plu hydref 2011 fersiwn olajonhead.myzen.co.uk/plu1/rhifynnau/documents/archive/... · 2017. 6....

24
PAPUR BRO LLANGADFAN, LLANERFYL, FOEL, LLANFAIR CAEREINION, ADFA, CEFNCOCH, LLWYDIARTH, LLANGYNYW, CWMGOLAU, DOLANOG, RHIWHIRIAETH, PONTROBERT, MEIFOD, TREFALDWYN A’R TRALLWM. 403 403 403 403 403 Awst/Medi 2015 Awst/Medi 2015 Awst/Medi 2015 Awst/Medi 2015 Awst/Medi 2015 50c llun Dewi Roberts

Upload: others

Post on 19-Jan-2021

1 views

Category:

Documents


0 download

TRANSCRIPT

Page 1: Plu Hydref 2011 fersiwn olajonhead.myzen.co.uk/plu1/rhifynnau/documents/archive/... · 2017. 6. 10. · Hydref 2 Bingo yn Neuadd Llanerfyl 7.00yh RHIFYN NESAF TIM PLU’R GWEUNYDD

PAPUR BRO LLANGADFAN, LLANERFYL, FOEL, LLANFAIR CAEREINION, ADFA, CEFNCOCH, LLWYDIARTH, LLANGYNYW,CWMGOLAU, DOLANOG, RHIWHIRIAETH, PONTROBERT, MEIFOD, TREFALDWYN A’R TRALLWM.

403403403403403 Awst/Medi 2015Awst/Medi 2015Awst/Medi 2015Awst/Medi 2015Awst/Medi 2015 5555500000ccccc

llun Dewi Roberts

Page 2: Plu Hydref 2011 fersiwn olajonhead.myzen.co.uk/plu1/rhifynnau/documents/archive/... · 2017. 6. 10. · Hydref 2 Bingo yn Neuadd Llanerfyl 7.00yh RHIFYN NESAF TIM PLU’R GWEUNYDD

22222 Plu’r Gweunydd, Awst/Medi 2015

DYDDIADURMedi 11 am 7.00 yn y Cann Offis. Cyfarfod Blyn.

Rhanbarth Powys Cym. yr Iaith.Medi 12 Cyngerdd Côr Meibion De Cymru. Gr@p

canu Ysgol Uwchradd Y Trallwng.Eglwys Santes Fair, Y Trallwng am 7:30.Er budd - Alzheimer’s Society a NSPCC.£10. Vena Jones 01691 830567

Medi 17 Harri Parri. Cylch Llenyddol Maldwyn.Gregynog am 7.00

Awst 12 DIWRNOD ANN GRIFFITHS: Yn HenGapel John Hughes Pontrobert am 7.30y.h, DARLITH ar un o gyfoedion Ann a’igysylltiadau, “THOMAS CHARLES a’rBALA” gan y Parchedig DdoctorGoronwy Prys Owen. Mynediad am ddimond casgliad at gostau’r noson, a byddlluniaeth ysgafn a chroeso i bawb.Cyswllt: Nia Rhosier (01938 500631)

Awst 22 Sêl Cist Car - Tanhouse Inn.Awst 29. 2 y.p. Ffair Haf Eglwys y Santes Fair,

Llwydiarth.Awst 29. 8 y.h. Noson gyda Johnnie a Hywel. Er

budd Eglwys Llwydiarth.Medi 5 Sioe LlanfairMedi 6 Cinio Dydd Sul Elusennol ar gae Llysun

am 12.30. Tocynnau £15Medi 11(Gwener) Bingo yn Neuadd Llanerfyl 7.00yMedi 12 Sioe Fach LlangynywMedi 26 Noson gymdeithasol i agor tymor MyW

Llanfair gyda Pharti’r Siswrn ac Ar yGweill.

Hydref 2 Bingo yn Neuadd Llanerfyl 7.00yh

RHIFYN NESAF

TIM PLU’R GWEUNYDD

Panel GolygyddolPanel GolygyddolPanel GolygyddolPanel GolygyddolPanel GolygyddolAlwyn a Catrin Hughes, Llais Afon,

Llangadfan 01938 [email protected] Steele, Eirianfa

Llanfair Caereinion SY210SB 01938 [email protected]

Sioned Camlin

TTTTTrefnydd refnydd refnydd refnydd refnydd TTTTTanysgrifiadauanysgrifiadauanysgrifiadauanysgrifiadauanysgrifiadauSioned Chapman Jones,12 Cae Robert, MeifodMeifod, 01938 500733

Swyddog Swyddog Swyddog Swyddog Swyddog TTTTTechnoleg Gwybodaethechnoleg Gwybodaethechnoleg Gwybodaethechnoleg Gwybodaethechnoleg GwybodaethDewi Roberts, Brynaber, Llangadfan

CadeiryddCadeiryddCadeiryddCadeiryddCadeiryddArwyn Davies

Coedtalog, Llanerfyl, 01938 820710

[email protected]ôn: 01938 552 309

Is-GadeiryddIs-GadeiryddIs-GadeiryddIs-GadeiryddIs-GadeiryddDelyth Francis

Trefnydd Busnes a ThrysoryddTrefnydd Busnes a ThrysoryddTrefnydd Busnes a ThrysoryddTrefnydd Busnes a ThrysoryddTrefnydd Busnes a ThrysoryddHuw Lewis, Post, Meifod 500286

Ysgri fenyddionYsgri fenyddionYsgri fenyddionYsgri fenyddionYsgri fenyddionGwyndaf ac Eirlys Richards,

Penrallt, Llwydiarth, 01938 820266

A fyddech cystal ag anfon eich cyfraniadauat y rhifyn nesaf erbyn dydd Sadwrn, 19Medi. Bydd y papur yn cael ei ddosbarthunos Fercher 30 Medi.

DiolchHoffwn ddiolch yn fawr i bawb am y cardiau a’ranrhegion a dderbyniais ar fymhen-blwydd yn wythdeg ym mis Mai.Diolch i bawb

Diolchyn fawr am yr holl ddymuniadau gorau, cardiauac anrhegion at achlysurgenedigaeth Enlli Wyn. Oddi wrth Cef, Nia,Greta, Enlli, Ceri, Llion ac Elis.

DiolchHoffai Haydn, Myra ac Ella ddiolch am bobarwydd o gydymdeimlad a estynnwyd atynt ynddiweddar ar ôl colli eu brawd Glyn. Diolch ynfawr i’r Parch Gwyndaf Richards,Tom Ellis aLlywela Roberts am eu gwasanaeth yn yr oedfa.Diolch am y rhoddion er cof tuag at Apel neuaddLlanfihangel a Ffrindiau Ysbyty’r Trallwm.Gwerthfawrogwn yn fawr y llu a fu yn ymweld âGlyn yn ystod ei waeledd.

DiolchHoffai Annie Pencoed ddiolch o galon iHeulwen, Gwyneth a Hywel a’i theulu a’i ffrindiaui gyd am y cardiau, blodau ac anrhegion agafodd ar ei phenblwydd yn ddiweddar. A WAW,y sypreis ar y trên ar y trip Merched y Wawr – y‘bybli’ a’r ddwy gacen. Hefyd diolch i chi i gydam bopeth ar hyd y blynyddoedd.

DiolchDymuna Diana Gwern y Bwlch ddiolch yn fawriawn am yr holl gardiau, galwadau ffôn, ybwydydd a’r cacennau blasus hefyd. Diolch ibawb a fu yn ymweld â mi yn yr ysbyty. Diolch owaelod calon i chwi i gyd.

DiolchDymuna Morfydd Jones, Glanaber, Melin y ddôl,Llanfair Caereinion ddiolch yn fawr iawn iHeather a Gwilym am eu gofal a’u caredigrwyddac i’r gofalwyr a’r ymwelwyr am eu dymuniadauda yn ystod fy anhwylder. Diolch am ffrindiau.

DiolchDiolchDiolchDiolchDiolchDymuna Glandon ddiolch i bawb am bobarwydd o garedigrwydd ar ôl derbyn triniaeth arei gefn yn ddiweddar. Diolch yn fawr.

Llongyfarchiadau mawr i ddisgyblion BuddugEvans, Cartrefle, Llangadfan ar eu llwyddiantmewn arholiadau piano ar ddiwedd tymor yrHaf. Pippa Evans, Canon, Llanerfyl. Gradd2 (Merit)Medi Jones, Llanerfyl Gradd 3(Distinction)Ffion Haf Lewis, Llangynyw Gradd 4(Distinction)Elain Wyn, Llanfihangel Gradd 6(Merit)Hefyd i ddisgyblion, Carwyn Evans, Cartrefle,Llangadfan ar eu llwyddiant ysgubol mewnarholiadau offerynnol pres a gynhaliwyd yngNghanolfan y Banw ganol mis Gorffennaf fela ganlyn:-Ani Vaughan Jones, Ysgol Pontrobert Gradd 1(Distinction)Lois Birchall, Ysgol Pontrobert Gradd 1(Distinction)Ryan Evans, Ysgol Dyffryn Banw Gradd 1(Distinction)Edward Tomkins, Ysgol Dyffryn Banw Gradd 1(Distinction)Sioned Gittins, Llanerfyl Gradd 1(Distinction) Kira Jones, Ysgol Pontrobert Gradd 2(Distinction)Gareth Lewis, Ysgol Pontrobert Gradd 2 (Merit)Elin Bennett, Ysgol Pontrobert Gradd 1 (Merit)DYNA I CHI SET O GANLYNIADAU!

YmddiheuriadYmddiheuriadYmddiheuriadYmddiheuriadYmddiheuriadYmddiheurwn i ferched y Sun, Llangadfan amgyfeirio at eu diweddar fam fel Mrs JoyWilliams yn lle Mrs Joyce Williams yn y Pludiwethaf. Bu farw Mrs Williams ym mis Mai.

ARHOLIADAU OFFERYNNOL

Talu Teyrnged i John EllisLewis Foeldrehaearn yn y

Babell LênAm 10.30 ar fore dydd Sadwrn Awst 8fed yny Babell Lên fe gynhelir sesiwn ar FeirddGwlad Maldwyn. Cyfle fydd hwn mewngwirionedd i dalu teyrnged i John Ellis Lewis,Foeldrehaearn. Byddwn yn sôn am ei gefndiryn Nolanog ac am ei waith fel bardd gwlad,plygeiniwr a chanwr gwerin, heb anghofio amei ddiddordeb mawr mewn hela. Fe fydd ynagyfle hefyd i ddarllen nifer o’r cerddi troeontrwstan a’r cerddi cyfarch gafodd euhysgrifennu ganddo. Bu’r cerddi hyn yncyfoethogi tudalennau Plu’r Gweunydd amflynyddoedd.Cyflwynir y sesiwn gan Buddug Bates, ArwynGroe, Dafydd Morgan Lewis ac Alun Jones(Cefne/Pantrhedynog).Os oes gennych chi unrhyw gerddi gan JohnFoeldrehaearn nad ydynt wedi ymddangos yny Plu fe fyddem yn falch iawn o’u cael. Nifedrwn eu darllen yn y sesiwn ar y dyddSadwrn olaf ond ein bwriad yw mynd ati igyhoeddi cyfrol o’i waith ar ôl yr Eisteddfod.

Dafydd Morgan Lewis

Annwyl Mrs. A.Y.FotyMae croeso cynnes, dwyieithog ar gael bobamser yn Llyfrgell Llanfair Caereinion - ynenwedig i ymwelwyr o’r topie! Dyma einamseroedd agor rhag ofn i chi anghofio: Dydd Llun - ar gauDydd Mawrth 10.00 - 1pmDydd Mercher - ar gauDydd Iau - 4.00 - 7pmDydd Gwener - 2.00 - 5pmDydd Sadwrn - 10.00 - 1pmMae mwy o Gymraeg yn y dref na fyddechchi’n disgwyl dwi’n siwr - cofiwch y ClwbFfermwyr Ifanc, a ddaeth i’r brig llynedd wrthgystadlu yn yr Adloniant Cymraeg am y trocyntaf erioed - mae llawer i’w ganmol ynLlanfer! Yn gywir, Eich Llyfrgellydd.

Hydref 3 Swper dau gwrs a Chân am 7 o’r glochyng Nghanolfan y Banw. AlunPantrhedynog yn arwain a Jennifermerch Heulwen Penycoed yn canu

Hydref 4 Cyfarfod Diolchgarwch EglwysGarthbeibio gyda Mair Penri

Hydref 9 Cyfarfod Diolch Capel Coffa Dolanog(oedfa nos) gyda Mr Gwyn Elfyn Jones

Hyd. 10 Caneuon o’r Sioeau Cerdd gan y ‘CastleBelles’ yng Nghanolfan HamddenLlanfair am 7.30. Elw er budd AmbiwlansAwyr Cymru

Hydref 11 Cyngerdd Peter Karrie ‘Small Halls Tour’,Neuadd Llanerfyl (amser i’w gadarnhau)

Hydref 15 Eigra Lewis Roberts. Cylch LlenyddolMaldwyn. Gregynog am 7.00

Tach. 6 Arwerthiant Ffasiwn o’r siopau mawr ambris gostyngol yn yr Institiwt Llanfair.Elw er budd CRhA Ysgol Caereinion

Tach. 7 Cyngerdd gyda Côr Rhuthun a’r Cylch.Canolfan Cymdeithasol Llanbrynmair.

Tach. 14 Cyngerdd gyda Chôr Cymysg Llansilinyn Neuadd Llanfihangel am 7.30y.h.

Tach. 28 HEN GAPEL JOHN HUGHESPONTROBERT- Bore Coffi yn Neuaddyr Eglwys, Y TRALLWNG am 10 y bore.Nwyddau, gwobrau raffl a chynnyrchcartref erbyn 0915 os gwelwch yn dda.Cyswllt: Nia Rhosier 01938 500631

Rhagfyr 3 Radio Cymru yn recordio ‘GalwadCynnar’ gyda Gerallt Pennant a phanel oarbenigwyr yn Neuadd Llanerfyl

Gorff. 15-16 2016 Eisteddfod Powys yngNghroesoswallt

Charlie Human

Page 3: Plu Hydref 2011 fersiwn olajonhead.myzen.co.uk/plu1/rhifynnau/documents/archive/... · 2017. 6. 10. · Hydref 2 Bingo yn Neuadd Llanerfyl 7.00yh RHIFYN NESAF TIM PLU’R GWEUNYDD

Plu’r Gweunydd, Awst/Medi 2015 33333

SEREN Y MIS

1. Enw llawn: Carwyn Owen2. Ardal enedigol: Dyffryn Banw3. Disgrifia dy hun mewn tri gair: gwahanol,chwilfrydig, brwdfrydig4. Beth wyt ti’n ei ofni fwyaf: methiant5. Beth yw dy hoff bryd fwyd: Lasagne a chips6. Beth yw dy hoff olygfa: yr un o ffenest ygegin adre7. Beth hoffet ti wneud yn well: seiclo8. Enwa un person yr hoffet fod yn gwmni i tipetae ti’n styc ar ynys bellennig: taidRhiwfelen9. Beth oedd dy hoff degan pan yn blentyn:Lego10. Petae ti’n gorfod disgrifio dy hun fel car –pa gar fydde ti: Landrover series 311. Petae’r t~ ar dân – pa wrthrych fydde ti’nei achub: y beic

Dyma lun hyfryd o saer Cadair EisteddfodGenedlaethol Maldwyn yn gog bach yn helpuei daid, Bryn Owen, Rhiwfelen, i adeiladubwrdd newydd i’r gegin. Dyma gyfle i ddod iadnabod y saer ifanc talentog yn well gydagychydig o gwestiynau cyflym.

Mae yna gymaint o bethau yn digwydd ar Faesyr Eisteddfod Genedlaethol fel nad oes posibmynd i bopeth. Dyma i chi rai o’r pethau sy’ndigwydd sy’n ymwneud yn benodol â SirDrefaldwyn.

Dydd Sadwrn Awst 111.00. Agoriad Swyddogol y Babell Lên efo

Geraint Lovgreen11.00 Archeoleg Maldwyn gyda Rhys Mwyn.

Cymdeithasau 1.11.30. Mwrdwr Maldwyn gyda phlant Ysgol

Uwchradd Caereinion. Pabell Lên12.45 Cofio Angharad Jones gyda Siân James

ac eraill Pabell Lên13.30 Llywarch Hen, Heledd a Baledi Hanes

Pabell Lên16.30. Dylife, Ceiriog a’i griw gyda Cyril Jones

Pabell LênDydd Sul Awst 211.00. Cic-samplu’r Nant Hafesb -

Ymddiriedolaeth Afon Hafren.Gwyddoniaeth a Thechnoleg (eto am15.00.)

12.30. Nansi Richards. Theatr GenedlaetholCymru ac Angharad Price. Cwt Drama

12.45 Mwy o Gymeriadau’r Fro/plant YsgolCaereinion. Pabell Lên

13.30 Y Gwylliaid yn Ninas Mawddwy/ HuwJones. Pabell Lên

14.00. Canu yn y Cof: Alawon Maldwyn. SiânJames T~ Gwerin

14.00. Traddodiad Gwerin Maldwyn. Maes D15.15. Hel Atgofion am Emrys Roberts DML a

Dewi Roberts. Pabell Lên15.30. Ysgol Theatr Maldwyn - Noson Lawen

Nansi gyda Penri Roberts, Linda Gittins aSiân James. Theatr y Maes.

16.00. Awr y Plygeinwyr gyda Roy Griffiths. T~Gwerin.

Dydd Llun Awst 311.00. Archeoleg Maldwyn gyda Rhys Mwyn.

Cymdeithasau 1.12.00. Llun a Llen. Arwyn Groe, Cerddi a

Ysbrydolwyd gan yr Arddangosfa. Lle Celf12.00. Cofion Cynnes RS Thomas gyda M Wynn

Thomas Pabell Lên12.00. Nicholas Bennett, Alawon fy Ngwlad -

Elinor Bennet. T~ Gwerin13.30. Cofio Arwyn Ty Isa gyda Arfon Gwilym.

Pabell Lên14.00 Lansio cyfrol ‘Ein Hetifeddiaeth Ffermio

Gyfoethog’ (gol. Alwyn Hughes). Pabell yrAmgueddfa Genedlaethol

14.00 Cofio Nansi. T~ Gwerin15.00. Cic-samplu’r Nant Hafesb. Gwyddoniaeth

a Thechnoleg15.15. Mamwlad: Merched Maldwyn gyda Ffion

Hague. Pabell LênDydd Mawrth Awst 4ydd12.00. Cofion Cynnes: Gwerfyl Mechain. Eurig

Salisbury a Gwen Saunders Jone PabellLên.

12.30. Nansi Richards. Theatr GenedlaetholCymru ac Angharad Price. Cwt Drama.

13.30. Sir Drefaldwyn a’r Sipsiwn gyda SimonBrooks. Pabell Lên.

14.00. Mwynder Maldwyn: Archeoleg a HenLyfrau. Rhys Mwyn. Cymdeithasau 1.

15.00. Cic-samplau’r Nant Hafesb.Gwyddoniaeth a Thechnoleg.

15.00. Linda Griffiths a Sorela. T~ Gwerin.15.30. Ysgol Theatr Maldwyn. Noson Law.en

Nansi. Theatr y Maes.15.30. Iorwerth Peate, Cyril Fox a Peter Smith: tri

chawr astudio cartrefi’r werin. Dr EurwynWilliams. Cymdeithasau 2.

16.00. Elinor Bennett yn sgwrsio am ei bywydgyda John Jones. Cymdeithasau 1.

17.45. Slot Chwarter i Chwech. Linda Griffiths aSorela. Pabell Lên

Dydd Mercher 5 Awst11.00. Y Ddarlith Lenyddol gan Sioned Davies.

Breuddwyd ynteu Hunllef Rhonabwy.Pabell Lên

11.00. Cic-samplau’r Nant Hafesb.Gwyddoniaeth a Thechnoleg.

12.00. Cofion Cynnes. Emlyn Hooson. DerecLlwyd Morgan a Glyn Tegai Hughes.Pabell Lên

12.45. William Jones Dolhywel. Y cymeriadmwyaf difyr a pheryglus yn holl hanes ySir. Geraint Jenkins Pabell Lên.

15.30. Hystings ym Mharadwys. Islwyn FfowcElis ac is-etholiad Maldwyn 1962. RobinChapman. Cymdeithasau 2.

17.45. Slot Chwarter i Chwech. Siân James.Sesiwn acwstig a sgwrs gydag IdrisMorrisJones.

Dydd Iau 6 Awst10.30. Meifod a ‘Merica: Cofio cylchoedd Ann

Griffiths a Sarah Maldwyn. Yr Athrawon EWyn James a Bill Jones.Cymdeithasau 2

11.00. Cic-samplu’r Nant Hafesb.Gwyddoniaeth a Thechnoleg.

11.30. Yr Ymfudo o Faldwyn yn yn y 18fed a’r19eg ganrif

12.00. Cofion Cynnes. Murray the Hump.Dafydd Wigley. Pabell Lên.

12.45. Y Llwybr i Bosworth. Cysylltiad yTuduriaid â Chymru a’i Beirdd. ManonAntoniezzi. Pabell Lên.

13.30. ‘ Pwy Oedd Sant Ffolant’ Cerddi FfolantMaldwyn. Rhiannon Ifans. Pabell Lên.

15.30. Ysgol Theatr Maldwyn. Noson LawenNansi. Theatr y Maes.

Dydd Gwener Awst 712.00. Cofion Cynnes: Ann Griffiths. Karen

Owen. Pabell Lên.14.00. Awr cantorion gwerin gyda Linda Griffiths

er cof am Elfed Lewys. T~ Gwerin.15.00. Darlith Gwyddonwyr Ifanc Maldwyn.

