dyfodol y gymraeg

16
1 Dyfodol y Gymraeg Crynodeb o’r ymatebion a’r awgrymiadau www.adfywio.plaidcymru.org [email protected]

Upload: plaid-cymru

Post on 08-Mar-2016

230 views

Category:

Documents


5 download

DESCRIPTION

 

TRANSCRIPT

1

         

Dyfodol y Gymraeg

Crynodeb o’r ymatebion a’r awgrymiadau www.adfywio.plaidcymru.org [email protected]

2

Rhagair Mae’r papur hwn yn crynhoi’r ymatebion a dderbyniwyd yn dilyn sgwrs a barodd flwyddyn ac a lansiwyd ar Ddydd Santes Dwynwen 2013 am yr iaith Gymraeg. Mae hefyd yn cynnig argymhellion ar flaenoriaethau o ran llunio polisi. Yr oedd y sgwrs flwyddyn yn rhan o ymateb Plaid Cymru yn dilyn ffigyrau siomedig y cyfrifiad am 2011 sy’n dangos fod nifer y siaradwyr Cymraeg yng Nghymru wedi cwympo o 2% dros y deng mlynedd ddiwethaf. Mae’r iaith Gymraeg yn perthyn i bawb yng Nghymru. Felly, gofynnodd Plaid Cymru i bobl Cymru pa fesurau y buasen nhw’n eu cymryd er mwyn galluogi i’r iaith ffynnu. Rydym yn ddiolchgar iawn felly am yr ymatebion meddylgar a sylweddol a gawsom, a fydd yn sail i’n llunio polisi yn y maes pwysig hwn. Mae’r ymatebion yn ymdrin â llawer agwedd, gan gynnwys addysg; yr economi; gofal plant; dynodi ‘Bro’ Gymraeg; y diffyg hyder a’r cynodiadau negyddol sy’n gysylltiedig â’r iaith Gymraeg; trosglwyddo’r iaith o fewn teuluoedd; pwysigrwydd dadansoddi cyfrifiad 2011 yn llawn; dilyn esiampl Catalonia a Gwlad y Basg a dynodi’r Gymraeg fel ‘priod’ iaith Cymru; clustnodi 1% o gyllideb y Cynulliad i wariant ar hyrwyddo a chefnogi’r iaith Gymraeg. Wedi’r ymgynghori, rydym wedi nodi’r blaenoriaethau ar gyfer ein polisïau ar yr iaith Gymraeg pan fyddwn ni yn arwain Llywodraeth Cymru. Bydd yr awgrymiadau polisi hyn yn awr yn destun ymchwil a thrafodaeth bellach. Simon Thomas AC

3

Cyflwyniad

Yr oedd dydd Santes Dwynwen 2013 yn nodi lansio sgwrs a barodd flwyddyn ynghylch adfywio’r iaith Gymraeg. Trwy gydol y flwyddyn, rydym wedi croesawu amryfal ymatebion, a bydd y cyfan yn help i sicrhau fod gennym y polisïau iawn i’w gweithredu pan fyddwn ni yn arwain Llywodraeth Cymru. Un o amcanion cyfansoddiadol Plaid Cymru yw "Creu cymdeithas ddwyieithog trwy hybu adfywio’r iaith Gymraeg”. Bu’r amcan hwn yn rhan greiddiol o raglen Plaid Cymru ers ei sylfaenu ac erys felly heddiw. Dangosodd canlyniadau cyfrifiad 2011 fod sawl her yn wynebu’r iaith Gymraeg o hyd. Y weledigaeth gref hon, yng ngoleuni canlyniadau pryderus y cyfrifiad, oedd y sbardun y tu ôl i’r ymgynghoriad. Mae’r ymatebion grymus a dderbyniasom yn pwysleisio fod yr iaith Gymraeg yn haeddu bod yn flaenoriaeth wleidyddol a bod angen mesurau radical er mwyn sicrhau dyfodol i’r iaith. Caiff yr ymatebion eu crynhoi ac yna, gosodir allan flaenoriaethau polisi allweddol.

Papurau trafod

Mae ein dogfen ymgynghorol, Dyfodol yr Iaith Gymraeg, yn amlinellu’r ffaith y gall Llywodraeth Cymru, llywodraeth leol a chyrff eraill gymryd camau cadarnhaol i gefnogi’r iaith Gymraeg. Camau fel y rhain:

• Diwygio’r modd y dysgir ac y defnyddir y Gymraeg yn y sector addysg. Mae hyn yn cynnwys darpariaeth mewn colegau addysg bellach.

• Diwygio caffael y sector cyhoeddus, gan gymhwyso cymalau’r iaith Gymraeg fel cymalau cymdeithasol.

• Sicrhau bod cyfeiriad penodol at yr iaith Gymraeg yn y Bil Datblygu Cynaliadwy, a bod Comisiynydd yr Iaith Gymraeg fel aelod ex officio o’r corff datblygu cynaliadwy annibynnol arfaethedig.

• Gweithredu’r safonau o fesur yr iaith Gymraeg i gyflwyno gwir newid effeithiol, er enghraifft, trwy ofalu bod awdurdodau lleol yn hybu addysg a gwasanaethau Cymraeg ac yn darparu gweithgareddau hamdden trwy gyfrwng y Gymraeg.

• Rhoi cefnogaeth bellach i awdurdodau lleol ddod yn weithluoedd Cymraeg eu hiaith.

• Sefydlu coleg y gwasanaeth sifil yng Nghymru, gyda phwyslais cryf ar yr iaith Gymraeg fel sgil craidd.

• Sicrhau fod pawb a gyflogir gan Lywodraeth Cymru yn cael eu cefnogi i ddysgu’r iaith a’i defnyddio.

• Cefnogi’r alwad am ddatganoli darlledu i’r Cynulliad Cenedlaethol. • Archwilio gwaith y Mentrau Iaith, a sut y gellid eu trosi yn fentrau

cymdeithasol gyda chyfrifoldeb i wella’r economi lleol. • Buddsoddi mewn gofal plant fydd ar gael trwy gyfrwng y Gymraeg, a

buddsoddi mewn addysg oedolion.

I roi hwb pellach i’r sgwrs, cyhoeddwyd papur trafod arall gan ymgeisydd Plaid Cymru am y Cynulliad a’r cyn-AS, Adam Price, dan y teitl Arfor - rhanbarth i’r Gorllewin Cymraeg. Geilw’r papur hwn am greu ‘Bro Gymraeg’ yng Nghymru lle gall y defnydd organig o’r iaith ffynnu. Mae’n mynegi’r ffaith bod angen ‘tri pheth am strategaeth ranbarthol sydd yn adlewyrchu realiti ein daearyddiaeth ieithyddol’. Tri phrif syniad gan y papur:

4

1. Yr angen am strategaeth ranbarthol i’r Gorllewin Cymraeg; 2. Yr angen i greu haen ranbarthol o lywodraeth fel sail i’r strategaeth hon; 3. Yr angen i greu canolfannau trefol newydd yn y rhanbarthau fel canolfannau

twf economaidd a gweithgaredd cymdeithasol.

