-
TAG UG/SAFON UWCH
CYMERADWYWYD GAN CYMWYSTERAU CYMRU
TAG UG/SAFON UWCH CBAC
CYMRAEG AIL IAITH
Nid yw’r cymhwyster hwn a reoleiddir gan Cymwysterau Cymru ar gael i ganolfannau Lloegr.
Addysgu o 2016
I'w ddyfarnu o 2017 (UG)I'w ddyfarnu o 2018 (Safon Uwch)
MANYLEB
Fersiwn 2 Mawrth 2019
-
WJEC CBAC Cyf.
CRYNODEB O NEWIDIADAU
Fersiwn Disgrifiad Rhif y dudalen
2 Newidiwyd yr adran 'Cofrestru' i egluro rheolau ailsefyll a throsglwyddo marciau'r Asesu Di-arholiad.
22
-
TAG UG a SAFON UWCH CYMRAEG AIL IAITH 1
WJEC CBAC Cyf.
TAG UG a SAFON UWCH mewn CYMRAEG AIL IAITH
I’w addysgu o 2016 Dyfarniad UG Cyntaf: Haf 2017 Dyfarniad Safon Uwch Cyntaf: Haf 2018
Mae’r fanyleb hon yn bodloni’r Egwyddorion Cymhwyster TAG UG a Safon Uwch sy’n pennu gofynion yr holl fanylebau TAG newydd neu ddiwygiedig a ddatblygwyd i’w haddysgu yng Nghymru o fis Medi 2016
Tudalen
Crynodeb o’r asesiad 2
1. Rhagarweiniad 5 1.1 Nodau ac amcanion 5 1.2 Dysgu blaenorol a dilyniant 5 1.3 Gorgyffwrdd â chymwysterau eraill 6 1.4 Cydraddoldeb a mynediad teg 6 1.5 Bagloriaeth Cymru 6
2. Cynnwys y pwnc 7 2.1 Unedau UG 8 2.2 Unedau U2 14
3. Asesu 20 3.1 Amcanion asesu a phwysoli 20 3.2 Trefniadau ar gyfer asesu diarholiad 21
4. Gwybodaeth dechnegol 22 4.1 Cofrestru 22 4.2 Graddio, dyfarnu ac adrodd yn ôl 23
Atodiad A 24
-
TAG UG a SAFON UWCH CYMRAEG AIL IAITH 2
TAG UG a SAFON UWCH CYMRAEG AIL IAITH
CRYNODEB O’R ASESIAD
Mae’r fanyleb hon wedi’i rhannu i gyfanswm o 6 uned – 3 uned UG a 3 uned U2. Mae’r pwysoli a nodir isod yn cael ei gyfleu yn nhermau’r cymhwyster llawn Safon Uwch.
UG (3 uned)
UG Uned 1 Arholiad Llafar: Adran A tua 20 munud i bob grŵp
Adran B tua 5 munud i bob ymgeisydd Ffilm a Llafaredd 15% o'r cymhwyster 60 marc
Adran A: Trafod ffilm Adran B: Ymateb personol
UG Uned 2 Asesiad Diarholiad 10% o'r cymhwyster 60 marc
Ysgrifennu 3 darn estynedig. Cyfanswm rhwng 1,500 a 2,000 o eiriau
UG Uned 3 Papur Ysgrifenedig: 2 awr Defnyddio Iaith, a Barddoniaeth 15% o'r cymhwyster 120 marc
Adran A: Cwestiwn cyfansawdd yn cynnwys gwahanol fathau o ymarferion ieithyddol. Adran B: 3 chwestiwn wedi'u strwythuro ar y testunau gosod.
Safon Uwch (yr uchod a thair uned ychwanegol)
U2 Uned 4 Arholiad Llafar: Adran A a B tua 30 munud i bob grŵp
Adran C tua 5 munud i bob ymgeisydd Drama a Llafaredd 25% o'r cymhwyster 75 marc
Adran A: Byw yn Gymraeg Adran B: Trafod Drama Adran C: Ymateb personol Asesiad Synoptig
U2 Uned 5 Papur Ysgrifenedig: 2 awr Y Gymraeg yn y Gymdeithas a Thrawsieithu 15% o'r cymhwyster 80 marc
Adran A: Y Gymraeg yn y gymdeithas Cwestiynau wedi'u strwythuro ar y testun gosod Adran B: Trawsieithu – ymateb yn ysgrifenedig yn Gymraeg i erthygl Saesneg Asesiad Synoptig
U2 Uned 6 Papur Ysgrifenedig: 2 awr Defnyddio Iaith a'r Stori Fer 20% o'r cymhwyster 100 marc
Adran A: Cwestiwn cyfansawdd yn cynnwys gwahanol fathau o ymarferion ieithyddol Adran B: 2 gwestiwn wedi'u strwythuro ar un o'r testunau gosod ac 1 cwestiwn synoptig yn cysylltu'r wybodaeth, y ddealltwriaeth a'r sgiliau a ddatblygwyd yn y pwnc. Asesiad Synoptig
-
TAG UG a SAFON UWCH CYMRAEG AIL IAITH 3
WJEC CBAC Cyf.
Manyleb unedol yw hon sy’n caniatáu am elfen o asesu mewn camau. Bydd cyfleoedd asesu ar gael yn ystod cyfnod asesu’r haf bob blwyddyn, tan ddiwedd oes y fanyleb hon. Bydd Uned 1, Uned 2 ac Uned 3 ar gael yn haf 2017 (a phob blwyddyn wedi hynny) a dyfernir y cymhwyster UG am y tro cyntaf yn yr haf 2017. Bydd Uned 4, Uned 5 ac Uned 6 ar gael yn haf 2018 (a phob blwyddyn wedi hynny) a dyfernir y cymhwyster Safon Uwch am y tro cyntaf yn yr haf 2018. Rhif Cymhwyster ar restr The Register: TAG UG: 601/8127/8 TAG Safon Uwch: 601/8113/8
Rhif Cymeradwyo Cymwysterau Cymru ar restr QiW: TAG UG: C00/0779/6 TAG Safon Uwch: C00/0779/5
http://register.ofqual.gov.uk/https://www.qiw.wales/?lang=cy
-
TAG UG a SAFON UWCH CYMRAEG AIL IAITH 5
WJEC CBAC Cyf.
TAG UG a SAFON UWCH CYMRAEG AIL IAITH
1 RHAGARWEINIAD
1.1 Nodau ac amcanion
Mae UG ac Uwch mewn Cymraeg Ail Iaith yn annog dysgwyr i:
ddangos diddordeb, pleser a brwdfrydedd wrth astudio'r Gymraeg
cyfathrebu'n gywir ac yn rhugl ar lafar ac yn ysgrifenedig mewn ystod eang osefyllfaoedd a chyd-destunau
ysgrifennu'n greadigol a ffeithiol i amrywiaeth o bwrpasau
dadansoddi testunau cyfarwydd ac anghyfarwydd yn annibynnol
gwrando ac ymateb i farn eraill wth fynegi safbwynt
mynegi barn yn annibynnol, yn seiliedig ar wybodaeth a dealltwriaeth o ystod odestunau llenyddol a ffeithiol
ymateb yn glir, yn berthnasol, yn hyderus ac yn strwythuredig yn y Gymraeg
cymryd eu lle priodol mewn cymdeithas ddwyieithog ar ddechrau'r unfed ganrif arhugain.
Yn ogystal, dylai manyleb Safon Uwch mewn Cymraeg Ail Iaith annog ymgeiswyr i:
wneud cysylltiadau rhwng gwahanol elfennau'r pwnc a darparu sylfaen addas iganiatáu i ymgeiswyr barhau i astudio'r iaith yn y dyfodol.
