pgcthe handbook 2008 - 2009 - aberystwyth university web viewelectronig llawn, yn ms word, i ....

57
Tystysgrif Uwchraddedig Addysgu mewn Addysg Uwch (TUAAU) Llawlyfr y Rhaglen 2011-12 1

Upload: lydien

Post on 11-Feb-2018

227 views

Category:

Documents


4 download

TRANSCRIPT

Page 1: PGCTHE handbook 2008 - 2009 - Aberystwyth University Web viewelectronig llawn, yn MS Word, i . pgcthe@aber.ac.uk. ... Bwriedir iddo gydymffurfio a Chod Ymarfer y Gwasasnaeth Cynghori,

Tystysgrif Uwchraddedig

Addysgu mewn Addysg Uwch (TUAAU)

Llawlyfr y Rhaglen

2011-12

1

Page 2: PGCTHE handbook 2008 - 2009 - Aberystwyth University Web viewelectronig llawn, yn MS Word, i . pgcthe@aber.ac.uk. ... Bwriedir iddo gydymffurfio a Chod Ymarfer y Gwasasnaeth Cynghori,

2

Page 3: PGCTHE handbook 2008 - 2009 - Aberystwyth University Web viewelectronig llawn, yn MS Word, i . pgcthe@aber.ac.uk. ... Bwriedir iddo gydymffurfio a Chod Ymarfer y Gwasasnaeth Cynghori,

Cynnwys

Adran 1: Cyflwyno’r Rhaglen

1.1. Cyflwyniad 1.2. Strwythur 1.3. Dysgu yn PA 1.4. Tîm y Rhaglen 1.5. Mentoriaid yr Adran 1.6. Cadw Lle a Chofrestru 1.7. Saesneg a Chymraeg 1.8. Gwybodaeth Bellach

Adran 2: Cynnwys y Rhaglen

2.1 Amcanion y Rhaglen2.2 Canlyniadau ar gyfer y Rhaglen2.3 Yr Academi Addysg Uwch2.4 Rhaglen y Cwrs

2.4.1 Cyfarwyddyd cyn y Cwrs2.4.2 Gynefino Breswyl2.4.3 Tri Cylch Dysgu

2.4.3.1 Cymorth2.4.3.2 Cyflwyniad

2.4.4 Gweithdai Datblygiad Proffesiynol Parhaus

2.4.5 Cyfarfodydd Mentoriaid Adrannol2.4.5.1 Y Cynllun Mentora2.4.5.2 Mentoriad ac Asesu2.4.5.3 Newid Mentoriaid

2.4.6 Arsylwadau Dysgu2.4.7 Cyfarfodydd Unigol a

Chyfarfodydd Grŵp2.5 Adnoddau Cyflwyniadol

2.5.1 Gwefannau2.5.2 Rhestr Llyfrau2.5.3 Cylchgronau sydd ar gael ar-lein2.5.4 Adnoddau Podlediadau a

Fodlediadau

Adran 3: Asesu

3.1 Y Portffolio3.1.1 Mynegai Matrics y Portffolio3.1.2 Aseiniadau’r Gynefino 3.1.3 Adroddiadau’r Tri Cylch Dysgu3.1.4 Cyflwyniad y Cylch Dysgu Cyntaf3.1.5 Adroddiadau’r Gweithdai DPP3.1.6 Adroddiadau Arsylwi Dysgu3.1.7 Sylwadaeth Bersonol3.1.8 Cyfeiriadau a Ffynonellau

3.2 Meini Prawf ar gyfer Asesu’r Portffolio

3.3 Cyflwyno’r Portffolio3.4 Y Panel Asesu3.5 Atgyfeirio a Methu3.6 Bwrdd Astudiaethau’r TUAAU3.7 Pwyntiau Ymadael3.8 Gadael Aberystwyth

Adran 4: Gwybodaeth ar gyfer

Mentoriaid

4.1 Mentoriaid4.2 Hyfforddiant a Chyfarwyddyd ynglŷn â’r

Cwrs i Fentoriaid 4.3 Cyfrifoldebau

4.3.1 Y Rhaglen Gyflwyno4.3.2 Cyfarfodydd gyda’r Mentor4.3.3 Arsylwadau Dysgu4.3.4 Cyflwyniadau TUAAU4.3.5 Cyflwyno’r Portffolio4.3.6 Asesu’r Portffolio

Atodiad 1: Gwybodaeth ynglŷn â Ieithoedd

Atodiad 2: Cynnwys mynegol ac adnoddau ar gyfer cyfarfodydd mentoriaid

Atodiad 3: FfurflenCerrig MilltirCyfarfod â’r MentorCytundeb Cylch DysguTaflen Arsylwi DysguTUAAU PA Bwriad i Gyflwyno

Atodiad 4: Llyfr Ansawdd i Staff

3

Page 4: PGCTHE handbook 2008 - 2009 - Aberystwyth University Web viewelectronig llawn, yn MS Word, i . pgcthe@aber.ac.uk. ... Bwriedir iddo gydymffurfio a Chod Ymarfer y Gwasasnaeth Cynghori,

Adran 1: Cyflwyno’r Cwrs

1.1 Cyflwyniad

Croeso i Dystysgrif Uwchraddedig Addysgu mewn Addysg Uwch (TUAAU) ym Mhrifysgol Aberystwyth. Lluniwyd TUAAU ar gyfer staff sy’n dysgu ac yn cynorthwyo dysgu yn Addysg Uwch mewn amrywiaeth eang o gyd-destunau, o ddarlithio i ddysgu o bell, i addysg oedolion. Y mae’r cwrs yn cael ei achredu gan yr Academi Addysg Uwch, sef sefydliad canolog y DU sy’n gyfrifol am wella ansawdd dysgu a dysg mewn Addysg Uwch. Y mae cwblhau’r cwrs yn arwain at gymhwyster lefel Meistr ar ffurf Tystysgrif Uwchraddedig, yn ogystal â chofrestriad gyda’r Academi Addysg Uwch fel Cymrawd (FHEA). Y mae’r rhaglen yn cynnwys un modiwl lefel Meistr 60 credyd (EDM1060), ac yn cymryd rhwng 12 mis a 3 blynedd i’w gwblhau fel rheol.

Y mae’r llawlyfr hwn yn nodi amcanion a strwythur y cwrs, ac yn egluro sut y bydd yn cael ei asesu. Awgrymwn eich bod yn darllen Adran 1 i gael syniad bras o sut y mae’r cwrs yn gweithio. Y mae Adran 2 yn rhoi mwy o fanylion am gynnwys y rhaglen, ac yn cynnig modd o gynllunio eich gwaith er mwyn ennill y cymhwyster. Y mae Adran 3 yn amlinellu’r proses asesu. Yn Adran 4, darperir gwybodaeth ychwanegol i fentoriaid.

1.2 Strwythur

Y mae’r cwrs yn cynnwys elfen o waith a ddysgir a gwaith annibynnol lle y byddwch yn defnyddio eich cyd-destun gwaith presennol fel sail ar gyfer datblygu amrywiaeth o ddulliau dysgu ac i ystyried llenyddiaeth berthnasol. Gan fod y cwrs wedi ei seilio ar eich gwaith, bydd llawer o’r gweithgareddau dysgu yn cael eu cyflawni yn ystod eich gwaith dysgu arferol. Mae’r rhaglen yn cynnwys:

Cyfarwyddyd cyn y Cwrs Cwrs cyflwyno preswyl. Tri ‘cylch dysgu’ – prosiectau ymchwil ar

ddysg myfyrwyr ar raddfa fach. Gweithdai Datblygiad Proffesiynol

Parhaus.

Cyfarfodydd gyda mentor o’r adran sydd â phrofiad dysgu yn eich disgyblaeth.

Arsylwadau dysgu. Cyfarfodydd unigol/grŵp rheolaidd sy’n

darparu cefnogaeth gan dîm y cwrs.

Y mae’r rhaglen yn cael ei hasesu drwy gyfrwng portffolio ar ddiwedd y cwrs, lle’r ydych yn cyflwyno tystiolaeth o ddatblygiad eich sgiliau proffesiynol a’ch gwybodaeth o ddysgu yng nghyd-destun eich adran. Daw’r dystiolaeth o’ch dyletswyddau dysgu arferol a’ch gweithgareddau datblygiad proffesiynol parhaus. Asesir y portffolio gan banel o staff hŷn yn ôl meini prawf sy’n cydymffurfio â’r gofynion ar gyfer achrediad gan yr Academi Addysg Uwch.

1.3 Dysgu yn PA

Lluniwyd TUAAU i ddarparu mynediad priodol i ddysgu mewn Addysg Uwch ar gyfer staff. Drwy ddatblygu gwybodaeth a sgiliau addysgol darlithwyr, y mae’r cwrs yn cyfrannu tuag at Strategaeth Dysgu ac Addysgu PA, sy’n nodi bod “PA yn amcanu at ddarparu amgylchedd dysgu o safon uchel sy’n rhoi cyfle i fyfyrwyr ar bob lefel gael profiad dysgu byw a thrawsnewidiol. Yr ydym yn ceisio meithrin diwylliant sy’n rhoi pwys ar fyfyrio ac arloesi er mwyn gwella safon a gwerth y profiad hwnnw”.

Trefnir TUAAU yn unol â Llawlyfr Ansawdd y Brifysgol i Staff a dylai pawb sy’n cymryd rhan ar y cynllun nodi'r mesurau Sicrhau Ansawdd sy’n gysylltiedig â’r cynllun (gweler adran 4 y Llawlyfr sy’n ffurfio atodiad 4 yn Llawlyfr TUAAU).

Fel rheol, y mae cwblhau’r cwrs yn rheidrwydd ffurfiol ar gyfer staff newydd heb gymhwyster â chanddynt lai na thair blynedd o brofiad dysgu, er bod cyfranogwyr eraill yn dewis dilyn y cwrs.

1.4 Tîm y Rhaglen

Cydlynir TUAAU o’r Ysgol Addysg a Dysgu Gydol Oes (YADGO). Lleolir y rhaglen ar hyn o bryd yn G19 Adeilad Cledwyn (Campws Penglais). Mae'r Development Cydgysylltydd Dysgu and Addysgu ym Mhrifysgol Aberystwyth yw'r prif gyswllt ar gyfer y cwrs ([email protected] 01970 628523).

4

Page 5: PGCTHE handbook 2008 - 2009 - Aberystwyth University Web viewelectronig llawn, yn MS Word, i . pgcthe@aber.ac.uk. ... Bwriedir iddo gydymffurfio a Chod Ymarfer y Gwasasnaeth Cynghori,

Cymorth gweinyddol yn cael ei ddarparu gan y Ganolfan Datblygu Staff ac Ymarfer Academaidd ([email protected] 01970 622117).

Y mae’r rhaglen yn cael ei rhedeg mewn partneriaeth â Phrifysgol Bangor, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, Prifysgol Abertawe a Sefydliad Prifysgol Cymru Caerdydd. Y mae’r rhaglen gyflwyno yn cael ei rhedeg ar y cyd, ac yn rhoi cyfle i gyfranogwyr gynyddu eu gwybodaeth o ddysgu drwy gysylltu â chydweithwyr ledled Cymru. Y mae partneriaid y rhaglen hefyd yn cydweithio ar y rhaglen asesu ac yn cael eu cynrychioli ar y Bwrdd Arholi.

1.5 Mentoriaid yr Adran

Penodir mentor unigol ar gyfer bob cyfranogwr gan y pennaeth adran. Y mae mentoriaid yn aelodau profiadol o’r staff sydd wedi hen ymsefydlu, a byddant yn rhoi cymorth i’r cyfranogwr drwy gydol y cwrs. Bydd mentoriaid hefyd yn ymgymryd ag arsylwadau dysgu, ac yn helpu i asesu portffolios.

1.6 Cadw Lle a Chofrestru

Y mae TUAAU yn agored i bob aelod o’r staff sy’n dysgu ar unrhyw lefel, boed hwy’n rhan-amser neu’n amser llawn. Fodd bynnag, y mae’n rhaid i’r rheini sy’n cymryd rhan gyflawni o leiaf 90 awr o ddysgu dros gyfnod y cwrs (uchafswm o 3 blynedd). Bydd cofrestru ffurfiol ar gyfer y cwrs yn digwydd yn ystod y rhaglen gyflwyno, ond er mwyn gwneud cais am le ar y cwrs, dylech gysylltu â’r Ganolfan Datblygu Staff ac Ymarfer Academaidd

([email protected] 01970 622117). Unwaith y cedwir lle ar eich cyfer, dylech ddychwelyd y Ffurflen Gadarnhau o leiaf bedair wythnos cyn y dyddiad ar gyfer y Rhaglen Gyflwyno (gweler http://www.aber.ac.uk/cy/cdsap/academic-practice/pgcthe/ i gael dyddiadau).

1.7 Cymraeg a Saesneg

Y mae TUAAU yn ymrwymedig i Gynllun Iaith Gymraeg Prifysgol Aberystwyth. Cyflwynir y cwrs drwy gyfrwng y Saesneg a’r Gymraeg fel y bo’n briodol. Fel gyda holl gyrsiau eraill PA, gellir

cyflwyno gwaith yn Saesneg neu yn Gymraeg. Mae fersiwn cyfrwng Cymraeg ar y cwrs yn cael ei gefnogi gan y Cymreag Coleg Cenedlaethol. Gweler Atodiad 1 i gael rhagor o wybodaeth.

1.8 Gwybodaeth Bellach

Y mae rhagor o fanylion am ddyddiadau, yn ogystal â gwybodaeth ychwanegol, i’w cael ar wefan TUAAU: http://www.aber.ac.uk/cy/cdsap/academic-practice/pgcthe/

5

Page 6: PGCTHE handbook 2008 - 2009 - Aberystwyth University Web viewelectronig llawn, yn MS Word, i . pgcthe@aber.ac.uk. ... Bwriedir iddo gydymffurfio a Chod Ymarfer y Gwasasnaeth Cynghori,

Adran 2: Cynnwys y Rhaglen

2.1 Amcanion y Rhaglen

Y mae’r rhaglen yn eich annog i ddatblygi eich hunain fel addysgwr, gan ddefnyddio eich cyd-destun gwaith cyfredol fel sail ar gyfer ymarfer amrywiaeth o ddulliau, a’ch gwneud yn ymwybodol o’r llenyddiaeth ar Addysg Uwch pan yn addysgu. Yn ogystal â pherfformio fel darlithydd neu diwtor, y mae gwaith dysgu hefyd yn golygu cynllunio a chynnal sesiynau, llunio cymorth ar gyfer myfyrwyr, goruchwylio gwaith ymarferol, marcio aseiniadau a rhoi adborth, cymryd rhan mewn gweinyddiaeth dysgu yn yr adran, ac arbrofi

gyda dulliau newydd o annog myfyrwyr i fynd i’r afael â’ch disgyblaeth. Cyflawnir yr holl waith hwn o fewn cyd-destun sy’n newid yn sydyn a lle mae’r boblogaeth o fyfyrwyr, yn ogystal â’u hamgylchedd technegol, yn profi cryn drawsnewid. Y mae’r cwrs yn helpu addysgwyr i gloriannu pwrpas a dulliau dysgu mewn amgylcheddau amryfath, sy’n creu sail ar gyfer datblygiad parhaus sgiliau proffesiynol drwy gydol eu gyrfa mewn Addysgu Uwch. Y mae’n bwysig pwysleisio bod cwblhau’r cwrs yn llwyddiannus y golygu bod yn rhaid i chi ddangos nid yn unig eich bod yn gallu dysgu, ond eich bod hefyd wedi meddwl yn feirniadol ynghylch beth y mae dysgu da yn ei olygu, a’ch bod yn parhau i ddatblygu a dysgu.

