tag uwch gyfrannol/uwch ffiseg 1...

58
TAG Uwch Gyfrannol/Uwch Ffiseg 1 Cynnwys TAG Uwch Gyfrannol Ffiseg CBAC TAG Uwch Ffiseg CBAC 2009 a 2010 Dyfarniad Uwch Gyfrannol Cyntaf - Haf 2009 Dyfarniad Uwch Cyntaf - Haf 2010 Tudalen Codau Cofrestru a Darpariaeth yr Unedau 2 Crynodeb o’r Asesiad 3 Rhagarweiniad 5 Nodau 8 Amcanion Asesu 9 Cynnwys y Fanyleb 10 Cynllun Asesu 49 Sgiliau Allweddol 52 Disgrifiadau Perfformiad 53 Canllawiau Asesu Mewnol 57

Upload: trinhdung

Post on 30-Oct-2018

249 views

Category:

Documents


0 download

TRANSCRIPT

TAG Uwch Gyfrannol/Uwch Ffiseg 1

Cynnwys TAG Uwch Gyfrannol Ffiseg CBAC

TAG Uwch Ffiseg CBAC

2009 a 2010

Dyfarniad Uwch Gyfrannol Cyntaf - Haf 2009 Dyfarniad Uwch Cyntaf - Haf 2010

Tudalen Codau Cofrestru a Darpariaeth yr Unedau 2 Crynodeb o’r Asesiad 3 Rhagarweiniad 5 Nodau 8 Amcanion Asesu 9 Cynnwys y Fanyleb 10 Cynllun Asesu 49 Sgiliau Allweddol 52 Disgrifiadau Perfformiad 53 Canllawiau Asesu Mewnol 57

TAG Uwch Gyfrannol/Uwch Ffiseg 2

TAG Ffiseg

Codau Cofrestru Pwnc/Opsiwn

Cofrestriad “Cyfnewid”Uwch Gyfrannol (UG) Cofrestriad “Cyfnewid”Safon Uwch (U)

2321 3321

PH1 : Mudiant, Egni a Gwefr 1321

PH2 : Tonnau a Gronynnau 1322

PH3 : Ffiseg Ymarferol 1323

PH4 : Osgiliadau a Meysydd 1324

PH5 : Magneteg, Niwclysau ac Opsiynau 1325

PH6 : Ffiseg Arbrofol 1326

Wrth gofrestru, dylid rhoi’r codau opsiwn a ganlyn ar ôl y cod uned neu gyfnewid pedwar digid i nodi cyfrwng Saesneg neu gyfrwng Cymraeg:

Cyfrwng Cymraeg W1 Cyfrwng Saesneg 01

Darpariaeth yr Unedau Asesu

Uned

Ionawr 2009

Mehefin 2009

Ionawr 2010 a phob

blwyddyn wedi

hynny

Mehefin 2010 a phob

blwyddyn wedi

hynny

PH1

PH2

PH3

PH4

PH5

PH6

TAG Uwch Gyfrannol/Uwch Ffiseg 3

CRYNODEB O’R ASESIAD

Rhennir y fanyleb hon yn gyfanswm o 6 uned, 3 uned UG a 3 uned U2. Mynegir y pwysiadau a welir isod yn nhermau’r cymhwyster Safon Uwch llawn. UG (3 uned)

PH1 20% Papur Ysgrifenedig 1¼ awr 80 marc [120 MU] Mudiant, Egni a Gwefr Tua 7 cwestiwn strwythuredig. Dim dewis o gwestiynau. Dim adrannau. PH2 20% Papur Ysgrifenedig 1¼ awr 80 marc [120 MU] Tonnau a Gronynnau Tua 7 cwestiwn strwythuredig. Dim dewis o gwestiynau. Dim adrannau. PH3 10% Asesiad Mewnol 48 marc [60 MU] Ffiseg Ymarferol Tasgau ymarferol, a gyflawnir dan amodau rheoledig, wedi'u seilio ar y technegau arbrofol a ddatblygir yn y cwrs UG

SAFON UWCH (yr uchod a 3 uned bellach)

PH4 18% Papur Ysgrifenedig 1¼ awr 80 marc [108 MU] Osgiliadau a Meysydd Tua 7 cwestiwn. Yn cynnwys asesiad synoptig. Dim dewis o gwestiynau. Dim adrannau. PH5 22% Papur Ysgrifenedig 1¾ awr 100 marc[132 MU] Electromagneteg, Niwclysau ac Opsiynau Adran A: Tua 5 cwestiwn ar gynnwys gorfodol yr uned. 60 marc Adran B: Astudiaeth Achos, synoptig ei natur, yn seiliedig ar ddeunydd ffynhonnell agored a ddosberthir gan y bwrdd. 20 marc Adran C: Opsiynau: Ceryntau Eiledol, Cylchdroeon, Defnyddiau, Ffiseg Feddygol, Egni. 20 marc PH6 10% Asesiad Mewnol [GMU = 60] Asesiad Arbrofol a Synoptig Tasg arbrofol (25 marc), a thasg dadansoddi data (25 marc) a gyflawnir dan amodau rheoledig, y ddwy yn synoptig eu natur.

• Mae unedau asesu PH1, PH2 a PH4 ar gael yng nghyfres arholiadau'r gaeaf. Mae pob uned ar

gael yng nghyfres arholiadau'r haf. • Cynhwysir asesiad synoptig yn PH4 a PH5. Mae’n gynhenid yn yr Asesiad Mewnol PH6.

TAG Uwch Gyfrannol/Uwch Ffiseg 5

FFISEG

1 RHAGARWEINIAD 1. 1 Meini Prawf ar gyfer TAG Uwch Gyfrannol ac Uwch

Mae’r fanyleb hon yn cwrdd â gofynion y meini prawf cyffredinol ar gyfer TAG Uwch Gyfrannol (UG) ac Uwch (U) a’r meini prawf pwnc ar gyfer Ffiseg UG/U a gyhoeddwyd gan y rheolyddion [Gorffennaf 2006]. Bydd y cymwysterau’n cydymffurfio â gofynion graddio, dyfarnu ac ardystio y Cod Ymarfer ar gyfer cymwysterau ‘cyffredinol’ (gan gynnwys TAG).

Adroddir y cymhwyster UG ar raddfa pum gradd – A, B, C, D ac E. Adroddir y cymhwyster Uwch ar raddfa chwe gradd – A*, A, B, C, D ac E. Bydd dyfarnu A* ar safon Uwch yn cydnabod y gofynion ychwanegol a wneir gan yr unedau U2 yn nhermau’r gofynion 'ymestyn a herio' a’r gofynion ‘synoptig’. Cofnodir cyrhaeddiad ymgeiswyr nad ydynt yn llwyddo i gyrraedd y safon isaf bosib ar gyfer gradd E fel U (annosbarthedig) ac ni fyddant yn derbyn tystysgrif. Lefel cyrhaeddiad yr arholiad Uwch Gyfrannol yw’r hyn a ddisgwylir gan ymgeiswyr a fydd wedi cwblhau hanner cyntaf y cwrs Safon Uwch llawn.

Bydd gan yr unedau asesu UG yr un pwysiad marciau ag ail hanner y cymhwyster (U2) pan fyddant yn cael eu hagregu i gynhyrchu’r dyfarniad Uwch. Mae’r UG yn cynnwys tair uned asesu, sef PH1, PH2 a PH3 yn y fanyleb hon. Tair uned sydd i’r cwrs U2 hefyd, sef PH4, PH5 a PH6.

Gellir ailsefyll yr unedau asesu cyn yr ardystio ar gyfer y cymwysterau UG neu U, ac yn yr achosion hynny, y canlyniad gorau a ddefnyddir ar gyfer dyfarnu’r cymhwyster. Bydd oes canlyniadau asesu unigol, cyn eu defnyddio ar gyfer ardystio cymhwyster, ond yn cael ei chyfyngu gan oes y fanyleb ei hun. Mae’r fanyleb a’r deunyddiau asesu ar gael trwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg.

1.2 Dysgu blaenorol

Mae’r fanyleb yn tybio bod yr ymgeiswyr wedi cwblhau cyrsiau blaenorol mewn TGAU Gwyddoniaeth a Gwyddoniaeth Ychwanegol neu TGAU Ffiseg. Fodd bynnag, gellir ystyried dysgu blaenorol mewn cyrsiau heblaw TGAU neu drwy brofiad seiliedig ar waith, yn ôl doethineb y canolfannau unigol, yn sail addas ar gyfer y cwrs astudiaeth hwn. Yn benodol, ar ddechrau’r cwrs, tybir bod yr ymgeiswyr yn gyfarwydd ag

• unedau SI a’u lluosrifau/is-luosrifau • meintiau a fynegir mewn ffurf safonol • hafaliadau algebraidd syml

ac mae’r fanyleb yn rhoi cyd-destunau i atgyfnerthu a datblygu’r sgiliau hyn. Nid yw’r fanyleb yn oed-benodol ac mae’n rhoi cyfleoedd i ymgeiswyr estyn eu dysgu gydol oes.

TAG Uwch Gyfrannol/Uwch Ffiseg 6

1.3 Dilyniant

Mae strwythur chwe rhan y fanyleb hon (3 uned ar gyfer UG, a 3 uned ychwanegol ar gyfer y safon Uwch llawn) yn caniatáu asesu mewn camau ac ar ddiwedd y cwrs ac felly’n caniatáu i ymgeiswyr ohirio penderfyniadau ynglŷn â symud ymlaen o’r cymhwyster UG i’r cymhwyster safon Uwch llawn.

Mae’r fanyleb hon yn darparu sylfaen addas ar gyfer astudio Ffiseg, Peirianneg, Meddygaeth

neu faes perthynol, trwy gyfrwng amrediad o gyrsiau addysg uwch neu fynediad uniongyrchol i fyd gwaith. Mae’r fanyleb hon hefyd yn darparu cwrs astudiaeth cydlynol, boddhaol a gwerthfawr ar gyfer ymgeiswyr na fyddant yn mynd ymlaen i astudio’r pwnc hwn ymhellach.

1.4 Rhesymeg

Mae’r fanyleb ar gyfer Ffiseg UG ac Uwch yn cydymffurfio â’r Meini Prawf Pwnc ar gyfer TAG UG ac Uwch Pynciau Gwyddonol a gyhoeddwyd gan CCEA, AADGOS a QCA. Mae’n darparu (a) cwrs cyflawn mewn Ffiseg i TAG Safon Uwch;

(b) sylfaen gadarn mewn gwybodaeth a dealltwriaeth o Ffiseg, ynghyd â chymhwysedd mathemategol i’r rhai sy’n dymuno mynd ymlaen i astudiaethau pellach mewn Ffiseg, Peirianneg, Mathemateg, Meddygaeth neu’r Gwyddorau Naturiol.

Cyflwynir i fyfyrwyr sy’n dilyn y fanyleb amrywiaeth eang o egwyddorion Ffiseg ac fe’u dygir i ddealltwriaeth o sut mae natur yn gweithredu ar raddfa ficrosgopig a macrosgopig. Byddant yn deall sut y cymhwysir yr egwyddorion hyn wrth fynd i’r afael â phroblemau cymdeithas ddynol.

1.5 Y Cwricwlwm Ehangach

Mae Ffiseg, yn ôl ei hanfod, yn bwnc sy’n gofyn i ymgeiswyr ystyried materion yr unigolyn,

materion moesegol, cymdeithasol, diwylliannol a chyfoes. Mae’r fanyleb hon yn darparu fframwaith i archwilio materion o’r fath ac mae’r cynnwys penodol sydd ynddi yn caniatáu i addysgwyr roi sylw i’r materion hynny. Er enghraifft, defnyddio isotopau ymbelydrol mewn meddygaeth, y drafodaeth ar bŵer niwclear a chanlyniadau amgylcheddol defnyddio tanwyddau ffosil.

Mae’r fanyleb yn cynnwys testunau sy’n galluogi athrawon yng Nghymru i ddefnyddio

enghreifftiau a blaenoriaethau Cymreig yn unol â’r Cwricwlwm Cymreig, er enghraifft wrth ddatblygu adnoddau egni.

1.6 Cyfuniadau a waherddir a gorgyffwrdd â chymwysterau eraill Ar gyfer pob manyleb, rhoddir cod dosbarthu cenedlaethol sy’n nodi i ba faes pynciol y

mae’n perthyn. Dylai canolfannau nodi, yn achos yr ymgeiswyr hynny sy’n cofrestru am fwy nag un cymhwyster TAG gyda’r un cod dosbarthu, mai un radd yn unig (yr uchaf) a gyfrifir at ddibenion Tablau Perfformiad Ysgolion a Cholegau. Cod dosbarthu’r fanyleb hon yw 1210.

Nid oes unrhyw orgyffwrdd sylweddol rhwng y fanyleb hon ac unrhyw un arall, er y bydd peth gorgyffwrdd, er enghraifft ag Electroneg. Ni waherddir unrhyw gyfuniad.

TAG Uwch Gyfrannol/Uwch Ffiseg 7

1.7 Cydraddoldeb ac Asesiad Teg

Yn aml yn yr UG/Safon Uwch, bydd gofyn asesu amrediad eang o gymwyseddau. Gwneir hyn oherwydd eu bod yn gymwysterau cyffredinol a'u bod, felly, yn paratoi ymgeiswyr ar gyfer amrywiol yrfaoedd a chyrsiau ar lefel uwch. Adolygwyd y meini prawf cymhwyster a phwnc UG/Safon Uwch er mwyn ystyried a fyddai unrhyw un o'r cymwyseddau oedd eu hangen yn y pwnc yn eithrio ymgeiswyr anabl rhag sefyll y pwnc hwnnw. Mewn achosion o'r fath, adolygwyd y sefyllfa eto i wneud yn siŵr nad oedd cymwyseddau o'r fath ond yn cael eu cynnwys pan oedd hynny'n hanfodol i'r pwnc. Trafodwyd casgliadau'r broses hon gyda grwpiau'r anabl a phobl anabl eu hunain.

Mewn TAG Ffiseg gellir defnyddio cynorthwywyr ymarferol ar gyfer trin offer a gwneud arsylwadau. Gall technoleg helpu myfyrwyr â nam ar eu golwg i wneud darlleniadau ac arsylwadau. Gwneir addasiadau rhesymol ar gyfer ymgeiswyr anabl fel bod yr asesiadau o fewn eu cyrraedd. O'r herwydd, ychydig iawn o ymgeiswyr fydd yn cael eu hatal yn llwyr rhag sefyll unrhyw ran o'r asesiad. Mae gwybodaeth ar addasiadau rhesymol i'w chael yn nogfen y Cyd-gyngor Cymwysterau, Rheoliadau ac Arweiniad Yn Ymwneud ag Ymgeiswyr sy'n Gymwys am Addasiadau mewn Arholiadau. Mae'r ddogfen hon ar gael ar wefan y CGC (www.jcq.org.uk). Mae'n bosibl y ceir ymgeiswyr na fydd rhan sylweddol o'r asesiad o fewn eu cyrraedd o hyd, hyd yn oed ar ôl archwilio pob posibilrwydd trwy addasiadau rhesymol, ond y bydd modd iddynt dderbyn dyfarniad. Byddent yn cael gradd wedi'i seilio ar y rhannau o'r asesiad a gymerwyd ganddynt a nodir ar eu tystysgrif nad yw'r holl gymwyseddau wedi'u cyflawni. Cedwir hyn dan ystyriaeth ac efallai y caiff ei newid yn y dyfodol.

TAG Uwch Gyfrannol/Uwch Ffiseg 8

2 NODAU Mae’r manylebau UG ac U mewn Ffiseg yn annog myfyrwyr i: (a) datblygu brwdfrydedd dros Ffiseg a, lle bo’n briodol, dilyn y brwdfrydedd hwn wrth

ei hastudio ymhellach; (b) deall prosesau Ffiseg, fel un o’r Gwyddorau Naturiol, y ffordd y mae’r pwnc yn

datblygu trwy arbrawf, damcaniaeth, mewnwelediad a meddwl creadigol; (c) gwerthfawrogi rôl Ffiseg mewn cymdeithas, yn enwedig sut mae ei darganfyddiadau

yn cael eu cymhwyso mewn diwydiant a meddygaeth a sut y gwneir penderfyniadau ar sut i’w defnyddio;

(ch) sylweddoli cydgysylltiad y pwnc a’r ffyrdd y gellir defnyddio gwahanol linynnau

Ffiseg i ddatrys problemau a chael mewnwelediadau newydd i’r byd naturiol; (d) ennill dealltwriaeth fwy cyffredinol o’r ffordd y mae disgyblaethau gwyddonol yn

gwneud cynnydd, yn cael tystiolaeth a’i dehongli, yn cynnig atebion a’u gwerthuso, yn cyfleu syniadau ac yn rhyngweithio â’r gymuned, fel yr amlinellir yn adran 3.6, Sut Mae Gwyddoniaeth yn Gweithio, yn y meini prawf TAG UG ac Uwch ar gyfer pynciau gwyddonol.

Sut Mae Gwyddoniaeth yn Gweithio Yng nghyd-destun Ffiseg UG/U, dylai ymgeiswyr: • ddefnyddio damcaniaethau, modelau a syniadau i ddatblygu ac addasu esboniadau

gwyddonol; • defnyddio eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth i ofyn cwestiynau gwyddonol, diffinio

problemau gwyddonol, cyflwyno dadleuon gwyddonol a syniadau gwyddonol; • defnyddio methodoleg briodol, gan gynnwys TGCh, i ateb cwestiynau gwyddonol a

datrys problemau gwyddonol; • cyflawni gweithgareddau arbrofol ac ymchwiliol, gan gynnwys rheoli risg yn briodol,

mewn amrywiol gyd-destunau; • dadansoddi a dehongli data i ddarparu tystiolaeth, gan adnabod cydberthyniadau a

pherthnasau achosol; • gwerthuso methodoleg, tystiolaeth a data, a datrys tystiolaeth sy’n gwrthdaro; • gwerthfawrogi natur betrus gwybodaeth wyddonol; • cyfleu gwybodaeth a syniadau mewn ffyrdd priodol gan ddefnyddio termau priodol; • ystyried sut mae gwyddoniaeth yn cael ei chymhwyso a goblygiadau hyn, gan

sylweddoli'r buddion a’r peryglon sy’n gysylltiedig; • sylweddoli rôl y gymuned wyddonol wrth ddilysu gwybodaeth newydd a sicrhau

gonestrwydd; • gwerthfawrogi'r ffyrdd y mae cymdeithas yn defnyddio gwybodaeth ac arferion ffiseg

i oleuo gwneud penderfyniadau.