1.2 Dysgu blaenorol a dilyniant
Nid oes gofynion penodol parthed dysgu blaenorol, er y bydd llawer o’r ymgeiswyr wedi caffael gwybodaeth a dealltwriaeth o’r Gymraeg ac wedi datblygu’r sgiliau priodol wrth astudio’r pwnc ar gyfer TGAU Cymraeg Ail Iaith a TGAU Cymraeg Ail Iaith Cymhwysol.
Gellir astudio’r fanyleb hon gan unrhyw ymgeiswyr beth bynnag eu rhyw neu gefndir ethnig, crefyddol neu ddiwylliannol.
Nid yw’r fanyleb hon yn addas ar gyfer ymgeiswyr o dan 15 oed, ond darpara gyfleoedd i ymgeiswyr ymestyn eu haddysg gydol oes.
Mae strwythur chwe rhan y fanyleb hon (3 uned ar gyfer UG a 3 uned ychwanegol ar gyfer y Safon Uwch llawn) yn caniatáu i ymgeiswyr ohirio penderfyniadau ynglŷn â symud ymlaen o’r cymhwyster UG i’r cymhwyster Safon Uwch llawn.
Mae’r fanyleb hon yn darparu sylfaen addas ar gyfer astudio Cymraeg Ail Iaith neu faes perthynol, trwy gyfrwng amrediad o gyrsiau addysg uwch (e.e. gradd mewn prifysgol) neu fynediad uniongyrchol i fyd gwaith. Mae’r fanyleb hon hefyd yn darparu cwrs astudiaeth cydlynol, boddhaol a gwerthfawr ar gyfer ymgeiswyr na fyddant yn mynd ymlaen i astudio’r pwnc hwn ymhellach.
-
TAG UG a SAFON UWCH CYMRAEG AIL IAITH 6
1.3 Gorgyffwrdd â chymwysterau eraill
Nid oes unrhyw orgyffwrdd sylweddol rhwng y fanyleb hon ac unrhyw un arall. Ni chaiff ymgeiswyr ar gyfer yr arholiad hwn sefyll arholiad UG nac Uwch Cymraeg Iaith Gyntaf. Ni chaiff ymgeiswyr a safodd arholiadau TGAU Cymraeg Iaith a / neu TGAU Llenyddiaeth Gymraeg sefyll yr arholiad hwn.
1.4 Cydraddoldeb a mynediad teg
Gellir astudio'r fanyleb hon gan unrhyw ddysgwr, beth bynnag fo'i ryw, cefndir ethnig, crefyddol neu ddiwylliannol. Lluniwyd y fanyleb i osgoi, lle bo'n bosibl, nodweddion a allasai, heb gyfiawnhad, ei gwneud yn fwy anodd i ddysgwr lwyddo oherwydd bod ganddo nodwedd benodol wedi ei hamddiffyn.
O dan y Ddeddf Cydraddoldeb 2010 y nodweddion penodol wedi'u hamddiffyn yw oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gred, rhyw neu gyfeiriadedd rhywiol.
Mae'r fanyleb hon wedi'i thrafod â grwpiau sy'n cynrychioli diddordebau ystod amrywiol o ddysgwyr, ac adolygir y fanyleb yn gyson.
Gwneir addasiadau rhesymol ar gyfer dysgwyr penodol fel bod yr asesiadau o fewn eu cyrraedd (e.e. cais i gael amser ychwanegol i bwnc TAG pan fydd gofyn am ysgrifennu estynedig). Mae gwybodaeth am addasiadau rhesymol i'w chael yn nogfen y Cyd-gyngor Cymwysterau (CGC): Trefniadau Mynediad, Addasiadau Rhesymol ac Ystyriaeth Arbennig: Cymwysterau Cyffredinol a Galwedigaethol. Mae'r
ddogfen hon ar gael ar wefan y CGC (www.jcq.org.uk).
Gan fod darpariaeth yn cael ei gwneud ar gyfer addasiadau rhesymol, prin iawn fydd nifer y dysgwyr sy’n cael eu hatal yn llwyr rhag unrhyw ran o’r asesiad.
Dylid darllen y ddogfen hon ar y cyd â’r dogfennau CGC ar drefniadau mynediad ac ystyriaethau arbennig ac ar gynnal arholiadau ynghyd ag unrhyw ddogfen sy’n berthnasol o ran asesu diarholiad.
1.5 Bagloriaeth Cymru
Dylai dysgwyr, wrth ddilyn y fanyleb hon, gael cyfleoedd, lle bo'n briodol, i ddatblygu'r sgiliau sy'n cael eu hasesu trwy Graidd Bagloriaeth Cymru: • Llythrennedd• Rhifedd• Llythrennedd Digidol• Meddwl yn Feirniadol a Datrys Problemau• Cynllunio a Threfnu• Creadigrwydd ac Arloesi• Effeithiolrwydd Personol.
http://www.jcq.org.uk/
-
TAG UG a SAFON UWCH CYMRAEG AIL IAITH 7
WJEC CBAC Cyf.
2 CYNNWYS Y PWNC
Mae manylebau UG a Safon Uwch mewn Cymraeg Ail Iaith yn adeiladu ar y wybodaeth, y ddealltwriaeth a'r sgiliau a nodir ar gyfer cymwysterau TGAU Haen Uwch mewn Cymraeg Ail Iaith. Serch hynny, gall ymgeiswyr fod wedi caffael y wybodaeth, y ddealltwriaeth a'r sgiliau heb fod wedi ennill y cymwysterau.
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
Mae'r fanyleb UG ac Uwch yn mynnu bod ymgeiswyr yn arddangos gwybodaeth a dealltwriaeth o:
strwythurau, gramadeg a phatrymau'r iaith lafar a'r iaith ysgrifenedig oddi mewn igyd-destunau ystyrlon
cywair a phriodoldeb iaith ac arddull ystod o ddarnau ffeithiol sy'n ymwneud â'rbyd cyfoes
cynnwys, ffurf ac arddull llên y cyfryngau ac ystod o farddoniaeth a rhyddiaith diwylliant traddodiadol Cymru.
Sgiliau
Dylai ymgeiswyr UG a Safon Uwch ar lafar ac yn ysgrifenedig:
arddangos cywirdeb wrth ddefnyddio cystrawen a gramadeg yr iaith mewnamrywiaeth o ffurfiau a chyd-destunau ac i ystod o gynulleidfaoedd a phwrpasau
defnyddio iaith yn y cywair priodol mewn ystod eang o gyd-destunau at ddibenioncreadigol, i drafod llenyddiaeth, i drawsieithu ac i amrywiaeth o ddibenionymarferol gan roi ystyriaeth i'r pwrpas a'r gynulleidfa
trafod, ystyried ac ymateb i safbwyntiau a barn eraill er mwyn dod i gasgliadaucytbwys
defnyddio geiriaduron yn briodol ond hefyd yn arddangos y gallu i gyfleu ystyrheb gyfeirio atynt
dadansoddi'n feirniadol a chyfleu ymateb personol i destunau a darnau cyfarwyddgan ddefnyddio termau addas
dewis yn berthnasol o destun wrth drafod, er mwyn egluro ac enghreifftiosafbwyntiau personol
trafod agweddau a gwerthoedd mewn testunau.
Bydd yr astudiaeth hon yn gosod sylfeini cadarn ar gyfer astudiaeth bellach tra ar yr un pryd yn datblygu sgiliau addas i'r gweithle.