Ar ôl cwblhau’r cwrs, byddwch wedi datblygu eich gallu proffesiynol i:

Canlyniad Dysgu 1 Llunio a chynllunio cyfleoedd dysgu, adnoddau ac/neu raglenni astudio effeithiol.

Canlyniad Dysgu 2 Dewis a defnyddio ystod o ddulliau dysgu i gynorthwyo dysgu.

Canlyniad Dysgu 3 Llunio a gweithredu cynlluniau asesu effeithiol, a darparu adborth i ddysgwyr.

Canlyniad Dysgu 4 Datblygu amgylcheddau dysgu sy’n cynnig cymorth ac arweiniad effeithiol i fyfyrwyr.

Canlyniad Dysgu 5 Cyfuno gwybodaeth ysgolheigaidd am ddysgu sy’n seiliedig ar ymchwil gydag ymarferion addysgu a chynorthwyo dysgu.

Canlyniad Dysgu 6 Cloriannu effaith dysgu gan ddefnyddio amrywiaeth o ddulliau monitro, a’u defnyddio i gynllunio datblygiad ymarferion proffesiynol.

2.2 Canlyniadau ar gyfer y Rhaglen

Fel cwrs lefel Meistr, disgwylir safon astudiaeth sy’n gymesur â Diffiniad Safon Lefel M Prifysgol Aberystwyth: “Arddangos meistrolaeth dros faes cymhleth ac arbenigol o wybodaeth a sgiliau, defnyddio sgiliau uwch i gyflawni ymchwil, neu weithgaredd technegol neu broffesiynol uwch”.

Seilir asesiad y rhaglen ar y gallu i ddangos y cyflawnwyd y Canlyniadau Dysgu uchod. Mae’r Meini Prawf Asesu yn rhoi amlinelliad pellach manwl ar sut y gall cyfranogwyr ddangos eu bod wedi cwrdd â’r Canlyniadau Dysgu (gweler Adran

3.2). Yn gryno, fel rhaglen lefel Meistr, bydd gofyn i gyfranogwyr roi tystiolaeth ar gyfer pob o’r Canlyniadau Dysgu:

Gwybodaeth a Dealltwriaeth o’r materion hanfodol ym mhob maes penodol, yn rhannol drwy ymgyfarwyddo â llenyddiaeth broffesiynol ar ddysgu ac addysgu.

Sgiliau Rhyngberthynol drwy asesu allweddol, dadansoddiad a gwerthusiad o syniadau ac ymarferiadau.

Sgiliau Proffesiynol Ymarferol a weithredir yn eich cyd-destun dysgu arbennig.

6

Page 7: PGCTHE handbook 2008 - 2009 - Aberystwyth University Web viewelectronig llawn, yn MS Word, i . pgcthe@aber.ac.uk. ... Bwriedir iddo gydymffurfio a Chod Ymarfer y Gwasasnaeth Cynghori,

2.3 Yr Academi Addysg Uwch

Y mae TUAAU yn cael ei achredu gan yr Academi Addysg Uwch (AAU), ac y mae cyfranogwyr sy’n cwblhau’r cwrs yn llwyddiannus yn gymwys i gael bod yn Gymrawd o’r HEA. Y mae’r cwrs yn glynu at “Fframwaith Safonau Proffesiynol y DU ar gyfer addysgu a chefnogi dysgu mewn addysg uwch” yr

Academi Addysg Uwch. Y mae cynnwys y rhaglen a’r modd y’i hasesir yn rhoi cyfle i gyfranogwyr ddatblygu ac amlygu eu sgiliau a’u gwybodaeth mewn perthynas â’r holl Feysydd Gweithgaredd a Gwybodaeth Graidd a nodir gan yr AAU. Y mae’r rhaglen hefyd wedi ymrwymo i gynnal y Gwerthoedd Proffesiynol a gyflwynir yn y Fframwaith Safonau Proffesiynol.

UK Professional Standards Framework for teaching and supporting learning in higher education (Yn Saesneg Unig)

Areas of Activity

A1 Design and plan learning activities and/or programmes of studyA2 Teach and/or support learningA3 Assess and give feedback to learnersA4 Develop effective learning environments and approaches to student support and guidanceA5 Engage in continuing professional development in subjects/disciplines and their pedagogy,

incorporating research, scholarship and the evaluation of professional practices

Core Knowledge

K1 The subject materialK2 Appropriate methods for teaching and learning in the subject area and at the level of the academic

programmeK3 How students learn, both generally and within their subject/ disciplinary area(s)K4 The use and value of appropriate learning technologiesK5 Methods for evaluating the effectiveness of teachingK6 The implications of quality assurance and quality enhancement for academic and professional practice

with a particular focus on teaching

Professional Values

V1 Respect individual learners and diverse learning communitiesV2 Promote participation in higher education and equality of opportunity for learnersV3 Use evidence-informed approaches and the outcomes from research, scholarship and continuing

professional developmentV4 Acknowledge the wider context in which higher education operates recognising the implications for

professional practice

2.4 Rhaglen y Cwrs

Y mae’r rhaglen yn cynnwys:

Cyfarwyddyd cyn y Cwrs Cwrs cyflwyno preswyl. Tri ‘cylch dysgu’ (gan gynnwys cyflwyniadau

ar gyfer y cylch cyntaf). Gweithdai Datblygiad Proffesiynol Parhaus. Cyfarfodydd gyda mentoriaid yr adran.

Arsylwadau dysgu. Cyfarfodydd unigol a chyfarfodydd grŵp

rheolaidd.

2.4.1 Cyfarwyddyd cyn y CwrsBydd pawb sy’n cymryd rhan yn derbyn cyfarwyddyd cyn y cwrs mewn sesiwn sy’n para nid yn hwy na 2 awr yn ystod yr wythnos cyn y rhaglen gyflwyno (gweler

7

Page 8: PGCTHE handbook 2008 - 2009 - Aberystwyth University Web viewelectronig llawn, yn MS Word, i . pgcthe@aber.ac.uk. ... Bwriedir iddo gydymffurfio a Chod Ymarfer y Gwasasnaeth Cynghori,

http://www.aber.ac.uk/cy/cdsap/academic-practice/pgcthe/ i gael gwybod pryd ac yn lle y’i cynhelir). Y mae’r cyfarwyddyd yn darparu gwybodaeth gefndir am y cwrs a’r rhaglen gyflwyno, ac yn rhoi cyfle i gyfranogwyr gwrdd ag aelodau eraill o’u grŵp.

2.4.2 Rhaglen Gyflwyno Breswyl Y mae’r rhaglen gyflwyno yn fenter ar y cyd gyda phartneriaid Aberystwyth. Mae deuddydd cyntaf y cwrs preswyl yn rhoi cyfle i staff gwrdd â chydweithwyr newydd mewn amgylchedd ffisegol dymunol a fydd yn eu hysgogi i drafod testunau a materion sy’n ymwneud â dysgu ac addysgu mewn Addysg Uwch. Bydd trydydd diwrnod y cwrs yn cael ei gynnal yn ôl yn Aberystwyth, ac yn canolbwyntio ar y camau nesaf ar gyfer y cyfranogwyr.

Agweddau Ymarferol

Bydd y llety naill ai yng Ngregynog, canolfan breswyl ger y Drenewydd ym Mhowys; Plan Tan y Bwlch, canolfan breswyl yn Eryri; neu Gwesty’r Metropole yn Llandrindod. Caiff cludiant ei ddarparu o Adeilad y Porthorion, Campws Penglais, fel arfer yn gadael am 09:00a.m. ar y Diwrnod Cyntaf ac yn dod yn ôl i Aber erbyn 5:00p.m. ar yr Ail Ddiwrnod.

Gweler http://www.aber.ac.uk/cy/cdsap/academic-practice/pgcthe/ i gael rhagor o fanylion am ddyddiadau a threfniadau. Unwaith y byddwch wedi cael lle ar y cwrs cyflwyno (gweler 1.6 Cadw Lle a Chofrestru uchod), dychwelwch y Ffurflen Gadarnhau (ar gael i’w lawrlwytho o’r un wefan), gan gynnwys unrhyw anghenion arbennig o ran ymborth, pa un ai y byddwch yn defnyddio’r cludiant a ddarperir ai peidio, a’r iaith sydd well gennych (Cymraeg, Saesneg neu ddwyieithog) ar gyfer gwaith grŵp (gweler Atodiad 1 i gael rhagor o wybodaeth am iaith).

Rhaglen Ragarweiniol Breswyl

Dosberthir manylion y Rhaglen Ragarweiniol Breswyl ar wahân cyn y cyflwyniad. Mae paratoi ar gyfer y cyflwyniad fel arfer yn cynnwys:

(1) Datganiad Byr ar “Dysgu ac Astudio yn y

Brifysgol”

Gofynnir i gyfranogwyr ysgrifennu datganiad byr (un dudalen) ar y testun ‘Dysgu ac Astudio yn y Brifysgol’. Nod y datganiad yw rhoi cyflwyniad i’ch syniadau am addysg at ddibenion grŵp trafod bychan a fydd yn helpu cyfranogwyr i goethi eu syniadau am ddysgu ac addysgu. Bydd y datganiad yn cynrychioli eich canfyddiadau a seiliwyd ar eich profiad eich hun, yn eich maes arbennig eich hun. Felly, nid oes raid iddo fod yn gyforiog o gyfeiriadau.

Bydd angen i chi ddod â 5 copi o’r datganiad hwn gyda chi – un ar gyfer y tiwtoriaid, tri ar gyfer cyfranogwyr TUAAU eraill fel y gallant adolygu eich datganiad, ac un ar eich cyfer eich hun. Sylwer y bydd cyfranogwyr yn cael eu rhannu’n grwpiau yn ôl yr iaith a ffafrient (gweler Atodiad 1 i gael rhagor o wybodaeth am iaith). Bydd unrhyw feddyliau y byddwch yn eu datblygu o ganlyniad i’r ymarfer yn gallu cael eu cofnodi a’u cynnwys gyda’r datganiad yn eich portffolio terfynol.

(2) Darllen cyn y Cwrs Cyflwyno

I fanteisio i’r eithaf ar weithgareddau sydd wedi eu seilio ar drafodaeth yn y cwrs cyflwyno, bydd angen i chi ddarllen pedwar papur cyflwyniadol byr ar addysgu a dysgu. Mae’r papurau yn nodi rhai o’r cysyniadau allweddol sydd ynghlwm wrth arferion dysgu effeithiol. Byddwn yn cyfeirio at y syniadau hyn yn ystod y rhaglen gyflwyno. Dosberthir papurau cyn y cyflwyniad.

(3) Sesiwn Dysgu

Yn ystod y cwrs rhagarweiniol bydd pob cyfranogwr yn cyflwyno darn 10 munud o hyd o un o’i sesiynau dysgu. Caiff y cyflwyniadau hyn eu traddodi ger bron grwpiau bychain ar y prynhawn cyntaf.

Bydd y cyflwyniadau yn ffurfio sail i drafod arsylwi dysgu a datblygiad sgiliau darlithio dros gyfnod cwrs y cymhwyster. Rhoddir adborth ar ddiwedd pob cyflwyniad. Cewch gyfle fel grŵp i benderfynu beth y carech gael adborth amdano, a gofynnir ichi gwblhau ffurflenni sylwadaeth ar gyfer pob un o’r cyflwyniadau a welwch. Dylai’r adborth hwn gael ei

8

Page 9: PGCTHE handbook 2008 - 2009 - Aberystwyth University Web viewelectronig llawn, yn MS Word, i . pgcthe@aber.ac.uk. ... Bwriedir iddo gydymffurfio a Chod Ymarfer y Gwasasnaeth Cynghori,

gofnodi a’i gynnwys gyda sylwadaeth bersonol yn eich portffolio terfynol.

Bydd taflunydd data, cyfrifiadur pen-glin, siartiau troi ac uwchdaflunydd ar gael, a mater i’r unigolyn yw dewis pa adnoddau y dymuna ef/hi eu defnyddio – y mae sefyll a siarad heb gymhorthion gweledol yr un mor ddilys â petaech yn dod â chyflwyniad PowerPoint wedi ei baratoi o flaen llaw.

Gofynnir i gyfranogwyr sy’n bwriadu cyflwyno drwy gyfrwng y Gymraeg roi gwybod i dîm y cwrs (drwy’r Ffurflen Gadarnhau) fel y gellir gwneud trefniadau i gyfieithu ar y pryd (gweler Atodiad 1 i gael rhagor o wybodaeth ynglŷn â iaith).

2.4.3 Tri Chylch DysguY mae’r rhan fwyaf o’r dysgu ar TUAAU wedi ei seilio ar eich gwaith. Eich dyletswyddau dysgu arferol sy’n darparu’r cyd-destun ar gyfer y tri ‘cylch dysgu’ a ddefnyddir fel tystiolaeth yn eich portffolio.

Gellir diffinio cylch dysgu fel prosiect ymchwil bychan sy’n archwilio effaith ymarfer dysgu arbennig ar brofiad dysgu myfyrwyr. Fe’i gelwir yn gylch dysgu gan ei fod yn cynnwys y camau canlynol:

Nodi pwnc i ymchwilio iddo.

Ymhél ag ysgolheictod ar y pwnc.

Cynllunio ymarfer dysgu a’r canlyniadau a

fwriedir.

Cyflawni’r ymarfer dysgu.

Ceisio adborth am brofiad dysgu’r myfyrwyr.

Defnyddio newidiadau dros dro yn yr ymarfer

dysgu os oes raid.

Cloriannu profiad dysgu’r myfyrwyr.

Cynllunio datblygiadau ar gyfer y dyfodol mewn

ymarfer dysgu.

Sylwer na ddylid cymysgu ‘cylch dysgu’ gyda chylch y flwyddyn academaidd – gellir cwblhau cylch dysgu o fewn cyfnod cymharol fyr e.e. pedair wythnos.

Defnyddir y cylch dysgu yn helaeth ym myd addysg fel modd o gynllunio ac adolygu gweithgareddau addysgu a dysgu gyda’r bwriad o ddatblygu ymarfer proffesiynol. Y mae’n caniatáu i addysgwyr nodi canlyniadau disgwyliedig, cynllunio gweithgareddau dysgu, cael adborth gan fyfyrwyr, a gwerthuso effaith eu dysgu.

