rhaglen gŵyl golwg 2014

32
CAMPWS PRIFYSGOL CYMRU Y DRINDOD DEWI SANT, LLANBED CLWB RYGBI LLANBED NEUADD FICTORIA, LLANBED MEDI 12-14 2014 RHAGLEN SWYDDOGOL

Upload: golwg-cyf

Post on 02-Apr-2016

271 views

Category:

Documents


0 download

DESCRIPTION

Rhaglen Gŵyl Golwg 2014 gan gynnwys amserlenni'r holl sesiynau, a manylion pawb sy'n cymryd rhan.

TRANSCRIPT

Page 1: Rhaglen Gŵyl Golwg 2014

CAMPWS PRIFYSGOL CYMRU Y DRINDOD

DEWI SANT, LLANBED

CLWB RYGBI

LLANBED

NEUADD FICTORIA, LLANBED

MEDI 12-14

2014

rhaglEnswyDDogol

Page 2: Rhaglen Gŵyl Golwg 2014

golwgam £85 y flwyddyn a bydd eich enw yn mynd i’r het am gyfle i ennill y print hardd hwn wedi’i fframio

Tanysgrifiwch i gylchgrawn wythnosol

S o a r y M y n y d d – Wynne Melville JoneS CofiwCh mae pawb

sy’n prynu tanysgrifiad blwyddyn i’r cylchgrawn yn cael blwyddyn o ap GolwG am ddim hefyd!

Am fwy o wybodaeth am y cynnig hwn, cysylltwch â

[email protected] 423529

Digwyddiad unwaith yn unig oedd Gŵyl Golwg i fod. Digwyddiad i nodi pen-blwydd cylchgrawn Golwg yn 25 oed ym Medi 2013. Ond,

cymaint oedd llwyddiant yr ŵyl yn Llanbed llynedd, a’r galw i ni ei chynnal yn rheolaidd, penderfynwyd gwneud hynny eto eleni.

Bydd yr ŵyl unwaith eto’n cynnwys amrywiaeth o sesiynau a gweithgareddau celfyddydol Cymraeg, o sgyrsiau llenyddiaeth i sesiynau cerddorol, comedi i drafodaethau digidol ac wrth gwrs digon o weithgareddau i’r plant. Mae marchnad Gŵyl Golwg wedi tyfu eleni, gyda mwy fyth o le i gynnyrch Cymreig, ac mae rhagor o sesiynau penodol i’r rhai sy’n dysgu Cymraeg fireinio eu sgiliau.

Fel mae’r cylchgrawn Golwg wedi gwneud erioed, mae’r ŵyl yn rhoi llwyfan i amrywiaeth eang o’r celfyddydau mwyaf cyfoes ... ac er nad oes carreg filltir fawr i Golwg eleni, mae ambell elfen hiraethus wedi’u plethu i’r arlwy unwaith eto.

Campws Prifysgol Llanbed ydy prif leoliad yr ŵyl unwaith eto eleni, ond rydym yn ymestyn ei ffiniau i leoliadau yng nghanol y dref – Clwb Rygbi Llanbed a Neuadd Fictoria yn benodol.

Mae crynodeb o arlwy Gŵyl Golwg i’w canfod rhwng cloriau’r rhaglen hon, ac rydym yn mawr obeithio eich gweld chi oll yno.

– Gair o GroesoGŵyl GolwG

Page 3: Rhaglen Gŵyl Golwg 2014

3@gwylgolwg

4 Cynllun Safle

6 Golwg Go whith

8 Cyngerdd Gŵyl Golwg

11 Stafell Sgwrsio

15 Sesiynau lingo Newydd

19 y Babell Roc

23 y Cwmwl

27 Nyth wcw

31 y Fro Ddigidol

ToCynnau Gŵyl GolwGGolwG Go whiTh (nos Wener 12 Medi) - £8

CynGerdd Gŵyl GolwG (nos Sadwrn 13 Medi) - £10

Gŵyl GolwG (dydd Sul 14 Medi) £6 (oedolion) / £3 (13-18 oed) / AM DDIM (plant dan 13)

Cynnwys

Rhaglen Gŵyl Golwg 2014

arChEBwCh nawr% 01570 423 529 [email protected]

gwylgolwg.com/tocynnau

CYNGERDD GŴYL GOLWG

www.gwylg

olwg.c

om

MEDI 13

NEUADD FICTORIA, LLANBED £10

MED

I 13

MED

I 13

NO

S SA

DW

RN

8:0

0

NO

S SA

DW

RN

8:0

0

CYNG

ERDD

GŴYL

GOL

WG

CYNG

ERDD

GŴYL

GOL

WG

NOS SADWRN 8:00

2014

SUL GŴYL GOLWG

www.gwylg

olwg.c

om

MEDI 14

£6

MED

I 14

MED

I 14

DY

DD

SU

L

10:0

0 T

AN

19:

00

DY

DD

SU

L

10:0

0 T

AN

19:

00

SUL

GŴYL

GOL

WG

SUL

GŴYL

GOL

WG

DYDD SUL 10:00 – 19:00

2014

OEDOLYN

CAMPWS PRIFYSGOL CYMRU

Y DRINDOD DEWI SANT, LLANBED

‘GOLWG GO WHITH’

www.gwylg

olwg.c

om

MEDI 12

CLW

B RYGBI LLANBED £8

MED

I 12

MED

I 12

NO

S W

ENER

7:3

0

NO

S W

ENER

7:3

0

‘GOL

WG

GO

WHI

TH’

‘GOL

WG

GO

WHI

TH’

NOS WENER 7:30

2014

Page 4: Rhaglen Gŵyl Golwg 2014

Marchnad Gŵyl

Golwg

y Babell

roc

lolfa lingo

newydd

Bwyd

Mynedfa

Cynllun

saflECampws Prifysgol

llanbed

Adeilad y Celfyddydau

Page 5: Rhaglen Gŵyl Golwg 2014

Stafell sgwrsio

y Cwmwlac y fro ddigidol

nyth wcw

Page 6: Rhaglen Gŵyl Golwg 2014

6 gwylgolwg.com

Golwg Go whith

Clwb Rygbi Llanbed Nos wener 12 Medi 7:30 £8

Bydd ‘Golwg go whith’ yn dychwelyd i’r ŵyl eleni yng nghwmni rhai o ddiddanwyr mwyaf poblogaidd Cymru! Gary Slaymaker fydd nôl wrth y llyw unwaith eto, yn cadw rhywfaint o drefn ar ein gwesteion wrth iddo gyflwyno cwis panel ysgafn a fydd yn trin a thrafod materion doniol a chyfoes ein byd. Yn sicr bydd ‘na ddigon o dynnu coes a chwerthin yng nghanol giamocs Gary a’r criw!

