cymwys am oes - llyw.cymru · cwricwlwm i gymru cwricwlwm am oes 4 ein cynllun er mwyn sicrhau holl...

30
CYMWYS AM OES Cwricwlwm i Gymru – cwricwlwm am oes Hydref 2015

Upload: others

Post on 14-Aug-2020

2 views

Category:

Documents


0 download

TRANSCRIPT

Page 1: CYMWYS AM OES - LLYW.CYMRU · Cwricwlwm i Gymru cwricwlwm am oes 4 Ein cynllun Er mwyn sicrhau holl fanteision Dyfodol Llwyddiannus i’n plant a phobl ifanc, yn ogystal ag Addysgu

CYMWYS AM OES

Cwricwlwm i Gymru – cwricwlwm am oes

Hydref 2015

Page 2: CYMWYS AM OES - LLYW.CYMRU · Cwricwlwm i Gymru cwricwlwm am oes 4 Ein cynllun Er mwyn sicrhau holl fanteision Dyfodol Llwyddiannus i’n plant a phobl ifanc, yn ogystal ag Addysgu

© Hawlfraint y Goron 2015 WG26203 ISBN digidol 978 1 4734 4925 1 ISBN argraffu 978 1 4734 4926 8

Cynulleidfa Yr holl weithlu addysg, partneriaid cenedlaethol a’r llywodraeth, gan gynnwys awdurdodau lleol a’u consortia rhanbarthol, undebau’r gweithlu, awdurdodau esgobaethol, cyrff llywodraethu ac Estyn.

Trosolwg Mae’r ddogfen hon yn nodi’r cynllun ar gyfer gweithredu argymhellion Dyfodol Llwyddiannus: Adolygiad Annibynnol o’r Cwricwlwm a’r Trefniadau Asesu yng Nghymru.

Camau i’w Dim – er gwybodaeth yn unig. cymryd

Rhagor o Dylid cyfeirio unrhyw ymholiadau ynghylch y ddogfen hon i’r: wybodaeth Grwp Addysg a Gwasanaethau Cyhoeddus Llywodraeth Cymru Parc Cathays Caerdydd CF10 3NQ e-bost: [email protected]

Copïau Gallwch weld y ddogfen hon ar wefan Llywodraeth Cymru yn: ychwanegol llyw.cymru/cwricwlwmigymru

Dogfennau Cymwys am oes (Llywodraeth Cymru, 2014); Dyfodol Llwyddiannus: cysylltiedig Adolygiad Annibynnol o’r Cwricwlwm a’r Trefniadau Asesu yng Nghymru (Yr Athro Graham Donaldson CB, 2015); Addysgu Athrawon Yfory (Yr Athro John Furlong, 2015)

Llywodraeth Cymru yn gweithio mewn partneriaeth â Cymdeithas Cyfarwyddwyr Addysg Cymru, Colegau Cymru, Cyngor y Gweithlu Addysg, Estyn,

Cymwysterau Cymru, Prifysgolion Cymru Canolbarth y De, EAS, ERW, GwE

Cwricwlwm i Gymru – cwricwlwm am oes

ColegauCymruCollegesWales

Page 3: CYMWYS AM OES - LLYW.CYMRU · Cwricwlwm i Gymru cwricwlwm am oes 4 Ein cynllun Er mwyn sicrhau holl fanteision Dyfodol Llwyddiannus i’n plant a phobl ifanc, yn ogystal ag Addysgu

Cwricwlwm i Gymru – cwricwlwm am oes

1

CynnwysRhagair y Gweinidog 2

Rhagair – yr Athro Donaldson 3

Ein cynllun 4

Bloc adeiladu 1 – ymgorffori’r pedwar diben 8

Bloc adeiladu 2 – creu cwricwlwm newydd 10

Bloc adeiladu 3 – ymestyn a hyrwyddo profiadau dysgwyr 13

Bloc adeiladu 4 – datblygu ein cyfrifoldebau trawsgwricwlaidd 16

Bloc adeiladu 5 – galluogi’r Gymraeg i ffynnu 18

Bloc adeiladu 6 – datblygu fframwaith asesu a gwerthuso newydd 19

Bloc adeiladu 7 – meithrin gallu’r holl ymarferwyr ac arweinwyr 21

Bloc adeiladu 8 – sefydlu system atebolrwydd cadarn ac adeiladol 23

Galluogi newid 25

Atodiad – Cwricwlwm i Gymru – cwricwlwm am oes: amserlen 28

Page 4: CYMWYS AM OES - LLYW.CYMRU · Cwricwlwm i Gymru cwricwlwm am oes 4 Ein cynllun Er mwyn sicrhau holl fanteision Dyfodol Llwyddiannus i’n plant a phobl ifanc, yn ogystal ag Addysgu

Cwricwlwm i Gymru – cwricwlwm am oes

2

Rhagair y GweinidogMae hwn yn gyfnod cyffrous i addysg yng Nghymru. Cafwyd momentwm newydd mewn addysg yng Nghymru o ganlyniad i’n diwygiadau sy’n canolbwyntio ar godi safonau mewn addysg drwyddi draw.

Rydym yn agosáu at ein nod, a fynegwyd yn Cymwys am oes, sef:

Bydd dysgwyr yng Nghymru yn mwynhau addysgu a dysgu sy’n eu hysbrydoli i lwyddo, mewn cymuned addysg sy’n cydweithredu ac yn anelu at fod yn wych, lle mae potensial pob plentyn a pherson ifanc yn cael ei ddatblygu.

Mae adroddiad yr Athro Donaldson, Dyfodol Llwyddiannus, yn gosod y sylfeini ar gyfer cwricwlwm i’r unfed ganrif ar hugain wedi’i seilio ar y syniadau diweddaraf ar lefel genedlaethol a rhyngwladol. Mae ein cynllun ar gyfer y cwricwlwm cyntaf erioed a ‘wnaed yng Nghymru’ yn egluro ein hegwyddorion a’n blaenoriaethau ac yn adlewyrchu ein hyder a’n balchder yng Nghymru fel cenedl ddwyieithog. Bydd ein cwricwlwm newydd yn gwireddu dysgu gwell a safonau uwch i bawb.

Rwyf wedi ymrwymo i weld y proffesiwn yn chwarae rhan ganolog wrth gynllunio a datblygu ein cwricwlwm newydd. Rwyf yn hyderus bod ganddynt yr ewyllys a’r gallu sydd eu hangen i dderbyn yr her hon.

Datblygir ein cwricwlwm newydd gan y proffesiwn addysg sydd eisoes yn gweithio yng Nghymru. Bydd rhwydwaith o Ysgolion Arloesi’n arwain ac yn llywio’r gwaith manwl o gynllunio a datblygu’r cwricwlwm newydd i’w wneud yn gynhwysol, yn gynhwysfawr, yn gytbwys ac yn heriol, drwy gydweithio ag arbenigwyr i ffurfio dyfodol dysgu yng Nghymru.

Cenedl fach ydyn ni ac mae’n hanfodol ein bod yn rhannu ein hadnoddau a’n harbenigedd. Yn ogystal â chydweithio â’r proffesiwn, byddwn yn cydweithio’n agos ag Estyn, Cyngor y Gweithlu Addysg, sefydliadau addysg uwch, colegau addysg bellach, busnesau, rhieni/gofalwyr, plant a phobl ifanc a’r awdurdodau lleol a’u consortia rhanbarthol: bydd pob un o’r rhain yn chwarae rhan hanfodol. Ar yr un pryd, byddwn yn gweithio gyda’n rhanddeiliaid eraill ac yn ymgynghori ar newidiadau fel y bo’n briodol, gan gynnwys ymgynghori cyn cyflwyno unrhyw gynigion ar gyfer deddfwriaeth.

Fy uchelgais yw sicrhau bod ein cwricwlwm newydd ar gael erbyn 2018. Credaf fod yr amserlen hon yn ymarferol a chyraeddadwy a’i bod yn sicrhau’r cydbwysedd cywir rhwng cyflymder a gofalu bod ymarfer proffesiynol yn cael ei ddatblygu i ategu’r dulliau newydd o ddysgu ac addysgu a gyflwynir.

Mae Cwricwlwm i Gymru – cwricwlwm am oes yn egluro, mewn termau cyffredinol, y camau a gymerwn i wireddu Dyfodol Llwyddiannus. Wrth i ni symud ymlaen bydd ein cynlluniau yn cael eu mireinio a’u hadolygu. O ystyried yr hinsawdd ariannol ehangach efallai y bydd angen i ni weithio a meddwl mewn ffordd wahanol er mwyn gallu cyflawni ein huchelgais heb wyro’n ormodol oddi wrth y prif nod. Byddaf yn falch o gael adborth gennych chi er mwyn sicrhau lles a llwyddiant pob plentyn a pherson ifanc yng Nghymru yn y dyfodol gan eu bod yn haeddu dim llai na dysgu ac addysgu o’r radd flaenaf.

Huw Lewis Y Gweinidog Addysg a Sgiliau

Page 5: CYMWYS AM OES - LLYW.CYMRU · Cwricwlwm i Gymru cwricwlwm am oes 4 Ein cynllun Er mwyn sicrhau holl fanteision Dyfodol Llwyddiannus i’n plant a phobl ifanc, yn ogystal ag Addysgu

Cwricwlwm i Gymru – cwricwlwm am oes

3

Rhagair – yr Athro DonaldsonYn dilyn derbyn yr argymhellion yn fy adroddiad, Dyfodol Llwyddiannus, gan y Gweinidog Addysg a Sgiliau, mae Cymru ar fin cychwyn ar gyfnod o ddiwygio radical ar ei chwricwlwm a threfniadau asesu.

Bydd y gallu i sicrhau llwyddiant yn y pen draw yn dibynnu’n helaeth nid yn unig ar y gallu i droi’r syniadau yn fy adroddiad yn gwricwlwm a threfniadau asesu ymarferol, ond hefyd ar y ffordd y mae’r datblygiadau’n symud ymlaen yn gyffredinol. Felly rwyf yn falch iawn

bod y dull arfaethedig o weithredu wedi’i seilio ar brofiad o ddiwygio addysgol ar lefel genedlaethol a rhyngwladol yn ogystal â thystiolaeth o ymchwil berthnasol.

Bydd y dull cynhwysol a chynhwysfawr sydd wedi’i ddisgrifio yn y ddogfen hon yn cael ei weithredu’n bwyllog ond yn benderfynol. Yr her yw gallu bod yn greadigol ac ymarferol wrth adeiladu’r cwricwlwm a’r fframwaith asesu newydd gan sicrhau bod yr holl oblygiadau o ran datblygiad proffesiynol, arweinyddiaeth ac atebolrwydd wedi’u deall a’u hystyried. Bydd y Rhwydwaith Arloesi yn chwarae rhan bwysig, wrth ymgymryd â’r gwaith cynllunio a datblygu hanfodol, drwy sicrhau bod y fframwaith sy’n datblygu’n ymarferol a thrwy gefnogi eu cydweithwyr wrth i’r broses hon gyflymu.