At ddibenion TUAAU, y tri cylch dysgu yw’r dystiolaeth bwysicaf o wybodaeth a sgiliau addysgu a dysgu’r cyfranogwyr o fewn eu cyd-destun arbennig, yn ogystal ag o’u gallu i asesu ymarfer dysgu a datblygu’n broffesiynol. Felly, y mae dewis meysydd priodol ar gyfer y cylchoedd dysgu yn hanfodol ar gyfer cynhyrchu portffolio llwyddiannus. Cynghorir cyfranogwyr i ystyried sut y mae eu dewis o bynciau ar draws y tri cylch dysgu yn eu galluogi i roi tystiolaeth gadarn eu bod wedi cyflawni’r canlyniadau dysgu.

Dylid ysgrifennu pob cylch dysgu ar ffurf adroddiad, gan gynnwys tystiolaeth ategol. Dyma’r cynllun arferol ar gyfer yr adroddiad:

1. Rhoi cyfrif o’r pwnc gan gynnwys

cyfeiriadau at lenyddiaeth briodol ar

addysgu a dysgu mewn AU.

2. Cynllun sy’n amlygu’r ymarfer dysgu

arfaethedig, y canlyniadau a fwriedir a’r

dull o asesu.

3. Nodiadau cynnydd ar ymarfer dysgu ac

unrhyw newidiadau dros dro.

4. Crynodeb o ddata perthnasol ac adborth

am ddysg myfyrwyr.

5. Asesu profiad dysgu’r myfyrwyr mewn

perthynas â’r canlyniadau a fwriedir.

6. Sylwadau ar y goblygiadau i ddatblygiad

proffesiynol ymarfer dysgu.

2.4.3.1 Cymorth ar gyfer y Cylchoedd Dysgu

Bydd cyfranogwyr yn datblygu eu gwybodaeth am gylchoedd dysgu yn ystod y cwrs cyflwyno preswyl, y rhaglen datblygiad proffesiynol parhaus, sesiynau cymorth, cyfarfodydd mentoriaid, a chyfarfodydd eraill gyda thîm y cwrs.

9

Page 10: PGCTHE handbook 2008 - 2009 - Aberystwyth University Web viewelectronig llawn, yn MS Word, i . pgcthe@aber.ac.uk. ... Bwriedir iddo gydymffurfio a Chod Ymarfer y Gwasasnaeth Cynghori,

2.4.3.2 Cyflwyniad Clych Dysgu

Yn ogystal, bydd pawb sy’n cymryd rhan yn mynychu sesiwn cyflwyniadau ar ôl eu cylch dysgu cyntaf, a hynny ar ddiwedd eu hail semester fel rheol. Y mae’r cyflwyniadau yn rhoi cyfle i gyfranogwyr gael adborth gan eu cymheiriaid, tîm y cwrs, mentoriaid, staff PA, aseswyr ac arholwyr. Bydd pob cyfranogwr y gorfod rhoi 10 munud o gyflwyniad am eu cylch dysgu cyntaf ac a fydd, fel rheol, yn cynnwys yr elfennau a restrwyd uchod. Neilltuir amser ar gyfer cwestiynau ac adborth. Bydd yr adborth yn galluogi cyfranogwyr i gloriannu eu cylch dysgu eu hun ac i ddatblygu eu hymarfer dysgu yn y dyfodol. Yn ogystal, gellir cynnwys yr adborth yn y portffolio terfynol. Gellir cael rhagor o wybodaeth am ddyddiadau a lleoliadau yn http://www.aber.ac.uk/cy/cdsap/academic-practice/pgcthe/.

2.4.4 Gweithdai Datblygiad Proffesiynol ParhausBydd y rhai sy’n cymryd rhan yn y rhaglen yn mynd i Raglen Datblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP) gyfwerth â chwe diwrnod llawn (neu 36 awr) trwy gydol y cymhwyster. Mae hyn fel arfer yn golygu cyfnod sydd gyfwerth â dau ddiwrnod fesul semester am dri semester cynta’r cofrestriad. Fel rheol, y mae hyn yn golygu bod yn rhaid neilltuo dau ddiwrnod ym mhob un o’r tri semester cyntaf ar gyfer y rhaglen DPP. I gael rhagor o wybodaeth am ddyddiadau, gweler http://www.aber.ac.uk/cy/cdsap/academic-practice/pgcthe/.

Y mae’r rhaglen DPP yn cynnwys cyfres o weithdai a luniwyd i roi sylw i ofynion allweddol Fframwaith Safonau Proffesiynol yr Academi Addysg Uwch. Y mae’r gweithdai yn cynnig cyfle i ymhél ag ysgolheictod ac arferion cyfredol mewn Addysg Uwch er mwyn gwella dulliau’r cyfranogwyr o ymdrin â dysg myfyrwyr o fewn eu cyd-destun penodol eu hunain. Y mae’r wybodaeth a geir o’r gweithdai yn darparu sylfaen ddefnyddiol ar gyfer cynllunio’r cylchoedd dysgu.

Asesir y Rhaglen DPP drwy grynodeb byr (un neu ddwy dudalen) o’r gweithdy a’i oblygiadau ar gyfer dysgu’r cyfranogwyr, ac a gyflwynir yn y portffolio ar ddiwedd y cwrs (gweler Adran 3 isod).

Y mae’r gweithdai DPP yn cael eu cyflwyno gan dîm y cwrs ac arholwyr allanol, ac y maent yn ymdrin â’r canlynol:

1. Darlithio a chyflwyniadau.2. Datblygu cyfranogiad myfyrwyr.3. Llunio a chynllunio rhaglenni dysgu.4. Defnyddio asesu ac adborth i hyrwyddo

dysgu.5. Cymorth effeithiol ar gyfer myfyrwyr.6. Cysylltu Dysgu ac Ymchwil.

Ar ben hyn, mae gweithdai Datblygiad Proffesiynol Parhaus pellach i’w cael yn rhan o raglen y Ganolfan Datblygu Staff ac Ymarfer Academaidd a all fod o ddiddordeb i’r rhai sy’n ceisio am yn y cymhwyster (e.e. Arolygu Ymchwil, E-Ddysgu, Mentora Effeithiol). Cynhelir achlysuron allanol ychwanegol ar ddatblygiad proffesiynol yn aml mewn disgyblaethau penodol (gweler gwefan yr Academi Addysg Uwch am fanyion yn eich Rhwydwaith Pwnc).

Dylai cyfranogwyr sy’n cael trafferth i fynychu’r sesiynau DPP gysylltu â thîm y cwrs. Esgusodir y rheini sydd eisoes wedi cwblhau hyfforddiant datblygiad proffesiynol tebyg rhag mynychu’r sesiynau DPP. Rhaid i sesiynau cyfwerth o raglen DPP y Ganolfan Datblygu Staff ac Ymarfer Academaidd gymryd lle’r sesiynau esgusodedig. Cysylltwch â thîm y cwrs i drafod hyn.

2.4.5 Cyfarfodydd gyda Mentoriaid

2.4.5.1 Y Cynllun Mentora

Bydd mentor yn cael ei benodi ar gyfer pob un o’r cyfranogwyr gan bennaeth eu hadran. Fel rheol, y mae’r mentor yn aelod hŷn o’r staff sy’n gyfrifol am fentora pob agwedd ar eu gwaith yn ogystal â’u dysgu (gweler y Llawlyfr Academaidd i gael rhagor o wybodaeth am gynllun mentora PA). Dylid pennu mentoriaid pan yn penodi neu’n syth ar ôl hynny, a dylai staff gysylltu â Phennaeth eu Hadran i gadarnhau’r trefniadau. Fel rheol, y mae mentoriaid a chyfranogwyr yn trefnu i gwrdd deirgwaith y semester.

At bwrpasau TUAAU, y mae’r mentor yn gweithredu fel ‘ffrind beirniadol’ sy’n ffynhonnell cymorth a thrafodaeth ar gyfer gwaith TUAAU.

10

Page 11: PGCTHE handbook 2008 - 2009 - Aberystwyth University Web viewelectronig llawn, yn MS Word, i . pgcthe@aber.ac.uk. ... Bwriedir iddo gydymffurfio a Chod Ymarfer y Gwasasnaeth Cynghori,

Bydd gan y mentor brofiad o ddysgu yn nisgyblaeth y cyfranogwr. Bydd ef/hi hefyd yn ymwybodol o’r hynny sy’n mynd ymlaen yn yr adran, ac yn gallu rhoi cyngor am faterion megis paratoi modiwl newydd neu gyflawni rôl weinyddol arbennig. Bydd cynnwys y cyfarfodydd yn cael ei bennu gan y cyfranogwr. Y mae trafod cynlluniau ar gyfer gweithredu a gwerthuso cylchoedd dysgu yn dra phwysig, a dylai eich mentor fynychu eich cyflwyniad ar ddiwedd y cylch dysgu cyntaf (gweler “Cymorth ar gyfer Cylchoedd Dysgu” o dan 2.4.3. uchod). Yn ogystal, y mae cyfarfodydd mentoriaid yn gyfle gwych i drafod ysgolheictod ac arferion dysgu yn eich disgyblaeth arbennig, ac yn rhoi cyfle i gynyddu eich gwybodaeth mewn perthynas â Meysydd Gweithgaredd yr Academi Addysgu Uwch (gweler 2.3 uchod). Ceir rhagor o wybodaeth am gynnwys cyfarfodydd mentoriaid yn adran 4.2.2. Cynghorir mentoriaid a chyfranogwyr i gadw cofnod o’r cyfarfodydd er mwyn sicrhau dilyniant. Os oes angen, gellir cael taflen i gefnogi hyn yn http://www.aber.ac.uk/cy/cdsap/academic-practice/pgcthe/.

2.4.5.2 Mentoriaid ac Asesu

Y mae’r mentor hefyd yn chwarae rhan yn y proses asesu. Y mae’n rhaid i’r mentor ddarllen portffolio’r cyfranogwr cyn iddo gael ei gyflwyno sy’n dangos fod y cyfranogwr wedi rhoi sylw i’r holl ganlyniadau dysgu. Efallai y carent ddarparu gwybodaeth ychwanegol arall er mwyn helpu’r aseswyr. Gofynnir i fentoriaid ar draws y Brifysgol gymryd rhan mewn paneli asesu portffolio o bryd i’w gilydd, ac y mae’n bosibl y bydd gan eich mentor brofiad o’r proses asesu.

2.4.5.3 Newid Mentoriaid

Ambell waith, bydd cyfranogwyr yn cael mentoriaid newydd yn ystod y cwrs, a hynny naill ai oherwydd amgylchiadau gwaith y mentor (e.e. absenoldeb astudio), neu oherwydd problemau yn y berthynas. Gan fod y cynllun mentora yn cael ei weinyddu gan yr Adrannau, dylid gwneud cais am fentor newydd drwy’r Pennaeth Adran. Os y penodir mentor newydd, dylid hysbysu tîm y cwrs fel y gellir gwneud trefniadau ar gyfer rhoi

cyfarwyddyd a hyfforddiant iddo/iddo os oes angen.

Darperir gwybodaeth bellach i fentoriaid yn Adran 4.

2.4.6 Arsylwadau DysguBydd cyfranogwyr yn cymryd rhan mewn o leiaf saith o arsylliadau dysgu:

Dau arsylwad o ddysgu’r cyfranogwr gan y mentor.

Un arsylwad o ddysgu’r cyfranogwr gan aelod o dîm y cwrs (GDSYA/YADGO).

Tri arsylwad o ddysgu’r cyfranogwr gan unrhyw gydweithiwr (e.e. aelod o’r cwrs neu gydweithiwr yn yr adran).

Un arsylwad o unrhyw gydweithiwr gan y cyfranogwr.

Gellir cyflawni arsylwadau dysgu mewn unrhyw drefn ac ar unrhyw adeg yn ystod y cymhwyster, sy’n ymwneud â dysgu mewn unrhyw gyd-destun (nid dim ond darlithoedd ond seminarau, tiwtorialau, arolygiadau, dosbarthiadau ymarferol, gwaith maes, cynadledda fideo neu weithgareddau e-ddysgu). Mewn achosion un i un, dylid gofyn am ganiatâd y myfyriwr dan sylw.

Dylai’r arsylwi ar y dysgu ddefnyddio’r ffurflen arsylwi, (i’w chael o http://www.aber.ac.uk/cy/cdsap/academic-practice/pgcthe/), a luniwyd i hyrwyddo trafodaeth rhwng yr arsyllwr a’r un a arsylwir.

Asesir arsylwadau dysgu fel rhan o’r portffolio ar ddiwedd y cwrs. Dylid cynnwys pob ffurflen arsylwi dysgu yn y portffolio. Y mae’n bwysig llenwi tudalen olaf y ffurflen arsylwi dysgu, sy’n amlinellu’r datblygiad proffesiynol sy’n digwydd o ganlyniad i’r arsylwi.

2.4.7 Cyfarfodydd Unigol a Chyfarfodydd GrŵpY mae cyfarfodydd unigol a chyfarfodydd grŵp dewisol yn ffynhonnell cymorth defnyddiol ar gyfer y rheini sy’n dilyn cwrs TUAAU.

Trefnir cyfarfodydd grŵp unwaith bob tymor gan dîm y cwrs, a darperir gwybodaeth am amserau a llefydd cyfarfod drwy e-bost. Mae’r agenda ar gyfer cyfarfodydd grŵp yn cael eu gosod gan y

11

Page 12: PGCTHE handbook 2008 - 2009 - Aberystwyth University Web viewelectronig llawn, yn MS Word, i . pgcthe@aber.ac.uk. ... Bwriedir iddo gydymffurfio a Chod Ymarfer y Gwasasnaeth Cynghori,

grŵp, gydag amrywiaeth o destunau ymarferol ac ysgolheigaidd yn darparu sail ar gyfer trafodaeth.

Gellir trefnu cyfarfodydd unigol â thîm y cwrs ar unrhyw adeg. Y mae cyfarfodydd unigol yn ddefnyddiol ar gyfer rhoi sylw i faterion penodol

sy’n ymwneud â dysgu ac/neu’r portffolio fel y codant yn ystod y cwrs. Pennir yr agenda ar gyfer cyfarfodydd unigol gan y cyfranogwr. Yn ogystal, gall cyfranogwyr gysylltu â thîm y cwrs i gael gweld hen bortffolios.

2.5 Adnoddau Cyflwyniadol

2.5.1 Gwefannau

Academi Addysg Uwch: cronfa ddata fawr, chwiliadwy o adnoddau sy’n ymwneud â’r rhan fwyaf o themâu mewn addysgu a dysgu www.heacademy.ac.uk. Y mae’n cynnwys:

Cynorthwyo Dysgu: papurau byr ar ystod o faterion dysgu ac addysgu. Defnyddiol iawn ar gyfer cylchoedd dysgu. http://www.heacademy.ac.uk/

Canolfannau Pwnc: y mae gan bob disgyblaeth wefan benodol sy’n cynnwys adnoddau ar gyfer dysgu www.heacademy.ac.uk/SubjectNetwork.htm

Cefnogi Staff Academaidd Newydd (SNAS): gwefan gydag adnoddau ar gyfer staff dysgu newydd www.heacademy.ac.uk/snas

“Deliberations”: Adnodd ar y we ar Addysgu a Dysgu mewn Addysg Uwch www.londonmet.ac.uk/deliberations

Oxford Centre for Staff and Learning Development: http://www.brookes.ac.uk/services/ocsd/2_learntch/2_learnt.html

2.5.2 Rhestr LyfrauBiggs, J (2003) Teaching for quality learning in higher education, 2il arg., Buckingham: SRHE/Open University Press.

