llyfryn d - canolradd
DESCRIPTION
Canolradd - Learner's HandbookTRANSCRIPT
Mynediad
Sylfaen
CanolraddUwch PontioUwch
Hyfedredd
Llyfryn D Llawlyfr i Ddysgwyr
Cymraeg i Oedolion Gwent Welsh for Adults
Llyfryn D - Llawlyfr i Ddysgwyr
CroesoShwmae, a chroeso i’ch Llyfryn D!! Nod y llyfryn yma yw eich helpu ymgyfarwyddo (familiarise yourself ) â’ch cwrs, a bydd yn rhoi gwybodaeth werthfawr i chi ynghylch beth i’w ddisgwyl (what to expect) yn ystod y misoedd nesaf. Bydd e’n rhoi gwybod i chi am gynnwys (content) eich cwrs hefyd. Felly, ar ôl darllen y llyfryn yma, byddwch chi’n gwybod a ydych chi wedi gwneud y gwaith yma o’r blaen!
Dych chi’n gwybod eich bod chi’n gallu dewis beth fyddwch chi’n ei ddysgu (what you will be learning)? Trwy’r Daith Iaith, bydd cyfle gyda chi i feddwl am 2 darged y tymor, a bydd eich tiwtor yn eich helpu chi i gyrraedd y targedau yma yn y gwersi. Felly, os dych chi eisiau help darllen llyfr i blant, bydd eich tiwtor yn gallu eich helpu gyda’r ynganu (pronounciation)! Efallai bydd yn rhaid i chi ddysgu rhai patrymau neu eirfa ar gyfer y gwaith, neu siarad â siaradwyr Cymraeg eraill – eto dyma rywbeth bydd eich tiwtor yn gallu eich helpu chi gydag e.
Os oes problem gyda chi’n setlo i mewn i’ch cwrs, siaradwch â’ch tiwtor yn gyntaf. Os ydych chi’n poeni o hyd, edrychwch ar y Siart Llif Data ( Data Flow Chart) yn y llyfryn yma fydd yn dweud wrthoch chi ble i fynd i gael help. Ar y tudalennau Y 5 uchaf, byddwch chi’n gweld ychydig o gyngor ynghylch dysgu Cymraeg.
Hefyd mae tudalen gyda ni ar Ddysgu Anffurfiol. Mae dysgu anffurfiol yn rhoi’r cyfle i chi i siarad Cymraeg y tu allan i’ch dosbarth. Dyma le byddwch chi’n dysgu sut i siarad Cymraeg! Os dych chi’n mynychu’r sesiynau hyn yn rheolaidd, byddan nhw’n dod yn rhan annatod (an integral part) o’ch proses ddysgu. Mae dywediad (saying) gyda ni yn y Gymraeg - “Dyfal donc a dyr y garreg (Perseverance will succeed).” Mae hyn yn bwysig iawn wrth ddysgu iaith. Cofiwch – Ymarfer Ymarfer Ymarfer!!!!! Gofynnwn ni i’ch dosbarth benodi (appoint) Cynrychiolydd Dosbarth (class representative) i helpu i’ch grŵp roi adborth (feedback) i ni yn y Ganolfan. Dyn ni’n gwerthfawrogi eich sylwadau (views) a’ch awgrymiadau (suggestions), a byddwn ni’n gwneud ein gorau glas i newid pethau os oes angen i wella’ch profiad dysgu.
Cyn diwedd y cwrs, bydd eich tiwtor yn dweud wrthoch chi beth fyddwch chi’n ddysgu ar y cwrs y flwyddyn nesaf. Bydd eich tiwtor yn ateb unrhyw gwestiynau sydd gyda chi am y cwrs nesaf hefyd!
Ein nod yw sicrhau eich bod chi’n mwynhau’r profiad o ddysgu Cymraeg cymaint â phosibl. Os oes unrhyw gwestiynau neu bryderon (concerns) gyda chi ar ddechrau’r cwrs, neu os oes unrhywbeth sydd yn eich poeni ynghylch eich iechyd a diogelwch, siaradwch â staff y Ganolfan lle mae’ch cwrs yn cael ei gynnal. Os ydych chi’n dysgu mewn neuadd bentref, neu rywle lle nad oes (where there isn’t) aelodau o staff o gwmpas, dych chi’n gallu cysylltu â fi , Sean Driscoll, Rheolwr Ansawdd Canolfan Cymraeg i Oedolion Gwent gan ddefnyddio’r manylion isod.
Mwynhewch eich cwrs!!!!
