nodiadau cynllunio athrawon. cyfnod allweddol 1

18
Amcanion Addysgu Blwyddyn 1 – tymor 1: Lefel testun 6: adrodd storïau ac odlau gyda phatrymau ailadroddus sy’n hawdd eu rhagweld. Lefel testun 9: ysgrifennu am ddigwyddiadau o brofiad personol sy’n gysylltiedig â digwyddiad cyfarwydd. Lefel testun 10: defnyddio odlau a storïau patrymog fel modelau ar gyfer eu hysgrifennu eu hunain. Gwaith lefel testun – darllen a thrafod Trafod sut mae cerdd yn wahanol i stori. Ystyried cynllun y gerdd hon. Dysgu ac adrodd y gerdd. Ystyried y geiriau sy’n odli a’u lle yn y gerdd hon. Ystyried rhythm y geiriau yn y gerdd hon. Nodiadau cynllunio athrawon. Cyfnod Allweddol 1 : 1. Blwyddyn 2 – tymor 1: Lefel testun 7: dysgu, ailddarllen ac adrodd hoff gerddi, gan roi ystyriaeth i atalnodi; gwneud sylwadau ar agweddau megis cyfuniadau o eiriau, patrymau sain (megis odlau, rhythmau, patrymau cyflythrennog a ffurfiau cyflwyno). Lefel testun 12: defnyddio strwythurau cerddi syml a chyflwyno eu syniadau eu hunain, ysgrifennu llinellau newydd. Gwaith lefel testun – ysgrifennu Darparu ffrâm ysgrifennu i alluogi’r plant i lunio’u cerdd eu hunain gan ddefnyddio’r strwythur hwn. neu: Ysgrifennu ail bennill i’r gerdd hon, gan ddechrau gyda’r cwpled: Please to remember The fifth of November. Gwaith lefel geiriau – ffoneg, sillafu a geirfa Trafod geirfa – ystyried ystyr y geiriau ‘treason’ a ‘plot’ yn benodol. Edrych am y ffonem llafariad ‘ea’ yn y gerdd, tanlinellu’r geiriau; yna meddwl am eraill a llunio rhestr. Trafod ffonemau llafariad eraill â’r un sain – ‘ee’; ‘e’ . Cysylltiadau cwricwlaidd Adrodd stori Guto Ffowc mewn gwers hanes; trafod pam rydym yn dathlu Tachwedd 5ed. Mewn gwers arlunio, defnyddio amrywiaeth o gyfryngau i gynrychioli tân gwyllt o wahanol fathau; eu rhoi gyda’i gilydd i wneud brithwaith dosbarth cyfan. Defnyddio gwers ymarfer corff/dawnsio i ystyried symudiadau fel tân gwyllt; neidio, troelli, troi; chwyrlïo, codi, disgyn ac ati. Mewn cydweithrediad â

Upload: trinhdung

Post on 05-Feb-2017

244 views

Category:

Documents


5 download

TRANSCRIPT

Page 1: Nodiadau cynllunio athrawon. Cyfnod Allweddol 1

Amcanion Addysgu

Blwyddyn 1 – tymor 1:

Lefel testun 6: adrodd storïau ac odlau gydaphatrymau ailadroddus sy’n hawdd eu rhagweld.Lefel testun 9: ysgrifennu am ddigwyddiadau obrofiad personol sy’n gysylltiedig â digwyddiadcyfarwydd.Lefel testun 10: defnyddio odlau a storïaupatrymog fel modelau ar gyfer eu hysgrifennueu hunain.

Gwaith lefel testun – darllen a thrafod

■ Trafod sut mae cerdd yn wahanol i stori.■ Ystyried cynllun y gerdd hon.■ Dysgu ac adrodd y gerdd.■ Ystyried y geiriau sy’n odli a’u lle yn y gerdd hon.■ Ystyried rhythm y geiriau yn y gerdd hon.

Nodiadau cynllunio athrawon. Cyfnod Allweddol 1 : 1.

Blwyddyn 2 – tymor 1:

Lefel testun 7: dysgu, ailddarllen ac adrodd hoffgerddi, gan roi ystyriaeth i atalnodi; gwneudsylwadau ar agweddau megis cyfuniadau o eiriau,patrymau sain (megis odlau, rhythmau, patrymaucyflythrennog a ffurfiau cyflwyno).Lefel testun 12: defnyddio strwythurau cerddi symla chyflwyno eu syniadau eu hunain, ysgrifennullinellau newydd.

Gwaith lefel testun – ysgrifennu

Darparu ffrâm ysgrifennu i alluogi’r plant i lunio’ucerdd eu hunain gan ddefnyddio’r strwythur hwn.

neu:

Ysgrifennu ail bennill i’r gerdd hon, gan ddechraugyda’r cwpled:

Please to rememberThe fifth of November.

Gwaith lefel geiriau – ffoneg, sillafu a geirfa

■ Trafod geirfa – ystyried ystyr y geiriau ‘treason’a ‘plot’ yn benodol.

■ Edrych am y ffonem llafariad ‘ea’ yn y gerdd, tanlinellu’r geiriau; yna meddwl am eraill allunio rhestr.

■ Trafod ffonemau llafariad eraill â’r un sain – ‘ee’; ‘e’ .

Cysylltiadau cwricwlaidd

■ Adrodd stori Guto Ffowc mewn gwers hanes; trafod pam rydym yn dathlu Tachwedd 5ed.■ Mewn gwers arlunio, defnyddio amrywiaeth o gyfryngau i gynrychioli tân gwyllt o wahanol fathau;

eu rhoi gyda’i gilydd i wneud brithwaith dosbarth cyfan.■ Defnyddio gwers ymarfer corff/dawnsio i ystyried symudiadau fel tân gwyllt; neidio, troelli, troi; chwyrlïo,

codi, disgyn ac ati.