Mae’r naill bapur a’r llall yn pwysleisio pwysigrwydd datblygu cynaliadwy wrth hybu’r iaith Gymraeg yn ein cymunedau. Dadleuant mai’r unig ffordd o gael cymunedau cynaliadwy lle mae’r iaith Gymraeg yn cael ei defnyddio yn ddigymell ac yn ddyddiol yw i sicrhau bod yr iaith Gymraeg yn cael ei hystyried wrth wneud penderfyniadau am yr economi.

Fel y nodwyd cyn i’r ymgynghoriad ddechrau, nid ein bwriad oedd yn bleidiol wleidyddol nac yn blwyfol, ond cymryd rhan mewn ymgynghoriad fyddai’n rhoi gwell syniad i ni o farn pobl Cymru am yr hyn mae ar yr iaith Gymraeg ei hangen er mwyn ffynnu yn ein cymunedau.

Wrth ddarllen trwy’r ymatebion, daeth themâu cyffredin i’r amlwg; mae hyn wedi caniatáu strwythur thematig i’r crynodeb o ymatebion. Mae’r themâu yn sicr yn gyd-gysylltiedig ac yn effeithio ar ei gilydd.

Crynodeb o ymatebion

Mae’r ymatebion i’w cael yn bennaf mewn e-byst a anfonwyd at gyfeiriad ebost Plaid Cymru: [email protected]. Yr oedd rhai e-byst hefyd yn cyfeirio at erthyglau a phapurau ysgrifennwyd eisoes ar y pwnc, a chynhwysir y rhain yn y crynodeb.

1. Addysg a’r iaith Gymraeg

Mewn llawer o’r ymatebion, yr oedd pwyslais arbennig ar ddysgwyr y Gymraeg fel ail iaith yn dod yn rhugl mewn ysgolion cyfrwng Saesneg.

‘Nid yw’r Gymraeg fel ail iaith a ddysgir ar lefel TGAU yn helpu dysgwyr Cymraeg i ddod yn rhugl.’

‘Mae’r Gymraeg fel ail iaith yn ymdrechu yn aflwyddiannus i anelu at rugledd.’

Yr oedd rhai o’r ymatebion yn cynnig atebion i her dod yn rhugl yn wyneb poblogaeth o Gymry Cymraeg sy’n crebachu. Awgrymwyd modelau tramor o drochi mewn iaith:

‘Dylai Cymru gychwyn ar raglen o drochi (fel yng Nghanada). Mae’r rhaglenni hyn wedi arwain at ddwyieithrwydd ymysg 25 % o oedolion ifanc yng Nghanada (18-29 oed). Mae’r dysgu yn y rhaglenni hyn yn cael ei gyflwyno yn gyfan gwbl yn Ffrangeg, ac eithrio’r pwnc Saesneg ac ieithoedd.’

Gwnaed llawer sylw am fanteision dwyieithrwydd a throchi. Awgrymwyd y dylai addysg lefel sylfaen fod yn Gymraeg yn unig. Cyfeiriodd un ymateb at bapur ymchwil sy’n gwrthbrofi’r camsyniad fod addysg Gymraeg yn niweidiol i berfformiad disgyblion yn Saesneg fel pwnc:

‘Dangosodd yr ymchwil cyfredol yn ddigon clir nad oedd addysg ddwyieithog yng Nghymru yn effeithio’n negyddol ar alluoedd siaradwyr Saesneg L1 mewn Saesneg. Mewn gwirionedd, perfformiodd siaradwyr Saesneg dwyieithog L1 a’u cymheiriaid uniaith Saesneg cystal ar fesuriadau geirfa a sgiliau darllen Saesneg, ar waetha’r ffaith

5

fod siaradwyr Saesneg dwyieithog L1 yn mynychu ysgolion lle’r oedd y Gymraeg yn brif iaith dysgu.’1

Cyfeiriwyd mewn rhai ymatebion at y ffaith fod disgyblion sy’n ddwyieithog yn gwneud yn well na’u cymheiriaid uniaith mewn meysydd ar wahân i ieithoedd.

‘Mae disgyblion sydd wedi ymrestru ar raglenni trochi yn dangos sgiliau academaidd uwch na’r rhai nad ydynt ar y rhaglenni hyn.’

Cefnogwyd y gosodiad hwn gan bapur arall y cyfeiriwyd ni ato mewn ymateb:

‘Mae cysylltiad rhwng amlieithrwydd a chreadigrwydd.

• Mae amlieithrwydd yn ehangu mynediad at wybodaeth

• Mae amlieithrwydd yn cynnig ffyrdd eraill o drefnu meddyliau

• Mae amlieithrwydd yn cynnig ffyrdd eraill o amgyffred y byd o’ch cwmpas

• Mae dysgu iaith newydd yn cynyddu’r potensial am feddwl yn greadigol.’2

Awgrymodd athrawon fod ‘niferoedd helaeth o ddisgyblion yn gyndyn ynghylch yr iaith’. Cefnogir hyn gan ystadegau CBAC ar y lleihad yn nifer y disgyblion sy’n parhau gyda’r Gymraeg at lefel A.3

Awgrymodd rhai ymatebion ffyrdd o fynd i’r afael â’r difrawder hwn. Awgrymodd un ymateb newid i’r cwricwlwm, gan bledio’r achos dros ‘well canolbwynt ar hanes Cymru yn fras.’ Gwnaed y pwynt hefyd fod gorfodi disgyblion i ddysgu Cymraeg yn magu drwgdeimlad.

Cyfeiriodd un ymateb at y ffaith fod ymchwil yn cael ei wneud i dechnoleg a’r iaith Gymraeg ac y gallai’r maes newydd hwn fod yn fodd i ysbrydoli’r genhedlaeth newydd. 4 Amlinellodd ymateb arall sut y mae angen cysylltu’r Gymraeg â gwasanaethau a gweithgareddau dymunol.

Nododd un ymatebydd fod angen gwneud mwy i annog oedolion i ddysgu. Awgrymodd un arall fod llawer oedolyn o ddysgwr yn methu cynnal yr ymrwymiad ac felly y dylai unrhyw rwystrau gael eu symud; sy’n golygu fod angen talu am gyrsiau Cymraeg o’r pwrs cyhoeddus.

Awgrym arall a gafwyd oedd ein bod yn cyfuno’r Coleg Cymraeg a’r mudiad meithrin - fyddai’n caniatáu i rieni ddysgu trwy’r system honno. Dywedodd yr un ymatebydd fod angen ffurfioli meithrinfeydd annibynnol sy’n honni eu bod yn ddwyieithog. Awgrym arall ar yr un trywydd oedd ein bod yn ehangu addysg Gymraeg ac yn gwella cysondeb iaith o feithrinfa i brifysgol.

