llawlyfr y dysgwyr - dysgu cymraeg · 2 1. cyflwyniad cymraeg i oedolion, caerdydd! roeso i’r...

19
LLAWLYFR Y DYSGWYR 2016-17

Upload: others

Post on 09-Jun-2020

2 views

Category:

Documents


0 download

TRANSCRIPT

Page 1: Llawlyfr y dysgwyr - Dysgu Cymraeg · 2 1. Cyflwyniad Cymraeg i Oedolion, Caerdydd! roeso i’r cwrs! Rydym wrth ein bodd eich bod chi wedi penderfynu dysgu ymraeg y flwyddyn hon

LLAWLYFR Y DYSGWYR 2016-17

Page 2: Llawlyfr y dysgwyr - Dysgu Cymraeg · 2 1. Cyflwyniad Cymraeg i Oedolion, Caerdydd! roeso i’r cwrs! Rydym wrth ein bodd eich bod chi wedi penderfynu dysgu ymraeg y flwyddyn hon

1

CYNNWYS 1. Cyflwyniad........................................................................................................2

2. Dyddiadau Tymhorau 2016-17.........................................................................3

3. Cymorth Ariannol.............................................................................................4

4. Sicrhau Mynediad............................................................................................4

5. Polisïau a Gwybodaeth Bwysig Berthnasol......................................................5

6. Iechyd, Diogelwch a’r Amgylchedd..................................................................6

7. Ymarfer eich Cymraeg......................................................................................7

8. Sgiliau Sylfaenol...............................................................................................7

9. Gwaith Cartref ac Asesu...................................................................................8

10. Cynllunio’ch Dysgu.......................................................................................10

11. Ymwelwyr i’r Dosbarth – Arsylwi Gwersi ....................................................10

12. Deunyddiau Dysgu.......................................................................................11

13. Ymarfer y Gymraeg y tu allan i’r dosbarth! .................................................12

14. Recordio Darlithoedd a Chopïo Deunyddiau Dysgu.....................................13

15. Defnyddio Llyfrgelloedd a Chyfrifiaduron y Brifysgol...................................14

16. Gwybodaeth Gyffredinol Bwysig..................................................................15

17. Côd Ymddwyn Dysgwyr................................................................................16

18. Pan aiff pethau o’i le....................................................................................16

19. Deunyddiau electronig i’ch helpu chi / Gwefannau, Dolenni a Chysylltiadau Defnyddiol Eraill....................................................................17

20. Cysylltiadau Eraill........................................................................................18

Page 3: Llawlyfr y dysgwyr - Dysgu Cymraeg · 2 1. Cyflwyniad Cymraeg i Oedolion, Caerdydd! roeso i’r cwrs! Rydym wrth ein bodd eich bod chi wedi penderfynu dysgu ymraeg y flwyddyn hon

2

1. Cyflwyniad Cymraeg i Oedolion, Caerdydd! Croeso i’r cwrs! Rydym wrth ein bodd eich bod chi wedi penderfynu dysgu Cymraeg y flwyddyn hon. Byddwch yn ymuno gyda channoedd o fyfyrwyr eraill yng Nghaerdydd ar y daith gyffrous i fod yn rhugl. Mae Cymraeg i Oedolion yn rhan o Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd. Rydym yn gyfrifol am ddarparu cyrsiau Cymraeg i Oedolion ym mhob cwr o’r brifddinas gan ddenu tua 3,000 o ymrestriadau yn flynyddol. Rhoi’r dysgwyr gyntaf yw ein nod wrth inni gydweithio â darparwyr eraill dros Gymru gyfan i gynhyrchu siaradwyr newydd. Gobeithio’n fawr y cewch hwyl a mwynhad wrth ddysgu Cymraeg gyda ni. Edrychwn ymlaen yn fawr iawn at eich helpu i fod yn siaradwyr Cymraeg ac i ddefnyddio’ch Cymraeg yn eich bywyd bob dydd. Lle bo angen, gellir darparu’r llawlyfr hwn mewn ffurfiau gwahanol (e.e. print bras, tâp sain, Braille) trwy gysylltu â Derbynfa’r Ganolfan ar (029) 2087 4710. Gofyn am gymorth Gobeithio y byddwch yn gweld y Llawlyfr hwn yn ddefnyddiol iawn ond cofiwch ofyn am help unrhyw bryd yn ystod y cwrs, naill ai gan eich tiwtor neu gan staff y swyddfa. Ni yma i’ch helpu.

Page 4: Llawlyfr y dysgwyr - Dysgu Cymraeg · 2 1. Cyflwyniad Cymraeg i Oedolion, Caerdydd! roeso i’r cwrs! Rydym wrth ein bodd eich bod chi wedi penderfynu dysgu ymraeg y flwyddyn hon

3

2. Dyddiadau Tymhorau 2016-17

Tymor

Dechrau

Hanner Tymor

Gorffen

Dechrau Gorffen

Hydref 2016

12/09/2016

24/10/2016

28/10/2016

16/12/2016

Gwanwyn 2017

03/01/2017

20/02/2017

24/02/2017

07/04/2017

Haf 2017

24/04/2017

29/05/2017

02/06/2017

Cyrsiau 30 wythnos yn

gorffen yn yr wythnos

yn dechrau 15/05/2017

neu 05/06/2017

(os ar ddydd Llun).

Noder fod y dyddiadau dechrau a gorffen ar gyfer cyrsiau sy’n dechrau ym mis Medi yn unig.