Ifan GruffyddMae Ifan Gruffydd yn un o ddiddanwyr mwyaf amryddawn a hirhoedlog Cymru ac wedi mwynhau gyrfa lewyrchus gyda deg cyfres o’i raglen Ma’ Ifan ‘Ma wedi eu darlledu ar S4C. Mae bron 29 mlynedd ers i’r gyfres hon ymddangos ar y teledu gyntaf. Ffermio yw ei briod waith, a hynny ar gyrion Tregaron ond mae’n cyfaddef fod jôcs yn talu’n well iddo na’r defaid! Mae hefyd wedi ysgrifennu sawl cyfrol o lyfrau megis Hiwmor Ifan Tregaron a Pwy faga ddefed?

Ifan Jones EvansMae Ifan Jones Evans yn gyflwynydd teledu a radio, a hefyd yn ffermio ar y fferm deuluol ym Mhontrhydygroes, ger Tregaron. Bu’n dilyn cwrs Theatr Cerdd a’r Cyfryngau yng Ngholeg y Drindod Caerfyrddin ac mae wedi datblygu gyrfa ym myd teledu a radio ers hynny. Mae wedi cyflwyno amrywiaeth o raglenni poblogaidd ar S4C fel Rasus, y Porthmon, y Goets Fawr ac y Sipsiwn. Mae Ifan hefyd yn llais cyfarwydd ar C2 BBC Radio Cymru ar ei rhaglen wythnosol gyda’r hwyr bob nos Fawrth. Mae’n chwarae pêl-droed i CPD Bont.

Gary SlaymakerDaw Gary Slaymaker o bentref Cwmann, ger Llanbedr Pont Steffan, ac aeth i’r ysgol uwchradd yn y dref. Aeth ymlaen i astudio yng Ngholeg Normal Bangor cyn symud i fyw yng Nghaerdydd. Mae bellach yn un o gomedïwyr a chyflwynwyr amlycaf Cymru ac wedi bod yn cyflwyno rhaglenni i Radio Cymru a S4C, gan gynnwys rhaglen ei hun oedd yn adolygu ffilmiau, Slaymaker. Mae’n parhau i gyflwyno rhaglenni ar y radio ac yn perfformio comedi stand-yp mewn lleoliadau ar draws Cymru a thu hwnt.

Mae’r noson yn de-bygol o gynnwys iaith gref, goch… ac o bosib

ymddygiad anwed-dus. Anaddas i bobl o dan 16 oed.

Rhybudd

Page 7: Rhaglen Gŵyl Golwg 2014

7@gwylgolwg

Gillian ElisaActores, digrifwraig a chantores yw Gillian Elisa – dynes sydd â thalentau di-ben-draw! Magwyd yn Llanbedr Pont Steffan, cyn mynychu Coleg Cerdd a Drama Cymru yng Nghaerdydd. Caiff ei hadnabod fel Sabrina ar opera sebon Pobol y Cwm, rôl y mae wedi’i chwarae ers y saithdegau, mae hefyd yn enwog am y cymeriad Mrs OTT ar raglenni Noson lawen. Yn ogystal â’r teledu, mae wedi perfformio ar lwyfannau mawr ar draws y wlad gan gynnwys Gŵyl Caeredin a’r West End yn Llundain. Mae ar hyn o bryd yn chwarae rhan Grandma yn y sioe gerdd, Billy Elliot.

Mari LovgreenMae Mari Lovgreen yn gyflwynydd teledu amryddawn ac wedi cael gyrfa lwyddiannus ers iddi ymddangos ar raglen Uned 5 am y tro cyntaf yn 2004. O Gaernarfon mae’n dod yn wreiddiol a bu’n astudio cwrs ymarfer dysgu ym Mhrifysgol Aberystwyth. Mae bellach wedi ymgartrefu gyda’i gŵr ar ei fferm yn Llanerfyl, ger Llanfair Caereinion. Mae Mari Lovgreen wedi cyflwyno sawl rhaglen ar S4C gan gynnwys waaa!!!, y Briodas Fawr, Noson lawen a darllediadau S4C o’r Eisteddfod Genedlaethol ac Eisteddfod yr Urdd. Yn ogystal â chyflwyno, mae Mari yn athrawes ysgol gynradd yn Llangadfan.

TommoDaw ‘Sŵn mawr y prynhawn’ ar Radio Cymru o Aberteifi, lle mae’n dal i fyw gyda’i wraig a’i fab. Mae Tommo wedi bod yn DJ am y rhan fwyaf ei fywyd. Symudodd i Majorca yn 18 oed am ddwy flynedd i fod yn DJ llawn amser – dewis gyrfa grêt i lanc deunaw oed yn ei ôl ef! Ers hynny, mae wedi bod yn llais cyfarwydd ers blynyddoedd ar Radio Ceredigion a Radio Sir Benfro. Yn 2008, cafodd Tommo gynnig i fod yn gyhoeddwr cyn gemau y Sgarlets, swydd mae’n dal i fwynhau gwneud nawr. Bellach, mae ganddo raglen ei hun o Ddydd Llun i Ddydd Iau, rhwng 2 a 5 ar BBC Radio Cymru.

Iwan JohnUn o Fynachlog-ddu, Sir Benfro yw Iwan John ond mae e bellach yn byw gyda’i wraig a’i blant ym Mridyll, ger Aberteifi. Mae’n wyneb cyfarwydd ar y teledu gan iddo ymddangos mewn sawl cyfres i blant fel Noc Noc, Hotel Eddie, y Rhaglen wirion ‘Na a’r gyfres sgetsus Mawr! Mae ei bortreadau sbŵff o fenywod fel Kath ‘nage Mark ni nath e’ Jones a’i gymeriad Cheryl yn y ffilm Beryl, Meryl a Cheryl wedi tyfu i fod yn gymeriadau adnabyddus i’r genedl i gyd. Mae hefyd wedi ymddangos mewn nifer o raglenwni teledu eraill gan gynnwys Tair Chwaer, y Pris, Gig-l a Caryl. Actor da sydd o hyd yn codi gwên!

Page 8: Rhaglen Gŵyl Golwg 2014

8 gwylgolwg.com

Neuadd Fictoria, Llanbed - Nos Sadwrn, 13 Medi | 8:00

Cyngerdd Gŵyl Golwg

Pleser yw croesawu’r dyn ei hun, Meic Stevens, un o gewri’r sin gerddoriaeth Gymraeg i berfformio yng Nghyngerdd Ngŵyl Golwg eleni. Go brin fod angen cyflwyniad ar y gŵr sydd wedi bod yn canu am dros bum degawd bellach, ac a chwaraeodd ran allweddol yn sefydlu’r sin cerddoriaeth boblogaidd yng Nghymru. Perfformiodd ar draws Prydain yn ystod y 1960au a rhwng 1967-69 recordiodd gyfres o EPs Cymraeg gan gynnwys Mwg, Y Brawd

£10

Houdini, Diolch yn Fawr a Byw yn y Wlad i stiwdios Sain a Wren. Ers hynny, mae wedi rhyddhau 26 albwm ac mae ei gerddoriaeth yn ysbrydoli cerddorion ifanc o hyd. Rydym ni’n edrych ymlaen at groesawu Meic nôl i Lanbed, yn enwedig gan fydd yr ŵyl yn digwydd union 30 mlynedd ers ei urddo yn aelod o’r Orsedd yn yr Eisteddfod Genedlaethol yma yn y dref. Ei urddo neu chwarae’n Gŵyl Golwg - pa un yw’r fraint fwyaf tybed?!

