‘ecofeirniadaeth i’r celtiaid’ [ecocriticism for the celts], llenyddiaeth mewn theori , 3...
TRANSCRIPT
Ecofeirniadaeth i’r Celtiaid
Mae’n ddyletswydd arna i, bron, mewn cyfnodolyn theori i
ddatgan nad yw natur yn bodoli./footnote {Seiliwyd yr ysgrif
hon ar ddarlith a draddodwyd yng nghynhadledd ‘Llenyddiaeth
mewn Theori’ Prifysgol Cymru, Llanbedr Pont Steffan, Mawrth
2008. Hoffwn ddiolch i Barry Lewis am ei sylwadau
gwerthfawr, a’i barodrwydd i ddarllen drafftiau cynharach
o’r gwaith.}Oherwydd mae’n rhaid i feirniaid llenyddol
cyfoes ochel rhan y camsyniad cyfeiriadol (referential
fallacy), sef y dyb fod testun - darn o lenyddiaeth – yn
cyfeirio at rywbeth y tu hwnt iddo, a bod y testun hwnnw i’w
bwyso a’i fesur yn ei berthynas â’r byd real yma. Ar ei
mwyaf eithafol, gall y berthynas rhwng y testun a’r byd fod
yn fimetig: dyma’r syniad o lenyddiaeth yn cynnig
adlewyrchiad o’r byd fel ag y mae, neu yn ei gopïo, fel y
gwna’r nofel Realaidd, dyweder. Ond camsyniad, yn ôl
beirniadaeth gyfoes, yw derbyn cyfeiriadolaeth
(referentiality) fel cynsail, a gwneir cam â llenyddiaeth
o’i thrin fel adlewyrchiad. Dylid meddwl am destun fel
creadigaeth yn hytrach na chopi, rhywbeth a adeiladwyd, neu
1
a luniwyd o iaith, sef trefniant o eiriau. Daw geiriau i’r
greadigaeth yn drwch o gynodiadau y maent wedi’u magu mewn
cyd-destunau cynharach, ac yn arbennig mewn darnau eraill o
lenyddiaeth. Gan nad yw’n bosib ysgrifennu gan ddefnyddio
geiriau newydd sbon yn unig, h.y. geiriau a fyddai’n bur o
unrhyw gysylltiadau a chynodiadau, nid oes modd i destun
osgoi cael perthynas â thestunau eraill. Roedd beirniadaeth
ail hanner yr ugeinfed ganrif felly yn pwysleisio
rhyngdestunoldeb, fel yr amlyga sylw dylanwadol Roland
Barthes mai ‘gwe o ddyfyniadau’ (‘un tissu de citations’)
ydyw testun llenyddol;\footnote {Roland Barthes, \emph {Le
Bruissement de la langue: essais critiques IV} (Paris:\
Seuil, 1984), t. 67. Ef yw awdur y traethawd enwog
‘Marwolaeth yr Awdur’ (‘La Mort de l’auteur’), a
atgynhyrchir yn yr un llyfr, 61--7.}yn ystod yr un cyfnod
pwysleisiwyd ‘testunoldeb’ hefyd, fel y gwelir yng ngosodiad
herfeiddiol Derrida nad oes yna ‘ddim byd y tu allan i’r
testun’ (‘il n’y a pas de hors texte’).\footnote {Jacques
Derrida, ‘Ce dangereux supplément’, yn \emph{De la
grammatologie} (Paris: Minuit, 1967).}
2
Os ydyn ni wedi treulio ein gwersi theori yn iawn gallwn
weld mai ymateb – efallai gorymateb – yw’r pwyslais hwn i’r
hen syniad fod llenyddiaeth yn dweud y gwir am y byd, a bod
llenyddiaeth yn rhywbeth y gellir ei hesbonio drwy edrych ar
ei chefndir yn nhermau yr hil, y dosbarth, a’r foment (‘la
race, la classe et le moment’), i ddilyn fformiwla enwog
Hippolyte Taine (1828-93), y beirniad-hanesydd
positifistaidd o Ffrainc.\footnote {Hippolyte Taine, \
emph{Histoire de la littérature anglaise}, cyf. 1 (Paris:
1863). Am ddisgrifiad cryno iawn o syniadau Taine yng nghyd-
destun trafodaeth ar natur a hanes theori lenyddol, gweler
Ann Jefferson a David Robey (goln), \emph{Modern Literary
Theory: A Comparative Introduction}, ail argraffiad
(London:\ Batsford, 1989), t. 9.}Ond mynna ecofeirniadaeth
fod beirniadaeth lenyddol yn ystyried unwaith yn rhagor yr
hyn sydd y tu allan i’r testun. Nid yw serch hynny am droi’r
cloc deallusol yn ôl, ac yn sicr nid yw’n apelio at y
‘synnwyr cyffredin’ sy’n dadlau mai rwtsh yw pob theori; yn
hytrach gellir meddwl am ecofeirniadaeth fel beirniadaeth
3
ôl-theoretig. Trwyddi mae modd ail-agor y drws i’r byd go
iawn, a hynny heb fod yn wrth-theoretig. Ychydig iawn o
ddarllenwyr \emph{Llenyddiaeth Mewn Theori} a fyddai am wadu
mai trwy gyfrwng iaith y byddwn yn amgyffred y byd, a llai
fyth ohonynt a fyddai’n gwadu ein bod yn wynebu argyfwng
amgylcheddol. Dadl ecofeirniadaeth yw ei bod hi nawr yn
amser ymwrthod â’r syniad nad yw natur yn ddim amgen
creadigaeth ieithyddol neu ddisgwrs, oherwydd iddi ddod yn
bryd inni, fel beirniaid llenyddol ac athrawon, ddefnyddio’n
dealltwriaeth o’r ffyrdd y mae testunau yn creu ‘natur’ ac
yn effeithio ar ein triniaeth o fyd natur. Fy mwriad yn yr
erthygl hon yw trafod perthnasedd ecofeirniadaeth i
Astudiaethau Celtaidd, gan gynnig crynodeb o hanes
ecofeirniadaeth, ei tharddiad (neu’n wir ei tharddiadau) a’i
datblygiad, cyn troi at y Celtiaid a byd natur.
Mae gwreiddiau ecofeirniadaeth yn Lloegr Newydd y bedwaredd
ganrif ar bymtheg, ac yn mynd â ni yn ôl at ddechreuadau
llenyddiaeth Americanaidd. Yno yn yr 1840au datblygodd
traddodiad llenyddol a oedd, am y tro cyntaf yn hanes
4
America, yn annibynol ar ffasiynau Ewrop. Roedd gwaith y
‘trosgynolwyr’ yn dathlu mawredd y natur o’u cwmpas. Yn 1836
cyhoeddodd Ralph Waldo Emerson (1803-1882) yn ddienw
draethawd yn dwyn y teitl ‘Nature’, a oedd yn crynhoi
syniadau’r grwp. Gwyntyllid y syniadau yma ymhellach yng
nghyfnodolyn y trosgynolwyr, \emph{The Dial}, o dan
olygyddiaeth Margaret Fuller (1810-1850). A lluniodd Henry
David Thoreau (1817-1862), yr enwocaf ohonynt efallai,
glasur llenyddol am ei brofiad personol o gilio i fyd natur.
Roedd Thoreau wedi adeiladu caban ar lan llyn Walden, ger
Concord, Massachusetts, yn 1845, ac wedi mynd i fyw yno am
ryw ddwy flynedd, gan fwyta’r hyn a dyfai’n wyllt o gwmpas y
caban, pysgod o’r llyn, a’r llysiau a’r ffa a dyfai.
Treuliai ei amser yn astudio athroniaeth a llenyddiaeth, yn
naturiaetha, ac yn llunio cofnod o’r bywyd naturiol o’i
gwmpas, gan ysgrifennu am y profiad yn \emhp{Walden or Life
in the Woods} (1854).
Ystyrir llyfr y gwyddonydd Rachel Carson, \emph{Silent
Spring} (1962), yn ddechreubwynt ein hymwybyddiaeth fodern o
5
ecoleg. Roedd Carson eisoes yn awdur nifer o lyfrau am
ecoleg y môr, ond mae’r enwocaf o’i gweithiau yn fwy
cyffredinol ac yn fwy herfeiddiol; yn \emph{Silent Spring},
llyfr gwyddonol sy’n chwarae â chyweiriau llenyddol, mae’r
gwanwyn yn fud oherwydd i’r adar gael eu difa gan
blaladdwyr. Tyfodd pryder ynghylch effaith ddinistriol bywyd
modern ar yr amgylchedd naturiol yn ystod y 1970au, ac er
i’r ymwybyddiaeth yma dreiddio i waith ysgolheigion yn y
dyniaethau, ar y pryd doedd yna ddim canolbwynt i’r maes
ymchwil. Yn y 1970au dim ond unigolion heb fod o
angenrheidrwydd yn ymwybodol o waith ei gilydd oedd yn
gweithio ar yr amgylchedd o fewn i’r celfyddydau. Ond erbyn
diwedd yr 1980au, roedd y sefyllfa wedi newid, a chrëwyd
swydd ym Mhrifysgol Nevada, Reno yn 1990 â’r teitl
‘Llenyddiaeth a’r Amgylchedd’.