Page 5: Llawlyfr y dysgwyr - Dysgu Cymraeg · 2 1. Cyflwyniad Cymraeg i Oedolion, Caerdydd! roeso i’r cwrs! Rydym wrth ein bodd eich bod chi wedi penderfynu dysgu ymraeg y flwyddyn hon

4

3. Cymorth Ariannol

Os oes unrhyw anhawster gyda chi wrth dalu am eich cwrs, cysylltwch â Swyddfa Gwasanaethau Proffesiynol Ysgol y Gymraeg am fwy o wybodaeth ar daliadau hyblyg. Rhestrir isod rai o’r cymhorthion ariannol allai fod ar gael i chi fel dysgwr:

CYNIGION ARBENNIG - Trwy gydol y flwyddyn rydym yn cynnig cynigion arbennig e.e. 10% i ffwrdd wrth ymrestru’n gynnar am gwrs, gwobrau wrth fynychu digwyddiadau dysgu lled-ffurfiol, gwobrau i enillwyr Dysgwr y Flwyddyn ayyb. Cadwch olwg ar y wefan, ein e-byst marchnata, a hefyd Rhaglen y Dysgwyr am y cynigion sydd ar gael. GOSTYNGIADAU - Mae gostyngiadau ar gyfer ffi cyrsiau. Am ragor o wybodaeth am hyn, mae manylion ar gael ar y ffurflen ymrestru, yn y prosbectws ac ar ein gwefan. Cysylltwch yn uniongyrchol â Swyddfa Gwasanaethau Proffesiynol Ysgol y Gymraeg os oes anawsterau talu am gyrsiau.

GRANT ‘REACT’ - Os ydych yn ddi-waith ar hyn o bryd, mae’r Llywodraeth yn cynnig grantiau i dalu am hyfforddiant sydd yn eich cynorthwyo i gael swydd. Os ydych chi’n dysgu Cymraeg i wella eich cyfleoedd cyflogi, gallwch geisio am grant REACT. Cysylltwch â Swyddfa Gwasanaethau Proffesiynol Ysgol y Gymraeg am ragor o wybodaeth.

4. Sicrhau Mynediad Mae’r iaith Gymraeg i bawb – croeso cynnes i bawb sydd eisiau dysgu Cymraeg! Rydym yn anelu at gynnig gwasanaeth teg a chyfartal i’n holl ddysgwyr, beth bynnag fo’u rhyw, tarddiad ethnig, oed, rhywioldeb, crefydd neu anabledd. Gallwn gynnig cymorth ychwanegol i ddysgwyr all elwa o hynny. Rydym wedi ymrwymo i greu diwylliant cynhwysol sydd wedi ei seilio ar gydraddoldeb ac amrywiaeth ac rydym yn anelu at sicrhau mynediad i’n holl gyrsiau i bob dysgwr; boed ym Mhrifysgol Caerdydd neu mewn lleoliadau eraill yng Nghaerdydd. Mae hyn yn cwmpasu mynediad i adeiladau, cymorth dysgu fel Braille, print bras, gwaith dosbarth ar bapur lliw ac yn y blaen.Rydyn ni hefyd yn cefnogi’n tiwtoriaid i ddatblygu strategaethau dysgu sy’n cynnwys y rhain. Os oes gyda chi anghenion ychwanegol a’ch bod yn dymuno trafod cymorth ychwanegol posibl, cysylltwch â Swyddfa Gwasanaethau Proffesiynol Ysgol y Gymraeg. Yn ystod y flwyddyn, cofiwch fod croeso i chi godi unrhyw beth gyda’ch tiwtor. Mae ffurflen anghenion dysgu ychwanegol gan bob tiwtor yn eu pecynnau cwrs. Os bydd angen, gallwn gwblhau Cynllun Anghenion Unigol (PEEP) i chi. Os oes gyda chi unrhyw gwestiynau am sicrhau mynediad i’n cyrsiau, neu os hoffech drafod cefnogaeth unigol neu addasiadau ar gyfer anghenion dysgu ychwanegol, cysylltwch â Swyddfa Gwasanaethau Proffesiynol Ysgol y Gymraeg. Mae gwybodaeth am bolisi hygyrchedd y Brifysgol ar y wefan: http://www.cardiff.ac.uk/cy/help/accessibility

Page 6: Llawlyfr y dysgwyr - Dysgu Cymraeg · 2 1. Cyflwyniad Cymraeg i Oedolion, Caerdydd! roeso i’r cwrs! Rydym wrth ein bodd eich bod chi wedi penderfynu dysgu ymraeg y flwyddyn hon

5

5. Polisïau a Gwybodaeth Bwysig Berthnasol

Mae manylion am bolisïau pwysig y Prifysgol Caerdydd i’w cael ar wefan y Brifysgol. Eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau eich bod yn darllen ac yn dilyn y polisïau. Polisi Cydraddoldeb ac Amrywiaeth http://www.cardiff.ac.uk/govrn/cocom/equalityanddiversity/index.html Polisi Diogelu Oedolion sy’n Agored i Niwed http://www.cardiff.ac.uk/govrn/cocom/equalityanddiversity/index.html Diogelwch Personol http://www.cardiff.ac.uk/secty/resources/Personal%20Safety%20Guide.pdf Gofynion a Disgwyliadau’r Brifysgol http://www.cardiff.ac.uk/for/current/requirements/index.html Polisi TG https://www.cardiff.ac.uk/cy/public-information/policies-and-procedures/it-regulations Am ragor o wybodaeth ar faterion TG, gweler hefyd yr adran ar ‘Y Bont’ o dan ‘Deunyddiau Dysgu’. Cysylltwch ag Angharad Davies am arweiniad neu gymorth pellach. Arfer Annheg Lle bod unrhyw honiad o annhegwch, gan gynnwys cydgynllwynio, pe byddai ar safle cyfryngau cymdeithasol neu trwy gyfrwng arall - yna ystyrir hynny o dan delerau’r weithdrefn arfer annheg: http://www.cardiff.ac.uk/regis/sfs/regs/1213acadregswelsh/1.11%20-%20Y%20Weithdrefn%20Arfer%20Annheg%20-%20Unfair%20Practice%20Procedure.pdf a Gweithdrefn Disgyblu Myfyrwyr y Brifysgol: http://www.cardiff.ac.uk/regis/sfs/regs/1213acadregswelsh/3%2001%20-%20Disgyblaeth%20Myfyrwyr%20-%20Student%20Discipline.pdf

Page 7: Llawlyfr y dysgwyr - Dysgu Cymraeg · 2 1. Cyflwyniad Cymraeg i Oedolion, Caerdydd! roeso i’r cwrs! Rydym wrth ein bodd eich bod chi wedi penderfynu dysgu ymraeg y flwyddyn hon