Dylai ymgeiswyr U2:
arddangos gwybodaeth a dealltwriaeth o ystod o ryddiaith o ran ffurf a thema arddangos gwybodaeth a dealltwriaeth fwy manwl gywir o gywirdeb a rheolau
gramadeg yr iaith cymharu darnau neu destunau er mwyn deall a gwneud sylwadau ar yr hyn sy'n
gyffredin ac yn wahanol rhyngddynt gan arddangos y gallu i ddadansoddillenyddiaeth yn feirniadol, cyfleu ymateb personol a defnyddio termau addas
arddangos gwybodaeth ehangach a dealltwriaeth ddyfnach o'r maes trafod ac ymateb i'r Gymraeg yn y gymdeithas leol ac yn genedlaethol arddangos sgiliau wedi eu mireinio a'u datblygu ymhellach.
-
TAG UG a SAFON UWCH CYMRAEG AIL IAITH 8
2.1 UNEDAU UG
Uned 1 – Y Ffilm a Llafaredd – Arholiad Llafar (tua 35 munud i grŵp o dri)
Nodiadau i Athrawon
Asesiad allanol yw hwn. Er hynny dylai athrawon asesu cyrhaeddiad disgybl yn
fewnol yn ystod y flwyddyn. Bydd arholwr allanol yn ymweld â phob canolfan yn ystod tymor yr Haf. Defnyddir
asesiad y ganolfan fel canllaw i gynorthwyo'r arholwr, ond gan yr arholwr yn unigy bydd yr hawl i bennu marciau terfynol yr ymgeiswyr.
Arholir yr ymgeiswyr mewn parau/grwpiau heb fod yn fwy na thri ymgeisydd ynAdran A. Dewisir y grwpiau yn ôl gallu'r ymgeiswyr neu ddoethineb yr arholwr.Lle nad oes ond un ymgeisydd arholir ef yn unigol gan yr arholwr. Lle ceirgrwpiau o dri bydd yr arholiad yn parhau am tua 35 munud.
Arholir yr ymgeiswyr yn unigol yn Adran B. Hyd arholi Adran B fydd tua 5 munudyr un.
Swyddogaeth yr arholwr
sbarduno trafodaeth drwy ofyn cwestiynau hybu newid cyfeiriad y drafodaeth gofyn i ymgeisydd gynnig tystiolaeth i gadarnhau syniadau neu ddatblygu dadl sicrhau bod pob ymgeisydd yn cael cyfle i ymateb
Wrth asesu'r ymgeiswyr yn yr Arholiad Llafar ystyrir eu gallu i arddangos gwybodaeth benodedig o'r testun a'i gefndir, gwrando'n astud ar eraill, codi cwestiynau, datblygu safbwyntiau, rhyngweithio a dod i gasgliadau. Yn ogystal ystyrir eu gallu i lefaru'r iaith yn gywir a graenus yn y cywair priodol gan ystyried y pwrpas a'r gynulleidfa.
A. Trafod ffilm
Patagonia
Gall yr arholwr ofyn i'r ymgeiswyr ymdrin â phynciau megis y rhai a ganlyn:
trafod cymeriadau, a chymharu cymeriadau â'i gilydd
trafod golygfeydd arbennig
manylu ar y defnydd o lun a sain a cherddoriaeth gefndirol
trafod bwriadau'r cynhyrchydd
trafod themâu penodol
mynegi barn ac ymateb i'r gwaith
Arholir yr ymgeiswyr mewn pâr/ grŵp o dri yn yr adran hon.
Bydd gan CBAC yr hawl i ychwanegu ffilm fel dewis arall. Rhoddir rhybudd digonol pan wneir hynny.
-
TAG UG a SAFON UWCH CYMRAEG AIL IAITH 9
WJEC CBAC Cyf.
B. Trafod cynnwys yr asesiad diarholiad
Gofynnir i ymgeiswyr ymateb yn unigol i gwestiynau cyffredinol ar y Pecyn a luniwyd ganddynt yn Uned 2.
Disgwylir i ymgeiswyr ymateb i agweddau fel a ganlyn:
cynnwys y Pecyn
dewis y testun
rheswm dros ddewis y testun
y gwahanol symbyliadau
y gwaith ymchwil
darnau unigol y Pecyn
Arholir yr ymgeiswyr yn unigol yn yr adran hon.
Uned 2 – Asesiad Diarholiad
Y Dasg
Gofynnir i bob ymgeisydd lunio Pecyn ar un o'r canlynol:
ardal benodol yng Nghymru elfen gymdeithasol elfen ddiwylliannol elfen alwedigaethol elfen hanesyddol elfen wleidyddol
Gall y testun a ddewisir fod o ddiddordeb lleol neu genedlaethol, yn draddodiadol neu'n gyfoes ei apêl.
Canllawiau i'r Dasg
Bydd y Pecyn yn canolbwyntio ar, ac yn cyflwyno i'r darllenydd elfennau o'r testun y mae'r ymgeisydd wedi ymddiddori ynddynt gan gynnwys sylwadau personol a pherthnasol wrth wneud hynny. Wedi darllen y gwaith dylai'r darllenydd fod yn deall y testun dan sylw ac yn gwybod am agwedd yr ymgeisydd tuag at y testun.
Rhaid i'r Pecyn gynnwys 3 darn estynedig ar 3 o'r ffurfiau canlynol:
adroddiad / erthygl portread stori sgwrs / cyfweliad llythyr blog dyddiadur
-
TAG UG a SAFON UWCH CYMRAEG AIL IAITH 10
Rhaid i 1 darn gael ei gwblhau fel tasg o dan amodau arbennig. Disgwylir i'r
ymgeiswyr wneud defnydd o'r ddwy awr sydd ganddynt i gwblhau'r dasg hon o dan amodau arbennig.
Rhaid i'r testun fod yn Gymreig. Dylai'r wybodaeth gael ei chyflwyno mewn arddull bersonol gyda'r ymgeisydd yn
cyflwyno ei safbwynt ei hun yn ei eiriau ei hun. Disgwylir gweld ôl ymchwil, dadansoddi, cymharu a dewis a dethol yn y gwaith
ond gyda gogwydd bersonol yr ymgeisydd yn llywodraethu. Dylai unrhyw luniau/mapiau/atgynhyrchiad llunyddol gael eu defnyddio'n briodol,
felly hefyd unrhyw ddyfyniadau. Rhaid i'r Pecyn cyfan fod rhwng 1,500 a 2000 o eiriau. Dylai hyn gynnwys 1 darn
o ysgrifennu rhwng 400 - 600 o eiriau wedi ei gwblhau fel tasg o dan amodauarbennig. Ni ddylid ail ddrafftio'r gwaith ar unrhyw gyfrif.
Rhaid i'r dasg o dan amodau arbennig gael ei chwblhau o fewn 2 awr yn yrystafell ddosbarth. Gall yr ymgeiswyr weithio ar weddill y Pecyn yn y dosbarthac/neu yn y cartref.
Disgwylir gweld penawdau ac is-benawdau yn cael eu defnyddio'n briodol ac yneffeithiol wrth drefnu'r gwaith, ac wrth gyflwyno elfennau o fewn y testun.
Dylid caniatáu i'r ymgeisydd drafod cynnwys y Pecyn gyda'r athro/athrawes achynhyrchu'r gwaith ar brosesydd geiriau.
Caniateir defnyddio geiriaduron, cyfeirlyfrau, testunau llenyddol a gweledol acunrhyw ddogfennau/cyfryngau perthnasol eraill.
Rhaid cynnwys blaendudalen yn nodi cynnwys ac ôl-dudalen yn nodi unrhywlyfryddiaeth a ddefnyddiwyd.