Siaradwyr, Thomas Jenkins, Iolo White,Dr Siwan Jones, Dr Leah Jones.Cymdeithasau 1.

17.45. Slot Chwarter i Chwech. GeraintLovgreen. Pabell Lên.

Dydd Sadwrn Awst 809.00. Y Daith Lenyddol. Cychwyn o du blaen y

Ganolfan Ymwelwyr gyda Rhodri ac IrfonDavies

10.30. Beirdd Gwlad Maldwyn (Teyrnged i JohnLewis Foeldrehaearn) gyda Arwyn Groea Dafydd Morgan Lewis. Pabell Lên.

11.15. O Tyn y Gorchudd. Hunangofiant ffugRebecca Jones. Amgharad Jones, PabellLên

14.30. Dewch i Wrando a Chanu. Rhaglendeyrnged i Derec Williams gyda PenriRoberts ac eraill. Pabell Lên.

MALDWYN AR Y MAESMALDWYN AR Y MAESMALDWYN AR Y MAESMALDWYN AR Y MAESMALDWYN AR Y MAESDigwyddiadau o ddiddordeb lleolDigwyddiadau o ddiddordeb lleolDigwyddiadau o ddiddordeb lleolDigwyddiadau o ddiddordeb lleolDigwyddiadau o ddiddordeb lleol

CARTREF

Ffôn:Carole neu Philip ar 01691 648129

Ebost:[email protected]

Gwefan:www.cartrefbedandbreakfast.co.uk/rooms

Gwely a BrecwastLlanfihangel-yng Ngwynfa

Te Prynhawn a Bwyty

Byr brydau a phrydau min nos ar gael

Cinio Dydd Sul (archebu o flaen llaw)

AR AGORLlun – Gwener 7.30 a.m. – 5.00 p.m

Sadwrn 7.30 a.m. – 2.00 p.m.

BANWY BAKERY

STRYD Y BONT, LLANFAIR CAEREINION, SY21 0RZ

CAFFIBara a Chacennau CartrefPopty Talerddig yn dod â

Bara a Chacennau bob dydd IauBara Henllan yma bob dydd ond dydd Sul

Te Angladdau. Arlwyo i Bartïon. Saladau

Cysylltwch â Rita Waters ar 01938 810952neu e-bostiwch: [email protected]

www.banwybakery.co.uk

Page 4: Plu Hydref 2011 fersiwn olajonhead.myzen.co.uk/plu1/rhifynnau/documents/archive/... · 2017. 6. 10. · Hydref 2 Bingo yn Neuadd Llanerfyl 7.00yh RHIFYN NESAF TIM PLU’R GWEUNYDD

44444 Plu’r Gweunydd, Awst/Medi 2015

Mae’r llinellau hyn yn dod o gerdd gan fardd o’r enw Ieuan Deulwyn o Gydweli yn sirGaerfyrddin. Roedd o’n byw yn y bymthegfed ganrif. Ysgrifennodd lawer o gerddi serch,gan gynnwys un “I Wallt Merch” ac un arall dan y teitl “Cywydd y Cusan.”

Mae’r cwpled hwn yn dod o’r gerdd “I Abad Ystrad Fflur.” Mae’r gerdd yn cyfeirio at ddauabad, Rhys a Dafydd. Rhys ap Dafydd oedd abad Ystrad Fflur tan tua 1440. Fo oeddnoddwr bardd arall, Guto’r Glyn. Dafydd ap Owain oedd y Dafydd mae Ieuan Deulwyn ynei ganmol yn y gerdd. Roedd Dafydd yn noddwr hael iawn. Mae’n rhaid bod ganddo lawero geffylau oherwydd roedd beirdd yn ysgrifennu cerddi iddo yn rheolaidd yn gofyn amgeffylau.

Yn ôl y Bywgraffiadur Cymreig, roedd Dafydd ap Owain yn dod o Lasgoed ym Meifod.Aeth i Rydychen i astudio’r gyfraith. Roedd o’n abad yn abatai Ystrad Marchell, YstradFflur ac Aberconwy.Cafodd y cwpled ei ysgrifennu fwy na 500 mlynedd yn ôl ond mae’n arbennig o addas ymis hwn.

Colofn y DysgwyrLois Martin-Short

Ysgol HafRoedd yr Ysgol Haf yn y Drenewydd fis diwethafyn llwyddiannus iawn, gyda mwy na 40 oddysgwyr o bob lefel yn y dosbarthiadau. DdyddMercher cafodd pawb gyfle i ymweld â gerddi

‘Cultivate’ drws nesaf i’r coleg. Dywedodd Diane Jones o’r dosbarth Uwch: ‘Mae pob math olysiau yn cael eu tyfu yn yr ardd: tatws, nionod, moron, mefus, mafon, gwrychoedd mafonduon, perlysiau, rwdins, coed afal, coed gellyg, bresych, letys, a blodau o bob lliw a llun gangynnwys blodau’r haul hyfryd a rhosynnau pert. Mae popeth yn cael ei dyfu yn organig heb‘sprays’. Mae pobl sy’n byw yn y gymdogaeth yn medru cael ‘allotment’ yn y gerddi i dyfublodau neu lysiau, ac mae’r gr@p yn arbrofi efo pethau fel tatws gwahanol a thatws sy’n caeleu plannu mewn ffyrdd amrywiol. Maen nhw’n casglu torion glaswellt i wneud ‘compost’hefyd. Ac mae ’na siop sy’n gwerthu cynnyrch o’r ardd, hadau, a sudd afal sy’n cael eiwneud o afalau yn y berllan. Mae hi’n lle hyfryd a heddychlon.’Cafwyd sesiwn arall gyda Siôn Meredith o’r Ganolfan Cymraeg i Oedolion yn Aberystwyth yntrafod yr adnoddau sydd ar gael ar y We i helpu dysgwyr ar bob lefel. Os hoffech chi gaelymarferion, gemau, cardiau fflach, clipiau fideo, ewch i http://www.ybont.org/ neu http://canolbarth.ybont.org/ a dewiswch ddeunydd ar eich lefel chi.Sesiwn ar e-ddysgu yn yr Ysgol Haf yn y DrenewyddCyrsiau Mis MediCicio’r Cof: Bydd diwrnod adolygu yn yr Ysgol Uwchradd, Y Trallwng y tro yma, ddyddSadwrn 12 Medi, 9.30 – 3.30. Mae’n costio £10 / £6. Bydd te a choffi a bisgedi ar gael.Dewch â chwpan. I gadw lle ffoniwch Menna ar 01686 614226 neu cysylltwch â’r ganolfan01970 622236.Mae gwybodaeth am y cyrsiau fydd yn dechrau ym mis Medi ar gael ar wefan y GanolfanCymraeg i Oedolion. Ewch i http://www.learnwelshinmidwales.org/

Diachos oedd RhydychenDiachos oedd RhydychenDiachos oedd RhydychenDiachos oedd RhydychenDiachos oedd RhydychenAm fod art ym Meifod wenAm fod art ym Meifod wenAm fod art ym Meifod wenAm fod art ym Meifod wenAm fod art ym Meifod wen

Geirfa:diachos – unnecessaryRhydychen – Oxfordam fod – since there isart = dysg, learning

cyfeirio at – refer toabad – abbotnoddwr – patron, sponsoryn rheolaidd – regularlyaddas - appropriate

CYFLE ARALL I SEFYDLUYSGOL GYMRAEG

Ar drothwy’r Eisteddfod Genedlaethol ymMeifod daeth un cyfle arall i sefydlu YsgolUwchradd Gymraeg ym Maldwyn.Mae Cyngor Sir Powys wedi gofyn i gwmniSbectrwm, o dan arweiniad Cefin Campbell,ystyried yr angen am ddarpariaeth o’r fath acar y 6ed o Orffennaf cynhaliodd ymgynghorwyrSbectrwm gyfarfodydd yn Ysgol UwchraddCaereinion.Buont yn siarad gyda Chyngor yr Ysgol, y staffa’r llywodraethwyr, a fin nos daeth llu o rieniac aelodau’r gymuned i wrando ar yr hyn oeddganddynt i’w ddweud. Dywedwyd bod arolwggan Price Waterhouse Coopers a gomisiynwydgan y cyngor sir wedi datgan mai dim ond tairo’r chwe ysgol uwchradd yng ngogledd Powyssy’n hyfyw yn ariannol. Mae hyn yn golygubod dyfodol yr ysgolion uwchradd llai yn ansicr.Mae gan Ysgol Caereinion gyfle i barhau adatblygu– oherwydd y twf mewn addysgGymraeg a welwyd yno ers yr wythdegaumae’n safle naturiol i’w ystyried ar gyfer creuYsgol Gymraeg i wasanaethu ardaloedd yDrenewydd, Trallwm, Llanfair Caereinion aLlanfyllin. Roedd yr ymgynghorwyr yn cynnaly cyfarfodydd i ystyried yr angen am ysgol o’rfath yn Llanfair neu mewn lleoliad arall ymMaldwyn.Cyflwynwyd y ffeithiau sef bod cynnydd wedibod yn y galw am addysg Gymraeg a bodangen dilyniant ar gyfer y disgyblion hyn. Maeysgol Gymraeg newydd Dafydd Llwyd yn yDrenewydd yn mynd i fod â lle i 300 oddisgyblion ac mae bwriad, yn ôl cyngor sirPowys, i godi ysgol Gymraeg gynradd newyddyn y Trallwm ar gyfer 120 o ddisgyblion. Mae’rniferoedd hyn ynghyd â’r galw cynyddol ynLlanfyllin a Llanfair yn ddigon i sicrhau y byddaimodd sefydlu ysgol o’r fath.Clywyd dadleuon o blaid ac yn erbyn; roedd yrhai oedd o blaid am weld dilyniant cryf i’r plantsy’n cael addysg Gymraeg yn yr ysgolioncynradd. I’r gwrthwynebwyr, byddai hyn ynnewid cymeriad Ysgol Llanfair sy’n derbyn hollddisgyblion y dalgylch i gael addysg Gymraegneu addysg Saesneg yn ôl eu dewis ar hyn obryd – patrwm drud sy’n golygu dyblyguadnoddau a model nad yw’n cael ei ffafrio yny rhan fwyaf o siroedd Cymru erbyn hyn.Bydd yr ymgynghorwyr yn cyflwyno euhadroddiad i’r cyngor sir ynghylch a oesangenangenangenangenangen ysgol benodedig Gymraeg categori 2A,sef ysgol a fyddai’n darparu 80% o’r cwricwlwmtrwy’r Gymraeg a’r 20% arall trwy naill ai’rGymraeg neu’r Saesneg, ai peidio erbyndiwedd Gorffennaf. Os ysytyrir bod angenangenangenangenangenbyddant yn cyflwyno adroddiad arall i’r Cabi-net ym mis Medi i argymell sut i ad-drefnuaddysg uwchradd Maldwyn i ateb yr angenhwnnw.Os bydd yr adroddiad yn ffafriol, cyflwynircynlluniau i greu ysgol uwchradd Gymraeg ymMaldwyn. Gwae ni os collwn y cyfle i gefnogidatblygiad cyffrous a fydd yn rhoi cyfle cyfartali’n plant a’n hieuenctid ac yn cryfhauCymreictod y sir.

Page 5: Plu Hydref 2011 fersiwn olajonhead.myzen.co.uk/plu1/rhifynnau/documents/archive/... · 2017. 6. 10. · Hydref 2 Bingo yn Neuadd Llanerfyl 7.00yh RHIFYN NESAF TIM PLU’R GWEUNYDD

Plu’r Gweunydd, Awst/Medi 2015 55555

BWRLWM O’RBANW

Prawf beicioTrawsnewidiodd maes chwarae’r ysgol i ffordd fawr, lle’r oedd ambell irwystr yn barod i feicwyr y Banw ei goncro! Roedd y tywydd yn anffafriol ondllwyddodd pob un o ddisgyblion Blwyddyn 5 a 6 oedd yno ar y diwrnod basio’r prawf. Byddwnyn wyliadwrus wrth weld y disgyblion yn ymarfer eu sgiliau dros yr haf.Her dHer dHer dHer dHer ddardardardardarllen yr hafllen yr hafllen yr hafllen yr hafllen yr haf!!!!!Ar y 7fed o Orffennaf croesawom gynrychiolydd o’r Llyfrgell i’r ysgol i hyrwyddo’r sialensddarllen yr haf, a’r cyfle i ymgolli mewn llyfrau dros y chwe wythnos nesaf. ‘Torri pob record’yw’r thema eleni a bydd gwobrau dirifedi i’w casglu wrth i’r plant ddarllen, ac ar ddiwedd ysialens ceir tystysgrif a medal i glodfori’r llwyddiant. Pob hwyl i chi - edrychwn ymlaen atglywedd am eich hanturiaethau ym mis Medi!

Croesawom Hilary Roberts unwaith eto i’rysgol i weithio gyda disgyblion CA2 yn unol âphrosiect yr Eisteddfod Genedlaethol.Mae’n bleser gennym fel ysgol gydweithiogyda Hilary ac mae’r gwaith gorffenedig ynwerth ei weld. Bydd mewn arddangosfa yn yrEisteddfod Genedlaethol yn Meifod wedi igrefftwaith disgyblion yr ardal ei uno i greucampwaith sy’n cynrychioli hanes a diwylliantyr ardal yn ystod Oes y Tywysogion.

Mabolgampau’rMabolgampau’rMabolgampau’rMabolgampau’rMabolgampau’rysgolysgolysgolysgolysgolRoedd hi’n ddiwrnodgwlyb a diflas ar y 13eg oOrffennaf, ond roedd yneuadd yn llawn bwrlwma chystadlu brwd wrth ininnau gynnalMabolgampau Campau’r Ddraig yr Ysgol yngnghwmni rhieni apherthnasau. Yma roeddllu o weithgareddauamrywiol oedd yn profiaml-sgiliau’r disgyblion

wrth iddynt ennill sêr aur, arian ac efydd am eu perfformiadau. Roedd aelodau’r tim buddugolyn ennill medal aur yr un, a llongyfarchiadau i’r tîm Coch am ddod i’r brig. Diolch hefyd i’rrhieni am wirfoddoli i gymryd rhan yn y rasys hwyl.Gan ddilyn traddodiad cystadlaethau trac a maes enillwyr gwobr y Victor a Vixtrix LudorumCA2 oedd Ryan Evans (Blwyddyn 6) a Lois Tudor (Blwyddyn 5.)Eleni hefyd gwobrwywyd dau ddisgybl a’r sgoriau uchaf yn y Cyfnod Sylfaen, a llongyfarchiadaui Joseff Davies (Blwyddyn 1) ac i Lucy Tomkins (Blwyddyn 2 ) am eu canlyniadau.

Llion Llion Llion Llion Llion WWWWWilliams yn ysbrilliams yn ysbrilliams yn ysbrilliams yn ysbrilliams yn ysbryyyyydoli’doli’doli’doli’doli’rrrrrdisgybliondisgybliondisgybliondisgybliondisgyblion

Ar y 9fed o Orffennaf cynhaliwyd gweithdydrama dan arweiniad Llion Williams iddisgyblion CA2.Roedd y disgyblion yn eu gogoniant wrth gaeleu hysbrydoli trwy waith drama byrfyfyr athrwy ddysgu am hanes Nansi Richards,Telynores Maldwyn.

Ymweliad artist preswyl

O dan y don, yn llythrennol

Braf iawn oedd cael mynd ar drip fel ysgolgyfan i Blue Planet, ger Caer ddiwedd y tymor.Roedd disgyblion y Cyfnod Sylfaen wedi bodyn astudio’r thema ‘O dan y don’ ac roeddcael gweld y creaduriaid rhyfeddaf yn nofiouwch ein pennau yn agoriad llygad i bob unohonom!Rhai o uchafbwyntiau’r diwrnod oedd caelgwylio’r siarcod a’r dyfrgwn chwareus yn caeleu bwydo, dod wyneb yn wyneb â physgodPiranha, nadroedd a llyswennod, heb sôn amgael gwario ein harian poced yn y siop! Roeddpawb yn flinedig iawn ar y siwrnai adre -arwydd o ddiwrnod da!

Barbeciw diwedd tymor

Diolch yn fawr i Ffrindiau’r Ysgol am drefnugwledd o fwyd ym marbeciw diwedd tymor yrysgol. Roedd y plant wrth eu boddau yn neidioar y cestyll gwynt, chwarae rownderi a ‘Splatthe Rat!’ cael eu hwynebau wedi’u peintio yngnghanol sain hyfryd band pres yr ysgol oeddyng ngofal Carwyn a Buddug. Diolch hefydam y gacen arbennig a gafodd ei chyflwynogan Ffrindiau’r Ysgol i holl staff yr ysgol ar ynoson.Hoffwn ddymuno pob hwyl i Ryan ac Amysydd yn ‘symud ymlaen’ i’r Ysgol Uwchraddym mis Medi.

Page 6: Plu Hydref 2011 fersiwn olajonhead.myzen.co.uk/plu1/rhifynnau/documents/archive/... · 2017. 6. 10. · Hydref 2 Bingo yn Neuadd Llanerfyl 7.00yh RHIFYN NESAF TIM PLU’R GWEUNYDD

66666 Plu’r Gweunydd, Awst/Medi 2015

YSGOL LLANERFYLYSGOL LLANERFYLYSGOL LLANERFYLYSGOL LLANERFYLYSGOL LLANERFYL

Pencampwriaeth Nofio PowysAr ddydd Gwener, Mehefin 26ain bu Medi Lewis ac Iestyn Pryce yncynrychioli’r ardal yn y gala nofio i holl ysgolion Powys. EnilloddMedi y wobr gyntaf yn y ras pili-pala, ail wrth nofio ar ei chefn aphedwerydd yn y ras dull rhydd. Enillodd ddwy wobr gyntaf hefyd felaelod o dîm cyfnewid. Daeth Iestyn yn bedwerydd yn y ras dullbroga.Gyrfa ChwilodCafwyd noson hwyliog iawn yn Neuadd Llanerfyl ar nos Wener,Gorffennaf 3ydd pan ddaeth disgyblion presennol, cyn-ddisgyblion,rhieni, neiniau a theidiau ynghyd i’r yrfa chwilod yng ngofal Mrs NestaJones. Yr enillwyr oedd Kyffin Morgan a Hari Davies a chafoddRowan Chapman ac Iestyn Pryce wobr hefyd am y sgôr isaf.Diolchwyd i Nesta gan Suzanne Thomas a chyflwynodd Lwsi fasgedo flodau iddi.FfarwelioDymuniadau gorau i Heledd, Siwan, Caitlyn, Iestyn a Hari wrth iddyntddechrau yn Ysgol Uwchradd Caereinion ym mis Medi a diolch iddyntam eu cyfraniad i’r Ysgol.Dymuniadau gorau i Mrs Nia Wyn Thomas-Pearson wrth iddiddychwelyd yn ôl i Ysgol Gynradd Dinas Mawddwy wedi blwyddyn osecondiad fel Pennaeth Ysgol Gynradd Llanerfyl. Dymuniadau gorauhefyd i Miss Haf Howells sydd yn mynd i weithio mewn ysgol ymMerlin yn yr Almaen. Roedd y plant yn hoff iawn o’r ddwy.

YmddeoliadDymunwn ymddeoliad hapus i Mrs Delyth Jones, Dolwen wediblynyddoedd lawer yn dysgu’n rhan amser. Rydym yn cydnabod agwerthfawrogi ei chyfraniad i’r ysgol yn fawr iawn.CroesawuPleser yw croesawu Mrs Meinir Jones yn Bennaeth Ysgol GynraddLlanerfyl. Pleser hefyd yw croesawu Mrs Haf Lewis fel athrawes cyfnodallweddol dau y tymor nesaf.Dathlu diwedd y tymorRoedd tua cant a hanner o blant, cyn-ddisgyblion, athrawon, rhieni,llywodraethwyr, ffrindiau, neiniau a theidiau wedi ymgynnull ar gae yrysgol nos Wener Gorffennaf 17eg i ddathlu diwedd blwyddyn ysgolarall. Paratowyd gwledd o fwyd gan Ffrindiau’r Ysgol gyda cig rhostbendigedig gan Richard y cigydd. Cafwyd adloniant gan fand pres yrysgol dan ofal Mr Carwyn Evans. Mwynhaodd pawb o bob oed nosongartrefol, hwyliog wrth sgwrsio a chymdeithasu gyda’r gêm bêl-droedchwedlonol rhwng y rhieni a’r plant yn uchafbwynt ar y cyfan.

Trip YsgolBu’r trip ysgol eleni yn ymweld â Pharc Coedwig y Gelli Gyffwrdd yn Eryri. Bu’r plant wrth eu boddau yn mynd ar Antur Cwch y Jyngl, gwib-gartio, hyrddio i lawr y Rhedfa Fawr Werdd, mynd ar y roler-coster, a llu o bethau eraill.

MabolgampauLlongyfarchiadau i Hari Davies a Heledd Roberts am ennill y VictorLudorum a’r Victrix Ludorum eleni ac i Iestyn Pryce, Emma Williamsa Medi Lewis am ddod yn ail. Llongyfarchiadau hefyd i Rhodri,Caestwbwrn a Seran Pryce am ddod yn bencampwyr blwyddyn 3 a 4,ac i Huw, T~ Newydd a Sorrel Hoban am ddod yn bencampwyrblwyddyn 1 a 2.

Glen, Dyfrig a Gwyndaf - mor gystadleuol!