Mewn cydweithrediad â

Page 2: Nodiadau cynllunio athrawon. Cyfnod Allweddol 1

Remember, remember

Please to rememberThe fifth of November

Gunpowder treason and plot.

We know no reasonWhy gunpowder treasonShould ever be forgot.

Mewn cydweithrediad â

Page 3: Nodiadau cynllunio athrawon. Cyfnod Allweddol 1

Amcanion Addysgu

Blwyddyn 1 – tymor 1:

Lefel testun 6 : adrodd storïau ac odlau gydaphatrymau ailadroddus sy’n hawdd eu rhagweld.Lefel testun 9: ysgrifennu am ddigwyddiadau obrofiad personol sy’n gysylltiedig â digwyddiadcyfarwydd.Lefel testun 10: defnyddio odlau a storïau patrymog fel modelau ar gyfer eu gwaithysgrifennu eu hunain.

Gwaith lefel testun – darllen a thrafod

■ Trafod sut mae’r gerdd hon yn wahanol i’r un gyntaf.

■ Ystyried cynllun y gerdd hon.■ Trafod ystyr yr ymadroddion.

‘Yn tasgu cawod dlos’,‘Yn tasgu sêr di-ri’,Ym marn y plant, pam mae’r bardd wedi’u defnyddio?A all y plant feddwl am ymadroddion eraill iddisgrifio tân gwyllt a welsant, fel rocedi neuganhwyllau Rhufeinig?

Gwaith lefel brawddegau – gramadeg

■ Trafod sut mae’r bardd yn defnyddio cwestiynauyn y gerdd hon.

■ Cael y plant i roi atebion i’r cwestiynau a ofynnirgan y bardd.

■ Cuddio’r geiriau ar ddiwedd y llinellau er mwyni’r plant ddefnyddio cyd-destun ac odlau i nodigeiriau coll.

Nodiadau cynllunio athrawon. Cyfnod Allweddol 1 : 2.

Blwyddyn 2 – tymor 1:

Lefel testun 7: dysgu, ailddarllen ac adrodd hoffgerddi, gan roi ystyriaeth i atalnodi; gwneudsylwadau ar agweddau megis cyfuniadau o eiriau,patrymau sain (megis odlau, rhythmau, patrymaucyflythrennog a ffurfiau o gyflwyno)Lefel testun 12: defnyddio strwythurau syml cerddia chyflwyno eu syniadau eu hunain, llunio llinellaunewydd.

Gwaith lefel testun – ysgrifennu

Sesiwn tasgu syniadau am eiriau i ddisgrifio synaua golygfeydd noson tân gwyllt gan ddefnyddiopob synnwyr.Darparu ffrâm ysgrifennu i alluogi’r plant i lunio eucerdd eu hunain gan ddefnyddio eu syniadau hwy.

A glywsoch.....A arogleuoch.....A welsoch.....A flasoch....A gyffyrddoch.....

Gwaith lefel geiriau – ffoneg, sillafu a geirfa

■ Trafod geirfa – ystyried ystyr ‘clecian’, ‘pefrïo’.■ Darllen y gerdd a gofyn i’r plant godi dwylo pan

glywant y ffonem llafariad hir e.e. nos, tân, mân.■ A all y plant feddwl am eiriau eraill sy’n cynnwys

y ffonem llafariad hir?

Cysylltiadau cwricwlaidd

■ Adrodd stori Guto Ffowc mewn gwers hanes; trafod pam rydym yn dathlu Tachwedd 5ed.■ Mewn gwers arlunio, defnyddio amrywiaeth o gyfryngau i gynrychioli tân gwyllt o wahanol fathau; eu rhoi

gyda’i gilydd i wneud brithwaith dosbarth cyfan.■ Defnyddio gwers ymarfer corff/dawnsio i ystyried symudiadau fel tân gwyllt;

neidio, troelli, troi; chwyrlïo, codi, disgyn ac ati.

Mewn cydweithrediad â

Page 4: Nodiadau cynllunio athrawon. Cyfnod Allweddol 1

Mewn cydweithrediad â

Noson Tân Gwyllt(Addasiad Menna Cravos o ‘Bonfire Night’ gan Irene Yates)

Yn oerfel llwm mis TachweddYn nüwch llwm y nos

A welaist Olwyn GatrinYn tasgu cawod dlos?A wyliaist hynt y rocedYn saethu fry i’r nen

A gweld y sêr o’i chynffon Yn pefrïo uwch dy ben?

A glywaist ruo’r goelcerthA chlecian brigau mânYn llosgi Guto’n ulw

Yn fflamau coch y tân?Yn oerfel llwm mis Tachwedd

Ar noson dywyll, ddu A gydiaist mewn ffon wreichion

Yn tasgu sêr di-ri?

Page 5: Nodiadau cynllunio athrawon. Cyfnod Allweddol 1

Amcanion Addysgu

Blwyddyn 1 – tymor 1:

Lefel testun 1: atgyfnerthu a chymhwyso’u sgiliauar lefel geiriau drwy ddarllen wedi’i rannu a’i arwainLefel testun 3: sylwi ar y gwahaniaeth rhwngffurfiau llafar ac ysgrifenedig drwy ailadroddstorïau cyfarwyddLefel testun 7: ailgyflwyno storïau mewnamrywiaeth o ffyrdd, e.e. drwy chwarae rôl.

Gwaith lefel testun – darllen a thrafod

■ Darllen pob rhan o’r stori ar ddyddiau gwahanol.■ Ar ôl y rhan gyntaf, gofyn i’r plant ragweld

diwedd y stori.■ Ar yr ail ddiwrnod, gofyn i’r plant ailadrodd rhan

gyntaf y stori yn eu geiriau eu hunain ac yna cymharu eu fersiwn hwy â’r testun gwreiddiol.