TAG Uwch Gyfrannol/Uwch Ffiseg 9

3 AMCANION ASESU

Rhaid i ymgeiswyr gwrdd â’r amcanion asesu canlynol yng nghyd-destun y cynnwys y manylir arno yn Adran 4 y fanyleb: AA1: Gwybodaeth a dealltwriaeth o wyddoniaeth ac o Sut mae gwyddoniaeth yn gweithio

Dylai ymgeiswyr allu: (a) adnabod, dwyn i gof a dangos dealltwriaeth o wybodaeth wyddonol

(b) dewis, trefnu a chyfleu gwybodaeth berthnasol mewn gwahanol ffurfiau. AA2: Cymhwyso gwybodaeth a dealltwriaeth o wyddoniaeth ac o Sut mae gwyddoniaeth yn gweithio

Dylai ymgeiswyr allu: (a) dadansoddi a gwerthuso gwybodaeth a phrosesau gwyddonol

(b) cymhwyso gwybodaeth a phrosesau gwyddonol i sefyllfaoedd anghyfarwydd, gan gynnwys rhai cysylltiedig â materion o bwys

(c) asesu dilysrwydd, dibynadwyedd a hygrededd gwybodaeth wyddonol. AA3: Sut mae gwyddoniaeth yn gweithio

Dylai ymgeiswyr allu: (a) dangos a disgrifio technegau a phrosesau moesegol, diogel a medrus, gan ddewis

dulliau ansoddol a meintiol priodol.

(b) gwneud, cofnodi a chyfleu arsylwadau a mesuriadau dibynadwy a dilys gyda thrachywiredd a manwl gywirdeb priodol.

(c) dadansoddi, dehongli, egluro a gwerthuso methodoleg, canlyniadau ac effaith eu gweithgareddau arbrofol ac ymchwiliol eu hunain a rhai pobl eraill mewn gwahanol ffyrdd.

Pwysiadau Dangosir pwysiadau’r amcanion asesu fel % o’r safon Uwch lawn, gyda phwysiadau UG mewn cromfachau.

marciau crai Uned Cyfanswm

yr uned AA1 AA2 AA3

pwysiad yr uned

% PH1 80 35 35 10 20 (40) PH2 80 35 35 10 20 (40) PH3 48 4 4 40 10 (20) PH4 80 30 40 10 18 PH5 100 34 60 6 22 PH6 50 5 5 40 10

Cyfanswm % UG 37 37 27 Cyfanswm % U2 30 46 23 Cyfanswm % U 34 42 25

TAG Uwch Gyfrannol/Uwch Ffiseg 10

4 CYNNWYS Y FANYLEB

4.1 Unedau Defnyddir unedau SI trwy’r holl fanyleb hon. Bydd angen

gwybodaeth am luosyddion SI. Cynhwysir tabl o’r lluosyddion SI ymhob papur arholiad.

4.2 Gwaith Ymarferol Bydd gwaith ymarferol yn chwarae rôl bwysig trwy’r cwrs

cyfan. Tynnir sylw at y cynnwys a nodir ymhob uned a’r cyfarwyddiadau ynghylch yr asesiadau mewnol ymarferol.

4.3 Gofynion Mathemategol Daw’r rhestr ganlynol o ofynion o’r Meini Prawf TAG UG ac

U ar gyfer Pynciau Gwyddonol [Gorffennaf 2006]. Ni fydd yr adrannau mewn print trwm [h.y. defnyddio radianau, y ffwythiannau esbonyddol a logarithmig] yn ofynnol ar lefel UG, gan na ddaw’r cynnwys pynciol lle mae angen y cysyniadau hyn yn y rhan hon o’r cwrs.

Bydd yn ofynnol i ymgeiswyr:

4.3.1 Cyfrifiant • adnabod a defnyddio mynegiadau ar ffurf ddegol a safonol • defnyddio cymarebau, ffracsiynau a chanrannau • defnyddio cyfrifiannell i ddarganfod a defnyddio pŵer, ffwythiannau

esbonyddol a logarithmig • defnyddio cyfrifiannell i drin sin x, cos x, tan x pan fynegir x mewn

graddau neu radianau

4.3.2 Trin data • defnyddio nifer priodol o ffigurau ystyrlon • darganfod cymedrau rhifyddol • gwneud cyfrifiadau trefn maint

4.3.3 Algebra

• deall a defnyddio’r symbolau: =, <, <<, >>, >, ∝, ~ • newid testun hafaliad • amnewid gwerthoedd rhifiadol mewn hafaliadau algebraidd gan

ddefnyddio unedau addas ar gyfer meintiau ffisegol • datrys hafaliadau algebraidd syml

TAG Uwch Gyfrannol/Uwch Ffiseg 11

4.3.4 Graffiau • cyfnewid gwybodaeth rhwng ffurfiau graffigol, rhifiadol ac

algebraidd • plotio dau newidyn o ddata arbrofol neu ddata eraill • deall bod y = mx + c yn cynrychioli perthynas linol • darganfod goledd a rhyngdoriad graff llinol • llunio a defnyddio goledd tangiad i gromlin fel mesur o gyfradd

newid • deall arwyddocâd ffisegol posibl yr arwynebedd rhwng cromlin a’r

echelin x a gallu cyfrifo hyn neu ei fesur drwy gyfrif sgwariau fel sy’n briodol

• defnyddio plotiau logarithmig i brofi amrywiadau esbonyddol a deddf pŵer

• braslunio ffwythiannau syml gan gynnwys y = k/x, y = kx2, y = k/x2, y = sin x, y = cos x, y = e-x

4.3.5 Geometreg a Thrigonometreg

• cyfrifo arwynebedd triongl, cylchedd ac arwynebedd cylch, arwynebedd arwyneb a chyfaint bloc petryal, silindr a sffêr

• defnyddio theorem Pythagoras, a swm onglau triongl • defnyddio sinau, cosinau a thangiadau mewn problemau ffisegol • deall y berthynas rhwng graddau a radianau a throsi o’r naill i’r

llall.

Uwch Gyfrannol

PH1 Uned Asesu – MUDIANT, EGNI A GWEFR

Mae’r Uned wedi’i chreu o gwmpas craidd sy’n ymwneud â’r cynnwys canlynol yn y Meini Prawf Pwnc:

S3.3 (a) – (ch) Mecaneg S4.4(a) – (ch) Cylchedau trydanol MANYLEB

PH1.1 FFISEG SYLFAENOL

Cynnwys

• Unedau a dimensiynau • Mesurau sgalar a fector • Grym • Diagramau cyrff rhydd • Symudiadau a sefydlogrwydd • Ecwilibriwm

MANYLION Y CYNNWYS

Dylai ymgeiswyr allu:

(a) galw unedau SI i gof a’u defnyddio;

(b) gwirio hafaliadau am homogenedd gan ddefnyddio unedau;

TAG Uwch Gyfrannol/Uwch Ffiseg 12

(c) gwrthgyferbynnu mesurau sgalar a fector a rhoi enghreifftiau o bob un - dadleoliad, cyflymder, cyflymiad, grym, buanedd, amser, dwysedd, gwasgedd ayb.;

(ch) sylweddoli’r cysyniad o rym a deall 3edd deddf mudiant Newton; (d) defnyddio diagramau cyrff rhydd i gynrychioli grymoedd ar ronyn

neu gorff; (dd) galw’r berthynas ΣF = ma i gof a’i defnyddio mewn sefyllfaoedd lle

mae màs yn gyson; (e) adio a thynnu fectorau cymhlan, a chyflawni cyfrifiadau

mathemategol a gyfyngir i ddau fector perpendicwlar; (f) cydrannu fector yn ddwy gydran berpendicwlar;

(ff) deall cysyniad dwysedd, defnyddio’r hafaliad mV

ρ = i gyfrifo màs,

dwysedd a chyfaint; (g) deall a diffinio effaith troi grym; (ng) galw egwyddor momentau i gof a’i defnyddio; (h) deall a defnyddio craidd disgyrchiant, er enghraifft mewn problemau

syml gan gynnwys dymchwel a sefydlogrwydd. Adnabod ei leoliad mewn silindr, sffêr a chiwboid (trawst) â dwysedd unffurf;

(i) deall bod corff mewn ecwilibriwm pan fydd y grym cydeffaith yn

sero a’r gwir foment yn sero, a gallu gwneud cyfrifiadau syml.

PH1.2 CINEMATEG

Cynnwys

• Mudiant unionlin.

MANYLION Y CYNNWYS Dylai ymgeiswyr allu:

(a) diffinio dadleoliad, gwerthoedd cymedrig ac enydaidd ar gyfer

buanedd, cyflymder a chyflymiad; (b) defnyddio dulliau graffigol i gynrychioli dadleoliad, buanedd,

cyflymder a chyflymiad; (c) deall a defnyddio priodweddau graffiau dadleoliad-amser, graffiau

cyflymder-amser, graffiau cyflymiad-amser, a dehongli buanedd a graffiau dadleoliad-amser ar gyfer cyflymiad anunffurf;

(ch) deillio a defnyddio hafaliadau sy’n cynrychioli mudiant sy’n

cyflymu’n unffurf mewn llinell syth;

TAG Uwch Gyfrannol/Uwch Ffiseg 13

(d) disgrifio mudiant cyrff sy’n disgyn mewn maes disgyrchiant gyda gwrthiant aer a heb wrthiant aer − cyflymder terfynol;

(dd) adnabod a deall annibyniaeth mudiant fertigol a mudiant llorweddol

corff sy’n symud yn rhydd dan ddisgyrchiant; (e) disgrifio ac egluro mudiant oherwydd cyflymder unffurf i un

cyfeiriad a chyflymiad unffurf i gyfeiriad perpendicwlar, a gwneud cyfrifiadau syml.

PH1.3 CYSYNIADAU EGNI

Cynnwys

• Gwaith, Pŵer ac Egni.

MANYLION Y CYNNWYS Dylai ymgeiswyr allu:

(a) dwyn i gof ddiffiniad gwaith fel lluoswm grym a phellter a symudir i

gyfeiriad y grym pan fo’r grym yn gyson; cyfrifo’r gwaith a wneir, ar gyfer grymoedd cyson, pan nad yw’r grym ar hyd llinell y mudiant (gwaith a wneir = Fxcos θ);

(b) deall mai’r gwaith a wneir gan rym newidiol yw’r arwynebedd o dan

y graff grym-pellter; (c) dwyn i gof a defnyddio deddf Hooke, F = kx, a’i chymhwyso i (b)

uchod i ddangos bod yr egni potensial elastig yn 21 Fx neu 2

1 kx2; (ch) deall a chymhwyso’r berthynas gwaith – egni

22 mumvFs 21

21 −= a dwyn i gof fod Ek = 2

1 mv2;

(d) dwyn i gof a chymhwyso egwyddor cadwraeth egni gan gynnwys

defnyddio egni potensial disgyrchiant hmgΔ , egni potensial elastig

21 kx2, ac egni cinetig 2

1 mv2; (dd) diffinio pŵer fel cyfradd trosglwyddo egni;

(e) gwerthfawrogi bod grymoedd afradlon e.e. ffrithiant, gludedd, yn

trosglwyddo egni allan o system ac yn lleihau effeithlonedd cyffredinol y system;

(f) dwyn i gof a defnyddio Effeithlonedd = Egni defnyddiol a geir × 100%;

Egni mewnbwn

TAG Uwch Gyfrannol/Uwch Ffiseg 14

PH1.4 DARGLUDIAD TRYDAN

Cynnwys

• Gwefr drydanol. • Cerrynt trydanol. • Natur cludyddion gwefr mewn dargludyddion.

MANYLION Y CYNNWYS Dylai ymgeiswyr allu: (a) deall sut y gellir egluro atyniad a gwrthyriad rhwng ynysyddion sy’n

cael eu rhwbio yn nhermau gwefrau ar arwynebau'r ynysyddion hyn, ac mai dim ond dau fath o wefr sydd ynghlwm wrth hyn;

(b) deall bod y term gwefr negatif wedi’i roi’n fympwyol i’r math o wefr

a geir ar roden ambr sy’n cael ei rhwbio â ffwr, a gwefr bositif i’r wefr a geir ar roden wydr sy’n cael ei rhwbio â sidan;

(c) dwyn i gof y ffaith y gellir dangos bod gan electronau wefr negatif, a

chan brotonau, wefr bositif; (ch) egluro gwefru ffrithiannol yn nhermau electronau a dynnir oddi wrth

atomau arwyneb neu a ychwanegir atynt; (d) dwyn i gof mai’r coulomb (C) yw uned gwefr a bod gwefr electron,

e, yn ffracsiwn bychan iawn o goulomb; (dd) dwyn i gof y gall gwefr lifo trwy rai defnyddiau, a elwir yn

ddargludyddion; (e) deall mai cerrynt trydanol yw cyfradd llif gwefr;

(f) dwyn i gof a defnyddio’r hafaliad Q

It

Δ=Δ

;

(ff) dwyn i gof fod cerrynt yn cael ei fesur mewn amperau (A), lle

A = Cs-1; (g) deall a disgrifio mecanwaith dargludiad mewn metelau fel drifft

electronau rhydd; (ng) deillio a defnyddio’r hafaliad I = nAve ar gyfer electronau rhydd.

TAG Uwch Gyfrannol/Uwch Ffiseg 15

PH1.5 GWRTHIANT

CYNNWYS

• Y berthynas rhwng cerrynt a gwahaniaeth potensial. • Gwrthiant. • Gwrthedd. • Amrywiaeth gwrthiant gyda thymheredd ar gyfer metelau. • Uwchddargludedd. • Effaith gwresogi gan gerrynt trydanol.

MANYLION Y CYNNWYS Dylai ymgeiswyr allu: (a) diffinio gwahaniaeth potensial a dwyn i gof mai’r folt (V) yw ei

uned, lle V = JC-1; (b) braslunio graffiau I - V ar gyfer deuod lled-ddargludydd, ffilament

lamp a gwifren fetel ar dymheredd cyson; (c) nodi deddf Ohm; (ch) diffinio gwrthiant; (d) dwyn i gof mai’r ohm (Ω) yw uned gwrthiant, lle Ω = VA-1; (dd) deall mai gwrthdrawiadau rhwng electronau rhydd ac ïonau sy’n

achosi gwrthiant trydanol a chyflymder drifft cyson dan g.p. cyson;

(e) dwyn i gof a defnyddiol

RAρ

= a deall mai dyma’r hafaliad sy’n

diffinio gwrthedd; (f) disgrifio sut i ganfod gwrthedd metel trwy arbrawf; (ff) disgrifio sut i ymchwilio trwy arbrawf i amrywiaeth gwrthiant gyda

thymheredd gwifren fetel; (g) dwyn i gof fod gwrthiant metelau yn amrywio bron yn llinol gyda

thymheredd dros ystod eang; (ng) deall beth a olygir gan uwchddargludedd a thymheredd trosiannol

uwchddargludol; (h) dwyn i gof nad yw pob metel yn dangos uwchddargludedd ac, i’r rhai

sydd yn gwneud, fod y tymereddau trosiannol ychydig raddau’n uwch na sero absoliwt (–273°C);

(i) dwyn i gof fod gan rai defnyddiau arbennig (uwchddargludyddion

tymheredd uchel) dymereddau trosiannol uwch na berwbwynt nitrogen (–196°C), ac y gellir eu cadw dan eu tymereddau critigol, felly, trwy ddefnyddio nitrogen hylifol;

TAG Uwch Gyfrannol/Uwch Ffiseg 16

(j) dwyn i gof fod magnetau uwchddargludol yn cael eu defnyddio mewn cyflymyddion gronynnau, tokamakau a pheiriannau delweddu cyseiniant magnetig ac y disgwylir y byddant yn cael eu defnyddio’n fuan mewn rhai moduron a generaduron mawr;

(l) deall bod gwrthdrawiadau rhwng electronau rhydd ac ïonau mewn

metelau fel rheol (hynny yw, dros y tymheredd trosiannol) yn cynyddu egni dirgryniadau hap yr ïonau, ac felly mae tymheredd y metel yn cynyddu;

(ll) dwyn i gof a defnyddio 2

2 VP IV I R

R= = = .

PH1.6 CYLCHEDAU C.U.

CYNNWYS

• Cylchedau cyfres a pharalel. • Cyfuno gwrthyddion. • Gwrthiant mewnol ffynonellau. • Y rhannwr potensial.

MANYLION Y CYNNWYS Dylai ymgeiswyr allu:

(a) deall a dwyn i gof fod y cerrynt o ffynhonnell yn hafal i swm y

ceryntau yn y gwahanol ganghennau mewn cylched baralel, a bod hyn oherwydd cadwraeth gwefr;

(b) deall a dwyn i gof fod y gwahaniaethau potensial ar draws cydrannau

mewn cylched gyfres yn hafal i’r g.p. ar draws y cyflenwad, a hynny oherwydd cadwraeth egni;

(c) deall a dwyn i gof fod y gwahaniaethau potensial ar draws cydrannau

mewn paralel yn hafal; (d) dwyn i gof a defnyddio fformiwlâu ar gyfer gwrthiant cyfun

gwrthyddion mewn cyfres ac mewn paralel; (e) deillio a defnyddio’r fformiwla ar gyfer rhannwr potensial,

cyfanswmMEWN

ALLAN

cyfanswm RR

VV

neuVV

=⎟⎟⎠

⎞⎜⎜⎝

⎛;

(f) diffinio g.e.m. ffynhonnell a gwerthfawrogi bod ganddo’r un uned,

sef y folt (V), â gwahaniaeth potensial; (g) sylweddoli bod gan ffynonellau wrthiant mewnol a defnyddio’r

fformiwla V = E − Ir; (h) cyfrifo’r cerrynt a’r gwahaniaethau potensial mewn cylched syml yn

cynnwys un gell neu gelloedd mewn cyfres.