Fry, H, Ketteridge, S & Marshall, S (goln.) (1999) A handbook for teaching and learning in higher education – enhancing academic practice. London: Kogan Page.

Raaheim, K (1991) Helping students to learn. Milton Keynes: Open University Press.

Race, P (2001) The lecturer’s toolkit, 2il arg., London: Kogan Page.

Radnor, H (2002) Researching your professional practice. Buckingham: Open University Press.

Ramsden, P (2003) Learning to teach in higher education. London: Routledge Falmer.

2.5.3 Cylchgronau sydd ar gael ar-leinhttp://www.aber.ac.uk/is/ejournals/

1. Active Learning in Higher Education2. Arts and Humanities in Higher Education3. Assessment and Evaluation in Higher

Education4. Higher Education Quarterly5. Journal of Further and Higher Education6. Quality in Higher Education7. Studies in Higher Education

2.5.4 VodCast and PodCast RecoursesNottingham University (Promoting Enhanced Student Learning Project): lecturers speaking about their teaching with examples of actual teaching.

http://www.nottingham.ac.uk/teaching/video/browse/techniques/

12

Page 13: PGCTHE handbook 2008 - 2009 - Aberystwyth University Web viewelectronig llawn, yn MS Word, i . pgcthe@aber.ac.uk. ... Bwriedir iddo gydymffurfio a Chod Ymarfer y Gwasasnaeth Cynghori,

Adran 3: Asesu

3.1 Y PortffolioAsesir TUAAU drwy bortffolio a gyflwynir ar ddiwedd y cwrs. Y mae portffolio dysgu yn gofnod personol o’ch datblygiad proffesiynol fel addysgwr AU. Y mae’n cynnwys casgliad o ddeunydd a ddewiswyd yn ofalus o’ch gwaith dysgu. Deuir â’r rhain ynghyd i greu cyflwyniad trefnus a llawn tystiolaeth o’r hynny a gyflawnasoch o safbwynt gwireddu’r canlyniadau dysgu ar gyfer y rhaglen. Asesir y TUAAU drwy bortffolio gan ei fod yn rhoi cyfle i gyfranogwyr unigol mewn cyd-destunau dysgu gwahanol i amlygu datblygiad eu harbenigedd eu hun.

Yn fyr, dyma a ddylid ei gynnwys yn y portffolio TUAAU:

1. Mynegai

2. Aseiniadau’r cwrs cyflwyno

3. Adroddiadau’r Tri Cylch Dysgu

4. Adroddiadau’r Gweithdai Datblygiad Proffesiynol Parhaus

5. Cofnodion Arsylwadau Dysgu

6. Sylwadaeth bersonol

7. Cyfeiriadau a ffynonellau

Gellir cyflwyno’r portffolio mewn unrhyw fformat priodol, megis rhwymydd modrwyau neu ddogfen rwymedig. Peidiwch â rhoi popeth mewn pocedi plastig (ar wahân i’r poster cyflwyno) gan y bydd hyn yn gwneud y portffolio’n anodd i’w ddarllen.

Er nad oes uchafswm geiriau ar gyfer y portffolio, dylai’r portffolio cyfan gynnwys oddeutu 35-40 ochr o sylwadaeth ysgrifenedig ar bapur A4, ynghyd ag unrhyw dystiolaeth ychwanegol sydd ei hangen i ategu’r testun.

3.1.1 Mynegai Matrics y PortffolioUn o elfennau pwysicaf y portffolio yw’r mynegai. Fel rheol, y mae’r mynegai hwn ar ffurf matrics sy’n nodi lle, yn y portffolio, y mae’r cyfranogwr

wedi amlygu eu cyflawniad o’r canlyniadau dysgu, ac a ddefnyddir gan y panel asesu i wneud eu penderfyniad.

Isod, ceir fersiwn enghreifftiol o’r fath fatrics, sy’n mapio lle mae’r portffolio yn rhoi cyfleoedd i arddangos y canlyniadau dysgu. Dylai’r rheini sy’n cymryd rhan gynhyrchu matrics tebyg gyda rhifau tudalen i ddangos ym mhle y gall aseswyr gael tystiolaeth fod y canlyniadau dysgu wedi eu cyflawni. Gellir lawrlwytho mynegai enghreifftiol o

http://www.aber.ac.uk/cy/cdsap/academic-practice/pgcthe/.

3.1.2 Aseiniadau’r Cwrs CyflwynoMae’r adran hon yn cynnwys pob darn o waith ysgrifenedig a gynhyrchwyd fel rhan o’r Rhaglen Gyflwyno (gweler adran 2.4.2), gan gynnwys:

Y Datganiad Byr ar “Dysgu ac Astudio yn y Brifysgol”.

Y poster sy’n cynrychioli’r cylch dysgu cyntaf.

3.1.3 Adroddiadau’r Tri Cylch DysguAr gyfer pob cylch dysgu, dylai’r portffolio gynnwys adroddiad ynghyd â thystiolaeth ategol. Fel rheol, y mae pob adroddiad yn oddeutu 6 ochr A4. Dylai’r adroddiad gynnwys cyfeiriadau llawn a thystiolaeth briodol.

Fel a nodir yn adran 2.4.3, dylai’r adroddiad gynnwys:

Disgrifiad o’r pwnc gan gynnwys cyfeiriadau at lenyddiaeth briodol ar addysg a dysgu mewn AU.

Cynllun yn tanlinellu’r ymarfer dysgu arfaethedig, y canlyniadau a fwriedir, a’r dull cloriannu.

Nodiadau cynnydd ar ymarfer dysgu ac unrhyw newidiadau dros dro.

Crynodeb o ddata perthnasol ac adborth am ddysg myfyrwyr.

13

Page 14: PGCTHE handbook 2008 - 2009 - Aberystwyth University Web viewelectronig llawn, yn MS Word, i . pgcthe@aber.ac.uk. ... Bwriedir iddo gydymffurfio a Chod Ymarfer y Gwasasnaeth Cynghori,

Asesu profiad dysgu’r myfyrwyr mewn perthynas â’r canlyniadau a fwriedir.

Sylwadau ar y goblygiadau i ddatblygiad proffesiynol ymarfer dysgu.

Yr adroddiadau ar gylchoedd dysgu sy’n ffurfio’r rhan mwyaf sylweddol o’r portffolio, a’r adroddiadau hyn sy’n rhoi’r cyfle gorau i gyfranogwyr ddangos i’w haseswyr eu bod wedi cyflawni’r canlyniadau dysgu. Cynghorir cyfranogwyr i sicrhau bod y tri adroddiad cylch dysgu yn dangos yn eglur i aseswyr bod sylw wedi ei roi i bob un o’r canlyniadau dysgu.

NB: ar ôl cwblhau’r dyfarniad caiff y tri chylch addysgu eu digideiddio a’u cyhoeddi ar Cadair, sef Cadwrfa Ymchwil Ar-lein y Brifysgol.

3.1.4 Cyflwyniad Addysgu Cylch CyntafAr ddiwedd ail semester eich cofrestriad bydd yn rhaid i chi wneud cyflwyniad am eich cylch dysgu cyntaf. Diben y cyflwyniadau yw rhoi adborth am eich arferion dysgu yn gynnar ym mhroses y TUAAU. Mae’r cyflwyniadau’n ddigwyddiad gorfodol ac agored a bydd eich mentor, ymgeiswyr eraill o’r TUAAU, aelodau o staff academaidd uwch ac aelodau eraill o staff y Brifysgol yn bresennol. Cadeirir y cyflwyniadau gan aelodau o’r Ganolfan Datblygu Staff ac Ymarfer Academaidd neu gadeiryddion allanol a wahoddir gan gynnwys yr arholwr allanol.

Bydd pob cyflwyniad yn para deng munud gyda deng munud ar gyfer cwestiynau. Dylai ymgeiswyr sydd eisiau cyflwyno trwy gyfrwng y Gymraeg gysylltu â’r Ganolfan o leiaf chwe wythnos cyn y cyflwyniadau er mwyn i ni allu trefnu gwasanaeth cyfieithu ar y pryd.

3.1.5 Adroddiadau’r Gweithdai Datblygiad Proffesiynol Parhaus Ar gyfer pob un o’r gweithdai Datblygiad Proffesiynol Parhaus, dylai cyfranogwyr gynnwys adroddiad sy’n oddeutu un i ddau ochr A4. Y mae pobl sydd wedi cymryd rhan o’r blaen wedi ei chael hi’n haws i ysgrifennu’r adroddiad yn syth ar ôl y gweithdy. Gall yr adroddiad gynnwys:

Disgrifiad o’r materion allweddol y daethoch i wybod rhagor amdanynt.

Eich asesiad beirniadol o’r wybodaeth a gaffaelwyd, yn enwedig o safbwynt eich disgyblaeth chi.

Sut y gallech ymgyfuno’ch dealltwriaeth newydd â’ch ymarfer dysgu

Pa DPP pellach a allai fod o ddefnydd yn y maes hwn.

3.1.6 Adroddiadau Arsylwi DysguDylai’r portffolio gynnwys cyfanswm o 7 ffurflen arsylwi dysgu o ganlyniad i’r arsylwadau dysgu a amlinellwyd yn adran 2.4.6. Rhydd y ffurflenni arsylwi dysgu gyfle pwysig i chi ddangos i’r aseswr sut y mae eich sgiliau proffesiynol wedi datblygu, a sut yr ydych yn gallu gwneud defnydd o’ch arsylwadau dysgu fel techneg werthuso bwysig i wella eich dysgu a’ch datblygiad proffesiynol.

3.1.7 Sylwadaeth BersonolY mae rhan sylweddol olaf y portffolio yn gofyn am Sylwadaeth Bersonol a ysgrifennir, fel rheol, ar ddiwedd y cwrs ar ôl cwblhau gweddill y portffolio. Amcan y Sylwadaeth Bersonol yw cloriannu sut y mae eich dealltwriaeth o ddysgu ac addysgu, yng nghyd-desun eich gweithle arbennig eich hyn, wedi datblygu drwy gwrs y rhaglen. Efallai y bydd o gymorth i chi gyfeirio’n ôl at y datganiad a ysgrifenasoch cyn y Rhaglen Gyflwyno. Y mae’r Sylwadaeth Bersonol yn rhoi cyfle i chi ddangos i’ch aseswyr sut yr ymhelsoch yn feirniadol â dealltwriaethau academaidd o ddysgu ac addysgu, gan integreiddio hynny gyda’ch ymarfer dysgu a’ch datblygiad proffesiynol.

Fel rheol, y mae’r Sylwadaeth Bersonol rhwng 5 a 10 tudalen A4 o hyd, ac yn cynnwys:

Disgrifiad byr o’ch hanes personol mewn dysgu ac addysgu.

Disgrifiad byr o’ch cyd-destun dysgu cyfredol.

Trafodaeth o’ch dealltwriaeth bersonol o ddysgu ac addysgu mewn addysg uwch.

Eich cynlluniau ar gyfer Datblygiad Proffesiynol Parhaus yn y dyfodol.

3.18 Cyfeiriadau a FfynonellauDylai cyfeiriadau a ffynonellau gael eu crybwyll yn y testun a’u cyfeirnodi mewn llyfryddiaeth yn null academaidd eich disgyblaeth eich hun.

14

Page 15: PGCTHE handbook 2008 - 2009 - Aberystwyth University Web viewelectronig llawn, yn MS Word, i . pgcthe@aber.ac.uk. ... Bwriedir iddo gydymffurfio a Chod Ymarfer y Gwasasnaeth Cynghori,

Mynegai arwyddol ar gyfleoedd posibl i ddangos cyflawniad y canlyniadau dysgu (X)

Canlyniadau Dysgu: “Dangos datblygiad y gallu proffesiynol i :”

Aseiniadau’r Rhaglen Gyflwyno

Cylch Dysgu 1 Cylch Dysgu 2 Cylch Dysgu 3 Sylwadaeth DPP

Cofnodion Arsylwi Dysgu

Sylwadaeth Bersonol

1Llunio a chynllunio cyfleoedd dysgu, adnoddau ac/neu raglenni astudio effeithiol. X X X X X X

2

Dewis a defnyddio amrywiaeth o ddulliau addysgu i gynorthwyo dysgu. X X X X X X

3Llunio a gweithredu cynlluniau asesu effeithiol, a darparu adborth i ddysgwyr. X X X X X X

4Datblygu amgylcheddau dysgu sy’n cynnig cymorth ac arweiniad effeithiol i fyfyrwyr. X X X X X X

5Cyfuno gwybodaeth ysgolheigaidd am ddysgu sy’n seiliedig ar ymchwil gyda’r arferion o addysgu a chynorthwyo dysgu.

X X X X X

6Cloriannu effaith dysgu gan ddefnyddio ystod o ddulliau monitro, a defnyddio hynny i gynllunio datblygiad ymarferion proffesiynol.

X X X X X X

15

Page 16: PGCTHE handbook 2008 - 2009 - Aberystwyth University Web viewelectronig llawn, yn MS Word, i . pgcthe@aber.ac.uk. ... Bwriedir iddo gydymffurfio a Chod Ymarfer y Gwasasnaeth Cynghori,

3.2 Meini Prawf ar gyfer Asesu’r Portffolio

Er mwyn pasio, y mae’n rhaid i’r portffolio gynnwys yr holl elfennau a restrir yn 3.1, a rhaid dangos yr wybodaeth a’r sgiliau sy’n angenrheidiol ar gyfer Canlyniadau Dysgu 1 i 6. Y mae’r meini

prawf asesu a ddefnyddir gan yr aseswyr yn adlewyrchu’r dystiolaeth sydd ei hangen i ddangos bod y Canlyniadau Dysgu wedi eu cyflawni. Gofynnir i aseswyr roi ystyriaeth i’r canlynol (a gymerwyd o’r ffurflen asesu):

Ffurflen Asesu

“Y mae TUAAU yn gwrs lefel M. Dyma’r disgrifiad lefel generig y dylid ei gymhwyso pan yn asesu cyfranogwyr:”

LEFEL M: Arddangos meistrolaeth dros faes cymhleth ac arbenigol o wybodaeth a sgiliau, defnyddio sgiliau uwch i gyflawni ymchwil, neu weithgaredd technegol neu broffesiynol uwch, derbyn cyfrifoldeb dros wneud penderfyniadau perthnasol gan gynnwys y defnydd o oruchwyliaeth ac, mewn amgylchiadau priodol, rhoi arweiniad i eraill.