TOCYNNAU

Meic Stevens

Page 9: Rhaglen Gŵyl Golwg 2014

9@gwylgolwg

Mari MathiasCyfansoddwraig a chantores ifanc sy’n byw yn lleol ac yn ddisgybl yn Ysgol Dyffryn Teifi, Llandysul yw Mari. Perfformiodd yn gyhoeddus am y tro cyntaf llynedd yng Ngŵyl Crug Mawr, Aberteifi. Ers hynny mae wedi perfformio mewn nifer o wyliau a digwyddiadau. Mae hi’n ysgrifennu ac yn cyfansoddi ei chaneuon ei hun ac yn mwynhau perfformio’n acwstig gyda’r gitâr neu’r piano. Mae artistiaid fel Gwyneth Glyn ac Ed Sheeran yn ysbrydoliaeth iddi yn ogystal â rhai o’r mawrion fel Meic Stevens, Bob Dylan, Jimi Hendrix a Bob Marley. Mae Mari ar hyn o bryd yn gweithio tuag at ryddhau sengl newydd sbon yn y dyfodol agos. Mae hi a’r criw o gerddorion ifanc sy’n perfformio gyda hi, Dafydd Syfydrin, Sion Rees a Teddy Davies yn edrych ‘mlaen at Ŵyl Golwg eleni.

PluTriawd teuluol, gwerin cyfoes yw Plu. Daw’r ddwy chwaer a’r brawd, Marged, Elan a Gwilym Rhys o Fethel, ger Caernarfon. Ffurfiwyd y grŵp yn Haf 2012 ac ers hynny maent wedi perfformio a recordio mewn nifer fawr o leoliadau gan gynnwys perfformio sesiwn acwstig i BBC Radio Cymru fis Tachwedd 2012 ac ymddangos ar raglen Stiwdio Gefn S4C fis Chwefror a Rhagfyr 2013. Cafodd Plu hefyd eu henwebu ar gyfer rhestr fer gwobr ‘Band Newydd Gorau’ yng ngwobrau cylchgrawn Y Selar yn 2013. Rhyddhawyd eu halbwm cyntaf, sy’n rhannu enw’r grŵp, ym mis Gorffennaf 2013 ac roedd ar restr fer gwobr newydd ‘Albwm y Flwyddyn’ yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni. Paratowch i gael eich swyno gan eu halawon a harmonïau hyfryd.

Page 10: Rhaglen Gŵyl Golwg 2014

www.ylolfa.com

Dyddiaduron Desg A4 £6.95Addysg A5 £5.95Poced £4.95Ffeiloff aith £6.95

£4.95£9.95 £5.95clawr caled

Llyfrau i bawb o bob oed!

Page 11: Rhaglen Gŵyl Golwg 2014

11@gwylgolwg

Stafell Sgwrsio12:00 Llyfr y Flwyddyn 2014: Ioan Kidd

13:00 Pobol y Cwm @ 40

14:00 Darlith Goffa Islwyn Ffowc Ellis: Bethan Gwanas

15:00 Martha, Jac a Sianco @ 10

16:00 Sosban Ail Symudiad

17:00 Tabŵ a thalent barod: Pennod goll o’r drafodaeth am farddoniaeth Iwan Llwyd

18:00 Yn ôl i’r Wenallt

Amserlen

Gŵyl Golw

g, Medi 14

Page 12: Rhaglen Gŵyl Golwg 2014

12 gwylgolwg.com

40 mlynedd yng NghwmderiWrth i opera sebon mwyaf poblogaidd a hirhoedlog Cymru ddathlu’r deugain eleni, Lowri Cooke fydd yn cyhoeddi llyfr yn yr hydref i ddathlu’r garreg filltir hon. Dewch i glywed Lowri yn trafod â Gillian Elisa ac Andrew Teilo, rhai o actorion mwyaf adnabyddus a hirhoedlog Pobol y Cwm sy’n chwarae cymeriadau enwog pentref Cwmderi, ‘Sabrina’ a ‘Hywel’.

Stafell Sgwrsio

DARLITH GOFFA Islwyn Ffowc EllisSefydlwyd Darlith Goffa Islwyn Ffowc Ellis gan Ŵyl Golwg llynedd i nodi ei gyfraniad arbennig i lenyddiaeth Gymraeg ac i fywyd Llanbedr Pont Steffan. Yr awdures boblogaidd a chynhyrchiol Bethan Gwanas fydd yn traddodi’r ddarlith eleni a dywedodd mai ‘braint ac anrhydedd’ fydd traddodi’r ddarlith er cof am un o’i harwyr. Hoffwn ddiolch yn fawr i deulu Islwyn Ffowc am eu cydweithrediad a’u cefnogaeth unwaith eto eleni.

Martha, Jac a Sianco – Caryl LewisMae’n ddeng mlynedd ers cyhoeddi un o nofelau Cymraeg mwyaf y mileniwm – Martha, Jac a Sianco. I ddathlu hyn, cawn glywed oddi wrth yr awdures ei hun – Caryl Lewis, a fydd yn trin a thrafod agweddau o’r nofel, y profiad o’i hysgrifennu a’r cymeriadau hoffus sydd ynddi.

Llyfr y Flwyddyn 2014: Dewis – IOAN KIDDYng Nghaernarfon fis Gorffennaf eleni, gwelwyd yr hatric Llyfr y Flwyddyn cyntaf erioed i gyfrol Gymraeg. Cipiodd y nofel ‘Dewis’ wobr Barn y Bobl, wobr y gyfrol ffuglen orau, a’r brif wobr, ac mae’n bleser gallu croesawu’r awdur Ioan Kidd i Ŵyl Golwg i drafod y gyfrol.

Page 13: Rhaglen Gŵyl Golwg 2014

13@gwylgolwg

Sosban Ail Symudiad

Wrth i’r bardd Karen Owen gyhoeddi ysgrif deyrnged i’r diweddar Iwan Llwyd, un o feirdd mwyaf ei genhedlaeth, yn hwyrach yn y flwyddyn, dyma gyfle i’w chlywed yn rhannu atgofion a thrafod ei fywyd a’i waith.