Gweler trefniadau ar gyfer asesu diarholiad yn Adran 3.2 (tudalen 20)
Uned 3 – Defnyddio Iaith, a Barddoniaeth – Arholiad Ysgrifenedig (2 awr)
Disgwylir i ymgeiswyr ateb dau gwestiwn.
Adran A: Defnyddio Iaith
Gosodir cwestiynau cyfansawdd yn cynnwys gwahanol fathau o ymarferion ieithyddol. Gall yr arholwr osod cwestiynau megis yr isod:
(i) cywiro gwallau mewn testun/ cyfieithu testun i'r Gymraeg(ii) newid berfau o'r person cyntaf i'r trydydd person/ presennol i'r gorffennol /
unigol i'r lluosog(iii) ysgrifennu'n bersonol ar amrywiaeth o ffurfiau
-
TAG UG a SAFON UWCH CYMRAEG AIL IAITH 11
WJEC CBAC Cyf.
Er mwyn gallu ateb y cwestiynau hyn disgwylir i ymgeiswyr wybod, deall a gallu defnyddio'r canlynol:
Ffurfiau berfol
Presennol rwy’n ... / rydw i’n ...
Perffaith rydw i wedi ...
Perffaith parhaol rydw i wedi bod ...
Amherffaith roeddwn i’n ...
Gorberffaith roeddwn i wedi ...
Gorberffaith parhaol roeddwn i wedi bod yn ...
Amhenodol byddwn i’n ...
Amhenodol perffaith byddwn i wedi ...
Amhenodol parhaol byddwn i wedi bod yn ...
Dyfodol bydda i’n ...
Gorffennol cryno -ais i-aist ti-odd e / hi-on ni-och chi-on nhwAfreolaidd
Es i ...Des i ...Ces i ...Gwnes i ...Bues i / Bûm i’n ...e.e. Bues i’n Yr Eidal dros yr haf.
Berfau diffygiol Dylwn i ... Dylwn i fod wedi ... Dylai ... Dylid ...
Gorchmynnol Ail unigol a lluosog
Rheolaidd:
siarad siarada siaradwch rhedeg rheda rhedwch cerdded cerdda cerddwch Afreolaidd
mynd dos/cer ewch dod tyrd / dere dewch
Enwau
Ffurfiau unigol a lluosog Ffurfio’r lluosog drwy:
- newid llafariade.e. llygad / llygaid
- ychwanegu terfyniad lluosog-au / -iau / -ion / -on / -i / -ydd/-oedd / - iaid / -od
- gollwng terfyniad unigole.e. mochyn / moch
- cyfnewid terfyniad lluosog am ununigole.e. cwningen / cwningod
-
TAG UG a SAFON UWCH CYMRAEG AIL IAITH 12
Enwau gwrywaidd a benywaidd
Rhifolion a threfnolion Dull degol
e.e. tri deg plentynDull traddodiadol y rhifolion – amser ac
ariane.e. pum munud ar hugain wedideunaw puntTrefnolion un gair
e.e. pymthegfedFfurfiau gwrywaidd a benywaidde.e. tri bachgen a thair merchRhifolion + blwyddyne.e. dwy flynedd, dwy flwydd oed
Arddodiaid – am, ar, at, dan, dros, drwy, gan, heb, hyd, i, o, wrth (+treiglad meddal)
Rhedeg a defnyddio arddodiaid Clywais i amdani hi
Ansoddeiriau + arddodiaid Byddwch yn garedig wrthyn nhw
Enwau + arddodiaid Mae’n gyfrifoldeb arnat ti.
Berf + arddodiaid Bydda i’n talu am y tocyn.
Wyt ti wedi siarad â John ar y ffôn heddiw? Paid cyffwrdd â hwnna.
Arddodiaid mewn ymadroddion aml eu defnydd
ar glo ar fyr rybudd heb os nac oni bai dros ben llestri
Ansoddeiriau
Safle arferol yr ansoddair afal coch
Prif eithriadau hen ysgol unig blentyn prif reswm
Ffurfiau benywaidd aml eu defnydd stori fer torth wen
Ffurfiau lluosog aml eu defnydd bechgyn eraill
Goleddfu ansoddeiriau eithaf da bron cystal gweddol ddoniol
Cymharu ansoddeiriau Cyfartal – gan ddefnyddio ‘mor’ e.e. mor dawelCymharol
e.e.tawelachEithaf
tawelaf
Cyffelybiaethau yn gryf fel ceffyl
Defnyddio ansoddair fel adferf Cysgwch yn dawel.
-
TAG UG a SAFON UWCH CYMRAEG AIL IAITH 13
WJEC CBAC Cyf.
Rhagenwau
Rhagenwau syml fi, ti, ef/fo, hi, ni, chi, nhw
Rhagenwau blaen fy, dy, ei, ein, eich, eu
Rhaenwau ategol i, di e.e. fy nheulu iei lyfr e/oeu catref nhw
Rhagenwau dangosol hwn, hon, hyn, yma, yna, acw
Rhagenwau gofynnol Pwy? Pa?
Rhagenwau atblygol fy hun, dy hun ...
Adferfau
Adferfau amser ddoe eleni heno weithiau
Is-gymalau
Cymalau enwol gyda ffurfiau ‘bod’ Rwy’n gwybod dy fod wedi gadael.
Cymalau ansoddeiriol gyda ffurfiau cwmpasog y ferf
Dyna’r ferch sy’n canu’n y grŵp.
Cymalau adferfol. Ar ôl: pan, tra, pryd, y, ag/nag y, trwy, wrth, ar ôl, nes y, cyn, erbyn, rhag ofn, o achos, oherwydd
Adran B: Barddoniaeth
Gosodir cwestiwn ar y farddoniaeth isod. Wrth ymateb yn bersonol disgwylir i ymgeiswyr drin y materion canlynol: cynnwys y cerddi, themâu, arddull ac ymateb i destun y cerddi. Yn ogystal disgwylir i'r ymgeiswyr ystyried dehongliadau eraill (disgyblion eraill, athrawon a beirniaid llenyddol) a dylid eu hyfforddi i ddyfynnu a defnyddio termau beirniadaeth lenyddol yn briodol.
Wrth drafod y farddoniaeth dylid hyfforddi ymgeiswyr i ddefnyddio iaith yn y cywair priodol gan roi ystyriaeth i'r pwrpas a'r gynulleidfa.
-
TAG UG a SAFON UWCH CYMRAEG AIL IAITH 14
Nodir isod enwau'r cerddi i'w hastudio. Daw'r cerddi o'r gyfrol Fesul Gair.
Iwan Rhys: Caerdydd Grahame Davies: Lerpwl Gwion Hallam: Dim ond serch Myrddin ap Dafydd: Twyll Tudur Dylan Jones: Newyddion
Bydd gan CBAC yr hawl i newid y cerddi a astudir. Rhoddir rhybudd digonol pan wneir hynny.
Ni chaniateir defnyddio geiriaduron na chopïau o'r cerddi yn yr arholiad hwn.
2.2 UNEDAU U2
Uned 4 – Y Ddrama a Llafaredd (tua 45 munud i grŵp o dri)
Nodiadau i Athrawon
Asesiad allanol yw hwn. Er hynny dylai athrawon asesu cyrhaeddiad disgybl yn
fewnol yn ystod y flwyddyn. Bydd arholwr allanol yn ymweld â phob canolfan yn ystod tymor yr Haf. Defnyddir
asesiad y ganolfan fel canllaw i gynorthwyo'r arholwr, ond gan yr arholwr yn unigy bydd yr hawl i bennu marciau terfynol yr ymgeiswyr.