Page 7: Plu Hydref 2011 fersiwn olajonhead.myzen.co.uk/plu1/rhifynnau/documents/archive/... · 2017. 6. 10. · Hydref 2 Bingo yn Neuadd Llanerfyl 7.00yh RHIFYN NESAF TIM PLU’R GWEUNYDD

Plu’r Gweunydd, Awst/Medi 2015 77777

LLANERFYLGwellhad buani Dewi Caebachau ar ôl llawdriniaeth ar eigalon yn Ysbyty Stoke. Anfonwn ein cofionat Mick, Pentre sydd hefyd yn yr ysbyty arhyn o bryd.GraddioLlongyfarchiadau i’r rhai sydd newydd raddio,sef Mabon, Siôn, Mari a Chloe. Dymuniadaugorau iddynt.Penblwydd Hapusi Ffion Refel sydd yn dathlu’i phen-blwydd yn40.Bore CoffiCofiwch o fis Medi ymlaen mi fydd bore coffiJill May yn cael ei gynnal ar y bore Iau cyntafo’r mis yn dilyn newid yn sesiynau’r YsgolFeithrin.Llongyfarchiadau

Merched y WawrAeth rhai o aelodau Merched y Wawr Llanerfyl i’r Spa yng Ngwesty Llanwddyn ddechrau mis Mehefin i gael ychydig o ‘bampro’! Roedd hi’nnoson ddiddorol iawn a chafwyd pryd o fwyd hyfryd cyn mynd adre yn y gwesty. Diolch i Ellyw Pickstock a Beth am eu croeso.

Elen, Ellen a Nerys yn ymlacio ar y seddi marmor cynnes.

I ble’r aeth y blynyddoedd!Edrychwch wir sut mae’r plant bach yn y llun cyntaf wedi blodeuo i fod yn bobl ifanc mor hardd. Tynnwyd y llun o gyn-ddisgyblion Ysgol

Llanerfyl yn ystod ‘Prom’ Blwyddyn 11 yng Ngwesty Maes Mawr ynddiweddar.

Bleddyn, Siôn, Jordan, Ben, Siân, Ellyw a Hanna pan oeddent tua4-5 oed

CEFIN PRYCE YR HELYR HELYR HELYR HELYR HELYGYGYGYGYGLLANFLLANFLLANFLLANFLLANFAIR CAEREINIONAIR CAEREINIONAIR CAEREINIONAIR CAEREINIONAIR CAEREINION

Ffôn: 01938 811306

Contractwr adeiladuAdeiladu o’r NewyddAtgyweirio Hen Dai

Gwaith Cerrig

Brian LewisGwasanaethau PlymioGwasanaethau PlymioGwasanaethau PlymioGwasanaethau PlymioGwasanaethau Plymio

a Gwresogia Gwresogia Gwresogia Gwresogia Gwresogi

Atgyweirio eich holl offerplymio a gwresogiGwasanaethu a GosodboileriGosod ystafelloedd ymolchiFfôn 07969687916neu 01938 820618

Hen YsguborLlanerfyl, Y TrallwmPowys, SY21 0EGFfôn (01938 820130)Symudol: 07966 [email protected]

Gellir cyflenwi eich holl:

anghenion trydanol:Amaethyddol / Domestig

neu ddiwydiannolGosodir stôr-wresogyddion

a larymau tân hefydGosodir Paneli Solar

ELEGANELEGANELEGANELEGANELEGANCECECECECElliw haul, harddwch, ewinedd

Galwch Nia i wneud apwyntiad:01938 50133607989 595011

Cyfle i fwynhau triniaethharddwch mewnawyrgylch unigryw

Llwyn Derw, Pontrobert, Meifod, SY22 6JB

Jordan, Siôn, Hanna, Ellyw, Siân, Ben a Bleddyn erbyn hyn yn16 oed

Mae Gweno a Siwan Maesgwyn wedi pasioar y delyn - y ddwy efo distinction. Gwenogradd 6 a Siwan gradd 2 - Siân James sy’ndysgu’r ddwy.CydymdeimladAnfonwn ein cydymdeimlad at Mrs MeinirRussell a Manon wedi marwolaeth tad MrsRussell yn dilyn damwain car yn ddiweddar.

Page 8: Plu Hydref 2011 fersiwn olajonhead.myzen.co.uk/plu1/rhifynnau/documents/archive/... · 2017. 6. 10. · Hydref 2 Bingo yn Neuadd Llanerfyl 7.00yh RHIFYN NESAF TIM PLU’R GWEUNYDD

88888 Plu’r Gweunydd, Awst/Medi 2015

WAYNE SMITH‘SMUDGE’

10% i ffwrdd gyda’r hysbyseb hon

PEINTIWR AC ADDURNWR24 mlynedd o brofiad

ffôn Cwpan Pinc01938 82063307971 697106

Gwasanaethau Cynllunio a Datblygu

Dros 10 mlynedd o brofiad yn y maes

Cysylltwch i drafod eich ceisiadaucynllunio, apeliadau,amodau S106 a mwy

07771 553 773 /[email protected]

Gyda ni ffermwyr yn hoff iawn o gwyno am ytywydd, mae’n rhaid dweud bod y cyfnodansefydlog yma wedi cael ei groesawu yma,efo’r glaw yn rhoi hwb i dyfiant y borfa. Wedidweud hynny, haf yw haf a gobeithio y daw’rhaul yn ei ôl yn fuan.Dechreuodd y mis efo’r heffrod yn cael tarwpotel a’r tro yma ‘Amercian Angus’ o’r enwSAV Brave trwy Genus a ddefnyddiwyd. Fedreialwyd y tarw ddwy flynedd yn ôl ac wrth iIwan Parry baratoi’r heffrod i fagu darganfuwydbod yr heffrod Angus Americanaidd yn llawermwy aeddfed â ‘pelvic area’ mwy na’r heffroderaill sydd yma o fridiau gwahanol. Efo’rheffrod yn cael y tarw yn 15 mis oed i loio ynddwy flwydd pwysig iawn yw canolbwyntio argeneteg sydd yn lloio yn hawdd. Mae’rgwartheg Angus yn yr America yn lloio efoychydig iawn o ymyrraeth ac yn medru byw apherfformio yn ddiffwdan mewn amgylcheddeithafol, o sychder a gwres yr haf i oerfel ygaeaf.

Mae’r teirw wedi bodyn brysur a gobeithiobod canran da o’rgwartheg yn gyflo ar ôly mis cyntaf. Cafoddy gwartheg ifanc syddyn pori ar y mynyddeu dôs llyngair –hawdd iawn yw tringwartheg efo ‘pour-on’sydd yn arbed amsera lleihau straen ar ygwartheg.Erbyn hyn mae’r @yn igyd wedi cael eu dyfnu,a’r defaid yn cael eu‘gwasgu’ ar lai o borfaam gyfnod. Cafodd yr@yn i gyd ‘trace ele-ment bolus’ efo’r @ynmwyaf yn dod lawr i Llysun i’r caeau adlodda’r @yn lleia yn parhau ar y mynydd. Mae’rbolus yn helpu i gywiro diffyg Selenium, Cop-per, Iodine ac yn fwya pwysig Cobalt, syddyn anghenrheidiol i’r @yn dyfu a phesgi i’wpotensial. Fe ddylai oen sydd yn perfformioi’w orau roi 1/3kg y dydd ymlaen, ond i sicrhauhyn mae’n rhaid bod y borfa yn dda, dimcystadleuaeth o lyngair a chloffni, a dim diffyg‘trace element’. Anaml iawn mae oen yn

medru cyflawni hyn ond mae’n rhaidymdrechu tuag ato.Rydym wedi bod yn gwerthu henddefaid yn Y Trallwng, efo’r prisiauyn foddhaol. Ffodus iawn ydym o’rboblogaeth ethnig sydd yn bwytacymaint o’r cig yma. Mae llwyth o@yn yr wythnos wedi cael eugwerthu dros y mis diwethaf efo’rprisiau’n dal i fod yn siomedig iawn,efo dim gobaith o wella llawer eleni.Yn anffodus pan mae’r @yn ynbarod i’w marchnata mae’n rhaididdynt cael eu gwerthu gan fod @yndros bwysau ac yn or-dew ynderbyn cosb ariannol. Mae’rmwyafrif o’r @yn yn cael eu gwerthui Waitrose, ac yn cael eu lladd ynlleol yn Randall Parker Foods ynLlanidloes. Rydym wedi bod ynrhan o’r cynllun efo Waitrose ers1993 ac mae’r bartneriaeth yngweithio’n dda efo adborth acyfathrebiad cryf ar werthiant cigoen o Gymru.Fel rhan o’r cyfathrebiad efoWaitrose maent yn awyddus iawn iannog ymarfer da ac i wellaeffeithiolrwydd cynhyrchu yn

enwedig oddi ar borfa. Dyma oedd y cyd-destun a fu o dan drafodaeth pan gawsom felgr@p y cyfle i gyfarfod â Prince Charles arfferm Maesllwyni yn Penegoes dechrau’r mis.Rhaid llongyfarch Dafydd a’i deulu ar eu gallui ffarmio i safon mor uchel. ‘Multi SpeciesLeys’ yw’r thema ffasiynol ar y funud ac roeddy Tywysog yn awyddus i ychwanegu eisylwadau a gwrando ar y [email protected] dyfodol y taliad sengl wedi cael eigyhoeddi â bydd yn golygu gostyngiadsylweddol i ganran uchel o ffermydd yr ardala ffermydd Sir Drefaldwyn yn enwedig. Yramcangyfrif yw erbyn 2019 mi fydd y 54hacyntaf yn derbyn Eu243/ha a’r gweddill ynderbyn Eu124/ha. Fel y dywedir ‘we live ininteresting times’.Fe fues ar banel yn cyfweld ar gyferYsgoloriaeth Hybu Cig Cymru a braf oeddgweld safon uchel o ymgeiswyr a brwdfrydedddros ehangu gorwelion a dysgu. Mae’r ddaua fu’n llwyddiannus am dreulio mis yn SelandNewydd yn astudio dulliau i wella geneteg arecordio perfformiad.Cawsom ddau ddiwrnod prysur yn y SioeFawr a llongyfarchiadau i bawb lleol â fu’ncystadlu yno dros y pedwar diwrnod.Llongyfarchiadau arbennig i Guto Lewis amennill Gwobr Goffa Brynle Williams. Mae’rwobr yn cael ei rhoi i ffarmwr ifanc sydd wedimanteisio trwy cynllun YESS ac wedi dangosi’r beirniaid ei allu, dealltwriaeth a brwdfrydeddo fewn ei system ffarmio. Teilwng iawn a daiawn ti.Mae’r gwyliau haf wedi cyrraedd ac fellyhelpar awyddus iawn yn Morgan. Efo’r ddauohonom yn gwisgo welis yr un maint, mae’nrâs at y drws bob bore i cael y pâr gorau!Pob lwc i’r Eisteddfod a mwynhewch yr #yl.

A THANAU FIREMASTERPrisiau CystadleuolGwasanaeth Cyflym

JAMES PICKSTOCK CYF.MEIFOD, POWYSMEIFOD, POWYSMEIFOD, POWYSMEIFOD, POWYSMEIFOD, POWYS

01938 500355 a 500222Dosbarthwr olew Amoco

Gall gyflenwi pob math o danwyddPetrol, Kerosene, Disl Tractor a Derv ac

Olew Iro aThanciau Storio

GWERTHWR GLO CYDNABYDDEDIG

Page 9: Plu Hydref 2011 fersiwn olajonhead.myzen.co.uk/plu1/rhifynnau/documents/archive/... · 2017. 6. 10. · Hydref 2 Bingo yn Neuadd Llanerfyl 7.00yh RHIFYN NESAF TIM PLU’R GWEUNYDD

Plu’r Gweunydd, Awst/Medi 2015 99999

DEWI R. JONESDEWI R. JONESDEWI R. JONESDEWI R. JONESDEWI R. JONES

Pob math o waith adeiladu at eich gwasanaeth

ADEILADWYRADEILADWYRADEILADWYRADEILADWYRADEILADWYR

Ffôn: 01938820387 / 596

Ebost: [email protected]

CYSTADLEUAETHSUDOCW

ENW: _________________________

CYFEIRIAD: __________________

____________________________________

____________________________________

Roedd 29 ohonoch wedi llwyddo i gwblhau ypôs mis diwethaf. Diolch yn fawr iawn iRhiannon Gittins, Llanerfyl; Linda Roberts,Abertridwr; Oswyn Evans, Penmaenmawr;Maureen Jones, Cefndre; Roger Morris,Wrecsam; Myra Chapman, Pontrobert; CledEvans, Llanfyllin; Eirwen Robinson, CefnCoch; Bryan, Tynywig; Shirley Davies,Llangedwyn; Wat, Brongarth; GwendaWilliams, Llanidloes; Myfanwy Morgan,Llanfair; Eirys Jones, Dolanog; Ann Evans,Bryncudyn; Ifor Roberts, Llanymawddwy;Kate Pugh, Llanymynech; Megan Roberts,Llanfihangel; Menna Lloyd, Pontrobert; GordonJones, Machynlleth; David Smyth, Foel; JeanPreston, Dinas Mawddwy; Ken Bates,Llangadfan; Bryn Jones, Llanwddyn; NoreenThomas, Amwythig; Anne Wallace, Llanerfyl;Heather Wigmore, Llanerfyl a Tudor Jones,Arddlîn (llongyfarchiadau i Tudor a’i wraigMichelle ar enedigaeth mab bach o’r enwMabon ar ddydd Sadwrn y 18fed o Orffennaf,chwaer fach i Elin Angharad).Yr enw lwcus allan o’r het ac yn ennill £10 i’wwario yng Nghaffi’r Cwpan Pinc oedd MennaLloyd, Bryngwalia, Pontrobert.Anfonwch eich atebion at Mary Steele,Eirianfa, Llanfair Caereinion, Y Trallwm,Powys SY21 0SB neu Catrin Hughes, LlaisAfon, Llangadfan, Y Trallwm, Powys, SY210PW erbyn dydd Sadwrn Medi 19. Bydd yrenillydd lwcus yn ennill tocyn gwerth £10 i’wwario yn un o siopau Charlie’s.

Y County Times a’rRhyfel Byd Cyntaf

Awst 1915Fe ledaenodd y stori yn 1915 i angylionymddangos ym mrwydr Mons. Er tegwch iddopur amheus yw Iago Erfyl yn ei golofnGymraeg o’r hanesyn hwn. “Ein barn ni,’meddai, “yw pe buasai angylion wedi dod allani Ryfel yn erbyn yr Huns, y buasai’r rhyfeldrosodd yn y fan ar lle.” Y mae’n mynd yn eiflaen i fwrw ei amheuaeth ar rai o’r storiau agysylltid â’r Diwygiad ddeng mlynedd yn gynt.‘Y tebygrwydd yw,’ meddai, ‘ fod y chwedlhon yn perthyn i’r un dosbarth â’r chwedlauynghylch angylion a Goleuadau yn amser yDiwygiad, coffa da amdano. Clywsom amnewyddiadurwr o Lundain yn anfoncynrychiolydd i chwilio i mewn i ddirgelwchLlanegryn, ond nid yw report y dyn hwnnwwedi ymddangos hyd y dydd hwn.’Taw piauhi boys’ sydd orau ar y pwnc hwn.’Mewn colofn arall mae’n cyfeirio at rananrhydeddus y Ffiwsilwyr Cymreig yn y Dar-danelles a bod y brwydro ‘ wedi dwyn cwmwldros fwy nag un aelwyd ym Maldwyn aMeirion....” Ymhlith y rhai a laddwyd yn ystody brwydro ceir enw’r Capten E Lloyd Jones,mab y diweddar D Lloyd Jones, Llandinam.Yr oedd wedi bod yn fyfyriwr yngNghaergrawnt ac yn @yr o du ei dad i’rParchedig John Jones Talysarn.Methodistiaid Calfinaidd amlwg iawn oeddteulu’r Parch D Lloyd Jones, Llandinam. Ondamharod iawn yw Iago Erfyl i deimlo’n garedigtuag at yr Anghydffurfwyr. Dywed Awst 71915):“Dywed y bobl fod y wasg enwadol (hynnyyw anghydffurfiol) yng Nghymru yn cicio ynenbyd yn erbyn y syniad o orfodaeth [a’u bod]o dan y drefn bresennol yn gallu llechu yngnghysgod yr Eglwyswr.’Fe welwn o’r stori hon fel y rhwygwyd yRhyddfrydwyr a’r anghydffurfwyr hefyd gan yrhyfel a chwestiwn gorfodaeth filwrol. Ni fyddaigorfodaeth filwrol yn dod i rym tan ddechrau1916 ond roedd Lloyd George yn daer iawn oblaid y Mesur. Nid felly Llewelyn WilliamsAelod Seneddol Bwrdeistrefi Caerfyrddin. Maeef yn cynrychioli traddodiad heddychol agwrth-filwrol y Blaid, un a gysylltid â’r ApostolHeddwch Henry Richard. Ond sychlyd iawnyw agwedd Iago Erfyl at Llewelyn Williams:“Mae’n wir dda gennym weled fod ymhlith yWelshers fonheddwr ag y mae ei“egwyddorion” yn gysegredig yn ei olwg.Mor grafog yw’r gair cysegredig yn y frawddegyna!

LLWYDIARTHEirlys Richards

Penyrallt 01938 820266

CydymdeimladCydymdeimlwn â Nesta Owen a’r teulu, syddwedi colli dau berthynas yn ddiweddar, sef,Glyn Morris a Maggie Evans.GraddioLlongyfarchiadau i Delyth Lewis, merchTrevannion a’r diweddar Gwyn Evans, Tyisa,ar dderbyn gradd dosbarth cyntaf ar derfyncwrs addysg.GenedigaethLlongyfarchiadau i Arfor a Lena Jones, CyffinIsa, ar ddod yn daid a nain. Ganwyd merchfach i Richard a Zoe.Sefydliad y MerchedCroesawodd Linda, Llywydd y Gangen bawbi’n cyfarfod mis Gorffennaf. Cawsom y Col-lect gan Angie. Cydymdeimlwyd â Catherinear farwolaeth ei thad gwyn - Mr Trefor Morris.Anfonwyd ein cofion cynnes at Ceinwen syddwedi dod i ysbyty Trallwm ar ôl treulio rhaiwythnosau yn ysbyty Glan Clwyd. Cofiongwresog hefyd at Dilys sydd ddim yn rhy ddaar hyn o bryd. Wedi trafod materion y gangenaeth Linda ymlaen i groesawu Val Church, uno’n haelodau oedd hefyd ein gwraig gwadd.Cawsom sgwrs ddiddorol ganddi am lyfrcyfrifon o’r 19eg ganrif, a ddarganfuwyd yneu hatig gan Eirian a Norman Roberts,Penisarcyffin gynt. Wrth iddi ei agor, dealloddVal yn syth mai nid teulu cyffredin oeddberchen y llyfr yma oherwydd bod 4 pâr ofenig sidan ymysg cyfrifon un flwyddyn. Arôl llawer o waith ymchwil, cafodd ei hamheuoneu cadarnhau. Darganfu fod y llyfr yn bercheni deulu cyfoethog iawn, o’r enw Williams oeddwedi adeiladu Plas Dolanog - diddorol iawn.Diolchodd Meinir i Val ac enillwyr ygystadleuaeth fisol oedd Val, Dianne a Meinirgyda Linda yn ennill y raffl.

01938 810242/01938 811281 [email protected] /www.banwyfuels.co.uk

TANWYDD

OLEWON AMAETHYDDOL

POTELI NWY

BAGIAU GLO A CHOED TAN

TANCIAU OLEW

BANWY FEEDS POB MATH O FWYDYDD

ANIFEILIAID ANWES

A BWYDYDD FFERM

LLANFAIR CAEREINIONTREFNWR ANGLADDAU

Gwasanaeth Cyflawn a PhersonolCAPEL GORFFWYS

Ffôn: 01938 810657Hefyd yn

Ffordd Salop,Y Trallwm.