Amlinellir mewn ymateb arall fod angen i addysg cyfrwng Cymraeg ddatblygu ffordd o rannu adnoddau gyda chymdeithasau a chymunedau Cymraeg. Gellid eu cysylltu â sefydliadau cenedlaethol Cymraeg megis S4C, Radio Cymru, yr Eisteddfod, Coleg Cymraeg Cenedlaethol etc.

1 Rhys, Mirain a Thomas, Enlli Môn (2012). ‘Bilingual Welsh–English children's acquisition of vocabulary and reading: implications for bilingual education’, International Journal of Bilingual Education and Bilingualism http://dx.doi.org/10.1080/13670050.2012.706248 2http://eacea.ec.europa.eu/llp/studies/documents/study_on_the_contribution_of_multilingualism_to_creativity/compendium_part_1_en.pdf 3 http://www.jcq.org.uk/Download/examination-results/a-levels/a-as-and-aea-results-summer-2013 4 Evas, Jeremy (2013). Y Gymraeg mewn Oes Ddigidol/The Welsh language in the Digital Age, Meta-net: http://www.meta-net.eu/whitepapers/e-book/welsh.pdf  

6

Yr oedd trochi yn chwarae rôl bwysig yn y rhan fwyaf o ymatebion oedd yn cyfeirio at addysg fel llwyfan i’r iaith Gymraeg ffynnu ohono. Oherwydd y dystiolaeth helaeth yn amlinellu sut y gall dwyieithrwydd wella datblygiad gwybyddol, yr oedd yr ymatebion yn unfryd o blaid cyflwyno addysg gynradd yn 100% cyfrwng-Cymraeg. Os ydym am annog cenhedlaeth newydd i anfon eu plant i ysgolion cyfrwng-Cymraeg, roedd consensws fod yn rhaid i ni eu hysbrydoli i wneud hynny. Byddai cyrsiau Cymraeg i Oedolion wedi eu cyllido gan arian cyhoeddus yn un ffordd o’u hysbrydoli i wneud hynny.

2. Yr economi a’r iaith Gymraeg

Un o’r prif negeseuon yn y papur am y sgwrs oedd y byddai llywodraeth Plaid Cymru yn 2016 yn ystyried yr oblygiadau i’r iaith Gymraeg o ddefnyddio mecanweithiau polisi ar draws amrywiaeth o feysydd polisi. Mae’r economi yn annatod ynghlwm â phob agwedd o gynaliadwyedd, ac fel y nododd llawer ymateb, bydd mesurau yn ymwneud a’r economi o raid yn effeithio ar dwf yr iaith Gymraeg. Heb economi llwyddiannus a heb gymunedau lleol ffyniannus, fe fydd prinder swyddi a gobeithion fyddai’n anorfod yn arwain at Gymry Cymraeg yn symud o’r ardal. Mae un ymatebydd yn pwysleisio pa mor arbennig o wir yw hyn am ardaloedd gwledig Cymreig. Mae datganiad mewn ymateb arall yn cwestiynu hyn trwy ddweud mai:

‘Ofer yw dychmygu fod modd cwrdd â’r dyheadau hyn am yrfaoedd o fewn “cymunedau lleol” pobl ifanc. Mae angen i ni feddwl ar lefel ranbarthol a chenedlaethol, yn hytrach na dim ond y lleol.’

Aiff yr ymateb ymlaen i ddweud nad yw’n realistig disgwyl i bawb ifanc fod eisiau aros yng nghynefin eu plentyndod. Yr unig ffordd o frwydro yn erbyn twf deinamig de-ddwyrain Lloegr yw gweithredu i wella’r economi a chreu swyddfa ar raddfa genedlaethol. Yr her fwyaf yw ceisio asio polisïau am dwf economaidd gydag ymdrechion i gyfyngu twf er lles yr iaith. Mae twf economaidd yn mynd law yn llaw â newid cymdeithasol; mae’n tarfu ar batrymau traddodiadol byw. Mae un ymateb yn cyfleu’r angen i fynd i’r afael â’r gwrthwynebiad mwyaf i’r iaith Gymraeg - y gost. Awgryma’r ymatebydd hwn welliant i Ddeddf yr Iaith Gymraeg fydd yn rhoi ymrwymiad cyfreithiol ar bob awdurdod lleol i ddarparu’r dewis am ohebiaeth a llenyddiaeth ysgrifenedig - ond yn unig yn newis iaith yr unigolyn. Awgrymwyd defnyddio gohebiaeth electronig lle bynnag y bo modd. Unwaith eto, mae ymatebydd yn annog llywodraeth y dyfodol i gryfhau’r economi er mwyn sicrhau fod digon o swyddi yn y cymunedau Gymraeg. Y ddadl yw y byddai cynyddu’r defnydd o’r Gymraeg yn y gweithle trwy ofalu bod cyrff y sector cyhoeddus yn defnyddio mwy o’r iaith yn eu gweinyddu mewnol yn helpu’r Gymraeg i ffynnu. Mae un ymatebydd yn ymchwilio i’r syniad o fod angen rhoi mwy o bwyslais ar fusnesau’r sector preifat yn cynnal eu busnes beunyddiol yn Gymraeg. Cydnabyddir y byddai cynyddu nifer yr awdurdodau lleol sy’n gweithredu’n fewnol trwy gyfrwng y Gymraeg o les i’r iaith; felly hefyd y cynnig i sefydlu coleg gwasanaeth sifil yng Nghymru gyda phwyslais cryf ar yr iaith Gymraeg fel sgil craidd. Fodd bynnag, awgrymir fod angen gwneud mwy i annog entrepreneuriaeth Gymreig a defnyddio’r iaith Gymraeg yn y sector preifat. Mae ymateb arall yn adleisio hyn trwy amlinellu’r angen am bolisi dwysach sy’n canolbwyntio ar y Gymraeg yn y sector preifat a’r trydydd sector.

7

Codwyd un pwynt ynghylch y gwrthdaro rhwng creu swyddi a chynnal y dosbarth gweithiol, ac ochri gyda mesurau i warchod yr amgylchedd. Awgrymwyd fod gwrthwynebu gwir gyfleoedd am waith, megis cynlluniau ffyrdd, sydd yn denu busnesau mewn gwirionedd yn niweidiol i economi ein cymunedau. Gellir dadlau fod gwrthwynebu cyfleoedd fel y rhain yn effeithio’n negyddol ar yr iaith Gymraeg. Dywed dadl arall a roddwyd mewn ymateb

‘y byddai’n drychinebus pe gwelid hybu’r iaith Gymraeg fel rhywbeth sy’n groes i ddatblygiad a newid, sydd mor hanfodol i drawsnewid Cymru yn economaidd, ac sy’n angenrheidiol yn eu tro i ddarparu ystod eang o gyfleoedd am yrfaoedd o safon i’n holl bobl ifanc, gan gynnwys siaradwyr Cymraeg.’