Tabŵ a thalent barod:Pennod goll o’r drafodaeth am farddoniaeth Iwan Llwyd

Y cyflwynydd radio Richard Rees fydd yn holi un o grwpiau mwyaf hoffus Cymru, Ail Symudiad sydd wedi bod yn perfformio ers dros 35 mlynedd, a newydd gyhoeddi cyfrol am hanes y grŵp! Bu Richard Rees yn cyfweld â’r band yn gyson yn eu gigs yn ystod yr 80au ar ei raglen, Sosban – rhaglen a gyfranodd yn helaeth at dwf ym mhoblogrwydd y sin bop Gymraeg ar y pryd.

Yn ôl i’r WenalltMae 2014 yn nodi canmlwyddiant ers geni’r bardd Dylan Thomas, ac yn gynharach yn y flwyddyn, cyhoeddwyd argraffiad newydd o addasiad Cymraeg ei ddrama radio, Under Milk Wood, sef Dan y Wenallt. Y cyn Archdderwydd, prifardd, sgriptiwr a darlithydd, Jim Parc Nest sydd wedi ei chyfieithu ac fe fydd yn ymuno â ni i drafod y gyfrol, bro a bywyd Dylan Thomas a’i gysylltiadau â Dyffryn Teifi.

Page 14: Rhaglen Gŵyl Golwg 2014

14 gwylgolwg.com

This is a special offer for lingo newydd, the magazine with specially graded stories for learners.

Subscribe by direct debit and receive a notebook and pen as a thank you gift.

Easy Welsh ... and a free gift!

Cylchgrawn Cymraeg hawdd!Dim ond £10.50 am fl wyddyn!Ac anrheg am ddim!

Dych

chi e

isiau

dysg

u Cy

mraeg

?

Dych

chi

eisiau

darlle

n Cy

mraeg

?

newydd

darlle

n Cy

mraeg

?

newydd

Os dych chi’n prynu lingo newydd gyda debyd uniongyrchol, dych chi’n cael llyfr nodiadau a beiro am ddim.

Dych chi

eisiau ...

newydd

Os dych chi eisiau gwybod rhagor, ffoniwch 01570 423 529

Neu anfon e-bost at [email protected]

Page 15: Rhaglen Gŵyl Golwg 2014

15@gwylgolwg

This is a special offer for lingo newydd, the magazine with specially graded stories for learners.

Subscribe by direct debit and receive a notebook and pen as a thank you gift.

Easy Welsh ... and a free gift!

Cylchgrawn Cymraeg hawdd!Dim ond £10.50 am fl wyddyn!Ac anrheg am ddim!

Dych

chi e

isiau

dysg

u Cy

mraeg

?

Dych

chi

eisiau

darlle

n Cy

mraeg

?

newydd

darlle

n Cy

mraeg

?

newydd

Os dych chi’n prynu lingo newydd gyda debyd uniongyrchol, dych chi’n cael llyfr nodiadau a beiro am ddim.

Dych chi

eisiau ...

newydd

10.30 Adloniant gan ddysgwyr lleol – Local entertainment

11.00 Sgwrs Holi ac Ateb gyda Dysgwyr Rownd Derfynol Dysgwr y Flwyddyn, Eisteddfod Genedlaethol Sir Gâr 2014 / Chat with Dysgwr y Flwyddyn 2014 Finalists

12.00 Gemau, posau a hwyl i’r teulu / Family games and puzzles

13.00 Sesiwn Rhagarweiniol – Bethan Gwanas yn trafod Darlith Goffa Islwyn Ffowc Ellis / Introductory session with Bethan Gwanas

15.00 Sesiwn Rhagarweiniol – Caryl Lewis yn trafod Sgwrs Martha, Jac a Sianco / Introductory session with Caryl Lewis

17.00 Canu o gwmpas y piano / Sing Song

Amserlen

Sesiynau lingo newydd

Gŵyl Golw

g, Medi 14

Page 16: Rhaglen Gŵyl Golwg 2014

Ddiwedd mis Tachwedd 2009 cafodd holl stoc tai Cyngor Sir Ceredigion ei throsglwyddo i gymdeithas dai a oedd newydd gael ei ffurfio, sef Tai Ceredigion. Dechreuodd Tai Ceredigion ar y gwaith o wella’r holl eiddo’n unol â Safon Ansawdd Tai Cymru er mwyn sicrhau bod cartrefi’r tenantiaid yn addas ar gyfer eu teuluoedd ac yn addas ar gyfer y dyfodol. Trwy gyflogi tîm llafur uniongyrchol lleol a gweithio gyda chontractwyr a chyflenwyr lleol, mae Tai Ceredigion wedi medru sicrhau nid yn unig bod y gwaith yn cael ei gwblhau i’r safon uchaf posibl ond hefyd bod y buddsoddiad enfawr wedi helpu i hybu’r economi leol.

n Edrych tua’r dyfodol...Wrth i ni nesáu at ein pumed ‘pen-blwydd’ rydym yn edrych ymlaen at ddathlu’r ffaith bod y gwelliannau wedi’u cwblhau ac yn edrych ymlaen at bennod newydd yn hanes y gymdeithas. Mae’r ffaith ein bod wedi penodi Hwylusydd Tai Gwledig newydd yn dangos ein hymrwymiad i gynyddu’r graddau y mae tai fforddiadwy o safon ar gael. Rydym eisoes wedi dechrau adeiladu rhai byngalos pwrpasol, y mae modd i ddefnyddwyr cadair olwyn eu defnyddio, ar gyfer teuluoedd ac unigolion lleol. Yn ogystal, bydd yr Hwylusydd Tai Gwledig yn ystyried cyfleoedd i ni ddarparu mwy o dai fforddiadwy i bobl leol eu prynu ar sail cydberchnogaeth (rhywfaint yn forgais a rhywfaint yn rhent) a chyfleoedd i ddarparu cartrefi eraill sydd naill ai’n newydd neu wedi’u hadnewyddu, am rent sy’n is na lefelau rhent y farchnad (rhenti canolradd).

n Dechrau’r sgyrsiau lleol...Ble mae’r angen mwyaf? Sut y gallwn ni helpu unigolion i brynu eu cartref cyntaf? Sut y gallwn ni gynorthwyo teuluoedd ifanc sy’n gweithio i ddod o hyd i gartrefi addas sy’n agos i’w teuluoedd, ysgolion a gwaith? Mae angen cymorth ein cymunedau arnom i ddechrau’r sgwrs. Drwy weithio gyda’n gilydd, gallwn ddarparu cartrefi fforddiadwy o safon a sicrhau swyddi a fydd yn hybu’r economi leol a’n cymuned wledig.

n Beth y gallwch chi ei wneud?l Ysgrifennwch atom er mwyn rhannu eich barn a’ch syniadau â ni ynghylch beth sydd ei angen yn eich cymuned leol – nid tai’n unig, ond cyfleusterau eraill sy’n creu cymuned

l Ebostiwch ni: [email protected]

l Ymunwch â’n sgyrsiau drwy Facebook

l Dilynwch ni ar Twitter @TaiCeredigion

l Gwahoddwch yr Hwylusydd Tai Gwledig i ddigwyddiad neu gyfarfod yn eich cymuned leol i siarad a chynnal sesiwn holi ac ateb

Gwella ein cartrefi...

