Ffôn 01570 422488

Trysor Llambed Trysor Caerfyrddin3 Ffordd y Coleg 56 Stryd y BreninLlanbedr Pont Steffan Caerfyrddin01570 423707 01267 222500

www.trysorjewellery.co.uk

Llety ar gael ar y campws ar benwythnos Gŵyl Golwg

Gwely & Brecwast am

£36

Prifysgol y Drindod Dewi Sant – Campws Llanbed

Cysylltwch â Rhiannon Mercer am fwy o wybodaeth neu archebu lle

01570 424956 / [email protected]

Page 60: Rhaglen Gŵyl Golwg

Dulux & LeylandPaint mixing

machines in storeMake your

own colours

Create your own space,everyone is an individual

Visit our new website

www.aaadecoratingcentre.co.uk

Open 6 days a week

3 Bridge Street,Lampeter,SA48 7HG

01570 423 156

Over 1500different wallpaperpatterns in stockCompare our prices

with the larger superstores - You may

be pleasantly surprised!

PA3079390

Dulux & LeylandPaint mixing

machines in storeMake your

own colours

Create your own space,everyone is an individual

Visit our new website

www.aaadecoratingcentre.co.uk

Open 6 days a week

3 Bridge Street,Lampeter,SA48 7HG

01570 423 156

Over 1500different wallpaperpatterns in stockCompare our prices

with the larger superstores - You may

be pleasantly surprised!

PA3079390

Dulux & LeylandPaint mixing

machines in storeMake your

own colours

Create your own space,everyone is an individual

Visit our new website

www.aaadecoratingcentre.co.uk

Open 6 days a week

3 Bridge Street,Lampeter,SA48 7HG

01570 423 156

Over 1500different wallpaperpatterns in stockCompare our prices

with the larger superstores - You may

be pleasantly surprised!

PA3079390

Pan yn y drePan yn y dreStryd Fawr,

Llanbedr Pont Steffan SA48 7BQ– beth am baned o de

Mark LaneHeol y bont

Bara heb ei ailFfôn: 422420

PobyddionCa�

Pan yn y drePan yn y dre– beth am baned o de– beth am baned o de– beth am baned o de

PobyddionCa�

Mark LaneMark LaneHeol y bont

Mark LaneHeol y bont

Mark LaneHeol y bont

Mark LaneHeol y bont

Bwydlen Lawn Gyda’r NosBwrdd yn dangos cynigion arbennig

Carferi 12.00pm – 2.00pm O ddydd Mawrth i ddydd Gwener

(dim ar y Sadwrn)Carferi Cinio Dydd Sul

• Gwely a Brecwast• Gwasanaeth Wifi am ddim

• Pob ystafell yn en suite• Cyfl eusterau Te a Choffi

F fôn : 01570 422554

Mwy na 1500 o wahanol batrymau papur wal mewn stoc.

Cymharwch ein prisiau gyda’r archfarchnadoedd mwy – efallai y cewch

chi syndod braf!

Peiriannau cymysgu paent Dulux a Leyland yn y siop

Gwnewch eich lliwiau eich hun

Crêwch eich lle eich hun, mae pawb yn unigolyn

Yn agored 6 diwrnod yr

wythnos

3 Stryd y Bont,Llanbedr Pont Steffan01570 423156

Ewch i weld ein gwefan newydd

www.aaadecoratingcentre.co.uk

Peiriannau cymysgu paent Dulux a Leyland yn y siop

Page 61: Rhaglen Gŵyl Golwg

61www.cemas.mobi

Mae CEMAS yn frwdfrydig iawn dros

greu ac ymelwa ag ED newydd, yn

sylfaenol syniadau newydd sydd

wedi eu dylunio, eu hadeiladu,

a’u rhyddhau yng Nghymru trwy

ddefnydd TGCh symudol.

Nod ein Rhaglen Gymorth yw i

gyflwyno’r economi ddigidol i bob

un o’r sectorau eraill yn yr economi

Yn hybu twf busnesaubach trwy ddatblygu apiau argyfer dyfeisiadau symudol

Gymreig drwy ein rhaglen gymorth wedi’i ariannu, sy’n lleihau’r risg sy’n gysylltiedig gyda datblygu a rhyddhau ED newydd drwy apiau symudol.

Os oes ganddoch syniad ar gyfer creu ap, cysylltwch â CEMAS i ddarganfod sut y gallwn fod o gymorth i chi.

Ebost: [email protected] Ffôn: 01443 654265

Page 62: Rhaglen Gŵyl Golwg

SprintLlanbadarn Fawr

Aberystwyth. SY23 3TNTel: 01970 613036

[email protected]

Llongyfarchiadau i Golwg ar gyrraedd ei 25ain oed

Argraffwyr Digidol:

Cardiau BusnesPosteriTaflenniPapur pennawd a chyfarchPamfflediNiferoedd bychan o lyfrau

Untitled-2.indd 2 22/07/2013 11:32

Page 63: Rhaglen Gŵyl Golwg

Ers 25 mlynedd, mae sgiliau amrywiol staff Golwg wedi bod ar gael i gwsmeriaid o bob rhan o Gymru a thu hwnt.

Cylchgronau cyfan a phapurau newyddion, atodiadau, taflenni, datganiadau, hysbysebion a deunydd dylunio ... mae’r cyfan wedi llifo o’r swyddfa yn Llanbed.

A, bellach, mae ein harbenigedd ar gael ar gyfer gwneud defnydd o’r cyfryngau newydd a thechnoleg ddigidol.

Prisiau rhesymol, gofal a gwasanaeth a syniadau newydd.

Cysylltwch gydag Enid Jones, Cyfarwyddwr Busnes Golwg, ar 01570 423529 neu [email protected]

At eich gwasanaeth chithau ...

Gwasanaethau

Golwg

Page 64: Rhaglen Gŵyl Golwg

64

64 – Hysbyseb Prifysgol y Drindod Dewi Sant

Y Drindod Dewi Sant... Y Lle CymraegY prif le ar gyfer cyrsiau prifysgol trwy gyfrwng y Gymraeg• Profiad dysgu personol• Campysau, bach, gwyrdd• Lleoliad gwych • Nifer o ysgoloriaethau ar gael drwy’r Brifysgol

Graddau Israddedig:BA Addysg Awyr AgoredBA Addysg GorfforolBA Addysg Gynradd gyda SACBA Astudiaethau Addysg GynraddBA Celf a DylunioBA Cerddoriaeth BA Crefydd a ChymdeithasBA Y Cyfryngau CreadigolBA Cynhwysiant CymdeithasolBA Fframwaith Arfer ProffesiynolBA Gwaith Ieuenctid a ChymunedBA Perfformio BA Plentyndod CynnarBA Rheolaeth Busnes

Bydd yn rhan o’r bwrlwm!…facebook.com/drindoddewisant

twitter.com/drindoddewisant

0300 500 1822 www.ydds.ac.uk