(1) Gwybodaeth a Sgiliau mewn Addysgu: Pa dystiolaeth a geir fod y cyfranogwyr wedi arddangos a chloriannu eu gallu proffesiynol yn y meysydd gweithgaredd canlynol? Dylech asesu’r dystiolaeth fod y cyfranogwyr wedi arddangos eu gwybodaeth o faterion allweddol a datblygiad eu sgiliau ymarferol o fewn eu cyd-destun gwaith arbennig.

(i) Llunio a chynllunio cyfleoedd dysgu, adnoddau ac/neu raglenni dysgu effeithiol?

(ii) Yr ystod o ddulliau dysgu y gellir eu defnyddio i gynorthwyo dysgu?

(iii) Cynllun a gweithrediad cynlluniau asesu effeithiol, a’u defnydd i roi adborth i ddysgwyr?

(iv) Datblygu amgylcheddau dysgu, a chymorth ac arweiniad effeithiol i fyfyrwyr?

(2) Pa dystiolaeth a geir bod y cyfranogwyr wedi integreiddio eu hymwneud ag ysgolheictod ac ymchwil ar ddysgu gyda’u haddysgu? Dylech asesu’r dystiolaeth o adnabyddiaeth y cyfranogwyr o waith ysgolheigaidd ac ymchwil sy’n ymwneud â dysgu, a’u gallu i ddefnyddio’r wybodaeth honno i wneud penderfyniadau am ddysgu o fewn eu cyd-destun arbennig eu hunain.

(3) Pa dystiolaeth a geir fod y cyfranogwyr wedi cloriannu effaith eu dysgu ar ddysg myfyrwyr? Dylech asesu’r dystiolaeth o wybodaeth y cyfranogwyr o bwrpasau cloriannu dysgu, a’u gallu i ddefnyddio technegau priodol i gael adborth o fewn eu cyd-destun addysgu eu hunain.

(4) A yw’r portffolio at ei gilydd yn darparu tystiolaeth fod y cyfranogwyr wedi defnyddio eu profiad a’u gwybodaeth o ddysgu i ddatblygu’n broffesiynol?”

3.3 Cyflwyno’r Portffolio

Mae dau gyfle i gyflwyno bob blwyddyn, sef yn syth cyn y Nadolig ac ar ôl y Pasg (i gael y dyddiadau gweler http://www.aber.ac.uk/cy/cdsap/academic-practice/pgcthe/). Gellir cyflwyno’r portffolio ar unrhyw un o’r adegau hyn am hyd at dair blynedd ar ôl cofrestru.

Rhaid dychwelyd y ffurflen ‘Bwriad i gyflwyno’ o leiaf 8 wythnos cyn y dyddiad cyflwyno (http://www.aber.ac.uk/cy/cdsap/academic-practice/pgcthe/.) fel y gellir trefnu i gael aseswyr priodol o ddisgyblaethau cydffiniol. Dylech nodi ar y ffurflen os ydych yn bwriadu cyflwyno drwy gyfrwng y Gymraeg fel y gellir dod o hyd i aseswyr

16

Page 17: PGCTHE handbook 2008 - 2009 - Aberystwyth University Web viewelectronig llawn, yn MS Word, i . pgcthe@aber.ac.uk. ... Bwriedir iddo gydymffurfio a Chod Ymarfer y Gwasasnaeth Cynghori,

sy’n siarad Cymraeg. (gweler Atodiad 1 i gael rhagor o wybodaeth am iaith).

Gogyfer â phob portffolio mae angen i’r mentor lenwi ffurflen cyflwyno sy’n nodi ei fod ef neu hi wedi darllen y cyflwyniad, ac sy’n cadarnhau bod y cyfranogwr wedi rhoi sylw i’r holl Ganlyniadau Dysgu. Yn ogystal, croesewir unrhyw sylwadau ychwanegol am yr ymgeisydd. Bydd angen cynghori mentoriaid parthed pryd y bwriedir cyflwyno, fel y gallant neilltuo amser i ddarllen y portffolio o flaen llaw.

Nota Bene:

Dylid cyflwyno un copi printiedig o’r portffolio i’r Ganolfan Datblygu Staff ac Ymarfer Academaidd (G19, Adeilad Cledwyn) ac un fersiwn electronig llawn, yn MS Word, i [email protected].

Dim ond ar y ffurf ddeublyg hon y derbynnir pob portffolio ynghyd â ffurflen gymeradwyo’r mentor. Rhoddir derbynneb am y portffolio.

3.4 Y Panel Asesu

Bydd pob portffolio yn cael ei asesu gan ddau fentor sy’n gweithredu fel aseswyr, a bydd o leiaf un ohonynt wedi cael profiad asesu o’r blaen. Bydd yr aseswyr yn cwblhau’r daflen asesu (gweler 3.3 uchod), a phan cytuna’r ddau ynglŷn â’u darganfyddiadau, bydd eu hargymhelliad yn cael ei anfon ymlaen i’r bwrdd arholi.

Os yw’r aseswyr eisiau rhagor o eglurhad neu dystiolaeth, efallai y byddant yn gofyn i’r ymgeisydd ddarparu rhagor o wybodaeth neu fynychu arholiad llafar. Os yw’r aseswyr yn anghytuno â’i gilydd, bydd y Safonwr Mewnol hefyd yn asesu’r portffolio.

3.5 Atgyfeirio a Methu

Os yw’r aseswyr yn barnu nad yw’r portffolio yn cwrdd â’r gofynion i lwyddo, yna bydd y portffolio’n cael ei atgyfeirio. Bydd portffolios sy’n cael eu hatgyfeirio hefyd yn cael eu darllen gan y safonwr mewnol ac, os yw’r Bwrdd Arholi yn gytûn ynghylch atgyfeirio’r gwaith, bydd yr ymgeisydd yn cael ei hysbysu ynghylch hynny ac yn derbyn

cyngor parthed yr hynny y dylid ei wneud er mwyn dangos bod y canlyniadau dysgu wedi eu cyflawni.

Y mae’n rhaid cyflwyno portffolios a atgyfeiriwyd ar y dyddiad cyflwyno nesaf. Gellir ailgyflwyno portffolios ddwywaith cyn y dyfarnir bod yr ymgeisydd wedi methu’r rhaglen.

3.6 Bwrdd Astudiaethau TUAAU

Y mae’r Bwrdd Astudiaethau yn cyfarfod ddwywaith y flwyddyn er mwyn dyfarnu pa un ai yw’r cyfranogwr yn llwyddo neu’n methu. Bydd yr Arholwr Allanol hefyd yn darllen detholiad o’r cyflwyniadau. Cadeirir y Bwrdd Astudiaethau gan Bennaeth Ysgol Addysg a Dysgu Gydol Oes PA ac fe fydd yn cynnwys:

Cydgysylltydd PA Cydgysylltwyr cwrs pob sefydliad sy’n cymryd

rhan; Yr Arholwr Allanol Y safonwr mewnol (a enwebir gan YADGO) Cynrychiolwyr y Cyfranogwyr Cynrychiolwyr (mentoriaid fel rheol) o bob

adran sydd â staff ar y cynllun. Gellir gofyn i aseswyr a darlithwyr y cwrs fod

yn bresennol.

3.7 Pwyntiau Ymadael

Gall cyfranogwyr nad ydynt yn gallu cwblhau’r cymhwyster gofrestru fel “Cymrawd Cyswllt” gyda’r Academi Addysg Uwch. Y mae’n rhaid i gyfranogwyr sy’n dymuno dilyn y cwrs hwn wneud trefniadau gyda thîm y cwrs i gyflwyno rhan o’r gwaith. Rhaid i’r rhan hwn o’r portffolio gynnwys:

Aseiniadau’r rhaglen gyflwyno Un cylch dysgu Dau arsylwad dysgu Sylwadaeth bersonol Dau adroddiad Datblygiad Proffesiynol

Parhaus Dwy ffurflen arsylwi dysgu

3.8 Gadael Aberystwyth

Gall ymgeiswyr gwblhau’r cynllun TUAAU mewn sefydliad arall os y darperir digon o gymorth a chyfle gan y cyflogwr newydd. Cysylltwch â thîm y cwrs i drafod y posibilrwydd hwn.

17

Page 18: PGCTHE handbook 2008 - 2009 - Aberystwyth University Web viewelectronig llawn, yn MS Word, i . pgcthe@aber.ac.uk. ... Bwriedir iddo gydymffurfio a Chod Ymarfer y Gwasasnaeth Cynghori,

Adran 4: Gwybodaeth i Fentoriaid

4.1 Mentoriaid

Mae’r adran hon o lawlyfr TUAAU yn darparu gwybodaeth ac arweiniad i fentoriaid ynglŷn â’u rôl yn y rhaglen. Dylid ei darllen ochr yn ochr â’r wybodaeth am y rhaglen a ddarperir uchod, a dylai mentoriaid sicrhau eu bod yn gyfarwydd ag Adrannau 2 a 3 ar gynnwys y rhaglen a’r trefniadau asesu. Gan fod TUAAU yn rhaglen ddysgu sydd wedi ei seilio ar y gweithle, a lle mae cyfranogwyr yn defnyddio eu profiad gwaith i gloriannu a datblygu eu gwybodaeth a’u sgiliau proffesiynol, y mae mentoriaid yn chwarae rhan arbennig o bwysig fel aelodau profiadol o’r staff sy’n meddu ar wybodaeth fanwl ac ymarferol o adran a disgyblaeth y cyfranogwr.

Penodir mentoriaid ar gyfer aelodau newydd o’r staff gan eu Hadrannau fel rhan o gynllun mentora Prifysgol Aberystwyth. Y mae’r Llawlyfr Staff Academaidd yn darparu manylion am y cynllun (gweler http://www.aber.ac.uk/en/staff/academic-handbook/appoint/section08.php), gan gynnwys cyfrifoldebau mentoriaid mewn perthynas â phob agwedd ar waith aelodau newydd o’r staff.

At ddibenion TUAAU, y mae’r mentor yn gweithredu fel ‘cyfaill beirniadol’ sy’n ffynhonnell cymorth a thrafodaeth ar gyfer y gwaith a gyflawnir ar gyfer TUAAU. Bydd gan y mentor brofiad dysgu yn nisgyblaeth y cyfranogwr. Yn ogystal, bydd ef/hi yn ymwybodol o’r cyd-destun adrannol, ac yn gallu rhoi cyngor ar faterion y daw’r cyfranogwyr ar eu traws yng nghwrs y rhaglen. Yn gryno, y mae dyletswyddau’r mentor yn cynnwys:

Mynychu hyfforddiant “Mentora Effeithiol” os yn briodol (gweler adran 4.2).

Cael cinio gyda’r cyfranogwyr ar 3ydd diwrnod y Rhaglen Gyflwyno, yn PA (gweler 4.3.1).

Mynychu cwrs cyfarwyddyd ar gyfer mentoriaid gan dîm y cwrs (gweler 4.2).

Cynnal cyfarfodydd gyda’r cyfranogwr deirgwaith ym mhob semester (gweler 4.2.2)

Cyflawni dau arsylwad dysgu (gweler 4.3.3)

Mynychu cyflwyniad y cyfranogwr ar y cylch dysgu cyntaf (gweler 2.4.3 a 4.3.4)

Darllen portffolio’r cyfranogwr cyn iddo gael ei gyflwyno (gweler 4.3.5).

Cadarnhau bod y cyfranogwr wedi rhoi sylw i’r canlyniadau dysgu (gweler 4.3.5).

Asesu’r portffolio drwy fynychu panel asesu o bryd i’w gilydd (gweler 4.3.6)

4.2 Hyfforddiant a Chyfarwyddyd i Fentoriaid

Darperir hyfforddiant cyffredinol ar “Mentora Effeithiol”, fel rhan o gynllun mentora PA, gan y Ganolfan Datblygu Staff ac Ymarfer Academaidd, ac y mae’n agored i bob aelod o’r staff yn ôl yr angen. Fel rheol, cynhelir sesiynau hyfforddi ar ddechrau bob semester (gweler https://stafftraining.bis.aber.ac.uk/sd/list_courses.php i gael rhagor o fanylion).

Cynigir cwrs cyfarwyddo i fentoriaid pan fo cyfranogwyr yn cofrestru ar gyfer y rhaglen. Y mae’r cyfarwyddyd hwn yn cynnwys manylion am y rhaglen ac am ddyletswyddau’r mentor. Bydd manylion am sesiynau cyfarwyddo mentoriaid yn cael eu dosbarthu drwy e-bost.

4.3 Cyfrifoldebau Mentoriaid

4.3.1 Y Rhaglen GyflwynoBydd mentoriaid yn cael cinio yn PA gyda’r cyfranogwyr a thîm y cwrs ar 3ydd diwrnod y rhaglen gyflwyno. Pwrpas hyn yw rhoi syniad i’r mentoriaid o’r gwaith a gyflawnir ar y rhaglen gyflwyno a’u gwneud yn ymwybodol o gynlluniau’r cyfranogwyr ar gyfer eu cylch dysgu cyntaf. Bydd rhagor o fanylion yn cael eu dosbarthu cyn y rhaglen (gweler 2.4.2 i gael rhagor o wybodaeth am y rhaglen gyflwyno).

4.3.2 Cyfarfodydd gyda’r MentorFel rheol, y mae mentoriaid yn cwrdd â’r cyfranogwyr deirgwaith y semester. Dyma’r agwedd bwysicaf ar fentora, a chynghorir cyfranogwyr i gadw cofnod o’r cyfarfodydd er mwyn sicrhau dilyniant a rhoi cyfeiriad i bethau. Os oes angen, gellir cael taflen i gefnogi hyn o

http://www.aber.ac.uk/cy/cdsap/academic-practice/pgcthe/

18

Page 19: PGCTHE handbook 2008 - 2009 - Aberystwyth University Web viewelectronig llawn, yn MS Word, i . pgcthe@aber.ac.uk. ... Bwriedir iddo gydymffurfio a Chod Ymarfer y Gwasasnaeth Cynghori,

Y mae cynnwys y cyfarfodydd yn cael ei bennu gan y cyfranogwr. Fel rheol, fodd bynnag, byddant yn cynnwys trafodaethau sy’n gysylltiedig â’r gwaith a gyflawnir yn ystod y rhaglen, gan gynnwys:

Cynllunio ar gyfer y Rhaglen: Y mae llawer o’r gwaith a gyflawnir gan gyfranogwyr ar y cynllun TUAAU yn seiliedig ar eu gwaith dysgu arferol. Mae’r rhaglen yn meddu ar gryn hyblygrwydd fel ag i gymryd amryfal gyd-destunau gwaith y cyfranogwyr i ystyriaeth. Serch hynny, cyfrifoldeb y cyfranogwyr yw cynllunio ar gyfer y gwaith sydd ynghlwm wrth TUAAU. Fel rheol, bydd y cyfarfod cyntaf gyda’r mentor yn golygu creu cynllun gwaith a fydd yn galluogi’r cyfranogwr i gwblhau’r cymhwyster. Gellir cael taflen ‘Cerrig Milltir’ o http://www.aber.ac.uk/cy/cdsap/academic-practice/pgcthe/ i gynorthwyo’r ymarfer hwn. Mae’r daflen hon yn nodi’r prif dasgau sy’n gysylltiedig â TUAAU, ac yn gofyn i gyfranogwyr fapio pryd y bwriadant gwblhau’r cyfryw dasgau.