■ Trafod llinell amser ar gyfer y stori gyda’r plant.■ Defnyddio chwarae rolau e.e. rhoi Guto yn y

sedd boeth.

Gwaith lefel brawddegau – gramadeg

■ Adolygu priflythrennau a thrafod y gwahanolddefnyddiau yn y testun.

■ Trafod sut y gellid defnyddio’r iaith lafar yn ytestun, er enghraifft wrth i’r cynllwynwyr drafodeu cynllun a sut y defnyddid dyfynodau iddangos yr hyn a ddywedodd pob person.

Nodiadau cynllunio athrawon. Cyfnod allweddol 1 : 3.

Blwyddyn 2 – tymor 1:

Lefel testun 1: atgyfnerthu a chymhwyso eu sgiliau lefelgeiriau drwy ddarllen wedi’i rannu a’i arwainLefel testun 4: deall amser a pherthynas ddilyniannolmewn storïauLefel testun 5: nodi a thrafod y rhesymau drosddigwyddiadau mewn storïau sydd ynghlwm wrth gynllunLefel testun 11: defnyddio iaith amser i strwythuro dilynianto ddigwyddiadauLefel brawddegau 5: adolygu gwybodaeth am y gwahanolddulliau o ddefnyddio priflythrennauLefel geiriau 3: y patrymau sillafu cyffredin ar gyferffonemau llafariad

Gwaith lefel testun – ysgrifennu

■ Gofyn i’r plant adrodd y stori’n ddilyniannol felstribed cart ^wn ac ychwanegu capsiynau.

■ Gofyn i’r plant ysgrifennu rhan o’r stori o safbwynt Guto Ffowc – er enghraifft pan fo’n cytuno i helpu’r cynllwynwyr, neu ar ei ffordd i gynnau’r ffiws.

■ Rhoi prif ddigwyddiadau’r stori ar stribedi ogerdyn. Rhoi’r digwyddiadau yn eu trefn gyda’r plant. Ailysgrifennu’r digwyddiadau gan ddefnyddio geiriau megis ar ôl, yn ystod, cyn,wedyn, nesaf, yn y cyfamser.

Gwaith lefel geiriau – ffoneg, sillafu a geirfa

■ Trafod geiriau: cynllwynwyr; dirwy, y Senedd;bradychu, ffiws.

■ Addysgu plant i gydnabod bod modd sillafu’r sain‘oi’ fel ‘oi’ neu ‘oe’ – fel yn rhoi a coelcerth

Cysylltiadau cwricwlaidd

■ Mewn gwers hanes ystyried cronoleg stori Cynllwyn y Powdwr Gwn; llunio llinell amser. Ymchwilio i sut y maedathliadau tân gwyllt wedi newid – cael y plant i gyfweld â’u rhieni/mam-gu a thad-cu yngl^yn â’u harferion arnoson tân gwyllt; eu recordio ar dâp fel hanes llafar. Ystyried Diwali a dathliadau tân gwyllt eraill.

Mewn cydweithrediad â

Page 6: Nodiadau cynllunio athrawon. Cyfnod Allweddol 1

Mewn cydweithrediad â

Guto Ffowc a Chynllwyn y Powdwr Gwn

Bedwar can mlynedd yn ôl, roedd brenin o’r enw Iago yn frenin Lloegr. Protestant oedd e.Dywedodd y Brenin Iago fod yn rhaid i’r Pabyddion beidio â dweud eu pader eu hunain yn euheglwysi eu hunain. Os na fydden nhw’n gwneud hynny, byddai’n rhaid iddyn nhw dalu dirwy.

Roedd yr holl Babyddion yn ddig iawn gyda’r Brenin. Meddyliodd rhai ohonyn nhw am ffordd ogael gwared ohono. Robert Catesby oedd enw’r dyn a feddyliodd am y syniad.

Gofynnodd i’w ffrindiau ei helpu.

Roedd y Brenin a’i ddynion pwysicaf yn cyfarfod yn y Senedd yn Llundain. Syniad RobertCatesby oedd gosod ffrwydron yn y Senedd er mwyn cael gwared ar y Brenin. Roedd yn

gobeithio y byddai’r Brenin newydd yn fwy caredig wrth y Pabyddion.

Yn gyntaf roedd angen rhywun oedd yn gallu trin powdwr gwn. Milwr oedd Guto Ffowc acroedd e’n gwybod llawer am bowdwr gwn. Pabydd oedd e a chytunodd i’w helpu.

Aeth y cynllwynwyr ati i rentu ty gyda seler o dan y Senedd. Cawsant afael yn gyfrinachol argasgenni o bowdwr gwn a’u rhoi yn y seler.

Cafodd y cynllwynwyr wybod pryd byddai’r Brenin yn ymweld â’r Senedd nesaf. Y dyddiadoedd Tachwedd y 5ed. Y diwrnod hwnnw aeth Guto Ffowc i’r ty lle roedd y powdwr gwn wedi’iguddio i gynnau’r ffiws. Tra ei fod yn aros yn y seler, daeth y milwyr i’w arestio. Roedd rhywun

wedi’i fradychu. Llwyddodd y milwyr i ddal pob un o’r cynllwynwyr. Cawsant eu crogi.

Roedd y Brenin Iago yn ofnus iawn ac roedd am wneud yn siwr na fyddai neb yn anghofio am eiddihangfa lwcus. Dywedodd y dylai pawb gynnau coelcerth ar Dachwedd 5ed a dweud pader

arbennig er mwyn iddyn nhw beidio ag anghofio am gynllwyn y powdwr gwn.