Rwyf yn falch iawn o fod wedi cael fy ngwahodd i barhau â’m cysylltiad â’r diwygiadau fel cadeirydd y Grwp Cynghori Annibynnol (GCA). Mae sefydlu’r GCA yn enghraifft bellach o ymagwedd arloesol Llywodraeth Cymru at weithredu.

Rwyf yn edrych ymlaen yn eiddgar at gydweithio â chydweithwyr ar draws y wlad i helpu i gyrraedd ein nodau o ddysgu gwell a safonau uwch i bobl ifanc Cymru.

Yr Athro Graham Donaldson CB

Page 6: CYMWYS AM OES - LLYW.CYMRU · Cwricwlwm i Gymru cwricwlwm am oes 4 Ein cynllun Er mwyn sicrhau holl fanteision Dyfodol Llwyddiannus i’n plant a phobl ifanc, yn ogystal ag Addysgu

Cwricwlwm i Gymru – cwricwlwm am oes

4

Ein cynllunEr mwyn sicrhau holl fanteision Dyfodol Llwyddiannus i’n plant a phobl ifanc, yn ogystal ag Addysgu Athrawon Yfory1 a’r Fargen Newydd ar gyfer y Gweithlu Addysg, bydd angen i bob un ohonom gymryd rhan yn llawn a chydweithio. Bydd yn broses gydweithredol a fydd yn cynnwys y proffesiwn addysgu, Estyn, awdurdodau lleol, academyddion, rhieni/gofalwyr, busnesau ac ystod eang o randdeiliaid, arbenigwyr a grwpiau eraill. Er mwyn sicrhau’r canlyniad gorau posibl bydd angen sicrhau’r cydbwysedd cywir rhwng symud yn gyflym i sicrhau bod y cwricwlwm newydd ar gael cyn gynted â phosibl a’n hawydd i ddatblygu’r cwricwlwm newydd mewn partneriaeth ag ysgolion a phartneriaid. Wrth i ni symud ymlaen gyda’n gilydd, bydd y gwaith o ddatblygu’r cwricwlwm newydd:

›› wedi’i seilio ar dystiolaeth

›› yn seiliedig ar sybsidiaredd

›› yn uchelgeisiol a chynhwysol

›› yn hawdd ei drin, ac yn gyflym, brwdfrydig a phroffesiynol

›› yn unedig.

1 Addysgu Athrawon Yfory (Yr Athro John Furlong, 2015) gov.wales/topics/educationandskills/publications/wagreviews/teaching-tomorrows-teachers/?skip=1&lang=cy

Page 7: CYMWYS AM OES - LLYW.CYMRU · Cwricwlwm i Gymru cwricwlwm am oes 4 Ein cynllun Er mwyn sicrhau holl fanteision Dyfodol Llwyddiannus i’n plant a phobl ifanc, yn ogystal ag Addysgu

Cwricwlwm i Gymru – cwricwlwm am oes

5

Adeiladu ein cwricwlwm gyda’n gilydd – cwricwlwm i Gymru, cwricwlwm am oes

Gweithio mewn partner iaeth Cy

nwys

oldeb

Arw

einwyr sy ’n ysbrydol i

Gweithio ef fe

i th

iol r

hwng

ysg

olio

n

Y pedwar diben› Dysgwyr uchelgeisiol, galluog

› Cyfranwyr mentrus, creadigol

› Dinasyddion egwyddorol, gwybodus

› Unigolion iach, hyderus

1Ymgorffori’r

pedwar diben

8Sefydlu system atebolrwydd

cadarn ac adeiladol

2Creu

cwricwlwm newydd

7Meithrin

gallu’r holl ymarferwyr ac

arweinwyr

3Ymestyn a hyrwyddo profiadau dysgwyr

4Datblygu ein cyfrifoldebau

trawsgwricwlaidd

5Galluogi’r

Gymraeg i ffynnu

6Datblygu fframwaith asesu a gwerthuso

newydd

Page 8: CYMWYS AM OES - LLYW.CYMRU · Cwricwlwm i Gymru cwricwlwm am oes 4 Ein cynllun Er mwyn sicrhau holl fanteision Dyfodol Llwyddiannus i’n plant a phobl ifanc, yn ogystal ag Addysgu

Cwricwlwm i Gymru – cwricwlwm am oes

6

Blociau adeiladu hanfodol

Yn y cynllun hwn rydym yn disgrifio’r camau a gymerwn, drwy gydweithio â’r proffesiwn, i wireddu Dyfodol Llwyddiannus. Mae’n canolbwyntio ar wyth bloc adeiladu hanfodol ar gyfer ein cwricwlwm newydd i rai 3–16 mlwydd oed.

Mae’r wyth bloc fel a ganlyn.

›› Ymgorffori pedwar diben y cwricwlwm yn llawn yn nysgu a phrofiad yr holl blant a phobl ifanc yng Nghymru, ym mha bynnag ysgol neu leoliad addysgol y maent.

›› Creu cwricwlwm newydd sy’n cwmpasu Meysydd Dysgu a Phrofiad, deilliannau cyflawniad a phwyntiau cyfeirio ar gyfer cynnydd.

›› Ymestyn a hyrwyddo profiadau dysgwyr fel y bydd y cwricwlwm yn gyfoethog yn ogystal â bod yn gynhwysol, cynhwysfawr a chytbwys.

›› Datblygu ein cyfrifoldebau trawsgwricwlaidd trwy gynllunio fframwaith cymhwysedd digidol a pharhau i symud ymlaen yn gyflym ar lythrennedd a rhifedd.

›› Galluogi’r Gymraeg i ffynnu er mwyn sicrhau bod y rheini sy’n siarad Cymraeg neu’n ei dysgu’n gynnar yn gallu dilyn pob agwedd ar y cwricwlwm drwy gyfrwng y Gymraeg, a bod y rheini sy’n dysgu’r iaith yn gallu symud ymlaen i ddefnyddio’r Gymraeg yn hyderus mewn gwahanol gyd-destunau.

›› Datblygu fframwaith asesu a gwerthuso newydd sy’n rhoi blaenoriaeth i asesu ar gyfer dysgu ac yn alinio trefniadau asesu â phedwar diben y cwricwlwm a’r deilliannau cyflawniad ym mhob Maes Dysgu a Phrofiad.

›› Meithrin gallu’r holl ymarferwyr ac arweinwyr, gan gynnwys y gallu i fyfyrio ar eu hymarfer eu hunain a’i werthuso, i gynllunio a chreu cwricwlwm sy’n berthnasol, ymestynnol a symbylol ac i gymhwyso egwyddorion ac arferion addysgegol priodol.

›› Sefydlu system atebolrwydd cadarn ac adeiladol sy’n ategu’r pedwar diben.

Y pedwar galluogydd

Bydd y blociau adeiladu hyn yn cael eu cynnal gan bedwar ‘galluogydd’ a fydd yn sail i’n cwricwlwm newydd.

Mae’r pedwar galluogydd fel a ganlyn.

›› Gweithio mewn partneriaeth. Yr unig ffordd o wireddu’r weledigaeth a’r uchelgais sydd yn Dyfodol Llwyddiannus i adeiladu cwricwlwm newydd i Gymru fydd drwy weithio’n effeithiol mewn partneriaeth – partneriaeth Cymru gyfan a fydd yn cynnwys ysgolion, arbenigwyr, Estyn, awdurdodau lleol, a Llywodraeth Cymru. Bydd lle blaenllaw yn y gwaith hwn i’r rhwydwaith Ysgolion Arloesi2, a fydd yn canolbwyntio’n gyntaf ar y Fframwaith Cymhwysedd Digidol, cynllunio a datblygu’r cwricwlwm a meithrin gallu ymarferwyr ac arweinwyr drwy’r Fargen Newydd ar gyfer y Gweithlu Addysg.

2 Gweler gov.wales/docs/dcells/publications/150630-pioneer-schools-cy.pdf

Page 9: CYMWYS AM OES - LLYW.CYMRU · Cwricwlwm i Gymru cwricwlwm am oes 4 Ein cynllun Er mwyn sicrhau holl fanteision Dyfodol Llwyddiannus i’n plant a phobl ifanc, yn ogystal ag Addysgu

Cwricwlwm i Gymru – cwricwlwm am oes

7

›› Gweithio effeithiol rhwng ysgolion3. Mae hyn yn hanfodol i’n cwricwlwm newydd: ysgolion yn gweithio ar draws yr holl oedrannau a grwpiau blwyddyn er mwyn cynllunio ar gyfer cynnydd; i sefydlu cwricwlwm sy’n rhoi gweledigaeth glir ac unol o safonau a disgwyliadau uchel; ac i ddatblygu, drwy ymarfer cydweithredol, y sgiliau proffesiynol rhagorol sydd eu hangen i addysgu’r cwricwlwm cenedlaethol.

›› Arweinwyr sy’n ysbrydoli. Bydd arweinyddiaeth effeithiol ac ysbrydoledig ym mhob rhan o’r system yn hanfodol er mwyn gwireddu ein gweledigaeth.

›› Cynwysoldeb. Bydd ein cwricwlwm newydd yn gwricwlwm i holl blant a phobl ifanc Cymru – yn gwricwlwm am oes. Yn benodol, bydd pedwar diben y cwricwlwm yn gymwys i bob plentyn.

Yma rydym yn darparu manylion ynghylch pob un o’r blociau adeiladu hyn: y camau y bydd angen eu cymryd a pha bryd; rolau’r gwahanol bartneriaid a fydd yn cymryd rhan; a’r allbynnau neu ganlyniadau yr ydym yn disgwyl eu gweld.

Byddwn yn hysbysu rhanddeiliaid yn rheolaidd am y cynnydd ar y cynllun hwn, yn gwrando ar adborth ac yn newid neu ddiwygio’r cynllun yn ôl yr angen. Bydd hyn yn rhan o’n strategaeth ymgysylltu a chyfathrebu. Caiff diweddariadau ar Cwricwlwm i Gymru – cwricwlwm am oes eu dosbarthu drwy Dysg a chaiff gwybodaeth am ddatblygiadau allweddol, dogfennau a chynnydd ei chyhoeddi ar ein gwefan4.

3 Gweithio rhwng ysgolion – mae hyn yn cynnwys lleoliadau nas cynhelir, unedau cyfeirio disgyblion, colegau addysg bellach yn ogystal â’r holl ysgolion.

4 Gwefan Dysgu Cymru: llyw.cymru/cwricwlwmigymru

Page 10: CYMWYS AM OES - LLYW.CYMRU · Cwricwlwm i Gymru cwricwlwm am oes 4 Ein cynllun Er mwyn sicrhau holl fanteision Dyfodol Llwyddiannus i’n plant a phobl ifanc, yn ogystal ag Addysgu

Cwricwlwm i Gymru – cwricwlwm am oes

8

Bloc adeiladu 1 – ymgorffori’r pedwar dibenBydd y pedwar diben wrth wraidd ein cwricwlwm newydd.