Ffôn: 559256

R. GERAINT PEATE

KATH AC EIFION MORGAN

yn gwerthu pob math o nwyddau,Petrol a’r Plu

POST A SIOPLLWYDIARTH Ffôn: 820208

Dafydd Morgan Lewis

Page 10: Plu Hydref 2011 fersiwn olajonhead.myzen.co.uk/plu1/rhifynnau/documents/archive/... · 2017. 6. 10. · Hydref 2 Bingo yn Neuadd Llanerfyl 7.00yh RHIFYN NESAF TIM PLU’R GWEUNYDD

1010101010 Plu’r Gweunydd, Awst/Medi 2015

Ann y Foty yn Ystyried Llosgi’r ‘County Times? MM aldwynenterRydw i wedi bod yn pendroni’n hir uwch teitlfy ngholofn y mis hwn. Wedi’r cwbl, dydw iddim yn un o’r bobl hynny fyddai o ddewis yn

llosgi papur newydd (nac unrhywddeunydd ysgrifenedig arall o ranhynny). Fe enwogodd AneurinBevan ei hun unwaith trwy losgi’rWestern Mail a hynny oherwydd eisafbwyntiau adweithiol. Ondgweithred beryglus yw hon. Wedi’r

cwbl bu’r Natsiaid wrthi fel lladd nadroedd ynllosgi llyfrau nad oedd yn cydymffurfio â’ugweledigaeth wyrdroedig o’r byd. Fearweiniodd hynny wedyn at anfon eugwrthwynebwyr i’r gwersylloedd cosb a’rffyrnau nwy. Felly, gwell meddwl yn ofaluscyn llosgi dim byd. Gall y cyfan arwain iddinistr ofnadwy.Ond papur erchyll yw’r County Times, nadyw’n haeddu cael ei brynu na’i ddarllen.Cafodd y llysenw County Liar gan lawer ahynny flynyddoedd yn ôl. Aeth amser maithheibio ers iddo ddangos unrhyw ddiddordebgwirioneddol yng nghymunedau CymraegMaldwyn (roedd yn fwy na pharod i ildio’rcyfrifoldeb hwnnw i’r papurau bro). Ondoherwydd hyn mae’r berthynas rhwngardaloedd Cymraeg a broydd di-Gymraeg ySir wedi dirywio a dieithrio. Fe ddylai’r papurwedi’r cwbl weithredu fel pont rhyngddynt.Gwir fod peth Cymraeg yng ngholofn Llanfaira bod Beryl Vaughan wedi cael cyfle ynddiweddar i son am y Steddfod Genedlaethol.Ond gwta flwyddyn yn ôl fe roddodd y papurlawer iawn mwy o sylw i garnifal yn un o drefi’rgororau nag i’r #yl Gyhoeddi yn y Drenewydd.Mae blynyddoedd lawer wedi mynd heibio erspan oedd Idwal Davies yn rhoi sylw teilwngyn wythnosol i’n cymunedau Cymraeg.Byddai’n troi yn ei fedd pe gwelai’r papurheddiw.Fe fu colofnau Cymraeg yn y County Timesunwaith gyda’r Parchedig Glyn Lewis (Glyn oFaldwyn) a Sioned Penllyn yn gyfrifolamdanynt. Cyn hynny bu Iago Erfyl a PierceRoberts yn cyflawni’r un dasg. Ofer disgwylam golofn Gymraeg bellach.Nid yn unig mae’r Gymraeg yn amherthnasolyng ngolwg y County Times, ond fe drodd ypapur yn ddiweddar yn blatfform i’r lleisiau a’rsafbwyntiau mwyaf gwrth-Gymreig yn SirDrefaldwyn.Ymmddengys fod y County Times wedi myndi’w ffansio ei hun fel ymgyrchydd brwd drosrai achosion arbennig, ac anghofio ar yr unpryd mai ei ddyletswydd fel papur lleol ywcynrychioli’n deg wahanol safbwyntiautrigolion y sir.Unochrog iawn fu ei safiad ar fater MelinauGwynt, heb ystyried, fe ymddengys, fod mwynag un farn ar y pwnc hwnnw. Ond ofnaf eifod ar fin gwneud rhywbeth llawer mwygwrthun trwy ochri gyda’r rhai hynny sy’nelyniaethus i ddatblygiad addysg uwchraddddwyieithog yn y cyffiniau hyn. Mae peth o’riaith ddefnyddiwyd mewn adroddiadaudiweddar yn atgoffa rhywun o’r sefyllfawleidyddol yn Ne Affrica cyn i Mandela gaelei ryddhau lle yr awgrymir fod cefnogwyr twfaddysg Gymraeg yn ymdebygu i’r rhai hynnyoedd o blaid apartheid yn y wlad honno mewndyddiau a fu.Mae’r lle amlwg a roddir i safbwyntiau y rhai

sydd yn erbyn datblygu addysg ddwyieithog,a’r iaith hyll ac ymfflamychol a ddefnyddiryn yr adroddiadau o dro i dro yn fy ngwylltio’narw.Sylwn fod rhai gwleidyddion wedi bod yn fwyna pharod i fynegi eu gwrthwynebiad i addysgddwyieithog yn y papur. Mae Russell Georgeein Haelod Cynulliad a Jane Dodds (er mawrsyndod i mi) wedi galw am atal yr ymchwiliadgan Sbectrwm i ddyfodol addysg ddwyieithogyn y sir.Duw a’n helpo! Mi fydd gwleidyddion bobamser yn gweiddi am ddatrys rhyw argyfwngneu’i gilydd a hynny ar frys mawr. Yr eithriadi hyn yw’r argyfwng sy’n wynebu’r Gymraeg.Yng ngolwg y gwleidyddion hyn mae yna fwyna digon o amser i bwyllo ac oedi pan drafodirdyfodol ein hiaith ni.Ond y gwir amdani yw ein bod wedi ymgyrchutros addysg Gymraeg yn yr ardal hon erstros chwarter canrif. Mae’n bwnc sy’n codiei ben dro ar ôl tro ym Mhlu’r Gweunydd erspan sefydlwyd y papur bro yn 1978.Fedrwn ni ddim fforddio oedi’n hwy. Cyn hirni fydd na iaith Gymraeg na chymunedauCymraeg ar ôl i boeni amdanynt. (Efallai ynwir fod George, Dodds etc yn nyfnder eucalonnau, yn deisyfu hynny. Fe fyddai o leiafyn un pwnc llosg yn llai i boeni amdano. Acos nad ydych yn credu fod argyfwng ynwynebu’r Gymraeg yna darllenwch erthyglElwyn Vaughan yn y rhifyn hwn o’r Plu asylwch yn arbennig ar hanes yr iaith ynLlanerfyl dros yr ugain mlynedd diwethaf.Mae’r sefyllfa yr un mor druenus ym mhobman arall cofiwch.Mi fydd angen llawer mwy nag ysgoluwchradd ddwyieithog os ydym am adfer yGymraeg yn yr ardaloedd hyn, ond fe fyddai’nfan cychwyn da.Felly, ar Faes yr Eisteddfod Genedlaetholeleni manteisiwch ar y cyfle i daclo GlynDavies, Russell George, Jane Dodds,Myfanwy Alexander (sydd rwy’n ofni wedidweud rhai pethau cwbl anghyfrifol ynddiweddar) a mynnwch eu bod yn gwybodbeth yw eich safbwynt. Mi fydd eingwleidyddion dewr yn cerdded y Maes, yngoferu o Gymreictod, ac yn canu ‘o byddedi’r hen iaith barhau’ nerth esgyrn eu pennaumae’n siwr. Wel, beth am wneud yn siwr eubod nid yn unig yn canu am yr iaith, ond yngweithredu trosti hefyd.Nid yn unig hynny, ond fe ddylai’r rhaiohonom sy’n credu o ddifri yn nyfodol yGymraeg ystyried trefnu cyfarfod gyda’rCounty Times er mwyn gwneud yn siwr fodein safbwynt yn cael chwarae teg gan y papura bod yr iaith ei hun yn cael lle teilwng ardudalennau’r wythnosolyn.

Mererid Haf Roberts01686 610 010

[email protected]

Clybiau Haf i Blant!Mae Menter Maldwyn yn cynnal clybiaugweithgareddau a chwaraeon i blant dros yrhaf – i roi cyfle i bobl ifanc leol gymdeithasu achael hwyl efo’u ffrindiau trwy gyfrwng yGymraeg. Maen nhw’n addas i blant 8-11 oeda’r gost yw £5 y dydd. Dyma’r manylion:10 ac 17 Awst: Llanfair Caereinion (10am-2pm)11 ac 18 Awst: Y Drenewydd (10am-3pm)12 ac 19 Awst: Penybontfawr (10am-3pm)13 a 20 Awst: Llanfyllin (10am-3pm)I gofrestru, cysylltwch â’r Fenter ar 01686 610010 / [email protected] – y cyntaf i’rfelin gaiff falu!Bydd y Fenter hefyd yn cynnal sesiwnchwaraeon i blant yn Sioe Carno, rhwng 1pm-3pm ddydd Sadwrn 15 Awst – dewch draw!Ac yn COBRA, Meifod ddydd Sul 16 Awstbyddwn ni’n cynnal Camp Rygbi Cymraeg irai 9-12 oed. Cysylltwch efo Menter Maldwynam fanylion unrhyw un o’r digwyddiadau yma.Menter Maldwyn ar y MaesDewch draw i’n gweld ni ar Faes yr Eistedd-fod – byddwn ni yno’n rhannu stondin efoMentrau Iaith Cymru. Ymhlith eindigwyddiadau yn ystod yr wythnos byddcerddoriaeth gan Sorela a Carw, trafodaeth arY Gymraeg ar y We, ymweliadau gangymeriadau Cyw a Stwnsh, bît-bocsio a rapioefo Ed Holden, Parti Magi Ann, paned a sgwrsi ddysgwyr Cymraeg, celf a chrefft ac amrywweithgaredd i chi fod yn rhan ohono achyfrannu at brosiect tafodiaith arbennig yFenter.Un digwyddiad fydd o ddiddordeb arbennig iddarllenwyr y Plu fydd sesiwn anffurfiol i lansiocyfrol newydd o luniau gan Eluned Mai Porter– Darlun Ddoe: Cymeriadau Bro Banw, 1970-1995. Bydd Mai yn dod i sgwrsio am ei chyfrolac ambell un o’r cymeriadau sydd yn y lluniau.Mae croeso cynnes iawn i chi ymuno efo ni, achyfle i brynu eich copi o’r llyfr wrth gwrs. Byddcyfrolau barddoniaeth Emyr Davies hefyd argael gennym ni trwy gydol yr wythnos.Bydd pedwar papur bro Maldwyn i’w gweld ynein pabell hefyd, wrth i ni ddathlu ein papurauCymraeg lleol; rydyn ni’n edrych ymlaen atgael rhoi llwyfan cenedlaethol i’r Plu ar y Maes.Galwch draw am sgwrs ac i fod yn rhan o’rbwrlwm!

MARS Annibynnol

Old Genus Building, Henfaes Lane,Y Trallwng, Powys, SY21 7BE

Ffôn 01938 556000Ffôn Symudol 07711 722007

Ymgynghorwyr Ariannol Annibynnol

Trevor JonesRheolwr Datblygu Busnes

Morgeisi * Pensiynau * Buddsoddiadau * Cynilion* Yswiriant Bywyd * Diogelu Incwm

* Adeiladau a Chynnwys

Bridge House Llanfair CaereinionBridge House Llanfair CaereinionBridge House Llanfair CaereinionBridge House Llanfair CaereinionBridge House Llanfair CaereinionPrydau 3 chwrsPrydau 3 chwrsPrydau 3 chwrsPrydau 3 chwrsPrydau 3 chwrs

Bwyd Cartref gan ddefnyddioBwyd Cartref gan ddefnyddioBwyd Cartref gan ddefnyddioBwyd Cartref gan ddefnyddioBwyd Cartref gan ddefnyddioCynnyrch CymreigCynnyrch CymreigCynnyrch CymreigCynnyrch CymreigCynnyrch Cymreig

Seidr Cymru, Rhestr Win helaethSeidr Cymru, Rhestr Win helaethSeidr Cymru, Rhestr Win helaethSeidr Cymru, Rhestr Win helaethSeidr Cymru, Rhestr Win helaeth

Archebwch drwy ffonio Ruth Kempe:Archebwch drwy ffonio Ruth Kempe:Archebwch drwy ffonio Ruth Kempe:Archebwch drwy ffonio Ruth Kempe:Archebwch drwy ffonio Ruth Kempe:01938 81191701938 81191701938 81191701938 81191701938 811917

Page 11: Plu Hydref 2011 fersiwn olajonhead.myzen.co.uk/plu1/rhifynnau/documents/archive/... · 2017. 6. 10. · Hydref 2 Bingo yn Neuadd Llanerfyl 7.00yh RHIFYN NESAF TIM PLU’R GWEUNYDD

Plu’r Gweunydd, Awst/Medi 2015 1111111111

O’R GORLANGwyndaf Roberts

Garej Llanerfyl

Ffôn LLANGADFAN 820211

Ceir newydd ac ail lawArbenigwyr mewn atgyweirio

GWE FANGWE FANGWE FANGWE FANGWE FAN

Dyma neges gan Gwenllian Carr yngl~n âgwefannau yn gysylltiedig â’r Eisteddfod Eisteddfod Eisteddfod Eisteddfod Eisteddfod ganddweud bod ‘Pob math o ffyrdd i gadw mewncysylltiad’.Fydd dim angen poeni am golli cysylltiadgydag unrhyw beth sy’n digwydd yn yr Ei-steddfod eleni, gan fod modd cael hyd iwybodaeth mewn nifer fawr o ffyrdd cyncychwyn ac yn ystod yr wythnos ei hun.Mae gwefan yr Eisteddfod yn llawngwybodaeth am beth sy’n digwydd yn ystodyr wythnos, cyfarwyddiadau ar sut i gyrraeddy Maes, ac os nad ydych wedi’u prynu eto,mae modd archebu tocynnau ar y wefan hefyd– ar gyfer y dydd a chyda’r nos. Cyfeiriad ywefan yw www.eisteddfod.org.uk.Bydd gennym ap arbennig yn ystod yrwythnos hefyd, Ar y Maes, a bydd hwn yncynnwys Taith Tywys yn y Gymraeg a’rSaesneg – cyfle i chi ddod i adnabod y Maesgydag ychydig o gymorth cyn i chi fynd achrwydro ar eich pen eich hun – perffaith wrthgyrraedd ar y bore cyntaf. Mae’r ap hefyd yncynnwys amryw o uchafbwyntiau acamserlenni dyddiol. Bydd yr ap ar gael o’r‘App store’ cyn cychwyn yr Eisteddfod.Os ydych chi’n hoffi apau ac yn dysguCymraeg, beth am lwytho ap arbennig Geirfa’rEisteddfod, sy’n cynnwys llond lle oymadroddion a brawddegau i helpu dysgwyrwrth fynd o amgylch y Maes? Ceirgwybodaeth ddefnyddiol am yr Eisteddfod eihun hefyd, ynghyd ag ychydig o hanes yrardal. Gellir lawrlwytho’r ap o’r App Store aGoogle Play.Ac wrth gwrs, fe fydd yr Eisteddfod yn trydarac yn postio gwybodaeth ar facebook yn ystodyr wythnos fel yr ydym wedi bod yn ei wneudyn y cyfnod hyd at rwan. Ein cyfrifon yw@eisteddfod, @eisteddfod_eng (Saesneg ynunig), @Maes_b ac @MaesD_Steddfod.Byddwn yn defnyddio’r hashnod#steddfod2015 a bydd rhestr o unrhywhasnodau eraill y byddwn yn eu hyrwyddo yny llyfryn gweithgareddau a fydd ar gael ynystod yr wythnos, neu wrth gwrs, gwyliwchallan am y hashnodau’n ystod yr wythnos.Felly, cofiwch gadw mewn cysylltiad gyda niwrth baratoi ar gyfer yr Eisteddfod ac yn ystodyr wythnos ei hun – a chofiwch alw draw i’ngweld yn y Ganolfan Ymwelwyr. Mae un pethyn well na chysylltu ar-lein, drwy Trydar,facebook, ap a’r cyfan oll, a hynny yw cyswlltwyneb yn wyneb, gwên a chyfle i ddweud‘helo’!’

Y tro cyntaf imi weld y Dr Meredydd Evansyn y cnawd megis oedd mewn oedfa ganolwythnos yng nghapel Horeb, Bangor. Un obedwar capel Wesla y ddinas oedd Horeb ypryd hynny; St Paul, Seion Hirael a MoreiaGlanadda oedd y lleill. Trwy gysylltiadau nachofiaf ddim byd amdanynt yn awr, roeddaelodau Aelwyd yr Urdd Hen Golwyn wedi caelgwahoddiad i gymryd rhan yn y gwasanaeth.Cafodd tri ohonom y fraint o eistedd yn y sêtfawr i ledio emyn, darllen a gweddïo ac ynagwrando ar bregeth gan Meredydd Evansoedd yn ddisglair nid yn unig yn ei chynnwysond hefyd yn null ei thraddodi. Y cof sy’n arosyw am Gymraeg gloyw y pregethwr acangerdd y neges. Gan na ddywedwyd wrthymymlaen llaw pwy oedd yn pregethu roedd yngryn sioc i mi beth bynnag i gymryd rhan oflaen un o arwyr mawr canu ysgafn ypedwardegau a’r g@r a ymddangosodd yn yffilm enwog Noson Lawen a’r rhaglenni radioa fu’n fodd i godi calon cenedl mewn cyfnodllwm iawn.Collais olwg ar Merêd wedi cyfnoddosbarthiadau nos Llandudno a bu’n rhaidaros tan flynyddoedd ei ymddeoliad cyn dodi gysylltiad ag o unwaith eto mewn sawlpwyllgor protest yn Aberystwyth. Y tro olaf ycefais ei gwmni oedd ym Mehefin 2011 panaeth trip yr ofalaeth i Fynydd Epynt i fod ynrhan o bererindod Cymdeithas y Cymod i safleCapel y Babell a’r pentre’ ffug. Cefais y fraint,na fyddaf byth yn ei anghofio, o gydgerddedyn y glaw gyda Merêd a chael cryn drafferth iddilyn camau’r g@r sionc a oedd o fewn golwgi’w ben-blwydd yn 92 oed. Yr hyn oedd ynrhyfeddol oedd ei gof anhygoel a’i allu i gofiopobl, a digwyddiadau yn ystod ei gyfnod yndarlithio inni yn Llandudno yn arbennig. Credaffod rhyw garisma o gwmpas Merêd a’i anwylainid yn unig i’w gyfeillion ond hefyd i’r rhai nadoeddent o angenrheidrwydd yn cydweld â’i

ddaliadau heddychol a pholiticaidd. Rhan o’iddawn oedd gweld y tu hwnt i ddicter eiwrthwynebwyr a chanfod y pethau sy’n rhoitir y gall pobl sefyll arno a chyd drafod. Wedi’rcyfan mae’n rhaid cofio mai’r hyn a wna tarwyn ei gynddaredd yw tasgu’r ddaear sydd danei draed i bob man. Mae ymddygiad o’r fathyn arwain yn ddi-feth at golli tir. Un oddywediadau mawr Merêd am rywun roeddwedi cael trafferth gydag o ac yna wedicymodi oedd - “Hen foi nobl oedd o yn y bôn”.Fe ellir dweud am Merêd ei fod yn gymeriadaml ganghennog ond bod y cyfan yn cael eucwmpasu wrth ei ddisgrifio fel athronydd,llenor, cerddor, a gweithredwr dros Gymru a’ihiaith. Sylwer mai’r disgrifiad cyntaf ohonoyw fel athronydd a gellir dweud ei fod wedidisgleirio yn y maes ochr yn ochr ag athronwyrfel Dewi Z Phillips, Walford L Gealy, JohnDaniel ac E Gwynn Matthews yma yngNghymru a thu hwnt. Ef sydd yn gyfrifol am ygyfrol am David Hume (1711-1776) yn ygyfres Y Meddwl Modern (Gwasg Gee 1984).Ganwyd David Hume yn yr Alban a bu eiweithiau athronyddol yn wrthodedig am ganrifa mwy. Pan oedd tua 15 oed, adweithiodd ynerbyn yr hyn a ddisgrifiai ef fel athrawiaethauCalfinaidd haearnaidd bygythiol a sarrug.Arweiniodd hyn at amau gwerth Cristnogaethyn gyffredinol ac ymwrthod yn y gred mewngwyrthiau, rhagluniaeth ymyrrol ac mewn byda ddaw. Wedi dweud hyn oll fe gydnabyddirHume fel athronydd o’r radd flaenaf heddiwac yn un na ellir anwybyddu ei waith.Mawredd Merêd fel dyn ac athronydd oeddymwneud â gweithiau llu o feddylwyr o bobgradd heb golli ei gred a’i ddaliadau personol.Mae hyn yn gryn gamp oherwydd fel y dywedWalford L Gealy yn Cristion ... “Eithriad mawryw’r athronwyr a fagwyd yn y traddodiadathronyddol empeiraidd Prydeinig ac sy’ncadw at eu ffydd”. Synnwn i ddim mai “henfoi nobl oedd o yn y bôn”, fyddai datganiadMerêd am Hume hefyd. Tybed na fyddwn ynennill mwy i’r deyrnas pe gallem ninnauymwrthod â barnau cul crefyddol ar bobl acheisio gweld y pethau gorau ynddynt.

Siop Trin GwalltA.J.’s

Ann a Ann a Ann a Ann a Ann a KathyKathyKathyKathyKathyyn Stryd y Bont, Llanfair

Ar agor yn hwyr ar nos IauFfôn: 81Ffôn: 81Ffôn: 81Ffôn: 81Ffôn: 8112271227122712271227

HUW EVANSGors, Llangadfan

Arbenigwr mewn gwaith:Ffensio

Unrhyw waith tractorTroi gydag arad 3 cwys ‘spring’

a 4 cwys dwy ffordd ‘spring’Torri Gwair a Thorri Gwrych

Bêlio bêls bach

01938 820296 / 07801 583546

G wasanaethau A deiladu D avies

Drysau a Ffenestri UpvcFfasgia, Bondo a Bargod Upvc

Gwaith Adeiladu a ToeonGwasanaethau Cynnal a Chadw Eiddo

Gwaith tirRheiliau Haearn, Giatiau a Balconïau

Ffôn: 01938 820521 Symudol: 07933 452175

www.davies-building-services.co.uk

Ymgymerir â gwaith amaethyddol,domesitg a gwaith diwydiannol

Y Brigdonnwr

Page 12: Plu Hydref 2011 fersiwn olajonhead.myzen.co.uk/plu1/rhifynnau/documents/archive/... · 2017. 6. 10. · Hydref 2 Bingo yn Neuadd Llanerfyl 7.00yh RHIFYN NESAF TIM PLU’R GWEUNYDD

1212121212 Plu’r Gweunydd, Awst/Medi 2015

MEIFODMorfudd Richards

01938 [email protected]

Croeso adreBraf ydi gweld Geraint Williams, Newbridgeadref am fis o Seland Newydd. Mae Geraintyn gweithio fel Syrfëwr Meintiau (quantity sur-veyor) ac wedi bod yn gweithio ynChristchurch gyda’r tîm adfer wedi daeargryners Ionawr 2014.PriodasauMae’n gyfnod prysur iawn yma ym Meifodgyda’r holl briodasau. Pob dymuniad da iddynti gyd i’r dyfodolRoedd hi’n ddiwrnod braf iawn ar y 4ydd oOrffennaf pan briodwyd Rachel a WayneWilliams Heulfryn yn y Swyddfa Gofrestruyn y Trallwng. Cawsant y wledd yn NeuaddMeifod.Priododd Amy a Mathew Jones ar y 17eg oOrffennaf yn Eglwys Meifod, pob hapusrwyddi’r ddau.Dydd Sadwrn 25ain o Orffennaf priododdVicky a Derek Coffey, Isfryn.Dymuniadau gorau i Michelle Evans CaeDafydd ar ei phriodas ar y25ain o Orffennaf.Roedd y gwasanaeth yn Eglwys Llanfair a’rwledd mewn marque yn Cobra, Meifod.Mae’r Parch Jane James wedi cael cyfnodprysur iawn yn gweinyddu ambell i wasanaethpriodasol yn ddiweddar, ond yr oedd un ynarbennig iawn gan i ferch Jane a Nick sefHolly briodi yn Eglwys Sant Chad yn yrAmwythig ar y 25ain o Orffennaf. Mi fuom nifel Llond Llaw yn ffodus iawn o gael canu yny gwasanaeth, braf oedd cael bod yn rhan o’rdathliadau.Efallai y cawn luniau o’r priodasau erbyn misnesaf.BabiLlongyfarchiadau mawr i Sarah a Darren Wern,Ffordd y Cil ar enedigaeth merch fach Ava,chwaer fach i Olivia. Dwi’n si@r y bydd ynagryn dipyn o sbwylio! Pob dymuniad da i’rteulu bach.MarwolaethBu farw George Arthur Lloyd, Guilsfield gynto’r Hen Neuadd Meifod yn 91 mlwydd oed.Cydymdeimlwn â’r teulu oll.