Yn ogystal, gall y daflen ‘Cerrig Milltir’ ffurfio sylfaen ar gyfer cyfarfodydd gyda mentoriaid yn y dyfodol, gan y gellir ei defnyddio i asesu’r cynnydd a wnaed a diwygio pethau yn ôl yr angen. Os oes gan fentoriaid unrhyw bryderon ynglŷn â rheolaeth amser ar gyfer y cymhwyster, y mae’n hollbwysig eu bod yn codi’r mater gyda’r cyfranogwr ac/neu’r adran yn gynnar yn y cwrs.

Cylchoedd Dysgu (gweler adran 2.4.3): Mae’r tri cylch dysgu yn ffurfio rhan sylweddol o’r portffolio, ac y mae’n hanfodol fod mentoriaid yn cynnig cymorth i ddatblygu pob cylch. Y cylchoedd dysgu yw’r modd pwysicaf o gwrdd â’r canlyniadau dysgu ar gyfer y rhaglen, a dylai mentoriaid a chyfranogwyr ystyried y cwestiynau canlynol yn ofalus:

Dewis testun: A fydd y testun yn rhoi cyfle i’r cyfranogwr arddangos y canlyniadau dysgu? A fydd y tri cylch gyda’i gilydd yn caniatáu i’r cyfranogwr gyflawni pob un o’r canlyniadau dysgu?

Ysgolheictod ac Ymchwil: A yw’r cyfranogwr wedi ymgyfarwyddo â’r ysgolheictod a’r ymchwil ar y pwnc? A yw’r cyfranogwr wedi defnyddio unrhyw adnoddau sy’n benodol i’w

ddisgyblaeth e.e. Rhwydweithiau Pwnc ar Ddysgu ac Addysgu? Ym mhle gall y cyfranogwr gael cyngor anffurfiol?

Amcanion a chanlyniadau’r cylch dysgu: Beth yw canlyniadau dysgu disgwyliedig y cylchoedd dysgu ar gyfer dysg myfyrwyr? A yw amcanion y prosiect yn realistig o gofio’r cyfyngiadau ar amser ac adnoddau’r cyfranogwr?

Y cyd-destun adrannol: A yw’r cylch dysgu yn ddichonadwy yng nghyd-destun yr adran. Beth yw goblygiadau’r cylch dysgu o safbwynt sicrwydd ansawdd? A fydd angen cael caniatâd Cydlynydd y Cynllun Gradd ac/neu’r Pwyllgor Dysgu ac Addysgu? A fydd y Gyfadran angen unrhyw ddogfennau (e.e. “Ffurflen Cymeradwyo Modiwl Newydd neu Ddiwygiedig”)? A ellir gwneud hyn o fewn ffrâm amser realistig?

Cynllunio’r Cylch: Pryd, ble a sut y bydd y cyfranogwr yn ymgymryd â’r ymarfer dysgu dan sylw? Â pha fyfyrwyr y mae a wnelo’r ymarfer dysgu hwn? Sut fydd y cylch yn datblygu? Pa gyfleoedd a geir ar gyfer newidiadau dros dro?

Cael adborth: Sut fydd y cyfranogwr yn cael adborth ynglŷn â’r effaith ar ddysg myfyrwyr? Pa dechnegau sy’n addas ar gyfer asesu’r effaith? A oes angen cynlluniau wrth gefn ar y cylch dysgu rhag ofn na fydd y technegau hyn yn gweithio?

Cloriannu’r adborth: Pa dechnegau a fydd yn cael eu defnyddio i gasglu, cloriannu ac asesu’r adborth er mwyn dod i gasgliadau? Pa mor llwyddiannus fu’r cyfranogwr o ran y cloriannu?

Defnyddio’r canlyniadau: Beth yw goblygiadau’r cylch dysgu ar gyfer ymarfer dysgu’r cyfranogwr yn y dyfodol?

Sylwer bod yn rhaid i’r cyfranogwyr gyflwyno eu cylch dysgu cyntaf mewn digwyddiad ffurfiol, lle gofynnir i’r mentoriaid fod yn bresennol – gweler 4.3.3 isod i gael manylion.

Datblygiad Proffesiynol Parhau: Yn ystod TUAAU, gofynnir i’r cyfranogwyr fynychu rhaglen DPP lle byddant yn datblygu eu gwybodaeth o ysgolheictod, ymchwil ac ymarfer proffesiynol

19

Page 20: PGCTHE handbook 2008 - 2009 - Aberystwyth University Web viewelectronig llawn, yn MS Word, i . pgcthe@aber.ac.uk. ... Bwriedir iddo gydymffurfio a Chod Ymarfer y Gwasasnaeth Cynghori,

mewn addysgu a dysgu, gan gynnwys eu dealltwriaeth o sut y mae myfyrwyr yn dysgu. Gofynnir hefyd iddynt gloriannu’r wybodaeth hon yn feirniadol, a’i chymhwyso o fewn eu cyd-destun addysgu eu hun. O gofio bod mentoriaid yn meddu ar wybodaeth ymarferol fanwl o addysgu a dysgu yn nisgyblaeth y cyfranogwr, rôl arall y cyfarfodydd gyda’r mentoriaid yw rhoi cyfle i’r cyfranogwyr drafod a chloriannu eu gwybodaeth ym mhob maes sy’n ymwneud ag addysgu.

Er mwyn helpu cyfranogwyr i ddatblygu eu gwybodaeth, gofynnir i fentoriaid droi at y cynnwys mynegol a’r adnoddau cysylltiedig a restrir yn Atodiad 2.

4.3.3 Arsylwadau DysguFel a nodwyd yn adran 2.4.6, bydd cyfranogwyr yn gorfod ymgymryd â saith o arsylwadau dysgu. Bydd dau o’r arsylwadau hyn yn cael eu cyflawni gan y mentor. Bydd pryd y cynhelir yr arsylwadau hyn yn fater a benderfynir gan y cyfranogwr a’r mentor ar y cyd, ond awgrymir bod y mentor yn cyflawni’r arsylwad cyntaf yn ystod wythnosau cyntaf y semester. Dylid cadw cofnodion o arsylwadau dysgu a thrafodaethau cysylltiedig drwy gwblhau’r ffurflen Arsylwi ar Ddysgu sydd ar gael o http://www.aber.ac.uk/cy/cdsap/academic-practice/pgcthe/.

Y mae’r arsylwadau dysgu yn bwysig i gyfranogwyr fel tystiolaeth o’u sgiliau ymarferol mewn addysgu ac addysgu, ac yn fodd hanfodol o gael adborth parthed eu datblygiad proffesiynol. Dylai annog cyfranogwyr i gwblhau eu ffurflenni arsylwi ar ddysgu i sicrhau bod digon o dystiolaeth ar gyfer eu portffolio.

4.3.4 Cyflwyniadau CyfranogwyrGofynnir i fentoriaid fynychu cyflwyniadau eu cyfranogwyr o’u cylch dysgu cyntaf mewn sesiwn cyflwyniadau a hynny, fel rheol, ar ddiwedd ail semester eu cofrestriad. (gweler adran 2.4.3).

Bydd y sesiwn cyflwyniadau yn rhoi cyfle i’r cyfranogwyr gael adborth gan eu cymheiriaid, tîm y cwrs, mentoriaid, staff PA, aseswyr ac arholwyr. Bydd pob cyflwyniad yn para 10 munud, gydag amser ar y diwedd ar gyfer cwestiynau ac adborth.

Bydd yr adborth yn caniatáu i gyfranogwyr gloriannu eu cylch dysgu a datblygu eu hymarfer dysgu yn y dyfodol. Yn ogystal, gellir cynnwys yr adborth yn y portffolio. Gellir cael rhagor o fanylion am ddyddiadau a lleoliadau yn

http://www.aber.ac.uk/cy/cdsap/academic-practice/pgcthe/.

4.3.5 Cyflwyno’r PortffolioY mae’n rhaid i’r mentoriaid ddarllen portffolio’r cyfranogwyr cyn iddynt eu cyflwyno, a dweud pa un ai yw’r canlyniadau dysgu wedi cael sylw ai peidio. Gellir gwneud hyn drwy gwblhau taflen asesu (ar gael o http://www.aber.ac.uk/cy/cdsap/academic-practice/pgcthe/). Efallai y carent y mentor ddarparu gwybodaeth ychwanegol i helpu’r aseswyr. Dylid dychwelyd y daflen hon i’r cyfranogwr fel y gall ef/hi ei chynnwys yn eu portffolio.

Gweler adran 3.3 i gael rhagor o wybodaeth am gyflwyno’r portffolio.

4.3.6 Asesu’r PortffolioGofynnir i fentoriaid ar draws y Brifysgol gymryd rhan mewn paneli asesu portffolio o bryd i’w gilydd. Y mae adborth yn awgrymu bod hyn yn fodd effeithiol o ddatblygu dealltwriaeth o’r safonau a ddisgwylir. Bydd canllawiau ar wahân yn dod gyda’r fath gais. Fel rheol, cynhelir y paneli asesu yn Ionawr a Mai. Bydd tîm y cwrs yn cysylltu â’r mentoriaid i ofyn iddynt fod yn bresennol mewn panel asesu fel y bo’n briodol.

20

Page 21: PGCTHE handbook 2008 - 2009 - Aberystwyth University Web viewelectronig llawn, yn MS Word, i . pgcthe@aber.ac.uk. ... Bwriedir iddo gydymffurfio a Chod Ymarfer y Gwasasnaeth Cynghori,

Atodiad 1:

Gwybodaeth ynglŷn â Ieithoedd

Y mae TUAAU yn cydymffurfio â gofynion Cynllun Iaith Gymraeg Prifysgol Cymru.(gweler http://www.aber.ac.uk/cy/cgg/)

Er mwyn help Cydlynydd y Rhaglen i hyrwyddo’r defnydd o’r Gymraeg yn y rhaglen, gofynnir i gyfranogwyr ddarparu’r wybodaeth ganlynol mewn cyfnodau gwahanol yn y cwrs.

Rhaglen Gyflwyno Breswyl (gweler adran 2.4.2): gwneir pob ymdrech i sicrhau bod gweithgareddau grŵp, yn enwedig datganiadau cyfranogwyr ar “Addysgu ac Astudio yn y Brifysgol” a’r cyflwyniad, yn cael eu cynnal yn Gymraeg, yn Saesneg neu’n ddwyieithog. Gofynnir i gyfranogwyr nodi’r iaith a ffafrient pan yn cwblhau’r ffurflen “Cadarnhad ar gyfer y Cwrs Cyflwyno Preswyl”. (gweler http://www.aber.ac.uk/cy/cdsap/academic-practice/pgcthe/.

Cylchoedd Dysgu (2.4.3); ar ôl y cylch dysgu cyntaf, bydd cyfranogwyr yn cymryd rhan mewn sesiwn gyflwyniadau o flaen tîm y cwrs, cyfranogwyr eraill, mentoriaid ac aelodau eraill o staff y brifysgol. Gofynnir i’r rheini sy’n dymuno cyflwyno drwy gyfrwng y Gymraeg gael gair â thîm y cwrs fel y gellir gwneud trefniadau ar gyfer cyfieithu ar y pryd.

Cyfarfodydd gyda’r Mentoriaid (2.4.5): gan mai’r adrannau sy’n gyfrifol am benodi mentor ar gyfer pob cyfranogwr, dylai cyfranogwyr sy’n dymuno cynnal cyfarfodydd drwy gyfrwng y Gymraeg drafod hynny gyda’u Hadran.

Arsylwadau Dysgu (2.4.6): Bydd mentoriaid, tîm y cwrs a chydweithwyr yn arsylwi ar ddysgu’r cyfranogwr. Os yw’r cyfranogwr yn dysgu drwy gyfrwng y Gymraeg, gellir trefnu i aelod o dîm y cwrs sy’n siarad Cymraeg ymgymryd â’r gwaith arsylwi.

Cyflwyno’r Portffolio (3.3): Fel gyda phob darn o waith a asesir yn PA, gellir cyflwyno’r portffolio drwy gyfrwng y Gymraeg, y Saesneg neu’n ddwyieithog. Os yw staff yn bwriadu ysgrifennu’r

portffolio yn Gymraeg, gofynnir iddynt hysbysu tîm y cwrs pan yn cwblhau’r ffurflen “Bwriad i Gyflwyno” (gweler http://www.aber.ac.uk/cy/cdsap/academic-practice/pgcthe/) fel y gellir chwilio am aseswyr sy’n siarad Cymraeg.

21

Page 22: PGCTHE handbook 2008 - 2009 - Aberystwyth University Web viewelectronig llawn, yn MS Word, i . pgcthe@aber.ac.uk. ... Bwriedir iddo gydymffurfio a Chod Ymarfer y Gwasasnaeth Cynghori,

Atodiad 2: Cynnwys mynegol ac adnoddau ar gyfer cyfarfodydd mentoriaid

Llunio a chynllunio gweithgareddau dysgu ac/neu raglenni astudio .

Cynllunio modiwl Baume, D (2003) Designing courses and modules. http://www.brookes.ac.uk/services/ocsd/firstwords/fw3con.html

Cyfliniad adeiladol Biggs, J. (2003) Teaching for Quality Learning at University (pennod 2 “Constructing learning by aligning teaching: constructive alignment). OU Press: Maidenhead.

Diffinio Amcanion Dysgu Biggs, J. (2003) Teaching for Quality Learning at University (pennod 3 “Formulating and Clarifying Curriculum Objectives). OU Press: Maidenhead.

Llunio a Defnyddio Canlyniadau Dysgu

Jackson, N, Wisdom, J and Shaw, M (2003) Guide for Busy Academics: Using Learning Outcomes to Design. Ar gael yn http://www.heacademy.ac.uk/836.htm

Gofynion allanol o ran cynllunio e.e. Sicrwydd Ansawdd

Shaw, M. (2002) Contexts for Curriculum Design: working with external pressures. Ar gael yn http://www.heacademy.ac.uk/837.htm

Addysgu ac/neu gynorthwyo dysg myfyrwyr

Dysgu grwpiau mawr Baume, D. (2003) First Words on Teaching and Learning. http://www.brookes.ac.uk/services/ocsd/firstwords/fw1con.html

Dysgu grwpiau bach Race, P. (2001) The Lecturer’s Toolkit (pennod 4 “Making small-group teaching work). Kogan Page: London.

E-Ddysgu Littlejohn, A and Higgison, C (2003) E-learning Series no 3: A Guide for Teachers. http://tinyurl.com/jesg6

Goruchwylio Ymchwil Marshall, S (1999) “Supervising Projects and Dissertations”, yn Fry, H., Ketteridge, S a Marshall, S (goln.) A Handbook for Teaching and Learning in HE. Kogan Page: London (tt. 108-119).