6

6. Iechyd, Diogelwch a’r Amgylchedd

Darperir Gwasanaethau Diogelwch y Brifysgol 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos. Nod y gwasanaeth yw hybu a sicrhau amgylchedd diogel i holl ddefnyddwyr y Brifysgol, cyn belled ag y bo hynny'n rhesymol ymarferol. Maent hefyd yn cynnig cymorth a chyngor mewn sawl maes, gan gynnwys Canllaw Diogelwch Personol. Gallwch alw’r ystafell reoli 24 awr y dydd (02920 874444) neu ymweld â’r Ganolfan Rheoli Diogelwch, sydd gyferbyn â 52-53 Plas y Parc, neu siarad â Swyddogion Patrol Campws y Brifysgol. www.caerdydd.ac.uk/security Martin Gwynedd (Swyddfa Gwasanaethau Proffesiynol) yw swyddog Iechyd a Diogelwch yr Ysgol. Dylid cyfeirio unrhyw broblemau iechyd a diogelwch ato ef yn y lle cyntaf. Yn achos Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd sy’n gyfrifol am iechyd a diogelwch. Ar gyfer cyrsiau yn y gweithle, y Cyflogwr sy’n gyfrifol. Ar gyfer darpariaeth yn y gweithle holwch am fanylion ac enwau cyswllt priodol os gwelwch yn dda. Mae cyfrifoldeb ar ddysgwyr hefyd i ymddwyn yn briodol bob amser rhag peryglu iechyd neu ddiogelwch unrhyw un, ac i ddilyn arweiniad neu gyfarwyddyd y Tiwtor bob amser. Dylai'ch tiwtor roi gwybodaeth i chi am allanfeydd tân a chymorth cyntaf yn eich man dysgu yn ystod eich gwers gyntaf. Cynhelir awdit iechyd a diogelwch blynyddol i leoliadau dysgu y tu allan i Brifysgol Caerdydd ar gyfer lleoliadau a ddefnyddir gan y Ganolfan, Prifysgol Caerdydd. Mae’r tiwtor yn adrodd yn ôl ar unrhyw faterion sy’n codi o’r awdit. Fodd bynnag, os byddwch, yn ystod y flwyddyn, yn pryderu am unrhyw fater iechyd a diogelwch yn y lleoliad dysgu, rhowch wybod i’ch tiwtor ar unwaith a bydd y tiwtor yn rhaeadru hyn yn ôl i Swyddfa Gwasanaethau Proffesiynol Ysgol y Gymraeg. Damweiniau a Digwyddiadau Os digwydd damwain / digwyddiad, dylech gwblhau ffurflen damweiniau / digwyddiad gyda’ch tiwtor os gwelwch yn dda. Rhif Ffôn Argyfwng! Mae’r ffurflen ymrestru yn cynnwys lle i nodi enw a rhif i ni gysylltu ag ef os oes argyfwng yn codi gyda chi. Cofiwch adael gwybod i ni os oes newid o gwbl yn eich manylion cyswllt chi neu’r sawl a ddynodwyd ar eich ffurflen ymrestru fel cyswllt mewn argyfwng yn ystod eich amser ar y cwrs.

Page 8: Llawlyfr y dysgwyr - Dysgu Cymraeg · 2 1. Cyflwyniad Cymraeg i Oedolion, Caerdydd! roeso i’r cwrs! Rydym wrth ein bodd eich bod chi wedi penderfynu dysgu ymraeg y flwyddyn hon

7

7. Ymarfer eich Cymraeg Dych chi eisiau dod yn rhugl? Er mwyn llwyddo i ddysgu’r iaith, mae angen i chi ymarfer eich Cymraeg y tu allan i’r dosbarth. Byddwch yn derbyn Cynllun Dysgu Unigol er mwyn i chi nodi eich amcanion dysgu personol a hefyd i gynllunio sut dych chi’n mynd i ymarfer y tu allan i’r dosbarth. Ar gwrs 60 awr a 120 awr, mae disgwyl i chi wneud 18 awr ymarfer y tu allan i’r dosbarth. Ar gyfer cyrsiau mwy dwys, fel cyrsiau bloc a’r cwrs haf, mae angen gwneud 36 awr y tu allan i’r dosbarth.

8. Sgiliau Sylfaenol Bydd angen i bob dysgwr Cymraeg i Oedolion ar Gwrs Mynediad sy’n para am 5 awr neu fwy yr wythnos ac sy’n para mwy nag un wythnos wneud Asesiad Sgiliau Sylfaenol. Yr unig Sgiliau Sylfaenol a asesir yw Llythrennedd yn yr iaith Saesneg. O safbwynt y Ganolfan, effeithir ar y Cwrs Mynediad - 1 dydd bob mis, y Cwrs Mynediad – 2 wythnos, a Chwrs yr Haf: Lefel Mynediad 1 (dinasyddion Prydeinig yn unig). Gweinyddir yr Asesiad gan diwtor, a fydd wedi derbyn hyfforddiant, yn y Sesiwn Anwytho ar ddechrau’r Cwrs. Hyd yr Asesiad fydd 20 munud a bydd y tiwtor yn esbonio i chi bwrpas yr Asesiad cyn ei wneud. Disgwylir i bawb wneud yr Asesiad ond ni ellir eich gorfodi chi i’w wneud. Pwrpas hyn yw helpu’r dysgwr mewn sefyllfaoedd ble y gallai problemau fod o ran llythrennedd a gellir eich cyfeirio at gymorth defnyddiol. Bydd yr Asesiadau’n cael eu marcio gan y tiwtor ac os bydd unrhyw ddysgwr yn is na’r trothwy, byddwn yn rhoi gwybodaeth i chi am wasanaethau sy ar gael yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg ar gyfer cefnogaeth arbenigol pe hoffech chi wella’ch sgiliau. Fydd hyn ddim yn effeithio ar eich gallu i wneud y cwrs. Wele’r cysylltiadau isod ar gyfer gwella Sgiliau Sylfaenol: CAERDYDD Cardiff Basic Skills Service, The Friary Community Education Centre, The Friary Caerdydd CF10 3FA Cyswllt: Janet Sims Tel: (029) 2022 7472 E-bost: [email protected]

Page 9: Llawlyfr y dysgwyr - Dysgu Cymraeg · 2 1. Cyflwyniad Cymraeg i Oedolion, Caerdydd! roeso i’r cwrs! Rydym wrth ein bodd eich bod chi wedi penderfynu dysgu ymraeg y flwyddyn hon