Y rhain fydd y man cychwyn ar gyfer pob penderfyniad ar y cynnwys a’r profiadau a gaiff eu datblygu’n rhan o’r cwricwlwm. Yn fwy na hynny, eu pwrpas yw dylanwadu ar y ffordd y mae ymarferwyr yn cynllunio, yn addysgu ac yn asesu.

Bydd ein holl blant a phobl ifanc...

yn ddinasyddion egwyddorol, gwybodus sydd:› yn canfod, yn gwerthuso ac yn defnyddio tystiolaeth wrth ffurfio barn› yn trafod materion cyfoes ar sail eu gwybodaeth a’u gwerthoedd› yn deall ac yn arfer eu cyfrifoldebau a’u hawliau dynol a democrataidd› yn deall ac yn ystyried effaith eu gweithredoedd wrth ddewis a gweithredu› yn wybodus am eu diwylliant, eu cymuned, eu cymdeithas a’r byd yn awr ac yn y gorffennol› yn parchu anghenion a hawliau pobl eraill, fel aelod o gymdeithas amrywiol› yn dangos eu hymrwymiad i sicrhau cynaliadwyedd y blanedac yn barod i fod yn ddinasyddion i Gymru a’r byd.

yn unigolion iach, hyderus sydd:› â gwerthoedd sicr ac sy’n sefydlu eu credoau ysbrydol a moesegol› yn meithrin eu lles meddyliol ac emosiynol drwy ddatblygu hyder, cadernid ac empathi› yn cymhwyso gwybodaeth am effaith deiet ac ymarfer ar iechyd corfforol a meddyliol yn eu bywyd pob dydd› yn gwybod sut i ddod o hyd i’r wybodaeth a’r cymorth sydd eu hangen i gadw’n ddiogel ac iach› yn cymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol› yn gwneud penderfyniadau pwyllog ynghylch eu ffordd o fyw ac yn rheoli risg› â’r hyder sydd ei angen i gymryd rhan mewn perfformiadau› yn ffurfio perthnasoedd cadarnhaol wedi’u seilio ar ymddiriedaeth a pharch at ei gilydd› yn wynebu heriau ac yn eu trechu› â’r sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen i ddelio â’u bywyd pob dydd mor annibynnol ag y gallantac yn barod i fyw bywyd gan wireddu eu dyheadau fel aelodau gwerthfawr o gymdeithas.

yn gyfranwyr mentrus, creadigol sydd:› yn cysylltu ac yn cymhwyso eu gwybodaeth a’u sgiliau i greu syniadau a chynhyrchion› yn meddwl yn greadigol er mwyn ail-lunio a datrys problemau› yn adnabod cyfleoedd ac yn manteisio arnynt› yn mentro’n bwyllog› yn arwain ac yn chwarae rolau gwahanol mewn timau’n effeithiol ac yn gyfrifol› yn mynegi syniadau ac emosiynau drwy wahanol gyfryngau› yn rhoi o’u hegni a’u sgiliau fel y bydd pobl eraill yn elwaac yn barod i chwarae eu rhan yn llawn yn eu bywyd a’u gwaith.

yn ddysgwyr uchelgeisiol, galluog sydd:› yn gosod safonau uchel iddyn nhw eu hunain ac yn chwilio am heriau ac yn eu mwynhau› yn datblygu corff o wybodaeth ac sydd â’r sgiliau sydd eu hangen i gysylltu’r wybodaeth honno a’i chymhwyso at wahanol gyd-destunau› yn ymholgar ac yn mwynhau datrys problemau› yn gallu cyfathrebu’n effeithiol mewn gwahanol ffurfiau a lleoliadau, drwy’r Gymraeg a’r Saesneg› yn gallu egluro’r syniadau a chysyniadau y maent yn dysgu amdanynt› yn gallu defnyddio rhif yn effeithiol mewn gwahanol gyd-destunau› yn deall sut i ddehongli data a chymhwyso cysyniadau mathemategol› yn defnyddio technolegau digidol yn greadigol i gyfathrebu a dod o hyd i wybodaeth a’i dadansoddi › yn ymchwilio ac yn gwerthuso eu canfyddiadau’n feirniadolac yn barod i ddysgu drwy gydol eu hoes.

Page 11: CYMWYS AM OES - LLYW.CYMRU · Cwricwlwm i Gymru cwricwlwm am oes 4 Ein cynllun Er mwyn sicrhau holl fanteision Dyfodol Llwyddiannus i’n plant a phobl ifanc, yn ogystal ag Addysgu

Cwricwlwm i Gymru – cwricwlwm am oes

9

Mae’n hanfodol bod pob lleoliad ac ysgol5 yn mabwysiadu ac yn ymgorffori’r pedwar diben yn ei ymarfer pob dydd. Dylai pob ysgol ddechrau ystyried y graddau y mae eisoes yn helpu plant a phobl ifanc i ddatblygu’r priodoleddau a’r anian sydd wedi’u nodi yn y pedwar diben. Dylent ystyried beth allant ei wneud yng nghyd-destun y cwricwlwm cenedlaethol presennol i gryfhau eu hymarfer a’u haddysgeg a’i chysylltiad â’r pedwar diben.

Y camau y mae angen eu cymryd, pryd a phwy fydd yn cymryd rhan?

›› Lleoliadau/ysgolion yn dechrau meddwl am ffyrdd o gryfhau eu hymarfer a’u haddysgeg mewn perthynas â’r pedwar diben – o Hydref 2015 ymlaen.

›› Awdurdodau lleol gyda’u consortia rhanbarthol yn cefnogi ysgolion a hyrwyddo dadlau, trafodaeth a chydweithredu rhyngddynt ynghylch sut i gryfhau ymarfer ac ymgorffori’r pedwar diben – o Hydref 2015 ymlaen.

›› Llywodraeth Cymru yn rhannu enghreifftiau o ysgolion yng Nghymru a thu hwnt sy’n defnyddio dulliau arloesol ac effeithiol i gyflwyno’r cwricwlwm a defnyddio Hwb i rannu ymarfer effeithiol wrth i ysgolion ddechrau datblygu ffyrdd o gyflawni’r pedwar diben – o 2016 ymlaen.

›› Bydd Estyn yn parhau i nodi a rhannu arferion da wrth gyflwyno’r cwricwlwm –Hydref 2015 ac yn barhaus.

›› Bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio gydag ysgolion, consortia rhanbarthol ac Estyn i ddatblygu amrywiaeth o gyfryngau i helpu rhieni/gofalwyr, cymunedau a chyflogwyr i ddeall y pedwar diben a’r newidiadau ehangach yn y cwricwlwm – o 2016 ymlaen.

5 Ym mhob rhan o’r ddogfen hon, mae’r term ‘ysgol’ neu ‘ysgolion’ yn cynnwys ysgolion ac, os yw’n briodol, lleoliadau cyn ysgol nas cynhelir sy’n gymwys i ddarparu’r Cyfnod Sylfaen.

Page 12: CYMWYS AM OES - LLYW.CYMRU · Cwricwlwm i Gymru cwricwlwm am oes 4 Ein cynllun Er mwyn sicrhau holl fanteision Dyfodol Llwyddiannus i’n plant a phobl ifanc, yn ogystal ag Addysgu

Cwricwlwm i Gymru – cwricwlwm am oes

10

Bloc adeiladu 2 – creu cwricwlwm newydd Bydd ein cwricwlwm newydd, cynhwysol, cynhwysfawr, cytbwys ac ymestynnol yn rhoi mwy o gyfrifoldeb i ysgolion ac ymarferwyr i benderfynu beth a addysgir. Bydd y cyfrifoldeb hwn yn rhan o gwricwlwm sy’n cynnwys:

›› Meysydd Dysgu a Phrofiad cyffredin o 3 i 16 oed

›› pwyntiau cyfeirio ar gyfer cynnydd yn 5, 8, 11, 14 ac 16 oed

›› deilliannau cyflawniad sy’n disgrifio’r cyflawniadau disgwyliedig ar bob pwynt cyfeirio ar gyfer cynnydd

›› tri chyfrifoldeb trawsgwricwlaidd – llythrennedd, rhifedd a chymhwysedd digidol (gweler Bloc adeiladu 4).

Bydd y cwricwlwm newydd yn gosod y paramedrau ar gyfer pob Maes Dysgu a Phrofiad. Y rhain yw:

›› Celfyddydau mynegiannol

›› Iechyd a lles

›› Dyniaethau

›› Ieithoedd, llythrennedd a chyfathrebu

›› Mathemateg a rhifedd

›› Gwyddoniaeth a thechnoleg.

Bydd pob un o’r Meysydd Dysgu a Phrofiad yn cynnwys dimensiwn Cymreig, lle bo’n briodol, yn ogystal â phersbectif rhyngwladol a phersbectif y DU6. Bydd ysgolion yn gallu defnyddio’r Maes Dysgu a Phrofiad i bennu eu cwricwlwm eu hunain a’r ffordd o’i drefnu.

Bydd pwyntiau cyfeirio ar gyfer cynnydd a deilliannau cyflawniad yn cael eu diffinio ar lefel genedlaethol i sicrhau cysondeb a sicrhau bod yr holl drefniadau asesu wedi’u halinio â’r cwricwlwm newydd, fel y mae Bloc adeiladu 6 yn nodi. Yn unol â’r argymhelliad yn Dyfodol Llwyddiannus, bydd y pwyntiau cyfeirio cychwynnol ar gyfer cynnydd yn dilyn y canllawiau ar gyfer Ar Drywydd Dysgu7.

Bydd y Rhwydwaith Arloesi yn chwarae rhan flaenllaw yn y gwaith o gynllunio’r cwricwlwm a’r trefniadau asesu newydd gan dderbyn cyngor a chymorth arbenigol. Bydd y bartneriaeth Cymru gyfan yn cynnwys arbenigwyr ar y cwricwlwm ac asesu, a rhanddeiliaid allweddol eraill, gan gynnwys Estyn.

Bydd Ysgolion Arloesi yn gweithio gyda’u clystyrau a rhwydweithiau ysgolion ehangach ac eraill, gan gynnwys unedau cyfeirio disgyblion, lleoliadau nas cynhelir a cholegau

6 Yn unol ag argymhellion yr adolygiad annibynnol o’r Cwricwlwm Cymreig, hanes a stori Cymru: learning.gov.wales/docs/learningwales/news/130424-cwricwlwm-cymreig-report-cy.pdf

7 view.officeapps.live.com/op/view.aspx?src=http%3A%2F%2Flearning.gov.wales%2Fdocs%2Flearningwales%2Fpublications%2F121115routeslearningbookleten.doc (Saesneg yn unig)

Page 13: CYMWYS AM OES - LLYW.CYMRU · Cwricwlwm i Gymru cwricwlwm am oes 4 Ein cynllun Er mwyn sicrhau holl fanteision Dyfodol Llwyddiannus i’n plant a phobl ifanc, yn ogystal ag Addysgu

Cwricwlwm i Gymru – cwricwlwm am oes

11

addysg bellach i sicrhau bod cynifer o ddarparwyr dysgu â phosibl yn cymryd rhan yn y broses cynllunio a datblygu. Byddant yn rhannu eu barn, yn rhoi prawf ar syniadau ac yn rhoi gwybod iddynt am y datblygiadau diweddaraf wrth ddatblygu’r cwricwlwm a’r fframwaith asesu. Bydd prosesau cadarn ar gyfer sicrhau ansawdd yn cael eu rhoi ar waith i sicrhau ein bod yn gwireddu ein huchelgais i ddatblygu cwricwlwm o’r radd flaenaf. Rydym yn rhagweld y bydd pedwar cam datblygu.