Sean
[email protected] 01495 333701
Llyfryn D - Llawlyfr i Ddysgwyr
Manylion y Cwrs
• Siarad am bobl a swyddi, Defnyddio sy, oedd, fydd• Pwysleisio pethau, Ie/nage• Adrodd yn ôl• Siarad am y dosbarth a’r tŷ ; defnyddio ohonon ni• Ysgrifennu llythyr• Trafod y dosbarth; defnyddio arddodiaid• Defnyddio Cael• Defnyddio’r amhersonol• Llongyfarch rhywun a chydymdeimlo
Ar ddiwedd Canolradd 1 dych chi’n gallu ...
• Disgrifio lleoedd a phobl• Gorchmynion• Trafod rhaglenni teledu• Trafod arferion pob dydd• Trafod amserau a chyfnodau• Trafod hwn a hon• Arddodiaid cymhleth• Adolygu treigladau• Trafod diddordebau• Trafod gwaith• Trafod gwyliau• Trafod y cwrs
Ar ddiwedd Canolradd 2 dych chi’n gallu ...
• Bues i / Fuest ti? / Fues i ddim• Trafod gwyliau yn fanwl• Trafod eitemau ‘Retro’• Ro’n i / O’n i? / Do’n i ddim• Af i / Awn ni?/ Ân nhw ddim• Trafod eich Gweithle ac Ymddeol• Brawddegau Pwysleisiol• Trafod y Byd• Baswn i / Faset ti?/ Faswn i ddim• Trafod bwyd• Defnyddio Ansoddeiriau Cymharol• Defnyddio Ansoddeiriau Afreolaidd• Trafod Iechyd• Trafod Rhai Enwogion o Hanes Cymru• Enwau Unigol a Lluosog• Sillafau• Cyflwyniad i Lenyddiaeth a Diwylliant Cymru
Ar ddiwedd Uwch Pontio dych chi’n gallu defnyddio’r / trafod y canlynol yn hyderus:
Llyfryn D - Llawlyfr i Ddysgwyr
Cym
orth
i dd
ysgu
Colli
dos
bart
h?
Prob
lem
au
ynga
nu
Prob
lem
au
gyda
’r cw
rs
Siar
adw
ch â
’ch ti
wto
r / c
ynry
chio
lydd
do
sbar
th. O
s by
dd y
pr
oble
m h
eb e
i dat
rys
ffon
iwch
Sea
n D
risc
oll
0149
5 33
3701
Siar
adw
ch â
’ch ti
wto
r. Ew
ch i
Y Bo
nt a
de
fnyd
dio’
r adn
odda
u ar
-lein
. Myn
ychu
Cy
rsia
u Ys
gol U
ndyd
d a
Phen
wyt
hnos
sy’
n ca
el e
u ha
nelu
tuag
at
ado
lygu
. Ast
udio
pr
eifa
t.G
ofyn
nwch
i’ch
ti
wto
r am
hel
p yc
hwan
egol
. G
wyl
iwch
S4C
a
gwra
ndew
ch a
r Ra
dio
Cym
ru a
Cds
y
Cwrs
Pa fa
th o
gym
orth
syd
d ar
gae
l?
Os
oes
genn
ych
unrh
yw b
ryde
ron
o ra
n Ie
chyd
a
Dio
gelw
ch, c
ysyl
ltw
ch â
Ste
ffan
Web
b st
effan
.web
b@co
legg
wen
t.ac.
uk n
eu 0
1495
333
735
Llyfryn D - Llawlyfr i Ddysgwyr
Para
toi t
uag
at
Arh
olia
d
Ana
bled
dau
Ana
wst
erau
e.
e. D
ysle
xia
/ D
ysle
csia
Cym
orth
i dd
ysgu
Mae
cym
orth
ar g
ael i
dd
ysgw
yr y
nod
wyd
bod
ga
nddy
nt a
naw
ster
au
dysg
u ac
syd
d an
gen
cym
orth
ych
wan
egol
wrt
h dd
ysgu
Cym
raeg
. Efa
llai y
by
ddw
ch h
efyd
yn
gallu
cae
l am
ser y
chw
aneg
ol m
ewn
arho
liada
u. B
ydd
ange
n i c
hi
gael
eic
h as
esu
neu
ddar
paru
ty
stio
laet
h fe
ddyg
ol. M
ae
ange
n i d
dysg
wyr
gw
blha
u Ff
urfle
n B.
Traf
odw
ch g
yda’
ch
tiw
tor.
Myn
ychu
cy
rsia
u ad
olyg
u i’c
h pa
rato
i ar g
yfer
yr
arho
liad.
Ast
udio
pr
eifa
t. Cy
syllt
wch
â’
r Cyd
-lyny
dd
arho
liada
u Ca
trin
Ca
mer
on 0
1495
33
3782
Traf
odw
ch g
yda’
ch
tiw
tor n
eu g
yda
staff
yn
g N
ghan
olfa
n y
cwrs
. Os
bydd
pro
blem
yn
par
hau,
cys
yllt
wch
â
Sean
Dri
scol
l 014
95
3337
01
5Llyfryn D - Llawlyfr i Ddysgwyr
Sut i gael y gorau o’ch cwrs: y 5 uchaf!