Yn ystod y cyfnod allweddol hwn daeth y tensiwn rhwng
‘natur’ a theori lenyddol i’r wyneb mewn dadl rhwng
hanesyddiaeth newydd ac ‘ecofeirniadaeth’, ym maes
astudiaethau Rhamantaidd Prydeinig, ac yng nghyd-destun
6
Wordsworth yn arbennig. Wrth drafod gwaith y bardd, honnodd
Alan Liu nad oedd natur yn bodoli, heblaw meddai: ‘as it is
constituted by acts of political definition made possible by
particular forms of government’.\footnote{Alan Liu, \
emph{Wordsworth: The Sense of History} (Stanford:\ Stanford
UP, 1989), t. 104.} Daeth ymateb chwyrn o du Jonathan Bate.
Iddo ef roedd ‘natur’ yn derm yr oedd angen ei herio ond nid
ei wrthod, a dadleua:
\begin{quote}It is profoundly unhelpful to say ‘\emph{There is no} nature’ at a time when our most urgent need is to address and redress the consequences of human civilization’sinsatiable desire to consume the products of the earth. Whenthere have been a few more accidents at nuclear power stations, when there are no more rainforests, and when everywilderness has been ravaged for its mineral resources, then let us say ‘\emph{There is no nature}’.\footnote{Jonathan Bate, \emph{Romantic Ecology: Wordsworth and the Environmental Tradition} (London:\ Routledge, 1991), t. 56.}\end{quote}Dyma begynnu’r ddadl felly, a beirniedir Bate am iddo
orsymleiddio safbwynt Liu, ond erbyn hyn roedd y rhod ar
droi o fewn Astudiaethau Rhamantaidd o leiaf, oherwydd roedd
digon o ysgolheigion yn cytuno ei bod hi’n rhy beryglus inni
siarad fel y gwnaeth Liu, ac roeddent am i feirniadaeth
lenyddol ddeffro i’w chyfrifoldeb am ddyfodol y blaned.
7
Mynegwyd y rhwystredigaeth a deimlai’r ysgolheigion
ymrwymedig hyn gan Kate Soper yn ei llyfr \emph{What is
Nature?}, ble yr ebycha nad iaith sydd â thwll yn ei haen
osôn, a bod yr haen osôn go iawn yn dal i gael ei lygru a’i
ddiraddio tra ein bod wrthi’n perffeithio ein dadleuon ôl-
strwythurol ar lefel yr arwyddwr.\footnote{‘In short, it is
not language that has a hole in its ozone layer; and the
“real” thing continues to be polluted and degraded even as
we refine our deconstructive insights at the level of the
signifier’, Kate Soper, \emph{What is Nature?: Culture,
Politics and the Non-human} (Oxford:\ Blackwell, 1995), t.
151.}
Erbyn y 1990au cryfhawyd y cysylltiad rhwng ysgolheigion
‘gwyrdd’ a’i gilydd gyda sefydlu ASLE yn yr Unol Daleithiau
yn 1992. Bwriad yr Association for the Study of Literature
and Environment yw ‘hybu cyfnewid syniadau a gwybodaeth am
lenyddiaeth sy’n ymwneud â’r berthynas rhwng pobl a’r byd
naturiol’.\footnote{Dyfynnir yn Cheryll Glotfelty a Harold
Fromm (goln), \emph{The Ecocriticism Reader: Landmarks in
8
Literary Ecology} (1996), p. xviii.} Flwyddyn yn
ddiweddarach (1993), sefydlwyd y cyfnodolyn \emph{ISLE:
Interdisciplinary Studies in Literature and Environment} gan
Patrick Murphy, i roi llwyfan i ‘astudiaethau beirniadol o
lenyddiaeth a’r celfyddydau sy’n deillio o neu’n delio ag
ystyriaethau amgylcheddol’, ac yna mabwysiadwyd \emph{ISLE}
yn swyddogol fel llais ASLE yn 1996. Hefyd yn 1996
cyhoeddwyd \emph{The Ecocriticism Reader: Landmarks in
Literary Ecology}, o dan olygyddiaeth Cheryll Glotfelty a
Harold Fromm, a dyna boblogeiddio’r term ‘ecocriticism’,
term yr oedd Glotfelty wedi ei awgrymu gyntaf yn 1989 i
ddisgrifio ffordd gyfoes o edrych ar ‘ysgrifennu natur’, ac
a fathwyd, yn ôl pob tebyg, mewn traethawd gan William
Rueckert, ‘Literature and Ecology: An Experiment in
Ecocriticism’ (1978), a atgynhyrchir yn y casgliad hwn.
Gan i’r llyfr, a Glotfelty ei hun, fod mor hynod ddylanwadol
(roedd hi hefyd yn gyd-sylfaenydd ac yn gyd-lywydd ASLE),
nid drwg o beth fydd crynhoi dadleuon ei rhagymadrodd yma,
fel ffordd o gyflwyno’r maes. Yn ei thraethawd rhagarweiniol
9
– ‘Literary studies in an age of envirionmental crisis’ –
mae Glotfelty’n agor trwy gyferbynnu’r pynciau llosg mewn
beirniaidaeth lenyddol ddiwedd yr ugeinfed ganrif – hil,
dosbarth a rhywedd (gender) – a theitlau newyddiadurol o’r
union un cyfnod: strimyn olew, gwastraff gwenwynig, plwm,
asbestos, diflaniad rhywogaethau cyfan ar raddfa nas gwelwyd
o’r blaen, brwydro dros dir, protestio yn erbyn gwastraff
niwclear, y twll yn yr haen osôn, rhybuddion am gynhesu byd-
eang, glaw asid, dirywiad haen uchaf y pridd, dinistrio’r
fforestydd glaw trofannol, boicotio tiwna, Chernobyl, newyn,
sychder, llifogydd, corwyntoedd. Ochr yn ochr â hyn, meddai
hi, gallech ddarllen am ‘hil, dosbarth a rhywedd’ fel pe na
bai’r ddaear yn bod. Roedd astudiaethau llenyddol, yn ôl
Glotfelty, ar ei hôl hi, ac os oedd y broses o ‘wyrddio’
eisoes wedi dechrau mewn hanes, athroniaeth, y gyfraith,
cymdeithaseg, a diwynyddiaeth yn y 70au, yn awr roedd
rheidrwydd ar adrannau llenyddiaeth i ymateb i’r argyfwng yn
yr amgylchedd.
10
Cynigia Glotfelty restr o gwestiynau y gellir eu codi wrth
ddadansoddi testun o safbwynt ecofeirniadol: sut caiff natur
ei phortreadu yn y soned hon? Beth yw rôl y lleoliad ym
mhlot y nofel hon? Ydy’n trosiadau o’r ddaear a’r tirlun yn
effeithio ar y ffordd y byddwn yn eu trin? A ddylid meddwl
am ysgrifennu natur fel \emph{genre}? A fydd dynion yn
ysgrifennu yn wahanol i ferched am natur? Beth fu effaith
llythrennedd ar berthynas y ddynol ryw a’r byd naturiol?
Beth fu’r esblygiad yn ein cysyniad o diroedd gwylltion
(‘wilderness’ – gair problematig i’w gyfieithu). Sut ac i ba
raddau mae’r argyfwng amgylcheddol yn ymdreiddio i
lenyddiaeth gyfoes a diwylliant poblogaidd? Pa agwedd tuag
at natur a amlygir yn adroddiadau’r llywodraeth, neu ym myd
hysbysebu, neu mewn rhaglenni dogfen ar y teledu? Pa
gyfraniad allai gwyddor ‘ecoleg’ ei wneud i astudiaethau
llenyddol? Pa mor agored yw gwyddoniaeth ei hun i
ddadansoddiad llenyddol? Faint o groes-ffrwythloni sy’n
bosib rhwng astudiaethau llenyddol a disgwrs amgylcheddol o
fewn i ddisgyblaethau eraill megis hanes, athroniaeth,
seicoleg, hanes celf, moeseg? (Glotfelty, 1996, xix).