Rydym yn dal i gofio Guto Ffowc fel hyn. Bob blwyddyn rydym yn cynnau coelcerthi ac yn llosgiGuto ffug ac rydym yn cynnau tân gwyllt i’n hatgoffa o’r cynllwyn i ladd y Brenin Iago.

Page 7: Nodiadau cynllunio athrawon. Cyfnod Allweddol 1

Amcanion Addysgu

Blwyddyn 1 – tymor 1:

Lefel testun 12: darllen a defnyddio capsiynau.Lefel testun 13: darllen a dilyn cyfarwyddiadau syml.Lefel testun 16: ysgrifennu a darlunio cyfarwyddiadau syml.

Gwaith lefel testun – darllen a thrafod

■ Darllen y cyfarwyddiadau gyda’ch gilydd.■ Edrych ar y math o ysgrifennu ar y poster –

siarad am y geiriau a ddefnyddiwyd a’r ffordd ycaiff ei drefnu – e.e. pam y caiff rhai geiriau euhysgrifennu’n wahanol?

■ Rhestru’r geiriau sy’n cael eu hysgrifennu’nwahanol.

Gwaith lefel brawddegau – gramadeg

Ystyried y defnydd o iaith uniongyrchol –■ Gofyn i’r plant gynllunio eu poster eu hunain

gan ddefnyddio iaith uniongyrchol syml.■ Defnyddio dyfynodau neu swigod siarad.■ Tynnu lluniau cart ^wn i ddarlunio un cyfarwyddyd.■ Ychwanegu capsiwn gan ddefnyddio dyfynodau

neu swigod siarad.

Nodiadau cynllunio athrawon. Cyfnod Allweddol 1 : 4.

Blwyddyn 2 – tymor 1:

Lefel testun 13: darllen cyfarwyddiadau ysgrifenedigsyml yn y dosbarth, ryseitiau syml, cynlluniau,cyfarwyddiadau ar gyfer adeiladu rhywbeth.Lefel testun 14: nodi’r nodweddion strwythurolallweddol, e.e. datganiad clir o’r diben ar y dechrau,camau dilyniannol a nodwyd mewn rhestr, iaithuniongyrchol.Lefel testun 15: ysgrifennu cyfarwyddiadau syml.Lefel testun 18: defnyddio’r cywair priodol wrthysgrifennu cyfarwyddiadau.

Gwaith lefel testun – ysgrifennu

Edrych ar y poster gyda’ch gilydd.■ Trafod dilyniant y cyfarwyddiadau a’r defnydd o

iaith uniongyrchol.■ Ailysgrifennu’r poster gyda’ch gilydd, gan ystyried:

- a oes gwell dilyniant ar gyfer y cyfarwyddiadau?- a ellir symleiddio’r cyfarwyddiadau ar gyfer plant iau?

Gwaith lefel geiriau – ffoneg, sillafu a geirfa

■ Trafod patrymau sillafu gwahanol ar gyfer ffonemllafariad – y/u/i.

■ Nodi ffonem llafariaid hir yn y testun: e.e. tân, ty, dwr.

Cysylltiadau cwricwlaidd

■ Celf – ystyried cynlluniau posteri.■ Technoleg gwybodaeth a chyfathrebu – archwilio gwahanol ffontiau - e.e i amlygu geiriau ar boster.

Mewn cydweithrediad â

Page 8: Nodiadau cynllunio athrawon. Cyfnod Allweddol 1

Mewn cydweithrediad â

Ffrwydron yw tân gwylltGAIR I GALL

1. Peidiwch byth â chwarae gyda

thân gwyllt. Ffrwydron ydyn nhw a gallant eich anafu.

2. Dim ond oedolion ddylai gynnau neu afael

mewn tân gwyllt.

3. Pan fyddwch yn gwylio tân

gwyllt, safwch yn ddigon pell yn ôl.

4. Peidiwch bythâ mynd yn agos at dân gwyllt

sydd wedi’i gynnau. Hyd yn

oed os nad yw wedi cynnau,

gallai ffrwydro o hyd.

5. Bydd tân gwylltyn dychryn eich anifeiliaid anwes,

felly cadwch nhw yn ddiogel yn y ty.

6. Os byddwch yn cael ffon wreichion:

Gwisgwch fenig bob tro.Daliwch hi hyd braich.

Pan fydd eich ffon

wreichion yn diffodd,

PEIDIWCH Â CHYFFWRDD

YNDDI. Gallai eich llosgi o

hyd, felly rhowch y pen poeth

mewn bwced o ddwr.

Peidiwch byth â rhoi

ffyn gwreichion i blentyn

o dan bump oed.

Cofiwch, mae’n rhaid i chi

fod yn 18oed cyn y gallwch

brynu tân gwyllt yn y siopau.

Dilynwch ycliwiau arDdiogelwchTân Gwyllt...

Dilynwch ycliwiau arDdiogelwchTân Gwyllt...

Page 9: Nodiadau cynllunio athrawon. Cyfnod Allweddol 1

AMCANION ADDYSGU

Blwyddyn 3 – tymor 1:

Lefel testun 6: darllen yn uchel ac adrodd cerddi,gan gymharu gwahanol farn am yr un pwnc.Lefel testun 8: mynegi eu barn am stori neugerdd, gan nodi geiriau ac ymadroddionpenodol i ategu eu safbwynt.Lefel testun 12: casglu geiriau ac ymadroddionaddas, er mwyn ysgrifennu cerddi a disgrifiadaubyr; cynllunio patrymau syml â geiriau, defnyddioymadroddion ailadroddus; ysgrifennuymadroddion llawn dychymyg.Lefel brawddegau 3: swyddogaeth berfau mewnbrawddegau.