8

9. Gwaith Cartref ac Asesu Mae pwyslais ein cyrsiau ar ansawdd y dysgu, siarad Cymraeg a mwynhau. Dathlu a Gwobrwyo Mae seremoni wobrwyo bob blwyddyn er mwyn gwobrwyo dysgwyr am gwblhau cwrs – felly fe gewch dystysgrif Prifysgol Caerdydd am gwblhau cwrs os ydych chi wedi mynychu 80% neu fwy o’r oriau cyswllt. Gwaith Cartref Wrth i chi weithio trwy’r cyrsiau Mynediad, Sylfaen, Canolradd, Uwch 1 ac Uwch 2, byddwch chi’n cael cyfle i wneud Gwaith Cartref. Maen nhw’n dasgau hwylus sydd yn adolygu gwaith y dosbarth. Mae’n gyfle i chi ymarfer y tu allan i’r dosbarth a phrofi faint dych chi wedi deall wrth weithio ar eich pen eich hun. Rhowch eich gwaith cartref i’ch tiwtor iddynt farcio ac fe gewch adborth ar eich cynnydd. Anogir chi i gwblhau’r gwaith cartref fel rhan o broses ddysgu effeithiol. Tystysgrifau Byddwch yn derbyn tystysgrif Prifysgol Caerdydd am gwblhau’r cwrs os ydych yn:

Mynychu o leiaf 80% o’r dosbarthiadau

Yn cwblhau eich gwaith cartref

A bod y tiwtor wedi tystio eich bod wedi cwblhau’n llwyddiannus. Asesu ar Gyfer Dysgu Byddwch yn derbyn adborth cyson gan eich tiwtor ar eich perfformiad a beth sydd angen i chi ei wneud i wella. Ar gyfer gwaith ysgrifenedig, byddwch yn derbyn templed asesu ar gyfer dysgu sy’n gosod tasg(au) i chi er mwyn i chi ffocysu ar bethau i’w gwella. Arholiadau (Opsiynol) Bydd cyfle hefyd, os dymunwch chi, i chi sefyll arholiadau CBAC ‘Defnyddio’r Gymraeg’ – Mynediad, Sylfaen, Canolradd (TGAU), ac Uwch (Lefel ‘A’). Mae dysgwyr sy’n sefyll arholiadau yn teimlo eu bod yn rhoi ffocws iddynt i weithio’n galed ac mae’r boddhad o basio, neu hyd yn oed cael rhagoriaeth, yn deimlad braf iawn! Mae llyfrynnau arholiadau ar gael o Swyddfa Gwasanaethau Proffesiynol Ysgol y Gymraeg os hoffech chi ymrestru. Yn ogystal, mae penwythnosau paratoi ar gyfer arholiadau wedi’u trefnu. Mae’r cyrsiau hyn yn mynd dros gyn-bapurau arholiad ac yn eich paratoi, yn arbennig, ar gyfer yr arholiad! Os hoffech fwy o fanylion am yr arholiadau, yna cysylltwch â Swyddfa Gwasanaethau Proffesiynol Ysgol y Gymraeg.

Page 10: Llawlyfr y dysgwyr - Dysgu Cymraeg · 2 1. Cyflwyniad Cymraeg i Oedolion, Caerdydd! roeso i’r cwrs! Rydym wrth ein bodd eich bod chi wedi penderfynu dysgu ymraeg y flwyddyn hon

9

Wele isod ddyddiadau’r arholiadau ar gyfer 2016/17: Defnyddio'r Gymraeg - Mynediad - £40 27 Ionawr 2017 (dydd Gwener) 8 Mehefin 2017 (nos Iau) 9 Mehefin 2017 (dydd Gwener) Addas i’r rhai sydd ar ddiwedd cwrs Mynediad CBAC, neu Mynediad dwys Cymraeg i Oedolion neu hanner ffordd trwy’r cwrs Sylfaen 1, neu draean o’r ffordd trwy’r cwrs Magu Hyder. Dyddiad cau ar gyfer cofrestru: 9 Rhagfyr 2016 ar gyfer arholiad 27 Ionawr 2017 a 24 Chwefror 2017 ar gyfer arholiadau 8 a 9 Mehefin 2017 Defnyddio'r Gymraeg - Sylfaen - £42 16 Mehefin 2017 (dydd Gwener) Addas ar gyfer y rhai sydd ar ddiwedd cwrs Sylfaen CBAC, neu ddiwedd cwrs Sylfaen Cymraeg i Oedolion neu wedi dechrau Canolradd 1 Dyddiad cau ar gyfer cofrestru: 24 Chwefror 2017 Defnyddio'r Gymraeg - Canolradd - £44 7 Mehefin 2017 (dydd Mercher) Addas ar gyfer y rhai sydd ar ddiwedd cwrs Canolradd CBAC, neu gwrs Canolradd Cymraeg i Oedolion, neu wedi dechrau Uwch 1. Dyddiad cau ar gyfer cofrestru: 24 Chwefror 2017 Defnyddio'r Gymraeg - Uwch - £52 14-15 Mehefin 2017 (dydd Mercher a bore Iau) Addas ar gyfer diwedd cwrs Uwch 2 Dyddiad cau ar gyfer cofrestru: 24 Chwefror 2017 Nid yw’r arholiadau’n hanfodol, ond maent yn rhoi nod arbennig ichi anelu ato. Nodwch os gwelwch yn dda, os ydych yn ymrestru i sefyll arholiad, ei bod yn ofynnol i chi dalu ffi llawn yr arholiad, hyd yn oed os byddwch yn penderfynu peidio sefyll yr arholiad wedi hynny.

Page 11: Llawlyfr y dysgwyr - Dysgu Cymraeg · 2 1. Cyflwyniad Cymraeg i Oedolion, Caerdydd! roeso i’r cwrs! Rydym wrth ein bodd eich bod chi wedi penderfynu dysgu ymraeg y flwyddyn hon

10

10. Cynllunio’ch Dysgu

Yn ystod y wers gyntaf, byddwch chi’n derbyn dau gynllun pwysig: 1. Cynllun Gwaith 2. Cynllun Dysgu Unigol

Cynllun Gwaith Bydd y cynllun gwaith yn dangos i chi beth fyddwch chi’n ei wneud o awr i awr drwy’r flwyddyn. Bydd y cynllun gwaith yn arbennig o ddefnyddiol i chi os bydd rhaid i chi golli gwersi, fel y byddwch chi’n gallu gweld pa waith a pha asesiadau Agored Cymru / CBAC dych chi wedi’u colli.