11
 Glotfelty ymhellach drwy ofyn a ydy hi’n foesol inni fel
athrawon llenyddiaeth a diwylliant, a beirniaid llenyddol,
barhau i weithio fel o’r blaen, gan anwybyddu’r argyfwng
(Glotfelty, 1996, xxi). Rhaid ymrwymo, meddai (xxi) am mai’r
union ddiwylliant y byddwn yn ei ddehongli wrth ddarllen ac
astudio llenyddiaeth sy’n gyfrifol am yr argyfwng. Os mai
is-gynnyrch i’r diwylliant hwn yw argyfwng yr amgylchedd
naturiol, yna rhaid wrth ddealltwriaeth drylwyr o’r systemau
moesegol sydd yn sail i’r diwylliant, yn ogystal â
gwybodaeth ecolegol, er mwyn ymateb iddo. Nid dadlau y mae y
gall adrannau llenyddiaeth ein prifysgolion newid y
sefyllfa, ond y gallant, yn wir ei bod yn ddyletswydd
arnynt, astudio sut mae iaith a llenyddiaeth yn cyfleu inni
werthoedd sydd â chanlyniadau ecolegol. Wrth gloi ei
thraethawd defnyddia Glotfelty ddadansoddiad Elaine
Showalter o ddatblygiad beirniadaeth ffeministaidd fel model
o’r datblygiad yr hoffai i ecofeirniadaeth ei ddilyn. Y cam
cyntaf yw astudio sut caiff natur ei phortreadu mewn
llenyddiaeth ganonaidd. Wedyn rhaid ailddarganfod y \
12
emph{genre} o ysgrifennu am natur, a sefydlu is-ganon os
mynner (ac wedi gwneud hynny, gellir astudio’r testunau a
glustnodwyd o unrhyw safbwynt beirniadol). A’r trydydd cam
yw’r un theoretig, lle codir cwestiynau sylfaenol am barau
pegynnol o gysyniadau megis natur/diwylliant.
Erbyn heddiw mae ecofeirniadaeth yn digwydd ledled y byd.
Mae i ASLE ganghennau mewn sawl man, gan gynnwys Prydain, ac
yn ddiweddar sefydlwyd yr ‘European Association for the
Study of Literature, Culture and Environment’. Cyhoeddwyd
casgliad o draethodau ym Mhrydain sy’n cyfateb i un
Glotfelty a Fromm gan Laurence Coupe, \emph{The Green
Studies Reader: From Romanticism to Ecocriticism} (London:\
Routledge, 2000). Mae datblygiad ecofeirniadaeth ym Mhrydain
yn wahanol i’r hyn a fu yn America, oherwydd iddi ddeillio o
waith ar farddoniaeth y Rhamantwyr Saesneg, a bod ganddi, o
ganlyniad, darddiad a rhagflaenwyr gwahanol.\footnote{Gweler
Kevin Hutchings, ‘Ecocriticism in British Romantic Studies’,
\emph{Literature Compass}, 4:1 (2007), 172--202 am arolwg
cyfleus o’r maes.} Roedd Jonathan Bate yn allweddol yn
13
ffurfio ymateb i’r syniad a dyfodd yn sgîl dylanwad
Marcsiaeth ac yna hanesyddiaeth newydd bod natur yn ddyfais
wleidyddol at ddefnydd yr uchelwyr. Gwelwyd y farn hon yn
llyfr dylanwadol Raymond Williams \emph{The Country and the
City} (1973), sy’n trafod sut roedd llenyddiaeth fugeiliol
(‘pastoral’) yn llawn gwleidyddiaeth ac ideoleg. Dyw hi ddim
yn hawdd anghofio i \emph{Arcadia} Sidney gael ei ysgrifennu
mewn parc a gafodd ei greu trwy amgylchynu pentref cyfan a
dadfeddiannu’r tenantiaid, meddai Williams (t. 33). Mae
llenyddiaeth sy’n dewis portreadu harddwch ar draul y
gwirionedd yn anonest, ac yn y modd yma mae llenyddiaeth
fugeiliol yn amlygu peryglon y camsyniad cyfeiriadol yn well
na’r un. Yn ei ddadansoddiad o ystyr ‘cefn gwlad’ (‘the
country’), neu ‘natur’ yn llenyddiaeth Saesneg mae’n
cyflwyno ffigwr yr ‘escalator’ i esbonio’r ffordd y mae
llenyddiaeth am y wlad bob amser yn llawn hiraeth am ryw
‘ffordd wledig o fyw’ sydd ‘newydd’ ddiflannu. Dangosodd
Raymond Williams sut roedd hiraeth am orffennol, neu ddyhead
am ddianc o’r presennol, wedi bod yn rhan annatod o’r syniad
o gefn gwlad (‘country’) ar hyd y traddodiad lleynyddol
14
Saesneg. Felly trwy hoelio sylw ar thema natur, amlygodd
gymhlethdod y gair ‘natur’ – gall olygu rhyw gyflwr a
fodolai yn y gorffenol, neu fan y dihangwn iddo rhag y
presennol, y trefi mawrion, a’r byd modern – a dangosodd fod
yna fwy na ‘mimesis’ yn digwydd. Crybwyllir enw Raymond
Williams yn fynych wrth drafod rhagflaenwyr ecofeirniadaeth
ym Mhrydain,\footnote{Cyfeirir hefyd yn aml at y ddiffiniad
chwe-tudalen o’r gair ‘nature’ yn ei gyfrol \emph{Keywords:
A Vocabulary of Culture and Society} (London:\ Fontana,
1976).} ond mewn gwirionedd sbardun oedd ei waith, gan mai
ymateb yn erbyn y syniadau yn \emph{The Country and the
City} a wnâi Bate ac eraill.
Dyfynna Jonathan Bate gondemniad Raymond Williams o \
emph{Arcadia} Sidney, wrth iddo esbonio sut mae beirniaid
mwy diweddar fel Alan Liu, John Barrell, David Simpson, a
Roger Sales wedi condemnio Wordsworth a’r criw am eu rhan yn
y ‘Great Pastoral Con Trick’ (Bate 1991, 18). Bwriad Bate yw
clirio enw Wordsworth,‘An “ideology” based on a harmonious
relationship with nature goes beyond, in many ways goes
15
deeper than, the political model we have become used to
thinking with’ (Bate 1991, 19--20). Targed arall yr
ecofeirniaid arloesol oedd ôl-strwythuraeth, ac meddai Terry
Gifford: ‘The problem with the deconstructionists of the
“cultural studies” school is that their purely intellectual
awareness of “nature” seems to prevent them from
communicating a direct experience of nature from any
perspective whatever’.\footnote{Terry Gifford, ‘The Social
Construction of Nature’, \emph{ISLE}, 3:2 (1996),
atgynhyrchwyd yn Laurence Coupe, \emph{The Green Studies
Reader: From Romanticism to Ecocriticism} (London:\
Routledge, 2000), 173--76.}Erbyn heddiw mae ecofeirniaid ar
y cyfan yn dadlau dros gyfaddawdu oherwydd nad yw cydnabod
bod natur hefyd yn bodoli fel problem yn y byd go-iawn ddim
yn ein rhwystro rhag ei dadansoddi fel disgwrs ar yr un
pryd. Er ein bod oll yn cytuno mai dim ond trwy iaith y
byddwn yn gallu dehongli’r byd, rhaid ymwrthod â’r syniad
nad yw natur yn ddim amgenach na ‘dyfais’, neu greadigeath.
Cyfaddawdu yw cyngor Greg Garrard yn \emph{Ecocriticism}
(2004): ‘cadw un llygad ar y modd y mae “natur” bob amser
16
wedi cael ei chreu i ryw raddau yn ddiwylliannol, a’r llall
ar y ffaith bod natur yn bodoli, fel gwrthrych a hefyd, boed
hynny o bell, fel tarddiad ein disgwrs’.\footnote{Greg
Garrard, \emph{Ecocriticism} (London:\ Routledge, 2004), t.
10. Gellir olrhain yr agwedd i waith un o arloeswyr y maes,
Lawrence Buell, yn \emph{The Environmental Imagination:
Thoreau, Nature Writing, and the Formation of American
Culture} (Cambridge, MA: Harvard University Press, 1995).}
Yn hytrach na gweld ecofeirniadaeth fel rhywbeth gwrth-
theoretig, felly, gellir meddwl amdani fel pennod newydd yn
hanes theori.