Arholir yr ymgeiswyr mewn parau/grwpiau heb fod yn fwy na thri ymgeisydd ynAdran A a B. Dewisir y grwpiau yn ôl gallu'r ymgeiswyr neu ddoethineb yrarholwr. Lle nad oes ond un ymgeisydd arholir ef yn unigol gan yr arholwr. Lleceir grwpiau o dri bydd yr arholiad yn parhau am tua hanner awr.
Arholir yr ymgeiswyr yn unigol yn Adran C. Hyd arholi Adran C fydd tua 5 munudyr un.
Swyddogaeth yr arholwr
sbarduno trafodaeth drwy ofyn cwestiynau hybu newid cyfeiriad y drafodaeth gofyn i ymgeisydd gynnig tystiolaeth i gadarnhau syniadau neu ddatblygu dadl sicrhau bod pob ymgeisydd yn cael cyfle i ymateb
Wrth asesu'r ymgeiswyr yn yr Arholiad Llafar ystyrir eu gallu i arddangos gwybodaeth benodedig o'r ddrama a'i chefndir, gwrando'n astud ar eraill, codi cwestiynau, datblygu safbwyntiau, rhyngweithio a dod i gasgliadau. Yn ogystal ystyrir eu gallu i lefaru'r iaith yn gywir a graenus yn y cywair priodol gan ystyried y pwrpas a'r gynulleidfa.
-
TAG UG a SAFON UWCH CYMRAEG AIL IAITH 15
WJEC CBAC Cyf.
Trefn yr arholiad
A. Byw yn Gymraeg
Gall yr arholwr ofyn i’r ymgeiswyr drafod rhai o'r meysydd canlynol ar ôl ymwneud â nhw’n rheolaidd yn ystod y cwrs:
y Gymraeg yn y gymdeithas
ymweliadau gan siaradwyr gwadd
darlledu Cymraeg ar y we fyd eang
y Gymraeg yn y cyfryngau cymdeithasol
cynyrchiadau Cymraeg yn y theatr
ffilmiau Cymraeg
newyddiaduraeth Gymraeg gan gynnwys cylchgronau, Y Cymro, Golwg, Lingo,papurau bro
B. Trafod drama
Sera Moore Williams: Crash
Gall yr arholwr ofyn i’r ymgeiswyr ymdrin â rhai o’r pynciau a ganlyn:
dadansoddi cymeriadau, olrhain eu datblygiad a chymharu cymeriadau â’i gilydd
manylu ar olygfeydd allweddol
manylu ar ddyfyniadau o'r testun
damcaniaethu ynglŷn â bwriadau’r dramodydd
manylu ar y themâu a geir yn y ddrama
mynegi barn ac ymateb i’r gwaith fel cyfanwaith
Bydd rhyddid gan ymgeiswyr i gyfeirio at ddramâu eraill ac at lenyddiaeth a ddarllenwyd. Dylid hyfforddi ymgeiswyr i ddyfynnu a defnyddio termau gwerthfawrogi llenyddiaeth yn briodol.
Bydd rhyddid i’r ymgeiswyr ymateb yn bersonol yn ogystal â thrafod dehongliadau eraill (disgyblion eraill, athrawon a beirniaid llenyddol) a dylid eu hyfforddi i ddyfynnu a defnyddio termau gwerthfawrogi llenyddiaeth yn briodol.
Bydd gan CBAC yr hawl i newid y ddrama a astudir. Rhoddir rhybudd digonol pan wneir hynny.
C. Ymateb i gwestiynau ar themâu penodol fydd yn amlwg yn y gwahanoldestunau a astudiwyd yn ystod y cwrs cyfan. (Asesiad Synoptig)
Bydd yr arholwr yn gofyn cwestiynau i’r ymgeiswyr a fydd yn mynnu eu bod yn arddangos gwybodaeth a dealltwriaeth o’r cysylltiadau rhwng y gwahanol destunau ar draws y fanyleb.
Gellir trafod y themâu canlynol:
Teulu Perthynas Cyfrifoldeb Cariad Cyfathrebu
Arholir yr ymgeiswyr yn unigol yn Adran C.
-
TAG UG a SAFON UWCH CYMRAEG AIL IAITH 16
Uned 5 – Y Gymraeg yn y Gymdeithas a Thrawsieithu – Arholiad ysgrifenedig (2 awr)
Disgwylir i ymgeiswyr ateb dau gwestiwn.
Adran A: Y Gymraeg yn y Gymdeithas
Gosodir cwestiynau cyfansawdd yn ymwneud â'r Gymraeg yn y gymdeithas. Gall yr arholwr osod cwestiynau yn ymwneud â:
(a) Cyd-destun hanesyddol yr iaith Gymraeg o ganol yr ugeinfed ganrif hyd heddiwe.e.darlith Saunders Lewis, Tynged yr Iaith 1962;y frwydr dros S4C ac ymgyrch Gwynfor Evans;sefydlu Cymdeithas yr Iaith Gymraeg;boddi Cwm Tryweryn a'r ymateb iddo;deddfau iaith 1967 a 1993;sefydlu Bwrdd yr Iaith Gymraeg yn 1993;sefydlu Llywodraeth Cynulliad Cymru yn 1998;polisïau Llywodraeth Cymru mewn perthynas â'r iaith Gymraeg;dogfen bolisi Iaith Pawb y Cynulliad (2003) aIaith fyw: iaith byw – strategaeth y Gymraeg 2012-2017;
diddymu Bwrdd yr Iaith Gymraeg a phenodi Comisiynydd y Gymraeg yn sgilMesur y Gymraeg (2011).
Gellid edrych ar adnoddau megis y canlynol: http://www.bbc.co.uk/cymru/hanes/safle/themau/iaith.shtml http://www.bbc.co.uk/cymru/cymraeg/yriaith/tudalen/hanes.shtml http://www.gov.uk/cymraeg http://comisiynyddygymraeg.cymru/cymraeg/Pages/Hafan.aspx http://www.youtube.com/watch?v=vQT56POFbrM http://www.youtube.com/watch?v=FGI_ZaZY5e0
(b) Sefyllfa bresennol yr iaith e.e. beth yw’r heriau sy’n wynebu’r iaith yngenedlaethol ac yn lleol, beth sy’n cael ei wneud i hyrwyddo’r iaith heddiw a sutmae hyn i’w weld yn yr ardal leol?Dylid annog disgyblion i edrych ar eu cyd-destun lleol e.e. ymweld â’r Fenter Iaithac ymchwilio i waith y Mentrau; mynd i ysgol ddwyieithog / cyfrwng Cymraeg leoli weld beth sy’n digwydd yno; ymwneud â’r Urdd; menter Twf;yr Eisteddfod Genedlaethol; bandiau Cymraeg lleol; darpariaeth Cymraeg ioedolion; technoleg a'r Gymraeg; sêr lleol sy'n hyrwyddo'r iaith.
Adran B: Trawsieithu (asesiad synoptig)
Gofynnir i’r ymgeiswyr ddarllen deunydd Saesneg ac ymateb i’r deunydd hwnnw drwy ysgrifennu yn y Gymraeg. Gellir gofyn am ymateb ar ffurf llythyr, erthygl neu lunio taflen wybodaeth. Bydd yn ofynnol i’r ymgeiswyr ddeall a dehongli’r cynnwys ac yna fynegi barn ar y testun. Disgwylir iddynt fod yn ymwybodol o’r gynulleidfa y maent yn ysgrifennu ar ei chyfer. Ni ddylid cyfieithu’r darn.