Gwaith lefel testun – darllen a thrafod

■ Trafod cynllun y gerdd hon a’r odl.■ Trafod sut mae’r bardd yn disgrifio’i argraff o

noson tân gwyllt drwy adeiladu’r manylion bach.■ Cymharu’r ddwy gerdd a thrafod ymatebion

a hoffter.

Gwaith lefel brawddegau – gramadeg

■ Trafod y berfau a ddefnyddir yn y gerdd hon.■ Ystyried sut y gellid ailysgrifennu’r gerdd yn yr

amser gorffennol.■ Nodi’r cymariaethau yn y gerdd hon sy’n

dechrau gyda mor neu fel a thrafod euheffaith ar ddisgrifiadau’r bardd.

Nodiadau cynllunio athrawon. Cyfnod Allweddol 2 : 1.

Blwyddyn 4 – tymor 1:

Lefel brawddegau 4: nodi adferfau a deall euswyddogaeth mewn brawddegauLefel testun 7: cymharu a gwrthgyferbynnu cerddi arthemâu tebyg, yn enwedig eu ffurf a’u hiaith, trafodymatebion a hoffter personol.Lefel testun 14: ysgrifennu cerddi’n seiliedig arbrofiad personol neu ddychmygol, wedi’u cysylltu âcherddi a ddarllenwyd. Rhestru ymadroddion ageiriau byr, arbrofi drwy docio neu ehangubrawddegau; arbrofi gyda berfau pwerus sy’n llawnmynegiant.

Gwaith lefel testun – ysgrifennu

■ Cyfnewid rhai o’r berfau yn y gerdd hon am eraillsy’n cael yr un effaith.

■ Casglu berfau y gellid eu defnyddio wrthddisgrifio sut mae tân gwyllt yn tanio.

■ Ysgrifennu rhai ymadroddion i ddisgrifio atgofionam noson tân gwyllt – e.e. tân gwyllt penodol,bwyd, y Guto ac ati.

■ Defnyddio rhai o’r berfau a’r ymadroddion mewncerdd am noson tân gwyllt.

Gwaith lefel geiriau – ffoneg, sillafu a geirfa

■ Defnyddio thesawrws i ganfod cyfystyron geiriau iychwanegu at y casgliad o ferfau ac ymadroddion ar gyfer cerdd noson tân gwyllt.

Cysylltiadau cwricwlaidd

■ Defnyddio gwers celf i roi cyfleoedd i’r disgyblion weithio gydag amrywiaeth o gyfryngau i ddarlunio eucerddi noson tân gwyllt.

Mewn cydweithrediad â

Page 10: Nodiadau cynllunio athrawon. Cyfnod Allweddol 1

Tachwedd y Pumed(Addasiad Menna Cravos o ‘November the Fifth’ gan Leonard Clark)

Ti roced fawr,Fe’th wyliaf ar dy daith

Yn hedfan mor chwim â saethI’r awyr ddu,

A’th gynffon diYn fflam o dân.

Ti olwyn Gatrin,Mae ’nghalon yn cyffroi

Wrth dy weld yn troiYn gynt ac yn gynt

Mor gyflym â’r gwynt,Yn gylch o dân.

Ti gannwyll Rufeinig,Gwyliaf dy wreichionYn nüwch y nosonYn disgyn fel glaw,Tasgu yma a thraw

Yn sêr o dân.

Ti Guto druan, Fe’th welaf di’n llosgiAc yn araf ddiflannu.Mae’r fflamau yn difaDy gorffyn bach llipa

Yn lludw mân.

Ac felly,Daeth diwedd ar yr hwyl a’r dathlu,

Mae’r goelcerth fawr yn awr yn mygu. Rhaid i ni aros blwyddyn eto

Cyn daw hi’n adeg llosgi Guto.

Mewn cydweithrediad â

Page 11: Nodiadau cynllunio athrawon. Cyfnod Allweddol 1

AMCANION ADDYSGU

Blwyddyn 3 – tymor 1:

Lefel testun 8: mynegi eu barn am stori neugerdd, gan nodi geiriau neu ymadroddionpenodol i ategu eu barn.Lefel testun 12: casglu geiriau ac ymadroddionaddas er mwyn ysgrifennu cerddi a disgrifiadau byr.Lefel testun 13: creu ystod o gerddi ar ffurfsiapiau.

Gwaith lefel testun – darllen a thrafod

■ Trafod y pennill traddodiadol hwn, gangynnwys y dewis o eiriau a’r odl.

■ Cymharu’r ddwy gerdd, yn enwedig eu ffurf.■ Trafod rhythm a mesur y pennill hwn.

Gwaith lefel brawddegau – gramadeg

■ Trafod y cywasgiad ‘twas ac ystyried y ddau airy mae’n eu dwyn ynghyd. Archwiliocywasgiadau eraill.

■ Trafod amser y berfau fel y mae’n berthnasol i’rpennill hwn.

Nodiadau cynllunio athrawon. Cyfnod Allweddol 2 : 2.

Blwyddyn 4 – tymor 1:

Lefel testun 7: cymharu a gwrthgyferbynnu cerddi âthemâu tebyg, yn enwedig eu ffurf a’u hiaith, gandrafod ymatebion a hoffter personol.Lefel testun 14: ysgrifennu cerddi’n seiliedig arbrofiad personol neu ddychmygol, yn gysylltiedig âcherddi a ddarllenwyd.

Gwaith lefel testun – ysgrifennu

■ Ysgrifennu cwpledi sy’n sôn am ddigwyddiadauyn hanes Cynllwyn y Powdwr Gwn.

■ Eu rhoi ynghyd i lunio cerdd.