Ymdrin â thrafferthion yn y dosbarth

Baume, D (2004) Managing Classroom Difficulties. http://tinyurl.com/z7njg

Asesu a rhoi adborth i ddysgwyr

Cyfunioni dysgu ac asesu Rust, C (2002) Purposes and principles of assessment. http://tinyurl.com/lc4ug

Dewis dull asesu Biggs, J. (2003) Teaching for Quality Learning at University (pennod 9 “Assessing for learning quality II: practice”). OUP: Maidenhead.

Rhoi adborth Student Enhanced Learning through Effective Feedback http://www.heacademy.ac.uk/senlef.htm

Technegau asesu ffurfiannol Race, P (2003) The Lecturer’s Toolkit (“Feedback and Assessment” tt. 68-80.

Asesu gwaith grŵp Baume, D. (2002) Assessing Group Work.

22

Page 23: PGCTHE handbook 2008 - 2009 - Aberystwyth University Web viewelectronig llawn, yn MS Word, i . pgcthe@aber.ac.uk. ... Bwriedir iddo gydymffurfio a Chod Ymarfer y Gwasasnaeth Cynghori,

http://www.brookes.ac.uk/services/ocsd/firstwords/fw26.html

Datblygu amgylcheddau effeithiol, a chymorth ac arweiniad i fyfyrwyr.

Beth yw pwrpas cymorth i fyfyrwyr?

Wallace, J (1999) Supporting and Guiding Students, in Fry, H., Ketteridge, S and Marshall, S (eds.) A Handbook for Teaching and Learning in HE. Kogan Page: London (pp 175-187).

Cymorth i fyfyrwyr anabl Planet Special Edition: Special Educational Needs and Disabilities (wedi ei lunio ar gyfer y Rhwydwaith Pwnc Daearyddiaeth, ond yn rhoi arolwg da o’r prif faterion http://www.gees.ac.uk/pubs/planet/senda.pdf

Dysgu sy’n seiliedig ar adnoddau

Race, P (2001) The Lecturer’s Toolkit (pennod 5 “Resource based learning”). Kogan Page: London.

Cynllunio Datblygiad Personol

Guides for Busy Academics: PDP http://www.heacademy.ac.uk/963.htm

Cyfuno ysgolheictod, ymchwil a gweithgareddau proffesiynol gydag addysgu a chynorthwyo dysgu.

Deall dysg myfyrwyr Fry, H., Ketteridge, S a Marshall, S (1999) “Understanding Student Learning” yn Fry, H., Ketteridge, S and Marshall, S (goln.) A Handbook for Teaching and Learning in HE. Kogan Page: London (tt. 21-40)

Cyfuno addysgu ac ymchwil Jenkins A “Designing a curriculum that values a research-based approach to student learning” http://tinyurl.com/ngd8n

Materion addysgu sy’n benodol i ddisgyblaeth arbennig

See Higher Education Academies Subject Network http://www.heacademy.ac.uk/SubjectNetwork.htm

Ymarfer Myfyriol Biggs, J. (2003) Teaching for Quality Learning at University (pennod 12 “The Reflective Teacher”. OUP: Maidenhead.

Cloriannu ymarfer a datblygiad proffesiynol parhaus.

Cael adborth Baume, D (2006) Monitoring and Evaluating Teaching. http://www.brookes.ac.uk/services/ocsd/firstwords/fw4con.html

Arsylwadau Dysgu Fullerton, H (1999) “Observation of Teaching” yn Fry, H, Marshall, S a Ketteridge, S (goln.) A Handbook for Teaching and Learning in Higher Education. Kogan Page: London (tt. 220-234)

Dysgu drwy weithgaredd Beatty, L (2003) Action Learning, ar gael yn http://www.heacademy.ac.uk/985.htm

Datblygiad Proffesiynol Parhaus

Partington, P (1999) “Continuing Professional Development” yn Fry, H, Marshall, S a Ketteridge, S (goln.) A Handbook for Teaching and Learning in Higher Education. Kogan Page: London (tt. 247-262)

Rheoli Beichiau Gwaith Race, P (2001) The Lecturer’s Toolkit (pennod 6 “Looking After Yourself”. Kogan Page: London.

23

Page 24: PGCTHE handbook 2008 - 2009 - Aberystwyth University Web viewelectronig llawn, yn MS Word, i . pgcthe@aber.ac.uk. ... Bwriedir iddo gydymffurfio a Chod Ymarfer y Gwasasnaeth Cynghori,

Atodiad 3: Ffurflen

CERRIG MILLTIR TUAAU PASemester 1 Semester 2 Semester 3 Semester 4 Semester 5 Semester 6

Gweithgareddau CyflwynoCyflwyniad cyn y cwrsCwrs PreswylDiwrnod 3

Cylchoedd DysguY Cylch Dysgu CyntafCyflwyniadYr Ail Gylch DysguY Trydydd Cylch Dysgu

Gweithdai Datblygu Proffesiynol ParhausGweithdai craidd

Cyfarfodydd â’r mentorCyfarfodydd â’r mentor (3 y sem.)

1 2 3 1 2 3 1 2 3 1 2 3 1 2 3 1 2 3

Arsylwi ar DdysguGan y mentor (2)Gan y GDSYA (1)Gan staff (3)Gan cydweithiwr (1)

Cyfarfodydd Unigol DewisolCyfarfodydd unigol

Cyflwyno PortffolioFfurflen bwriadu cyflwynoParatoi’r portffolio terfynolY mentor yn ei ddarllen a’i gymeradwyoCyflwyno’r portffolio

Gellir defnyddio’r tabl i ddangos pan fyddwch yn cyrraedd y cerrig milltir er mwyn cynllunio a chloriannu eich cynnydd tuag at gwblhau’r rhaglen.

24

Page 25: PGCTHE handbook 2008 - 2009 - Aberystwyth University Web viewelectronig llawn, yn MS Word, i . pgcthe@aber.ac.uk. ... Bwriedir iddo gydymffurfio a Chod Ymarfer y Gwasasnaeth Cynghori,

Cyfarfod â’r Mentor TUAAU PAEnw: ………………………………………………………………………….

Dyddiad: ……………………………………………………………………………………………..

Mae’r ffurflen hon yn cofnodi diben a chanlyniadau cyfarfod â’ch Mentor.

Pa fudd garech chi ei gael o’r cyfarfod hwn?

Testunau i’w trafod.

Canlyniadau a gweithredoedd a gynlluniwyd.

Llofnod yr Ymgeisydd ____________________________________________________________________

Llofnod yr Mentor ______________________________________________________________________

Dyddiad: ___________________________________________________________________________

Dylid cadw’r dudalen uchaf yn eich portffolio a rhoi copi i’ch mentor.

25

Page 26: PGCTHE handbook 2008 - 2009 - Aberystwyth University Web viewelectronig llawn, yn MS Word, i . pgcthe@aber.ac.uk. ... Bwriedir iddo gydymffurfio a Chod Ymarfer y Gwasasnaeth Cynghori,

Cytundeb Cylch Dysgu TUAAU PADylech drafod y cylch dysgu a gynlluniwyd gennych chi a’ch Mentor ac ystyried sut y bwriadwch gasglu adborth a chloriannu’r hyn a ddigwyddodd.

Dosbarth/Modiwl Disgrifiad o’r modiwl (cewch amgáu’r canlyniadau dysgu arfaethedig, strategaethau dysgu ac addysgu a’r dulliau asesu).

Lefel ___________________________________ Semester_____________________________

Cyfarfodydd (amserlen)____________________ Nifer yn y dosbarth _____________________

Lleoliad ________________________________

Y datblygiad arfaethedig:

Yr agwedd dan sylw

Ffynonellau ysgolheictod priodol ar y mater

Canlyniad arfaethedig i’r myfyrwyr?

26

Page 27: PGCTHE handbook 2008 - 2009 - Aberystwyth University Web viewelectronig llawn, yn MS Word, i . pgcthe@aber.ac.uk. ... Bwriedir iddo gydymffurfio a Chod Ymarfer y Gwasasnaeth Cynghori,

Sut caiff yr hyfforddiant dysgu ei weithredu?

Pa adborth ar addysgu myfyrwyr a gynhyrchir?

Pa gyfleoedd a geir i addasu wrth fynd ymlaen (os o gwbl)?

Pa feini prawf a ddefnyddir i werthuso llwyddiant y cylch dysgu?

Llofnod yr Ymgeisydd ____________________________________________________________________

Llofnod yr Mentor ______________________________________________________________________

Dyddiad: _____________________________________________________________________________

Dylid cadw’r dudalen uchaf yn eich portffolio a rhoi copi i’ch mentor.

27

Page 28: PGCTHE handbook 2008 - 2009 - Aberystwyth University Web viewelectronig llawn, yn MS Word, i . pgcthe@aber.ac.uk. ... Bwriedir iddo gydymffurfio a Chod Ymarfer y Gwasasnaeth Cynghori,

Taflen Arsylwi Dysgu TUAAU PAEnw: Dyddiad:

Arsylwr: Nifer myfyrwyr:

Grŵp: Lleoliad:

Testunau: Amser dechrau:

Amser gorffen:

Amcan/ion: Canlyniadau Dysgu:

Unrhyw ffactorau/problemau y rhoddwyd ystyriaeth iddynt wrth gynllunio’r sesiwn?

Unrhyw newidiadau a wnaed ers sesiynau blaenorol tebyg? (os yn berthnasol)

Unrhyw agweddau o’r sesiwn sy’n newydd i chi?

A ydych wedi ymgorffori awgrymiadau a wnaed o’r blaen? (os yn berthnasol)

A hoffech chi gael cyngor ar agwedd arbennig o’ch addysgu yn y sesiwn hon?

28

Page 29: PGCTHE handbook 2008 - 2009 - Aberystwyth University Web viewelectronig llawn, yn MS Word, i . pgcthe@aber.ac.uk. ... Bwriedir iddo gydymffurfio a Chod Ymarfer y Gwasasnaeth Cynghori,

Sylwadau’r Arsylwr

1. Nodweddion Addysgu: Paratoi, dethol nodau/amcanion, datganiad o nodau a chanlyniadau dysgu. Dethol a threfnu cynnwys. Cynllunio. Dewis o ddulliau addysgu/dysgu.

2. Cyflwyniad: Dechrau’r dosbarth, rhagymadrodd, parhad o sesiynau eraill, gwybodaeth flaenorol y myfyrwyr. Eglurder cyflwyniad. Rhediad. Agwedd at gynnwys y wers. Defnydd o atgyfnerthiad addas. Terfynu’r sesiwn – crynodeb, gwaith ar gyfer y dyfodol ac yn y blaen

3. Technegau a Chymhorthion: Cyfarpar cyffredinol – bwrdd, uwch-daflunydd, taflunydd data, defnydd o daflenni. Techneg gofyn ac ateb cwestiynau. Trefnau gwerthuso eraill, rheoli dosbarth, cyfarwyddiadau i fyfyrwyr

4. Ymatebion Myfyrwyr: Awyrgylch y dosbarth yn gyffredinol, lefel cyfranogiad, sylw a diddordeb.

29

Page 30: PGCTHE handbook 2008 - 2009 - Aberystwyth University Web viewelectronig llawn, yn MS Word, i . pgcthe@aber.ac.uk. ... Bwriedir iddo gydymffurfio a Chod Ymarfer y Gwasasnaeth Cynghori,

Agwedd a gallu myfyrwyr i gwblhau gwaith dosbarth. A ganfyddwyd problemau dysgu a’u datrys? Ymwybyddiaeth o anghenion unigolion. Agwedd at y myfyrwyr.

5. Cyffredinol: A lwyddwyd i gyfathrebu’n effeithiol? A oedd cydberthynas dda rhwng myfyrwyr a darlithydd/tiwtor? A gyflawnwyd yr amcanion? Addasrwydd y dulliau addysgu/dysgu.

6. Meysydd i ganolbwyntio arnynt yn y dyfodol

7. Cryfderau:

30

Page 31: PGCTHE handbook 2008 - 2009 - Aberystwyth University Web viewelectronig llawn, yn MS Word, i . pgcthe@aber.ac.uk. ... Bwriedir iddo gydymffurfio a Chod Ymarfer y Gwasasnaeth Cynghori,

Nodiadau a Sylwadau Aelod o’r Cwrs

(I’w gwblhau ar ôl eich trafodaeth gyda’ch arsylwr yn dilyn sesiwn.)

1. Faint o gymorth fu’r sylwadau ar yr arsylwi?

2. Yng ngoleuni’r sylwadau a wnaed, a ydych chi’n debygol o wneud unrhyw newidiadau?

3. Unrhyw sylwadau pellach am y sesiwn a’r arsylwi?

Llofnod yr Ymgeisydd ____________________________________________________________________

Llofnod yr Mentor ______________________________________________________________________

Dyddiad: _____________________________________________________________________________

Dylid cadw’r dudalen uchaf yn eich portffolio a rhoi copi i’ch mentor.

31

Page 32: PGCTHE handbook 2008 - 2009 - Aberystwyth University Web viewelectronig llawn, yn MS Word, i . pgcthe@aber.ac.uk. ... Bwriedir iddo gydymffurfio a Chod Ymarfer y Gwasasnaeth Cynghori,

Bwriad i Gyflwyno TUAAU PADylech lenwi'r ffurflen hon o leiaf 8 wythnos cyn eich bod yn bwriadu cyflwyno'ch portffolio. Dylai'r ffurflen gael ei hanfon ymlaen at y Ganolfan Datblygu Staff ac Ymarfer Academaidd yn adeilad Cledwyn.

Enw:

Adran:

Ffôn:

E-bost:

Dyddiad cyflwyno arfaethedig:

A yw'r cyflwyniad drwy gyfrwng y Gymraeg?

Ydych chi’n ailgyflwyno? (Ydw / Nac ydw)

Llofnod:

Dyddiad:

Mentor

Enw:

Adran:

Llofnod:

32

Page 33: PGCTHE handbook 2008 - 2009 - Aberystwyth University Web viewelectronig llawn, yn MS Word, i . pgcthe@aber.ac.uk. ... Bwriedir iddo gydymffurfio a Chod Ymarfer y Gwasasnaeth Cynghori,

Appendix 4: Llyfr Ansawdd i Staff

Rhan 4: Materion Staffio

CYFLWYNIAD

1. Mae a wnelo’r adran hon a dulliau o roi meini prawf y drefn sicrhau ansawdd ar waith o ran cyflwyno staff i drefn y Brifysgol, cyfnodau prawf, datblygu a chloriannu staff.

CYFLWYNO’R BRIFYSGOL I STAFF NEWYDD

2. Cynigir rhaglenni cyflwyno gan yr Adrannau a’r adrannau gweinyddol, ac ategir hyn gan y llyfryn cyflwyno sydd ar gael ar-lein ar wefan y Ganolfan Datblygu Staff ac Ymarfer Academaidd:

http://www.aber.ac.uk/cy/staff-induction/ (Cymraeg).

http://www.aber.ac.uk/en/staff-induction/ (Saesneg)

Bydd yr Adran Adnoddau Dynol yn anfon llythyr o groeso gyda’r pecyn penodi i hysbysu’r sawl a benodir o’r drefn hon.