Mae caffael yn cael ei grybwyll fel maes lle gellid gwneud mwy dros yr iaith Gymraeg yn ‘Dyfodol yr Iaith Gymraeg’ ac yn ‘Arfor’ fel ei gilydd. Fodd bynnag, honna un ymateb fod angen i’r papur roi mwy o sylw i’r berthynas rhwng yr iaith Gymraeg a chaffael. Mae hyn, wrth gwrs, yn cysylltu â chanolbwyntio ar wella’r gefnogaeth sydd ar gael i fusnesau Cymraeg eu hiaith yn y trydydd sector. I grynhoi, dengys yr ymatebion, er mwyn i’r iaith Gymraeg ffynnu, fod angen i fesurau i wella’r economi fod ar frig ein hagenda. Mae’n cael ei gydnabod y gall datblygiadau economaidd newid deinameg ein cymunedau Cymraeg, ond ar y cyfan, mae ffyniant economaidd yn cael ei gysylltu â chadw’r boblogaeth ifanc yng Nghymru ac y dylid felly ei ystyried yn beth cadarnhaol. Ni ddylai polisïau sy’n hybu’r iaith fod yn niweidiol i’n heconomi.

3. Cymunedau Cymraeg eu hiaith

Yn dilyn ymlaen o’r angen i wella hyder pobl ifanc yn eu gallu i ddefnyddio’r Gymraeg, mae ymatebydd yn mynegi’r angen i ‘ddarparu cyfleoedd cymdeithasol i blant a phobl ifanc ddefnyddio’r iaith y tu allan i’r ystafell ddosbarth’. Yr oedd papur Adam Price ‘Arfor’ yn ganolog i lawer o sylwadau a dderbyniwyd gennym.

‘Mae’r sylwadau yn gryf, y weledigaeth yn gyffrous, a’r cyfeiriadau byd-eang, hanesyddol a chymdeithasol -economaidd yn drawiadol.’

Mae un ymatebydd yn benodol yn pryderu y gall fod yn rhy hwyr i sefydlu ‘Bro Gymraeg’. Os felly, mae am wybod beth yw ein dewis amgen:

‘A yw’n rhy hwyr i sefydlu gwir ‘Fro Gymraeg’? Beth fyddai gennym yn gefn i ni petai hyn yn wir? Ail-ddiffinio’r ‘Fro Gymraeg’ neu hybu bodolaeth rhwydwaith neu sefydliad iaith, neu roi’r ffidil yn y to?’

Mae mater rhanbartholi’r iaith Gymraeg yn destun craffu yn yr ymateb hwn, ‘rhaid i ni fynnu bod y Gymraeg yn iaith genedlaethol.’ Fodd bynnag, gwneir y pwynt fod

‘Arfor yn uned llywodraeth leol gyda gwell cysylltiadau i hybu symud rhwng de a gogledd. Mae hefyd yn adweithio yn erbyn y syniad gwenwynig o Ogledd a De Cymru trefedigaethol. Mae chwythu anadl einioes i’r Gorllewin yn hanfodol er mwyn y prosiect cenedlaethol. Rhaid i’r Dwyrain droi tuag at y Gorllewin yn hytrach na thuag at Loegr.

8

Dywed yr ymateb ymhellach, fel y crybwyllwyd yn ‘Arfor’ fod,

‘datblygu syniadau Arddel 5 (a reolir gan Cwmni Iaith) yn elfen angenrheidiol i gefnogi strategaeth y ‘Fro Gymraeg’.’ Bydd yn her ennyn cefnogaeth ddemocrataidd i sefydlu Arfor fel ‘Bro Gymraeg’, ac i wneud y Gymraeg yn brif iaith gweinyddiaeth gyhoeddus. Mae angen ystyried beth fydd yn digwydd i ‘Loegr Fach’ De Penfro. Rhaid hefyd ystyried grym deallusol a gwleidyddol academyddion prifysgol a charfannau elite eraill di-Gymraeg. Sut y mae mynd ati i greu economi goludog all gynnal y patrwm newydd hwn?’

Mae ymateb i’r gwrthwyneb yn awgrymu ‘fod angen i ni roi’r gorau i’r syniad o “ardaloedd Cymraeg traddodiadol”’. Dywed yr ymatebydd ‘fod angen i’r iaith Gymraeg fod yn broses genedlaethol ar hyd a lled Cymru’. Dywedir mai’r ‘allwedd i strategaeth o’r fath yw i siaradwyr Cymraeg ffurfio rhwydweithiau cymdeithasol’. Dywed yr ymatebydd hwn hefyd y bydd angen i’r rhwydweithiau cymdeithasol hyn fagu eu momentwm eu hunain, yn lle dibynnu’n gyson ar gefnogaeth llywodraeth. Aiff yr ymatebydd yn ei flaen i ddweud y dylid cysylltu addysg cyfrwng-Cymraeg ag amrywiaeth eang o weithgareddau cymdeithasol, diwylliannol a chymunedol. Yr oedd rhai ymatebion yn codi pwyntiau am gynlluniau a thai. Dywed un fod yn rhaid i ni

‘sicrhau yr ystyrir yr effaith ar yr iaith Gymraeg mewn materion cynllunio; sicrhau fod cartrefi fforddiadwy ar gael i deuluoedd yng nghefn gwlad.’

Ar y llaw arall, mae ymateb arall yn dweud mai

‘haws dweud na gwneud yw clymu polisi wrth amddiffyn cymunedau a phatrymau ieithyddol sy’n bodoli eisoes a gall esgor ar ganlyniadau nas bwriadwyd.’

Ymhellach,

‘mae angen ystyried cyflenwad tai, fforddiadwyedd, perygl gor-ddatblygu a’i effaith bosib ar ein hunaniaeth genedlaethol yn eu hawl eu hunain, nid fel materion iaith yn unig.’

Yn hytrach na chreu dinasoedd newydd fel canolfannau i’r iaith Gymraeg, dywed un ymateb ‘fod angen talu mwy o sylw i ddinasoedd allweddol sy’n bod eisoes yng Nghymru - Pontypridd, Caerfyrddin, Dinbych a Chaernarfon.’ Mae’n pwysleisio ‘fod angen chwistrellu adnoddau i ddinasoedd sydd yno eisoes cyn creu rhai newydd. Daeth dwy thema wrthgyferbyniol o’r ymatebion sy’n cyfeirio at gymunedau Cymraeg. Yr oedd un yn cytuno gyda syniad Adam Price o ddiogelu ‘Bro Gymraeg’, a’r llall yn mynnu y dylai’r iaith Gymraeg fod yn iaith i’r genedl gyfan, ac mai’r un ffordd o gystadlu yn economaidd gyda de-ddwyrain Prydain yw wrth i ni gael ein hystyried fel Cymru gyfan.