Maes yr EisteddfodWel, mae’r amser bron yma ac fel y gwelwch chi mae’r maes i weld bron yn barod. Y mae’rtywydd wedi bod yn garedig iawn i’r gweithwyr ac maent wedi bod yn hynod o lwcus i gaelgosod pob dim yn ei le ar dir sych.Gobeithiwn am dywydd da yn ystod yr @yl - Hwyl i chi gyd ac fe welwn i chi yno!

Glanhau!Daeth tua dau ddeg o drigolion Meifod ynghyd i sbriwsio ychydig ar y pentref. Diolch i TraceyFrost am drefnu ac i bawb arall am wirfoddoli, y mae wir wedi gwneud gwahaniaeth. Mi fyddpwyllgor Apêl Eisteddfod Meifod yn addurno’r pentref drwy roi baneri a blodau o gwmpas ypentref o fewn y diwrnodau nesaf. Gobeithio na ddaw lladron i ddwyn ein blodau fel y digwyddoddychydig wythnosau yn ôl!! Gwelir Ifor a Glyn uchod yn brysur wrth eu gwaith.

Sioe MeifodMi roedd yna dyrfa dda wedi dod i’r sioe eleni a llawer o gystadlu yn yradran garddwriaeth, coginio a chelf. Agorwyd y sioe gan Eldrydd Jones,Lower Hall sef llywydd y dydd. Roedd hen dractorau ac amrywiaeth offlotiau dan y thema ‘cân’ yn gorymdeithio drwy’r pentref.

Clwb 200 Neuadd MeifodYr enwau lwcus oedd:Andrew Jones, Pentre Barog a enillodd £25Nicola Gwalchmai, Islwyn £10Elin Jones, Lower Hall £10Arholiadau PianoLlongyfarchiadau i’r canlynol ar eu llwyddiant, maent yn ddisgyblion iHaf Watkin, PentregoAmber Watkin, Dyffryn - Gradd 4 (Pass)Mali Wyn Ellis, Llanfair - Gradd 1 (Merit)Alisha Robinson, Llanfair - Gradd 1 (Merit)Ffermwyr Ieuainc Dyffryn EfyrnwyBu’r aelodau yn cymryd rhan yng nghystadlaethau chwaraeon y siryn ddiweddar. Buont yn llwyddiannus gan ennill y wobr gyntaf gyda’rtag rygbi dan 16 ac yn 3ydd gyda thynnu rhaff dan 16 oed. Cynhaliwydy cystadlaethau yn COBRA.Symud tSymud tSymud tSymud tSymud t~~~~~Mae Millie a J. R Jones yn symud i Lanllechid ger Bethesda i fyw ynnes at eu merch. Mi fydd chwith mawr ar eu hôl yn yr ardal gan iddyntgymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau a chymdeithasau.Pob dymuniad da i’r ddau ohonoch yn eich cartref newydd.

Page 13: Plu Hydref 2011 fersiwn olajonhead.myzen.co.uk/plu1/rhifynnau/documents/archive/... · 2017. 6. 10. · Hydref 2 Bingo yn Neuadd Llanerfyl 7.00yh RHIFYN NESAF TIM PLU’R GWEUNYDD

Plu’r Gweunydd, Awst/Medi 2015 1313131313

1. Merched y Ddawns Flodau: Rhes gefn: Nia Jones,Megan Richards, Sarah Humphreys, Siony Rudd, ..Richardson, Angharad Williams, Henrietta Alexander,Chloe Pritchard, Sian Evans, Eilish Argument, ElinorHughesRhes ganol: Rachel Andrew, ....; Angharad Lewis, CeriMorgan, Rachel Tudor-Davies, Poppy Davies, ...,Tatiana BoomsmaRhes flaen: Emma Morgan, Emma Williams, Mary-Kate, Ceri Jones, Mari Evans, Catherine Watkin,Gemma Rudd, Mari Jones

Cofio Meifod2003

Diolch yn fawr iawn i TTTTTegwyn Robertsegwyn Robertsegwyn Robertsegwyn Robertsegwyn Roberts amei ganiatâd i gyhoeddi’r lluniau yma. Mae’nanodd credu bod 12 mlynedd wedi mynd.

Bois y Maes a Threfn yn cael paned!

Gwyneth, Beryl, Myfanwy, Sian, Jane, Eirian a Maglona

Tegwyn a Beryl

Ann ac EmrysCyflwyniad Mwrdwr Caerbwla

Alis Huws ac Aled Hughes

Page 14: Plu Hydref 2011 fersiwn olajonhead.myzen.co.uk/plu1/rhifynnau/documents/archive/... · 2017. 6. 10. · Hydref 2 Bingo yn Neuadd Llanerfyl 7.00yh RHIFYN NESAF TIM PLU’R GWEUNYDD

1414141414 Plu’r Gweunydd, Awst/Medi 2015

BECIAN DRWY’R LLÊNgyda Pryderi Jones

(E-bost: [email protected])

S Cylch LlenyddolMaldwyn

Kate Crockett oedd y siaradwraig wâdd yngNghylch Llenyddol Maldwyn ym misGorffennaf ac mewn sesiwn holi ac atebcawsom ganddi bortread bywiog o’r barddDylan Thomas. Soniwyd am ei hen ewythrGwilym Marles oedd yn un o arweinwyrradicalaidd y bedwaredd ganrif ar bymtheg acam ddylanwad (gorthrymus braidd) ei dadarno. Er fod ei rieni yn Gymry Cymraeggwnaethant benderfyniad i beidiotrosglwyddo’r Gymraeg i’w plant. Yn wir feanfonwyd Dylan am wersi llefaru fu’n foddioni’w amddifadu o’i acen Gymraeg. Er hynnyroedd ei rieni yn mynd i’r capel Cymraeg a’idad yn ymddiddori yn y Mabinogi. Dyna sut ycafodd y mab yr enw Dylan. Dyma’r enghraifftgyntaf fe ymddengys, yn y cyfnod diweddaro roi Dylan yn enw bedydd ar blentyn.Perthynai Dylan i genhedlaeth gyntaf y teului beidio siarad Cymraeg, ond teimlai rhywunfod y Gymraeg yn anadlu i lawr ei wâr trwy’ramser. Roedd nifer o’i gyfoedion yn Abertawe(llawer ohonynt yn bobl athrylithgar iawn)mewn sefyllfa debyg.Dihangai Dylan i Lundain am gyfnodau, ac iweithio o dro i dro. Byddai’n ymroi i’r bywydbohemaidd yno ond synhwyrai rhywun maiyng Nghymru yr oedd hapusaf (gyda’i fam yngofalu amdano) ac yma y gwnaeth ei waithcreadigol bron i gyd. Un gythryblus oedd eibriodas ac nid oedd ganddo ddigon o arian ifyw arno er yn dad i dri o blant. Roedd ynyfwr ond nid y ddiod a’i lladdodd ac yntau’nddim ond 39 mlwydd oed.Anogodd Kate bawb ohonom i ddarllen eistraeon byrion yn arbennig y gyfrol ‘Portraitof the Artist as a Young Dog’.Cafwyd nifer o gwestiynau ar ddiwedd y nosoncyn i bawb fynd am baned o goffi.Ni fydd y Cylch yn cyfarfod yn ystod Mis Awstac fe rydd hyn gyfle i bawb ddarllen yCyfansoddiadau a’r Beirniadaethau a hollgynnyrch arall yr Eisteddfod.Byddwn yn cyfarfod nesaf am 7 o’r gloch nosIau Medi 17 a hynny am 7 o’r gloch. Y siaradwrgwâdd fydd Harri Parri a bydd yn trafod ‘GwnGlân a Beibl Budr’, ei lyfr am y ParchedigJohn Williams Brynsiencyn.

Ymddiheuriadau ac YmrysonG@@@@@yl MaldwynRhaid dechrau’r mis yma gydagymddiheuriadau llaes i fy nghyfaill Huw FUWam imi gyflawni’r pechod marwol o’i alw’n HuwNFU! Rwy’n sylweddoli fod pobl wedi cael eullindagu am lai na hyn, Huw. Cyfeirio ato yroeddwn i yn mynd â ni ar daith gerdded ddifyriawn i ardal Cwm Dugoed i adrodd hanesGwylliaid Cochion Mawddwy. Bydd Huw ynsiarad am y Gwylliaid eto ym Mhabell Lên y‘steddfod, a da chi, ewch i wrando arno. Ersbod ar y daith honno, mi ddarllenais nofel fachBethan Gwanas, ‘Y Gwylliaid’ a’i mwynhauyn arw.Yng Ng@yl Maldwyn eleni cafwyd ymrysondifyr iawn yng nghefn y Ciann Office panddaeth tri thîm ynghyd i’r babell, a GeraintLovgreen yn feuryn. Yr Arweliaid oedd y tîma enillodd gyda ‘big hittars’ fel Mari Leusa,Pod ac Arwel Emlyn; Tîm y Ciann ddaeth ynail o drwch asgell gwybedyn anorecsig gydagArwyn Groe, Dafydd Morgan Lewis, IfanFrancis ac Alun Cefne; a Thîm Y Gareth Bêlsyn drydydd, gyda Robin Farrar, Rhian Mills,Gruffydd Martin, Aled Williams a finna’. RobinFarrar, o’n tîm ni enillodd het Iwan Llwyd amganu parodi ar ‘Wrth fynd gyda Deio i Dywyn,la la la la la la la la la la la’. Ni oedd y tîmdelaf hefyd.Mae gen i dwmpath mawr o bapurach ar ybwrdd o ‘mlaen, ac arnynt holl gerddi’rgystadleuaeth a cherddi na chafodd eu darllen.Rydw i’n si@r fod un neu ddwy o’r rheiny ynysgrifen Alun Cefne am ryw reswm. Ar y cyfan,mae rhai o’r campweithiau yn ddigondarllenadwy, rhai wedi eu teipio ond rhai feltraed brain. Dyma ddetholiad bach ohonynt.Cwpled caeth yn cynnwys y gair ‘Offis’.Un sws a daliais ddisîsGan heffer o Gann Offis.

Suddo wyf, ie, suddo yn isYn uffern y Cann Offis.

Pennill mawl i’r Cut LloiPennill mawl i’r Cut LloiPennill mawl i’r Cut LloiPennill mawl i’r Cut LloiPennill mawl i’r Cut Lloi

Mae bwced disychedu – i’w weldYm mhen ôl y beudy,Ac mewn cwt o gwmni cu:Bar o afiaith yw’r brefu.

Ni wastreffir diferynMae hanes yn yr ewyn,Cymdogaeth glos a ddrachtia’n llonMae pawb fan hyn yn feddwyn!

Y cut a fagodd deirwY Cut lle gwariwyd elwY Cut lle clywyd pethe mawrAc ambell awr i’w chadw.

‘Stafell wâr a’i thrawstiau’n canu‘Stafell gynnes, llawn cwmpeini,‘Stafell sydd yn dal i feithrinPethau gorau, mwyna Maldwyn.

Limrig yn cynnwys ‘dyn bach o LanfairLimrig yn cynnwys ‘dyn bach o LanfairLimrig yn cynnwys ‘dyn bach o LanfairLimrig yn cynnwys ‘dyn bach o LanfairLimrig yn cynnwys ‘dyn bach o LanfairCaereinion’Caereinion’Caereinion’Caereinion’Caereinion’Un gwritgoch a boliog yw Glandon,A’i din bach o Lanfair Caereinion,Mae’i lais fel llais cawr,Mae wrthi bob awr,Mae’n gymeriad mawr, mawr ac yn rhadlon.

Aeth dyn bach o Lanfair CaereinionAm dropyn bach yn y Black Lion,Trodd dropyn yn sawl un,Fe yfodd o alwyn,Yn noethlymun fe syrthiodd i’r afon!

Fel dyn bach o Lanfair CaereinionRwy’n clywed yr iaith fain yn hen ddigon,Rhown groeso i’n broI bob sbrych a lloYn wir, yn tyden ni’n wirion!

Roedd dyn bach o Lanfair CaereinionDi prynu sgidie ac arnynt olwynion,Aeth i ben ucha’r JibetA daeth lawr fath â rocet,A malu wal ’r eglwys yn ufflon!

Daeth dyn bach i Lanfair CaereinionI chwilio am wraig – lodes radlonDdymunol a pheniogA siapus a serchog.Aeth dyn bach o Lanfair Caereinion.

Pennill ymson yn derbyn/gwrthodPennill ymson yn derbyn/gwrthodPennill ymson yn derbyn/gwrthodPennill ymson yn derbyn/gwrthodPennill ymson yn derbyn/gwrthodanrhydeddanrhydeddanrhydeddanrhydeddanrhydedd

Dwi wir ddim yn gwybodPa lwybr i droiMae’n dipyn o boendod,Ac eto’n cyffroi,Don i ddim wedi deallBod yr Empire yn bodAc r@an maen nhw isioFy marcio â’u nod;Ond dwi wedi dewisYmgrymu i’r CrownA nhrwyn o hyn allanTra bydda’i, yn frown.

Wrth wisgo ’mrethyn cartre’A rhoi fy nhei ymlaenYr oedd fy sgwydde’n gwegianO dan y ffasiwn straen,A minnau’n derbyn MBEYn enw’n rhyddid taeog ni.Roedd yna gystadleuaeth arall hefyd sef lluniocân, ‘Yn ôl i Feifod’. Ymddiheuraf i DafyddMorgan Lewis a Pod am beidio â’u cynnwysyn fan hyn, ond bydd angen rhifyn arbennigo’r Plu, gan eu bod yn gampweithiau hirfaith,tebyg i ‘Ddinistr Jerwsalem’ Eben Fardd.Gobeithiaf eich gweld yn y Babell Lên foreSadwrn cynta’r ’steddfod lle bydd plant yrysgol yn cyflwyno ‘Mwrdwr Maldwyn‘Mwrdwr Maldwyn‘Mwrdwr Maldwyn‘Mwrdwr Maldwyn‘Mwrdwr Maldwyn’ am11.30am. Y diwrnod wedyn, dydd Sul am12.30 y pnawn, eto yn y Babell Lên, byddllyfryn bach o waith plant yr ysgol ‘Mwy ogymeriadau’r Fro’ yn cael ei lansio a chlywircân neu ddwy, a’r plant yn darllen pytiau o’ugwaith. Welai chi yno!

IVOR DAVIESPEIRIANWYR PEIRIANWYR PEIRIANWYR PEIRIANWYR PEIRIANWYR AMAETHYDDOLAMAETHYDDOLAMAETHYDDOLAMAETHYDDOLAMAETHYDDOLRevel Garage, Aberriw, Y Trallwng

Trwsio a gwasanaethu peiriannau fferm yrholl brif wneuthurwyr

Ffôn/Ffacs:Ffôn/Ffacs:Ffôn/Ffacs:Ffôn/Ffacs:Ffôn/Ffacs: 01686 640920Ffôn symudol:Ffôn symudol:Ffôn symudol:Ffôn symudol:Ffôn symudol: 07967 386151

Ebost:Ebost:Ebost:Ebost:Ebost: [email protected]

Page 15: Plu Hydref 2011 fersiwn olajonhead.myzen.co.uk/plu1/rhifynnau/documents/archive/... · 2017. 6. 10. · Hydref 2 Bingo yn Neuadd Llanerfyl 7.00yh RHIFYN NESAF TIM PLU’R GWEUNYDD

Plu’r Gweunydd, Awst/Medi 2015 1515151515

Ers degawdau,anwybyddwydcymunedau Cymraeg ySir, yn wir, medrid dadlaubod nifer obenderfyniadauhanesyddol y Cyngorwedi cyfrannu atdanseilio’r Gymraeg.Gyda gofid felly gwelwyddirywiad pellach yn ycymunedau hyn yngNghyfrifiad 2011. Mae’rgostyngiad yn 20% amwy mewn sawl ardal ynystod yr ugain mlynedddiwethaf.Yn sgil hyn daeth criw ohonom ynghyd ganddweud, ‘digon yw digon’.

Penderfynwyd bod rhaid newid pethau, rhaidcreu pecyn uchelgeisiol a bod rhaid gweithreduNAWR. Llwyddwyd i gael cyfarfod efopenaethiaid y Cyngor ddiwedd Medi llynedd,ac yn arddull gorau mwynder Maldwyn, roeddpawb yn ‘neis’ iawn. Yn dweud y pethau iawnac yn gaddo gweithredu.Cytunwyd efo’n cais i sefydlu gweithgor iaithfyddai’n edrych ar bob agwedd ac mi fyddaimewn lle erbyn diwedd Hydref. Gwych -symud o’r diwedd. Ond och a gwae, fe aethmis Hydref, Tachwedd a Rhagfyr, heb son amIonawr a Chwefror; yn wir fe aeth 9 mis cyn ycyfarfod cyntaf o’r gweithgor. Mae pethau’ncymryd amser ym Mhowys!Tra rydym yn croesawu’r ffaith fod y Cyngoro’r diwedd wedi sefydlu’r gweithgor, yr her nawrfydd iddynt weithredu ar becyn cynhwysfawro blaid y Gymraeg. Galwn arnynt felly sicrhau:Bod y Cyngor Sir yn datgan yn glirpwysigrwydd y Gymraeg fel rhan annatod odreftadaeth hanesyddol PowysBod y Cyngor yn datgan yn glir fod y Gymraegyn fater llorweddol sy’n berthnasol i bobagwedd o weithgarwch yr awdurdod a’iphartneriaidBod yr iaith yn perthyn i bob rhan o’r SirBod yr iaith yn fater o gynaladwyedd sy’ncydblethu efo egwyddorion cynaladwyeddcymunedol, economaidd a chymdeithasolBod yr iaith yn sgil ac yn adnodd allweddol iholl ddinasyddion y dyfodolBod y Cyngor yn pryderu am y gostyngiad awelwyd yng Nghyfrifiad 2011 ac yn derbyn yrangen am weithredu cyflawn i wrthsefyll yduedd honno yn y dyfodolBod Cyngor Powys yn sgil cydnabodpwysigrwydd y cymunedau traddodiadolCymraeg efo dros 25% o’r boblogaeth ynsiarad yr iaith, yn dynodi statws arbennig osensitifrwydd ieithyddol i’r ardaloedd hynnyBod y Cyngor Sir yn derbyn bod angengweithredu’n ddwys yn y cymunedau hynny iwrthsefyll y tueddiadau diweddar ac yngweithredu ar sail hynny drwy gynlluniaugweithredu iaith leolO dderbyn yr egwyddorion hyn medridcryfhau’n sylweddol y sefyllfa addysgol, ataldatblygiadau diangen oddi fewn y CynllunDatblygu Lleol, sicrhau gwasanaethauCymraeg cyflawn a rhoi strwythurau

economaidd mewn lle i hybu’r Gymraeg.Mae’n rhaid cydnabod bod y Cynllun DatblyguLleol newydd yn well na rhai blaenorol; onddoedd hynny ddim yn anodd. O leiaf mae’ncydnabod bodolaeth y Gymraeg gan ddweud:“Yng nghadarnleoedd y Gymraeg, dylid ondcaniatáu cynigion lle na fyddant yn cael effaithandwyol ar gymeriad lleol y cymunedauCymraeg hyn. O ran cymeriad lleol, gallaidatblygiadau tai, manwerthu a datblygiadaumawr eraill effeithio’n andwyol ar yr iaithGymraeg a’i diwylliant yng nghadarnleoeddyr iaith Gymraeg.”Ond unwaith eto mae’na fwlch enfawr rhwngy geiriau da a’r gweithredu ac rydym yn galwam gamau pendant i gywiro hynny megis:Bod y Cyngor yn comisiynu gwaith ymchwil iweld effaith datblygiadau tai newydd ar ycymunedau traddodiadol Cymraeg yn ystody Cynllun Datblygu Lleol diwethafBod y Cyngor o dderbyn sensitifrwyddieithyddol y cymunedau traddodiadolCymraeg yn cyfyngu ar ddatblygiadau tainewydd yn yr ardaloedd hynny am ddegawdhyd fydd effaith newidiadau’r ddegawdflaenorol wedi setloBod y Cyngor yn derbyn yr egwyddor o angenlleol yn sail cyn caniatáu unrhywddatblygiadau yn yr ardaloedd hynnyBod y Cyngor yn rhoi system asesuannibynnol mewn lle ar gyfer unrhywddatblygiadau i weld yr effaith ar y Gymraeg.Dylid penodi cwmni arbenigol yn y maes i lunioadroddiadau perthnasolFel y gwelir, mae digon o waith i ni wneud ymMhowys, ond rydym yn glir o ran y gweithreduac yn hyderus bod modd cymryd camaubreision o blaid y Gymraeg yma, dim ond i’rgeiriau ‘neis’ droi’n weithredu. Mae angentipyn o ysbryd Glynd@r unwaith eto i danio’rdychymyg.Ymunwch â ni felly ar ddydd Mawrth 4yddAwst am 2 y prynhawn ger stondinCymdeithas yr Iaith ar faes yr Eisteddfod ymMeifod - bydd cyfle i glywed gan Arwyn Groe,Dafydd Iwan, Tamsin Davies ac OwainGlynd@r ei hun, cyn gorymdeithio draw istondin y Cyngor Sir.Cawn weld wedi’r Eisteddfod a yw CyngorPowys yn ymateb i’r her - croeso i bawbymuno â ni yn y Cann Offis ar nos WenerMedi 11eg am saith yr hwyr, ble byddwn ni’ntrafod y camau nesaf, yn ogystal ag adloniantgyda’r canwr Jamie Bevan, cadeiryddcenedlaethol Cymdeithas yr Iaith.