3. Rhaid i bob aelod newydd o staff academaidd sydd ag ymrwymiadau dysgu a llai na phum mlynedd o brofiad dysgu gwblhau.n llwyddiannus y Dystysgrif Uwchraddedig Addysgu mewn Addysg Uwch. Mae’r dystysgrif hon ar lefel M wedi ei hachredu gan yr Academi Addysg Uwch. Mae’r dulliau a ddefnyddir gan y Cynllun TUAAU yn cynnwys y profiad o ddysgu yn y gwaith, yn ogystal ag archwilio materion ymarferol a damcaniaethol yn feirniadol. Sylfaen dulliau asesu.r Cynllun TUAAU yw portffolio o’r profiad o ddysgu sy’n dangos datblygiad drwy ystyried yr hyn a gyflawnir. Yn sail i’rtrafodaethau y mae dyletswyddau dysgu cyffredin a gweithgareddau datblygiad proffesiynol parhaus. Trafodir pynciau megis damcaniaethau dysgu, cynllunio dysgu, asesu gwaith myfyrwyr, datblygu.r

amgylchfyd dysgu, gwella’r addysgu drwy roi ymateb effeithiol, a chloriannu.r dysgu.

4. Rhaid i fyfyrwyr uwchraddedig sydd a dyletswyddau dysgu ddilyn Rhaglen Gyflwyno ar Faterion Addysgu ac Dysgu. Mae’r rhaglen yn trafod technegau allweddol wrth ddysgu ac addysgu, y sgiliau sydd eu hangen i gynnal dosbarth tiwtorial, seminarau a dosbarthiadau ymarferol, a hefyd faterion asesu. Mae’r Ganolfan Datblygu Staff ac Ymarfer Academaidd yn trefnu’r cyfarfodydd hyn. Mae’r Adrannau.n cyfrannu gwybodaeth pwnc-benodol.

5. Rhaid i bob tiwtor preswyl newydd ddilyn rhaglen gyflwyno ddeuddydd a drefnir gan y Ganolfan Datblygu Staff ac Ymarfer Academaidd ar y cyd a.r Gwasanaethau Cymorth i Fyfyrwyr. Mae’r rhaglen yn trafod pynciau megis delio a gwrthdaro, camddefnyddio cyffuriau ac alcohol, rhoi cyngor mewn profedigaeth, cynorthwyo myfyrwyr anabl, a chymorth cyntaf sylfaenol. Rhoddir y cyfle i Staff Preswyl fynychu cyrsiau eraill megis sgiliau gwrando ac ymwybyddiaeth o aflonyddu.

TREFNIADAU CONTRACT I STAFF

ACADEMAIDD AR BRAWF

6. Mae’r Pwyllgor Staffio wedi sefydlu nifer o drefniadaethau ar gyfer y cyfnod prawf. Gellir gweld y manylion ar wefan Adnoddau Dynol.

http://www.aber.ac.uk/cy/hr/tandc/

Gweler isod ar gyfer trefniadau cyfnodau prawf. Bydd cyfnod prawf o 12 mis yn achos swyddi nad ydynt yn rhan o‘r Trefniadau Fframwaith.

GRŴP HYD CYFNOD PRAWF

Staff sy’n gydnaws a Phroffil Rol Academaidd ac eithri’r

3 BLYNEDD

33

Page 34: PGCTHE handbook 2008 - 2009 - Aberystwyth University Web viewelectronig llawn, yn MS Word, i . pgcthe@aber.ac.uk. ... Bwriedir iddo gydymffurfio a Chod Ymarfer y Gwasasnaeth Cynghori,

rheiny sy’n gydnaws a Phroffil Dysgu ac Ysgoloriaeth neu Ymchwil ar raddfeydd 6 a 7, sy’n dilyn y trefniadau ar gyfer swyddi’rgraddfeydd hynny.

Staff eraill ar raddfeydd 7-9 a staff a benodwyd i.w hyfforddi ar raddfa 6 a lle bo’r swydd ei hun ar raddfa 7.

18 MIS

Staff ar raddfeydd 1-6 12 MIS

DEFNYDDIO MENTORIAID I STAFF

ACADEMAIDD

7. Rhan allweddol o’r system brawf ac o gyflwyn’r Brifysgol i staff academaidd ar eu prawf a sicrhau eu datblygiad yw trefniant y cydweithiwr penodedig h.n neu.r Mentor. Penodir y mentor, sydd fel arfer yn aelod profiadol o staff yn yr un Adran, gan Bennaeth yr Adran berthnasol. Bydd gofyn i’rmentor drefnu cyfarfodydd rheolaidd gyda.r gweithiwr ar brawf a bod yn gyfrifol am ei gefnogi ar y cwrs cyflwyno dysgu (y cwrs Addysgu mewn Addysg Uwch), a rhoi cyngor, arweiniad a chefnogaeth drwy gydol y cyfnod prawf. Bydd disgwyl i’rmentor arsylwi gwaith dysgu.r aelod newydd o staff o leiaf ddwywaith yn ystod y tri semester cyntaf ar ol iddo/iddi gael ei b/phenodi.

DATBLYGU A HYFFORDDI STAFF

8. Mae polisi’rBrifysgol ar Ddatblygu Staff yn cynnwys datganiad eglur ar yr angen am ddarpariaeth deg o weithgareddau datblygu ar gyfer pob math o staff.

9. Mae tair lefel i’rcyfrifoldeb am ddatblygiad parhaus staff:a. Gweithgareddau a gynhelir dan

adain y Ganolfan Datblygu Staff ac Ymarfer Academaidd gan ddefnyddio cyllid canolog.

b. Llinell uniongyrchol o gyfrifoldeb rheoli gan bob Pennaeth Adran/Is-Adran.

c. Cyfrifoldeb unigol pob aelod o staff.

10. Mae’r Pwyllgor Datblygu Staff yn cyfarfod o leiaf ddwywaith y flwyddyn ac yn sicrhau bod y rhaglen o weithgareddau a drefnwyd yn adlewyrchu’n briodol flaenoriaethau.r Strategaeth Datblygu Staff ac anghenion yr holl staff. Mae’r grŵp Defnyddwyr Datblygu Staff, sy’n cyfarfod o leiaf ddwywaith y flwyddyn, yn rhoi sail i waith y Pwyllgor Datblygu Staff.

11. Mae manylion y gweithgareddau datblygu staff a drefnir yn flynyddol gan y Ganolfan Datblygu Staff ac Ymarfer Academaidd yn cael eu cyhoeddi mewn rhaglen ddwyieithog a ddosberthir i bob aelod o staff. Hysbysebir y rhaglen hefyd ar-lein, a gellir neilltuo lle drwy.r system archebu lle ar-lein. Anfonir manylion am gyrsiau ar gyfer grwpiau penodol megis staff technegol, ysgrifenyddol/clerigol a staff ymchwil ar gontract trwy gyfrwng e-bost. Lle bynnag y bo modd, anfonir manylion at grwpiau a fydd a diddordeb penodol yn y pwnc dan sylw. Y Ganolfan Datblygu Staff ac Ymarfer Academaidd sy’n cofrestru pobl ar gyfer y cyrsiau datblygu staff. Staff y Gwasanaethau Gwybodaeth sy’n cofrestru pobl ar gyrsiau Gwybodaeth, Cyfrifiadur ac eDdysgu a staff y Llyfrgell sy’n cofrestru pobl ar gyrsiau.r Llyfrgell.

12. Anogir pob Adran i gymryd rhan mewn gweithgareddau datblygu staff, e.e. Diwrnodau Cwrdd i Ffwrdd, lle trafodir materion sydd o bwys i’rholl staff. Mae’r Ganolfan Datblygu Staff ac Ymarfer Academaidd yn cydweithio ag adrannau er mwyn hybu datblygiad staff yr adrannau.

13. Mae’r gweithgareddau datblygu parhaus a hyrwyddir gan y Ganolfan Datblygu Staff

34

Page 35: PGCTHE handbook 2008 - 2009 - Aberystwyth University Web viewelectronig llawn, yn MS Word, i . pgcthe@aber.ac.uk. ... Bwriedir iddo gydymffurfio a Chod Ymarfer y Gwasasnaeth Cynghori,

ac Ymarfer Academaidd yn cynnwys ystod eang o bynciau.

a. Rheolir datblygiad proffesiynol staff sy’n addysgu gan y Cydlynydd Datblygu Dysgu ac Addysgu, yn unol a Fframwaith Safonau Proffesiynol y Deyrnas Unedig (UKPSF). Achredir y Dystysgrif Uwchraddedig Addysgu mewn Addysg Uwch (PGCThE) gan yr Academi Addysg Uwch a hynny yn unol a disgrifydd safonol 2. Mae agweddau datblygiad academaidd y rhaglen datblygiad proffesiynol parhaus hefyd yn gydnaws a Fframwaith Safonau Proffesiynol y Deyrnas Unedig. Cynigir yn ogystal ddatblygiad addysgu ar gyfer addysgwyr uwchraddedig drwy raglenni penodol sy’n gydnaws a disgrifydd safonol lefel 1 y Fframwaith Safonau Proffesiynol.

b. Ceir grantiau datblygu addysgu ar gyfer staff sy’n addysgu drwy.r Gronfa Datblygu Dysgu ac Addysgu. Mae gwobrau ar gyfer addysgu rhagorol ar gael drwy.r Wobr flynyddol am Addysgu Rhagorol a Gwobr y Cynorthwy-ydd Dysgu Uwchraddedig Rhagorol. Nod y grantiau a.r gwobrau hyn yw darparu system ar gyfer datblygiad parhaus ansawdd yr addysgu ym Mhrifysgol Aberystwyth.

c. Materion ymchwil: e.e. cynigir sesiynau ar sicrhau arian ymchwil ac arolygu myfyrwyr ymchwil drwy.r rhaglen datblygiad proffesiynol parhaus a chynigir rhaglen sgiliau arbennig ar gyfer staff ymchwil. Cynigir hyfforddiant a chymorth ychwanegol mewn cydweithrediad a.r Swyddfa Ymchwil.

ch. Cynigir datblygiad arweinyddiaeth a rheolaeth drwy nifer o ffyrdd, gan gynnwys hyfforddiant penodol ar gyfer Penaethiaid Adrannau,

Penaethiaid Gwasanaethau a staff h.n eraill; drwy gynllun mentora rheolwyr; drwy fodiwl arweinyddiaeth sydd wedi.i achredu ar gyfer staff sy’n dechrau ar eu gyrfa; drwy sesiynau unigol ar y rhaglen datblygiad proffesiynol parhaus flynyddol.

d. Cynigir cyfle i wella sgiliau drwy seminarau, sesiynau.r ford gron a chyfleoedd eraill megis cysgodi yn y gwaith.

dd. Gall staff anacademaidd sy’n dal swyddi y mae myfyrwyr yn ganolbwynt iddynt ddilyn y modiwl Cefnogi Myfyrwyr sy’n cael ei achredu gan yr Academi Addysg Uwch.

14. Anogir staff academaidd i rannu a hybu arferion da a dulliau newydd o ddysgu drwy ddigwyddiadau lledaenu gwybodaeth megis y Gynhadledd Ymchwil Weithredu ar Ddysgu ac Addysgu, sesiynau, gweithdai a seminarau byrion; yn ogystal a Chyfnodolyn Ymarfer Academaidd Ar-lein Prifysgol Aberystwyth.

ADOLYGU PERFFORMIAD

15. Mae Prifysgol Aberystwyth wrthi ar hyn o bryd yn rhoi proses o Adolygu Perfformiad ar waith ar gyfer y Brifysgol gyfan. Fe fydd yn weithredol yn 2011/12. Bydd yr Adolygu Perfformiad yn cael ei gefnogi gan borth .hunan-wasanaeth. penodol ar-lein sydd yn cael ei ddatblygu ar hyn o bryd.

CYFLE CYFARTAL AC AMRYWIOLDEB

16. Mae Prifysgol Aberystwyth yn ymrwymedig i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywioldeb, yn ymdrechu i fod yn gynhwysfawr, gan werthfawrogi natur amrywiol ei staff, ei myfyrwyr a.i chymuned.

35

Page 36: PGCTHE handbook 2008 - 2009 - Aberystwyth University Web viewelectronig llawn, yn MS Word, i . pgcthe@aber.ac.uk. ... Bwriedir iddo gydymffurfio a Chod Ymarfer y Gwasasnaeth Cynghori,

Ceir gwybodaeth bellach drwy ymweld a: http://www.aber.ac.uk/cy/hr/equalopp/

CYFRYNGU

17. Mae’r Gwasanaeth Cyfyngu ar gael i holl aelodau staff y Brifysgol. Bwriedir iddo gydymffurfio a Chod Ymarfer y Gwasasnaeth Cynghori, Cymodi a Chyflafareddu (ACAS), a gyflwynwyd ym mis Ebrill 2009. Nod y Cod Ymarfer yw cynorthwyo rheolwyr, staff a.u cynrychiolwyr i ymdrin a sefyllfaoedd o gwyno yn y gweithle. Mae’r cod yn pwysleisio.n benodol yr angen i ddatrys materion ar y lefel isaf posibl.

Mae gan Brifysgol Aberystwyth gronfa o gyfryngwyr a hyfforddwyd drwy ACAS ac a ddewiswyd o blith amrywiaeth o swyddi ac adrannau. Maent yn cynrychioli natur amrywiol y staff sydd yn y Brifysgol.

Gall staff ddefnyddi’r Gwasanaeth Cyfryngu fel a ganlyn:

Dylai aelodau o‘r staff sy’n rhan o anghydfod neu wrthdaro yn y gweithle gysylltu a.r Cydlynydd Cyfryngu (manylion

cyswllt isod) neu a.r adran Adnoddau Dynol am fwy o wybodaeth. Gall ef drafod y broses yn fanwl gyda chi a.ch helpu chi i benderfynu.r ffordd orau o symud ymlaen.

Mae gan reolwyr gyfrifoldeb dros geisio datrys y sefyllfa yn y lle cyntaf. Oni ellir ei datrys felly, dylid cysylltu a.r Adran Adnoddau Dynol am gyngor neu fel arall dylid cysylltu a.r Cydlynydd Cyfryngu (manylion cyswllt isod).

Gall aelodau unigol o‘r staff, rheolwyr, cynrychiolwyr undebau llafur a rhwydweithiau staff gyfeirio pobl at y gwasanaeth cyfryngu.

Mae’r gwasanaeth cyfryngu yn gweithredu.n annibynnol i’rAdran Adnoddau Dynol.

Gellir cael gwybodaeth bellach yngl.n a.r broses neu holi am wasanaeth cyfryngu drwy anfon e-bost at y cyfeiriad e-bost isod a ddefnyddir yn benodol ar gyfer cyfryngu neu drwy gysylltu a.r Rheolwr/Swyddog Adnoddau Dynol penodol: e-bost: [email protected]

36