TAG Uwch Gyfrannol/Uwch Ffiseg 17

PH2 Uned Asesu – TONNAU A GRONYNNAU

Yn yr Uned ceir y cynnwys canlynol o’r Meini Prawf Pwnc: 3.5 Tonnau. 3.7 (a) – (b) Ffiseg cwantwm, ffotonau, gronynnau. MANYLEB

PH2.1 TONNAU

Cynnwys

• Tonnau cynyddol. • Tonnau ardraws ac arhydol. • Polareiddiad. • Amledd, tonfedd a chyflymder tonnau. • Diffreithiant. • Ymyriant. • Patrymau ymyriant dwy ffynhonnell. • Tonnau unfan.

MANYLION Y CYNNWYS Dylai ymgeiswyr allu:

(a) deall bod ton gynyddol yn trosglwyddo egni neu wybodaeth o

ffynhonnell i ganfodydd heb drosglwyddo unrhyw fater; (b) gwahaniaethu rhwng tonnau ardraws ac arhydol; (c) disgrifio arbrofion sy’n dangos polareiddiad golau a microdonnau; (ch) egluro’r termau dadleoliad, osgled, tonfedd, amledd, cyfnod a

chyflymder ton; (d) llunio a dehongli graffiau dadleoliad yn erbyn amser, a dadleoliad yn

erbyn lleoliad ar gyfer tonnau ardraws yn unig; (dd) dwyn i gof a defnyddio’r hafaliad c = fλ; (e) bod yn gyfarwydd ag arbrofion sy’n dangos diffreithiant tonnau dŵr,

tonnau sain a microdonnau, a deall nad yw diffreithiant ond yn digwydd i raddau sylweddol pan fydd λ yr un drefn maint â dimensiynau’r rhwystr neu hollt;

(f) nodi, egluro a defnyddio egwyddor arosodiad;

TAG Uwch Gyfrannol/Uwch Ffiseg 18

(ff) disgrifio arbrawf sy’n dangos ymyriant dwy ffynhonnell ar gyfer golau, gan werthfawrogi pwysigrwydd hanesyddol arbrawf Young, a bod yn gyfarwydd ag arbrofion sy’n dangos ymyriant dwy ffynhonnell ar gyfer tonnau dŵr, tonnau sain a microdonnau;

(g) defnyddio’r hafaliad ayD

λ = ar gyfer ymyriant hollt dwbl;

(ng) dangos dealltwriaeth o wahaniaeth llwybr, gwahaniaeth gwedd a

chydlyniad; (h) nodi’r amodau angenrheidiol i weld ymyriant dwy ffynhonnell, h.y.

gwahaniaeth gwedd cyson, dirgryniadau yn yr un llinell; (i) dwyn i gof siâp y patrwm arddwysedd o slit unigol a’i effaith ar

batrymau slit dwbl a gratin diffreithiant; (j) defnyddio’r hafaliad d sin θ = nλ ar gyfer gratin diffreithiant; (l) rhoi enghreifftiau o ffynonellau cydlynol ac anghydlynol; (ll) disgrifio arbrofion sy’n dangos polareiddiad golau; (m) bod yn gyfarwydd ag arbrofion sy’n dangos tonnau unfan, e.e.

dirgryniadau llinyn estynedig a sain mewn aer; (n) nodi’r gwahaniaethau rhwng tonnau unfan a thonnau cynyddol; (o) deall y gellir ystyried ton unfan fel arosodiad o ddwy don gynyddol

ag osgled ac amledd cyfartal, yn teithio i gyfeiriadau dirgroes a bod y

pellter rhyngnodol yn 2λ

.

PH2.2 PLYGIANT GOLAU

Cynnwys

• Plygiant. • Model Ton ar gyfer Plygiant. • Cyfathrebu Ffibr Optegol.

MANYLION Y CYNNWYS

Dylai ymgeiswyr allu: (a) dwyn i gof a defnyddio deddf plygiant Snell; (b) dwyn i gof a defnyddio’r hafaliadau

n1v1 = n2v2 ac n1 sin θ1 = n2 sin θ2 ; (c) deall sut mae Deddf Snell yn ymwneud â’r model ton ar gyfer

lledaeniad golau;

TAG Uwch Gyfrannol/Uwch Ffiseg 19

(d) deall yr amodau ar gyfer adlewyrchiad mewnol cyflawn a deillio a defnyddio’r hafaliad ar gyfer yr ongl gritigol 1 2sinn c n= ;

(e) cymhwyso cysyniad adlewyrchiad mewnol cyflawn i ffibrau optegol

amlfodd; (f) gwerthfawrogi'r broblem gwasgariad amlfodd gyda ffibrau optegol

yn nhermau cyfyngu ar gyfradd trosglwyddo data a phellter trosglwyddiad;

(g) egluro sut mae cyflwyno ffibrau optegol unmodd wedi caniatáu

cyfraddau a phellterau trosglwyddiad llawer mwy; (h) cymharu cyfathrebu ffibrau optegol â chysylltiadau microdon

daearol, cysylltiadau lloeren a cheblau copr ar gyfer cyfathrebu pell.

PH2.3 FFOTONAU Cynnwys

• Yr effaith ffotodrydanol. • Ffotonau. • Y sbectrwm electromagnetig. • Sbectra allyrru llinell ac amsugno llinell. • Pelydrau X. • Allyriant digymell ac ysgogol. • Laserau – lefelau egni ac adeiledd. • Y laser lled-ddargludydd a sut y’i defnyddir.

MANYLION Y CYNNWYS

Dylai ymgeiswyr allu: (a) disgrifio sut y gellir dangos yr effaith ffotodrydanol; (b) disgrifio sut y gellir mesur uchafswm egni cinetig, KEmacs, electronau

a allyrrir, gan ddefnyddio ffotogell wactod; (c) braslunio graff uchafswm egni cinetig yn erbyn amledd y pelydriad

sy’n goleuo; (ch) deall a dwyn i gof sut mae cysyniad o olau fel ffotonau yn arwain at

hafaliad Einstein, φ−= hfEkmacs a sut mae’r hafaliad hwn yn cyfateb i’r graff Ekmacs yn erbyn amledd;

(d) disgrifio yn fras sut mae pelydrau X yn cael eu cynhyrchu mewn tiwb

pelydr X, a braslunio graff arddwysedd yn erbyn tonfedd; (dd) dwyn i gof briodweddau nodweddiadol a threfnau maint tonfeddi’r

pelydriadau yn y sbectrwm electromagnetig; (e) cyfrifo egnïon ffoton nodweddiadol ar gyfer y pelydriadau hyn;

TAG Uwch Gyfrannol/Uwch Ffiseg 20

(f) deall yn fras sut i gynhyrchu sbectra allyrru llinell ac amsugniad llinell o atomau;

(ff) disgrifio golwg sbectra o’r fath wrth eu gweld mewn gratin

diffreithiant; (g) deall a defnyddio diagramau lefel egni atomig, ynghyd â’r

rhagdybiaeth ffoton, i egluro sbectra allyrru llinell ac amsugno llinell; (ng) cyfrifo egnïon ïoneiddiad o ddiagram lefelau egni; (h) deall ac egluro proses allyriant ysgogol a sut mae’r broses hon yn

allyrru golau sy’n gydlynol; (i) deall cysyniad gwrthdroad poblogaeth (Sylwer: ar gyfer myfyrwyr

safon Uwch mae’r amod N2 > N1 yn ddigon) ac egluro bod angen gwrthdroad poblogaeth er mwyn i laser weithio;

(j) deall nad yw gwrthdroad poblogaeth yn bosibl (fel rheol) gyda

system egni 2 lefel; (l) deall sut y ceir gwrthdroad poblogaeth mewn systemau egni 3 a 4

lefel; (ll) deall proses pwmpio a’i bwrpas;

(m) dwyn i gof adeiledd laser nodweddiadol, h.y. cyfrwng mwyhau

rhwng dau ddrych, y mae un ohonynt yn trawsyrru golau yn rhannol; (n) gwybod adeiledd sylfaenol laser deuod lled-ddargludydd; (o) gwybod bod systemau laser yn llai o lawer nag 1% effeithlon (tua

0.01% effeithlon fel rheol) oherwydd colledion pwmpio ond y gall laserau lled-ddargludydd gael effeithlonedd 70% a bod angen rhoi g.p. tua 3V ar gyfer pwmpio;

(p) gwybod manteision laser lled-ddargludydd a sut y caiff ei

ddefnyddio, h.y. bach, rhad, effeithlon, ac yn cael ei ddefnyddio ar gyfer CD, DVD, telathrebu ayb.

TAG Uwch Gyfrannol/Uwch Ffiseg 21

PH2.4 MATER, GRYMOEDD A’R BYDYSAWD.

Cynnwys

• Yr atom niwclear. • Leptonau a Chwarciau. • Rhyngweithiad Gronynnau. • Deddfau Cadwraeth.

MANYLION Y CYNNWYS Dylai ymgeiswyr allu:

(a) disgrifio model syml ar gyfer yr atom niwclear yn nhermau niwclews

ac electronau mewn orbitau arwahanol, gan egluro cyfansoddiad y niwclews yn nhermau protonau a niwtronau a chan fynegi’r adeileddau niwclear ac atomig gan ddefnyddio’r nodiant XA

Z ; (b) dwyn i gof fod mater yn cynnwys cwarciau a leptonau - bydd y

wybodaeth ganlynol ar gael i ymgeiswyr mewn arholiadau:

Leptonau Cwarciau gronyn

(symbol) electron (e−) niwtrino electron (νe)

i fyny i lawr

gwefr (e) − 1 0 23+ 1

3− [Sylwer. Ni fydd cwestiynau'n cael eu gosod ynghylch cenedlaethau

uwch na chenhedlaeth 1.] (c) dwyn i gof fod gwrthronynnau yn bodoli i’r gronynnau a roddir yn y

tabl uchod, bod priodweddau gwrthronyn yn unfath â phriodweddau’r gronyn cyfatebol heblaw bod ganddo wefr ddirgroes, a bod gronynnau a gwrthronynnau yn difodi; defnyddio’r tabl uchod i roi symbolau’r gwrthronynnau;

(ch) dwyn i gof y wybodaeth ganlynol am y pedwar grym neu

ryngweithiad, y mae gronynnau’n eu teimlo:

Rhyngweithiad A deimlir gan Amrediad Sylwadau

Disgyrchiant bob gronyn anfeidraidd

gwan iawn – dibwys ac eithrio yng nghyd-destun gwrthrychau mawr iawn fel planedau a sêr

Gwan bob gronyn amrediad byr iawn

arwyddocaol mewn achosion lle nad yw’r rhyngweithiadau electromagnetig a chryf yn gweithredu yn unig

Electromagnetig bob gronyn â gwefr anfeidraidd

mae hadronau niwtral yn teimlo’r rhain hefyd oherwydd eu bod yn cynnwys cwarciau

Cryf gwarciau amrediad byr cwarciau a gronynnau sy’n cynnwys cwarciau yn teimlo’r rhain

TAG Uwch Gyfrannol/Uwch Ffiseg 22

(d) dwyn i gof na sylwir byth ar gwarciau ar eu pennau eu hunain, ond ynghlwm mewn gronynnau cyfansawdd o’r enw hadronau, a ddosberthir naill ai’n faryonau (e.e. y proton neu’r niwtron) sy’n cynnwys 3 cwarc neu’n fesonau (e.e. pionau) sy’n cynnwys pâr cwarc-gwrthgwarc;

(dd) defnyddio tablau data i awgrymu adeiledd baryonau neu fesonau a

roddir yn nhermau cwarciau; (e) deall, mewn rhyngweithiadau gronynnau, bod cadwraeth gwefr a rhif

lepton.

PH2.5 DEFNYDDIO PELYDRIAD I YMCHWILIO I SÊR

Cynnwys

• Pelydryddion cyflawn (black-body radiation). • Deddf dadleoliad Wien – tymereddau serol. • Deddf Stefan a goleuedd serol. • Arddwysedd a’r ddeddf sgwâr gwrthdro. • Llinellau Fraunhofer a chyfansoddiad serol.

MANYLION Y CYNNWYS Dylai ymgeiswyr allu:

(a) dwyn i gof fod sbectrwm serol yn cynnwys sbectrwm allyrru di-dor,

o nwy dwys arwyneb y seren, a sbectrwm amsugno llinell a geir wrth i’r pelydriad electromagnetig a allyrrir fynd trwy atmosffer tenau’r seren;

(b) dwyn i gof y gelwir cyrff sy’n amsugno pob pelydriad ardrawol yn

belydryddion cyflawn a bod sêr yn agos iawn at fod yn belydryddion cyflawn;

(c) dwyn i gof siâp sbectrwm pelydrydd cyflawn a’r ffaith bod y donfedd

frig mewn cyfrannedd gwrthdro â’r tymheredd absoliwt (a ddiffinnir gan T/K = θ/°C + 273⋅15) - deddf dadleoliad Wien;

(ch) defnyddio deddf dadleoliad Wien, deddf Stefan a'r ddeddf sgwâr

gwrthdro i ymchwilio i briodweddau sêr – goleuedd, maint, tymheredd a phellter [Sylwer na fydd angen disgleirdeb serol mewn meintiau];

(d) dehongli data ar sbectra llinell serol i adnabod elfennau sy’n

bresennol mewn atmosfferau serol; (dd) dwyn i gof fod dadansoddi sbectra serol yn dangos bod tua 75% o’r

bydysawd, yn ôl màs, yn hydrogen a 24% yn heliwm, gyda symiau bychan iawn o’r elfennau eraill;

TAG Uwch Gyfrannol/Uwch Ffiseg 23

(e) dwyn i gof brif gangen y gadwyn proton-proton, sef y prif fecanwaith cynhyrchu egni mewn sêr fel yr Haul:

p p He He He

ffoton) (lle He dp

H) diwteron d (lle vedpp

42

32

32

32

21e

2

++→+

=+→+

=++→+

γγ

ac y gellir canfod niwtrinoeon o gam cyntaf y gadwyn hon ar y Ddaear.

TAG Uwch Gyfrannol/Uwch Ffiseg 24

PH3 Uned Asesu Mewnol– FFISEG YMARFEROL Bydd yr Uned hon yn rhoi cyfle i ymgeiswyr ddangos i ba raddau y datblygodd eu

sgiliau arbrofi, trin cyfarpar, dehongli a chyfathrebu. MANYLEB Rhaid i ymgeiswyr ymgymryd â set o dasgau arbrofol o dan amodau

rheoledig. Caiff y tasgau eu dyfeisio gan CBAC a’u hasesu gan y goruchwyliwr gan ddefnyddio cynllun marcio a ddarperir gan CBAC.

MANYLION Y CYNNWYS Dylai ymgeiswyr allu: • dilyn cyfarwyddiadau a chynllunio gweithgareddau arbrofol; • gwneud arsylwadau a llunio casgliadau; • mesur a chofnodi data gan ddangos eu bod yn ymwybodol o derfynau

cywirdeb a defnyddio ffigurau ystyrlon yn gywir, • asesu’r ansicrwydd mewn mesuriadau a meintiau sydd wedi’u deillio; • cyflwyno data mewn gwahanol ffurfiau, gan gynnwys ymdrin â

graffiau; • dadansoddi a dehongli data, gan arddangos gwybodaeth a

dealltwriaeth briodol o ffiseg, ac ymchwilio i’r perthnasoedd rhwng meintiau ffisegol;

• arfarnu technegau arbrofol a’r canlyniadau; • cyfleu canfyddiadau arbrofol yn glir gan ddefnyddio unedau SI. Manylion y tasgau

• Bydd yr offer mesur angenrheidiol yn cynnwys eitemau y disgwylir iddynt fod ar gael mewn labordy ysgol [gweler adran 8 – Cyfarwyddyd ar Asesiad Mewnol].

• Bydd yr offer angenrheidiol eraill hefyd yn cynnwys eitemau labordy

safonol fel clampiau a masau agennog, ond gallent hefyd gynnwys eitemau y bydd angen eu cael yn unswydd ar gyfer yr asesiad gan gyflenwyr offer neu siopau’r crefftwr cartref.

• Bydd y gofynion manwl ar gyfer yr asesiad yn cael eu cyflwyno i

ganolfannau ddeufis cyn dyddiad yr asesiad. Bydd y wybodaeth a roddir yn nodi cyd-destun y dasg ynghyd â chyfarwyddiadau manwl am yr offer mesur sydd eu hangen a sut i osod yr offer.

TAG Uwch Gyfrannol/Uwch Ffiseg 25

• Mae’r asesiad mewn dwy adran: Adran A ac Adran B.

Mae Adran A yn cynnwys 3 eitem fer, 15 munud yr un. Mae’r eitemau hyn yn canolbwyntio ar wneud mesuriadau, canfod meintiau symiau a’r ansicrwydd cysylltiedig. Daw’r cyd-destun o bob rhan o’r fanyleb UG. Mae 8 marc yr un am y 3 eitem hon.

Mae Adran B yn cynnwys un eitem sy'n 45 munud o hyd. Disgwylir

i ymgeiswyr gyflawni ymchwiliad i’r berthynas rhwng mesurau. Mae 24 marc am Adran B.

Nid yw’n ofynnol i ymgeiswyr gyflawni’r eitemau mewn unrhyw

drefn arbennig. • Gall canolfannau drefnu symudiad yr ymgeiswyr rhwng yr eitemau

fel y maent yn dymuno ond mae’r amseriadau yn addas ar gyfer asesu ymgeiswyr fesul 6, gyda 3 ymgeisydd yn gweithio ar Adran A [yn cyflawni’r eitemau yn gylchol] a 3 ar Adran B ar unrhyw adeg arbennig.