Cynllun Dysgu Unigol (CDU) Ar ddechrau’r cwrs byddwch chi’n cwblhau CDU a fydd yn nodi eich nodau personol chi, beth fyddwch chi’n ei ddysgu yn ystod y cwrs, pa asesiadau y byddwch chi’n eu gwneud a pha bethau eraill ychwanegol y byddwch chi’n eu gwneud y tu allan i’r cwrs. Byddwch chi a’ch tiwtor yn adolygu’ch cynllun ddwywaith y flwyddyn i weld sut dych chi’n dod ymlaen.

Sut dych chi’n dysgu iaith orau? Ydych chi’n gwybod beth yw’r ffordd orau o ddysgu’r Gymraeg? Sut dych chi’n dysgu orau? Bydd y tiwtor yn esbonio yn y wers gyntaf beth i’w ddisgwyl o safbwynt y ffyrdd dyn ni’n dysgu a sut mae’r cwrs yn gweithio. Er hyn, cofiwch esbonio i’ch tiwtor sut dych chi’n dysgu orau – bydd hwn yn werthfawr i’r tiwtor wybod.

11. Ymwelwyr i’r Dosbarth – Arsylwi Gwersi Mae’n bosibl bydd rhywun yn dod i mewn i’r dosbarth o dro i dro i arsylwi’r tiwtoriaid yn dysgu. Nid arsylwi’r dysgwyr yw pwynt yr ymweliadau gan gyd-diwtoriaid, dysgwyr a disgyblion ysgol ond arsylwi’r tiwtoriaid a’r defnyddiau ac ni fyddan nhw’n torri ar draws y gwersi mewn unrhyw ffordd. Fodd bynnag, bydd rheolwyr, dilyswyr ac arolygwyr yn edrych ar ba mor dda dych chi’n dod ymlaen a hoffai’r rheolwyr a’r arolygwyr siarad â chi fel dosbarth am 10 munud ola’r wers. Hoffen ni ofyn i chi ymlaen llaw am eich cydweithrediad yn hyn o beth. Mae’r broses yn sicrhau ansawdd a gwellhad parhaus. Yn ogystal, mae’n rhaid i ddysgwyr y Cymhwyster Cenedlaethol wneud ymarfer dysgu, felly, byddem yn ddiolchgar iawn o’ch cydweithrediad o flaen llaw os ydych chi’n cael tiwtor dan hyfforddiant yn eich dysgu chi. Yn achlysurol, gallai criwiau radio / teledu wneud cais am ffilmio dosbarth ac felly, dyn ni’n gofyn i chi am eich cydweithrediad ymlaen llaw yn hyn o beth yn ogystal.

Page 12: Llawlyfr y dysgwyr - Dysgu Cymraeg · 2 1. Cyflwyniad Cymraeg i Oedolion, Caerdydd! roeso i’r cwrs! Rydym wrth ein bodd eich bod chi wedi penderfynu dysgu ymraeg y flwyddyn hon

11

12. Deunyddiau Dysgu Mae cwrslyfrau Mynediad, Sylfaen, Canolradd, Uwch a Hyfedredd y Brifysgol yn gynwysedig yn ffi'r cwrs. Yn ogystal, gallwch lawrlwytho ffeiliau sain o’r wefan, am ddim, neu ofyn i diwtor am gryno ddisgiau. Ar gyfer cyrsiau Cymraeg i’r Teulu bydd angen prynu llyfr cwrs a llyfr gwaith cartref CBAC. Y Bont - Safle Moodle Y Bont yw platfform e-ddysgu ar gyfer dysgwyr http://caerdydd.ybont.org Mae’r safle yn cynnwys cyrsiau cyfunol, adnoddau a gweithgareddau ychwanegol. Mae llwyth o adnoddau atodol ar gael i chi am ddim! Mae cwisiau, ymarferion hwyl, a thasgau di-ri. Mae cyfleoedd arbennig i chi ymarfer y Gymraeg y tu allan i’r dosbarth ac yn enwedig yn ystod y gwyliau! Ewch i weld! Ewch i’r wefan uchod i weld beth sydd ar gael.

Deunyddiau’r Cwrs – Cymraeg i’r Teulu Nodwch nad yw pris cyrsiau Cymraeg i’r Teulu yn cynnwys deunyddiau’r cwrs. Gellir prynu’r deunyddiau yn y dosbarth neu gan CBAC: https://www.wjec.co.uk/index.php?nav=shop&langID=2&bask=Xq3NCPaISZBg4BWMMMBUnMDM2 2 neu www.gwales.com Gweler prisiau deunyddiau isod: Cwrs Lyfr Cymraeg i’r Teulu 1 (Fersiwn y De) - £10.95 Cwrs Lyfr Cymraeg i’r Teulu 2 (Fersiwn y De) - £10.95 CD Cymraeg i’r Teulu 1 (Fersiwn y De) - £8.95 CD Cymraeg i’r Teulu 2 (Fersiwn y De) - £8.95 Llyfr Gweithgareddau Cymraeg i’r Teulu 1 (Fersiwn y De) - £5.00 Pecyn Gemau Bwrdd Cwrs Cymraeg i’r Teulu - £18.00 Yn ogystal, mae deunyddiau electronig ychwanegol i’w cael am ddim ar ‘Y Bont’.

Page 13: Llawlyfr y dysgwyr - Dysgu Cymraeg · 2 1. Cyflwyniad Cymraeg i Oedolion, Caerdydd! roeso i’r cwrs! Rydym wrth ein bodd eich bod chi wedi penderfynu dysgu ymraeg y flwyddyn hon

12

13. Dysgu Anffurfiol: Cael Hwyl wrth Ymarfer y Gymraeg!

Mae’n bwysig eich bod chi’n ymarfer eich Cymraeg y tu allan i’r dosbarth mewn cyd-destunau mwy anffurfiol. Po fwyaf dych chi’n siarad Cymraeg, mwyaf llwyddiannus dych chi’n mynd i ddysgu Cymraeg!