Bydd y darnau darllen yn ymwneud â naill ai newyddion y dydd, neu faterion cyfoes neu ddelwedd o Gymru a’r byd. Gellir darllen erthyglau yn y gwahanol gylchgronau a hefyd drawsysgrifau rhaglenni materion cyfoes ar y radio/teledu wrth baratoi ar gyfer y cwestiwn hwn.
Ni chaniateir defnyddio geiriaduron yn yr arholiad hwn.
http://www.bbc.co.uk/cymru/hanes/safle/themau/iaith.shtmlhttp://www.bbc.co.uk/cymru/cymraeg/yriaith/tudalen/hanes.shtmlhttp://www.gov.uk/cymraeghttp://comisiynyddygymraeg.cymru/cymraeg/Pages/Hafan.aspxhttp://www.youtube.com/watch?v=vQT56POFbrMhttp://www.youtube.com/watch?v=FGI_ZaZY5e0
-
TAG UG a SAFON UWCH CYMRAEG AIL IAITH 17
WJEC CBAC Cyf.
Uned 6 – Defnyddio Iaith a’r Stori Fer – Arholiad ysgrifenedig (2 awr)
Disgwylir i ymgeiswyr ateb dau gwestiwn.
Adran A: Defnyddio Iaith
Gosodir cwestiynau cyfansawdd yn cynnwys gwahanol fathau o ymarferion ieithyddol. Gall yr arholwr osod cwestiynau megis yr isod:
(a) ysgrifennu ymateb i dasg benodol(b) ymarferion newid amser y ferf / person y ferf / o'r person cyntaf i'r trydydd / o'r
trydydd person i'r cyntaf / o'r unigol i'r lluosog / o'r lluosog i'r unigol / dewisberf gywir mewn brawddeg / dewis gair cywir mewn brawddeg (geiriau tebyg)
Disgwylir i ymgeiswyr wybod, deall a gallu defnyddio'r canlynol yn ychwanegol at y rhai a restrwyd yn Uned 3.
Adran B: Y Stori Fer
Dylai ymgeiswyr arddangos gwybodaeth a dealltwriaeth o'r straeon canlynol:
Pwy Fyth a Fyddai'n Fetel (Saith Pechod Marwol: Mihangel Morgan) Beth os? (Cariad Pur?: Llio Mai Hughes) Trŵ lyf (Cariad Pur?: Marlyn Samuel) Angladd yn y Wlad (O'r Cyrion: Ioan Kidd)
Y nod yw dysgu'r sgìl o werthfawrogi ystod o straeon. Wrth ymateb yn bersonol disgwylir i ymgeiswyr drin a thrafod y materion canlynol: cynnwys y straeon, themâu ac arddull yr awdur.
Yn y cwestiwn hwn, disgwylir i ymgeiswyr ddadansoddi'n feirniadol a chyfleu ymateb personol i gynnwys y straeon gan ddefnyddio termau addas. Wrth drafod y straeon felly, dylid hyfforddi ymgeiswyr i ddefnyddio iaith yn y cywair priodol gan roi ystyriaeth i'r pwrpas a'r gynulleidfa.
Bydd gan CBAC yr hawl i newid y straeon a astudir. Rhoddir rhybudd digonol pan wneir hynny.
Asesiad synoptig
Bydd y cwestiwn hwn yn ogystal yn mynnu bod ymgeiswyr yn arddangos ac yn cymhwyso dealltwriaeth o'r cysylltiadau rhwng gwahanol agweddau ar y Gymraeg drwy gyfuno a chydgysylltu'r wybodaeth, y ddealltwriaeth a'r sgiliau a ddatblygwyd yn y pwnc.
Ni chaniateir defnyddio geiriaduron na chopïau o'r straeon byrion yn yr arholiad hwn.
-
TAG UG a SAFON UWCH CYMRAEG AIL IAITH 18
Berfau – ffurfiau ‘bod’
Presennol Arferiadol / Dyfodol Byddaf e.e. Byddaf yn mynd i’r sinema bob nosSadwrn.
Dyfodol perffaith Byddaf wedi e.e. Byddaf wedi paratoi’n drylwyr ar gyfer yrarholiad yn yr haf.
Dyfodol perffaith parhaol Byddaf wedi bod yn cystadlu yn yr Eisteddfod erbyn hynny.
Y modd dibynnol pe bawn / pe bai / oni bai
Berfau eraill – ffurfiau cryno
Presennol/Presennol arferiadol Gwyliaf
Dyfodol Gobeithiaf
Amhenodol Darllenwn
Gorffennol Gofynnais
Yr amhersonol – ffurfiau cwmpasog a chryno
Amser presennol (cryno) Agorir, Defnyddir, Gwelir, Rhestrir
Amser presennol (cwmpasog) Mae ... yn cael ei ddefnyddio / ei defnyddio
Amser gorffennol (cryno) Cynhaliwyd, Ysgrifennwyd, Trafodwyd, Rhoddwyd
Amser gorffennol (cwmpasog) Cafodd y ... ei weld/ei gweld ...
Brawddegau pwysleisiol
Goddrych Y dosbarth (a) drafododd y gerdd ddoe.
Gwrthrych Y gerdd (a) darfododd y dosbarth ddoe.
Adferf Ddoe (y) trafododd y dosbarth y gerdd.
Y genidol
enw + enw priodol mam Gwenllian,
enw + enw car plismon
enw + y + enw ysgol y pentref
Ymadrodd sy’n cynnwys ‘the’ ac ‘of’ (Mae’n rhaid hepgor ‘the’ ac ‘of’)
e.e. the top of the mountain pen y mynydd
Arddodiaid
Rhedeg a defnyddio arddodiaid cyfansawdd er ei mwyn hi o’m hachos i
Rhifolion a threfnolion
Dull traddodiadol deg plentyn ar hugain
-
TAG UG a SAFON UWCH CYMRAEG AIL IAITH 19
WJEC CBAC Cyf.
Ansoddeiriau
Newid safle’r ansoddair yn newid ystyr dyn unig / unig ddyn
Ansoddeiriau tebyg ond gydag ystyr gwahanol
oer, oeraidd
Ansoddeiriau fel enwau tlodion
Ffurfiau cyfartal – cyn + ansoddair – mewn ymadroddion aml eu defnydd gan gynnwys ffurfiau afreolaidd
cyn gynted, cyn lleied, cyn ddued â, cystal â
Ansoddeiriau mewn priod-ddulliau Wedi blino’n lân, rhoi’r gorau i ..., mynd o ddrwg i waeth
Rhagenwau
Rhagenw cysylltiol minnau
Ymadroddion yn cynnwys rhagenw dangosol O ran hynny, o hyn allan
Rhagenwolion ei gilydd / ein gilydd nail ... llall pawb / pob holl
Is-gymalau
Cymal enwol a gyflwynir gan ‘y/yr’, ‘i’, ‘na’, ‘mai’
Rwy’n gwybod iddo adael. Maen nhw’n gwybod mai Sian ydy’r llyfrgellydd.
Cymalau perthynol gyda ffurfiau cryno’r ferf. Dyna’r ferch (a) ganodd yn yr Eisteddfod.
Cymalau adferfol ar ôl: er, pe, pan, os, oni, lle, y, wedi, er mwyn, gan, am, er, ers, oblegid, oddi ar, serch
-
TAG UG a SAFON UWCH CYMRAEG AIL IAITH 20
3 ASESU 3.1 Amcanion asesu a phwysoli
Rhaid i ymgeiswyr gwrdd â’r amcanion asesu canlynol yng nghyd-destun y cynnwys y manylir arno yn Adran 2 y fanyleb:
Amcanion Asesu Pwysoli
AA1 Defnyddio iaith lafar
Llefaru'r iaith yn gywir ac yn hyderus, gan arddangos ystodo adnoddau iaith; mabwysiadu'r cywair ieithyddol priodol ynôl y cyd-destun.