• Rhoddir cynllun marcio i’r canolfannau er mwyn asesu ymateb yr

ymgeiswyr. Dylid anfon y canlyniadau at CBAC a chyflwyno gwaith yr ymgeiswyr i’w safoni yn unol â threfniadau CBAC.

TAG Uwch Gyfrannol/Uwch Ffiseg 26

Safon Uwch

PH4 Uned Asesu – OSGILIADAU A MEYSYDD

Safon Uwch U2 Mae’r Uned wedi’i chreu o gwmpas craidd sy’n ymwneud â’r cynnwys canlynol yn y Meini

Prawf Pwnc: 3.3 (d) – (e) Mecaneg: momentwm, mudiant cylchol, osgiliadau 3.6 Mater: damcaniaeth ginetig foleciwlaidd, egni mewnol 3.8 (a) Meysydd: meysydd grym

MANYLEB

PH4.1 DIRGRYNIADAU

Cynnwys

• Mudiant cylchol. • Trin mudiant harmonig syml heb ei wanychu, yn ffisegol a

mathemategol. • Rhyngweithiadau egni yn ystod mudiant harmonig syml. • Gwanychiad osgiliadau. • Osgiliadau rhydd, osgiliadau gorfod a chyseiniant.

MANYLION Y CYNNWYS

Dylai ymgeiswyr allu:

(a) deall a defnyddio’r cyfnod cylchdro, amledd, sut i fesur ongl mewn

radianau; (b) diffinio a defnyddio cyflymder onglaidd ω ;

(c) dwyn i gof a defnyddio ,rv ω= ac felly r;a 2ω= (ch) diffinio mudiant harmonig syml mewn geiriau;

(d) dwyn i gof, adnabod a defnyddio xa 2ω−= fel hafaliad mathemategol sy’n diffinio mudiant harmonig syml;

(dd) dangos a dehongli’n graffigol y newidiadau mewn cyflymiad gyda

dadleoliad yn ystod mudiant harmonig syml;

(e) dwyn i gof a defnyddio )sin( εω += tAx fel datrysiad xa 2ω−= ;

TAG Uwch Gyfrannol/Uwch Ffiseg 27

(f) egluro’r termau amledd, cyfnod, osgled a gwedd )( εω +t ;

(ff) dwyn i gof a defnyddio’r cyfnod felωπ2neu 1

f ;

(g) dwyn i gof a defnyddio )( cos εωω += tAv ar gyfer cyflymder yn ystod mudiant harmonig syml;

(ng) dangos, a dehongli yn graffigol, y newidiadau mewn dadleoliad a

chyflymder gydag amser yn ystod mudiant harmonig syml;

(h) dwyn i gof a defnyddio’r hafaliad kmT π2= ar gyfer cyfnod

system sydd ag anhyblygrwydd (grym pob uned estyniad) k a màs m; (i) dangos, a dehongli yn graffigol, y cyfnewid rhwng egni cinetig ac

egni potensial yn ystod mudiant harmonig syml heb ei wanychu, a gwneud cyfrifiadau syml ar newidiadau egni;

(j) egluro’r hyn a olygir gan osgiliadau rhydd a deall effaith gwanychu

mewn systemau real; (l) disgrifio enghreifftiau ymarferol o osgiliadau gwanychol, a

phwysigrwydd gwanychiad critigol mewn achosion priodol fel hongiad cerbyd;

(ll) egluro’r hyn a olygir gan osgiliadau gorfod a chyseiniant, a disgrifio

enghreifftiau ymarferol; (m) braslunio osgled yn amrywio gydag amledd gyrru ar gyfer osgiliad

gorfod a gwybod bod mwy o wanychu yn gwneud y gromlin cyseiniant yn lletach;

(n) gwerthfawrogi bod yna amgylchiadau pan fydd cyseiniant yn

ddefnyddiol, e.e. tiwnio cylched, coginio â microdonnau, ac amgylchiadau eraill pryd y dylid ei osgoi, e.e. cynllunio pontydd.

PH4.2 CYSYNIADAU MOMENTWM

Cynnwys

• Momentwm llinol. • Deddfau mudiant Newton. • Cadwraeth momentwm llinol; gwrthdrawiad gronynnau. • Momentwm ffoton.

MANYLION Y CYNNWYS Dylai ymgeiswyr allu:

(a) diffinio momentwm llinol fel lluoswm màs a chyflymder; (b) dwyn i gof ddeddfau mudiant Newton a gwybod mai grym yw

cyfradd newid momentwm, gan gymhwyso hyn mewn sefyllfaoedd lle bo’r màs yn gyson;

TAG Uwch Gyfrannol/Uwch Ffiseg 28

(c) nodi egwyddor cadwraeth momentwm a’i defnyddio i ddatrys problemau un dimensiwn sy’n cynnwys gwrthdrawiadau elastig (lle nad oes colled egni cinetig) a gwrthdrawiadau anelastig (lle collir egni cinetig);

(ch) defnyddio’r fformiwla ar gyfer momentwm ffoton: h hc

pfλ

= = ;

(d) sylweddoli bod amsugno neu adlewyrchu ffotonau yn achosi gwasgedd pelydriad.

PH4.3 FFISEG THERMOL

Cynnwys

• Deddfau nwy delfrydol a’r hafaliad stad. • Damcaniaeth ginetig nwyon. • Damcaniaeth ginetig gwasgedd nwy perffaith. • Egni mewnol. • Egni mewnol nwy delfrydol • Trosglwyddo egni. • Deddf gyntaf thermodynameg. MANYLION Y CYNNWYS Dylai ymgeiswyr allu:

(a) dwyn i gof a defnyddio deddf Boyle ar gyfer nwy delfrydol, (b) dwyn i gof a defnyddio’r hafaliad stad ar gyfer nwy delfrydol sef

pV = nRT (R yw’r cysonyn nwy molar), a deall y gellir defnyddio’r hafaliad hwn i ddiffinio graddfa tymheredd celfin a sero absoliwt tymheredd;

(c) dwyn i gof dybiaethau damcaniaeth ginetig nwyon sy’n cynnwys

hap-ddosbarthiad egni ymhlith y gronynnau; (ch) egluro sut mae symudiad moleciwlau yn achosi’r gwasgedd a roir

gan nwy, a deall a defnyddio 2 21 13 3

Np c mcV

ρ= = lle bo N yn nifer

y moleciwlau; (d) diffinio cysonyn Avogadro NA ac felly'r môl; (dd) deall bod y màs molar, M, yn gysylltiedig â’r màs moleciwlaidd

cymharol, Mr, gan M/kg = Mr/1000, ac y rhoir nifer y molau, n, gan Cyfanswm màs ; Màs molar

TAG Uwch Gyfrannol/Uwch Ffiseg 29

(e) cymharu 231 cNmpV = â pV = nRT a diddwytho bod cyfanswm

egni cinetig trawsfudiad môl o nwy monatomig yn cael ei roi gan RT2

3 ac felly egni cinetig moleciwl ar gyfartaledd yw kT23 lle mai

⎟⎟⎠

⎞⎜⎜⎝

⎛=

ANRk yw cysonyn Boltzmann, a diddwytho bod T mewn

cyfrannedd â'r egni cinetig cymedrig; (f) deall fod egni mewnol system yn gyfanswm egni potensial ac egni

cinetig ei moleciwlau; (ff) deall bod egni mewnol nwy monatomig delfrydol i gyd yn ginetig ac

felly’n cael ei roi gan 32U nRT= ;

(g) deall bod gwres yn mynd i mewn i system neu allan trwy ei ffin neu

fur y cynhwysydd, yn ôl a yw tymheredd y system yn uwch neu’n is na thymheredd yr amgylchedd, a chan hynny gwres yw egni’n cael ei drosglwyddo ac nad yw’n cael ei gynnwys o fewn y system;

(ng) deall, os nad oes gwres yn llifo rhwng systemau sydd mewn

cysylltiad, y dywedir eu bod mewn ecwilibriwm thermol a’u bod ar yr un tymheredd;

(h) deall y gall egni fynd i mewn i system neu allan trwy gyfrwng

gwaith, ac felly mae gwaith hefyd yn drosglwyddiad egni; (i) defnyddio W p V= Δ i gyfrifo’r gwaith a wneir gan nwy dan

wasgedd cyson; (j) deall ac egluro, hyd yn oed os yw p yn newid, y rhoir W gan yr

arwynebedd dan y graff p – V; (l) dwyn i gof a defnyddio deddf gyntaf thermodynameg, ar ffurf

U Q WΔ = − , gan wybod sut i ddehongli gwerthoedd negatif ar gyfer ΔU, Q, ac W;

(ll) deall bod W yn ddibwys fel rheol ar gyfer solid (neu hylif), ac felly

Q U= Δ ; (m) defnyddio’r fformiwla Q mc θ= Δ , ar gyfer solid neu hylif, gan ddeall

mai dyma’r hafaliad sy’n diffinio cynhwysedd gwres sbesiffig, c.

TAG Uwch Gyfrannol/Uwch Ffiseg 30

PH4.4 MEYSYDD GRYM ELECTROSTATIG A MEYSYDD DISGYRCHIANT

Cynnwys

• Meysydd electrostatig a meysydd disgyrchiant. • Cryfder maes (arddwysedd). • Deddfau gwrthdro sgwâr trydan a disgyrchiant. • Potensial mewn meysydd grym. • Y berthynas rhwng grym a graddiant egni potensial. • Y berthynas rhwng arddwysedd a graddiant potensial. •. Llinellau maes ac arwynebau unbotensial. • Adio fectorau meysydd trydanol. • Egni potensial system o wefrau.

MANYLION Y CYNNWYS

Dylai ymgeiswyr allu:

(a) dwyn i gof brif nodweddion meysydd trydanol a disgyrchol fel y

nodir yn y tabl ar y dudalen nesaf; (b) dwyn i gof fod y maes disgyrchiant tu allan i gyrff sfferig fel y

ddaear yr un fath yn y bôn â phetai’r màs cyfan wedi’i grynhoi yn y canol;

(c) deall bod llinellau maes (neu linellau grym) yn rhoi cyfeiriad y maes

mewn pwynt ac felly, ar gyfer gwefr bwynt bositif, mae llinellau’r maes yn rheiddiol tuag allan; a bod arwynebau unbotensial yn cysylltu pwyntiau sydd â photensial cyfartal ac felly maent yn sfferig ar gyfer gwefr bwynt;

(ch) cyfrifo’r cydeffaith potensial a chydeffaith cryfder maes net ar gyfer

nifer o wefrau pwynt a masau pwynt; (d) gwerthfawrogi bod ΔUP = mgΔh ar gyfer pellterau lle mae amrywiad

g yn ddibwys.

TAG

Uw

ch G

yfra

nnol

/Uw

ch F

fiseg

31

GO

FYN

IAD

M

EY

SYD

D T

RY

DA

NO

L

ME

YSY

DD

DIS

GY

RC

HIA

NT

Diff

inio

cryf

der m

aes

tryda

nol,

E, fe

l gry

m p

ob u

ned

gwef

r ar

wef

r bra

wf b

ositi

f bac

h a

roir

ar y

pw

ynt,

cryf

der y

mae

s di

sgyr

chia

nt, g

, fel

gry

m p

ob u

ned

màs

ar f

às p

raw

f bac

h a

roir

ar y

pw

ynt,

Dw

yn i

gof

a de

fnyd

dio’

r dd

eddf

sgw

âr g

wrth

dro

ar g

yfer

y g

rym

rhw

ng

dwy

wef

r dry

dano

l ar f

furf

22

1 rQQ

kF=

lle

πε41=

k (D

eddf

Cou

lom

b)

dau

fàs a

r ffu

rf

22

1 rmm

kF=

lle

k

= G

(D

eddf

D

isgy

rchi

ant

New

ton)

Dw

yn i

gof

y ga

ll F

atyn

nu n

eu w

rthyr

ru

y ga

ll F

atyn

nu y

n un

ig

Dw

yn i

gof a

def

nydd

io …

2

04

1rQ

Eπε

= a

r gyf

er c

ryfd

er m

aes

o ga

nlyn

iad

i

wef

r bw

ynt m

ewn

gofo

d rh

ydd

neu

aer

2 rGm

g=

ar

gyfe

r cr

yfde

r m

aes

o ga

nlyn

iad

i fàs

pwyn

t

Diff

inio

pot

ensi

al a

r bw

ynt o

gan

lyni

ad i

gwef

r bw

ynt

yn n

herm

au’r

gw

aith

a w

neir

wrth

dd

od a

g un

ed g

wef

r bos

itif o

anf

eidr

edd

i’r p

wyn

t hw

nnw

,

màs

pw

ynt

yn n

herm

au’r

gw

aith

a w

neir

wrth

dd

od a

g un

ed m

às o

anf

eidr

edd

i’r p

wyn

t hw

nnw

,

Dw

yn i

gof a

def

nydd

io’r

haf

alia

dau…

. rQ

V E0

41 πε

=

rGM

V g−

=

• G

wyb

od m

ai’r

new

id y

n eg

ni p

oten

sial

• D

efny

ddio

’r p

erth

naso

edd

hyn.

gw

efr

bwyn

t sy

’n

sym

ud

mew

n un

rhyw

fa

es

tryda

nol

,EV

qΔ=

màs

pw

ynt

sy’n

sy

mud

m

ewn

unrh

yw

faes

di

sgyr

chia

nt

gVmΔ

=

• D

wyn

i go

f m

ai c

ryfd

er m

aes

wrth

bw

ynt

yw...

Def

nydd

io’r

per

thna

soed

d hy

n.

E =

- gra

ddia

nt y

gra

ff V

E – r

ar y

pw

ynt h

wnn

w

g =

- gra

ddia

nt y

gra

ff V

g– r

ar y

pw

ynt h

wnn

w, a

c ar

gyf

er m

eysy

dd u

nffu

rf.

• G

wyb

od m

ai'r

gwah

ania

eth

pote

nsia

l yw

yr

arw

yneb

edd

o da

n y

graf

f E –

r.

yr a

rwyn

ebed

d o

dan

y gr

aff g

– r.

TAG Uwch Gyfrannol/Uwch Ffiseg 32

PH4.5 CYMHWYSIAD I ORBITAU YNG NGHYSAWD YR HAUL A’R BYDYSAWD EHANGACH

Cynnwys

• Deddfau Mudiant Planedau Kepler • Orbitau crwn lloerenni, planedau a sêr • Craidd Màs • Màs ar goll mewn galaethau – Mater Tywyll • Gwrthrychau yn troi o amgylch ei gilydd • Symudiad Doppler llinellau sbectrol • Planedau tu allan i gysawd yr haul

MANYLION Y CYNNWYS Dylai ymgeiswyr allu:

(a) nodi tair Deddf Mudiant Planedau Kepler; (b) dwyn i gof a defnyddio Deddf Disgyrchiant Newton, sef

221

rmmGF = mewn enghreifftiau syml, gan gynnwys mudiant

planedau a lloerenni; (c) deillio 3edd Deddf Kepler, yn achos orbit crwn, o Ddeddf

Disgyrchiant Newton a’r fformiwla ar gyfer cyflymiad mewngyrchol; (ch) defnyddio data ar fudiant orbitol, fel cyfnod neu fuanedd orbitol, i

gyfrifo màs y gwrthrych canolog; (d) gwerthfawrogi bod buaneddau orbitol gwrthrychau mewn galaethau

troellog yn dangos bodolaeth mater tywyll; (dd) cyfrifo lleoliad craidd màs dau wrthrych sfferig cymesur, o wybod eu

masau a’r pellter rhyngddynt a chyfrifo eu cyfnod troi o amgylch ei gilydd yn achos orbitau crwn;

(e) defnyddio perthynas Doppler ar ffurf vc

λλΔ

= ;

(f) cyfrifo cyflymder rheiddiol seren (h.y. cydran ei chyflymder ar hyd y

llinell sy’n cysylltu’r seren ac arsylwr ar y Ddaear) o ddata ar symudiad Doppler llinellau sbectrol;

(ff) defnyddio data ar amrywiaeth cyflymderau rheiddiol y cyrff mewn

system ddwbl (e.e. seren a phlaned sy’n troi o’i chwmpas) a chyfnod eu horbit i ganfod masau’r cyrff yn achos orbit crwn a welir yn yr un plân o’r Ddaear.

TAG Uwch Gyfrannol/Uwch Ffiseg 33

PH5 Uned Asesu – MAGNETEG, NIWCLYSAU AC OPSIYNAU

Safon Uwch U2 Mae’r Uned wedi’i chreu o gwmpas craidd sy’n ymwneud â’r cynnwys canlynol yn y Meini

Prawf Pwnc: 3.4 (d) Cylchedau trydanol: cynhwysiant 3.7 (c) – (ch) Ffiseg Niwclear: dadfeiliad niwclear, egni niwclear 3.8 (b) – (c) Meysydd: meysydd-B, fflwcs ac anwythiad electromagnetig MANYLEB

PH5.1 CYNHWYSIANT

Cynnwys

• Cynhwysydd plât paralel. • Cysyniad cynhwysiant. • Ffactorau sy’n effeithio ar gynhwysiant. • Egni wedi’i storio mewn cynhwysydd. • Cynwysyddion cyfres a pharalel. • Dadwefru cynhwysydd.

MANYLION Y CYNNWYS

Dylai ymgeiswyr allu:

(a) deall bod cynhwysydd plât paralel syml yn cynnwys pâr o blatiau

metel paralel cyfartal wedi’u gwahanu gan wactod neu aer,

(b) deall bod y cynhwysydd yn storio egni trwy drosglwyddo gwefr o’r naill blât i’r llall, fel bod gan y platiau wefrau hafal ond dirgroes (gyda’r wefr net yn sero);

(c) diffinio cynhwysiant fel VQC = ;

(ch) defnyddio o AC

= ar gyfer cynhwysydd plât paralel, heb

ddeuelectryn;

(d) gwybod bod deuelectryn yn cynyddu cynhwysiant cynhwysydd sydd â gwactod rhwng y platiau;

(dd) dwyn i gof bod maes E o fewn cynhwysydd plât paralel yn unffurf ac

mai ei werth yw V/d;

(e) defnyddio’r hafaliad QVU 21= ar gyfer yr egni sy’n cael ei storio

mewn cynhwysydd; (f) defnyddio fformiwlâu ar gyfer cynwysyddion mewn cyfres ac mewn

paralel;

(ff) deall y broses lle mae cynhwysydd yn dadwefru trwy wrthydd;

(g) defnyddio’r hafaliad

RCteQQ −= 0 lle RC yw’r cysonyn amser.