Cofiwch fwynhau!
1. Dewch i bob gwers bosib yn brydlon Os ydych yn absennol oherwydd salwch neu wyliau, gadewch i’ch tiwtor wybod cyn gynted ag y bo modd. Yn achos absenoldeb annisgwyl, bydd eich tiwtor yn cysylltu â chi. Mae colli 4 gwers heb ymddiheuriad yn golygu colli’ch lle ar y cwrs.
2. Ansicr o rywbeth? Wedi colli gwers neu wersi? Ansicr o rywbeth? Peidiwch â phoeni mae help wedi cyrraedd! Gofynnwch i’ch tiwtor helpu gydag unrhyw waith dal i fyny. Cofiwch ymweld â Y Bont a defnyddio’r adnoddau ar-lein. Mynychwch Ysgolion Undydd a Chyrsiau Penwythnos a pheidiwch ag anghofio edrych ar yr holl wefannau Cymraeg sydd ar gael erbyn hyn.
3. Cadwch eich gwaith a’ch Taith Iaith mewn ffeil
4. Cofiwch eich gwaith cartref!
5. Manteisiwch ar gyrsiau atodol a dysgu anffurfiol Mae’r Ganolfan yn trefnu cyrsiau undydd a phenwythnosau rheolaidd. Dyma ffordd wych i helpu’ch dysgu. Bydd eich tiwtor yn rhoi taflen i chi ar ddechrau’r cwrs ac yn eich atgoffa am y cyrsiau hyn; maent yn boblogaidd iawn! Mae hefyd gyrsiau wythnos - sef yr Ysgolion Haf. Cyfle gwych i wella’ch Cymraeg a chwrdd â dysgwyr eraill ar bob lefel!
Tu fas i’r dosbarthOeddech chi’n gwybod bod Dysgu Anffurfiol yn gyfrifol am 80% o’n dysgu - dim ond 20% sy’n dod o’r ystafell ddosbarth?Dyma pam mae Canolfan Cymraeg i Oedolion Gwent yn cynnig llawer o gyfleoedd i chi i ymarfer eich Cymraeg mewn awyrgylch cyfeillgar ac anffurfiol. O foreau coffi i glybiau darllen, teithiau i lefydd fel Llyfrgell Genedlaethol Cymru i bartÏon Haf a Nadolig - mae’r cyfleoedd yma i chi. Felly cadwch lygad allan am ddigwyddiadau yn eich ardal chi!
Rydym yn cynnal Cyrsiau Penwythnos drwy gydol y flwyddyn ar Gampws Pont-y-pŵl Coleg Gwent. Mae’r rhain yn cynnwys 14 awr o wersi gyda thiwtoriaid profiadol iawn. Mae’r dosbarthiadau yn anffurfiol, gan roi amser i chi adolygu patrymau blaenorol a ddysgwyd yn y dosbarth.
Mae Ysgolion Haf yn cael eu cynnal bob blwyddyn. Mae’n nhw’n ffordd berffaith i orffen y flwyddyn, a bydd yn eich paratoi ar gyfer mynd ymlaen i’r cam nesaf. Os ydych yn dilyn cwrs newydd, yna mae’n ffordd dda o ddechrau eich taith ddysgu Cymraeg. Dewch i gwrdd â dysgwyr eraill sydd wedi dilyn yr un llwybr â chi. Gofynnwch iddynt am awgrymiadau o ran dysgu Cymraeg a sut y mae’r profiad wedi bod ar eu cyfer. Mae’r Ysgolion Haf yn cynnwys 30 awr o ddysgu dros gyfnod o bum diwrnod
Mae Ysgolion Undydd yn cael eu trefnu gan ein Partneriaid ac yn cael eu cynnal ar hyd a lled Gwent. Maent yn cynnwys 5 awr o ddysgu ar ddydd Sadwrn.
Llyfryn D - Llawlyfr i Ddysgwyr
Mae Canolfan Cymraeg i Oedolion Gwent yn credu mewn gwrando ar farn dysgwyr ac yn cynnig amrywiaeth o gyfleoedd i ddysgwyr i gael ymwneud yn uniongyrchol wrth asesu a llunio eu profiadau dysgu eu hunain wrth ddysgu Cymraeg. Rydym am i chi wybod y byddwn yn gwrando ar eich barn ac y bydd hon yn gwneud gwahaniaeth.
Sut y gallwch chi gymryd rhan? • Cwblhau’r “Taith Iaith” • Cael eich ethol fel Cynrychiolydd Dosbarth a chymryd rhan mewn cyfarfodydd y Fforwm
Taith Iaith:
Trwy broses y “Taith Iaith”, byddwch yn cael y cyfle i osod 2 darged y tymor, a bydd y tiwtor yn eich helpu i gyrraedd y targedau hynny yn ystod y gwersi.