Gwaith lefel geiriau – ffoneg, sillafu a geirfa

■ Canfod geiriau deusill yn y gerdd sy’n cynnwyscytseiniaid dwbl.

■ Archwilio rhai eraill.

Cysylltiadau cwricwlaidd

■ Mewn gwers hanes archwilio cywirdeb yr hyn a adroddwyd yn y pennill hwn. Nodi’r hyn sy’n ffaith ar hynsy’n ffuglen.

Mewn cydweithrediad â

Page 12: Nodiadau cynllunio athrawon. Cyfnod Allweddol 1

.Remember, remember...Remember, remember The fifth of November

The gunpowder treason and plot.I see no reason why gunpowder treason

Should ever be forgot.Guy Fawkes Guy, ‘twas his intentTo blow up King and parliament.

Three score barrels were laid belowTo prove old England’s overthrow.By God’s mercy he was catched

With a dark lantern and lighted match.Holler boys Holler boys let the bells ring

Holler boys Holler boys God save the KingTraditional

Mewn cydweithrediad â

Page 13: Nodiadau cynllunio athrawon. Cyfnod Allweddol 1

AMCANION ADDYSGU

Blwyddyn 4 – tymor 1:

Lefel Testun 20: nodi prif nodweddion papuraunewydd gan gynnwys trefn, amrediad ywybodaeth, llais, lefel y ffurfioldeb; trefn yrerthyglau, hysbysebion a phenawdau.Lefel geiriau 11: diffinio geirfa gyfarwydd yn eugeiriau eu hun, gan ddefnyddio ymadroddion amynegiant amgen.Lefel brawddegau 14: nodi adferfau a deall euswyddogaeth mewn brawddegau.

Lefel gwaith testun – darllen a thrafod

■ Trafod y digwyddiadau sy’n arwain atddamwain y ferch.

■ Drwy chwarae rôl, holi’r bobl ifanc a oedd ynrhan o’r ddamwain – sedd boeth.

■ Trafod effeithiau tân gwyllt ar anifeiliaid.

Gwaith lefel brawddegau – gramadeg

■ Archwilio’r ansoddeiriau a ddefnyddiwyd iddisgrifio’r bobl yn yr adroddiad papur newyddhwn – y bobl ifanc.

■ Defnyddio adroddiadau papurau newydd erailli amlygu’r ffyrdd y mae papurau newydd yndisgrifio pobl.

Nodiadau cynllunio athrawon. Cyfnod Allweddol 2 : 3.

Blwyddyn 4 – tymor 1:

Lefel testun 24: ysgrifennu adroddiadau mewnarddull papur newydd gan gynnwys:Cyfansoddi penawdauDefnyddio TG i ddrafftio a gosod yr adroddiadau.Golygu storïau i gyd-fynd â gofod penodol.Trefnu ysgrifennu mewn paragraffau.Lefel testun 5: paratoi, darllen a pherfformio sgriptiaudrama; cymharu trefn y sgriptiau gyda’r storïau – sutnodir y lleoliadau, a yw’r prif storïau yn glir?Lefel testun 13: ysgrifennu sgriptiau drama.Lefel geiriau 11: diffinio geirfa gyfarwydd yn eugeiriau eu hun gan ddefnyddio ymadroddion amynegiant amgen.

Lefel gwaith testun – ysgrifennu

■ Ysgrifennu golygfa fer lle y mae’r bobl ifanc yndysgu am anafiadau’r ferch ifanc.

■ Ysgrifennu dyddlyfr y ferch ifanc am yr ychydigddyddiau cyn y ddamwain.

■ Ysgrifennu adroddiad papur newydd am ddamwain.

Gwaith lefel geiriau – ffoneg, sillafu a geirfa

■ Archwilio’r pennawd a ddefnyddiwyd yn yradroddiad – trafod y defnydd o ddyfynodau.

■ Archwilio geiriau eraill ar gyfer "dywedodd".

Cysylltiadau cwricwlaidd

■ Mewn gwers ABCh, archwilio mathau eraill o ymddygiad gwrth-gymdeithasol ymhlith pobl ifanc.

Mewn cydweithrediad â

Page 14: Nodiadau cynllunio athrawon. Cyfnod Allweddol 1

Mewn cydweithrediad â

Gallai merch a anafwydgan dân gwyllt fod

‘wedi ei chreithio am oes’Heddiw, mae merch ifancyn wynebu llawdriniaethmewn ysbyty yn dilynanafiadau a achoswyd gandân gwyllt.

Dioddefodd y ferch 10 oedlosgiadau difrifol i'w hwyneb, dwyloa breichiau pan afaelodd mewnroced a ffrwydrodd yn ei dwylo.

Bu'n gwylio criw o bobl ifanc yntanio tân gwyllt mewn man chwaraeyn Barton Street, Devonholme.Dywed pobl sy’n byw gerllaw bodun o'r bobl ifanc wedi rhoi'r rocedmewn potel. Roedd y ffiws wedi eithanio ond roedd y botel wedi troiar ei hochr.

Roedd y ferch wedi bod ynchwarae ar siglenni cyfagos arhedodd draw i'w chodi panffrwydrodd y tân gwyllt. Cafodd yferch ei chludo mewn ambiwlans iuned ddamweiniau YsbytyDevonholme a dywedwyd neithiwrbod ei chyflwr yn 'wael'.

Dywedodd yr Arolygydd PeterSmith o Heddlu Devonholme:"Roedd wedi cael ei llosgi'n ddrwg

iawn ac efallai y bydd wedi eichreithio am oes. Mae hi'n unigolyndiniwed sy'n dioddef oherwyddgweithredoedd di-hid pobl eraill.