›› Cam 1 – Hydref 2015 tan Ionawr 2016 – dewis, sefydlu a pharatoi’r Rhwydwaith Arloesi. Y Rhwydwaith Arloesi a phartneriaeth Cymru gyfan yn cytuno ar eu rhaglen waith a fydd yn diffinio’r amserlenni ar gyfer Camau 2 i 4.

›› Cam 2 – cynllunio’r fframwaith a’r egwyddorion ar gyfer pob Maes Dysgu a Phrofiad, gan gynnwys pwyntiau cyfeirio ar gyfer cynnydd a deilliannau cyflawniad.

›› Cam 3 – datblygu cynnwys pob un o’r Meysydd Dysgu a Phrofiad; gwirio ac adolygu gydag ysgolion eraill ac arbenigwyr ar y cwricwlwm (gan ystyried tystiolaeth ac ymchwil o ffynonellau cenedlaethol a rhyngwladol) – ar sail prosesau cadarn ar gyfer sicrhau ansawdd.

›› Cam 4 – gwirio a sicrhau ansawdd ymhellach, gan gynnwys meincnodi rhyngwladol.

Rydym yn bwriadu cyflwyno deddfwriaeth yn ystod tymor nesaf Cynulliad Cymru. Cyn cyflwyno unrhyw gynigion ar gyfer deddfu, bydd Llywodraeth Cymru yn ymgynghori ac yn rhoi cyfle i’r holl randdeiliaid rannu eu barn.

Y camau y mae angen eu cymryd, pryd a phwy fydd yn cymryd rhan?

›› Drwy weithio gydag awdurdodau lleol, eu consortia rhanbarthol ac ysgolion, byddwn yn datblygu’r Rhwydwaith Arloesi. Y rhwydwaith hwn fydd yn arwain y gwaith o ddatblygu’r cwricwlwm a’r trefniadau asesu newydd (mae’r gwaith hwn wedi dechrau eisoes).

›› Bydd y Rhwydwaith Arloesi yn cydweithio’n agos ag ymarferwyr eraill o bob rhan o Gymru ochr yn ochr â rhanddeiliaid ac arbenigwyr eraill a fydd yn rhan o’r bartneriaeth Cymru gyfan (o Ionawr 2016 ymlaen).

›› Er mwyn ategu gwaith y Rhwydwaith Arloesi, bydd Llywodraeth Cymru yn hwyluso cysylltiadau ag arbenigwyr ar y cwricwlwm ac asesu ac yn rhannu arferion da a thystiolaeth o wledydd eraill drwy gydol yr amser (gan ddechrau yn Ionawr 2016).

›› Bydd Estyn yn darparu arbenigedd i gefnogi’r broses o gynllunio’r cwricwlwm ac yn gwneud sylwadau am ei effaith bosibl (o Ionawr 2016).

›› Bydd Llywodraeth Cymru yn dod â phartneriaid sicrhau ansawdd at ei gilydd gan gynnwys sefydliadau addysg uwch ac arbenigwyr eraill i adolygu a darparu adborth i’r Rhwydwaith Arloesi ar bob cam ym mhroses cynllunio’r cwricwlwm (o Ionawr 2016 ymlaen).

›› Drwy amrywiaeth o fecanweithiau, gan gynnwys grwpiau rhanddeiliaid, byddwn yn hwyluso camau i gynnwys rhanddeiliaid ym mhroses cynllunio’r cwricwlwm er mwyn clywed eu barn am y fframwaith cwricwlwm sy’n datblygu (o 2016 ymlaen).

›› Gofynnir i Cymwysterau Cymru adolygu a datblygu cymwysterau newydd wrth ddatblygu a gweithredu’r cwricwlwm newydd dros amser.

Page 14: CYMWYS AM OES - LLYW.CYMRU · Cwricwlwm i Gymru cwricwlwm am oes 4 Ein cynllun Er mwyn sicrhau holl fanteision Dyfodol Llwyddiannus i’n plant a phobl ifanc, yn ogystal ag Addysgu

Cwricwlwm i Gymru – cwricwlwm am oes

12

Pryd y bydd y cwricwlwm newydd ar gael?

Ar sail y pedwar cam a amlinellwyd ynghynt a’n profiad o ddatblygu’r Cyfnod Sylfaen, golyga hyn y gallai’r cwricwlwm newydd, ar gyfer pob grwp blwyddyn, fod ar gael i ysgolion mor gynnar â mis Medi 2018.

Bydd gan ysgolion beth hyblygrwydd o safbwynt penderfynu sut a phryd y byddant yn cychwyn addysgu’r cwricwlwm newydd. Byddem yn disgwyl i rai ysgolion fod yn barod i gychwyn gwneud hyn yn fuan iawn ar ôl i’r cwricwlwm newydd gael ei gyhoeddi, tra bydd ysgolion eraill yn dymuno cychwyn ei gyflwyno yn nes ymlaen. Trwy gydweithio ag ymarferwyr byddwn yn ystyried goblygiadau hyn o safbwynt dysgwyr sydd hanner ffordd drwy gwrs astudio sy’n arwain at gymhwyster. Ein huchelgais yw y bydd pob ysgol yn defnyddio’r cwricwlwm newydd er mwyn cefnogi addysgu a dysgu erbyn 2021. Rydym wedi gosod yr amserlen hon oherwydd:

›› bydd ein cwricwlwm yn cael ei gynllunio drwy ddull agored, tryloyw ac ymgynghorol felly rydym wedi cynnwys amser ar gyfer trafodaeth ymysg gweithwyr proffesiynol ac arbenigwyr a phrosesau cadarn ar gyfer sicrhau ansawdd

›› rydym yn credu y bydd yr holl ysgolion yn gwbl barod i addysgu’r cwricwlwm newydd am y tro cyntaf erbyn 2021 gan y bydd wedi bod ar gael iddynt am hyd at dair blynedd, er y bydd y rheini sy’n gallu dangos eu bod yn barod cyn 2021 yn gallu dechrau addysgu’r cwricwlwm newydd cyn gynted ag y bydd ar gael.

Page 15: CYMWYS AM OES - LLYW.CYMRU · Cwricwlwm i Gymru cwricwlwm am oes 4 Ein cynllun Er mwyn sicrhau holl fanteision Dyfodol Llwyddiannus i’n plant a phobl ifanc, yn ogystal ag Addysgu

Cwricwlwm i Gymru – cwricwlwm am oes

13

Bloc adeiladu 3 – ymestyn a hyrwyddo profiadau dysgwyrMae Dyfodol Llwyddiannus yn nodi pa mor bwysig yw sicrhau bod profiadau cyfoethog yn rhan annatod o’r cwricwlwm ac o ddysgu dwfn. Mae argymhelliad cyntaf yr adroddiad yn diffinio’r cwricwlwm fel yr holl brofiadau dysgu a’r gweithgareddau asesu sy’n cefnogi’r pedwar diben. Mae nifer o ysgolion eisoes yn cynnig profiadau cyfoethog ac amrywiol i’w dysgwyr. Felly, bydd yn bwysig bod ysgolion a sefydliadau sy’n bartneriaid iddynt yn meddwl am yr amrywiaeth o brofiadau sydd eisoes ar gael i ddysgwyr ym mhob cymuned ysgol; yn ystyried y ffordd orau o’u defnyddio, eu datblygu a’u gwella; a pha brofiadau newydd y gellir eu cynnig i gefnogi’r pedwar diben. Mae hybu profiadau dysgwyr yn elfen allweddol o ddysgu a hefyd yn agwedd bwysig ar y gwaith o godi uchelgeisiau.

O fewn rhaglen Her Ysgolion Cymru8, rydym wedi hyrwyddo a threialu dulliau sy’n cyfoethogi profiadau bywyd ac addysg dysgwyr drwy ddarparu Cynnig i Ddisgyblion. Mae Ailysgrifennu’r dyfodol: Codi’r uchelgais a chyrhaeddiad yn ysgolion Cymru9 hefyd yn nodi pa mor bwysig yw codi dyheadau ac ehangu gorwelion wrth liniaru effaith tlodi ar gyrhaeddiad addysgol.

Nawr rydym am i bob un o’n hysgolion adeiladu ar y profiadau sydd eisoes ar gael o fewn yr ysgol a thrwy’r ysgol a chynllunio a darparu ei Chynnig i Ddisgyblion ei hun er mwyn cyfoethogi’r cwricwlwm a chodi uchelgeisiau.

Beth yw’r Cynnig i Ddisgyblion?

Yn y bôn, mae’r Cynnig i Ddisgyblion yn ymwneud â dod o hyd i ffyrdd o ennyn diddordeb, ysgogi brwdfrydedd a meithrin hyder yn ein plant a phobl ifanc. Mae’n ymwneud â dod o hyd i ffyrdd mwy effeithiol o gyflenwi’r cwricwlwm, cyfleu disgwyliadau uchel, gan godi dyhead ac uchelgais yr unigolyn i lwyddo ym mhopeth y mae’n dewis ei wneud. Mae’n golygu bod ysgolion ac ymarferwyr yn gweithio gyda phartneriaid o bob math i ddatblygu ystod o gyfleoedd a gweithgareddau sy’n ehangu gorwelion y tu mewn a’r tu allan i amgylchedd dysgu traddodiadol yr ystafell ddosbarth. Nid yw o reidrwydd yn golygu gwneud mwy. Mae’n ymwneud â phartneriaethau y tu allan i’r ysgol, lle mae partneriaid yn lluosi effeithiau ymdrechion ei gilydd.

Gall ysgolion ddechrau meddwl yn barod am ddatblygu eu Cynnig i Ddisgyblion eu hunain a sut i helpu eu dysgwyr i gymryd rhan ac ehangu eu profiadau yn unol â’r pedwar diben.

8 Her Ysgolion Cymru: gov.wales/topics/educationandskills/schoolshome/raisingstandards/schools-challenge-cymru/?skip=1&lang=cy

9 gov.wales/topics/educationandskills/schoolshome/deprivation/rewriting-the-future-schools/?lang=cy

Page 16: CYMWYS AM OES - LLYW.CYMRU · Cwricwlwm i Gymru cwricwlwm am oes 4 Ein cynllun Er mwyn sicrhau holl fanteision Dyfodol Llwyddiannus i’n plant a phobl ifanc, yn ogystal ag Addysgu

Cwricwlwm i Gymru – cwricwlwm am oes

14

Er enghraifft, gallai hyn gynnwys y canlynol10.