Gwrando'n astud; ymateb yn synhwyrol / yn ddeallus trwygodi cwestiynau a datblygu safbwyntiau perthnasol asyniadau'n gytbwys.
Rhyngweithio, crynhoi a dod i gasgliadau cytbwys.
30%
AA2 Ymateb i destunau
Arddangos gwybodaeth am destunau penodedig a'ucefndir, eu dehongli a mynegi barn arnynt gan drafod agwerthuso dehongliadau eraill.
Gwerthfawrogi ac ymateb i wahanol ffurfiau llenyddol. Ymateb i destunau llenyddol, llunyddol a ffeithiol, ar lafar ac
yn ysgrifenedig, yn gydlynol gan ddewis a dethol deunyddperthnasol a'i ddehongli.
Cyfeirio'n benodol at y testun gwreiddiol gan gyfiawnhau'rcyfeiriad.
Trawsieithu gan ddeall a dehongli'r testun.Hefyd, bydd pob ymgeisydd Safon Uwch yn:
Cyfuno, cymharu a gwerthuso gwybodaeth a gyflwynir drwywahanol gyfryngau, croesgyfeirio o'r naill destun i'r llall,crynhoi a dod i gasgliad cytbwys.
25%
AA3 Defnyddio iaith ysgrifenedig
Ysgrifennu'n gywir, eglur a graenus gan arddangos ystod oadnoddau iaith.
Defnyddio gwybodaeth am ramadeg yn effeithiol mewnamryfal gyd-destunau.
Dangos ymwybyddiaeth o wahanol gyweiriau iaith adefnyddio'r iaith yn hyderus mewn gwahanol sefyllfaoeddac at wahanol ddibenion.
45%
Mae'r amcanion asesu yn gymwys i'r fanyleb gyfan.
Dangosir pwysiadau’r amcanion asesu isod fel canran o’r Safon Uwch.
Uned Pwysiad Uned AA1 AA2 AA3
UG Uned 1 15% 10 5
UG Uned 2 10% 10
UG Uned 3 15% 5 10
U2 Uned 4 25% 20 5
U2 Uned 5 15% 15
U2 Uned 6 20% 10 10
Cyfanswm 100% 30 25 45
-
TAG UG a SAFON UWCH CYMRAEG AIL IAITH 21
WJEC CBAC Cyf.
3.2 Trefniadau ar gyfer asesu diarholiad
Dylai pob pecyn o waith gynnwys rhwng 1,500 a 2000 o eiriau.
Tasg dan amodau arbennig
Dylid caniatáu dwy awr ar gyfer cwblhau’r dasg a wneir dan amodau arbennig. Dylid
sicrhau bod safon y tasgau a osodir yn gymesur. “Amodau arbennig” yw amodau tebyg i rai arholiad cyffredin. Ni chaiff ymgeiswyr ymgynghori â’i gilydd. Caniateir mwy o amser i ddisgyblion â chanddynt anghenion arbennig. Dylid rhoi rhybudd o wythnos i ymgeiswyr cyn iddynt gyflawni’r dasg dan amodau arbennig. Caniateir defnyddio geiriadur neu ddeunydd pwrpasol e.e. pwyntiau bwled byr sy’n cynnwys ystadegau, ffeithiau, enghreifftiau a dyfyniadau perthnasol wrth gyflawni’r dasg. Ni roddir caniatâd i ymgeiswyr fynd â deunydd cyflawn wedi ei baratoi i mewn i’r asesiad dan amodau arbennig. Ni chaniateir defnyddio prosesydd geiriau wrth gyflawni’r dasg hon.
Caiff pob darn o waith ei farcio pan gyflwynir ef i’r athro/athrawes yn ystod y cwrs. Ni ddylai ymgeisydd ailysgrifennu tasg ffolio na’i chywiro wedi i’r athro/athrawes ei chywiro h.y. ni ddylid ar unrhyw gyfrif roi marc am waith fydd wedi’i gywiro mewn drafftiau cynt. Dylai’r athro/athrawes adael y cywiriadau a'r sylwadau a
gyfeiriwyd at yr ymgeisydd ar dasgau.
Cyn cyflwyno’r marciau dylai athrawon adolygu’r marciau a ddyfarnwyd i sicrhau bod cyfanswm y marciau yn adlewyrchu’n deg y safon am y tasgau i gyd. Os oes anghysondebau dylai’r athro/athrawes gynnwys nodyn o eglurhad.
Ar gyfer y tasgau a gyflwynir dylid nodi’r hyn a roddwyd i’r ymgeisydd fel symbyliad gwreiddiol. Dylid nodi unrhyw ragbaratoi ar ran yr ymgeisydd ei hun ac unrhyw gymorth/arweiniad a roddwyd gan yr athro/athrawes. Dylai athrawon nodi cywiriadau a sylwadau ar y sgriptiau.
Bydd gofyn nodi’r dyddiad y cyflwynwyd y dasg ac unrhyw nodiadau/sylwadau perthnasol ar gyfer y safonwr megis sut y cafodd y dasg ei chyflawni, unrhyw ddeunydd cyfeiriol a ddefnyddiwyd. Paratoir ffurflen arbennig ar gyfer nodi’r manylion hyn. Dylai’r ffurflen hon gael ei llofnodi gan yr athro/athrawes a’r ymgeisydd i ddilysu’r gwaith.
Safoni a Chymedroli
Os oes mwy nag un grŵp dysgu, rhaid sicrhau bod safoni mewnol yn digwydd fel bod safonau’n gyson ar draws y grwpiau dysgu.
Er mwyn sicrhau bod asesiadau yn cael eu safoni’n deg, clustnodir cymedrolwr allanol i’r ganolfan gan CBAC. Anfonir sampl o waith asesu diarholiad y ganolfan at y cymedrolwr ar ddechrau tymor yr haf. Dewisir y sampl gan CBAC ar ôl i’r ganolfan gyflwyno’r marciau ar-lein. Caiff pob canolfan adborth manwl yn dilyn y cymedroli.
-
TAG UG a SAFON UWCH CYMRAEG AIL IAITH 22
4 GWYBODAETH DECHNEGOL
4.1 Cofrestru
Mae hon yn fanyleb unedol sy’n caniatáu asesu mewn camau.
Bydd cyfleoedd asesu ar gael yng nghyfnod asesu’r haf bob blwyddyn, hyd at ddiwedd cyfnod y fanyleb.
Bydd Unedau 1, 2 a 3 ar gael yn haf 2017 (a phob blwyddyn wedi hynny) a dyfernir y cymhwyster UG am y tro cyntaf yn yr haf 2017.
Bydd Unedau 4, 5 a 6 ar gael yn haf 2018 (a phob blwyddyn wedi hynny) a dyfernir y cymhwyster Safon Uwch am y tro cyntaf yn yr haf 2018.
Gellir sefyll cymhwyster fwy nag unwaith. Fodd bynnag, os yw ymgeisydd wedi rhoi cynnig ar unrhyw uned ddwywaith a'i fod yn dymuno cofrestru am y trydydd tro, yna bydd rhaid i'r ymgeisydd ail-gofrestru am bob uned a'r cyfnewid priodol. Cyfeirir at hyn fel 'dechrau o'r newydd'. Pan gaiff cymhwyster ei ailgymryd (dechrau o'r newydd), gall ymgeisydd roi hyd at ddau gynnig arall ar bob uned. Fodd bynnag, ni ellir defnyddio canlyniadau o unedau a safwyd cyn dechrau o'r newydd wrth agregu'r radd (graddau) newydd.