Gellid mynd ati’n syth i greu darlleniadau ecofeirniadol o
destunal Cymraeg, neu Gymreig, neu o’r gwledydd Celtaidd
eraill, gan fenthyg y fframwaith. Ond mwy buddiol a llawer
mwy diddorol na thrawsblannu o’r fath fyddai gosod seiliau
Celtaidd cadarn i ecofeirniadaeth i’r Celtiaid, oherwydd nid
yr un yw’r cysyniad o ‘natur’ na chynodiadau’r gair ym mhob
diwylliant. Tyfodd ecofeirniadaeth yr Unol Daleithiau ac un
Prydain allan o ddau draddodiad llenyddol a dau dirlun
17
gwahanol. I Americanwyr y bedwaredd ganrif ar bymtheg roedd
y syniad o diroedd gwylltion (‘wilderness’) yn ganolog i’w
dealltwriaeth o natur, tra yng Ngorllewin Ewrop roedd natur
‘wyllt’, ‘bur’, wedi hen ddiflannu fel canlyniad i
ganrifoedd o ymyrraeth ddynol (gan fwyaf fel canlyniad i
amaethu, ond hefyd rhyfela a diwydiant). Roedd y dadleuon
dros greu Yellowstone, parc cenedlaethol cynta’r byd yn
1872, yn perthyn yn arbennig i dirlun a syniadaeth America,
oherwydd y pwyslais ar ‘wilderness’. Yn sicr erbyn ail
hanner yr ugeinfed ganrif, pryd y sefydlwyd parciau
cenedlaethol cyntaf Prydain (Peak District 1951) a Ffrainc
(Vanoise 1969), doedd dim mannau gwirioneddol ‘wyllt’ ar ôl
i’w hamddiffyn. Er nad oedd yna natur bur yn y gwledydd
Celtaidd erbyn hynny chwaith, erys y ffaith fod eu tirlun
a’u tirwedd yn wahanol i America, a hefyd yn wahanol i eiddo
eu cymdogion Seisnig neu Ffrengig. A’r gwahaniaeth yma sy’n
creu’r angen am ecofeirniadaeth wahanol, oherwydd mae hefyd
yn gyfrifol, yn y bôn, am y dyb fod gan y Celt berthynas
arbennig â natur.
18
Yng ngwaith haneswyr yr oesoedd canol mae dechreubwynt y
stori hon, un sy’n cyrraedd ei hanterth yn y bedwaredd
ganrif ar bymtheg pan gaiff y cynodiadau negyddol eu
cyfnewid am rai positif. Mewn arolwg o gyfeiriadau at Lydaw
cyn Chwyldro Ffrengig 1789 mae Ronan Le Coadic yn olrhain y
traddodiad i’r nawfed ganrif gan ddyfynnu Ermold Le Noir, un
sy’n honni bod Llydawyr yn ‘semblables à des bêtes sauvages’
(yn debyg i anifeiliaid gwyllt).\footnote{\emph{L’Identité
bretonne} (Rennes:\ Terre de Brume, 1998), t.118.} Yn y
ddeuddegfed ganrif, meddai Chrétien de Troyes: ‘Gallois sont
tuit par nature, Plus fol que bestes en pasture’ [‘Mae’r
Cymry oll yn fwy twp nag anifiliaid y maes’].\footnote{\
emph{Le Conte du Graal}, gol. W. Roach, ail argraffiad
(Genève, 1959), llinellau 243--44. Dyfynnir yn John
Gillingham, \emph{The English in the Twelfth Century}
(Woodbridge: The Boydell Press, 2000), t. 27. Rwy’n
ddiolchgar i Barry Lewis am dynnu fy sylw at waith
Gillingham ac eraill yn yr adran hon} Meddai awdur anhysbys
y \emph{Gesta Stephani} ddiwedd y 1140au bod Cymru yn ‘land
abounding in deer, fish, milk and herds’, gwlad wedi’i
19
phoblogi gan ‘men of animal type’, a ‘barbara gens’.\
footnote{Dyfynnir yn Gillingham, \emph{The English}, t. 27.}
Mae haneswyr yn gytûn mai syniad a grisialwyd yn ystod y
ddeuddegfed ganrif oedd hwn, ac erbyn ei diwedd roedd
disgrifiadau o’r ardaloedd Celtaidd fel rhai cyntefig o
wledig, di-amaethyddiaeth, di-fasnach, barbaraidd, wedi dod
yn ystrydebol. Wrth gloriannu cyfraniad William of
Malmesbury pwysleisia John Gillingham ei newydd-deb o’i
gymharu a’i ragflaenwyr uniongyrchol. Dywed fel hyn amdano:
‘This language is not in his sources’.\footnote{t. 27.
Gweler t. 26 am ei ddadl yn llawn nad oedd y syniad yma’n
bod cyn y ddeuddegfed ganrif.} Ceir crynodeb cyfleus a
nodweddiadol graff o’r ffactorau sy’n gyfrifol am y newid
hwn gan Rees Davies yn \emph{The First English Empire}.
Esbonia mai dyma pryd y dechreuodd Lloegr ar gyfnod
ehangiadol yn ei hanes, ac felly daeth i ymwneud mwy â’r
bobloedd ar y cyrion, gan ddechrau gyda’r Cymry; dyma hefyd
y cyfnod pryd yr aeth haneswyr megis William of Malmesbury a
Henry of Huntingdon ati i ddiffinio hanfod a hynt yr hyn y
gellid ei alw’n Seisnigrwydd gwleidyddol a chymdeithasol.
20
Gellir meddwl am y gwaith ‘diffinio’ fel ymateb Lloegr
uchelgeisiol i ddarganfod yr ‘arall’, a’r sioc o ddod ar
draws tirlun gwahanol, a ffordd wahanol o fyw. Roedd y
gwahaniaethau daearyddol yn rhai go-iawn; meddai Gillingham:
‘Put very roughly, the Celtic regions in the twelfth century
looked rather like eighth-cetury England’.\
footnote{Gillingham, \emph{The English}, t. 12.} Ond yn bwysicach
efallai roedd syniadau’r oes am gynnydd. Mae golwg Gerallt
Gymro yn eu hamlygu’n dda; yn ôl ei ddealltwriaeth ef roedd
yn rhaid i ddyn ddatblygu o fyw yn y goedwig i’r cae i’r
dref, ac felly iddo ef, doedd y Gwyddelod a’r Cymry yn syml
iawn heb ddatblygu o gwbl o’u harferion cyntefig: ‘they are
a wild people, living like beasts, who have not progressed
at all from the primitive habits of pastoral farming’.\
footnote{\emph:{The History and Topography of Ireland},
dyfynnir yn Gillingham, \emph{The English}, t. 13.} Oherwydd
ymdeimlad y Saeson o’u huwchraddoldeb, ni fu cymhathiad (fel
y bu yn achos y berthynas rhwng Eingl-Normaniaid a Saeson),
ac felly ymledodd y bwlch, meddylid am y Celtiaid fel
‘arall’, a chwiliwyd am ffyrdd o bwysleisio hyn.
21
Felly roedd yna \emph{wir} wahaniaeth yn y modd roedd yr
ardaloedd Celtaidd yn ymddangos. Oherwydd mai gwledigrwydd
oedd y gwahaniaeth mwyaf rhwng y Saeson a’r cymdogion y
daethant ar eu traws ar yr adeg ehangiadol yma yn eu hanes,
dyna a ddaeth yn ffon fesur ddiwylliannol. Roedd y Celtiaid
yma yn llai trefol na’r gormeswr diwyllianol, ac roedd yn
siwtio’r gormeswr i bwysleisio hyn.\footnote{‘the colonized
were less urbanized than the colonisers, and it was in the
interests of the colonizers to stress this’, ‘The Invention
of Celtic Nature Poetry’, t. 104. Noda Sims-Williams roedd
yna rai cynodiadau positif yn y Canol Oesoedd, ond
pwysleisia bod y rhain bob amser yn cyfleu arwahanrwydd.}
Arweiniodd y ffocws ar y gwahaniaeth at or-ddefnydd o’r
syniad, fel y dangosodd gwaith Robert Bartlett ar Gerallt
Gymro.\footnote{Robert Bartlett, \emph{Gerald of Wales: A
Voice of the Middle Ages} (Stroud:\ Tempus, 2006), argr.
cyntaf 1982, t. 134.} Atgyfnerthwyd y syniad gan yr ystrydeb
glasurol am y barbaraidd. Awgryma Gillingham mai William of
Malmesbury fu’n gyfrifol am addasu’r cysyniad clasurol o
22
‘farbariaid’ ar gyfer y Celtiaid, diolch i’w ddysgeidiaeth
glasurol, yn ogystal â dod â golwg ymerodraethol o Geltiaid
i mewn i hanes am y tro cyntaf.\footnote{‘By the twelfth
century this development meant that they had grown
sufficiently far apart for the differences between them to
be visible to contemporaries. The author who first gave
clear expression to this perception of “otherness” and who
did so in terms of the classical contrast between
civilization and barbarism was Williams of Malmesbury’, t.
18. Gweler hefyd tt. 9, 10.} Wrth reswm, ni all fod yn llwyr
gyfrifol; dim ond oherwydd ei fod yn cydfynd â’r \
emph{Zeitgeist} y daeth ei farn yn norm.