4. Agweddau tuag at y Gymraeg

Trafodwyd y seicoleg ynghylch yr iaith Gymraeg mewn dau ymateb. Dywed y cyntaf

5 http://www.arddel.org/

9

‘nad biwrocratiaeth yw’r ffactor pwysicaf yn adfywio iaith – mater yw o newid meddylfryd pobl yn yr un modd ag yr awgrymir yn Ynys Manaw.’6

Aiff yr ymatebydd ymlaen i ddweud fod:

‘angen i Blaid Cymru adweithio yn erbyn negyddiaeth Llafur tuag at yr iaith Gymraeg. Rhaid iddi wrthdroi’r camsynied fod y Gymraeg yn iaith i’r elite yn unig’ .

Mae’r ymatebydd wedyn yn awgrymu ffyrdd o wrthdroi’r cynodiadau negyddol:

‘Dylai’r cyfryngau fod y tu ôl i’r iaith Gymraeg. Ni ddylai neb gyfeirio at y Gymraeg fel iaith ‘anodd’ – nid yw fymryn yn fwy anodd nac unrhyw iaith arall’.

Mae’r ail ymateb yn tynnu ein sylw at y ffaith fod angen rhoi mwy o sylw i bobl ifanc sy’n gadael yr ysgol. Mae eu defnydd o’r Gymraeg yn ‘disgyn yn rhyfeddol’ unwaith iddynt adael yr ysgol, ac o ganlyniad, maent yn colli’r hyder yn eu gallu i’w siarad. Honna’r ymateb:

‘Fod diffyg hyder cyffredinol mewn defnyddio’r Gymraeg ymysg pobl ifanc – mae darparu digon o ddeunydd darllen Cymraeg a chyfleoedd i sgwrsio yn Gymraeg yn naturiol yn hanfodol yma. Rhaid i hyn fod yn flaenoriaeth.’

Esbonia un ymatebydd ei bod yn hanfodol ein bod yn cysylltu’r iaith Gymraeg a balchder cenedlaethol a datblygiad y genedl.

Yn ôl yr ymatebion, mae diffyg hyder a’r cynodiadau negyddol am y Gymraeg yn themâu canolog i’r materion ynghylch canlyniadau cyfrifiad 2011.

5. Trosglwyddo’r iaith Gymraeg

Honnir yn un ymateb fod y defnydd o’r Gymraeg y tu allan i addysg yn hanfodol i frwydr yr iaith. Fe ddylem ‘wella trosglwyddo’r iaith yn y cartref a chynyddu’r defnydd o Gymraeg mewn teuluoedd’. Dywed un arall y dylai ‘trosglwyddo’r iaith o rieni i blant yn faes buddsoddi allweddol.’

6. Dadansoddi Cyfrifiad 2011

Cyn mynd ymlaen i grynhoi’r awgrymiadau a wnaed ynghylch sut i wella canlyniadau siomedig cyfrifiad 2011, mae dau ymateb wedi galw am ddadansoddiad mwy gofalus o’r canlyniadau.

Mae’r ymateb cyntaf yn anghytuno ynghylch rhai o ganfyddiadau cyfrifiad 2011, gan awgrymu fod barn rhieni am beth yw’r gallu i siarad Cymraeg yn oddrychol iawn, felly ar waethaf y ffaith y gall fod awydd i hyn fod yn wir yn achos eu plant, yn aml iawn, nid yw’n ddarlun cywir o’r sefyllfa. Dywed yr ymateb, serch hynny, mai cynyddu y mae’r galw am addysg Gymraeg a bod canran y siaradwyr Cymraeg ifanc gwirioneddol yn uwch o lawer na’r canran am bob oedran. Yna dywed fod hyn yn awgrymu ‘y gall rhywun ragweld twf gwirioneddol yn y blynyddoedd i ddod.’ Yna dywed yr ymateb na chafodd y rhai sydd ddim yn ddigon hyderus yn eu sgiliau iaith i

6  http://www.bbc.co.uk/news/magazine-21242667.  

10

honni eu bod yn medru’r iaith eu cyfri, gan awgrymu nad yw’r ffigyrau yn ddibynadwy.

Mae’r ail ymateb yn cyfeirio at seminar ar ‘Sut i Ddehongli’r Cyfrifiad’ gan gynllunwyr iaith dan nawdd Iaith Cyf. Awgrymwyd yn y seminar fod canlyniadau 2001 yn or-optimistaidd, a thrwy gymharu canlyniadau 1991 a 2011, heb ystyried canlyniadau 2001, fod cynnydd bychan - hyn gyda phoblogaeth yn cynyddu oherwydd mewnfudo. Arweiniodd hyn at drafodaeth yn ystod y seminar ar yr angen i bolisi iaith gael sylfaen o ymchwil cadarnach o lawer i natur tra newidiol ‘cymuned’ yng Nghymru ôl-fodern.

7. Cymraeg fel ‘priod’ 7 iaith Cymru

Awgryma un ymateb manwl y dylai’r Gymraeg ddod yn ‘briod’ iaith Cymru, fel y Gatalaneg yng Nghatalonia a’r Fasgeg yng Ngwlad y Basg. Dadleua’r ymateb fod cynseiliau yng nghyfreithiau Prydain fyddai’n caniatáu i egwyddor ‘priod’ iaith i Gymru fodoli trwy sianeli cyfreithiol Prydeinig cynhenid.

Yn ôl yr ymateb, byddai rhoi statws ‘priod’ iaith i’r Gymraeg yn hwyluso

‘sefydlu coleg gwasanaeth sifil gyda’r pwyslais ar bwysigrwydd y Gymraeg fel sgil craidd.’ Byddai hefyd yn helpu’r broses o sicrhau fod pawb a gyflogir gan y llywodraeth yn cael eu cefnogi i ddysgu a defnyddio’r Gymraeg.’

Byddai’r statws ‘priod’ hwn hefyd yn hwyluso’r defnydd effeithiol o Ddeddf yr Iaith Gymraeg, er enghraifft, trwy ofalu bod awdurdodau lleol yn hybu addysg Gymraeg a gweithgareddau hamdden trwy’r Gymraeg. Ymhellach, dylid annog awdurdodau lleol i ddod yn weithleoedd Cymraeg. Mae angen i’r Gymraeg gael ei dysgu yn wahanol yn y sector addysg gan gynnwys y modd y’i dysgir mewn Colegau Addysg Bellach.