Dysgwyr uchelgeisiol, galluog

›› Addysg bellach ac uwch (sicrhau bod dysgwyr yn ymwybodol o lwybrau ar gyfer dysgu yn y dyfodol a sut y gallant gyfrannu at wireddu uchelgeisiau gyrfa).

›› Gwyddoniaeth a thechnoleg ddigidol (gan gynnwys gweithgareddau yn yr ysgol a’r tu allan sy’n dod â’r cwricwlwm yn fyw i ddysgwyr).

›› Y Gymraeg (gan gynnwys cyfleoedd i ddysgwyr ddefnyddio’r iaith y tu mewn a’r tu allan i’r ysgol mewn cyd-destun cymdeithasol ac anffurfiol).

Cyfranwyr mentrus, creadigol

›› Celfyddydau (gan gynnwys celfyddydau mynegiannol a chreadigol, llenyddiaeth, y cyfryngau, celfyddydau gweledol, perfformio a choginio).

›› Busnesau ac entrepreneuriaeth (er mwyn dysgu am yr amrywiaeth o opsiynau gyrfa sydd ar gael iddynt).

›› Y trydydd sector (gan gynnwys cyfleoedd i wirfoddoli neu ffyrdd o gael cymorth uniongyrchol gan sefydliadau).

Dinasyddion egwyddorol, gwybodus

›› Diwylliant a threftadaeth leol a chenedlaethol (gan gynnwys amgueddfeydd, orielau celf, safleoedd hanesyddol/ffydd, cymryd rhan mewn eisteddfodau lleol a chenedlaethol, parciau cenedlaethol, llyfrgelloedd ac archifau).

›› Diwylliannau eraill (gan gynnwys dysgu ieithoedd, teithiau cyfnewid mewn gwledydd tramor, ymweld â safleoedd ffydd).

›› Hawliau a chyfrifoldebau (gan gynnwys cymryd rhan mewn trafodaethau, dysgu am awdurdodau lleol, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, San Steffan, Brwsel, Strasbwrg a’r Cenhedloedd Unedig).

Unigolion iach, hyderus

›› Clybiau, cymdeithasau a grwpiau (gan gynnwys gweithio gyda’r Urdd, cadetiaid, sgowtiaid a geidiaid, brigadau, grwpiau amgylcheddol, hobïau a meysydd o ddiddordeb personol).

›› Chwaraeon (yn yr ysgol a’r tu allan).

Y camau y mae angen eu cymryd, pryd a phwy fydd yn cymryd rhan?

›› Bydd ysgolion yn adolygu’r profiadau y maent yn eu cynnig ar hyn o bryd, yn ystyried cyfleoedd newydd ac yn datblygu Cynnig i Ddisgyblion sy’n ategu ac yn cefnogi’r pedwar diben – dechrau nawr a’i ddisgrifio yn eu cynllun datblygu ysgol (CDU) ar gyfer y flwyddyn academaidd nesaf.

10 Nid yw hon yn rhestr gynhwysfawr a’i phwrpas yw cynnig enghreifftiau – bydd ysgolion a’u cymunedau lleol yn gallu meddwl am nifer o syniadau eraill sy’n cwmpasu ac yn cysylltu’r pedwar diben.

Page 17: CYMWYS AM OES - LLYW.CYMRU · Cwricwlwm i Gymru cwricwlwm am oes 4 Ein cynllun Er mwyn sicrhau holl fanteision Dyfodol Llwyddiannus i’n plant a phobl ifanc, yn ogystal ag Addysgu

Cwricwlwm i Gymru – cwricwlwm am oes

15

›› Bydd partneriaid, a all gynnwys Cyngor y Celfyddydau, Chwaraeon Cymru, busnesau, sefydliadau addysg uwch, y sector gwirfoddol, e.e. sefydliadau iechyd a lles, yn gweithio gydag ysgolion i ddatblygu eu Cynnig i Ddisgyblion – dechrau nawr a rhoi cymorth i gynllunio ar gyfer y flwyddyn academaidd nesaf.

›› Awdurdodau lleol gyda’u consortia rhanbarthol – hwyluso cysylltiadau rhwng ysgolion a phartneriaid eraill er mwyn datblygu eu Cynnig i Ddisgyblion a datblygu cyfleoedd cydweithredol rhwng ysgolion – o hyn ymlaen, yn rhan o’u gweithgarwch cynlluniedig a pharhaus.

›› Bydd Llywodraeth Cymru yn cydweithio ag awdurdodau lleol i annog ysgolion i fabwysiadu siarter y Gymraeg i gefnogi a gwella defnydd dysgwyr o’r iaith mewn lleoliadau anffurfiol – o Ionawr 2016.

›› Bydd Llywodraeth Cymru yn rhannu arferion o Her Ysgolion Cymru – casglu tystiolaeth yn ystod yr hydref; ei chyhoeddi yng ngwanwyn 2016.

›› Bydd y Rhwydwaith Arloesi yn ystyried y dystiolaeth sy’n dod i law wrth feddwl am y ‘profiadau’ yn ystod y cam cynllunio a datblygu ar gyfer pob Maes Dysgu a Phrofiad – o wanwyn 2016.

Page 18: CYMWYS AM OES - LLYW.CYMRU · Cwricwlwm i Gymru cwricwlwm am oes 4 Ein cynllun Er mwyn sicrhau holl fanteision Dyfodol Llwyddiannus i’n plant a phobl ifanc, yn ogystal ag Addysgu

Cwricwlwm i Gymru – cwricwlwm am oes

16

Bloc adeiladu 4 – datblygu ein cyfrifoldebau trawsgwricwlaiddFel y mae Dyfodol Llwyddiannus yn nodi, mae tri chymhwysedd a sgil allweddol sy’n sail i bron pob math o ddysgu ac sy’n hanfodol i’r gallu i gymryd rhan yn llwyddiannus ac yn hyderus yn y byd modern. Y rhain yw llythrennedd, rhifedd a chymhwysedd digidol. Bydd y rhain yn gyfrifoldebau trawsgwricwlaidd i’r holl ymarferwyr a phobl sy’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc.

Rydym eisoes wedi rhoi blaenoriaeth i lythrennedd a rhifedd. Cyflwynwyd y Rhaglenni Llythrennedd a Rhifedd Cenedlaethol yn 2012

ac wedyn y Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd Cenedlaethol (FfLlRh) yn 2013. Mae llawer o

ysgolion wedi gwneud cynnydd cyson ar weithredu’r FfLlRh. Fodd

bynnag, mae angen gwneud rhagor i sicrhau bod sgiliau

llythrennedd a rhifedd yn cael eu hymgorffori

mewn ffordd ystyrlon ym mhob ysgol. Felly byddwn yn

parhau i ganolbwyntio ar lythrennedd a rhifedd gan eu bod yn hanfodol i’n

cwricwlwm newydd. Byddwn yn cyhoeddi diweddariad o’n Rhaglen Llythrennedd a Rhifedd

Cenedlaethol ac yn parhau i ofalu bod ysgolion yn cael cymorth i weithredu’r FfLlRh gan gonsortia rhanbarthol

a thrwy gynhyrchu deunyddiau ar-lein ychwanegol i rannu arferion da.

Tra byddwn yn parhau i hybu llythrennedd a rhifedd, byddwn yn symud ymlaen yn gyflym nawr i ddatblygu cymhwysedd digidol yn gyfrifoldeb

trawsgwricwlaidd.

Gyda chymorth awdurdodau lleol a’u consortia rhanbarthol rydym eisoes wedi dynodi 13 o Ysgolion Arloesi arweiniol a fydd yn canolbwyntio’n gyntaf ar gymhwysedd digidol. Byddant yn dechrau ar y gwaith cynllunio ym mis Medi 2015, a byddant yn cydweithio’n agos â’n Cyngor Dysgu Digidol Cenedlaethol ac arbenigwyr digidol a chyflogwyr blaenllaw yn ystod y flwyddyn nesaf. Y nod yw sicrhau y bydd y Fframwaith Cymhwysedd Digidol ar gael i leoliadau ac ysgolion ym mis Medi 201611.

11 Bydd hyn ar sail anstatudol.

Page 19: CYMWYS AM OES - LLYW.CYMRU · Cwricwlwm i Gymru cwricwlwm am oes 4 Ein cynllun Er mwyn sicrhau holl fanteision Dyfodol Llwyddiannus i’n plant a phobl ifanc, yn ogystal ag Addysgu

Cwricwlwm i Gymru – cwricwlwm am oes

17

Y camau y mae angen eu cymryd, pryd a phwy fydd yn cymryd rhan?

›› Consortia rhanbarthol yr awdurdodau lleol i ddarparu cymorth i ysgolion ar y FfLlRh ar sail blaenoriaethau rhanbarthol – Hydref 2015 ac yn parhau.

›› Grwpiau arbenigol yn parhau i weithio gyda Llywodraeth Cymru gan ddarparu cyngor a chymorth ar ddatblygiadau sy’n ymwneud â llythrennedd a rhifedd – Hydref 2015 ac yn parhau.

›› Bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi diweddariad o’r Rhaglen Llythrennedd a Rhifedd Cenedlaethol – erbyn Tachwedd 2015.

›› Gwahoddir ysgolion i rannu enghreifftiau o ddulliau o weithredu’r FfLlRh i’w cynnwys yn ein canllawiau ar-lein ac mewn cymorth ar-lein ychwanegol ar gyfer y FfLlRh – erbyn Mawrth 2016.

›› Bydd Estyn yn darparu arbenigedd penodol ar y cwricwlwm i gefnogi’r broses cynllunio ac yn parhau i adolygu’r gweithredu ar lythrennedd a rhifedd ar draws y cwricwlwm – Hydref 2015 ac yn parhau.

›› Bydd y Rhwydwaith Arloesi yn dechrau cynllunio’r Fframwaith Cymhwysedd Digidol newydd gan weithio gydag ysgolion eraill ac arbenigwyr blaenllaw – o fis Medi 2015.

›› Bydd Llywodraeth Cymru yn cefnogi gwaith y Rhwydwaith Arloesi drwy hwyluso cysylltiadau ag arbenigwyr a rhannu arferion da o wledydd eraill – drwy gydol y broses datblygu.

›› Bydd partneriaid sicrhau ansawdd, gan gynnwys sefydliadau addysg uwch, yn adolygu ac yn darparu adborth i’r Rhwydwaith Arloesi ar bob cam ym mhroses cynllunio’r cwricwlwm.

›› Bydd rhanddeiliaid yn cymryd rhan yn y broses cynllunio ac yn rhoi eu barn am y Fframwaith Cymhwysedd Digidol wrth iddo gael ei ddatblygu.

›› Bydd y Rhwydwaith Arloesi yn gweithio gyda’i glystyrau a’i rwydweithiau i hwyluso camau i’w cynnwys yn y broses cynllunio ac er mwyn cael adborth am y fframwaith wrth ei ddatblygu.