Mae’n bwysig eich bod chi’n manteisio ar bob cyfle sydd gyda chi i siarad Cymraeg ac oherwydd hyn dyn ni wedi trefnu amserlen lawn o weithgareddau i chi bob tymor. Dewch i gael hwyl drwy siarad Cymraeg a gwneud ffrindiau gyda dysgwyr eraill o bob safon.

Digwyddiadau

Bydd y Tiwtor Dysgu Anffurfiol yn trefnu amrywiaeth eang o weithgareddau a digwyddiadau i gyd-fynd â diddordebau gwahanol pawb. Dyma enghreifftiau o ddigwyddiadau anffurfiol sydd ar gael fel arfer i chi fanteisio arnyn nhw:

- cwisiau, sesiynau coffi, nosweithiau yn y dafarn, teithiau cerdded neu seiclo, clybiau darllen, darlithoedd, tripiau, dramâu, sgwrsio ar-lein.

Cyrsiau Darllen

Dewch yn llu i’r Clybiau Darllen. Mae’r rhain ar gael ar bob lefel ac fel arfer wedi’u trefnu am awr cyn y dosbarth prif ffrwd. Maen nhw’n boblogaidd iawn ac yn effeithiol iawn i wella’ch Cymraeg.

Cyrsiau penwythnos a phreswyl

Mae cyrsiau preswyl neu gyrsiau Sadwrn bron bob mis felly cofiwch ddod i fwynhau’r rhain hefyd, mae’n gyfle gwych i chi adolygu ac ymarfer eich Cymraeg. Rydym yn ymweld â lleoliadau o ddiddordeb yn ystod y cyrsiau hyn.

Rhaglen y Dysgwyr a dod i wybod beth sydd ar gael i chi

Dyma’r Rhaglen Dysgu Anffurfiol fesul tymor sy’n rhestru’r holl weithgareddau sydd ar gael. Bydd y cylchgrawn cyntaf yn eich pecyn croeso felly gwnewch yn siŵr eich bod yn bwrw golwg drosto fe. Os hoffech chi ragor o wybodaeth am y gweithgareddau mae croeso i chi gysylltu gyda’n Thiwtor Dysgu Anffurfiol.

Edrychwch hefyd ar hysbysfyrddau yn y Brifysgol i weld manylion cyson am beth sy’n mynd ymlaen.

Cofiwch hefyd gadw golwg allan am negeseuon y Tiwtor Dysgu Anffurfiol ar ein tudalennau Facebook a Trydar gyda’r newyddion diweddaraf.

Page 14: Llawlyfr y dysgwyr - Dysgu Cymraeg · 2 1. Cyflwyniad Cymraeg i Oedolion, Caerdydd! roeso i’r cwrs! Rydym wrth ein bodd eich bod chi wedi penderfynu dysgu ymraeg y flwyddyn hon

13

14. Recordio Gwersi a Chopïo Deunyddiau Dysgu Yn ystod eich amser yn astudio ym Mhrifysgol Caerdydd, bydd gyda chi fynediad at amrywiol ddigwyddiadau a deunyddiau dysgu. Gall rhai o’r rhain fod wedi eu hamddiffyn gan hawlfraint y Deyrnas Gyfunol a chyfreithiau Diogelu Data. Mae’n hollbwysig felly eich bod yn deall yr angen i gydymffurfio â’r gyfraith wrth ddefnyddio’r deunyddiau hyn. Os ydych yn ystyried recordio’r wers, dylech ystyried y pwyntiau canlynol: CRYNODEB O’R PWYNTIAU ALLWEDDOL

Dylid hysbysu’r tiwtor o unrhyw ddigwyddiad recordio neu ddeunydd dysgu cyn i hynny ddigwydd.

Ni ellir cyhoeddi neu ddefnyddio unrhyw recordiad mewn unrhyw ffordd heblaw at ddibenion astudio preifat heb ganiatâd ysgrifenedig Ysgol y Gymraeg.

Dylid trafod unrhyw ofynion addasu rhesymol gyda’r tiwtor o flaen llaw.

Rhaid cydymffurfio â’r gyfraith, gan gynnwys y Ddeddf Hawlfraint Cynllunio a Phatentau 1988 a’r Ddeddf Diogelu Data 1998 wrth gopïo unrhyw ddeunyddiau dysgu a recordio digwyddiadau dysgu.

Mae rhagor o fanylion am y deddfau hawlfraint ar y gwefanau yma: http://copyrightuser.org/topics/faqs/ https://www.gov.uk/topic/intellectual-property/copyright

Page 15: Llawlyfr y dysgwyr - Dysgu Cymraeg · 2 1. Cyflwyniad Cymraeg i Oedolion, Caerdydd! roeso i’r cwrs! Rydym wrth ein bodd eich bod chi wedi penderfynu dysgu ymraeg y flwyddyn hon

14

15. Defnydd o Lyfrgell a Chyfrifiaduron y Brifysgol Llyfrgell Cymraeg i Oedolion Caerdydd Mae modd benthyg llyfrau o lyfrgell Cymraeg i Oedolion Caerdydd yn Ysgol y Gymraeg. Mae’r llyfrau i gyd wedi’u labelu fesul lefel, felly mae modd i chi ddechrau darllen o’r cychwyn, ar lefel Mynediad hyd yn oed. Yn ystod oriau swyddfa arferol (9.00am-5.00pm), derbynnydd yr Ysgol sy’n cadw’r allwedd ar gyfer y llyfrgell; y tu allan i oriau swyddfa arferol, bydd modd i’r tiwtor gael mynediad i’r llyfrgell os bydd dysgwr angen benthyg llyfr(au).