‘Byddai sefydlu’r Gymraeg fel ‘priod’ iaith Cymru mewn dogfennau a phrosesau cyfansoddiadol yn y dyfodol yn sbarduno ac yn uno nifer cynyddol o feysydd polisi, a byddai’n hwyluso gwaith perswadio a lobio. Byddai’n symbylu ystod o bolisïau mewn amrywiaeth o diriogaethau lle mae’r Gymraeg ar ei chryfaf, gyda’r bwriad o gryfhau hawliau iaith dinasyddion o bob cwr o Gymru. Mae angen i ni fod yn fwy creadigol wrth gydnabod a dathlu tueddiadau lluosog iaith. Byddai egwyddor ‘priod’ iaith yn fodd diamwys o feithrin sefyllfa’r Gymraeg mewn addysg a gofalu bod y Gymraeg wrth galon gweinyddiaeth gyhoeddus yng Nghymru.’

8. Yr iaith Gymraeg a’r gyllideb

Nododd Cynhadledd Hydref 2013 y papur trafod a gyhoeddwyd gan Fudiadau Dathlu’r Gymraeg i glustnodi 1% o gyllideb wariant y Cynulliad i gefnogi a i hyrwyddo defnydd yr iaith Gymraeg. Mae Mudiadiadau Dathlu’r Gymraeg yn galw am ganolbwyntio’r gyllideb arfaethedig newydd hon ar y canlynol:

(i) Trosglwyddo’r iaith o rieni i’w plant;

(ii) Defnyddio’r iaith Gymraeg gan blant yn yr ysgol ac yn gymdeithasol;

7 mae elfen o berthyn, manylebu, priodolrwydd neu addasrwydd yn gysylltiedig â’r gair ‘priod’. Trwy ymestyn hyn, fe awgryma hefyd fod priod iaith yn golygu fod perthynas rhwng natur swyddogol iaith a thiriogaeth benodol. Ymhlyg yn y term hefyd yw fod blaenoriaeth i un iaith dros y llall mewn tiriogaeth lle mae mwy nag un iaith swyddogol yn bodoli. Carlin, P. (2013). ‘Priod Iaith’, yn Pa Beth yr Aethoch Allan i’w Achub? gol. Brooks, S a Glyn Roberts, R. Gwasg Carreg Gwalch: Llanrwst

11

(iii) Cyfleoedd i bobl ifanc ddefnyddio’r Gymraeg ar ôl gadael yr ysgol;

(iv) Cyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg yn y gweithle a chreu cyfleoedd newydd am waith.8

Crynodeb o Awgrymiadau Gweler isod grynodeb o’r awgrymiadau a derbyniwyd. 1. Addysg

1.1. Cyflwyno rhaglenni trochi i’r rhai nad ydynt yn siarad Cymraeg ar draws

ysgolion yng Nghymru - Nid yw Cymraeg Ail Iaith yn rhoi i ddisgyblion y sgiliau y mae arnynt

eu hangen i ddod yn siaradwyr Cymraeg rhugl. - Profwyd fod rhaglenni trochi yn gweithio. Un enghraifft yw’r Ganolfan

Iaith yng Ngwynedd lle mae hwyrddyfodiaid yn mynychu cyrsiau trochi llawn-amser (bob diwrnod am 10 wythnos) cyn integreiddio i addysg cyfrwng-Cymraeg prif-ffrwd.

- Byddwn felly yn ymchwilio i bosibilrwydd cyflwyno rhaglenni trochi ledled Cymru o ran costau, staffio a ffactorau eraill.

- Fel man cychwyn buasem yn sicrhau fod ysgolion dwy-ffrwd yn cynnig cwrs trochi i ddisgyblion sy’n dewis ffrwd Saesneg yng Nghyfnod Allweddol 2 i roi cyfle iddynt barhau gydag addysg cyfrwng-Cymraeg yn yr ysgol uwchradd.

1.2. Addysg Gymraeg yn unig yn y Cyfnod Sylfaen - Mae dwyieithrwydd yn sgil gwerthfawr ac y mae o les i ddatblygiad

gwybyddol plant. Mae pob plentyn yn haeddu’r cyfle i ddod yn ddwyieithog.

- Mae Plaid Cymru wedi gosod targed o Gyfnod Sylfaen cyfrwng-Cymraeg llawn ymhen 20 mlynedd.

- Ein nod yw sicrhau ymhen deng mlynedd fod 50% o ysgolion cynradd Saesneg yn defnyddio’r Gymraeg fel prif gyfrwng yn y Cyfnod Sylfaen a’u bod yn gwneud darpariaeth ar gyfer parhad ieithyddol yng Nghyfnod Allweddol 2.

- Buasem yn sicrhau fod targed pellach yn cael ei osod wedi deng mlynedd er mwyn gwneud yn si�r fod gweddill yr ysgolion cynradd Saesneg yn dilyn yr un patrwm.

1.3. Pob ysgol gynradd i fod yn gyfrwng Cymraeg - Un o amcanion y Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg yw annog

cynnydd ieithyddol cadarn o un cyfnod addysg a hyfforddiant i’r llall. Ar hyn o bryd, mae gormod o ddisgyblion sydd wedi derbyn addysg Gymraeg yn cael eu colli o un cyfnod addysg i’r nesaf.

- Mae angen sicrhau fod cynnydd ieithyddol ar gael i’r disgyblion fu mewn Cyfnod Sylfaen hollol gyfrwng-Cymraeg.

8 Papur Trafod ar Ddatblygu’r Iaith Gymraeg (http://www.dathlu.org/?p=536&lang=en)

12

- Buasem yn sefydlu cynllun clir i droi ysgolion cynradd dwy-ffrwd presennol a’r rhai a sefydlir yn y dyfodol yn ysgolion Cymraeg.

1.4. Newid y cwricwlwm i roi ffocws o’r newydd ar hanes Cymru yn fras

1.5. Gwersi Cymraeg i ddisgyblion 11-14 oed i ganoli mwy ar Gymru - Mae’r adroddiad diweddar ar y Cwricwlwm Cymreig fydd yn bwydo i

mewn i adolygiad Llywodraeth Cymru o’r Cwricwlwm Cenedlaethol yn dadlau am ganolbwyntio o’r newydd ar Gymru trwy’r Cwricwlwm Cenedlaethol cyfan.

- Mae Plaid Cymru yn cefnogi’r argymhellion a wneir yn yr adroddiad ac yn gobeithio y cânt eu gweithredu yn llawn.

- Byddai llywodraeth Plaid Cymru yn sicrhau fod pob agwedd o’r Cwricwlwm Cenedlaethol wedi eu teilwra i’w gwneud yn berthnasol i Gymru a’r byd. Byddai hyn yn galluogi disgyblion i ddeall perthnasedd yr iaith Gymraeg.