Beth bynnag, goroesodd yr ystrydeb, a dengys astudiaeth
Keith Thomas o agwedd y Saeson tuag at fyd natur mor iach
oedd yr agwedd hon yn yr unfed a’r ail ganrif ar bymtheg:
‘[The English] despised the Irish, the Welsh and the Scots
because many of them ate and slept under the same roof as
their cattle’.\footnote{Keith Thomas, \emph{Man and the
Natural World: Changing Attitudes in England 1500-1800}
23
(London:\ Penguin, 1984), argr. cyntaf 1983, t. 94.} Yn y
bedwaredd ganrif ar bymtheg, mae sylwadau Prosper Mérimée, a
anfonywd i Lydaw ar ran llywodraeth Ffrainc i gasglu
manylion am henebion, yn nodweddiadol: ‘On voit dans les
villages les enfants et les cochons se roulant pêle-mêle sur
le fumier…Mais les bêtes ont plus d’esprit que les Bretons’
(‘yn y pentrefi gwelir plant a moch yn blith draphlith ar y
domen... Ond mae’r anifeiliaid yn fwy deallus na’r
Llydawiaid’).\footnote{Prosper Mérimée, llythr at Jaubert de
Passa, 8 Hydref 1835, \emph{Correspondance générale}, gol.
Maurice Parturier, 14 cyf. (Paris:\ Plon, 1934), VI, 463--
64.}Roedd syniadau Mérimée, serch hynny, yn prysur ddyddio,
oherwydd yn sgîl y Chwyldro Ffrengig newidiodd agweddau tuag
at y naturiol yn syfrdanol. Ddiwedd y ddeunawfed ganrif
digwyddodd chwyldro mewn agweddau at natur, ac hefyd at
bopeth a ystyrid yn naturiol. Dechreuodd \emph{philosophes}
ysgrifennu am natur mewn modd newydd; dyma ddisgrifiad Denis
Diderot, un o gyd-olygyddion yr \emph{Encyclopédie}, o
effaith natur ar unigolyn sensitif:
24
\begin{quote}Le lendemain, je me rendis au pied de la colline. L’endroit était solitaire et sauvage. On avait en perspective quelques hameaux répandus dans la plaine; au delà, une chaîne de montagnes inégales et déchirées qui terminaient en partie l’horizon. On était à l’ombre des chênes, et l’on entendait le bruit sourd d’une eau souterraine qui coulait aux environs. […] Dorval s’était abandonné au spectacle de la nature. Il avait la poitrine élevée. Il respirait avec force.\end{quote}
\begin{quote}[Drannoeth, es i droed y bryn. Roedd y lle’n unig ac yn wyllt. Roedd modd gweld ambell bentrefi bach ar ygwastadoedd; a thu hwnt roedd cadwyn o fynyddoedd anwastad agarw yn ffurfio rhan o’r gorwel. Yno yng nghysgod derw, lle clywid swˆn dwˆr tanddaearol yn rhedeg […] roedd Dorval wediymgolli yn ysblander natur. Codai ei frest. Anadlai’n ddwfn.]\footnote{\emph{Œuvres esthétiques}, gol. Paul Vernière (Paris: Garnier Frères, 1968), t. 96.}\end{quote}
Anogodd Rousseau ei ddarllenwyr i ymwrthod â’r trefi mawrion
ac i ffoi i’r wlad yn ei nofel hynod lwyddianus \emph{La
Nouvelle Héloïse} (1761); ‘fuyez les villes’ [‘ffowch o’r
trefi’] meddai yn ei ragymadrodd, ac yng nghorff y nofel
cyferbynnir Paris â chymuned wledig ddelfrydol Clarens yn y
Swisdir. Ond ei ysgrifau ar gerdded mynyddoedd tra’n
llysieua yn y \emph{Rêveries du promeneur solitaire}
[‘Myfyfyrion y cerddwr unig’] (1782) sydd bwysicaf yn hanes
llenyddiaeth Ramantaidd, oherwydd maent yn ffrwyth perthynas
newydd rhwng y ffurf lenyddol, y broses greadigol o
25
ysgrifennu, a’r amgylchedd naturiol. Yn yr enwocaf o’r
ysgrifau, mae’r ‘cerddwr unig’, sydd wedi cilio i ynys Saint
Pierre ar lyn Bienne, yn cymryd cam newydd yn hanes
llenyddiaeth trwy ganmol glannau’r llyn am fod yn ‘sauvages
et romantiques’ ar yr un pryd.\footnote{Jean-Jacques
Rousseau, 5ed ‘Promenade’, \emph{Les Rêveries du promeneur
solitaire}, gol. S. de Sacy (Paris:\ Gallimard, 1972), t.
93. Cyhoeddwyd y ‘promenades’ wedi ei farwolaeth yn 1782.}
Y tu allan i hanes llenyddiaeth cysylltir Rousseau yn bennaf
efallai ag un o gysyniadau mwyaf allweddol Rhamantiaeth, sef
y \emph{bon sauvage}, neu’r dyn cyntefig-wyllt ond
rhinweddol.\footnote{Mewn gwirionedd ni ddefnyddiwyd y par
‘bon sauvage’ gan Rousseau ei hun, ond mae’n deg dweud bod y
cysylltiad rhyngddo ef a’r cysyniad pwysig hwn yn dyddio o’i
gyfnod ei hun. Am drafodaeth lawnach o’r mater, gweler
Heather Williams, ‘Writing to Paris: poets, nobles and
savages in nineteenth-century Brittany’, \emph{French
Studies} 57:4 (2003), 475--90.} Dengys y cysyniad hwn y
cysylltiad rhwng y newid agwedd tuag at natur a’r newid
26
agwedd tuag ag ‘y bobl’ sydd y tu ôl i’r Chwyldro Ffrengig.
O dan ddylanwad Herder, daeth pobl ar draws Ewrop i gredu
fod caneuon gwerin yn cynnig hanes cenedlaethol mwy
gwerthfawr a gwir na’r hen naratif am ddilyniant o bennau
coronog. Yn Ffrainc tyfodd poblogrwydd Llydaw, oherwydd
roedd bri newydd ar y Galiaid, a ystyrid yn gyndeidiau’r
bobl (yn hytrach na’r uchelwyr, a ystyrid yn ddisgynyddion y
\emph{Franks}), a chredid mai’r Llydawiaid oedd Galiaid olaf
Ffrainc.\footnote{Am drafodaeth lawnach, gweler Heather
Williams, ‘Ar drywydd Celtigrwydd: Auguste Brizeux’, \emph{Y
Traethodydd} CLXI (2006), 34--50.} Sefydlwyd yr ‘Académie
celtique’ o dan Napoléon yn 1805 i ymchwilio i draddodiadau
cyndeidiadu Celtaidd y \emph{République} newydd. Yn gefndir
i hyn mae’r ffaith i syniadaeth yr oes ynghylch barddoniaeth
gael ei chwyldroi; meddylid mai teimladau amrwd yng nghri y
dyn cyntefig oedd ei gwir tharddiad, yn hytrach nag awydd
dyn modern i greu copi o’r byd. Sonia Jacques Cambry, un o
gyd-sylfaenwyr yr Académie celtique, ac awdur llyfr taith
dylanwadol am Orllewin Llydaw, am y cysylltiad rhwng y ‘dyn
naturiol’ a barddoniaeth:
27
\begin{quote}La poésie naquit avant la prose; elle estl’expression ardente des émotions de terreur, d’étonnement,d’admiration ou d’amour, que l’homme de la nature éprouveavec un sentiment plus vif que l’homme civilisé.\end{quote}
\begin{quote}[Mae barddoniaeth yn hyn na rhyddiaith, hi sy’ncyfleu yn danbaid y teimladau o ofn, o syndod, o edmygedd, neu o gariad, y mae’r dyn naturiol yn eu teimlo’n ddwysach na’r dyn gwaraidd].\footnote{Jacques Cambry, \emph{Voyage dans le Finistère, nouvelle édition}, gol. M le Chevalier deFréminville (Brest:\ Lefournier, 1836), argr. cyntaf 1798.}\end{quote}
Hawdd deall felly sut y cydiodd casgliad dwyieithog
Llydaweg/Ffrangeg La Villemarqué o faledi’r werin, y \
emph{Barzaz Breiz}, yn nychymyg yr oes. Ystyrid y Llydawiaid
yn lleisiau dilys am eu bod yn Geltiaid, ac yn byw yn agos
at natur. Dyma fyrdwn traethawd enwog Ernest Renan o 1854,
‘La Poésie des races celtiques’. Er mai Llydawr oedd Renan,
rhaid cofio ei fod yn llais canonaidd yn Ffrainc, yn ddigon
tebyg i un Matthew Arnold, a draethodd ar ‘The Study of
Celtic Poetry’ yn Rhydychen. Mawr fu dylanwad Renan as
Arnold, a meddylir amdanynt fel dechreuadau Astudiaethau
Celtiadd. Disgrifiodd Malcolm Chapman waith Arnold, oedd yn
ddyledus i eiddo Renan, fel ‘arguably the most influential
piece ever written in the field of Celtic studies’.\
28
footnote{\emph{The Celts: The Construction of a Myth}
(London: Macmillan, 1992), t. 215.}
Mae thema natur yn flaenllaw yn nhraethawd Renan. Mae’n
honni nad oes un pobl wedi bod mor agos at fodau is na’r
Celtiaid: ‘Aucune race ne conversa aussi intimement que la
race celtique avec les êtres inférieures, et ne leur accorda
une aussi large part de vie morale’, a bod ganddynt
berthynas bur ac uniongyrchol â’r byd naturol yn
gyffredinol: ‘Chez les Kymris, au contraire, le principe de
la \emph{merveille} est dans la nature elle-même, dans ses
forces cachées, dans son inépuisable fécondité’ [‘Yn achos y
Celtiaid, ar y llaw arall, mae’r \emph{rhyfeddod} yn natur
ei hun, yn ei grymoedd cudd, yn ei ffrwythlondeb di-
derfyn’].\footnote{‘La Poésie des races celtiques’, yn \
emph{Essais de morale et de critique} (Paris:\ Calmann-Lévy,
1928), 375--456 (tt. 415, 402).} Â ati i geisio profi hyn
trwy drafod \emph{Culhwch ac Olwen}, gan bwysleisio’r rhan
am yr ‘Anifeiliaidd Hynaf’, a honni iddo’i ddewis ar hap
(‘Je choisis au hasard un de ces récits’).\footnote{Renan,
29
‘La Poésie’, t. 398.} Mewn dadansoddiad o’r traethawd, mae
Patrick Sims-Williams yn bwrw amheuaeth ar rethreg Renan, ac
yn dadlau iddo ddewis gorbwysleisio pwysigrwydd anifeiliaid:
‘this exaggerated account is far from impartial’ meddai.\
footnote{Sims-Williams, ‘The Invention of Celtic nature
poetry’, t. 112. Gwerth nodi i Arnold hefyd honni ei fod yn
cymryd ‘almost at random, a passage from such a tale as \
emph{Kilhwch and Olwen}’, ‘On the Study of Celtic
Literature’, \emph{The Complete Prose Works of Matthew
Arnold: Lectures and Essays in Criticism}, gol. R. H. Super
(Ann Arbor:\ The University of Michigan Press, 1962), t.