"Gall tân gwyllt roi llawer ofwynhad yn eu lle priodol, sef mewnarddangosiadau sydd wedi eutrefnu'n gywir neu mewn partïonpreifat sydd wedi eu harolygu'ngywir. Mae hyn yn dangos ycanlyniadau trychinebus sy'n deillioo gamddefnyddio tân gwyllt."

Dywedodd eu bod wedi siarad ânifer o bobl ifanc yn dilyn ydigwyddiad a'u bod yn cynnalymholiadau i sut yr oeddent wedicael gafael ar y tân gwyllt.

Cadarnhaodd yr ArolygyddSmith fod yr heddlu wedi cael eugalw i ddigwyddiad yn yr un ardalddwy noson ynghynt.

Roedd hynny yn dilyn cwyniongan bobl ag anifeiliaid anwes aoedd wedi cael eu dychryn gan s ^wntân gwyllt yn cael eu tanio.

Fodd bynnag, roedd y bobl ifanchynny wedi rhedeg i ffwrdd cyniddynt allu siarad â hwy.

Page 15: Nodiadau cynllunio athrawon. Cyfnod Allweddol 1

AMCANION ADDYSGU

Blwyddyn 5 – tymor 1:

Lefel testun 3: archwilio sut y cyflwynir ycymeriadau, gan gyfeirio at y testun:- drwy ddeialog, gweithred a disgrifiad- sut mae’r ddarllenydd yn ymateb iddyntLefel testun 4: ystyried sut y gellir gwreiddiotestunau ym mhrofiad yr awdur.Lefel brawddegau 5: deall y gwahaniaeth rhwngiaith lafar a iaith ffurfiol.Lefel geiriau 9: casglu a dosbarthu amrywiaeth obriod-ddulliau, ystrydebau ac ymadroddionidiomatig.

Gwaith lefel testun – darllen a thrafod

■ Trafod cymeriadau y fam a’r mab. Beth a allwn eiddweud amdanynt o’r dystiolaeth yn y darn hwn?

■ Trafod "A dyna pryd ges i glustan." A yw’nhiwmor neu’n enghraifft o drais yn y cartref?

■ Crynhoi barn y ddau am dân gwyllt ac ystyriedy rhesymau dros eu safbwyntiau.

■ Cymharu profiadau’r plant o sgwrs debygrhwng oedolyn a phlentyn.

■ Trafod barn y plant am y ddau gymeriad yn ydarn hwn.

■ Rhagweld y diwedd.

Gwaith lefel brawddegau – gramadeg

■ Adolygu atalnodi iaith uniongyrchol a thrafodsut y cyflwynir deialog mewn testun.

■ Trafod y defnydd o eiriau ansafonol neudafodieithol – e.e. clustan, plîs, ‘bach o arian.

Nodiadau cynllunio athrawon. Cyfnod Allweddol 2 : 4.

Blwyddyn 6 – tymor 1:

Lefel testun 6: trin safbwynt y naratif drwy:- ysgrifennu mewn llais ac arddull testun.- ysgrifennu stori gyda dau wahanol adroddwr.

Gwaith lefel testun – ysgrifennu

■ Ailysgrifennu’r darn o stori George Layton osafbwynt y fam.

■ Ysgrifennu sgwrs rhwng oedolyn a phlentyn sy’ndangos bod ganddynt farn wahanol am bwnc.

Gwaith lefel geiriau – ffoneg, sillafu a geirfa

■ Tasgu syniadau am briod-ddulliau, ystrydebau acymadroddion idiomatig.

■ Trafod eu hystyron.■ Defnyddio rhai o’r rheini a gasglwyd mewn

deialog rhwng dau berson.

Cysylltiadau cwricwlaidd

■ Mewn gwers ABCh (Dinasyddiaeth) trafod rhai o’r materion sy’n deillio o’r darn hwn – e.e. cynilo a gwario;tân gwyllt a diogelwch; barn rhieni a barn plant.

Mewn cydweithrediad â

Page 16: Nodiadau cynllunio athrawon. Cyfnod Allweddol 1

Mewn cydweithrediad â

Addasiad o ddarn: (The Firework Display gan George Layton) Y Sioe Tân Gwyllt

‘Mam, arian poced yw beth maen nhw’n ei alw fe, ontefe? Mae hwnna’n golygu arian allwchchi ei roi yn eich poced a’i wario. Os o’ch chi fod i’ roi e mewn cadw-mi-gei, bydden nhw

wedi’i alw fe’n arian cadw. Ti’n treio dod mas ohoni – ‘na’r gwir, ontefe?’

Ro’n i wedi cael llond bol. Y gwir oedd bod mam yn treio dod mas o adael i mi gael tân gwyllt. Daeth hi draw ata i.

‘Paid â bod mor hy, grwt. ‘Styria ‘da pwy rwyt ti’n siarad, wnei di.’

Am eiliad, ro’n i’n meddwl ei bod hi’n mynd i roi clusten i mi.

‘Wel, hyd yn oed ‘swn i wedi cadw ‘bach o arian, fyddet ti ddim yn gadael i mi brynu tân gwyllt, na fyddet ti?’

Ddywedodd hi ddim byd.

‘Wel, faset ti, y?’

Dywedodd hi wrthyf am beidio â dweud ‘y’ oherwydd ei fod e’n anghwrtais. Dw i ddim yn meddwl ei fod e’n anghwrtais. Dim ond gair yw e, wedi’r cwbl.

"Wel, faset ti, Mam? Tase arian ‘da fi fy hunan, faset ti’n gadael i fi brynu tân gwyllt ‘da fe?’

‘O, gad dy swnian, da ti. Dwyt ti ddim yn cael tân gwyllt a dyna ddiwedd arni.’