TAG Uwch Gyfrannol/Uwch Ffiseg 34

PH5.2 MEYSYDD-B

Cynnwys

• Cysyniad meysydd magnetig (meysydd-B). • Y grym ar ddargludydd sy’n cario cerrynt. • Y grym ar wefr sy’n symud. • Meysydd magnetig a achosir gan geryntau. • Effaith craidd haearn. • Y grym rhwng dargludyddion sy’n cario cerrynt. • Diffinio’r amper. • Mesur cryfder maes magnetig B. • Allwyriad pelydr o ronynnau wedi’u gwefru mewn meysydd trydanol

a magnetig.

MANYLION Y CYNNWYS Dylai ymgeiswyr allu:

(a) rhagfynegi cyfeiriad y grym ar ddargludydd sy’n cario cerrynt mewn

maes magnetig; (b) diffinio cryfder maes magnetig B drwy ystyried y grym ar

ddargludydd sy’n cario cerrynt mewn maes magnetig; dwyn i gof a defnyddio F = BIl sin θ ;

(c) defnyddio θsinBqvF = ar gyfer gwefr sy’n symud mewn maes

magnetig; (ch) deall y prosesau dan sylw wrth gynhyrchu foltedd Hall a deall bod VH ∝ B pan fydd I yn gyson; (d) disgrifio sut i ymchwilio i feysydd magnetig sefydlog gan

ddefnyddio chwiliwr Hall; (dd) braslunio’r meysydd magnetig o ganlyniad i gerrynt mewn

(i) gwifren hir syth, (ii) solenoid hir;

(e) defnyddio’r hafaliadau aI

Bπμ2o= a nIB oμ= ar gyfer cryfder maes o

ganlyniad i wifren hir syth, a’r tu mewn i solenoid hir; (f) gwybod bod ychwanegu craidd haearn yn cynyddu cryfder maes

solenoid; (ff) egluro pam mae dargludyddion sy’n cario cerrynt yn gweithredu

grym ar ei gilydd a rhagfynegi cyfeiriadau’r grymoedd; (g) deall sut mae’r hafaliad am y grym rhwng dau gerrynt mewn gwifrau

syth yn arwain at ddiffinio’r amper; (ng) disgrifio sut mae pelydrau ïonau, h.y. gronynnau wedi’u gwefru, yn

cael eu hallwyro mewn meysydd trydan a magnetig unffurf; (h) cymhwyso gwybodaeth am fudiant gronynnau wedi’u gwefru mewn

meysydd trydan a magnetig i gyflymyddion llinol, cylchotronau a syncrotronau.

TAG Uwch Gyfrannol/Uwch Ffiseg 35

PH5.3 ANWYTHIAD ELECTROMAGNETIG

Cynnwys

• Fflwcs magnetig. • Deddfau anwythiad electromagnetig. • Cyfrifo g.e.m. anwythol. • Hunananwythiad.

MANYLION Y CYNNWYS Dylai ymgeiswyr allu:

(a) dwyn i gof a diffinio fflwcs magnetig, sef θ= cosABΦ a

chysylltedd fflwcs = /NΦ ; (b) dwyn i gof ddeddf Faraday a deddf Lenz; (c) dwyn i gof a defnyddio g.e.m. = – cyfradd newid y cysylltedd fflwcs

a defnyddio’r berthynas hon i ddeillio hafaliad ar gyfer y g.e.m. a anwythir mewn dargludydd llinol sy’n symud ar ongl sgwâr i faes magnetig unffurf;

(ch) cysylltu’n ansoddol y g.e.m. enydaidd a anwythir mewn coil sy’n

cylchdroi ar ongl sgwâr i faes magnetig, â lleoliad y coil, y dwysedd fflwcs, arwynebedd y coil a’r cyflymder onglaidd;

(d) deall a defnyddio’r termau amledd, cyfnod, brigwerth a gwerth isradd

sgwâr cymedrig o’u cymhwyso i folteddau a cheryntau eiledol, (dd) deall bod y gwerth i.s.c. yn gysylltiedig â’r egni a afradlonir bob

cylchred, a defnyddio’r perthnasoedd 20

i.s.c..V

V = ac i.s.c.I20I

=

(e) dwyn i gof bod y pŵer cymedrig a afradlonir mewn gwrthydd yn cael

ei roi gan2

2VP VI I R

R= = = , lle V ac I yw’r gwerthoedd i.s.c.;

(f) disgrifio sut y defnyddir osgilosgop pelydrau catod i fesur:

(i) folteddau a cheryntau c.e. a c.u. (ii) amleddau.

TAG Uwch Gyfrannol/Uwch Ffiseg 36

PH5.4 YMBELYDREDD A RADIOISOTOPAU

Cynnwys

• Dadfeiliad ymbelydrol. • Hanner oes. • Ffyrdd o ddefnyddio ymbelydredd. • Peryglon a chamau diogelwch.

MANYLION Y CYNNWYS Dylai ymgeiswyr allu:

(a) dwyn i gof natur ddigymell dadfeiliad niwclear; disgrifio natur

pelydriad α, β a γ, a defnyddio hafaliadau i gynrychioli’r

trawsffurfiadau niwclear gan ddefnyddio’r nodiant XZA ;

(b) disgrifio’r dulliau a ddefnyddir i wahaniaethu rhwng pelydriadau α,

β a γ ac egluro’r cysylltiadau rhwng natur, treiddiad ac amrediad ar gyfer gronynnau sy’n ïoneiddio;

(c) esbonio bodolaeth ymbelydredd cefndir, a chadw hyn mewn cof wrth

fesur mewn arbrofion; (ch) egluro beth yw ystyr hanner oes

21T ;

(d) diffinio actifedd A a’r becquerel; (dd) diffinio’r cysonyn dadfeiliad ( λ ) a dwyn i gof a defnyddio’r hafaliad

A = –λ N; (e) dwyn i gof a defnyddio deddf esbonyddol dadfeiliad, ar ffurf graff ac

ar ffurf algebraidd,

[ )2

neu ( ac )2

neu ( xot

oxot

oA

AeAAN

NeNN ==== −− λλ

lle x yw nifer yr hanner oesau sydd wedi mynd heibio – nid o reidrwydd yn gyfanrif,]

(f) deillio a dwyn i gof bod 2

1

2logT

e=λ ;

(ff) disgrifio’n fyr sut y caiff radioisotopau eu defnyddio (unrhyw ddau

gymhwysiad); (g) dangos ymwybyddiaeth o beryglon biolegol pelydriad sy’n ïoneiddio

e.e. pa un ai wrth ddod i gysylltiad â phelydriad allanol neu os caiff defnyddiau ymbelydrol eu hamsugno (eu llyncu a/neu eu hanadlu).

TAG Uwch Gyfrannol/Uwch Ffiseg 37

PH5.5 EGNI NIWCLEAR

Cynnwys

• Egni Clymu. • Ymholltiad ac Ymasiad. • Adweithyddion Niwclear.

MANYLION Y CYNNWYS

Dylai ymgeiswyr allu:

(a) gwerthfawrogi'r cysylltiad rhwng màs ac egni a dwyn i gof bod

2mcE = ; (b) cyfrifo’r egni clymu ar gyfer niwclews a thrwy hynny’r egni clymu

fesul niwcleon, gan ddefnyddio, yn ôl yr angen, yr uned màs atomig unedig (u) a’r electron-folt (eV);

(c) cymhwyso egwyddor cadwraeth màs/egni i ryngweithiadau

gronynnau - e.e. ymholltiad, ymasiad a rhyngweithiadau canfod niwtrinoeon;

(ch) disgrifio perthnasedd egni clymu'r niwcleon i ymholltiad ac ymasiad

niwclear; (d) egluro sut mae allyrru niwtron yn gallu arwain at adwaith cadwynol; (dd) deall a disgrifio ymholltiad yn cael ei gychwyn gan niwtronau

thermol a swyddogaethau’r cymedrolydd, rhodenni rheoli ac oeryddion mewn adweithyddion thermol;

(e) deall a dwyn i gof y ffactorau sy’n dylanwadu ar y dewis o

ddefnyddiau i wneud y cymedrolydd, y rhodenni rheoli a’r oerydd; (f) trafod y problemau amgylcheddol sy’n codi wrth gael gwared ar

gynnyrch gwastraff o adweithyddion niwclear.

TAG Uwch Gyfrannol/Uwch Ffiseg 38

CYNNWYS DEWISOL YN UNED U2 Mae’r adran ganlynol yn cynnwys y 5 adran ddewisol ar gyfer U2. Rhagwelir y bydd ymgeiswyr yn astudio un yn unig o’r testunau dewisol hyn. Mae angen tua 15 awr o amser dysgu ar gyfer pob opsiwn. Rhoddir y cwestiynau ar y testunau dewisol mewn adran ar wahân ym mhapur PH5 a dyrennir 20 marc ar eu cyfer. Opsiwn U2/A Electromagneteg a Cheryntau Eiledol Pellach

Cynnwys • Cydanwythiad. • Triniaeth syml o’r newidydd. • Hunananwythiad a hunananwythiant. • Ymddygiad cynhwysydd ac anwythydd gyda c.e.; adweithedd, pŵer

cymedrig. • Defnyddio fectorau i ymdrin â chylchedau cyfres RC, RL ac RCL;

rhwystriant. • Defnydd: hidlyddion RC syml, cylchedau cysain.

MANYLION Y CYNNWYS

Dylai ymgeiswyr allu:

(a) disgrifio, yn nhermau anwythiad electromagnetig, sut mae cerrynt

newidiol mewn un coil yn anwytho g.e.m. mewn coil arall; (b) deall bod craidd haearn mewn dolen gaeedig yn galluogi newidydd

go iawn i fod yn agos i’r achos delfrydol lle nad oes gollyngiad fflwcs;

(c) deall a dwyn i gof, os nad oes gollyngiad fflwcs, neu gwymp foltedd

yn y coil cynradd neu’r coil eilaidd, yna 1 1

2 2

V NV N

= ;

(ch) deall a dwyn i gof, os nad afradlonir egni yn y newidydd ei hun, yna

1 1 2 2V I V I= , lle mae’r gwahaniaethau potensial a’r ceryntau mewn gwerthoedd i.s.c.;

(d) dwyn i gof bod rhywfaint o egni’n cael ei afradloni oherwydd

(i) gwrthiant y coiliau cynradd ac eilaidd, (ii) ceryntau trolif yn y craidd haearn, (iii) egni a ddefnyddir yn gylchol i newid magneteiddiad y

craidd; (dd) dwyn i gof y gellir lleihau’r colledion hyn trwy

(i) defnyddio gwifrau sy’n ddigon trwchus ar gyfer y coiliau, (ii) laminiadu’r craidd, (iii) dewis aloi addas ar gyfer y craidd;

(e) disgrifio, yn nhermau anwythiad electromagnetig, sut mae cerrynt

newidiol mewn coil yn anwytho yn y coil hwnnw g.e.m. y mae ei gyfeiriad yn gwrthwynebu’r newid yn y cerrynt;

TAG Uwch Gyfrannol/Uwch Ffiseg 39

(f) diffinio hunananwythiant coil gan yr hafaliad I

E Lt

Δ= −

Δ;

(ff) deall oediad gwedd 90° y cerrynt ar ôl y g.p. ar gyfer anwythydd

mewn cylched c.e. sinwsoidaidd;

(g) dwyn i gof y gelwir isc

isc

IV

yn adweithedd, LX , yr anwythydd, a

defnyddio’r hafaliad LX Lω= ; (ng) deall arweiniad gwedd 90° y cerrynt o flaen y g.p. ar gyfer

cynhwysydd mewn cylched c.e. sinwsoidaidd, a defnyddio’r

hafaliad C

1X

Cω= ;

(h) dwyn i gof bod y pŵer cymedrig a afradlonir mewn anwythydd neu

gynhwysydd yn sero; (i) adio gwahaniaethau potensial ar draws cyfuniadau RC, RL ac RCL

mewn cyfres gan ddefnyddio diagramau gwedd;

(j) cyfrifo onglau gwedd a rhwystriant, Z, (a ddiffinnir yn isc

isc

IV ) ar gyfer

cylchedau o’r fath; (l) deillio mynegiad ar gyfer amledd cysain cylched cyfres RCL; (ll) deall bod eglurder y gromlin gyseinio yn cael ei bennu gan y

gymhareb L

, a elwir yn ffactor Q y gylched;

(m) deall sut y gellir defnyddio cylched gyfres LCR i ddewis amleddau; (n) deall sut y gellir defnyddio cylched CR fel hidlydd pasio uchel neu

hidlydd pasio isel syml;

TAG Uwch Gyfrannol/Uwch Ffiseg 40

Opsiwn U2/B Chwyldroadau mewn Ffiseg

Mae’r modiwl dewisol hwn yn cynnwys dau destun, a gaiff eu harholi bob yn ail flwyddyn.

Testunau • Chwyldro Newton • Electromagneteg a Gofod-Amser

MANYLION Y CYNNWYS

1. Chwyldro Newton

Yr Ymagwedd Gyffredinol

• Pam mae pethau’n symud fel y maent? Sut y datblygodd ein cysyniadau

o rym a mudiant yn ystod yr ail ganrif ar bymtheg, gan gyrraedd uchafbwynt gyda Principia Newton.

• Mae’r cwrs yn astudio tua 10 darn byr o waith cewri’r chwyldro

(wedi’u cyfieithu), gan gynnwys Kepler, Descartes a Galileo, yn ogystal â Newton ei hun.

• Bydd cwestiynau ynghylch natur gwyddoniaeth yn codi gan sbarduno

trafodaeth; e.e. a ellir dweud mewn gwirionedd bod deddf fathemategol yn egluro beth sy’n peri i’r planedau symud mewn elipsau?

• Bydd CBAC yn darparu nodiadau i athrawon, gan gynnwys

cyfarwyddyd ar beth y dylid chwilio amdano yn y darnau.

• Mewn arholiad, disgwylid i ymgeiswyr adnabod, dyweder, diagram o waith Newton neu Descartes, neu baragraff o waith Galileo a rhoi sylwadau ar ei arwyddocâd. Nid dyma’r unig fath o gwestiwn a geid, wrth gwrs.

Meysydd i’w Cynnwys

• Y safbwynt swyddogol (wedi Aristotlys) sef mudiant cylchol

‘perffaith’, tragwyddol cyrff wybrennol a mudiant byrhoedlog cyrff (megis trolïau a saethau) ar y Ddaear.

• Bydysawd daear-ganolog Ptolemy a system haul-ganolog Copernicus. • Orbitau eliptigol Kepler.

• Galileo: Deddf Inertia gan wneud y system heliosentrig yn gredadwy.

• Descartes: Bydysawd mecanyddol o ronynnau a grymoedd cyswllt, gan

gynnwys damcaniaeth fortecs cysawd yr haul. Dim lle ar gyfer grymoedd a dylanwadau cudd ym myd Descartes?

• Synthesis Newton 'ar ysgwyddau’r cewri': y cyswllt rhwng grym a

mudiant, sut y gall grym canolog egluro mudiant y planedau, y ddeddf sgwâr gwrthdro, uno dynameg wybrennol a daearol…

• Cwestiynau sy’n codi: A wnaeth Newton egluro unrhyw beth mewn

gwirionedd? A oedd Newton yn fodlon ar ei waith ei hun? Beth oedd effeithiau chwyldro Newton ar y ffordd yr oedd pobl yn meddwl? A yw gwaith Newton wedi’i ddisodli? …

TAG Uwch Gyfrannol/Uwch Ffiseg 41

2. Electromagneteg a Gofod-Amser

Yr Ymagwedd Gyffredinol

• Mae’r cwrs hwn yn braslunio sut y cafwyd tystiolaeth bod golau yn don electromagnetig, a sut y dilynwyd hyn gan newidiadau chwyldroadol yn ein safbwynt ar natur amser a gofod.

• Bydd astudio tua wyth darn eithaf byr o waith Young, Faraday,

Maxwell, Hertz ac eraill yn helpu i roi strwythur i’r cwrs. Mewn arholiad, disgwylid i ymgeiswyr adnabod diagram neu baragraff o’r darnau hyn a rhoi sylwadau ar ei arwyddocâd.

• Bydd cwestiynau ynghylch natur gwyddoniaeth yn codi gan

sbarduno trafodaeth, e.e. A all gwyddoniaeth a synnwyr cyffredin wrthdaro?

• Bydd CBAC yn darparu nodiadau i athrawon, gan gynnwys

cyfarwyddyd ar beth y dylid chwilio amdano yn y darnau.

Meysydd i’w Cynnwys

• Y cefndir: gwaith cyffrous mewn Ffiseg tua 1800: Young yn atgyfodi damcaniaeth golau fel ton, Galvani yn sylwi ar goes llyffant yn plycio a phentwr Volta.

• Oersted yn darganfod bod cerrynt trydanol yn creu maes magnetig a

gwaith meintiol Ampère. • Llinellau grym Faraday, yn tueddu i grebachu ar eu hyd ac i ehangu

i’r ochrau, yn egluro grymoedd coiliau neu fagnetau (neu wefrau) ar ei gilydd – mewn gwrthgyferbyniad â damcaniaethau 'gweithredu o bell' Ampère ac eraill.