1.6. Cyllido cyrsiau Cymraeg i Oedolion yn gyhoeddus - Ar hyn o bryd y mae llawer o rwystrau i ddysgwyr ddilyn cyrsiau

Cymraeg i Oedolion, gyda llawer o ddysgwyr sydd yn mynd ar gyrsiau yn eu gadael rhwng un lefel a’r nesaf

- Mae cymhellion hefyd i’r sawl sy’n cymryd y cyrsiau hyn, fel gallu sgwrsio yn Gymraeg â phlant sydd yn mynychu ysgolion cyfrwng-Cymraeg, gallu siarad Cymraeg fel rhan o gymuned Gymraeg ei hiaith, ac ennill sgil ychwanegol i’w ddefnyddio yn y gweithle.

- Byddai cyrsiau wedi eu cyllido yn gyhoeddus yn ymdrin ag un rhwystr. Ar y cyd ag argymhelliad 7 i wario 1% o gyllideb y Cynulliad i gefnogi a hyrwyddo’r iaith Gymraeg, gellid defnyddio mwy o’r gyllideb i dalu am gyrsiau Cymraeg i Oedolion. Byddwn yn ymchwilio i hyn.

- Fodd bynnag, byddai rhwystrau eraill yno o hyd. Un o’r rhwystrau hyn yw diffyg amser i weithwyr amser-llawn.

- Mae angen mwy o hyblygrwydd felly mewn cyrsiau Cymraeg i Oedolion. Buasem yn edrych i weld sut i wneud cyrsiau yn fwy hyblyg, er enghraifft, trwy ddefnyddio technoleg, modiwlau byrion, etc.

- Buasem yn ymchwilio hefyd i’r rhesymau eraill pam nad yw pobl yn cymryd cyrsiau Cymraeg i Oedolion ac yn gadael cyrsiau, ac yn edrych i weld beth y gellid ei wneud i ymdrin â hyn.

1.7. Defnyddio technoleg i wneud gwersi Cymraeg yn fwy perthnasol - Mae technoleg yn cael ei ddefnyddio’n gynyddol mewn addysg; un

esiampl yw defnyddio tabledi i wella sgiliau llythrennedd disgyblion. - Defnyddir technoleg hefyd i ddysgu o bell, yn enwedig er mwyn

rhannu adnoddau rhwng sefydliadau addysg.

1.8. Datblygu dull o rannu adnoddau rhwng addysg cyfrwng Cymraeg a sefydliadau Cymraeg fel S4C, Radio Cymru, yr Eisteddfod, Coleg Cymraeg Cenedlaethol etc.

13

- Un ffordd o rannu adnoddau rhwng addysg cyfrwng Cymraeg a sefydliadau Cymraeg yw darparu clybiau wedi’r ysgol a gwyliau, a rhaglenni cyfoethogi.

1.9. Cysylltu’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol gyda gofal plant / addysg blynyddoedd cynnar fel y gall rhieni ddysgu Cymraeg.

1.10. Ffurfioli’r system o bennu a yw gofal plant / addysg blynyddoedd cynnar yn gyfrwng Cymraeg, cyfrwng Saesneg neu ddwyieithog.

1.11. Gwella cysondeb iaith o’r cyfnod meithrin i’r brifysgol - Mae angen i bolisi gofal plant gael ei asio â pholisi addysg cyfrwng

Cymraeg. Dylai’r un gyfran o blant sy’n mynychu ysgolion cynradd cyfrwng-Cymraeg allu cyrchu a defnyddio cyfleusterau gofal plant cyfrwng-Cymraeg.

- Byddai ffurfioli’r system o bennu a yw cyfleuster gofal plant yn gyfrwng Cymraeg, dwyieithog neu gyfrwng Saesneg yn helpu i wneud y system yn haws ei deall a hefyd yn helpu i fonitro cynnydd iaith.

- Gall rhaglenni rhieni wedi’u cysylltu ag addysg blynyddoedd cynnar fod yn gymhelliad i rieni ddysgu Cymraeg. Gallai hyn alluogi rhieni i siarad Cymraeg â’u plant o oedran cynnar a chymell mwy o rieni i anfon eu plant i ysgolion Cymraeg.

- Ar hyn o bryd mae gan y rhaglen Cymraeg i Oedolion gyrsiau Cymraeg i’r Teulu wedi eu targedu at deuluoedd gyda phlant dan 7 oed.

- Gallai’r rhain gael eu datblygu a’u targedu at bob rhiant di-Gymraeg y mae eu plant yn mynychu gofal plant/cyfleusterau addysg blynyddoedd cynnar cyfrwng-Cymraeg neu ddwyieithog.

2. Economi

2.1. Mae angen agwedd ranbarthol a chenedlaethol i alluogi ateb dyheadau pobl ifanc am yrfa; ni ellir ei adael i gymunedau lleol yn unig

- Mae adroddiad a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru wedi argymell fod y Llywodraeth yn hybu datblygu Bangor, Aberystwyth a Chaerfyrddin fel dinas-ranbarthau.

- Gallai agwedd ranbarthol felly hwyluso creu cyfleoedd economaidd a swyddi yn y cadarnleoedd Cymraeg.

- Byddwn yn edrych ar ddewisiadau gwahanol am agwedd ranbarthol gan glymu hyn a hybu’r iaith Gymraeg a thyfu’r economi.

2.2. Cynyddu’r defnydd o’r Gymraeg yn y gweithle trwy annog cyrff y sector cyhoeddus i ddefnyddio’r Gymraeg yn eu gweinyddiaeth fewnol

- Mae Cyngor Gwynedd yn gweinyddu’n fewnol trwy’r Gymraeg a dylid annog cynghorau eraill yn yr ardaloedd lle siaredir Cymraeg yn y gymuned gan fwyafrif, neu bron i fwyafrif, i ddilyn y patrwm hwn.

- Dylid annog cyrff eraill y sector cyhoeddus fel y parciau cenedlaethol i wneud hynny.

14

- Dylai cyrff cyhoeddus mewn rhanbarthau eraill hefyd gael eu hannog i wneud peth gweinyddu mewnol trwy gyfrwng y Gymraeg.

- Byddwn yn edrych i mewn i ffyrdd o annog a chymell cyrff cyhoeddus i ddefnyddio’r Gymraeg fel cyfrwng gweinyddu mewnol.

2.3. Sefydlu coleg gwasanaeth sifil gyda phwyslais cryf ar yr iaith Gymraeg fel sgil craidd

- Byddai coleg gwasanaeth sifil yn galluogi creu gweision sifil gyda dealltwriaeth gref o faterion Cymreig, yn ogystal â gweision sifil gyda sgiliau iaith Gymraeg.

- Byddai felly o les i bobl Cymru a’i sefydliadau cyhoeddus yn ogystal â chreu cyfleoedd am swyddi i siaradwyr Cymraeg.

- Byddem yn ymchwilio i bosibilrwydd sefydlu coleg gwasanaeth sifil gan gynnwys y gost ac a oes gennym y pwerau i wneud hynny.