Page 17: Rhaglen Gŵyl Golwg 2014

www.gomer.co.uk 01559 363092Dilynwch ni ar: Gwasg Gomer Press @GwasgGomerPress

£7.99

£7.99

£7.99

£7.99

£8.99 £8.99£8.99 £8.99 £6.99

£5.99

£5.99

£5.99

£4.99

£3.99

£9.99

‘Does dim angen i chi boeni‘Rydym yn gwasanaethu Cymru

Codi’r ffôn a dewis radioByddwn ninnau yn ei phostio

Ffôn: 01570 422055Ebost: [email protected]

Dymuniadau gorau ar y dathliadau ac i ddyfodol Golwg

Ffasiynnau merched

10 Stryd Fawr,

Llanbedr Pont Steffan, SA48 7BG

Ffo^ n: 01570 422855

Melin Mark Lane MillLlanbedr Pont Steffan/LampeterCeredigion SA48 7AG

Tel: 01570 422540 Fax: 01570 423644www.wdlewis.co.uk

Hefyd yn/Also at:Broneb StoresPumsaint, Llanwrda

Tel: 01558 650215

• Llety• Bwyd wedi’i goginio gartref• Digwyddiadau a dathliadau• Cynhadleddau • Priodasau

Llanwnnen, Llanbedr Pont Steffan, SA48 7JT

Cysylltwch â Siriol a Susan EvansFfôn 01570 480476

Symudol: 07813 753661ebost [email protected]

J H ROBERTS A’I FEIBION

Radios dela’r byd

gan Roberts

7 Stryd Fawr, Llanbedr Pont SteffanSefydlwyd 1937 Lambi’s

Y Grannell

L

Page 18: Rhaglen Gŵyl Golwg 2014

twitter.com/Sprint_Cambrianfacebook.com/sprintcambrian

Argra�u digidol o safon uchel

01970 613008www.sprint-cambrian.co.uk

Fforddiadwy, Proffesiynol, Safon UchelAM EICH HOLL ANGHENION ARGRAFFU

Taflenni – Posteri – Cardiau Post – Gwahoddiadau Cardiau Cyfarch – Llyfrau – Cylchgronau

Sprint Ad_Cymraeg.indd 1 05/08/2014 13:15:36

Page 19: Rhaglen Gŵyl Golwg 2014

19@gwylgolwg

twitter.com/Sprint_Cambrianfacebook.com/sprintcambrian

Argra�u digidol o safon uchel

01970 613008www.sprint-cambrian.co.uk

Fforddiadwy, Proffesiynol, Safon UchelAM EICH HOLL ANGHENION ARGRAFFU

Taflenni – Posteri – Cardiau Post – Gwahoddiadau Cardiau Cyfarch – Llyfrau – Cylchgronau

Sprint Ad_Cymraeg.indd 1 05/08/2014 13:15:36

13:00 Gildas14:00 Catrin herbert15:00 lowri evans16:00 Gwilym Bowen rhys17:00 Blodau Gwylltion18:00 ail Symudiad

Amserlen

y Babell roc

Gŵyl Golw

g, Medi 14

Page 20: Rhaglen Gŵyl Golwg 2014

20 gwylgolwg.com

GildasGildas ydi prosiect unigol Arwel Lloyd Owen, sy’n wreiddiol o Lansannan yng Nghonwy ond bellach wedi ymgartrefu yn Llanelli. Dechreuodd ei yrfa gerddorol fel prif gitarydd Al Lewis Band, ac mae wedi bod yn rhan allweddol o lwyddiant y grŵp hwnnw dros y blynyddoedd diwethaf. Yn 2010 fe ryddhaodd ei albwm unigol cyntaf, Nos Da, dan yr enw Gildas. Rhyddhaodd Gildas ei ail albwm, Sgwennu Stori, ddechrau mis Gorffennaf llynedd ac roedd ar restr fer gwobr Albwm y Flwyddyn yr Eisteddfod Genedlaethol. Mae sŵn unigryw cerddoriaeth Gildas yn ei wneud yn un o artistiaid mwyaf diddorol Cymru ar hyn o bryd - yn gymysgedd acwstig ac electronig wedi’i dylanwadu gan gerddoriaeth thema cartwnau!

Lowri EvansDisgrifiwyd Lowri fel cantores a chyfansoddwraig aruthrol gan Bob Harris ar BBC Radio 2 ac mae ei gyrfa fel artist yn mynd o nerth i nerth. Gellir clywed dau enillydd ‘Cerddor Gorau’ Gwobrau Gwerin BBC Radio 2, y chwaraewr acordion, Andy Cutting a’r gitarydd Martin Simpson yn chwarae gyda Lowri ar ei phumed albwm, Corner of my Eye a ryddhawyd yn ddiweddar. Bu Lowri’n ymweld â’r Unol Daleithiau fis Ebrill diwethaf gan chwarae mewn amryw o gigs yno. Mae hi hefyd wedi perfformio mewn sawl gŵyl yng Nghymru gan gynnwys Gŵyl y Dyn Gwyrdd a Gŵyl SŴN ac mae ei cherddoriaeth yn amrywio o’r blws, canu gwerin, canu gwlad, pop, roc a jas.

Gwilym Bowen RhysUn o Fethel, ger Caernarfon yw Gwilym ac mae’n wyneb adnabyddus i’r sin roc Gymraeg erbyn hyn fel prif ganwr a gitarydd Y Bandana - un o fandiau mwyaf poblogaidd a chyffrous Cymru. Mae’r band wedi hen arfer â pherfformio mewn amryw o leoliadau, gan gynnwys cloi’r noson fawr ar nos Wener ym Maes B 2014. Mae hefyd yn aelod o’r triawd Plu, band teuluol, gwerinol gyda’i ddwy chwaer, Marged ac Elan. Bu Gwilym yn perfformio’n unigol am y tro cyntaf yn rownd derfynol Cân i Gymru yn 2012 gyda’r gân a gyfansoddodd gyda’i fam, Siân Harris, ‘Garth Celyn’. Cyrhaeddodd rownd derfynol y gystadleuaeth eto yn 2014 gyda’r gân ‘Ben Rhys’.