›› Bydd awdurdodau lleol yn gweithio gyda’r Rhwydwaith Arloesi i ddarparu’r Fframwaith Cymhwysedd Digidol a chymorth dysgu proffesiynol cysylltiedig pan fyddant ar gael i ysgolion, unedau cyfeirio disgyblion a lleoliadau nas cynhelir – erbyn mis Medi 2016.

Page 20: CYMWYS AM OES - LLYW.CYMRU · Cwricwlwm i Gymru cwricwlwm am oes 4 Ein cynllun Er mwyn sicrhau holl fanteision Dyfodol Llwyddiannus i’n plant a phobl ifanc, yn ogystal ag Addysgu

Cwricwlwm i Gymru – cwricwlwm am oes

18

Bloc adeiladu 5 – galluogi’r Gymraeg i ffynnuAr sail yr egwyddorion yn Cymwys am oes, mae Dyfodol Llwyddiannus yn cydnabod pwysigrwydd y Gymraeg i’n hunaniaeth fel gwlad. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i weld y Gymraeg yn ffynnu. Dyna pam y bydd y Gymraeg yn parhau’n elfen orfodol yn y cwricwlwm i bob dysgwr nes bydd yn 16 mlwydd oed, fel y mae’r adroddiad yn argymell. Bydd y cwricwlwm newydd yn rhoi modd i sicrhau bod pob dysgwr yn gallu meithrin ei sgiliau iaith Gymraeg a defnyddio’r iaith yn hyderus mewn gwahanol gyd-destunau.

Dylid hyrwyddo’r gwerth sy’n gysylltiedig â’r Gymraeg drwy ganolbwyntio i fwy o raddau ar ei gwerth masnachol yn y farchnad swyddi, y manteision gwybyddol o ddwyieithrwydd sydd wedi’u hawgrymu a’i phwysigrwydd o ran galluogi plant a phobl ifanc i gael dealltwriaeth dda o fywyd diwylliannol Cymru yn y gorffennol a’r presennol. Bydd pwyslais o’r newydd ar ddysgu Cymraeg yn bennaf fel dull o gyfathrebu, yn enwedig cyfathrebu a deall llafar. Bydd y defnydd o dechnoleg i helpu plant a phobl ifanc i ddysgu’r iaith yn cael ei ddatblygu ymhellach.

O fewn Maes Dysgu a Phrofiad Ieithoedd, llythrennedd a chyfathrebu, datblygir pwyntiau cyfeirio ar gyfer cynnydd a deilliannau cyflawniad i feithrin sgiliau iaith Gymraeg dros amser fel y bydd dysgwyr ym mhob lleoliad a ysgol yn gallu cael cydnabyddiaeth am y sgiliau y maent yn eu dysgu.

Bydd cymwysterau iaith Gymraeg yn 16 oed yn cael eu hadolygu er mwyn sicrhau bod set o gymwysterau ar gael sy’n galluogi dysgwyr i symud ymlaen i astudio Cymraeg ar Safon Uwch ac yn y brifysgol. Bydd opsiwn hefyd i ddysgwyr ennill cymhwyster sy’n cyd-fynd â’r pwyslais arfaethedig ar siarad a gwrando a defnyddio’r iaith yn y gweithle.

Bydd anghenion penodol addysgu cyfrwng Cymraeg yn cael eu hystyried yn drwyadl wrth ddatblygu’r trefniadau ar gyfer strwythur y cwricwlwm, gan gynnwys trefniadau asesu. Bydd hyn yn cynnwys rhannu arferion da mewn dulliau addysg drochi a’r dulliau sydd eu hangen ar gyfer addysgu’r cwricwlwm drwy gyfrwng y Gymraeg.

Y camau y mae angen eu cymryd, pryd a phwy fydd yn cymryd rhan?

›› Bydd consortia rhanbarthol yr awdurdodau lleol yn atgyfnerthu’r cymorth rhwng ysgolion drwy eu gwaith cyfredol ac mewn partneriaeth â rhanddeiliaid eraill sydd â’r arbenigedd angenrheidiol.

›› Drwy gydweithio ag Estyn a’r awdurdodau lleol, bydd Llywodraeth Cymru’n nodi ac yn rhannu arferion da o ran dysgu ac addysgu Cymraeg ail iaith.

›› Bydd Llywodraeth Cymru’n cydweithio â Chyngor y Gweithlu Addysg i gael gwell dealltwriaeth o sgiliau iaith Gymraeg y gweithlu presennol wrth ystyried darparu hyfforddiant iaith Gymraeg i’r gweithlu.

›› Bydd Cymwysterau Cymru’n ystyried ystod bresennol y cymwysterau Cymraeg ail iaith ac yn cynghori ynghylch sut y dylai’r rhain newyd yn sgil yr argymhellion a gaiff eu cyflwyno yn Dyfodol Llwyddiannus. Byddant hefyd yn cynghori ynghylch sut y gall y disgwyliadau sydd ynghlwm wrth y cymwysterau hynny gael eu codi yn y tymor hwy.

Page 21: CYMWYS AM OES - LLYW.CYMRU · Cwricwlwm i Gymru cwricwlwm am oes 4 Ein cynllun Er mwyn sicrhau holl fanteision Dyfodol Llwyddiannus i’n plant a phobl ifanc, yn ogystal ag Addysgu

Cwricwlwm i Gymru – cwricwlwm am oes

19

Bloc adeiladu 6 – datblygu fframwaith asesu a gwerthuso newyddMae Dyfodol Llwyddiannus yn glir bod asesu’n rhan annatod o ddysgu llwyddiannus. Prif bwrpas asesu yw cyfrannu at ddysgu ac addysgu. Mae asesu’n rhan hanfodol o ddysgu ac addysgu. O’i ddefnyddio’n dda, mae asesu’n cwmpasu nifer o ffurfiau a thechnegau sy’n cyfrannu at ddysgu ac yn ei wella ac yn galluogi’r dysgwr i ymgymryd â mwy o berchenogaeth ar ei ddysgu a’i ddatblygiad ei hun. Dylai fod yn offeryn pwerus ar gyfer dysgu ac addysgu.

Roedd yr adolygiad wedi gwneud nifer o argymhellion sy’n cynnig gweledigaeth wahanol iawn ar gyfer asesu a’r ffordd o ddefnyddio asesu yng Nghymru. Er mwyn gwireddu’r weledigaeth honno, bydd yn hanfodol datblygu Fframwaith Asesu a Gwerthuso Cenedlaethol newydd. Bydd y fframwaith wedi’i seilio ar y pedwar diben a’r egwyddorion allweddol sydd yn Dyfodol Llwyddiannus. Caiff ei gynllunio gyda’r proffesiwn ac, o’r dechrau, fe’i datblygir fel ei fod yn gwbl gynhwysol er mwyn sicrhau bod y fframwaith yn cynnwys pob dysgwr a phob gallu.

Byddwn yn ceisio dysgu gwersi o’r dulliau diweddaraf mewn gwledydd tramor ac o’r arferion da yng Nghymru wrth gynllunio, datblygu a darparu’r fframwaith hwn. Bydd Panel Sicrhau Ansawdd, a fydd yn cydweithio â’r Rhwydwaith Arloesi, yn chwarae rhan allweddol drwy gefnogi a llywio’r gwaith o ddatblygu’r fframwaith hwn.

Page 22: CYMWYS AM OES - LLYW.CYMRU · Cwricwlwm i Gymru cwricwlwm am oes 4 Ein cynllun Er mwyn sicrhau holl fanteision Dyfodol Llwyddiannus i’n plant a phobl ifanc, yn ogystal ag Addysgu

Cwricwlwm i Gymru – cwricwlwm am oes

20

Y camau y mae angen eu cymryd, pryd a phwy fydd yn cymryd rhan?

›› Bydd cynlluniau ac egwyddorion cyntaf y fframwaith asesu a gwerthuso yn cael eu seilio ar brofiad ymarferol arbenigwyr ar asesu ac anghenion dysgu ychwanegol (ADY), ynghyd â thystiolaeth o ymchwil gyfredol.

›› Sefydlir panel sicrhau ansawdd, a fydd yn cynnwys sefydliadau addysg uwch, erbyn Rhagfyr 2015 i adolygu a darparu adborth i’r Rhwydwaith Arloesi er mwyn sicrhau bod y fframwaith yn cael ei gynllunio a’i ddatblygu’n unol â’r egwyddorion yn Dyfodol Llwyddiannus.

›› Bydd Llywodraeth Cymru yn dod â phartneriaid sicrhau ansawdd at ei gilydd, gan gynnwys sefydliadau addysg uwch ac arbenigwyr eraill, er mwyn adolygu a darparu adborth i’r Rhwydwaith Arloesi ar bob cam ym mhroses cynllunio’r cwricwlwm – o Ionawr 2016 ymlaen fel y nodwyd ym Mloc adeiladu 2.

›› Bydd y Rhwydwaith Arloesi yn cyfrannu at gynllunio a datblygu pellach, a bydd y gwersi a ddysgir am asesu mewn Ysgolion Arloesi yn cael eu rhannu’n ehangach yn unol â chamau datblygu’r cwricwlwm sydd wedi’u nodi ym Mloc adeiladu 2.

›› Bydd systemau digidol ac ar-lein ar gyfer asesu a chofnodi’n cael eu harchwilio a’u datblygu drwy gydweithio’n agos â’r Rhwydwaith Arloesi ac arweinwyr dysgu digidol. Defnyddir Hwb yn gyfrwng i helpu ysgolion i asesu deilliannau dysgwyr yn gywir.

›› Bydd Llywodraeth Cymru’n cyflwyno profion ymaddasol ar-lein o fis Mai 2018.

›› Bydd Llywodraeth Cymru’n cyhoeddi’r Fframwaith Asesu a Gwerthuso Cenedlaethol erbyn mis Medi 2018.

Page 23: CYMWYS AM OES - LLYW.CYMRU · Cwricwlwm i Gymru cwricwlwm am oes 4 Ein cynllun Er mwyn sicrhau holl fanteision Dyfodol Llwyddiannus i’n plant a phobl ifanc, yn ogystal ag Addysgu

Cwricwlwm i Gymru – cwricwlwm am oes

21

Bloc adeiladu 7 – meithrin gallu’r holl ymarferwyr ac arweinwyrMae Dyfodol Llwyddiannus yn glir bod angen ymdrin yn benodol â’r gyd-ddibyniaeth sylfaenol rhwng y cwricwlwm ac addysgeg er mwyn ymgorffori dibenion a strwythur y cwricwlwm. Tra bo’r adroddiad yn nodi 12 o egwyddorion addysgegol, mae’n glir bod penderfyniadau ynghylch dysgu, addysgu a chynllunio’r cwricwlwm yn ymwneud â chyd-destunau a dibenion penodol a’i bod yn well felly eu bod yn cael eu gwneud gan ymarferwyr eu hunain. Oherwydd hyn, er mwyn sefydlu’r cwricwlwm yn effeithiol, mae angen galluogi’r gweithlu cyfan i fyfyrio ar ddulliau addysgegol a’u datblygu er mwyn meithrin gallu ledled Cymru fel y bydd y cwricwlwm newydd yn ystyrlon ym mhob ystafell ddosbarth.