Mae croeso i unrhyw ddysgwr fenthyg llyfr(au). Gallwch fenthyg hyd at 3 llyfr ar y tro. Wedi dewis llyfr o’r llyfrgell, dilynwch y drefn ganlynol os gwelwch yn dda:

ewch â’r llyfr(au) at Dderbynnydd Ysgol y Gymraeg / Tiwtor er mwyn iddynt gofnodi manylion y llyfr a manylion y benthyciwr (e.e. enw’r benthyciwr, manylion cyswllt, cod y cwrs rydych chi’n astudio arno a dyddiad benthyg); os byddwch yn cael llyfr y tu allan i oriau swyddfa arferol bydd eich tiwtor yn cofnodi’r wybodaeth berthnasol;

gellir benthyg llyfr(au) am hyd at uchafswm o 3 wythnos;

wedi i chi orffen gyda’ch llyfr(au) dychwelwch ef / nhw i dderbynfa’r Ysgol os gwelwch yn dda a bydd y derbynnydd yn cofnodi fod y llyfr(au) wedi ei ddychwelyd; os byddwch yn dychwelyd y llyfr(au) i’r tiwtor bydd ef/hi yn cofnodi’r wybodaeth berthnasol.

Ni ddylid mynd â llyfr(au) heb ganiatâd y derbynnydd/tiwtor a heb gwblhau’r ffurflen benthyg llyfr(au). Mae’n hollbwysig dychwelyd unrhyw lyfr(au) a fenthyciwyd o fewn y cyfnod benthyg sef 3 wythnos. Byddwn yn codi tâl arnoch am lyfrau nad ydych yn eu dychwelyd ar amser a byddwn hefyd yn codi tâl arnoch am unrhyw lyfr(au) nas dychwelir. Llyfrgell y Brifysgol Mae modd i chi gael mynediad i brif lyfrgelloedd y Brifysgol. Bydd angen cerdyn adnabod dysgwr arnoch chi er mwyn cael mynediad a bydd angen rhif dysgwr a llun pasbort er mwyn cael cerdyn adnabod. Cysylltwch â Swyddfa Gwasanaethau Proffesiynol Ysgol y Gymraeg am ragor o wybodaeth am hyn. Y Bont Os byddwch yn ddysgwr ar un o gyrsiau cyfunol y Ganolfan, cewch eich manylion cyfrifiadurol (cyfrinair ac yn y blaen) gan eich tiwtor yn ystod y wers gyntaf fel arfer. Os oes unrhyw broblemau gyda’ch cyfrif (e.e. cyfrineiriau ac yn y blaen), cysylltwch â Swyddfa Gwasanaethau Proffesiynol Ysgol y Gymraeg.

Page 16: Llawlyfr y dysgwyr - Dysgu Cymraeg · 2 1. Cyflwyniad Cymraeg i Oedolion, Caerdydd! roeso i’r cwrs! Rydym wrth ein bodd eich bod chi wedi penderfynu dysgu ymraeg y flwyddyn hon

15

16. Gwybodaeth gyffredinol bwysig

1. Colli gwers(i)

Disgwylir i ddysgwyr roi gwybod i ddarparwr eu cyrsiau, naill ai drwy law'r tiwtor neu drwy ffonio Swyddfa Gwasanaethau Proffesiynol Ysgol y Gymraeg os na fydd modd iddyn nhw fynychu gwers(i). Mae hyn yn hollbwysig hefyd o ran dosbarthu tystysgrifau mynychder ar gyrsiau dwys gan na roddir tystysgrif i ddysgwr sy heb fod yn bresennol ar gwrs 80% o’r amser. Bydd methu â bod yn bresennol oherwydd salwch, gwyliau ac yn y blaen yn cael ei gymryd i ystyriaeth, felly, cofiwch roi gwybod i’ch tiwtor i nodi hynny ar gofrestr y dosbarth.

2. Beth sy’n digwydd pan fydd eich tiwtor yn absennol

Ar gyfer cyrsiau wedi eu darparu gan Brifysgol Caerdydd, mewn achosion prin lle bo’ch tiwtor yn absennol oherwydd salwch, neu os bydd e / hi’n mynd ar gwrs hyfforddiant, fel arfer dyn ni’n trefnu bod tiwtor cyflenwi’n dod i mewn i’ch dysgu chi. Fodd bynnag, dydy hyn ddim yn bosibl bob tro ac felly, dan yr amgylchiadau hynny, dyma beth ddylech chi wneud os na fydd eich tiwtor arferol wedi cyrraedd ar ôl 10 munud:

Os yw’r wers rhwng 9:00-5:00 o ddydd Llun i ddydd Gwener, ffoniwch Swyddfa Gwasanaethau Proffesiynol Ysgol y Gymraeg ar (029) 2087 4710.

Y tu allan i oriau’r swyddfa, os nad yw’r tiwtor wedi cyrraedd ar ôl 10 munud cewch adael y wers a chysylltu gyda’r Swyddfa ar y diwrnod gwaith canlynol.

3. Parcio Mae parcio ar gael mewn canolfannau dysgu amrywiol, cysylltwch â’r Canolfannau hynny am ragor o wybodaeth neu gofynnwch i’ch tiwtor.

4. Deddf Diogelu Data Mae Prifysgol Caerdydd yn ‘Reolydd Data’, sy’n golygu ei bod yn gofrestredig gyda’r Comisiynydd Gwybodaeth i brosesu data personol at ddibenion penodol (Cofrestredig Z6549747). Data personol yw unrhyw ddata o’r hyn y gellir adnabod unigolyn byw.

Mae Prifysgol Caerdydd wedi ymrwymo i ddilyn Deddf Diogelu Data 1998. Mae’r Ddeddf hon yn pennu pa ddata personol all y Brifysgol ei chasglu, sut y gall ddefnyddio’r data ac i bwy y gall ddatgelu’r data – yr 8 egwyddor diogelu data. Mae’r Ddeddf yn ogystal yn rhoi’r hawl i unigolion weld y data personol a ddelir amdanynt gan unrhyw Reolydd Data yn ogystal â hawliau eraill mewn perthynas â’r hyn a brosesir o’u data personol.

Page 17: Llawlyfr y dysgwyr - Dysgu Cymraeg · 2 1. Cyflwyniad Cymraeg i Oedolion, Caerdydd! roeso i’r cwrs! Rydym wrth ein bodd eich bod chi wedi penderfynu dysgu ymraeg y flwyddyn hon

16

17. Cod Ymddwyn Dysgwyr Rheolir a dehonglir pob mater sy’n deillio o’ch ymrestriad fel dysgwr gyda Cymraeg i Oedolion, Caerdydd (Prifysgol Caerdydd), yn unol â chyfraith Cymru a Lloegr a byddwch chi a’r Ganolfan yn derbyn awdurdod Ymwelydd y Brifysgol (neu, dim ond cyn belled ag y caniateir trwy gyfraith Cymru a Lloegr, Llysoedd Cymru a/neu Loegr) mewn perthynas ag unrhyw fater sy’n codi o’ch ymrestriad fel dysgwr.