Elwyn Vaughan

LLANGYNYWKaren Humphreys

810943 / [email protected]

ar ddydd Llun a dydd Gwener

PRACTIS OSTEOPPRACTIS OSTEOPPRACTIS OSTEOPPRACTIS OSTEOPPRACTIS OSTEOPAAAAATHIGTHIGTHIGTHIGTHIG BRO DDYFI BRO DDYFI BRO DDYFI BRO DDYFI BRO DDYFI

yn ymarfer uwch ben

Salon Trin GwalltAJ’s

Stryd y BontLlanfair Caereinion

Ffôn: 01654 700007neu 07732 600650

E-bost: [email protected]

ByddMargery Taylor B.SC (Anrh) Ost.; D.C.R.R. a

Peter Gray, B.Sc (Anth) Ost.

Barbeciw Eglwys Sant CynywCynhaliwyd barbeciw blynyddol yr Eglwys ynyr Hen Ysgol ar ddydd Sadwrn 27ain Mehefinar noson hyfryd o haf.Bedydd

Bedyddiwyd Ffion Ellis sydd yn 15 mis oedyng Nghapel Moriah, Llanfair gan Mr JohnEllis. Mae Ffion yn ferch i Caradog a NiaEllis, Bryn Derwen ac yn chwaer i Mared acAdam. Hoffai Nia a Caradog ddiolch i’w teulua’u ffrindiau am yr holl gardiau ac anrheigionac am y bwyd hyfryd yn Tanhouse. Diolch iMr John Ellis am y gwasanaeth arbennig.ProfedigaethBu farw Emile Holmes (mam Carrie Higson,Pen Pentre) yng nghartref Y Rallt, Trallwm.Anfonwn ein cydymdeimlad at Carrie a’r teulu.RownderiAr brynhawn hyfryd o haf Gorffennaf 12fedcynhaliwyd y gêm rownderi hir ddisgwyliedigrhwng Llangynyw a Dolanog! Daeth dros 50o bobl i’r digwyddiad naill ai i chwarae neu iwylio. Braf oedd gweld cymaint o gefnogaethi’r digwyddiad cymunedol hwn. Er bod ganLlangynyw ddigon o chwaraewyr ar gyfer daudîm colli fu eu hanes i Ddolanog dan arweiniadCarwyn Jones a oedd yn chwarae ar ei faglau!Cafwyd te a chacennau yn yr Hen Ysgol ibawb ar y diwedd wedi ei baratoi gan Sue aSteve Boomsma. Diolch yn fawr iawn i JaneVaughan Gronow am drefnu, Phil Pentregoam gael defnyddio’r cae, i Chris Humphreysam dorri’r glaswellt a pharatoi’r maes ac i bawbarall a fu’n helpu.

HERIO CYNGOR POWYSArdal Cyngor Cymuned 1991 % (3+) 2001 % (3+) 2011 (3+)Llanerfyl 73% 57% 56%Banwy 60% 60% 56%Glantwymyn 69% 58% 53%Llanfihangel 70% 64% 53%Machynlleth 60% 54% 52%Pen-y-bont-fawr 69% 55% 50%Llanbrynmair 69% 53% 48%Llanrhaeadr-ym-Mochnant64% 53% 43%Llanwddyn 62% 60% 38%Llangynog 64% 50% 37%Carno 57% 45% 36%Llanfair Caereinion 42% 38% 36%

Page 16: Plu Hydref 2011 fersiwn olajonhead.myzen.co.uk/plu1/rhifynnau/documents/archive/... · 2017. 6. 10. · Hydref 2 Bingo yn Neuadd Llanerfyl 7.00yh RHIFYN NESAF TIM PLU’R GWEUNYDD

1616161616 Plu’r Gweunydd, Awst/Medi 2015

CAlwyn Hughes

ynefinEin Hetifeddiaeth FfermioGyfoethog

Mae’r wythnos fawr wedi cyrraedd a gwelirffrwyth llafur pobl Maldwyn ar ddolydd breisionMathrafal. Ni cheid gwell safle’n unman gydagolygfeydd bendigedig o gwmpas ymmhobman.Ardal amaethyddol yw hon o hyd, fel y buerioed. Gwelwyd newidiadau enfawr yn ydulliau o ffermio, yn enwedig yn ystod y ganrifddiwethaf.

Fe fydd cyfrol fechan yn cael ei chyhoeddiyn y Brifwyl sy’n nodi’r newidiadau enfawr afu, a chredaf ei bod yn gofnod cymdeithasolpwysig o fywyd yn yr ardal hon.Mae llawer ohonoch yn cofio’r diweddar annwylMaurice Evans, Tynrhos Ucha – fferm fychantua tair milltir o’r Maes. Maurice oedd un o’rrhai olaf i ffermio gyda cheffylau gwedd gan

ddilyn yr ‘hen ffordd o fyw’.Fe gofnododd y dull unigryw yma o ffermioyn ysgrifenedig mewn llawysgrifen gain, achefais gopi o’r gwreiddiol ganddo. Bu’nfwriad gennyf ers blynyddoedd i gyhoeddi’rgwaith hwn, ac rwy’n hynod o ddiolchgar i’wdeulu am ganiatâd i wneud hyn.Gofynnwyd imi roi darlith yn nathliadaucanmlwyddiant Institiwt Llanfair y llynedd, ynseiliedig ar waith Maurice. Un o’r gynulleidfa’rnoson honno oedd Mick Bates, ac ef a gafoddy weledigaeth o gyhoeddi’r gyfrol hon a elwir“Ein Hetifeddiaeth Ffermio Gyfoethog’.Yn y rhan gyntaf mae Nigel Wallace yncroniclo’r prif ddatblygiadau a fu ym mydamaeth yn ystod ei oes, ynghyd â datblygiadyr NFU yn yr ardal hon. Sonia am ddiwrnodcneifio Nant yr Helyg yn 1953 pan ddaeth drosddeugain o bobl ynghyd i gneifio tua tair mil oddefaid gyda gwelleifiau.Yna ceir hanes bywyd Maurice Tynrhos –bywyd caled oedd yn adlewyrchiad o ffermioyn yr ardal hon am ganrifoedd. Yn Saesnegoedd y gwreiddiol ond cyfieithwyd y gwaithgan Buddug Bates. Magwyd Buddug ar ffermFelingrug ac roedd ei rhieni’n enghreifftiaugwych o’r hen ddull o ffermio ar ei orau.Llwyddodd i fynd “o dan groen” y gwreiddiol,mewn iaith werinol a safonol. Mawr yw’rddyled iddi am ei gwaith gwych.Gron a Freda Bumford, Rhosfawr, Llanfair ywgwrthrychau rhan olaf y gyfrol. Casglodd MickBates eu hanes yn ffermio a cheir darnaudoniol am wahanol droeon trwstan. Budduggyfieithodd y darn yma hefyd, gyda’r un graen.Mae’n gyfrol ddwyieithog gyda llawer o luniauar werth am bum punt, bydd unrhyw elw’n caelei gyflwyno i’r Ambiwlans Awyr. Bydd y gyfrolar werth yn lleol, neu os bydd problem cysyllterâ Mick (810734) neu Alwyn (820594).Lansio’r GyfrolFe fydd y llyfr yn cael ei lansio ym MhabellAmgueddfa Cymru, y drws nesaf i’r Lle Hanesam ddau o’r gloch ddydd Llun Awst 3ydd.Byddaf yn cyflwyno’r gyfrol ac yn dangosychydig o greiriau a gefais gan deulu Tynrhosa Rhosfawr. Fe fydd y gyfrol ar werth ymmhabell y Lle Hanes drwy’r wythnos. Apeliafam eich cefnogaeth a hyderaf na chewch eichsiomi!

Yvonne Steilydd Gwallt

Ffôn: 01938 820695

neu: 07704 539512

Hefyd, tyllu

clustiau a

thalebau rhodd.

Ar gyfer eich holl

ofynion gwallt.

LLANLLUGANI.P.E. 810658

PartiCafwyd parti yng ngwesty’r Dafarn nosSadwrn gyntaf y mis diwethaf i ddathlu priodasJames Adcock, Bleakhouse a’i wraig Liz abriododd yn gynharach yn y flwyddyn.Mynd am dripAeth aelodau’r Clwb Garddio am drip ym mwsAlan (Ty’ncoed gynt) i’r gogledd am y diwrnod.Cyrraedd Bistro Felin yn gyntaf sydd gerllawMeithrinfa Blanhigion Fferm Crug, Caernar-fon. Mae’r perchenogion Crug - Bleddyn aSue Wynn Jones yn mynd i wledydd acynysoedd anghysbell, llosgfynydd, jynglmynyddoedd ac ati ar ddiwedd yr haf, ac ynhel planhigion prin a’u tyfu. Fferm bridio bîffoedd Crug hyd 1991, yna trosglwyddodd idyfu’r planhigion prin a’u gwerthu. Yn einblaen a thros y Bont am Biwmares a thrwy’rgatiau i Erddi Cuddiedig Plas Cadnant.Cyrraedd y Plas a phawb yn barod am y bwydblasus a oedd wedi ei baratoi ar ein cyfer.Cawsom hanes y Plas, a chymerwyd ni trwy‘rgerddi ac ar hyd llwybrau dros filltir a hannero hyd. Pan brynwyd y Plas yn 1996 roeddllawer o’r gerddi, adeiladau a’r waliau wedidiflannu o dan fieri a llwyni. Cerdded trwyardd 2 acer a oedd gynt yn llawn llysiau,ymlaen i lawr i’r “dell”, jyngl, planhigion,nentydd o’n hamgylch a draw fan acw -pistyll, ddim i gymharu â Phistyll Rhaeadr,sydd â chwymp dyfnach na Phistyll Niagra.Yr oedd ef yn “impressed” pan ddywedais amBistyll Rhaeadr ac mae am ddod i’w weld, yroedd wedi clywed am y Pistyll. Diwrnodpleserus, hapus iawn.TeuluAr y Sul olaf ym mis Gorffennaf cynhaliwydgwasanaeth teulu am y tro cyntaf yn yreglwys. Diwrnod gwlyb iawn ond fe ddaethsawl teulu i’r oedfa ac fe fwynhawyd gydagamryw yn edrych ymlaen at y nesaf. Roeddyr oedfa dan ofal y Parch. David Dunn. Yrorganyddes oedd Mrs Olive Owen, y casgliaddan ofal Morfudd Huxley a’r darlleniad ganMichael Owen.Hwyaid

Meddwl y byddai darllenwyr y Plu yn hoffigweld llun o’r hwyaid drygiog sydd wedi achosicymaint o drafferth inni dros y misoedddiwethaf. Rwy’n falch o adrodd eu bod wedisetlo erbyn hyn ac yn hapus iawn eu byd.

Page 17: Plu Hydref 2011 fersiwn olajonhead.myzen.co.uk/plu1/rhifynnau/documents/archive/... · 2017. 6. 10. · Hydref 2 Bingo yn Neuadd Llanerfyl 7.00yh RHIFYN NESAF TIM PLU’R GWEUNYDD

Plu’r Gweunydd, Awst/Medi 2015 1717171717

LLANFLLANFLLANFLLANFLLANFAIRAIRAIRAIRAIRCAEREINIONCAEREINIONCAEREINIONCAEREINIONCAEREINION

Cinio Elusen Dydd SulCinio Elusen Dydd SulCinio Elusen Dydd SulCinio Elusen Dydd SulCinio Elusen Dydd Sul

Yn gael ei gynnal ar gae’r sioe, Trwy garedigrwydd

Mr & Mrs Tudor a’r teulu, Llysun,Llanerfyl

Mae John a Tom Ellis sydd wedi rhoi oes owasanaeth ymroddedig i’w cymuned wediderbyn gwobr ddinesig yn Sioe FrenhinolCymru. Cyflwynodd Cadeirydd Cyngor SirPowys, y Cyng Paul Ashton Farcud Arian yrun i John Ellis o Lanfair Caereinion a TomEllis o Lanfyllin.Yn yr enwebiad am y wobr, canmolwyd yddau am ddegawdau o wasanaeth i gymunedy naill a’r llall. Mae hyn yn cynnwys dros 40o flynyddoedd yn y ddwy ysgol uwchradd leollle roeddent nid yn unig yn gweithio felathrawon, ond hefyd yn rhoi o’u hamserhamdden i redeg y clybiau chwaraeon agweithgareddau niferus er budd y disgyblion. Maent yn rhoi o’u hamser hefyd i helpu i redegtimau pêl-droed lleol, grwpiau rheolicanolfannau hamdden, CFfI, Eisteddfodau agweithgareddau cymunedol eraill. Mae’r ddaufel ei gilydd yn bregethwyr lleyg.Mae Tom wedi gwasanaethau am ddauddegawd fel cynghorydd cymuned ac maeJohn hefyd wedi helpu i sefydlu clwb rygbiCOBRA.Wrth gyflwyno’r wobr i’r efeilliaid, dywedoddy Cyng Paul Ashton: “Rwy’n falch o allucydnabod gwaith John a Tom. Mae’r gwobrauhyn yn deyrnged i’w gwasanaeth rhagorol igymunedau ym Mhowys.”PriodasLlongyfarchiadau i Michelle Evans, merchCadfan a Maureen Evans ar ei phriodas gydaTom Hillidge yn Eglwys y Santes Fair ddyddSadwrn, Gorffennaf 25 gyda’r neithior i ddilynym Meifod. Y diwrnod canlynol cynhaliwydcinio elusennol at Sefydliad y Galon a HospisHafren mewn pabell ar Gae Cobra ym Meifod.Mae Michelle yn Bennaeth Ysgol Clungunfordyn Sir Amwythig a Tom yn barafeddyg ynAmwythig. Bydd y ddau yn gwneud eu cartrefyn Myddle, Sir Amwythig.BedyddBedyddiwyd Ffion Haf Ellis, merch Caradoga Nia Ellis, Bryn Derwen, Llangynyw, a chwaeri Adam John a Mared Haf mewn gwasanaethyng nghapel Moreia o dan ofal Mr John Ellisar Orffennaf 5ed.Llwyddiant EisteddfodolLlongyfarchiadau mawr i Elen Davies, Peniarthar ennill gwobr gyntaf am ganu emyn dros 60oed yn Eisteddfod Llanfachreth. Bydd Elenyn cystadlu ym Meifod ac yn canu unawdyng nghyflwyniad Merched y Wawr ar lwyfany Brifwyl ar y dydd Mercher.

Gwobrwyo John a Tom

GraddioLlongyfarchiadau iddwy ferch ifanc o’rardal sydd wedigraddio o BrifysgolCaerdydd ynddiweddar.Graddiodd SionedLewis, Trembafongyda Gradd 2:1 mewnCymraeg.Graddiodd MeganRichards o’r Trallwmgyda Gradd 2:1 mewnCymraeg aChymdeithaseg.Llongyfarchiadau i’rddwy a dyma lunohonynt gyda’r AthroSioned Davies arddiwrnod eu graddio.

Trip Ysgol SulTrip bach cartrefolgafodd plant yr YsgolSul eleni ac fewnaethant fwynhau euhunain cystal â phebaent wedi teithio’n bell. Parc Llanfair oedd ygyrchfan a chafodd y plant hwyl yn chwaraea chanu gyda’u gilydd.Cyngerdd NerysCynhaliwyd cyngerdd arbennig yn y Ganolfannos Sadwrn, Gorffennaf 25. Nerys Jones(Nerys y Graig) oedd yn trefnu a hi oedd uno’r prif unawdwyr. Gyda hi roedd LindaRichardson, Mark Stone a thriawd Sorela,gyda’r amryddawn Jeff Howard yn cyfeilio.Arweinydd y noson oedd Glandon Lewis athrefnwyd y digwyddiad i godi arian atGanolfan Ganser Velindre.Mae Nerys yn mynd i fod yn brysur iawn yn ySteddfod. Yn ogystal â bod yn ArweinyddCymru a’r Byd a fydd yn cael ei chyflwyno arddechrau’r Gymanfa Ganu bydd hefyd ynbeirniadu drwy’r wythnos.Y SteddfodMae Llanfair yn mynd i fod yn ferw o brysurdebdros wythnos yr Eisteddfod. Bydd y ddaugapel a’r Eglwys yn cael eu defnyddio i gynnalrhagbrofion ar gyfer rhai o’r prif gystadlaethaucorawl a bydd croeso i bobl alw i mewn iwrando ar y cystadlaethau.EbeneserEbeneserEbeneserEbeneserEbeneserDydd Mawrth 11.15 Oratorio neu Offeren 19-25 oed,Dydd Mercher 2.00pm Unawd Tenor;Unawd Gymraeg 19-25 oed am 5.30;Dydd Iau 5.30 Unawd Mezzo Soprano.Yr EglwysYr EglwysYr EglwysYr EglwysYr EglwysDydd Mawrth Ysgoloriaeth Towyn Roberts am12.00Dydd Mercher Unawd Contralto am 3.00Dydd Iau Unawd Bariton am 2.00MoreiaMoreiaMoreiaMoreiaMoreiaDydd Mawrth Unawd Operatig 19-25 5.00pmY Gân Gelf ym Moreia am 9.30 a.m.Dydd Mercher Unawd Soprano am 3.00Dydd Iau Unawd Bas am 5.30Merched y WawrDraw i weld gardd Ivy, Belan-yr-argae aeth ygangen ar ei thrip min nos eleni. Buom ynffodus o gael noson braf i weld coed, llwynia’r blodau a’r ardd lysiau. Mae’n amlwg fod

Ivy wrth ei bodd yn yr ardd, ac yn brysur iawn.Diolchodd Marian, ein llywydd, i Ivy am ycroeso a’r baned. Yna aethom ymlaen i westyCefncoch am swper ardderchog, diweddperffaith a phawb wedi mwynhau. Bydd ygangen yn cyfarfod nesaf ar Fedi 26 panfyddwn yn dechrau’r tymor gyda NosonGymdeithasol yng nghwmni Parti’r Siswrn acAr y Gweill.Fferm FfactorPob lwc i Rhys 21, Geraint 25 ac Alun 19 oardal Llanfair Caereinion sy’n mynd i gymrydrhan ar y rhaglen Fferm Ffactor. Yn ogystala’u gwaith maen nhw hefyd yn ymddiddorimewn rasio beic pedair olwyn a chymdeithasugyda’r Clwb Ffermwyr Ifanc lleol.GenedigaethLlongyfarchiadau i Cefin a Nia Pryce arenedigaeth Enlli. Mae Ceri, Llion, Elis a Gretawrth eu bodd efo’u chwaer fach newydd.

Cysylltwch âCeri Jones – 07733183376 neu

Ceri Morgan – 07539855542i gael bwrdd

Dydd Sul, 6ed o Fedi 2015Dydd Sul, 6ed o Fedi 2015Dydd Sul, 6ed o Fedi 2015Dydd Sul, 6ed o Fedi 2015Dydd Sul, 6ed o Fedi 2015Oedolion - £15.00

Plant (oedran Ysgol Gynradd) £7.00Amser: 12.30pm i 1pm

Elw yn mynd at:Ysbyty Coffa Victoria, Y Trallwng,

CFFI Llanfair Caereinion aSioe Llanfair Caereinion

Page 18: Plu Hydref 2011 fersiwn olajonhead.myzen.co.uk/plu1/rhifynnau/documents/archive/... · 2017. 6. 10. · Hydref 2 Bingo yn Neuadd Llanerfyl 7.00yh RHIFYN NESAF TIM PLU’R GWEUNYDD

1818181818 Plu’r Gweunydd, Awst/Medi 2015

AR GRWYDYRgyda Dewi Roberts

Gan fod yr EisteddfodGenedlaethol wedi cyrraedd,dyma feddwl y byddai’n syniadsôn ychydig am yr ardal cynawgrymu ambell i daith o’rMaes a thu hwnt. Os hoffechdoriad o’r holl weithgareddau

gwych ar y maes neu os ydych eisiau myndam bicnic neu gael heddwch a thawelwch betham fynd am dro? Mae digonedd o ddewisgennym ac esiamplau yn unig gawn yma.Rwyf wedi sôn am ambell i le o’r blaen yn yPlu. Daw’r gair MathrafalMathrafalMathrafalMathrafalMathrafal o trafal neu tryfalsydd yn cyfeirio at triongl neu tir mewnfforchiad sef yr ardal rhwng afon Banwy acEfyrnwy ac ardal hyfryd yw hi hefyd! YngNghanu Llywarch Hen sonnir am ‘Y dref wenrhwng Tren a Thrafal.’