Mae Dyfodol Llwyddiannus hefyd yn glir y bydd arweinyddiaeth ymroddedig ar bob lefel yn y system yn hanfodol wrth sefydlu’r trefniadau newydd. Rhaid sicrhau bod pob arweinydd yn deall pwrpas a strwythur y cwricwlwm newydd ac yn meddu ar y sgiliau a’r gefnogaeth sydd eu hangen i ddylanwadu, cefnogi a chyflawni’r newidiadau yn eu cyd-destun eu hunain, yn enwedig wrth gynorthwyo ymarferwyr i feithrin eu sgiliau addysgegol, ac fel rhan o system ‘hunanwella’ ehangach ar gyfer yr ysgol.

Fel y nodwyd yn Cymwys am oes, byddwn yn datblygu gweithlu proffesiynol rhagorol gydag addysgeg gryf wedi’i seilio ar ddealltwriaeth o’r hyn sy’n gweithio yng Nghymru. Byddwn yn adeiladu ar sail yr hyn sy’n gweithio’n barod ac yn cynorthwyo ymarferwyr i feithrin eu sgiliau addysgegol. Byddwn yn trawsnewid Hyfforddiant ac Addysg Gychwynnol Athrawon fel y nodwyd yn Addysgu Athrawon Yfory ac yn hybu datblygiad proffesiynol ymarferwyr ac arweinwyr drwy’r Fargen Newydd ar gyfer y Gweithlu Addysg. Bydd hyn yn cael ei gynllunio a’i gyflawni drwy bartneriaeth genedlaethol gryf ar gyfer datblygu’r gweithlu, rhwng ymarferwyr a’r Rhwydwaith Arloesi, awdurdodau lleol a’u consortia rhanbarthol, undebau’r gweithlu, Cyngor y Gweithlu Addysg a Llywodraeth Cymru.

Y camau y mae angen eu cymryd, pryd a phwy fydd yn cymryd rhan?

›› Cydweithio ag ymarferwyr ac arweinwyr yng Nghymru i ddatblygu gweledigaeth glir ar gyfer datblygu ymarfer ac ymgorffori dibenion newydd y cwricwlwm mewn dysgu ac addysgu – erbyn gwanwyn 2016.

›› Bydd Partneriaeth Datblygu’r Gweithlu yn datblygu ac yn ymgynghori ar safonau proffesiynol newydd ar ddechrau 2016 a bydd y fersiwn derfynol ar gael o fis Medi 2016. Bydd y Bwrdd Datblygu Arweinyddiaeth Cenedlaethol yn datblygu strategaeth arweinyddiaeth newydd i sicrhau bod arweinwyr ar bob lefel yn y system yn fedrus ac yn barod i arwain a rheoli’r newidiadau nes bydd y cwricwlwm yn cael ei weithredu ac wedyn. Cyhoeddir y strategaeth arweinyddiaeth yng ngwanwyn 2016.

Page 24: CYMWYS AM OES - LLYW.CYMRU · Cwricwlwm i Gymru cwricwlwm am oes 4 Ein cynllun Er mwyn sicrhau holl fanteision Dyfodol Llwyddiannus i’n plant a phobl ifanc, yn ogystal ag Addysgu

Cwricwlwm i Gymru – cwricwlwm am oes

22

›› Drwy’r Fargen Newydd ar gyfer y Gweithlu Addysg, bydd Llywodraeth Cymru yn creu fframwaith cenedlaethol newydd ar gyfer dysgu a datblygiad proffesiynol erbyn gwanwyn 2016. Caiff y fframwaith ei ddiweddaru a’i ddatblygu ymhellach drwy weithredu’r Fargen Newydd ar gyfer y Gweithlu Addysg.

›› Drwy gydweithio ag awdurdodau lleol a’u consortia rhanbarthol ac ysgolion, bydd Llywodraeth Cymru’n adeiladu’r Rhwydwaith Arloesi er mwyn hyrwyddo’r broses o ddatblygu addysgeg ac arweinyddiaeth ym mhob lleoliad fel y bydd rhaglenni newydd ar gael i ymarferwyr erbyn mis Medi 201612.

›› Drwy gydweithio â’r proffesiwn, bydd Llywodraeth Cymru’n datblygu sgiliau ymarferwyr er mwyn diwallu gwahanol anghenion y dysgwyr yn well ac ategu’r gwaith o gyflwyno cynllunio (neu ymarfer) sy’n canolbwyntio ar unigolion fel y bydd yr holl ddysgwyr sydd ag ADY yn cael pob cymorth – erbyn mis Medi 2016.

›› Bydd y Rhwydwaith Arloesi, drwy gydweithio ag awdurdodau lleol a’u consortia rhanbarthol, yn darparu cymorth ymarferol ac arbenigedd i’r holl ysgolion yng Nghymru wrth iddynt baratoi am y cwricwlwm a’i weithredu yn eu lleoliadau eu hunain – o fis Medi 2018.

›› Bydd Llywodraeth Cymru’n ymgynghori ar gamau pellach i ddatblygu proffesiwn sy’n ei lywodraethu ei hun drwy ehangu swyddogaethau Cyngor y Gweithlu Addysg yng ngwanwyn 2016. Byddwn yn dod â darparwyr Hyfforddiant ac Addysg Gychwynnol Athrawon, ysgolion ac ymarferwyr at ei gilydd i ymgorffori’r weledigaeth, y safonau a’r addysgeg yn ymarfer yr holl athrawon dan hyfforddiant fel y byddant wedi’u paratoi a’u galluogi i addysgu yn y system newydd cyn gynted ag y byddant yn ymuno â’r proffesiwn. Mae hyn yn cynnwys y camau hanfodol a ganlyn.

• Darparwyr Hyfforddiant ac Addysg Gychwynnol Athrawon yn ystyried sut y mae eu darpariaeth yn gallu helpu athrawon newydd i ddeall y pedwar diben – dechrau ar unwaith.

• Sefydlir trefniadau achredu newydd ar gyfer Hyfforddiant ac Addysg Gychwynnol Athrawon i sicrhau y bydd pob rhaglen sy’n dechrau yn 2018 yn galluogi’r hyfforddeion i ddarparu’r cwricwlwm newydd pan fyddant yn ymgymhwyso – erbyn Medi 2017.

12 Y blaenoriaethau cychwynnol sydd wedi’u nodi ar gyfer y rhaglenni hyn yw datblygu arweinyddiaeth, gwahaniaethu, metawybyddiaeth a sgiliau cymhwysedd digidol.

Page 25: CYMWYS AM OES - LLYW.CYMRU · Cwricwlwm i Gymru cwricwlwm am oes 4 Ein cynllun Er mwyn sicrhau holl fanteision Dyfodol Llwyddiannus i’n plant a phobl ifanc, yn ogystal ag Addysgu

Cwricwlwm i Gymru – cwricwlwm am oes

23

Bloc adeiladu 8 – sefydlu system atebolrwydd cadarn ac adeiladolMae Dyfodol Llwyddiannus yn gwneud nifer o argymhellion ynghylch y ffordd y bydd angen i’r system atebolrwydd newid er mwyn canolbwyntio’n fwy ar bedwar diben y cwricwlwm ac ‘mewn cyd-destun lle y bydd penderfyniadau allweddol yn cael eu gwneud ar lefel leol . . . cryfhau a gwella’r trefniadau atebolrwydd mewn ffyrdd a fydd yn helpu i sefydlu’r trefniadau newydd a hybu gwelliant gan osgoi’r ystumio sy’n digwydd weithiau o ganlyniad i ofynion allanol ar gyfer mesur perfformiad a chofnodi canlyniadau’.

Yng nghyd-destun yr uchod, rydym yn cydweithio â rhanddeiliaid allweddol i ddatblygu strategaeth atebolrwydd a chefnogaeth ddiwygiedig. Er mwyn hyrwyddo hyn, byddwn yn sefydlu grwp gorchwyl a gorffen a fydd yn cwrdd am y tro cyntaf yn ystod yr hydref. Bydd y gwaith wedi’i gwblhau erbyn haf 2016 ac yn cael ei rannu â’r proffesiwn ehangach yn ystod tymor yr hydref 2016. Bydd y gwaith hwn yn cynnwys:

›› adolygu’r cydbwysedd rhwng her a chefnogaeth yn y system bresennol er mwyn pennu rolau a chyfrifoldebau yn y dyfodol ar lefelau cenedlaethol, rhanbarthol a lleol yn y system

›› datblygu opsiynau ar gyfer y profion samplu cenedlaethol newydd i gofnodi cynnydd ar draws y system

›› adolygu’r trefniadau ar gyfer casglu data ar lefel genedlaethol a’u rhannu â chonsortia rhanbarthol, awdurdodau lleol ac ysgolion i sicrhau bod data’n cael eu defnyddio ar y lefel briodol i wella canlyniadau i ddysgwyr mewn ffordd sy’n lleihau’r perygl o ystumio a nodwyd yn yr adolygiad

›› mireinio’r system categoreiddio genedlaethol ymhellach

›› parhau i gydweithio ag Estyn a chyrff rheoleiddio eraill i ystyried eu rôl wrth bontio i’r cwricwlwm newydd a dechrau ei weithredu. Mae Estyn eisoes wedi dechrau adolygu ei drefniadau arolygu ac mae’n ymgynghori â’r cyhoedd a’i randdeiliaid ar hyn o bryd

›› datblygu modelau i asesu parodrwydd y system gyfan, ynghyd ag ysgolion a grwpiau o ysgolion, i ddangos eu parodrwydd ar ôl 2018.

Page 26: CYMWYS AM OES - LLYW.CYMRU · Cwricwlwm i Gymru cwricwlwm am oes 4 Ein cynllun Er mwyn sicrhau holl fanteision Dyfodol Llwyddiannus i’n plant a phobl ifanc, yn ogystal ag Addysgu

Cwricwlwm i Gymru – cwricwlwm am oes

24

Y camau y mae angen eu cymryd, pryd a phwy fydd yn cymryd rhan?

›› Bydd Llywodraeth Cymru yn sefydlu grwp gorchwyl a gorffen i ddatblygu strategaeth atebolrwydd a chefnogaeth ddiwygiedig, gan gynnwys gwaith i gynllunio a datblygu arolwg samplu cenedlaethol newydd i gofnodi cynnydd ar draws y system – erbyn haf 2016.

›› Bydd Llywodraeth Cymru’n ymgynghori ar strategaeth atebolrwydd a chefnogaeth newydd – erbyn hydref 2016.

›› Bydd awdurdodau lleol a chonsortia rhanbarthol yn cymryd rhan yn y gwaith o ddatblygu’r strategaeth newydd a byddant yn adolygu eu trefniadau atebolrwydd eu hunain ar ôl cytuno ar y strategaeth newydd.