• Faraday yn darganfod anwythiad electromagnetig. • Maxwell yn mabwysiadu llinellau grym Faraday fel pethau corfforol

a chipolwg ar ei fodel 'fortecs' cynnar, a’i harweiniodd i ragfynegi bodolaeth tonnau electromagnetig gyda’r un buanedd â golau - dim cyd-ddigwyddiad, mae’n siŵr.

• Maxwell yn sylweddoli y gellid crynhoi’r holl Ffiseg brofadwy yn ei

fodel mewn pedair [set o] hafaliadau, ac felly y gellid rhoi’r gorau i’r model ei hun.

• Hertz: yn cyfiawnhau Maxwell. • Yr aether: cyfrwng sydd ei angen er mwyn lledaenu golau a thonnau

e-m eraill? Pwrpas ac egwyddor arbrawf Michelson-Morley a’i ganlyniad.

• Perthnasedd Arbennig Einstein yn egluro’r canlyniad hwn yn

naturiol. Arbrawf meddwl syml ar ymlediad amser i roi blas o’r ddamcaniaeth.

TAG Uwch Gyfrannol/Uwch Ffiseg 42

Opsiwn U2/C Defnyddiau

Cynnwys • Deddf Hooke • Diriant-straen a Modwlws Young • Egni straen – hysteresis elastig • Ymddygiad elastig a phlastig • Defnyddiau cyfansawdd

MANYLION Y CYNNWYS

Dylai ymgeiswyr allu:

(a) Dosbarthu solidau yn grisialog, amorffaidd neu bolymerig yn

nhermau eu strwythur microsgopig; (b) Disgrifio arbrawf i ymchwilio i ymddygiad sbring yn nhermau llwyth

ac estyniad, dwyn i gof a defnyddio deddf Hooke a diffinio cysonyn y sbring fel grym pob uned estyniad. F k x= Δ ;

(c) Diffinio diriant tynnol F

Aσ =⎛ ⎞⎜ ⎟⎝ ⎠

a straen tynnol l

Δ=⎛ ⎞

⎜ ⎟⎝ ⎠

a modwlws

Young a gwneud cyfrifiadau syml; cymharu modwlws Young gwahanol solidau;

(ch) Disgrifio arbrawf i fesur modwlws Young metel ar ffurf gwifren; (d) Diddwytho’r egni straen mewn defnydd solet anffurfiedig o’r

arwynebedd dan graff grym/estyniad ( )12 F xΔ a dwyn i gof a deillio’r

hafaliad: egni straen fesul uned cyfaint 12 σε= a’i gymhwyso i

achosion lle y caiff egni cinetig ei amsugno gan wifren neu raff; (dd) Disgrifio prif nodweddion y graffiau grym/estyniad, diriant/straen ar

gyfer defnyddiau hydwyth fel copr a chymharu’r rhain â’r graffiau ar gyfer metelau llai hydwyth fel dur;

(e) Disgrifio anffurfiad defnyddiau hydwyth ar y lefel foleciwlaidd a

gwahaniaethu rhwng straen elastig a phlastig; (f) Disgrifio, ar y lefel foleciwlaidd, effaith afleoliadau a sut y caiff

defnyddiau eu cryfhau a’u cyfnerthu trwy gyflwyno rhwystrau i afleoliad megis atomau gwahanol, afleoliadau eraill a ffiniau graen;

(ff) deall, ar lefel foleciwlaidd syml, sut mae uwchaloion wedi’u

datblygu i wrthsefyll amodau eithafol, a disgrifio rhai o’r ffyrdd o’u defnyddio;

(g) Disgrifio yn nhermau moleciwlau fecanweithiau methiant mewn

defnyddiau hydwyth: toriad hydwyth (gyddfu), ymgripiad a lludded.

TAG Uwch Gyfrannol/Uwch Ffiseg 43

(ng) Deall y gallai prosesau triniaeth wres reoli priodweddau mecanyddol metelau: gweithio’n oer (gwaith galedu) anelio (e.e. copr) a throchoeri galedu (e.e. dur);

(h) Dangos dealltwriaeth o’r graff grym/estyniad, diriant/straen ar gyfer

sylwedd brau fel gwydr a gallu ei gymharu â’r graff ar gyfer defnydd hydwyth;

(i) Disgrifio toriad defnydd brau mewn termau moleciwlaidd ac effaith

amherffeithiadau arwyneb ar ddiriant torri (diriant tynnol eithaf) a’r diriant torri uwch mewn ffibrau gwydr tenau;

(j) Disgrifio polymerau thermoplastig (e.e. polythen) a thermosodol (e.e.

melamin) ar y lefel foleciwlaidd. Cymharu a gwrthgyferbynnu eu priodweddau a disgrifio rhai ffyrdd o’u defnyddio;

(l) Dangos dealltwriaeth o’r graff grym/estyniad, diriant/straen ar gyfer

sylweddau polymerig (rwber a pholyethylen); (ll) Cymharu ymddygiad rwber a pholyethylen yn nhermau eu hadeiledd

moleciwlaidd a’u hymddygiad dan ddiriant, gan gyfeirio hefyd at effaith tymheredd. Deall pwysigrwydd hysteresis mewn rwber;

(m) Dwyn i gof nad yw defnyddiau o anghenraid yn ymddwyn yr un

ffordd dan densiwn ac mewn cywasgiad a bod lledaenu crac yn fwy anodd mewn cywasgiad – gan gyfeirio’n benodol at goncrit a gwydr wedi’i wasgu’n barod (prestressed) fel enghreifftiau;

(n) Deall bod defnyddiau cyfansawdd yn cael eu datblygu er mwyn

manteisio ar briodweddau mecanyddol y defnyddiau unigol sy’n eu ffurfio, gan gyfeirio at deiars cerbydau, concrit cyfnerth, polymerau wedi’u hatgyfnerthu â ffibrau (e.e. gwydr a charbon) a defnyddiau cyfansawdd seiliedig ar bren, gan ddefnyddio’r rhain fel enghreifftiau.

TAG Uwch Gyfrannol/Uwch Ffiseg 44

Opsiwn U2/D Mesuriad Biolegol a Delweddu Meddygol

Cynnwys • Pelydrau X • Uwchsain • Delweddu cyseiniant magnetig • Delweddu niwclear

MANYLION Y CYNNWYS Dylai ymgeiswyr allu: (a) disgrifio natur a phriodweddau pelydrau X; (b) disgrifio sut y cynhyrchir sbectra pelydr X gan gynnwys dulliau o

reoli arddwysedd y paladr, egni’r ffotonau, eglurder a gwrthgyferbyniad y ddelwedd, a’r dos i’w roi i’r claf;

(c) disgrifio sut y defnyddir pelydrau X egni uchel wrth drin cleifion

(therapi) a phelydrau X egni isel wrth wneud diagnosis; (ch) defnyddio’r hafaliad I = I0esb(-μx) ar gyfer gwanhau pelydrau X; (d) deall sut y defnyddir pelydrau X i roi delweddau o adeileddau

mewnol, dwysawyr delwedd a chyfryngau gwrthgyferbynnu; (dd) disgrifio sut y defnyddir sganiwr CT (tomograffeg echelinol

gyfrifiadurol) â phaladr cylchdroadol; (e) disgrifio sut y cynhyrchir ac y canfyddir uwchsain gan ddefnyddio

trawsddygiaduron piesodrydanol; (f) disgrifio sganio gydag uwchsain ar gyfer diagnosis gan gynnwys

sganiau-A a sganiau-B (nid oes angen y defnydd o sganiau-B amser real) gan gynnwys enghreifftiau a chymwysiadau;

(ff) deall arwyddocâd rhwystriant acwstig, a ddiffinir gan Z cρ= ar

gyfer adlewyrchu a thrawsyrru tonnau sain ar ffiniau meinweoedd, gan gynnwys gwerthfawrogi'r angen am gyfrwng cyplysu;

(g) deall sut y defnyddir hafaliad Doppler vc

λλΔ

= i astudio llif gwaed

gan ddefnyddio chwiliwr uwchsain; (ng) deall egwyddorion cyseiniant magnetig gan gyfeirio at niwclysau

presesiadol, cyseiniant ac amser sadiad; (h) disgrifio sut y defnyddir delweddu cyseiniant magnetig (MRI) i gael

gwybodaeth am adeileddau mewnol er mwyn gwneud diagnosis;

TAG Uwch Gyfrannol/Uwch Ffiseg 45

(i) trafod manteision ac anfanteision delweddu uwchsain, delweddu pelydr X a delweddu cyseiniant magnetig wrth archwilio adeileddau mewnol;

(j) deall adeiledd y galon fel pwmp dwbl; (l) disgrifio dulliau o ganfod signalau trydanol ar arwyneb y croen; (ll) disgrifio dull sylfaenol gweithredu peiriant ECG, ac egluro’r tonffurf

nodweddiadol trwy ystyried ymateb y galon i botensial sy’n tarddu yn y nod sino-atriaidd;

(m) disgrifio effeithiau ymbelydredd α, β, a γ ar fater byw; (n) diffinio a defnyddio’r gray (Gy) fel uned y dos a amsugnir a’r sievert

(Sv) fel uned y dos cyfatebol; (o) disgrifio sut y defnyddir radioniwclidau fel olinyddion i ddelweddu

rhannau o’r corff gan gyfeirio yn arbennig at I-123 ac I-131. (p) disgrifio sut y defnyddir y camera gama gan gynnwys egwyddorion y

cyflinydd, y rhifydd fflachennu a’r ffotoluosogydd. (ph) deall egwyddorion sganio tomograffeg gollwng positronau (PET) a

sut y’i defnyddir i ganfod tyfiannau.

TAG Uwch Gyfrannol/Uwch Ffiseg 46

Opsiwn U2/E MATERION EGNI Mae’r Opsiwn hwn yn ystyried egni yn y byd go iawn. Er bod y prif bwyslais ar ffiseg prosesau cynhyrchu a chadw egni, dylai ymgeiswyr fod yn ymwybodol o faterion cyfoes yn ymwneud ag egni (materion economaidd, amgylcheddol, dyngarol a gwleidyddol) ynghyd â gorolwg o’r ystadegau a’r tueddiadau allweddol. Gallai cwestiwn arholiad nodweddiadol gynnwys darn cyfoes a ddefnyddir gan y myfyrwyr i ddod i gasgliadau, tynnu data ar gyfer cyfrifiadau ayb. Mae llawer o’r ffiseg dan sylw yn syml a bydd wedi’i ystyried gynt yn y fanyleb fel y nodir isod: PH1.3 Cysyniadau Egni PH1.7 Gwrthiant PH2.1 Tonnau PH2.3 Ffotonau PH2.4 Mater, grymoedd a’r bydysawd (a) i (ch) PH1.4 Ffiseg thermol PH2.5 Egni niwclear.

Cynnwys • Ffynonellau egni adnewyddadwy • Storio egni • Egni niwclear, egni tanwydd ffosil a ffynonellau egni

anadnewyddadwy eraill • Peryglon a chanlyniadau niweidiol • Prosesau trosglwyddo màs • Prosesau trosglwyddo egni • Gwaith o wres

MANYLION Y CYNNWYS

Dylai ymgeiswyr allu:

(a) amcangyfrif pŵer trydan dŵr, llanw a gwynt o fodelau mecanyddol syml;

(b) bod yn ymwybodol o brojectau presennol a rhai arfaethedig: trydan

dŵr (e.e. Yangtze); llanw (e.e. La Rance, Hafren); gwynt (e.e. Arae Llundain);

(c) deall egwyddor storio egni mewn prosiectau fel Ffestiniog a

Dinorwig; (ch) dehongli hafaliadau yn cynrychioli adweithiau ymholltiad ac

ymasiad, a chyfrifo’r egnïon a geir o ddata a roddir ar fàs; (d) deall yr egwyddorion tu ôl i fridio a chyfoethogi mewn ymholltiad

niwclear; (dd) dangos dealltwriaeth o’r anawsterau wrth gynhyrchu pŵer cyson o

adweithiau ymasiad a bod yn ymwybodol o’r cynnydd presennol (JET) a’r rhagolygon (ITER);

(e) adnabod darfudiad fel màs-symudiad hylifau a deall y gellir lleihau’r

egni a gollir trwy ddarfudiad trwy, er enghraifft, ddal nwy mewn swigod;

TAG Uwch Gyfrannol/Uwch Ffiseg 47

(f) deall a chymhwyso’r hafaliad dargludiad thermol ar ffurf Q

AKt x

θΔ Δ= −

Δ Δ (nid oes angen ei ddeillio na’i ddwyn i gof);

(ff) bod yn ymwybodol o darddiad egni solar a sut mae’n cael ei

drosglwyddo a ffurf sbectrwm pŵer yr haul; (g) dwyn i gof a defnyddio deddf T4 Stefan-Boltzman a deddf dadleoliad

Wien; (ng) deall beth a olygir gan y Cysonyn Solar a’i gyfrifo o dymheredd yr

haul a fformiwlâu geometregol yn y daflen ddata mathemategol; (h) bod yn ymwybodol o broblemau harnesu egni solar a chyfyngiadau

celloedd solar; (i) adnabod effeithiau amgylcheddol tanwyddau carbon a deall sylfaen

yr effaith tŷ gwydr; (j) deall yr egwyddorion tu ôl i’r peiriant gwres delfrydol, cylchred

Carnot, oergelloedd a phympiau gwres (gan gynnwys cymwysiadau diweddar, e.e. adeilad y Senedd yng Nghaerdydd);

(l) nodi ac egluro ail ddeddf thermodynameg (ffurf Kelvin); deall sut

mae’r ail ddeddf yn gosod uchafswm ar effeithlonedd peiriannau gwres, er enghraifft effeithlonedd y tyrbinau mewn gorsafoedd trydan confensiynol ac atomfeydd.

TAG Uwch Gyfrannol/Uwch Ffiseg 48

PH6 Uned Asesu Mewnol– Ffiseg Arbrofol

Mae’r uned hon yn rhoi’r cyfle i ymgeiswyr ddangos eu gallu i gyflawni eu hymchwiliadau eu hunain a dadansoddi a gwerthuso data arbrofol eilaidd. Mae’r uned yn hollol synoptig ei natur.

MANYLION Y CYNNWYS

Dylai ymgeiswyr allu:

• cynllunio a chyflawni ymchwiliad ar lefel sy’n briodol ar gyfer y cwrs U2;

• dadansoddi a gwerthuso data o’u hymchwiliad eu hunain ac o ffynonellau eilaidd gan ddefnyddio technegau graffigol a mathemategol gan gynnwys rhai sy’n benodol i’r cwrs U2;

• cyfuno ansicrwyddau sy’n codi o wahanol fesuriadau a barnu pa ansicrwyddau yw’r rhai mwyaf arwyddocaol mewn dull gweithredu;

Manylion y Dasg

Rhaid i ymgeiswyr ymgymryd yn unigol â dwy dasg arbrofol, ar eu pennau eu hunan, o dan amodau rheoledig, sef Tasg A a Thasg B. Caiff y tasgau eu dyfeisio gan CBAC, eu cyflawni o dan amodau rheoledig ac asesir y canlyniadau gan y ganolfan gan ddefnyddio cynlluniau marcio a ddarperir gan CBAC.

Tasg A: Dadansoddi Data

Tasg 45 munud yw hon, y mae 25 marc amdani. Rhoddir i’r ymgeiswyr set o ddata arbrofol ar destun o’r fanyleb safon Uwch. Rhoddir iddynt fanylion am sut y cafwyd y data. Disgwylir iddynt:

• ddadansoddi’r data yn graffigol ac yn algebraidd er mwyn sefydlu perthynas rhwng y newidynnau a / neu ddeillio mesur o bwys – gallai’r technegau graffigol a dadansoddol gynnwys plotiau log-log neu led-logarithmig a defnyddio pwerau (positif neu negatif);

• deillio ansicrwydd o’r dadansoddiad graffigol a / neu algebraidd a mynegi’r ateb mewn unedau SI i drachywiredd cymesur â’r ansicrwydd;

• rhoi sylwadau priodol am y dadansoddiad.

Tasg B: Ymchwiliad

Tasg 75 munud yw hon, yn cario 25 marc. Rhoddir i’r ymgeiswyr set o gyfarpar a phroblem arbrofol. Disgwylir iddynt:

• gynllunio sut i ddefnyddio yn ddiogel ran neu’r cyfan o’r cyfarpar i ymchwilio i’r broblem (15 munud);

• cyflawni’r ymchwiliad a gynlluniwyd ganddynt, gan gynnwys dadansoddi eu data, dod i gasgliadau a gwerthuso'r data a hefyd y technegau arbrofol (1 awr).

Er mwyn sicrhau bod y dasg yn gwahaniaethu a hefyd caniatáu i bob ymgeisydd wneud cynnydd, caniateir i’r goruchwyliwr ddarparu gwybodaeth ychwanegol lle bo angen. Bydd rhoi gwybodaeth o’r fath yn golygu cosbau yn y marciau.

Cyflawnir y ddwy dasg yn ail hanner tymor y gwanwyn. Rhoddir manylion am amseriad y tasgau a phryd y derbynnir y wybodaeth briodol yn llyfryn CBAC Llawlyfr Asesiad Mewnol, a gynhyrchir yn flynyddol.

Caiff gwaith yr ymgeiswyr ei farcio gan y goruchwyliwr. Dylid anfon y canlyniadau at CBAC a chyflwyno gwaith yr ymgeiswyr i’w safoni yn unol â threfniadau CBAC.

TAG Uwch Gyfrannol/Uwch Ffiseg 49

5 Y CYNLLUN ASESU

Bydd cymwysterau Uwch Gyfrannol ac Uwch ar gael i ymgeiswyr sy’n dilyn y fanyleb hon. Uwch Gyfrannol Hanner cyntaf y cwrs Uwch yw’r cwrs Uwch Gyfrannol. Bydd yn cyfrannu 50% o gyfanswm

y marciau ar gyfer safon Uwch. Mae’n ofynnol i ymgeiswyr gwblhau’r tair uned ganlynol er mwyn ennill cymhwyster UG.