Symudwyd pencadlys brenhinoedd Powys iFathrafal o ardal Amwythig a chladdwyd nifero deulu brenhinol yr hen sir ar dir Eglwysfendigedig Meifod. Ym marddoniaeth un ofeirdd mwyaf y ddeuddegfed ganrif, CynddelwBrydydd Mawr, cawn gyfeiriad gwych atgeffylau ar faes Mathrafal yn ei gerdd i Fadawgfab Maredudd -

‘Ym maes Mathrafal mathredig tyweirch,Gan draed meirch mawrydig.’

Cawn glywed y meirch yn carlamu ar hyd ytir gwastad gan godi’r tyweirch wrth symud.Anodd yw dweud ble yn union oedd llysPowys gan fod olion hanesyddol eraill yn yrardal. Yn ogystal ag olion amlwg yr hengastell mwnt a beili ger afon Banwy (neuEinion) mae safle Bryn y Saethau ac un arallyng nghanol coed Ffridd Mathrafal hefyd.Cyfeiriodd y bardd Prydydd y Moch at ‘GastellMathrafal’ yn ei gerdd i Ruffydd ab Hywel abOwain Gwynedd. Ym Mrut y Tywysogion, amy flwyddyn 1212 sonnir am ymosodiad arFathrafal gan y Cymry (dan Llywelyn apIorwerth); wedyn daeth brenin Lloegr a’i losgi.Mae’r cyfeiriad yma yn ddiddorol yn enwediggan fod Llywelyn wedi priodi merch y breninJohn sef Siwan (neu Joan) yn 1205. ‘Mathraual ym Powys, a wnathoed RobertVepwnt, hwnw a oresgynasant. A phan oedyntyn gweresgyn hwn y doeth y brenhin a diruawrlu y gyt ac ef y gwrthlad; ac ef ehun a thana’e llosges.’ I roi syniad i chi o’r amseroeddyma dyma gyfeiriad arall o’r Brut yn sôn amGymro wedi cael ei ddal fel gwystl (‘hostage’)gan y brenin ac yna ei ladd; roedd hyn ynarferol yr adeg hon ond be sydd yn ein taro ytro yma yw oedran y person penodol -‘Y vlwydyn hono y croges Robert Vepwnt(Vieuxpont) yn Amwythic Rys ap Maelgwn, a

oed y gwystyl y gan ybrenhin, heb y vot ynseith mlwyd etto.’Mewn geiriau eraillcafodd bachgen o’renw Rhys, a oedd ynieuengach na saithoed ei grogi ynAmwythig.Mae’n werth mynd iweld olion yr hengastell. Mae mewnsafle cryf yn amddiffyndyffryn Banwy gyda’rafon yn agos iawn arun ochr a byddai golygfa dda o ddyffrynMeifod oddiar y t@r pren. O ben y twmpath,cewch olygfa dda o faes yr Eisteddfod a’rbryniau tu cefn.

Ger Ffridd Mathrafal mae Tan y Ffridd (dauohonyn nhw) ac mewn llyfr stâd o 1817deallwn mai’r tenant ar un oedd ThomasRoberts ac enwau rhai o’r caeau oedd CaeSalmon, Cae Gwalch a Chae Garw; mae’r gairola yn rhoi syniad pa mor anodd oedd ffermiorhan o’r tir yma. Yn yr un llyfr rhestrir FfermMathrafal, sef fferm ger safle yr hen gastellac nid yr un presennol, gyda’r tenant Tho-mas Davies. Rhai o’r caeau oedd Cae yrUchan, Cae Maen, Erwy (y tri yma ar dir ysteddfod), Cul Llwyd, Cae Glas, Dol Evan.Ar fap yn y llyfr dangosir cynllun o fforddnewydd yn arwain i Bontrobert.Mae amryw o lefydd y gellwch ymweld â nhwo’r maes megis Dolobran, hen gartref y teuluLloyd ac am gyfnod, Twm o’r Nant. Agos hefydyw addoldy’r Crynwyr yn dyddio o thua 1700.Neu beth am fynd i weld Hen Gapel JohnHughes ym Mhontrobert lle roedd John a’iwraig Ruth yn byw am gyfnod; bu’r ddau ynallweddol i gadw gwaith Ann Griffiths ar gof achadw. Ar yr un adeg, mewn ardal gymharolfechan ym Maldwyn, roedd pobl ddiddorol drosben yn byw sef Ann Griffiths, John a RuthHughes, William Jones (Llangadfan) a Twmo’r Nant; o, am gael peiriant amser i fynd ynôl i’w cyfarfod!

Os am daith gymharol fer ond serth, awgrymafyn gryf i chi fynd i ben Gallt yr Ancr uwchbenMeifod. Mae’r golygfeydd o’r top yn

ogoneddus; cewch edrych i lawr ar ddyffrynMeifod ac i’r cyfeiriad arall gallwch weldbryniau megis Moel Bentyrch a mynyddoeddfel Aran Fawddwy.

Cewch ddringo i’r copa o gyfeiriad pentreMeifod neu o ochr Mathrafal neu Glascoed.Taith arall y byddwn i yn sicr o’i gwneud ywcerdded ar hyd glan afon fendigedig Efyrnwy.Gallwch ddechrau o Meifod (parcio ger y clwbrygbi) a cerdded ar hyd glannau’r afon weditroi i’r dde cyn mynd i fyny at y coed neuddod yn ôl yr un ffordd. Cewch weldarddangosfeydd hedfan adar yma; yn eumysg mae gwenoliaid y glennydd a’r siglenlwyd. Os sefwch yn llonydd a distaw (a bodyn barod i aros dipyn efallai!) gallaf eichsicrhau y gwelwch chi las y dorlan hefyd. Mangwych i weld bywyd gwyllt yn yr ardal yw obont Meifod. Gwelais ddyfrgwn oddi yma ynddiweddar yn ogystal ag eog mawr yn neidioyn glir allan o’r d@r; os arhoswch iddi nosicewch weld ystlumod a chlywed nifer odylluanod.Un o fy hoff deithiau yw crwydro ar hydglannau’r ‘Fyrnwy rhwng Pontrobert a PhontLlogel hefyd gydag ardal wych Dolanog yn ycanol. Ni chewch eich siomi wrth wneud hyn!Cewch wledd o natur a hanes.Ychydig ymhellach mae Pistyll Rhaeadr amynyddoedd y Berwyn. Ochr arall Maldwyncawn ardal ddiddorol Pumlumon; awgrymafddechrau yng Nghoedwig Hafren. MaeGlaslyn a Dylife yn yr ardal yma hefyd. Neubeth am y gamlas yn y Trallwm a ChastellPowys? Ac wrth gwrs, mae dyffryn hyfrydBanwy gyda sawl taith o fannau megisLlanfair, Llanerfyl, Llangadfan a’r Foel hebanghofio’r llednentydd megis Cwm Nant yrEira a Chwm Twrch. Beth am ymweld âchartref Glynd@r yn Sycharth neu gestyllDolforwyn a Threfaldwyn. Dros y ffin mae trefididdorol Amwythig a Chroesoswallt yn ogystala bryniau hyfryd sir Amwythig.Digonedd o ddewis felly gyda theithiauamrywiol, diddorol a ysbrydoledig!

Hen gastell Mathrafal

Page 19: Plu Hydref 2011 fersiwn olajonhead.myzen.co.uk/plu1/rhifynnau/documents/archive/... · 2017. 6. 10. · Hydref 2 Bingo yn Neuadd Llanerfyl 7.00yh RHIFYN NESAF TIM PLU’R GWEUNYDD

Plu’r Gweunydd, Awst/Medi 2015 1919191919

Ar ddydd Sadwrn, 11eg Gorffennaf, ymunodd 10 aelod o GlybiauFfermwyr Ifanc Maldwyn a thimau eraill dros Gymru gyfan i gwblhauher Y Tri Chopa - wrth ddringo Ben Nevis, Scafell Pike a’r Wyddfa ofewn prin 24 awr! Ymgeisiodd Lucy Jones, Kate Breeden (CFfILlanfyllin) Glyn Parry, Caryl Hughes, Alwyn Morris (CFFI Dyffryn Tanat)Rhys Lewis (CFfI Bro Ddyfi) Naomi George (CFfI Dolfor) WendyLangford (is gadeirydd y sir a CFFI Tregynon) a Gareth Williams(cadeirydd y sir a CFfI Trefeglwys) yr her oedd yn cynnwys dringodros 8000 troedfedd a gyrru dros 1000 o filltiroedd i godi Arian atCancer Research UK a RoSPA. Ar ôl y daith hir i fyny i Fort William arbrynhawn dydd Gwener, mi gychwynon ni ddringo Ben Nevis yn gynnarar fore dydd Sadwrn, gan gwblhau y dringo cyson drwy eira a niwl a’rdisgyniad cyflym o dan 5 awr. Roedd Scafell Pike yn 3 awr a hanner oddringo serth i gopa niwlog iawn, ond yr her go iawn oedd yr Wyddfa!Ar ôl brwydro yn erbyn gwynt cryf a’r glaw trwm yn y tywyllwch ar hydy ffordd gul, ar ôl dringo creigiau a’r d@r yn rhedeg fel pistyll cyrhaeddonni gopa y pig olaf o’r diwedd! Dechreuon ni ddychwelyd i’r gwaelodwrth iddi wawrio, yn flinedig, dolurus ac yn wlyb at ein croen, ond er yteithio di-ddiwedd drwy oriau mân y bore, y cerdded caled ar gyn lleiedo gwsg a’r tywydd yn ein herbyn roedd hi wir yn her i’w chofio ac ynwerth pob cam i godi arian at elusennau ac achosion mor arbennig.Nid yw hi’n rhy hwyr i noddi, Mae ein tudalen just giving yn dal ynweithredol. Ewch i https://www.justgiving.com/teams/montyyfc-3peakschallenge. Delyth RobinsonDelyth RobinsonDelyth RobinsonDelyth RobinsonDelyth Robinson

CELFYDDYD CHRISTINE

Torrwch y siapiau isod a’u gosod yn y grid. Cofiwch mae’n rhaid i’rsiâp gael ei weld unwaith yn unig ym mhob rhes, colofn a bocs o 9.

SUDOCW i’r PLANT

Os bydd y plant neu’r wyrion yn cwyno eu bod wedi diflasu dros wyliau’rhaf, dyma bos sudocw gwahanol i’w cadw’n ddiddan. Unwaith maentwedi ei gwblhau, anfonwch y pos gorffenedig at Catrin Hughes, LlaisAfon, Llangadfan, Y Trallwm, Powys SY21 0PW erbyn Medi 19 abydd yr enw cyntaf allan o’r het yn ennill gwobr. Pob hwyl!

Tri Chopa

Chwi eisteddfodwyr, sydd â’ch bryd –Ar hyfryd Ddyffryn MeifodCewch yno joio’r swmpus wleddYn hedd yr hen eisteddfod.

Ond y mae gwledd o fwyd ar gaelSydd hael ei maint a’i phrisiau!Ac nid oes curo trwy’r holl froY te a’r ‘Cappuchino’.

Am fwydydd da, am de a sgon,Ac am safonau cyson,Cyhoeddwn heddiw o’r ‘Maen Llog’I’r ‘Cwpan Pinc’ y Goron.

COFIWCH ALW HEIBIO’R‘CWPAN PINC’ LLANGADFAN

(01938 820633)

Dydd Llun i Ddydd Gwener 8.00-5.00 / Dydd Sadwrn 8.00-4.00Dydd Sul 8.30 tan 3.30

CROESO I EISTEDDFODMALDWYN 2015

Penri Roberts yn cyflwyno tusw o flodau i’r artist, Christine Mills, yndilyn lansio’i gyfrol o farddoniaeth ‘Rhwng y Craciau’ a gyhoeddwyd ynddiweddar. Christine oedd yn gyfrifol am y darluniau trawiadol sy’ncyd-fynd â’r cerddi.Mae gwaith Christine hefyd wedi cael ei ddewis i’w arddangos yn Y LleCelf yn yr Eisteddfod eleni. Llongyfarchiadau hefyd i dri arall o’nhartistiaid lleol sef David Dawson, Foel a Stephen West a Shani RhysJames o Langadfan sydd wedi cael gwahoddiad i arddangos eu gwaithyn y babell. Mae’n anhygoel y fath dalent sydd mewn ardal mor fach!

Page 20: Plu Hydref 2011 fersiwn olajonhead.myzen.co.uk/plu1/rhifynnau/documents/archive/... · 2017. 6. 10. · Hydref 2 Bingo yn Neuadd Llanerfyl 7.00yh RHIFYN NESAF TIM PLU’R GWEUNYDD

2020202020 Plu’r Gweunydd, Awst/Medi 2015

Croesair 221- Ieuan Thomas -- Ieuan Thomas -- Ieuan Thomas -- Ieuan Thomas -- Ieuan Thomas -

(12, Maes Hyfryd, Carmel, Caernarfon,Gwynedd, LL54 7RS)

Enw: _________________________

Ar Draws1. Cyflwr pen yn y simdde! (4,4)7. Siop rhain yn y Trallwng (5)8. Cartref y teulu bach (4,3)9 a 10. Atgofio’r pedwar deg (7,7)11. Yn syth iawn (5)13. Croes i syms adio (5)16. Geiriau i gychwyn llyfr (7)19. Canwr ac arwerthwr lleol (7)20. Yn yr emyn “...... dir” (5)21. Titw, Robin a Dryw (4,4)

I Lawr1. Cwrt hynafol, o chwithig (6)2. Beth welwch mewn drych (8)3. Beth ddywed y gath (4)4. Dyfais i ddal hosan (6)5. Digwyddiad i’r AS’s diweddar (4)6. Disgrifiad arall o scwt (neu sgat??) (6)7. Cymryd amser i benderfynu (7)12. Dymuniad wrth yfed peint (6,2)13. Amser rhwng dwy act (6)14. Codi arian a chyrraedd y .......! (6)15. Ennill cwpan a chael “...” i’w dal (6)17. Disa yn llosgi’n ôl (4)18. Titan Cymreig (4)

Atebion 220Ar draws: 1. Brechdan; 4. Coll; 6. Rhediad;9. Arswyd; 10. Carwso; 15. Allwedd; 16.Rhaglan; 18. Glyn Nedd; 21. Drych; 22. NessLochI Lawr: 1. Berth Fawr; 2. Efengyl; 3. Ala; 4.Clasur; 5. Llwy; 7. ...; 8. Da; 10. Drosheddwch; 12. Aethwy; 13. Uffernol; 15. WilBach; 17. Aber; 18. NG; 20. Lle

Diolch i Ivy a Primrose am atebion derbyniol

FOELMarion Owen

820261PriodasLlongyfarchiadau i Ceri, Llety’r Bugail a Nickar eu priodas ar Orffennaf 18fed.GraddioLlongyfarchiadau hefyd i Siony Rudd ar raddiogyda Dosbarth 1af yn y Brifysgol yn Lerpwl.Mae Siony yn gobeithio mynd i’r Brifysgol iFangor i ddilyn cwrs athro. Pob lwc.AngladdGyda thristwch y cofnodwn fod angladdMaggie Evans wedi ei gynnal yn yr Amwythigar Orffennaf 17eg. Anfonwn ein cofion a’ncydymdeimlad at y meibion, Alun a HywelWyn ac at Bob a Dewi. Cofion gorau at HywelWyn sydd yn yr ysbyty.Merched y WawrAr ddydd Sadwrn Gorffennaf 18fed aethaelodau Merched y Wawr Foel a Llangadfanar wibdaith ar y trên o Fachynlleth i Bwllheli.Mwynhawyd golygfeydd godidog o’r môr a’rmynydd ar hyd y daith. Roedd hwn ynddiwrnod arbennig hefyd gan fod un o’nhaelodau mwyaf selog yn dathlu penblwyddpwysig! Dwn i ddim beth oedd ein cyd-deithwyr yn feddwl wrth weld yr holl win yncael ei lowcio am 10 o’r gloch y bore!! Tripardderchog a phawb wedi mwynhau yn arw.

Teulu PencoedRwyf newydd ddathlu penblwydd arbennig aphenderfynais beth amser yn ôl y buasemfel teulu yn hoffi casglu arian tuag at yrAmbiwlans Awyr. Rai blynyddoedd yn ôlcafodd Hywel ddamwain ar ei wyliau ynAberaeron. Cafodd ei gludo gyda’r AmbiwlansAwyr i Ysbyty Treforus ac mae’n diolch ynfawr iddynt am arbed ei goes a’i fywyd. Gydachymorth aelodau Eglwys Garthbeibiobyddwn yn cynnal cyngerdd gydag AlunPantrhedynog yn arwain a bydd Jennifermerch Heulwen (Pencoed) ac wyres i Annieyn canu. I ddilyn bydd swper dau gwrs.Cynhelir y noson ar nos Sadwrn 3ydd Hydrefam 7 o’r gloch yng Nghanolfan y Banw. AE

Cyfarchion

Yng Nghwm Twrch mae y baneriYn cyhwfan yn y gwynt,Ac mae’r afon yn llawn asbriWrth ymdroelli ar ei hynt.O dy’r Feliarth draw i’r CerniauDawnsia pawb yn ysgafn droedA phob un yn troi’i olygonI’r dathliadau yn Pen Coed.

Annie sydd yn bedwar ugainNi chred neb fod hynny’n wirGan nad oes ifancach dynesHeddiw’n trigo yn ein tir.Mae hi wrthi’n dal i ffermio,Yn llawn egni’n mynd a dodPrin fod yna wraig brysurachYn yr ardal hon yn bod.

Draw yn Eglwys Sant TydechoMae hi’n gadarn gadw’r ffydd,Trwy Langadfan a GarthbeibioCymwynasau wna bob dyddAr bob pwyllgor trwy’r gymdogaethDa yn wir cael Annie’n gefn,Ni fydd unrhyw beth yn methuOs yw hi yn cadw trefn.

Aeth ar ddiwrnod mawr y dathluI Bwllheli ar y trên,Yno gyda’i llu cyfeillionFe fu gwledda a siampên;Hywel, Gwyneth, Heulwen hithauGyda’u mam yn wyn eu bydHardd frenhines Dyffryn Banw’nMwynhau’r diwrnod ar ei hyd.

Hola rhai ai ei gwin cartref,A roes iddi’r egni hwn,Ynteu awel iach y bryniau?Beth yw’r ateb iawn? Nis gwn.Yr hyn a wyddom yw fod AnnieHeddiw’n bedwar ugain oed,Eto clywir pawb yn taeruMai ugainugainugainugainugain ydy gwraig Pen Coed.

Un o’r Cwm

Iechyd da, Annie!

Penblwyddi AwstPenblwydd Priodas hapus i Huw a Lyn Daviesar Awst 3; Denise a Neville ar y 7; Wyn aChristine ar y19; Nigel ac Yvonne ar y 18 acAnn a Marek ar Awst 25. Penblwydd hapushefyd i Carwyn, Llety’r Bugail ar Awst 17.

ANDREW WATKIN

Froneithin,LLANFAIR CAEREINION

Ffôn: 01938 810330

Adeiladwr Tai ac EstyniadauGwaith Bric, Bloc neu Gerrig

Page 21: Plu Hydref 2011 fersiwn olajonhead.myzen.co.uk/plu1/rhifynnau/documents/archive/... · 2017. 6. 10. · Hydref 2 Bingo yn Neuadd Llanerfyl 7.00yh RHIFYN NESAF TIM PLU’R GWEUNYDD

Plu’r Gweunydd, Awst/Medi 2015 2121212121

LLANGADFAN

Ar droiad y tri degau yn y ganrif ddiwethaf,symudodd Joseia Morgan a’i deulu o GwmCynllwyd ger Llanuwchlyn i ‘Nant-yr-Helyg’yng nghwm Twrch fel bugail i deulu’r Parc,Llangadfan, ac yn eu mysg Marged Elenneu Anti Magi fel y daeth yn gyfarwydd ilawer iawn o blant a thrigolion Dyffryn Banw.Yn rhyfeddol wedi blynyddoedd maith ynein mysg cadwodd dafodiaith lydan CwmCynllwyd hyd y diwedd.Trist yw gorfod ffarwelio â’r drydedd chwaero fewn ychydig wythnosau i’w gilydd! Un pethnodweddiadol o’r tair oedd eu gwên barod achroesawgar bob amser, rhyw anwyldeb yndisgleirio o’u cymeriad, Leusa wedi cyrraedd95 oed, Laura Fach (chwedl Magi) yn gwta80 oed, a rwan Magi yn 90 oed.Teulu Cymreig, yn gefnogol i’r diwylliantCymraeg, ac yn fwy pwysig na hynny ynffrydio o gyfeillgarwch a charedigrwydd bobamser.Cofio rhannu tarten ‘Riwbob’ cynta’r tymorgyda Leusa ar y ffordd o Eglwys Tydechoi’r Fron ar brynhawn Sul yn yr haf, galw ynFoel-Lwyd ar ‘sgiawt’ gan obeithio cael panedar un o’n ‘tramps’ yn yr hen ardal a ddim yncael ein siomi ychwaith. Cofio’r funud hon ycroeso ar aelwydydd Ty-Newydd, Glan-AberT~-Canol a’r Foel er mai fi oedd yn gwneudy ‘paned’ yn y Foel, henaint wedi dal i fynyâ’r corff ond y croeso heb ballu.Mae fy adnabyddiaeth personol i o Magi yngoroesi 60 mlynedd a theulu Evelyn ynbellach na hynny a thrwy’r cenedlaethau oIrfon i Rhodri a Huw cawsant flasu ogaredigrwydd ‘Anti Magi.’Edward Howell yn helpu John Morris ynGroes-lan a’r Wern ar y penwythnosau ynplygu, draenio, codi, ffensys a manion eraillgyda Alun yn hen ‘gog bach’ tua 8 oed.Roedd Edward yn ddigon caled a beirniadolo fy ymdrechion i yn amal, ond dysgais lawertrwy ei adnabod a chefais lawer o straeonyn ei gwmni.Cafodd Magi yn ystod ei bywyd deimlollawer colled enbyd yn y teulu, ond fe gariaiei chred hi trwy’r cyfan, yn wir, yr oeddcred Magi Evans yn ddi-sigl ac ysbrydoledigi’r sawl a gafodd y fraint o fod y dyst iddi.Fe fu yn ffyddlon tu hwnt i Marged Morris

yn y Wern a threuliai’r ddwy oriau yn siaradar nosweithiau Sadwrn a cherbyd Magi ynrhewi y tu allan tan yr oriau mân. Cyfaillanhygoel, cymwynaswraig garedig achymydog triw a di-ddrwg.Yr wyf wedi dyfynnu yn helaeth o’r‘Gwynfydau’ Mathew 5 Adnodau, 1-12 wrthlunio ‘pwt’ o gerdd er cof, gan fy mod yncredu bod Magi Evans yn ymgorfforiad o’rhyn y mae’r Arglwydd Iesu yn ei ddweud ynyr adnodau.