Ond nid dyna’i diwedd hi, o bell ffordd. Ro’n i mo’yn tân gwyllt eleni ac ro’n i’n mynd i gael tân gwyllt eleni. Wedi’r cwbl, roedd plant dipyn iau na fi yn cael tân gwyllt. Wedyn

pam na ddyliwn i?

‘Ar wahân i fod yn wastraff arian, maen nhw’n beryglus.’

Peryglus. Wir-yr, mae fy mam i mor hen-ffasiwn.

‘Mam, mae cyfarwyddiadau ar bob tân gwyllt. Dim ond i chi gynnau’r papur tanio glas a symud o’r ffordd, dydyn nhw ddim yn beryglus.’

Dechreuodd hi rygnu ymlaen am faint o bobl oedd yn cael eu cludo i’r ysbyty bob Noson Tân Gwyllt, a faint o blant oedd yn cael eu hanafu, a faint o goesau a breichiau

oedd yn cael eu colli, a dweud pe bai’r holl dân gwyllt yn cael eu goruchwylio fel roedden nhw yn Ysbyty’r Plant, yna byddai cryn dipyn llai o ddamweiniau.

Doedd dim taw arni. Ro’n i wedi clywed y cyfan o’r blaen.

‘Ond mi fydda i’n ofalus, Mam, rwy’n addo. Plîs, gad i mi gael fy nhân gwyllt fy hunan.’

A dyna pryd ges i glusten.

Printed with kind permission of Longman Publishers.

Page 17: Nodiadau cynllunio athrawon. Cyfnod Allweddol 1

AMCANION ADDYSGU

Blwyddyn 5 – tymor 1:

Lefel testun 22: darllen a gwerthuso amrywiaetho destunau cyfarwyddiadol o ran eu:- diben- trefn a chynllun- eglurder a defnyddioldebLefel testun 25: ysgrifennu testunaucyfarwyddiadol a’u rhoi ar brawf.

Lefel brawddegau 8: adolygu ac ymestyn ygwaith ar ferfau.

Gwaith lefel testun – darllen a thrafod

■ Trafod iaith y poster – gwneud sylwadau ynarbennig ar ba mor addas ydyw at ddiben yr iaith.

■ Cymharu’r poster diogelwch hwn â rhai eraill achrybwyll nodweddion cyffredin. Sut maeposteri gwahanol yn defnyddio ffotograffau alluniau eraill, cartwnau, pwyntiau bwled, tôn,arddull ac ati.

■ Trafod effeithiolrwydd y poster hwn gyda’rplant.

Gwaith lefel brawddegau – gramadeg

■ Adolygu berfau gweithredol a goddefol.■ Trafod y defnydd o ferfau gweithredol ar bosteri,

yn arbennig posteri diogelwch.■ Ystyried sut y defnyddir berfau gweithredol mewn

amrywiaeth o bosteri hysbysebu.

.

Blwyddyn 6 – tymor 1:

Lefel testun 12: gwneud sylwadau beirniadol ariaith, arddull a llwyddiant enghreifftiau olenyddiaeth nad yw’n ffuglen, fel taflenni.

Gwaith lefel testun – ysgrifennu

■ Trafod cyfarwyddiadau ysgrifenedig er mwynsicrhau diogelwch.

■ Ysgrifennu cyfarwyddiadau ar gyfer: e.e. cynnaubarbeciw, newid plwg trydanol, gan dalu sylwarbennig i ddiogelwch.

Gwaith lefel geiriau – ffoneg, sillafu a geirfa

■ Trafod sillafu geiriau ar bosteri – ystyriedenghreifftiau o ble y mae sillafu geiriau wedinewid ar gyfer effaith benodol.

■ Ystyried y ffyrdd y defnyddir geiriau sydd â mwynag un ystyr ar bosteri.

Nodiadau cynllunio athrawon. Cyfnod Allweddol 2 : 5.

Cysylltiadau cwricwlaidd

■ Mewn gwers ABCh, trafod diogelwch yn y cartref.■ Mewn gwers gelf, dylunio poster mawr, gan dalu sylw arbennig i arddull a thôn yr iaith.

Mewn cydweithrediad â

Page 18: Nodiadau cynllunio athrawon. Cyfnod Allweddol 1

Dilynwch ycliwiau arDdiogelwchTân Gwyllt...

Ffrwydron yw tân gwylltGAIR I GALL

Mewn cydweithrediad â

1. Peidiwch byth â chwarae gyda thân gwyllt. Ffrwydron ydyn nhw a gallant eich anafu.

2. Dim ond oedolion ddylai gynnau neu afael

mewn tân gwyllt.

3. Pan fyddwch yn gwylio tân gwyllt, safwch yn ddigon pell yn ôl.

4. Peidiwch bythâ mynd yn agos at dân gwyllt

sydd wedi’i gynnau. Hyd yn

oed os nad yw wedi cynnau,

gallai ffrwydro o hyd.

5. Bydd tân gwylltyn dychryn eich anifeiliaid anwes,

felly cadwch nhw yn ddiogel yn y ty.

6. Os byddwch yn cael ffon wreichion:

Gwisgwch fenig bob tro.Daliwch hi hyd braich.

Pan fydd eich ffonwreichion yn diffodd,

PEIDIWCH Â CHYFFWRDD

YNDDI. Gallai eich llosgi o

hyd, felly rhowch y pen poeth

mewn bwced o ddwr.

Peidiwch bythâ rhoi ffyn gwreichion i blentyn

o dan bump oed.

Cofiwch, mae’n rhaid i chi

fod yn 18oed cyn y gallwch brynu tân gwyllt yn y siopau.

Dilynwch ycliwiau arDdiogelwchTân Gwyllt...