319.} Gwnaeth Hersart de La Villemarqué rywbeth go debyg
wrth gam-gyfieithu darn o’r \emph{Cad Goddeu} o’r Gymraeg
i’r Ffrangeg.
\begin{verse}Derw buanawr:\\Racdaw crynei Nef a llawr.\\Glesyn glew drussyawr,\\Y enw ym peullawr.\footnote{Marged Haycock (gol.), \emph{Legendary Poems From the Book of Taliesin} (Aberystwyth, CMCS, 2007), t. 180, ll. 126-29.}\end{verse}
Gan hepgor llinellau cyfan mae La Villemarqué yn creu’r
gosodiad: ‘Derw...enw ym’, yna’n rhoi iddo orgraff Lydewig:
30
‘Derou… henou i’m’, cyn cyfieithu i’r Ffrangeg fel ‘Chêne
est mon nom’, h.y. ‘derw yw fy enw’. Trwy ddewis tri gair
bron ar hap o’r testun, mae’n llwyddo i roi’r argraff fod
Taliesin yn dweud mai derw yw ei enw, er mwyn gorbwysleisio
agosatrwydd y Celtiaid at natur.\footnote{Dyfynnir yn Mary-
Ann Constantine, \emph{The Truth Against the World}
(Cardiff:\ University of Wales Press, 2007). Disgrifia hi
broses La Villemarqué fel hyn: ‘In effect, the three words
have been taken almost at random, and, with scant regard for
grammar (and indeed, in the case of \emph{ym} meaning),
turned into a gnomic statement’, t. 177.}
Mae’r pwyslais yn fwy na phroblem lenyddol, oherwydd roedd
gorbwysleisio agosatrwydd at natur yn rhan o ddisgwrs
drefedigaethol. Yn achos Arnold, ochr yn ochr a’r ‘magical
charm of nature’, a’r ‘fairy-like loveliness of Celtic
nature’ (t. 374) ceir y farn ganlynol: ‘I must say I quite
share the opinion of my brother Saxons as to the practical
inconvenience of perpetuating the speaking of Welsh’ (t.
31
296). Mae Patrick Sims-Williams yn cloi ei drafodaeth
feistrolgar o broblemau’r thema natur a’r label ‘Celtic
nature poetry’ trwy ddyfynu John Ruskin: ‘The intense love
of nature is, in modern times, characteristic of persons not
of the first order of intellect’.\footnote{Ruskin, \
emph{Modern Painters}; dyfynnir yn Sims-Williams, ‘Nature’.}
Yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg roedd eu hagosatrwydd at
natur yn rheswm dros gondemnio’r union Lydawyr yr oedd Renan
yn canu eu clodydd. Yn wrthbwynt i’r disgrifiadau hyfryd a
phositif o natur ac o agosatrwydd y bobl ati a geir yng
ngwaith Chateaubriand a Brizeux, ac a fwydodd i mewn i
ddelweddiaeth Renan, ceir tua 1830 disgrifiadau Balzac o
filwyr anifeilaidd:
\begin{quote}Les mèches plates de leurs longs cheveuxs’unissaient si habituellement aux poils de la peau dechèvre et cachaient si complètement leurs visages baissésvers la terre, qu’on pouvait facilement prendre cette peaupour la leur, et confondre, à la première vue, cesmalheureux avec les animaux dont les dépouilles leurservaient de vêtement.\end{quote}
\begin{quote}[Roedd cudynnau o’u gwallt hir yn asio mornaturiol â blew’r crwyn gafr, ac yn cuddio’u gwynebau, aedrychai tua’r llawr, mor dda, nes y gellid camgymryd ycrwyn gafr am eu crwyn hwythau, a chamgymryd y trueniaid euhunain, ar yr olwg gyntaf, am yr anifeiliaid y defnyddid eu
32
crwyn fel dillad]\footnote{\emph{Les Chouans}, gol. PierreGascar (Paris:\ Gallimard, 1972), t. 22.}\end{quote}
Daw’r agwedd drefedigaethol i’r amlwg pan mae Balzac yn
cymharu un o’r Llydawiaid â brodorion America:
\begin{quote}Il faisait croire à une absence si complète detoute intelligence, que les officiers le comparèrent tour àtour, dans cette situation, à un des animaux qui broutaientles gras pâturages de la vallée, aux sauvages de l’Amériqueou à quelque naturel du cap de Bonne-Espérance.\end{quote}
\begin{quote}[Ymddangosai mor hollol wag o ddealltwriaeth,fel i’r swyddogion ei gymharu â’r anifeiliaid a oedd ynpori’r dyffryndir bras, â dynion cyntefig/gwyllt America, agâ brodor o’r cap de Bonne-Espérance, yn eu tro].\end{quote}
Os na ddefnyddiodd y nofelydd y gair ‘colonial’, doedd ar
Auguste Romieu mo’i ofn. Wrth drafod gwrthryfel y ‘chouans’
mewn erthygl i’r wasg ym Mharis ym 1831, mae Auguste Romieu,
oedd yn sous-préfet yn Quimperlé, Finistère, yn defnyddio’r
gair ‘colonial’:
\begin{quote}La Basse-Bretagne, je ne cesserai de le dire,est une contrée à part, qui n’est plus la France. Exceptez-en les villes, le reste devrait être soumis à une sorte de \emph{régime colonial}. Je n’avance rien d’éxagéré (fymhwyslais i).\end{quote}
\begin{quote}[O fynd i Lydaw Isel, dydw i ddim am dewi,rydych chi’n mynd i wlad ar wahan, ac yn ymadael â Ffrainc.Ag eithrio’r trefi, dylai gweddill Llydaw Isel gael ei gosodo dan \emph{system drefedigaethol} o ryw fath. Dydw i ddimyn gorddweud o gwbl].\footnote{Erthygl ar y ‘Chouans’, yr
33
olaf mewn cyfres o bedwar, gan Auguste Romieu, yn \emph{Revue de Paris}, 30 (1831), 145--54 (153).}\end{quote}
Ac mewn man arall, wrth drafod y ffordd orau o foderneiddio
Llydaw, mae’n awgrymu bod angen trin Llydawyr fel ceffylau
sydd angen eu dofi.\footnote{Mae’n dadlau dros greu ‘pour
l’amélioration morale de la race humaine quelques-unes de
ces primes que nous réservons aux chevaux’, Romieu, \
emph{Revue de Paris}, t. 154.}
Mae’n syndod felly nad oedd y feirniadaeth ôl-drefedigaethol
a ddaeth yn boblogaidd yn yr 1990au yn fodlon rhoi sylw i’r
Celtiaid, ac i olygyddion y llyfr safonol ac awdurdodol \
emph{The Empire Writes Back}, ddweud am wledydd Celtaidd
Prydain:
\begin{quote}While it is possible to argue that thesesocieties were the first victims of English expansion, theirsubsequent complicity in the British imperial enterprisemakes it difficult for colonized peoples outside Britain toaccept their identity as post-colonial.\footnote{\emph{TheEmpire Writes Back: Theory and Practice in Post-colonialLiteratures}, gol. Bill Ashcroft, Gareth Griffiths, a HelenTiffin (London: Routledge, 1989), t. 33.}\end{quote}
34
Dim ond lleiafrif fyddai’n cytuno â’r farn hon erbyn heddiw.