Catrin HerbertDaw’r gantores a’r gyfansoddwraig dalentog hon o Gaerdydd. Mae bellach wedi graddio ym Mhrifysgol Aberystwyth a bu’n arwain Côr Aelwyd Pantycelyn yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Bu dwy gân oddi ar ei EP cyntaf Y Gwir, Y Gau a Phopeth Rhwng y Ddau, sef ‘Disgyn Amdanat Ti’ a ‘Dala’n Sownd’ yn senglau’r wythnos ar raglen Dafydd Du a Caryl Parry Jones ar Radio Cymru ac mae Catrin wedi ymddangos sawl tro ar deledu, gan gynnwys Ar Gamera, rhaglen gyntaf Y Stiwdio Gefn. Yn 2013, cyrhaeddodd Catrin rownd derfynol Cân i Gymru gyda’i chân, ‘Ein Tir Na N’Og Ein Hunain’. Mae Catrin yn mwynhau gigio ar draws y wlad ac wedi perfformio mewn sawl digwyddiad a gŵyl.

y Babell roc

Page 21: Rhaglen Gŵyl Golwg 2014

21@gwylgolwg

Ail SymudiadBand a’u gwreiddiau yn Aberteifi yw Ail Symudiad. Ffurfiodd y band yn 1978 yn ystod cyfnod cyffrous pync a’r don newydd ac maent wedi tyfu erbyn hyn i fod yn un o fandiau mwyaf hoffus a dylanwadol Cymru. Ers ffurfio, mae’r band wedi mwynhau dros 35 mlynedd o gigio a pherfformio ym mhob cwr o’r wlad. Dros y blynyddoedd diweddar, mae’r band wedi rhyddhau amryw o CDs yn dathlu rhai o’u caneuon cynharaf, fel ei sengl gyntaf ‘Twristiaid yn y Dref’ a ysgrifennwyd yn 1980 a ‘Fflat 123’ yn 1982, gan roi gwedd newydd arnynt. Mae’r brodyr, Richard a Wyn Jones, hefyd yn rhedeg label Fflach sydd wedi gwneud cyfraniad enfawr i’r sin Gymraeg, yn enwedig yn y De Orllewin. Rhyddhawyd ei EP diweddaraf yn 2013 o dan yr enw Anturiaethau y Renby Toads. Bydd eu perfformiad yn Y Babell Roc yn un o uchafbwyntiau Gŵyl Golwg eleni, ac yn ffordd ddelfrydol o gloi’r ŵyl.

Blodau GwylltionManon Steffan yw’r llais hyfryd tu ôl i Blodau Gwylltion. Dechreuodd Manon ganu wrth uwch lwytho ei chaneuon ar YouTube a SoundCloud yn 2010 ac ers hynny mae’n perfformio’n gyson yn unigol a hefyd gyda band ei thad, Steve Eaves. Haf prysur oedd hi i Manon eleni gyda pherfformiadau mewn gwyliau ledled y wlad gan gynnwys Gŵyl Arall yng Nghaernarfon a Sesiwn Fawr Dolgellau. Mae hi hefyd wedi recordio sesiwn C2 ar raglen Lisa Gwilym llynedd gyda’r gitarydd adnabyddus, Elwyn Williams. Mae naws ei sain gyfoethog a’r alawon cignoeth wedi cydio yn nychymyg llawer ac mae ei phoblogrwydd wedi tyfu’n aruthrol. Yn ogystal â chyfansoddi caneuon, mae Manon Steffan yn awdures cynhyrchiol a thalentog. Enillodd ei nofel gyntaf ar gyfer oedolion, Fel Aderyn, Wobr Barn y Bobl Llyfr y Flwyddyn 2010 a chipiodd deitl categori ffuglen y wobr yn 2013 gyda’r gyfrol Blasu.

Ail S

ymud

iad

Page 22: Rhaglen Gŵyl Golwg 2014

C

yngh

rair

Med

dalw

edd

Cym

ru

Mae technoleg yn newid y byd busnes yng Nghymru yn gyflym - diolch i gwmnïau TG arloesol sy'n defnyddio talentau lleol, a busnesau o bob math yn canfod ffyrdd newydd clyfar o weithio. Mae Cynghrair Meddalwedd Cymru yn cefnogi cam nesaf y twf technegol drwy roi sylw i drawstoriad o anghenion oddi mewn ac oddi allan i'r sector TG.

Mae ein holl weithgareddau wedi'u dyfeisio i greu Cymru newydd sy'n canolbwyntio ar TG, ble mae cwmnïau ym mhob rhanbarth yn rhwydweithio, yn dysgu ar y cyd ac yn rhannu arferion gorau. Mae hyn ar ffurf pedwar ffrwd prosiect unigryw, gyda chyllid ar gael i fusnesau yn Ardaloedd Cydgyfeirio Cymru.

Hyfforddiant ar gyfer Gweithwyr TG Proffesiynol Rydym yn galw hyn yn CPD, neu Ddatblygiad Proffesiynol Parhaus. Wrth i dechnoleg newid o ddydd i ddydd, mae yna bob amser sgiliau newydd i'w dysgu. Ond gyda ni, chi sy'n creu'r agenda - rhowch wybod i ni yr hyn sydd angen i chi ei ddysgu, ac fe edrychwn ni ar beth yw eich dewisiadau o ran hyfforddiant.

Gweithdai Busnes TG Mae angen sgiliau TG ar bobl nad ydyn nhw'n bobl TG. Felly mae ein sesiynau gweithdy yn cyflwyno ochr haws ei defnyddio a llai technegol TG. Byddwn yn edrych ar dechnolegau newydd ac yn chwalu'r mythau, er mwyn i chi ddiweddaru eich arferion gwaith heb foddi.

Prosiectau Myfyrwyr ar gyfer Busnesau Mae angen arbenigedd ar fusnesau, ac mae angen profiad ar fyfyrwyr. Felly rydyn ni'n dod â'r ddau ynghyd, ac mae pawb yn ennill. Gall cwmnïau lleol fanteisio ar sgiliau myfyriwr Cyfrifiadureg yn ei flwyddyn olaf i ddatrys problem busnes neu i fynd ar drywydd cyfle.

Ardystiad Cwmni TG Mae gan y rhan fwyaf o gwmnïau TG ardystiedig broffil busnes uchel, yn ogystal â hygrededd a all arwain at gyfleoedd newydd yn gyflym. Ond dim ond un ochr yw hynny. Mae rhaglen ardystio Accredit UK sy'n canolbwyntio ar TG yn treiddio'n ddwfn i'ch busnes, gan arwain at ffyrdd o weithio mwy effeithlon a mwy proffidiol.

_________________________________________

Wnaethon ni sôn? Pan fyddwch chi'n gweithio gyda ni, byddwch yn manteisio ar arbenigedd blaengar ein Prifysgolion sy'n bartneriaid: Abertawe, Bangor, Morgannwg, Aberystwyth a'r Drindod Dewi Sant. Mae llawer o waith ymchwil yn cael ei wneud yng Nghymru, a dyma'r llwybr cyflymaf at y syniadau diweddaraf a dulliau sydd wedi'u profi.

Eisiau gwybod mwy? E-bost: [email protected]

Page 23: Rhaglen Gŵyl Golwg 2014

23@gwylgolwg

12:00 Gemau i Gymru: lle i un bach?