2.4. Mynnu polisi dwysach ar yr iaith Gymraeg yn y sector preifat a’r trydydd sector

- Byddwn yn edrych i weld beth mae modd ei wneud trwy ddefnyddio’r dulliau a’r ddeddfwriaeth bresennol ac a yw deddfwriaeth bellach yn angenrheidiol a/neu yn ddymunol.

- Gallai ymchwil pellach edrych i weld ai deddfwriaeth neu gymhellion yw’r dull mwyaf effeithiol o gynyddu’r defnydd o’r iaith Gymraeg wrth ddarparu gwasanaethau yn y sector preifat a’r trydydd sector.

2.5. Mabwysiadu rôl fwy gweithredol i’r iaith ym maes caffael - Byddwn yn ymchwilio i weld beth mae modd ei wneud trwy

ddefnyddio’r dulliau a’r ddeddfwriaeth bresennol ac a yw deddfwriaeth bellach yn angenrheidiol a/neu yn ddymunol.

3. Cymunedau

3.1. Darparu cyfleoedd cymdeithasol i blant a phobl ifanc ddefnyddio’r iaith y tu allan i’r ystafell ddosbarth

- Gellid cysylltu hyn ag argymhelliad 1.8 gyda mudiadau Cymraeg sy’n darparu rhaglenni a chlybiau ôl-ysgol a gwyliau.

3.2. Mabwysiadu strategaeth ‘Bro Gymraeg’.

3.3. Chwistrellu adnoddau i gymunedau Cymraeg presennol cryf megis Pontypridd, Dinbych, Caerfyrddin a Chaernarfon

- Mae’r economi a’r iaith Gymraeg yn gydgysylltiedig a bydd pobl ifanc yn gadael y Fro Gymraeg oni fydd ganddynt gyfleoedd addas am waith.

- Fel y dywedwyd yn argymhelliad 2.1 byddwn yn edrych ar y gwahanol ddewisiadau am agwedd ranbarthol gan glymu hyn â hybu’r iaith Gymraeg a thyfu’r economi.

3.4. Cefnogi ac annog rhwydweithiau cymdeithasol yn yr iaith Gymraeg

15

- Yn ogystal â chyfleoedd am waith, mae rhwydweithiau cymdeithasol yn hollbwysig i siaradwyr Cymraeg rhugl yn ogystal â dysgwyr.

- Mae rhwydweithiau cymdeithasol a gweithgareddau cymdeithasol a diwylliannol yn hanfodol er mwyn annog siaradwyr Cymraeg ifanc i fyw yn y cadarnleoedd Cymraeg.

- Mae rhwydweithiau cymdeithasol Cymraeg a chyfleoedd i gymdeithasu trwy gyfrwng y Gymraeg yn hanfodol mewn rhanbarthau lle mae llai o bobl yn siarad yr iaith.

- Byddwn yn gweithio gyda mudiadau’r Gymraeg i greu mwy o gyfleoedd i gymdeithasu trwy gyfrwng y Gymraeg mewn cymuneday lle y siaredir Cymraeg gan y mwyafrif neu bron y mwyafrif, ac mewn ardaloedd lle mae llai yn siarad yr iaith.

3.5. Gwneud yr iaith Gymraeg yn ystyriaeth allweddol mewn penderfyniadau cynllunio

- Byddwn yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar gryfhau deddfwriaeth sy’n mynd trwy’r Cynulliad, gan gynnwys y Biliau Cynlluniau a Chenedlaethau’r Dyfodol er mwyn sicrhau bod yr iaith Gymraeg yn ystyriaeth allweddol mewn penderfyniadau cynllunio.

- Byddai llywodraeth Plaid Cymru yn sicrhau bod yr iaith Gymraeg yn ystyriaeth allweddol mewn penderfyniadau cynllunio a byddai’n rhoi canllawiau cryf i awdurdodau cynllunio yn ogystal â chynnwys yr iaith Gymraeg mewn deddfwriaeth gynllunio.

4. Agweddau

4.1. Datblygu polisïau sydd yn annog gwedd gadarnhaol ar yr iaith - Y gobaith yw y byddai’r polisïau sy’n cael eu cynnig i’w hystyried, gan

gynnwys gwella addysg Gymraeg ac annog twf economaidd yn yr ardaloedd lle y siaredir y Gymraeg gan y mwyafrif, neu bron i’r mwyafrif, yn annog agwedd gadarnhaol tuag at yr iaith Gymraeg.

- Byddai angen cysylltu polisïau o’r fath gyda strategaeth gyfathrebu gref i godi ymwybyddiaeth o’u bwriadau cadarnhaol, ac yn y dyfodol, canlyniadau cadarnhaol i holl bobl Cymru.

4.2. Rhoi rhwymedigaeth ar awdurdodau lleol i ddarparu gohebiaeth a llenyddiaeth ysgrifenedig yn unig yn newis iaith yr unigolyn.

- Mae a wnelo’r cynnig hwn â mynd i’r afael â chanfyddiadau negyddol am gost yr iaith Gymraeg.

- Byddwn yn edrych i mewn i ddichonoldeb a dymunoldeb defnyddio neu ddiwygio deddfwriaeth bresennol er mwyn gwneud hyn.

5. Trosglwyddo

5.1. Gwella trosglwyddo iaith yn y cartref ac annog defnyddio’r Gymraeg mewn teuluoedd

16

5.2. Dylai trosglwyddo’r iaith o rieni i blant fod yn faes buddsoddi allweddol - Mae argymhellion 1.9- 1.11 yn cynnwys galluogi ac annog rhieni plant

ifanc i ddysgu Cymraeg. Byddai hyn yn eu galluogi i siarad Cymraeg gyda’u plant yn y cartref.

- Byddwn yn edrych i weld pa bolisïau pellach allai annog rhieni i drosglwyddo’r iaith Gymraeg i’w plant.

6. ‘Priod’ iaith

6.1. Sefydlu’r Gymraeg fel ‘priod’ iaith Cymru - Mae’r cynnig hwn yn dilyn esiamplau’r Gatalaneg a’r Fasgeg ac yn rhoi

i’r iaith Gymraeg statws cyfreithiol fel ‘priod’ iaith Cymru. - Byddwn yn ymchwilio ymhellach i weld a fyddai deddfwriaeth bellach

yn cael yr effaith a ddymunir, sef cryfhau hawliau iaith.

7. Yr iaith Gymraeg a’r gyllideb

7.1. Clustnodi 1% o gyllideb y Cynulliad i gefnogi ac i hyrwyddo defnydd yr iaith Gymraeg

- Byddwn yn cynyddu gwariant yn y maes hwn ac, ar sail gwerthuso mentrau llwyddiannus, yn ystyried targed o’r fath wrth bennu cynigion cyllideb llywodraeth dan arweiniad Plaid Cymru.