Ers hynny dadleuodd Robert Crawford yn \emph{Devolving
English Literature} fod parhad neu hyd sefyllfa wleidyddol
o’r fath yn creu sefyllfa lenyddol arbennig o ddiddorol, a
bod yr Alban yn cynnig:
\begin{quote}the longest continuing example of a substantialbody of literature produced by a culture pressurized by thethreat of English cultural domination.\footnote{RobertCrawford, \emph{Devolving English Literature} (Oxford:\Clarendon Press, 1992), t. 8.}\end{quote}
Yn hyn o beth roedd y gwledydd Celtaidd yn ychwanegiad
hollbwysig i bortffolio y beirniad ôl-drefedigaethol.
Iwerddon oedd y cyntaf ohonynt i addasu beirniadaeth ôl-
drefedigaethol i’w diwylliant, ac roedd y maes yn enfawr
erbyn diwedd y 1990au. Erbyn hyn mae tipyn o waith o’r fath
ar Gymru, fel Kirsti Bohata’s \emph{Postcolonialism
Revisited},\footnote{(Cardiff:\ University of Wales Press,
2004).} \emph{Postcolonial Wales}, gol. Jane Aaron a Chris
Williams,\footnote{(Cardiff:\ University of Wales Press,
2005).} i’w hychwanegu at waith arloesol Wynn Thomas yn
cymhwyso cysyniadau craidd beirniadaeth ôl-drefedigaethol i
ddwy lenyddiaeth Cymru yn ei \emph{Corresponding Cultures:
35
The Two Literatures of Wales}.\footnote{M Wynn Thomas, \
emph{Corresponding Cultures: The Two Literatures of Wales}
(Cardiff:\ University of Wales Press, 1999).} Does fawr iawn
o waith o’r math hwn wedi ei wneud yn achos Llydaw, er fod
gwaith Pascal Rannou ac eraill o Brifysgol Rennes, yn
eithriad.\footnote{Gweler fy \emph{Postcolonial Brittany:
Literature Between Languages} am fanylion pellach.} Mae’r
thema natur yn rhoi lle cadarnach fyth i’r diwylliannu
Celtaidd o fewn beirniadaeth ôl-drefedigaethol, oherwydd ar
hyn o bryd mae gwaith cyffrous yn digwydd ar y ffin rhwng
ecofeirniadaeth ac ôl-drefedigaethedd.
Mae natur yn chwarae rôl hollol wahanol mewn llenyddiaeth a
hunaniaeth diwylliant a ormeswyd, ac roedd \emph{Gwalarn}
wedi deall hyn ymhell cyn ymddangosiad ecofeirniadaeth.
Bwriad y grwp yma o lenorion Llydaweg o’r 1920au ymlaen oedd
creu llenyddiaeth fodern a fyddai’n edrych y tu hwnt i Lydaw
a Ffrainc o ran themâu. Y cyfrwng, yr iaith, oedd yn gwneud
eu gwaith yn Llydewig, ac nid y cynnwys. Ymwrthododd y
36
llenorion hyn â’r ystrydebau a etifeddwyd o’r bedwaredd
ganrif ar bymtheg – ymlyniad wrth y meirwon, moroedd
tymhestlog, a’r syniad mwyaf niweidiol a nawddoglyd ohonynt
i gyd efallai, o agosatrwydd y werin at fyd natur. Bu ymateb
chwyrn wedyn tuag at ddelweddaeth natur yng ngwaith beirdd
‘chwyldroadol’ neu ‘ddad-wladychol’ y 1970au. Cyhoeddid eu
cerddi protest yn aml yn ddwyieithog, a’u prif ddadl oedd
bod rhaid gosod y gormes a ddioddefodd Llydaw gan
wladwriaeth Ffrainc ochr yn ochr â dioddefaint pobl o
Algeria, neu wledydd eraill a ormeswyd gan Ffrainc. Mae
natur yn thema amlwg iawn yn eu barddoniaeth, ond lle roedd
natur y cyfnod Rhamantaidd yn ffrwythlon a hardd, mae eu
tirlun hwy yn greithiog ac yn bydredig, wrth i’r
ddelweddiaeth gael ei gwyrdroi. Felly tra roedd y werin bobl
yn y cyfnod Rhamantaidd yn ymdoddi i’w tirlun, yma maent
wedi’u halltudio i ffatrioedd mawrion Rennes, Brest neu
Baris.\footnote{Gweler Dewi Morris Jones a Mikael Madeg,
(goln), \emph{Du a Gwyn/Gwenn ha du: Cerddi Cyfoes o Lydaw}
(Talybont:\ Y Lolfa, 1982) am flodeugerdd gyfleus o
gyfieithiadau i’r Gymraeg.} Nid yn erbyn natur ei hun mae
37
Gwalarn na’r beirdd dadwladychol, wrth gwrs, ond yn erbyn y
modd y defnyddiwyd delweddau o natur i fychanu’r Llydawyr.
Mewn gwaith ysgolheigaidd ar lenyddiaethau’r gwledydd
Celtaidd, ar y llaw arall, derbyniodd syniadau Renan ac
Arnold ailymgorfforiad yng ngwaith Kuno Meyer, a
ysgrifennodd am ‘Celtic nature poetry’ yn 1911, er na
chyfeiria Meyer at yr un o’r ddau.\footnote{Yn hytrach mae’n
cydnabod erthygl gan Lewis Jones ar ‘The Celt and the Poetry
of Nature’, \emph{Transactions of the Hon. Society of
Cymmrodorion}, 1892--93, t. 46 ff. Mae Patrick Sims-Williams
yn olrhain yr hanes yn llawn yn ‘The Invention of Celtic
Nature poetry’.} Mewn cyferbyniad â’i gategorïau eraill, sef
‘religious’ a ‘love-songs’, dywed Meyer am ganu natur:
\begin{quote}In Nature poetry the Gaelic muse may vie with that of any other nation. Indeed, these poems occupy a unique position in the literature of the world. To seek out and watch and love Nature, in its tiniest phenomena as in its grandest, was given to no people so fully as to the Celt.\footnote{\emph{Selections from Ancient Irish Poetry} (1911), xii.}\end{quote}
Dechreuodd Kenneth Jackson chwalu’r mythau yn \emph{Studies
in Early Celtic Nature Poetry} (1935), a daeth â pherspectif
38
i’r cwestiwn o ‘Geltigrwydd’ canu natur. Mae ei brif ddadl
gydag E. Sieper, a honnodd: ‘nirgends, ausser der Dichtung
der Kelten finden wie eine Dichtkunst die sich mit der Natur
nur um ihrer selbst willen beschäftigt’ [‘Chawn ni ddim hyd
i fardoniaeth sy’n delio â natur er ei mwyn hi’i hun yn
unrhywle heblaw ym marddoniaeth y Celtiaid’.\footnote{E.
Sieper, \emph{Die Altenglische Elegie}, t. 65, dyfynnir yn
Kenneth Jackson, \emph{Studies in Early Celtic Nature
Poetry} (Cambridge:\ Cambridge University Press), t. 79.}
Mae’n pwyntio allan fod canu gwirebol am natur yn fwy
cyffredin mewn Eingl-Sacsoneg nag yn Gymraeg, ond mae hefyd
yn ceisio rhoi tolc yn yr hen ystrydeb gan ddatgan: ‘Our
early Celtic nature poetry is the work of literary artists,
not the crude chant of primitive man’ (t. 82). Yn ôl
Jackson, ‘[the label] has tended to obscure the fact that
the poems are actually very diverse in character’, a hefyd
‘much is obviously not what we should call real nature
poetry at all’ (vii). Mae Malcolm Chapman yn defnyddio
gwaith Jackson fel sail i’w drafodaeth o thema ‘natur’ yn ei
waith dad-adeiladol yn \emph{The Celts}:
39
\begin{quote}These genres of poetry are commonly interpretedas a channel through which nature, with its abundant chaos, flows into the Celtic imagintion and into Celtic society. Itis clear, however, that they are no such thing. The are, indeed, evidence of the contrary – of a sustained attempt toforce order upon the natural world.\footnote{Malcolm Champan, \emph{The Celts: The Construction of a Myth} (London:\ Macmillan, 1992), t. 228. Ond gweler hefyd ar waith Chapman Ellis Evans, \emph{Studia Celtica}, 28 (1994),184 f., hefyd Ellis Evans, \emph{Zeitschrift fur Celtische Philologie}, 49--50 (1997).}\end{quote}
Y gwaith mwyaf perthnasol ar gyfer ecofeirniadaeth i’r
Celtiaid, oherwydd ei fod i bob pwrpas yn ddarn o
ecofeirniadaeth ond heb ddefnyddio’r termau, yw erthygl o
eiddo Patrick Sims-Williams: ‘The Invention of Celtic Nature
Poetry’. Ei fwriad yw olrhain y term ‘Celtic nature poetry’
er mwyn ei gwestiynu. Ai label fodern yw’r categori yma? Os
felly pam? Beth yw ei darddiad? Oherwydd pwysigrwydd natur
yn nechreuadau’r ddisbyblaeth, mae’r gwaith yma ar ‘Celtic
nature poetry’ yn fodd o ‘ddad-strwythuro’ Astudiaethau
Celtaidd, fel y dywed Sims-Williams yn agored yn y
rhagarweiniad i’w erthygl. ‘Poisoned chalice’ yw delweddau o
natur yn ôl Sims-Williams (t. 124), ac mae’r mythau a dyfodd
40
yn y cyfnod ôl-Ramantaidd mor wael bob tamaid â’r rhai o’r
ddeuddegfed ganrif.