13:00 Print a Digidol: Rôl cyhoeddiadau Cymraeg yn yr oes ddigidol

14:00 Crap ar greu app

15:00 Pawb at y pod y bo

16:00 Hel arian gyda Heliwm

17:00 Goroesi’r Chwyldro: Ffotograffiaeth yn yr oes ddigidol

Amserlen

y Cwmwl

Gŵyl Golw

g, Medi 14

Page 24: Rhaglen Gŵyl Golwg 2014

24 gwylgolwg.com

Gemau i Gymru: lle i un bach?Sgwrs banel dan arweiniad Fideo Wyth a fydd yn gofyn y cwestiwn, a oes dyfodol gwirioneddol ar gyfer gemau cyfrifiadur yn y Gymraeg. Os felly, sut mae cystadlu yn well yn erbyn diwydiannau creadigol eraill? Blogiwr gemau cyfrifiadurol Golwg360, a sylfaenydd Fideo 8, Daf Prys, fydd yn llywio’r drafodaeth gyda rhai o arbenigwyr y maes yng Nghymru.

Print a Digidol: Rôl cyhoeddiadau Cymraeg yn yr oes ddigidolWrth i’r chwyldro digidol barhau, mae llawer yn darogan tranc cyhoeddiadau print ond, ar hyn o bryd o leiaf, mae print yn parhau. Ond am ba hyd? Bydd y sgwrs banel yn gofyn beth ydy cyfrifoldeb digidol cyhoeddiadau print erbyn hyn, ac i ba raddau all print fanteisio ar gyfleoedd digidol? Ymysg y panelwyr bydd Cadeirydd Papur Bro ardal Llanbed, Dylan Lewis, Lois Gwenllian o Ffrwti.com a Elis Dafydd o Tu Chwith, sydd bellach yn gylchgrawn cwbl ddigidol.

Crap ar greu appSesiwn delfrydol i unrhyw un sydd â diddordeb mewn creu app, ond heb syniad ble i ddechrau. Mae Eilian Roderick yn gweithio i CEMAS (Centre of Excellence in Mobile Applications and Services ) ym Mhrifysgol De Cymru - canolfan sy’n helpu busnesau yng Ngymru i ddatblygu apps newydd.

Bydd Eilian yn trafod yr holl broses o greu app, o ddechrau gyda syniad, i greu brasluniau, i ddatblygu’r app, ac i’w gyhoeddi a’i hyrwyddo.

y Cwmwl

Page 25: Rhaglen Gŵyl Golwg 2014

25@gwylgolwg

Pawb at y pod y boMae darlledu digidol yn dod yn fwyfwy poblogaidd, ac mae’n dod yn haws creu darllediadau sain a fideo safonol gyda dyfeisiadau symudol a meddalwedd rhad ac am ddim ar y we. Bydd y sesiwn yma yn nwylo Radio Beca yn trin a thrafod sut i fynd ati i greu podlediadau, a dosbarthu eich darllediad i’ch cynulleidfa. Bydd Marc Griffiths o Cymru FM yn cyfrannu at y drafodaeth hefyd.

Hel arian gyda Heliwm Gyda hinsawdd economaidd sy’n parhau’n fregus, mae codi arian ar gyfer unrhyw brosiect yn her. Wedi dweud hynny, mae’r we wedi cynnig cyfle trwy wefannau codi arian ‘crowdfunding’, sy’n dod yn fwyfwy poblogaidd. Mae Rhodri ap Dyfrig wedi sefydlu gwasanaeth o’r fath o’r enw Heliwm, a bydd yn trafod y gwasanaeth a’r egwyddor o godi arian ‘torfol’ yn y sesiwn hwn.

Goroesi’r Chwyldro: Ffotograffiaeth yn yr oes ddigidolMae’r chwyldro digidol yn golygu bod rhaid i bob cyfrwng addasu - mae arferion gwylio, gwrando a darllen pobl wedi newid yn llwyr yn yr oes ddigidol. Cyfrwng arall sydd wedi cael ei effeithio ydy ffotograffiaeth - mae modd i unrhyw un dynnu llun safonol ar ei ffôn erbyn hyn, a’i ddosbarthu i gynulleidfa enfawr mewn eiliadau. Ond beth mae hyn yn ei olygu i ffotograffwyr proffesiynol? Ydy’r byd digidol yn fygythiad neu’n gyfle? FfotoAber fydd yn arwain trafodaeth gyda dau o ffotograffwyr amlycaf Cymru - Keith Morris ac Emyr Young.

Page 26: Rhaglen Gŵyl Golwg 2014

Gŵyl Golwg, Medi 14

allan rwan!

stori am ddim!

Dewch i ddarllen a gwrando ar anturiaethau Rwdlan a’i ffrindiau

Ap addysgiadol sy’n hybu llythrennedd, rhifedd a chreadigrwydd

Ap newydd sbon ar gyfer yr iPad

Llond lle o straeon, posau a

chystadlaethau bob mis

Anrhegion cyson ar y

clawr

Dim ond £1.25 y mis! Ar werth mewn

siopau lleol ar draws Cymru.

Cylchgrawn bob mis i blant CymruAwst 2013 Rhif 203 £1.25

cyhoeddiad

Dewch i’r traeth

a’i ffrindiaua’i ffrindiaua’i ffrindiaua’i ffrindiaua’i ffrindiaua’i ffrindiau

Ac oes nad oes siop yn gyfleus, gallwch archebu drwy’r post - 01570 423 529 neu e-bostiwch - [email protected]

Neu yma yng Ng[yl Golwg!

Page 27: Rhaglen Gŵyl Golwg 2014

Gŵyl Golwg, Medi 14

27@gwylgolwg

11.00 Stori a Hwyl gydag Wcw a’i ffrindiau

12.00 Amser Stori gyda Meleri Wyn James

12.45 Ben Dant a Dona Direidi

13.30 Amser Stori gyda Caryl Lewis

14.30 Stori a Hwyl gydag Wcw a’i ffrindiau

15.00 Ben Dant a Dona Direidi

15.30 Amser Stori gyda Meleri Wyn James

AMSERlEN GwEITHGAREDDAU I’R PlANT

Nyth wcw

Page 28: Rhaglen Gŵyl Golwg 2014

28 gwylgolwg.com

Stori a Hwyl gydag WcwStraeon a digonedd o hwyl a chwerthin yng nghwmni ein ffrind bach hoffus, Wcw.

Amser Stori gyda Caryl LewisYr awdures Caryl Lewis, sydd wedi cyhoeddi nifer o lyfrau i blant gan gynnwys Cyfres y Teulu Boncyrs fydd yn yr ŵyl yn darllen rhai o’i straeon newydd.

Nyth wcw

Amser Stori gyda Meleri Wyn JamesBydd awdures y gyfrol boblogaidd, Na, Nel! hefyd yn ymuno â ni i adrodd ei straeon a chynnal sesiwn meddwl yn greadigol.

Dona DireidiBydd Dona Direidi, cymeriad hoffus Cyw ac Wcw a’i Ffrindiau, yn ymweld â ni i sgwrsio, canu, rapio a dawnsio.