Pwysiad o fewn

UG Pwysiad o fewn

Safon Uwch

PH1 Mudiant, Egni a Gwefr 40% 20%

PH2 Tonnau a Gronynnau 40% 20%

PH3 Ffiseg Ymarferol 20% 10% PH1: Papur ysgrifenedig (1¼ awr)

Mae’r papur yn cynnwys tua 7 cwestiwn gyda 80 marc crai. Nid oes cwestiynau opsiynol nac adrannau.

PH2: Papur ysgrifenedig (1¼ awr)

Mae’r papur yn cynnwys tua 7 cwestiwn gyda 80 marc crai. Nid oes cwestiynau opsiynol nac adrannau.

PH3: Asesiad Mewnol

Mae’r asesiad mewnol yn cynnwys set o dasgau ffiseg ymarferol yn cymryd 1 awr 40 munud, wedi’u gosod gan CBAC a’u sefyll dan amodau rheoledig. Mae’n cynnwys 4 tasg fer yn para am 50 munud, sy’n profi technegau mesur ac ansicrwydd ac 1 ymchwiliad sy’n para am 50 munud.

Uwch Mae’r fanyleb Safon Uwch yn cynnwys dwy ran: Rhan 1 (UG) a Rhan 2 (U2). Gellir sefyll Rhan 1 (Uwch Gyfrannol) ar wahân a’i hychwanegu at U2 mewn sesiwn arholiad

bellach er mwyn sicrhau cymhwyster Uwch, neu fel arall, gellir sefyll yr arholiadau UG ac U2 gyda’i gilydd yn yr un sesiwn.

Mae’n ofynnol i ymgeiswyr gwblhau’r unedau UG a amlinellwyd uchod ynghyd â thair uned

bellach er mwyn sicrhau cymhwyster Safon Uwch mewn Ffiseg. Bydd yr unedau U2 yn cyfrannu 50% o gyfanswm y marciau ar gyfer safon Uwch

Pwysiad o

fewn U2 Pwysiad o fewn

Safon Uwch

PH4* Dirgryniadau, Egni a Meysydd 36% 18%

PH5* Magneteg, Niwclysau ac Opsiynau 44% 22%

PH6* Ffiseg Arbrofol 20% 10% *yn cynnwys asesiad synoptig

TAG Uwch Gyfrannol/Uwch Ffiseg 50

PH4: Papur ysgrifenedig (1¼ awr)

Mae’r papur yn cynnwys tua 7 cwestiwn gyda 80 marc crai. Nid oes cwestiynau opsiynol a dim adrannau. Mae rhai o’r cwestiynau yn defnyddio deunydd a welwyd yn gyntaf yn y cwrs UG ac maent yn cyfrannu at yr asesiad synoptig.

PH5: Papur ysgrifenedig (1¾ awr) Mae’r papur yn cynnwys 3 adran A, B ac C. Mae Adran A (60 marc crai) yn cynnwys tua 5 cwestiwn sy’n trin cynnwys gorfodol yr uned.

Mae rhai yn defnyddio deunydd a welwyd yn gynt yn y cwrs Uwch ac maent yn cyfrannu at yr asesiad synoptig. Nid oes cwestiynau opsiynol yn yr adran hon.

Mae Adran B (20 marc crai) yn cynnwys cwestiwn strwythuredig sy’n ymwneud â deunydd

ffynhonnell agored ar fater o bwys cyfredol neu ddarn o ymchwil cyfredol a byddant yn gysylltiedig â chynnwys y fanyleb. Dosberthir y deunydd ffynhonnell agored ym mis Ionawr yn y flwyddyn pan fydd yr uned yn cael ei sefyll. Mae’r adran hon yn synoptig ei natur.

Mae Adran C (20 marc crai) yn cynnwys 5 cwestiwn, ac mae’n rhaid i’r ymgeisydd ateb 1

ohonynt. Gosodir pob cwestiwn ar gynnwys un o’r adrannau dewisol yn yr uned hon. PH6: Asesiad Mewnol Mae’r asesiad mewnol yn cynnwys dwy dasg: Prawf Ymarferol a Thasg Dadansoddi Data.

• Prawf Ymarferol: sef tasg ymarferol 1¼ -awr, gyda 25 marc crai, sy’n cael ei osod gan CBAC a’i sefyll dan amodau rheoledig. Mae’n cynnwys un dasg arbrofol gydag amser ar gyfer cynllunio a dadansoddi.

• Tasg Dadansoddi Data: sef tasg 45 munud, gyda 25 marc crai, sy’n cael ei osod gan CBAC a’i

sefyll dan amodau rheoledig. Mae’n cynnwys un neu ragor o gwestiynau yn profi gallu’r ymgeisydd i ddadansoddi data arbrofol gan ddefnyddio technegau graffigol a mathemategol safon Uwch. Caiff dwy ran yr asesiad mewnol eu marcio gan y goruchwyliwr, gan ddefnyddio cynlluniau marcio a ddarperir gan CBAC.

Asesiad synoptig

Bydd asesiad synoptig, sy’n profi dealltwriaeth ymgeiswyr o’r cysylltiadau rhwng gwahanol elfennau’r pwnc a’u dealltwriaeth gyfannol o’r pwnc, yn ofynnol ym mhob manyleb Safon Uwch. Yng nghyd-destun Ffiseg mae hyn yn golygu: PH4: Mae’r gwaith ar ddirgryniadau, thermodynameg, meysydd a photensialau trydanol a disgyrchiant a symudiad Doppler llinellau sbectrol, yn adeiladu ar gysyniadau a ddysgwyd yn y cwrs UG. Mae’r cwestiynau yn arholi’r agweddau synoptig hyn. PH5: Mae pob maes gorfodol yn yr uned hon yn defnyddio gwaith mewn unedau blaenorol: e.e. cynwysyddion ar gylchedau trydanol (PH1) a meysydd trydanol (PH4); mudiant gwefrau mewn meysydd magnetig ar fudiant cylchol (PH4); priodweddau niwclear ar ronynnau (PH2). Gosodir cwestiynau sy’n cysylltu’r themâu hyn. Mae’r Astudiaeth Achos (adran B) yn synoptig ei natur. PH6: Mae pob agwedd ar ddwy ran yr uned hon, a asesir yn fewnol, yn synoptig ei natur.

TAG Uwch Gyfrannol/Uwch Ffiseg 51

Ansawdd y Cyfathrebu Ysgrifenedig

Bydd yn ofynnol i ymgeiswyr arddangos eu gallu mewn cyfathrebu ysgrifenedig ym mhob uned asesu lle mae gofyn iddynt gynhyrchu deunydd ysgrifenedig estynedig: PH2, PH5 a PH6. Mae’r cynlluniau marcio ar gyfer yr unedau hyn yn cynnwys y meini prawf penodol canlynol ar gyfer asesu cyfathrebu ysgrifenedig. • darllenadwyedd y testun; cywirdeb y sillafu, yr atalnodi a’r gramadeg; eglurder ystyr; • dethol ffurf ac arddull ysgrifennu sy’n briodol i’r pwrpas ac i gymhlethdod y deunydd

pwnc; • trefnu’r wybodaeth yn glir ac yn gydlynol; defnyddio geirfa arbenigol lle bo hynny’n

briodol. Mae tudalennau blaen pob papur a asesir yn allanol yn cynnwys datganiad mewn print trwm yn hysbysu ymgeiswyr fod yn rhaid iddynt fynegi eu hunain yn glir gan ddefnyddio termau technegol cywir. Mae cloriau’r cynlluniau marcio yn cynnwys datganiad bod angen ystyried safon yr iaith ac mae’r allwedd marcio manwl yn nodi, gydag (ACY), lleoedd lle bydd ansawdd y cyfathrebu ysgrifenedig yn cyfrannu at yr asesiad o’r perfformiad.

Darpariaeth yr Unedau

Uned Ionawr Mehefin PH1 PH2 PH3 PH4 PH5 PH6

Dyfarnu, Adrodd ac Ail-sefyll

Bydd y graddau cyffredinol ar gyfer y cymhwyster TAG Uwch Gyfrannol yn cael eu cofnodi fel gradd ar y raddfa A i E. Bydd y graddau cyffredinol ar gyfer y cymwysterau TAG Uwch yn cael eu cofnodi fel gradd ar y raddfa A* i E. Bydd y canlyniadau sy’n methu â chyrraedd y safon isaf ar gyfer gradd yn cael eu cofnodi â’r llythyren U (annosbarthedig). Bydd canlyniadau uned unigol a’r dyfarniad pwnc cyffredinol yn cael eu mynegi fel marc unffurf ar raddfa sy’n gyffredin i bob cymhwyster TAG (gweler y tabl isod). Nodir y cywerthedd gradd â llythyren fach ((a) i (e)) ar y slipiau canlyniad, ond nid ar y tystysgrifau: GMU

Uchaf A B C D E

PH1 a PH2 (pwysiad 20%) 120 96 84 72 60 48 PH3 & PH6 (pwysiad 10%) 60 48 42 36 30 24 PH4 (pwysiad 18%) 108 86 76 65 54 43 PH5 (pwysiad 22%) 132 106 92 79 66 53

Cymhwyster UG 300 240 210 180 150 120

Cymhwyster U 600 480 420 360 300 240 Ar safon Uwch, dyfernir Gradd A* i ymgeiswyr sydd wedi cyrraedd Gradd A yn y cymhwyster safon Uwch cyffredinol ac A* ar gyfanswm eu hunedau U2. Gall ymgeiswyr ailsefyll yr unedau cyn yr ardystio ar gyfer y cymhwyster, a’r canlyniad gorau a ddefnyddir ar gyfer dyfarnu’r cymhwyster. Bydd oes y canlyniadau uned unigol, cyn ardystio’r cymhwyster, ond yn cael ei chyfyngu gan oes y fanyleb ei hun.

TAG Uwch Gyfrannol/Uwch Ffiseg 52

6 SGILIAU ALLWEDDOL

Mae Sgiliau Allweddol yn ganolog i astudio Ffiseg ar gyfer UG a Safon Uwch, a gellir eu

hasesu trwy gynnwys y cwrs a’r cynllun asesu perthnasol fel y’u diffinnir yn y fanyleb. Gellir datblygu’r sgiliau allweddol canlynol trwy gyfrwng y fanyleb hon ar lefel 3:

• Cyfathrebu • Cymhwyso Rhif • Datrys Problemau • Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu • Gwella Eich Dysgu a’ch Perfformiad Eich Hun Darperir cyfleoedd i olrhain datblygiad y sgiliau hyn yn erbyn y gofynion tystiolaeth Sgiliau

Allweddol yn yr ‘Enghreifftio Sgiliau Allweddol’ ar gyfer Ffiseg, sydd ar gael ar wefan CBAC.

TAG Uwch Gyfrannol/Uwch Ffiseg 53

7 DISGRIFIADAU PERFFORMIAD

Cyflwyniad

Mae disgrifiadau perfformiad wedi’u creu ar gyfer pob pwnc TAG. Maent yn disgrifio canlyniadau dysgu a’r lefelau cyrhaeddiad sy’n debygol o gael eu dangos gan ymgeisydd nodweddiadol sy’n perfformio ar y ffiniau A/B ac E/U ar gyfer UG ac U2. Yn ymarferol bydd y rhan fwyaf o ymgeiswyr yn dangos proffiliau anghyson ar draws y cyraeddiadau a restrir, gyda chryfderau mewn rhai meysydd yn cydbwyso yn y broses ddyfarnu wendidau neu wallau mewn lleoedd eraill. Mae’r Disgrifiadau Perfformiad yn dangos y disgwyliadau ar y ffiniau A/B ac E/U ar gyfer UG ac U2 yn eu cyfanrwydd; nid ydynt wedi’u hysgrifennu ar lefel yr unedau. Dylid gosod y ffiniau rhwng graddau A/B ac E/U gan ddefnyddio barn broffesiynol. Dylai’r farn adlewyrchu ansawdd gwaith yr ymgeiswyr, a chael ei chefnogi gan y dystiolaeth dechnegol ac ystadegol sydd ar gael. Nod y disgrifiadau perfformiad yw helpu’r arholwyr i ddefnyddio eu barn broffesiynol. Dylid eu dehongli a’u cymhwyso yng nghyd-destun manylebau unigol a’u hunedau cysylltiedig. Fodd bynnag, ni fwriedir i ddisgrifiadau perfformiad ddiffinio cynnwys manylebau ac unedau. Bodlonir y gofyniad ar i bob manyleb UG ac Uwch asesu ansawdd cyfathrebu ysgrifenedig yr ymgeiswyr trwy un neu ragor o’r amcanion asesu. Cynhyrchwyd y disgrifiadau perfformiad gan yr awdurdodau rheoleiddio mewn cydweithrediad â’r cyrff dyfarnu.

TAG

Uw

ch G

yfra

nnol

/Uw

ch F

fiseg

54

D

isgr

ifiad

au p

erffo

rmia

d U

G a

r gyf

er ff

iseg

A

mca

n as

esu

1 A

mca

n as

esu

2 A

mca

n as

esu

3 A

mca

nion

as

esu

Gw

ybod

aeth

a d

eallt

wria

eth

o w

yddo

niae

th

ac o

Sut

mae

gw

yddo

niae

th y

n gw

eith

io

Dyl

ai y

mge

isw

yr a

llu:

• ad

nabo

d, d

wyn

i go

f a d

ango

s de

alltw

riaet

h o

wyb

odae

th w

yddo

nol

• de

wis

, tre

fnu

a ch

yfle

u gw

ybod

aeth

be

rthna

sol m

ewn

gwah

anol

ffur

fiau.

Cym

hwys

o gw

ybod

aeth

a d

eallt

wria

eth

o w

yddo

niae

th a

c o

Sut m

ae g

wyd

doni

aeth

yn

gwei

thio

D

ylai

ym

geis

wyr

allu

: •

dada

nsod

di a

gw

erth

uso

gwyb

odae

th w

yddo

nol a

ph

rose

sau

gwyd

dono

l •

cym

hwys

o gw

ybod

aeth

wyd

dono

l a p

hros

esau

gw

yddo

nol i

sef

yllfa

oedd

ang

hyfa

rwyd

d ga

n gy

nnw

ys rh

ai c

ysyl

ltied

ig â

mat

erio

n o

bwys

ases

u di

lysr

wyd

d, d

ibyn

adw

yedd

a h

ygre

dedd

gw

ybod

aeth

wyd

dono

l.

Sut m

ae g

wyd

doni

aeth

yn

gwei

thio

D

ylai

ym

geis

wyr

allu

: •

dang

os a

dis

grifi

o te

chne

gau

a ph

rose

sau

ymar

fero

l, m

oese

gol,

diog

el a

med

rus,

gan

dde

wis

dul

liau

anso

ddol

a m

eint

iol p

riodo

l •

gwne

ud, c

ofno

di a

chy

fleu

arsy

lwad

au a

mes

uria

dau

diby

nadw

y a

dily

s gy

da th

rach

ywire

dd a

man

wl

gyw

irdeb

prio

dol

• da

dans

oddi

, deh

ongl

i, eg

luro

a g

wer

thus

o m

etho

dole

g, c

anly

niad

au a

c ef

faith

eu

gwei

thga

redd

au a

rbro

fol a

c ym

chw

iliol

eu

huna

in a

rh

ai p

obl e

raill

mew

n gw

ahan

ol ff

yrdd

.

Dis

grifi

adau

pe

rffo

rmia

d ar

y ff

in A

/B

Yn

nodw

eddi

adol

, byd

d ym

geis

wyr

yn:

a)

da

ngos

gw

ybod

aeth

am

y rh

an fw

yaf o

’r eg

wyd

dorio

n, y

cys

ynia

dau

a’r f

feith

iau

yn y

fa

nyle

b U

G

b)

dang

os d

eallt

wria

eth

o’r r

han

fwya

f o’r

egw

yddo

rion,

y c

ysyn

iada

u a’

r ffe

ithia

u yn

y

fany

leb

UG

c)

de

wis

gw

ybod

aeth

ber

thna

sol o

’r fa

nyle

b U

G

ch)

trefn

u a

chyf

leu

gwyb

odae

th y

n gl

ir m

ewn

ffurfi

au p

riodo

l gan

dde

fnyd

dio

term

au

gwyd

dono

l.

Yn

nodw

eddi

adol

, byd

d ym

geis

wyr

yn:

a)

cy

mhw

yso

egw

yddo

rion

a ch

ysyn

iada

u m

ewn

cyd-

dest

unau

cyf

arw

ydd

a ne

wyd

d gy

da d

im o

nd

ychy

dig

o ga

mau

yn

y dd

adl

b)

disg

rifio

tued

diad

au a

pha

trym

au a

rwyd

doca

ol a

dd

ango

sir g

an d

data

a g

yflw

ynir

ar ff

urf t

abl n

eu

graf

f a d

ehon

gli f

feno

men

au h

eb la

wer

o w

alla

u a

chyf

leu

dadl

au a

gw

erth

usia

dau

yn g

lir

c)

eglu

ro a

deh

ongl

i ffe

nom

enau

heb

law

er o

wal

lau

a ch

yfle

u da

dleu

on a

gw

erth

usia

dau

yn g

lir

ch)

gwne

ud c

yfrif

iada

u st

rwyt

hure

dig

heb

law

er o

w

alla

u a

dang

os d

eallt

wria

eth

dda

o’r

perth

naso

edd

sylfa

enol

rhw

ng m

esur

au ff

iseg

ol

Yn

nodw

eddi

adol

, byd

d ym

geis

wyr

yn:

a)

dy

feis

io a

chy

nllu

nio

gwei

thga

redd

au a

rbro

fol a

c ym

chw

iliol

, gan

dde

wis

tech

nega

u pr

iodo

l b)

da

ngos

tech

nega

u ym

arfe

rol d

ioge

l a m

edru

s c)

gw

neud

ars

ylw

adau

a m

esur

iada

u gy

da

thra

chyw

iredd

prio

dol a

cho

fnod

i’r rh

ain

yn d

refn

us

ch)

deho

ngli,

egl

uro,

gw

erth

uso

a ch

yfle

u ca

nlyn

iada

u eu

gw

eith

gare

ddau

arb

rofo

l ac

ymch

wili

ol e

u hu

nain

a

rhai

pob

l era

ill, m

ewn

cyd-

dest

unau

prio

dol.