Yn fwy diweddar ceir hefyd erthygl ecofeirniadol yn \
emph{Theori Mewn Llenyddiaeth}, gan Dylan Foster-Evans, sy’n
cynnwys crynodeb o’r maes ynghyd â gwaith arloesol ar
Ddafydd ap Gwilym. Ceir cefndir defnyddiol i’r thema yn ‘Y
Byd Naturiol yn Nhridegau’r Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg:
Cymru ac Ewrop’, gan Glyn Tegai Hughes,\footnote{\
emph{Efrydiau Athronyddol}, 56 (1993), 30--47.} a hefyd
waith pwysig ar farddoniaeth y canoloesoedd gan Barry
Lewis.\footnote{Barry, J. Lewis, ‘Llafurfaith a waith a
weinyddaf’: Dulliau'r Gogynfeirdd o Agor Cerdd’, \emph{Llên
Cymru}, 28 (2005), 1--25 (tt. 17--23 yn trafod agoriadau
tymhorol); ‘Golwg y Beirdd Canoloesol ar Harddwch Natur’, \
emph{Dwned}, 11 (2005), 35--63; ‘Genre a Dieithrwch yn y
Cynfeirdd: Achos “Claf Abercuawg” ’, \emph{Llenyddiaeth mewn
Theori}, 2 (2007), 1-33; \emph{‘Gwaith Natur a Edmygaf’:
Afonydd, Llynnoedd a Ffynhonnau yn Llenyddiaeth Cymru yn yr
Oesoedd Canol}, Darlith Goffa Syr Thomas Parry-Williams 2007
41
(Aberystwyth, 2008); ‘Bardd Natur yn Darllen Bardd y Ddinas?
Dafydd ap Gwilym, “Y Don ar Afon Dyfi” ac Ofydd, \
emph{Amores} iii.6’, \emph{Llên Cymru} 31 (2008).} Daw’r
llyfr cyntaf yn y maes i ganolbwyntio ar Gymru o’r wasg cyn
diwedd 2008, gan Matthew Jarvis, \emph{Welsh Environments in
Contemporary Poetry},\footnote{(Cardiff:\ University of Wales
Press, 2008).} sy’n darllen llenyddiaeth Saesneg Cymru yn yr
ungeinfed ganrif yng ngolau ecofeirniadaeth.
Felly mae yma eisoes seiliau deallusol i ecofeirniadaeth
gynhenid i’r Celtiaid. Er mwyn symud gam ymhellach bydd
rhaid gweithio ar ffurfio canon, neu wrth-ganon. Gwnaeth
ysgolheigion ‘Celtic Nature poetry’ hyn eisoes i ryw raddau,
ond mae lle i gwestiynu eu canon hwy, ac mae angen dod â’r
cwbl i’r presennol. Byddai blodeugerdd o destunau sy’n
enghreifftiau allweddol o berthynas Cymry ( a rhywbeth
cyfatebol ar y Celtiaid eraill) a’u natur, ar hyd yr oesoedd
yn gaffaeliad: rhai testunau’n dangos ymrwymiad i achos yr
amgylchedd, ac eraill, yn syml iawn, yn dangos mwynhad o fyd
natur. Rwy’n arfer y gair ‘testun’ oherwydd mor bwysig yw hi
42
i gynnwys llyfrau taith, dyddiaduron, llythyron, ac nid
‘llenyddiaeth’ yn unig. Wedi astudio’r canon, a’i gwestiynu
ar hyd y ffordd, gellir cymhwyso ecofeirniadaeth at bob math
o destun, hyd yn oed rhai lle nad ydyw natur yn ymddangos yn
thema amlwg o gwbl. Oherwydd gall unrhyw destun amlygu
rhywbeth o agweddau’r cyfnod tuag at natur. Yn yr ystyr yma
mae ecofeirniadaeth yn ‘ffordd o ddarllen’ sydd cystal ag
unrhyw un arall. Os ydyw’n lleihaol, nid yw’n fwy felly nag
unrhyw safbwynt arall.
Mae’n ffordd o ddarllen sy’n derbyn bod llenyddiaeth yn
adlewyrchu ond hefyd yn ffurfio ein hagwedd tuag at y natur
sydd o’n cwmpas. Mae’n mynnu ein hatgoffa nad yw
llenyddiaeth yn rhywbeth sy’n sglefrio uwchben y byd go-iawn
mewn gwagle estheteg, ond yn hytrach mae’n chwarae rhan mewn
system fydol gymhleth. Fel y dadleuodd Glotfelty, mae theori
lenyddol, ar y cyfan, yn archwilio’r berthynas rhwng
llenorion, testunau a’r byd, ac fel arfer ystyr ‘y byd’ yw
‘cymdeithas’, neu’r sffêr gymdeithasol. Mae ecofeirniadaeth
yn ehangu’r cysyniad yma i gynnwys yr ecosffer i gyd. Mae hi
43
wedi gwneud cymwynas â ni oherwydd trwy fod yn ‘wrth-theori’
mae wedi codi’r cwestiwn: beth yw theori?
Mae llawer o ecofeirniaid, ac ASLE fel mudiad, yn pwysleisio
pwysigrwydd trosglwyddo gwybodaeth (knowledge transfer). Mae
dysgu ecofeirniadaeth yn ffordd o feithrin cysylltiadau
rhwng myfyrwyr a’r gymuned. Mae prosiect ymchwil ar y gweill
ym Mhrifysgol Bath Spa i weld faint o effaith y mae dilyn
cwrs gradd yn ei gael ar ymwybyddiaeth myfyrwyr o
broblemau’r amgylchedd. Mae dysgu ecofeirniadaeth hefyd yn
caniatáu i’r dyniaethau wneud cyfraniad i ecoleg. Mae’r
cysyniad ‘natur’ yn rhywbeth a bennir yn ddiwylliannol, gan
ddiwylliant arbennig, ac felly bydd gan arbenigwyr ar
ddiwylliant gyfraniad i’w wneud. Byddai rhai’n dadlau fod
hyn yn rhy wleidyddol. Ond onid yw pob dehongliad yn
wleidyddol? Mae modiwl llenyddol sy’n honni cynrychioli
cyfnod arbennig sy’n cynnwys testunnau gan ferched yn unig
yn wleidyddol; yr yr un modd, byddai modiwl heb leisiau
merched yr un mor wleidyddol. Beth bynnag, byddai eraill yn
44
dadlau fod yr argyfwng sy’n wynebu’r amgylchfyd yn rhy
bwysig, fel nad oes ots am y ‘pregethu’.
Mae ecofeirniadaeth yn arbennig o berthnasol i’r Celtiaid,
oherwydd mae’n ffordd newydd o astudio’r modd y dylanwadwyd
ar y Celtiaid gan eu gormeswyr. Fel fframwaith dylai fod yn
llai problematig nag ôl-drefedigaethedd. Mae gan
Astudiaethau Celtaidd hefyd gyfraniad i’w wneud i
ecofeirniadaeth. Fel y crybwyllais, mae natur yn chwarae rôl
hollol wahanol mewn llenyddiaeth a hunaniaeth diwylliant a
ormeswyd; a hyd yn hyn mae ôl-drefedigaethedd wedi bod ar
goll o ecofeirniadaeth, oherwydd ei bod yn ffenomenon Eingl-
Americanaidd. Felly gall astudiaethau ecofeirniadol o
lenyddiaethau’r Celtiaid wneud cyfraniad amserol iawn i’r
maes, gan amlygu’r rhai bylchau, yn ogystal â chyfoethogi’n
dealltwriaeth o lenyddiaeth, a’n hatgoffa na ddylid cymryd
‘natur’ yn ganiataol.
45