›› Bydd Llywodraeth Cymru’n symud ymlaen â chamau i ddatblygu’r system categoreiddio genedlaethol – yn ystod 2017.

›› Bydd Estyn yn cwblhau ei adolygiad o’i drefniadau arolygu ac yn cyflwyno cynigion ar gyfer trefniadau arolygu yn y dyfodol ar ôl 2017.

›› Bydd Llywodraeth Cymru’n datblygu modelau i asesu parodrwydd i weithredu erbyn 2018.

Page 27: CYMWYS AM OES - LLYW.CYMRU · Cwricwlwm i Gymru cwricwlwm am oes 4 Ein cynllun Er mwyn sicrhau holl fanteision Dyfodol Llwyddiannus i’n plant a phobl ifanc, yn ogystal ag Addysgu

Cwricwlwm i Gymru – cwricwlwm am oes

25

Galluogi newidMae Cymwys am oes wedi nodi pedwar amcan strategol ar gyfer creu system addysg o’r radd flaenaf yng Nghymru13. Mae Dyfodol Llwyddiannus, Addysgu Athrawon Yfory a’r Fargen Newydd ar gyfer y Gweithlu Addysg yn mynd i’r afael yn benodol â dau o’r amcanion hyn. Rydym yn gwella addysg yng Nghymru yn ein ffordd ein hunain ac mae’r sylfeini eisoes wedi’u gosod ar gyfer adeiladu system o’r radd flaenaf a fydd yn gwella ei hun. Drwy gydol y broses o ddatblygu’r cwricwlwm newydd a chyflawni’r wyth bloc adeiladu byddwn yn parhau i gydweithio ag ysgolion, awdurdodau lleol a’u consortia rhanbarthol, Estyn a’n rhanddeiliaid allweddol eraill i sicrhau y bydd pob ysgol yn barod i ddarparu ein cwricwlwm newydd erbyn 2021. Bydd ein pedwar galluogydd yn hanfodol i wireddu hyn.

Gweithio mewn partneriaeth

Bydd partneriaeth Cymru gyfan yn chwarae rhan ganolog yn ein dull cydweithredol. Bydd y Rhwydwaith Arloesi:

›› yn rheng flaen y cydweithredu hwn, gan gyfrannu at bolisi ac ymarfer drwy gydol y broses o ddatblygu a gweithredu’r cwricwlwm newydd

›› yn cydweithio’n agos â’r proffesiwn, arbenigwyr a rhanddeiliaid i gynllunio a datblygu ein cwricwlwm a threfniadau asesu

›› o dan y Fargen Newydd ar gyfer y Gweithlu Addysg, yn hwyluso rhwydweithiau dysgu proffesiynol. Bydd y rhain yn canolbwyntio ar addysgeg ac arweinyddiaeth a fydd yn galluogi ymarferwyr i fyfyrio ar eu hymarfer a’i ddatblygu’n barod ar gyfer y cwricwlwm newydd.

Gweithio effeithiol rhwng ysgolion

Mae’r canlynol yn hanfodol i’n cwricwlwm newydd.

›› Ysgolion yn gweithio ar draws yr holl oedrannau a grwpiau blwyddyn i gynllunio dilyniant (3 i 16 oed).

›› Ysgolion yn cydweithio i gynllunio cwricwlwm sy’n gosod safonau a disgwyliadau uchel i’w dysgwyr.

›› Ysgolion yn cydweithio i ddatblygu’r sgiliau proffesiynol rhagorol sydd eu hangen i addysgu’r cwricwlwm newydd.

›› Ysgolion yn gweithio y tu allan i glystyrau a rhwydweithiau lleol i gynnwys lleoliadau nas cynhelir, unedau cyfeirio disgyblion a cholegau addysg bellach er mwyn sicrhau continwwm dysgu rhwng 3 a 16 mlwydd oed.

Ni allwn wireddu ein huchelgais ar gyfer addysg ein plant a’n pobl ifanc yn y dyfodol heb gydweithredu, cydgefnogaeth a her. Ym mhob un o’r rhanbarthau, mae consortia yn datblygu dulliau cryfach a dyfnach o sicrhau gweithio rhwng ysgolion a chefnogaeth

13 www.cymwysamoes.org.uk

Page 28: CYMWYS AM OES - LLYW.CYMRU · Cwricwlwm i Gymru cwricwlwm am oes 4 Ein cynllun Er mwyn sicrhau holl fanteision Dyfodol Llwyddiannus i’n plant a phobl ifanc, yn ogystal ag Addysgu

Cwricwlwm i Gymru – cwricwlwm am oes

26

rhwng cyfoedion. Bydd yn hanfodol datblygu hyn ymhellach er mwyn cwmpasu’r ystod oedran 3 i 16 i gyd a chynnwys gweithio cydweithredol rhwng ysgolion a’r sector nas cynhelir (lleoliadau) sy’n darparu addysg y blynyddoedd cynnar.

Arweinwyr sy’n ysbrydoli

Er mwyn sefydlu’r cwricwlwm yn llwyddiannus, bydd angen i bob ymarferydd fod yn arweinydd dysgu yn yr ystafell ddosbarth a chydweithio ag eraill i arwain ei ddysgu proffesiynol ei hun. Bydd angen i’r rheini sydd â rolau arwain ffurfiol feddu ar yr ymrwymiad, dealltwriaeth a sgiliau angenrheidiol i alluogi ein diwygiadau i lwyddo.

Bydd ein cwricwlwm newydd yn rhoi mwy o ryddid o lawer i ysgolion benderfynu beth a addysgir. Law yn llaw â’r rhyddid hwn, daw cyfrifoldeb ac atebolrwydd newydd – i ymarferwyr ac yn enwedig i arweinwyr ysgol. Daw â chyfrifoldeb i gynllunio cwricwlwm

sy’n ymgorffori’r pedwar diben, er mwyn hybu rhagoriaeth a disgwyliadau uchel ar gyfer pob dysgwr a meithrin hyder a chymhwysedd pob ymarferydd er mwyn

sicrhau gwell dysgu a safonau uwch ar gyfer eu holl ddysgwyr.

Cynwysoldeb

Bydd ein cwricwlwm newydd yn gwricwlwm i bawb ac yn gwricwlwm am oes. Bydd y cwricwlwm newydd,

gyda phwyntiau cyfeirio ar gyfer cynnydd a deilliannau cyflawniad, yn cael ei gynllunio

fel ei fod yn cefnogi, yn ymestyn ac yn cydnabod cyflawniadau pob plentyn a pherson ifanc, gan

herio a chefnogi pob dysgwr yng Nghymru i wireddu ei botensial. Bydd

y dull cynhwysol o weithredu’n galw ar asiantaethau a phroffesiynau i gydweithio

a gwneud defnydd o’r profiad ac arbenigedd mwyaf eang gan gynnwys yr hyn a geir gan rieni/

gofalwyr a chymunedau.

Trefniadau llywodraethu

Er mwyn ein helpu i gyflawni ein nodau, rydym wedi sefydlu trefniadau llywodraethu cadarn (gellir gweld aelodaeth y grwpiau/byrddau ar ein

gwefan14).

Bydd y Grwp Cynghori Annibynnol (GCA), o dan gadeiryddiaeth yr Athro Graham Donaldson, yn sicrhau bod y camau gweithredu’n unol â’r weledigaeth a

ddisgrifiwyd yn Dyfodol Llwyddiannus a’r argymhellion yn Addysgu Athrawon Yfory. Bydd hefyd yn sicrhau bod y Fargen Newydd ar gyfer y Gweithlu Addysg yn ategu’r weledigaeth honno ac yn helpu’r gweithlu i ddatblygu capasiti a gallu i fynd â’r maen i’r wal. Bydd y grwp hefyd yn cynnig cyngor a sicrwydd o ran cynnydd a pharodrwydd i gyflawni.

14 Gwefan Dysgu Cymru: llyw.cymru/cwricwlwmigymru

Page 29: CYMWYS AM OES - LLYW.CYMRU · Cwricwlwm i Gymru cwricwlwm am oes 4 Ein cynllun Er mwyn sicrhau holl fanteision Dyfodol Llwyddiannus i’n plant a phobl ifanc, yn ogystal ag Addysgu

Cwricwlwm i Gymru – cwricwlwm am oes

27

Bydd y Grwp Rhanddeiliaid Strategol yn sicrhau bod rhanddeiliaid allweddol yn cael eu hysbysu a’u cynnwys wrth ddatblygu’r dull o weithredu’r rhaglen. Bydd yn gyfaill beirniadol a bydd yn darparu her allanol, craffu a chyngor. Bydd hefyd yn chwarae rhan drwy gyfleu negeseuon allweddol a rhoi gwybod am gynnydd ar weithredu i’w gynulleidfaoedd allweddol, gan helpu i ddatblygu consensws a chasglu barn y cynulleidfaoedd hynny a rhoi adborth amdani i Lywodraeth Cymru.

Bydd y Bwrdd Newid yn gyfrifol am gyflawni’r rhaglen yn llwyddiannus, gan ddarparu cyfeiriad strategol a sicrhau cydlyniant y rhaglen gyfan. Bydd y bwrdd yn cydweithio’n agos â’r Grwp Cynghori Annibynnol (GCA). Bydd yn goruchwylio cynnydd y prosiectau cydrannol ar sail cynllun rhaglen y cytunwyd arno, gan gynnwys cynnydd ar gyrraedd cerrig milltir; yn monitro risgiau, problemau a dibyniaethau ar lefel y rhaglen; ac yn monitro cynnydd ac effaith y Strategaeth Cyfathrebu ac Ymgysylltu.

Page 30: CYMWYS AM OES - LLYW.CYMRU · Cwricwlwm i Gymru cwricwlwm am oes 4 Ein cynllun Er mwyn sicrhau holl fanteision Dyfodol Llwyddiannus i’n plant a phobl ifanc, yn ogystal ag Addysgu

Cwricwlwm i Gymru – cwricwlwm am oes

28

Atodiad – Cwricwlwm i Gymru – cwricwlwm am oes : amserlenEin huchelgais yw cynllunio, datblygu a gwireddu ein cwricwlwm newydd o fewn chwe blynedd fel y bydd ar gael i’w addysgu gyntaf mewn lleoliadau ac ysgolion erbyn Medi 2021. Rydym yn nodi isod y lefel uchel o gerrig milltir allweddol a fydd yn ein helpu i gyflawni ein huchelgais gyda’n gilydd.

Cyfnod cynllunio a datblygu’r cwricwlwm newydd

Sefydlu Rhwydwaith Arloesi erbyn mis Ionawr 2016

2015 2016 2017 2018 2021

Y cwricwlwm a’r trefniadau asesu newydd ar gael

Fframwaith Cymhwysedd Digidol ar gael

Y cwricwlwm a’r trefniadau asesu newydd yn eu lle

Cefnogaeth ymarferol i ysgolion i’w paratoi ar gyfer y cwricwlwm newydd