Gellir trosglwyddo marciau unedau asesu di-arholiad dros gyfnod oes y fanyleb.
Os cofrestrwyd ymgeisydd am uned ond ei fod yn absennol am yr uned honno, nid yw'r absenoldeb yn cyfrif fel ymgais. Fodd bynnag, byddai'r ymgeisydd yn cael ei ddisgrifio fel ymgeisydd ailsefyll.
Mae'r codau cofrestru i'w gweld isod.
Teitl Codau cofrestru
UG Uned 1 Ffilm a Llafaredd 2020U1
UG Uned 2 Asesiad Diarholiad 2020U2
UG Uned 3 Defnyddio Iaith, a Barddoniaeth 2020U3
U2 Uned 4 Drama a Llafaredd 1020U4
U2 Uned 5 Y Gymraeg yn y Gymdeithas a Thrawsieithu 1020U5
U2 Uned 6 Defnyddio Iaith a'r Stori Fer 1020U6
Cyfnewid Cymhwyster UG 2020QS
Cyfnewid Cymhwyster Safon Uwch 1020QS
Rhoddir y gweithdrefnau cofrestru diweddaraf yn ein fersiwn cyfredol o’r ddogfen Gweithdrefnau Cofrestru a Gwybodaeth am Godau.
-
TAG UG a SAFON UWCH CYMRAEG AIL IAITH 23
WJEC CBAC Cyf.
4.2 Graddio, dyfarnu ac adrodd yn ôl
Bydd y graddau cyffredinol ar gyfer cymhwyster TAG Uwch Gyfrannol mewn Cymraeg Ail Iaith yn cael eu cofnodi fel gradd ar y raddfa A – E. Bydd y graddau cyffredinol ar gyfer y cymhwyster TAG Safon Uwch mewn Cymraeg Ail Iaith yn cael eu cofnodi fel gradd ar y raddfa A* i E. Bydd y canlyniadau sy’n methu â chyrraedd y safon isaf ar gyfer gradd yn cael eu cofnodi â’r llythyren U (annosbarthedig). Bydd graddau uned yn cael eu hadrodd yn ôl gyda llythyren fach a i e ar daflenni
canlyniadau ond nid ar dystysgrifau.
Defnyddir Graddfa Marciau Unffurf mewn manylebau unedol fel dyfais i adrodd yn ôl, cofnodi ac agregu deilliannau asesiad ymgeiswyr mewn uned. Defnyddir GMU fel bod ymgeiswyr sy’n cyflawni’r un safon yn cael yr un marc unffurf, pa bynnag uned a gymerwyd. Bydd canlyniadau uned unigol a’r dyfarniad pwnc cyffredinol yn cael eu mynegi fel marc unffurf ar raddfa gyffredin i bob cymhwyster TAG. Mae gan UG TAG gyfanswm o 200 marc unffurf ac mae gan Safon Uwch TAG gyfanswm o 500 marc unffurf. Mae uchafswm marciau unffurf ar gyfer unrhyw uned yn dibynnu ar bwysoli’r uned yn y fanyleb.
Mae marciau unffurf yn cyfateb i’r graddau uned a ganlyn:
Gradd Uned
Pwysoli Uned
Uchafswm marc unffurf i’r uned a b c d e
Uned 1 (15%) 75 60 53 45 38 30
Uned 2 (10%) 50 40 35 30 25 20
Uned 3 (15%) 75 60 53 45 38 30
Uned 4 (25%) 125 100 88 75 63 50
Uned 5 (15%) 75 60 53 45 38 30
Uned 6 (20%) 100 80 70 60 50 40
Mae’r marciau unffurf a geir yn mhob uned yn cael eu hadio a bydd y radd pwnc yn cael ei seilio ar y cyfanswm hwn.
Gradd cymhwyster
Cyfanswm marciau unffurf a b c d e
TAG UG 200 160 140 120 100 80
TAG Safon Uwch 500 400 350 300 250 200
-
TAG UG a SAFON UWCH CYMRAEG AIL IAITH 24
ATODIAD A GRID ASESU UNED 2
AA3 – ystod marciau
AA3 - Ysgrifennu
16 – 20 mynegi ei hun yn ddeallus, yn glir ac yn gywir, wrth gyflwynogwahanol elfennau’r testun
cynllunio ei waith yn fanwl a gofalus
rhoi sylw gofalus i gywair, ffurf a chynulleidfa drwy amrywio’rarddull yn briodol
defnyddio arddull bersonol briodol yn hyderus
mynegi barn yn glir ac yn cefnogi’r farn honno trwy resymucraff
arddangos amrywiaeth eang o adnoddau iaith a gafael ddaiawn ar ramadeg a chystrawen
13 – 15 mynegi ei hun yn glir ac yn gywir, wrth gyflwyno gwahanolelfennau’r testun
cynllunio ei waith yn ofalus
rhoi sylw gofalus i gywair, ffurf a chynulleidfa drwy amrywio’rarddull
defnyddio arddull bersonol briodol yn gyson
mynegi barn yn glir ac yn ei chefnogi â rhesymau perthnasol
arddangos amrywiaeth helaeth o adnoddau iaith a gafael ddaar ramadeg a chystrawen
10 – 12 mynegi ei hun yn glir ac yn eitha cywir
cynllunio ei waith yn ofalus ac yn gywir fel rheol
rhoi sylw i gywair, ffurf a chynulleidfa drwy amrwyio peth ar yrarddull
defnyddio arddull bersonol yn briodol
mynegi barn yn effeithiol ac yn ei chefnogi â rhesymauperthnasol
arddangos amrywiaeth o adnoddau iaith a gafael eithaf da arramadeg a chystrawen
7 – 9 mynegi ei hun yn glir ac yn gywir ar y cyfan
cyflwyno’r gwaith yn drefnus
arddangos peth ymwybyddiaeth o gywair, ffurf a chynulleidfa
gwneud peth defnydd o arddull bersonol
mynegi barn yn uniongyrchol ac yn ei chefnogi â rhesymau
defnyddio ystod o eirfa a phatrymau addas a pheth gafael arramadeg a chystrawen
4 – 6 mynegi ei hun yn glir ar y cyfan wrth ysgrifennu am y testunyn uniongyrchol
arddangos peth ymwybyddiaeth o drefn a dilyniant
arddangos peth ymwybyddiaeth o gywair wrth gyflwyno’rgwaith
mynegi barn gan gynnig rhesymau uniongyrchol
defnyddio ystod o eirfa a phatrymau addas
0 – 3 mae'r ymgeiswyr hyn yn llwyddo i ddangos rhai nodweddioncadarnhaol ar adegau yn unig.
WJEC GCE Welsh Second Language specification from 2016/MLJ/EM 05.05.17
1 RHAGARWEINIAD1.1 Nodau ac amcanion 1.2 Dysgu blaenorol a dilyniant1.3 Gorgyffwrdd â chymwysterau eraill1.4 Cydraddoldeb a mynediad teg1.5 Bagloriaeth Cymru2 CYNNWYS Y PWNC2.1 UNEDAU UG2.2 UNEDAU U23 ASESU 3.1 Amcanion asesu a phwysoli3.2 Trefniadau ar gyfer asesu diarholiad4 GWYBODAETH DECHNEGOL4.1 Cofrestru 4.2 Graddio, dyfarnu ac adrodd yn ôlATODIAD A