Mi ganaf gân gyfaill ffyddlon,Un â’i chymwynas lond ei chalon,Pawb yn ffrind, pawb yn gymdogion,A adlewyrcha bywyd Cristion.

Gwyn eu byd rhai sydd yn galaru -O golli congl-faen y teulu,O gofio neges fawr ei bywyd,Eich adfyd heddiw dry yn wynfyd.

Gwyn ei byd y rhai sy’n creduYn symlrwydd neges Iesu,Caru’i Christ, cyd-ddyn a’r heniaith,Byw mewn cariad, ffydd a gobaith.

Gwyn ei byd mor bur ei chalon,Gwyn ei byd fel cyfaill ffyddlon,Gwyn ein byd y gallu i gofio,Er lleddfu poen, awr y ffarwelio.

Gwyn ei byd y cyfaill addfwyn,Oedd mor driw i’w Bro a’i chyd-ddyn,Iddi hi mae’r clod a’r moliant,A’r allwedd aur i ‘Fro’r Gogoniant’.

Gwyn eu byd y trugarogionAm fywydau glân a Christion,Haeddiant hwy yw ‘Teyrnas Nefoedd’,A rhodio’n rhwydd yn ei ‘Chynteddoedd’.

Diolch Magi am yr hyn a gawsom o’chadnabod.

Emyr, Evelyn a’r Teulu

WimbledonDechrau mis Gorffennaf cafodd Nerys,Maesdderwen brofiad bythgofiadwy pandderbyniodd docyn i fynd i dwrnamaint tenismwyaf y byd. Dyma’r hanes:“Fy nymuniad pan oeddwn wedi ymddeol oeddcael mynd i Wimbledon. Felly ym mis Medidyma fynd ati i wneud cais am docyn.Daeth llythyr ym mis Mawrth yn dweud fy modwedi cael dau docyn i’r Cwrt Canol ar yr 8fedo Orffennaf. Roedd yn anhygoel meddwl fody cyfle wedi dod. Nid yn unig i fynd i Wimble-don, ond i’r Cwrt Canol o bob man.Felly dyma fynd ati efo’m chwaer i wneud ytrefniadau. Dyna brofiad i’r ddwy ohonomoedd ‘cymiwtio’ i Lundain, rhywbeth oeddwn iddim yn edrych ymlaen ato – ond wrth lwc feaeth popeth yn hwylus.Codi’n gynnar bore Mercher a mynd ar y bwsi Wimbledon. Roedd cerdded i mewn i Wim-bledon yn ‘waw’ a’r lle fel pin mewn papur.Mynd o gwmpas y cwrtiau allanol a’r cwrtiauymarfer yn y bore a chael gweld tenis ar eiorau.Yna y profiad anhygoel o fynd i mewn i’r CwrtCanol ac eistedd i weld Murray yn y gêm gyntafac yna Djokovic. Roedd tawelwch y dorf achyflymder y chwarae yn syfrdanol ac roedds@n y glec wrth daro’r bêl yn atseinio drwy’rcwrt fel taran.Cyn dal y bws yn ôl i’r gwesty roedd rhaidcael profi’r mefus a’r hufen ac wrth gwrs y‘pims’ (neis iawn!) Profiad bythgofiadwy –felly hei lwc am y cyfle eto y flwyddyn nesaf.ProfedigaethCydymdeimlwn â theulu y diweddar MerfynFrancis, Bryngroes gynt a fu farw yn dilyndamwain yn ddiweddar. Roedd Merfyn yn bywyn Llanrhystud ger Aberystwyth ersblynyddoedd lawer.Symud tSymud tSymud tSymud tSymud t~~~~~Rydym wedi ffarwelio efo Rachel, Jessica,Jack, Poppy a George yn ystod y mis. Mae’rteulu wedi symud i fyw i’r Trallwm. Gobeithioy byddant yn hapus iawn yno.

ER COF AMMARGED ELEN EVANS (nee MORGAN)

neu ANTI MAGI’

‘GWYN EU BYD Y RHAI PUR O‘GWYN EU BYD Y RHAI PUR O‘GWYN EU BYD Y RHAI PUR O‘GWYN EU BYD Y RHAI PUR O‘GWYN EU BYD Y RHAI PUR OGALON’GALON’GALON’GALON’GALON’

HELEN DAVIES Dip.CFHP, MPSPractYMARFERWR IECHYD TRAED

I drefnu apwyntiad yn eich cartref,cysylltwch â Helen ar:

07791 22806507791 22806507791 22806507791 22806507791 22806501938 81036701938 81036701938 81036701938 81036701938 810367

Maesyneuadd, Pontrobert

Gwasanaeth symudol:* TTTTTorri ewineddorri ewineddorri ewineddorri ewineddorri ewinedd* Cael gwared ar gyrn* Cael gwared ar gyrn* Cael gwared ar gyrn* Cael gwared ar gyrn* Cael gwared ar gyrn* Lleihau croen caled a thrwchus* Lleihau croen caled a thrwchus* Lleihau croen caled a thrwchus* Lleihau croen caled a thrwchus* Lleihau croen caled a thrwchus* Casewinedd* Casewinedd* Casewinedd* Casewinedd* Casewinedd* Lleihau ewinedd trwchus* Lleihau ewinedd trwchus* Lleihau ewinedd trwchus* Lleihau ewinedd trwchus* Lleihau ewinedd trwchus* Trin ewinedd gyda haint ffwngaidd* Trin ewinedd gyda haint ffwngaidd* Trin ewinedd gyda haint ffwngaidd* Trin ewinedd gyda haint ffwngaidd* Trin ewinedd gyda haint ffwngaidd

BOWEN’S WINDOWSGosodwn ffenestri pren a UPVC o

ansawdd uchel, a drysau acystafelloedd gwydr, byrddau ffasgia

a ‘porches’am brisiau cystadleuol.

Nodweddion yn cynnwys unedau28mm wedi eu selio i roi ynysiad,

awyrell at y nosa handleni yn cloi.

Cewch grefftwr profiadol i’w gosod.

BRYN CELYN,LLANFAIR CAEREINION,

TRALLWM, POWYSFfôn: 01938 811083

Page 22: Plu Hydref 2011 fersiwn olajonhead.myzen.co.uk/plu1/rhifynnau/documents/archive/... · 2017. 6. 10. · Hydref 2 Bingo yn Neuadd Llanerfyl 7.00yh RHIFYN NESAF TIM PLU’R GWEUNYDD

2222222222 Plu’r Gweunydd, Awst/Medi 2015

PONTROBERTSian Vaughan Jones

01938 [email protected]

Babi NewyddLlongyfarchiadau i Tom a Catherine, BwthynDolobran ar enedigaeth mab bach o’r enwLucas Oswald Wyn Richards. Hefyddymuniadau da i taid a nain sef Wyn a Gill,Bro Feiniog a hen nain sef Eira Evans, Yr Ochr.GraddioMae angen llongyfarch un o ferched prysur yfro sef Delyth Lewis, Gwern Fawr. Ar ôl gweithioyn galed iawn am sawl mis fe ddaeth haeddianti Delyth wrth iddi dderbyn Gradd B.A. mewnAstudiaeth Cymhwysiant Cymdeithasol. Daiawn ti yn wir Del. Aeth y teulu i gyd i lawr iGaerfyrddin er mwyn cael mwynhau achlysury diwrnod graddio.LlwyddiantDaeth llwyddiant i un arall o ferched Pont, sefFfion Williams, Bwlch Bach. Bu Ffion yn dilyncwrs Cam wrth Gam gan weithio mewngwahanol leoliadau gofal plant cyn oed ysgol,ac mae hi bellach wedi derbyn Diploma.Gwych iawn Ffion a da yw deall y bydd ynparhau i weithio yn Ysgol Gynradd Llanfair ymmis Medi.Brysiwch i WellaMae Cath Williams, Y Groesffordd, Top Rhosadref yn ôl ar ôl cael llawdriniaeth ynddiweddar. Anfonwn ein cofion ati am wellhadbuan. Hefyd mae ei thad Alun Williams, BwlchGolau wedi bod yn yr ysbyty yn caelllawdriniaeth ac erbyn hyn mae o gartref hefyd.Dymunwn yn dda i’r ddau ohonynt gan obeithionad yw Gaynor yn gorfod gweithio yn rhy galedwrth nyrsio’r cleifion. Anfonwn ein cofion gorauat Mrs Megan Williams, Y Rhos sy’n aros ynY Bwlch ar hyn o bryd. Dymunwn yn dda hefydi Sheila Watkins, Brynfa sydd wedi cael penglîn newydd yn ysbyty Gobowen. Gobeithio y

Cerdded Er CofFe gerddodd aelodau o deulu Gwyn Evans, Ty Isa, Llwydiarth yr holl ffordd o’r Hosbis ynAmwythig i’r Hosbis yn Telford er mwyn codi arian at y Severn Hospice. Ymysg y criw roeddRhian a Delyth, sef merched Gwyn, a hefyd Gwenda ei ferch yng nghyfraith a’i wyresauhefyd. Codwyd y swm o £665 tuag at yr achos haeddiannol iawn. Da iawn i bob un ohonoch.

bydd hithau yn gwella yn fuan.Taith i LandudnoAr fore Mawrth, 2 Mehefin aeth criw ogyfeillion y pentref ar daith unwaith eto.Cafwyd paned yn y Ponderosa gerLlangollen, gyda’r tywydd yn wlyb ac annifyriawn ar ben Bwlch yr Oernant. Ond wrthdeithio drwy hyfrydwch Dyffryn Clwyd acagosau at y môr fe ddaeth yr haul i’r golwgac fe gafodd bawb ddiwrnod braf a dymunolyn siopa a mwynhau yn Llandudno.CofionBu farw Glyn Jones Morris, gynt o Ty Cochar 28 Mehefin. Roedd yn frawd i MyraChapman, ac hefyd i Haydn ac Ella. Cofiwnyn dda am ei gymeriad hoffus a siaradus acun oedd wrth ei fodd yn tynnu coes a helpueraill. Cafodd bob gofal gan ei deulu yn ystod

ei salwch ac ymweliad gan lu o gymdogion achyfeillion dros y misoedd diwethaf. Bu’rangladd ar 14 Gorffennaf yn Llanfyllin ac fegafwyd teyrnged hyfryd iddo gan Llinos ei nith.Cydymdeimlwn gyda’i deulu wrth iddynt gollibrawd ac ewythr mor annwyl.Cyffro a PhrysurdebWrth yrru heibio caeau Mathrafal yn ddyddiolmae’n gyffrous iawn cael gweld y newid a’rdatblygiad wrth i’r pafiliwn, pebyll a stondinauymddangos a chreu siâp y maes. Mae cyffroa phrysurdeb mawr wrth i’r holl drefniadau apharatoadau fynd ymlaen, ac mae hen edrychymlaen at Eisteddfod Genedlaethol Maldwyna’r Gororau 2015. Pob hwyl i bawb sy’n rhano’r hwyl mewn unrhyw ffurf a diolch i chi i gydam helpu i greu y naws a’r teimlad o groeso amwynder Maldwyn i weddill Cymru.

argraffu daam bris da

holwch Paul am bris ar [email protected] 832 304 www.ylolfa.com

Nid yw Golygyddion na Phwyllgor Plu’rGweunydd o anghenraid yn cytuno gydag

unrhyw farn a fynegir yn y papur nacmewn unrhyw atodiad iddo.

Pob math o waith tractor,

yn cynnwys-

Teilo gyda chwalwr

10 tunnell,

Chwalu gwrtaith neu galch,

Unrhyw waith gyda

Amryw o beiriannau eraill ar

gael.

Ffôn: 01938 820 305

07889 929 672

Ffôn: Meifod 500 286Post a Siop Meifod

Huw Lewis

Page 23: Plu Hydref 2011 fersiwn olajonhead.myzen.co.uk/plu1/rhifynnau/documents/archive/... · 2017. 6. 10. · Hydref 2 Bingo yn Neuadd Llanerfyl 7.00yh RHIFYN NESAF TIM PLU’R GWEUNYDD

Plu’r Gweunydd, Awst/Medi 2015 2323232323

NEWYDDIONNEWYDDIONNEWYDDIONNEWYDDIONNEWYDDIONYSGOL PONTROBERTYSGOL PONTROBERTYSGOL PONTROBERTYSGOL PONTROBERTYSGOL PONTROBERT

Theatr Arad GochBu dosbarth C.A.2 yn Nyffryn Banw yn gwyliocynhyrchiad Arad Goch o nofel T.Llew Jones,‘Lleuad yn olau’. Mwynheuodd pawb y sioe abraf yw cael cynyrchiadau Cymraeg i’r plant.Graddedigion yr Ysgol

Rydym yn hynod o lwcus o gael dwy aelod ostaff sydd wedi graddio eleni mewnAstudiaethau cynhwysol cymdeithasol.Llongyfarchiadau mawr iawn i Delyth Lewis aJan Roberts am weithio mor galed i ennill eichgraddau BA. Rydym i gyd yn falch iawnohonoch.Arholiadau presArholiadau presArholiadau presArholiadau presArholiadau presPob lwc i Gareth Lewis, Elin Bennett, KiraJones, Lois Birchall ac Anni Vaughan Jonessydd wedi eistedd arholiadau pres ynddiweddar o dan hyfforddiant Mr CarwynEvans. Edrychwn ymlaen at gael clywed ycanlyniadau. Diolch hefyd i Mrs Haf Watkinam gyfeilio iddynt.Noson hwyl

Cafwyd noson hwyliog ym Mharc Eifion nosWener 10fed o Orffennaf. Trefnwyd y nosongan Ffrindiau ysgol Pontrobert. Cawsom lawero hwyl gyda rasys amrywiol o reslo sumo.Roedd y barbeciw a’r pwdinau yn flasus drosben; buom yn lwcus iawn gyda’r tywyddhefyd.

Mabolgapmau’rardalCystadlodd y plantyn hynod o dda ymMabolgampau’r ardalyn Nyffryn Banweleni. Torrwyd sawlrecord ac roeddwynebau hapus iawnyn dychwelyd yn ôl i’r ysgol a sawl tystysgrif goch. Da iawn i chi gyd. Llongyfarchiadaugwresog i Lois Birchall am dorri record naid hir merched blwyddyn 5 a hefyd i Lois, Elin, Amya Halle am dorri record merched blwyddyn 5 yn y ras gyfnewid.

Trip CaerdyddBore Sadwrn 27ain oFehefin aethdisgyblion C.A.2 i gydi Gaerdydd i aros yngNgwersyll yr Urdd.Cafwyd dau ddiwrnodhynod o brysur.Ymweld â Phwll Mawr,cael mynd ar gwchcyflym yn y Bae amynd i’r sinema oeddgweithgareddau dyddSadwrn. Dydd Sulcodwyd yn gynnar ermwyn mynd i Stadiwmy Mileniwm ac yna isglefrio iâ, cyndechrau ar ein taith hir yn ôl adref. Penwythnos prysur ond hwyliog iawn.

Pentre BachDydd Gwener 3ydd oOrffennaf aethdosbarth Mrs Edwardsar drip i Bentre’ Bachoherwydd ein thema niyw Pentre’ Bach.Aethom ar fws minigwyn roedd ganddo 16sedd. Ar ôl i bawbgyrraedd aeth pawb i’rcaffi i gwrdd ag Adriana Rosa, cafon fisgeda sgwash a chwaraeonni yn yr ardal chwarae.Ar ôl hynny cefaisginio, mwynheais fymwyd. Yna aethom iweld Sali Mali, cefais gwtsh mawr ganddi. Wedyn aethom am helfa drysor esgidiau. Roedd fynhîm wedi ennill, y wobr oedd loli rew. Yn ystod y trip aethom i d~ Sioni Bric a Moni a th~ NicwNacw roedd y t~ yma yn llawn o bethau pêl droed. Trip bendigedig. Gan Alexa Teague,blwyddyn 2.Prynhawn gwobrwyoCafwyd prynhawn gwobrwyo ar y 13eg o Orffennaf er mwyn ffarwelio gyda disgyblion blwyddyn6. Dim ond dau sy’n ein gadael eleni sef Gareth Lewis ac Ifan Andrew. Cafwyd sawl eitemddiddorol a llond gwlad o dystysgrifau a thlysau amrywiol. Dyma restr yr enillwyr:Tarian Jean Humphreys – Gareth LewisTlws coffa Eifion Chapman am nifer fwyaf o bwyntiau yng nghystadlaethau’r Urdd – KiraJonesTlws y cerddor - Anni Vaughan JonesVictor Ludorum – Owain Watkin JonesVictrix Ludorum – Halle WilliamsHoffai staff ysgol Pontrobert ddymuno’n dda i Ifan a Gareth yn yr ysgol Uwchradd. Pob lwc ichi’ch dau.Cofiwch gallwch ddarllen holl newyddion yr ysgol ar ein gwefan sef:http://ysgolpontrobert.weebly.com

Page 24: Plu Hydref 2011 fersiwn olajonhead.myzen.co.uk/plu1/rhifynnau/documents/archive/... · 2017. 6. 10. · Hydref 2 Bingo yn Neuadd Llanerfyl 7.00yh RHIFYN NESAF TIM PLU’R GWEUNYDD

2424242424 Plu’r Gweunydd, Awst/Medi 2015

Clwb Pêl-Droed Dyffryn BanwClwb Pêl-Droed Dyffryn BanwClwb Pêl-Droed Dyffryn BanwClwb Pêl-Droed Dyffryn BanwClwb Pêl-Droed Dyffryn Banw

dathludathludathludathludathlu 25 25 25 25 25

Cafwyd diwrnod i’w gofio ar yr 11eg o Orffennaf wrth i’r clwb ddathlu ei ben-blwydd yn bump ar hugain oed. Dechreuwyd y pnawn gyda gem bêl-droed rhwng chwaraewyr timau ifanc y clwb, a braf oedd gweld bod y dyfodol yn edrych yn addawol iawn gyda chwaraewyr arbennig i’w gweldyn y timau dan 7 a dan 9 oed. Rhaid diolch i Gareth Chapman a Huw Tudor, rheolwyr y ddau dîm, am eu hymdrechion dros y tymor. Gobeithioy gwelwn ni’r chwaraewyr ifanc yn chwarae i’r tîm cyntaf mewn achlysur tebyg 25 mlynedd i r@an pan fydd y clwb yn dathlu ei hanner cant (aphwy a @yr, falle y bydd Huw Tudor wedi rhoi’r gorau i chware i’r tîm cyntaf erbyn hynny!).Ar ôl gweld chwaraewyr y dyfodol, roedd yna gyfle i edrych yn ôl wrth i sêr y gorffennol gamu ymlaen i’r cae unwaith eto i herio’r tîm presennol.Cafwyd gêm gystadleuol gyda’r cyn-chwaraewyr yn ymladd yn ôl o dair gôl i ddim i’w gwneud hi’n dair gôl i ddwy efo ambell funud i fynd.Roedd pawb wedi tybio y buasai tîm y cyn-chwaraewyr yn blino ac arafu yn yr ail hanner, ond i’r gwrthwyneb - fe dyfodd y tîm (mewn nifer ynogystal â chryfder!) wrth i’r gêm fynd ymlaen. Roedd rhaid i’r tîm presennol amddiffyn am gyfnod, cyn llwyddo i gipio gôl yn y munudau olafi sicrhau buddugoliaeth o bedair gôl i ddwy.Yn dilyn y gêm fe gafwyd carvery blasus yn y Cann Office a chyfle i edrych yn ôl dros hen luniau o’r clwb a gasglwyd gan Barry Smith drosy blynyddoedd. Hoffai’r clwb ddiolch i bawb a gyfrannodd at y diwrnod ac i Morris Plant Hire am noddi’r tîm cyntaf. Diolch i bawb sydd wedicyfrannu dros y blynyddoedd at lwyddiant y clwb; roedd hi’n braf cael cwmni Ieuan Thomas, a fu’n gefnogol iawn adeg sefydlu’r clwb. Ymlaeni’r 25 mlynedd nesaf!

Llun o’r tîm presennol a chyn-chwaraewyr cyn y gêm

Cysodir ‘Plu’r Gweunydd ganCatrin Hughes,

a Gwasg y Lolfa, Talybont syddyn ei argraffu

Lle ydy hwn? COFIWCH FYND I...

Tybed a oes unrhyw rai o ddarllenwyr Plu’r Gweunydd yn gwybod ble mae’r murddun yma?Dyma gliw i chi - mae’n cael ei enwi ym Mhlu’r Gweunydd bob mis. Dal ddim yn gwybod, welewch i dudalen 10 ac fe gewch yr ateb ar dop y dudalen!

llun gan Dewi Roberts