Cod Ymddwyn i Ddysgwyr Cymraeg i Oedolion, Caerdydd

1. Ni ddylai dysgwr ymddwyn mewn ffordd a allai gynnwys trosedd yn erbyn person; achosi niwsans; difrodi; anharddu; camddefnyddio eiddo’r Brifysgol; neu ymddwyn mewn ffordd sy’n debygol o ddwyn gwarth ar y Brifysgol neu bechu eraill.

2. Ni ddylai dysgwr ymddwyn mewn ffordd sy’n amharu neu sy’n debygol o amharu ar y dysgu, astudio, arholi, ymchwil, gweinyddiaeth neu ddigwyddiadau cymdeithasol yn y Brifysgol, neu sy’n rhwystro, neu’n debygol o rwystro, unrhyw fyfyriwr wrth iddo ef / hi astudio neu unrhyw weithiwr yn y Brifysgol rhag cyflawni ei (d)dyletswydd.

3. Dylai dysgwr adael unrhyw ran o’r Brifysgol, neu unrhyw eiddo arall a ddefnyddir gan y Brifysgol os gwneir cais rhesymol gan unrhyw un a gyflogir gan y Brifysgol i wneud hynny.

4. Ni ddylai dysgwr gyflawni, na bod yn gysylltiedig ag unrhyw weithred amhriodol neu anonest.

5. Dylai dysgwyr gydymffurfio â’r holl anghenion diogelwch. 6. Bydd y Brifysgol yn cynnal perthynas adeiladol gyda’r Heddlu, yn cydweithio’n llawn

mewn unrhyw ymchwiliad gan yr Heddlu, ac yn cysylltu â’r Heddlu yn uniongyrchol yn achos unrhyw fater sy’n ymddangos yn drosedd ddifrifol, neu fel arall, lle fo’r Brifysgol o’r farn ei bod yn briodol i gysylltu â’r Heddlu.

Lle bo’r Cod Ymddwyn uchod o bosibl wedi ei dorri, bydd y Drefn Ddisgyblu isod yn berthnasol. http://www.cardiff.ac.uk/regis/sfs/regs/1213acadregswelsh/3%2001%20-%20Disgyblaeth%20Myfyrwyr%20-%20Student%20Discipline.pdf

18. Pan aiff pethau o’i le

Y Drefn Cyflwyno Cwyn Byddwn yn gwneud pob ymdrech i sicrhau fod eich cyfnod fel dysgwr gyda Cymraeg i Oedolion, Caerdydd yn brofiad cadarnhaol. O bryd i’w gilydd, gall pethau fynd o’i le. Yn yr achosion hynny mae gennych hawl i gyflwyno cwyn. Os yr ydych yn dymuno cyflwyno cwyn, cysylltwch â Swyddfa Gwasanaethau Proffesiynol Ysgol y Gymraeg i gael manylion am y broses.

Page 18: Llawlyfr y dysgwyr - Dysgu Cymraeg · 2 1. Cyflwyniad Cymraeg i Oedolion, Caerdydd! roeso i’r cwrs! Rydym wrth ein bodd eich bod chi wedi penderfynu dysgu ymraeg y flwyddyn hon

17

19. Deunyddiau electronig i’ch helpu chi / Gwefannau, Dolenni a Chysylltiadau Defnyddiol Eraill

Mae cymaint o ddeunyddiau ar ein gwefan a’n platfform E-ddysgu nawr i’ch helpu chi. Bydd rhain yn adnoddau gwych i chi weithio ar-lein o adre, i ymarfer ac i adolygu. Gwefannau eraill defnyddiol: Mae nifer fawr o wefannau o ddiddordeb i ddysgwyr Cymraeg, o is-wefannau'r BBC ac S4C i Lywodraeth Cymru a gwefannau yn benodol ar gyfer rhieni. Gweler casgliad o'r prif rai yma. www.ybont.org www.caerdydd.ybont.org www.s4c.co.uk/dysgwyr www.memrise.com/home www.geiriadur.net http://techiaith.bangor.ac.uk/GeiriadurAcademi/?lang=en

Mae'n bosib creu pethau eich hunan ar yr wefan yma: http://quizlet.com/create-set

Ar gyfer Lefel Mynediad yn benodol / Specifically for Entry Level : www.bbc.co.uk/wales/learnwelsh www.bbc.co.uk/wales/colinandcumberland www.bbc.co.uk/wales/learnwelsh/bigwelshchallenge www.bbc.co.uk/wales/catchphrase Ar gyfer lefel Sylfaen yn benodol / Specifically for Foundation level : www.bbc.co.uk/wales/learnwelsh www.bbc.co.uk/wales/catchphrase/ysbyty_brynaber/ www.bbc.co.uk/wales/catchphrase www.bbc.co.uk/wales/welshathome www.bbc.co.uk/wales/welshintheworkplace

Ar gyfer lefel Canolradd yn benodol / Specifically for Intermediate level : www.bbc.co.uk/wales/learnwelsh www.bbc.co.uk/wales/catchphrase/ysbyty_brynaber/ www.bbc.co.uk/wales/catchphrase

Page 19: Llawlyfr y dysgwyr - Dysgu Cymraeg · 2 1. Cyflwyniad Cymraeg i Oedolion, Caerdydd! roeso i’r cwrs! Rydym wrth ein bodd eich bod chi wedi penderfynu dysgu ymraeg y flwyddyn hon

18

20. Cysylltiadau Eraill

CBAC Adran Cymraeg i Oedolion/Welsh for Adults Department 245 Rhodfa’r Gorllewin, Llandaf, Caerdydd CF5 2YX Tel: (029) 2026 5007 Swyddog y Dysgwyr, Eisteddfod Genedlaethol 40 Parc Tŷ Glas, Llanishen, Caerdydd | Cardiff CF14 5DU

0845 4090 300

Y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, Campws Caerfyrddin www.dysgucymraeg.cymru