Page 29: Rhaglen Gŵyl Golwg 2014

@gwylgolwg

Ben DantY môr-leidr doniol o raglenni Cyw fydd hefyd yn ymuno â ni i ganu a chwarae gemau.

Sali Mali a Holi HanaDewch i liwio llun, chwarae gemau a chael hwyl a sbri gyda chriw Holi Hana a Sali Mali!

Sgiliau SyrcasSesiynau Sgiliau Syrcas trwy gydol y dydd – cyfle i droi eich llaw at jyglo, troi platiau a nifer o sgiliau anghyffredin eraill.

Hefyd trwy gydol y dydd:

l Castell Bownsiol Helfa Drysorl Celf a Chrefftl Paentio wynebaul Gweithdai Barddoni

29

Diwrnod lla

wn

hwyl a s

bri i’r

teulu cy

fan!

Page 30: Rhaglen Gŵyl Golwg 2014

www.cemas.mobi

Mae CEMAS yn frwdfrydig iawn dros

greu ac ymelwa ag ED newydd, yn

sylfaenol syniadau newydd sydd

wedi eu dylunio, eu hadeiladu,

a’u rhyddhau yng Nghymru trwy

ddefnydd TGCh symudol.

Nod ein Rhaglen Gymorth yw i

gyflwyno’r economi ddigidol i bob

un o’r sectorau eraill yn yr economi

Yn hybu twf busnesaubach trwy ddatblygu apiau argyfer dyfeisiadau symudol

Gymreig drwy ein rhaglen gymorth wedi’i ariannu, sy’n lleihau’r risg sy’n gysylltiedig gyda datblygu a rhyddhau ED newydd drwy apiau symudol.

Os oes ganddoch syniad ar gyfer creu ap, cysylltwch â CEMAS i ddarganfod sut y gallwn fod o gymorth i chi.

Ebost: [email protected] Ffôn: 01443 654265

Page 31: Rhaglen Gŵyl Golwg 2014

31@gwylgolwg

Unwaith eto eleni yng Ngŵyl Golwg, mae ardal ‘y Fro Ddigidol’ yn gyfle i weld beth sydd ar gael, a beth allai fod ar gael yn ddigidol yn y Gymraeg.

Dewch i drafod a dysgu sut i greu, cyhoeddi a dosbarthu eich cynnwys digidol gyda arbenigwyr y Fro Ddigidol, mewn cydweithrediad a’n ffrindiau yn CEMAS. Dyma rai o’r pethau fydd yn y Fro eleni...

wicipedia CymraegGall unrhyw berson ychwanegu gwybodaeth at Wicipedia, ac mae gwneud hynny’n hawdd iawn! Does dim angen mewngofnodi hyd yn oed! Mae tua 140 o olygyddion Cymraeg yn gwneud hynny’n rheolaidd ers blynyddoedd, gan gadw golwg barcud ar eirwiredd y wefan. Mae degau o filoedd o erthyglau Cymraeg ar Wicipedia bellach.

Dyna pam y tyfodd Wicipedia Cymraeg i fod yn hynod o boblogaidd ar gyfer disgyblion ysgol a myfyrwyr - cawn tua 2.4 miliwn o dudalennau’n cael eu hagor pob mis - swm aruthrol! Ac mae’n weladwy ar eich ffôn llaw ac ar fapiau fel Google Maps neu Open Streetmap. Beth am roi gwybodaeth am eich ysgol neu eich papur bro ar wefan Gymraeg fwya’ poblogaidd y blaned?

Dewch draw i’r Fro Ddigidol yng Ngŵyl Golwg i weld pa mor rhwydd ydy cyhoeddi ar Wicipedia.

Cyngor apps 1-i-1Rhedeg busnes bach neu ganolig? Eisiau datblygu app ar gyfer eich cwmni? Dyma’r lle i chi!

Bydd criw CEMAS (Canolfan Rhagoriaeth Gwasanaethau Rhaglenni Symudol) o Brifysgol De Cymru yn Y Fro Ddigidol i drafod eich syniadau apps newydd.

Mae CEMAS yn cefnogi busnesau cymwys yng Nghymru i leihau’r risg cychwynnol sy’n gysylltiedig â datblygu apps a gwasanaethau symudol newydd trwy gynllun datblygu wedi’i gyllido. Mae’r cynllun cefnogi’n anelu i ddod â’r diwydiant digidol i bob sector o’r economi Gymreig, ac mae CEMAS yn rhoi cymorth i gwmnïau gyda datblygu, cynllunio, profi a lansio cynnyrch newydd.

Am fwy o wybodaeth am y cynllun cysylltwch â [email protected], ffonio 01443 654265 ymweld â’r wefan www.cemas.mobi

Mae CEMAS wedi bod o gymorth mawr i Golwg wrth ddatblygu ap Golwg, ac yn arbennig ein app newydd i blant bach ap wcw: rwdlan.

Radio Beca Mae Radio Beca bellach yn darlledu rhaglenni’n rheolaidd ar y we, ac yn awyddus i annog pawb i fynd ati i greu eu rhaglenni eu hunain a’u cyhoeddi.

Yn ystod Gŵyl Golwg bydd Radio Beca’n cynnig cyngor a chymorth i bobl sy’n awyddus i greu a chyhoeddi podlediadau.

Fideo wythBydd yr unig gymuned drafod gemau cyfrifiadurol Gymraeg, Fideo Wyth, yn y Fro Ddigidol eleni felly galwch mewn am sgwrs. Bydd cyfle i chi hefyd gystadlu yn nhwrnament Mario Karts cyntaf Fideo Wyth – ai chi fydd pencampwr Mario Karts Cymru?

y Fro Ddigidol

www.cemas.mobi

Mae CEMAS yn frwdfrydig iawn dros

greu ac ymelwa ag ED newydd, yn

sylfaenol syniadau newydd sydd

wedi eu dylunio, eu hadeiladu,

a’u rhyddhau yng Nghymru trwy

ddefnydd TGCh symudol.

Nod ein Rhaglen Gymorth yw i

gyflwyno’r economi ddigidol i bob

un o’r sectorau eraill yn yr economi

Yn hybu twf busnesaubach trwy ddatblygu apiau argyfer dyfeisiadau symudol

Gymreig drwy ein rhaglen gymorth wedi’i ariannu, sy’n lleihau’r risg sy’n gysylltiedig gyda datblygu a rhyddhau ED newydd drwy apiau symudol.

Os oes ganddoch syniad ar gyfer creu ap, cysylltwch â CEMAS i ddarganfod sut y gallwn fod o gymorth i chi.

Ebost: [email protected] Ffôn: 01443 654265

Page 32: Rhaglen Gŵyl Golwg 2014

ABERTAWE CAERFYRDDIN LLAMBED

Dewis PCYDDS oedd y penderfyniad gorau a wnes i erioed

Harry, BA Dylunio Graffig