Dis

grifi

adau

pe

rffo

rmia

d ar

y ff

in E

/U

Yn

nodw

eddi

adol

, byd

d ym

geis

wyr

yn:

a)

da

ngos

gw

ybod

aeth

am

rai e

gwyd

dorio

n a

ffeith

iau

yn y

fany

leb

UG

b)

da

ngos

dea

lltw

riaet

h o

rai e

gwyd

dorio

n a

ffeith

iau

rai e

gwyd

dorio

n a

ffeith

iau

yn y

fa

nyle

b U

G

c)

dew

is p

eth

gwyb

odae

th b

erth

naso

l o’r

fany

leb

UG

ch

) cy

fleu

gwyb

odae

th g

an d

defn

yddi

o te

rmau

sy

lfaen

ol o

’r fa

nyle

b U

G.

Yn

nodw

eddi

adol

, byd

d ym

geis

wyr

yn:

a)

cy

mhw

yso

egw

yddo

r a ro

ddw

yd i

ddeu

nydd

a

gyflw

ynir

mew

n cy

d-de

stun

au c

yfar

wyd

d ne

u ra

i â

chys

yllti

ad a

gos

gyda

dim

ond

ych

ydig

o g

amau

yn

y d

dadl

b)

di

sgrif

io rh

ai tu

eddi

adau

neu

bat

rym

au a

dd

ango

sir g

an d

data

a g

yflw

ynir

ar ff

urf t

abl n

eu

graf

f c)

da

rpar

u es

boni

adau

a d

ehon

glia

dau

sylfa

enol

ar

gyfe

r rha

i ffe

nom

enau

, gan

gyf

lwyn

o gw

erth

usia

dau

cyfy

nged

ig ia

wn

ch)

cyfla

wni

rhai

cam

au m

ewn

cyfri

fiada

u

Yn

nodw

eddi

adol

, byd

d ym

geis

wyr

yn:

a)

dy

feis

io a

chy

nllu

nio

rhai

agw

edda

u ar

w

eith

gare

ddau

arb

rofo

l ac

ymch

wili

ol

b)

dang

os te

chne

gau

ymar

fero

l dio

gel

c)

gwne

ud a

rsyl

wad

au a

mes

uria

dau

a’u

cofn

odi

ch)

deho

ngli,

egl

uro

a ch

yfle

u rh

ai a

gwed

dau

ar

ganl

ynia

dau

eu g

wei

thga

redd

au a

rbro

fol a

c ym

chw

iliol

eu

huna

in a

rhai

pob

l era

ill, m

ewn

cyd-

dest

unau

prio

dol.

TAG

Uw

ch G

yfra

nnol

/Uw

ch F

fiseg

55

Dis

grifi

adau

per

fform

iad

U2

ar g

yfer

ffis

eg

A

mca

n as

esu

1 A

mca

n as

esu

2 A

mca

n as

esu

3 A

mca

nion

as

esu

Gw

ybod

aeth

a d

eallt

wria

eth

o w

yddo

niae

th a

c o

Sut m

ae

gwyd

doni

aeth

yn

gwei

thio

D

ylai

ym

geis

wyr

allu

: •

adna

bod,

dw

yn i

gof a

dan

gos

deal

ltwria

eth

o w

ybod

aeth

w

yddo

nol

• de

wis

, tre

fnu

a ch

yfle

u gw

ybod

aeth

ber

thna

sol m

ewn

gwah

anol

ffur

fiau.

Cym

hwys

o gw

ybod

aeth

a d

eallt

wria

eth

o w

yddo

niae

th a

c o

Sut m

ae

gwyd

doni

aeth

yn

gwei

thio

D

ylai

ym

geis

wyr

allu

: •

dada

nsod

di a

gw

erth

uso

gwyb

odae

th w

yddo

nol a

phr

oses

au

gwyd

dono

l •

cym

hwys

o gw

ybod

aeth

wyd

dono

l a p

hros

esau

gw

yddo

nol i

se

fyllf

aoed

d an

ghyf

arw

ydd

gan

gynn

wys

rhai

cys

yllti

edig

â m

ater

ion

o bw

ys

• as

esu

dily

srw

ydd,

dib

ynad

wye

dd a

hyg

rede

dd g

wyb

odae

th w

yddo

nol.

Sut m

ae g

wyd

doni

aeth

yn

gwei

thio

D

ylai

ym

geis

wyr

allu

: •

dang

os a

dis

grifi

o te

chne

gau

a ph

rose

sau

moe

sego

l, di

ogel

a

med

rus,

gan

dde

wis

dul

liau

anso

ddol

a m

eint

iol p

riodo

l •

gwne

ud, c

ofno

di a

chy

fleu

arsy

lwad

au a

mes

uria

dau

diby

nadw

y a

dily

s gy

da th

rach

ywire

dd a

man

wl

gyw

irdeb

prio

dol

• da

dans

oddi

, deh

ongl

i, eg

luro

a

gwer

thus

o m

etho

dole

g, c

anly

niad

au

ac e

ffaith

eu

gwei

thga

redd

au

arbr

ofol

ac

ymch

wili

ol e

u hu

nain

a

rhai

pob

l era

ill m

ewn

gwah

anol

ffy

rdd.

Dis

grifi

adau

pe

rffo

rmia

d ar

y ff

in A

/B

Yn

nodw

eddi

adol

, byd

d ym

geis

wyr

yn:

a)

da

ngos

gw

ybod

aeth

fanw

l am

y

rhan

fwya

f o’r

egw

yddo

rion,

y

cysy

niad

au a

’r ffe

ithia

u o’

r fan

yleb

U

2 b)

da

ngos

dea

lltw

riaet

h o’

r rha

n fw

yaf

o’r e

gwyd

dorio

n, y

cys

ynia

dau

a’r

ffeith

iau

o’r f

anyl

eb U

2 c)

de

wis

gw

ybod

aeth

ber

thna

sol o

’r fa

nyle

b U

2 ch

) tre

fnu

a ch

yfle

u gw

ybod

aeth

yn

glir

mew

n ffu

rfiau

prio

dol g

an

ddef

nydd

io te

rmau

gw

yddo

nol.

Yn

nodw

eddi

adol

, byd

d ym

geis

wyr

yn:

a)

cy

mhw

yso

egw

yddo

rion

a ch

ysyn

iada

u m

ewn

cyd-

dest

unau

cy

farw

ydd

a ne

wyd

d gy

da n

ifer o

gam

au y

n y

ddad

l b)

di

sgrif

io tu

eddi

adau

a p

hatry

mau

arw

yddo

caol

a d

dang

osir

gan

ddat

a a

gyflw

ynir

ar ff

urf t

abl n

eu g

raff

a de

hong

li ffe

nom

enau

heb

law

er o

w

alla

u a

chyf

leu

dadl

au a

gw

erth

usia

dau

yn g

lir a

c yn

rhes

ymeg

ol

c)

eglu

ro a

deh

ongl

i ffe

nom

enau

yn

effe

ithio

l, ga

n gy

fleu

dadl

au a

c gw

erth

usia

dau

ch

) gw

neud

cyf

rifia

dau

esty

nedi

g, h

eb fa

wr o

gyf

arw

yddy

d ne

u dd

im o

gw

bl, a

dan

gos

deal

ltwria

eth

dda

o’r p

erth

naso

edd

sylfa

enol

rhw

ng

mes

urau

ffis

egol

d)

de

wis

am

ryw

iaet

h ea

ng o

ffei

thia

u, e

gwyd

dorio

n a

chys

ynia

dau

o’r

man

yleb

au U

G a

c U

2 dd

) cy

syllt

u ffe

ithia

u, e

gwyd

dorio

n a

chys

ynia

dau

prio

dol o

wah

anol

fe

ysyd

d yn

y fa

nyle

b.

Yn

nodw

eddi

adol

, byd

d ym

geis

wyr

yn:

a)

dy

feis

io a

chy

nllu

nio

gwei

thga

redd

au

arbr

ofol

ac

ymch

wili

ol, g

an d

dew

is

tech

nega

u pr

iodo

l b)

da

ngos

tech

nega

u ym

arfe

rol d

ioge

l a

med

rus

c)

gwne

ud a

rsyl

wad

au a

mes

uria

dau

gyda

thra

chyw

iredd

prio

dol a

ch

ofno

di’r

rhai

n yn

dre

fnus

ch

) de

hong

li, e

glur

o, g

wer

thus

o a

chyf

leu

canl

ynia

dau

eu

gwei

thga

redd

au a

rbro

fol a

c ym

chw

iliol

eu

huna

in a

rhai

pob

l er

aill,

mew

n cy

d-de

stun

au p

riodo

l.

TAG

Uw

ch G

yfra

nnol

/Uw

ch F

fiseg

56

D

isgr

ifiad

au

perf

form

iad

ar y

ffin

E/U

Yn

nodw

eddi

adol

, byd

d ym

geis

wyr

yn:

a)

da

ngos

gw

ybod

aeth

am

rai

egw

yddo

rion

a ffe

ithia

u yn

y

fany

leb

U2

b)

da

ngos

dea

lltw

riaet

h o

rai

egw

yddo

rion

a ffe

ithia

u yn

y

fany

leb

U2

c)

dew

is p

eth

gwyb

odae

th b

erth

naso

l o’

r fan

yleb

U2

ch

) cy

fleu

gwyb

odae

th g

an d

defn

yddi

o te

rmau

syl

faen

ol o

’r fa

nyle

b U

2.

Yn

nodw

eddi

adol

, byd

d ym

geis

wyr

yn:

a)

cy

mhw

yso

egw

yddo

rion

neu

gysy

niad

au a

rodd

wyd

mew

n cy

d-de

stun

au c

yfar

wyd

d a

new

ydd

gyda

g yc

hydi

g o

gam

au y

n y

ddad

l b)

di

sgrif

io, g

an ro

i egl

urha

d cy

fyng

edig

, tue

ddia

dau

neu

batry

mau

a

ddan

gosi

r gan

dda

ta c

ymhl

eth

a gy

flwyn

wyd

ar f

furf

tabl

neu

gra

ff ga

n ro

i egl

urha

d cy

fyng

edig

oho

nynt

; c)

da

rpar

u es

boni

adau

a d

ehon

glia

dau

sylfa

enol

ar g

yfer

rhai

ffe

nom

enau

, gan

gyf

lwyn

o da

dleu

on a

gw

erth

usia

dau

cyfy

nged

ig ia

wn

ch)

gwne

ud c

yfrif

iada

u ar

fero

l, lle

rhod

dir c

yfar

wyd

dyd

d)

de

wis

rhai

ffei

thia

u, e

gwyd

dorio

n a

chys

ynia

dau

o’r m

anyl

ebau

UG

ac

U2

dd)

rhoi

rhai

ffei

thia

u, e

gwyd

dorio

n a

chys

ynia

dau

at e

i gily

dd o

wah

anol

fe

ysyd

d yn

y fa

nyle

b

Yn

nodw

eddi

adol

, byd

d ym

geis

wyr

yn:

a)

dy

feis

io a

chy

nllu

nio

rhai

agw

edda

u ar

wei

thga

redd

au a

rbro

fol a

c ym

chw

iliol

b)

da

ngos

tech

nega

u ym

arfe

rol d

ioge

l c)

gw

neud

ars

ylw

adau

a m

esur

iada

u a’

u co

fnod

i ch

) de

hong

li, e

glur

o a

chyf

leu

rhai

ag

wed

dau

ar g

anly

niad

au e

u gw

eith

gare

ddau

arb

rofo

l ac

ymch

wili

ol e

u hu

nain

a rh

ai p

obl

erai

ll, m

ewn

cyd-

dest

unau

prio

dol.

TAG Uwch Gyfrannol/Uwch Ffiseg 57

8 CANLLAWIAU ASESU MEWNOL

Lluniwyd y cynlluniau asesu mewnol i annog ymgeiswyr i ddatblygu amrywiaeth eang o dechnegau arbrofol a dulliau dadansoddol. Dylent gyflawni gwaith ymarferol ymhob agwedd ar y fanyleb, lle y gellir gwneud hyn mewn labordy ysgol/coleg. Dylid defnyddio ffynonellau eilaidd, megis efelychiadau a data cyhoeddedig hefyd i roi i ymgeiswyr brofiad o ddadansoddi data na allent eu cael eu hunain. Trwy brofiad o gyflawni gwaith ymarferol, dylent ddatblygu dealltwriaeth o’r ansicrwydd sy’n rhan annatod o fesuriadau uniongyrchol a’r mesurau yn deillio o’u mesuriadau. Nod y ddwy uned a asesir yn fewnol yw profi a all ymgeiswyr feddwl fel ffisegwyr mewn sefyllfa ymarferol. PH3 Ffiseg Ymarferol Mae’r uned theori PH1 yn cynnwys llawer o bosibiliadau ar gyfer gwaith ymarferol. Disgwylir arbrofion yn y meysydd canlynol:

Dwysedd, yng nghyd-destun solidau rheolaidd, momentau, mudiant yn cyflymu, egni potensial elastig, g.e.m. / gwahaniaeth potensial / gwrthiant mewnol, gwrthedd, nodweddion cerrynt-foltedd, osgiliadau.

Mae Uned PH2 yn cynnig llai o bosibiliadau ar gyfer gwaith ymarferol, er y disgwylir y canlynol:

Ymyriant a diffreithiant tonnau dŵr, microdonnau a golau, plygiant ac adlewyrchiad mewnol cyflawn golau. Mae arbrofion yn bosibl sy’n cyfuno cynnwys PH1 a PH2 fel sbectra deuod allyrru golau a nodweddion cerrynt-foltedd.

Gall y tasgau byr [adran A] a’r ymchwiliad [adran B] gynnwys gwaith ar ganfod ansicrwydd. Cyhoeddir nodiadau cyfarwyddo ar ddyfnder y driniaeth sydd ei hangen, ond yn fyr, disgwylir i ymgeiswyr: • amcangyfrif yr ansicrwydd mewn gwerth cymedrig a geir o set o ddarlleniadau; • amcangyfrif yr ansicrwydd wrth ganfod mesur oherwydd cyfyngiadau yn yr offer mesur

neu’r dechneg; • mynegi ansicrwydd naill ai mewn termau absoliwt neu dermau ffracsiynol/canrannol [y

trachywiredd]; • cyfuno ansicrwyddau mewn mesurau i gynhyrchu’r ansicrwydd mewn mesur a gyfrifir; • mynegi gwerth mesur ynghyd â’i ansicrwydd a’i uned, e.e. 35⋅6 ± 0⋅3 cm PH6 Ffiseg Arbrofol Mae’r unedau theori PH4 a PH5 yn cynnwys llawer o agweddau y gall ymgeiswyr ymchwilio iddynt yn uniongyrchol - osgiliadau a gwanychu, thermodynameg, meysydd trydan a chynwysyddion, meysydd magnetig ac anwythyddion, damcaniaeth c.e. sylfaenol, dadfeiliad niwclear. Mae angen mwy o allu dadansoddol ar gyfer llawer o’r meysydd ymchwiliol hyn na’r cynnwys ar lefel UG. Mae rhai rhannau o’r fanyleb U2 hefyd sy’n defnyddio ymchwiliadau na ellir eu cyflawni mewn labordy ysgol lle mae angen ymagwedd ddamcaniaethol yn bennaf neu sy’n dibynnu ar ddata o ffynonellau eilaidd - meysydd trydanol a disgyrchiant, orbitau, mater tywyll a phlanedau tu allan i gysawd yr haul ac egni clymu niwclear. Dylid defnyddio’r holl feysydd hyn fel ffynonellau deunydd ar gyfer gwaith ymchwiliol, naill ai trwy arbrofion uniongyrchol neu drwy ddadansoddi data sy’n deillio o waith arbrofol pobl eraill. Mae’r testunau hyn yn darparu toreth o ddata i ysgogi diddordeb ymgeiswyr a datblygu eu galluoedd dadansoddol.

TAG Uwch Gyfrannol/Uwch Ffiseg 58

Ceir dwy dasg yn uned PH6:

PH6A Tasg Dadansoddi Data PH6B Tasg Arbrofol

Mae’r dadansoddiad data yn PH6A yn gorfodi ymgeiswyr i ryngweithio â data a geir trwy arbrawf, a all fod mewn cyd-destun sy’n gyfarwydd i ymgeiswyr o’u profiad eu hunain yn y labordy neu efallai ddim. Daw’r data o gyd-destun sy’n gysylltiedig â’r fanyleb a hysbysir yr ymgeiswyr am brif nodweddion y modd y cafwyd y data. Mae’r dadansoddiad yn graffigol ac algebraidd fel rheol a bwriedir i’r dasg ymestyn a herio’r ymgeiswyr – efallai y disgwylir iddynt ddefnyddio graffiau log-log neu led-logarithmig, pwerau neu ffwythiannau trigonometrig fel y bo’n briodol. Mae’r Dasg Arbrofol yn PH6B yn rhoi i’r ymgeiswyr broblem ymarferol, y disgwylir iddynt ei datrys trwy gynllunio a chyflawni ymchwiliad. Wrth berfformio’r tasgau hyn, disgwylir i ymgeiswyr feddwl fel ffisegwyr. Efallai y daw’r dasg arbrofol a’r dasg dadansoddi data o gyd-destunau syml, ond bydd angen i ymgeiswyr ddangos ymwybyddiaeth aeddfed o ansicrwyddau a sut maent yn cyfuno, sy’n fwy datblygedig nag ar lefel UG - mae hyn yn cynnwys defnyddio ansicrwyddau sy’n deillio o waith graffigol a defnyddio ffwythiannau mathemategol uwch yn unol â’r gofynion mathemategol yn adran 4 yn y fanyleb hon.

Manyleb TAG Ffiseg - 2009-2010/ED 7 Ebrill 2008