Cynrychiolwyr Dosbarth:
Ar ddechrau’r flwyddyn academaidd, bydd pob dosbarth yn ethol o leiaf un Cynrychiolydd Dosbarth. Yna, bydd y cynrychiolwyr yn cael eu gwahodd i fynychu gwahanol sesiynau sydd wedi eu cynllunio i’w cefnogi yn eu rôl, ee gan sicrhau bod cynrychiolwyr yn cynrychioli barn y dosbarthiadau. Bydd cynrychiolwyr dosbarth yn cael eu gwahodd i gyfarfod panel y dysgwyr / grŵp ffocws neu ateb holiadur byr syml gyda chymorth eu cyd-aelodau dosbarth.
Os oes gennych ddiddordeb mewn bod yn Gynrychiolydd Dosbarth, cysylltwch â’ch tiwtor neu Antoni Morgan, Swyddog Llais y Dysgwr ar 01495 333710.
Llais y Dysgwr
Ar ôl Canolradd 2 cofrestrwch ar gyfer arholiad Defnyddio’r Gymraeg: Canolradd. Gofynnwch i’ch tiwtor neu ffoniwch y Ganolfan am ffurflen gofrestru.
Arholiadau
Peidiwch â phoeni mae cymorth ar gael!! Bydd eich tiwtoriaid yn eich paratoi chi yn dda ar gyfer yr arholiadau yn y dosbarthiadau wythnosol. Ond cofiwch hefyd am ein cyrsiau adolygu. Bydd y cyrsiau yma yn canolbwyntio ar basio arholiadau – sut i godi marciau, yn hytrach na’u colli. Bydd cyfleoedd i ymarfer y cyfweliadau llafar – sef y rhan bwysicaf o’r arholiad. Cewch chi adborth unigol oddi wrth y cyfwelwyr hefyd!Gofynnwch i’ch tiwtor am wybodaeth am yr arholiadau yma. Maen nhw’n werthfawr iawn, yn enwedig i’r rhai ohonoch chi sy eisiau ennill cymhwyster. Rhowch darged i’ch hunain i sefyll a phasio un o’r arholiadau yma. Os dych chi’n dysgu yn y gweithle, cofiwch, dwy iaith, dau ddewis.
Mae CBAC yn darparu cyfres o gymwysterau i oedolion sy’n dysgu Cymraeg o’r enw Defnyddio’r Gymraeg. Mae’r arholiadau yn rhoi cyfle i ymgeiswyr i ddangos eu gallu yn y Gymraeg wrth siarad, gwrando, darllen ac ysgrifennu - ar y lefelau gwahanol.
Beth sy nesaf? Ar ddiwedd y cwrs Canolradd 1, byddwch yn symud ymlaen yn awtomatig i Canolradd 2. Mae’r manylion am y cwrs hwn ar dudalen 2 yn y llyfryn hwn.
Yn dilyn Canolradd 2 / Uwch Pontio y cwrs nesaf fydd Uwch 1 - bydd y canlynol yn cael eu cynnwys:
• Atebion: Yes / No• Ateb drwy ofyn Cwestiynau • Cymal Enwol (Defnyddio Bod)• Cymal Enwol Negyddol (na / nad) • Cymal Enwol (Gorffennol Cryno)• Pwyslais• Pwyslais a chymal enwol (taw) • Yr Amodol (Byddwn i) • Yr Amodol Cryno (Darllenwn i) • Yn neu Mewn• Cyflwyno Yr Amodol (Byddwn i – I would)• Ffurfio Cryno’r Amodol • Dyfodol Cryno• Yr Amser Amhersonol (Gorffennol /Presennol)• Yr Amser Amhersonol (wyd + ir)• Ansoddeiriau Cyfartal
Cysylltwch â’r Ganolfan ar 01495 333710 os oes angen
cyngor neu os oes gennych unrhyw gwestiynau. Rydym bob amser yma i’ch helpu chi ar eich taith ddysgu.
Ar ôl Canolradd 2 / Uwch Pontio cofrestrwch ar gyfer arholiad Defnyddio’r Gymraeg: Canolradd. Gofynnwch i’ch tiwtor neu ffoniwch y Ganolfan am ffurflen gofrestru.
Ydych chi ar y lefel iawn? Os ydych chi’n ansicr o’ch lefel, cysylltwch â’r Ganolfan ar 01495 333710 a byddwn yn eich helpu i ddod o hyd i’r cwrs cywir. Fel arall, gallwch gwblhau darganfyddwr lefel ar-lein y BBC - www.bbc.co.uk/wales/learnwelsh/level_test/